Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.20 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/56 104 2969 171031 170977 2026-09-18T04:50:18Z Tylopous 3717 ar ol 171031 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{angor|40:10|10}} Ac yn y winwydden ''yr oedd'' tair caingc: ac ''yr oedd'' hi megis yn blaen-darddu; ei blodeuyn a dorrasai allan, ei grawn-sypiau hi a ddug rawnwin aeddfed. {{angor|40:11|11}} Hefyd ''yr oedd'' cwppan Pharaoh yn fy llaw: a chymmerais y grawnwin, a gwesgais hwynt i gwppan Pharaoh; a rhoddais y cwppan yn llaw Pharaoh. {{angor|40:12|12}} A Joseph a ddywedodd wrtho, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tair caingc. {{angor|40:13|13}} O fewn tri diwrnod etto Pharaoh a ddyrchafa dy ben di, ac a’th rydd di eilwaith yn dy le; a rhoddi gwppan Pharaoh yn ei law ef, fel y buost arferol yn y cyntaf, pan oeddyt drulliad iddo. {{angor|40:14|14}} Etto cofia fi gyd â thi, pan fo daioni i ti, a gwna, attolwg, â mi drugaredd, a chofia fi wrth Pharaoh, a dwg fi allan o’r tŷ hwn: {{angor|40:15|15}} Oblegid yn lladrad y’m lladrattâwyd o wlad yr Hebreaid; ac yma hefyd ni wneuthum ddim, fel y bwrient fi y’ngharchar. {{angor|40:16|16}} Pan welodd y pen-pobydd mai da oedd y dehongliad, efe a ddywedodd wrth Joseph, Minnau hefyd ''oeddwn'' yn fy mreuddwyd; ac wele, dri chawell rhwyd-dyllog ar fy mhen. {{angor|40:17|17}} Ac yn y cawell uchaf ''yr oedd'' peth o bob bwyd Pharaoh o waith pobydd; a’r ehediaid yn eu bwytta hwynt o’r cawell oddi ar fy mhen. {{angor|40:18|18}} A Joseph a attebodd ac a ddywedodd, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tri chawell. {{angor|40:19|19}} O fewn tri diwrnod etto y cymmer Pharaoh dy ben di oddi arnat, ac a’th groga di ar bren; a’r ehediaid a fwyttânt dy gnawd di oddi am danat. {{angor|40:20|20}} ¶ Ac ar y trydydd dydd yr oedd dydd genedigaeth Pharaoh: ac efe a wnaeth wledd i’w holl weision: ac efe a ddyrchafodd ben y pen-trulliad, a’r pen-pobydd ym mysg ei weision. {{angor|40:21|21}} Ac a osododd y pen-trulliad eilwaith yn ei swydd; ac yntau a roddes y cwppan i law Pharaoh. {{angor|40:22|22}} A’r pen-pobydd a grogodd efe, fel y dehonglasai Joseph iddynt hwy. {{angor|40:23|23}} Ond y pen-trulliad ni chofiodd Joseph, eithr anghofiodd ef. {{angor|Pennod_41}}{{canoli|{{uc|Pennod XLI.}}}} {{bach|1 ''Dau freuddwyd Pharaoh.'' 25 ''Joseph yn eu dehongli hwy:'' 33 ''yn rhoddi cynghor i Pharaoh,'' 38 ''Codiad Joseph.'' 50 ''Mae efe yn cenhedlu Manasseh ac Ephraim.'' 54 ''Y newyn yn dechreu.''}} {{angor|41:1}} {{uc|Yna}} ym mhen dwy flynedd lawn, y bu i Pharaoh freuddwydio; ac wele efe yn sefyll wrth yr afon. {{angor|41:2|2}} Ac wele, yn esgyn o’r afon, saith o wartheg teg yr olwg, a thewion o gig; ac mewn gweirglodd-dir y porent. {{angor|41:3|3}} Wele hefyd, saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hol hwynt o’r afon, yn ddrwg yr olwg, ac yn gulion o gig; a hwy a safasant yn ymyl y gwartheg ''eraill'', ar làn yr afon. {{angor|41:4|4}} A’r gwartheg drwg yr olwg, a chulion o gig, a fwyttasant y saith gwartheg teg yr olwg, a breision. Yna y dihunodd Pharaoh. {{angor|41:5|5}} Ac efe a gysgodd, ac a freuddwydiodd eilwaith: ac wele, saith o dywysennau yn tyfu ar un gorsen, o ''rai'' breisgion a da. {{angor|41:6|6}} Wele hefyd, saith o dywysennau teneuon, ac wedi deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu allan ar eu hol hwynt. {{angor|41:7|7}} A’r tywysennau teneuon a lyngcasant y saith dywysen fraisg a llawn. A deffrôdd Pharaoh; ac wele breuddwyd ''oedd''. {{angor|41:8|8}} A’r bore y bu i’w yspryd ef gynhyrfu; ac efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aipht a’i holl ddoethion hi: a Pharaoh a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion; ond nid ''oedd'' a’u dehonglai hwynt i Pharaoh. {{angor|41:9|9}} ¶ Yna y llefarodd y pen-trulliad wrth Pharaoh, gan ddywedyd, Yr wyf fi yn cofio fy meiau heddyw. {{angor|41:10|10}} Llidio a wnaethai Pharaoh wrth ei weision; ac efe a’m rhoddes mewn carchar ''yn'' nhŷ y distain, myfi a’r pen-pobydd. {{angor|41:11|11}} A ni a freuddwydiasom freuddwyd yn yr un nos, mi ac efe: breuddwydiasom bob un ar ol dehongliad ei freuddwyd. {{angor|41:12|12}} Ac yr oedd yno gyd â nyni fab ieuangc o Hebread, gwas i’r distain; a ni a fynegasom iddo ef: yntau a ddehonglodd i ni ein breuddwydion; i bob un yn ol ei freuddwyd y dehonglodd efe. {{angor|41:13|13}} A darfu, fel y dehonglodd i ni, felly y bu: rhodd fi eilwaith i’m swydd; ac yntau a grogodd efe. {{angor|41:14|14}} ¶ Pharaoh, gan hynny, a an-<noinclude><references/></noinclude> btbyclyxzampfuintb8zh441oi2cpya Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/67 104 2980 171032 170942 2026-09-18T04:51:40Z Tylopous 3717 yn ol 171032 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>goruwch dy frodyr, yr hon a ddygais o law yr Amoriaid â’m cleddyf ac â’m bwa. {{angor|Pennod_49}}{{canoli|{{uc|Pennod XLIX.}}}} {{bach|1 ''Jacob yn galw ei feibion i’w bendithio.'' 3 ''Bendith pob un o honynt.'' 29 ''Mae efe yn rhoddi siars arnynt ynghylch ei gladdedigaeth;'' 33 ''ac yn marw.''}} {{angor|49:1}} Yna y galwodd Jacob ar ei feibion, ac a ddywedodd, Ymgesglwch, fel y mynegwyf i chwi yr hyn a ddigwydda i chwi yn y dyddiau diweddaf. {{angor|49:2|2}} Ymgesglwch, a chlywch, meibion Jacob; ïe, gwrandêwch ar Israel eich tad. {{angor|49:3|3}} ¶ Reuben fy nghynfab, tydi ''oedd'' fy ngrym, a dechreuad fy nerth, rhagoriaeth braint, a rhagoriaeth cryfder. {{angor|49:4|4}} Ansafadwy ''oeddit'' fel dwfr: ni ragori di; canys dringaist wely dy dad; yna yr halogaist ''ef:'' fy ngwely a ddringodd. {{angor|49:5|5}} ¶ Simeon a Lefi ''sydd'' frodyr; offer creulondeb ''sydd yn'' eu hanheddau. {{angor|49:6|6}} Na ddeled fy enaid i’w cyfrinach hwynt: fy ngogoniant, na fydd un â’u cynnulleidfa hwynt: canys yn eu dig y lladdasant wr, ac o’u gwirfodd y diwreiddiasant gaer. {{angor|49:7|7}} Melltigedig fyddo eu dig, canys tost ''oedd;'' a’u llid, canys creulawn ''fu:'' rhannaf hwynt yn Jacob, a gwasgaraf hwynt yn Israel. {{angor|49:8|8}} ¶ Tithau, Judah, dy frodyr a’th glodforant di: dy law ''fydd'' yng ngwar dy elynion; meibion dy dad a ymgrymmant i ti. {{angor|49:9|9}} Cenau llew ''wyt ti'', Judah; o’r ysglyfaeth y daethost i fynu, fy mab: ymgrymmodd, gorweddodd fel llew, ac fel hen lew: pwy a’i cyfyd ef? {{angor|49:10|10}} Nid ymedy y deyrn-wïalen o Judah, na deddfwr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddêl Seilo; ac atto ef ''y bydd'' cynhulliad pobloedd. {{angor|49:11|11}} Yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a llwdn ei asyn wrth y bêr winwydden: golchodd ei wisg mewn gwin, a’i ddillad y’ngwaed y grawnwin. {{angor|49:12|12}} Coch ''fydd'' ei lygaid gan win, a gwỳn ''fydd'' ei ddannedd gan laeth. {{angor|49:13|13}} ¶ Zabulon a breswylia ym mhorthleoedd y môr; ac efe a fydd yn borthladd llongau, a’i derfyn fydd hyd Sidon. {{angor|49:14|14}} ¶ Issachar ''sydd'' asyn asgyrnog, yn gorwedd rhwng dau bwn. {{angor|49:15|15}} Ac a wêl lonyddwch mai da yw, a’r tir mai hyfryd: efe a ogwydda ei ysgwydd i ddwyn, ac a fydd yn gaeth dan deyrnged. {{angor|49:16|16}} ¶ Dan a farn ei bobl fel un o lwythau Israel. {{angor|49:17|17}} Dan fydd sarph ar y ffordd, a neidr ar y llwybr; yn brathu sodlau y march, fel y syrthio ei farchog yn ol. {{angor|49:18|18}} Am dy iachawdwriaeth di y disgwyliais, {{sc|Arglwydd}}. {{angor|49:19|19}} ¶ Gad, llu a’i gorfydd; ac yntau a orfydd o’r diwedd. {{angor|49:20|20}} ¶ O Aser bras ''fydd'' ei fwyd ef, ac efe a rydd ddanteithion brenhinol. {{angor|49:21|21}} ¶ Naphtali ''fydd'' ewig wedi ei gollwng, yn rhoddi geiriau teg. {{angor|49:22|22}} ¶ Joseph ''fydd'' gangen ffrwythlawn, cangen ffrwythlawn wrth ffynnon, ceingciau yn cerdded ar hyd mur. {{angor|49:23|23}} A’r saethyddion fuant chwerw wrtho ef, ac a saethasant, ac a’i casasant ef. {{angor|49:24|24}} Er hynny arhôdd ei fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylaw a gryfhasant, trwy ddwylaw grymmus ''{{sc|Dduw}}'' Jacob: oddi yno y ''mae'' y bugail, maen Israel: {{angor|49:25|25}} Trwy {{sc|Dduw}} dy dad, yr hwn a’th gynnorthwya, a’r Hollalluog, yr hwn a’th fendithia â bendithion y nefoedd oddi uchod, â bendithion y dyfnder yn gorwedd isod, â bendithion y bronnau a’r groth. {{angor|49:26|26}} Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion fy rhïeni, hyd derfyn bryniau tragywyddoldeb: byddant ar ben Joseph, ac ar goryn yr hwn a neillduwyd oddi wrth ei frodyr. {{angor|49:27|27}} ¶ Benjamin a ysglyfaetha ''fel'' blaidd: y bore y bwytty’r ysglyfaeth, a’r hwyr y rhan yr yspail. {{angor|49:28|28}} ¶ Dyma ddeuddeg llwyth Israel oll, a dyma yr hyn a lefarodd eu tad wrthynt, ac y bendithiodd efe hwynt: pob un yn ol ei fendith y bendithiodd efe hwynt. {{angor|49:29|29}} Yna y gorchymynodd efe iddynt, ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a gesglir at fy mhobl: cleddwch fi gyd â’m tadau, yn yr ogof ''sydd'' ym maes Ephron yr Hethiad; {{angor|49:30|30}} Yn yr ogof ''sydd'' ym maes Machpelah, yr hon ''sydd'' o flaen Mamre, y’ngwlad Canaan, yr hon a brynodd Abraham gyd â’r maes gan Ephron yr Hethiad, yn feddiant beddrod. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 7ws3gmg0ggu93gw5c4qinncgvdot0wo Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/82 104 3331 171030 63959 2026-09-18T04:49:18Z Tylopous 3717 ar ol 171030 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>croyw; o herwydd yr oedd heb ei lefeinio: canys gwthiasid hwynt o’r Aipht, ac ni allasant aros, ac ni pharottoisent iddynt eu hun luniaeth. {{angor|12:40|40}} ¶ A phreswyliad meibion Israel, tra y y trigasant yn yr Aipht, ''oedd'' ddeng mlynedd ar hugain a phedwar càn mlynedd. {{angor|12:41|41}} Ac ym mhen y deng mlynedd ar hugain a phedwar càn mlynedd, ïe, o fewn corph y dydd hwnnw, yr aeth holl luoedd yr {{sc|Arglwydd}} allan o wlad yr Aipht. {{angor|12:42|42}} Nos yw hon i’w chadw i’r {{sc|Arglwydd}}, ar yr hon y dygwyd hwynt allan o wlad yr Aipht: nos yr {{sc|Arglwydd}} yw hon, i holl feibion Israel i’w chadw trwy eil hoesoedd. {{angor|12:43|43}} ¶ Yr {{sc|Arglwydd}} hefyd a ddywedodd wrth Moses ac Aaron, Dyma ddeddf y Pasc: na fwyttâed neb dïeithr o hono. {{angor|12:44|44}} Ond pob gwasanaethwr wedi ei brynu am arian, gwedi yr enwaedych ef, a fwytty o hono. {{angor|12:45|45}} Yr alltud, a’r gwas cyflog, ni chaiff fwyta o hono. {{angor|12:46|46}} Mewn un tŷ y bwyttêir ef: na ddwg ''ddim'' o’r cig allan o’r tŷ, ac na thorrwch asgwrn o hono. {{angor|12:47|47}} Holl gynnulleidfa Israel a wnant hynny. {{angor|12:48|48}} A phan arhoso dïeithr gyd â thi, ac ewyllysio cadw Pasc i’r {{sc|Arglwydd}}, enwaeder ei holl wrrywiaid ef, ac yna nesâed i wneuthur hynny; a bydded fel yr hwn a aned yn y wlad: ond na fwyttâed neb dïenwaededig o hono. {{angor|12:49|49}} Yr un gyfraith fydd i’r prïodor, ac i’r dïeithr a arhoso yn eich mysg. {{angor|12:50|50}} Yna holl feibion Israel a wnaethant fel y gorchymynasai yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses ac Aaron; felly y gwnaethant. {{angor|12:51|51}} Ac o fewn corph y dydd hwnnw y dug yr {{sc|Arglwydd}} feibion Israel o wlad yr Aipht, yn ol eu lluoedd. {{angor|Pennod_13}}{{c|PENNOD XIII.}} {{bach|1 ''Cyssegru y cyntaf-anedig i Dduw.'' 3 ''Gorchymyn cadw coffadwriaeth o’r Pasc.'' 11 ''Neillduo y cyntaf o’r anifeiliaid.'' 17 ''Yr Israeliaid wrth fyned allan o’r Aipht yn dwyn esgyrn Joseph gyd â hwynt.'' 20 ''Yn dyfod i Etham.'' 21 ''Duw yn eu harwain mewn colofn o niwl a cholofn o dân.''}} {{angor|13:1}} A’r {{sc|Arglwydd}} a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, {{angor|13:2|2}} Cyssegra i mi bob cyntaf-anedig, ''sef'' beth bynnag a agoro y groth ym mysg meibion Israel, o ddyn ac anifail: eiddof fi ''yw''. {{angor|13:3|3}} ¶ A dywedodd Moses wrth y bobl, Cofiwch y dydd hwn, ''ar'' yr hwn y daethoch allan o’r Aipht, o dŷ y caethiwed: oblegid trwy law gadarn y dug yr {{sc|Arglwydd}} chwi oddi yno: am hynny na fwyttâer bara lefeinllyd. {{angor|13:4|4}} Heddyw yr ydych chwi yn myned allan, ar y mis Abib. {{angor|13:5|5}} ¶ A phan ddygo yr {{sc|Arglwydd}} di i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid, yr hon a dyngodd efe wrth dy dadau y rhoddai efe i ti, ''sef'' gwlad yn llifeirio o laeth a mêl; yna y gwnei y gwasanaeth yma ar y mis hwn. {{angor|13:6|6}} Saith niwrnod y bwyttêi fara croyw; ac ar y seithfed dydd ''y bydd'' gwyl i’r {{sc|Arglwydd}}. {{angor|13:7|7}} Bara croyw a fwyttêir saith niwrnod: ac na weler bara lefeinllyd gyd â thi; ac na weler gennyt surdoes o fewn dy holl derfynau. {{angor|13:8|8}} ¶ A mynega i’th fab y dydd hwnnw, gan ddywedyd, O herwydd yr hyn a wnaeth yr {{sc|Arglwydd}} i mi pan ddeuthum allan o’r Aipht, ''y gwneir hyn''. {{angor|13:9|9}} A bydded i ti yn arwydd ar dy law, ac yn goffadwriaeth rhwng dy lygaid; fel y byddo cyfraith yr {{sc|Arglwydd}} yn dy enau: o herwydd â llaw gadarn y dug yr {{sc|Arglwydd}} dydi allan o’r Aipht. {{angor|13:10|10}} Am hynny cadw y ddeddf hon, yn ei hamser nodedig, o flwyddyn i flwyddyn. {{angor|13:11|11}} ¶ A phan ddygo yr {{sc|Arglwydd}} di i wlad y Canaaneaid, megis y tyngodd efe wrthyt, ac wrth dy dadau, a’i rhoddi i ti, {{angor|13:12|12}} Yna y neilldui i’r {{sc|Arglwydd}} bob cyntaf-anedig: a phob cyntaf i anifail a fyddo eiddot ti, y gwrrywiaid eiddo yr {{sc|Arglwydd}} fyddant. {{angor|13:13|13}} A phob cyntaf i asyn a bryni di âg oen; ac oni phryni di ef, yna torfynygla ef: a phob dyn cyntaf-anedig o’th feibion a bryni di hefyd. {{angor|13:14|14}} A phan ofynno dy fab ar ol hyn, gan ddywedyd, Beth yw hyn? yna dywed wrtho, A llaw gadarn y dug yr {{sc|Arglwydd}} ni allan o’r Aipht, o dŷ y caethiwed. {{angor|13:15|15}} A phan oedd anhawdd gan Pharaoh ein gollwng ni, y lladdodd yr {{sc|Arglwydd}} bob cyntaf-anedig<noinclude><references/></noinclude> 4rggi65yn6gdzz709v2vkiadzbln47g Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/130 104 3380 171034 143035 2026-09-18T04:53:50Z Tylopous 3717 ar ol 171034 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr. {{angor|15:23|23}} Ac os ar y gwely ''y bydd'' efe, neu ar ddim y byddo hi yn eistedd arno, wrth gyffwrdd âg ef; hyd yr hwyr y bydd efe aflan. {{angor|15:24|24}} Ond os gwr gan gysgu a gwsg gyd â hi, fel y byddo o’i mis-glwyf hi arno ef; aflan fydd efe saith niwrnod, ac aflan fydd yr holl wely y gorwedd efe arno. {{angor|15:25|25}} A phan fyddo diferlif ei gwaed yn rhedeg ar wraig lawer o ddyddiau, allan o amser ei hanhwyl, neu pan redo diferlif arni ar ol ei hanhwyl; bydded holl ddyddiau diferlif ei haflendid hi megis dyddiau ei gwahaniaeth: aflan ''fydd'' hi. {{angor|15:26|26}} Pob gwely y gorweddo hi arno holl ddyddiau ei diferlif, ''fydd'' iddi fel gwely ei mis-glwyf; a phob dodrefnyn yr eisteddo hi arno fydd aflan, megis aflendid ei mis-glwyf hi. {{angor|15:27|27}} A phwy bynnag a gyffyrddo â hwynt, aflan fydd, a golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr. {{angor|15:28|28}} Ac os glanhêir hi o’i diferlif; yna cyfrifed iddi saith niwrnod: ac wedi hynny glân fydd. {{angor|15:29|29}} A’r wythfed dydd cymmered iddi ddwy durtur, neu ddau gyw colommen, a dyged hwynt at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod. {{angor|15:30|30}} Ac offrymmed yr offeiriad un yn bech-aberth, a’r llall yn boeth-offrwm; a gwnaed yr offeiriad gymmod drosti ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, am ddiferlif ei haflendid. {{angor|15:31|31}} Felly y neillduwch blant Israel oddi wrth eu haflendid, fel na byddant feirw yn eu haflendid, pan halogant fy mhabell yr hon ''sydd'' yn eu mysg. {{angor|15:32|32}} Dyma gyfraith yr hwn y byddo’r diferlif arno, a’r hwn y daw oddi wrtho ddisgyniad had, fel y byddo aflan o’u herwydd; {{angor|15:33|33}} A’r glaf o’i mis-glwyf, a’r neb y byddo y diferlif arno, o wrryw, ac o fenyw, ac i’r gwr a orweddo ynghyd â’r hon a fyddo aflan. {{angor|Pennod_16}}{{c|{{uc|Pennod XVI.}}}} {{bach|1 ''Y modd y mae i’r arch-offeiriad fyned i mewn i’r cyssegr.'' 11 ''Y pech-aberth dros y bobl.'' 20 ''Yr afr ddïangol.'' 29 ''Gwyl y cymmod bob blwyddyn.''}} {{angor|16:1|}} {{uc|Llefarodd}} yr {{sc|Arglwydd}} hefyd wrth Moses, wedi marwolaeth dau fab Aaron, pan offrymmasant ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, ac y buant feirw, {{angor|16:2|2}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Llefara wrth Aaron dy frawd, na ddelo bob amser i’r cyssegr o fewn y wahanlen, ger bron y drugareddfa ''sydd'' ar yr arch; fel na byddo efe farw: o herwydd mi a ymddangosaf ar y drugareddfa yn y cwmmwl. {{angor|16:3|3}} A hyn y daw Aaron i’r cyssegr: â bustach ieuangc yn bech-aberth, ac â hwrdd yn boeth-offrwm. {{angor|16:4|4}} Gwisged bais lïan sanctaidd, a bydded llodrau llïan am ei gnawd, a gwregyser ef â gwregys llïan, a gwisged feitr llïan: gwisgoedd sanctaidd ''yw'' y rhai hyn; golched yntau ei gnawd mewn dwfr, pan wisgo hwynt. {{angor|16:5|5}} A chymmered gan gynnulleidfa meibion Israel ddau lwdn gafr yn bech-aberth, ac un hwrdd yn boeth-offrwm. {{angor|16:6|6}} Ac offrymmed Aaron fustach y pech-aberth ''a fyddo'' drosto ei hun, a gwnaed gymmod drosto ei hun, a thros ei dŷ. {{angor|16:7|7}} A chymmered y ddau fwch, a gosoded hwynt ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, ''wrth'' ddrws pabell y cyfarfod. {{angor|16:8|8}} A rhodded Aaron goelbrennau ar y ddau fwch; un coelbren dros yr {{sc|Arglwydd}}, a’r coelbren arall dros y bwch dihangol. {{angor|16:9|9}} A dyged Aaron y bwch y syrthiodd coelbren yr {{sc|Arglwydd}} arno, ac offrymmed ef yn bech-aberth. {{angor|16:10|10}} A’r bwch y syrthiodd arno y coelbren i fod yn fwch dïangol, a roddir i sefyll yn fyw ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, i wneuthur cymmod ag ef, ''ac'' i’w ollwng i’r anialwch yn fwch dïangol. {{angor|16:11|11}} A dyged Aaron fustach y pech-aberth ''a fyddo'' drosto ei hun, a gwnaed gymmod drosto ei hun, a thros ei dŷ; a lladded fustach y pech-aberth ''a fyddo'' drosto ei hun: {{angor|16:12|12}} A chymmered lonaid thusser o farwor tanllyd oddi ar yr allor, oddi ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, a llonaid ei ddwylaw o arogl-darth peraidd mân, a dyged o fewn y wahanlen: {{angor|16:13|13}} A rhodded yr arogl-darth ar y tân, ger bron yr {{sc|Arglwydd}}; fel y cuddio mwg yr arogl-darth y drugareddfa, yr hon ''sydd'' ar y dystiolaeth, ac na byddo efe farw: {{angor|16:14|14}} A chymmered o waed y bustach, a thaenelled â’i fys ar y dru-<noinclude><references/></noinclude> d1o5spml7m8ndsmeycxvmbddwavdcwo Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/134 104 3384 171033 143069 2026-09-18T04:52:55Z Tylopous 3717 yn ol, ar ol 171033 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mydog megis ti dy hun: yr {{sc|Arglwydd}} ''ydwyf'' fi. {{angor|19:19|19}} ¶ Cedwch fy neddfau: na âd i’th anifeiliaid gydio o amryw rywogaeth, ac na haua dy faes âg amryw had; ac nac aed am danat ddilledyn cymmysg o lin a gwlan. {{angor|19:20|20}} ¶ A phan fyddo i wr a wnelo â benyw, a hithau yn forwyn gaeth wedi ei dyweddïo i wr, ac heb ei rhyddhâu ddim, neu heb roddi rhyddid iddi; bydded ''iddynt'' gurfa; ac na ladder hwynt, am nad oedd hi rydd. {{angor|19:21|21}} A dyged efe yn aberth dros ei gamwedd i’r {{sc|Arglwydd}}, i ddrws pabell y cyfarfod, hwrdd dros gamwedd. {{angor|19:22|22}} A gwnaed yr offeiriad gymmod drosto â’r hwrdd dros gamwedd, ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, am ei bechod a bechodd efe: a maddeuir iddo am ei bechod a wnaeth efe. {{angor|19:23|23}} ¶ A phan ddeloch i’r tir, a phlannu o honoch bob pren ymborth; cyfrifwch yn ddïenwaededig ei ffrwyth ef; tair blynedd y bydd efe megis dïenwaededig i chwi: na fwyttâer o hono. {{angor|19:24|24}} A’r bedwaredd flwyddyn y bydd ei holl ffrwyth yn sanctaidd i foliannu yr {{sc|Arglwydd}} ''âg ef''. {{angor|19:25|25}} A’r bummed flwyddyn y bwyttêwch ei ffrwyth, fel y chwanego efe ei gnwd i chwi: myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}. {{angor|19:26|26}} ¶ Na fwyttêwch ddim ynghyd â’i waed: nac arferwch na swynion, na choel ar frudiau. {{angor|19:27|27}} Na thalgrynnwch odre eich pen, ac na thor gyrrau dy farf. {{angor|19:28|28}} Ac na wnewch dorriadau yn eich cnawd am un marw, ac na roddwch brint nôd arnoch: yr {{sc|Arglwydd}} ''ydwyf'' fi. {{angor|19:29|29}} ¶ Na haloga dy ferch, gan beri iddi butteinio: rhag putteinio y tir, a llenwi y wlad o ysgelerder. {{angor|19:30|30}} ¶ Cedwch fy Sabbathau, a pherchwch fy nghyssegr: yr {{sc|Arglwydd}} ''ydwyf'' fi. {{angor|19:31|31}} ¶ Nac ewch ar ol dewiniaid, a nac ymofynnwch â’r brudwyr, i ymhalogi o’u plegid: yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} ''ydwyf'' fi. {{angor|19:32|32}} ¶ Cyfod ger bron penwynni, a pharcha wyneb henuriad; ac ofna dy {{sc|Dduw}}: yr {{sc|Arglwydd}} ''ydwyf'' fi. {{angor|19:33|33}} ¶ A phan ymdeithio dïeithrddyn ynghyd â thi yn eich gwlad, na flinwch ef. {{angor|19:34|34}} Bydded y dïeithr i chwi, yr hwn a ymdeithio yn eich plith, fel yr un a hanffo o honoch, a châr ef fel ti dy hun; o herwydd dïeithriaid fuoch y’ngwlad yr Aifft: yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} ''ydwyf'' fi. {{angor|19:35|35}} ¶ Na wnewch gam ar farn, ar lathen, ar bwys, nac ar fesur. {{angor|19:36|36}} Bydded i chwi gloriannau cyfiawn, gerrig cyfiawn, ephah gyfiawn, a hin gyfiawn: yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} ''ydwyf'' fi, yr hwn a’ch dygais allan o dir yr Aipht. {{angor|19:37|37}} Cedwch chwithau fy holl ddeddfau, a’m holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt: yr {{sc|Arglwydd}} ''ydwyf'' fi. {{angor|Pennod_20}}{{c|{{uc|Pennod XX}}.}} {{bach|1 ''Am yr hwn a roddo ei had i Moloch.'' 4 ''Am yr hwn a arbedo y cyfryw.'' 6 ''Am fyned at frudwyr.'' 7 ''Am ymsancteiddio.'' 9 ''Am yr hwn a felldithio ei rïeni.'' 10 ''Am odineb.'' 11, 14, 17, 19 ''Am ymlosgach.'' 13 ''Am orwedd gyd â gwrryw,'' 15 ''neu gyd âg anifail.'' 18 ''Am oflendid.'' 22 ''Gorchymyn ufudd-dod gyd â sancteiddrwydd.'' 27 ''Rhaid yw rhoddi brudwyr i farwolaeth.''}} {{angor|20:1|}} {{uc|A llefarodd}} yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, gan ddywedyd, {{angor|20:2|2}} Dywed hefyd wrth feibion Israel, Pob un o feibion Israel, neu o’r dïeithr a ymdeithio yn Israel, yr hwn a roddo o’i had i Moloch, a leddir yn farw; pobl y tir a’i llabyddiant ef â cherrig. {{angor|20:3|3}} A mi a osodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac a’i torraf o fysg ei bobl; am iddo roddi o’i had i Moloch, i aflanhâu fy nghyssegr, ac i halogi fy enw sanctaidd. {{angor|20:4|4}} Ac os pobl y wlad gan guddio a guddiant eu llygaid oddi wrth y dyn hwnnw, (pan roddo efe ei had i Moloch,) ac nis lladdant ef: {{angor|20:5|5}} Yna y gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac yn erbyn ei dylwyth, a thorraf ymaith ef, a phawb a ddilynant ei butteindra ef, gan butteinio yn ol Moloch, o fysg eu pobl. {{angor|20:6|6}} ¶ A’r dyn a dro ar ol dewiniaid, a brudwyr, i butteinio ar eu hol hwynt, gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, hefyd, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl. {{angor|20:7|7}} ¶ Ymsancteiddiwch gan hynny, a byddwch sanctaidd: canys myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} chwi. {{angor|20:8|8}} Cedwch hefyd fy neddfau, a gwnewch hwynt: myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eich sancteiddydd. {{angor|20:9|9}} ¶ Os bydd neb a felldigo ei dad<noinclude><references/></noinclude> ny3k5vkjcsvmuaxrw9w91jqa3f4mpff Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/211 104 3462 171022 6606 2026-09-17T16:21:21Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171022 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>frodyr dy hun, Brophwyd megis finnau; arno ef y gwrandêwch; {{angor|18:16|16}} Yn ol yr hyn oll a geisiaist gan yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn Horeb, yn nydd y gymmanfa, gan ddywedyd, Na chlywwyf mwyach lais yr {{sc|Arglwydd}} fy {{sc|Nuw}}, ac na welwyf y tân mawr hwn mwyach, rhag fy marw. {{angor|18:17|17}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrthyf, Da ''y dywedasant yr'' hyn a ddywedasant. {{angor|18:18|18}} Codaf Brophwyd iddynt o fysg eu brodyr, fel tithau, a rhoddaf fy ngeiriau yn ei enau ef; ac efe a lefara wrthynt yr hyn oll a orchymynwyf iddo. {{angor|18:19|19}} A phwy bynnag ni wrandawo ar fy ngeiriau, y rhai a lefara efe yn fy enw, myfi a’''i'' gofynaf ganddo. {{angor|18:20|20}} Y prophwyd hefyd, yr hwn a ryfyga lefaru yn fy enw air ni orchymynais iddo ei lefaru, neu yr hwn a lefaro yn enw duwiau dïeithr; rhodder y prophwyd hwnnw i farwolaeth. {{angor|18:21|21}} Ac os dywedi yn dy galon, Pa fodd yr adnabyddwn y gair ni lefarodd yr {{sc|Arglwydd}}? {{angor|18:22|22}} Yr hyn a lefaro y prophwyd hwnnw yn enw yr {{sc|Arglwydd}}, a’r gair heb fod, ac heb ddyfod i ben, hwnnw yw y gair ni lefarodd yr {{sc|Arglwydd}}; y prophwyd a’i llefarodd mewn rhyfyg: nac ofna ef. {{angor|Pennod_19}}{{c|{{uc|Pennod XIX}}.}} {{bach|1 ''Dinasoedd noddfa;'' 4 ''a braint llofrudd ynddynt.'' 14 ''Na symmuder terfyn tir.'' 15 ''Rhaid yw bod dau o dystion o’r lleiaf.'' 19 ''Cospedigaeth gau dyst.''}} {{angor|19:1}} {{uc|Pan}} Pan dorro yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} ymaith y cenhedloedd y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn rhoddi eu tir i ti, a’i feddiannu o honot ti, a phreswylio yn eu dinasoedd ac yn eu tai; {{angor|19:2|2}} Neilldua i ti dair dinas yng nghanol dy dir, yr hwn y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ei roddi i ti i’w feddiannu. {{angor|19:3|3}} Parottoa ffordd i ti, a thraiana derfyn dy dir, yr hwn a rydd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn etifeddiaeth i ti, fel y byddo i bob llofrudd ffoi yno. {{angor|19:4|4}} ¶ Dyma gyfraith y llofrudd, yr hwn a ffŷ yno, i fyw: yr hwn a darawo ei gymmydog heb wybod, ac yntau neb ei gasâu ef o’r blaen; {{angor|19:5|5}} Megis pan elo ''un'' gyd â’i gymmydog i’r coed i gymmynu pren, ac a estyn ei law â’r fwyell i dorri y pren, a syrthio yr haiarn o’r menybr, a chyrhaeddyd ei gymmydog, fel y byddo farw; efe a gaiff ffoi i un o’r dinasoedd hyn, a byw: {{angor|19:6|6}} Rhag i ddïalydd y gwaed ddilyn ar ol y llofrudd, a’i galon yn llidiog, a’i oddiweddyd, am fod y ffordd yn hir, a’i daro ef yn farw, er nad ''oedd'' ynddo ef haeddedigaeth marwolaeth, am nad oedd efe yn ei gasâu ef o’r blaen. {{angor|19:7|7}} Am hynny yr ydwyf yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Tair dinas a neilldui i ti. {{angor|19:8|8}} A phan helaetho yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} dy derfyn, fel y tyngodd wrth dy dadau, a rhoddi i ti yr holl dir a addawodd efe ei roddi wrth dy dadau; {{angor|19:9|9}} Os cedwi y gorchymynion hyn oll, gan wneuthur yr hyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti heddyw, i garu yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, a rhodio yn ei ffyrdd ef bob amser; yna y chwanegi i ti dair dinas hefyd at y tair hyn: {{angor|19:10|10}} Fel na ollynger gwaed gwirion o fewn dy dir, yr hwn y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth; ac na byddo gwaed i’th erbyn. {{angor|19:11|11}} ¶ Ond os bydd gwr yn casâu ei gymmydog, ac yn cynllwyn iddo, a chodi yn ei erbyn, a’i ddïeneidio fel y byddo farw, a ffoi i un o’r dinasoedd hyn; {{angor|19:12|12}} Yna anfoned henuriaid ei ddinas ef, a chymmerant ef oddi yno, a rhoddant ef yn llaw dïalydd y gwaed, fel y byddo farw. {{angor|19:13|13}} Nac arbeded dy lygad ef, ond tyn ymaith ''affaith'' gwaed gwirion o Israel, fel y byddo daioni i ti. {{angor|19:14|14}} ¶ Na symmud derfyn dy gymmydog, yr hwn a derfynodd y rhai a fu o’r blaen; o fewn dy etifeddiaeth yr hon a feddienni, yn y tir y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ei roddi i ti i’w feddiannu. {{angor|19:15|15}} ¶ Na choded un tyst yn erbyn neb am ddim anwiredd, neu ddim pechod, o’r holl bechodau a becho efe: wrth dystiolaeth dau o dystion, neu wrth dystiolaeth tri o dystion, y bydd safadwy y peth. {{angor|19:16|16}} ¶ Os cyfyd gau dyst yn erbyn neb, gan dystiolaethu bai yn ei erbyn ef; {{angor|19:17|17}} Yna safed y ddau ddyn ''y mae'' yr ymrafael rhyngddynt ger bron<noinclude><references/></noinclude> tebcs2k3lnig6v0zq27moj9eyggfnlr Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/212 104 3463 171023 6607 2026-09-17T16:39:35Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171023 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>yr {{sc|Arglwydd}}, o flaen yr offeiriaid a’r barnwyr a fyddo yn y dyddiau hynny. {{angor|19:18|18}} Ac ymofyned y barnwyr yn dda: ac ''os'' y tyst ''fydd'' dyst ffals, ''ac'' a dystiolaetha ar gam yn erbyn ei frawd; {{angor|19:19|19}} Yna gwnewch iddo fel yr amcanodd wneuthur i’w frawd; a thyn ymaith y drwg o’th fysg. {{angor|19:20|20}} A’r lleill a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur mwy yn ol y peth drygionus hyn yn dy blith. {{angor|19:21|21}} Ac nac arbeded dy lygad: ''bydded'' einioes am einioes, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed. {{angor|Pennod_20}}{{c|{{uc|Pennod XX}}.}} {{bach|1 ''Araith yr offeiriaid i annog y bobl i ryfel.'' 5 ''Cyhoeddiad y swyddogion pwy sydd i’w gollwng adref o’r rhyfel.'' 10 ''Pa beth a wneir i’r dinasoedd a dderbyniant neu a wrthodant ammodau heddwch.'' 16 ''Pa ddinasoedd sydd raid eu haddunedu.'' 19 ''Ni wasanaetha dinystrio prennau ymborth dyn, wrth warchae ar ddinas.''}} {{angor|20:1}} {{uc|Pan}} elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a gweled meirch a cherbydau, ''a'' phobl fwy na thi, nac ofna rhagddynt: o herwydd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} ''fydd'' gyd â thi, yr hwn a’th ddug di i fynu o dir yr Aipht. {{angor|20:2|2}} A bydd, pan nesaoch i’r frwydr, yna ddyfod o’r offeiriad, a llefaru wrth y bobl, {{angor|20:3|3}} A dywedyd wrthynt, Clyw, Israel: Yr ydych chwi yn nesâu heddyw i’r frwydr yn erbyn eich gelynion: na feddalhâed eich calon, nac ofnwch, na synnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt. {{angor|20:4|4}} Canys yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} sydd yn myned gyd â chwi, i ryfela â’ch gelynion trosoch chwi, ''ac'' i’ch achub chwi. {{angor|20:5|5}} ¶ A’r llywiawdwyr a lefarant wrth y bobl, gan ddywedyd, Pa wr ''sydd'' a adeiladodd dŷ newydd, ac nis cyssegrodd ef? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i wr arall ei gyssegru ef. {{angor|20:6|6}} A pha wr ''sydd'' a blannodd winllan, ac nis mwynhaodd hi? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i wr arall ei mwynhâu hi. {{angor|20:7|7}} A pha wr sydd a ymgredodd â gwraig, ac ni chymmerodd hi? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw mewn rhyfel, ac i wr arall ei chymmeryd hi. {{angor|20:8|8}} Y llywiawdwyr ''hefyd'' a chwanegant lefaru wrth y bobl, ac a ddywedant, Pa wr ''sydd'' ofnus a meddal galon? eled a dychweled i’w dŷ, fel na lwfrhao efe galon ei frawd megis ei galon yntau. {{angor|20:9|9}} A bydded, pan ddarffo i’r llywiawdwyr lefaru wrth y bobl, osod o honynt dywysogion y lluoedd yn ben ar y bobl. {{angor|20:10|10}} ¶ Pan nesâech at ddinas i ryfela yn ei herbyn, cyhoedda iddi heddwch. {{angor|20:11|11}} A bydded, os heddwch a ettyb hi i ti, ac agoryd i ti; yna bydded i’r holl bobl a gaffer ynddi, fod i ti dan deyrnged, a’th wasanaethu. {{angor|20:12|12}} Ac oni heddycha hi â thi, ond gwneuthur rhyfel â thi; yna gwarchae arni hi. {{angor|20:13|13}} Pan roddo yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} hi yn dy law di, taro ei holl wrrywiaid â min y cleddyf. {{angor|20:14|14}} Yn unig y benywaid, a’r plant, a’r anifeiliaid, a phob dim a’r a fyddo yn y ddinas, ''sef'' ei holl yspail, a yspeili i ti: a thi a fwynhêi yspail dy elynion, yr hwn a rydd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i ti. {{angor|20:15|15}} Felly y gwnei i’r holl ddinasoedd pell iawn oddi wrthyt, y rhai nid ''ydynt'' o ddinasoedd y cenhedloedd hyn. {{angor|20:16|16}} Ond o ddinasoedd y bobloedd hyn, y rhai y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn eu rhoddi i ti yn etifeddiaeth, na chadw un enaid yn fyw: {{angor|20:17|17}} Ond gan ddifrodi difroda hwynt; ''sef'' yr Hethiaid, a’r Amoriaid, y Canaaneaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; megis y gorchymynodd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i ti. {{angor|20:18|18}} Fel na ddysgont i chwi wneuthur yn ol eu holl ffieidd-dra hwynt, y rhai a wnaethant i’w duwiau, a phechu o honoch yn erbyn yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}. {{angor|20:19|19}} ¶ Pan warchâech ar ddinas lawer o ddyddiau, gan ryfela yn ei herbyn i’w hennill hi, na ddifetha ei choed hi, gan daro bwyell arnynt: canys o honynt y bwyttêi; na thorr dithau hwynt i lawr, (oherwydd ''bywyd'' dyn ''yw'' pren y maes,) i’''w'' gosod yn y gwarch-glawdd. {{angor|20:20|20}} Yn unig y pren y gwyddost nad pren ymborth ''yw'', hwnnw a ddifethi ac a dorri: ac a adeiledi warch-glawdd yn erbyn y ddinas fydd yn gwneuthur rhyfel â thi, hyd oni orchfyger hi. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 6hk68p1vqearuwfoc21ob9474379ori Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/213 104 3464 171024 6608 2026-09-17T17:02:41Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171024 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|Pennod_21}}{{c|{{uc|Pennod XXI}}.}} {{bach|1 ''Y modd i ymddiheuro oddi wrth lofruddiaeth, heb wybod pwy a’i gwnaeth.'' 10 ''Y modd y mae trin caethferch a brïodo un.'' 15 ''Na ddylid dïetifeddu y cyntaf-anedig o ran cas.'' 18 ''Rhaid yw llabyddio mab anufudd.'' 22 ''Na adawer drwg-weithredwr y’nghrog dros nos.''}} {{angor|21:1}} {{uc|Os}} ceir ''un'' wedi ei ladd o fewn y tir yr hwn y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ei roddi i ti i’w etifeddu, yn gorwedd yn y maes, heb wybod pwy a’i lladdodd; {{angor|21:2|2}} Yna aed dy henuriaid a’th farnwyr allan, a mesurant hyd y dinasoedd ''sydd'' o amgylch i’r lladdedig. {{angor|21:3|3}} A bydded i’r ddinas nesaf at y lladdedig, ''sef'' henuriaid y ddinas honno, gymmeryd anner ''o’r'' gwartheg, yr hon ni weithiwyd â hi, ''ac'' ni thynnodd dan iau. {{angor|21:4|4}} A dyged henuriaid y ddinas honno yr anner i ddyffryn garw, yr hwn ni lafuriwyd, ac ni hauwyd ynddo; ac yno torfynyglant yr anner yn y dyffryn. {{angor|21:5|5}} A nesâed yr offeiriaid, meibion Lefi, (o herwydd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} a’u hetholodd hwynt i weini iddo ef, ac i fendigo yn enw yr {{sc|Arglwydd}},) ac wrth eu barn hwynt y terfynir pob ymryson a phob pla. {{angor|21:6|6}} A holl henuriaid y ddinas honno, y rhai ''a fyddo'' nesaf at y lladdedig, a olchant eu dwylaw uwch ben yr anner a dorfynyglwyd yn y dyffryn. {{angor|21:7|7}} A hwy a attebant ac a ddywedant, Ni thywalltodd ein dwylaw ni y gwaed hwn, at nis gwelodd ein llygaid. {{angor|21:8|8}} Trugarhâ wrth dy bobl Israel, y rhai a waredaist, O {{sc|Arglwydd}}, ac na ddyro waed gwirion yn erbyn dy bobl Israel. A maddeuir y gwaed iddynt hwy. {{angor|21:9|9}} Felly y tynni ymaith ''affaith'' y gwaed gwirion o’th fysg, os ti a wnei yr uniawander y’ngolwg yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|21:10|10}} ¶ Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a rhoddi o’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} hwynt yn dy law di, a chaethgludo o honot gaethglud o honynt; {{angor|21:11|11}} A gweled o honot yn y gaethglud wraig brydweddol, a’i bod wrth dy fodd, i’w chymmeryd i ti yn wraig; {{angor|21:12|12}} Yna dwg hi i fewn dy dŷ, ac eillied hi ei phen, a thorred ei hewinedd; {{angor|21:13|13}} A dïosged ddillad ei chaethiwed oddi am dani, a thriged yn dy dŷ di, ac wyled ''am'' ei thad a’i mam fis o ddyddiau: ac wedi hynny yr âi di atti, ac y byddi wr iddi, a hithau fydd wraig i ti. {{angor|21:14|14}} Ac oni bydd hi wrth dy fodd; yna gollwng hi yn ol ei hewyllys ei hun, a chan werthu na werth hi er arian; na chais elw o honi, am i ti ei darostwng hi. {{angor|21:15|15}} ¶ Pan fyddo i wr ddwy wragedd, un yn gu, ac un yn gas; a phlanta o’r gu a’r gas feibion iddo ef, a bod y mab cyntaf-anedig o’r ''un'' gas: {{angor|21:16|16}} Yna bydded, yn y dydd y rhanno efe ei etifeddiaeth rhwng ei feibion y rhai fyddant iddo, na ddichon efe wneuthur yn gyntaf-anedig fab y gu o flaen mab y gas, ''yr hwn sydd'' gyntaf-anedig; {{angor|21:17|17}} Ond mab y gas yr hwn sydd gyntaf-anedig a gydnebydd efe, gan roddi iddo ef y ddeuparth o’r hyn oll a gaffer yn eiddo ef: o achos hwn ''yw'' dechreuad ei nerth ef; iddo ''y bydd'' braint y cyntaf-anedig. {{angor|21:18|18}} ¶ ''Ond'' o bydd i wr fab cyndyn ac anufudd, heb wrandaw ar lais ei dad, neu ar lais ei fam; a phan geryddant ef, in wrendy arnynt: {{angor|21:19|19}} Yna ei dad a’i fam a ymaflant ynddo, ac a’i dygant at henuriaid ei ddinas, ac i borth ei drigfan; {{angor|21:20|20}} A dywedant wrth henuriaid ei ddinas ef, Ein mab hwn ''sydd'' gyndyn ac anufudd, heb wrandaw ar ein llais; glwth a meddwyn ''yw efe''. {{angor|21:21|21}} Yna holl ddynion ei ddinas a’i llabyddiant ef â meini, fel y byddo farw: felly y tynni ymaith y drwg o’th fysg; a holl Israel a glywant, ac a ofnant. {{angor|21:22|22}} ¶ Ac o bydd mewn gwr bechod yn haeddu ''barnedigaeth'' angau, a’i farwolaethu, a chrogi o honot ef wrth bren; {{angor|21:23|23}} Na thriged ei gelain dros nos wrth y pren, ''ond'' gan gladdu ti a’i cleddi ef o fewn ''y'' dydd hwnnw; o herwydd melldith {{sc|Dduw}} ''sydd i’r hwn'' a grogir: ac na haloga dy dir ''y mae'' yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth. {{angor|Pennod_22}}{{c|{{uc|Pennod XXII}}.}} {{bach|1 ''Am garedigrwydd brawdol.'' 5 ''Bod adnabod y gwrryw a’r fenyw wrth eu dillad.'' 6 ''Na ddalier mam yr adar gyd â’i chywion.'' 8 ''Rhaid yw bod i dŷ ganllawiau.'' 9 ''Gochelyd cymmysgedd.'' 12 ''Rhaid yw bod rhidens wrth ddillad.'' 13 ''Cospedigaeth yr hwn a roddo anair i’w wraig.'' 20, 22 ''Am dorr-prïodas,'' 25 ''trais,'' 28 ''godineb,'' 30 ''a llosgach.''}} {{angor|22:1}} {{uc|Ni}} chei weled eidion dy frawd neu ei ddafad yn cyfeiliorni, ac<noinclude><references/></noinclude> j8zgegzrqix14ha88m1omstgwjrzlch Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/214 104 3465 171025 6609 2026-09-17T17:22:46Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171025 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>ymguddio oddi wrthynt: gan ddwyn dwg hwynt drachefn i’th frawd. {{angor|22:2|2}} Ac oni ''bydd'' dy frawd yn gyfagos attat, neu onid adwaenost ef; yna dwg hwnnw i fewn dy dŷ, a bydded gyd â thi, hyd pan ymofyno dy frawd am dano; yna dyro ef yn ei ol iddo ef. {{angor|22:3|3}} Ac felly y gwnei i’w asyn ef, ac felly y gwnei i’w ddillad ef, ac felly y gwnei i bob collbeth i’th frawd, yr hwn a gyll oddi wrtho ef, a thithau yn ei gael: ni elli ymguddio. {{angor|22:4|4}} ¶ Ni chei weled asyn dy frawd neu ei ŷch yn gorwedd ar y ffordd, ac ymguddio oddi wrthynt; ''ond'' gan godi cyfod ''hwynt'' gyd âg ef. {{angor|22:5|5}} ¶ Na fydded dilledyn gwr am wraig, ac na wisged gwr ddillad gwraig: o herwydd ffiaidd gan yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} bawb a’r a wnel hyn. {{angor|22:6|6}} ¶ Pan ddamweinio nyth aderyn i’th olwg ar dy ffordd, mewn un pren, neu ar y ddaear, â chywion, neu âg wyau ''ynddo'', a’r fam yn eistedd ar y cywion, neu ar yr wyau; na chymmer y fam gyd â’r cywion. {{angor|22:7|7}} Gan ollwng ti a ollyngi y fam, a’r cywion a gymmeri i ti; fel y byddo daioni i ti, ac yr estynech ''dy'' ddyddiau. {{angor|22:8|8}} ¶ Pan adeiledych dŷ newydd, yna y gwnei ganllawiau ''o amgylch'' i’th nen; fel na osodych waed ar dy dŷ, pan syrthio neb oddi arno. {{angor|22:9|9}} ¶ Na haua dy winllan âg amryw ''had;'' rhag i ti halogi cynnyrch yr had a hauech, chnwd y winllan. {{angor|22:10|10}} ¶ Nac ardd âg ŷch ac âg asyn ynghyd. {{angor|22:11|11}} ¶ Na wisg ddilledyn o amryw ddefnydd, ''megis o'' wlan a llin ynghyd. {{angor|22:12|12}} ¶ Plethau a weithi i ti ar bedwar cwrr dy wisg yr ymwisgech â hi. {{angor|22:13|13}} ¶ O chymmer gwr wraig, ac wedi myned atti, ei chasâu; {{angor|22:14|14}} A gosod yn ei herbyn anair, a rhoddi allan enw drwg iddi, a dywedyd, Y wraig hon a gymmerais; a phan euthum atti, ni chefais ynddi forwyndod: {{angor|22:15|15}} Yna cymmered tad y llangces a’i mam, a, dygant ''arwyddion'' morwyndod y llangces at henuriaid y ddinas i’r porth. {{angor|22:16|16}} A dyweded tad y llangces wrth yr henuriaid, Fy merch a roddais i’r gwr hwn yn wraig, a’i chasâu y mae efe. {{angor|22:17|17}} Ac wele, efe a gododd ''iddi'' anair, gan ddywedyd, Ni chefais yn dy ferch forwyndod; ac fel dyma ''arwyddion'' morwyndod fy merch. Yna lledant y dilledyn y’ngŵydd henuriaid y ddinas. {{angor|22:18|18}} A henuriaid y ddinas honno a gymmerant y gwr, ac a’i cospant ef. {{angor|22:19|19}} A hwy a’i dirwyant ef ''mewn'' càn ''sicl'' o arian, ac a’u rhoddant hwynt i dad y llangces; o achos iddo ddwyn enw drwg ar y forwyn ''o'' Israel: a bydd hi yn wraig iddo; ''ac'' ni ddichon ei gyrru ymaith ''yn'' ei holl ddyddiau. {{angor|22:20|20}} Ond os gwir fydd y peth, ac na chafwyd ''arwyddion'' morwyndod yn y llangces: {{angor|22:21|21}} Yna y dygant y llangces at ddrws tŷ ei thad, a dynion ei dinas a’i llabyddiant hi â meini, oni byddo farw; am iddi wneuthur ffolineb yn Israel, gan butteinio yn nhŷ ei thad: a thi a dynni ymaith y drwg o’th fysg. {{angor|22:22|22}} ¶ O cheffir gwr yn gorwedd gyd â gwraig brïodol ''â'' gŵr; byddant feirw ill dau, ''sef'' y gwr a orweddodd gyd â’r wraig, a’r wraig ''hefyd:'' felly y tynni ymaith ddrwg o Israel. {{angor|22:23|23}} ¶ O bydd llangces ''o'' forwyn wedi ei dyweddïo i wr, a chael o wr hi mewn dinas, a gorwedd gyd â hi; {{angor|22:24|24}} Yna y dygwch hwynt ill dau i borth y ddinas honno, ac a’u llabyddiwch hwynt â meini, fel y byddont feirw: y llangces, oblegid na waeddodd, ''a hithau'' yn y ddinas; a’r gwr, o herwydd iddo ddarostwng gwraig ei gymmydog: felly ti a dynni ymaith y drygioni o’th fysg. {{angor|22:25|25}} ¶ Ond os mewn maes y cafodd y gwr y llangces wedi ei dyweddïo, a’i threisio o’r gwr, a gorwedd gyd â hi; yna bydded farw y gwr a orweddodd gyd â hi yn unig. {{angor|22:26|26}} Ond i’r llangces ni chei wneuthur dim; nid ''oes'' yn y llangces bechod ''yn haeddu'' marwolaeth: o herwydd megis y cyfyd gwr yn erbyn ei gymmydog, a’i ddïeneidio ef, yr un modd ''y mae'' y peth hyn: {{angor|22:27|27}} Oblegid yn y maes y cafodd efe hi: gwaeddodd y llangces ''oedd'' wedi ei dyweddïo; ac nid ''oedd'' achubydd iddi. {{angor|22:28|28}} ¶ O chaiff gwr langces o forwyn, heb ei dyweddïo, ac ymaflyd ynddi, a gorwedd gyd â hi, a’u dala hwynt: {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> faod3c6lkm27zmjr2bxbmmzx2rqrt5i Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/215 104 3466 171026 6610 2026-09-17T18:33:38Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171026 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|22:29|29}} Yna y rhydd y gwr a orweddodd gyd â hi, i dad y llangces, ddeg a deugain o arian; ac iddo y bydd yn wraig, am iddo ei darostwng hi: ni ddichon efe ei gyrru hi ymaith ''yn'' ei holl ddyddiau. {{angor|22:30|30}} ¶ Na chymmered neb wraig ei dad, ac na ddinoethed odre ei dad. {{angor|Pennod_23}}{{c|{{uc|Pennod XXIII}}.}} {{bach|1 ''Pwy a all, a phwy ni all ddyfod i’r gynnulleidfa.'' 9 ''Rhaid yw gochelyd aflendid yn y llu.'' 15 ''Am y gwas ffoadur.'' 17 ''Am frynti.'' 18 ''Am aberthau ffiaidd,'' 19 ''usuriaeth,'' 21 ''addunedau,'' 24 ''a chamweddau.''}} {{angor|23:1}} {{uc|Na}} ddeued neb wedi ysigo ei -eirin, na dispaidd, i gynnulleidfa yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|23:2|2}} Na ddeued basterdyn i gynnulleidfa yr {{sc|Arglwydd}}; y ddegfed genhedlaeth iddo hefyd ni chaiff ddyfod i gynnulleidfa yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|23:3|3}} Na ddeled Ammoniad na Moabiad i gynnulleidfa yr {{sc|Arglwydd}}; y ddegfed genhedlaeth hefyd o honynt na ddeued i gynnulleidfa yr {{sc|Arglwydd}} byth: {{angor|23:4|4}} Oblegid ni chyfarfuant â chwi â bara ac â dwfr yn y ffordd, wrth eich dyfod o’r Aipht; ac o achos cyflogi o honynt i’th erbyn Balaam mab Beor o Pethor ''ym'' Mesopotamia, i’th felldithio di. {{angor|23:5|5}} Etto yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} ni fynnodd wrandaw ar Balaam: ond trodd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} y felldith yn fendith i ti; canys hoffodd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} dydi. {{angor|23:6|6}} Na chais eu heddwch hwynt, na’u daioni hwynt, dy holl ddyddiau byth. {{angor|23:7|7}} ¶ Na ffieiddia Edomiad; canys dy frawd yw: na ffieiddia Aiphtiad; o herwydd dïeithr fuost yn ei wlad ef. {{angor|23:8|8}} Deued o honynt i gynnulleidfa yr {{sc|Arglwydd}} y drydedd genhedlaeth o’r meibion a genhedlir iddynt. {{angor|23:9|9}} ¶ Pan êl y llu allan yn erbyn dy elynion, yna ymgadw rhag pob peth drwg. {{angor|23:10|10}} ¶ O bydd un o honot heb fod yn lân, o herwydd damwain nos; eled allan o’r gwersyll; na ddeued o fewn y gwersyll. {{angor|23:11|11}} Ac ym min yr hwyr ymolched mewn dwfr: yna wedi machludo yr haul, deued i fewn y gwersyll. {{angor|23:12|12}} ¶ A bydded lle i ti o’r tu allan i’r gwersyll; ac yno yr âi di allan. {{angor|23:13|13}} A bydded gennyt raw-ffon ym mysg dy arfau; a bydded pan eisteddych allan, gloddio o honot â hi, a thro a chuddia yr hyn a ddaeth oddi wrthyt. {{angor|23:14|14}} O herwydd bod yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn rhodio ym mhlith dy wersyllau, i’th waredu, ac i roddi dy elynion o’th flaen di; am hynny bydded dy wersyllau yn sanctaidd; fel na welo ynot ti ddim brynti, a throi oddi wrthyt. {{angor|23:15|15}} ¶ Na ddyro at ei feistr was a ddïangodd attat oddi wrth ei feistr. {{angor|23:16|16}} Gyd â thi y trig yn dy fysg, yn y fan a ddewiso, yn un o’th byrth di, lle byddo da ganddo; ''ac'' na chystuddia ef. {{angor|23:17|17}} ¶ Na fydded puttain o ferched Israel, ac na fydded puteiniwr o feibion Israel. {{angor|23:18|18}} Na ddwg wobr puttain, na gwerth ei, ''i'' dŷ yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, mewn un adduned: canys ''y maent'' ill dau yn ffiaidd gan yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}. {{angor|23:19|19}} ¶ Na chymmer occraeth gan dy frawd; occraeth arian, occraeth bwyd, occraeth dim y cymmerir occraeth am dano. {{angor|23:20|20}} Gan estron y cymmeri occraeth; ond na chymmer occraeth gan dy frawd: fel y bcndithio yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} di ym mhob peth y rhoddych dy law arno, yn y tir yr ydwyt yn myned iddo i’w feddiannu. {{angor|23:21|21}} ¶ Pan addunedech adduned i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, nac oeda ei thalu: canys yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} gan ofyn a’i gofyn gennyt; a byddai yn bechod ynot. {{angor|23:22|22}} Ond os peidi âg addunedu, ni bydd pechod ynot. {{angor|23:23|23}} Cadw a gwna yr hyn a ddaeth allan o’th wefusau; megis yr addunedaist i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} offrwm gwirfodd, yr hwn a draethaist â’th enau. {{angor|23:24|24}} ¶ Pan ddelych i winllan dy gymmydog, yna bwytta o rawnwin dy wala, wrth dy feddwl; ond na ddod yn dy lestr ''yr un''. {{angor|23:25|}} Pan ddelych i ŷd dy gymmydog, yna y cei dynnu y tywysennau â’th law; ond ni chei osod crymman yn ŷd dy gymmydog. {{angor|Pennod_24}}{{c|{{uc|Pennod XXIV}}.}} {{bach|1 ''Am ysgar.'' 5 ''Nad rhaid i’r gwr newydd brïodi fyned i ryfel.'' 6, 10 ''Am wystlon.'' 7 ''Am ladron dynion.'' 8 ''Am y gwahan-glwyf:'' 14 ''talu cyflog,'' 17 ''barn,'' 19 ''ac elusen.''}} {{angor|24:1}} {{uc|Pan}} gymmero gwr wraig, a’i phrïodi; yna oni chaiff hi ffafr<noinclude><references/></noinclude> r4pqoiyxcr7bnrl16xttyv0vv8qlqe6 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/216 104 3467 171027 6611 2026-09-17T18:52:20Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171027 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>yn ei olwg ef, o achos iddo gael rhyw aflendid ynddi; ysgrifened iddi lythyr ysgar, a rhodded yn ei llaw hi, a gollynged hi ymaith o’i dŷ. {{angor|24:2|2}} Pan elo hi allan o’i dŷ ef, a myned ymaith, a bod yn eiddo gwr arall: {{angor|24:3|3}} Os ei gwr diweddaf a’i casâ hi, ac a ysgrifena lythyr ysgar iddi, ac a’i rhydd yn ei llaw hi, ac a’i gollwng hi o’i dŷ; neu os bydd marw y gwr diweddaf a’i cymmerodd hi yn wraig iddo: {{angor|24:4|4}} Ni ddichon ei phrïod cyntaf, yr hwn a’i gollyngodd hi ymaith, ei chymmeryd hi drachefn i fod yn wraig iddo, wedi iddi ymhalogi: canys ffieidd-dra ''yw'' hyn o flaen yr {{sc|Arglwydd}}; ac na wna i’r wlad bechu, yr hon a rydd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i ti yn etifeddiaeth. {{angor|24:5|5}} ¶ Pan gymmero gwr wraig newydd, nac eled i ryfel, ac na rodder gofal dim arno: caiff fod gartref yn rhydd un flwyddyn, a llawenhâu ei wraig a gymmerodd. {{angor|24:6|6}} ¶ Na chymmered ''neb'' faen isaf nac uchaf i felin ar wystl: canys y mae yn cymmeryd bywyd ''dyn'' yng ngwystl. {{angor|24:7|7}} ¶ Pan gaffer gwr yn lladratta un o’i frodyr o feibion Israel, ac yn ymelwa arno, neu yn ei werthu; yna lladder y lleidr hwnnw, a thyn di ymaith y drwg o’th fysg. {{angor|24:8|8}} ¶ Gwylia ym mhla y gwahan-glwyf, ar ddyfal-gadw, a gwneuthur yn ol yr hyn oll a ddysgo yr offeiriaid y Lefiaid i chwi: edrychwch am wneuthur megis y gorchymynais wrthynt hwy. {{angor|24:9|9}} Cofia yr hyn a wnaeth yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i Miriam ar y ffordd, wedi eich dyfod allan o’r Aipht. {{angor|24:10|10}} ¶ Pan fenthycciech i’th gymmydog fenthyg dim, na ddos i’w dŷ ef i gymmeryd ei wystl ef. {{angor|24:11|11}} Allan y sefi; a dyged y gwr y benthycciaist iddo y gwystl allan attat ti. {{angor|24:12|12}} Ac os gwr tlawd ''fydd'' efe, na chwsg a’i wystl ''gyd â thi''. {{angor|24:13|13}} Gan ddadroddi dyro ei wystl iddo pan fachludo yr haul, fel y gorweddo yn ei wisg, ac y’th fendithio di: a bydd ''hyn'' i ti yn gyfiawnder o flaen yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}. {{angor|24:14|14}} ¶ Na orthrymma was cyflog tlawd ac anghenus, o’th frodyr, neu o’th ddïeithrddyn ''a fyddo'' yn dy dir o fewn dy byrth di: {{angor|24:25|25}} Yn ei ddydd y rhoddi ''iddo'' ei gyflog; ac na fachluded yr haul arno: canys tlawd yw, ac â hyn y mae yn cynnal ei einioes: fel na lefo ar yr {{sc|Arglwydd}} yn dy erbyn, a bod pechod ynot. {{angor|24:16|16}} Na rodder i farwolaeth dadau dros blant, ac na rodder plant i farw dros dadau: pob un a roddir i farwolaeth am ei bechod ei hun. {{angor|24:17|17}} ¶ Na ŵyra farn y dïeithr ''na’r'' amddifad; ac na chymmer ar wystloraeth wisg y weddw. {{angor|24:18|18}} Ond meddwl mai caethwas fuost yn yr Aipht, a’th waredu o’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} oddi yno: am hynny yr wyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn. {{angor|24:19|19}} ¶ Pan fedech dy gynhauaf yn dy faes, ac anghofio ysgub yn y maes, na ddychwel i’w chymmeryd: bydded i’r dïeithr, i’r amddifad, ac i’r weddw; fel y bendithio yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} di yn holl waith dy ddwylaw. {{angor|24:20|20}} Pan ysgydwech dy olew-wydden, na loffa ar dy ol: bydded i’r dïeithr, i’r amddifad, ac i’r weddw. {{angor|24:21|21}} Pan gesglych rawnwin dy winllan, na loffa ar dy ol: bydded i’r dïeithr, i’r amddifad, ac i’r weddw. {{angor|24:22|22}} Meddwl hefyd mai caethwas fuost yn nhir yr Aipht: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn. {{angor|Pennod_25}}{{c|{{uc|Pennod XXV}}.}} {{bach|1 ''Na rodder ychwaneg na deugain gwïalennod.'' 4 ''Na chauer safn yr ŷch.'' 5 ''Am godi had i frawd.'' 11 ''Am y wraig ddigywilydd.'' 16 ''Am bwysau anghyfiawn.'' 17 ''Rhaid yw dilëu coffadwriaeth Amalec.''}} {{angor|25:1}} {{uc|Pan}} fyddo ymrafael rhwng dynion, a dyfod i farn i’w barnu; yna cyfiawnhânt y cyfiawn, a chondemniant y beius. {{angor|25:2|2}} Ac o bydd y mab drygionus i’w guro, pared y barnwr iddo orwedd, a phared ei guro ef ger ei fron, yn ol ei ddryganiaeth, dan rifedi. {{angor|25:3|3}} Deugain gwïalennod a rydd iddo, ''ac'' na chwaneged: rhag ''os'' chwanega, a’i guro ef â llawer gwïalennod uwch law hyn, a dirmygu dy frawd yn dy olwg. {{angor|25:4|4}} ¶ Na chau safn ŷch tra fyddo yn dyrnu. {{angor|25:5|5}} ¶ Os brodyr a drigant ynghyd, a marw un o honynt, ac heb blentyn iddo; na phrïoded gwraig y marw<noinclude><references/></noinclude> sqlpadexndlbu82qubfb3zn5sisqdkd Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/217 104 3468 171035 6612 2026-09-18T05:23:41Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171035 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>wr dïeithr oddi allan: aed ei chyfathrachwr atti, a chymmered hi yn wraig iddo, a gwnaed iddi ran cyfathrachwr. {{angor|25:6|6}} A bydded i’r cyntaf-anedig a ymddygo hi sefyll ar enw ei frawd ''a fu'' farw; fel na ddilëer ei enw ef allan o Israel. {{angor|25:7|7}} Ac oni bydd boddlawn y gwr i gymmeryd ei gyfathrach-wraig; yna aed ei gyfathrach-wraig i fynu i’r porth at yr henuriaid, a dyweded, Gwrthododd fy nghyfathrach-wr godi i’w frawd enw yn Israel: ni fyn efe wneuthur rhan cyfathrach-wr â mi. {{angor|25:8|8}} Yna galwed henuriaid ei ddinas am dano ef, ac ymddiddanant âg ef: ''o'' saif efe, a dywedyd, Nid wyf fi foddlawn i’w chymmeryd hi; {{angor|25:9|9}} Yna nesâed ei gyfathrach-wraig atto ef y’ngŵydd yr henuriaid, a dattoded ei esgid ef oddi am ei droed, a phoered yn ei wyneb ef, ac attebed, a dyweded, Felly y gwneir i’r gwr nid adeilado dŷ ei frawd. {{angor|25:10|10}} A gelwir ei enw ef yn Israel, Tŷ yr hwn y dattodwyd ei esgid. {{angor|25:11|11}} ¶ Os ymryson dynion ynghyd, ''sef'' gwr â’i frawd, a nesâu gwraig y naill i achub ei gwr o law ei darawydd, ac estyn ei llaw ac ymaflyd yn ei ddirgeloedd ef; {{angor|25:12|12}} Tor ymaith ei llaw hi: nac arbeded dy lygad ''hi''. {{angor|25:13|13}} ¶ Na fydded gennyt yn dy gôd amryw bwys, mawr a bychan. {{angor|25:14|14}} Na fydded gennyt yn dy dŷ amryw fesur, mawr a bychan. {{angor|25:15|15}} Bydded gennyt garreg uniawn a chyfiawn; bydded gennyt ephah uniawn a chyfiawn: fel yr estyner dy ddyddiau ar y ddaear yr hon y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ei rhoddi i ti. {{angor|25:16|16}} Canys ffiaidd gan yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} bob un a’r a wnelo hyn, ''sef'' pawb a’r a wnel anghyfiawnder. {{angor|25:17|17}} ¶ Cofia yr hyn a wnaeth Amalec i ti ar y ffordd, pan ddaethoch allan o’r Aipht: {{angor|25:18|18}} Yr hwn a’th gyfarfu ar y ffordd, ac a laddodd y rhai olaf o honot, yr holl weiniaid o’th ol di, a thi yn lluddedig, ac yn ddiffygiol; ac nid ofnodd efe {{sc|Dduw}}. {{angor|25:19|19}} Am hynny bydded, pan roddo yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i ti lonyddwch oddi wrth dy holl elynion oddi amgylch, yn y tir y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i’w feddiannu, dynnu o honot ymaith goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd: nac anghofia ''hyn''. {{angor|Pennod_26}}{{c|{{uc|Pennod XXVI}}.}} {{bach|1 ''Cyffes yr hwn a offrymmo y cawell blaen-ffrwyth.'' 12 ''Gweddi yr hwn a roddo ei ddegymmau y drydedd flwyddyn.'' 16 ''Y cyfammod rhwng Dow a’r bobl.''}} {{angor|26:1}} {{uc|A phan}} ddelych i’r tir y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth, a’i feddiannu, a phreswylio ynddo; {{angor|26:2|2}} Yna cymmer o bob blaen-ffrwyth y ddaear, yr hwn a ddygi o’th dir y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ei roddi i ti, a gosod mewn cawell, a dos i’r lle a ddewiso yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i drigo o’i enw ef ynddo: {{angor|26:3|3}} A dos at yr offeiriad a fydd yn y dyddiau hynny, a dywed wrtho, Yr ydwyf fi yn cyfaddef heddyw i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, fy nyfod i’r tir a dyngodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth ein tadau ar ''ei'' roddi i ni. {{angor|26:4|4}} A chymmered yr offeiriad y cawell o’th law di, a gosoded ef o flaan allor yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}: {{angor|26:5|5}} A llefara dithau, a dywed ger bron yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, Syriad ar ddarfod am dano ''oedd'' fy nhad; ac efe a ddisgynodd i’r Aipht, ac a ymdeithiodd yno âg ychydig bobl, ac a aeth yno yn genedl fawr, gref, ac aml. {{angor|26:6|6}} A’r Aiphtiaid a’n drygodd ni, a chystuddiasant ni, a rhoddasant arnom gaethiwed caled. {{angor|26:7|7}} A phan waeddasom ar {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} ein tadau, clybu yr {{sc|Arglwydd}} ein llais ni, a gwelodd ein cystudd, a’n llafur, a’n gorthrymder. {{angor|26:8|8}} A’r {{sc|Arglwydd}} a’n dug ni allan o’r Aipht a llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac âg ofn mawr, ac âg arwyddion, ac â rhyfeddodau. {{angor|26:9|9}} Ac efe a’n dug ni i’r lle hwn, ac a roes i ni y tir hwn; ''sef'' tir yn llifeirio o laeth a mêl. {{angor|26:10|10}} Ac yn awr, wele, mi a ddygais flaen-ffrwyth y tir a roddaist i mi, O {{sc|Arglwydd}}: a gosod ef ger bron yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, ac addola ger bron yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}. {{angor|26:11|11}} Ymlawenycha hefyd ym mhob daioni a roddodd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i ti, ac i’th deulu, tydi, a’r Lefiad, a’r ddïeithr ''a fyddo'' yn dy fysg. {{angor|26:12|12}} ¶ Pan ddarffo i ti ddegymmu holl ddegwm dy gnwd, yn y drydedd flwyddyn, ''sef'' blwyddyn y deg-<noinclude><references/></noinclude> awwzj49dc8vziuo9qvl4psfj7o166kd Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/218 104 3469 171036 6613 2026-09-18T05:40:59Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171036 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>wm; yna y rhoddi i’r Lefiad, i’r dïeithr, i’r amddifad, ac i’r weddw; fel y bwyttaont yn dy byrth di, ac y digoner hwynt. {{angor|26:13|13}} A dywed ger bron yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, Dygais ''y peth'' cyssegredig allan o’m tŷ, ac a’i rhoddais ef i’r Lefiad, ac i’r dïeithr, i’r amddifad, ac i’r weddw, yn ol dy holl orchymynion a orchymynaist i mi: ni throseddais ''ddim'' o’th orchymynion, ac nis anghofiais. {{angor|26:14|14}} Ni fwytteais o hono yn fy ngalar, ac ni ddygais ymaith o hono i aflendid, ac ni roddais o hono dros y marw: gwrandewais ar lais yr {{sc|Arglwydd}} fy {{sc|Nuw}}; gwneuthum yn ol yr hyn oll a orchymynaist i mi. {{angor|26:15|15}} Edrych o drigle dy sancteiddrwydd, ''sef'' o’r nefoedd, a bendithia dy bold Israel, a’r tir a roddaist i ni, megis y tyngaist wrth ein tadau; ''sef'' tir yn llifeirio o laeth a mêl. {{angor|26:16|16}} ¶ Y dydd hwn y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn gorchymyn i ti wneuthur y deddfau hyn a’r barnedigaethau: cadw dithau a gwna hwynt â’th holl galon, ac â’th holl enaid. {{angor|26:17|17}} Cymmeraist yr {{sc|Arglwydd}} heddyw i fod yn {{sc|Dduw}} i ti, ac i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei ddeddfau, a’i orchymynion, a’i farnedigaethau, ac i wrandaw ar ei lais ef. {{angor|26:18|18}} Cymmerodd yr {{sc|Arglwydd}} dithau heddyw i fod yn bobl brïodol iddo ef, megis y llefarodd wrthyt, ac i gadw ''o honot'' ei holl orchymynion: {{angor|26:19|19}} Ac i’th wneuthur yn uchel goruwch yr holl genhedloedd a wnaeth efe, mewn clod, ac mewn enw, ac mewn gogoniant; ac i fod o honot yn bobl sanctaidd i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, megis y llefarodd efe. {{angor|Pennod_27}}{{c|{{uc|Pennod XXVII}}.}} {{bach|1 ''Gorchymyn y bobl i ysgrifenu y gyfraith ar gerrig;'' 5 ''ac i wneuthur allor o gerrig cyfain.'' 11 ''Rhannu y llwythau yr fynydd Garizim ac Ebal.'' 14 ''Cyhoeddi y melldithion ar fynydd Ebal.''}} {{angor|27:1}} {{uc|Yna}} y gorchymynodd Moses, gyd â henuriaid Israel, i’r bobl, gan ddywedyd, Cedwch yr holl orchymynion yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddyw. {{angor|27:2|2}} A bydded, yn y dydd yr elych dros yr Iorddonen i’r tir y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ei roddi i ti, osod o honot i ti gerrig mawrion, a chalcha hwynt â chalch. {{angor|27:3|3}} Ac ysgrifenna arnynt holl eiriau y gyfraith hon, pan elych drosodd, i fyned y’r tir y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ei roddi i ti, ''sef'' tir yn llifeirio o laeth a mêl; megis ag y llefarodd {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} dy dadau wrthyt. {{angor|27:4|4}} A phan eloch dros yr Iorddonen, gosodwch y cerrig hyn, yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddyw, ym mynydd Ebal, a chalcha hwynt â chalch. {{angor|27:5|5}} Ac adeilada yno allor i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, ''sef'' allor gerrig: na chyfod arnynt ''arf'' haiarn. {{angor|27:6|6}} A cherrig cyfain yr adeiledi allor yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}; ac offrymma arni boeth-offrymmau i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}. {{angor|27:7|7}} Offrymma hefyd hedd-aberthau, a bwytta yno, a llawenycha ger bron yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}. {{angor|27:8|8}} Ac ysgrifenna ar y cerrig holl eiriau y gyfraith hon, yn eglur iawn. {{angor|27:9|9}} ¶ A llefarodd Moses a’r offeiriaid y Lefiaid wrth holl Israel, gan ddywedyd, Gwrando a chlyw, O Israel: Y dydd hwn y’th wnaethpwyd yn bobl i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}. {{angor|27:10|10}} Gwrando gan hynny ar lais yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, a gwna ei orchymynion ef a’i ddeddfau, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddyw. {{angor|27:11|11}} ¶ A gorchymynodd Moses i’r bobl y dydd hwnnw, gan ddywedyd, {{angor|27:12|12}} Y rhai hyn a safant i fendithio y bobl ar fynydd Garizim, wedi eich myned dros yr Iorddonen: Simeon, a Lefi, a Judah, ac Issachar, a Joseph, a Benjamin. {{angor|27:13|13}} A’r rhai hyn a safant i felldithio at fynydd Ebal: Reuben, Gad, ac Aser, a Zabulon, Dan, a Naphtali. {{angor|27:14|14}} ¶ A’r Lefiaid a lefarant, ac a ddywedant wrth bob gwr ''o'' Israel ''â'' llef uchel, {{angor|27:15|15}} Melldigedig ''yw'' y gwr a wnel ddelw gerfiedig neu doddedig, ''sef'' ffieidd-dra gan yr {{sc|Arglwydd}}, gwaith dwylaw crefftwr, ac a’i gosodo mewn ''lle'' dirgel. A’r holl bobl a attebant, ac a ddywedant, Amen. {{angor|27:16|16}} Melldigedig ''yw'' yr hwn a ddirmygo ei dad neu ei fam. A dyweded yr holl bobl, Amen. {{angor|27:17|17}} Melldigedig ''yw'' yr hwn a symmudo derfyn ei gymmydog. A dyweded yr holl bobl, Amen. {{angor|27:18|18}} Melldigedig ''yw'' yr hwn a baro i’r dall gyfeiliorni allan o’r ffordd. A dyweded yr holl bobl, Amen. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> h4w8k84yd7jrfxz82ofblw7ams404bm Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/219 104 3470 171037 6614 2026-09-18T05:55:44Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171037 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|27:19|19}} Melldigedig ''yw'' yr hwn a ŵyro farn y dïeithr, yr amddifad, a’r weddw. A dyweded yr holl bobl, Amen. {{angor|27:20|20}} Melldigedig ''yw'' yr hwn a orweddo gyd â gwraig ei dad; o herwydd datguddiodd odre ei dad. A dyweded yr holl bobl, Amen. {{angor|27:21|21}} Melldigedig ''yw'' yr hwn a orweddo gyd âg un anifail. A dyweded yr boll bobl, Amen. {{angor|27:22|22}} Melldigedig ''yw'' yr hwn a orweddo gyd â’i chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam ef. A dyweded yr holl bobl, Amen. {{angor|27:23|23}} Melldigedig ''yw'' yr hwn a orweddo gyd â’i chwegr. A dyweded yr holl bobl, Amen. {{angor|27:24|24}} Melldigedig ''yw'' yr hwn a darawo ei gymmydog yn ddirgel. A dyweded yr holl bobl, Amen. {{angor|27:25|25}} Melldigedig ''yw'' yr hwn a gymmero wobr, er dïeneidio gwaed gwirion. A dyweded yr holl bobl, Amen. {{angor|27:26|26}} Melldigedig ''yw'' yr hwn ni pharhao y’ngeiriau y gyfraith hon, gan eu gwneuthur hwynt. A dyweded yr holl bobl, Amen. {{angor|Pennod_28}}{{c|{{uc|Pennod XXVIII}}.}} {{bach|1 ''Benditihion am ufudd-dod.'' 15 ''Melldithion am anufudd-dod.''}} {{angor|28:1}} {{uc|Ac}} os gan wrandaw y gwrandewi ar lais yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, i gadw ''ac'' i wneuthur ei holl orchymynion ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddyw; yna yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} a’th esyd yn uwch na holl genhedloedd y ddaear. {{angor|28:2|2}} A’r holl fendithion hyn a ddaw arnat, ac a’th oddiweddant, os gwrandewi ar lais yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}. {{angor|28:3|3}} Bendigedig ''fyddi'' di yn y ddinas, a bendigedig yn y maes. {{angor|28:4|4}} Bendigedig ''fydd'' ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir, a ffrwyth dy anifail di, cynnydd dy wartheg, a dïadellau dy ddefaid. {{angor|28:5|5}} Bendigedig ''fydd'' dy gawell a’th does di. {{angor|28:6|6}} Bendigedig ''fyddi'' di yn dy ddyfodiad i mewn, a bendigedig yn dy fynediad allan. {{angor|28:7|7}} Rhydd yr {{sc|Arglwydd}} dy elynion a ymgodant i’th erbyn yn lladdedig o’th flaen di: trwy un ffordd y deuant i’th erbyn, a thrwy saith o ffyrdd y ffoant o’th flaen. {{angor|28:8|8}} Yr {{sc|Arglwydd}} a orchymyn fendith arnat ti, yn dy drysordai, ac yn yr hyn oll y dodech dy law arno; ac a’th fendithia yn y tir y mae yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn ei roddi i ti. {{angor|28:9|9}} Yr {{sc|Arglwydd}} a’th gyfyd di yn bobl sanctaidd iddo ei hun, megis y tyngodd wrthyt, os cedwi orchymynion yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, a rhodio yn ei ffyrdd ef. {{angor|28:10|10}} A holl bobloedd y ddaear a welant fod yn dy alw di ar enw yr {{sc|Arglwydd}}, ac a ofnant rhagot. {{angor|28:11|11}} A’r {{sc|Arglwydd}} a’th lwydda di mewn daioni, yn ffrwyth dy fru, ac yn ffrwyth dy amfeiliaid, ac yn ffrwyth dy ddaear, yn y tir a dyngodd yr {{sc|Arglwydd}} i’th dadau ar ei roddi i ti. {{angor|28:12|12}} Yr {{sc|Arglwydd}} a egyr ei drysor daionus i ti, ''sef'' y nefoedd, i roddi gwlaw ''i’th'' dir di yn ei amser, ac i fendigo holl waith dy law: a thi a roddi echwyn i genhedloedd lawer, ac ni cheisi echwyn. {{angor|28:13|13}} A’r {{sc|Arglwydd}} a’th wna di yn ben, ac nid yn gynffon; hefyd ti a fyddi yn uchaf yn unig, ac nid yn isaf: os gwrandewi ar orchymynion yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw, ''i’w'' cadw, ac i’w gwneuthur; {{angor|28:14|14}} Ac heb gilio o honot oddi wrth yr holl eiriau yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddyw, i’r tu dehau neu i’r tu aswy, gan fyned ar ol duwiau dïeithr, i’w gwasanaethu hwynt. {{angor|28:15|15}} ¶ A bydd, oni wrandewi ar lais yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, gan gadw ''a'' gwneuthur ei holl orchymynion ef a’i ddeddfau, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw; y daw arnat yr holl felldithion hyn, ac y’th oddiweddant. {{angor|28:16|16}} Melldigedig ''fyddi'' di yn y ddinas, a melldigedig yn y maes. {{angor|28:17|17}} Melldigedig ''fydd'' dy gawell a’th does di. {{angor|28:18|18}} Melldigedig ''fydd'' ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir, cynnydd dy wartheg, a dïadellau dy ddefaid. {{angor|28:19|19}} Melldigedig ''fyddi'' di yn dy ddyfodiad i mewn, a melldigedig yn dy fynediad allan. {{angor|28:20|20}} Yr {{sc|Arglwydd}} a ddenfyn arnat ti felldith, trallod, a cherydd, yn yr hyn oll y dodech dy law arno, ''ac yn'' yr hyn a wnelych; nes dy ddinystrio a’th ddifetha di yn gyflym; am ddrygioni dy weithredoedd ''yn'' y rhai y’m gwrthodaist i. {{angor|28:21|21}} Yr {{sc|Arglwydd}} a wna i haint lynu wrthyt, nes iddo dy ddifa oddi<noinclude><references/></noinclude> q1x0xpq0wke0dg7ycnu59226xe9n9a8 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/220 104 3471 171038 6615 2026-09-18T06:10:02Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171038 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>ar y tir yr ydwyt ti yn myned iddo i’w feddiannu. {{angor|28:22|22}} Yr {{sc|Arglwydd}} a’th dery â darfodedigaeth, ac â chryd poeth, ac â llosgfa, ac â gwres, ac â chleddyf, ac â diflanniad, ac â mallder; a hwy a’th ddilynant nes dy ddifetha. {{angor|28:23|23}} Dy nefoedd hefyd y rhai ''sydd'' uwch dy ben a fyddant yn bres, a’r ddaear yr hon ''sydd'' oddi tanat yn haiarn. {{angor|28:24|24}} Yr {{sc|Arglwydd}} a rydd ''yn lle'' gwlaw dy ddaear, lwch a lludw: o’r nefoedd y disgyn arnat, hyd oni’th ddinystrier. {{angor|28:25|25}} Yr {{sc|Arglwydd}} a wna i ti syrthio o flaen dy elynion: trwy un ffordd yr âi di yn eu herbyn hwynt, a thrwy saith o ffyrdd y ffoi o’u blaen hwynt: a thi a fyddi ar wasgar dros holl deyrnasoedd y ddaear. {{angor|28:26|26}} A’th gelain a fydd fwyd i holl ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear; ac ni ''bydd'' a’''u'' tarfo. {{angor|28:27|27}} Yr {{sc|Arglwydd}} a’th dery di â chornwyd yr Aipht, ac â chlwyf y marchogion, ac â chrach, ac âg ysfa; o’r rhai ni ellir dy iachâu. {{angor|28:28|28}} Yr {{sc|Arglwydd}} a’th dery di âg ynfydrwydd, ac â dallineb, ac â syndod calon. {{angor|28:29|29}} Byddi ''hefyd'' yn ymbalfalu ganol dydd fel yr ymbalfalai y dall yn y tywyllwch; ac ni lwyddi yn dy ffyrdd: a dïau y byddi orthrymmedig ac anrheithiedig byth, ac ni ''bydd'' a’''th'' waredo. {{angor|28:30|30}} Ti a ymgredi â gwraig, a gwr arall a gyd-orwedd â hi: ti a adeiledi dŷ, ac ni thrigi ynddo: ti a blenni winllan, ac ni chesgli ei ffrwyth. {{angor|28:31|31}} Dy ŷch a leddir yn dy olwg, ac ni fwyttêi o hono: dy asyn a ddygir trwy drais o flaen dy wyneb, ac ni ddaw adref attat: dy ddefaid a roddir i’th elynion, ac ni ''bydd'' i ti achubydd. {{angor|28:32|32}} Dy feibion a’th ferched a roddir i bobl eraill, a’th lygaid yn gweled, ac yn pallu am danynt ar hyd y dydd; ac ni ''bydd'' gallu ar dy law. {{angor|28:33|33}} Ffrwyth dy dir a’th holl lafur a fwytty pobl nid adnabuost; a byddi yn unig orthrymmedig a drylliedig bob amser: {{angor|28:34|34}} A byddi wallgofus, gan weledigaeth dy lygaid yr hon a welych. {{angor|28:35|35}} Yr {{sc|Arglwydd}} a’th dery di â chornwyd drygionus, yn y gliniau, ac yn yr esgeiriau, yr hwn ni ellir ei iachâu, o wadn dy droed hyd dy goryn. {{angor|28:36|36}} Yr {{sc|Arglwydd}} a’th ddwg di, a’th frenhin a osodych arnat, at genedl nid adnabuost ti na’th dadau di; a gwasanaethi yno dduwiau dïeithr, pren a maen. {{angor|28:37|37}} A byddi yn syndod, yn ddïareb, ac yn watwargerdd, ym mhlith yr holl bobloedd y rhai yr arwain yr {{sc|Arglwydd}} di attynt. {{angor|28:38|38}} Had lawer a ddygi allan i’r maes, ac ychydig a gesgli: o herwydd y locust a’i hysa. {{angor|28:39|39}} Gwinllannoedd a blenni, ac a goleddi; ond gwin nid yfi, ac ni chesgli ''y grawnwin:'' canys pryfed a’u bwytty. {{angor|28:40|40}} Olew-wydd a fydd i ti trwy dy holl derfynau, ac âg olew ni’th irir: o herwydd dy olew-wydden a ddyhidla. {{angor|28:41|41}} Meibion a merched a genhedli, ac ni byddant i ti: o herwydd hwy a ânt i gaethiwed. {{angor|28:42|42}} Dy holl brennau a ffrwythau dy dir a ddifa y locust. {{angor|28:43|43}} Y dïeithr ''a fyddo'' yn dy fysg a ddring arnat yn uchel uchel; a thi a ddisgyni yn isel isel. {{angor|28:44|44}} Efe a fenthyccia i ti, a thi ni fenthycci iddo ef: efe a fydd yn ben, a thi a fyddi yn gynffon. {{angor|28:45|45}} A’r holl felldithion hyn a ddaw arnat, ac a’th erlidiant, ac a’th oddiweddant, hyd oni’th ddinystrier; am na wrandewaist ar lais yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, i gadw ei orchymynion a’i ddeddfau ef, y rhai a orchymynodd efe i ti. {{angor|28:46|46}} A byddant yn arwydd ac yn rhyfeddod arnat ti, ac ar dy had hyd byth. {{angor|28:47|47}} Oblegid na wasanaethaist yr {{sc|Arglwydd}} dy DDUW mewn llawenydd, ac mewn hyfrydwch calon, am amldra pob dim: {{angor|28:48|48}} Am hynny y gwasanaethi di dy elynion, y rhai a ddenfyn yr {{sc|Arglwydd}} yn dy erbyn, mewn newyn, ac mewn syched, ac mewn noethni, ac mewn eisieu pob dim; ac efe a ddyry iau haiarn ar dy wddf, hyd oni ddinystrio efe dydi. {{angor|28:49|49}} Yr {{sc|Arglwydd}} a ddwg i’th erbyn genedl o bell, ''sef'' o eithaf y ddaear, ''mor gyflym'' ag yr eheda yr eryr, cenedl yr hon ni ddealli ei hiaith; {{angor|28:50|50}} Cenedl wyneb-galed, yr hon ni dderbyn wyneb yr henafgwr, ac ni bydd raslawn i’r llangc. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 5doi7anyel3dku30n7e4t9247yl0kwq Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/221 104 3472 171039 6616 2026-09-18T06:27:39Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171039 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|28:51|51}} A hi a fwytty ffrwyth dy anifeiliaid, a ffrwyth dy ddaear, hyd oni’th ddinystrier: yr hon ni âd i ti ŷd, gwin, nac olew, cynnydd dy wartheg, na dïadellau dy ddefaid, hyd oni’th ddifetho di. {{angor|28:52|52}} A hi a warchae arnat ti yn dy holl byrth, hyd oni syrthio dy uchel a’th gedyrn gaerau, y rhai yr ydwyt yn ymddiried ynddynt, trwy dy holl dir: hi a warchae hefyd arnat yn dy holl byrth, o fewn dy holl dir yr hwn a roddodd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i ti. {{angor|28:53|53}} Ffrwyth dy fru, ''sef'' cig dy feibion a’th ferched, y rhai a roddodd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i ti, a fwyttêi yn y gwarchae, ac yn y cyfyngdra a ddwg dy elyn arnat. {{angor|28:54|54}} Y gwr tyner yn dy blith, a’r moethus iawn, a greulona ei lygad with ei frawd, ac wrth wraig ei fynwes, ac wrth weddill ei feibion y rhai a weddillodd efe: {{angor|28:55|55}} Rhag rhoddi i un o honynt o gig ei feibion, y rhai a fwytty efe; o eisieu gadaw iddo ddim yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra, â’r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy holl byrth. {{angor|28:56|56}} Y wraig dyner a’r foethus yn dy fysg, yr hon ni phrofodd osod gwadn ei throed ar y ddaear, gan fwythau a thynerwch, a greulona ei llygad wrth wr ei mynwes, ac wrth ei mab, ac wrth ei merch, {{angor|28:57|57}} Ac wrth ei phlentyn a ddaw allan o’i chorph, a’i meibion y rhai a blanta hi: canys hi a’u bwytty hwynt yn ddirgel, pan ballo pob dim ''arall'' yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra, â’r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy byrth. {{angor|28:58|58}} Oni chedwi ar wneuthur holl eiriau y gyfraith hon, y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn, gan ofni yr enw gogoneddus ac ofnadwy hwn, {{uc|Yr Arglwydd dy Dduw}}; {{angor|28:59|59}} Yna y gwna yr {{sc|Arglwydd}} dy bläau di yn rhyfedd, a phläau dy had; ''sef'' pläau mawrion a pharhaus, a chlefydau drwg a pharhaus. {{angor|28:60|60}} Ac efe a ddwg arnat holl glefydau yr Aipht, y rhai yr ofnaist rhagddynt; a glynant wrthyt. {{angor|28:61|61}} Ië, pob clefyd, a phob pla, yr hwn nid ''yw'' ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon, a ddwg yr {{sc|Arglwydd}} arnat, hyd oni’th ddinystrier. {{angor|28:62|62}} Felly chwi a adewir yn ychydig bobl, lle yr oeddych fel sêr y nefoedd o lïosowgrwydd; o herwydd na wrandewaist at iais yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}. {{angor|28:63|63}} A bydd, megis ag y llawenychodd yr {{sc|Arglwydd}} ynoch i wneuthur daioni i chwi, ac i’ch amlhâu; felly y llawenycha yr {{sc|Arglwydd}} ynoch i’ch dinystrio, ac i’ch difetha chwi: a diwreiddir chwi o’r tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu. {{angor|28:64|64}} A’r {{sc|Arglwydd}} a’th wasgar di ym mhlith yr holl bobloedd, o’r ''naill'' gwrr i’r ddaear hyd y cwrr ''arall'' i’r ddaear: a thi a wasanaethi yno dduwiau dïeithr, y rhai nid adnabuost ti na’th dadau; ''sef'' pren a maen. {{angor|28:65|65}} Ac ym mhlith y cenhedloedd hyn ni orphwysi, ac ni bydd gorphwysdra i wadn dy droed: canys yr {{sc|Arglwydd}} a rydd i ti yno galon ofnus, a darfodedigaeth llygaid, a thristwch meddwl. {{angor|28:66|66}} A’th einioes a fydd y’nghrôg gyferbyn â thi; a thi a ofni nos a dydd, ac ni byddi sicr o’th einioes. {{angor|28:67|67}} Y bore y dywedi, O na ddeuai yr hwyr! ac yn yr hwyr y dywedi, O na ddeuai y bore! o achos ofn dy galon ''gan'' yr hwn yr ofni, a rhag gweledigaeth dy lygaid yr hon a welych. {{angor|28:68|68}} A’r {{sc|Arglwydd}} a’th ddychwel di i’r Aipht, mown llongau, ar hyd y ffordd y dywedais wrthyt, na chwanegit ei gweled mwy: a chwi a ymwerthwch yno i’ch gelynion yn gaeth-weision ac yn gaeth-forwynion, ac ni ''bydd'' a’''ch'' pryno. {{angor|Pennod_29}}{{c|{{uc|Pennod XXIX}}.}} {{bach|1 ''Moses yn annog y bobl i ufudd-dod, trwy gofio y gweithredoedd a welsent.'' 10 ''Gosod pawb ger bron yr Arglwydd, i fyned dan ei gyfammod ef.'' 18 ''Y mawr ddigofaint ar y neb a ymfendithio yn ei anwiredd.'' 29 ''I Dduw y perthyn pethau dirgel.''}} {{angor|29:1}} {{uc|Dyma}} eiriau y cyfammod a orchymynodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses ei wneuthur â meibion Israel, yn nhir Moab, heb law y cyfammod a ammododd efe â hwynt yn Horeb. {{angor|29:2|2}} ¶ A Moses a alwodd ar holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr {{sc|Arglwydd}} o flaen eich llygaid chwi yn nhir yr Aipht, i Pharaoh, ac i’w holl weision, ac i’w holl dir; {{angor|29:3|3}} Y profedigaethau mawrion a welodd eich llygaid, yr arwyddion a’r rhyfeddodau mawrion hynny: {{angor|29:4|4}} Ond ni roddodd yr {{sc|Arglwydd}}<noinclude><references/></noinclude> nq41ge6hu0jttuxpuuhw9yfwsuicnkj Sgwrs Defnyddiwr:SHB 3 6415 171028 11898 2026-09-18T02:28:16Z Max 3630 Symudodd Max y dudalen [[Sgwrs Defnyddiwr:SHB2000]] i [[Sgwrs Defnyddiwr:SHB]]: Automatically moved page while renaming the user "[[Special:CentralAuth/SHB2000|SHB2000]]" to "[[Special:CentralAuth/SHB|SHB]]" 11898 wikitext text/x-wiki <div style="border: 1rem #dd0000 ridge; padding: 0.5em;">Hello! Please message me on [[m:User talk:SHB2000|meta.wikimedia.org]] instead. I may not notice messages on this page.</div> ojy2vkqs676esjrcfi79dwyt0tjr5xc Sgwrs Defnyddiwr:SHB2000 3 88510 171029 2026-09-18T02:28:16Z Max 3630 Symudodd Max y dudalen [[Sgwrs Defnyddiwr:SHB2000]] i [[Sgwrs Defnyddiwr:SHB]]: Automatically moved page while renaming the user "[[Special:CentralAuth/SHB2000|SHB2000]]" to "[[Special:CentralAuth/SHB|SHB]]" 171029 wikitext text/x-wiki #ail-cyfeirio [[Sgwrs Defnyddiwr:SHB]] cy0xs85hn5m0wywv6aoa9wlchk95rum