Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.20
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/74
104
3323
171071
170929
2026-09-20T06:35:56Z
Tylopous
3717
wrth
171071
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ni ddrewi ger bron Pharaoh, a cher bron ei weision, gan roddi cleddyf yn eu llaw hwynt i’n lladd ni.
{{angor|5:22|22}} A dychwelodd Moses at yr {{sc|Arglwydd}}, ac a ddywedodd, O {{sc|Arglwydd}}, paham y drygaist y bobl hyn? i ba beth y’m hanfonaist?
{{angor|5:23|23}} Canys er pan ddeuthum at Pharaoh, i lefaru yn dy enw di, efe a ddrygodd y bobl hyn; a chan waredu ni waredaist dy bobl.
{{angor|Pennod_6}}{{c|PENNOD VI.}}
{{bach|1 ''Duw yn adnewyddu ei addewid, trwy ei enw JEHOFAH.'' 14 ''Achau Reuben,'' 15 ''Simeon,'' 16 ''a Lefi, o’r hwn y daeth Moses ac Aaron.''}}
{{angor|6:1}} Yna y dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Yn awr y cei weled beth a wnaf i Pharaoh: canys trwy law gadarn y gollwng efe hwynt, a thrwy law gadarn y gyrr efe hwynt o’i wlad.
{{angor|6:2|2}} {{sc|Duw}} hefyd a lefarodd wrth Moses, ac a ddywedodd wrtho, Myfi ''yw'' JEHOFAH.
{{angor|6:3|3}} A mi a ymddangosais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, dan enw {{sc|Duw}} Hollalluog; ond ''erbyn'' fy enw JEHOFAH ni bûm adnabyddus iddynt.
{{angor|6:4|4}} Hefyd mi a sicrheais fy nghyfammod â hwynt, am roddi iddynt wlad Canaan, sef gwlad eu hymdaith, yr hon yr ymdeithiasant ynddi.
{{angor|6:5|5}} A mi a glywais hefyd uchenaid plant Israel, y rhai y mae yr Aiphtiaid yn eu caethiwo; a chofiais fy nghyfammod.
{{angor|6:6|6}} Am hynny dywed wrth feibion Israel, Myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}}; a myfi a’ch dygaf chwi allan oddi tan lwythau yr Aiphtiaid, ac a’ch rhyddhâf o’u caethiwed hwynt; ac a’ch gwaredaf â braich estynedig, ac â barnedigaethau mawrion.
{{angor|6:7|7}} Hefyd mi a’ch cymmeraf yn bobl i mi, ac a fyddaf yn {{sc|Dduw}} i chwi: a chewch wybod mai myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}, yr hwn sydd yn eich dwyn chwi allan oddi tan lwythau yr Aiphtiaid.
{{angor|6:8|8}} A mi a’ch dygaf chwi i’r wlad, am yr hon y tyngais y rhoddwn hi i Abraham, i Isaac, ac i Jacob; a mi a’i rhoddaf i chwi yn etifeddiaeth: myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|6:9|9}} ¶ A Moses a lefarodd felly wrth feibion Israel: ond ni wrandawsant ar Moses, gan gyfyngdra yspryd, a chan gaethiwed caled.
{{angor|6:10|10}} A’r {{sc|Arglwydd}} a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
{{angor|6:11|11}} Dos i mewn; dywed wrth Pharaoh, brenhin yr Aipht, am iddo ollwng meibion Israel allan o’i wlad.
{{angor|6:12|12}} A Moses a lefarodd ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, gan ddywedyd, Wele, plant Israel ni wrandawsant arnaf fi; a pha fodd y’m gwrandawai Pharaoh, a minnau yn ddïenwaededig o wefusau?
{{angor|6:13|13}} A’r {{sc|Arglwydd}} a lefarodd wrth Moses ac Aaron, ac a roddodd orchymyn iddynt at feibion Israel, ac at Pharaoh brenhin yr Aipht, i ddwyn meibion Israel allan o wlad yr Aipht.
{{angor|6:14|14}} ¶ Dyma eu pen-cenedl hwynt: meibion Reuben, y cyntaf-anedig i Israel: Hanoch, a Phàlu, Hesron, a Charmi: dyma deuluoedd Reuben.
{{angor|6:15|15}} A meibion Simeon; Jemuel, a Jamin, Ohad, a Jachin, Sohar hefyd, a Saul mab y Ganaanees: dyma deuluoedd Simeon.
{{angor|6:16|16}} ¶ Dyma hefyd enwau meibion Lefi, yn ol eu cenhedlaethau; Gerson, Cohath hefyd, Merari: a blynyddoedd oes Lefi ''oedd'' gant ac onid tair blynedd deugain.
{{angor|6:17|17}} Meibion Gerson; Libni, a Simi, yn ol eu teuluoedd.
{{angor|6:18|18}} A meibion Cohath; Amram, ac Ishar, Hebron hefyd, ac Uzziel: a blynyddoedd oes Cohath oedd dair ar ddeg ar hugain a chàn mlynedd.
{{angor|6:19|19}} Meibion Merari ''oedd'' Mahali a Musi: dyma deuluoedd Lefi, yn ol eu cenhedlaethau.
{{angor|6:20|20}} Ac Amram a gymmerodd Jochebed, ei fodryb chwaer ei dad, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Aaron a Moses: a blynyddoedd oes Amram ''oedd'' onid tair deugain a chàn mlynedd.
{{angor|6:21|21}} ¶ A meibion Ishar; Corah, a Nepheg, a Sicri.
{{angor|6:22|22}} A meibion Uzziel; Misael, ac Elsaphan, a Sithri.
{{angor|6:23|23}} Ac Aaron a gymmerodd Eliseba, merch Aminadab, chwaer Nahason, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar.
{{angor|6:24|24}} Meibion Corah hefyd; Assir, ac Elcanah, ac Abiasaph: dyma deuluoedd y Corahiaid.
{{angor|6:25|25}} Ac Eleazar, mab Aaron, a gymmerodd yn wraig iddo ''un'' o ferched Putiel; a hi a ymddûg iddo ef Phineas: dyma bennau cenedl y Lefiaid, yn ol eu teuluoedd.
{{angor|6:26|26}} Dyma Aaron a Moses, y rhai y<noinclude><references/></noinclude>
ijyv36ja6tmv5gn6xozjpo9us7m7ctl
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/75
104
3324
171072
101726
2026-09-20T06:36:28Z
Tylopous
3717
wrth
171072
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrthynt, Dygwch feibion Israel allan o wlad yr Aipht, yn ol eu lluoedd.
{{angor|6:27|27}} Dyma y rhai a lefarasant wrth Pharaoh, brenhin yr Aipht, am ddwyn meibion Israel allan o’r Aipht: dyma y Moses ac Aaron hwnnw.
{{angor|6:28|28}} ¶ A bu, ar y dydd y llefarodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses yn nhir yr Aipht,
{{angor|6:29|29}} Lefaru o’r {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, gan ddywedyd, Myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}}: dywed wrth Pharaoh, brenhin yr Aipht, yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei ddywedyd wrthyt.
{{angor|6:30|30}} A dywedodd Moses ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, Wele fi yn ddïenwaededig o wefusau; a pha fodd y gwrendy Pharaoh arnaf?
{{angor|Pennod_7}}{{c|PENNOD VII.}}
{{bach|1 ''Duw yn rhoi calon ym Moses i fyned at Pharaoh.'' 7 ''Ei oedran ef.'' 8 ''Ei wïalen ef yn troi yn sarph.'' 11 ''Yr hudolion yn gwneuthur y cyffelyb.'' 13 ''Caledu calon Pharaoh.'' 14 ''Cennadwriaeth Duw at Pharaoh.'' 19 ''Troi yr afon yn waed.''}}
{{angor|7:1}} A’r {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd wrth Moses, Gwel, mi a’th wneuthum yn dduw i Pharaoh: ac Aaron dy frawd fydd yn brophwyd i tithau.
{{angor|7:2|2}} Ti a leferi yr hyn oll a orchymynwyf i ti; ac Aaron dy frawd a lefara wrth Pharaoh, ar iddo ollwng meibion Israel ymaith o’i wlad.
{{angor|7:3|3}} A minnau a galedaf galon Pharaoh, ac a amlhâf fy arwyddion a’m rhyfeddodau y’ngwlad yr Aipht.
{{angor|7:4|4}} Ond ni wrendy Pharaoh arnoch: yna y rhoddaf fy llaw ar yr Aipht; ac y dygaf allan fy lluoedd, fy mhobl, meibion Israel, o wlad yr Aipht, trwy farnedigaethau mawrion.
{{angor|7:5|5}} A’r Aiphtiaid a gânt wybod mai myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}}, pan estynwyf fy llaw ar yr Aipht, a dwyn meibion Israel allan o’u mysg hwynt.
{{angor|7:6|6}} A gwnaeth Moses ac Aaron fel y gorchymynodd yr {{sc|Arglwydd}} iddynt; ''ïe'', felly y gwnaethant.
{{angor|7:7|7}} A Moses ''ydoedd'' fab pedwar ugain mlwydd, ac Aaron yn fab tair blwydd a phedwar ugain, pan lefarasant wrth Pharaoh.
{{angor|7:8|8}} ¶ A’r {{sc|Arglwydd}} a lefarodd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,
{{angor|7:9|9}} Pan lefaro Pharaoh wrthych, gan ddywedyd, Dangoswch gennych wyrthiau; yna y dywedi wrth Aaron, Cymmer dy wïalen, a bwrw ''hi'' ger bron Pharaoh; a hi a â yn sarph.
{{angor|7:10|10}} ¶ A Moses ac Aaron a aethant i mewn at Pharaoh, ac a wnaethant felly, megis y gorchymynasai yr {{sc|Arglwydd}}: ac Aaron a fwriodd ei wïalen ger bron Pharaoh, a cher bron ei weision; a hi a aeth yn sarph.
{{angor|7:11|11}} A Pharaoh hefyd a alwodd am y doethion, a’r hudolion: a hwythau hefyd, ''sef'' swynwyr yr Aipht, a wnaethant felly trwy eu swynion.
{{angor|7:12|12}} Canys bwriasant bob un ei wïalen; a hwy a aethant yn seirph: ond gwïalen Aaron a lyngcodd eu gwïail hwynt.
{{angor|7:13|13}} A chalon Pharaoh a galedodd, fel na wrandawai arnynt hwy; megis y llefarasai yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|7:14|14}} ¶ A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Caledodd calon Pharaoh; gwrthododd ollwng y bobl ymaith.
{{angor|7:15|15}} Dos at Pharaoh yn fore: wele efe a ddaw allan i’r dwfr; saf dithau ar làn yr afon erbyn ei ddyfod ef; a chymmer yn dy law y wïalen a drodd yn sarph.
{{angor|7:16|16}} A dywed wrtho ef, {{sc|Arglwydd Dduw}} yr Hebreaid a’m hanfonodd attat, i ddywedyd, Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont yn yr anialwch: ac wele, hyd yn hyn, ni wrandewit.
{{angor|7:17|17}} Fel hyn y dywedodd yr {{sc|Arglwydd}}; Wrth hyn y cei wybod mai myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}}: wele, myfi â’r wïalen ''sydd'' yn fy llaw a drawaf y dyfroedd ''sydd'' yn yr afon, fel y tröer hwynt yn waed.
{{angor|7:18|18}} A’r pysg ''sydd'' yn yr afon a fyddant feirw, a’r afon a ddrewa; a bydd blin gan yr Aiphtiaid yfed dwfr o’r afon.
{{angor|7:19|19}} ¶ Yr {{sc|Arglwydd}} hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Cymmer dy wïalen, ac estyn dy law ar ddyfroedd yr Aipht, ar eu ffrydiau, ar eu hafonydd, ac ar eu pyllau, ac ar eu holl lynnau dyfroedd, fel y byddont yn waed; a bydd gwaed trwy holl wlad yr Aipht, yn eu ''llestri'' coed a cherrig hefyd.
{{angor|7:20|20}} A Moses ac Aaron a wnaethant fel y gorchymynodd yr {{sc|Arglwydd}}: ac efe a gododd ei wïalen, ac a drawodd y dyfroedd y rhai ''oeddynt'' yn yr afon, y’ngŵydd Pharaoh, ac y’ngŵydd ei weision; a’r holl<noinclude><references/></noinclude>
8nk5njwtbnmy00w9b817jpxaqpkab41
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/102
104
3351
171069
170914
2026-09-20T06:34:21Z
Tylopous
3717
wrth
171069
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{angor|Pennod_31}}{{c|{{uc|Pennod XXXI.}}}}
{{bach|1 ''Galw Bezaleel ac Aholïab, a’u gwneuthur yn gymhwys i wait y tabernacl.'' 12 ''Ail orchymyn cadw y Sabbath.'' 18 ''Moses yn derbyn y ddwy lech.''}}
{{angor|31:1}} {{uc|A’r}} {{sc|Arglwydd}} a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
{{angor|31:2|2}} Gwel, mi a elwais wrth ''ei'' enw ar Bezaleel fab Uri, fab Hur, o lwyth Judah;
{{angor|31:3|3}} Ac a’i llenwais ef âg yspryd {{sc|Duw}}, mewn doethineb, ac mewn deall, ac mewn gwybodaeth hefyd, ac ym mhob rhyw waith,
{{angor|31:4|4}} I ddychymmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres,
{{angor|31:5|5}} Ac mewn cyfarwyddyd, i ''osod'' meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith.
{{angor|31:6|6}} Ac wele, mi a roddais gyd âg ef Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan: ac y’nghalon pob doeth o galon y rhoddais ddoethineb i wneuthur yr hyn oll a orchymynais wrthyt.
{{angor|31:7|7}} Pabell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth, a’r drugareddfa yr hon ''sydd'' arni, a holl lestri y babell,
{{angor|31:8|8}} A’r bwrdd a’i lestri, a’r canhwyllbren pur a’i holl lestri, ac allor yr arogl-darth,
{{angor|31:9|9}} Ac allor y poeth-offrwm a’i holl lestri, a’r noe a’i throed,
{{angor|31:10|10}} A gwisgoedd y weinidogaeth, a’r gwisgoedd sanctaidd i Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ''ynddynt,''
{{angor|31:11|11}} Ac olew yr enneiniad, a’r arogl-darth peraidd i’r cyssegr; a wnant yn ol yr hyn oll a orchymynais wrthyt.
{{angor|31:12|12}} ¶ A’r {{sc|Arglwydd}} a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd,
{{angor|31:13|13}} Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Dïau y cedwch fy Sabbathau: canys arwydd yw rhyngof fi a chwithau, trwy eich cenhedlaethau; i wybod mai myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}}, ''sydd'' yn eich sancteiddio.
{{angor|31:14|14}} Am hynny cedwch y Sabbath; oblegid sanctaidd ''yw'' i chwi: llwyr-rodder i farwolaeth yr hwn a’i halogo ef, o herwydd pwy bynnag a wnelo waith arno, torrir ymaith yr enaid hwnnw o blith ei bobl.
{{angor|31:15|15}} Chwe diwrnod y gwneir gwaith, ac ar y seithfed dydd ''y mae'' Sabbath gorphwysdra sanctaidd i’r {{sc|Arglwydd}}: pwy bynnag a wnelo waith y seithfed dydd, llwyr-rodder ef i farwolaeth.
{{angor|31:16|16}} Am hynny cadwed meibion Israel y Sabbath, gan gynnal Sabbath trwy eu cenhedlaethau, yn gyfammod tragywyddol.
{{angor|31:17|17}} Rhyngof fi a meibion Israel, y mae yn arwydd tragywyddol, mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr {{sc|Arglwydd}} nefoedd a’r ddaear; ac ''mai'' ar y seithfed dydd y peidiodd, ac y gorphwysodd efe.
{{angor|31:18|18}} ¶ Ac efe a roddodd i Moses, wedi iddo orphen llefaru wrtho ym mynydd Sinai, ddwy lech y dystiolaeth; ''sef'' llechau o gerrig, wedi eu hysgrifenu â bys {{sc|Duw}}.
{{angor|Pennod_32}}{{c|{{uc|Pennod XXXII.}}}}
{{bach|1 ''Y bobl, yn absen Moses, yn peri i Aaron wneuthur llo;'' 7 ''a hynny yn digio Duw;'' 11 ''ac yntau, ar ymbil Moses, yn diddigio.'' 15 ''Moses yn dyfod i waered â’r llechau:'' 19 ''yn eu torri hwy:'' 20 ''yn difetha y llo.'' 22 ''Esgus Aaron drosto ei hun.'' 25 ''Moses yn gorchymyn lladd y delw-addolwyr,'' 30 ''ac yn gweddïo dros y bobl.''}}
{{angor|32:1}} {{uc|Pan}} welodd y bobl fod Moses yn oedi dyfod i waered o’r mynydd; yna yr ymgasglodd y bobl at Aaron, ac y dywedasant wrtho, Cyfod, gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn, y gwr a’n dug ni i fynu o wlad yr Aipht, ni wyddom beth ''a ddaeth'' o hono.
{{angor|32:2|2}} A dywedodd Aaron wrthynt, Tynnwch y clust-dlysau aur ''sydd'' wrth glustiau eich gwragedd, a’ch meibion, a’ch merched, a dygwch attaf fi.
{{angor|32:3|3}} A’r holl bobl a dynasant y clust-dlysau aur ''oedd'' wrth eu clustiau, ac a’u dygasant at Aaron.
{{angor|32:4|4}} Ac efe a’''u'' cymmerodd o’u dwylaw, ac a’i lluniodd â chŷn, ac a’i gwnaeth yn llo tawdd: a hwy a ddywedasant, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a’th ddug di i fynu o wlad yr Aipht.
{{angor|32:5|5}} A phan ei gwelodd Aaron, efe a adeiladodd allor ger ei fron ef: ac Aaron a gyhoeddodd, ac a ddywedodd, ''Y mae'' gwyl i’r {{sc|Arglwydd}} y fory.
{{angor|32:6|6}} A hwy a godasant yn fore drannoeth ac a offrymmasant boeth-offrymmau, ac a ddygasant aberthau hedd: a’r bobl a eisteddasant i fwytta ac i yfed, ac a godant i fynu i chwarae.
{{angor|32:7|7}} ¶ A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Cerdda, dos i waered: canys ymlygrodd dy bobl a ddygaist i fynu o dir yr Aipht.
{{angor|32:8|8}} Buan y ciliasant o’r ffordd a orchymynnais iddynt: gwnaethant<noinclude><references/></noinclude>
3aa1g93asemc8dn96m0ypmro6qktc4b
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/103
104
3352
171070
143033
2026-09-20T06:35:08Z
Tylopous
3717
wrth
171070
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>iddynt lo tawdd, ac addolasant ef, ac aberthasant iddo; dywedasant hefyd, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a’th ddygasnt i fynu o wlad yr Aipht.
{{angor|32:9|9}} Yr {{sc|Arglwydd}} hefyd a ddywedodd wrth Moses, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wàr-galed ydynt.
{{angor|32:10|10}} Am hynny yn awr gâd i mi lonydd, fel yr ennyno fy llid yn eu herbyn, ac y difethwyf hwynt: a mi a’th wnaf di yn genhedlaeth fawr.
{{angor|32:11|11}} A Moses a ymbiliodd ger bron yr {{sc|Arglwydd}} ei {{sc|Dduw}}, ac a ddywedodd, Paham, {{sc|Arglwydd}}, yr ennyna dy ddigofaint yn erbyn dy bobl, y rhai a ddygaist allan o wlad yr Aipht, trwy nerth mawr, a llaw gadarn?
{{angor|32:12|12}} Paham y caiff yr Aiphtiaid lefaru, gan ddywedyd, Mewn malais y dygodd efe hwynt allan, i’w lladd yn y mynyddoedd, ac i’w difetha oddi ar wyneb y ddaear? Tro oddi wrth angerdd dy ddigofaint, a bydded edifar gennyt y drwg ''a amcenaist'' i’th bobl.
{{angor|32:13|13}} Cofia Abraham, Isaac, ac Israel, dy weision, y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun, ac y dywedaist wrthynt. Mi a amlhâf eich had chwi fel sêr y nefoedd; a’r holl wlad yma yr hon a ddywedais, a roddaf i’ch had chwi, a hwy a’i hetifeddant byth.
{{angor|32:14|14}} Ac edifarhaodd ar yr {{sc|Arglwydd}} am y drwg a ddywedasai efe y gwnai i’w bobl.
{{angor|32:15|15}} ¶ A Moses a drodd, ac a ddaeth i waered o’r mynydd, a dwy lech y dystiolaeth yn ei law: y llechau a ysgrifenasid o’u dau du, hwy a ysgrifenasid o bob tu.
{{angor|32:16|16}} A’r llechau hynny ''oedd'' o waith {{sc|Duw}}: yr ysgrifen hefyd ''oedd'' ysgrifen {{sc|Duw}} yn ysgrifenedig ar y llechau.
{{angor|32:17|17}} A phan glywodd Josua swn y bobl yn bloeddio, efe a ddywedodd wrth Moses, Y ''mae'' swn rhyfel yn y gwersyll.
{{angor|32:18|18}} Yntau a ddywedodd, Nid llais bloeddio am oruchafiaeth, ac nid llais gweiddi am golli y maes; ond swn canu a glywaf fi.
{{angor|32:19|19}} ¶ A bu, wedi dyfod o hono yn agos i’r gwersyll, iddo weled y llo a’r dawnsiau: ac ennynodd digofaint Moses: ac efe a daflodd y llechau o’i ddwylo ac a’u torrodd hwynt îs law y mynydd.
{{angor|32:20|20}} Ac efe a gymmerodd y llo a wnaethent hwy, ac a’i llosgodd â thân, ac a’i malodd yn llwch, ac a’i taenodd ar wyneb y dwfr, ac a’i rhoddes i’w yfed i feibion Israel.
{{angor|32:21|21}} A dywedodd Moses wrth Aaron, Beth a wnaeth y bobl hyn i ti, pan ddygaist arnynt bechod ''mor'' fawr?
{{angor|32:22|22}} A dywedodd Aaron, Nac ennyned digofaint fy arglwydd: ti a adwaenost y bobl, mai ar ddrwg y maent.
{{angor|32:23|23}} Canys dywedasant wrthyf, Gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn, y gwr a’n dug ni i fynu o wlad yr Aipht, ni wyddom beth ''a ddaeth'' o hono.
{{angor|32:24|24}} A dywedais wrthynt, I’r neb ''y mae'' aur, tynnwch ef: a hwy a’i rhoddasant i mi: a mi a’i bwriais yn tân, a daeth y llo hwn allan.
{{angor|32:25|25}} ¶ A phan welodd Moses fod y bobl yn noeth, (canys Aaron a’u noethasai hwynt, i’w gwaradwyddo ym mysg eu gelynion;)
{{angor|32:26|26}} Yna y safodd Moses ym mhorth y gwersyll, ac a ddywedodd, Pwy sydd ar du yr {{sc|Arglwydd}}? ''deued'' attaf fi. A holl feibion Lefi a ymgasglasant atto ef.
{{angor|32:27|27}} Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed {{sc|Arglwydd Dduw}} Israel; Gosodwch bob un ei gleddyf ar ei glun, ac ewch, cynniweiriwch o borth i borth trwy y gwersyll, a lleddwch bob un ei frawd, a phob un ei gyfaill, a phob un ei gymmydog.
{{angor|32:28|28}} A meibion Lefi a wnaethant yn ol gair Moses: a chwympodd o’r bobl y dydd hwnnw ynghylch tair mil o wŷr.
{{angor|32:29|29}} Canys dywedasai Moses, Cyssegrwch eich llaw heddyw i’r {{sc|Arglwydd}}, bob un ar ei fab, ac ar ei frawd; fel y rhodder heddyw i chwi fendith.
{{angor|32:30|30}} ¶ A thrannoeth y dywedodd Moses wrth y bobl, Chwi a bechasoch bechod mawr: ac yn awr mi a âf i fynu at yr {{sc|Arglwydd}}; ond odid mi a wnaf gymmod dros eich pechod chwi.
{{angor|32:31|31}} A Moses a ddychwelodd at yr {{sc|Arglwydd}}, ac a ddywedodd, Och! pechodd y bobl hyn bechod mawr, ac a wnaethant iddynt dduwiau o aur.
{{angor|32:32|32}} Ac yn awr, os maddeui eu pechod; ac os amgen, dilea fi, attolwg, allan o’th lyfr a ysgrifenaist.
{{angor|32:33|33}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses, Pwy bynnag a bechodd i’m herbyn, hwnnw a ddileaf allan o’m llyfr.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
mov5zwwrpqzntgp18j69y75tfjq5k2o
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/121
104
3371
171073
143081
2026-09-20T06:37:16Z
Tylopous
3717
wrth
171073
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a’u cyhw­fanodd hwynt yn offrwm cyhwfan ger bron yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|8:28|28}} A Moses a’u cymmerth oddi ar eu dwylaw hwynt, ac a’u llosgodd ar yr allor, ar yr offrwm poeth. Dyma gysseg­riadau o arogl peraidd: dyma aberth tanllyd i’r {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|8:29|29}} Cymmerodd Moses y barwyden hefyd, ac a’i cyhw­fanodd yn offrwm cyhwfan ger bron yr {{sc|Arglwydd}}: rhan Moses o hwrdd y cysseg­riad oedd hi; fel y gorchy­mynasai yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses.
{{angor|8:30|30}} A chymmerodd Moses o olew yr enneiniad, ac o’r gwaed ''oedd'' ar yr allor, ac a’i tae­nellodd ar Aaron, ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion ynghyd âg ef: ac efe a gysseg­rodd Aaron, a’i wisgoedd, a’i feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion ynghyd âg ef.
{{angor|8:31|31}} ¶ A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth ei feibion, Berwch y cig ''wrth'' ddrws pabell y cyfarfod: ac yno bwyttêwch ef, a’r bara hefyd sydd y’nghawell y cysseg­riadau; megis y gorchy­mynais, gan ddywedyd, Aaron a’i feibion a’i bwytty ef.
{{angor|8:32|32}} A’r gweddill o’r cig, ac o’r bara, a losgwch yn tân.
{{angor|8:33|33}} Ac nac ewch dros saith niwrnod allan o ddrws pabell y cyfarfod, hyd y dydd y cyflawner dyddiau eich cysseg­riadau: o herwydd saith niwrnod y bydd efe yn eich cyssegru chwi.
{{angor|8:34|34}} Megis y gwnaeth efe heddyw, y gorchy­mynodd yr {{sc|Arglwydd}} wneuthur, i wneuthur cymmod drosoch.
{{angor|8:35|35}} Ac arhoswch ''wrth'' ddrws pabell y cyfarfod saith niwrnod, ddydd a nos, a chedwch wyliad­wriaeth yr {{sc|Arglwydd}}, fel na byddoch feirw: canys fel hyn y’m gorchy­mynwyd.
{{angor|8:36|36}} A gwnaeth Aaron a’i feibion yr holl bethau a orchy­mynodd yr {{sc|Arglwydd}} trwy law Moses.
{{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX.}}}}
{{bach|1 ''Yr offrymmau cyntaf a offrym­modd Aaron drosto ei hun a’r bobl.'' 8 ''Y pech-offrwm,'' 12 ''a’r poeth-offrwm drosto ei hun.'' 15 ''Yr offrymmau dros y bobl.'' 23 ''Moses ac Aaron yn bendithio y bobl.'' 23 ''Moses ac Aaron yn bendithio y bobl.'' 24 ''Tân yn dyfod oddi wrth yr Arglwydd ar yr allor.''}}
{{angor|9:1}} {{uc:Yna}} y bu, ar yr wythfed dydd, i Moses alw Aaron a’i feibion, a henuriaid Israel;
{{angor|9:2|2}} Ac efe a ddywedodd wrth Aaron, Cymmer i ti lo ieuangc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boeth-offrwm, o rai perffeith-gwbl, a dwg ''hwy'' ger bron yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|9:3|3}} Llefarodd hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Cymmerwch fyn gafr, yn aberth dros bechod; a llo, ac oen, biwydd­iaid, perffeith-gwbl, yn boeth-offrwm;
{{angor|9:4|4}} Ac eidion, a hwrdd, yn aberth hedd, i aberthu ger bron yr {{sc|Arglwydd}}; a bwyd-offrwm wedi ei gymmysgu trwy olew: o herwydd heddyw yr ymddengys yr {{sc|Arglwydd}} i chwi.
{{angor|9:5|5}} ¶ A dygasant yr hyn a orchy­mynodd Moses ger bron pabell y cyfarfod: a’r holl gynnu­lleidfa a ddaethant yn agos, ac a safasant ger bron yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|9:6|6}} A dywedodd Moses, Dyma y peth a orchy­mynodd yr {{sc|Arglwydd}} i chwi ei wneuthur; ac ymddengys gogoniant yr {{sc|Arglwydd}} i chwi.
{{angor|9:7|7}} Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Dos at yr allor, ac abertha dy aberth dros bechod a’th boeth-offrwm, a gwna gymmod drosot dy hun, a thros y bobl; ac abertha offrwm y bobl, a gwna gymmod drostynt; fel y gorchy­mynodd yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|9:8|8}} ¶ Yna y nesaodd Aaron at yr allor, ac a laddodd lo yr aberth dros bechod, yr hwn ''oedd'' drosto ef ei hun.
{{angor|9:9|9}} A meibion Aaron a ddygasant y gwaed atto: ac efe a wlychodd ei fys yn y gwaed, ac a’i gosododd ar gyrn yr allor, ac a dywall­todd y gwaed arall wrth waelod yr allor.
{{angor|9:10|10}} Ond efe a losgodd ar yr allor o’r aberth dros bechod y gwer a’r arennau, a’r rhwyden oddi ar yr afu; fel y gorchy­mynasai yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses.
{{angor|9:11|11}} A’r cig a’r croen a losgodd efe yn tân, o’r tu allan i’r gwersyll.
{{angor|9:12|12}} Ac efe a laddodd y poeth-offrwm: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed atto; ac efe a’i tae­nellodd ar yr allor o amgylch.
{{angor|9:13|13}} A dygasant y poeth-offrwm atto, gyd â’i ddarnau, a’i ben hefyd; ac efe a’u llosgodd hwynt ar yr allor.
{{angor|9:14|14}} Ac efe a olchodd y perfedd a’r traed, ac a’u llosgodd hwynt ynghyd â’r offrwm poeth ar yr allor.
{{angor|9:15|15}} ¶ Hefyd efe a ddug offrwm y bobl; ac a gymmerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, ac a’i lladdodd, ac a’i hoffrym­modd dros bechod, fel y cyntaf.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
ppt15dtcvjtpw9kjxh8p0dwusxp28sl
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/221
104
3472
171074
171039
2026-09-20T06:38:12Z
Tylopous
3717
wrth
171074
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|28:51|51}} A hi a fwytty ffrwyth dy anifeiliaid, a ffrwyth dy ddaear, hyd oni’th ddinystrier: yr hon ni âd i ti ŷd, gwin, nac olew, cynnydd dy wartheg, na dïadellau dy ddefaid, hyd oni’th ddifetho di.
{{angor|28:52|52}} A hi a warchae arnat ti yn dy holl byrth, hyd oni syrthio dy uchel a’th gedyrn gaerau, y rhai yr ydwyt yn ymddiried ynddynt, trwy dy holl dir: hi a warchae hefyd arnat yn dy holl byrth, o fewn dy holl dir yr hwn a roddodd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i ti.
{{angor|28:53|53}} Ffrwyth dy fru, ''sef'' cig dy feibion a’th ferched, y rhai a roddodd yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} i ti, a fwyttêi yn y gwarchae, ac yn y cyfyngdra a ddwg dy elyn arnat.
{{angor|28:54|54}} Y gwr tyner yn dy blith, a’r moethus iawn, a greulona ei lygad wrth ei frawd, ac wrth wraig ei fynwes, ac wrth weddill ei feibion y rhai a weddillodd efe:
{{angor|28:55|55}} Rhag rhoddi i un o honynt o gig ei feibion, y rhai a fwytty efe; o eisieu gadaw iddo ddim yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra, â’r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy holl byrth.
{{angor|28:56|56}} Y wraig dyner a’r foethus yn dy fysg, yr hon ni phrofodd osod gwadn ei throed ar y ddaear, gan fwythau a thynerwch, a greulona ei llygad wrth wr ei mynwes, ac wrth ei mab, ac wrth ei merch,
{{angor|28:57|57}} Ac wrth ei phlentyn a ddaw allan o’i chorph, a’i meibion y rhai a blanta hi: canys hi a’u bwytty hwynt yn ddirgel, pan ballo pob dim ''arall'' yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra, â’r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy byrth.
{{angor|28:58|58}} Oni chedwi ar wneuthur holl eiriau y gyfraith hon, y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn, gan ofni yr enw gogoneddus ac ofnadwy hwn, {{uc|Yr Arglwydd dy Dduw}};
{{angor|28:59|59}} Yna y gwna yr {{sc|Arglwydd}} dy bläau di yn rhyfedd, a phläau dy had; ''sef'' pläau mawrion a pharhaus, a chlefydau drwg a pharhaus.
{{angor|28:60|60}} Ac efe a ddwg arnat holl glefydau yr Aipht, y rhai yr ofnaist rhagddynt; a glynant wrthyt.
{{angor|28:61|61}} Ië, pob clefyd, a phob pla, yr hwn nid ''yw'' ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon, a ddwg yr {{sc|Arglwydd}} arnat, hyd oni’th ddinystrier.
{{angor|28:62|62}} Felly chwi a adewir yn ychydig bobl, lle yr oeddych fel sêr y nefoedd o lïosowgrwydd; o herwydd na wrandewaist at iais yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}.
{{angor|28:63|63}} A bydd, megis ag y llawenychodd yr {{sc|Arglwydd}} ynoch i wneuthur daioni i chwi, ac i’ch amlhâu; felly y llawenycha yr {{sc|Arglwydd}} ynoch i’ch dinystrio, ac i’ch difetha chwi: a diwreiddir chwi o’r tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu.
{{angor|28:64|64}} A’r {{sc|Arglwydd}} a’th wasgar di ym mhlith yr holl bobloedd, o’r ''naill'' gwrr i’r ddaear hyd y cwrr ''arall'' i’r ddaear: a thi a wasanaethi yno dduwiau dïeithr, y rhai nid adnabuost ti na’th dadau; ''sef'' pren a maen.
{{angor|28:65|65}} Ac ym mhlith y cenhedloedd hyn ni orphwysi, ac ni bydd gorphwysdra i wadn dy droed: canys yr {{sc|Arglwydd}} a rydd i ti yno galon ofnus, a darfodedigaeth llygaid, a thristwch meddwl.
{{angor|28:66|66}} A’th einioes a fydd y’nghrôg gyferbyn â thi; a thi a ofni nos a dydd, ac ni byddi sicr o’th einioes.
{{angor|28:67|67}} Y bore y dywedi, O na ddeuai yr hwyr! ac yn yr hwyr y dywedi, O na ddeuai y bore! o achos ofn dy galon ''gan'' yr hwn yr ofni, a rhag gweledigaeth dy lygaid yr hon a welych.
{{angor|28:68|68}} A’r {{sc|Arglwydd}} a’th ddychwel di i’r Aipht, mown llongau, ar hyd y ffordd y dywedais wrthyt, na chwanegit ei gweled mwy: a chwi a ymwerthwch yno i’ch gelynion yn gaeth-weision ac yn gaeth-forwynion, ac ni ''bydd'' a’''ch'' pryno.
{{angor|Pennod_29}}{{c|{{uc|Pennod XXIX}}.}}
{{bach|1 ''Moses yn annog y bobl i ufudd-dod, trwy gofio y gweithredoedd a welsent.'' 10 ''Gosod pawb ger bron yr Arglwydd, i fyned dan ei gyfammod ef.'' 18 ''Y mawr ddigofaint ar y neb a ymfendithio yn ei anwiredd.'' 29 ''I Dduw y perthyn pethau dirgel.''}}
{{angor|29:1}} {{uc|Dyma}} eiriau y cyfammod a orchymynodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses ei wneuthur â meibion Israel, yn nhir Moab, heb law y cyfammod a ammododd efe â hwynt yn Horeb.
{{angor|29:2|2}} ¶ A Moses a alwodd ar holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr {{sc|Arglwydd}} o flaen eich llygaid chwi yn nhir yr Aipht, i Pharaoh, ac i’w holl weision, ac i’w holl dir;
{{angor|29:3|3}} Y profedigaethau mawrion a welodd eich llygaid, yr arwyddion a’r rhyfeddodau mawrion hynny:
{{angor|29:4|4}} Ond ni roddodd yr {{sc|Arglwydd}}<noinclude><references/></noinclude>
f6hlajmpdmnydsyy0oofua6sgfk4eul
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/235
104
3486
171061
6634
2026-09-19T18:53:28Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171061
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>wrth Josua, Cyfod; paham yr ydwyt yn gorwedd fel hyn ar dy wyneb?
{{angor|7:11|11}} Israel a bechodd, a throseddasant fy nghyfammod a orchymynais iddynt: cymmerasant hefyd o’r dïofryd-beth, ïe, lladrattasant, a gwadasant; gosodasant hefyd ''hynny'' ym mysg eu dodrefn eu hun.
{{angor|7:12|12}} Am hynny ni ddichon meibion Israel sefyll yn wyneb eu gelynion, ''eithr'' troant ''eu'' gwarr o flaen eu gelynion; am eu bod yn ysgymmunbeth: ni byddaf mwyach gyd â chwi, oni ddifethwch yr ysgymmunbeth o’ch mysg.
{{angor|7:13|13}} Cyfod, sancteiddia y bobl, a dywed, Ymsancteiddiwch erbyn y fory: canys fel hyn y dywed {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel; Dïofryd-beth ''sydd'' yn dy blith di, O Israel: ni elli sefyll yn wyneb dy elynion, nes tynnu ymaith y dïofryd-beth o’ch mysg.
{{angor|7:14|14}} Am hynny nesêwch y bore wrth eich llwythau: a’r llwyth a ddalio yr {{sc|Arglwydd}}, nesâed bob yn deulu; a’r teulu a ddalio yr {{sc|Arglwydd}}, nesâed bob yn dŷ; a’r tŷ a ddalio yr {{sc|Arglwydd}}, nesâed bob yn wr.
{{angor|7:15|15}} A’r hwn a ddèlir a’r dïofryd-beth ''ganddo'', a losgir â thân, efe ac oll ''sydd'' ganddo: o herwydd iddo droseddu cyfammod yr {{sc|Arglwydd}}, ac o herwydd iddo wneuthur ynfydrwydd yn Israel.
{{angor|7:16|16}} ¶ Felly Josua a gyfododd yn fore, ac a ddug Israel wrth eu llwythau: a llwyth Judah a ddaliwyd.
{{angor|7:17|17}} Ac efe a ddynesodd deulu Judah, a daliwyd teulu y Zarhiaid: ac efe a ddynesodd deulu y Zarhiaid bob yn wr, a daliwyd Zabdi:
{{angor|7:18|18}} Ac efe a ddynesodd ei dŷaid ef bob yn wr; a daliwyd Achan mab Carmi, mab Zabdi, mab Zerah, o lwyth Judah.
{{angor|7:19|19}} A Josua a ddywedodd wrth Achan, Fy mab, attolwg, dyro ogoniant i {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel, a chyffesa iddo; a mynega yn awr i mi beth a wnaethost: na chela oddi wrthyf.
{{angor|7:20|20}} Ac Achan a attebodd Josua, ac a ddywedodd, Yn wir myfi a bechais yn erbyn {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel; canys fel hyn ac fel hyn y gwneuthum.
{{angor|7:21|21}} Pan welais ym mysg yr yspail fantell Babilonig dêg, a dau càn sicl o arian, ac un llafn aur o ddeg sicl a deugain ei bwys; yna y chwennychais hwynt, ac a’u cymmerais: ac wele hwy yn guddiedig yn y ddaear y’nghanol fy mhabell, a’r arian danynt.
{{angor|7:22|22}} ¶ Yna Josua a anfonodd genhadau; a hwy a redasant i’r babell: ac wele hwynt yn guddiedig yn ei babell ef, a’r arian danynt.
{{angor|7:23|23}} Am hynny hwy a’u cymmerasant o ganol y babell, ac a’u dygasant at Josua, ac at holl feibion Israel; ac a’u gosodasant hwy o flaen yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|7:24|24}} A Josua a gymmerth Achan mab Zerah, a’r arian, a’r fantell, a’r llafn aur, ei feibion hefyd, a’i ferched, a’i wartheg, a’i asynod, ei ddefaid hefyd, a’i babell, a’r hyn oll a feddai efe: a holl Israel gyd âg ef a’u dygasant hwynt i ddyffryn Achor.
{{angor|7:25|25}} A Josua a ddywedodd, Am i ti ein blino ni, yr {{sc|Arglwydd}} a’th flina dithau y dydd hwn. A holl Israel a’''i'' llabyddiasant ef â meini, ac a’u llosgasant hwy â than, wedi eu llabyddio â meini.
{{angor|7:26|26}} A chodasant arno ef garnedd fawr o gerrig hyd y dydd hwn. Felly y dychwelodd yr {{sc|Arglwydd}} oddi wrth lid ei ddigofaint. Am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn Achor, hyd y dydd hwn.
{{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}}
{{bach|1 ''Duw yn rhoi cysur yn Josua.'' 3 ''Y ddyfais â’r hon yr ennillwyd Ai.'' 29 ''Crogi ei brenhin hi.'' 30 ''Josua yn adeiladu allor;'' 32 ''yn ysgrifenu y gyfraith ar gerrig;'' 33 ''yn datgan bendithion a melldithion.''}}
{{angor|8:1}} {{uc|A’r}} {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna, ac na arswyda: cymmer gyd â thi yr holl bobl o ryfel, a chyfod, dos i fynu i Ai: gwel, mi a roddais yn dy law di frenhin Ai, a’i bobl, ei ddinas hefyd, a’i wlad.
{{angor|8:2|2}} A thi a wnei i Ai a’i brenhin, megis y gwnaethost i Jericho ac i’w brenhin: etto ei hanrhaith a’i hanifeiliaid a ysglyfaethwch i chwi eich hunain: gosod gynllwyn yn erbyn y ddinas, o’r tu cefn iddi.
{{angor|8:3|3}} ¶ Yna Josua a gyfododd, a’r holl bobl o ryfel, i fyned i fynu i Ai: a Josua a ddetholodd ddeng mil ar hugain o wŷr cedyrn nerthol, ac a’u hanfonodd ymaith liw nos:
{{angor|8:4|4}} Ac efe a orchymynodd iddynt, gan ddywedyd, Gwelwch, chwi a gynllwynwch yn erbyn y ddinas, o’r tu cefn i’r ddinas: nac ewch ym mhell iawn oddi wrth y ddinas, ond byddwch bawb oll yn barod.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
8n13hjpqzrghiad62dpenlku5517zot
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/236
104
3487
171062
6635
2026-09-20T04:46:18Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171062
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|8:5|5}} Minnau hefyd, a’r holl bobl ''sydd'' gyd â mi, a nesâwn at y ddinas: a phan ddelont allan i’n cyfarfod ni, megis y waith gyntaf, yna ni a ffown o’u blaen hwynt,
{{angor|8:6|6}} (Canys hwy a ddeuant allan ar ein hol ni,) nes i ni eu tynnu hwynt allan o’r ddinas; oblegid hwy a ddywedant, Ffoi y maent o’n blaen ni, fel y waith gyntaf: felly y ffown o’u blaen hwynt.
{{angor|8:7|7}} Yna chwi a godwch o’r cynllwyn, ac a oresgynwch y ddinas: canys yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} a’i dyry hi yn eich llaw chwi.
{{angor|8:8|8}} A phan ennilloch y ddinas, llosgwch y ddinas â thân: gwnewch yn ol gair yr {{sc|Arglwydd}}. Gwelwch, mi a orchymynais i chwi.
{{angor|8:9|9}} ¶ Felly Josua a’u hanfonodd; a hwy a aethant i gynllwyn, ac a arhosasant rhwng Bethel ac Ai, o du y gorllewin i Ai: a Josua a lettŷodd y noson honno ym mysg y bobl.
{{angor|8:10|10}} A Josua a gyfododd yn fore, ac a gyfrifodd y bobl; ac a aeth i fynu, efe a henuriaid Israel, o flaen y bobl, ''tu ag at'' Ai.
{{angor|8:11|11}} A’r holl bobl o ryfel, y rhai ''oedd'' gyd âg ef, a aethant i fynu, ac a nesasant; daethant hefyd gyferbyn â’r ddinas, a gwersyllasant o du y gogledd i Ai: a glyn ''oedd'' rhyngddynt hwy ac Ai.
{{angor|8:12|12}} Ac efe a gymmerth ynghylch pùm mil o wŷr, ac a’u gosododd hwynt i gynllwyn rhwng Bethel ac Ai, o du y gorllewin i’r ddinas.
{{angor|8:13|13}} A’r bobl a osodasant yr holl wersyllau, y rhai ''oedd'' o du y gogledd i’r ddinas, a’r cynllwynwyr o du y gorllewin i’r ddinas: a Josua a aeth y noson honno i ganol y dyffryn.
{{angor|8:14|14}} ¶ A phan welodd brenhin Ai ''hynny'', yna gwŷr y ddinas a frysiasant, ac a fore-godasant, ac a aethant allan i gyfarfod Israel i ryfel, efe a’i holl bobl, ar amser nodedig, ar hyd wyneb y gwastadedd: canys ni wyddai efe ''fod'' cynllwyn iddo, o’r tu cefn i’r ddinas.
{{angor|8:15|15}} A Josua a holl Israel, ''fel pe'' tarawsid hwy o’u blaen hwynt, a ffoisant ar hyd yr anialwch.
{{angor|8:16|16}} A’r holl bobl, y rhai ''oedd'' yn y ddinas, a alwyd ynghyd, i erlid ar eu hol hwynt: a hwy a erlidiasant ar ol Josua, ac a dynnwyd oddi wrth y ddinas.
{{angor|8:17|17}} Ac ni adawyd gwr yn Ai, nac ''yn'' Bethel, a’r nad aethant allan ar ol Israel: a gadawsant y ddinas yn agored, ac erlidiasant ar ol Israel.
{{angor|8:18|18}} A’r {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd wrth Josua, Estyn y waywffon ''sydd'' yn dy law tu ag at Ai: canys yn dy law di y rhoddaf hi. A Josua a estynodd y waywffon ''oedd'' yn ei law tu a’r ddinas.
{{angor|8:19|19}} A’r cynllwynwyr a gyfodasant yn ebrwydd o’u lle, ac a redasant, pan estynodd efe ei law: daethant hefyd i’r ddinas, ac ennillasant hi; ac a frysiasant, ac a losgasant y ddinas â thân.
{{angor|8:20|20}} A gwŷr Ai a droisant yn eu hol, ac a edrychasant; ac wele, mwg y ddinas a ddyrchafodd hyd y nefoedd; ac nid ''oedd'' ganddynt hwy nerth i ffoi yma nac accw: canys y bobl y rhai a ffoisent i’r anialwch, a ddychwelodd yn erbyn y rhai oedd yn erlid.
{{angor|8:21|21}} A phan welodd Josua a holl Israel i’r cynllwynwyr ennill y ddinas, a dyrchafu o fwg y ddinas, yna hwy a ddychwelasant, ac a darawsant wŷr Ai.
{{angor|8:22|22}} A’r lleill a aethant allan o’r ddinas i’w cyfarfod; felly yr oeddynt y’nghanol Israel, y rhai hyn o’r tu yma, a’r lleill o’r tu accw: a tharawsant hwynt, fel na adawyd ''un'' y’ngweddill nac yn ddïangol o honynt.
{{angor|8:23|23}} A brenhin Ai a ddaliasant hwy yn fyw; a dygasant ef at Josua.
{{angor|8:24|24}} Pan ddarfu i Israel ladd holl breswylwyr Ai yn y maes, yn yr anialwch lle yr erlidiasent hwynt, a ''phan'' syrthiasent hwy oll gan fin y cleddyf, nes eu darfod; yna holl Israel a ddychwelasant i Ai, a tharawsant hi â min y cleddyf.
{{angor|8:25|25}} A chwbl a’r a syrthiasant y dwthwn hwnnw, yn wŷr ac yn wragedd, ''oeddynt'' ddeuddeng mil; ''sef'' holl wŷr Ai.
{{angor|8:26|26}} Canys ni thynnodd Josua ei law yn ei hol, yr hon a estynasai efe gyd â’r waywffon, nes difetha holl drigolion Ai.
{{angor|8:27|27}} Yn unig yr anifeiliaid, ac anrhaith y ddinas, a ysglyfaethodd yr Israeliaid iddynt eu hun; yn ol gair yr {{sc|Arglwydd}}, yr hwn a orchymynasai efe i Josua.
{{angor|8:28|28}} A Josua a losgodd Ai, ac a’i gwnaeth hi yn garnedd dragywydd, ac yn ddiffaethwch hyd y dydd hwn.
{{angor|8:29|29}} Ac efe a grogodd frenhin Ai ar<noinclude><references/></noinclude>
h9obbzhoudlc1419i1f970p2pkp2ibv
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/237
104
3488
171063
6636
2026-09-20T05:01:21Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171063
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>bren hyd yr hwyr: ac wedi machlud haul, y gorchymynodd Josua iddynt ddisgyn ei gelain ef oddi ar y pren, a’i bwrw i ddrws porth y ddinas; a gosodasant garnedd fawr o gerrig arni hyd y dydd hwn.
{{angor|8:30|30}} ¶ Yna Josua a adeiladodd allor i {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel ym mynydd Ebal,
{{angor|8:31|31}} Megis y gorchymynasai Moses gwas yr {{sc|Arglwydd}} i feibion Israel, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, allor o gerrig cyfain, y rhai ni ddyrchafasid haiarn arnynt: a hwy a offrymmasant arni boeth-offrymmau i’r {{sc|Arglwydd}}, ac a aberthasant ebyrth hedd.
{{angor|8:32|32}} Ac efe a ysgrifenodd yno ar y meini gopi o gyfraith Moses, yr hon a ysgrifenasai efe y’ngŵydd meibion Israel.
{{angor|8:33|33}} A holl Israel, a’u henuriaid, eu swyddogion ''hefyd'', a’u barnwyr, oedd yn sefyll o ddeutu yr arch, ger bron yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfammod yr {{sc|Arglwydd}}, yn gystal yr estron a’r prïodor: eu hanner ''oedd'' ar gyfer mynydd Garizim, a’u hanner ar gyfer mynydd Ebal; fel y gorchymynasai Moses gwas yr {{sc|Arglwydd}} o’r blaen fendithio pobl Israel.
{{angor|8:34|34}} Wedi hynny efe a ddarllenodd holl eiriau y gyfraith, y fendith a’r felldith, yn ol y cwbl ''sydd'' ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith.
{{angor|8:35|35}} Nid oedd air o’r hyn oll a orchymynasai Moses, a’r nas darllenodd Josua ger bron holl gynnulleidfa Israel, a’r gwragedd, a’r plant, a’r dïeithr yr hwn oedd yn rhodio yn eu mysg hwynt.
{{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}}
{{bach|1 ''Y brenhinoedd yn ymwneuthur yn erbyn Israel.'' 3 ''Y Gibeoniaid, trwy dwyll, yn cael cyfammod:'' 23 ''am yr hyn y condemniwyd hwy i gaethiwed tragywyddol.''}}
{{angor|9:1}} {{uc|Wedi}} clywed ''hyn'' o’r holl frenhinoedd, y rhai ''oedd'' o’r tu yma i’r Iorddonen, yn y mynydd, ac yn y gwastadedd, ac yn holl lannau y môr mawr, at gyfer Libanus; sef yr Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Phereziaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid;
{{angor|9:2|2}} Yna hwy a ymgasglasant ynghyd i ymladd yn erbyn Josua, ac yn erbyn Israel, o unfryd.
{{angor|9:3|3}} ¶ A thrigolion Gibeon a glywsant yr hyn a wnaethai Josua i Jericho ac i Ai.
{{angor|9:4|4}} A hwy a wnaethant yn gyfrwys, ac a aethant, ac a ymddangosasant fel cenhadon: cymmerasant hefyd hen sachlennau ar eu hasynod, a hen gostrelau gwin, wedi eu hollti hefyd, ac wedi eu rhwymo,
{{angor|9:5|5}} A hen esgidiau baglog am eu traed, a hen ddillad am danynt; a holl fara eu lluniaeth oedd sych ''a'' brithlwyd:
{{angor|9:6|6}} Ac a aethant at Josua i’r gwersyll i Gilgal; a dywedasant wrtho ef, ac wrth wŷr Israel, O wlad bell y daethom: ac yn awr gwnewch gyfammod â ni.
{{angor|9:7|7}} A gwŷr Israel a ddywedasant wrth yr Hefiaid, Nid hwyrach dy fod yn ein mysg yn trigo; pa fodd gan hynny y gwnaf gyfammod â thi?
{{angor|9:8|8}} A hwy a ddywedasant wrth Josua, Dy weision di ''ydym'' ni. A Josua a ddywedodd wrthynt, Pwy ''ydych?'' ac o ba le y daethoch?
{{angor|9:9|9}} A hwy a ddywedasant wrtho, Dy weision a ddaethant o wlad bell iawn, o herwydd enw yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}: canys ni a glywsom ei glod ef, a’r hyn oll a wnaeth efe yn yr Aipht;
{{angor|9:10|10}} A’r hyn oll a wnaeth efe i ddau frenhin yr Amoriaid, y rhai ''oedd'' o’r tu hwnt i’r Iorddonen; i Sehon brenhin Hesbon, ac i Og brenhin Basan, yr hwn ''oedd'' yn Astaroth.
{{angor|9:11|11}} Am hynny ein henuriaid ni, a holl breswylwyr ein gwlad, a lefarasant wrthym ni, gan ddywedyd, Cymmerwch luniaeth gyd â chwi i’r daith, ac ewch i’w cyfarfod hwynt; a dywedwch wrthynt, Eich gweision ydym: yn awr gan hynny gwnewch gyfammod â ni.
{{angor|9:12|12}} Dyma ein bara ni: yn frwd y cymmerasom ef yn lluniaeth o’n tai y dydd y cychwynasom i ddyfod attoch; ac yn awr, wele, sych a brithlwyd yw.
{{angor|9:13|13}} Dyma hefyd y costrelau gwin a lanwasom yn newyddion; ac wele hwynt wedi hollti: ein dillad hyn hefyd a’n hesgidiau a heneiddiasant, rhag meithed y daith.
{{angor|9:14|14}} A’r gwŷr a gymmerasant o’u hymborth hwynt, ac nid ymgynghorasant â genau yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|9:15|15}} Felly Josua a wnaeth heddwch â hwynt, ac a wnaeth gyfammod â hwynt, ar eu cadw hwynt yn fyw: tywysogion y gynnulleidfa ''hefyd'' a dyngasant wrthynt.
{{angor|9:16|16}} Ond ym mhen y tridiau wedi<noinclude><references/></noinclude>
sq81on14l792l6gjkm7jgyfm98lg3jw
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/238
104
3489
171064
6637
2026-09-20T05:28:15Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171064
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>iddynt wneuthur cyfammod â hwynt, hwy a glywsant mai cymmydogion iddynt ''oeddynt'' hwy, ac ''mai'' yn eu mysg yr oeddynt yn aros.
{{angor|9:17|17}} A meibion Israel a gychwynasant, ac a ddaethant i’w dinasoedd hwynt y trydydd dydd: a’u dinasoedd hwynt ''oedd'' Gibeon, a Chephirah, Beeroth ''hefyd'', a Chiriath-jearim.
{{angor|9:18|18}} Ond ni tharawodd meibion Israel mo honynt hwy, oblegid tywysogion y gynnulleidfa a dyngasai wrthynt myn {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel: a’r holl gynnulleidfa a rwgnachasant yn erbyn y tywysogion.
{{angor|9:19|19}} A’r holl dywysogion a ddywedasant wrth yr holl gynnulleidfa, Ni a dyngasom wrthynt i {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel: am hynny ni allwn ni yn awr gyffwrdd â hwynt.
{{angor|9:20|20}} Hyn a wnawn ni iddynt hwy: Cadwn hwynt yn fyw, fel na byddo digofaint arnom ni, o herwydd y llw a dyngasom wrthynt.
{{angor|9:21|21}} A’r tywysogion a ddywedasant wrthynt, Byddant fyw, (ond byddant yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i’r holl gynnulleidfa,) fel y dywedasai y tywysogion wrthynt.
{{angor|9:22|22}} ¶ Yna Josua a alwodd arnynt; ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Paham y twyllasoch ni, gan ddywedyd, Pell iawn ''ydym'' ni oddi wrthych; a chwithau yn preswylio yn ein mysg ni?
{{angor|9:23|23}} Yn awr gan hynny melldigedig ydych: ac ni ddïangc un o honoch rhag bod yn ''gaeth''-weision, ac yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i dŷ fy {{sc|Nuw}}.
{{angor|9:24|24}} A hwy a attebasant Josua, ac a ddywedasant, Yn ddïau gan fynegi y mynegwyd i’th weision, ddarfod i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} orchymyn i Moses ei was roddi i chwi yr holl wlad hon, a difetha holl drigolion y wlad o’ch blaen chwi; am hynny yr ofnasom ni yn ddirfawr rhagoch am ein heinioes, ac y gwnaethom y peth hyn.
{{angor|9:25|25}} Ac yn awr, wele ni yn dy law di: fel ''y byddo'' da ac uniawn yn dy olwg wneuthur i ni, gwna.
{{angor|9:26|26}} Ac felly y gwnaeth efe iddynt; ac a’u gwaredodd hwynt o law meibion Israel, fel na laddasant hwynt.
{{angor|9:27|27}} A Josua a’u rhoddodd hwynt y dwthwn hwnnw yn gymmynwyr coed, ac yn wehynwyr dwfr, i’r gynnulleidfa, ac i allor yr {{sc|Arglwydd}}, hyd y dydd hwn, yn y lle a ddewisai efe.
{{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}}
{{bach|5 ''Pùm brenhin yn rhyfela yn erbyn Gibeon.'' 7 ''Josua yn ei hachub hi.'' 10 ''Duw yn ymladd yn eu erbyn hwynt â chenllysg.'' 12 ''Yr haul a’r lleuad yn sefyll ar air Josua.'' 18 ''Cau ar y pùm brenhin mewn ogof.'' 23 ''Eu dwyn allan;'' 24 ''eu dïystyru,'' 26 ''a’u crogi.'' 28 ''Gorchfygu saith brenhin ychwaneg.'' 43 ''Josua yn dychwelyd i Gilgal.''}}
{{angor|10:1}} {{uc|A phan}} glybu Adonisedec brenhin Jerusalem i Josua ennill Ai, a’i difrodi hi, (fel y gwnelsai efe i Jericho ac i’w brenhin, felly y gwnaethai efe i Ai ac i’w brenin,) a heddychu o drigolion Gibeon âg Israel, a’u bod yn eu mysg hwynt:
{{angor|10:2|2}} Yna yr ofnasant yn ddirfawr; oblegid dinas fawr ''oedd'' Gibeon, fel un o’r dinasoedd brenhinol; ac o herwydd ei ''bod'' yn fwy nag Ai; ei holl wŷr hefyd ''oedd'' gedyrn.
{{angor|10:3|3}} Am hynny Adonisedec brenhin Jerusalem a anfonodd at Hoham brenhin Hebron, ac at Piram brenhin Jarmuth, ac at Japhia brenhin Lachis, ac at Debir brenhin Eglon, gan ddywedyd,
{{angor|10:4|4}} Deuwch i fynu attaf fi, a chynnorthwywch fi, fel y tarawom ni Gibeon: canys hi a heddychodd â Josua, ac â meibion Israel.
{{angor|10:5|5}} Am hynny pùm brenhin yr Amoriaid a ymgynnullasant, ac a ddaethant i fynu, ''sef'' brenhin Jerusalem, brenhin Hebron, brenhin Jarmuth, brenhin Lachis, ''a'' brenhin Eglon, hwynt-hwy a’u holl fyddinoedd, ac a wersyllasant wrth Gibeon, ac a ryfelasant yn ei herbyn hi.
{{angor|10:6|6}} ¶ A gwŷr Gibeon a anfonasant at Josua i’r gwersyll i Gilgal, gan ddywedyd, Na thỳn ymaith dy ddwylaw oddi wrth dy weision: tyred i fynu yn fuan attom ni, achub ni ''hefyd'', a chynnorthwya ni: canys holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai sydd yn trigo yn y mynydd-dir, a ymgynnullasant i’n herbyn ni.
{{angor|10:7|7}} Felly Josua a esgynodd o Gilgal, efe a’r holi bobl o ryfel gyd âg ef, a’r holl gedyrn nerthol.
{{angor|10:8|8}} ¶ A’r {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt: canys yn dy law di y rhoddais hwynt; ni saif neb o honynt yn dy wyneb di.
{{angor|10:9|9}} Josua gan hynny a ddaeth yn ddïattreg attynt hwy: ''canys'' ar hyd y nos yr aeth efe i fynu o Gilgal.
{{angor|10:10|10}} A’r {{sc|Arglwydd}} a’u drylliodd hwynt o flaen Israel, ac a’u tarawodd hwynt â lladdfa fawr yn Gibeon, ac<noinclude><references/></noinclude>
onbwyuxx1nzqgmkrr8a5oyso4tky41t
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/239
104
3490
171065
6638
2026-09-20T05:41:48Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171065
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>a’u hymlidiodd hwynt ffordd yr eir i fynu i Beth-horon, ac a’u tarawodd hwynt hyd Azecah, ac hyd Maccedah.
{{angor|10:11|11}} A phan oeddynt yn ffoi o flaen Israel, ''a'' hwy y’ngoriwaered Beth-horon, yr {{sc|Arglwydd}} a fwriodd arnynt hwy gerrig mawrion o’r nefoedd hyd Azecah; a buant feirw: amlach ''oedd'' y rhai a fu feirw gan y cerrig cenllysg, na’r ''rhai'' a laddodd meibion Israel â’r cleddyf.
{{angor|10:12|12}} ¶ Llefarodd Josua wrth yr {{sc|Arglwydd}} y dydd y rhoddodd yr {{sc|Arglwydd}} yr Amoriaid o flaen meibion Israel: ac efe a ddywedodd y’ngolwg Israel, O haul, aros yn Gibeon; a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon.
{{angor|10:13|13}} A’r haul a arhosodd, a’r lleuad a safodd, nes i’r genedl ddïal ar eu gelynion. Onid ''yw'' hyn yn ysgrifenedig yn llyfr yr Uniawn? Felly yr haul a safodd y’nghanol y nefoedd, ac ni frysiodd i fachludo dros ddiwrnod cyfan.
{{angor|10:14|14}} Ac ni bu y fath ddiwrnod a hwnnw o’i flaen ef, nac ar ei ol ef, fel y gwrandawai yr {{sc|Arglwydd}} ar lef dyn: canys yr {{sc|Arglwydd}} a ymladdodd dros Israel.
{{angor|10:15|15}} ¶ A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gyd âg ef, i’r gwersyll i Gilgal.
{{angor|10:16|16}} Ond y pùm brenhin hynny a ffoisant, ac a ymguddiasant mewn ogof ym Maccedah.
{{angor|10:17|17}} A mynegwyd i Josua, gan ddywedyd, Y pùm brenhin a gafwyd y’nghûdd mewn ogof ym Maccedah.
{{angor|10:18|18}} A dywedodd Josua, Treiglwch feini mawrion ar enau yr ogof, a gosodwch wrthi wŷr i’w cadw hwynt:
{{angor|10:19|19}} Ac na sefwch chwi; erlidiwch ar ol eich gelynion, a tharêwch y rhai olaf o honynt; na adêwch iddynt fyned i’w dinasoedd: canys yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} a’u rhoddodd hwynt yn eich llaw chwi.
{{angor|10:20|20}} A phan ddarfu i Josua a meibion Israel eu taro hwynt â lladdfa fawr iawn, nes eu difa; yna y gweddillion a adawsid o honynt a aethant i’r dinasoedd caerog.
{{angor|10:21|21}} A’r holl bobl a ddychwelasant i’r gwersyll at Josua ym Maccedah mewn heddwch, heb symmud o neb ei dafod yn erbyn meibion Israel.
{{angor|10:22|22}} A Josua a ddywedodd, Agorwch enau yr ogof, a dygwch allan y pùm brenhin hynny attaf fi o’r ogof.
{{angor|10:23|23}} A hwy a wnaethant felly, ac a ddygasant allan y pùm brenin atto ef o’r ogof; ''sef'' brenhin Jerusalem, brenhin Hebron, brenhin Jarmuth, brenhin Lachis, ''a'' brenhin Eglon.
{{angor|10:24|24}} A phan ddygasant hwy y brenhinoedd hynny at Josua, yna Josua a alwodd am holl wŷr Israel, ac a ddywedodd wrth dywysogion y rhyfelwyr, y rhai a aethai gyd âg ef, Nesêwch, gosodwch eich traed ar yddfau y brenhinoedd hyn. A hwy a nesasant, ac a osodasant eu traed ar eu gyddfau hwynt.
{{angor|10:25|25}} A Josua a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch, ac nac arswydwch; ''eithr'' ymwrolwch, ac ymegnïwch: canys fel hyn y gwna yr {{sc|Arglwydd}} i’ch holl elynion yr ydych chwi yn ymladd i’w herbyn.
{{angor|10:26|26}} Ac wedi hyn Josua a’u tarawodd hwynt, ac a’u rhoddodd i farwolaeth, ac a’u crogodd hwynt ar bùm pren: a buant y’nghrog ar y prennau hyd yr hwyr.
{{angor|10:27|27}} Ac ym mhryd machludo haul, y gorchymynodd Josua iddynt eu disgyn hwynt oddi ar y prennau, a’u bwrw hwynt i’r ogof yr ymguddiasant ynddi; a bwriasant gerrig mawrion y’ngenau yr ogof, ''y rhai sydd yno'' hyd gorph y dydd hwn.
{{angor|10:28|28}} ¶ Josua hefyd a ennillodd Maccedah y dwthwn hwnnw, ac a’i tarawodd hi â min y cleddyf, ac a ddifrododd ei brenhin hi, hwynt-hwy, a phob enaid ag ''oedd'' ynddi; ni adawodd efe ''un'' gweddill: canys efe a wnaeth i frenhin Maccedah, fel y gwnaethai i frenhin Jericho.
{{angor|10:29|29}} ¶ Yna yr aeth Josua a holl Israel gyd âg ef o Maccedah i Libnah, ac a ymladdodd yn erbyn Libnah.
{{angor|10:30|30}} A’r {{sc|Arglwydd}} a’i rhoddodd hithau, a’r brenhin, yn llaw Israel; ac yntau a’i tarawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid a’r ''oedd'' ynddi; ni adawodd ynddi ''un'' yng ngweddill: canys efe a wnaeth i’w brenhin hi fel y gwnelsai i frenhin Jericho.
{{angor|10:31|31}} ¶ A Josua a dramwyodd, a holl Israel gyd âg ef, o Libnah i Lachis; ac a wersyllodd wrthi, ac a ymladdodd i’w herbyn.
{{angor|10:32|32}} A’r {{sc|Arglwydd}} a roddodd Lachis yn llaw Israel; yr hwn a’i hennillodd hi yr ail ddydd, ac a’i tarawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid ag ''oedd'' ynddi, yn ol yr hyn oll a wnaethai efe i Libnah.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
infrn1nq3m26f67lsth4hs9g0v5rv2x
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/240
104
3491
171066
6639
2026-09-20T05:56:21Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171066
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|10:33|33}} ¶ Yna Horam brenhin Geser a ddaeth i fynu i gynnorthwyo Lachis: a Josua a’i tarawodd ef a’i bobl, fel na adawyd iddo ef ''un'' y’ngweddill.
{{angor|10:34|34}} ¶ A Josua a dramwyodd, a holl Israel gyd âg ef, o Lachis i Eglon: a hwy a wersyllasant wrthi, ac a ymladdasant i’w herbyn.
{{angor|10:35|35}} A hwy a’i hennillasant hi y diwrnod hwnnw, ac a’i tarawsant hi â min y cleddyf; ac efe a ddifrododd bob enaid a’r ''oedd'' ynddi y dwthwn hwnnw, yn ol yr hyn oll a wnaethai efe i Lachis.
{{angor|10:36|36}} ¶ A Josua a esgynodd, a holl Israel gyd âg ef, o Eglon i Hebron; a hwy a ryfelasant i’w herbyn.
{{angor|10:37|37}} A hwy a’i hennillasant hi, ac a’i tarawsant hi â min y cleddyf, a’i brenhin, a’i holl ddinasoedd, a phob enaid ag ''oedd'' ynddi; ni adawodd efe ''un'' y’ngweddiil, yn ol yr hyn oll a wnaethai efe i Eglon: canys efe a’i difrododd hi, a phob enaid ag ''oedd'' ynddi.
{{angor|10:38|38}} ¶ A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gyd âg ef, i Debir; ac a ymladdodd i’w herbyn.
{{angor|10:39|39}} Ac efe a’i hennillodd hi, ei brenhin, a’i holl ddinasoedd; a hwy a’u tarawsant hwy â min y cleddyf, ac a ddifrodasant bob enaid ag ''oedd'' ynddi; ni adawodd efe ''un'' y’ngweddill: fel y gwnaethai efe i Hebron, felly y gwnaeth efe i Debir, ac i’w brenhin; megis y gwnelsai efe i Libnah, ac i’w brenhin.
{{angor|10:40|40}} ¶ Felly y tarawodd Josua yr holl fynydd-dir, a’r dehau, y gwastadedd ''hefyd'', a’r bronnydd, a’u holl frenhinoedd: ni adawodd efe ''un'' y’ngweddill; eithr efe a ddifrododd bob perchen anadl, fel y gorchymynasai {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel.
{{angor|10:41|41}} A Josua a’u tarawodd hwynt o Cades-Barnea, hyd Gazah, a holl wlad Gosen, hyd Gibeon.
{{angor|10:42|42}} Yr holl frenhinoedd hyn ''hefyd'' a’u gwledydd a ennillodd Josua ar unwaith: canys {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel oedd yn ymladd dros Israel.
{{angor|10:43|43}} Yna y dychwelodd Josua, a holl Israel gyd âg ef, i’r gwersyll yn Gilgal.
{{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod XI}}.}}
{{bach|5 ''Gorchfygu amryw frenhinoedd wrth ddyfroedd Meron.'' 10 ''Ennill Hasor, a’i llosgi.'' 16 ''Josua yn goresgyn yr holl wlad;'' 21 ''ac yn torri yr Anaciaid.''}}
{{angor|11:1}} {{uc|A phan}} glybu Jabin brenhin Hasor ''y pethau hynny'', efe a anfonodd at Jobab brenhin Madon, ac at frenhin Simron, ac at frenin Achsaph,
{{angor|11:2|2}} Ac at y brenhinoedd ''oedd'' o du y gogledd yn y mynydd-dir, ac yn y rhosdir ''tu'' a’r dehau i Cinneroth, ac yn y dyffryn, ac yn ardaloedd Dor tu a’r gorllewin;
{{angor|11:3|3}} ''At'' y Canaaneaid o’r dwyrain a’r gorllewin, ac at yr Amoriaid, a’r Hethiaid, a’r Phereziaid, a’r Jebusiaid, yn y mynydd-dir, ac ''at'' yr Hefiaid dan Hermon, y’ngwlad Mispeh.
{{angor|11:4|4}} A hwy a aethant allan, a’u holl fyddinoedd gyd â hwynt, pobl lawer, fel y tywod ''sydd'' ar fin y môr o amldra; meirch hefyd a cherbydau lawer iawn.
{{angor|11:5|5}} A’r holl frenhinoedd hyn a ymgyfarfuant; daethant hefyd a gwersyllasant ynghyd wrth ddyfroedd Merom, i ymladd yn erbyn Israel.
{{angor|11:6|6}} ¶ A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Josua, Nac ofna rhagddynt hwy: canys y fory ynghylch y pryd hyn y rhoddaf hwynt oll yn lladdedig o flaen Israel: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorri, a’u cerbydau a losgi di â thân.
{{angor|11:7|7}} Felly Josua a ddaeth, a’r holl bobl o ryfel gyd âg ef, yn ddisymmwth arnynt hwy wrth ddyfroedd Merom; a hwy a ruthrasant arnynt.
{{angor|11:8|8}} A’r {{sc|Arglwydd}} a’u rhoddodd hwynt yn llaw Israel; a hwy a’u tarawsant hwynt, ac a’u herlidiasant hyd Sidon fawr, ac hyd Misrephoth-maim, ac hyd glyn Mispeh o du y dwyrain; a hwy a’u tarawsant hwynt, fel na adawodd efe o honynt ''un'' y’ngweddill.
{{angor|11:9|9}} A Josua a wnaeth iddynt fel yr archasai yr {{sc|Arglwydd}} iddo: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorrodd efe, a’u cerbydau a losgodd â thân.
{{angor|11:10|10}} ¶ A Josua y pryd hwnnw a ddychwelodd, ac a ennillodd Hasor, ac a darawodd ei brenhin hi â’r cleddyf: canys Hasor o’r blaen oedd ben yr holl deyrnasoedd hynny.
{{angor|11:11|11}} Tarawsant hefyd bob enaid a’''r oedd'' ynddi â min y cleddyf, gan ''eu'' difrodi ''hwynt:'' ni adawyd un perchen anadl: ac efe a losgodd Hasor â thân.
{{angor|11:12|12}} A holl ddinasoedd y brenhinoedd hynny, a holl frenhinoedd hwynt, a ennillodd Josua, ''ac'' a’u tarawodd â min y cleddyf, gan eu<noinclude><references/></noinclude>
h4seuk0qwrxn1tkqf6yit1i4ytclwka
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/241
104
3492
171067
6640
2026-09-20T06:10:23Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171067
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>difrodi hwynt: megis y gorchymynasai Moses gwas yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|11:13|13}} Ond ni losgodd Israel yr un o’r dinasoedd oedd yn sefyll yn eu cadernid; namyn Hasor yn unig a losgodd Josua.
{{angor|11:14|14}} A holl anrhaith y dinasoedd hynny, a’r anifeiliaid, a ysglyfaethodd meibion Israel iddynt eu hun: yn unig pob dyn a darawsant hwy â min y cleddyf, nes iddynt eu difetha; ni adawsant berchen anadl.
{{angor|11:15|15}} ¶ Fel y gorchymynasai yr {{sc|Arglwydd}} i Moses ei was, felly y gorchymynodd Moses i Josua, ac felly y gwnaeth Josua; ni adawodd efe ddim o’r hyn oll a orchymynasai yr {{sc|Arglwydd}} i Moses.
{{angor|11:16|16}} Felly Josua a ennillodd yr holl dir hwnnw, y mynyddoedd, a’r holl ddehau, a holl wlad Gosen, a’r dyffryn, a’r gwastadedd, a mynydd Israel, a’i ddyffryn;
{{angor|11:17|17}} O fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fynu i Seir, hyd Baal-Gad, y’nglyn Libanus, dan fynydd Hermon: a’u holl frenhinoedd hwynt a ddaliodd efe; tarawodd hwynt hefyd, ac a’u rhoddodd i farwolaeth.
{{angor|11:18|18}} Josua a gynhaliodd ryfel yn erbyn yr holl frenhinoedd hynny ddyddiau lawer.
{{angor|11:19|19}} Nid oedd dinas a’r a heddychodd â meibion Israel, heb law yr Hefiaid preswylwyr Gibeon; yr holl rai ''eraill'' a ennillasant hwy trwy ryfel.
{{angor|11:20|20}} Canys o’r {{sc|Arglwydd}} yr ydoedd galedu eu calon hwynt i gyfarfod âg Israel mewn rhyfel, fel y difrodai efe hwynt, ''ac'' na fyddai iddynt drugaredd; ond fel y difethai efe hwynt, fel y gorchymynasai yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses.
{{angor|11:21|21}} ¶ A’r pryd hwnnw y daeth Josua ac a dorrodd yr Anaciaid ymaith o’r mynydd-dir, o Hebron, o Debir, o Anab, ac o holl fynyddoedd Judah, ac o holl fynyddoedd Israel: Josua a’u difrododd hwynt a’u dinasoedd.
{{angor|11:22|22}} Ni adawyd ''un'' o’r Anaciaid y’ngwlad meibion Israel: yn unig yn Gazah, yn Gath, ac yn Asdod, y gadawyd hwynt.
{{angor|11:23|23}} Felly Josua a ennillodd yr holl wlad, yn ol yr hyn oll a lefarasai yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses; a Josua a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i Israel, yn ol eu rhannau hwynt, trwy eu llwythau. A’r wlad a orphwysodd heb ryfel.
{{angor|Pennod_12}}{{c|{{uc|Pennod XII}}.}}
{{bach|1 ''Y ddau frenhin a ennillodd Moses eu gwledydd, ac a’u rhannodd.'' 7 ''Yr un brenhin ar ddeg ar hugain o’r tu arall i’r Iorddonen, y rhai a darawodd Josua.''}}
{{angor|12:1}} {{uc|Dyma}} frenhinoedd y wlad, y rhai a darawodd meibion Israel, ac a feddiannasant eu gwlad hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen tu a chodiad yr haul; o afon Arnon hyd fynydd Hermon, a’r holl wastadedd tu a’r dwyrain:
{{angor|12:2|2}} Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ''ac'' yn arglwyddiaethu o Aroer, yr hon ''sydd'' ar fin yr afon Arnon, ac o ganol yr afon, ac o hanner Gilead hyd yr afon Jabboc, ''ym'' mro meibion Ammon;
{{angor|12:3|3}} Ac o’r gwastadedd hyd fôr Cinneroth o du y dwyrain, ac hyd fôr y gwastadedd, sef y môr heli, o du y dwyrain, tu a Beth-jesimoth; ac o du y dehau, dan Asdoth-Pisgah:
{{angor|12:4|4}} A goror Og brenhin Basan, ''yr hwn oedd'' o weddill y cawri, ac oedd yn trigo yn Astaroth ac yn Edrei;
{{angor|12:5|5}} Ac efe oedd yn arglwyddiaethu ym mynydd Hermon, ac yn Salchah, ac yn holl Basan, hyd derfyn y Gesuriaid, a’r Maachathiaid, a hanner Gilead, terfyn Sehon brenhin Hesbon.
{{angor|12:6|6}} Moses gwas yr {{sc|Arglwydd}} a meibion Israel a’u tarawsant hwy: a Moses gwas yr {{sc|Arglwydd}} a’i rhoddodd hi ''yn'' etifeddiaeth i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasseh.
{{angor|12:7|7}} ¶ Dyma hefyd frenhinoedd y wlad y rhai a darawodd Josua a meibion Israel o’r tu yma i’r Iorddonen o du y gorllewin, o Baal-Gad, y’nglyn Libanus, hyd fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fynu i Seir; a Josua a’i rhoddodd hi i lwythau Israel ''yn'' etifeddiaeth yn ol eu rhannau;
{{angor|12:8|8}} Yn y mynydd, ac yn y dyffryn, ac yn y gwastadedd, ac yn y bronnydd, ac yn yr anialwch, ac yn y dehau; yr Hethiaid, yr Amoriaid, a’r Canaaneaid, y Phereziaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid:
{{angor|12:9|9}} ¶ Brenhin Jericho, yn un; brenhin Ai, yr hwn ''oedd'' o ystlys Bethel, yn un;
{{angor|12:10|10}} Brenhin Jerusalem, yn un; brenhin Hebron, yn un;
{{angor|12:11|11}} Brenhin Jarmuth, yn un; brenhin Lachis, yn un;
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
n4mpwpzqjrw91ki4kjvxofksr3u3hwu
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/242
104
3493
171068
6641
2026-09-20T06:26:11Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171068
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|12:12|12}} Brenhin Eglon, yn un; brenhin Gezer, yn un;
{{angor|12:13|13}} Brenhin Debir, yn un; brenhin Geder, yn un;
{{angor|12:14|14}} Brenhin Hormah, yn un; brenhin Arad, yn un;
{{angor|12:15|15}} Brenhin Libnah, yn un; brenhin Adùlam, yn un;
{{angor|12:16|16}} Brenhin Maceedah, yn un; brenhin Bethel, yn un;
{{angor|12:17|17}} Brenhin Tappuah, yn un; brenhin Hepher, yn un;
{{angor|12:18|18}} Brenhin Aphec, yn un; brenhin Lasaron, yn un;
{{angor|12:19|19}} Brenhin Madon, yn un; brenhin Hasor, yn un;
{{angor|12:20|20}} Brenhin Simron-Meron, yn un; brenhin Achsaph, yn un;
{{angor|12:21|21}} Brenhin Taanach, yn un; brenhin Megido, yn un;
{{angor|12:22|22}} Brenhin Cades, yn un; brenhin Jocneam o Carmel, yn un;
{{angor|12:23|23}} Brenhin Dor yn ardal Dor, yn un; brenhin y cenhedloedd o Gilgal, yn un;
{{angor|12:24|24}} Brenhin Tirsah, yn un: yr holl frenhinoedd ''oedd'' un ar ddeg ar hugain.
{{angor|Pennod_13}}{{c|{{uc|Pennod XIII}}.}}
{{bach|2 ''Terfynau y wlad ni orchfygesid etto.'' 8 ''Etifeddiaeth y ddau lwyth a hanner.'' 14, 33 ''Yr Arglwydd a’i aberthau yw etifeddiaeth Lefi.'' 15 ''Terfynau etifeddiaeth Reuben.'' 22 ''Lladd Balaam.'' 24 ''Terfynau etifeddiaeth Gad,'' 29 ''a hanner llwyth Mnasseh.''}}
{{angor|13:1}} {{uc|A phan}} heneiddiodd Josua, ''a'' phwyso o hono mewn oedran, dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrtho ef, Tydi a heneiddiaist, daethost i ddyddiau ''oedrannus'', a thir lawer iawn sydd etto i’w feddiannu.
{{angor|13:2|2}} Dyma y wlad sydd etto yn ol: holl derfynau y Philistiaid, a holl Gesuri,
{{angor|13:3|3}} O Sihor, yr hon ''sydd'' o flaen yr Aipht, hyd derfyn Ecron tu a’r gogledd, ''yr hwn'' a gyfrifir i’r Canaaneaid: pùm tywysog y Philistiaid: y Gazathiaid, a’r Asdodiaid, yr Escaloniaid, y Githiaid, yr Ecroniaid; yr Afiaid:
{{angor|13:4|4}} O’r dehau, holl wlad y Canaaneaid, a’r ogof ''oedd'' yn ymyl y Sidoniaid, hyd Aphec, hyd derfyn yr Amoriaid:
{{angor|13:5|5}} A gwlad y Gibliaid, a holl Libanus, tu a chyfodiad haul, o Baal-Gad dan fynydd Hermon, nes dyfod i Hamath.
{{angor|13:6|6}} Holl breswylwyr y mynydd-''dir'' o Libanus hyd Misrephoth-maim, ''a''’r holl Sidoniaid, y rhai hynny a yrraf ymaith o flaen meibion Israel: yn unig rhan di hi wrth goelbren i Israel yn etifeddiaeth, fel y gorchymynais i ti.
{{angor|13:7|7}} Ac yn awr rhan di y wlad hon yn etifeddiaeth i’r naw llwyth, ac i hanner llwyth Manasseh.
{{angor|13:8|8}} Gyd â’r rhai y derbyniodd y Reubeniaid a’r Gadiaid eu hetifeddiaeth, yr hon a roddodd Moses iddynt hwy, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, tu a’r dwyrain, fel y rhoddes Moses gwas yr {{sc|Arglwydd}} iddynt;
{{angor|13:9|9}} O Aroer, yr hon ''sydd'' ar fin afon Arnon, a’r ddinas ''sydd'' y’nghanol y dyffryn, a holl wastadedd Medeba, hyd Dibon:
{{angor|13:10|10}} A holl ddinasoedd Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, hyd ardal meibion Ammon;
{{angor|13:11|11}} Gilead hefyd, a therfyn y Gesuriaid, y Maachathiaid hefyd, a holl fynydd Hermon, a holl Basan hyd Salchah;
{{angor|13:12|12}} Holl frenhiniaeth Og yn Basan, yr hwn a deyrnasodd yn Astaroth, ac yn Edrei; efe a adawyd o weddill y cawri: canys Moses a’u tarawsai hwynt, ac a’u gyrrasai ymaith.
{{angor|13:13|13}} Ond meibion Israel ni yrrasant allan y Gesuriaid na’r Maachathiaid; eithr trigodd y Gesuriaid a’r Maachathiaid ym mhlith Israel hyd y dydd hwn.
{{angor|13:14|14}} Yn unig i lwyth Lefi ni roddodd efe etifeddiaeth; aberthau tanllyd {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel ''oedd'' ei etifeddiaeth ef, fel y llefarasai efe wrtho.
{{angor|13:15|15}} ¶ A Moses a roddasai i lwyth meibion Reuben ''etifeddiaeth'' trwy en teuluoedd:
{{angor|13:16|16}} A’u terfyn hwynt oedd o Aroer, yr hon ''sydd'' ar fin afon Arnon, a’r ddinas ''sydd'' y’nghanol y dyffryn, a’r holl wastadedd wrth Medeba;
{{angor|13:17|17}} Hesbon a’i holl ddinasoedd, y rhai ''sydd'' yn y gwastadedd; Dibon, a Bamoth-Baal, a Beth-Baal-meon;
{{angor|13:18|18}} Jahasah ''hefyd'', a Cedemoth, a Mephaath;
{{angor|13:19|19}} Ciriathaim ''hefyd'', a Sibmah, a Sareth-sahar, ym mynydd-dir y glyn;
{{angor|13:20|20}} Beth-peor ''hefyd'', ac Asdoth-Pisgah, a Beth-Jesimoth,
{{angor|13:21|21}} A holl ddinasoedd y gwastad-<noinclude><references/></noinclude>
mozxvyyu1fio2ctqcfo5gd541e91o3w