Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.20
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/243
104
3494
171075
6642
2026-09-20T18:22:08Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171075
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>edd, a holl frenhiniaeth Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, yr hwn a ddarfuasai i Moses ei daro, gyd â thywysogion Midian, Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, duciaid Sehon, ''y rhai'' oedd yn preswylio yn y wlad.
{{angor|13:22|22}} ¶ Balaam hefyd mab Beor, y dewin, a laddodd meibion Israel â’r cleddyf, ym mhlith eu lladdedigion hwynt.
{{angor|13:23|23}} A therfyn meibion Reuben oedd yr Iorddonen a’''i'' goror. Dyma etifeddiaeth meibion Reuben, yn ol eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefi.
{{angor|13:24|24}} ¶ Moses ''hefyd'' a roddodd ''etifeddiaeth'' i lwyth Gad, ''sef'' i feibion Gad, trwy eu teuluoedd;
{{angor|13:25|25}} A Jazer oedd derfyn iddynt hwy, a holl ddinasoedd Gilead, a hanner gwlad meibion Ammon, hyd Aroer, yr hon ''sydd'' o flaen Rabbah;
{{angor|13:26|26}} Ac o Hesbon hyd Ramath-Mispeh, a Betonim; ac o Mahanaim hyd gyffinydd Debir;
{{angor|13:27|27}} Ac yn y dyffryn, Beth-Aram, a Beth-Nimrah, a Succoth, a Saphon, gweddill brenhiniaeth Sehon brenhin Hesbon, yr Iorddonen a’i therfyn, hyd gwrr môr Cinneroth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain.
{{angor|13:28|28}} Dyma etifeddiaeth meibion Gad, yn ol eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefydd.
{{angor|13:29|29}} ¶ Moses hefyd a roddodd ''etifeddiaeth'' i hanner llwyth Manasseh: a bu ''etifeddiaeth'' i hanner llwyth meibion Manasse, yn ol eu teuluoedd:
{{angor|13:30|30}} A’u terfyn hwynt oedd o Mahanaim, holl Basan, holl frenhiniaeth Og brenhin Basan, a holl drefi Jair, y rhai ''sydd'' yn Basan, tri ugain dinas;
{{angor|13:31|31}} A hanner Gilead, ac Astaroth, ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og yn Basan, ''a roddodd efe'' i feibion Machir mab Manasseh, ''sef'' i hanner meibion Machir, yn ol eu teuluoedd.
{{angor|13:32|32}} Dyma ''y gwledydd'' a roddodd Moses i’w hetifeddu, yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen a Jericho, o du y dwyrain.
{{angor|13:33|33}} Ond i lwyth Lefi ni roddodd Moses etifeddiaeth: {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel ''yw'' eu hetifeddiaeth hwynt, fel y llefarodd efe wrthynt.
{{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}}
{{bach|1 ''Y naw llwyth a hanner i gael eu hetifeddiaeth wrth goelbren.'' 6 ''Caleb trwy ragorfraint yn cael Hebron.''}}
{{angor|14:1}} {{uc|Dyma}} ''hefyd y gwledydd'' a etifeddodd meibion Israel yng ngwlad Canaan, y rhai a rannodd Eleazar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau cenedl llwythau meibion Israel, iddynt hwy i’w hetifeddu.
{{angor|14:2|2}} Wrth goelbren ''yr oedd'' eu hetifeddiaeth hwynt; fel y gorchymynasai yr {{sc|Arglwydd}} trwy law Moses ''eu rhoddi'' i’r naw llwyth, ac i’r hanner llwyth.
{{angor|14:3|3}} Canys Moses a roddasai etifeddiaeth i ddau lwyth, ac i hanner llwyth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen; ond i’r Lefiaid ni roddasai efe etifeddiaeth yn eu mysg hwynt;
{{angor|14:4|4}} Canys meibion Joseph oedd ddau lwyth, Manasseh ac Ephraim: am hynny ni roddasant ran i’r Lefiaid yn y tir, ond dinasoedd i drigo, a’u meusydd pentrefol i’w hanifeiliaid, ac i’w golud.
{{angor|14:5|5}} Fel y gorchymynasai yr {{sc|Arglwydd}} i Moses, felly y gwnaeth meibion Israel, a hwy a rannasant y wlad.
{{angor|14:6|6}} ¶ Yna meibion Judah a ddaethant at Josua yn Gilgal: a Chaleb mab Jephunneh y Ceneziad a ddywedodd wrtho ef, Tydi a wyddost y gair a lefarodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Moses gwr {{sc|Duw}} o’m plegid i, ac o’th blegid dithau, yn Cades-Barnea.
{{angor|14:7|7}} Mab deugain mlwydd ''oeddwn'' i pan anfonodd Moses gwas yr {{sc|Arglwydd}} fi o Cades-Barnea, i edrych ansawdd y wlad; a mi a ddygais air iddo ef drachefn, fel ''yr oedd'' yn fy nghalon.
{{angor|14:8|8}} Ond fy mrodyr, y rhai a aethant i fynu gyd â mi, a ddigalonnasant y bobl: etto myfi a gyflawnais ''fyned'' ar ol yr {{sc|Arglwydd}} fy {{sc|Nuw}}.
{{angor|14:9|9}} A Moses a dyngodd y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd, Dïau y bydd y wlad y sathrodd dy droed arni, yn etifeddiaeth i ti, ac i’th feibion hyd byth; am i ti gyflawni ''myned'' ar ol yr {{sc|Arglwydd}} fy {{sc|Nuw}}.
{{angor|14:10|10}} Ac yn awr, wele yr {{sc|Arglwydd}} a’m cadwodd yn fyw, fel y llefarodd efe, y pùm mlynedd a deugain hyn, er pan lefarodd yr {{sc|Arglwydd}} y gair hwn wrth Moses, tra y rhodiodd Israel yn yr anialwch: ac yn<noinclude><references/></noinclude>
rczsl14un9ocesu0pbh9u7i04bm4h7n
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/244
104
3495
171076
6643
2026-09-20T18:40:05Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171076
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>awr, wele fi heddyw yn fab pùm mlwydd a phedwar ugain.
{{angor|14:11|11}} Yr ''ydwyf'' etto mor gryf heddyw a’r dydd yr anfonodd Moses fi: fel ''yr oedd'' fy nerth i y pryd hwnnw, felly ''y mae'' fy nerth i yn awr, i ryfela, ac i fyned allan, ac i ddyfod i mewn.
{{angor|14:12|12}} Yn awr gan hynny dyro i mi y mynydd yma, am yr hwn y llefarodd yr {{sc|Arglwydd}} y dwthwn hwnnw, (canys ti a glywaist y dwthwn hwnnw ''fod'' yr Anaciaid yno, a dinasoedd mawrion caerog;) ond odid yr {{sc|Arglwydd}} ''fydd'' gyd â mi, fel y gyrrwyf hwynt allan, megis y llefarodd yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|14:13|13}} A Josua a’i bendithiodd ef, ac a roddodd Hebron i Caleb mab Jephunneh yn etifeddiaeth.
{{angor|14:14|14}} Am hynny mae Hebron yn etifeddiaeth i Caleb mab Jephunneh y Ceneziad hyd y dydd hwn: o herwydd iddo ef gwblhâu ''myned'' ar ol {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel.
{{angor|14:15|15}} Ac enw Hebron o’r blaen ''oedd'' Caer-Arba: ''yr Arba hwnnw oedd'' wr mawr ym mysg yr Anaciaid. A’r wlad a orphwysodd heb ryfel.
{{angor|Pennod_15}}{{c|{{uc|Pennod XV}}.}}
{{bach|1 ''Terfynau rhandir Judah.'' 13 ''Rhan Caleb, a’i oresgyniad.'' 16 ''Othniel am ei wrolaeth yn cael Achsah merch Caleb yn wraig.'' 18 ''Hithau yn cael rhodd gan ei thad.'' 12 ''Dinasoedd Judah.'' 63 ''Y Jebusiaid heb eu gorchfygu.''}}
{{angor|15:1}} {{uc|A rhandir}} llwyth meibion Judah, yn ol eu teuluoedd, ydoedd tu a therfyn Edom: anialwch Sin, tu a’r dehau, ''oedd'' eithaf y terfyn dehau.
{{angor|15:2|2}} A therfyn y dehau oedd iddynt hwy o gwrr y môr heli, o’r graig sydd yn wynebu tu a’r dehau.
{{angor|15:3|3}} Ac yr oedd yn myned allan o’r dehau hyd riw Acrabbim, ac ''yr oedd'' yn myned rhagddo i Sin, ac yn myned i fynu o du y dehau i Cades-Barnea; ac yn myned hefyd i Hesron, ac yn esgyn i Adar, ac yn amgylchynu i Carcaah.
{{angor|15:4|4}} Ac ''yr oedd'' yn myned tu ag Asmon, ac yn myned allan i afon yr Aipht; ac eithafoedd y terfyn hwnnw oedd wrth y môr: hyn fydd i chwi yn derfyn dehau.
{{angor|15:5|5}} A’r terfyn tu a’r dwyrain ''yw'' y môr heli, hyd eithaf yr Iorddonen: a’''r'' terfyn o du y gogledd, ''sydd'' o graig y môr, ''yn'' eithaf yr Iorddonen.
{{angor|15:6|6}} A’r terfyn hwn oedd yn myned i fynu i Beth-Hoglah, ac yn myned o’r gogledd hyd Beth-Arabah; a’r terfyn hwn oedd yn myned i fynu at faen Bohan mab Reuben.
{{angor|15:7|7}} A’r terfyn hwn oedd yn myned i fynu a Debir o ddyffryn Achor, a thu a’r gogledd yn edrych tu a Gilgal, o flaen rhiw Adummim, yr hon ''sydd'' o du y dehau i’r afon: y terfyn hefyd sydd yn myned hyd ddyfroedd En-semes, a’i gwrr eithaf sydd wrth En-rogel.
{{angor|15:8|8}} A’r terfyn sydd yn myned i fynu ''trwy'' ddyffryn meibion Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid o du y dehau, honno ''yw'' Jerusalem: y terfyn hefyd sydd yn myned i fynu i ben y mynydd ''sydd'' o flaen dyffryn Hinnom, tu a’r gorllewin, yr hwn ''sydd'' y’nghwrr glyn y cawri, tu a’r gogledd.
{{angor|15:9|9}} A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd o ben y mynydd hyd ffynnon dyfroedd Nephtoah, ac ''sydd'' yn myned allan i ddinasoedd mynydd Ephron: y terfyn hefyd sydd yn tueddu i Baalah, honno ''yw'' Ciriath-jearim.
{{angor|15:10|10}} A’r terfyn ''sydd'' yn amgylchu o Baalah tu a’r gorllewin, i fynydd Seir, ac ''sydd'' yn myned rhagddo at ystlys mynydd Jearim, o du y gogledd, honno ''yw'' Chesalon, ac y mae yn disgyn i Beth-semes, ac yn myned i Timnah.
{{angor|15:11|11}} A’r terfyn ''sydd'' yn myned i ystlys Ecron, tu a’r gogledd: a’r terfyn sydd yn tueddu i Sicron, ac yn myned rhagddo i fynydd Baalah, ac yn cyrhaeddyd i Jabneel; a chyrrau eithaf y terfyn sydd ''wrth'' y môr.
{{angor|15:12|12}} A therfyn y gorllewin ''yw'' y môr mawr a’i derfyn. Dyma derfyn meibion Judah o amgylch, wrth eu teuluoedd.
{{angor|15:13|13}} ¶ Ac i Caleb mab Jephunneh y rhoddodd efe ran ym mysg meibion Judah, yn ol gair yr {{sc|Arglwydd}} wrth Josua; ''sef'' Caer-Arba, tad yr Anaciaid, honno ''yw'' Hebron.
{{angor|15:14|14}} A Chaleb a yrrodd oddi yno dri mab Anac, Sesai, ac Ahiman, a Thalmai, meibion Anac.
{{angor|15:15|15}} Ac efe a aeth i fynu oddi yno at drigolion Debir; ac enw Debir o’r blaen ''oedd'' Ciriath-Sepher.
{{angor|15:16|16}} ¶ A dywedodd Caleb, Pwy bynnag a darawo Ciriath-Sepher, ac a’i hennillo hi; iddo ef y rhoddaf Achsah fy merch yn wraig.
{{angor|15:17|17}} Ac Othniel mab Cenaz, brawd Caleb, a’i hennillodd hi. Yntau a roddodd Achsah ei ferch iddo ef yn wraig.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
i6qj18bdqrm6hyw1ioopvcmc4ndncq9
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/245
104
3496
171077
6652
2026-09-20T18:57:30Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171077
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|15:18|18}} A phan ddaeth hi i mewn ''atto ef'', yna hi a’i hannogodd ef i geisio gan ei thad faes: ac a ddisgynodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di?
{{angor|15:19|19}} A hi a ddywedodd, Dyro i mi rodd; canys gwlad y dehau a roddaist i mi: dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. Ac efe a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a’r ffynhonnau isaf.
{{angor|15:20|20}} Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Judah, wrth eu teuluoedd.
{{angor|15:21|21}} ¶ A’r dinasoedd o du eithaf i lwyth meibion Judah, tu a therfyn Edom, ar du y dehau, oeddynt Cabseel, ac Eder, a Jagur,
{{angor|15:22|22}} Cinah ''hefyd'', a Dimonah, ac Adadah,
{{angor|15:23|23}} Cedes ''hefyd'', a Hasor, ac Ithnan,
{{angor|15:24|24}} A Ziph, a Thelem, a Bealoth,
{{angor|15:25|25}} A Hasor, Hadattah, a Cirioth, ''a'' Hesron, honno ''yw'' Hasor,
{{angor|15:26|26}} ''Ac'' Amam, a Sema, a Moladah,
{{angor|15:27|27}} A Hasar-Gàdah, a Hesmon, a Bethpalet,
{{angor|15:28|28}} A Hasar-sual, a Beer-seba, a Biziothiah,
{{angor|15:29|29}} Baalah, ac Iim, ac Asem,
{{angor|15:30|30}} Ac Eltolad, a Chesil, a Hormah,
{{angor|15:31|31}} A Siclag, a Madmannah, a Sansannah,
{{angor|15:32|32}} A Lebaoth, a Silhim, ac Ain, a Rimmon: yr holl ddinasoedd ''oedd'' naw ar hugain, a’u pentrefydd.
{{angor|15:33|33}} ''Ac'' yn y dyffryn, Esthaol, a Soreah, ac Asnah,
{{angor|15:34|34}} A Zanoah, ac En-gannim, Tappuah, ac Enam,
{{angor|15:35|35}} Jarmuth, ac Adùlam, Sochoh, ac Azecah,
{{angor|15:36|36}} A Saraim, ac Adithaim, a Gederah, a Gederothaim; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd.
{{angor|15:37|37}} Senan, a Hadasah, a Migdal-Gad,
{{angor|15:38|38}} A Dilean, a Mispeh, a Joctheel,
{{angor|15:39|39}} Lachis, a Boscath, ac Eglon,
{{angor|15:40|40}} Chabbon hefyd, a Lahmam, a Chithlis,
{{angor|15:41|41}} A Gederoth, Beth-Dagon, a Naamah, a Maccedah; un ddinas ar bymtheg, a’u pentrefydd.
{{angor|15:42|42}} Libnah, ac Ether, ac Asan,
{{angor|15:43|43}} A Jiphtah, ac Asnah, a Nesib,
{{angor|15:44|44}} Ceilah hefyd, ac Achzib, a Maresah; naw o ddinasoedd, a’u pentrefi.
{{angor|15:45|45}} Ecron, a’i threfi, a’i phentrefydd:
{{angor|15:46|46}} O Ecron hyd y môr, yr hyn oll ''oedd'' ger llaw Asdod, a’u pentrefydd:
{{angor|15:47|47}} Asdod, a’i threfydd, a’i phentrefydd; Gazah, a’i threfydd, a’i phentrefydd, hyd afon yr Aipht; a’r môr mawr, a’''i'' derfyn.
{{angor|15:48|48}} ¶ Ac yn y mynydd-dir; Samir, a Jattir, a Sochoh,
{{angor|15:49|49}} A Dannah, a Ciriath-sannath, honno ''yw'' Debir,
{{angor|15:50|50}} Ac Anab, ac Astemoh, ac Anim,
{{angor|15:51|51}} A Gosen, a Holon, a Giloh; un ddinas ar ddeg, a’u pentrefydd.
{{angor|15:52|52}} Arab, a Dumah, ac Esean,
{{angor|15:53|53}} A Janum, a Beth-tappuah, ac Aphecah,
{{angor|15:54|54}} A Humtah, a Chaer-Arba, honno ''yw'' Hebron, a Sïor; naw dinas, a’u trefydd.
{{angor|15:55|55}} Maon, Carmel, a Ziph, a Juttah,
{{angor|15:56|56}} A Jezreel, a Jocdeam, a Zanoah,
{{angor|15:57|57}} Cain, Gibeah, a Thimnah; deg o ddinasoedd, a’u pentrefydd.
{{angor|15:58|58}} Halhul, Bethsur, a Gedor,
{{angor|15:59|59}} A Maarath, a Beth-anoth, ac Eltecon; chwech o ddinasoedd, a’u pentrefydd.
{{angor|15:60|60}} Ciriath-baal, honno ''yw'' Ciriath-jearim, a Rabbah; dwy ddinas, a’u pentrefydd.
{{angor|15:61|61}} ¶ Yn yr anialwch; Beth-arabah, Midin, a Sechachah,
{{angor|15:62|62}} A Nibsan, a dinas yr halen, ac En-gedi; chwech o ddinasoedd, a’u pentrefydd.
{{angor|15:63|63}} Ond ni allodd meibion Judah yrru allan y Jebusiaid, trigolion Jerusalem: am hynny y trig y Jebusiaid gyd â meibion Judah yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.
{{angor|Pennod_16}}{{c|{{uc|Pennod XVI}}.}}
{{bach|1 ''Terfynau cyffredinol meibion Joseph.'' 5 ''Terfyn etifeddiaeth Ephraim.'' 10 ''Y Canaaneaid heb eu llwyr-oresgyn.''}}
{{angor|16:1}} {{uc|A rhandir}} meibion Joseph oedd yn myned o’r Iorddonen ''wrth'' Jericho, i ddyfroedd Jericho o du y dwyrain, i’r anialwch sydd yn myned i fynu o Jericho i fynydd Bethel;
{{angor|16:2|2}} Ac yn myned o Bethel i Luz, ac yn myned rhagddo i derfyn Arci i Ataroth;
{{angor|16:3|3}} Ac yn disgyn tu a’r gorllewin i ardal Japhleti, hyd derfyn Beth-horon isaf, ac hyd Gezer: a’''i'' gyrrau eithaf sydd hyd y môr.
{{angor|16:4|4}} Felly meibion Joseph, Manasseh ac Ephraim, a gymmerasant eu hetifeddiaeth.
{{angor|16:5|5}} ¶ A therfyn meibion Ephraim ''oedd'' yn ol eu teuluoedd; a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt o du<noinclude><references/></noinclude>
da7c33econjaonaiy71yj6kqweruwsu
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/246
104
3497
171078
6645
2026-09-21T04:18:32Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171078
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>y dwyrain, oedd Ataroth-adar, hyd Beth-horon uchaf.
{{angor|16:6|6}} A’r terfyn sydd yn myned tu a’r môr, i Michmethath o du y gogledd; a’r terfyn sydd yn amgylchu o du y dwyrain i Taanath-Siloh, ac yn myned heibio iddo o du y dwyrain i Janohah:
{{angor|16:7|7}} Ac yn myned i waered o Janohah, ''i'' Ataroth, a Naarath; ac yn cyrhaeddyd i Jericho, ac yn myned allan i’r Iorddonen.
{{angor|16:8|8}} O Tappuah y mae y terfyn yn myned tu a’r gorllewin i afon Canah; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Ephraim, yn ol eu teuluoedd.
{{angor|16:9|9}} A dinasoedd neillduedig meibion Effraim ''oedd'' ym mysg etifeddiaeth meibion Manasseh; yr holl ddinasoedd, a’u pentrefydd.
{{angor|16:10|10}} Ond ni oresgynasant hwy y Canaaneaid, y rhai oedd yn trigo yn Gezer: am hynny y trigodd y Canaaneaid ym mhlith yr Ephraimiaid hyd y dydd hwn, ac y maent yn gwasanaethu dan dreth.
{{angor|Pennod_17}}{{c|{{uc|Pennod XVII}}.}}
{{bach|1 ''Rhandir Manasseh,'' 7 ''a’i derfynau.'' 12 ''Y Canaaneaid heb eu gyrru allan.'' 14 ''Meibion Joseph yn cael rhandir arall.''}}
{{angor|17:1}} {{uc|Ac}} yr oedd rhandir llwyth Manasseh, (canys efe ''oedd'' gyntaf-anedig Joseph,) i Machir, cyntaf-anedig Manasseh, tad Gilead: o herwydd ei fod efe yn rhyfelwr, yr oedd Gilead a Basan yn eiddo ef.
{{angor|17:2|2}} Ac yr oedd ''rhandir'' i’r rhan arall o feibion Manasseh, yn ol eu teuluoedd; ''sef'' i feibion Abïezer, ac i feibion Helec, ac i feibion Asriel, ac i feibion Sichem, ac i feibion Hepher, ac i feibion Semida: dyma feibion Manasseh mab Joseph, ''sef'' y gwrrywiaid, yn ol eu teuluoedd.
{{angor|17:3|3}} ¶ Ond Salphaad mab Hepher, mab Gilead, mab Machir, mab Manasseh, nid oedd iddo feibion, ond merched: a dyma enwau ei ferched ef; Malah, a Noah, Hoglah, Milcah, a Thirsah:
{{angor|17:4|4}} Y rhai a ddaethant o flaen Eleazar yr offeiriad, ac o flaen Josua mab Nun, ac o flaen y tywysogion, gan ddywedyd, Yr {{sc|Arglwydd}} a orchymynodd i Moses roddi i ni etifeddiaeth ym mysg ein brodyr: am hynny efe a roddodd iddynt etifeddiaeth, yn ol gair yr {{sc|Arglwydd}}, ym mysg brodyr eu tad.
{{angor|17:5|5}} A deg rhandir a syrthiodd i Manasseh heb law gwlad Gilead a Basan, y rhai ''sydd'' tu hwnt i’r Iorddonen;
{{angor|17:6|6}} Canys merched Manasseh a etifeddasant etifeddiaeth ym mysg ei feibion ef: a gwlad Gilead oedd i’r rhan arall o feibion Manasseh.
{{angor|17:7|7}} ¶ A therfyn Manasse oedd o Aser i Michmethath, yr hon ''sydd'' gyferbyn â Sichem; a’r terfyn oedd ym myned ar y llaw ddehau, hyd breswylwyr En-tappuah.
{{angor|17:8|8}} Gwlad Tappuah oedd eiddo Manasseh: ond Tappuah, ''yr hon oedd'' ar derfyn Manasseh, ''oedd'' eiddo meibion Ephraim.
{{angor|17:9|9}} A’r terfyn sydd yn myned i waered i afon Canah, o du dehau yr afon. Y dinasoedd hyn, eiddo Ephraim, ''oedd'' ym mhlith dinasoedd Manasseh: a therfyn Manasseh ''sydd'' o du y gogledd i’r afon, a’i ddiwedd oedd y môr.
{{angor|17:10|10}} Y deau ''oedd'' eiddo Ephraim, a’r gogledd ''eiddo'' Manasseh; a’r môr oedd ei derfyn ef: ac yn Aser yr oeddynt yn cyfarfod, o’r gogledd; ac yn Issachar, o’r dwyrain.
{{angor|17:11|11}} Yn Issachar hefyd ac yn Aser yr oedd gan Manasseh, Beth-sean a’i threfydd, ac Ibleam a’i threfydd, ''a'' thrigolion Dor a’i threfydd, a thrigolion En-dor a’i threfydd, a phreswylwyr Taanach a’i threfydd, a thrigolion Megido a’i threfydd; tair talaeth.
{{angor|17:12|12}} Ond ni allodd meibion Manasseh yrru ymaith ''drigolion'' y dinasoedd hynny; eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno.
{{angor|17:13|13}} Etto pan gryfhaodd meibion Israel, hwy a osodasant y Canaaneaid dan dreth: ni yrrasant hwynt ymaith yn llwyr.
{{angor|17:14|14}} ¶ A meibion Joseph a lefarasant wrth Josua, gan ddywedyd, Paham y rhoddaist i mi, yn etifeddiaeth, un afael ac un rhan, a minnau yn bobl aml, wedi i’r {{sc|Arglwydd}} hyd yn hyn fy mendithio?
{{angor|17:15|15}} A Josua a ddywedodd wrthynt, Os pobl aml ''ydwyt'', dos i fynu i’r coed, a thorr ''goed'' i ti yno y’ngwlad y Phereziaid, a’r cawri, od yw mynydd Ephraim yn gyfyng i ti.
{{angor|17:16|16}} A meibion Joseph a ddywedasant, Ni bydd y mynydd ddigon i ni: hefyd ''y mae'' cerbydau heiyrn gan yr holl Ganaaneaid sydd yn trigo yn y dyffryndir, gan y rhai<noinclude><references/></noinclude>
5j8df5bvzf6kgaqhjsl54x5xzvvq6cn
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/247
104
3498
171079
6646
2026-09-21T04:44:55Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171079
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>''sydd'' yn Beth-sean a’i threfi, a chan y rhai ''sydd'' y’nglyn Jezreel.
{{angor|17:17|17}} A Josua a ddywedodd wrth dŷ Joseph, wrth Ephraim ac wrth Manasseh, gan ddywedyd, Pobl aml ''ydwyt'', a nerth mawr ''sydd'' gennyt: ni fydd i ti un rhan ''yn unig:''
{{angor|17:18|18}} Eithr bydd y mynydd eiddot ti: canys coediog ''yw'', arloesa ef; a bydd ei eithafoedd ef eiddot ti: canys ti a yrri ymaith y Canaaneaid, er bod cerbydau heiyrn ganddynt, ''ac'' er eu ''bod'' yn gryfion.
{{angor|Pennod_18}}{{c|{{uc|Pennod XVIII}}.}}
{{bach|1 ''Gosod y tabernacl i fynu yn Siloh.'' 9 ''Dosparthu y rhan arall o’r tir, a’i gyfrannu yn saith ran.'' 10 ''Josua yn ei rannu wrth goelbren.'' 11 ''Rhandir a therfyn Benjamin:'' 21 ''eu dinasoedd.''}}
{{angor|18:1}} {{uc|A holl}} gynnulleidfa meibion Israel a ymgynnullasant i Siloh, ac a osodasant yno babell y cyfarfod: a’r wlad oedd wedi ei darostwng o’u blaen hwynt.
{{angor|18:2|2}} A saith lwyth oedd yn aros ym mysg meibion Israel, i’r rhai ni rannasent eu hetifeddiaeth etto.
{{angor|18:3|3}} A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Pa hyd ''yr ydych'' yn esgeuluso myned i oresgyn y wlad a roddes {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} eich tadau i chwi?
{{angor|18:4|4}} Moeswch o honoch dri-wŷr o ''bob'' llwyth; fel yr anfonwyf hwynt, ac y cyfodont, ac y rhodiont y wlad, ac y dosparthont hi yn ol eu hetifeddiaeth hwynt; ac y de!ont attaf ''drachefn''.
{{angor|18:5|5}} A hwy a’i rhannant hi yn saith ran. Judah a saif ar ei derfyn o du y dehau, a thŷ Joseph a safant ar eu terfyn o du y gogledd.
{{angor|18:6|6}} A chwi a ddosperthwch y wlad ''yn'' saith ran, a dygwch ''y dosparthiadau'' attaf fi yma; fel y bwriwyf goelbren drosoch yma, o flaen yr {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}}.
{{angor|18:7|7}} Ond ni ''bydd'' rhan i’r Lefiaid yn eich mysg chwi; o herwydd offeiriadaeth yr {{sc|Arglwydd}} ''fydd'' eu hetifeddiaeth hwynt. Gad hefyd, a Reuben, a hanner llwyth Manasseh, a dderbyniasant eu hetifeddiaeth o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain, yr hon a roddodd Moses gwas yr {{sc|Arglwydd}} iddynt.
{{angor|18:8|8}} ¶ A’r gwŷr a gyfodasant, ac a aethant: a Josua a orchymynodd i’r rhai oedd yn myned i rannu y wlad, gan ddywedyd, Ewch, a rhodiwch trwy y wlad, a dosperthwch hi, a dychwelwch attaf fi; ac yma y bwriaf drosoch chwi goelbren ger bron yr {{sc|Arglwydd}} yn Siloh.
{{angor|18:9|9}} A’r gwŷr a aethant ymaith, ac a gerddasant trwy y wlad, ac a’i dosparthasant hi bob yn ddinas, yn saith ran, mewn llyfr; a daethant at Josua i’r gwersyll ''yn'' Siloh.
{{angor|18:10|10}} ¶ A Josua a fwriodd goelbren drostynt hwy ger bron yr {{sc|Arglwydd}} yn Siloh: a Josua a rannodd yno y wlad i feibion Israel yn ol eu rhannau.
{{angor|18:11|11}} ¶ A choelbren llwyth meibion Benjamin a ddaeth i fynu yn ol eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt a aeth allan rhwng meibion Judah a meibion Joseph.
{{angor|18:12|12}} A’r terfyn oedd iddynt hwy tu a’r gogledd o’r Iorddonen: y terfyn hefyd oedd yn myned i fynu gan ystlys Jericho, o du y gogledd, ac yn myned i fynu trwy y mynydd tu a’r gorllewin: a’i gyrrau eithaf oedd yn anialwch Beth-afen.
{{angor|18:13|13}} Y terfyn hefyd sydd yn myned oddi yno i Luz, gan ystlys Luz, honno ''yw'' Bethel, tu a’r dehau; a’r terfyn sydd yn disgyn i Ataroth-adar, i’r mynydd ''sydd'' o du y dehau i Beth-horon isaf.
{{angor|18:14|14}} A’r terfyn sydd yn tueddu, ac yn amgylchu cilfach y môr tu a’r dehau, o’r mynydd ''sydd'' ar gyfer Beth-horon tu a’r dehau; a’i gyrrau eithaf ef ''sydd'' wrth Ciriath-baal, honno ''yw'' Ciriath-jearim, dinas meibion Judah. Dyma du y gorllewin.
{{angor|18:15|15}} A thu y dehau ''sydd'' o gwrr Ciriath-jearim; a’r terfyn sydd yn myned tu a’r gorllewin, ac yn cyrhaeddyd hyd ffynnon dyfroedd Nephtoah.
{{angor|18:16|16}} Y terfyn hefyd sydd yn disgyn tu a chwrr y mynydd ''sydd'' ar gyfer glyn mab Hinnom, yr hwn ''sydd'' yn nyffryn y cawri tu a’r gogledd; ac y mae efe yn disgyn i ddyffryn Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid tu a’r dehau, ac yn dyfod i waered i ffynnon Rogel.
{{angor|18:17|17}} Ac y mae yn tueddu o’r gogledd, ac yn myned i En-semes, ac yn cyrhaeddyd tu a Geliloth, yr hon ''sydd'' gyferbyn â rhiw Adummim, ac yn disgyn ''at'' faen Bohan mab Reuben:
{{angor|18:18|18}} Ac y mae efe yn myned ar hyd yr ystlys ar gyfer Arabah tu a’r gogledd, ac yn disgyn i Arabah.
{{angor|18:19|19}} Y terfyn hefyd sydd yn myned<noinclude><references/></noinclude>
b9tjg7r5udptqflt4tu3an2ct7hjkzf
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/248
104
3499
171080
6649
2026-09-21T05:00:20Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171080
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>rhagddo i ystlys Beth-hoglah tu a’r gogledd: a chwrr eithaf y terfyn oedd wrth làn y môr heli tu a’r gogledd, hyd gwrr yr Iorddonen tu a’r dehau. Dyma derfyn y dehau.
{{angor|18:20|20}} Yr Iorddonen hefyd sydd derfyn iddo o ystlys y dwyrain. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, trwy eu terfynau o amgylch, yn ol eu teuluoedd.
{{angor|18:21|21}} A dinasoedd llwyth meibion Benjamin, yn ol eu teuluoedd, oedd, Jericho, a Beth-hoglah, a glyn Cesis,
{{angor|18:22|22}} A Beth-arabah, a Semaraim, a Bethel,
{{angor|18:23|23}} Ac Afim, a Pharah, ac Ophrah,
{{angor|18:24|24}} A Chephar-haammonai, ac Ophni, a Gaba; deuddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd:
{{angor|18:25|25}} Gibeon, a Ramah, a Beeroth,
{{angor|18:26|26}} A Mispeh, a Chephirah, a Mosah,
{{angor|18:27|27}} A Recem, ac Irpeel, a Tharalah,
{{angor|18:28|28}} A Selah, Eleph, a Jebusi, (honno ''yw'' Jerusalem,) Gibeath, ''a'' Chiriath; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, yn ol eu teuluoedd.
{{angor|Pennod_19}}{{c|{{uc|Pennod XIX}}.}}
{{bach|1 ''Rhandir Simeon,'' 10 ''Zabulon,'' 17 ''Issachar,'' 24 ''Aser,'' 32 ''Naphtali,'' 40 ''a Dan.'' 49 ''Plant Israel yn rhoddi etifeddiaeth i Josua.''}}
{{angor|19:1}} {{uc|A’r}} ail goelbren a aeth allan i Simeon, dros lwyth meibion Simeon, yn ol eu teuluoedd: a’u hetifeddiaeth hwynt oedd o fewn etifeddiaeth meibion Judah.
{{angor|19:2|2}} Ac yr oedd ganddynt hwy, yn eu hetifeddiaeth, Beer-seba, a Seba, a Moladah,
{{angor|19:3|3}} A Hasar-sual, a Balah, ac Asem,
{{angor|19:4|4}} Ac Eltolad, a Bethul, a Hormah,
{{angor|19:5|5}} A Siclag, a Beth-marcaboth, a Hasar-susah,
{{angor|19:6|6}} A Beth-lebaoth, a Saruhen; tair dinas ar ddeg, a’u pentrefydd:
{{angor|19:7|7}} Ain, Rimmon, ac Ether, ac Asan; pedair o ddinasoedd, a’u pentrefydd:
{{angor|19:8|8}} A’r holl bentrefydd y rhai ''oedd'' o amgylch y dinasoedd hyn, hyd Baalath-beer, Ramath ''o''’r dehau. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Simeon, yn ol eu teuluoedd.
{{angor|19:9|9}} O randir meibion Judah ''yr oedd'' etifeddiaeth meibion Simeon: canys rhan meibion Judah oedd ormod iddynt; am hynny meibion Simeon a gawsant eu hetifeddiaeth o fewn eu hetifeddiaeth hwynt.
{{angor|19:10|10}} ¶ A’r trydydd coelbren a ddaeth i fynu dros feibion Zabulon, yn ol eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd hyd Sarid.
{{angor|19:11|11}} A’u terfyn hwynt sydd yn myned i fynu tu a’r môr, a Maralah, ac yn cyrhaeddyd i Dabbaseth; ac yn cyrhaeddyd i’r afon ''sydd'' ar gyfer Jocneam;
{{angor|19:12|12}} Ac yn troi o Sarid, o du y dwyrain tu a chyfodiad haul, hyd derfyn Cisloth-Tabor; ac yn myned i Daberath, ac yn esgyn i Japhia;
{{angor|19:13|13}} Ac yn myned oddi yno ym mlaen tu a’r dwyrain, i Gittah-Hepher, i Ittah-Casin; ac yn myned allan i Rimmon-Methoar, ''i'' Neah.
{{angor|19:14|14}} A’r terfyn sydd yn amgylchu o du y gogledd i Hannathon; a’i ddiweddiad y’nglyn Jiphtahel.
{{angor|19:15|15}} Cattath ''hefyd'', a Nahàlal, a Simron, ac Idalah, a Beth-lehem; deuddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd.
{{angor|19:16|16}} Dyma etifeddiaeth meibion Zabulon, yn ol eu teuluoedd; y dinasoedd yma, a’u pentrefydd.
{{angor|19:17|17}} ¶ Y pedwerydd coelbren a ddaeth allan dros Issachar; dros feibion Issachar, yn ol eu teuluoedd.
{{angor|19:18|18}} A’u terfyn hwynt oedd ''tu a'' Jezreel, a Chesùloth, a Sunem,
{{angor|19:19|19}} A Haphraim, a Sihon, ac Anaharath,
{{angor|19:20|20}} A Rabbith, a Cision, ac Abes,
{{angor|19:21|21}} A Remeth, ac En-gannim, ac En-hàdah, a Beth-passes.
{{angor|19:22|22}} A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd i Tabor, a Sahasimah, a Beth-semes; a’u cyrrau eithaf hwynt yw yr Iorddonen: un ddinas ar bymtheg, a’u pentrefydd.
{{angor|19:23|23}} Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Issachar, yn ol eu teuluoedd; y dinasoedd, a’u pentrefydd.
{{angor|19:24|24}} ¶ A’r pummed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Aser, yn ol eu teuluoedd.
{{angor|19:25|25}} A’u terfyn hwynt oedd, Helcath, a Hali, a Beten, ac Achsaph,
{{angor|19:26|26}} Ac Alammelech, ac Amad, a Misal; ac yn cyrhaeddyd i Carmel tu a’r gorllewin, ac i Sihor-Libnath:
{{angor|19:27|27}} Ac yn troi tu a chyfodiad haul i Beth-dagon, ac yn cyrhaeddyd i Zabulon, ac i ddyffryn Jiphtahel, tu a’r gogledd i Beth-Emec, ac i Neiel, ac yn myned ar y llaw aswy i Cabul;
{{angor|19:28|28}} A Hebron, a Rehob, a Hammon, a Canah, hyd Sidon fawr.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
qye3d0aps2yob9ojl56x4f3oajkljls
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/249
104
3500
171081
6650
2026-09-21T05:14:43Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171081
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|19:29|29}} A’r terfyn sydd yn troi i Ramah, ac hyd Sor, y ddinas gadarn: a’r terfyn sydd yn troi i Hosah; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr, o randir Achzib.
{{angor|19:30|30}} Ummah hefyd, ac Aphec, a Rehob: dwy ddinas ar hugain, a’u pentrefydd.
{{angor|19:31|31}} Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Aser, yn ol eu teuluoedd; y dinasoedd hyn a’u pentrefydd.
{{angor|19:32|32}} ¶ Y chweched coelbren a ddaeth allan i feibion Naphtali, dros feibion Naphtali, yn ol eu teuluoedd.
{{angor|19:33|33}} A’u terfyn hwy oedd o Heleph, o Alon i Saanannim, ac Adami, Neceb, a Jabneel hyd Lacum: a’i gyrrau eithaf oedd ''wrth'' yr Iorddonen.
{{angor|19:34|34}} A’r terfyn sydd yn troi tu a’r gorllewin i Aznoth-Tabor, ac yn myned oddi yno i Huccoc; ac yn cyrhaeddyd i Zabulon o du y dehau, ''ac'' yn cyrhaeddyd i Aser o du y gorllewin, ac i Judah a’r Iorddonen tu a chyfodiad haul.
{{angor|19:35|35}} A’r dinasoedd caerog, Sidim, Ser, a Hammath, Raccath, a Chinnereth,
{{angor|19:36|36}} Ac Adamah, a Ramah, a Hasor,
{{angor|19:37|37}} A Cedes, ac Edrei, ac En-hasor,
{{angor|19:38|38}} Ac Iron, a Migdal-el, Horem, a Beth-anath, a Beth-semes: pedair dinas ar bymtheg, a’u pentrefydd.
{{angor|19:39|39}} Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Naphtali, yn ol eu teuluoedd; y dinasoedd, a’u pentrefydd.
{{angor|19:40|40}} ¶ Y seithfed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Dan, yn ol eu teuluoedd.
{{angor|19:41|41}} A therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd Sorah, ac Estaol, ac Ir-Semes,
{{angor|19:42|42}} A Saalabbin, ac Ajalon, ac Ithlah,
{{angor|19:43|43}} Ac Elon, a Thimnathah, ac Ecron,
{{angor|19:44|44}} Ac Elteceh, a Gibbethon, a Baalath,
{{angor|19:45|45}} A Jehud, a Bene-berac, a Gath-rimmon,
{{angor|19:46|46}} A Meiarcon, a Raccon, gyd â’r terfyn ar gyfer Japho.
{{angor|19:47|47}} A therfyn meibion Dan a aeth yn ''rhy fychan'' iddynt: am hynny meibion Dan a aethant i fynu i ymladd yn erbyn Lesem, ac a’i hennillasant hi; tarawsant hefyd hi â min y cleddyf, a meddiannasant hi, a thrigasant ynddi: a galwasant Lesem yn Dan, yn ol enw Dan eu tad.
{{angor|19:48|48}} Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Dan, yn ol eu teuluoedd; y dinasoedd hyn, a’u pentrefydd.
{{angor|19:49|49}} ¶ Pan orphenasant rannu y wlad yn etifeddiaethau yn ol ei therfynau, meibion Israel a roddasant etifeddiaeth i Josua mab Nun yn eu mysg:
{{angor|19:50|50}} Wrth orchymyn yr {{sc|Arglwydd}} y rhoddasant iddo ef y ddinas a ofynodd efe; ''sef'' Timnath-Serah, ym mynydd Ephraim: ac efe a adeiladodd y ddinas, ac a drigodd ynddi.
{{angor|19:51|51}} Dyma yr etifeddiaethau a roddodd Eleazar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau tadau llwythau meibion Israel, yn etifeddiaeth, wrth goelbren, yn Siloh, o flaen yr {{sc|Arglwydd}}, ''wrth'' ddrws pabell y cyfarfod. Felly y gorphenasant rannu y wlad.
{{angor|Pennod_20}}{{c|{{uc|Pennod XX}}.}}
{{bach|1 ''Duw yn gorchymyn,'' 7 ''a phlant Israel yn ordeinio y chwe dinas noddfa.''}}
{{angor|20:1}} {{uc|A llefarodd}} yr {{sc|Arglwydd}} wrth Josua, gan ddywedyd,
{{angor|20:2|2}} Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Moeswch i chwi ddinasoedd nodded, ''am'' y rhai y lleferais wrthych trwy law Moses:
{{angor|20:3|3}} Fel y ffo yno y llofrudd a laddo ''neb'' mewn amryfusedd, ''neu'' mewn anwybod: a byddant i chwi yn noddfa rhag dïalydd y gwaed.
{{angor|20:4|4}} A phan ffo efe i un o’r dinasoedd hynny, a sefyll ''wrth'' ddrws porth y ddinas, a mynegi ei achosion lle y clywo henuriaid y ddinas honno; cymmerant ef attynt i’r ddinas, a rhoddant le iddo, fel y trigo gyd â hwynt.
{{angor|20:5|5}} Ac os dïalydd y gwaed a erlid ar ei ol ef, na roddant y lleiddiad yn ei law ef: canys mewn anwybod y tarawodd efe ei gymmydog, ac nid oedd gas ganddo ef o’r blaen.
{{angor|20:6|6}} Ac efe a drig yn y ddinas honno, nes iddo sefyll o flaen y gynnulleidfa i farn, ''ac'' nes marw yr archoffeiriad fyddo yn y dyddiau hynny: yna dychweled y llofrudd, a deued i’w ddinas ac i’w dŷ ei hun; ''sef'' y ddinas yr hon y ffoisai efe o honi.
{{angor|20:7|7}} ¶ Am hynny y cyssegrasant Cedes yn Galilee, ym mynydd Naphtali, a Sichem ym mynydd Ephraim, a Chaer-Arba, hon ''yw'' Hebron, ym mynydd Judah.
{{angor|20:8|8}} Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain i Jericho, y rhoddasant Beser yn yr anialwch ar y gwastadedd, o lwyth Reuben, a Ramoth yn<noinclude><references/></noinclude>
1c306m2e64tqnwkhc7jzpn8s39wbat3