Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.20
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/238
104
3489
171094
171064
2026-09-22T16:58:42Z
Tylopous
3717
brenhin
171094
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>iddynt wneuthur cyfammod â hwynt, hwy a glywsant mai cymmydogion iddynt ''oeddynt'' hwy, ac ''mai'' yn eu mysg yr oeddynt yn aros.
{{angor|9:17|17}} A meibion Israel a gychwynasant, ac a ddaethant i’w dinasoedd hwynt y trydydd dydd: a’u dinasoedd hwynt ''oedd'' Gibeon, a Chephirah, Beeroth ''hefyd'', a Chiriath-jearim.
{{angor|9:18|18}} Ond ni tharawodd meibion Israel mo honynt hwy, oblegid tywysogion y gynnulleidfa a dyngasai wrthynt myn {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel: a’r holl gynnulleidfa a rwgnachasant yn erbyn y tywysogion.
{{angor|9:19|19}} A’r holl dywysogion a ddywedasant wrth yr holl gynnulleidfa, Ni a dyngasom wrthynt i {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel: am hynny ni allwn ni yn awr gyffwrdd â hwynt.
{{angor|9:20|20}} Hyn a wnawn ni iddynt hwy: Cadwn hwynt yn fyw, fel na byddo digofaint arnom ni, o herwydd y llw a dyngasom wrthynt.
{{angor|9:21|21}} A’r tywysogion a ddywedasant wrthynt, Byddant fyw, (ond byddant yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i’r holl gynnulleidfa,) fel y dywedasai y tywysogion wrthynt.
{{angor|9:22|22}} ¶ Yna Josua a alwodd arnynt; ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Paham y twyllasoch ni, gan ddywedyd, Pell iawn ''ydym'' ni oddi wrthych; a chwithau yn preswylio yn ein mysg ni?
{{angor|9:23|23}} Yn awr gan hynny melldigedig ydych: ac ni ddïangc un o honoch rhag bod yn ''gaeth''-weision, ac yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i dŷ fy {{sc|Nuw}}.
{{angor|9:24|24}} A hwy a attebasant Josua, ac a ddywedasant, Yn ddïau gan fynegi y mynegwyd i’th weision, ddarfod i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} orchymyn i Moses ei was roddi i chwi yr holl wlad hon, a difetha holl drigolion y wlad o’ch blaen chwi; am hynny yr ofnasom ni yn ddirfawr rhagoch am ein heinioes, ac y gwnaethom y peth hyn.
{{angor|9:25|25}} Ac yn awr, wele ni yn dy law di: fel ''y byddo'' da ac uniawn yn dy olwg wneuthur i ni, gwna.
{{angor|9:26|26}} Ac felly y gwnaeth efe iddynt; ac a’u gwaredodd hwynt o law meibion Israel, fel na laddasant hwynt.
{{angor|9:27|27}} A Josua a’u rhoddodd hwynt y dwthwn hwnnw yn gymmynwyr coed, ac yn wehynwyr dwfr, i’r gynnulleidfa, ac i allor yr {{sc|Arglwydd}}, hyd y dydd hwn, yn y lle a ddewisai efe.
{{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}}
{{bach|5 ''Pùm brenhin yn rhyfela yn erbyn Gibeon.'' 7 ''Josua yn ei hachub hi.'' 10 ''Duw yn ymladd yn eu erbyn hwynt â chenllysg.'' 12 ''Yr haul a’r lleuad yn sefyll ar air Josua.'' 18 ''Cau ar y pùm brenhin mewn ogof.'' 23 ''Eu dwyn allan;'' 24 ''eu dïystyru,'' 26 ''a’u crogi.'' 28 ''Gorchfygu saith brenhin ychwaneg.'' 43 ''Josua yn dychwelyd i Gilgal.''}}
{{angor|10:1}} {{uc|A phan}} glybu Adonisedec brenhin Jerusalem i Josua ennill Ai, a’i difrodi hi, (fel y gwnelsai efe i Jericho ac i’w brenhin, felly y gwnaethai efe i Ai ac i’w brenhin,) a heddychu o drigolion Gibeon âg Israel, a’u bod yn eu mysg hwynt:
{{angor|10:2|2}} Yna yr ofnasant yn ddirfawr; oblegid dinas fawr ''oedd'' Gibeon, fel un o’r dinasoedd brenhinol; ac o herwydd ei ''bod'' yn fwy nag Ai; ei holl wŷr hefyd ''oedd'' gedyrn.
{{angor|10:3|3}} Am hynny Adonisedec brenhin Jerusalem a anfonodd at Hoham brenhin Hebron, ac at Piram brenhin Jarmuth, ac at Japhia brenhin Lachis, ac at Debir brenhin Eglon, gan ddywedyd,
{{angor|10:4|4}} Deuwch i fynu attaf fi, a chynnorthwywch fi, fel y tarawom ni Gibeon: canys hi a heddychodd â Josua, ac â meibion Israel.
{{angor|10:5|5}} Am hynny pùm brenhin yr Amoriaid a ymgynnullasant, ac a ddaethant i fynu, ''sef'' brenhin Jerusalem, brenhin Hebron, brenhin Jarmuth, brenhin Lachis, ''a'' brenhin Eglon, hwynt-hwy a’u holl fyddinoedd, ac a wersyllasant wrth Gibeon, ac a ryfelasant yn ei herbyn hi.
{{angor|10:6|6}} ¶ A gwŷr Gibeon a anfonasant at Josua i’r gwersyll i Gilgal, gan ddywedyd, Na thỳn ymaith dy ddwylaw oddi wrth dy weision: tyred i fynu yn fuan attom ni, achub ni ''hefyd'', a chynnorthwya ni: canys holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai sydd yn trigo yn y mynydd-dir, a ymgynnullasant i’n herbyn ni.
{{angor|10:7|7}} Felly Josua a esgynodd o Gilgal, efe a’r holi bobl o ryfel gyd âg ef, a’r holl gedyrn nerthol.
{{angor|10:8|8}} ¶ A’r {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt: canys yn dy law di y rhoddais hwynt; ni saif neb o honynt yn dy wyneb di.
{{angor|10:9|9}} Josua gan hynny a ddaeth yn ddïattreg attynt hwy: ''canys'' ar hyd y nos yr aeth efe i fynu o Gilgal.
{{angor|10:10|10}} A’r {{sc|Arglwydd}} a’u drylliodd hwynt o flaen Israel, ac a’u tarawodd hwynt â lladdfa fawr yn Gibeon, ac<noinclude><references/></noinclude>
a3xqwolo817kpw48omyknzwdz51sb80
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/239
104
3490
171095
171065
2026-09-22T16:59:20Z
Tylopous
3717
brenhin
171095
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>a’u hymlidiodd hwynt ffordd yr eir i fynu i Beth-horon, ac a’u tarawodd hwynt hyd Azecah, ac hyd Maccedah.
{{angor|10:11|11}} A phan oeddynt yn ffoi o flaen Israel, ''a'' hwy y’ngoriwaered Beth-horon, yr {{sc|Arglwydd}} a fwriodd arnynt hwy gerrig mawrion o’r nefoedd hyd Azecah; a buant feirw: amlach ''oedd'' y rhai a fu feirw gan y cerrig cenllysg, na’r ''rhai'' a laddodd meibion Israel â’r cleddyf.
{{angor|10:12|12}} ¶ Llefarodd Josua wrth yr {{sc|Arglwydd}} y dydd y rhoddodd yr {{sc|Arglwydd}} yr Amoriaid o flaen meibion Israel: ac efe a ddywedodd y’ngolwg Israel, O haul, aros yn Gibeon; a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon.
{{angor|10:13|13}} A’r haul a arhosodd, a’r lleuad a safodd, nes i’r genedl ddïal ar eu gelynion. Onid ''yw'' hyn yn ysgrifenedig yn llyfr yr Uniawn? Felly yr haul a safodd y’nghanol y nefoedd, ac ni frysiodd i fachludo dros ddiwrnod cyfan.
{{angor|10:14|14}} Ac ni bu y fath ddiwrnod a hwnnw o’i flaen ef, nac ar ei ol ef, fel y gwrandawai yr {{sc|Arglwydd}} ar lef dyn: canys yr {{sc|Arglwydd}} a ymladdodd dros Israel.
{{angor|10:15|15}} ¶ A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gyd âg ef, i’r gwersyll i Gilgal.
{{angor|10:16|16}} Ond y pùm brenhin hynny a ffoisant, ac a ymguddiasant mewn ogof ym Maccedah.
{{angor|10:17|17}} A mynegwyd i Josua, gan ddywedyd, Y pùm brenhin a gafwyd y’nghûdd mewn ogof ym Maccedah.
{{angor|10:18|18}} A dywedodd Josua, Treiglwch feini mawrion ar enau yr ogof, a gosodwch wrthi wŷr i’w cadw hwynt:
{{angor|10:19|19}} Ac na sefwch chwi; erlidiwch ar ol eich gelynion, a tharêwch y rhai olaf o honynt; na adêwch iddynt fyned i’w dinasoedd: canys yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} a’u rhoddodd hwynt yn eich llaw chwi.
{{angor|10:20|20}} A phan ddarfu i Josua a meibion Israel eu taro hwynt â lladdfa fawr iawn, nes eu difa; yna y gweddillion a adawsid o honynt a aethant i’r dinasoedd caerog.
{{angor|10:21|21}} A’r holl bobl a ddychwelasant i’r gwersyll at Josua ym Maccedah mewn heddwch, heb symmud o neb ei dafod yn erbyn meibion Israel.
{{angor|10:22|22}} A Josua a ddywedodd, Agorwch enau yr ogof, a dygwch allan y pùm brenhin hynny attaf fi o’r ogof.
{{angor|10:23|23}} A hwy a wnaethant felly, ac a ddygasant allan y pùm brenhin atto ef o’r ogof; ''sef'' brenhin Jerusalem, brenhin Hebron, brenhin Jarmuth, brenhin Lachis, ''a'' brenhin Eglon.
{{angor|10:24|24}} A phan ddygasant hwy y brenhinoedd hynny at Josua, yna Josua a alwodd am holl wŷr Israel, ac a ddywedodd wrth dywysogion y rhyfelwyr, y rhai a aethai gyd âg ef, Nesêwch, gosodwch eich traed ar yddfau y brenhinoedd hyn. A hwy a nesasant, ac a osodasant eu traed ar eu gyddfau hwynt.
{{angor|10:25|25}} A Josua a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch, ac nac arswydwch; ''eithr'' ymwrolwch, ac ymegnïwch: canys fel hyn y gwna yr {{sc|Arglwydd}} i’ch holl elynion yr ydych chwi yn ymladd i’w herbyn.
{{angor|10:26|26}} Ac wedi hyn Josua a’u tarawodd hwynt, ac a’u rhoddodd i farwolaeth, ac a’u crogodd hwynt ar bùm pren: a buant y’nghrog ar y prennau hyd yr hwyr.
{{angor|10:27|27}} Ac ym mhryd machludo haul, y gorchymynodd Josua iddynt eu disgyn hwynt oddi ar y prennau, a’u bwrw hwynt i’r ogof yr ymguddiasant ynddi; a bwriasant gerrig mawrion y’ngenau yr ogof, ''y rhai sydd yno'' hyd gorph y dydd hwn.
{{angor|10:28|28}} ¶ Josua hefyd a ennillodd Maccedah y dwthwn hwnnw, ac a’i tarawodd hi â min y cleddyf, ac a ddifrododd ei brenhin hi, hwynt-hwy, a phob enaid ag ''oedd'' ynddi; ni adawodd efe ''un'' gweddill: canys efe a wnaeth i frenhin Maccedah, fel y gwnaethai i frenhin Jericho.
{{angor|10:29|29}} ¶ Yna yr aeth Josua a holl Israel gyd âg ef o Maccedah i Libnah, ac a ymladdodd yn erbyn Libnah.
{{angor|10:30|30}} A’r {{sc|Arglwydd}} a’i rhoddodd hithau, a’r brenhin, yn llaw Israel; ac yntau a’i tarawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid a’r ''oedd'' ynddi; ni adawodd ynddi ''un'' yng ngweddill: canys efe a wnaeth i’w brenhin hi fel y gwnelsai i frenhin Jericho.
{{angor|10:31|31}} ¶ A Josua a dramwyodd, a holl Israel gyd âg ef, o Libnah i Lachis; ac a wersyllodd wrthi, ac a ymladdodd i’w herbyn.
{{angor|10:32|32}} A’r {{sc|Arglwydd}} a roddodd Lachis yn llaw Israel; yr hwn a’i hennillodd hi yr ail ddydd, ac a’i tarawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid ag ''oedd'' ynddi, yn ol yr hyn oll a wnaethai efe i Libnah.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
k7xwdnbam3xfhim1mrbv05qr1nsnu0d
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/246
104
3497
171096
171078
2026-09-22T17:01:09Z
Tylopous
3717
dehau
171096
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>y dwyrain, oedd Ataroth-adar, hyd Beth-horon uchaf.
{{angor|16:6|6}} A’r terfyn sydd yn myned tu a’r môr, i Michmethath o du y gogledd; a’r terfyn sydd yn amgylchu o du y dwyrain i Taanath-Siloh, ac yn myned heibio iddo o du y dwyrain i Janohah:
{{angor|16:7|7}} Ac yn myned i waered o Janohah, ''i'' Ataroth, a Naarath; ac yn cyrhaeddyd i Jericho, ac yn myned allan i’r Iorddonen.
{{angor|16:8|8}} O Tappuah y mae y terfyn yn myned tu a’r gorllewin i afon Canah; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Ephraim, yn ol eu teuluoedd.
{{angor|16:9|9}} A dinasoedd neillduedig meibion Effraim ''oedd'' ym mysg etifeddiaeth meibion Manasseh; yr holl ddinasoedd, a’u pentrefydd.
{{angor|16:10|10}} Ond ni oresgynasant hwy y Canaaneaid, y rhai oedd yn trigo yn Gezer: am hynny y trigodd y Canaaneaid ym mhlith yr Ephraimiaid hyd y dydd hwn, ac y maent yn gwasanaethu dan dreth.
{{angor|Pennod_17}}{{c|{{uc|Pennod XVII}}.}}
{{bach|1 ''Rhandir Manasseh,'' 7 ''a’i derfynau.'' 12 ''Y Canaaneaid heb eu gyrru allan.'' 14 ''Meibion Joseph yn cael rhandir arall.''}}
{{angor|17:1}} {{uc|Ac}} yr oedd rhandir llwyth Manasseh, (canys efe ''oedd'' gyntaf-anedig Joseph,) i Machir, cyntaf-anedig Manasseh, tad Gilead: o herwydd ei fod efe yn rhyfelwr, yr oedd Gilead a Basan yn eiddo ef.
{{angor|17:2|2}} Ac yr oedd ''rhandir'' i’r rhan arall o feibion Manasseh, yn ol eu teuluoedd; ''sef'' i feibion Abïezer, ac i feibion Helec, ac i feibion Asriel, ac i feibion Sichem, ac i feibion Hepher, ac i feibion Semida: dyma feibion Manasseh mab Joseph, ''sef'' y gwrrywiaid, yn ol eu teuluoedd.
{{angor|17:3|3}} ¶ Ond Salphaad mab Hepher, mab Gilead, mab Machir, mab Manasseh, nid oedd iddo feibion, ond merched: a dyma enwau ei ferched ef; Malah, a Noah, Hoglah, Milcah, a Thirsah:
{{angor|17:4|4}} Y rhai a ddaethant o flaen Eleazar yr offeiriad, ac o flaen Josua mab Nun, ac o flaen y tywysogion, gan ddywedyd, Yr {{sc|Arglwydd}} a orchymynodd i Moses roddi i ni etifeddiaeth ym mysg ein brodyr: am hynny efe a roddodd iddynt etifeddiaeth, yn ol gair yr {{sc|Arglwydd}}, ym mysg brodyr eu tad.
{{angor|17:5|5}} A deg rhandir a syrthiodd i Manasseh heb law gwlad Gilead a Basan, y rhai ''sydd'' tu hwnt i’r Iorddonen;
{{angor|17:6|6}} Canys merched Manasseh a etifeddasant etifeddiaeth ym mysg ei feibion ef: a gwlad Gilead oedd i’r rhan arall o feibion Manasseh.
{{angor|17:7|7}} ¶ A therfyn Manasse oedd o Aser i Michmethath, yr hon ''sydd'' gyferbyn â Sichem; a’r terfyn oedd ym myned ar y llaw ddehau, hyd breswylwyr En-tappuah.
{{angor|17:8|8}} Gwlad Tappuah oedd eiddo Manasseh: ond Tappuah, ''yr hon oedd'' ar derfyn Manasseh, ''oedd'' eiddo meibion Ephraim.
{{angor|17:9|9}} A’r terfyn sydd yn myned i waered i afon Canah, o du dehau yr afon. Y dinasoedd hyn, eiddo Ephraim, ''oedd'' ym mhlith dinasoedd Manasseh: a therfyn Manasseh ''sydd'' o du y gogledd i’r afon, a’i ddiwedd oedd y môr.
{{angor|17:10|10}} Y dehau ''oedd'' eiddo Ephraim, a’r gogledd ''eiddo'' Manasseh; a’r môr oedd ei derfyn ef: ac yn Aser yr oeddynt yn cyfarfod, o’r gogledd; ac yn Issachar, o’r dwyrain.
{{angor|17:11|11}} Yn Issachar hefyd ac yn Aser yr oedd gan Manasseh, Beth-sean a’i threfydd, ac Ibleam a’i threfydd, ''a'' thrigolion Dor a’i threfydd, a thrigolion En-dor a’i threfydd, a phreswylwyr Taanach a’i threfydd, a thrigolion Megido a’i threfydd; tair talaeth.
{{angor|17:12|12}} Ond ni allodd meibion Manasseh yrru ymaith ''drigolion'' y dinasoedd hynny; eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno.
{{angor|17:13|13}} Etto pan gryfhaodd meibion Israel, hwy a osodasant y Canaaneaid dan dreth: ni yrrasant hwynt ymaith yn llwyr.
{{angor|17:14|14}} ¶ A meibion Joseph a lefarasant wrth Josua, gan ddywedyd, Paham y rhoddaist i mi, yn etifeddiaeth, un afael ac un rhan, a minnau yn bobl aml, wedi i’r {{sc|Arglwydd}} hyd yn hyn fy mendithio?
{{angor|17:15|15}} A Josua a ddywedodd wrthynt, Os pobl aml ''ydwyt'', dos i fynu i’r coed, a thorr ''goed'' i ti yno y’ngwlad y Phereziaid, a’r cawri, od yw mynydd Ephraim yn gyfyng i ti.
{{angor|17:16|16}} A meibion Joseph a ddywedasant, Ni bydd y mynydd ddigon i ni: hefyd ''y mae'' cerbydau heiyrn gan yr holl Ganaaneaid sydd yn trigo yn y dyffryndir, gan y rhai<noinclude><references/></noinclude>
08ok0djgzctlpzs6sq8u5ksyhmbe7gc
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/254
104
3505
171091
6660
2026-09-22T16:35:43Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171091
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>blaen chwi; ond byddant i chwi yn fagl ac yn dramgwydd, ac yn ffrewyll yn eich ystlysau, ac yn ddrain yn eich llygaid, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma yr hon a roddodd yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} i chwi.
{{angor|23:14|14}} Ac wele fi yn myned heddyw i ffordd yr holl ddaear: a chwi a wyddoch yn eich holl galonnau, ac yn eich holl eneidiau, na phallodd dim o’r holl bethau daionus a lefarodd yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} am danoch chwi; hwy a ddaethant oll i chwi, ''ac'' ni phallodd dim o honynt.
{{angor|23:15|15}} Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} wrthych; felly y dwg yr {{sc|Arglwydd}} arnoch chwi bob peth drygionus, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma a roddodd yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} i chwi.
{{angor|23:16|16}} Pan droseddoch gyfammod yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}}, a orchymynodd efe i chwi, a myned a gwasanaethu duwiau dïeithr, ac ymgrymmu iddynt; yna y llidia digofaint yr {{sc|Arglwydd}} yn eich erbyn chwi, ac y cyfrgollir chwi yn ebrwydd o’r wlad dda yma a roddodd efe i chwi.
{{angor|Pennod_24}}{{c|{{uc|Pennod XXIV}}.}}
{{bach|1 ''Josua yn cynnull y llwythau yn Sichem.'' 2 ''Ystori ferr o fendithion Duw er amser Terah.'' 14 ''Mae efe yn adnewyddu cyfammod rhyngddynt hwy a Duw.'' 26 ''Carreg yn dyst o’r cyfammod.'' 29 ''Oedran Jusua; ei farwolaeth, a’i gladdedigaeth.'' 32 ''Claddu esgyrn Joseph.'' 33 ''Marwolaeth Eleazar.''}}
{{angor|24:1}} {{uc|A Josua}} a gynnullodd holl lwythau Israel i Sichem; ac a alwodd am henuriaid Israel, ac am eu pennaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion: a hwy a safasant ger bron {{sc|Duw}}.
{{angor|24:2|2}} A dywedodd Josua wrth yr holl bobl, Fel hyn y dywed {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel; Tu hwnt i’r afon y trigodd eich tadau chwi gynt, ''sef'' Terah tad Abraham, a thad Nachor: a hwy a wasanaethasant dduwiau dïeithr.
{{angor|24:3|3}} Ac mi a gymmerais eich tad Abraham ymaith o’r tu hwnt i’r afon, ac a’i harweiniais ef trwy holl wlad Canaan, ac a amlheais hefyd ei had ef, ac a roddais iddo Isaac.
{{angor|24:4|4}} Ac i Isaac y rhoddais Jacob ac Esau: ac i Esau y rhoddais fynydd Seir i’w etifeddu; ond Jacob a’i feibion a aethant i waered i’r Aipht.
{{angor|24:5|5}} A mi a anfonais Moses ac Aaron, ac a darewais yr Aiphtiaid, yn ol yr hyn a wneuthum yn eu mysg: ac wedi hynny y dygais chwi allan,
{{angor|24:6|6}} Ac a ddygais eich tadau chwi allan o’r Aipht: a chwi a ddaethoch at y môr; a’r Aiphtiaid a erlidiodd ar ol eich tadau â cherbydau, ac â gwŷr meirch, hyd y môr coch.
{{angor|24:7|7}} A phan waeddasant ar yr {{sc|Arglwydd}}, efe a osododd dywyllwch rhyngoch chwi a’r Aiphtiaid, ac a ddug y môr arnynt hwy, ac a’u gorchuddiodd: eich llygaid chwi a welsant yr hyn a wneuthum yn yr Aipht: trigasoch ''hefyd'' yn yr anialwch ddyddiau lawer.
{{angor|24:8|8}} A mi a’ch dygais i wlad yr Amoriaid, y rhai oedd yn trigo o’r tu hwnt i’r Iorddonen; a hwy a ymladdasant i’ch erbyn: a myfi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi, fel y meddiannasoch eu gwlad hwynt; a minnau a’u difethais hwynt o’ch blaen chwi.
{{angor|24:9|9}} Yna Balac mab Sippor brenhin Moab, a gyfododd, ac a ryfelodd yn erbyn Israel; ac a anfonodd, ac a alwodd am Balaam mab Beor, i’ch melldigo chwi.
{{angor|24:10|10}} Ond ni fynnwn i wrandaw ar Balaam; am hynny gan fendithio y bendithiodd efe chwi: felly y gwaredais chwi o’i law ef.
{{angor|24:11|11}} A chwi a aethoch dros yr Iorddonen, ac a ddaethoch i Jericho: a gwŷr Jericho a ymladdodd i’ch erbyn, yr Amoriaid, a’r Phereziaid, a’r Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Girgasiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; a mi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi.
{{angor|24:12|12}} A mi a anfonais gaccwn o’ch blaen chwi, a’''r rhai hynny'' a’u gyrrodd hwynt allan o’ch blaen chwi; ''sef'' dau frenhin yr Amoriaid: nid â’th gleddyf di, ac nid â’th fwa.
{{angor|24:13|13}} A mi a roddais i chwi wlad ni lafuriasoch am dani, a dinasoedd y rhai nid adeiladasoch, ac yr ydych yn trigo ynddynt: o’r gwinllannoedd a’r olew-lannoedd ni phlanasoch, yr ydych yn bwytta o honynt.
{{angor|24:14|14}} ¶ Yn awr gan hynny ofnwch yr {{sc|Arglwydd}}, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o’r tu hwnt<noinclude><references/></noinclude>
tg3lheobuxpu3mikjqj8p14qjv6s4nm
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/255
104
3506
171092
6661
2026-09-22T16:47:40Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171092
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>i’r afon, ac yn yr Aipht; a gwasanaethwch chwi yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|24:15|15}} Ac od yw ddrwg yn eich golwg wasanaethu yr {{sc|Arglwydd}}, dewiswch i chwi heddyw pa un a wasanaethoch, ai y duwiau a wasanaethodd eich tadau, y rhai ''oedd'' o’r tu hwnt i’r afon, ai ynte duwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond myfi, mi a’m tylwyth a wasanaethwn yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|24:16|16}} Yna yr attebodd y bobl, ac y dywedodd, Na atto {{sc|Duw}} i ni adael yr {{sc|Arglwydd}}, i wasanaethu duwiau dïeithr;
{{angor|24:17|17}} Canys yr {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}} yw yr hwn a’n dug ni i fynu a’n tadau o wlad yr Aipht, o dŷ y caethiwed; a’r hwn a wnaeth y rhyfeddodau mawrion hynny yn ein gŵydd ni, ac a’n cadwodd ni yn yr holl ffordd y rhodiasom ynddi, ac ym mysg yr holl bobloedd y tramwyasom yn eu plith:
{{angor|24:18|18}} A’r {{sc|Arglwydd}} a yrrodd allan yr holl bobloedd, a’r Amoriaid, preswylwyr y wlad, o’n blaen ni: ''am hynny'' ninnau a wasanaethwn yr {{sc|Arglwydd}}; canys efe ''yw'' ein {{sc|Duw}} ni.
{{angor|24:19|19}} A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ni ellwch wasanaethu yr {{sc|Arglwydd}}; canys {{sc|Duw}} sancteiddiol ''yw'' efe: {{sc|Duw}} eiddigus yw; ni ddïoddef efe eich anwiredd, na’ch pechodau.
{{angor|24:20|20}} O gwrthodwch yr {{sc|Arglwydd}}, a gwasanaethu duwiau dïeithr; yna efe a dry, ac a’ch dryga chwi, ac efe a’ch difa chwi, wedi iddo wneuthur i chwi ddaioni.
{{angor|24:21|21}} A’r bobl a ddywedodd wrth Josua, Nag ê; eithr ni a wasanaethwn yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|24:22|22}} A dywedodd Josua wrth y bobl, Tystion ''ydych'' yn eich erbyn eich hun, ddewis o honoch i chwi yr {{sc|Arglwydd}} i’w wasanaethu. Dywedasant hwythau, Tystion ''ydym''.
{{angor|24:23|23}} Am hynny yn awr, ''eb efe'', bwriwch ymaith y duwiau dïeithr ''sydd'' yn eich mysg, a gostyngwch eich calon at {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel.
{{angor|24:24|24}} A’r bobl a ddywedasant wrth Josua, Yr {{sc|Arglwydd}} ein {{sc|Duw}} a wasanaethwn, ac ar ei lais ef y gwrandâwn.
{{angor|24:25|25}} Felly Josua a wnaeth gyfammod â’r bobl y dwthwn hwnnw, ac a osododd iddynt ddeddfau a barnedigaethau, yn Sichem.
{{angor|24:26|26}} ¶ A Josua a ysgrifenodd y geiriau hyn yn llyfr cyfraith {{sc|Dduw}}, ac a gymmerth faen mawr, ac a’i gosododd i fynu yno dan dderwen ''oedd'' yn agos i gyssegr yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|24:27|27}} A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl, Wele, y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni; canys efe a glywodd holl eiriau yr {{sc|Arglwydd}}, y rhai a lefarodd efe wrthym: am hynny y bydd efe yn dystiolaeth i chwi, rhag i chwi wadu eich {{sc|Duw}}.
{{angor|24:28|28}} Felly Josua a ollyngodd y bobl, bob un i’w etifeddiaeth.
{{angor|24:29|29}} ¶ Ac wedi y pethau hyn, y bu farw Josua mab Nun, gwas yr {{sc|Arglwydd}}, yn fab dengmlwydd a chant.
{{angor|24:30|30}} A hwy a’i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath-serah; yr hon ''sydd'' ym mynydd Ephraim, o du y gogledd i fynydd Gaas.
{{angor|24:31|31}} Ac Israel a wasanaethodd yr {{sc|Arglwydd}} holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid a fu fyw ar ol Josua, ac a wybuasent holl waith yr {{sc|Arglwydd}} a wnaethai efe er Israel.
{{angor|24:32|32}} ¶ Ac esgyrn Joseph, y rhai a ddygasai meibion Israel i fynu o’r Aipht, a gladdasant hwy yn Sichem, mewn rhan o’r maes a brynasai Jacob gan feibion Hemor tad Sichem, er càn darn o arian; a bu i feibion Joseph yn etifeddiaeth.
{{angor|24:33|33}} ¶ Ac Eleazar mab Aaron a fu farw: a chladdasant ef ym mryn Phinees ei fab, yr hwn a roddasid iddo ef ym mynydd Ephraim.<noinclude><references/></noinclude>
bv60tsz4k8biwfrjk5y0d7r70jinree
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/256
104
3507
171093
6664
2026-09-22T16:49:04Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171093
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr y barnwyr.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 A wedi marw Josua, meibion Israel a ymofynasant â’r ARGLWYDD, gan ddywedyd, Pwy a â i fyny drosom ni yn erbyn y Canaaneaid yn flaenaf, i ymladd â hwynt?
1:2 A dywedodd yr ARGLWYDD, Jwda a â i fyny: wele, rhoddais y wlad yn ei law ef.
1:3 A Jwda a ddywedodd wrth Simeon ei frawd. Tyred i fyny gyda mi i’m rhandir, fel yr ymladdom yn erbyn y Canaaneaid; a minnau a af gyda thi i’th randir dithau. Felly Simeon a aeth gydag ef.
1:4 A Jwda a aeth i fyny; a’r ARGLWYDD a roddodd y Canaaneaid a’r Pheresiaid yn eu llaw hwynt: a lladdasant ohonynt, yn Besec, ddengmil o wŷr.
1:5 A hwy a gawsant Adoni-besec yn Besec: ac a ymladdasant yn ei erbyn; ac a laddasant y Canaaneaid a’r Pheresiaid.
1:6 Ond Adoni-besec a ffodd; a hwy a erlidiasant ar ei ôl ef, ac a’i daliasant ef, ac a dorasant fodiau ei ddwylo ef a’i draed.
1:7 Ac Adoni-besec a ddywedodd, Deg a thrigain o frenhinoedd, wedi torri bodiau eu dwylo a’u traed, a fu yn casglu eu bwyd dan fy mwrdd i: fel y gwneuthum, felly y talodd Duw i mi. A hwy a’i dygasant ef i Jerwsalem; ac efe a fu farw yno.
1:8 A meibion Jwda a ymladdasant yn erbyn Jerwsalem; ac a’i henillasant hi, ac a’i trawsant â min y cleddyf; a llosgasant y ddinas â thân.
1:9 Wedi hynny meibion Jwda a aethant i waered i ymladd yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn y mynydd, ac yn y deau, ac yn y gwastadedd.
1:10 A Jwda a aeth yn erbyn y Canaan¬eaid oedd yn trigo yn Hebron: (ac enw Hebron o’r blaen oedd Caer-Arba:) a hwy a laddasant Sesai, ac Ahiman, a
Thalmai.
1:11 Ac efe a aeth oddi yno at drigolion Debir: (ac enw Debir o’r blaen oedd Ciriath-seffer:)
1:12 A dywedodd Caleb, Yr hwn a drawo Ciriath-seffer, ac a’i henillo hi, mi a roddaf Achsa fy merch yn wraig iddo.
1:13 Ac Othniel mab Cenas, brawd Caleb, ieuangach nag ef, a’i henillodd hi. Yntau a roddes Achsa ei ferch yn wraig iddo.
1:14 A phan ddaeth hi i mewn ato ef, hi a’i hanogodd ef i geisio gan ei thad ryw faes: a hi a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di?
1:15 A hi a ddywedodd wrtho, Dyro i mi fendith: canys gwlad y deau a roddaist i mi; dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. A Caleb a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a’r ffynhonnau isaf.
1:16 A meibion Ceni, chwegrwn Moses, a aethant i fyny o ddinas y palmwydd gyda meibion Jwda, i anialwch Jwda, yr hwn sydd yn neau Arad: a hwy a aethant ac a drigasant gyda’r bobl.
1:17 A Jwda a aeth gyda Simeon ei frawd: a hwy a drawsant y Canaaneaid oedd yn preswylio yn Seffath, ac a’i difrodasant hi. Ac efe a alwodd enw y ddinas Horma.
1:18 Jwda hefyd a enillodd Gasa a’i therfynau, ac Ascalon a’i therfynau, ac Ecron a’i therfynau.
1:19 A’r ARGLWYDD oedd gyda Jwda; ac efe a oresgynnodd y mynydd: ond ni allai efe yrru allan drigolion y dyffryn; canys cerbydau heyrn oedd ganddynt.
1:20 Ac i Caleb y rhoesant Hebron; fel y llefarasai Moses: ac efe a yrrodd oddi yno dri mab Anac.
1:21 Ond meibion Benjamin ni yrasant allan y Jebusiaid y rhai oedd yn pres¬wylio yn Jerwsalem: ond y mae y Jebus¬iaid yn trigo yn Jerwsalem gyda meibion Benjamin hyd y dydd hwn.
1:22 A thŷ Joseff, hwythau hefyd a aethant i fyny yn erbyn Bethel: a’r ARGLWYDD oedd gyda hwynt.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
d8pkozmnfwszeucq0ganc3d0af0ku0j
171097
171093
2026-09-23T05:48:31Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171097
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr y barnwyr.}}}}}}
{{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}}
{{bach|1 ''Gweithredoedd Judah a Simeon.'' 6 ''Adoni-bezec yn cael talu y pwyth iddo yn uniawn.'' 8 ''Ennill Jerusalem.'' 10 ''Ennill Hebron.'' 13 ''Othniel yn cael Achsah yn wraig am ennill Debir.'' 16 ''Y Ceneaid yn preswylio yn Judah.'' 17 ''Ennill Hormah, Gazah, Ascalon, ac Ecron.'' 21 ''Gweithredoedd Benjamin.'' 22 ''Am dŷ Joseph, yr hwn a ennillodd Bethel.'' 30 ''Am Zabulon,'' 31 ''Aser,'' 33 ''Naphtali,'' 34 ''a Dan.''}}
{{angor|1:1}} {{uc|Ac}} wedi marw Josua, meibion Israel a ymofynasant â’r {{sc|Arglwydd}}, gan ddywedyd, Pwy a â i fynu drosom ni yn erbyn y Canaaneaid yn flaenaf, i ymladd â hwynt?
{{angor|1:2|2}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}}, Judah a â i fynu: wele, rhoddais y wlad yn ei law ef.
{{angor|1:3|3}} A Judah a ddywedodd wrth Simeon ei frawd, Tyred i fynu gyd â mi i’m rhandir, fel yr ymladdom yn erbyn y Canaaneaid; a minnau a âf gyd â thi i’th randir dithau. Felly Simeon a aeth gyd âg ef.
{{angor|1:4|4}} A Judah a aeth i fynu; a’r {{sc|Arglwydd}} a roddodd y Canaaneaid a’r Phereziaid yn eu llaw hwynt: a lladdasant o honynt, yn Bezec, ddengmil o wŷr.
{{angor|1:5|5}} A hwy a gawsant Adoni-bezec yn Bezec: ac a ymladdasant yn ei erbyn; ac a laddasant y Canaaneaid a’r Phereziaid.
{{angor|1:6|6}} Ond Adoni-bezec a ffodd; a hwy a erlidiasant ar ei ol ef, ac a’i daliasant ef, ac a dorrasant fodiau ei ddwylaw ef a’i draed.
{{angor|1:7|7}} Ac Adoni-bezec a ddywedodd, Deg a thri ugain o frenhinoedd, wedi torri bodiau eu dwylaw a’u traed, a fu yn casglu ''eu bwyd'' dan fy mwrdd i: fel y gwneuthum, felly y talodd {{sc|Duw}} i mi. A hwy a’i dygasant ef i Jerusalem; ac efe a fu farw yno.
{{angor|1:8|8}} A meibion Judah a ymladdasant yn erbyn Jerusalem; ac a’i hennillasant hi, ac a’i tarawsant â min y cleddyf; a llosgasant y ddinas â thân.
{{angor|1:9|9}} ¶ Wedi hynny meibion Judah a aethant i waered i ymladd yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn y mynydd, ac yn y dehau, ac yn y gwastadedd.
{{angor|1:10|10}} A Judah a aeth yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn Hebron: (ac enw Hebron o’r blaen ''oedd'' Caer-Arba:) a hwy a laddasant Sesai, ac Ahiman, a Thalmai.
{{angor|1:11|11}} Ac efe a aeth oddi yno at drigolion Debir: (ac enw Debir o’r blaen ''oedd'' Ciriath-sepher:)
{{angor|1:12|12}} A dywedodd Caleb, Yr hwn a darawo Ciriath-sepher, ac a’i hennillo hi, mi a roddaf Achsah fy merch yn wraig iddo.
{{angor|1:13|13}} Ac Othniel mab Cenaz, brawd Caleb, ieuangach nag ef, a’i hennillodd hi. Yntau a roddes Achsah ei ferch yn wraig iddo.
{{angor|1:14|14}} A phan ddaeth hi i mewn ''atto ef'', hi a’i hannogodd ef i geisio gan ei thad ''ryw'' faes: a hi a ddisgynodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di?
{{angor|1:15|15}} A hi a ddywedodd wrtho, Dyro i mi fendith: canys gwlad y dehau a roddaist i mi; dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. A Caleb a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a’r ffynhonnau isaf.
{{angor|1:16|16}} ¶ A meibion Ceni, chwegrwn Moses, a aethant i fynu o ddinas y palmwydd gyd â meibion Judah, i anialwch Judah, yr hwn ''sydd'' yn nehau Arad: a hwy a aethant ac a drigasant gyd â’r bobl.
{{angor|1:17|17}} A Judah a aeth gyd â Simeon ei frawd: a hwy a darawsant y Canaaneaid oedd yn preswylio yn Sephath, ac a’i difrodasant hi. Ac efe a alwodd enw y ddinas Hormah.
{{angor|1:18|18}} Judah hefyd a ennillodd Gazah a’i therfynau, ac Ascalon a’i therfynau, ac Ecron a’i therfynau.
{{angor|1:19|19}} A’r {{sc|Arglwydd}} oedd gyd â Judah; ac efe a oresgynodd y mynydd: ond ni ''allai efe'' yrru allan ''drigolion'' y dyffryn; canys cerbydau heiyrn ''oedd'' ganddynt.
{{angor|1:20|20}} Ac i Caleb y rhoisant Hebron; fel y llefarasai Moses: ac efe a yrrodd oddi yno dri mab Anac.
{{angor|1:21|21}} Ond meibion Benjamin ni yrrasant allan y Jebusiaid y rhai oedd yn preswylio yn Jerusalem: ond y mae y Jebusiaid yn trigo yn Jerusalem gyd â meibion Benjamin hyd y dydd hwn.
{{angor|1:22|22}} ¶ A thŷ Joseph, hwythau hefyd a aethant i fynu yn erbyn Bethel: a’r {{sc|Arglwydd}} ''oedd'' gyd â hwynt.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
ob13dq7ki7khvxgmcbt826q353016od
Tudalen:Trystan ac Esyllt.djvu/95
104
74974
171089
149758
2026-09-22T12:20:51Z
Figaro-ahp
1983
171089
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|III.<br>BWTHYN Y BARDD.}}}}
{{Center block/s}}
<poem>
Er lleted wyneb byd yr ocheneidiau,
:Ystâd neu balas balch ni feddaf un;
Ond meddaf fwth mewn gardd ar fron Eryri
:Sy'n eiddo llwyr a llawn i mi fy hun.
Nid moethus ac nid gwych mo hendre'r prydydd,
:Syml a diaddurn yw ei bedwar mur;
Ni chlywir yno grechwen coeg fursendod,
:Nac ochain calon drom dan lwyth o gur.
Ei awyr sydd yn llawn o bersawr blodau
:A difyr gerddi adar mân y fro;
A rhesi meini mynor sydd o'i amgylch
:A glesni ir y ddaear ar ei do.
Arweinia'r haf awelon i ymdonni
:Ym mrig y glaswellt hir orchuddia'r gwrym;
A thaena'r gauaf fantell ei sancteiddrwydd
:I'w guddio rhag dyrnodau'r corwynt llym.
Diogel a digyffro ei breswylwyr
:Yng nghadarn ofal distaw Ior yr ardd;
</poem><noinclude>{{Div end}}</noinclude>
31b9aow4pe2osijmy6m2u3i1m0pdnei
Tudalen:Trystan ac Esyllt.djvu/115
104
75007
171090
149867
2026-09-22T12:41:14Z
Figaro-ahp
1983
171090
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" />{{Center block/s}}</noinclude><poem>
Ddoi di eto'n ôl, Riannon,
I ddringo creigiau gwylltion Arfon,
I anadlu'r byw awelon
Ac i byncio'r hên alawon?
Daeth yr eirlwys at fy mwthyn
Ag addewid am y gwanwyn;
Dwed fod haf yn dod i Gymru,
A chyda'r haf y ferch wy'n garu.
</poem>
{{Div end}}
<br>
[[Delwedd:Trystan ac Esyllt (tudalen 86 crop).jpg|canol|150px]]
<br>
{{nop}}<noinclude></noinclude>
8lua7woj8r8za26s2p2cw3hllqiz81s