Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.21
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/145
104
88511
171098
2026-09-24T00:47:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171098
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{M-mawr|CYMERIADAU METHODISTAIDD.}}{{mawr|<br>I.<br>MR. JONES Y SHOP A GEORGE RHODRIC.}}}}
MAE yn debyg fod rhyw wir yn y dywediad fod pawb yn fawr yn ei ffordd ei hun. Eglur yw nad yr hyn ydyw dyn ynddo ef ei hun sydd yn ei wneyd yn fawr, ond yr hyn ydyw o'i gymharu â phobl eraill yn yr un ardal ag ef. Mae a fyno lle gryn lawer â'r hyn sydd yn cyfansoddi mawredd mewn dyn. Ni byddai yr hwn a ystyrir yn fawr mewn un gymydogaeth ond bychan a disylw mewn cymydogaeth arall. Ar yr un pryd, ni byddai yn gyfiawn ynom geisio difeddiannu dyn o'i fawredd ar y dybiaeth na byddai yn fawr pe symudai i ardal arall. Annheg i'r eithaf a fyddai ceisio tynu un iod nac un tipyn oddiwrth fawredd John Jones, neu fel yr adwaenir ef gan ei gymydogion, Mr.<noinclude><references/></noinclude>
jn76n0wzkkgr8zc050pai3i7dawq7br
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/146
104
88512
171099
2026-09-24T00:49:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171099
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Jones y shop. Os na chafodd fanteision addysg yn more ei oes, nid ei fai ef oedd hyny. Pe cawsai hwynt, dilys y buasai wedi gwneyd defnydd da o honynt. Gan fod yr ardal lle y trigianna yn un boblogaidd, a llawer o weithfeydd ynddi, darfu iddo mewn amser cymhariaethol fyr, trwy ddiwydrwydd, gyrhaedd sefyllfa ag yr edrychid arno gan ei gymydogion fel "dyn pur dda arno." Dechreuodd gadw shop mewn tŷ lled fychan; ac am rai wythnosau meddyliodd mai ei chadw hi a fyddai raid iddo, ac na ddeuai y shop byth i'w gadw ef. Ond trwy brynu yn y farchnad ore, a gwerthu am brisiau rhesymol, daeth yn fuan yn fasnachwr llwyddiannus. Wedi cyrhaedd sefyllfa gysurus, fel pob dyn call cymerodd ato gymhar bywyd. Merch ydoedd hi i amaethwr cefnog yn y gymydogaeth, yr hon, heblaw ei bod wedi cael addysg dda, oedd feinwen landeg a hardd. Os oedd llawer o fân fasnachwyr yn cenfigenu wrth Mr. Jones am ei lwyddiant blaenorol, yr oedd mwy o ddynion ieuainc yr ardal yn cenfigenu wrtho am ei lwyddiant diweddaf hwn; oblegid edrychid ar Miss Richards—canys dyna oedd ei henw morwynol—fel y ferch ieuanc fwyaf priodadwy yn y lle; ac nid oedd gan ei gelynion penaf ddim<noinclude><references/></noinclude>
9nxmgqhkbvedmy824r17irz7t27sh62
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/147
104
88513
171100
2026-09-24T00:51:47Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171100
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mwy o ddrwg i'w ddyweyd am dani na'i bod "braidd yn uchel ei ffordd," ac hwyrach fod rhyw gymaint o sail i'r cyhuddiad hwn.
Y cyntaf yn yr ardal i deimlo effeithiau priodas Mr. Jones ydoedd George Rhodric, y teiliwr; canys hyd yn hyn buasai Mr. Jones yn gwsmer rhagorol iddo; ac yr oedd y siopwr yn dyfod i fyny ymhob ystyr å drychfeddwl y dilledydd am gwsmer da, sef yn un oedd yn gwisgo llawer o ddillad, un hawdd ei ffitio, un hawdd ei foddio, ac un yn talu arian parod yn ddirwgnach. Pan ddaeth y si allan gyntaf am y briodas, nid oedd neb yn fwy zelog yn seinio clodydd doethineb dewisiad Mr. Jones na George Rhodric; ac yn ddystaw bach rhyngddo ag ef ei hun, dysgwyliai ysglyfaeth nid bychan ynglŷn â'r amgylchiad ; ac er iddo, pan agoshaodd yr amser, gael ei siomi yn y peth diweddaf, nid allai lai na chanmawl cynnildeb Mr. Jones, pan adgofiodd mai yn ddiweddar iawn y gwnaethai efe suit newydd iddo, ac fod hono yn un eithaf pwrpasol i'r amgylchiad hapus, er, ar yr un pryd, yr oedd yn gorfod cyfaddef wrth ei brentis na buasai neb yn beïo Mr. Jones am gael suit newydd gogyfer a'i briodas. Ond pa faint oedd ei brofedigaeth, pan ddeallodd, mewn ymddyddan â gwas i Mr. Jones<noinclude><references/></noinclude>
et8og6jk46x8qd4bywo8dc7ruw0qu05
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/148
104
88514
171101
2026-09-24T00:52:26Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171101
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y noson cyn y briodas, fod ei feistr wedi cael dillad newydd o'r dref fawr nesaf? Yr oedd naill ai yn rhy synwyrol, neu ynte yr oedd y brofedigaeth yn ormod iddo allu dyweyd llawer; ond aeth adref â'i ben yn ei blŷf. Yr oedd ganddo faner o ganfas wedi ei pharotoi, a'r geiriau "LLWYDDIANT I'R PAR IEUANC" wedi eu gwneyd o wlanen goch a'u gwnio yn gywrain arni, yr hon a fwriadasai gwhwfanu o ffenestr y llofft ddydd y briodas; ond ar ol yr ymddyddan y cyfeiriwyd ato, lapiodd hi i fyny mewn papyr llwyd hyd ryw amgylchiad dyfodol. Yr oedd yn dda ganddo, erbyn hyn, nad oedd wedi rhoi enwau y pâr ieuanc ar y faner, fel y bwriadasai ar y cyntaf. Sylwyd, ddydd y briodas, gan y cymydogion, na ddaeth George Rhodric na'i brentis allan o'r tŷ; a'r rheswm a roddid am hyny oedd eu bod yn rhy brysur. Yr oedd hyn yn brofedigaeth fawr i'r prentis, gan y rhoddid tê a bara brith i blant yr Ysgol Sul gan gyfeillion Mr. a Mrs. Jones; ond gwnaed i fyny iddo am hyny, i raddau, trwy i'w feistr roddi iddo dair ceiniog am aros i mewn, ac addewid am holiday y dydd Llun canlynol. Er na ddaeth George Rhodric allan o'r tŷ ddydd y briodas, tystiai y prentis ddarfod iddo, pan oedd y priodfab<noinclude><references/></noinclude>
gt26nqp7uwfajqhk7b1cyoy0kcjqoes
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/149
104
88515
171102
2026-09-24T00:53:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171102
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a'i wraig yn pasio ei dŷ, edrych yn ddirgelaidd trwy y ffenestr; ond yr unig eiriau y clywodd y prentis ef yn ddyweyd oeddynt, "Wel, fuasai raid iddo ddim myned i Gaer{{bar|3}} і gael y rhai yna."
Yr oedd gan Rhodric ychydig edmygwyr, y rhai a fynychent ei weithdy, i wrandaw ar ei ddoethineb, ac i gael "pibellaid" Nid allai y rhai hyn lai na nogio eu penau, i ddangos eu cymeradwyaeth, pan y byddai y dilledydd yn siarad yn awgrymiadol ac mewn hanner brawddegau. "Son yr oeddych," meddai, "am briodas Mr. Jones. Wel, dyma ydi fy meddwl i,-y dylai dyn fod yn ddyn, ac nid cael ei lywodraethu gan ei wraig. Mae arian yn burion yn eu lle; ond nid arian ydi pobpeth. 'Does gen i ddim i'w ddyweyd am Mr. Jones; ac am Mrs. Jones-wel, nid fy lle i ydi dyweyd dim." Nid yn yr awgrymiadau hyn a'r cyffelyb, yn unig, y canfyddid y cyfnewidiad yn syniadau George, mewn perthynas i'w barchedigaeth i Mr. Jones, ond gwnai ei ymddangosiad ar achlysuron cyhoeddus. Yn flaenorol, pan y gelwid ar Mr. Jones i "ddyweyd gair" ar unrhyw fater, byddai Rhodric fel pe buasai yn llyncu pob gair a ddeuai o'i enau, ac yn porthi y gwasanaeth yn y<noinclude><references/></noinclude>
t5540oto33qvsoux1gtq6q9s4qzd6ax
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/150
104
88516
171103
2026-09-24T00:53:48Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171103
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fath fodd fel ag y buasai dyn llai synwyrol na Mr. Jones yn ymfalchio, ac yn myned i feddwl llawer o'i ddawn; ond ar ol yr amgylchiadau y cyfeiriwyd atynt, byddai George Rhodric naill ai yn ymddangos mewn myfyrdod dwfn neu ynte yn troi dalenau y llyfr hymnau.
Buasai yn beth i ryfeddu ato pe na buasai cysylltiad newydd Mr. Jones â theulu oedd yn dda arnynt, ag yntau ei hun eisoes mewn amgylchiadau cysurus, heb effeithio rhyw gymaint ar fanteision ac ymddangosiad ei fasnachdy. Nid hir y bu, pa fodd bynag, heb wneyd y tŷ yn llawer helaethach, a'r shop yn llawer mwy cyfleus a golygus. Ond yr hyn a synodd rai o'r cymydogion fwyaf oedd y cyfnewidiad yn y sign uwch ben y faelfa. Yr hyn a arferai fod ar yr hen sign oedd, "J. Jones, Grocer. Licensed to sell Tobacco." Ond ar y sign newydd, yr hon oedd gymaint ddwywaith a'r un flaenorol, yr oedd, "J. R. Jones, Provision Merchant." Cafodd rhai o'r ardalwyr diniwed eu twyllo yn hollol pan welsant y sign newydd. Tybiasant ar unwaith fod Mr. Jones yn bwriadu gadael y gymydogaeth, a myned i fyw ar ei arian, a'i fod yn parotoi y shop i ryw berthynas agos iddo, ac y byddai'r fasnach yn rhywbeth hollol wahanol i'r<noinclude><references/></noinclude>
0wjrh65lly0wkkb50xivftv48z2gwoe
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/151
104
88517
171104
2026-09-24T00:54:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171104
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hyn oedd wedi arfer a bod, hyd nes yr aeth rhai o honynt at George Rhodric. "Wel, yr ydych yn rhai diniwed, bobl bach," ebe fe; "oni wyddoch beth ydyw y llythyren gyntaf yn enw teulu Mrs. Jones? ac oni wyddoch fod yr enw J. Jones yn enw common iawn-annheilwng o ddyn cyfoethog? 'Does dim eisieu i neb ddeyd wrtha i pwy sydd wedi bod wrth y gwaith yna. Mae Mr. Jones yn ddyn da; ond y mae llawer dyn da cyn hyny wedi cael ei andwyo gan ei wraig. Mi feder balchder wneyd ei ffordd i le gwledig fel hyn, yr un fath ag i Lunden. Dyna meddwl i."
Afreidiol yw dyweyd fod sylwadau ac awgrymiadau George Rhodric wedi taflu y fath oleuni ar y cyfnewidiadau y cyfeiriwyd atynt nes llwyr foddloni meddyliau ei edmygwyr ar sefyllfa pethau, ac fod ei dreiddgarwch a'i ddoethineb yn fwy yn eu golwg nag erioed; ac ni ddarfu un o honynt ddychymygu am foment fod un gair a ddywedodd yn tarddu oddiar genfigen.
Teg ydyw hysbysu y darllenydd mai nid trwy lygaid George Rhodric yr edrychai mwyafrif cymydogion Mr. Jones, ac yn enwedig pobl y capel, ar y cyfnewidiadau a gymerasent le yn ei amgylchiadau. Gan fod yr eglwys y perthynai Mr.<noinclude><references/></noinclude>
ga1qpw7nwdv66ophq253vc1ajrakgvu
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/152
104
88518
171105
2026-09-24T00:55:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171105
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Jones iddi yn cael ei gwneyd i fyny gan mwyaf o bobl lled dlodion, yr oedd efe, er ys amser bellach, yn gefn mawr iddi mewn ystyr arianol; ac yr oedd y parch a delid iddo yn gyffredinol gan yr eglwys yn tarddu, nid yn gymaint oddiar yr ystyriaeth ei fod yn uwch mewn ystyr fydol na'r cyffredin o honynt hwy, ond oddiar anwyldeb dwfn a gynnyrchwyd gan ei garedigrwydd, ei haelioni crefyddol, a'i gymeriad gloew. Credu yr ydym y buasai William Thomas, y pen blaenor, yn tori ei galon pe dygwyddasai i amgylchiadau gymeryd Mr. Jones o'r gymydogaeth, gan fel yr oedd yn ei garu fel y cyfaill goreu y cyfarfyddodd âg ef ar y ddaear. Gan i ni son am William Thomas, mae efe yn teilyngu i ni ei ddwyn i bennod arall.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
mxo9g8qsuv0hnroi4eu1lercrmy54jo
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/153
104
88519
171106
2026-09-24T00:57:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171106
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|II.<br>MR. JONES Y SHOP A WILLIAM THOMAS.}}}}
TUA'R adeg yr ydym yn ysgrifenu yn ei gylch, nid oedd ar yr eglwys y perthynai Mr. Jones iddi ond dau flaenor yn unig, ac edrychid ar William Thomas fel y pen blaenor. Ennillodd y swydd, a'r uchafiaeth yn y swydd, yn gwbl yn rhinwedd purdeb ei gymeriad ac ysbrydolrwydd ei grefydd. Gweithiwr mewn ffermdy a fuasai ei dad o'i flaen, a gweithiwr yn yr un man ydoedd yntau. Nid ennillasai erioed fwy na deunaw swllt yn yr wythnos. Magasai loned tŷ o blant, ac o angenrheidrwydd ni chododd yn ei fywyd uwchlaw prinder. Ond er hyn, yr oedd efe, yn ddiau, y cyfoethocaf tuag at Dduw yn yr holl gymydogaeth; ac ni theimlodd kangfa anghen erioed ond fel yr oedd yn anfantais ynglŷn â chrefydd. Yn y wedd hon teimlodd i'r byw, a llawer tro y llifodd y dagrau dros ei ruddiau am na fedrai roddi lletty i bregethwr,<noinclude><references/></noinclude>
hlttb9yxcbk24ufi8e1nwfnloa2b90x
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/154
104
88520
171107
2026-09-24T00:58:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171107
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>na chyfranu fel y dymunai at ryw achos y byddai ei galon yn llosgi am ei lwyddiant. Er cymaint oedd y gwahaniaeth yn eu sefyllfa fydol, llawer tro y teimlasai Mr. Jones yn y cyfarfodydd eglwysig y buasai yn barod i roddi ei shop a'i holl eiddo am grefydd ac ysbrydolrwydd William Thomas.
Rhwng fod Mr. Jones wedi bod mor gaeth i'w fasnach, a William Thomas yn byw bellder o ddwy filldir mewn diffeithwch yn y wlad, ni buasai y blaenaf erioed yn nhŷ y diweddaf, er iddo addaw iddo ei hun y pleser hwnw ugeiniau o weithiau. Ond un prydnawngwaith, yn mis Mehefin, cyfeiriodd Mr. Jones ei gamrau tuag yno; ac wedi dyfod o hyd i babell yr hen bererin, safodd am enyd mewn syndod yn edrych arno. Er ei fod yn weddol gydnabyddus âg amgylchiadau W. Thomas, ni feddyliodd erioed ei fod yn preswylio mewn annedd mor ddiaddurn; ac nid allai lai, yn yr olwg arno, na gofyn iddo ei hun, wrth adgofio y gwleddoedd a fwynhasai yn nghymdeithas ei breswylydd, ai onid oedd iselder sefyllfa a chyfyngder amgylchiadau yn fanteisiol i adgynnyrchu ysbryd yr Hwn nad oedd ganddo le i roddi ei ben i lawr? "Tŷ a siamber," fel y dywedir, oedd yr annedd, a thô<noinclude><references/></noinclude>
sh5zk0amxyw1dx765ys6eolnpb54lwn
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/155
104
88521
171108
2026-09-24T00:59:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171108
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwellt arno. Yr oedd gwal isel o'i flaen, a llidiart bychan gyferbyn a drws y tŷ. Yr oedd yn hawdd gweled oddiwrth y llestri a'r celfi oeddynt ar hyd y wàl, eu bod yno am nad oedd ystafell briodol i dderbyn y cyfryw oddimewn. Ar y naill ochr i'r tŷ yr oedd gardd fechan a thaclus ; ar yr ochr arall yr oedd pobty, o wneuthuriad diammheuol y preswylydd, neu ynte un o'i hynafiaid. Ar ben simdde yr adeilad yr oedd padell bridd heb yr un gwaelod iddi, ac wedi ei throi â'i gwyneb yn isaf. Ychydig y naill du yr oedd adeilad bychan arall, lle y porthid un o hiliogaeth creaduriaid rhochlyd gwlad y Gadareniaid. Yr oedd yr adeilad hwn yn ddiweddarach o ran arddull na'r tŷ annedd, gan fod iddo lofft a mynediad i mewn iddi o'r tu allan, lle y cysgai rhyw arall o greaduriaid, ac o ba le hefyd y clywid, yn oriau cyntaf y bore-gan nad pa mor dderbyniol a fyddai hyny i'r chwyrnwr a gysgai yn y gwellt odditano-lais uchel a chlir y rhybuddiwr a weithredodd mor effeithiol ar Simon Pedr gynt. Tra yr oedd Mr. Jones yn edrych o'i gwmpas, daeth bachgen bychan bywiog ar ei redeg i ddrws y tŷ; ond càn gynted ag y gwelodd y gŵr dyeithr, rhedodd yn ei ol, gan waeddi ar ei fam fod "dyn yr adnod" wrth y llidiart.<noinclude><references/></noinclude>
gm02odjfs05m87281u2haqsyhdk5k05
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/156
104
88522
171109
2026-09-24T00:59:51Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171109
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gelwid Mr. Jones yn "ddyn yr adnod" gan blant William Thomas am mai efe yn gyffredin a fyddai yn gwrandaw y plant yn dyweyd eu hadnodau yn y cyfarfodydd eglwysig.
Daeth y fam, yr hon oedd gryn lawer yn ieuengach na'r gŵr, i gyfarfod Mr. Jones; a gwahoddodd ef i ddyfod i mewn, "os gallai," gan gyfeirio yn ddiammheu at fychander y drws. Yr oedd William Thomas, erbyn hyn, wedi sylweddoli ei ddyfodiad, ac wedi tynu ei yspectol, a'i wyneb yn dysgleirio gan lawenydd. Canfyddodd Mr. Jones nad oedd gwedd dufewnol y tŷ yn rhagori llawer ar yr allanol. Yr oedd hyny o ddodrefn oedd yno yn hynafol, ac yn ymddangos eu bod wedi gwasanaethu llawer cenhedlaeth. Ar un ochr i'r tân yr oedd hen settle dderw, lle y gallai tri neu bedwar eistedd ; yr ochr arall yr oedd cadair ddwyfraich, i'r hon yr arweiniwyd Mr. Jones. Yr oedd y cyfleusderau eraill i eistedd yn gynnwysedig mewn ystolion, y rhai oeddynt yn amrywio mewn maint a llun; a rhwng y rhai hyny a'r plant yr oedd cryn gyfatebiaeth. Nid oedd yr hyn a alwent yn fwrdd mewn gwirionedd ond ystôl megys wedi gordyfu; a gallai yr anghyfarwydd dybied mai hi ydoedd mam yr holl ystolion eraill. Yr oedd<noinclude><references/></noinclude>
hzb2xf4gljnlwpizqpj1ftmt45iv8kl
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/157
104
88523
171110
2026-09-24T01:00:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171110
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>muriau yr annedd yn llwydion, ac yn hollol ddiaddurn, oddigerth gan un neu ddau o ddarluniau a gymerasid o "gyhoeddiad y corff," ac a ddodasid mewn hen fframiau, un o ba rai oedd darlun o'r diweddar Barch. Henry Rees. Yr oedd y darlun yn ymddangos yn lled newydd, ond yr oedd y ffrâm yn dangos yn rhy eglur ei bod wedi gwasanaethu darlun neu ddarluniau eraill, y rhai oeddynt oll wedi gorfod rhoddi lle i'w gwell. Y dodrefnyn gwerthfawrocaf yn y tŷ oedd hen awrlais â gwyneb pres iddo, yr hwn, yn ol pob golwg, oedd wedi disgyn o dad i fab am genedlaethau, ac wedi duo cymaint gan henaint fel nad ellid dyweyd pa faint ydoedd ar y gloch arno heb fyned yn glòs i'w ymyl. Ac nid ar allanolion yr hen gloc yn unig yr oedd amser wedi effeithio, canys yr oedd profion rhy amlwg fod ei lungs yn ddrwg; oblegid pan fyddai ar ben taro, byddai yn gwneyd sŵn anhyfryd, fel dyn â brest gaeth, ac yn ymddangos fel ar ddarfod am dano; ond wedi i'r bangfa fyned trosodd, byddai yn dyfod ato ei hun, ac yn adfeddiannu ei iechyd am awr. Nid oedd llawer o ddibyniad ychwaith i'w roddi ar gywirdeb yr hen greadur; ac o herwydd hyny byddai W. Thomas, er mwyn i'r wraig wybod pa bryd i'w ddysgwyl gartref,<noinclude><references/></noinclude>
2pk3e4j886t7dxy4wk5gny4m95nvsi3
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/158
104
88524
171111
2026-09-24T01:01:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171111
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn gadael ei oriawr ar hoel uwchben y lle tân, wrth yr hon yr oedd yn grogedig gadwen o fetal, sêl, a dwy gragen fechan. Yr oedd y plant oeddynt yn dygwydd bod yn y tŷ pan ddaeth Mr. Jones i mewn wedi hel yn dwr i un gongl, ac yn edrych yn yswil iawn; un yn cnoi ei frat, y llall â'i fŷs yn ei safn, a'r trydydd yn amlwg yn sugno ei gof, oddiar ofn i Mr. Jones ofyn iddo am adnod.
Wedi cyfarch gwell, a dadgan eu llawenydd o weled eu gilydd, gwelid yr hen batriarch yn dwyn ymlaen yr unig groesaw y gallai ei gynnyg i ŵr o safle Mr. Jones, yr hwn groesaw a gedwid yn mhoced ei wasgod, ac oedd yn gynnwysedig mewn blwch corn hirgrwn, a'r ddwy lythyren, W. T., wedi eu tori ar ei gauad. Ië, hwn ydoedd yr unig foeth daearol a diangenrhaid y bu William Thomas yn euog o ymbleseru ynddo; a phwy, pa mor wrthsmocyddol bynag, a fuasai yn ei warafun iddo?
"Wel, William Thomas, yr wyf wedi dyfod yma i ofyn ffafr genych." "Ffafr gen' i, Mr. Jones bach?" ebe fe. "Ië, ffafr genych chwi, W. Thomas. Yr wyf yn deall fod teulu y Fron Hên yn ymadael â'r gymydogaeth; a chwi a wyddoch nad oedd neb ond hwy yn arfer derbyn<noinclude><references/></noinclude>
op3i7kxjd2y4w7p1d4z1td29k6ffmo9
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/159
104
88525
171112
2026-09-24T01:02:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171112
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>pregethwyr yma; ac nid wyf wedi clywed fod un lle arall yn agor i'w derbyn; ac y mae Mrs. Jones a minnau wedi bod yn siarad â'n gilydd am ofyn i chwi a gawn ni eu croesawu. Yrwan, ar ol i ni altro y tŷ acw, yr wyf yn meddwl y gallwn eu gwneyd yn lled gysurus. A dyweyd y gwir i chwi, William Thomas, dyna oedd un amcan mawr mewn golwg genyf wrth wneyd y lle acw gymaint yn fwy: bod dipyn yn fwy defnyddiol gyda'r achos, os byddwch mor garedig a chaniatau ein cais."
Ar hyn daeth rhywbeth i wddf W. Thomas, fel nad allai ateb mewn mynyd. O'r diwedd dywedodd ei fod yn ofni ei fod wedi cael anwyd, gan fod rhyw grugni yn ei wddf, ac yn wir ei fod yn teimlo ei lygaid yn weiniaid. Nid oedd yr anwyd hwn, pa fodd bynag, ond o fyr barhad, canys ennillodd W. Thomas ei lais clir arferol yn fuan. "Wel, bendith arnoch, Mr. Jones! yr ydych yn garedig dros ben, ac wedi cymeryd baich mawr oddiar fy meddwl i, sydd wedi peri i mi fethu cysgu yn iawn er pan glywais fod fy nghydswyddog a'i deulu o'r Fron Hên yn myn'd i'n gadael. Yr oeddwn i yn dirgel gredu o hyd yr agorai yr Arglwydd ddrws o ymwared i ni rhag i'w weision orfod ysgwyd y llwch oddiwrth<noinclude><references/></noinclude>
k5dhyuhru0zv9ozyb41rhbofxjv3ki9
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/160
104
88526
171113
2026-09-24T01:04:07Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171113
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>eu traed yn yr ardal yma. Chwi wyddoch, Mr. Jones, fod yma eraill yn meddu ar y cyfleusderau, ond y mae gen' i ofn nad ydi'r galon ddim ganddynt. Mi gewch fendith, Mr. Jones; fe dâl y pregethwr am ei le i chwi. 'Nac anghofiwch lettygarwch, canys wrth hyny y llettyodd rhai angylion yn ddiarwybod.' Un hynod o lettygar oedd yr hen batriarch. Pan ddaeth y bobl ddyeithr hyny heibio ei dŷ, ni wyddai fo yn y byd mawr pwy oeddan' nhw, ond ei fod yn guessio eu bod yn weision yr Arglwydd; ac efe a fu daer arnynt,' ac a roes y croeso gore iddynt; a chyn y bore yr oeddynt wedi troi allan yn angylion, ac fe'i cadwyd yntau rhag i un dafn o'r gawod frwmstan syrthio ar ei goryn. Yr oedd George Rhodric yn son wrtha' i am i ni dalu hyn a hyn y Sabbath am le y pregethwr; ond er na fedra i roi lletty i bregethwr fy hunan, yr ydw' i yn hollol yn erbyn y drefn yna. Pe buaswn i yn bregethwr, fuaswn i ddim yn gallu mwynhau pryd o fwyd yr oeddwn i yn gwybod fod rhywun arall yn talu hyn a hyn am dano. Mi fuaswn yn myned i feddwl faint, tybed, oedda'n nhw yn dalu, ac a oeddwn i wedi bwyta tua'r marc, neu a oeddwn yn peidio myn'd dros ben y marc; er, byd a'i gŵyr o, y mae y rhei'ny<noinclude><references/></noinclude>
qbbp6xbfywg0x9mgsituf0viyc9klh5
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/161
104
88527
171114
2026-09-24T01:04:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171114
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>welais i o honynt yn bwyta digon ychydig, ac yn enwedig y bechgyn a'r gwynebau llwydion o'r Bala yna. Ha! mi fuasai yn o arw gan Mair a Martha gymeryd tâl am le yr Athraw, goelia' i, Mr. Jones. Ar yr un pryd, yr wyf yn credu mai diffyg ystyriaeth sydd wedi rhoi cychwyniad i'r drefn mewn llawer man. Mae pobl yn eu hanystyriaeth yn cymysgu rhinweddau crefyddol, ac yn tybied os cyflawnant un gorchymyn yn lled dda fod hyny yn gwneyd i fyny am orchymyn arall tebyg iddo. Mae ambell ddyn da yn meddwl os bydd o yn cyfranu yn haelionus at y weinidogaeth, fod hyny yn gwneyd i fyny am lettygarwch, er ei fod, hwyrach, yn meddu tŷ da a chysurus, a digon o eiddo. Ond y mae hyny yn gamgymeriad, yr ydw' i yn meddwl; yr hen drefn sydd iawn. Diolch yn fawr i chwi, Mr. Jones; mi gewch fendith yn siwr i chwi."
"Yr ydych yn hollol yn eich lle gyda golwg ar lettygarwch, William Thomas," ebe Mr. Jones; "a chan fy mod wedi cael fy neges, rhaid i mi ddyweyd nos dawch i chwi i gyd, a hwylio at yr hen lyfrau acw." Ond cyn ymadael galwodd ato bob un o'r plant, a rhoddodd ddarn gwyn yn llaw pob un; ac os rhaid dyweyd y gwir, yr<noinclude><references/></noinclude>
tpy6s541v022w3ccwczkmp8mdhu29dn
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/162
104
88528
171115
2026-09-24T01:05:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171115
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>oedd yn well gan y crefyddolion bychain gael y darn gwyn na chael dyweyd adnod.
Fel yr oedd Mr. Jones yn agoshau at y drws, yr oedd llaw ddehau William Thomas yn dyrchafu yn raddol i uchder ei ben; ac fel yr oedd Mr. Jones yn yr act o gau y drws ar ei ol, daeth y llaw i lawr gyda nerth i gyffyrddiad â phen ei lin. Mary," ebe efe, "rhaid i ni gael gwneyd Mr. Jones yn flaenor!"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
5761g5p2evwmko1ceam2f4zqvybx4dj
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/163
104
88529
171116
2026-09-24T01:13:32Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171116
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|III.<br>WILLIAM THOMAS A'R DEWIS BLAENORIAID.}}}}
WEDI i deulu y Fron Hên ymadael â'r fro, illettyid pob pregethwr a ddeuai i'r daith gan Mr. Jones y shop; a gadawyd William Thomas yn unig swyddog ar yr eglwys. Pa opiniynau bynag eraill a ddaliai yr hen flaenor yn wleidyddol ac eglwysyddol, nid oedd yn credu mewn unbenaeth; a mynych y cwynai o herwydd ei unigrwydd yn y swydd, ac y dangosai yr angenrheidrwydd am gael rhywrai i'w gynnorthwyo. Gan fod Mr. Jones y shop yn cymeryd gofal y llyfrau, ac hefyd yn gweithredu fel trysorydd, yr oedd mwyafrif yr eglwys yn teimlo yn ddigon boddlawn i bethau aros fel yr oeddynt. Ond dadleuai William Thomas drachefn ei henaint a'i anfedrusrwydd yn y swydd, ynghyd â'r cyfrifoldeb mawr yr oedd yn ei gymeryd arno ei hun wrth fod yn unig swyddog<noinclude><references/></noinclude>
2cv9fgxdzwwix37adfc5f7icljr552j
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/164
104
88530
171117
2026-09-24T01:14:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171117
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mewn eglwys, lle yr oedd amryw eraill yn gymhwys i'r gwaith. Buasai George Rhodric yn cefnogi â'i holl galon ymbiliau William Thomas am gael ychwaneg o flaenoriaid, oni buasai fod dau rwystr ar ei ffordd. Yn un peth, yr oedd yn credu yn sicr, pe yr elid i ddewis, y buasai Mr. Jones y shop yn myned i fewn; ac hefyd yr oedd yn gweled y posiblrwydd iddo ef ei hunan gael ei adael allan; ac yn ngwyneb y ddau beth hyn, penderfynodd fod yn ddystaw ar y pwnc. Ond yr oedd rhyw eneiniad amlwg i'w ganfod ar yr hen frawd Siôr yn ddiweddar; nid oedd mor dueddol i bigo beïau ag y bu, ac yr oedd rhyw ystwythder anarferol yn ei ysbryd, ac arwyddion eglur ei fod yn awyddus i fod ar delerau da â phawb, hyd yn nod â Mr. Jones y shop a'i deulu. Buasai yn anfrawdol yn neb briodoli y cyfnewidiad hwn er gwell ynddo i unrhyw amcanion hunangar ac uchelgeisiol, ac nid oedd neb yn ei groesawu ac yn llawenhau mwy yn yr olwg arno na'r syml a'r difeddwl-drwg William Thomas.
Fel yr awgrymwyd yn barod, yr oedd nifer lliosocaf yr eglwys yn eithaf parod i bethau aros fel yr oeddynt; ac yr oedd yr hen bobl, yn enwedig yr hen chwiorydd, yn parhau i ddyweyd na<noinclude><references/></noinclude>
2mqykn5d1igekso6i3jb1gbxjz2uuy5
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/165
104
88531
171118
2026-09-24T01:15:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171118
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chaent neb tebyg i William Thomas; ond yr oedd yr aelodau callaf a galluocaf, tra yn ofni i'r amgylchiad droi allan yn achlysur cythrwfl ac anghydwelediad, yn gorfod cydnabod rhesymoldeb ac ysgrythyroldeb cais eu hen swyddog parchus. O'r diwedd, pa fodd bynag, llwyddodd yr hen frawd i gael gan yr eglwys anfon at y Cyfarfod Misol "fod anghen arni am ychwaneg o swyddogion."
Yn ngwyneb yr amgylchiad oedd bellach yn ymddangos yn debyg o gymeryd lle, yr oedd yn yr eglwys dri o wyr yn teimlo yn bur wahanol i'w gilydd. Yr oedd un gŵr yn ystyried y dylasai gael ei ddewis; yr oedd un arall yn ofni cael ei ddewis; ac yr oedd un arall yn benderfynol na chymerai ei ddewis. Y gŵr a ystyriai ei hun yn feddiannol ar holl anhebgorion blaenor ydoedd George Rhodric; canys yr oedd yn un o'r aelodau hynaf yn yr eglwys, ac yn un o'r athrawon hynaf yn yr Ysgol Sabbothol; nid oedd ychwaith o ran dawn a gwybodaeth yn ddirmygedig; ac nid allai neb ddyweyd dim yn erbyn ei garitor. Wrth roddi y pethau hyn i gyd at eu gilydd, yr oedd efe yn ystyried y gallai sefyll cymhariaeth â phigion yr eglwys, ac na wnaethid camgymeriad wrth ei ddewis.<noinclude><references/></noinclude>
bf66j0z7xtf4jjbt1z5pe9xnysclh70
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/166
104
88532
171119
2026-09-24T01:16:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171119
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Heblaw hyn, yr oedd o'r farn fod eisieu "gwaed newydd" yn y swyddogaeth. Nid oedd y class o bregethwyr oedd yn arfer dyfod yno i wasanaethu y peth y dylasai fod; ac yr oedd yn canfod llawer iawn o ddiffyg trefn mewn amryw bethau eraill y buasai efe wedi galw sylw atynt er ys llawer dydd oni buasai ei fod yn ofni i rywrai dybied ei fod yn ceisio "ystwffio ei hun ymlaen." Y gŵr oedd yn ofni cael ei ddewis ydoedd Mr. Jones y shop. Yr oedd y rhan flaenllaw yr oedd wedi ei chymeryd gyda'r plant yn yr Ysgol Sabbothol, ac mewn cyfarfodydd eraill, ei waith yn cymeryd gofal llyfrau yr eglwys, a'r ffaith fod ei dŷ erbyn hyn yn gartref i bregethwyr, yn peri iddo weled nid yn unig y posiblrwydd, ond hefyd y tebygolrwydd, y dewisid ef. Er ei fod bob amser yn awyddus i wneyd yr hyn oedd yn ei allu dros achos crefydd, yr oedd yn ystyried fod cymaint o bwysigrwydd ynglŷn â swydd blaenor, ac yn amheu cymaint am ddiogelwch ei gyflwr ysbrydol, a'i gymhwysder personol i'r gwaith, fel y buasai yn rhoddi unrhyw beth bron i'r eglwys am beidio ei ddewis. Y gŵr arall oedd yn benderfynol na chymerai ei ddewis ydoedd Noah Rees. Gŵr ieuanc ydoedd ef, eiddil, gwyneblwyd, ac yn cael y gair fod<noinclude><references/></noinclude>
mud2f5nbyk5t7tsxggyc9nuuaxalutm
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/167
104
88533
171120
2026-09-24T01:17:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171120
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ganddo lawer o lyfrau; ac yr oedd rhai yn myned mor bell ac eithafol a dyweyd fod ganddo gymaint a thri Esboniad ar y Testament Newydd, ac o leiaf ugain o lyfrau eraill ar wahanol bynciau. Er fod y chwedl anhygoel hon yn cael ei hammheu yn fawr ar y cyntaf, ennillasai fwy o gred yn ddiweddarach gan y ffaith ddarfod i'r gŵr ieuanc ennill dwy wobr mewn Cyfarfod Cystadleuol; un yn werth hanner coron, a'r llall yn werth tri swllt. Taenid y gair hefyd na byddai efe byth yn myned i'r gwely hyd un ar ddeg o'r gloch ar y nos, a bod ei fam yn cwyno ddarfod i Noah ddyfetha mwy o ganwyllau mewn un flwyddyn nag a ddarfu ei dad yn ystod ei holl oes, a'i bod yn sicr mai y diwedd a fyddai iddo golli ei iechyd. Heblaw fod Noah yn fwy difrifol, ac yn fwy rhwydd ac ufudd na'i gyfoedion pan elwid arno i gymeryd rhan yn y moddion cyhoeddus, yr oedd ei gôt, yr hon oedd bob amser o liw tywyll, gyda gwasgod yn cau yn glòs at y gwddf, ynghyd â'r ymarferiad o amddiffyn y rhan a enwyd olaf â mufler pan y byddai yr hîn heb fod yn gynhes iawn, yn dangos yn eglur at ba alwedigaeth yr oedd yn cymhwyso ei hun. Tra nad oedd y nifer lliosocaf o'i gyfoedion yn cofio ar nos Sadwrn pwy a fyddai<noinclude><references/></noinclude>
deyid47u9m3bz85pyt9xahzgshyuf5s
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/168
104
88534
171121
2026-09-24T01:18:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171121
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wedi ei gyhoeddi i bregethu yno drannoeth, byddai Noah yn cofio yn dda, ac yn gwybod o ba gyfeiriad i'w ddysgwyl, ac yn gyffredin yn myned i'w gyfarfod, a'i arwain i'w letty. Er nad oedd wedi hysbysu ei gyfrinach i neb, yr oedd amryw yn gallu ei darllen, ac yn gwybod cystal ag ef ei hun fod ei lygaid ar rywle y byddai raid i'r blaenoriaid edrych i fyny ato, fel nad oedd raid iddo wneyd penderfyniad mor gadarn na chymerai ei ddewis yn flaenor.
I dori yr hanes yn fyr, caniatawyd cais yr eglwys gan y Cyfarfod Misol, a phenodwyd dau frawd i fyned yno i ddwyn y dewisiad oddiamgylch. Noswaith y cyfarfod eglwysig, wythnos cyn yr adeg yr oedd y dewisiad i gymeryd lle, ystyriai William Thomas hi yn ddyledswydd arno alw sylw y frawdoliaeth at yr amgylchiad, a'u hannog i weddio am ddoethineb a chyfarwyddyd i wneyd pobpeth mewn tangnefedd a chariad, er lles yr achos, a gogoniant y Pen mawr. Tra yr oedd efe yn myned ymlaen yn y ffordd hon, yr oedd yn eistedd yn ymyl y sêt fawr, a'i phwys ar ben ei ffon, hen wreigan ddiniwed a duwiol, yr hon a glustfeiniai yn ddyfal; ac yn y man cododd yn sydyn ar ei thraed, a dywedodd,—"William Thomas, deudwch chi<noinclude><references/></noinclude>
ocmxsh1bt6dsqw9vsq83q3hk1qhc032
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/169
104
88535
171122
2026-09-24T01:19:35Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171122
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>wrtho ni pwy i ddewis; y chi ŵyr ore o lawer; ac mi wna i, beth bynag, yn union fel y byddwch chi yn deyd, ac mi wnaiff pawb arall, 'does bosib'. Chawn ni neb gwell na chi na chystal, mi wn, a dydw i yn gweled neb yma cymhwys iawn ond Mr. {{bar|3}}." Amneidiodd William Thomas arni hi i dewi; ac efe a aeth ymlaen, mor agos ag y gallwn gofio, yn y geiriau canlynol:-"Mae Gwent Rolant bob amser yn dyweyd ei meddwl yn onest, ac y mae genyf ddiolch iddi am feddwl mor dda o honof; ond nid oes neb yn gwybod yn well na mi fy hun mor anghymhwys ydwyf i'r swydd, ac fod yma amryw o'm brodyr a allent ei llenwi yn llawer gwell. (Gwen Rolant yn ysgwyd ei phen mewn anghrediniaeth.) Er nad wyf yn ewyllysio, ac na byddai yn iawn ynof enwi neb, fel yr oedd Gwen Rolant yn gofyn, eto hwyrach, fy nghyfeillion, y goddefwch i mi, o herwydd fy oedran, roddi gair o gynghor i chwi. Gallaf eich sicrhau nad ydyw swydd blaenor yn un i'w chwennychu, ond yn unig fel y mae yn gyfleusdra i fod yn fwy gwasanaethgar i Dduw. Yr wyf yn meddwl y gallai pob un o honoch addoli yn well heb fod yn flaenor. Mae y blaenor wrth ei swydd yn gorfod gwrando ar bob cŵyn yn erbyn pawb, ac<noinclude><references/></noinclude>
p236phdtly2n1463hxpe2v9tn0q0y14
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/170
104
88536
171123
2026-09-24T01:20:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171123
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn gwybod hefyd pa swm y mae pob aelod yn ei gyfranu at y weinidogaeth, ac at achosion eraill; ac os bydd ambell un heb fod yn cyfranu fel y bydd Duw wedi ei lwyddo, pan elwir ar y brawd hwnw at ryw wasanaeth cyhoeddus, nid yw y blaenor yn gallu cydaddoli â'i holl galon fel y gall yr hwn nad yw yn gwybod. Pan fyddwch yn myned i ddewis, fy mrodyr, gofelwch nid yn unig am ddynion â chrefydd dda ganddynt, ond gofelwch am rai yn meddu ar ddynoliaeth dda hefyd, heb yr un crac yn eu caritor. Ni wnaiff ychwaneg o gyfrifoldeb, a chwaneg o bwysau wella'r crac, ond yn hytrach beri iddo ymagor ac ymollwng. Os bydd crac neu bydrni yn môth yr olwyn, fel y gwyddoch, er fod cant cryf am dano, ni wna llwyth trwm ddaioni yn y byd iddo. Yr un modd, er i chwi wybod fod dyn wedi cael cànt cryf gras am dano, os bydd crac yn ei garitor, ni wna swydd ond ychwanegu ei berygl. Aci mi ddyweyd fy mhrofiad fy hun i chwi, yr wyf yn credu fod tlodi, er nad yn anghymhwysder, yn anfantais fawr i ddyn fod yn flaenor. Nid all y blaenor tlawd annog i lettygarwch a haelioni crefyddol fel y dymunai wneyd. Bydd raid iddo hefyd wrth ei swydd ymwneyd â llawer o arian perthynol i'r achos;<noinclude><references/></noinclude>
t1trdlysja6q6herb7u0iv8ne4313ts
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/171
104
88537
171124
2026-09-24T01:20:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171124
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ac y mae arian yn brofedigaeth i ddyn fydd mewn anghen beunyddiol. Anhawdd ydyw i sach wâg sefyll yn unionsyth. Yr wyf fi, fel y gwyddoch, wedi gwrthod bob amser fod yn drysorydd i unrhyw fund. Os gellwch, dewiswch ddynion na bydd arian yn brofedigaeth iddynt. (Mr. Jones y shop yn chwys dyferol.) Os bydd pob peth arall yn cydfyned, da a fyddai i chwi gael dynion parod o ran dawn gweddi, a gallu i siarad yn gyhoeddus. (George Rhodric yn edrych i dop y capel.) Profedigaeth fawr llawer blaenor ydyw ei fod yn ddi-ddawn; oblegid bydd gwaith cyhoeddus yn fynych yn syrthio i'w ran pan fydd pawb eraill naill ai yn anmharod neu ynte yn anufudd. Mae o bwys i chwi hefyd, fy nghyfeillion, gael dynion ag y bydd eu cydymdeimlad yn ddwfn â'r pregethwr. Melldith i eglwys ydyw blaenor brwnt a phigog. Mae llawer oedfa wedi cael ei handwyo o herwydd ymddygiad anserchog ac oer y blaenor tuag at y pregethwr; ac, o'r ochr arall, y mae llawer pregethwr wedi cael iechyd i'w galon a chodiad i'w ysbryd mewn pum' mynyd o ymddyddan serchoglawn â'r blaenor cyn myned i'r capel. Ceisiwch, os gellwch, ddewis dynion y bydd eu hysbryd yn cydredeg âg ysbryd y pregethwr,<noinclude><references/></noinclude>
0o5ymjg9eabwaqiwnqf7aki46swnuco
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/172
104
88538
171125
2026-09-24T01:21:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171125
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a'u calon yn llosgi am lwyddiant ei amcan mawr. Na ddiystyrwch ieuenctyd neb. Os ydych yn gweled yma ryw fachgenyn addawol, darllengar, a ffyddlawn, er nad oes ganddo ond dwy dorth a dau bysgodyn, na throwch ef o'r naill du o herwydd ei ieuenctyd. (Noah Rees yn rhoi ei ben i lawr.) Pan ddaw yr adeg i chwi ddewis, bydded i chwi, fy nghyfeillion, gael eich cynhyrfu oddiar gydwybod i Dduw, ac nid oddiar amcanion hunanol a phersonol."
Aeth yr hen flaenor ymlaen yn y dull uchod am yspaid; ac ar y diwedd annogodd un o'r enw Peter Watcyn, yr hwn a gyfrifid ei fod yn deall Saesoneg yn dda, i egluro i'r frawdoliaeth y drefn o ddewis swyddogion y penodasid arni gan y Corff, yr hyn a wnaeth gyda deheurwydd mawr. Yn yr eglurhad a roddwyd gan Watcyn, soniodd gryn lawer am y "balot," y "tugel," " y rhai presennol," "a'r rhai absennol," "dwy ran o dair," a thair rhan o bedair," &c., yr hyn oll i Gwen Rolant, er clustfeinio ei goreu, oedd yn Roeg perffaith. Pa fodd bynag, wedi i ddau frawd ofyn cwestiwn a chael atebion boddhaol, terfynwyd y cyfarfod.
Ar y ffordd gartref, dywedai George Rhodric fod yn hawdd iawn gweled at bwy yr oedd<noinclude><references/></noinclude>
a2nrzm67hbpgemnwmkhx6fj06k9m8ze
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/173
104
88539
171126
2026-09-24T01:22:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171126
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>William Thomas yn naddu, a phwy oedd ei ddyn o. Dywedai Gwent Rolant ei bod hi yn ofni fod crefyddwyr yr oes hon yn myned i dir pell iawn. Pan oedd hi yn ieuanc, y ffordd y byddid yn dewis blaenoriaid oedd i ddau bregethwr, neu ynte bregethwr a blaenor ddyfod i'r seiat, ac i bawb fyned atynt, a dyweyd pwy oeddynt am ddewis; ond yrwan fod rhyw Balet yn dwad, pwy bynag oedd hwnw-yr oedd hi yn ofni oddiwrth ei enw ei fod yn perthyn rywbeth i Belial. Ac am y tiwgl yr oeddynt yn son am danc, yr oedd hi yn siwr mai Sais oedd hwnw, ac mai gwaith Peter Watcyn oedd ei gael yno, fel y cai o wybod pan nesa' y gwelai hi o. "Ni chymer'sai William Thomas lawer o hono ei hun," ychwanegai yr hen chwaer, "a nol Saeson yma, ac ni ddarfu o gymaint a henwi un o honynt y noson hono, yr hyn oedd yn dangos yn ddigon plaen mai gwaith Peter Watcyn oedd y cwbl."
Afreidiol ydyw dyweyd fod Gwen Rolant, pan ddaeth noswaith y dewisiad, wedi cael ei siomi o'r ochr oreu, ac na welodd ac na chlywodd, er chwilio a chlustfeinio ei goreu, yr un Sais yn y cyfarfod, ond yn hytrach pregethwr a blaenor. Y cyntaf a adwaenai yn dda, ac oedd anwyl<noinclude><references/></noinclude>
etxgtaz0fpgyoonzuinwffk9bnzglxc
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/174
104
88540
171127
2026-09-24T01:23:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171127
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>iawn ganddi. Ac yr oedd Gwen, druan, yn diolch o'i chalon nad oedd crefyddwyr yr oes hon wedi myned i dir mor bell ag yr oedd hi wedi ofni.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
9ziqt01dl38vxbzdacv645aulnwd4rw
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/175
104
88541
171128
2026-09-24T01:25:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171128
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|IV.<br>DEWIS BLAENORIAID.}}}}
MOR chwithig a digrifol a fyddai clywed un yn anerch ei gydaelodau eglwysig, ac yn rhoddi ei farn iddynt ar y Fugeiliaeth, Cronfa y Gweinidogion, Cyfansoddiad y Gymdeithasfa, achosion tramor y Cyfundeb, sef y cenadaethau, addysg y Colegau, rhyfeloedd cartrefol, a rhyfeloedd gydag enwadau eraill, gan addaw gwneyd hyn a'r llall os dewisid ef yn flaenor! Onid edrychid ar y fath un fel un hollol annheilwng o gael ei ddewis? Aceto ni feddyliai neb synhwyrol am roddi ei bleidlais i ymgeisydd am eisteddle seneddol heb yn gyntaf gael gwybod ei opiniynau ar brif bynciau y dydd, a chael addewid ddifrifol ganddo y byddai iddo bleidleisio dros, o leiaf, y mwyafrif o'r mesurau hyny a gymeradwyir ganddo ef ei hun. Edrychir ar lafur ac ymdrech egnïol ymgeisydd am gynnrychiolaeth ei fwrdeisdref neu ei sir fel un<noinclude><references/></noinclude>
1lo426z1zthlii2rpe0qjm1jt2wxvv7
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/176
104
88542
171129
2026-09-24T01:29:08Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171129
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>rheswm ychwanegol at ei gymhwysderau personol dros wneyd pob peth a ellir o'i blaid; ac, yn wir, anaml y gall neb ennill zel a brwdfrydedd yr etholwyr dros ei achos heb iddo ef ei hun yn gyntaf arddangos ymröad diflino ymhlaid ei ymgeisyddiaeth. Ond mor rhyfedd ydyw y ffaith mai càn gynted ag y dengys dyn ei fod yn awyddus am gael ei wneyd yn flaenor eglwysig, yr un foment fe'i teflir o'r neilldu gan ei gydaelodau, gan nad beth fyddont ei gymhwysderau personol. Yr hyn sydd yn fywyd ac yn gymhwysder anhebgorol bron mewn un amgylchiad, sydd yn farwolaeth ac yn ddinystr yn yr amgylchiad arall. Ymddengys, yn ol sefyllfa pethau, mai un o'r prif gymhwysderau mewn dyn tuag at fod yn flaenor ydyw, na freuddwydiodd ac na ddychymygodd erioed am yr anrhydedd, o leiaf, nas amlygodd ei fod wedi breuddwydio neu ddychymygu am hyny. Gall un fod â'i lygaid ar y swydd am flynyddau, ac wedi ymbarotoi yn ddyfal ar ei chyfer; ond os bydd yn gall ac yn meddwl llwyddo, rhaid iddo gadw ei gyfrinach i gyd iddo ef ei hun; oblegid i'r graddau yr amlyga i'r frawdoliaeth ei ddeisyfiad, i'r un graddau y bydd ei ragolygon yn lleihau.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
4qxj5ya34kuw7a2eccy6bn29kvqk8dl
Tudalen:Offrymau Neullduaeth.djvu/177
104
88543
171130
2026-09-24T01:29:58Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171130
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Beth all fod y rheswm am hyn, nid ydym yn cymeryd arnom fod yn alluog i ddyfalu. A oes mwy o jealousy ynglŷn â chrefydd nag â gwleidyddiaeth? Byddai yn ddrwg genym orfod credu hyny. Gall rhywun awgrymu fod y gwahaniaeth rhwng un yn ceisio swydd eglwysig ac un yn ceisio eisteddle seneddol yn gorwedd yn natur y ddwy swydd: un yn ysbrydol, a'r llall o'r ddaear yn ddaearol. Ond, attolwg, beth a ddywedwn am un yn cynnyg ei hun yn bregethwr? Hyd y gwyddom ni, ni ddarfu i'r ffaith fod un yn cynnyg ei hun yn bregethwr beri i neb feddwl yn llai o hono, na bod yn un rhwystr iddo, os byddai pobpeth arall yn foddhaol. Ac onid ydyw yn bosibl i angenrhaid gael ei osod ar ddyn, ac mai gwae iddo oni flaenora, yn gystal ag oni phregetha yr efengyl? Nid ydym yn anghofio y cymerir yn ganiataol fod yr eglwys yn gwneyd ei dyledswydd trwy weddïo am gyfarwyddyd, a bod rhyw arweiniad Dwyfol i'w ddysgwyl ganddi er mwyn syrthio ar y dynion da eu gair. Ond ar yr un pryd nid allwn gau ein llygaid ar y ffaith fod llawer o gamgymeriadau yn cael eu gwneyd yn yr amgylchiadau hyn. Oni ddewisir dynion yn fynych yn flaenoriaid nad ŵyr yr eglwys nemawr am eu<noinclude><references/></noinclude>
08y1t0o88x365wfmvrm2fo645qazdx2