Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.21
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Madam Wen.djvu/108
104
33426
171202
76104
2026-09-28T08:10:07Z
~2026-52072-56
4250
171202
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Rhaid dadlwytho cyn nos drennydd, a llwytho gro," oedd y neges a gariai Dic oddi wrth berchen y Wennol. Galwodd Wil ar y Meistr diffaith arall a wasanaethai i fod yn dyst mai gorffwylledd amlwg a noeth oedd yn peri i neb feddwl am y fath beth.
"Rhaid gwneud!" meddai Dic. Mae hi ei hun am fynd efo'r llong i'w thaith nesaf, ac mi fydd yma nos drennydd yn ddiffael."
Er cymaint y rhegi a'r dymer ddrwg, dechreuwyd ar y gwaith, a gorffennwyd ef hefyd mewn pryd. Aeth bechgyn Llanfihangel ynghylch eu gorchwylion pellach, a daeth Madam Wen i'w llong yn brydlon. Codwyd hwyl, a chychwynnwyd.
Deg o ddwylo oedd ar fwrdd y Wennol, a Huw Bifan oedd y capten. Bechgyn glannau'r môr oeddynt, o ben Caergybi i Aber Menai, ac ni bu erioed haid fwy calon-ysgafn na gwell eu tymer. Nid oedd arnynt ofn na dyn nac ysbryd, da na drwg, ond iddynt gael gwenau eu meistres. Nid oedd dylanwad Wil na Robin y Pandy ar yr un llanc ohonynt. Yr oedd ganddynt le wrth eu bodd, a manteision i wneud enillion na warafunid iddynt gan eu meistres hael.
Dau o ynnau mawr a gariai'r llong, ac nid yn y rheini y gosodai'r morwyr eu hyder pan fyddent mewn perygl oddi wrth fôr-ladron, ond yng nghyflymder eu llestr, ac anfynych y siomid hwynt.
Ar ôl galw ym Mhwllheli a chymryd profisiwns i mewn yr aeth Madam Wen at Huw Bifan i drafod y fordaith. Un o borthladdoedd Ffrainc oedd y nod i gyrchu ato, a buan y deallodd yr hen forwr beth oedd mewn golwg pan ddechreuodd hi egluro.
"Oes," meddai Huw Bifan, y mae cryn gynnwrf tuag Iwerddon. Ac y mae'n siwr bod digon o ofyn ar longau fel y Wennol. Mi welsom ni bump neu chwech o longau Ffrengig wrth ddyfod i fyny'r sianel ryw bythefnos yn ôl.
"Mi awn ar ein hunion i borthladd Brest," meddai hithau.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
lq768p9s5o8nv4fobm4q6k9ogigzq7c
171203
171202
2026-09-28T08:15:06Z
~2026-52072-56
4250
171203
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Rhaid dadlwytho cyn nos drennydd, a llwytho gro," oedd y neges a gariai Dic oddi wrth berchen y Wennol. Galwodd Wil ar y Meistr diffaith arall a wasanaethai i fod yn dyst mai gorffwylledd amlwg a noeth oedd yn peri i neb feddwl am y fath beth.
"Rhaid gwneud!" meddai Dic. "Mae hi ei hun am fynd efo'r llong i'w thaith nesaf, ac mi fydd yma nos drennydd yn ddiffael."
Er cymaint y rhegi a'r dymer ddrwg, dechreuwyd ar y gwaith, a gorffennwyd ef hefyd mewn pryd. Aeth bechgyn Llanfihangel ynghylch eu gorchwylion pellach, a daeth Madam Wen i'w llong yn brydlon. Codwyd hwyl, a chychwynnwyd.
Deg o ddwylo oedd ar fwrdd y Wennol, a Huw Bifan oedd y capten. Bechgyn glannau'r môr oeddynt, o ben Caergybi i Aber Menai, ac ni bu erioed haid fwy calon-ysgafn na gwell eu tymer. Nid oedd arnynt ofn na dyn nac ysbryd, da na drwg, ond iddynt gael gwenau eu meistres. Nid oedd dylanwad Wil na Robin y Pandy ar yr un llanc ohonynt. Yr oedd ganddynt le wrth eu bodd, a manteision i wneud enillion na warafunid iddynt gan eu meistres hael.
Dau o ynnau mawr a gariai'r llong, ac nid yn y rheini y gosodai'r morwyr eu hyder pan fyddent mewn perygl oddi wrth fôr-ladron, ond yng nghyflymder eu llestr, ac anfynych y siomid hwynt.
Ar ôl galw ym Mhwllheli a chymryd profisiwns i mewn yr aeth Madam Wen at Huw Bifan i drafod y fordaith. Un o borthladdoedd Ffrainc oedd y nod i gyrchu ato, a buan y deallodd yr hen forwr beth oedd mewn golwg pan ddechreuodd hi egluro.
"Oes," meddai Huw Bifan, y mae cryn gynnwrf tuag Iwerddon. Ac y mae'n siwr bod digon o ofyn ar longau fel y Wennol. Mi welsom ni bump neu chwech o longau Ffrengig wrth ddyfod i fyny'r sianel ryw bythefnos yn ôl.
"Mi awn ar ein hunion i borthladd Brest," meddai hithau.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
k09woetljnq600dc9c872dua5btyae0
Tudalen:Y Dreflan.djvu/68
104
88581
171186
2026-09-28T00:50:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171186
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Y fi yn iach, Mr. Pugh? Os ydw i'n edrach yn symol, ac ddim yn cwyno, yr ydw i'n dyodde' mwy nag a ddylie neb. 'Does neb yn gwybod be' ydw i yn i ddyodde'. 'Does gen' i ddim amser i gwyno, Mr. Pugh, achos yr ydw i wrthi, wrthi, o fore gwyn tan nos yn tendio ar hwnyma ac yn ceisio ennill tipyn o fywioliaeth, a'r cwbl heb ddiolch. O ran hyny, yr ydw ine yn ddigon parod i fyn'd i'r gornel pan fynoch ch'i, ond y mod i yn 'cau ildio."
"Ydyw, mae Becca, Mr. Pugh, yn cael llawer iawn o drafferth hefo fi," ebe ei phriod; ac wn i ddim beth fuasai wedi dyfod o honof oni buasai am dani hi; ond fe fydd y drafferth i gyd drosodd yn bur fuan."
"Be fase'n dwad o honoch ch'i, oeddech chi'n ddeyd, Benjamin? Wel, wedi llwgu y basech es talwm; dyne fel base hi. On'd oedd Dr. Ellis ei hun yn deyd ar ei wir mai wedi marw y base fo oni bae mod i yn rhedeg ac yn rasio i dendio arno fo o hyd, o hyd."
"Wel, Becca bach," ebe Mr. Pugh; mae yntau yn gweddio llawer drostoch chithe, ac mi gewch fyn'd i'r nefoedd yn 'i gysgod o yn y diwedd."
"Os ca' i fyn'd i'r nefoedd, Mr. Pugh, yn 'i gysgod o y ca' i fyn'd, achos dydw i'n cael dim hamdden i feddwl am f'ened nag i ddarllen 'y Mibl; ond am hwnyma y mae y Bibl ar ei lin o fore tan nos; ac os aiff darllen y Bibl â rhwfun i'r nefoedd, mi aiff â hwnyma."
"Rhaid i Becca a finnau, Mr. Pugh, gael gwell cysgod na nghysgod i i fyn'd i'r nefoedd; ac yr wyf yn gwan obeithio ei bod hi a finnau o dan y cysgod hwnw er ys llawer blwyddyn bellach. Yr wyf yn teimlo fod y nos yn fy nal yn ffast, Mr. Pugh; ond y mae genyf hyder fod genyf le i droi i orphwyso. Ac mi fyddaf weithiau yn teimlo awydd mawr am gael myn'd. Yr oeddwn yn meddwl neithiwyr fod y byd tragywyddol ar fy sugno iddo ei hun. Yr oeddwn yn meddwl mai ias y cyfnewidiad mawr a barodd i mi lesmeirio, ac y buaswn yn deffro yr ochr draw. Ond yma yr ydwyf eto am ryw hyd. Bydd yn dda genyf feddwl y caf<noinclude><references/></noinclude>
b91wkib5a65dc1gg72idlbmcnbomyfh
Tudalen:Y Dreflan.djvu/69
104
88582
171187
2026-09-28T00:51:23Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171187
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>weled Becca mewn gwlad na bydd eisieu tendio arnaf."
"Ië, dyna ch'i eto yn son am farw," ebe Becca Prys. "Dyne ydi'r 'stori yma o hyd, Mr. Pugh; marw, a dydd y farn, a thragywyddoldeb, a'r nefoedd, o fore tan nos. Mae hyny'n burion mewn pregeth ne' mewn claddedigaeth, ond mae eisio meddwl am fyw, a chael rhwbeth i fyw, ac nid son am farw o hyd. Be' bydawn i felly? Be' ddoe o'r pobtŷ? Pwy dale am y blawd a'r tanwydd, a'r rhent, ynte, Mr. Pugh?"
"Pawb at y peth a fo, Becca," ebe Mr. Pugh. "Y pobtŷ sydd yrwan yn pwyso fwya' ar y'ch meddwl ch'i, Becca, a phethe' byd tragywyddol ar feddwl Benjamin."
"Nid felly chwaith, Mr. Pugh," ebe Becca Prŷs; "ydach ch'i ddim yn meddwl 'y mod fel pagan, byth yn meddwl am fened? Na, yr ydw i'n meddwl mwy nag y ddylie neb pan ga' i fynyd o amser; ond fydda'i ddim yn son am hyny o hyd o hyd fel hwnyma. Dyna neithiwr diwaetha yn y byd; mi feddylies i fwy na mwy am y byd arall pan oedd Benjamin yn ffeintio, er, pan ddaeth o ato'i hun a dechre d'eyd rhw bennillion oedd o wedi 'neyd, i mi slipio i gysgu. A d'eyd y gwir, 'doeddwn i ddim yn 'i dâllt nhw. A be sy eisio g'neyd pennillion? on'd dydi'r hen Williams wedi g'neyd digon, mwy nag a ddysgwn ni byth?"
"Wel, wel," ebe Mr. Pugh, "mi wela nad ydach ch'i ddim eisio cael madel hefo Benjamin, er yr holl drafferth ydach chi'n gael hefo fo, Becca; ydach ch'i?"
"Madel hefo fo, Mr. Pugh; ddeydes i 'rioed mo hyny eto," ebe Becca; a thorodd allan i wylo yn hidl; ond ar hyn daeth rhywun at y drws i geisio torth, a sychodd y wraig dda ei llygaid.
Yr oedd Benjamin Prys yn rhy wael i ni allu cael llawer o hono y noson hono; ond nid oedd Mr. Pugh yn foddlawn i fyned adref heb iddo adrodd wrthym y pennillion yr oedd wedi eu hadrodd wrth Becca y noson gynt pan y "slipiodd i gysgu." Ar ol llawer o grefu, adroddodd hwynt i ni; a thystiai Mr. Pugh na chlywodd<noinclude><references/></noinclude>
3is4tkw6le1k3wzpv5oswsrbqeld6fa
Tudalen:Y Dreflan.djvu/70
104
88583
171188
2026-09-28T00:56:48Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171188
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>erioed ddim byd yn "clymu mor glên." Dyna oedd syniad Mr. Pugh am farddoniaeth mai rhywbeth yn "clymu" ydoedd. Er, ysgatfydd, nad oedd llawer o deilyngdod barddonol yn y pennillion, yr ydwyf yn eu dodi i lawr yma fel yr adroddwyd hwynt gan Benjamin Prys:—
{{c|Y DWYFOL GLWY'.}}
{{center block|
<poem>
Mae'r Dwyfol glwy' yn fwy ei faint
Nag uchaf dôn a son y saint;
O'u dewis ddawn nid oes a ddwêd,
A hudol lais ei hŷd na 'i led!
Tra sêr a haul, trysorau hwn
A ant bob dydd ar gynnydd, gwn;
Yn hen nis daw yn hanes dyn,
Ond deil o hyd fel Duw ei hun.
Y gawod fawr i gyd a fu
Yn disgyn ar y coryn cu;
Ond hindda ddaeth o hon i ddyn;
Fe wenai haul o Wynfa 'i hun.
Pwy brisia 'r Aberth—gwerth y gwaed,
Yr unig Wr—yr iawn a gaed,
Yr ing a droes yn angeu drud?
Mae 'n wyrth i bawb—mae 'n werth y byd.
Mi welaf fan, im' waelaf ŵr,
Rhag tònau dig, rhag tân a dŵr,
A modd i faddeu 'meïau mwy,
Er mwyn ei glais a rhin ei glwy'.
Oes yna fyd a synai fwy,
Pe clywai glod y Dwyfol glwy',
Na 'n daear ni? Ond diau 'r nef
Ofala am ei foli ef.
</poem>
}}
<br>
Yr oedd Becca Prys wedi dyfod ati ei hun yn lled dda ar ol gwerthu y dorth; ac wrth ffarwelio â hi wrth y drws, gwelais Mr. Pugh yn rhoi ei law yn ddirgelaidd yn ei logell, ac yn rhoddi rhywbeth yn ei dwrn, a chlywais hithau yn dyweyd yn ddystaw, "Yn wir, Mr. Pugh, yr ydach chi'n rhy dda wrthon ni."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
e1ez6ulsphc83yqilqqlcjmndev8ztz
Tudalen:Y Dreflan.djvu/71
104
88584
171189
2026-09-28T00:57:21Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171189
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD IX.<br>LLAIS YR YSBRYD.}}}}
UN bore, yn blygeiniol iawn, yr oedd prysurdeb mwy nag arferol i'w ganfod yn y Tyddyn Bach, cartref dedwydd Noah Rees, ymha le y treuliasai ei holl fywyd, oddigerth yr adeg y bu yn yr Athrofa. Er mai tlodaidd ac anenwog oedd yr annedd o ran ymddangosiad, meddai swyn digyffelyb bron iddo ef. Pan yr oedd efe yn dwys ystyried y cwestiwn pa un a dderbyniai efe yr alwad i fugeilio eglwys y Dreflan ai peidio, nid y lleiaf o'r dylanwadau oedd yn peri iddo betruso ydoedd ei hoffder angerddol at ei gartref a'i deulu. Mil a mwy oedd ei adgofion o fore oes, y rhai oeddynt oll wedi eu cymhlethu â gwahanol wrthddrychau ei gartref, megys ei dad a'i fam, yr anifeiliaid, yr adeiladau, y caeau, &c. A phan ddaeth i feddwl o ddifrif am dori y cysylltiad â hwynt, teimlai ei fod wedi ei rybedu wrthynt bron yn annattodol. Yr oedd pob meddwl am ymadael a'i gartref yn actio fel udgorn adgyfodiad i ryw adgof a delwedd ddymunol y tybiasai eu bod wedi suddo i anghof er ys llawer dydd. Ond er y diwrnod cyntaf y derbyniodd oddiwrth Mr. Bevan y llythyr oedd yn cynnwys y cais crybwylledig, yr oedd yn ymwybodol fod rhyw ysbryd yn ei ddilyn yn barhâus, ac yn sibrwd wrtho, "Dos." Os byddai ar adegau yn tueddu i anfon ateb nacaol, byddai yn clywed yr ysbryd yn dyweyd mewn llais cryfach, "Dos." Dichon mai ei ddychymyg ef ei hun oedd hyn i gyd; ond pa fodd bynag, ufuddhâu a wnaeth Noah i' lais yr ysbryd; ac yr oedd y diwrnod wedi dyfod ar ba un yr oedd i adael y Tyddyn Bach, a hwylio tua'r Dreflan i ddechreu ar ei waith fel bugail.
I'r darllenydd, gall yr amgylchiad hwn ymddangos yn rhy ddibwys i'w groniclo; ond nid felly yr ymddangosai i breswylwyr y Tyddyn Bach; a diammheu genyf i lawer un gychwyn i'r America heb i'w teuluoedd edrych ar yr<noinclude><references/></noinclude>
2twaw66hew9205mysx6uigyzdmuiyf5
Tudalen:Y Dreflan.djvu/72
104
88585
171190
2026-09-28T00:59:32Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171190
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>amgylchiad mor bwysig o lawer ag yr edrychai teulu Noah Rees ar ei ymadawiad ef i ben arall ei Sir. I Cadwaladr Rees yr oedd pobpeth yn bwysig ag a fyddai yn dwyn cysylltiad â'i fab. Er nad ellid ar un cyfrif ystyried yr hen ŵr yn ddyn dwl, yr oedd Cadwaladr yn un hynod o syml a diniwed, ac o dymher hapus a boddlawn. Nid oedd neb a allai chwerthin mor galonog, na neb y gellid yn gynt dynu deigryn o'i lygad. Pan fyddai yn ei dymher fwyaf afrywiog, y gair garwaf a glywid o'i enau a fyddai, "Diaist â mi." Yr oedd cryn gyfatebiaeth, gellid meddwl, rhwng ffurfiad ei gorff a'i feddwl ''Crynder'', fel yr oedd yn ymddangos, ydoedd y safon oddiwrth ba un yr oedd y naill a'r llall wedi ei gweithio allan. Yr oedd ei gorff yn y cyfanswm o hono yn grynaidd, ac felly hefyd yn ei ranau: pen crwn, gwyneb crwn, safn fechan gron, ysgwyddau crynion. Mewn gair, anaml y gellid gweled dyn â chan lleied o gonglau ynddo, ac un ag oedd yn llenwi ei ddillad bob modfedd mor gryno, fel y lleinw yr afal ei groen. Felly yr oedd ei feddwl: yn fychan, ond yn grwn, heb un gongl gnyciog ynddo lle y llechai rhagfarn neu ddrwgdeimlad. Meddyliai yr hen wr y byd o Noah; ac yr oedd rhai o'i gymydogion dichellddrwg yn gwybod hyny yn dda; oblegid os byddai arnynt eisieu benthyca arian gan Cadwaladr Rees, byddent yn gyffredin yn rhagymadroddi i'r cais drwy ganmawl Noah, a byddai y cynllun bob amser yn llwyddo.
Er nad oedd yr hen frawd yn bwriadu, na'i amgylchiadau yn caniatâu y diwrnod hwnw, iddo fyned i hebrwng ei fab ddim pellach na'r llidiart, yr oedd efe er hyny wedi codi yn fore, a rhoi ei ddillad goreu am dano, fel pe buasai ar fedr myned i gyfarfod pregethu. Cerddai yn frysiog o'r naill ystafell i'r llall, safai yn aml, a throai yn sydyn ar ei sawdl, megys pe buasai wedi cofio am rywbeth, ac yna dychwelai eilwaith yn waglaw. Gallesid meddwl ar yr olwg arno ei fod wedi gwneyd wmbreth o waith ynglŷn â'r parotoadau i ymadawiad ei fab, oblegid yr oedd y chwys yn ddafnau mawr crynion ar ei ben moel. Ond y ffaith oedd mai yr unig gynnorthwy a wnaethoedd<noinclude><references/></noinclude>
ldaifuf1j0qocs5ieivfvamemczrx3o
Tudalen:Y Dreflan.djvu/73
104
88586
171191
2026-09-28T01:00:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171191
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dyfod o hyd i ddernyn o gortyn i rwymo y gist tê a gawsid gan Mr. Jones y ''shop'', yn yr hon y paciai Noah ei lyfrau, a chogrdroi o gwmpas ei fab, a dyweyd lawer gwaith fod ganddo werth llawer o arian o lyfrau, a'i fod yn methu yn glir a gweled pa bryd y cai ef byth amser i'w darllen.
Hen wreigan ddigon synwyrol oedd Marged Rees, mam Noah, ond fod ynddi hithau y diffyg a welir yn rhy gyffredin mewn mamau na feddant ond un mab, sef meddwl gormod o hono. Yn ei chalon, yr oedd hi yn casâu y fugeiliaeth am yr unig reswm ei bod yn ei di-feddiannu o'i mab. Er na ddywedasai ddim yn erbyn i Noah fyned i'r Dreflan, mynych y gofynodd iddi hi ei hun, Paham nad ellid cario yr achos ymlaen yr un fath ag er ystalm? Y dyddiau goreu a welodd hi ar grefydd oeddynt pan fyddai pregethwr yn cychwyn i'w gyhoeddiad ar gefn merlen ar nos Sadwrn neu fore Sul, ac yn dychwel at ei deulu yn gynnar fore Llun, oddigerth pan fyddai yn myned ar daith am wythnos. Ond yrwan dyma ddynion ieuainc yn cael eu sefydlu yn nghanol "stroniaid," i gael eu trin a'u trosi fel y gwelai yr eglwysi yn dda. Nid oedd hi, nac oedd ddim, yn credu mewn peth felly. Yr oedd digon o le, yn ei meddwl hi, i ddyn wneyd daioni yn ei gartref; ac os oedd ar bobl eisieu pregethwr at eu galwad ganol yr wythnos, paham na chodent bregethwyr o'u plith eu hunain? Ond yr oedd Marged yn gorfod cydnabod fod Noah yn deall ei Fibl yn well na hi; ac felly ni ddywedai hi ddim yn erbyn iddo fyned i'r Dreflan os hyny oedd oreu yn ei feddwl ef.
Os nad ymhellach nag i'r pen arall i'r Sir yr oedd Noah yn myned, eto yr oedd ei ymadawiad mor brofedigaethus i'w fam â phe buasai efe yn myned i ben arall y byd; ac er ei bod hi yn ceisio cadw gwyneb llawen yn ngwydd ei mab, toddai ei chalon yn llymaid o'i mewn; a pha ryfedd os gwnaeth esgus lawer gwaith i ailagor y box oedd yn cynnwys ei ddillad, a'i chwalu i'w waelod, er mwyn cael rhoi ei phen i mewn ynddo i wylo tipyn lle nad allai<noinclude><references/></noinclude>
ak7rlk4pv3bwtwplrj3r0ghhhpv6p7i
Tudalen:Y Dreflan.djvu/74
104
88587
171192
2026-09-28T01:01:22Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171192
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Noah ei gweled, serch mor ofalus oedd hi rhag i'w ddillad fod yn ''damp''? Yr oedd yr hen fam dda wedi parotoi boreufwyd rhagorol; ond, rhyfedd! nid allai un o honynt prin gyffwrdd âg ef. Yr oedd hyd yn nôd Cadwaladr Rees, yr hwn a arferai ymffrostio fod ei ystymog mor iach fel y gallai fwyta "pene'r pryfed," heddyw wedi colli ei archwaeth yn lân, ac yn protestio mai wedi codi yn rhy fore yr oedd. Priodolai y fam a'r mab eu diffyg archwaeth i bobpeth ond i'r gwir achos o hono; ac hyd yn nôd pan gafodd Ted, yr hogyn oedd i hebrwng Noah i'r orsaf, gyfleusdra i ddangos ei alluoedd wrth y bwrdd, ni bu yntau erioed mor amddifad o'i ddawn arferol yn y ffordd hono. Yr oedd Ted, wrth barotoi a glanhâu y ferlen gogyfer â'r siwrne, wedi siarad cymaint wrthi am ymadawiad ei meistr, nes y credai o'r diwedd yn ei galon ei bod hi yn deall pob gair a ddywedai; a thystiai ar ol hyn na welodd efe Ffan erioed cyn y bore hwnw yn gwrthod ei feed, a'i fod yn sicr ei fod wedi gweled deigryn yn ei llygad. Buasai Magws y forwyn yn teimlo yn fwy tawel o lawer yn ngwyneb ymadawiad Noah oni buasai ei bod wedi clywed y ceiliog yn canu ddeuddeg o'r gloch y noson hono. Nid oedd yn dewis i neb feddwl ei bod yn ofergoelus; ond ni fu clywed y ceiliog yn canu ar y fath gamamser erioed yn arwydd dda i neb; ac mi fuasai yn well ganddi na llawer pe buasai hi heb ei glywed, oblegid na chysgodd hi winciad ar ol hyny.
Yr oedd Cadwaladr Rees wedi parotói yn ei feddwl fath o anerchiad neu gynghor i'w fab; a bwriadai ei draddodi iddo cyn brecwast; ond oedodd y peth hyd adeg y pryd bwyta. Ond pan ddaeth yr adeg honó, meddyliodd mai ar ol y boreufwyd y buasai oreu ei ddyweyd. Yr oedd Noah yn y ''market-cart'', a Ted wrth ei ochr yn barod i gychwyn, a'r cynghor eto heb ei draddodi; a meddyliodd yr hen dad gonest mai hwn oedd yr unig gyfleusdra; ac wedi rhoddi un pesychiad, dechreuodd—"Wel, 'y ngwas i"—ond methodd a dyweyd un gair arall. Daeth rhywbeth i'w wddf a barodd iddo ysgwyd llaw yn frysiog â Noah, a dychwelyd i'r tŷ. Dilynwyd ef<noinclude><references/></noinclude>
lejw7kmeqqel3xlrmpa1s8cdw8xp87s
Tudalen:Y Dreflan.djvu/75
104
88588
171193
2026-09-28T01:02:10Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171193
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn ei ymddygiad gan Margaret Rees. Eisteddodd y ddau, un o bobtu'r tân, gan edrych yn syn i'r twll lludw yn nghanol dystawrwydd poenus, cyffelyb i'r gosteg a deimlir pan fydd un ar ei ben ei hun mewn ystafell a'r awrlais wyth niwrnod wedi sefyll yn sydyn, neu gyffelyb i'r dystawrwydd a deimlir pan fyddo un yn unig mewn ystafell lle bydd cyfaill neu berthynas newydd farw. Yn y man, cyfododd Cadwaladr yn sydyn ar ei draed a dywedodd, "Diaist, rhaid i mi fyn'd i newid 'y nillad, a meddwl am ddechre gwneyd rhwbeth."
Yr oedd y cerbyd oedd yn cludo Noah a'i gydymaith yn teithio yn gyflym, ac yn nghanol trwst yr olwynion clustfeiniai Noah am lais yr ysbryd yn dywedyd wrtho "Dos;" ond ni chlywai efe ef yn dyweyd dim.
Yn y man dychymygai glywed yr ysbryd yn dyweyd rhywbeth, ond nid "Dos" a ddywedai.
{{nop}}
"Noah Rees, dyma ti wedi gadael y cartref dedwyddaf ar y ddaear, cartref na weli ei fath byth mwy. Gadewaist dad a mam a fuasent yn foddlawn i roddi eu bywyd i lawr yn hytrach nag i flewyn o'th ben gael ei niweidio— tad a mam ag y gellir sicrhâu am danynt mai un O amcanion penaf eu bywyd oedd dy wneyd di yn hapus a chomfforddus. Gadewaist Tom y gwas, yr hwn a ddysgaist i ganu bass, a'r hwn hefyd yr oedd dy ddymuniad yn orchymyn iddo, ac nad oedd dim yn ormod ganddo ei wneyd i ti, yr hwn sydd y fynyd hon yn yr ystabl yn gorwedd yn y gwellt, ac yn wylo ei oreu glas o herwydd dy golli. Gadewaist Magws, yr hon o herwydd dy garedigrwydd tuag ati, a ystyriai yn fraint cael glanhâu dy esgidiau. Dyna Ted sydd wrth dy ochr, yr hwn a ddysgaist i ddarllen ac i ganu; onid äi efe trwy y tân a'r dwfr er dy fwyn? Pa sawl gwaith, pan oeddit ti yn hir yn dychwelyd o dy gyhoeddiad nos Sabboth, y bu y tri yn crefu ar dy fam am gael aros i fyny nes y deuit adref, er mwyn iddynt gael gweled dy wyneb, a chael canu tôn cyn myned i orphwys? Oni wnêst Tom a Ted yn frodyr, a Magws yn chwaer i ti? ac oni wnêst ti y Tyddyn Bach yn baradwys o ran hapusrwydd?<noinclude><references/></noinclude>
t66j44odraxtwri8e6vjbivdhhrunrd
Tudalen:Y Dreflan.djvu/76
104
88589
171194
2026-09-28T01:02:50Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171194
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Gadewaist y cwbl ar ol, ond ei hapusrwydd; cymeraist hwnw gyda thi. Yr oeddit yn ddefnyddiol yn dy gartref, a phawb yno yn hoff o honot. Gadewaist y cwbl ar ol; ac er mwyn beth? Er mwyn bod yn fugail yn y Dreflan —er mwyn cael dy alltudio i ystafell fechan i fyw y rhan fwyaf o'th amser ar dy ben dy hun—er mwyn myned o dan faich mawr o gyfrifoldeb a phryder—er mwyn i ti orfod gofyn dy lettŷwraig am bobpeth y bydd arnat anghen am dano, yr hyn yr oedd dy fam gartref yn gofalu am dano heb i ti feddwl na dychymygu dim yn ei gylch—er mwyn i ti gael dy hunan mewn sefyllfa ag y bydd rhai yn dysgwyl i ti allu gwneyd pobpeth, a'i wneyd yn berffaith, ac y byddi yn syrthio yn enbyd yn eu golwg os nad elli ei wneyd er mwyn i ti fod yn nôd i saethau gwenwynig a geiriau bryntion proffeswyr di-grefydd ac aflednais—ac er mwyn deugain punt yn y flwyddyn i"
"Aros, Ted," ebe Noah yn sydyn, "pa faint o ffordd ydym oddicartref?"
"Pedair milldır, syr," ebe Ted; "mae Ffan yn myn'd yn iawn, yn ol wyth milldir yr awr."
"Ond, Ted, dydi o ddim yn dyweyd 'Dos,'" ebe Noah yn' absennol ei feddwl.
"Pwy ddim yn dyweyd 'Dos?'" ebe Ted yn synedig. "O, nid wyt ti yn deall, Ted. Gad i'r ferlen gerdded yn araf deg am dipyn."
Nid oedd yr olwynion yn gwneyd trwst, ac ni chlywai Noah yr ysbryd yn dyweyd dim. Yr oedd y geiriau ar wefusau Noah Rees, ac yr oedd ar roddi y gorchymyn i Ted droi yn ol tua chartref, pryd y dychymygodd glywed llais yr ysbryd yn dyweyd yn eglur. "Paid," a dim ychwaneg.
Yr oedd y cerbyd yn myned yn ddystaw ac araf deg, a'r awenau yn gorwedd yn llac ar gefn y ferlen, pryd y sylwodd Noah fod Ted yn edrych i'w wyneb yn bryderus a dychrynedig, ac y dywedodd wrth yr hogyn, "Gyr ymlaen." Yn y foment yr oedd traed bach a heinyf Ffan fywiog yn chware pedwarawd ar y ffordd galed, a swn<noinclude><references/></noinclude>
rvsrb3phd9b3ynf7wrhq79vhexpfoxc
Tudalen:Y Dreflan.djvu/77
104
88590
171195
2026-09-28T01:03:45Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171195
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yr olwynion yn ffurfio math o gyfeiliant i'r gerddoriaeth; ac yn fuan yr oedd Noah wedi syrthio i ddwfn fyfyrdod drachefn. Yn ebrwydd clywai lais yr ysbryd yn adrodd y gair croesawus,
Dos, dos! Mae maes eang o ddefnyddioldeb o dy flaen. Nid hapusrwydd a ddylai fod nôd ac amcan gŵr Duw, ond dyledswydd a defnyddioldeb. Cei lawer o brofedigaethau; ond ni pherffeithir dithau mwy na dy Feistr namyn trwy ddyoddefiadau. Gofala am gadw cydwybod bur, a chymeradwyir di gan y rhai y mae eu cymeradwyaeth yn werth i ti ei gael, a chan yr Hwn y mae ei gymeradwyaeth yn cynnwys pob daioni. Dywed y gwir serch i ti gael dy groeshoelio, gan gofio y bydd i'r gwir dy adgyfodi i fywyd uwchlaw malais dy elynion penaf. Os trywenir di yn dy ystlys gan ryw gasddyn, gwel na ddaw allan ond dwfr a gwaed. Na ddywed, Llygad am lygad, a dant am ddant. O bosibl y cei frodyr na byddant yn credu ynot; ond gofala ar fod genyt Dad fydd yn rhoi tystiolaeth o'i foddlonrwydd ynot yn ngwydd y byd. Nid dy amgylchiadau fydd yn cyfansoddi dy hapusrwydd, ond yr hyn a fyddi di dy hun. Llafuria, myfyria, a gweddïa; a thi a gei dad a mam, a brodyr a chwiorydd, a ymlynant wrthyt hyd farw. Os byw yn ddioglyd a diofal a wnei—"
"Meistr," ebe Ted, wrth ei weled yn aros yn llonydd yn y cerbyd; "ydach chi ddim yn gwybod y'n bod ni yn y station?"
"Felly yr wyf yn gweled, Ted."
"Ddyliwn i fod chi'n gwneyd pregeth heddyw, syr!" "Na, wedi bod yn gwrando un yr ydwyf, Ted," oedd yr ateb. Edrychodd yr hogyn arno yn synedig.
Wedi gwneyd ei gelfi yn ddiogel, a thynu ei law lawer gwaith trwy fwng y ferlen, a'i phatio ar ei hysgwydd yn serchog, ac wedi ysgwyd llaw yn gynhes a'r bachgen, a rhoddi rhywbeth iddo i gofio am dano, yr oedd Noah Rees ymhen ychydig fynydau yn chwyrnellu ymaith yn y gerbydres tua'r Dreflan. Er fod y trên yn gwneyd trwst enbyd, Noah yn dra ebrwydd a syrthiodd i gysgu.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
epldsowruhuvppelupzpdz6z7uqj1ck
Tudalen:Y Dreflan.djvu/78
104
88591
171196
2026-09-28T01:18:10Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171196
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Y Dreflan (Ymaflodd yn Noah Rees â'i ddwy law).jpg|canol|550px|bawd|"Ymaflodd yn Noah Rees â'i ddwy law."]]<noinclude><references/></noinclude>
cme512ccs93ce83wizjatpqbysvyx5p
171197
171196
2026-09-28T01:19:08Z
AlwynapHuw
1710
171197
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude><br>
[[Delwedd:Y Dreflan (Ymaflodd yn Noah Rees â'i ddwy law).jpg|canol|550px|bawd|{{c|"Ymaflodd yn Noah Rees â'i ddwy law."}}]]
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
am0cz3ob34rh9kn9mdyzujfw9x6jjax
Tudalen:Y Dreflan.djvu/79
104
88592
171198
2026-09-28T01:20:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171198
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Breuddwydiai ei fod wedi cyrhaeddyd pen ei daith, ac fod Mr. Jeremiah Jenkins yno yn ei gyfarfod, ac yn gofyn iddo yn chwerw, pa beth oedd efe yn ei geisio yno—y gallent hwy wneyd hebddo yn burion. Deffrôdd mewn teimladau cyffrous, a chafodd fod ei freuddwyd mewn rhan yn wir. Yr oedd wedi cyrhaedd pen ei siwrneu, ac yr oedd yno un yn ei ddysgwyl. Ond nid Jeremiah oedd efe. Gwisgai y gŵr hwn gob a llodrau duon, a gwasgod wèn, a het wellt; a gallai y dyn dylaf gasglu oddiwrth ei wyneb ei fod yn un o'r dynion tirionaf yn y byd. Nid oedd efe amgen na'n hen gydnabod Mr. Pugh. Càn gynted ag y canfyddodd efe Noah Rees, ymaflodd ynddo â'i ddwy law, gan ei groesawu yn wresog; ac wedi rhoi gofal ei bethau i'r gwas, efe a'i cymerodd yn ei fraich, ac a'i harweiniodd i'w dŷ ei hun. Yr oedd yn wir falch ganddo gael Noah Rees i'r Dreflan; ac yr oedd y winc: ddeallgar a roddai ar bawb a'u cyfarfyddent cystal a dyweyd, "Dyma i ch'i be' sy gyn'on ni!"
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD X.<br>ISMAEL ETO.}}}}
PE i drigolion y Dreflan yn unig y bwriadaswn yr hanes hwn, ni buasa anghenrheidrwydd arnaf ddyweyd ymha le y saif y ''White Horse;'' ond gan fy mod yn gwenieithio i mi fy hunan fod cylch fy narllenwyr dipyn yn eangach, fe allai y cyd-ddygir â mi yn rhoi desgrifiad byr o'r tŷ a'i amgylchiadau. Nid am fy mod yn meddwl y cynnyrcha y desgrifiad unrhyw awydd yn y dyeithr-ddyn a ddygwyddo ddyfod o fewn ein pyrth am fyned i lettŷa i'r White Horse mwy nag y cynnyrchai desgrifiad o'r Twr yn Llundain awydd am ei breswylio, <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
6hlnle01chqw39re6un9i0yd63n5ozb
171199
171198
2026-09-28T01:21:26Z
AlwynapHuw
1710
171199
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Breuddwydiai ei fod wedi cyrhaeddyd pen ei daith, ac fod Mr. Jeremiah Jenkins yno yn ei gyfarfod, ac yn gofyn iddo yn chwerw, pa beth oedd efe yn ei geisio yno—y gallent hwy wneyd hebddo yn burion. Deffrôdd mewn teimladau cyffrous, a chafodd fod ei freuddwyd mewn rhan yn wir. Yr oedd wedi cyrhaedd pen ei siwrneu, ac yr oedd yno un yn ei ddysgwyl. Ond nid Jeremiah oedd efe. Gwisgai y gŵr hwn gob a llodrau duon, a gwasgod wèn, a het wellt; a gallai y dyn dylaf gasglu oddiwrth ei wyneb ei fod yn un o'r dynion tirionaf yn y byd. Nid oedd efe amgen na'n hen gydnabod Mr. Pugh. Càn gynted ag y canfyddodd efe Noah Rees, ymaflodd ynddo â'i ddwy law, gan ei groesawu yn wresog; ac wedi rhoi gofal ei bethau i'r gwas, efe a'i cymerodd yn ei fraich, ac a'i harweiniodd i'w dŷ ei hun. Yr oedd yn wir falch ganddo gael Noah Rees i'r Dreflan; ac yr oedd y winc: ddeallgar a roddai ar bawb a'u cyfarfyddent cystal a dyweyd, "Dyma i ch'i be' sy gyn'on ni!"
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD X.<br>ISMAEL ETO.}}}}
PE i drigolion y Dreflan yn unig y bwriadaswn yr hanes hwn, ni buasa anghenrheidrwydd arnaf ddyweyd ymha le y saif y ''White Horse;'' ond gan fy mod yn gwenieithio i mi fy hunan fod cylch fy narllenwyr dipyn yn eangach, fe allai y cyd-ddygir â mi yn rhoi desgrifiad byr o'r tŷ a'i amgylchiadau. Nid am fy mod yn meddwl y cynnyrcha y desgrifiad unrhyw awydd yn y dyeithr-ddyn a ddygwyddo ddyfod o fewn ein pyrth am fyned i lettŷa i'r ''White Horse'' mwy nag y cynnyrchai desgrifiad o'r Twr yn Llundain awydd am ei breswylio, <section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
dn2d93kbb1b0f9zxd942yfhx367cuja
Tudalen:Y Dreflan.djvu/80
104
88593
171200
2026-09-28T01:22:06Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171200
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ond er mwyn hysbysu y dyeithr-ddyn fod y fath le yn ein Treflan, a'i gyfarwyddo pa le y mae os dygwydd iddo deimlo cywreingarwch am ei weled.
Tybiwn fod yr ymwelydd a'n Treflan wedi disgyn yn yr orsaf, ac wedi iddo brynu newyddiadur gan yr hogyn sydd bron a'i fyddaru, a gwrthod prynu box o fusees gan yr hogyn arall—os bydd iddo ddilyn y llïaws o'i gyd ymwelwyr, daw yn unionsyth i'r groes, sef canol y Dreflan. Yn y fan hon, bydded iddo droi ar y llaw ddehau i fyny y brif heol, a chaiff weled mai y faelfa gyntaf yr ä heibio iddo fydd un Meistri Puff & Bluster; a rhag iddo wneyd camgymeriad, edryched i'r ffenestri a chaiff weled papyrau mawrion, a llythyrenau breision arnynt, lle y dywed y boneddigion eu bod newydd fod yn Manchester, ac wedi prynu miloedd o hetiau, miloedd o foneti, miloedd o ddarnau o frethynau, &c., a'u bod gydag aberth mawr er mwyn y cyhoedd yn awr yn eu gwerthu am hanner y prisiau arferol, yr hyn, wrth gwrs, sydd i gyd heb fod yn ol y gwir yn fanwl. Yn nesaf daw at faelfa Mr. Rogers; ac os na fydd cwsmeriaid i fewn, edryched trwy y ffenestr a chaiff weled John Aelod Jones, a'i ddwylaw yn ei logellau yn edrych yn drist a syn ar y counter, ac yn galaru am y camgymeriad a wnaeth wrth ddewis yr alwedigaeth frethynol yn lle bod yn Llundain yn ysgrifenu i rai o'r chwarterolion. Ni bydd llawer o berygl i'r ymwelydd aros yn hir wrth ''shop'' Michael Flanegan, gwerthwr pytatws, ''oranges'', a phob math o bysgod, os na bydd iddo roddi ei gadach poced am ei ffroenau. Felly daw yn nesaf at shop barbwr, a chlamp o bolyn lliwiedig uwch ben y drws; ac os bydd yr ymwelydd mor anwybodus â mi, dymunai gael gwybod paham y dynodir shop eilliwr bob amser â pholyn? Os edrycha i ffenestr y faelfa hon, ni wêl efe yno ddim ond rhanau o wallt o amryw liwiau, ac yn ymddangos mor hen a llygredig fel y penderfyna yr edrychydd ar unwaith fod y rhai a fuont yn ei berchenogi un tro wedi pydru er ys llawer blwyddyn; ac os dygwydd i'r ymwelydd fod yn benfoel, ac iddo fod o'r un feddwl â mi, bydd yn well ganddo a<noinclude><references/></noinclude>
hnciws71n26xkwvx63d18ov2kufp238
Tudalen:Y Dreflan.djvu/81
104
88594
171201
2026-09-28T01:23:11Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171201
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ros yn benfoel byth nag anurddo ei hun a gwallt dyn arall nas gwyr yn y byd mawr pwy na pha beth ydoedd, pa un ai gwryw ai benyw, llofrudd ai sant, nac ymha fynwent y mae ei lwch yn awr yn gorwedd.
Wedi i'r ymwelydd fyned heibio i amryw dafarndai a thai preifat, daw at ''shop'' yr hen Ann Williams. Bydded iddo sefyll yma, oblegid yn y faelfa hon y dygir ymlaen y fasnach onestaf yn y Dreflan. Nid oes gan yr hen chwaer lawer ar ei helw; a gallai un dybied y medrai efe brynu ei holl ''stock in trade'' am ychydig sylltau. Mae papyr ysgwâr wedi ei binio wrth y llen goch tu cefn i'r ffenestr, a'r ddwy linell gyntaf o bosibl a ddysgodd yr ymwelydd o farddoniaeth Seisonig wedi eu hargraffu arno, sef,—
{{c|"TABLE BEER<br>SOLD HERE,"}}
Mae y rhai a ddynodant nodwedd arbenicaf y fasnach. yr argraff yn annhaclus, er iddo gymeryd dwy noswaith. i'r hen Ann i'w ddwyn i'w sefyllfa bresennol. Cydnabyddir mai ''table beer'' Ann ydyw y goreu yn y Dreflan, ac nid ydyw Bass & Co. yn meddwl mwy o'u cymysgedd nag y mae Ann yn ei feddwl o'i dyfais i wneyd ei diod ddirwestol. Er, fel y dywedwyd, mai hwn ydyw asgwri cefn ei masnach, ceir yn ei shop hi bethau eraill, megys penwaig cochion, ac amryw felusion, yn gyfleth, ''India Rock,'' ac felly yn y blaen;. y rhai diweddaf a wnaethant i'm dannedd redeg filoedd o weithiau yn nhymmor fy nachgendod. Yr ydwyf yn credu fy mod yn mynegu teimladau ugeiniau o'm cyfoedion pan ddywedaf fod genyf barchedigaeth dwfn i'r hen wreigan onest a charedig; ac yr ydwyf yn ei theimlo yn fraint gael rhoi ei henw mewn print, yr hyn yr ydwyf yn lled sicr na fu erioed o'r blaen, tra y mae'r cysodydd wrthi yn feunyddiol gydag enwau eraill annhraethol llai teilwng. Pan oeddwn yn yr ysgol, a'r papyr yn llawer drutach nag ydyw yn awr, a'r newyddiadur yn foeth y boneddwr, y fath ddiwrnod hapus oedd hwnw pan fyddwn wedi llenwi<noinclude><references/></noinclude>
ds62ewdeu0pxibvedo2hbyz2olqnmnl