Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.21
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Madam Wen.djvu/108
104
33426
171227
171203
2026-09-29T07:00:50Z
~2026-52485-08
4251
171227
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Rhaid dadlwytho cyn nos drennydd, a llwytho gro," oedd y neges a gariai Dic oddi wrth berchen y Wennol. Galwodd Wil ar y Meistr diffaith arall a wasanaethai i fod yn dyst mai gorffwylledd amlwg a noeth oedd yn peri i neb feddwl am y fath beth.
"Rhaid gwneud!" meddai Dic. "Mae hi ei hun am fynd efo'r llong i'w thaith nesaf, ac mi fydd yma nos drennydd yn ddiffael."
Er cymaint y rhegi a'r dymer ddrwg, dechreuwyd ar y gwaith, a gorffennwyd ef hefyd mewn pryd. Aeth bechgyn Llanfihangel ynghylch eu gorchwylion pellach, a daeth Madam Wen i'w llong yn brydlon. Codwyd hwyl, a chychwynnwyd.
Deg o ddwylo oedd ar fwrdd y Wennol, a Huw Bifan oedd y capten. Bechgyn glannau'r môr oeddynt, o ben Caergybi i Aber Menai, ac ni bu erioed haid fwy calon-ysgafn na gwell eu tymer. Nid oedd arnynt ofn na dyn nac ysbryd, da na drwg, ond iddynt gael gwenau eu meistres. Nid oedd dylanwad Wil na Robin y Pandy ar yr un llanc ohonynt. Yr oedd ganddynt le wrth eu bodd, a manteision i wneud enillion na warafunid iddynt gan eu meistres hael.
Dau o ynnau mawr a gariai'r llong, ac nid yn y rheini y gosodai'r morwyr eu hyder pan fyddent mewn perygl oddi wrth fôr-ladron, ond yng nghyflymder eu llestr, ac anfynych y siomid hwynt.
Ar ôl galw ym Mhwllheli a chymryd profisiwns i mewn yr aeth Madam Wen at Huw Bifan i drafod y fordaith. Un o borthladdoedd Ffrainc oedd y nod i gyrchu ato, a buan y deallodd yr hen forwr beth oedd mewn golwg pan ddechreuodd hi egluro.
"Oes," meddai Huw Bifan, "y mae cryn gynnwrf tuag Iwerddon. Ac y mae'n siwr bod digon o ofyn ar longau fel y Wennol. Mi welsom ni bump neu chwech o longau Ffrengig wrth ddyfod i fyny'r sianel ryw bythefnos yn ôl."
"Mi awn ar ein hunion i borthladd Brest," meddai hithau.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
5itdbqpibfpv866y0xq3zz530myftxk
Tudalen:Madam Wen.djvu/109
104
33427
171228
76105
2026-09-29T07:19:54Z
~2026-52485-08
4251
171228
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Mae sôn bod Abel o gwmpas," meddai Huw yn ddidaro, wedi iddynt drefnu'r fordaith i fodlonrwydd. "Ond ni welsom ni ddim golwg arno ychwaith."
"Ai ar ei droed ei hun y mae o 'n awr?
Ie, wedi dianc mewn ffrae oddi wrth y Capten Kidd, ac wedi lladrata llong yn perthyn i Bedr o Rwsia." Chwarddodd Huw wrth orffen yr hanes: "Y mae'n cario deg o ynnau mawr, a deugain o ddwylo. A'r enw y mae Abel wedi ei roddi ar ei long ydyw ''Certain Death.''
Yr oedd pawb a wyddai am y môr yn gwybod am y Capten Kidd a'r môr-ladron eraill oedd yn gymaint dychryn i forwyr o'r Môr Tawch i'r Môr Tawel. Nid oedd Cymro yn y wlad heb wybod am yr arch-leidr Syr Henry Morgan a'i ysgelerderau. A dyma Abel Owen, yn ôl pob arwydd, a'i fryd ar wneud enw cyffelyb iddo'i hun mewn anfad anturiaeth.
Gobeithiaf bod ein llestr bach ni yn rhy ddisylw i fod yn werth pylor Abel," meddai Madam Wen.
Gobeithio hynny. Mae sôn mai un garw ydyw. Wel," meddai Huw yn gyfrwys—"mae'n dibynnu pa beth fydd y llwyth. Mi fydd Abel a'i lygad yn agored, mi wranta."
Chwarddodd hithau at ddull anuniongyrchol Llanfihangel o ymofyn gwybodaeth: "Arfau a phylor a bwyd fydd y llwyth, Huw. Ac os bydd ffawd o'n tu, hwyrach y cawn rywbeth hefyd â mwy o bris arno na hynny."
Dyna oeddwn i'n feddwl," meddai'r hen forwr. "Nid un dwl ydyw Abel. Mae o a'i lygad yn ei ben. Wedi gweld y mae'r gwalch fod arian pridwerth y bobol fawr yma yn haws eu cael nag unrhyw arian arall. Helynt y rhyfel yma sydd wedi dyfod ag ef i'r ochr yma, 'does dim amheuaeth."
Cyrhaeddodd y Wennol borthladd Brest heb gyfarfod neb na dim i'w ofni. Yno cafwyd comisiwn heb drafferth yn y byd, ac ymhen ychydig ddyddiau aeth Huw Bifan a'i long a'i lanciau i'r môr drachefn,<noinclude><references/></noinclude>
pz7tenaw5nwcrub23ts2ixxz2a8pr9j
171229
171228
2026-09-29T08:38:26Z
~2026-52485-08
4251
171229
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Mae sôn bod Abel o gwmpas," meddai Huw yn ddidaro, wedi iddynt drefnu'r fordaith i fodlonrwydd. "Ond ni welsom ni ddim golwg arno ychwaith."
"Ai ar ei droed ei hun y mae o 'n awr?"
"Ie, wedi dianc mewn ffrae oddi wrth y Capten Kidd, ac wedi lladrata llong yn perthyn i Bedr o Rwsia." Chwarddodd Huw wrth orffen yr hanes: "Y mae'n cario deg o ynnau mawr, a deugain o ddwylo. A'r enw y mae Abel wedi ei roddi ar ei long ydyw ''Certain Death.''"
Yr oedd pawb a wyddai am y môr yn gwybod am y Capten Kidd a'r môr-ladron eraill oedd yn gymaint dychryn i forwyr o'r Môr Tawch i'r Môr Tawel. Nid oedd Cymro yn y wlad heb wybod am yr arch-leidr Syr Henry Morgan a'i ysgelerderau. A dyma Abel Owen, yn ôl pob arwydd, a'i fryd ar wneud enw cyffelyb iddo'i hun mewn anfad anturiaeth.
Gobeithiaf bod ein llestr bach ni yn rhy ddisylw i fod yn werth pylor Abel," meddai Madam Wen.
Gobeithio hynny. Mae sôn mai un garw ydyw. Wel," meddai Huw yn gyfrwys—"mae'n dibynnu pa beth fydd y llwyth. Mi fydd Abel a'i lygad yn agored, mi wranta."
Chwarddodd hithau at ddull anuniongyrchol Llanfihangel o ymofyn gwybodaeth: "Arfau a phylor a bwyd fydd y llwyth, Huw. Ac os bydd ffawd o'n tu, hwyrach y cawn rywbeth hefyd â mwy o bris arno na hynny."
Dyna oeddwn i'n feddwl," meddai'r hen forwr. "Nid un dwl ydyw Abel. Mae o a'i lygad yn ei ben. Wedi gweld y mae'r gwalch fod arian pridwerth y bobol fawr yma yn haws eu cael nag unrhyw arian arall. Helynt y rhyfel yma sydd wedi dyfod ag ef i'r ochr yma, 'does dim amheuaeth."
Cyrhaeddodd y Wennol borthladd Brest heb gyfarfod neb na dim i'w ofni. Yno cafwyd comisiwn heb drafferth yn y byd, ac ymhen ychydig ddyddiau aeth Huw Bifan a'i long a'i lanciau i'r môr drachefn,<noinclude><references/></noinclude>
ctsscclkcqpb1f3bqadcieymyauglsr
171230
171229
2026-09-29T09:20:38Z
~2026-52485-08
4251
171230
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Mae sôn bod Abel o gwmpas," meddai Huw yn ddidaro, wedi iddynt drefnu'r fordaith i fodlonrwydd. "Ond ni welsom ni ddim golwg arno ychwaith."
"Ai ar ei droed ei hun y mae o 'n awr?"
"Ie, wedi dianc mewn ffrae oddi wrth y Capten Kidd, ac wedi lladrata llong yn perthyn i Bedr o Rwsia." Chwarddodd Huw wrth orffen yr hanes: "Y mae'n cario deg o ynnau mawr, a deugain o ddwylo. A'r enw y mae Abel wedi ei roddi ar ei long ydyw ''Certain Death.''"
Yr oedd pawb a wyddai am y môr yn gwybod am y Capten Kidd a'r môr-ladron eraill oedd yn gymaint dychryn i forwyr o'r Môr Tawch i'r Môr Tawel. Nid oedd Cymro yn y wlad heb wybod am yr arch-leidr Syr Henry Morgan a'i ysgelerderau. A dyma Abel Owen, yn ôl pob arwydd, a'i fryd ar wneud enw cyffelyb iddo'i hun mewn anfad anturiaeth.
"Gobeithiaf bod ein llestr bach ni yn rhy ddisylw i fod yn werth pylor Abel," meddai Madam Wen.
"Gobeithio hynny. Mae sôn mai un garw ydyw. Wel," meddai Huw yn gyfrwys—"mae'n dibynnu pa beth fydd y llwyth. Mi fydd Abel a'i lygad yn agored, mi wranta."
Chwarddodd hithau at ddull anuniongyrchol Llanfihangel o ymofyn gwybodaeth: "Arfau a phylor a bwyd fydd y llwyth, Huw. Ac os bydd ffawd o'n tu, hwyrach y cawn rywbeth hefyd â mwy o bris arno na hynny."
Dyna oeddwn i'n feddwl," meddai'r hen forwr. "Nid un dwl ydyw Abel. Mae o a'i lygad yn ei ben. Wedi gweld y mae'r gwalch fod arian pridwerth y bobol fawr yma yn haws eu cael nag unrhyw arian arall. Helynt y rhyfel yma sydd wedi dyfod ag ef i'r ochr yma, 'does dim amheuaeth."
Cyrhaeddodd y Wennol borthladd Brest heb gyfarfod neb na dim i'w ofni. Yno cafwyd comisiwn heb drafferth yn y byd, ac ymhen ychydig ddyddiau aeth Huw Bifan a'i long a'i lanciau i'r môr drachefn,<noinclude><references/></noinclude>
n1kjdanf2lhg8kewrl7ygg6rweg0zsa
171231
171230
2026-09-29T09:25:07Z
~2026-52485-08
4251
171231
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Mae sôn bod Abel o gwmpas," meddai Huw yn ddidaro, wedi iddynt drefnu'r fordaith i fodlonrwydd. "Ond ni welsom ni ddim golwg arno ychwaith."
"Ai ar ei droed ei hun y mae o 'n awr?"
"Ie, wedi dianc mewn ffrae oddi wrth y Capten Kidd, ac wedi lladrata llong yn perthyn i Bedr o Rwsia." Chwarddodd Huw wrth orffen yr hanes: "Y mae'n cario deg o ynnau mawr, a deugain o ddwylo. A'r enw y mae Abel wedi ei roddi ar ei long ydyw ''Certain Death.''"
Yr oedd pawb a wyddai am y môr yn gwybod am y Capten Kidd a'r môr-ladron eraill oedd yn gymaint dychryn i forwyr o'r Môr Tawch i'r Môr Tawel. Nid oedd Cymro yn y wlad heb wybod am yr arch-leidr Syr Henry Morgan a'i ysgelerderau. A dyma Abel Owen, yn ôl pob arwydd, a'i fryd ar wneud enw cyffelyb iddo'i hun mewn anfad anturiaeth.
"Gobeithiaf bod ein llestr bach ni yn rhy ddisylw i fod yn werth pylor Abel," meddai Madam Wen.
"Gobeithio hynny. Mae sôn mai un garw ydyw. Wel," — meddai Huw yn gyfrwys — "mae'n dibynnu pa beth fydd y llwyth. Mi fydd Abel a'i lygad yn agored, mi wranta."
Chwarddodd hithau at ddull anuniongyrchol Llanfihangel o ymofyn gwybodaeth: "Arfau a phylor a bwyd fydd y llwyth, Huw. Ac os bydd ffawd o'n tu, hwyrach y cawn rywbeth hefyd â mwy o bris arno na hynny."
Dyna oeddwn i'n feddwl," meddai'r hen forwr. "Nid un dwl ydyw Abel. Mae o a'i lygad yn ei ben. Wedi gweld y mae'r gwalch fod arian pridwerth y bobol fawr yma yn haws eu cael nag unrhyw arian arall. Helynt y rhyfel yma sydd wedi dyfod ag ef i'r ochr yma, 'does dim amheuaeth."
Cyrhaeddodd y Wennol borthladd Brest heb gyfarfod neb na dim i'w ofni. Yno cafwyd comisiwn heb drafferth yn y byd, ac ymhen ychydig ddyddiau aeth Huw Bifan a'i long a'i lanciau i'r môr drachefn,<noinclude><references/></noinclude>
dwuipjycpmbvgfee1gievfa1pd65vey
171232
171231
2026-09-29T09:40:24Z
~2026-52485-08
4251
171232
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Mae sôn bod Abel o gwmpas," meddai Huw yn ddidaro, wedi iddynt drefnu'r fordaith i fodlonrwydd. "Ond ni welsom ni ddim golwg arno ychwaith."
"Ai ar ei droed ei hun y mae o 'n awr?"
"Ie, wedi dianc mewn ffrae oddi wrth y Capten Kidd, ac wedi lladrata llong yn perthyn i Bedr o Rwsia." Chwarddodd Huw wrth orffen yr hanes: "Y mae'n cario deg o ynnau mawr, a deugain o ddwylo. A'r enw y mae Abel wedi ei roddi ar ei long ydyw ''Certain Death.''"
Yr oedd pawb a wyddai am y môr yn gwybod am y Capten Kidd a'r môr-ladron eraill oedd yn gymaint dychryn i forwyr o'r Môr Tawch i'r Môr Tawel. Nid oedd Cymro yn y wlad heb wybod am yr arch-leidr Syr Henry Morgan a'i ysgelerderau. A dyma Abel Owen, yn ôl pob arwydd, a'i fryd ar wneud enw cyffelyb iddo'i hun mewn anfad anturiaeth.
"Gobeithiaf bod ein llestr bach ni yn rhy ddisylw i fod yn werth pylor Abel," meddai Madam Wen.
"Gobeithio hynny. Mae sôn mai un garw ydyw. Wel," — meddai Huw yn gyfrwys — "mae'n dibynnu pa beth fydd y llwyth. Mi fydd Abel a'i lygad yn agored, mi wranta."
Chwarddodd hithau at ddull anuniongyrchol Llanfihangel o ymofyn gwybodaeth: "Arfau a phylor a bwyd fydd y llwyth, Huw. Ac os bydd ffawd o'n tu, hwyrach y cawn rywbeth hefyd â mwy o bris arno na hynny."
"Dyna oeddwn i'n feddwl," meddai'r hen forwr. "Nid un dwl ydyw Abel. Mae o a'i lygad yn ei ben. Wedi gweld y mae'r gwalch fod arian pridwerth y bobol fawr yma yn haws eu cael nag unrhyw arian arall. Helynt y rhyfel yma sydd wedi dyfod ag ef i'r ochr yma, 'does dim amheuaeth."
Cyrhaeddodd y Wennol borthladd Brest heb gyfarfod neb na dim i'w ofni. Yno cafwyd comisiwn heb drafferth yn y byd, ac ymhen ychydig ddyddiau aeth Huw Bifan a'i long a'i lanciau i'r môr drachefn,<noinclude><references/></noinclude>
mkngqwojf8wkjbxxg1fowkyo2q8ebga
Tudalen:Y Dreflan.djvu/82
104
88595
171204
2026-09-28T13:23:57Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171204
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>y ''copy-book''! Fel y byddwn yn rhedeg âg ef i ''shop'' yr hen Ann i'w werthu am bapyraid o gyfleth! O ddyddiau hapus na ddychwelant byth mwy! Bydd fyw byth, yr hen Ann. Ti a wasgeraist yn ystod dy fywyd fwy o wir bleser gyda'th gyfleth, a'th ''India Rock'', na nemawr i un a adwaenwn! Os bydd gan yr ymwelydd geiniog y gall ei hebgor, bydded iddo batronisio yr hen wreigan dda, oblegid y mae hi, at ei rhinweddau eraill, yn Fethodist zelog Gwthied yr ymwelydd yr hanner drws, neu fel y galwem i y bechgyn ef, yr hector, yn agored, a bydd y gloch sydd ar ffurf blodeuyn gogwyddedig ac yn gysylltiedig âg ef, yn sicr o ganu, ac mewn atebiad i'w gwys, daw ir golwg o'r ystafell gefn hen wraig lanwaith a pharchus yn gwisgo pais a bedgwn, a chap quick gwyn mawr yn gylch am ei gwyneb, ac yn edrych yn siriol drwy ei hyspectol felen, ac os bydd yr ymwelydd yn dewis, caiff heblaw swm da o gyfleth am ei geiniog, ymgom ddifyr ac adeiladol; ac na fydded iddo deimlo yn glwyfedig os nad ydyw y gath brâf ac amryliw a wêl yn eistedd gan hanner cysgu ar un pen i'r ''counter'' yn cymeryd sylw o hono, oblegid felly yr ymddyga hi at bawb yn ddïeithriad.
Gan fod ''shop'' Ann Williams yn gymhwys ar gongl heol, bydded i'r ymwelydd eto droi ar y llaw ddehau, a daw i ystryd gul a budr, cwbl anghofiedig gan y Bwrdd Lleol, oddigerth ar adeg hel y dreth. Wedi iddo fyned heibio i amryw o dai y bydd ynddo beth petrusder a oes preswylwyr ynddynt ai peidio, caiff weled tŷ ychydig yn fwy golygus. Uwch ben drws y tŷ hwn, y mae ''sign'' ar yr hon y mae yn amlwg y bu rhywun yn ceisio tynu llun ceffyl, ond yr hwn sydd mor anystwyth yr olwg arno, a'i amlinellau mor llym, fel y penderfyna yr edrychydd ei fod rywdro wedi rhewi yn yr hin, neu ynte mai y cynllun oedd gan yr arlunydd o'i flaen wrth ei baentio oedd ceffyl pren un o'i blant. Digon ydyw dyweyd mai y tŷ hwn ydyw y ''White Horse''; ac os canfyddir gŵr corffol yn pwyso ar yr ystlysbost, ac yn ymddangos fel pe na byddai yn orhoff o waith, a'i ddillad yn rhy fychain iddo,<noinclude><references/></noinclude>
lfmsjdyi0y3r7gt88h1pobttpcuwipb
Tudalen:Y Dreflan.djvu/83
104
88596
171205
2026-09-28T13:25:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171205
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ac wedi gweled gwell dyddiau, a'i drwyn mor goch a dysglaer fel y tybid y gallai un danio ei bibell ynddo, gall yr ymwelydd gymeryd ei lw mai y dynsawd hwn ydyw gwr y tŷ. Wedi dyweyd cymaint a hyn, yr ydwyf yn teimlo mai nid arnaf fi y bydd y bai os metha yr ymwelydd a dyfod o hyd i'r ''White Horse''.
Yr oedd y flwyddyn 18{{bar|2}} yn tynu at ei diwedd, ac er fod rhai wythnosau rhyngddi a'r Nadolig, yr oedd yr hin yn anarferol o oer, a'r gwynt mor erwin a miniog, fel ag i beri i lawer feddwl ein bod yn myned i gael gauaf cynnar a chaled. Ond nid oedd pryder ar feddwl neb y gwelid. tlodi a chyfyngder y gauaf hwnw, ac nid oedd gerwinder yr hin ond yn peri i bobl wisgo ychwaneg o ddillad, chwythu ar eu bysedd, a cherdded yn fwy prysur. Ychydig a welid yn cardota, a llai o lawer allan o waith os na byddent yn rhy ddiog i weithio. Yr oedd y Llywodraeth oedd mewn awdurdod ar y pryd yn dyfeisio rhyw welliannau yn barhâus, ac yn tywallt olew yn feunyddiol ar olwynion masnach, a'r wlad yn llwyddo, a digonedd o waith ac o ymborth i'w gael ymhob cymydogaeth a chwm. Ar ddyddiau marchnad, byddai ystrydoedd y Dreflan wedi eu gorlenwi â phobl heb brin wyneb prudd i'w ganfod yn eu plith. Gwelid gwragedd gweithwyr cyffredin yn methu bron a chario eu basgedi gartref gan faint eu beichiau, a llawer o honynt yn gorfod cael help cerbydau i'w cludo. Ar nos Sadwrn, o'r braidd y gallai y siopwyr gau eu masnachdai cyn bore Sul, heb son am gyfrif yr arian.
Eithr y dosbarth oedd yn gloddesta mwyaf ar y llwyddiant oedd y glöwyr. Ennillai y torwyr o ddwy bunt a deg swllt i dair punt yr wythnos, a rhai ychwaneg na hyny. Yr oedd y gweithfeydd yn "myn'd" mor dda fel yr oedd yn anmhosibl bron gael dyn i aros gydag amaethwr am bris yn y. byd. Yr oedd y "gweithiwr" a'r "dosbarth gweithiol" yn dermau mor gysegredig fel na feiddiai undyn ddywedyd gair anmharchus am danynt heb dynu cannoedd o bobl yn ei ben, ac hyd yn nôd beryglu ei fywyd. Llogid dynion oeddynt yn gofalu<noinclude><references/></noinclude>
la0vyydkvlzsx3j7dxbcuwbjrv96vm3
Tudalen:Y Dreflan.djvu/84
104
88597
171206
2026-09-28T13:28:22Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171206
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mwy am gyflogau mawrion iddynt eu hunain nag am wir les y gweithiwr, i fyned o amgylch y wlad i areithio ac i ffurfio cymdeithasau i amddiffyn iawnderau y gweithwyr, neu, mewn geiriau eraill, i'w galluogi i sefyll allan os sonid am ostwng y cyflogau. Os meiddiai goruchwyliwr arfer ychydig o'i awdurdod, a myned yn groes i feddyliau y gweithwyr, byddai yn cael ei redeg o'r wlad, a da os cai fyned ymaith yn groeniach. Yr oedd holl amser y meistr yn cael ei gymeryd i fyny i ddyfeisio pa fodd y gallai ddal y ddysgl yn wastad gyda'i gyflogddynion; ac er iddo wneyd ei oreu yn y ffordd hon, byddai yn aml yn eu gweled yn hel eu "pige" at eu gilydd, ac yn hwylio tua gweithfa arall, ymha le y byddent yn cael derbyniad croesawus. Yr oedd y llwyddiant mor fawr, a Rhagluniaeth yn tywallt cymaint o'i bendithion, fel yr oedd y dosbarth iselaf o'r glowyr bron wedi colli arnynt eu hunain. Ond, o drugaredd, yr oedd y dosbarth mwyaf deallgar o honynt, yn enwedig y dosbarth crefyddol, yn rhagweled nad oedd yn bosibl i'r llwyddiant digyffelyb hwn barhâu yn hir, ac yn darpar ar gyfer diwrnod gwlawog—yn adeiladu tai iddynt eu hunain, ac yn cynnilo eu hennillion yn yr ariandy Adeiledid capelau drudfawr mewn leoedd gwledig, lle nad oedd ond gweithwyr yn unig yn trigiannu; a thelid am danynt mewn amser byr, trwy roddion tywysogaidd y preswylwyr.
Ond, ysywaeth, gwariai y mwyafrif o'r glöwyr truain y rhan fwyaf o'u hennillion caled yn y dafarn. Gwir nad oeddynt yn ol o ddim mewn ymborth; ond wedi talu llyfr y ''shop'', ni byddent yn esmwyth nes tywallt y gweddill i goffrau y tafarnwr. Yr oedd y gweddill hwn mor fawr ar ddiwrnod y tâl fel y byddai yn cymeryd iddynt nos Sadwrn, y Sul, a'r dydd Llun canlynol i'w wario; ac wedi hyn nid oedd dim i'w wneyd ond ail ddechre gweithio fore Mawrth hyd ddiwrnod y tâl canlynol. Gwnai y tafarnwyr gynauaf o honi. Mewn lle gwledig, heb fod ymhell o'r Dreflan, lle yr oedd dau neu dri o weithfeydd glo, gallai un heb fod yn gryf iawn daflu careg dros saith o dafarnau, a phob un o honynt yn gwneyd<noinclude><references/></noinclude>
3516bo0j91dgr4byry1mhkfn4jx6csd
Tudalen:Y Dreflan.djvu/85
104
88598
171207
2026-09-28T13:31:02Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171207
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>masnach ragorol. Ymhlith y rhai a dderbyniodd fwyaf o arian ffyliaid, safai y ''White Horse'' yn uchel. Yr oedd amryw bethau ag oedd yn rhoddi cyfrif am hyn yn un peth, yr oedd ei sefyllfa neillduedig yn cyfarfod â dymuniadau ei fynychwyr; peth arall, yr oedd ei berchenog yn astudio yn fanwl chwaeth ei gwsmeriaid; ac nid y rheswm lleiaf ag oedd yn rhoddi cyfrif am ei boblogrwydd oedd, fod tic i'w gael os dygwyddai i boced cwsmer cyson fod yn wag.
Yr oedd y tywydd yn oer, fel y dywedwyd, a'r gwynt yn chwibianu yn rhigolau y ffenestri, ae yn rhuo yn simdde y ''White Horse''. Ond pa heth oedd hyny i Mrs. Morris y dafarnwraig? Mwy swynol oedd swn y ceiniogau a ddisgynent yn ddidor i'r ''drawer'' o lawer iddi hi. Yr cedd y gegin fawr ar y llaw ddehau i'r ''bar'' yn orlawn o yfwyr; a mwy nag y gallai Mary Ann y forwyn ei wneyd oedd ateb y galwadau diddiwedd am ychwaneg o ddiod, ac yn enwedig cofio pa faint o newid i'w roddi i'r cwsmeriaid. Yr oedd yr ystafell yn rhy fechan i eistedd pawb oedd yn bresennol, oblegid eisteddai rhai ar y pentanau; a rhai o'r benywod—canys yr oedd benywod yno—a eisteddent ar liniau eu gwŷr neu eu cariadau. Curai rhai y bwrdd â'u gwydrau, a galwent yn ffyrnig am ychwaneg o ddiod, gan roddi enwau prydferth ar y forwyn o herwydd ei harafwch. Yr oedd eraill yn rhy feddw i wybod a oedd ganddynt ddiod ai peidio. Crefai rhai am gael talu am ddod i'w cyfnesaf; eraill a herient eu ffryndiau i "sefyll Sam." Safai un gan wegian ar ei draed i geisio goleuo ei bibell yn y nwy; ond deuai rhywbeth i'w feddwl pan fyddai o fewn dwy fodfedd i'r goleuni, a byddai raid iddo gael ei ddyweyd. Ceisiai danio ei getyn drachefn, gan yslefrian ar hyd ei farf a'i ddillad; ond buan yr anghofiai beth oedd yn ei geisio. O'r diwedd wedi iddo hanner syrthio lawer gwaith ar draws y ''spittoons'', byddai rhywun yn gorfod estyn tân iddo; ac ymhen y ddau fynyd byddai y truan yn myned trwy yr un cwrs drachefn. Siaradai pawb yn nhop ei lais, ac yr oedd yn anmhosibl i fwy nag un wybod beth oedd y nesaf ato yn ei ddyweyd. Yr oedd yr enwau wrth ba rai y galwent eu<noinclude><references/></noinclude>
dcs4cz3b7vg1ow3apywdjrv6sh1e75w
Tudalen:Y Dreflan.djvu/86
104
88599
171208
2026-09-28T13:35:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171208
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gilydd yn ddigon a pheri i wallt dyn sefyll ar ei ben. Os byddai un eisieu galw sylw un arall, ystyriai ei fod yn arfer iaith gyfeillgar pan floeddiai nerth ei ben. "Hwde, uffern." Yr oedd eu llwon a'u rhegfeydd yn arswydus; ac oni buasai eu bod yn meddu cig a gwaed, buasai un yn meddwl mai haid o gythreuliaid oeddynt wedi dianc o Gehenna, gan fel yr oeddynt yn galw ar eu tad bob yn ail air. Drwg genyf dduo y dalenau hyn â'r darluniad uchod; ond ni bu erioed ar unrhyw ddalenau yr hyn oedd wirach; a phe rhoddid y desgrifiad yn gyflawn, mae yn ammheus a allai llawer oddef ei ddarllen.
Ar y llaw chwith i'r ''bar'' yr oedd ystafell arall, yr hon a gedwid i ddosbarth neillduol o gwsmeriaid, cwbl wahanol o ran cymeriad i'r rhai oeddynt yn y gegin. Edrychai Mr. a Mrs. Morris ar y rhai a fynychent yr ystafell hon fel eu cwsmeriaid ''respectable''. Crefftwyr oeddynt gan mwyaf, megys cryddion, teilwriaid, seiri meini, &c., ac yn rhifo oddeutu wyth neu naw pan fyddent oll yn bresennol. Nid ellid ar un cyfrif edrych arnynt fel meddwon; ac o'u cymharu â'r rhai oeddynt yn y gegin, nid oeddynt yn gwario ond ychydig. Ond yr oeddynt yn y ''White Horse'' mor gyson, fel os byddai un yn absennol am fwy nag un noswaith y byddid yn dechre pryderu am ei iechyd. Oddigerth rhyw ddau neu dri a fynychent yr ystafell o dan ddeddf goddefiad, yr oeddynt oll yn ddynion o feddwl, ac yn wleidyddwyr mawr, o leiaf yn eu meddyliau eu hunain. Llawer pwnc dyrys y methai dynion mwyaf y deyrnas ei ddadrys a benderfynid i foddlonrwydd pawb, ac am byth, yn y ''White Horse''. Ac iddynt gael chware teg, buasai pob un o honynt yn ei hystyried yn ddarostyngiad arno roddi ei bresennoldeb ymhlith y rhai oedd yn y gegin; a phe buasai Mr. Morris yn caniatâu i un o'r haid hono ddyfod i'r ystafell hon, buasai pob un yn codi ac yn gadael y tŷ gyda dirmyg.
Yr oedd yno gynnulliad lled lïosog y noson yr ydwyf yn ysgrifenu yn ei chylch; yr oedd cysuron yr ystafell yn bobpeth y gellid ei ddymuno: clamp o dân gwresog<noinclude><references/></noinclude>
ma61k6ruo11omxxbo471i7v13y7gx28
Tudalen:Y Dreflan.djvu/88
104
88600
171209
2026-09-28T13:38:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171209
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>—pob dodrefnyn yn dysgleirio gan lanweithra—cadeiriau brâf ac esmwyth; a phe buasai ambell i fudrogen awyddus am ddiwygio ei gŵr yn cael cipolwg arni, buasai yn wers iddi am ei hoes, os buasai synwyr yn ei phen. Yn un gongl o'r ystafell yr oedd tri o wŷr, y rhai oeddynt yno, fel yr awgrymwyd, o dan ddeddf goddefiad. Yr oeddynt mewn tipyn o oedran, ac yn cynnal ymgom cwbl ar wahân i bawb arall. Yr oedd yn hawdd canfod oddiwrth eu hwynebau nad allent werthfawrogi yr ymddyddan oedd yn myned ymlaen ymhlith y "clwb" fel y gellid ei alw. Hen filwr oedd un, ac a elwid Tom; ac amaethwr wedi methu yn ei amgylchiadau oedd y llall; ac un wedi bwrw ei brentisiaeth i wag symera oedd y trydydd. Nid oeddynt yn cymeryd sylw, fel y dywedwyd, o'r ddadl boliticaidd oedd yn cael ei dwyn ymlaen yn mhen arall yr ystafell. Ond pan agorwyd y drws, trodd pawb eu penau i'r cyfeiriad hwnw, a daeth i mewn ŵr canol oed, eiddil a gwyneblwyd, ac ôl pryder ac ymdrech o dan ei lygaid duon a deallgar. Arwyddwyd peth syndod wrth ei weled, a gwnaed amryw ymofyniadau ynghylch ei iechyd, ac iechyd ei wraig. Yr oedd ei atebion yn sych a chwta. Cododd un cyfaill gan roddi lle iddo yn y gader ddwy-fraich wrth y tân; ac eisteddodd yntau ynddi fel ''matter of course''. Galwodd am wydraid o gwrw, a chymerodd newyddiadur i'w law, gan ddechre darllen iddo ei hun. Edrycha y naill ar y llall gan siarad â'u llygaid—fod rhywbeth heb fod yn iawn ar Ismael, oblegid nid oedd efe neb amgen. Yr oedd pawb yn ddystaw, ac yn dyfeisio beth nesaf a gaent i'w ddyweyd, oddigerth y trioedd oedd yn mhen arall yr ystafell, pryd y daeth y tafarnwr i Pan welodd efe Ismael yn ei eisteddle arferol, tynodd ei het iddo yn foesgar-wawdlyd, a dywedodd,
"O! ydi Ismael wedi ein hanrhydeddu â'i bresennoldeb heno? Yr oeddwn i yn dechre meddwl y'n bod ''ni'' yn ormod o bechaduriaid i Ismael ddyfod i'n plith! Mi wela' fod gan y ''White Horse'' ryw ychydig o ddylanwad ar ein hen gyfaill eto."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
ev8tdfx0s7of5z4m1edok8q0jy8eihx
Tudalen:Y Dreflan.djvu/89
104
88601
171210
2026-09-28T13:41:13Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171210
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Hwyrach," medd Ismael, "pe buaswn wedi absennoli fy hun yn amlach, y buasai yn well arnaf, ac yn waeth arnoch chwithau."
"O felly! y mae Ismael wedi cael tro yn siŵr i ch'i. Rhaid i ni gael trin ei achos. Pe dase Ismael yn ein gadael yn gyfan-gwbl,—be' ddaethe o honom ni? Gwyddoch ei fod o yn gwario yma gryn ddau swllt yr wythnos, yr hyn sydd yn swm go fawr o'i gymharu â'r deg swllt y mae y ''collier'' yn y gegin yna yn wario. Torem i fyny yn siŵr pe gadawai Ismael ni. Mae y cyfaill wedi cael crefydd yn siwr. Mi glywais ei fod yn y capel y Sul diwaetha. Peth garw ydi cael cyfaill fel Mr. Pugh, welwch ch'i. Mae gan Mr. Pugh bwrs lled hir. Oes gobaith i ch'i gael eich g'neyd yn flaenor, Ismael? Gadewch i ni gael gair o'ch profiad, achos mi fydd raid i ch'i ddeyd y'ch profiad yn y capel, cofiwch." Lluchiodd Ismael y newyddiadur o'i law; ac er fod ei gorff eiddil yn crynu drwyddo, edrychai fel llew yn ngwyneb y tafarnwr.
"Morris," ebe ef, "yr wyf yn awr er ys rhagor na deng mlynedd wedi arfer mynychu eich tŷ yn gyson; a phe buaswn wedi bod mor ffyddlawn i'r capel yr ydych yn son am dano âg yr wyf wedi bod i'r ''White Horse'', ni buaswn yn fy sefyllfa bresennol, ac ni buasech chwithau yn gallu edliw i mi fy nhlodi. Duw a ŵyr mai nid er mwyn eich diod y dechreuais ddyfod yma, ond er mwyn y cwmni——cwmni, meddaf, nid yr eiddoch chwi, oblegid ni fu dwsin o feddyliau erioed yn eich clopa, ond cwmni y rhai a arferent ymgynnull yma. Y blynyddau diweddaf, er fy nghywilydd, yr wyf wedi arfer dyfod yma er mwyn eich diod yn gystal a'r cwmni. Pan oedd fy nghwpbwrdd heb yr un tamaid ynddo, a fy ngwraig a fy machgen yn gwyneblasu gan eisieu bwyd, yr oeddwn bob amser yn ''scamio'' i hel tair ceiniog i mi fy hun i gael peint, 'o'ch diod. Duw faddeuo i mi fy nrygioni! Yr wyf wedi cael fy nhalu ganddo ef. Yr wyf wedi gwario rhai ugeiniau, os nad cannoedd, o bunnau yn eich tŷ; ac er yr holl galedi sydd wedi bod yn fy nghartref, yr wyf wedi<noinclude><references/></noinclude>
3pgahkipmxw8afyg10j1m3be7trh2bl
Tudalen:Y Dreflan.djvu/87
104
88602
171211
2026-09-28T13:47:58Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171211
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Y Dreflan (Cegin y White Horse).jpg|canol|500px|bawd|{{c|Cegin y White Horse. t.d. 71.}}]]
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
2qjeucqyk3v0sjdl9qjrd6gy9giad2q
Tudalen:Y Dreflan.djvu/90
104
88603
171212
2026-09-28T14:22:58Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171212
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>bod yn rhy falch i'w gydnabod i chwi, er y gwyddech am dano cystal a minnau. Yn fy holl dlodi, a dderbyniais i hatling oddiar eich llaw? Yr wyf yn diolch i'r nefoedd, naddo ddim. Mi gefais gyfeillion a'm dygodd o'r holl galedi, yn enwedig y boneddwr y cyfeiriasoch chwi ato mor wawdlyd, a'r hwn nad ydych chwi yn deilwng o'ch enwi yn yr un flwyddyn âg ef. Yr oeddwn wedi penderfynu na ddeuwn byth dros eich trothwy—a'r diafol a wnaeth i mi ddyfod heno: nage, nid y diafol ychwaith, oblegid y mae fy mhenderfyniad yn gryfach nag erioed. Os croesaf eich rhiniog byth mwy, neu riniog unrhyw dafarndý arall, bydded{{bar|2}}
Gwnaeth Ismael lw mawr, a rhuthrodd allan o'r ystafell heb gymaint a chyffwrdd â'i wydraid. Dilynodd y tafarnwr ef yn frysiog. Cawn weled a gadwodd Ismael ei benderfyniad.
"Rhaid i nine droi dolen; dydi ddim iws," ebe yr hen filwr wrth ei gymdeithion.
"Be' ti'n ddeyd, Tom?" ebe yr amaethwr.
"Wel, deyd yr oeddwn i y bydde raid i nine droi dolen."
"Be' ti'n feddwl wrth hyny?"
"Wel, y bydd raid i ''ni'' fyw yn well, ne' mi fydd yn o ddrwg arnon ni."
"Taw a siarad, da ti," ebe'r amaethwr; "wyddost ti ddim sut yr ydw i'n byw?"
"Na wn, na wn, ond mi wn 'y mod ''i'' yn ddigon drwg, beth bynag."
"Wyddost ti be'?" ebe'r ffarmwr, "ddechreuais i 'rioed fwyta fy nghinio cyn i'r bobol dd'od o'r eglwys. Mi ddeuda i ti beth arall, deis i 'rioed i gysgu yn feddw nac yn sobr heb dd'eyd 'y mhader, weithie ar 'y nglinie ac weithie ar 'y nghefn yn 'y ngwely. Dydi o ods yn y byd sut y deydi di o am y deydi di o. Mi ddeyda i ti beth arall, feddwes i 'rioed na 'fydde'n 'difar 'gen i am hyny fore drannoeth."
"Wel, gwyn dy fyd di, Ned! mi fase yn dda gen' i allu deyd yr un peth," ebe'r hen filwr.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
4cwubuihsli9qtlx3o4k3aerhbi5edb
Tudalen:Y Dreflan.djvu/91
104
88604
171213
2026-09-28T14:24:04Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171213
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD XI.<br>YR ARGRAFFIADAU CYNTAF.}}}}
YMHEN oddeutu wythnos neu naw niwrnod wedi i Noah Rees ddyfod i'r Dreflan, yr oeddwn yn eistedd gydag ef yn ei ystafell; ac fel y canlyn yr adroddai efe wrthyf ei brofiad:—
"Gofyn yr oeddit, onidê, pa fodd yr oeddwn yn teimlo wrth ddyfod i'r Dreflan, a pha argraffiadau a wnaed ar fy meddwl gan yr ychydig gymeriadau y daethum i gysylltiad â hwynt yn barod? Wel, yr oedd fy meddwl mor agored i dderbyn argraffiadau, ac y maent wedi eu gwneyd mor ddiweddar, fel y gallaf eu cyfleu ger dy fron, dybygaf, yn lled gywir. Oddiar fy adnabyddiaeth flaenorol o honot, yr wyf yn gwybod dy fod yn lled hoff o chwedleua; ond y mae genyf gymaint a hyny o ymddiried ynot na fydd i ti wneyd camddefnydd o'r hyn a adroddaf wrthyt yn awr. Diammheu dy fod yn cofio fod genyf gryn gred mewn argraffiadau cyntaf; a dichon mai cofio hyny a barodd i ti ddechre fy holi. Mae yn dda genyf ar fwy nag un cyfrif gael adrodd wrthyt fy mhrofiad, ond yn benaf er mwyn i mi gael gwybod pa un a ydyw yr argraffiadau a wnaed ar fy meddwl yn gywir ai peidio, gan fod dy adnabyddiaeth di o'r cymeriadau a gyfarfyddais yn llawer helaethach na'r eiddof fi. Er mwyn i ti gael gwell cyfleusdra i fy nghywiro, desgrifiaf y cymeriadau mor agos ag y gallaf i'r hyn y buaswn yn gwneyd i un nad oedd yn eu hadnabod.
"Nid heb lawer o bryder, fel y dywedais wrthyt o'r blaen, y cydsyniais i ddyfod atoch yn y cymeriad o fugail. Gan nad oeddwn wedi bod yn pregethu i chwi ond rhyw ddwywaith neu dair, nid allaswn ddyweyd fy mod yn adnabod neb o honoch gyda dim manyldeb, gyda'r eithriad o honot ti, oddieithr yr hyn a glywswn am danoch oddiyma draw. Yr oeddwn yn ofni yn fawr<noinclude><references/></noinclude>
7cvou8eme2obax91d0w07fevdxw76fn
Tudalen:Y Dreflan.djvu/92
104
88605
171214
2026-09-28T14:25:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171214
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hefyd eich bod chwithau fel eglwys wedi gwneyd camgymeriad wrth alw un yr oedd eich adnabyddiaeth o hono mor brin. Ond un o'r pethau a barai i mi bryderu fwyaf oedd, diffyg ffydd yn fy adnoddau fy hunan a'm cymhwysder i'r gwaith. Yr oeddwn yn cofio ddarfod i mi y troion y buaswn yma bregethu y rhai a ystyriwn i fy mhregethau goreu, ac yr oeddwn yn anobeithio bron allu cadw i fyny â'r marc yr oeddwn, fel yr oedd yn ymddangos, wedi ei ennill yn meddyliau rhai o honoch. Ar yr un pryd, yr wyf yn meddwl y gallaf ddyweyd yn gydwybodol nad oedd yr ystyriaeth hon ond dibwys yn fy ngolwg o'i chymharu â'r ofn a'r dychryn oedd ac sydd ynof am ddiogelwch fy nghyflwr fy hun? A oedd genyf fi fy hun grefydd? A oeddwn i yn gadwedig? A oeddwn i yn adnabod Ceidwad dyn? Pa un ai anghenrhaid ai galwedigaeth oedd fy mhregethu? Y cwestiynau hyn oeddynt yn cloddio i fyny waelodion fy enaid, 'rhag wedi i mi bregethu i eraill fod fy hun yn anghymeradwy.' Gall hyn ymddangos yn rhyfedd i ti, â thithau wedi fy nglywed gynifer o weithiau yn annog pechaduriaid mor daer i dderbyn y Gwaredwr. Ond dyna ydyw fy mhrofiad i. Nis gwn pa fodd y bydd pregethwyr eraill yn teimlo; ond byddaf fi yn ymwybodol yn aml fod wmbreth o ffug o fy nghwmpas, ac nad ydwyf yn dyfod i fyny nid yn unig â'r hyn a ddylwn fod, ond â'r hyn y tybir fy mod gan fy nghyfeillion a'm perthynasau. Byddaf yn meddwl weithiau pe byddai i Cadwaladr a Marged Rees o'r Tyddyn Bach edrych arnaf trwy fy llygaid i fy hun na byddai iddynt fy adnabod fel eu mab Noah. Bum yn dychymygu ganwaith beth oedd yn myned trwy feddyliau pobl wrth fy nghymharu yn yr hyn oeddwn yn y pulpud â'r hyn oeddwn yn y cwmni?—yn y capel ac yn y tŷ? Dywed y gwir yrwan, onid oeddit ti yn meddwl fy mod yn ''shamio'' yn ddychrynllyd? Onid oeddit yn fy ffieiddio? saith o'r gloch yn y pulpud yn ymddangos ir gynnulleidfa fel pe buasai fy mhryder am eu bywyd tragywyddol bron a fy llethu, a naw o'r<noinclude><references/></noinclude>
b722nhieithvhdhnw23ru1ps935p8qm
Tudalen:Y Dreflan.djvu/93
104
88606
171215
2026-09-28T14:26:47Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171215
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gloch yn y cwmni, yn ysgafn fy ysbryd, ac o bosibl yn adrodd ystori i beri chwerthin! Y fath ''transition''! Dyma i ti gyfuniad o'r ''sublime'' a'r ''ridiculous!'' Bum yn gobeithio ddegau o weithiau nad oedd pobl yn edrych arnaf fel yr oeddwn i yn edrych arnaf fy hun. Yr wyf yn credu y gallaf ddyweyd yn onest nad oes dim mor gas genyf â diffyg ''reality''—a hyn ydyw y rheswm fy mod yn casâu fy hun yn fwy na neb arall â adwaenais erioed. Nis gallaswn ddyweyd hyn wrth bawb; nid ydyw ffyliaid yn fy neall, ac nid wyf yn deall fy hun—yr ynfytyn mwyaf o bawb. Yr wyf yn gwybod fy mod yn dueddol i fod yn bruddglwyfus, ac i edrych i mewn yn lle edrych allan; ond yr wyf yn canfod y fath ''duplicity''—pa air Cymraeg a gâf?—yn fy nghymeriad, fel ag i gyfiawnhâu llawer ar fy ofnau am ddiogelwch fy nghyflwr, fel y dywedais A wyt ti yn cofio y desgrifiad o'r pregethwr gau sydd gan Pollock yn ei ''Course of Time?'' Bum yn arswydo ugeiniau o weithiau wrth ei adgofio.
"Pan oeddwn yn meddwl am ddyfod atoch, yr oeddwn yn meddwl hefyd y dysgwylid i mi lenwi lle y diweddar Mr. Williams; a dychymygais weled fy hunan lawer gwaith yn ei ddillad ef, a'r rhai hyny yn fflabio mwy o fy nghwmpas nag yr oedd dillad Saul am Dafydd gynt. Ond er hyn oll, yr oeddwn yn ymwybodol fod rhywbeth yn dyweyd wrthyf, 'Dos,' fel y bum yn adrodd wrthyt; ac mewn ufudd-dod i'r rhywbeth hwnw y cyrhaeddais orsaf y Dreflan, ymha le y cyfarfyddais â'r gwr rhyfedd yna, Mr. Pugh. Fy unig adnabyddiaeth flaenorol o Mr. Pugh oedd fel un a welswn yn eistedd yn nghanol y capel, ac yn gwneyd daioni i galon dyn wrth ei weled yn gwrandaw mor astud, ac fel un y clywswn ei fod yn oruchwyliwr i foneddwr yn y gymydogaeth hon, yr hwn sydd Eglwyswr zelog; a dyna'r cwbl a wyddwn am dano. Parodd ei dderbyniad llawen a chroesawus o honof i ran fawr o'r baich syrthio oddiar fy meddwl. Yr oedd gan Mr. Pugh hogyn yn ei ganlyn, yr hwn a alwai yn Jim. Yr oedd rhywbeth yn ymddangosiad yr hogyn hwn a<noinclude><references/></noinclude>
pb64rup2ggm3hz9vsra90z3jgvjjw8m
Tudalen:Y Dreflan.djvu/94
104
88607
171216
2026-09-28T14:28:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171216
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>barodd i mi deimlo dyddordeb neillduol ynddo y foment gyntaf y gwelais ef. Yr oedd ei wisg braidd yn newydd, ac yntau yn ymddangos fel pe na buasai yn gynnefin iawn â dillad da. Mi welaf dy fod yn gwenu; ond cofia mai adrodd yr ydwyf yr argraff a wnaeth yr hogyn ar fy meddwl i. Yr oedd yn fychan ac eiddil o gorffolaeth; ond yr oedd rhywbeth yn ei wyneb, ac yn enwedig yn y cyfrwysdra a lechai yn nghonglau ei lygaid, a barai i mi feddwl ei fod yn llawer hŷn nag y buasai un yn tybied ar yr olwg gyntaf. Edrychai Jim mor ddyfal ac awyddus i lygaid Mr. Pugh, nes dwyn i'm cof yn rymus y modd y bydd cŵn defaid bugeiliaid Meirionydd yn edrych i wynebau eu meistriaid, ac eto yr oeddwn yn berffaith sicr nad oedd dim yn cymeryd lle o'n cwmpas na neb yn myned heibio i ni heb fod Jim yn gweled ac yn gwybod y cwbl Wedi i mi gael fy holl ''luggage'' allan o'r gerbydres, gorchymynodd Mr. Pugh i Jim gymeryd eu gofal. Teimlwn braidd yn anfoddlawn i'r fath drysorau gael eu hymddiried i hogyn mor fychan; a deallodd Mr. Pugh fy mhryder, a dywedodd,
"Ho! ho! mi wranta i Jim; 'does.dim eisio dyweyd ddwywaith wrth Jim.' Cymerais ei air. Yr holl amser hwn yr oedd Mr. Pugh yn gafael yn glòs yn fy mraich fel pe buasai yn ofni i mi redeg i ffwrdd. Pan oeddym oddeutu ugain llath tu allan i'r orsaf, yr oedd Jim yn ddisymwth wrth ein sodlau, ac yn tynu yn labet côb Mr. Pugh. "Meistar,' ebe efe yn gyffrous, 'dydi'r ''bugle'' ddim wedi dwad "'
"Chwarddodd Mr. Pugh nes ydoedd bron a syrthio. Wedi iddo adfeddiannu ei hun i raddau, dywedodd,
"Mae y ''bugle'' yr oeddwn i yn ei ddysgwyl wedi dwad, Jim. Cer di o gwmpas dy ''fus'nes''.'
"Yr oedd yr ymgom hon yn ddirgelwch hollol i mi; ond eglurodd Mr. Pugh i mi, dan chwerthin nes oedd bron a hollti, mai myfi oedd y ''bugle''. Dygwyddodd i Mr. Pugh ddyweyd wrth Jim ei fod i fyned gydag ef i'r ''station'' i gyfarfod 'y bugail,' a thybiodd yr hogyn mai yr offeryn cerdd a elwir y ''bugle'' a olygai.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
tsh22gpvkkdkz4jkbpje7juke9yqdx5
Tudalen:Y Dreflan.djvu/95
104
88608
171217
2026-09-28T14:29:26Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171217
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Campus,' ebe Mr. Pugh—''bugle''; wel, wired â mod i yn y fan yma! A! mae gen i lot i ddeyd wrthoch ch'i am y bachgen ene rw ddiwrnod;' a chwarddodd drachefn a thrachefn.
"Ar y ffordd yr oedd Mr. Pugh yn siarad yn ddiderfyn, ac mor llawen a dyddorol, nes yr oeddwn wed: colli pob cof am danaf fy hun a fy mhryder. A dyweyd y gwir i ti, yr oeddwn ymhell cyn cyrhaedd y tŷ yn gafael yn fwy clòs yn Mr. Pugh nag yr oedd efe ynof fi. Os nad ydwyf yn camgymeryd yn ddirfawr, ni welais neb erioed ag y mae ei du mewn wedi ei argraffu mor fras ar ei wyneb ag ydyw Mr. Pugh. Yr oeddym yn cerdded yn lled gyflym, ac hyd yr ydwyf yn cofio ni ddarfu i ni sefyll i siarad â neb oddigerth dwywaith, a hyny am ychydig tynydau; ond erbyn i ni gyrhaedd at y tŷ, er fy syndod, yr oedd fy holl gelfi yn daclus yn y ''lobby'', a Jim, gan eistedd ar y gist dê oedd yn cynnwys fy llyfrau, yn ein dysgwyl. Tarawodd ei law ar ei gap, a rhoddais innau fy llaw yn fy llogell ar feddwl rhoddi rhywbeth iddo am ei drafferth; ond attaliwyd fi gan Mr. Pugh, a dywedodd y gofalai efe am hyny. Ymddangosai Jim braidd yn siomedig; a phan drodd Mr. Pugh ei gefn, gwelais Jim yn estyn ei dafod allan arno mewn ''revenge''. Deallodd fy mod wedi ei ddal ar y weithred anweddus hon, ac estynodd ei dafod allan eilwaith, gan gymeryd arno fod ganddo boen ynddo. Bu raid i mi droi fy mhen draw rhag chwerthin yn ei wyneb, ac yr oeddwn yn sicr fod Jim y fynyd hono yn estyn ei dafod arnaf finnau—mor sicr â phe buaswn yn ei weled
"Nid oeddwn wedi bod bum' mynyd yn y 'Cartrefle'—oblegid felly y gelwir tŷ Mr. Pugh, yr wyf yn deall, heb gael esboniad llawn ar yr awydd a fyddai yn y bechgyn yn yr Athrofa, pan ddeuent yma i bregethu, am gael myned i lettŷa at Mr. Pugh. Yr oedd y tŷ wedi ei ddodrefnu yn ardderchog; ond yr oedd rhywbeth mor gartrefol a Chymreig o gwmpas ei breswylwyr, fel yr oeddwn yn teimlo mor hapus a rhydd yno â phe buaswn yn y Tyddyn Bach. Tybiaswn wrth ddyfod gyda Mr.<noinclude><references/></noinclude>
9c6iw83b5f4zkhjzprvo480oj6h8xr1
Tudalen:Y Dreflan.djvu/96
104
88609
171218
2026-09-28T14:30:29Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171218
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Pugh o'r orsaf na welswn neb erioed y gallwn ei hoffi yn fwy hyd nes y gwelais Mrs. a Miss Pugh. Derbyniwyd fi gan Mrs. Pugh gyda'r fath groesaw tawel a serchog, nes gwneyd i mi gofio am y modd y byddai fy mam yn fy nerbyn pan ddeuwn adref o'r Athrofa; a bu agos i mi anghofio fy hun, a thori allan i wylo, ac yr wyf yn cyfaddef i mi orfod cymhwyso fy nghadach poced yn lled nerthol at fy nhrwyn i guddio fy ngwendid. Cefais fy ''introducio'' gan Mr. Pugh i'w wraig a'i ferch fel Mr. Rees y '''bugle'''a bu raid iddo yn gyntaf oll gael adrodd iddynt yr ystori.
"'Pitar,' ebe Mrs. Pugh, 'peidiwch a dyweyd y stori wrth neb arall, rhag i Mr. Rees gael llysenw trwy ffolineb yr hogyn gwirion ene.'
"Nid oeddwn wedi gweled y perygl o hyny hyd y foment hono, ac yr oeddwn yn teimlo yn ddyledus iawn iddi. Fel yr awgrymais, yr oedd yn hawdd gweled oddi-wrth faint y tŷ, a'r modd yr oedd wedi ei ddodrefnu, fod Mr. Pugh yn ŵr cefnog iawn; ond nid oedd dim yn ymddygiad nac ymddangosiad y teulu i arwain neb i feddwl eu bod uwchlaw amgylchiadau cysurus. Yr oedd Mrs. a Miss Pugh wedi ymwisgo mor blaen fel nad oes genyf y fynyd hon un dychymyg beth oedd lliw a llun eu dillad. Galwai Mr. Pugh Mrs. Pugh yn Jane. Galwai Mrs. Pugh Mr. Pugh yn Pitar. Galwai y ddau y ferch yn Kit. Yr oedd hyd yn nôd Miss Pugh yn galw Mr. Pugh yn dad, a Mrs. Pugh yn fam, ac ni chlywais mo honi unwaith yn eu hanerch fel ''papa'' a ''mamma''. Ni welais yn fy mywyd foneddiges yn llenwi cader ddwyfraich cân hardded a Mrs. Pugh. Er ei bod bellach yn hen, edrychai mor brydferth, siaradai mor fwyn a synwyroi, fel y gallaswn edrych a gwrandaw arni am ddiwrnod cyfan heb flino. Pe buasai fy mam yn y Tyddyn Bach yn gwybod y diwrnod hwnw fel yr oeddwn yn edmygu Mrs. Pugh, buasai yn teimlo yn jealous iawn, mi wn. Gyda golwg ar Miss Pugh, nid wyf yn sicr y gallaf ddesgrifio i ti fy syniad am dani. O ran pryd a gwedd nid ydyw yn neillduol o brydferth, ac y mae yn rhy fer ac eiddil i fod<noinclude><references/></noinclude>
a6w62xwos7pq99eobs8pawrguv4esrf
Tudalen:Y Dreflan.djvu/97
104
88610
171219
2026-09-28T14:31:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171219
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn olygus; ac eto ni wnaeth neb erioed y fath argraff arnaf. Paid a chamesbonio fy ngeiriau, yrwan. Pan glywais hi yn galw ei thad yn dad, a'i mam yn fam, rhoddais ei henw i lawr ar unwaith fel geneth gall. Ni welais neb erioed mor lân oddiwrth rodres neu ''affectation'', fel y byddwn yn dyweyd. Ni chanfyddais ynddi rithyn o ddim nad oedd yn berffaith gydweddol â gwyleidd-dra yr angyles fwyaf pur; ac eto cyn i mi fod hanner awr yn y 'Cartrefle,' ymddygai tuag ataf fel pe buasai yn fy adnabod er ys blynyddau. Canfyddwn ynddi rywfodd gyfuniad prydferth o nodweddion arbenicaf ei rhieni. Yr oedd caredigrwydd ac unplygrwydd ei thad, ynghyd a synwyr cryf a mwyneidd-dra ei mam, wedi eu cyfrodeddu ynddi mor berffaith, nes ffurfio rhywbeth nas gwn beth yn iawn i'w alw, ond sydd â'i ddylanwad yn orthrechol. Gofalodd Rhagluniaeth am iddi beidio bod yn nodedig am brydferthwch, onidê buasai wedi gyru ugeiniau o wŷr ieuainc, yr wyf yn ofni, i'r gwallgofdy. Mi welaf dy fod yn gwenu eto, ac y mae yn rhaid i mi erfyn arnat i beidio camesbonio fy ngeiriau. Mae yn arw o beth na chaiff dyn adrodd yr argraffiadau a wnaed ar ei feddwl heb i ti dynu camgasgliadau. Yr oedd Miss Pugh yn siarad Cymraeg mor groew a dilediaith, ac yn ymddangos i mi mor ddiymhongar, fel mai o'r braidd y gallaswn gredu yr hyn a glywais am dani ar ol hyny, sef ei bod yr un mor hyddysg yn y Ffrancaeg a'r Germanaeg, ac yn gallu gwneyd i'r berdoneg siarad yr iaith a fynai. Fy nghyfaill, maddeu i mi os ydwyf dipyn yn frwdfrydig; y mae Miss Pugh yn un o fil! Mae mwyafafrif boneddigesau ein dyddiau ni yn tybied os byddant yn gwybod beth ydyw ystyr ''wie befinden se sich'', y dylent yr un foment anghofio ystyr, Sut yr ydych chwi? Onid ydyw yn ffaith fod cannoedd o'n cyfeillesau prydferth ac anwyl yn pendroni gyda'r Ffrancaeg a'r Germanaeg am flynyddau—ieithoedd na fyddant o un defnydd ymarferol iddynt byth—ac yn esgeuluso neu ynte yn rhy falch a rhodresgar i ddysgu y Gymraeg lân fendigedig! Ar yr un pryd, deuant i'r capel Cymreig ar y Sabbothau i<noinclude><references/></noinclude>
hwkhyfocb0o0nisccz85xlvc2m6m4d7
Tudalen:Y Dreflan.djvu/98
104
88611
171220
2026-09-28T14:31:56Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "eistedd fel delwau, neu yn hytrach fel paganiaid, heb ddeall iaith y pregethwr. Onid oes lle i ofni fod llawer o'n boneddigesau parchusaf yn treulio oes heb ddeall unrhyw iaith y traethir ynddi yn eu clywedigaeth wirioneddau bywyd ac anfarwoldeb! "Tra yr oeddwn i a Mrs. a Miss Pugh yn ymgomio am y peth yma a'r peth arall, cerddai Mr. Pugh yn ol a blaen yn aflonydd, a gofynai yn barhâus ai onid oedd y tê agos a bod yn barod bellach,...
171220
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>eistedd fel delwau, neu yn hytrach fel paganiaid, heb ddeall iaith y pregethwr. Onid oes lle i ofni fod llawer o'n boneddigesau parchusaf yn treulio oes heb ddeall unrhyw iaith y traethir ynddi yn eu clywedigaeth wirioneddau bywyd ac anfarwoldeb!
"Tra yr oeddwn i a Mrs. a Miss Pugh yn ymgomio am y peth yma a'r peth arall, cerddai Mr. Pugh yn ol a blaen yn aflonydd, a gofynai yn barhâus ai onid oedd y tê agos a bod yn barod bellach, a chyn i'r pryd fod prin wedi ei osod ar y bwrdd, gofynodd fendith arno â'i lygaid yn agored; ac heb roddi cymaint a diweddnod, dechreuodd fy ngwestiyno beth a gymerwn i'w fwyta. Yr oedd yno gyflawnder o bob danteithion, a synai y gŵr caredig fy mod yn bwyta càn lleied, ac o'r braidd y gallwn ei berswadio fy mod yn iach. Yr oedd yn ymddangos mai un o bleserau penaf Mr. Pugh oedd gweled pawb o'i gwmpas yn bwyta yn galonog; canys yr oedd ei lygaid yn cynniwair yn barhâus i edrych a oedd gan bawb yr hyn a fynai, a chyda hyny yr oedd bob rhyw ddau fynyd yn estyn tamaid i'r ci bach yr oedd wedi ei ddysgu i sefyll ar ei draed ol, ac i'r gath oedd yn eistedd yn grwn ar dop y gadair wrth ei ysgwydd. Nid cynt yr oedd y pryd drosodd nag y gadawodd Mr. Pugh yr ystafell er mwyn rhoddi tro i'r buarth, i weled a oedd gan y ferlen, a'r fuwch, a'r mochyn, a'r creaduriaid eraill fwyd.' Tra yr oedd efe wrth y gwaith hwn, yr oeddwn innau, gyda chynnorthwy Mrs. a Miss Pugh, yn astudio darluniau ysplenydd yr ystafell Edrychwn ar ''oil painting'' o fachgen ieuanc, pan ddychwelodd Mr. Pugh yn llawn ffwdan ac yn chwythu yn enbyd. Daeth i fy ymyl, a gofynodd i mi a oeddwn wedi blino. Atebais nad oeddwn mewn un modd. Nid oeddwn yn canfod dim tebygolrwydd yn y darlun i neb a welswn erioed, ac nid oedd dim neillduol ynddo ond fod y ffrâm yn ymddangos yn hynod gostus. Bum mor anffortunus a gofyn darlun o bwy ydoedd. Can gynted ag y gofynais y cwestiwn, gadawodd Miss Pugh yr ystafell. Gogwyddodd yr her wr llawen ei ben, a thaenodd cwmwl can ddued ag anobaith
Q
dros ei wyneb, tra y treiglai deigryn i lawr ei ddwy rudd; a chyda llais dystaw oedd heb fod o gwbl yn debyg i'w lais ef ei hun, dywedodd, a phob gair fel pe buasai yn ei dagu,
"Pictiwr—ydyw—o—fy—machgen—Bob."
"Rhoddodd fy nghalon dro ynof, a theimlwn, er yn ddiniwed, fel pe buaswn wedi trywanu yr hwn a ddangosasai y caredigrwydd mwyaf tuag ataf. Ni wyddwn pa beth i'w ddyweyd. Edrychais, ac yn ddigon ynfyd mi wn, ar Mrs. Pugh; cauodd hithau ei dwrn arnaf yn awgrymiadol i beidio son ychwaneg am y darlun. Ni theimlais erioed mor annigonol i'r amgylchiad. Ni wyddwn pa un ai wedi marw ai 'dafad ddu oedd y bachgen Bob.' Ofnwn mai yr olaf. Pan fedrais hel fy meddyliau at eu gilydd, cymerais afael yn mraich Mr. Pugh, ac arweinais ef mor garedig ag y gallwn i ben arall yr ystafell lle yr oedd ffenestr yn gwynebu'r ardd, a cheisiais droi yr ymddyddan at rywbeth arall. Os bu yr ychydig allu ymddyddanol a feddaf ar ei lawn egni erioed, y tro hwn y bu; a chyda chynnorthwy Mrs. Pugh, llwyddais tu hwnt i'm dysgwyliad. Ymhen ychydig fynydau yr oedd y cwmwl wedi cilio, a Mr. Pugh yn ei hwyliau arferol. Dywedodd wrthyf fod yn rhaid i mi fyned gydag ef i weled rhai o fy nefaid, fel y galwai efe aelodau yr eglwys. Nid oedd yn ddrwg genyf ei glywed yn dyweyd hyn. Yr oeddwn yn deall fod Mr. Pugh wedi gofalu am lettý cysurus i mi gyda gwraig weddw heb fod yn hen iawn, yr hon a ystyrid yn ddynes lân a pharchus, ond hysbyswyd fi mai yn y 'Cartrefle' yr oeddwn i aros y noson hono. Pan oedd Mr. Pugh a minnau yn cychwyn allan, cyfarfuasom â Miss Pugh. Yr oedd ei llygaid yn ymddangos yn llaith; ond pan welodd hi ei thad yn edrych mor llawen, daeth y fath gyfnewidiad dros ei hwyneb nes oeddwn braidd yn tueddu i alw yn ol y syniad a ffurfiaswn am dani, sef nad ydoedd yn brydferth. Pan oeddym yn troi am un gongl i'r tŷ, gwelwn wrth y gongl arall beak cap—trwyn, ac un llygad o'r eiddo Jim yn ein gwylio, ac ar yr un foment
Q
dychwelodd Mr. Pugh i'r tŷ i geisio ei spectol. Càn gynted ag y cafodd Jim gefn ei feistr, daeth ar un llam i fy ymyl, gan daraw ei law ar ei gap. Deallais ei neges, a rhoddais iddo swllt. Gloëwodd ei lygaid prydferth, a gwadnodd i ffwrdd fel carw i fyny un heol ac i lawr heol arall, a chyn pen chwarter mynyd yr oedd o'r golwg. Prin y gallwn gredu ei fod ar gymaint brys a hyny am wario y swllt; a tharawodd i fy meddwl y gallai fod gan yr hogyn cyfrwysddrwg hwn rywun oedd yn anwyl a hoff ganddo, i'r hwn neu yr hon y cariai ei ennillion. Dechreuais feddwl yn well o Jim.
"Y lle cynta' y rhaid i mi fyn'd â ch'i ydi'ch lodjin,' ebe Mr. Pugh. Mrs. Jones ydi enw'r wraig; gwraig weddw ydi hi;—dynes glên shoe ond ei bod hi braidd yn son gormod am ei gŵr ymadawedig; ond mi ddowch i ddygymmod â hyny yn fuan.'
Felly yma y daethom, a rhaid i mi bellach siarad yn ddystawach. Curodd Mr. Pugh ddrws y tŷ gyda pher ei ffon mor enbyd o drwm nes oeddwn yn dychymygu gweled y wraig dda yn neidio llathen oddiwrth lawr y gegin; ac yn y fynyd clywem hi yn dyfod i agor i ni gan siarad yn uchel,
"Yn eno pob rheswm, be sy ma?"
"Can gynted, pa fodd bynag, ag y gwelodd Mrs. Jones mai Mr. Pugh oedd yn euog o guro mor ddireswm, a chodi yr holl gymydogaeth, newidiodd tôn ei llais y foment hono, a dywedodd,
"Wel, Mr. Pugh bach, yr oeddwn i'n meddwl mai ch'i oedd ene; a phwy sy gynoch chi hefo ch'i? Wel, Mr. Rees, y'n gwnidog ni, yn siwr ddigon. Wel, dowch i mewn, y mae yn dda gen i'ch gwel'd ch'i; ydi, o nghalon, ac mi fase dda gan Enoc Jones hefyd dase fo byw; yn fase, Mr. Pugh? Pwy oedd yn nabod Enoc Jones yn well na ch'i, Mr. Pugh?
"Wel oeddan, 'roeddan ni'n nabod y'n gilydd yn o lew,' ebe Mr Pugh; ac ychwanegai, 'Be dach chi'n feddwl o'ch lodjiwr, Mrs. Jones? ydach chi'n addo rhoi digon o fwyd iddo, ac edrach ar ei ol o'n symol?'
{{nop}}"Wel, rydach chi'n un garw, Mr. Pugh. 'Roedd Enoc Jones yn wastad yn deyd na welodd o rioed ych bath ch'i; a phwy oedd yn ych nabod chi'n well nag Enoc Jones, yntê, Mr. Pugh? ydach chi'n gynhes, Mr. Rees? ga i noi slippers i ch'i? Mi fydde Enoc Jones yn deyd yn wastad fod dyn yn gyffwyso yn well yn 'i slippers."
"Dydi Mr. Rees ddim yn myn'd i aros yma heno,' ebe Mr. Pugh.
"Ddim yn myn'd i aros yma? B'le mae o'n myn'd, mod i mor hy a gofyn? Oes ne ddim byd yn y capel heno, oes ne? oes gynoch ch'i gyhoeddiad yn rhwle heno, Mr. Rees?'
Na, mae o'n dwad atom ni heno, ac mi ddaw atoch chithe fory. 'Doeddwn i ddim ond yn dwad i'w ddangos o heno,' ebe Mr. Pugh.
"Wel, yr ydach chi'n un garw, Mr. Pugh, fel yr oedd Enoc Jones yn wastad yn deyd. Newch ch'i gymyd paned o goffi, Mr. Rees?'
"Dim, diolch i chwi, Mrs. Jones; ni byddaf yn cymeryd coffi'r nos," atebais.
"Fydde Enoc Jones ddim chwaith. 'Roedd o yn wastad yn deyd fod coffi yn rhy drwm. Fyddwch ch'i yn cymyd coffi i frecwast, Mr. Rees?'
"Na byddaf, bron un amser.'
"Wel ydach ch'i run fath ag Enoc Jones yn union; dydi o, Mr. Pugh?'
"Ydi, yn enwedig o gwmpas plygiad ei benelin,' ebe Mr. Pugh yn chwareus; ac ychwanegai, 'Cewch hamdden eto, Mrs. Jones, i weled mwy o debygolrwydd rhwng Mr. Rees a Mr. Jones; ac ystyriwch chithe hi yn gompliment, Mr. Rees, cael eich cymharu â dyn 'mor dda."
"Wel, pwy oedd yn nabod Enoc Jones yn well na ch'i, Mr. Pugh? nos dawch, os rhaid i ch'i fynd, ond chawsech ch'i fawr o fyn'd mor swta dase Enoc Jones yn fyw."
"Be dach ch'i feddwl o Mrs. Jones a'ch lodjin? gofynai Mr. Pugh i mi. Atebais mai fy argraff oedd
Q
ei fod yn lle cysurus a glân, a bod Mrs. Jones yn ddynes daclus, onest, a charedig, ac yn un hawdd byw gyda hi, ond dipyn yn wan.
Byddwch yn ber{{bar|2}}
"Right, 'y machgen i,' ebe fe. ffaith hapus wedi i ch'i ddygymmod hefo'r son am Enoc Jones. Wyddoch chi'r cynghor gefais i ystalwm? Dyma fo: i beidio priodi gwraig weddw os na byddai ei gwr cynta' hi wedi diweddu ei oes ar y crogbren neu yn y ''transport,'' achos os bydd y gŵr cynta' wedi ei grogi ne ei dransportio, chlywch ch'i byth moni yn son am ei enw; ond os bydd o wedi bod yn ŵr go dda, chlywch ch'i byth y gair diwaetha am dano Yrwan mi awn i edrach am Mr. Smart, un o'r defed mawr,' ebe Mr. Pugh."
Aeth Noah Rees ymlaen gyda'i adroddiad o'i argraffiadau cyntaf; ond gan fod y bennod eisoes yn rhy faith, rhaid i mi adael y gweddill hyd y nesaf.<noinclude><references/></noinclude>
ekho2posjn6xa60w6d4zh6gp4y228np
171221
171220
2026-09-28T14:38:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171221
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>eistedd fel delwau, neu yn hytrach fel paganiaid, heb ddeall iaith y pregethwr. Onid oes lle i ofni fod llawer o'n boneddigesau parchusaf yn treulio oes heb ddeall unrhyw iaith y traethir ynddi yn eu clywedigaeth wirioneddau bywyd ac anfarwoldeb!
"Tra yr oeddwn i a Mrs. a Miss Pugh yn ymgomio am y peth yma a'r peth arall, cerddai Mr. Pugh yn ol a blaen yn aflonydd, a gofynai yn barhâus ai onid oedd y tê agos a bod yn barod bellach, a chyn i'r pryd fod prin wedi ei osod ar y bwrdd, gofynodd fendith arno â'i lygaid yn agored; ac heb roddi cymaint a diweddnod, dechreuodd fy ngwestiyno beth a gymerwn i'w fwyta. Yr oedd yno gyflawnder o bob danteithion, a synai y gŵr caredig fy mod yn bwyta càn lleied, ac o'r braidd y gallwn ei berswadio fy mod yn iach. Yr oedd yn ymddangos mai un o bleserau penaf Mr. Pugh oedd gweled pawb o'i gwmpas yn bwyta yn galonog; canys yr oedd ei lygaid yn cynniwair yn barhâus i edrych a oedd gan bawb yr hyn a fynai, a chyda hyny yr oedd bob rhyw ddau fynyd yn estyn tamaid i'r ci bach yr oedd wedi ei ddysgu i sefyll ar ei draed ol, ac i'r gath oedd yn eistedd yn grwn ar dop y gadair wrth ei ysgwydd. Nid cynt yr oedd y pryd drosodd nag y gadawodd Mr. Pugh yr ystafell er mwyn rhoddi tro i'r buarth, i weled a oedd gan y ferlen, a'r fuwch, a'r mochyn, a'r creaduriaid eraill fwyd.' Tra yr oedd efe wrth y gwaith hwn, yr oeddwn innau, gyda chynnorthwy Mrs. a Miss Pugh, yn astudio darluniau ysplenydd yr ystafell Edrychwn ar ''oil painting'' o fachgen ieuanc, pan ddychwelodd Mr. Pugh yn llawn ffwdan ac yn chwythu yn enbyd. Daeth i fy ymyl, a gofynodd i mi a oeddwn wedi blino. Atebais nad oeddwn mewn un modd. Nid oeddwn yn canfod dim tebygolrwydd yn y darlun i neb a welswn erioed, ac nid oedd dim neillduol ynddo ond fod y ffrâm yn ymddangos yn hynod gostus. Bum mor anffortunus a gofyn darlun o bwy ydoedd. Can gynted ag y gofynais y cwestiwn, gadawodd Miss Pugh yr ystafell. Gogwyddodd yr her wr llawen ei ben, a thaenodd cwmwl can ddued ag anobaith<noinclude><references/></noinclude>
p0ao3wdc6cwuob9jzl46p1wkex5vd5p
Tudalen:Y Dreflan.djvu/99
104
88612
171222
2026-09-28T14:39:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171222
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dros ei wyneb, tra y treiglai deigryn i lawr ei ddwy rudd; a chyda llais dystaw oedd heb fod o gwbl yn debyg i'w lais ef ei hun, dywedodd, a phob gair fel pe buasai yn ei dagu,
"Pictiwr—ydyw—o—fy—machgen—Bob."
"Rhoddodd fy nghalon dro ynof, a theimlwn, er yn ddiniwed, fel pe buaswn wedi trywanu yr hwn a ddangosasai y caredigrwydd mwyaf tuag ataf. Ni wyddwn pa beth i'w ddyweyd. Edrychais, ac yn ddigon ynfyd mi wn, ar Mrs. Pugh; cauodd hithau ei dwrn arnaf yn awgrymiadol i beidio son ychwaneg am y darlun. Ni theimlais erioed mor annigonol i'r amgylchiad. Ni wyddwn pa un ai wedi marw ai 'dafad ddu oedd y bachgen Bob.' Ofnwn mai yr olaf. Pan fedrais hel fy meddyliau at eu gilydd, cymerais afael yn mraich Mr. Pugh, ac arweinais ef mor garedig ag y gallwn i ben arall yr ystafell lle yr oedd ffenestr yn gwynebu'r ardd, a cheisiais droi yr ymddyddan at rywbeth arall. Os bu yr ychydig allu ymddyddanol a feddaf ar ei lawn egni erioed, y tro hwn y bu; a chyda chynnorthwy Mrs. Pugh, llwyddais tu hwnt i'm dysgwyliad. Ymhen ychydig fynydau yr oedd y cwmwl wedi cilio, a Mr. Pugh yn ei hwyliau arferol. Dywedodd wrthyf fod yn rhaid i mi fyned gydag ef i weled rhai o fy nefaid, fel y galwai efe aelodau yr eglwys. Nid oedd yn ddrwg genyf ei glywed yn dyweyd hyn. Yr oeddwn yn deall fod Mr. Pugh wedi gofalu am lettý cysurus i mi gyda gwraig weddw heb fod yn hen iawn, yr hon a ystyrid yn ddynes lân a pharchus, ond hysbyswyd fi mai yn y 'Cartrefle' yr oeddwn i aros y noson hono. Pan oedd Mr. Pugh a minnau yn cychwyn allan, cyfarfuasom â Miss Pugh. Yr oedd ei llygaid yn ymddangos yn llaith; ond pan welodd hi ei thad yn edrych mor llawen, daeth y fath gyfnewidiad dros ei hwyneb nes oeddwn braidd yn tueddu i alw yn ol y syniad a ffurfiaswn am dani, sef nad ydoedd yn brydferth. Pan oeddym yn troi am un gongl i'r tŷ, gwelwn wrth y gongl arall ''beak cap''—trwyn, ac un llygad o'r eiddo Jim yn ein gwylio, ac ar yr un foment<noinclude><references/></noinclude>
5mf53l7xjcexrau2uuwhqq51rsd4si1
Tudalen:Y Dreflan.djvu/100
104
88613
171223
2026-09-28T14:40:47Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171223
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dychwelodd Mr. Pugh i'r tŷ i geisio ei spectol. Càn gynted ag y cafodd Jim gefn ei feistr, daeth ar un llam i fy ymyl, gan daraw ei law ar ei gap. Deallais ei neges, a rhoddais iddo swllt. Gloëwodd ei lygaid prydferth, a gwadnodd i ffwrdd fel carw i fyny un heol ac i lawr heol arall, a chyn pen chwarter mynyd yr oedd o'r golwg. Prin y gallwn gredu ei fod ar gymaint brys a hyny am wario y swllt; a tharawodd i fy meddwl y gallai fod gan yr hogyn cyfrwysddrwg hwn rywun oedd yn anwyl a hoff ganddo, i'r hwn neu yr hon y cariai ei ennillion. Dechreuais feddwl yn well o Jim.
"Y lle cynta' y rhaid i mi fyn'd â ch'i ydi'ch lodjin,' ebe Mr. Pugh. Mrs. Jones ydi enw'r wraig; gwraig weddw ydi hi;—dynes glên shoe ond ei bod hi braidd yn son gormod am ei gŵr ymadawedig; ond mi ddowch i ddygymmod â hyny yn fuan.'
Felly yma y daethom, a rhaid i mi bellach siarad yn ddystawach. Curodd Mr. Pugh ddrws y tŷ gyda pher ei ffon mor enbyd o drwm nes oeddwn yn dychymygu gweled y wraig dda yn neidio llathen oddiwrth lawr y gegin; ac yn y fynyd clywem hi yn dyfod i agor i ni gan siarad yn uchel,
"Yn eno pob rheswm, be sy ma?"
"Can gynted, pa fodd bynag, ag y gwelodd Mrs. Jones mai Mr. Pugh oedd yn euog o guro mor ddireswm, a chodi yr holl gymydogaeth, newidiodd tôn ei llais y foment hono, a dywedodd,
"Wel, Mr. Pugh bach, yr oeddwn i'n meddwl mai ch'i oedd ene; a phwy sy gynoch chi hefo ch'i? Wel, Mr. Rees, y'n gwnidog ni, yn siwr ddigon. Wel, dowch i mewn, y mae yn dda gen i'ch gwel'd ch'i; ydi, o nghalon, ac mi fase dda gan Enoc Jones hefyd dase fo byw; yn fase, Mr. Pugh? Pwy oedd yn nabod Enoc Jones yn well na ch'i, Mr. Pugh?
"Wel oeddan, 'roeddan ni'n nabod y'n gilydd yn o lew,' ebe Mr Pugh; ac ychwanegai, 'Be dach chi'n feddwl o'ch lodjiwr, Mrs. Jones? ydach chi'n addo rhoi digon o fwyd iddo, ac edrach ar ei ol o'n symol?'
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
btyklyp6kvjjsva8xcpqe0rr3ohy9cz
Tudalen:Y Dreflan.djvu/101
104
88614
171224
2026-09-28T14:42:34Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171224
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Wel, rydach chi'n un garw, Mr. Pugh. 'Roedd Enoc Jones yn wastad yn deyd na welodd o rioed ych bath ch'i; a phwy oedd yn ych nabod chi'n well nag Enoc Jones, yntê, Mr. Pugh? ydach chi'n gynhes, Mr. Rees? ga i noi ''slippers'' i ch'i? Mi fydde Enoc Jones yn deyd yn wastad fod dyn yn gyffwyso yn well yn 'i ''slippers''."
"Dydi Mr. Rees ddim yn myn'd i aros yma heno,' ebe Mr. Pugh.
"Ddim yn myn'd i aros yma? B'le mae o'n myn'd, mod i mor hy a gofyn? Oes ne ddim byd yn y capel heno, oes ne? oes gynoch ch'i gyhoeddiad yn rhwle heno, Mr. Rees?'
Na, mae o'n dwad atom ni heno, ac mi ddaw atoch chithe fory. 'Doeddwn i ddim ond yn dwad i'w ddangos o heno,' ebe Mr. Pugh.
"Wel, yr ydach chi'n un garw, Mr. Pugh, fel yr oedd Enoc Jones yn wastad yn deyd. Newch ch'i gymyd paned o goffi, Mr. Rees?'
"Dim, diolch i chwi, Mrs. Jones; ni byddaf yn cymeryd coffi'r nos," atebais.
"Fydde Enoc Jones ddim chwaith. 'Roedd o yn wastad yn deyd fod coffi yn rhy drwm. Fyddwch ch'i yn cymyd coffi i frecwast, Mr. Rees?'
"Na byddaf, bron un amser.'
"Wel ydach ch'i run fath ag Enoc Jones yn union; dydi o, Mr. Pugh?'
"Ydi, yn enwedig o gwmpas plygiad ei benelin,' ebe Mr. Pugh yn chwareus; ac ychwanegai, 'Cewch hamdden eto, Mrs. Jones, i weled mwy o debygolrwydd rhwng Mr. Rees a Mr. Jones; ac ystyriwch chithe hi yn ''gompliment'', Mr. Rees, cael eich cymharu â dyn 'mor dda."
"Wel, pwy oedd yn nabod Enoc Jones yn well na ch'i, Mr. Pugh? nos dawch, os rhaid i ch'i fynd, ond chawsech ch'i fawr o fyn'd mor swta dase Enoc Jones yn fyw."
"Be dach ch'i feddwl o Mrs. Jones a'ch ''lodjin''? gofynai Mr. Pugh i mi. Atebais mai fy argraff oedd<noinclude><references/></noinclude>
hcwxx7c2elbj6japq074iib3uu2nicj
Tudalen:Y Dreflan.djvu/102
104
88615
171225
2026-09-28T14:44:49Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171225
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ei fod yn lle cysurus a glân, a bod Mrs. Jones yn ddynes daclus, onest, a charedig, ac yn un hawdd byw gyda hi, ond dipyn yn wan.
Byddwch yn ber{{bar|2}}
"''Right'', 'y machgen i,' ebe fe. ffaith hapus wedi i ch'i ddygymmod hefo'r son am Enoc Jones. Wyddoch chi'r cynghor gefais i ystalwm? Dyma fo: i beidio priodi gwraig weddw os na byddai ei gwr cynta' hi wedi diweddu ei oes ar y crogbren neu yn y ''transport,'' achos os bydd y gŵr cynta' wedi ei grogi ne ei ''dransportio'', chlywch ch'i byth moni yn son am ei enw; ond os bydd o wedi bod yn ŵr go dda, chlywch ch'i byth y gair diwaetha am dano Yrwan mi awn i edrach am Mr. Smart, un o'r defed mawr,' ebe Mr. Pugh."
Aeth Noah Rees ymlaen gyda'i adroddiad o'i argraffiadau cyntaf; ond gan fod y bennod eisoes yn rhy faith, rhaid i mi adael y gweddill hyd y nesaf.
<br>
<br>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD XII.<br>MR. SMART}}}}
FEL y dywedwyd yn y bennod o'r blaen, aeth Noah Rees ymlaen gyda'r adroddiad.
"Yrwan,' ebe Mr. Pugh wrthyf, 'mi awn i edrach am Mr. Smart. 'Does dim llawer o gybyddiaeth rhyngoch ch'i âg o, ddyliwn, Mr. Rees? Dyn noble anwêdd ydi Mr. Smart, ond i fod o dipyn yn rhy gysàct, fydda' i'n meddwl. Mae gan bawb 'i ffordd, wyddoch, Mr. Rees; a be' dale hi fel arall?. Mae tipyn o'r gŵr boneddig yn Mr. Smart; ond be' all y dyn wrth hyny? Mae rhai yn deyd mai 'i falchder o ydi'r cwbl, ac mai dene ydi'r rheswm am i fod o mor grêt hefo pobl Eglwys Loeger. Choelia i fawr; dene ydi natur y dyn. Wydduct ch'i be'? mi fum i yn synu lawer gwaith fod Mr. Smart heb
<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
p5elwiflv56innrjvjabiosgm9jtusx
171226
171225
2026-09-28T14:46:16Z
AlwynapHuw
1710
171226
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ei fod yn lle cysurus a glân, a bod Mrs. Jones yn ddynes daclus, onest, a charedig, ac yn un hawdd byw gyda hi, ond dipyn yn wan.
"''Right'', 'y machgen i,' ebe fe. Byddwch yn berffaith hapus wedi i ch'i ddygymmod hefo'r son am Enoc Jones. Wyddoch chi'r cynghor gefais i ystalwm? Dyma fo: i beidio priodi gwraig weddw os na byddai ei gwr cynta' hi wedi diweddu ei oes ar y crogbren neu yn y ''transport,'' achos os bydd y gŵr cynta' wedi ei grogi ne ei ''dransportio'', chlywch ch'i byth moni yn son am ei enw; ond os bydd o wedi bod yn ŵr go dda, chlywch ch'i byth y gair diwaetha am dano Yrwan mi awn i edrach am Mr. Smart, un o'r defed mawr,' ebe Mr. Pugh."
Aeth Noah Rees ymlaen gyda'i adroddiad o'i argraffiadau cyntaf; ond gan fod y bennod eisoes yn rhy faith, rhaid i mi adael y gweddill hyd y nesaf.
<br>
<br>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD XII.<br>MR. SMART}}}}
FEL y dywedwyd yn y bennod o'r blaen, aeth Noah Rees ymlaen gyda'r adroddiad.
"Yrwan,' ebe Mr. Pugh wrthyf, 'mi awn i edrach am Mr. Smart. 'Does dim llawer o gybyddiaeth rhyngoch ch'i âg o, ddyliwn, Mr. Rees? Dyn noble anwêdd ydi Mr. Smart, ond i fod o dipyn yn rhy gysàct, fydda' i'n meddwl. Mae gan bawb 'i ffordd, wyddoch, Mr. Rees; a be' dale hi fel arall?. Mae tipyn o'r gŵr boneddig yn Mr. Smart; ond be' all y dyn wrth hyny? Mae rhai yn deyd mai 'i falchder o ydi'r cwbl, ac mai dene ydi'r rheswm am i fod o mor grêt hefo pobl Eglwys Loeger. Choelia i fawr; dene ydi natur y dyn. Wydduct ch'i be'? mi fum i yn synu lawer gwaith fod Mr. Smart heb
<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
i2zvm8l3xw1udosmpmy1ww47pipl4tk