Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.22 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/257 104 3508 171233 6665 2026-09-29T17:47:08Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171233 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|1:23|23}} A thylwyth Joseph a barasant chwilio Bethel: (ac enw y ddinas o’r blaen ''oedd'' Luz.) {{angor|1:24|24}} A’r ysbïwyr a welsant wr yn dyfod allan o’r ddinas; ac a ddywedasant wrtho, Dangos i ni, attolwg, y ffordd yr eir i’r ddinas, a ni a wnawn drugaredd â thi. {{angor|1:25|25}} A phan ddangosodd efe iddynt hwy y ffordd i fyned i’r ddinas, hwy a darawsant y ddinas â min y cleddyf; ac a ollyngasant ymaith y gwr a’i holl deulu. {{angor|1:26|26}} A’r gwr a aeth i wlad yr Hethiaid; ac a adeiladodd ddinas, ac a alwodd ei henw Luz: dyma ei henw hi hyd y dydd hwn. {{angor|1:27|27}} ¶ Ond ni oresgynodd Manasseh Beth-sean na’i threfydd, na Thaanach na’i threfydd, na thrigolion Dor na’i threfydd, na thrigolion Ibleam na’i threfydd, na thrigolion Megido na’i threfydd: eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno. {{angor|1:28|28}} Ond pan gryfhaodd Israel, yna efe a osododd y Canaaneaid dan dreth; ond nis gyrrodd hwynt ymaith yn llwyr. {{angor|1:29|29}} ¶ Ephraim hefyd ni yrrodd allan y Canaaneaid oedd yn gwladychu yn Gezer; eithr y Canaaneaid a breswyliasant yn eu mysg hwynt yn Gezer. {{angor|1:30|30}} ¶ A Zabulon ni yrrodd ymaith drigolion Citron, na phreswylwyr Nahalol; eithr y Canaaneaid a wladychasant yn eu mysg hwynt, ac a aethant dan dreth. {{angor|1:31|31}} ¶ Ac Aser ni yrrodd ymaith drigolion Acco, na thrigolion Sidon, nac Alab, nac Achzib, na Helbah, nac Aphic, na Rehob: {{angor|1:32|32}} Ond Aser a drigodd ym mysg y Canaaneaid, trigolion y wlad; canys ni yrrasant hwynt allan. {{angor|1:33|33}} ¶ A Naphtali ni yrrodd allan breswylwyr Beth-semes, na thrigolion Beth-anath; eithr efe a wladychodd ym mysg y Canaaneaid, trigolion y wlad: er hynny preswylwyr Beth-semes a Beth-anath oedd dan dreth iddynt. {{angor|1:34|34}} ¶ A’r Amoriaid a yrrasant feibion Dan i’r mynydd: canys ni adawsant iddynt ddyfod i waered i’r dyffryn. {{angor|1:35|35}} A’r Amoriaid a fynnai breswylio ym mynydd Heres yn Ajalon, ac yn Saalbim: eto llaw tŷ Joseph a orthrechodd, a’r ''Amoriaid'' fuant dan dreth ''iddynt''. {{angor|1:36|36}} A therfyn yr Amoriaid ''oedd'' o riw Acrabbim, o’r graig, ac uchod. {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1 ''Angel yn ceryddu y bobl yn Bochim.'' 10 ''Dryioni yr oes newydd ar ol Josua.'' 14 ''Digllonedd Duw a’i drugaredd tu ag attynt.'' 20 ''Gadael y Canaaneaid i brofi Israel.''}} {{angor|2:1}} {{uc|Ac}} angel yr {{sc|Arglwydd}} a ddaeth i fynu o Gilgal i Bochim, ac a ddywedodd, Dygais chwi i fynu o’r Aipht, ac arweiniais chwi i’r wlad ''am'' yr hon y tyngais wrth eich tadau; ac a ddywedais, Ni thorraf fy nghyfammod â chwi byth. {{angor|2:2|2}} Na wnewch chwithau gyfammod â thrigolion y wlad hon; ''ond'' bwriwch i lawr eu hallorau: etto ni wrandawsoch ar fy llef: paham y gwnaethoch hyn? {{angor|2:3|3}} Am hynny y dywedais, Ni yrraf hwynt allan o’ch blaen chwi: eithr byddant i chwi ''yn ddrain'' yn eich ystlysau, a’u duwiau fydd yn fagl i chwi. {{angor|2:4|4}} A phan lefarodd angel yr {{sc|Arglwydd}} y geiriau hyn wrth holl feibion Israel, yna y bobl a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant. {{angor|2:5|5}} Ac a alwasant enw y lle hwnnw Bochim: ac yna yr aberthasant i’r {{sc|Arglwydd}}. {{angor|2:6|6}} ¶ A Josua a ollyngodd y bobl ymaith; a meibion Israel a aethant bob un i’w etifeddiaeth, i feddiannu y wlad. {{angor|2:7|7}} A’r bobl a wasanaethasant yr {{sc|Arglwydd}} holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid y rhai a fu fyw ar ol Josua, y rhai a welsent holl fawr-waith yr {{sc|Arglwydd}}, yr hwn a wnaethai efe er Israel. {{angor|2:8|8}} A bu farw Josua mab Nun, gwas yr {{sc|Arglwydd}}, yn fab dengmlwydd a chant. {{angor|2:9|9}} A hwy a’i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath-heres, ym mynydd Ephraim, o du y gogledd i fynydd Gaas. {{angor|2:10|10}} A’r holl oes honno hefyd a gasglwyd at eu tadau: a chyfododd oes arall ar eu hol hwynt, y rhai nid adwaenent yr {{sc|Arglwydd}}, na’i weithredoedd a wnaethai efe er Israel. {{angor|2:11|11}} ¶ A meibion Israel a wnaethant ddrygioni y’ngolwg yr {{sc|Arglwydd}}, ac a wasanaethasant Baalim: {{angor|2:12|12}} Ac a wrthodasant {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} eu tadau, yr hwn a’u dygasai hwynt o wlad yr Aipht, ac a aethant ar ol duwiau dieithr, ''sef rhai'' o dduwiau y bobloedd ''oedd'' o’u ham-<noinclude><references/></noinclude> dce1nfkn91wr2ij6s5hh5wf4r2u6b1y Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/258 104 3509 171234 6666 2026-09-30T05:04:18Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171234 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>gylch, ac a ymgrymmasant iddynt, ac a ddigiasant yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|2:13|13}} A hwy a wrthodasant yr {{sc|Arglwydd}}, ac a wasanaethasant Baal ac Astaroth. {{angor|2:14|14}} ¶ A llidiodd digllonedd yr {{sc|Arglwydd}} yn erbyn Israel; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw yr anrheithwyr, y rhai a’u hanrheithiasant hwy; ac efe a’u gwerthodd hwy i law eu gelynion o amgylch, fel na allent sefyll mwyach yn erbyn eu gelynion. {{angor|2:15|15}} I ba le bynnag yr aethant, llaw yr {{sc|Arglwydd}} oedd er drwg yn eu herbyn hwynt; fel y llefarasai yr {{sc|Arglwydd}}, ac fel y tyngasai yr {{sc|Arglwydd}} wrthynt hwy: a bu gyfyng iawn arnynt. {{angor|2:16|16}} ¶ Etto yr {{sc|Arglwydd}} a gododd farnwyr, y rhai a’u hachubodd hwynt o law eu hanrheithwyr. {{angor|2:17|17}} Ond ni wrandawent chwaith ar eu barnwyr; eithr putteiniasant ar ol duwiau dïeithr, ac ymgrymmasant iddynt: ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd y rhodiasai eu tadau hwynt ynddi, gan wrandaw ar orchymynion yr {{sc|Arglwydd}}; ''ond'' ni wnaethant hwy felly. {{angor|2:18|18}} A phan godai yr {{sc|Arglwydd}} farnwyr arnynt hwy, yna yr {{sc|Arglwydd}} fyddai gyd â’r barnwr, ac a’u gwaredai hwynt o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr: canys yr {{sc|Arglwydd}} a dosturiai wrth eu griddfan hwynt, rhag eu gorthrymwyr a’u cystuddwyr. {{angor|2:19|19}} A phan fyddai farw y barnwr, hwy a ddychwelent, ac a ymlygrent yn fwy na’u tadau, gan fyned ar ol duwiau dïeithr, i’w gwasanaethu hwynt, ac i ymgrymmu iddynt: ni pheidiasant â’u gweithredoedd eu hunain, nac â’u ffordd wrthnysig. {{angor|2:20|20}} ¶ A digllonedd yr {{sc|Arglwydd}} a lidiai yn erbyn Israel: ac efe a ddywedai, Oblegid i’r genedl hon droseddu fy nghyfammod a orchymynais i’w tadau hwynt, ac na wrandawsant ar fy llais; {{angor|2:21|21}} Ni chwanegaf finnau yrru ymaith o’u blaen hwynt neb o’r cenhedloedd a adawodd Josua pan fu farw: {{angor|2:22|22}} I brofi Israel trwyddynt hwy, a gadwent hwy ffordd yr {{sc|Arglwydd}}, gan rodio ynddi, fel y cadwodd eu tadau hwynt, neu beidio. {{angor|2:23|23}} Am hynny yr {{sc|Arglwydd}} a adawodd y cenhedloedd hynny, heb eu gyrru ymaith yn ebrwydd; ac ni roddodd hwynt yn llaw Josua. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Y cenhedloedd a adawyd i brofi Israel.'' 5 ''Ac Israel, wrth ymgyfeillach â hwynt, yn addoli eu duwiau hwy.'' 8 ''Othniel yn eu gwaredu hwy oddi wrth Cusan-risathaim;'' 15 ''Ehwd, oddi wrth Eglon;'' 31 ''a Samgar, oddi wrth y Philistiaid.''}} {{angor|3:1}} {{uc|Dyma}} y cenhedloedd a adawodd yr {{sc|Arglwydd}} i brofi Israel trwyddynt, (''sef'' y rhai oll ni wyddent gwbl o ryfeloedd Canaan; {{angor|3:2|2}} Yn unig i beri i genhedlaethau meibion Israel wybod, i’w dysgu hwynt i ryfel; y rhai yn ddïau ni wyddent hynny o’r blaen;) {{angor|3:3|3}} Pùm tywysog y Philistiaid, a’r holl Ganaaneaid, a’r Sidoniaid, a’r Hefiaid y rhai oedd yn aros ym mynydd Libanus, o fynydd Baal-hermon, hyd y ffordd y deuir i Hamath. {{angor|3:4|4}} A hwy a fuant i brofi Israel trwyddynt, i wybod a wrandawent hwy ar orchymynion yr {{sc|Arglwydd}}, y rhai a orchymynasai efe i’w tadau hwynt trwy law Moses. {{angor|3:5|5}} ¶ A meibion Israel a drigasant ym mysg y Canaaneaid, yr Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid ''hefyd'', a’r Jebusiaid: {{angor|3:6|6}} Ac a gymmerasant eu merched hwynt iddynt yn wragedd, ac a roddasant eu merched i’w meibion hwythau, ac a wasanaethasant eu duwiau hwynt. {{angor|3:7|7}} Felly meibion Israel a wnaethant ddrygioni y’ngolwg yr {{sc|Arglwydd}}, ac a anghofiasant yr {{sc|Arglwydd}} eu {{sc|Duw}}, ac a wasanaethasant Baalim, a’r llwyni. {{angor|3:8|8}} ¶ Am hynny digllonedd yr {{sc|Arglwydd}} a lidiodd yn erbyn Israel; ac efe a’u gwerthodd hwynt i law Cusan-risathaim, brenhin Mesopotamia: a meibion Israel a wasanaethasant Cusan-risathaim wyth mlynedd. {{angor|3:9|9}} A meibion Israel a waeddasant ar yr {{sc|Arglwydd}}: a’r {{sc|Arglwydd}} a gododd achubwr i feibion Israel, yr hwn a’u hachubodd hwynt; ''sef'' Othniel mab Cenaz, brawd Caleb, ieuangach nag ef. {{angor|3:10|10}} Ac yspryd yr {{sc|Arglwydd}} a ddaeth arno ef, ac efe a farnodd Israel, ac a aeth allan i ryfel: a’r {{sc|Arglwydd}} a roddodd yn ei law ef Cusan-risathaim, brenhin Mesopotamia; a’i law ef oedd drech na Cusan-risathaim. {{angor|3:11|11}} A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd. A bu farw Othniel mab Cenaz. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 42bmcbf8bu2mna1gbm726tbxm4v9a5l Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/259 104 3510 171235 6667 2026-09-30T05:21:22Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171235 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|3:12|12}} ¶ A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg y’ngolwg yr {{sc|Arglwydd}}: a’r {{sc|Arglwydd}} a nerthodd Eglon brenhin Moab yn erbyn Israel, am iddynt wneuthur drygioni y’ngolwg yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|3:13|13}} Ac efe a gasglodd atto feibion Ammon, ac Amalec, ac a aeth ac a darawodd Israel; a hwy a feddiannasant ddinas y palmwydd. {{angor|3:14|14}} Felly meibion Israel a wasanaethasant Eglon brenhin Moab ddeunaw mlynedd. {{angor|3:15|15}} Yna meibion Israel a lefasant ar yr {{sc|Arglwydd}}: a’r {{sc|Arglwydd}} a gododd achubwr iddynt; ''sef'' Ehwd mab Gera, fab Jemini, gwr llawchwith: a meibion Israel a anfonasant anrheg gyd âg ef i Eglon brenhin Moab. {{angor|3:16|16}} Ac Ehwd a wnaeth iddo ddager ddau finiog o gufydd ei hŷd, ac a’i gwregysodd dan ei ddillad, ar ei glun ddehau. {{angor|3:17|17}} Ac efe a ddug yr anrheg i Eglon brenhin Moab. Ac Eglon ''oedd'' wr tew iawn. {{angor|3:18|18}} A phan ddarfu iddo ef gyflwyno yr anrheg, efe a ollyngodd ymaith y bobl a ddygasai yr anrheg. {{angor|3:19|19}} Ond efe ei hun a drodd oddi wrth y chwarelau ''oedd'' yn Gilgal, ac a ddywedodd, ''Y mae'' i mi air o gyfrinach â thi, O frenhin. Dywedodd yntau, Gosteg. A’r holl rai oedd yn sefyll yn ei ymyl ef a aethant allan oddi wrtho ef. {{angor|3:20|20}} Ac Ehwd a ddaeth i mewn atto ef: ac yntau oedd yn eistedd mewn ystafell haf, yr hon ''oedd'' iddo ef ei hunan. A dywedodd Ehwd, Gair oddi wrth {{sc|Dduw}} ''sydd'' gennyf attat ti. Ac efe a gyfododd oddi ar ''ei'' orseddfa. {{angor|3:21|21}} Ac Ehwd a estynodd ei law aswy, ac a gymmerth y ddager oddi ar ei glun ddehau, ac a’i brathodd hi yn ei botten ef: {{angor|3:22|22}} A’r carn a aeth i mewn ar ol y llafn, a’r brasder a ymgauodd am y llafn, fel na allai dynnu y ddager allan o’i botten; a’r dom a ddaeth allan. {{angor|3:23|23}} Yna Ehwd a aeth allan trwy y cyntedd, ac a gauodd ddrysau yr ystafell arno, ac a’u clodd. {{angor|3:24|24}} Pan aeth efe ymaith, ei weision a ddaethant: a phan welsant, wele, ''fod'' drysau yr ystafell yn gloïedig, hwy a ddywedasant, Dïau esmwythâu ei gorph y mae efe yn yr ystafell haf. {{angor|3:25|25}} A hwy a ddisgwyliasant, nes cywilyddio ''o honynt:'' ac wele, nid oedd efe yn agori drysau yr ystafell. Yna hwy a gymmerasant agoriad, ac a agorasant: ac wele eu harglwydd hwy wedi cwympo i lawr yn farw. {{angor|3:26|26}} Ac Ehwd a ddïangodd, tra fuant hwy yn aros; ac efe a aeth y tu hwnt i’r chwarelau, ac a ddïangodd i Seirath. {{angor|3:27|27}} A phan ddaeth, efe a udganodd mewn udgorn ym mynydd Ephraim: a meibion Israel a ddisgynasant gyd âg ef o’r mynydd, ac yntau o’u blaen hwynt. {{angor|3:28|28}} Ac efe a ddywedodd wrthynt, Canlynwch fi: canys yr {{sc|Arglwydd}} a roddodd eich gelynion chwi, ''sef'' Moab, yn eich llaw chwi. A hwy a aethant i waered ar ei ol ef, ac a ennillasant rydau yr Iorddonen tu a Moab, ac ni adawsant i neb fyned drwodd. {{angor|3:29|29}} ¶ A hwy a darawsant o’r Moabiaid y pryd hwnnw ynghylch deng mil o wŷr, pawb yn rymmus, a phawb yn wŷr nerthol; ac ni ddïangodd neb. {{angor|3:30|30}} Felly y darostyngwyd Moab y dwthwn hwnnw dan law Israel. A’r wlad a gafodd lonydd bedwar ugain mlynedd. {{angor|3:31|31}} ¶ Ac ar ei ol ef y bu Samgar mab Anath; ac efe a darawodd o’r Philistiaid chwe channwr âg irai ychain: yntau hefyd a waredodd Israel. {{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Deborah a Barac yn eu gwaredu hwy oddi wrth Jabin a Sisera.'' 21 ''Jäel yn lladd Sisera.''}} {{angor|4:1}} {{uc|A meibion}} Israel a chwanegasant wneuthur drygioni y’ngolwg yr {{sc|Arglwydd}}, wedi marw Ehwd. {{angor|4:2|2}} A’r {{sc|Arglwydd}} a’u gwerthodd hwynt i law Jabin brenhin Canaan, yr hwn oedd yn teyrnasu yn Hazor: a thywysog ei lu ef ''oedd'' Sisera; ac efe oedd yn trigo yn Haroseth y cenhedloedd. {{angor|4:3|3}} A meibion Israel a lefasant ar yr {{sc|Arglwydd}}: canys naw càn cerbyd haiarn ''oedd'' ganddo ef; ac efe a orthrymmodd feibion Israel yn dost ugain mlynedd. {{angor|4:4|4}} ¶ A Deborah y brophwydes, gwraig Lapidoth, y hi oedd yn barnu Israel yr amser hwnnw. {{angor|4:5|5}} Ac yr oedd hi yn trigo dan balmwydden Deborah, rhwng Ramah a<noinclude><references/></noinclude> h1bxy06sm7dwlx67f7mlhtrg0a560nt Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/260 104 3511 171236 6668 2026-09-30T05:41:18Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171236 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>Bethel, ym mynydd Ephraim: a meibion Israel a ddeuent i fynu atti hi am farn. {{angor|4:6|6}} A hi a anfonodd, ac a alwodd am Barac mab Abinoam, o Cedes-Naphtali; ac a ddywedodd wrtho, Oni orchymynodd {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel, ''gan ddywedyd'', Dos, a thyn tu a mynydd Tabor, a chymmer gyd â thi ddeng mil o wŷr, o feibion Naphtali, ac o feibion Zabulon? {{angor|4:7|7}} A mi a dynnaf attat, i afon Cison, Sisera tywysog llu Jabin, a’i gerbydau, a’i lïaws; ac a’i rhoddaf ef yn dy law di. {{angor|4:8|8}} A Barac a ddywedodd wrthi, Od âi di gyd â mi, minnau a âf; ac onid âi gyd â mi, nid âf. {{angor|4:9|9}} A hi a ddywedodd, Gan fyned yr âf gyd â thi: etto ni bydd gogoniant i ti yn y daith yr wyt yn myned iddi; canys yn llaw gwraig y gwerth yr {{sc|Arglwydd}} Sisera. A Deborah a gyfododd, ac a aeth gyd â Barac i Cedes. {{angor|4:10|10}} ¶ A Barac a gynhullodd Zabulon a Naphtali i Cedes; ac a aeth i fynu â deng mil o wŷr wrth ei draed: a Deborah a aeth i fynu gyd âg ef. {{angor|4:11|11}} A Heber y Cenead, o feibion Hobab, chwegrwn Moses, a ymneillduasai oddi wrth y Ceneaid, ac a ledasai ei babell hyd wastadedd Zaanaim, yr hwn ''sydd'' yn ymyl Cedes. {{angor|4:12|12}} A mynegasant i Sisera, fyned o Barac mab Abinoam i fynu i fynydd Tabor. {{angor|4:13|13}} A Sisera a gynhullodd ei holl gerbydau, ''sef'' naw càn cerbyd haiarn, a’r holl bobl y rhai ''oedd'' gyd âg ef, o Haroseth y cenhedloedd hyd afon Cison. {{angor|4:14|14}} A Deborah a ddywedodd wrth Barac, Cyfod; canys hwn ''yw'' y dydd y rhoddodd yr {{sc|Arglwydd}} Sisera yn dy law di: onid aeth yr {{sc|Arglwydd}} allan o’th flaen di? Felly Barac a ddisgynodd o fynydd Tabor, a deng mil o wŷr ar ei ol. {{angor|4:15|15}} A’r {{sc|Arglwydd}} a ddrylliodd Sisera, a’i holl gerbydau, a’i holl fyddin, â min y cleddyf, o flaen Barac: a Sisera a ddisgynodd oddi ar ''ei'' gerbyd, ac a ffodd ar ei draed. {{angor|4:16|16}} Ond Barac a erlidiodd ar ol y cerbydau, ac ar ol y fyddin, hyd Haroseth y cenhedloedd: a holl lu Sisera a syrthiodd ar fin y cleddyf: ni adawyd un o honynt. {{angor|4:17|17}} Ond Sisera a ffodd ar ei draed i babell Jäel, gwraig Heber y Cenead: canys ''yr oedd'' heddwch rhwng Jabin brenhin Hazor a thŷ Heber y Cenead. {{angor|4:18|18}} ¶ A Jäel a aeth i gyfarfod â Sisera; ac a ddywedodd wrtho, Tro i mewn, fy arglwydd, tro i mewn attaf fi; nac ofna. Yna efe a drodd atti i’r babell, a hi a’i gorchuddiodd ef â gwrthban. {{angor|4:19|19}} Ac efe a ddywedodd wrthi, Dïoda fi, attolwg, âg ychydig ddwfr; canys sychedig wyf. Yna hi a agorodd gunnog o laeth, ac a’i dïododd ef, ac a’i gorchuddiodd. {{angor|4:20|20}} Dywedodd hefyd wrthi, Saf ''wrth'' ddrws y babell; ac os daw neb i mewn, a gofyn i ti, a dywedyd, A oes yma neb? yna dywed dithau, Nac ''oes''. {{angor|4:21|21}} Yna Jäel gwraig Heber a gymmerth hoel o’r babell, ac a gymmerodd forthwyl yn ei llaw, ac a aeth i mewn atto ef yn ddistaw, ac a bwyodd yr hoel yn ei arlais ef, ac a’i gwthiodd i’r ddaear; canys yr oedd efe yn cysgu, ac yn lluddedig: ac ''felly'' y bu efe farw. {{angor|4:22|22}} Ac wele, a Barac yn erlid Sisera, Jäel a aeth i’w gyfarfod ef; ac a ddywedodd wrtho, Tyred, a mi a ddangosaf i ti y gwr yr wyt ti yn ei geisio. Ac efe a ddaeth i mewn atti; ac wele Sisera yn gorwedd yn farw, a’r hoel yn ei arlais. {{angor|4:23|23}} Felly y darostyngodd {{sc|Duw}} y dwthwn hwnnw Jabin brenhin Canaan o flaen meibion Israel. {{angor|4:24|24}} A llaw meibion Israel a lwyddodd, ac a orchfygodd Jabin brenhin Canaan, nes iddynt ddistrywio Jabin brenhin Canaan. {{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}} {{bach|''Cân Deborah a Barac.''}} {{angor|5:1}} {{uc|Yna}} y canodd Deborah a Barac mab Abinoam, y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd, {{angor|5:2|2}} Am ddïal dïaleddau Israel, ''ac'' ymgymmell o’r bobl, bendithiwch yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|5:3|3}} Clywch, O frenhinoedd; gwrandêwch, O dywysogion: myfi, myfi a ganaf i’r {{sc|Arglwydd}}; canaf ''fawl'' i {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel. {{angor|5:4|4}} O {{sc|Arglwydd}}, pan aethost allan o Seir, pan gerddaist o faes Edom, y ddaear a grynodd, a’r nefoedd a ddiferasant, a’r cymmylau a ddefnynasant ddwfr. {{angor|5:5|5}} Y mynyddoedd a doddasant o flaen yr {{sc|Arglwydd}}, ''sef'' y Sinai hwnnw, o flaen {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> nfrli4py5lzegudo7b6fxqejyaao4ln Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/261 104 3512 171237 6669 2026-09-30T05:58:20Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171237 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|5:6|6}} Yn nyddiau Samgar mab Anath, yn nyddiau Jäel, y llwybrau a aeth yn anhygyrch, a’r fforddolion a gerddasant lwybrau ceimion. {{angor|5:7|7}} Y maes-drefi a ddarfuant yn Israel, darfuant, nes i mi, Deborah, gyfodi; nes i mi gyfodi yn fam yn Israel. {{angor|5:8|8}} Dewisasant dduwiau newyddion; yna rhyfel ''oedd'' yn y pyrth: a welwyd tarian na gwaywffon ym mysg deugain mil yn Israel? {{angor|5:9|9}} Fy nghalon ''sydd'' tu ag at ddeddfwyr Israel, y rhai fu ewyllysgar ym mhlith y bobl. Bendithiwch yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|5:10|10}} Y rhai sydd yn marchogaeth ar asynod gwỳnion, y rhai sydd yn eistedd mewn barn, ac yn rhodio ar hyd y ffordd, lleferwch. {{angor|5:11|11}} ''Y rhai a waredwyd'' rhag trwst y saethyddion yn y lleoedd y tynnir dwfr; yno yr adroddant gyfiawnderau yr {{sc|Arglwydd}}, cyfiawnderau ''tu ag at'' y trefydd yn Israel: yna pobl yr {{sc|Arglwydd}} a ânt i waered i’r pyrth. {{angor|5:12|12}} Deffro, deffro, Deborah; deffro, deffro; traetha gân: cyfod, Barac, a chaeth-gluda dy gaeth-glud, O fab Abinoam. {{angor|5:13|13}} Yna y gwnaeth i’r hwn a adewir lywodraethu ar bendefigion y bobl: yr {{sc|Arglwydd}} a roddes i mi lywodraeth ar gedyrn. {{angor|5:14|14}} O Ephraim ''yr oedd'' eu gwreiddyn hwynt yn erbyn Amalec; ar dy ol di, Benjamin, ym mysg dy bobl: y deddfwyr a ddaeth i waered o Machir, yr ysgrifenyddion o Zabulon. {{angor|5:15|15}} A thywysogion Issachar ''oedd'' gyd â Deborah; ïe, Issachar, a Barac: efe a anfonwyd ar ei draed i’r dyffryn. Am neillduaeth Reuben ''yr oedd'' mawr ofal calon. {{angor|5:16|16}} Paham yr arhosaist rhwng y corlannau, i wrandaw brefiadau y defaid? Am neillduaeth Reuben ''yr oedd'' mawr ofal calon. {{angor|5:17|17}} Gilead a drigodd o’r tu hwnt i’r Iorddonen: a phaham yr erys Dan mewn llongau? Aser a drigodd wrth borthladd y môr, ac a arhosodd ar ei adwyau. {{angor|5:18|18}} Pobl Zabulon a roddes eu heinioes i farw; felly Naphtali ar uchelfannau y maes. {{angor|5:19|19}} A brenhinoedd a ddaethant, ''ac'' a ymladdasant; yna brenhinoedd Canaan a ymladdasant yn Taanach, wrth ddyfroedd Megido; ni chymmerasant elw o arian. {{angor|5:20|20}} O’r nefoedd yr ymladdasant; y sêr yn eu graddau a ymladdodd yn erbyn Sisera. {{angor|5:21|21}} Afon Cison a’u hysgubodd hwynt; yr hen afon, yr afon Cison. Fy enaid, ti a sethraist gadernid. {{angor|5:22|22}} Yna y drylliodd carnau y meirch gan garlammau, carlammau ei gryfion ef. {{angor|5:23|23}} Melldigwch Meroz, eb angel yr {{sc|Arglwydd}}, gan felldigo melldigwch ei thrigolion: am na ddaethant yn gynnorthwy i’r {{sc|Arglwydd}}, yn gynnorthwy i’r {{sc|Arglwydd}} yn erbyn y cedyrn. {{angor|5:24|24}} Bendithier Jäel, gwraig Heber y Cenead, goruwch gwragedd; bendithier ''hi'' goruwch gwragedd yn y babell. {{angor|5:25|25}} Dwfr a geisiodd efe, llaeth a roddes hithau: mewn phïol ardderchog y dug hi ymenyn. {{angor|5:26|26}} Ei llaw a estynodd hi at yr hoel, a’i llaw ddehau at forthwyl y gweithwyr: a hi a bwyodd Sisera, ac a dorrodd ei ben ef; gwanodd hefyd, a thrywanodd ei arlais ef. {{angor|5:27|27}} Wrth ei thraed yr ymgrymmodd efe; syrthiodd, gorweddodd: wrth ei thraed yr ymgrymmodd efe, y syrthiodd: lle yr ymgrymmodd, yno y syrthiodd yn farw. {{angor|5:28|28}} Mam Sisera a edrychodd trwy ffenestr, ac a waeddodd trwy y dellt, Paham yr oeda ei gerbyd ddyfod? paham yr arafodd olwynion ei gerbydau? {{angor|5:29|29}} Ei harglwyddesau doethion a’i hattebasant; hithau hefyd a attebodd iddi ei hun, {{angor|5:30|30}} Oni chawsant hwy? oni rannasant yr anrhaith, llangces ''neu'' ddwy i bob gwr? anrhaith o ''wisgoedd'' symmudliw i Sisera, anrhaith o wnïadwaith symmudliw, symmudliw o wnïadwaith o’r ddeutu, ''cymmwys'' i yddfau yr anrheithwyr? {{angor|5:31|31}} Felly y darfyddo am dy holl elynion, O {{sc|Arglwydd}}: a ''bydded'' y rhai a’i hoffant ef fel yr haul yn myned rhagddo yn ei rym. A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd. {{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}} {{bach|1 ''Midian yn gorthrymmu yr Israeliaid am eu pechod.'' 8 ''Prophwyd yn eu ceryddu hwynt.'' 11 ''Angel yn anfon Gedeon i’w gwaredu hwynt.'' 21 ''Tân yn ysu anrheg Gedeon.'' 24 ''Gedeon yn bwrw i lawr allor Baal, ac yn offrymmu aberth ar yr allor Jehofah-shalom.'' 31 ''Joas yn amddiffyn ei fab, ac yn ei alw af Jerubbaal.'' 33 ''Llu Gedeon,'' 36 ''a’i arwyddion.''}}<noinclude><references/></noinclude> ir9xnhx5amcs25lq1jsd6rekup1o39k 171238 171237 2026-09-30T05:59:16Z Tylopous 3717 {{nop}} 171238 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|5:6|6}} Yn nyddiau Samgar mab Anath, yn nyddiau Jäel, y llwybrau a aeth yn anhygyrch, a’r fforddolion a gerddasant lwybrau ceimion. {{angor|5:7|7}} Y maes-drefi a ddarfuant yn Israel, darfuant, nes i mi, Deborah, gyfodi; nes i mi gyfodi yn fam yn Israel. {{angor|5:8|8}} Dewisasant dduwiau newyddion; yna rhyfel ''oedd'' yn y pyrth: a welwyd tarian na gwaywffon ym mysg deugain mil yn Israel? {{angor|5:9|9}} Fy nghalon ''sydd'' tu ag at ddeddfwyr Israel, y rhai fu ewyllysgar ym mhlith y bobl. Bendithiwch yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|5:10|10}} Y rhai sydd yn marchogaeth ar asynod gwỳnion, y rhai sydd yn eistedd mewn barn, ac yn rhodio ar hyd y ffordd, lleferwch. {{angor|5:11|11}} ''Y rhai a waredwyd'' rhag trwst y saethyddion yn y lleoedd y tynnir dwfr; yno yr adroddant gyfiawnderau yr {{sc|Arglwydd}}, cyfiawnderau ''tu ag at'' y trefydd yn Israel: yna pobl yr {{sc|Arglwydd}} a ânt i waered i’r pyrth. {{angor|5:12|12}} Deffro, deffro, Deborah; deffro, deffro; traetha gân: cyfod, Barac, a chaeth-gluda dy gaeth-glud, O fab Abinoam. {{angor|5:13|13}} Yna y gwnaeth i’r hwn a adewir lywodraethu ar bendefigion y bobl: yr {{sc|Arglwydd}} a roddes i mi lywodraeth ar gedyrn. {{angor|5:14|14}} O Ephraim ''yr oedd'' eu gwreiddyn hwynt yn erbyn Amalec; ar dy ol di, Benjamin, ym mysg dy bobl: y deddfwyr a ddaeth i waered o Machir, yr ysgrifenyddion o Zabulon. {{angor|5:15|15}} A thywysogion Issachar ''oedd'' gyd â Deborah; ïe, Issachar, a Barac: efe a anfonwyd ar ei draed i’r dyffryn. Am neillduaeth Reuben ''yr oedd'' mawr ofal calon. {{angor|5:16|16}} Paham yr arhosaist rhwng y corlannau, i wrandaw brefiadau y defaid? Am neillduaeth Reuben ''yr oedd'' mawr ofal calon. {{angor|5:17|17}} Gilead a drigodd o’r tu hwnt i’r Iorddonen: a phaham yr erys Dan mewn llongau? Aser a drigodd wrth borthladd y môr, ac a arhosodd ar ei adwyau. {{angor|5:18|18}} Pobl Zabulon a roddes eu heinioes i farw; felly Naphtali ar uchelfannau y maes. {{angor|5:19|19}} A brenhinoedd a ddaethant, ''ac'' a ymladdasant; yna brenhinoedd Canaan a ymladdasant yn Taanach, wrth ddyfroedd Megido; ni chymmerasant elw o arian. {{angor|5:20|20}} O’r nefoedd yr ymladdasant; y sêr yn eu graddau a ymladdodd yn erbyn Sisera. {{angor|5:21|21}} Afon Cison a’u hysgubodd hwynt; yr hen afon, yr afon Cison. Fy enaid, ti a sethraist gadernid. {{angor|5:22|22}} Yna y drylliodd carnau y meirch gan garlammau, carlammau ei gryfion ef. {{angor|5:23|23}} Melldigwch Meroz, eb angel yr {{sc|Arglwydd}}, gan felldigo melldigwch ei thrigolion: am na ddaethant yn gynnorthwy i’r {{sc|Arglwydd}}, yn gynnorthwy i’r {{sc|Arglwydd}} yn erbyn y cedyrn. {{angor|5:24|24}} Bendithier Jäel, gwraig Heber y Cenead, goruwch gwragedd; bendithier ''hi'' goruwch gwragedd yn y babell. {{angor|5:25|25}} Dwfr a geisiodd efe, llaeth a roddes hithau: mewn phïol ardderchog y dug hi ymenyn. {{angor|5:26|26}} Ei llaw a estynodd hi at yr hoel, a’i llaw ddehau at forthwyl y gweithwyr: a hi a bwyodd Sisera, ac a dorrodd ei ben ef; gwanodd hefyd, a thrywanodd ei arlais ef. {{angor|5:27|27}} Wrth ei thraed yr ymgrymmodd efe; syrthiodd, gorweddodd: wrth ei thraed yr ymgrymmodd efe, y syrthiodd: lle yr ymgrymmodd, yno y syrthiodd yn farw. {{angor|5:28|28}} Mam Sisera a edrychodd trwy ffenestr, ac a waeddodd trwy y dellt, Paham yr oeda ei gerbyd ddyfod? paham yr arafodd olwynion ei gerbydau? {{angor|5:29|29}} Ei harglwyddesau doethion a’i hattebasant; hithau hefyd a attebodd iddi ei hun, {{angor|5:30|30}} Oni chawsant hwy? oni rannasant yr anrhaith, llangces ''neu'' ddwy i bob gwr? anrhaith o ''wisgoedd'' symmudliw i Sisera, anrhaith o wnïadwaith symmudliw, symmudliw o wnïadwaith o’r ddeutu, ''cymmwys'' i yddfau yr anrheithwyr? {{angor|5:31|31}} Felly y darfyddo am dy holl elynion, O {{sc|Arglwydd}}: a ''bydded'' y rhai a’i hoffant ef fel yr haul yn myned rhagddo yn ei rym. A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd. {{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}} {{bach|1 ''Midian yn gorthrymmu yr Israeliaid am eu pechod.'' 8 ''Prophwyd yn eu ceryddu hwynt.'' 11 ''Angel yn anfon Gedeon i’w gwaredu hwynt.'' 21 ''Tân yn ysu anrheg Gedeon.'' 24 ''Gedeon yn bwrw i lawr allor Baal, ac yn offrymmu aberth ar yr allor Jehofah-shalom.'' 31 ''Joas yn amddiffyn ei fab, ac yn ei alw af Jerubbaal.'' 33 ''Llu Gedeon,'' 36 ''a’i arwyddion.''}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> ri5oh91043zha737gmu7mzhaf5rlst1