Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.22
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/262
104
3513
171239
6670
2026-09-30T15:28:07Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171239
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|6:1}} {{uc|A meibion}} Israel a wnaethant ddrwg y’ngolwg yr {{sc|Arglwydd}}: a’r {{sc|Arglwydd}} a’u rhoddodd hwynt yn llaw Midian saith mlynedd.
{{angor|6:2|2}} A llaw Midian a orthrechodd Israel: ''a'' rhag y Midianiaid meibion Israel a wnaethant iddynt y llochesau ''sydd'' yn y mynyddoedd, a’r ogofeydd, a’r amddiffynfaoedd.
{{angor|6:3|3}} A phan hauasai Israel, yna Midian a ddaeth i fynu, ac Amalec, a meibion y dwyrain; hwy a ddaethant i fynu yn eu herbyn hwy:
{{angor|6:4|4}} Ac a wersyllasant yn eu herbyn hwynt, ac a ddinystriasant gnwd y ddaear, hyd oni ddelych i Gazah; ac ni adawsant ddim ymborth yn Israel, na dafad, nac eidion, nac asyn.
{{angor|6:5|5}} Canys hwy a ddaethant i fynu â’u hanifeiliaid, ac â’u pebyll, a daethant fel locustiaid o amldra; ''ac'' nid ''oedd'' rifedi arnynt hwy, nac ar eu camelod: a hwy a ddaethant i’r wlad i’w distrywio hi.
{{angor|6:6|6}} Ac Israel a aeth yn dlawd iawn o achos y Midianiaid: a meibion Israel a lefasant ar yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|6:7|7}} ¶ A phan lefodd meibion Israel ar yr {{sc|Arglwydd}} oblegid y Midianiaid,
{{angor|6:8|8}} Yr {{sc|Arglwydd}} a anfonodd brophwydwr at feibion Israel, yr hwn a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedodd {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel; Myfi a’ch dygais chwi i fynu o’r Aipht, ac a’ch arweiniais chwi o dŷ y caethiwed;
{{angor|6:9|9}} Ac a’ch gwaredais chwi o law yr Aiphtiaid, ac o law eich holl orthrymwyr; gyrrais hwynt allan o’ch blaen chwi, a rhoddais eu tir hwynt i chwi:
{{angor|6:10|10}} A dywedais wrthych, Myfi ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}} eich {{sc|Duw}} chwi; nac ofnwch dduwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond ni wrandawsoch ar fy llais i.
{{angor|6:11|11}} ¶ Ac angel yr {{sc|Arglwydd}} a ddaeth, ac a eisteddodd dan dderwen ''oedd'' yn Ophrah, yr hon ''oedd eiddo'' Joas yr Abïezriad: a Gedeon ei fab ef oedd yn dyrnu gwenith wrth y gwin-wrŷf, i’''w'' guddio rhag y Midianiaid.
{{angor|6:12|12}} Ac angel yr {{sc|Arglwydd}} a ymddangosodd iddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Yr {{sc|Arglwydd}} ''sydd'' gyd â thi, ''wr'' cadarn nerthol.
{{angor|6:13|13}} A Gedeon a ddywedodd wrtho, O fy arglwydd, od yw yr {{sc|Arglwydd}} gyd â ni, paham y digwyddodd hyn oll i ni? a pha le ''y mae'' ei holl ryfeddodau ef, y rhai a fynegodd ein tadau i ni, gan ddywedyd, Oni ddug yr {{sc|Arglwydd}} ni i fynu o’r Aipht? Ond yn awr yr {{sc|Arglwydd}} a’n gwrthododd ni, ac a’n rhoddodd i law y Midianiaid.
{{angor|6:14|14}} A’r {{sc|Arglwydd}} a edrychodd arno ef, ac a ddywedodd, Dos yn dy rymmusdra yma; a thi a waredi Israel o law y Midianiaid: oni anfonais i dydi?
{{angor|6:15|15}} Dywedodd yntau wrtho ef, O fy arglwydd, pa fodd y gwaredaf fi Israel? Wele fy nheulu yn dlawd ym Manasseh, a minnau yn lleiaf yn nhŷ fy nhad.
{{angor|6:16|16}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrtho ef, Dïau y byddaf fi gyd â thi; a thi a darewi y Midianiaid fel un gwr.
{{angor|6:17|17}} Ac efe a ddywedodd wrtho, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg, gwna erof fi arwydd mai ti sydd yn llefaru wrthyf.
{{angor|6:18|18}} Na chilia, attolwg, oddi yma, hyd oni ddelwyf attat, ac oni ddygwyf fy anrheg, a’i gosod ger dy fron. Dywedodd yntau, Myfi a arhosaf nes i ti ddychwelyd.
{{angor|6:19|19}} A Gedeon a aeth i mewn, ac a barottôdd fỳn gafr, ac ephah o beilliaid yn fara croyw: y cig a osododd efe mewn basged, a’r isgell a osododd efe mewn crochan; ac a’''i'' dug atto ef dan y dderwen, ac a’''i'' cyflwynodd.
{{angor|6:20|20}} Ac angel {{sc|Duw}} a ddywedodd wrtho, Cymmer y cig, a’r bara croyw, a gosod ar y graig hon, a thywallt yr isgell. Ac efe a wnaeth felly.
{{angor|6:21|21}} ¶ Yna angel yr {{sc|Arglwydd}} a estynodd flaen y ffon ''oedd'' yn ei law, ac a gyffyrddodd â’r cig, ac â’r bara croyw: a’r tân a ddyrchafodd o’r graig, ac a ysodd y cig, a’r bara croyw. Ac angel yr {{sc|Arglwydd}} a aeth ymaith o’i olwg ef.
{{angor|6:22|22}} A phan welodd Gedeon mai angel yr {{sc|Arglwydd}} ''oedd'' efe, y dywedodd Gedeon, Och, O {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}}! o herwydd i mi weled angel yr {{sc|Arglwydd}} wyneb yn wyneb.
{{angor|6:23|23}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrtho, Tangnefedd i ti: nac ofna; ni byddi farw.
{{angor|6:24|24}} Yna Gedeon a adeiladodd yno allor i’r {{sc|Arglwydd}}, ac a’i galwodd Jehofah-shalom: hyd y dydd hwn<noinclude><references/></noinclude>
sztnwbow03ud38y30s4r8rqz0sjn4wr
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/263
104
3514
171240
6671
2026-09-30T15:43:52Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171240
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>''y mae'' hi etto yn Ophrah ''eiddo'' yr Abïezriaid.
{{angor|6:25|25}} ¶ A’r noson honno y dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrtho ef, Cymmer y bustach ''sydd'' eiddo dy dad, sef yr ail bustach saith mlwydd oed; a bwrw i lawr allor Baal yr hon ''sydd'' eiddo dy dad, a thorr i lawr y llwyn ''sydd'' yn ei hymyl hi:
{{angor|6:26|26}} Ac adeilada allor i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} ar ben y graig hon, yn y lle trefnus, a chymmer yr ail bustach, ac offrymma boeth-offrwm â choed y llwyn, yr hwn a dorri di.
{{angor|6:27|27}} Yna Gedeon a gymmerodd ddengwr o’i weision, ac a wnaeth fel y llefarasai yr {{sc|Arglwydd}} wrtho: ac o herwydd ei fod yn ofni teulu ei dad, a gwŷr y ddinas, fel nas gallai wneuthur ''hyn'' liw dydd, efe a’''i'' gwnaeth liw nos.
{{angor|6:28|28}} ¶ A phan gyfododd gwŷr y ddinas y bore, ''yna'' wele allor Baal wedi ei bwrw i lawr, a’r llwyn yr hwn ''oedd'' yn ei hymyl wedi ei dorri, a’r ail bustach wedi ei offrymmu ar yr allor a adeiladasid.
{{angor|6:29|29}} A dywedodd pawb wrth ei gilydd, Pwy a wnaeth y peth hyn? Ac wedi iddynt ymofyn a chwilio, y dywedasant, Gedeon mab Joas a wnaeth y peth hyn.
{{angor|6:30|30}} Yna gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Joas, Dwg allan dy fab, fel y byddo marw: am iddo fwrw i lawr allor Baal, ac am iddo dorri y llwyn ''oedd'' yn ei hymyl hi.
{{angor|6:31|31}} A Joas a ddywedodd wrth y rhai oll a oeddynt yn sefyll yn ei erbyn ef, A ddadleuwch chwi dros Baal? ai chwi a’i ceidw ef? yr hwn a ddadleuo drosto ef, bydded farw y bore hwn: os {{sc|Duw}} ''yw'' efe, dadleued drosto ei hun, am fwrw ei allor ef i lawr.
{{angor|6:32|32}} Ac efe a’i galwodd ef y dwthwn hwnnw Jerubbaal; gan ddywedyd, Dadleued Baal drosto ei hun, am fwrw ei allor i lawr.
{{angor|6:33|33}} ¶ Yna y Midianiaid oll, a’r Amaleciaid, a meibion y dwyrain, a gasglwyd ynghyd, ac a aethant drosodd, ac a wersyllasant yn nyffryn Jezreel.
{{angor|6:34|34}} Ond yspryd yr {{sc|Arglwydd}} a ddaeth ar Gedeon; ac efe a udganodd mewn udgorn, ac Abïezer a aeth ar ei ol ef.
{{angor|6:35|35}} Ac efe a anfonodd genhadau trwy holl Manasseh, yr hwn hefyd a’i canlynodd ef: anfonodd hefyd genhadau i Aser, ac i Zabulon, ac i Naphtali; a hwy a ddaethant i fynu i’w cyfarfod hwynt.
{{angor|6:36|36}} ¶ A Gedeon a ddywedodd wrth {{sc|Dduw}}, O gwaredi di Israel trwy fy llaw i, megis y lleferaist;
{{angor|6:37|37}} Wele fi yn gosod cnu o wlan yn y llawr-dyrnu: os gwlith a fydd ar y cnu yn unig, a sychder ar yr holl ddaear; yna y caf wybod y gwaredi di Israel trwy fy llaw i, fel y lleferaist.
{{angor|6:38|38}} Ac felly y bu: canys cyfododd yn fore drannoeth, ac a sypiodd y cnu ynghyd, ac a wasgodd wlith o’r cnu, lonaid phïol o ddwfr.
{{angor|6:39|39}} A Gedeon a ddywedodd wrth {{sc|Dduw}}, Na lidied dy ddigllonedd i’m herbyn, a mi a lefaraf unwaith etto. Profaf yn awr, y waith hon yn unig, trwy y cnu: bydded, attolwg, sychder ar y cnu yn unig, ac ar yr holl ddaear bydded gwlith.
{{angor|6:40|40}} A {{sc|Duw}} a wnaeth felly y noson honno: canys yr oedd sychder ar y cnu yn unig, ac ar yr holl ddaear yr oedd gwlith.
{{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}}
{{bach|7 ''Dwyn llu Gedeon o ddeuddeng mil ar hugain i dri chant.'' 13 ''Ei gysuro trwy freuddwyd a dehongliad y dorth haidd.'' 16 ''Ei ddyfais ynghylch yr udgyrn a’r lampau mewn piserau.'' 25 ''Yr Ephraimiaid yn dal Oreb a Zeeb.''}}
{{angor|7:1}} {{uc|Yna}} Jerwbbaal, hwnnw ''yw'' Gedeon, a gyfododd yn fore, a’r holl bobl y rhai ''oedd'' gyd âg ef, ac a wersyllasant wrth ffynnon Harod: a gwersyll y Midianiaid oedd o du y gogledd iddynt, wrth fryn Moreh, yn y dyffryn.
{{angor|7:2|2}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Gedeon, Rhy lïosog yw y bobl ''sydd'' gyd â thi, i mi i roddi y Midianiaid yn eu dwylaw; rhag i Israel ymogoneddu i’m herbyn, gan ddywedyd, Fy llaw fy hun a’m gwaredodd.
{{angor|7:3|3}} Am hynny, yn awr, cyhoedda lle y clywo y bobl, gan ddywedyd, Yr hwn ''sydd'' ofnus ac arswydus, dychweled ac ymadawed y bore o fynydd Gilead. A dychwelodd o’r bobl ddwy fil ar hugain, a deng mil a arosasant.
{{angor|7:4|4}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Gedeon, Etto ''y mae'' gormod o bobl. Dwg hwynt i waered at y dyfroedd, a mi a’u profaf hwynt yno i ti: ac am yr hwn y dywedwyf wrthyt, Hwn a â gyd â thi, eled hwnnw gyd â thi; ac am bwy bynnag y dywedwyf wrthyt, Hwn nid â gyd â thi, nac eled hwnnw gyd â thi.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
1q28kevoiakgg3c3k7741gjclglm2qm
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/264
104
3516
171241
6674
2026-09-30T15:56:43Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171241
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|7:5|5}} Felly efe a ddygodd y bobl i waered at y dyfroedd. A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Gedeon, Pob un a lepio â’i dafod o’r dwfr fel y llepio ci, gosod ef o’r neilldu; a phob un a ymgrymmo ar ei liniau i yfed.
{{angor|7:6|6}} A rhifedi y rhai a godasant ''y dwfr'' â’u llaw at eu genau, oedd dri channwr: a’r holl bobl eraill a ymgrymmasant ar eu gliniau i yfed dwfr.
{{angor|7:7|7}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Gedeon, Trwy y tri channwr a lepiasant ''y dwfr'', y gwaredaf chwi, ac y rhoddaf y Midianiaid yn dy law di: ac eled yr holl bobl ''eraill'' bob un i’w fangre ei hun.
{{angor|7:8|8}} Felly y bobl a gymmerasant fwyd yn eu dwylaw, a’u hudgyrn; a ''Gedeon'' a ollyngodd ymaith holl wŷr Israel, pob un i’w babell, a’r tri channwr a attaliodd efe: a gwersyll y Midianiaid oedd oddi tanodd iddo yn y dyffryn.
{{angor|7:9|9}} ¶ A’r noson honno y dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrtho ef, Cyfod, dos i waered i’r gwersyll; canys mi a’i rhoddais yn dy law di.
{{angor|7:10|10}} Ac od wyt yn ofni myned i waered, dos di a Phurah dy langc i waered i’r gwersyll:
{{angor|7:11|11}} A chei glywed beth a ddywedant; fel yr ymnertho wedi hynny dy ddwylaw, ac yr elych i waered i’r gwersyll. Yna efe a aeth i waered, a Phurah ei langc, i gwrr y rhai arfogion ''oedd'' yn y gwersyll.
{{angor|7:12|12}} A’r Midianiaid, a’r Amaleciaid, a holl feibion y dwyrain, oedd yn gorwedd yn y dyffryn fel locustiaid o amldra; a’u camelod ''oedd'' heb rif, fel y tywod ''sydd'' ar fin y môr o amldra.
{{angor|7:13|13}} A phan ddaeth Gedeon, wele wr yn mynegi i’w gyfaill freuddwyd, ac yn dywedyd, Wele, breuddwyd a freuddwydiais; ac wele dorth o fara haidd yn ymdreiglo i wersyll y Midianiaid, a hi a ddaeth hyd at babell, ac a’i tarawodd fel y syrthiodd, a hi a’i hymchwelodd, fel y syrthiodd y babell.
{{angor|7:14|14}} A’i gyfaill a attebodd ac a ddywedodd, Nid ''yw'' hyn ddim ond cleddyf Gedeon mab Joas, gwr o Israel: {{sc|Duw}} a roddodd Midian a’i holl fyddin yn ei law ef.
{{angor|7:15|15}} ¶ A phan glybu Gedeon adroddiad y breuddwyd, a’i ddirnad, efe a addolodd, ac a ddychwelodd i wersyll Israel; ac a ddywedodd, Cyfodwch: canys
rhoddodd yr {{sc|Arglwydd}} fyddin y Midianiaid yn eich llaw chwi.
{{angor|7:16|16}} Ac efe a rannodd y tri channwr ''yn'' dair byddin, ac a roddodd udgyrn yn llaw pawb o honynt, a phiserau gwag, a lampau y’nghanol y piserau.
{{angor|7:17|17}} Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Edrychwch arnaf fi, a gwnewch yr un ffunud: ac wele, pan ddelwyf i gwrr y gwersyll, yna fel y gwnelwyf fi, gwnewch chwithau.
{{angor|7:18|18}} Pan udganwyf fi mewn udgorn, myfi a’r holl rai ''sydd'' gyd â mi, udgenwch chwithau mewn udgyrn o amgylch yr holl wersyll, a dywedwch, ''Cleddyf'' yr {{sc|Arglwydd}} a Gedeon.
{{angor|7:19|19}} ¶ Felly Gedeon a ddaeth i mewn, a’r cannwr ''oedd'' gyd âg ef, i gwrr y gwersyll, yn nechreu y wyliadwriaeth ganol, a’r gwylwyr wedi eu newydd osod, ac a udganasant mewn udgyrn, ac a ddrylliasant y piserau ''oedd'' yn eu dwylaw.
{{angor|7:20|20}} A’r tair byddin a udganasant mewn udgyrn, ac a ddrylliasant y piserau, ac a ddaliasant y lampau yn eu llaw aswy, a’r udgyrn yn eu llaw ddehau i udganu: a hwy a lefasant, Cleddyf yr {{sc|Arglwydd}} a Gedeon.
{{angor|7:21|21}} A safasant bob un yn ei le, o amgylch y gwersyll: a’r holl wersyll a redodd, ac a waeddodd, ac a ffodd.
{{angor|7:22|22}} A’r tri chant a udganasant âg udgyrn; a’r {{sc|Arglwydd}} a osododd gleddyf pob un yn erbyn eu gilydd, trwy yr holl wersyll: felly y gwersyll a ffodd hyd Beth-sittah, yn Sererath, hyd fin Abel-meholah, hyd Tabbath.
{{angor|7:23|23}} A gwŷr Israel a ymgasglasant, o Naphtali, ac o Aser, ac o holl Manasseh, ac a erlidiasant ar ol y Midianiaid.
{{angor|7:24|24}} ¶ A Gedeon a anfonodd genhadau trwy holl fynydd Ephraim, gan ddywedyd, Deuwch i waered yn erbyn y Midianiaid, ac achubwch o’u blaen hwynt y dyfroedd hyd Beth-barah a’r Iorddonen: a holl wŷr Ephraim a ymgasglasant, ac a ennillasant y dyfroedd hyd Beth-barah a’r Iorddonen.
{{angor|7:25|25}} A daliasant ddau o dywysogion Midian, Oreb a Zeeb; a lladdasant Oreb ar graig Oreb, a lladdasant Zeeb wrth win-wrŷf Zeeb, ac a erlidiasant Midian, ac a ddygasant bennau Oreb a Zeeb at Gedeon, i’r tu arall i’r Iorddonen.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
fj1o8qczh8pijwz0s49i67771bhbedj
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/265
104
3517
171242
6675
2026-09-30T16:17:02Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171242
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}}
{{bach|1 ''Gedeon yn llonyddu gwŷr Ephraim.'' 4 ''Succoth a Phenuel yn gwrthod porthi llu Gedeon.'' 10 ''Dala Zebah a Salmunna.'' 16, 17 ''Dinystr Succoth a Phenuel.'' 21 ''Gedeon yn dïal marwolaeth ei frodyr ar Zebah a Salmunna;'' 23 ''yn gwrthod llywodraethu.'' 27 ''Ei ephod ef yn achos o ddelw-addoliaeth.'' 28 ''Goresgyn Midian.'' 30 ''Plant Gedeon, a’i farwolaeth.'' 33 ''Gaudduwiaeth ac annïolchgarwch yr Israeliaid.''}}
{{angor|8:1}} {{uc|A gwyr}} Ephraim a ddywedasant wrtho ef, Paham y gwnaethost y peth hyn â ni, heb alw arnom ni pan aethost i ymladd yn erbyn y Midianiaid? A hwy a’i dwrdiasant ef yn dost.
{{angor|8:2|2}} Ac efe a ddywedodd wrthynt, Beth a wneuthum i yn awr wrth ''a wnaethoch'' chwi? Onid gwell ''yw'' lloffiad grawnwin Ephraim, na chasgliad grawnwin Abïezer?
{{angor|8:3|3}} {{sc|Duw}} a roddodd yn eich llaw chwi dywysogion Midian, Oreb a Zeeb: a pheth a allwn i ei wneuthur wrth ''a wnaethoch'' chwi? Yna yr arafodd eu dig hwynt tu ag atto ef, pan lefarodd efe y gair hwn.
{{angor|8:4|4}} ¶ A daeth Gedeon i’r Iorddonen; ''ac'' a aeth drosti hi, efe a’r tri channwr ''oedd'' gyd âg ef, yn ddiffygiol, ac etto yn ''eu'' herlid ''hwy''.
{{angor|8:5|5}} Ac efe a ddywedodd wrth wŷr Succoth, Rhoddwch, attolwg, dorthau o fara i’r bobl sydd i’m canlyn i: canys lluddedig ydynt hwy; a minnau yn erlid ar ol Zebah a Salmunna, brenhinoedd Midian.
{{angor|8:6|6}} ¶ A dywedodd tywysogion Succoth, ''A yw'' llaw Zebah a Salmunna yn awr yn dy law di, fel y rhoddem ni fara i’th lu di?
{{angor|8:7|7}} A dywedodd Gedeon, O herwydd hynny, pan roddo yr {{sc|Arglwydd}} Zebah a Salmunna yn fy llaw i, yna y drylliaf eich cnawd chwi â drain yr anialwch, ac â mïeri.
{{angor|8:8|8}} Ac efe a aeth i fynu oddi yno i Penuel, ac a lefarodd wrthynt hwythau yn yr un modd. A gwŷr Penuel a’i hattebasant ef fel yr attebasai gwŷr Succoth.
{{angor|8:9|9}} Ac efe a lefarodd hefyd wrth wŷr Penuel, gan ddywedyd, Pan ddychwelwyf mewn heddwch, mi a ddistrywiaf y tŵr yma.
{{angor|8:10|10}} ¶ A Zebah a Salmunna ''oedd'' yn Carcor, a’u lluoedd gyd â hwynt, ynghylch pymtheng mil, yr hyn oll a adawsid o holl fyddin meibion y dwyrain: canys lladdwyd cant ac ugain mil o wŷr yn tynnu cleddyf.
{{angor|8:11|11}} A Gedeon a aeth i fynu ar hyd ffordd y rhai oedd yn trigo mewn pebyll, o’r tu dwyrain i Nobah a Jogbehah: ac efe a darawodd y fyddin: canys y fyddin oedd ysgafala.
{{angor|8:12|12}} A Zebah a Salmunna a ffoisant: ac efe a erildiodd ar eu hol hwynt; ac a ddaliodd ddau frenhin Midian, Zebah a Salmunna, ac a darfodd yr holl lu.
{{angor|8:13|13}} ¶ A Gedeon mab Joas a ddychwelodd o’r rhyfel cyn ''codi'' yr haul.
{{angor|8:14|14}} Ac efe a ddaliodd langc o wŷr Succoth, ac a ymofynodd âg ef. Ac yntau a ysgrifenodd iddo dywysogion Succoth, a’r henuriaid; ''sef'' dau wr ar bymtheg a thri ugain.
{{angor|8:15|15}} Ac efe a ddaeth at wŷr Succoth, ac a ddywedodd, Wele Zebah a Salmunna, ''trwy'' y rhai y dannodasoch i mi, gan ddywedyd, ''A ydyw'' llaw Zebah a Salmunna yn awr yn dy law di, fel y rhoddem fara i’th wŷr lluddedig?
{{angor|8:16|16}} Ac efe a gymmerth henuriaid y ddinas, a drain yr anialwch, a mïeri, ac a ddysgodd wŷr Succoth â hwynt.
{{angor|8:17|17}} Tŵr Penuel hefyd a ddinystriodd efe, ac a laddodd wŷr y ddinas.
{{angor|8:18|18}} ¶ Yna efe a ddywedodd wrth Zebah a Salmunna, Pa fath wŷr ''oedd'' y rhai a laddasoch chwi yn Tabor? A hwy a ddywedasant, Tebyg i ti, ''pob un'' o ddull meibion brenhin.
{{angor|8:19|19}} Ac efe a ddywedodd, Fy mrodyr, meibion fy mam, ''oeddent'' hwy: ''fel'' mai byw yr {{sc|Arglwydd}}, pe gadawsech hwynt yn fyw, ni laddwn chwi.
{{angor|8:20|20}} Ac efe a ddywedodd wrth Jether ei gyntaf-anedig, Cyfod, lladd hwynt. Ond ni thynnai y llangc ei gleddyf: o herwydd efe a ofnodd, canys bachgen ''oedd'' efe etto.
{{angor|8:21|21}} Yna y dywedodd Zebah a Salmunna, Cyfod di, a rhuthra i ni: canys fel ''y byddo'' y gwr, ''felly y bydd'' ei rym. A Gedeon a gyfododd, ac a laddodd Zebah a Salmunna, ac a gymmerth y colerau ''oedd'' am yddfau eu camelod hwynt.
{{angor|8:22|22}} ¶ A gwŷr Israel a ddywedasant wrth Gedeon, Arglwyddiaetha arnom ni, tydi, a’th fab, a mab dy fab hefyd: canys gwaredaist ni o law Midian.
{{angor|8:23|23}} A Gedeon a ddywedodd wrthynt, Ni arglwyddiaethaf fi arnoch, ac ni arglwyddiaetha fy mab arnoch, ''eithr'' yr {{sc|Arglwydd}} a arglwyddiaetha arnoch.
{{angor|8:24|24}} Dywedodd Gedeon hefyd wrthynt, Gofynaf ddymuniad gennych, ar roddi o bob un o honoch i mi<noinclude><references/></noinclude>
3yvmauznpzulgxozq66dxkjpyttpkux
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/266
104
3518
171243
6676
2026-10-01T04:14:24Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171243
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>glust-dlysau ei ysglyfaeth: canys clust-dlysau aur ''oedd'' ganddynt hwy, o herwydd mai Ismaeliaid oeddynt hwy.
{{angor|8:25|25}} A dywedasant, Gan roddi y rhoddwn ''hwynt''. A lledasant ''ryw'' wisg, a thaflasant yno bob un glust-dlws ei ysglyfaeth.
{{angor|8:26|26}} A phwys y clust-dlysau aur a ofynasai efe, oedd fil a saith gant ''o siclau'' aur; heb law y colerau, a’r arogl-bellennau, a’r gwisgoedd porphor, y rhai ''oedd'' am frenhinoedd Midian; ac heb law y tyrch ''oedd'' am yddfau eu camelod hwynt.
{{angor|8:27|27}} A Gedeon a wnaeth o honynt ephod, ac a’i gosododd yn ei ddinas ei hun Ophrah: a holl Israel a butteiniasant ar ei hol hi yno: a bu ''hynny'' yn dramgwydd i Gedeon, ac i’w dŷ.
{{angor|8:28|28}} ¶ Felly y darostyngwyd Midian o flaen meibion Israel, fel na chwanegasant godi eu pennau. A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd yn nyddiau Gedeon.
{{angor|8:29|29}} ¶ A Jerubbaal mab Joas a aeth, ac a drigodd yn ei dŷ ei hun.
{{angor|8:30|30}} Ac i Gedeon yr oedd deng mab a thri ugain, a ddaethai o’i gorph ef: canys gwragedd lawer oedd iddo ef.
{{angor|8:31|31}} A’i ordderch-wraig ef, yr hon ''oedd'' yn Sichem, a ymddûg hefyd iddo fab: ac efe a osododd ei enw ef yn Abimelech.
{{angor|8:32|32}} ¶ Felly Gedeon mab Joas a fu farw mewn oedran teg, ac a gladdwyd ym meddrod Joas ei dad, yn Ophrah yr Abïezriaid.
{{angor|8:33|33}} A phan fu farw Gedeon, yna meibion Israel a ddychwelasant, ac a butteiniasant ar ol Baalim; ac a wnaethant Baal-berith yn dduw iddynt.
{{angor|8:34|34}} Felly meibion Israel ni chofiasant yr {{sc|Arglwydd}} eu {{sc|Duw}}, yr hwn a’u gwaredasai hwynt o law eu holl elynion o amgylch;
{{angor|8:35|35}} Ac ni wnaethant garedigrwydd â thŷ Jerubbaal, ''sef'' Gedeon, yn ol yr holl ddaioni a wnaethai efe i Israel.
{{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}}
{{bach|1 ''Abimelech, trwy gyd-fwriadu â gwŷr Sichem, a lladd ei frodyr, yn myned yn frenhin.'' 7 ''Jotham, trwy ddammeg, yn eu ceryddu, ac yn rhag-fynedi eu cwymp hwy.'' 26 ''Gaal yn cyd-fwriadu â’r Sichemiaid yn ei erbyn ef.'' 30 ''Zebul yn datguddio eu bwriad hwy.'' 45 ''Abimelech yn eu gorchfygu hwynt, ac yn hau y ddinas â halen:'' 49 ''yn llosgi amddiffynfa duw Berith.'' 53 ''Ei lladd yntau yn Thebez â darn a faen melin.'' 57 ''Cyflawni melldith Jotham.''}}
{{angor|9:1}} {{uc|Ac}} Abimelech mab Jerubbaal a aeth i Sichem, at frodyr ei fam, ac a ymddiddanodd â hwynt, ac â holl dylwyth tŷ tad ei fam, gan ddywedyd,
{{angor|9:2|2}} Dywedwch, attolwg, lle y clywo holl wŷr Sichem, Pa un oreu i chwi, ai arglwyddiaethu arnoch o ddengwr a thri ugain, ''sef'' holl feibion Jerubbaal, ai arglwyddiaethu o un gwr arnoch? cofiwch hefyd mai eich asgwrn a’ch cnawd chwi ''ydwyf'' fi.
{{angor|9:3|3}} A brodyr ei fam a ddywedasant am dano ef, lle y clybu holl wŷr Sichem, yr holl eiriau hyn: a’u calonnau hwynt a drodd ar ol Abimelech; canys dywedasant, Ein brawd ni ''yw'' efe.
{{angor|9:4|4}} A rhoddasant iddo ddeg a thri ugain o arian o dŷ Baal-berith: ac Abimelech a gyflogodd â hwynt oferwyr gwammal, y rhai a aethant ar ei ol ef.
{{angor|9:5|5}} Ac efe a ddaeth i dŷ ei dad i Ophrah, ac a laddodd ei frodyr, meibion Jerubbaal, y ''rhai oedd'' ddengwr a thri ugain, ar un garreg: ond Jotham, mab ieuangaf Jerubbaal, a adawyd; canys efe a ymguddiasai.
{{angor|9:6|6}} A holl wŷr Sichem a holl dŷ Milo a ymgasglasant, ac a aethant, ac a urddasant Abimelech yn frenhin, wrth ddyffryn y golofn yr hwn ''sydd'' yn Sichem.
{{angor|9:7|7}} ¶ A phan fynegasant ''hynny'' i Jotham, efe a aeth ac a safodd ar ben mynydd Garizim, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a waeddodd, dywedodd ''hefyd'' wrthynt, Gwrandêwch arnaf fi, O wŷr Sichem, fel y gwrandawo {{sc|Duw}} arnoch chwithau.
{{angor|9:8|8}} Y prennau gan fyned a aethant i enneinio brenhin arnynt; a dywedasant wrth yr olew-wydden, Teyrnasa arnom ni.
{{angor|9:9|9}} Ond yr olew-wydden a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi â’m brasder, a’r hwn trwof fi yr anrhydeddant {{sc|Dduw}} a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau ''eraill?''
{{angor|9:10|10}} A’r prennau a ddywedasant wrth y ffigysbren, Tyred di, teyrnasa arnom ni.
{{angor|9:11|11}} Ond y ffigysbren a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi â’m melysdra, ac â’m ffrwyth da, ac a âf fi i lywodraethu ar y prennau ''eraill?''
{{angor|9:12|12}} Yna y prennau a ddywedasant wrth y winwydden, Tyred di, teyrnasa arnom ni.
{{angor|9:13|13}} A’r winwydden a ddywedodd<noinclude><references/></noinclude>
hjibz5oz4w0vhpy4vb3rdokn3tobt1f
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/267
104
3519
171244
6677
2026-10-01T04:40:45Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171244
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>wrthynt hwy, A ymadawaf fi â’m melyswin, yr hwn sydd yn llawenhâu {{sc|Duw}} a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau ''eraill''.
{{angor|9:14|14}} Yna yr holl brennau a ddywedasant wrth y fieren, Tyred di, teyrnasa arnom ni.
{{angor|9:15|15}} A’r fieren a ddywedodd wrth y prennau, Os mewn gwirionedd yr enneiniwch fi yn frenhin arnoch, deuwch ''ac'' ymddiriedwch yn fy nghysgod i: ac onid ê, eled tân allan o’r fieren, ac ysed gedrwydd Libanus.
{{angor|9:16|16}} Yn awr gan hynny, os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch, yn gosod Abimelech yn frenhin, ac os gwnaethoch yn dda â Jerubbaal, ac â’i dŷ, ac os yn ol haeddedigaeth ei ddwylaw y gwnaethoch iddo:
{{angor|9:17|17}} (Canys fy nhad a ymladdodd drosoch chwi, ac a anturiodd ei einioes ym mhell, ac a’ch gwaredodd chwi o law Midian:
{{angor|9:18|18}} A chwithau a gyfodasoch yn erbyn tŷ fy nhad i heddyw, ac a laddasoch ei feibion ef, sef dengwr a thri ugain, ar un garreg, ac a osodasoch Abimelech, mab ei law-forwyn ef, yn frenhin ar wŷr Sichem, o herwydd ''ei fod'' ef yn frawd i chwi:)
{{angor|9:19|19}} Gan hynny, os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch â Jerubbaal, ac â’i dŷ ef, y dydd hwn; llawenychwch yn Abimelech, a llawenyched yntau ynoch chwithau:
{{angor|9:20|20}} Ac onid ê, eled tân allan o Abimelech, ac ysed wŷr Sichem, a thŷ Milo; ''hefyd'' eled tân allan o wŷr Sichem, ac o dŷ Milo, ac ysed Abimelech.
{{angor|9:21|21}} A Jotham a giliodd, ac a ffodd, ac a aeth ymaith i Beer, ac a drigodd yno, rhag ofn Abimelech ei frawd.
{{angor|9:22|22}} ¶ Ac Abimelech a deyrnasodd ar Israel dair blynedd.
{{angor|9:23|23}} A {{sc|Duw}} a ddanfonodd yspryd drwg rhwng Abimelech a gwŷr Sichem; a gwŷr Sichem a aethant yn anghywir i Abimelech:
{{angor|9:24|24}} Fel y delai y traha ''a wnelsid'' â deng mab a thri ugain Jerubbaal, ac y gosodid eu gwaed hwynt ar Abimelech eu brawd, yr hwn a’u lladdodd hwynt; ac ar wŷr Sichem, y rhai a’i cynnorthwyasant ef i ladd ei frodyr.
{{angor|9:25|25}} A gwŷr Sichem a osodasant iddo ef gynllwynwyr ar ben y mynyddoedd; a hwy a yspeiliasant bawb a’r a oedd yn tramwy heibio iddynt ar hyd y ffordd. A mynegwyd ''hynny'' i Abimelech.
{{angor|9:26|26}} A Gaal mab Ebed a ddaeth, efe a’i frodyr, ac a aethant drosodd i Sichem: a gwŷr Sichem a roisant eu hyder arno.
{{angor|9:27|27}} A hwy a aethant i’r meusydd, ac a gasglasant eu gwinllannoedd, ac a sangasant ''eu grawnwin'', ac a wnaethant yn llawen, ac a aethant i mewn i dŷ eu duw, ac a fwyttasant ac a yfasant, ac a felldithiasant Abimelech.
{{angor|9:28|28}} A Gaal mab Ebed a ddywedodd, Pwy ''yw'' Abimelech, a phwy ''yw'' Sichem, fel y gwasanaethem ef? onid mab Jerubbaal ''yw efe'' onid Zebul ''yw'' ei swyddog? gwasanaethwch wŷr Hemor tad Sichem: canys paham y gwasanaethem ni ef?
{{angor|9:29|29}} O na byddai y bobl hyn dan fy llaw i, fel y bwriwn ymaith Abimelech! Ac efe a ddywedodd wrth Abimelech, Amlhâ dy lu, a thyred allan.
{{angor|9:30|30}} ¶ A phan glybu Zebul, llywodraethwr y ddinas, eiriau Gaal mab Ebed, y llidiodd ei ddigllonedd ef.
{{angor|9:31|31}} Ac efe a anfonodd genhadau at Abimelech yn ddirgel, gan ddywedyd, Wele Gaal mab Ebed a’i frodyr wedi dyfod i Sichem; ac wele hwynt yn cadarnhâu y ddinas i’th erbyn.
{{angor|9:32|32}} Gan hynny cyfod yn awr liw nos, ti a’r bobl ''sydd'' gyd â thi, a chynllwyn yn y maes:
{{angor|9:33|33}} A chyfod yn fore ar godiad yr haul, a rhuthra yn erbyn y ddinas: ac wele, ''pan'' ddelo efe a’r bobl ''sydd'' gyd âg ef allan i’th erbyn, yna gwna iddo yr hyn a ellych.
{{angor|9:34|34}} ¶ Ac Abimelech a gyfododd, a’r holl bobl y rbai ''oedd'' gyd âg ef, liw nos, ac a gynllwynasant yn erbyn Sichem yn bedair byddin.
{{angor|9:35|35}} A Gaal mab Ebed a aeth allan, ac a safodd ''wrth'' ddrws porth y ddinas: ac Abimelech a gyfododd, a’r bobl y rhai ''oedd'' gyd âg ef, o’r cynllwyn.
{{angor|9:36|36}} A phan welodd Gaal y bobl, efe a ddywedodd wrth Zebul, Wele bobl yn dyfod i waered o ben y mynyddoedd. A dywedodd Zebul wrtho, Cysgod y mynyddoedd yr ydwyt ti yn ei weled fel dynion.
{{angor|9:37|37}} A Gaal a chwanegodd etto lefaru, ac a ddywedodd, Wele bobl yn dyfod i waered o ganol y tir, a byddin arall yn dyfod o ffordd gwastadedd Meonenim.
{{angor|9:38|38}} Yna y dywedodd Zebul wrtho<noinclude><references/></noinclude>
8t4evvi59sq7xmdonmky9l8ozb6lcs6
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/268
104
3520
171245
6678
2026-10-01T04:56:30Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171245
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>ef, Pa le yn awr ''y mae'' dy enau di, ''â’r hwn'' y dywedaist, Pwy ''yw'' Abimelech, pan wasanaethem ef? onid dyma y bobl a ddirmygaist ti? dos allan, attolwg, yn awr, ac ymladd i’w herbyn.
{{angor|9:39|39}} A Gaal a aeth allan o flaen gwŷr Sichem, ac a ymladdodd âg Abimelech.
{{angor|9:40|40}} Ac Abimelech a’i herlidiodd ef, ac efe a ffodd o’i flaen ef; a llawer a gwympasant yn archolledig hyd ddrws y porth.
{{angor|9:41|41}} Ac Abimelech a drigodd yn Arumah: a Zebul a yrrodd ymaith Gaal a’i frodyr o breswylio yn Sichem.
{{angor|9:42|42}} A thrannoeth y daeth y bobl allan i’r maes: a mynegwyd ''hynny'' i Abimelech.
{{angor|9:43|43}} Ac efe a gymmerth y bobl, ac a’u rhannodd yn dair byddin, ac a gynllwynodd yn y maes, ac a edrychodd, ac wele y bobl wedi dyfod allan o’r ddinas; ac efe a gyfododd yn eu herbyn, ac a’u tarawodd hwynt.
{{angor|9:44|44}} Ac Abimelech, a’r fyddin ''oedd'' gyd âg ef, a ruthrasant, ac a safasant wrth ddrws porth y ddinas: a’r ddwy fyddin ''eraill'' a ruthrasant ar yr holl ''rai oedd'' yn y maes, ac a’u tarawsant hwy.
{{angor|9:45|45}} Ac Abimelech a ymladdodd yn erbyn y ddinas yr holl ddiwrnod hwnnw: ac efe a ennillodd y ddinas, ac a laddodd y bobl ''oedd'' ynddi, ac a ddistrywiodd y ddinas, ac a’i hauodd â halen.
{{angor|9:46|46}} ¶ A phan glybu holl wŷr tŵr Sichem ''hynny'', hwy a aethant i amddiffynfa tŷ duw Berith.
{{angor|9:47|47}} A mynegwyd i Abimelech, ymgasglu o holl wŷr tŵr Sichem.
{{angor|9:48|48}} Ac Abimelech a aeth i fynu i fynydd Salmon, efe a’r holl bobl ''oedd'' gyd âg ef: ac Abimelech a gymmerth fwyell yn ei law, ac a dorrodd gangen o’r coed, ac a’i cymmerth hi, ac a’''i'' gosododd ar ei ysgwydd; ac a ddywedodd wrth y bobl ''oedd'' gyd âg ef, Yr hyn a welsoch fi yn ei wneuthur, brysiwch, gwnewch fel finnau.
{{angor|9:49|49}} A’r holl bobl a dorrasant bob un ei gangen, ac a aethant ar ol Abimelech; ac a’u gosodasant wrth yr amddiffynfa, ac a losgasant â hwynt yr amddiffynfa â thân: felly holl wŷr tŵr Sichem a fuant feirw, ynghylch mil o wŷr a gwragedd.
{{angor|9:50|50}} ¶ Yna Abimelech a aeth i Thebez; ac a wersyllodd yn erbyn Thebez, ac a’i hennillodd hi.
{{angor|9:51|51}} Ac yr oedd tŵr cadarn y’nghanol y ddinas; a’r holl wŷr a’r gwragedd, a’r holl rai o’r ddinas, a ffoisant yno, ac a gauasant arnynt, ac a ddringasant ar nen y tŵr.
{{angor|9:52|52}} Ac Abimelech a ddaeth at y tŵr, ac a ymladdodd yn ei erbyn; ac a nesaodd at ddrws y tŵr, i’w losgi ef â thân.
{{angor|9:53|53}} A rhyw wraig a daflodd ddarn o faen melin ar ben Abimelech, ac a ddrylliodd ei benglog ef.
{{angor|9:54|54}} Yna efe a alwodd yn fuan ar y llangc oedd yn dwyn ei arfau ef, ac a ddywedodd wrtho, Tyn dy gleddyf, a lladd fi; fel na ddywedant am danaf, Gwraig a’i lladdodd ef. A’i langc a’i trywanodd ef, ac efe a fu farw.
{{angor|9:55|55}} A phan welodd gwŷr Israel farw o Abimelech, hwy a aethant bob un i’w fangre.
{{angor|9:56|56}} ¶ Felly y talodd {{sc|Duw}} ddrygioni Abimelech, yr hwn a wnelsai efe i’w dad, gan ladd ei ddeg brawd a thri ugain.
{{angor|9:57|57}} A holl ddrygioni gwŷr Sichem a dalodd {{sc|Duw}} ar eu pen hwynt: a melldith Jotham mab Jerubbaal a ddaeth arnynt hwy.
{{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}}
{{bach|1 ''Tola yn barnu Israel yn Samir.'' 3 ''Jair a’i ddeg mab ar hugain, i’r rhai yr oedd deg dinas ar hugain.'' 7 ''Y Philistiaid a’r Ammoniaid yn gorthrymmu Israel.'' 10 ''Duw yn eu cyfyngdra yn eu danfon hwy at eu gau-dduwiau:'' 15 ''ac, ar eu hedifeirwch, yn tosturio wrthynt.''}}
{{angor|10:1}} {{uc|Ac}} ar ol Abimelech, y cyfododd i waredu Israel, Tola, mab Puah, mab Dodo, gwr o Issachar; ac efe oedd yn trigo yn Samir ym mynydd Ephraim.
{{angor|10:2|2}} Ac efe a farnodd Israel dair blynedd ar hugain, ac a fu farw, ac a gladdwyd yn Samir.
{{angor|10:3|3}} Ac ar ei ol ef y cyfododd Jair, Gileadiad; ac efe a farnodd Israel ddwy flynedd ar hugain.
{{angor|10:4|4}} Ac iddo ef yr oedd deng mab ar hugain yn marchogaeth ar ddeg ar hugain o ebolion asynod; a deg dinas ar hugain ''oedd'' ganddynt, y rhai a elwid Hafoth-Jair hyd y dydd hwn, y rhai ''ydynt'' y’ngwlad Gilead.
{{angor|10:5|5}} A Jair a fu farw, ac a gladdwyd yn Camon.
{{angor|10:6|6}} A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg y’ngolwg yr {{sc|Arglwydd}}, ac a wasanaethasant Baalim, ac Astaroth,<noinclude><references/></noinclude>
h6bai588i7qw5urforma9sqtdouhpz8
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/269
104
3521
171246
6679
2026-10-01T05:20:39Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171246
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>a duwiau Syria, a duwiau Sidon, a duwiau Moab, a duwiau meibion Ammon, a duwiau y Philistiaid; a gwrthodasant yr {{sc|Arglwydd}}, ac ni wasanaethasant ef.
{{angor|10:7|7}} ¶ A llidiodd digllonedd yr {{sc|Arglwydd}} yn erbyn Israel; ac efe a’u gwerthodd hwynt yn llaw y Philistiaid, ac yn llaw meibion Ammon.
{{angor|10:8|8}} A hwy a flinasant ac a ysigasant feibion Israel y flwyddyn honno tair blynedd ar bymtheg, holl feibion Israel y rhai ''oedd'' tu hwnt i’r Iorddonen, y’ngwlad yr Amoriaid, yr hon ''sydd'' yn Gilead.
{{angor|10:9|9}} A meibion Ammon a aethant trwy yr Iorddonen, i ymladd hefyd yn erbyn Judah, ac yn erbyn Benjamin, ac yn erbyn tŷ Ephraim; fel y bu gyfyng iawn ar Israel.
{{angor|10:10|10}} ¶ A meibion Israel a lefasant ar yr {{sc|Arglwydd}}, gan ddywedyd, Pechasom yn dy erbyn; o herwydd gwrthod o honom ein {{sc|Duw}}, a gwasanaethu Baalim hefyd.
{{angor|10:11|11}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth feibion Israel, Oni ''waredais chwi'' rhag yr Aiphtiaid, a rhag yr Amoriaid, a rhag meibion Ammon, a rhag y Philistiaid?
{{angor|10:12|12}} Y Sidoniaid hefyd, a’r Amaleciaid, a’r Maoniaid, a’ch gorthrymmasant chwi; a llefasoch arnaf, a minnau a’ch gwaredais chwi o’u llaw hwynt.
{{angor|10:13|13}} Etto chwi a’m gwrthodasoch i, ac a wasanaethasoch dduwiau dïeithr: am hynny ni waredaf chwi mwyach.
{{angor|10:14|14}} Ewch, a llefwch at y duwiau a ddewisasoch: gwaredant hwy chwi yn amser eich cyfyngdra.
{{angor|10:15|15}} ¶ A meibion Israel a ddywedasant wrth yr {{sc|Arglwydd}}, Pechasom; gwna di i ni fel y gwelych yn dda: etto gwared ni, attolwg, y dydd hwn.
{{angor|10:16|16}} A hwy a fwriasant ymaith ''y'' duwiau dïeithr o’u mysg, ac a wasanaethasant yr {{sc|Arglwydd}}: a’i enaid ef a dosturiodd, o herwydd adfyd Israel.
{{angor|10:17|17}} Yna meibion Ammon a ymgynnullasant, ac a wersyllasant yn Gilead: a meibion Israel a ymgasglasant, ac a wersyllasant ym Mispah.
{{angor|10:18|18}} Y bobl hefyd ''a'' thywysogion Gilead a ddywedasant wrth eu gilydd, Pa wr a ddechreu ymladd yn erbyn meibion Ammon? efe a fydd yn bennaeth ar drigolion Gilead.
{{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod XI}}.}}
{{bach|1 ''Yr ammod rhwng Jephthah a gwŷr Gilead, y cai efe fod yn ben arnynt.'' 12 ''Oferedd yr ymddiddan am heddwch rhyngddo ef a’r Ammoniaid.'' 29 ''Adduned Jephthah.'' 32 ''Jephthah yn gorchfygu yr Ammoniaid:'' 34 ''ac yn cwblhâu ei adduned ar ei ferch.''}}
{{angor|11:1}} {{uc|A Jephthah}} y Gileadiad oedd wr cadarn nerthol, ac efe ''oedd'' fab i wraig o butteinwraig: a Gilead a genhedlasai y Jephthah hwnnw.
{{angor|11:2|2}} A gwraig Gilead a ymddûg iddo feibion: a meibion y wraig a gynnyddasant, ac a fwriasant ymaith Jephthah, ac a ddywedasant wrtho, Nid etifeddi di yn nhŷ ein tad ni; canys mab gwraig ddïeithr ''ydwyt'' ti.
{{angor|11:3|3}} Yna Jephthah a ffodd rhag ei frodyr, ac a drigodd y’ngwlad Tob; a dynion ofer a ymgasglasant at Jephthah, ac a aethant allan gyd âg ef.
{{angor|11:4|4}} ¶ Ac wedi ''talm'' o ddyddiau, meibion Ammon a ryfelasant yn erbyn Israel.
{{angor|11:5|5}} A phan oedd meibion Ammon yn rhyfela yn erbyn Israel, yna henuriaid Gilead a aethant i gyrchu Jephthah o wlad Tob:
{{angor|11:6|6}} Ac a ddywedasant wrth Jephthah, Tyred, a bydd yn dywysog i ni, fel yr ymladdom yn erbyn meibion Ammon.
{{angor|11:7|7}} A Jephthah a ddywedodd wrth henuriaid Gilead, Oni chasasoch chwi fi, ac a’m gyrrasoch o dŷ fy nhad? a phaham y deuwch attaf fi yn awr, pan ''yw'' gyfyng arnoch?
{{angor|11:8|8}} A henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Jephthah, Am hynny y dychwelasom yn awr attat ti, fel y delit gyd â ni, ac yr ymladdit yn erbyn meibion Ammon, ac y byddit i ni yn ben ar holl drigolion Gilead.
{{angor|11:9|9}} A Jephthah a ddywedodd wrth henuriaid Gilead, O dygwch fi yn fy ol i ymladd yn erbyn meibion Ammon, a rhoddi o’r {{sc|Arglwydd}} hwynt o’m blaen i; a gaf fi fod yn ben arnoch chwi?
{{angor|11:10|10}} A henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Jephthah, Yr {{sc|Arglwydd}} a fyddo yn dyst rhyngom ni, oni wnawn ni felly yn ol dy air di.
{{angor|11:11|11}} Yna Jephthah a aeth gyd â henuriaid Gilead; a’r bobl a’i gosodasant ef yn ben ac yn dywysog arnynt: a Jephthah a adroddodd ei holl eiriau ger bron yr {{sc|Arglwydd}} ym Mispah.
{{angor|11:12|12}} ¶ A Jephthah a anfonodd gen-<noinclude><references/></noinclude>
acz4oeww6riy5c6wv3w6jorjb44rtsn