Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.22
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/275
104
3527
171275
6685
2026-10-02T16:29:41Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171275
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|16:1}} {{uc|Yna}} Samson a aeth i Gazah; ac a ganfu yno butteinwraig, ac a aeth i mewn atti hi.
{{angor|16:2|2}} ''A mynegwyd'' i’r Gaziaid, gan ddywedyd, Daeth Samson yma. A hwy a gylchynasant, ac a gynllwynasant iddo, ar hyd y nos, ym mhorth y ddinas; ac a fuant ddistaw ar hyd y nos, gan ddywedyd, Y bore pan oleuo hi, ni a’i lladdwn ef.
{{angor|16:3|3}} A Samson a orweddodd hyd hanner nos; ac a gyfododd ar hanner nos, ac a ymaflodd yn nrysau porth y ddinas, ac yn y ddau bost, ac a aeth ymaith â hwynt ynghyd â’r barr, ac a’''u'' gosododd ar ei ysgwyddau, ac a’u dug hwynt i fynu i ben bryn ''sydd'' gyferbyn â Hebron.
{{angor|16:4|4}} ¶ Ac wedi hyn efe a garodd wraig yn nyffryn Sorec, a’i henw Dalilah.
{{angor|16:5|5}} Ac arglwyddi y Philistiaid a aethant i fynu atti hi, ac a ddywedasant wrthi, Huda ef, ac edrych ym mha ''le y mae'' ei fawr nerth ef, a pha fodd y gorthrechwn ef, fel y rhwymom ef i’w gystuddio: ac ni a roddwn i ti bob un fil a chant o arian.
{{angor|16:6|6}} A Dalilah a ddywedodd wrth Samson, Mynega i mi, attolwg, ym mha ''fan y mae'' dy fawr nerth di, ac â pha beth y’th rwymid i’th gystuddio.
{{angor|16:7|7}} A Samson a ddywedodd wrthi, Pe rhwyment fi â saith o wdyn irion, y rhai ni sychasai; yna y gwanhychwn, ac y byddwn fel gwr arall.
{{angor|16:8|8}} Yna argiwyddi y Philistiaid a ddygasant i fynu atti hi saith o wdyn irion, y rhai ni sychasent; a hi a’i rhwymodd ef â hwynt.
{{angor|16:9|9}} (A chynllwynwyr ''oedd'' yn aros ganddi mewn ystafell.) A hi a ddywedodd wrtho ef, ''Y mae'' y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a dorrodd y gwdyn, fel y torrir edau garth wedi cyffwrdd ''â''’r tân: felly ni wybuwyd ei gryfder ef.
{{angor|16:10|10}} A dywedodd Dalilah wrth Samson, Ti a’m twyllaist, ac a ddywedaist gelwydd wrthyf: yn awr mynega i mi, attolwg, â pha beth y gellid dy rwymo.
{{angor|16:11|11}} Ac efe a ddywedodd wrthi, Pe gan rwymo y rhwyment fi a rhaffau newyddion, y rhai ni wnaethpwyd gwaith â hwynt; yna y gwanhychwn, ac y byddwn fel gwr arall.
{{angor|16:12|12}} Am hynny Dalilah a gymmerth raffau newyddion, ac a’i rhwymodd ef â hwynt; ac a ddywedodd wrtho, ''Y mae'' y Philistiaid arnat ti, Samson. (Ac ''yr oedd'' cynllwynwyr yn aros mewn ystafell.) Ac efe a’u torrodd hwynt oddi am ei freichiau fel edau.
{{angor|16:13|13}} A Dalilah a ddywedodd wrth Samson, Hyd yn hyn y twyllaist fi, ac y dywedaist gelwydd wrthyf: mynega i mi, â pha beth y’th rwymid. Dywedodd yntau wrthi hi, Pe plethit ti saith gudyn fy mhen ynghyd â’r we.
{{angor|16:14|14}} A hi a’i gwnaeth yn sicr â’r hoel; ac a ddywedodd wrtho ef, ''Y mae'' y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a ddeffrôdd o’i gwsg, ac a aeth ymaith â hoel y garfan, ac â’r we.
{{angor|16:15|15}} ¶ A hi a ddywedodd wrtho ef, Pa fodd y dywedi, Cu gennyf dydi, a’th galon heb ''fod'' gyd â mi? Teirgwaith bellach y’m twyllaist, ac ni fynegaist i mi ym mha ''fan y mae'' dy fawr nerth.
{{angor|16:16|16}} Ac o herwydd ei bod hi yn ei flino ef â’i geiriau beunydd, ac yn ei boeni ef, ei enaid a ymofidiodd i farw:
{{angor|16:17|17}} Ac efe a fynegodd iddi ei holl galon; ac a ddywedodd wrthi, Ni ddaeth ellyn ar fy mhen i: canys Nazaread i {{sc|Dduw}} ''ydwyf'' fi o groth fy mam. Ped eillid fi, yna y ciliai fy nerth oddi wrthyf, ac y gwanhychwn, ac y byddwn fel gwr ''arall''.
{{angor|16:18|18}} A phan welodd Dalilah fynegi o hono ef iddi hi ei holl galon, hi a anfonodd ac a alwodd am bendefigion y Philistiaid, gan ddywedyd, Deuwch i fynu unwaith; canys efe a fynegodd i mi ei holl galon. Yna arglwyddi y Philistiaid a ddaethant i fynu atti hi, ac a ddygasant arian yn eu dwylaw.
{{angor|16:19|19}} A hi a wnaeth iddo gysgu ar ei gliniau; ac a alwodd ar wr, ac a barodd eillio saith gudyn ei ben ef: a hi a ddechreuodd ei gystuddio ef; a’i nerth a ymadawodd oddi wrtho.
{{angor|16:20|20}} A hi a ddywedodd, ''Y mae'' y Phnistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a ddeffrôdd o’i gwsg, ac a ddywedodd, Af allan y waith hon fel cynt, ac ymysgydwaf. Ond ni wyddai efe fod yr {{sc|Arglwydd}} wedi cilio oddi wrtho.
{{angor|16:21|21}} ¶ Ond y Philistiaid a’i daliasant ef, ac a dynnasant ei lygaid ef, ac a’i dygasant ef i waered i Gazah, ac a’i rhwymasant ef â gefynnau pres; ac yr oedd efe yn malu yn y carchardy.
{{angor|16:22|22}} Eithr gwallt ei ben ef a ddechreuodd dyfu drachefn, ar ol ei eillio.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
gzyzfwucx6g0ycv4q8m4mfwfmaeilpd
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/276
104
3528
171277
6686
2026-10-03T07:03:42Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171277
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|16:23|23}} Yna arglwyddi y Philistiaid a ymgasglasant i aberthu aberth mawr i Dagon eu duw, ac i orfoleddu: canys dywedasant, Ein duw ni a roddodd Samson ein gelyn yn ein llaw ni.
{{angor|16:24|24}} A phan welodd y bobl ef, hwy a ganmolasant eu duw: canys dywedasant, Ein duw ni a roddodd ein gelyn yn ein dwylaw ni, yr hwn oedd yn anrheithio ein gwlad ni, yr hwn a laddodd lawer o honom ni.
{{angor|16:25|25}} A phan oedd eu calon hwynt yn llawen, yna y dywedasant, Gelwch am Samson, i beri i ni chwerthin. A hwy a alwasant am Samson o’r carchardy, fel y chwareuai o’u blaen hwynt; a hwy a’i gosodasant ef rhwng y colofnau.
{{angor|16:26|26}} A Samson a ddywedodd wrth y llangc oedd yn ymaflyd yn ei law ef, Gollwng, a gâd i mi gael gafael ar y colofnau y mae y tŷ yn sefyll arnynt, fel y pwyswyf arnynt.
{{angor|16:27|27}} A’r tŷ oedd yn llawn o wŷr a gwragedd; a holl arglwyddi y Philistiaid ''oedd'' yno: ac ar y nen ''yr oedd'' ynghylch tair mil o wŷr a gwragedd yn edrych tra yr ydoedd Samson yn chwarae.
{{angor|16:28|28}} A Samson a alwodd ar yr {{sc|Arglwydd}}, ac a ddywedodd, O Arglwydd {{uc|Ior}}, cofia fi, attolwg, a nertha fi, attolwg, yn unig y waith hon, O {{sc|Dduw}}, fel y dïalwyf ''âg'' un dïaledd ar y Philistiaid am fy nau lygad.
{{angor|16:29|29}} A Samson a ymaflodd yn y ddwy golofn ganol, y rhai yr oedd y tŷ yn sefyll arnynt, ac a ymgynhaliodd wrthynt, un yn ei ddeheulaw, a’r llall yn ei law aswy.
{{angor|16:30|30}} A dywedodd Samson, Bydded farw fy einioes gyd â’r Philistiaid. Ac efe a ymgrymmodd â’''i holl'' nerth; a syrthiodd y tŷ ar y pendefigion, ac ar yr holl bobl ''oedd'' ynddo: a’r meirw y rhai a laddodd efe wrth farw, oedd fwy nag a laddasai efe yn ei fywyd.
{{angor|16:31|31}} A’i frodyr ef, a holl dŷ ei dad ef, a ddaethant i waered, ac a’i cymmerasant ef, ac a’''i'' dygasant i fynu, ac a’i claddasant ef rhwng Sorah ac Estaol, ym meddrod Manoah ei dad. Ac efe a farnasai Israel ugain mlynedd.
{{angor|Pennod_17}}{{c|{{uc|Pennod XVII}}.}}
{{bach|1 ''Ei fam yn gwneuthur delwau o’r arian a ladrattasai Micah, ac a roisai yn eu hol.'' 5 ''Yntau yn gwneuthur gwisgoedd iddynt;'' 7 ''ac yn cyflogi Lefiad i fod yn offeiriad iddo.''}}
{{angor|17:1}} {{uc|Ac}} yr oedd gwr o fynydd Ephraim, a’i enw Micah.
{{angor|17:2|2}} Ac efe a ddywedodd wrth ei fam, Y mil a’r càn ''sicl'' arian a ddygpwyd oddi arnat, ac y rhegaist ''am danynt'', ac y dywedaist hefyd lle y clywais; wele yr arian gyd â mi, myfi a’i cymmerais. A dywedodd ei fam, Bendigedig ''fyddych'', fy mab, gan yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|17:3|3}} A phan roddodd efe y mil a’r càn ''sicl'' arian adref i’w fam, ei fam a ddywedodd, Gan gyssegru y cyssegraswn yr arian i’r {{sc|Arglwydd}} o’m llaw, i’m mab, i wneuthur delw gerfiedig a thoddedig: am hynny yn awr mi a’i rhoddaf eilwaith i ti.
{{angor|17:4|4}} Etto efe a dalodd yr arian i’w fam. A’i fam a gymmerth ddau càn ''sicl'' o arian, ac a’u rhoddodd i’r toddydd; ac efe a’u gwnaeth yn ddelw gerfiedig, a thoddedig: hwy a fuant yn nhŷ Micah.
{{angor|17:5|5}} A chan y gwr hwn Micah ''yr oedd'' tŷ duwiau; ac efe a wnaeth ephod, a theraphim, ac a gyssegrodd un o’i feibion i fod yn offeiriad iddo.
{{angor|17:6|6}} Yn y dyddiau hynny nid ''oedd'' brenhin yn Israel; ond pob un a wnai ''yr hyn oedd'' uniawn yn ei olwg ei hun.
{{angor|17:7|7}} ¶ Ac yr oedd gwr ieuangc o Bethlehem Judah, o dylwyth Judah, a Lefiad ''oedd'' efe; ac efe a ymdeithiai yno.
{{angor|17:8|8}} A’r gwr a aeth allan o’r ddinas o Bethlehem Judah, i drigo pa te bynnag y caffai ''le:'' ac efe a ddaeth i fynydd Ephraim i dŷ Micah, yn ei ymdaith.
{{angor|17:9|9}} A Micah a ddywedodd wrtho, O ba le y daethost ti? Dywedodd yntau wrtho, Lefiad ''ydwyf'' o Bethlehem Judah; a myned yr ydwyf i drigo lle caffwyf ''le''.
{{angor|17:10|10}} A Micah a ddywedodd wrtho, Trig gyd â mi, a bydd i mi yn dad ac yn offeiriad; a mi a roddaf i ti ddeg ''sicl'' o arian bob blwyddyn, a phâr o ddillad, a’th luniaeth. Felly y Lefiad a aeth i mewn.
{{angor|17:11|11}} A’r Lefiad a fu foddlawn i aros gyd â’r gwr; a’r gwr ieuangc oedd iddo fel un o’i feibion.
{{angor|17:12|12}} A Micah a urddodd y Lefiad; a’r gwr ieuangc fu yn offeiriad iddo, ac a fu yn nhŷ Micah.
{{angor|17:13|13}} Yna y dywedodd Micah, Yn awr y gwn y gwna yr {{sc|Arglwydd}} ddaioni i mi; gan fod Lefiad gennyf yn offeiriad.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
efbr88niw91ozupytnotb4la37vm9hm
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/277
104
3529
171278
6687
2026-10-03T07:21:46Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171278
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|Pennod_18}}{{c|{{uc|Pennod XVIII}}.}}
{{bach|1 ''Meibion Dan yn anfon pùmwr i geisio iddynt etifeddiaeth.'' 3 ''Hwythau wrth dŷ Micah yn ymgynghori â Jonathan; ac yn cael cysur i fyned rhagddynt:'' 7 ''yn chwilio Laïs, ac yn dwyn newyddion gobeithfawr.'' 11 ''Danfon chwe chant o wŷr i osod ar y dref:'' 14 ''a’r rhai hynny ar y ffordd yn yspeilio Micah am ei offeiriad a’i greiriau;'' 27 ''ac yn ennill Laïs, ac yn ei galw hi Dan;'' 30 ''ac yn gosod i fynu ddelw-addoliaeth, lle y cafodd Jonathan yr offeiriadaeth yn etifeddiaeth iddo.''}}
{{angor|18:1}} {{uc|Yn}} y dyddiau hynny nid ''oedd'' brenhin yn Israel: ac yn y dyddiau hynny llwyth y Daniaid oedd yn ceisio iddynt etifeddiaeth i drigo; canys ni syrthiasai iddynt hyd y dydd hwnnw etifeddiaeth ym mysg llwythau Israel.
{{angor|18:2|2}} A meibion Dan a anfonasant o’u tylwyth bump o wŷr o’u bro, gwŷr grymmus, o Sorah, ac o Estaol, i yspïo y wlad, ''ac'' i’w chwilio; ac a ddywedasant wrthynt, Ewch, chwiliwch y wlad. A phan ddaethant i fynydd Ephraim i dŷ Mica, hwy a lettyasant yno.
{{angor|18:3|3}} Pan ''oeddynt'' hwy wrth dŷ Micah, hwy a adnabuant lais y gwr ieuangc y Lefiad; ac a droisant yno, ac a ddywedasant wrtho, Pwy a’th ddug di yma? a pheth yr ydwyt ti yn ei wneuthur ''yma?'' a pheth ''sydd'' i ti yma?
{{angor|18:4|4}} Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn ac fel hyn y gwnaeth Micah i mi; ac efe a’m cyflogodd i, a’i offeiriad ef ydwyf fi.
{{angor|18:5|5}} A hwy a ddywedasant wrtho ef, Ymgynghora, attolwg, â {{sc|Duw}}, fel y gwypom a lwydda ein ffordd yr ydym ni yn rhodio arni.
{{angor|18:6|6}} A’r offeiriad a ddywedodd wrthynt, Ewch mewn heddwch: ger bron yr {{sc|Arglwydd}} ''y mae'' eich ffordd chwi, yr hon a gerddwch.
{{angor|18:7|7}} ¶ Yna y pùmwr a aethant ymaith, ac a ddaethant i Laïs; ac a welsant y bobl ''oedd'' ynddi yn trigo mewn dïogelwch, yn ol arfer y Sidoniaid, yn llonydd ac yn ddïofal; ac nid ''oedd'' swyddwr yn y wlad, yr hwn a allai eu gyrru ''hwynt'' i gywilydd mewn dim: a phell ''oeddynt'' oddi wrth y Sidoniaid, ac heb negesau rhyngddynt â neb.
{{angor|18:8|8}} A hwy a ddaethant at eu brodyr i Sorah ac Estaol. A’u brodyr a ddywedasant wrthynt, Beth ''a ddywedwch'' chwi?
{{angor|18:9|9}} Hwythau a ddywedasant, Cyfodwch, ac awn i fynu arnynt: canys gwelsom y wlad; ac wele, da iawn ''yw'' hi. Ai tewi yr ''ydych'' chwi? na ddïogwch fyned, i ddyfod i mewn i feddiannu y wlad.
{{angor|18:10|10}} Pan eloch, chwi a ddeuwch at bobl ddïofal, a gwlad ehang: canys {{sc|Duw}} a’i rhoddodd hi yn eich llaw chwi: ''sef'' lle nid ''oes'' ynddo eisieu dim a’r ''y sydd'' ar y ddaear.
{{angor|18:11|11}} ¶ Ac fe aeth oddi yno, o dylwyth y Daniaid, o Sorah ac o Estaol, chwe channwr, wedi ymwregysu âg arfau rhyfel.
{{angor|18:12|12}} A hwy a aethant i fynu, ac a wersyllasant yn Ciriath-jearim, yn Judah: am hynny y galwasant y fan honno Mahaneh-Dan, hyd y dydd hwn: wele, ''y mae'' o’r tu ol i Ciriath-jearim.
{{angor|18:13|13}} A hwy a aethant oddi yno i fynydd Ephraim, ac a ddaethant hyd dŷ Micah.
{{angor|18:14|14}} ¶ A’r pùmwr, y rhai a aethent i chwilio gwlad Laïs, a lefarasant, ac a ddywedasant wrth eu brodyr, Oni wyddoch chwi fod yn y tai hyn ephod a theraphim, a delw gerfiedig, a thoddedig? gan hynny ystyriwch yn awr beth a wneloch.
{{angor|18:15|15}} A hwy a droisant tu ag yno; ac a ddaethant hyd dŷ y gwr ieuangc y Lefiad, i dŷ Micah; ac a gyfarchasant well iddo.
{{angor|18:16|16}} A’r chwe channwr, y rhai oedd wedi eu gwregysu âg arfau rhyfel, oedd yn sefyll ''wrth'' ddrws y porth, ''sef'' y rhai ''oedd'' o feibion Dan.
{{angor|18:17|17}} A’r pùmwr, y rhai a aethent i chwilio y wlad, a esgynasant, ''ac'' a aethant i mewn yno; ''ac'' a ddygasant ymaith y ddelw gerfiedig, a’r ephod, a’r teraphim, a’r ddelw doddedig: a’r offeiriad oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, gyd â’r chwe channwr ''oedd'' wedi ymwregysu âg arfau rhyfel.
{{angor|18:18|18}} A’r rhai hyn a aethant i dŷ Micah, ac a ddygasant ymaith y ddelw gerfiedig, yr ephod, a’r teraphim, a’r ddelw doddedig. Yna yr offeiriad a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei wneuthur?
{{angor|18:19|19}} Hwythau a ddywedasant wrtho, Taw sôn; gosod dy law ar dy safn, a thyred gyd â ni, a bydd i ni yn dad ac yn offeiriad: ''ai'' gwell i ti fod yn offeiriad i dŷ un gwr, na’th<noinclude><references/></noinclude>
31kdxjvuqb8z6ccx458r5uongem0my7
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/278
104
3530
171279
6688
2026-10-03T07:38:24Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171279
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>fod yn offeiriad i lwyth ac i deulu yn Israel?
{{angor|18:20|20}} A da fu gan galon yr offeiriad; ac efe a gymmerth yr ephod, a’r teraphim, a’r ddelw gerfiedig, ac a aeth ym mysg y bobl.
{{angor|18:21|21}} A hwy a droisant, ac a aethant ymaith; ac a osodasant y plant, a’r anifeiliaid, a’r clud, o’u blaen.
{{angor|18:22|22}} ¶ ''A'' phan oeddynt hwy ennyd oddi wrth dŷ Micah, y gwŷr ''oedd'' yn y tai wrth dŷ Micah a ymgasglasant, ac a erlidiasant feibion Dan.
{{angor|18:23|23}} A hwy a waeddasant ar feibion Dan. Hwythau a droisant eu hwynebau, ac a ddywedasant wrth Micah, Beth ''a ddarfu'' i ti, pan wyt yn dyfod â’r fath fintai?
{{angor|18:24|24}} Yntau a ddywedodd, Fy nuwiau, y rhai a wneuthum i, a ddygasoch chwi ymaith, a’r offeiriad, ac a aethoch i ffordd: a pheth ''sydd'' gennyf fi mwyach? a pha beth ''yw'' hyn a ddywedwch wrthyf, Beth ''a ddarfu'' i ti?
{{angor|18:25|25}} A meibion Dan a ddywedasant wrtho, Na âd glywed dy lef yn ein mysg ni; rhag i wŷr digllawn ruthro arnat ti, a cholli o honot dy einioes, ac einioes dy deulu.
{{angor|18:26|26}} A meibion Dan a aethant i’w ffordd. A phan welodd Micah eu ''bod'' hwy yn gryfach nag ef, efe a drodd, ac a ddychwelodd i’w dŷ.
{{angor|18:27|27}} A hwy a gymmerasant ''y pethau'' a wnaethai Micah, a’r offeiriad oedd ganddo ef, ac a ddaethant i Laïs, at bobl lonydd a dïofal; ac a’u tarawsant hwy â min y cleddyf, ac a losgasant y ddinas â thân.
{{angor|18:28|28}} Ac nid ''oedd'' waredydd; canys pell ''oedd'' hi oddi wrth Sidon, ac nid ''oedd'' negesau rhyngddynt â neb; hefyd ''yr oedd'' hi yn y dyffryn ''oedd'' wrth Beth-rehob: a hwy a adeiladasant ddinas, ac a drigasant ynddi.
{{angor|18:29|29}} A hwy a alwasant enw y ddinas Dan, yn ol enw Dan eu tad, yr hwn a anesid i Israel: er hynny Laïs ''oedd'' enw y ddinas ar y cyntaf.
{{angor|18:30|30}} ¶ A meibion Dan a osodasant i fynu iddynt y ddelw gerfiedig: a Jonathan mab Gerson, mab Manasseh, efe a’i feibion, fuant offeiriaid i lwyth Dan hyd ddydd caethgludiad y wlad.
{{angor|18:31|31}} A hwy a osodasant i fynu iddynt y ddelw gerfiedig a wnaethai Micah, yr holl ddyddiau y bu tŷ {{sc|Dduw}} yn Siloh.
{{angor|Pennod_19}}{{c|{{uc|Pennod XIX}}.}}
{{bach|1 ''Lefiad yn myned i Bethlehem i gyrchu ei wraig adref.'' 16 ''Hen wr yn ei groesawu ef i’w dŷ yn Gibeah.'' 22 ''Y Gibeoniaid yn gwneuthur cam â’i ordderch ef, fel y bu hi farw.'' 29 ''Yntai yn ei rhannu hi yn ddeuddeg darn i’w danfon at y deuddeg llwyth.''}}
{{angor|19:1}} {{uc|Ac}} yn y dyddiau hynny, pan nad ''oedd'' rhyw frenhin yn Israel, yr oedd rhyw Lefiad yn aros yn ystlysau mynydd Ephraim, ac efe a gymmerodd iddo ordderch-wraig o Bethlehem Judah.
{{angor|19:2|2}} A’i ordderch-wraig a butteiniodd yn ei erbyn ef, ac a aeth ymaith oddi wrtho ef i dŷ ei thad, i Bethlehem Judah; ac yno y bu hi bedwar mis o ddyddiau.
{{angor|19:3|3}} A’i gwr hi a gyfododd, ac a aeth ar ei hol, i ddywedyd yn dêg wrthi hi, ''ac'' i’w throi adref; a’i langc ''oedd'' gyd âg ef, a chwpl o asynod. A hi a’i dug ef i mewn i dŷ ei thad: a phan welodd tad y llangces ef, bu lawen ganddo gyfarfod âg ef.
{{angor|19:4|4}} A’i chwegrwn ef, tad y llangces, a’i daliodd ef ''yno;'' ac efe a dariodd gyd âg ef dridiau. Felly bwyttasant ac yfasant, a llettyasant yno.
{{angor|19:5|5}} A’r pedwerydd dydd y cyfodasant yn fore; yntau a gyfododd i fyned ymaith. A thad y llangces a ddywedodd wrth ei ddaw, Nertha dy galon â thammaid o fara, ac wedi hynny ewch ymaith.
{{angor|19:6|6}} A hwy a eisteddasant, ac a fwyttasant ill dau ynghyd, ac a yfasant. A thad y llangces a ddywedodd wrth y gwr, Bydd foddlawn, attolwg, ac aros dros nos, a llawenyched dy galon.
{{angor|19:7|7}} A phan gyfododd y gwr i fyned ymaith, ei chwegrwn a fu daer arno: am hynny efe a drodd ac a lettŷodd yno.
{{angor|19:8|8}} Ac efe a gyfododd yn fore y pummed dydd i fyned ymaith. A thad y llangces a ddywedodd, Cysura dy galon, attolwg. A hwy a drigasant hyd brydnawn, ac a fwyttasant ill dau.
{{angor|19:9|9}} A phan gyfododd y gwr i fyned ymaith, efe a’i ordderch, a’i langc; ei chwegrwn, tad y llangces, a ddywedodd wrtho, Wele, yn awr, y dydd a laesodd i hwyrhâu; arhoswch dros nos, attolwg: wele yr haul yn machludo; trig yma, fel y llawenycho dy galon: a chodwch yn fore y fory i’ch taith, fel yr elych i’th babell.
{{angor|19:10|10}} A’r gwr ni fynnai aros dros<noinclude><references/></noinclude>
gwr5mcpbkugsqavsenbfodw60zg22q2
Tudalen:Y Cychwyn.djvu/147
104
31471
171276
62233
2026-10-02T19:17:41Z
Figaro-ahp
1983
171276
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>"Cystal â'r disgwyl, ac ystyriad bod 'i chalon hi mor beth'ma, yntê?"
"Mi wnaeth 'Mam imi ddŵad â'r wya' 'ma iddi hi." Ac estynnodd y blwch i'r dyn bach.
"W . . . wya'?"
"Rhai ffres. O ffarm ar y mynydd 'cw."
"D . . . diolch." Daliodd hwy'n ffwndrus yn ei law, gan wenu braidd yn ffôl.
"''Mae'n'' biti, ond ydi?"
"Ydi, wir, Mr. Davies."
"Hogan glên. Heb 'i gwell am deisan 'fala'. Tipyn of sioc."
Ni wyddai Owen beth i'w ddweud. Edrychodd, mor drist ag y gallai, ar y ffan fawr las yn y grât ac yna ar y llwynog yn ei gâs gwydr.
"Anifal hardd, Mr. Davies."
"Ydi, ond ydi?" Taflodd olwg cyflym tua'r drws ac yna gostyngodd ei lais. "Yr on i'n mynd am dro un diwrnod, gwn dan fy mraich, ar ochor y Wyddfa . . . ”
"O'n wir!"
Hwyliodd dynes dal, drwynfain, wedi'i gwisgo bron at ei gên mewn sidan du, i mewn drwy'r drws. "Ar yr Eifl yr oeddach chi y tro dwytha' y clywis i'r stori."
"Y . . . brawd Enid ydi o, Patricia."
"Felly 'roedd Beti'n dweud." Troes lygaid llym ar Owen. wrth chwanegu, "Roeddan ni'n disgwyl un ohonoch chi yma cyn hyn. Y gnawas fach! . . . Be' ydi'r parsal 'na sy gynnoch chi, Alfred?"
"Y . . . wya', Patricia, wya'."
Pwy bynnag oedd y wraig, meddyliodd Owen, yr oedd ar y dyn bach ei hofn.
"Wya'?"
"Ia, y dyn ifanc 'ma wedi dŵad â nhw . . . I chi, Patricia," chwanegodd yn eiddgar.
Hon, felly, oedd Mrs. Davies. A'r "hogan glên", a'r "gnawas fach", oedd—Enid?
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
n4r8v91o8rsnb40hu2cb5yx5gzwhrs6