Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.22
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/279
104
3531
171280
6689
2026-10-03T19:23:30Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171280
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>nos; eithr cyfododd, ac a aeth ymaith: a daeth hyd ar gyfer Jebus, hon ''yw'' Jerusalem, a chyd âg ef gwpl o asynod llwythog, a’i ordderch-wraig gyd âg ef.
{{angor|19:11|11}} A phan ''oeddynt'' hwy wrth Jebus, yr oedd y dydd ar ddarfod: a’r llangc a ddywedodd wrth ei feistr, Tyred, attolwg, trown i ddinas hon y Jebusiaid, a llettŷwn ynddi.
{{angor|19:12|12}} A’i feistr a ddywedodd wrtho, Ni thrown ni i ddinas estron nid ''yw'' o feibion Israel; eithr nyni a awn hyd Gibeah.
{{angor|19:13|13}} Ac efe a ddywedodd wrth ei langc, Tyred, a nesâwn i un o’r lleoedd hyn, i lettŷa dros nos, yn Gibeah, neu Ramah.
{{angor|19:14|14}} Felly y cerddasant, ac yr aethant; a’r haul a fachludodd arnynt wrth Gibeah ''eiddo'' Benjamin.
{{angor|19:15|15}} A hwy a droisant yno, i fyned i mewn i lettŷa i Gibeah. Ac efe a ddaeth i mewn, ac a eisteddodd yn heol y ddinas: canys nid ''oedd'' neb a’u cymmerai hwynt i’''w'' dŷ i lettŷa.
{{angor|19:16|16}} ¶ Ac wele wr hen yn dyfod o’i waith o’r maes yn yr hwyr; a’r gwr ''oedd'' o fynydd Ephraim, ond ei fod ef yn ymdaith yn Gibeah; a gwŷr y lle hwnnw ''oedd'' feibion Jemini.
{{angor|19:17|17}} Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu wr yn ymdaith yn heol y ddinas: a’r hen wr a ddywedodd, I ba le yr âi di? ac o ba le y daethost?
{{angor|19:18|18}} Yntau a ddywedodd wrtho, Tramwyo ''yr ydym'' ni o Bethlehem Judah, i ystlys mynydd Ephraim, o’r lle y’m ''henyw:'' a mi a euthum hyd Bethlehem Judah, a myned ''yr ydwyf'' i dŷ yr {{sc|Arglwydd}}; ac nid ''oes'' neb a’m derbyn i dŷ.
{{angor|19:19|19}} Y mae ''gennym ni'' wellt ac ebran hefyd i’n hasynod; a bara hefyd a gwin i mi ac i’th law-forwyn, ac i’r llangc ''sydd'' gyd â’th weision: nid ''oes'' eisieu dim.
{{angor|19:20|20}} A’r hen wr a ddywedodd, Tang-nefedd i ti: bydded dy holl eisieu arnaf fi; yn unig na lettŷa yn yr heol.
{{angor|19:21|21}} Felly efe a’i dug ef i mewn i’w dŷ, ac a borthodd yr asynod: a hwy a olchasant eu traed, ac a fwyttasant ac a yfasant.
{{angor|19:22|22}} ¶ A phan oeddynt hwy yn llawenhâu eu calon, wele, gwŷr y ddinas, rhai o feibion Belial, a amgylchynasant y tŷ, a gurasant y drws, ac a ddywedasant wrth berchen y tŷ, ''sef'' yr hen wr, gan ddywedyd, Dwg allan y gwr a ddaeth i mewn i’th dŷ, fel yr adnabyddom ef.
{{angor|19:23|23}} A’r gwr, perchen y tŷ, a aeth allan attynt, ac a ddywedodd wrthynt, Nag ê, fy mrodyr, ''nag ê'', attolwg, na wnewch mor ddrygionus: gan i’r gwr hwn ddyfod i’m tŷ i, na wnewch yr ysgelerder hyn.
{{angor|19:24|24}} Wele fy merch, yr hon ''sydd'' forwyn a’i ordderch yntau; dygaf hwynt allan yn awr, a darostyngwch hwynt, a gwnewch iddynt yr hyn fyddo da yn eich golwg: ond i’r gwr hwn na wnewch mor ysgeler.
{{angor|19:25|25}} Ond ni wrandawai y gwŷr arno: am hynny y gwr a ymaflodd yn ei ordderch, ac a’i dug hi allan attynt hwy. A hwy a’i hadnabuant hi, ac a wnaethant ''gam'' â hi yr holl nos hyd y bore: a phan gyfododd y wawr, hwy a’i gollyngasant hi ymaith.
{{angor|19:26|26}} Yna y wraig a ddaeth, pan ymddangosodd y bore, ac a syrthiodd wrth ddrws tŷ y gwr ''yr oedd'' ei harglwydd ynddo, hyd oleuni ''y dydd''.
{{angor|19:27|27}} A’i harglwydd a gyfododd y bore, ac a agorodd ddrysau y tŷ, ac a aeth allan i fyned i’w daith: ac wele ei ordderch-wraig ef wedi cwympo wrth ddrws y tŷ, a’i dwy law ar y trothwy.
{{angor|19:28|28}} Ac efe a ddywedodd wrthi, Cyfod, fel yr elom ymaith. Ond nid oedd yn atteb. Yna efe a’i cymmerth hi ar yr asyn; a’r gwr a gyfododd, ac a aeth ymaith i’w fangre.
{{angor|19:29|29}} ¶ A phan ddaeth i’w dŷ, efe a gymmerth gyllell, ac a ymaflodd yn ei ordderch, ac a’i darniodd hi, ''ynghyd'' â’i hesgyrn, yn ddeuddeg darn, ac a’i hanfonodd hi i holl derfynau Israel.
{{angor|19:30|30}} A phawb a’r a welodd ''hynny'', a ddywedodd, Ni wnaethpwyd ac ni welwyd y fath beth, er y dydd y daeth meibion Israel o wlad yr Aipht, hyd y dydd hwn: ystyriwch ar hynny, ymgynghorwch, a thraethwch ''eich meddwl''.
{{angor|Pennod_20}}{{c|{{uc|Pennod XX}}.}}
{{bach|1 ''Y Lefiad, mewn cymmanfa gyffredinol, yn dangos ei gam ar gyhoedd.'' 8 ''Barn y gammanfa.'' 12 ''Gwŷr Benjamin, wedi eu dyfyn, yn ymgasglu yn erbyn yr Israeliaid.'' 18 ''Yr Israeliaid mewn dwy gâd yn colli deugain mil.'' 26 ''Hwythau trwy ddichell yn difetha holl wŷr Benjamin onid chwe chant.''}}
{{angor|20:1}} {{uc|Yna}} holl feibion Israel a aethant allan; a’r gynnulleidfa a ymgasglodd ynghyd fel un dyn, o<noinclude><references/></noinclude>
8c6yir1qboj0z8620wb5wd1u1hxx7a8
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/280
104
3532
171281
6690
2026-10-03T19:39:09Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171281
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>Dan hyd Beerseba, a gwlad Gilead, at yr {{sc|Arglwydd}}, i Mispah.
{{angor|20:2|2}} A phennaethiaid yr holl bobl, ''o'' holl lwythau Israel, a safasant yng nghynnulleidfa pobl {{sc|Dduw}}; ''sef'' pedwar càn mil o wŷr traed yn tynnu cleddyf.
{{angor|20:3|3}} (A meibion Benjamin a glywsant fyned o feibion Israel i Mispah.) Yna meibion Israel a ddywedasant, Dywedwch, pa fodd y bu y drygioni hyn?
{{angor|20:4|4}} A’r gwr y Lefiad, gwr y wraig a laddesid, a attebodd ac a ddywedodd, I Gibea ''eiddo'' Benjamin y deuthum i, mi a’m gordderch, i lettŷa.
{{angor|20:5|5}} A gwŷr Gibeah a gyfodasant i’m herbyn, ac a amgylchynasant y tŷ yn fy erbyn liw nos, ac a amcanasant fy lladd i; a threisiasant fy ngordderch, fel y bu hi farw.
{{angor|20:6|6}} A mi a ymaflais yn fy ngordderch, ac a’i derniais hi, ac a’i hanfonais hi trwy holl wlad etifeddiaeth Israel: canys gwnaethant ffieidd-dra ac ynfydrwydd yn Israel.
{{angor|20:7|7}} Wele, meibion Israel ''ydych'' chwi oll; moeswch rhyngoch air a chynghor yma.
{{angor|20:8|8}} ¶ A’r holl bobl a gyfododd megis un gwr, gan ddywedyd, Nac eled neb ''o honom'' i’w babell, ac na throëd neb ''o honom'' i’w dŷ.
{{angor|20:9|9}} Ond yn awr, hyn ''yw'' y peth a wnawn ni i Gibeah: ''Nyni a awn i fynu'' i’w herbyn wrth goelbren;
{{angor|20:10|10}} A ni a gymmerwn ddengwr o’r cant trwy holl lwythau Israel, a chant o’r mil, a mil o’r deng mil, i ddwyn lluniaeth i’r bobl; i wneuthur, pan ddelont i Gibeah Benjamin, yn ol yr holl ffieidd-dra a wnaethant hwy yn Israel.
{{angor|20:11|11}} Felly yr ymgasglodd holl wŷr Israel yn erbyn y ddinas yn gyttûn fel un gwr.
{{angor|20:12|12}} ¶ A llwythau Israel a anfonasant wŷr trwy holl lwythau Benjamin, gan ddywedyd, Beth ''yw'' y drygioni yma a wnaethpwyd yn eich mysg chwi?
{{angor|20:13|13}} Ac yn awr rhoddwch y gwŷr, meibion Belial, y rhai ''sydd'' yn Gibeah, fel y lladdom hwynt, ac y dileom ddrygioni o Israel. Ond ni wrandawai meibion Benjamin ar lais eu brodyr meibion Israel:
{{angor|20:14|14}} Eithr meibion Benjamin a ymgynnullasant o’r dinasoedd i Gibeah, i fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Israel.
{{angor|20:15|15}} A chyfrifwyd meibion Benjamin y dydd hwnnw, o’r dinasoedd, yn chwe mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf, heb law trigolion Gibeah, y rhai a gyfrifwyd yn saith gant o wŷr etholedig.
{{angor|20:16|16}} O’r holl bobl hyn ''yr oedd'' saith gant o wŷr etholedig yn chwithig; pob un o honynt a ergydiai â charreg at y blewyn, heb fethu.
{{angor|20:17|17}} Gwŷr Israel hefyd a gyfrifwyd, heb law Benjamin, yn bedwar càn mil yn tynnu cleddyf; pawb o honynt yn rhyfelwyr.
{{angor|20:18|18}} ¶ A meibion Israel a gyfodasant, ac a aethant i fynu i dŷ {{sc|Dduw}}, ac a ymgynghorasant â {{sc|Duw}}, ac a ddywedasant, Pwy o honom ni a â i fynu yn gyntaf i’r gâd yn erbyn meibion Benjamin? A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}}, Judah ''a â'' yn gyntaf.
{{angor|20:19|19}} A meibion Israel a gyfodasant y bore, ac a wersyllasant yn erbyn Gibeah.
{{angor|20:20|20}} A gwŷr Israel a aethant allan i ryfel
yn erbyn Benjamin; a gwŷr Israel a ymosodasant i ymladd i’w herbyn hwy wrth Gibeah.
{{angor|20:21|21}} A meibion Benjamin a ddaethant allan o Gibeah, ac a ddifethasant o Israel y dwthwn hwnnw ddwy fil ar hugain o wŷr hyd lawr.
{{angor|20:22|22}} A’r bobl gwŷr Israel a ymgryfhasant, ac a ymosodasant drachefn i ymladd, yn y lle yr ymosodasent ynddo y dydd cyntaf.
{{angor|20:23|23}} (A meibion Israel a aethent i fynu, ac a wylasent ger bron yr {{sc|Arglwydd}} hyd yr hwyr: ymgynghorasent hefyd â’r {{sc|Arglwydd}}, gan ddywedyd, A âf fi drachefn i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd? A dywedasai yr {{sc|Arglwydd}}, Dos i fynu yn ei erbyn ef.) -
{{angor|20:24|24}} A meibion Israel a nesasant yn erbyn meibion Benjamin yr ail dydd.
{{angor|20:25|25}} A Benjamin a aeth allan o Gibeah i’w herbyn hwythau yr ail dydd; a hwy a ddifethasant o feibion Israel eilwaith dair mil ar bymtheg o wŷr hyd lawr; y rhai hyn oll oedd yn tynnu cleddyf.
{{angor|20:26|26}} ¶ Yna holl feibion Israel a’r holl bobl a aethant i fynu ac a ddaethant i dŷ {{sc|Dduw}}, ac a wylasant, ac a arhosasant yno ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, ac a ymprydiasant y dwthwn hwnnw hyd yr hwyr, ac a offrymmasant boeth-offrymmau ac offrymmau hedd ger bron yr {{sc|Arglwydd}}.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
5xypwljju43afto9uxao4kq9gerexy2
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/281
104
3533
171282
6691
2026-10-03T19:55:38Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171282
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|20:27|27}} A meibion Israel a ymgynghorasaat â’r {{sc|Arglwydd}}, (canys yno ''yr oedd'' arch cyfammod {{sc|Duw}} yn y dyddiau hynny;
{{angor|20:28|28}} A Phinees mab Eleazar, mab Aaron, oedd yn sefyll ger ei bron hi yn y dyddiau hynny;) gan ddywedyd, A chwanegaf fi mwyach fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd, neu a beidiaf fi? A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}}, Ewch i fynu; canys y fory y rhoddaf ef yn dy law di.
{{angor|20:29|29}} Ac Israel a osododd gynllwynwyr o amgylch Gibeah.
{{angor|20:30|30}} A meibion Israel a aethant i fynu yn erbyn meibion Benjamin y trydydd dydd, ac a ymosodasant wrth Gibeah, fel cynt.
{{angor|20:31|31}} A meibion Benjamin a aethant allan yn erbyn y bobl; ''a'' thynnwyd hwynt oddi wrth y ddinas: a hwy a ddechreuasant daro ''rhai'' o’r bobl yn archolledig, fel cynt, yn y prif-ffyrdd, o’r rhai y mae y naill yn myned i fynu i dŷ {{sc|Dduw}}, a’r llall i Gibeah yn y maes, ynghylch dengwr ar hugain o Israel.
{{angor|20:32|32}} A meibion Benjamin a ddywedasant, Cwympwyd hwynt o’n blaen ni, fel ar y cyntaf. Ond meibion Israel a ddywedasant, Ffown, fel y tynnom hwynt oddi wrth y ddinas i’r prif-ffyrdd.
{{angor|20:33|33}} A holl wŷr Israel a gyfodasant o’u lle, ac a fyddinasant yn Baal-tamar: a’r ''sawl'' a oedd ''o'' Israel yn cynllwyn, a ddaeth allan o’u mangre, ''sef'' o weirgloddiau Gibeah.
{{angor|20:34|34}} A daeth yn erbyn Gibeah ddeng mil o wŷr etholedig o holl Israel; a’r gâd a fu dost: ond ni wyddent ''fod'' drwg yn agos attynt.
{{angor|20:35|35}} A’r {{sc|Arglwydd}} a darawodd Benjamin o flaen Israel: a difethodd meibion Israel o’r Benjaminiaid, y dwthwn hwnnw, bùm mil ar hugain a channwr; a’r rhai hyn oll yn tynnu cleddyf.
{{angor|20:36|36}} Felly meibion Benjamin a welsant mai eu lladd yr oeddid: canys gwŷr Israel a roddasant le i’r Benjaminiaid; o herwydd hyderu yr oeddynt ar y cynllwynwyr, y rhai a osodasent yn ymyl Gibeah.
{{angor|20:37|37}} A’r cynllwynwyr a frysiasant, ac a ruthrasant ar Gibeah: a’r cynllwynwyr a udganasant yn hirllaes, ac a darawsant yr holl ddinas â min y cleddyf.
{{angor|20:38|38}} Ac yr oedd amser nodedig rhwng gwŷr Israel a’r cynllwynwyr; ''sef'' peri o honynt i fflam fawr ''a'' mwg ddyrchafu o’r ddinas.
{{angor|20:39|39}} A phan drodd gwŷr Israel ''eu cefnau'' yn y rhyfel, Benjamin a ddechreuodd daro yn archolledig o wŷr Israel ynghylch dengwr ar hugain: canys dywedasant, Dïau gan daro eu taro hwynt o’n blaen ni, fel yn y cyntaf.
{{angor|20:40|40}} A phan ddechreuodd y fflam ddyrchafu o’r ddinas â cholofn o fwg, Benjamin a edrychodd yn ei ol; ac wele fflam y ddinas yn dyrchafu i’r nefoedd.
{{angor|20:41|41}} Yna gwŷr Israel a droisant drachefn; a gwŷr Benjamin a frawychasant: o herwydd hwy a ganfuant fod drwg ''wedi'' dyfod arnynt.
{{angor|20:42|42}} Am hynny hwy a droisant o flaen gwŷr Israel, tu a ffordd yr anialwch; a’r gâd a’u goddiweddodd hwynt: a’r rhai ''a ddaethai'' o’r dinasoedd, yr oeddynt yn eu difetha yn eu canol.
{{angor|20:43|43}} ''Felly'' yr amgylchynasant y Benjaminiaid; erlidiasant hwynt, a sathrasant hwynt yn hawdd hyd y’nghyfer Gibeah, tu a chodiad haul.
{{angor|20:44|44}} A lladdwyd o Benjamin dair mil ar bymtheg o wŷr: y rhai hyn oll ''oedd'' wŷr nerthol.
{{angor|20:45|45}} A hwy a droisant, ac a ffoisant tu a’r anialwch i graig Rimmon. A’r ''Israeliaid'' a loffasant ''o'' honynt ar hyd y prif-ffyrdd, bùm mil o wŷr: erlidiasant hefyd ar eu hol hwynt hyd Gidom, ac a laddasant o honynt ddwy fil o wŷr.
{{angor|20:46|46}} A’r rhai oll a gwympodd o Benjamin y dwthwn hwnnw, oedd bùm mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf: hwynt oll ''oedd'' wŷr nerthol.
{{angor|20:47|47}} Etto chwe channwr a droisant, ac a ffoisant i’r anialwch i graig Rimmon, ac a arhosasant y’nghraig Rimmon bedwar mis.
{{angor|20:48|48}} A gwŷr Israel a ddychwelasant ar feibion Benjamin, ac a’u tarawsant hwy â min y cleddyf, yn ddyn o ''bob'' dinas, ac yn anifail, a pheth bynnag a gafwyd: yr holl ddinasoedd hefyd a’r a gafwyd, a losgasant hwy â thân.
{{angor|Pennod_21}}{{c|{{uc|Pennod XXI}}.}}
{{bach|1 ''Y bobl yn galaru am ddinystr Benjamin;'' 8 ''a thrwy ddifetha Jabes Gilead, yn cael iddynt bedwar cant o wragedd:'' 16 ''ac yn eu cynghori hwynt i osod ar y gwyryfon oedd yn dawnsio yn Siloh.''}}
{{angor|21:1}} {{uc|A gwyr}} Israel a dyngasant ym Mispah, gan ddywedyd, Ni<noinclude><references/></noinclude>
5yj02tjb9n6z5lwc1b0k6z90b1yznqh
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/282
104
3534
171283
6692
2026-10-04T05:21:44Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171283
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>ddyry neb o honom ei ferch i Benjaminiad yn wraig.
{{angor|21:2|2}} A daeth y bobl i dŷ {{sc|Dduw}}, ac a arhosasant yno hyd yr hwyr ger bron {{sc|Duw}}, ac a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant âg wylofain mawr:
{{angor|21:3|3}} Ac a ddywedasant, O {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel, paham y bu y peth hyn yn Israel, fel y byddai heddyw un llwyth yn eisieu yn Israel?
{{angor|21:4|4}} A thrannoeth y bobl a fore-godasant, ac a adeiladasant yno allor, ac a offrymmasant boeth-offrymmau ac offrymmau hedd.
{{angor|21:5|5}} A meibion Israel a ddywedasant, Pwy o holl lwythau Israel ni ddaeth i fynu gyd â’r gynnulleidfa at yr {{sc|Arglwydd}}? canys llw mawr oedd yn erbyn yr hwn ni ddelsai i fynu at yr {{sc|Arglwydd}} i Mispah, gan ddywedyd, Rhoddir ef i farwolaeth yn ddïau.
{{angor|21:6|6}} A meibion Israel a edifarhasant o herwydd Benjamin eu brawd: a dywedasant, Torrwyd ymaith heddyw un llwyth o Israel:
{{angor|21:7|7}} Beth a wnawn ni am wragedd i’r rhai a adawyd, gan dyngu o honom ni i’r {{sc|Arglwydd}}, na roddem iddynt ''yr un'' o’n merched ni yn wragedd?
{{angor|21:8|8}} ¶ Dywedasant hefyd, Pa un o lwythau Israel ni ddaeth i fynu at yr {{sc|Arglwydd}} i Mispah? Ac wele, ni ddelsai neb o Jabes Gilead i’r gwersyll, at y gynnulleidfa.
{{angor|21:9|9}} Canys y bobl a gyfrifwyd; ac wele, nid ''oedd'' yno neb o drigolion Jabes Gilead.
{{angor|21:10|10}} A’r gynnulleidfa a anfonasant yno ddeuddeng mil o wŷr grymmus; ac a orchymynasant iddynt, gan ddywedyd, Ewch a tharêwch breswylwyr Jabes Gilead â min y cleddyf, y gwragedd hefyd a’r plant.
{{angor|21:11|11}} Dyma hefyd y peth a wnewch chwi: Difethwch bob gwrryw, a phob gwraig a orweddodd gyd â gwr.
{{angor|21:12|12}} A hwy a gawsant ym mhlith trigolion Jabes Gilead, bedwar cant o langcesau yn wyryfon, y rhai nid adnabuasent wr trwy gyd-orwedd â gwr: a dygasant hwynt i’r gwersyll i Siloh, yr hon ''sydd'' y’ngwlad Canaan.
{{angor|21:13|13}} A’r holl gynnulleidfa a anfonasant i lefaru wrth feibion Benjamin, y rhai ''oedd'' y’nghraig Rimmon, ac i gyhoeddi heddwch iddynt.
{{angor|21:14|14}} A’r Benjaminiaid a ddychwelasant yr amser hwnnw; a hwy a roddasant iddynt hwy y gwragedd a gadwasent yn fyw o wragedd Jabes Gilead: ond ni chawsant hwy ddigon felly.
{{angor|21:15|15}} A’r bobl a edifarhaodd dros Benjamin, o herwydd i’r {{sc|Arglwydd}} wneuthur rhwygiad yn llwythau Israel.
{{angor|21:16|16}} ¶ Yna henuriaid y gynnulleidfa a ddywedasant, Beth a wnawn ni am wragedd i’r lleill, gan ddistrywio y gwragedd o Benjamin?
{{angor|21:17|17}} Dywedasant hefyd, ''Rhaid yw bod'' etifeddiaeth i’r rhai a ddïangodd o Benjamin, fel na ddilëer llwyth allan o Israel.
{{angor|21:18|18}} Ac ni allwn ni roddi iddynt wragedd o’n merched ni: canys meibion Israel a dyngasant, gan ddywedyd, Melldigedig ''fyddo'' yr hwn a roddo wraig i Benjamin.
{{angor|21:19|19}} Yna y dywedasant, Wele, ''y mae'' gwyl i’r {{sc|Arglwydd}} bob blwyddyn yn Siloh, o du y gogledd i Bethel, tu a chyfodiad haul i’r brif-ffordd y sydd yn myned i fynu o Bethel i Sichem, ac o du y dehau i Libanus.
{{angor|21:20|20}} Am hynny y gorchymynasant hwy i feibion Benjamin, gan ddywedyd, Ewch a chynllwynwch yn y gwinllannoedd:
{{angor|21:21|21}} Edrychwch hefyd; ac wele, os merched Siloh a ddaw allan i ddawnsio mewn dawnsiau; yna deuwch chwithau allan o’r gwinllannoedd, a chipiwch i chwi bob un ei wraig o ferched Siloh, ac ewch i wlad Benjamin.
{{angor|21:22|22}} A phan ddelo eu tadau neu eu brodyr hwynt i achwyn attom ni, yna y dywedwn wrthynt, Byddwch dda iddynt er ein mwyn ni; oblegid na chadwasom i bob un ei wraig yn y rhyfel: o achos na roddasoch chwi ''hwynt'' iddynt y pryd hwn, ''ni'' byddwch chwi euog.
{{angor|21:23|23}} A meibion Benjamin a wnaethant felly; a chymmerasant wragedd yn ol eu rhifedi, o’r rhai a gipiasent, ac a oeddynt yn dawnsio: a hwy a aethant ymaith, a dychwelasant i’w hetifeddiaeth, ac a adgyweiriasant y dinasoedd, ac a drigasant ynddynt.
{{angor|21:24|24}} A meibion Israel a ymadawsant oddi yno y pryd hwnnw, bob un at ei lwyth, ac at ei deulu; ac a aethant oddi yno bob un i’w etifeddiaeth.
{{angor|21:25|25}} Yn y dyddiau hynny nid ''oedd'' brenhin yn Israel: pob un a wnai yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ei hun.<noinclude><references/></noinclude>
l6bs6yutagldwvbsrpq8k2kp43d9x32
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/283
104
3535
171284
6696
2026-10-04T05:24:13Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171284
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Ruth.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 A bydd, yn y dyddiau yr oedd y brawdwyr yn barnu, fod newyn yn y wlad: a gŵr o Bethlehem Jwda a aeth i ymdeithio yng ngwlad Moab, efe a’i wraig, a’i ddau fab.
1:2 Ac enw y gŵr oedd Elimelech, ac enw ei wraig Naomi, ac enw ei ddau fab Mahlon a Chilion, Effreteaid o Bethlehem Jwda. A hwy a ddaethant i wlad Moab, ac a fuant yno.
1:3 Ac Elimelech gŵr Naomi a fu farw; a hithau a’i dau fab a adawyd.
1:4 A hwy a gymerasant iddynt wragedd o’r Moabesau;; enw y naill oedd Orpa, ac enw y llall, Ruth. A thrigasant yno ynghylch deng mlynedd.
1:5. A Mahlon a Chilion a fuant feirw hefyd ill dau; a’r wraig a adawyd yn amddifad o’i dau fab, ac o’i gŵr.
1:6 A hi a gyfododd, a’i merched yng nghyfraith, i ddychwelyd o wlad Moab: canys hi a glywsai yng ngwlad Moab ddarfod i’r ARGLWYDD ymweled â’i bobl gan roddi iddynt fara.
1:7 A hi a aeth o’r lle yr oedd hi ynddo, a’i dwy waudd gyd hi: a hwy a aethant i ffordd i ddychwelyd i wlad Jwda.
1:8 A Naomi a ddywedodd wrth ei dwy waudd, Ewch, dychwelwch bob un i dŷ ei mam: gwneled yr ARGLWYDD drugaredd à chwi, fel y gwnaethoch chwi â’r meirw, ac a minnau.
1:9 Yr ARGLWYDD a ganiatao i chwi gael gorffwystra bob un yn nhŷ ei gŵr. Yna y cusanodd hi hwynt: a hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant.
1:10 A hwy a ddywedasant wrthi, Diau y dychwelwn ni gyda thi at dŷ bobl di.
1:11 A dywedodd Naomi, Dychwelwch, fy merched: i ba beth y deuwch gyda mi? a oes gennyf fi feibion eto yn fy nghroth, i fod yn wŷr i chwi? .
1:12 Dychwelwch, fy merched, ewch ymaith: canys yr ydwyf fi yn rhy hen i briodi gŵr. Pe dywedwn, Y mae gennyf obaith, a bod heno gyda gwr, ac ymddŵyn meibion hefyd;
1:13 A arhosech chwi amdanynt hwy, hyd oni chynyddent hwy? a ymarhosech chwi amdanynt hwy, heb wra? Nage, fy merched: canys y mae mawr dristwch i mi o’ch plegid chwi, am i law yr ARGLWYDD fyned i’m herbyn.
1:14 A hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant eilwaith: ac Orpa a gusanodd ei chwegr; ond Ruth a lynodd wrthi hi.
1:15 A dywedodd Naomi, Wele, dy chwaer yng nghyfraith a ddychwelodd at ei phobl, ac at ei duwiau: dychwel dithau ar ôl dy chwaer yng nghyfraith.
1:16 A Ruth a ddywedodd, Nac erfyn arnaf fi ymado â thi, i gilio oddi ar dy ôl di: canys pa Ie bynnag yr elych di, yr af finnau; ac ym mha Ie bynnag y lletyech di, y lletyaf finnau: dy bobl di fydd fy mhobl i, a’th DDUW di fy Nuw innau:
1:17 Lle y byddych di marw, y byddaf finnau farw, ac yno y’m cleddir; fel hyn y gwnelo yr ARGLWYDD i mi, ac fel hyn y chwanego, os dim ond angau a wna ysgariaeth rhyngof fi a thithau.
1:18 Pan welodd hi ei bod hi wedi ymroddi i fyned gyda hi, yna hi a beidiodd a dywedyd wrthi hi.
1:19 Felly hwynt ill dwy a aethant, nes iddynt ddyfod i Bethlehem. A phan ddaethant i Bethlehem, yr holl ddinas a gyffrôdd o’u herwydd hwynt; a dywedasant, Ai hon yw Naomi?
1:20 A hi a ddywedodd wrthynt hwy, Na elwch fi Naomi; gelwch fi Mara: cany;. yr Hollalluog a wnaeth yn chwerw iawn â mi.
1:21 Myfi a euthum allan yn gyflawn, a’r ARGLWYDD a’m dug i eilwaith yn wag: paham y gelwch chwi fi Naomi, gan i’r ARGLWYDD fy narostwng, ac i’r Hollallu¬og fy nrygu?
1:22 Felly y dychwelodd Naomi, a Ruth y Foabes ei gwaudd gyda<noinclude><references/></noinclude>
3f06efatxyu4olge9ttfgn5rjtj64q8
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/286
104
3538
171285
6701
2026-10-04T05:29:17Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171285
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Ruth"/>nod y prynych di y maes o law Naomi, ti a’i pryni hefyd gan Ruth y Foabes, gwraig y marw, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef.
4:6 A’r cyfathrachwr a ddywedodd, Ni allaf ei ryddhau i mi, rhag colli fy eti¬feddiaeth fy hun: rhyddha di i ti dy hun fy rhan i; canys ni allaf fi ei ryddhau.
4:7 A hyn oedd ddefod gynt yn Israel, am ryddhad, ac am gyfnewid, i sicrhau pob peth: Gŵr a ddiosgai ei esgid, ac a’i rhoddai i’w gymydog: a hyn oedd dystiolaeth yn Israel.
4:8 Am hynny y dywedodd y cyfathrachwr wrth Boas, Prŷn i ti dy hun: ac efe a ddiosgodd ei esgid.
4:9 A dywedodd Boas wrth yr henur¬iaid, ac wrth yr holl bobl, Tystion ydych chwi heddiw, i mi brynu yr hyn oll oedd eiddo Elimelech, a’r hyn oll oedd eiddo Chilion a Mahlon, o law Naomi.
4:10 Ruth hefyd y Foabes, gwraig Mah¬lon, a brynais i mi yn wraig, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef, fel na thorrer ymaith enw y marw o blith ei frodyr, nac oddi wrth borth ei fangre: tystion ydych chwi heddiw.
4:11 A’r holl bobl y rhai oedd yn y porth, a’r henuriaid, a ddywedasant, Yr ydym yn dystion: Yr ARGLWYDD a wnelo y wraig sydd yn dyfod i’th dy di fel Rahel, ac fel Lea, y rhai a adeiladasant ill dwy dy Israel; a gwna di rymustra yn Effrata, bydd enwog yn Bethlehem:
4:12 Bydded hefyd dy dŷ di fel tŷ Phares, yr hwn a ymddug Tamar i Jwda, o’r had yr hwn a ddyry yr ARGLWYDD i ti o’r llances hon.
4:13 Felly Boas a gymerodd Ruth; a hi a fu iddo yn wraig: ac efe a aeth i mewn ati hi; a’r ARGLWYDD a roddodd iddi hi feichiogi, a hi a ymddug fab.
4:14 A’r gwragedd a ddywedasant wrth Naomi, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn ni’th adawodd di heb gyfath¬rachwr heddiw, fel y gelwid ei enw ef yn Israel.
4:15 Ac efe fydd i ti yn adferwr einioes, ac yn ymgeleddwr i’th benwynni: canys dy waudd, yr hon a’th gâr di, a blantodd iddo ef, a hon sydd well i ti na saith o feibion.
4:16 A Naomi a gymerth y plentyn, ac a’i gosododd ef yn ei mynwes, ac a fu famaeth iddo.
4:17 A’i chymdogesau a roddasant iddo enw, gan ddywedyd, Ganwyd mab i Naomi; ac a alwasant ei enw ef Obed: hwn oedd dad Jesse, tad Dafydd.
4:18 Dyma genedlaethau Phares: Phares a genhedlodd Hesron,
4:l9 A Hesron a genhedlodd Ram, a Ram a genhedlodd Aminadab,
4:20 Ac Aminadab a genhedlodd Nahson a Nahson a genhedlodd Salmon,
4:21 A Salmon a genhedlodd Boas, a Boas a genhedlodd Obed,
4:22 Ac Obed a genhedlodd Jesse, a Jesse a genhedlodd Dafydd.
<section end="Ruth"/>
<section begin="Samuel 1"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr cyntaf Samuel;}}}}<br>
{{sc|yr hwn a elwir hefyd}}<br>
{{uc|Llyfr cyntaf y brenhinoedd.}}}}
PENNOD 1
1:1 Ac yr oedd rhyw ŵr o Ramathaim-Soffim, o fynydd Effraim, a’i enw Elcana, mab Jeroham, mab Elihu, mab Tohu, mab Suff, Effratewr:
1:2 A dwy wraig oedd iddo; enw y naill oedd Hanna, ac enw y llall Peninna: ac i Peninna yr ydoedd plant, ond i Hanna nid oedd plant.
1:3 A’r gŵr hwn a ai i fyny o’i ddinas bob blwyddyn i addoli, ac i aberthu i ARGLWYDD y lluoedd, yn Seilo; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, oedd offeiriaid i’r ARGLWYDD yno.
1:4 Bu hefyd, y diwrnod yr aberthodd Elcana, roddi ohono ef i Peninna ei wraig, ac i’w meibion a’i merched oll, rannau.
1:5 Ond i Hanna y rhoddes efe un rhan hardd: canys efe a garai Hanna, ond yr ARGLWYDD a gaeasai ei chroth hi;
{{nop}}<section end="Samuel 1"/><noinclude><references/></noinclude>
e9larxjjjmu4e1go6hs5kyj6hob9jcz
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/323
104
3575
171286
6749
2026-10-04T05:30:49Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171286
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Ail lyfr Samuel;}}}}<br>
{{sc|yr hwn a elwir hefyd,}}<br>
{{uc|Ail lyfr y brenhinoedd.}}}}
PENNOD 1
1:1 Ac ar ôl marwolaeth Saul, pan ddychwelasai Dafydd o ladd yr Amaleciaid, wedi aros o Dafydd ddeuddydd yn Siclag;
1:2 Yna y trydydd dydd, wele ŵr yn dyfod o’r gwersyll oddi wrth Saul, a’i ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben: a phan ddaeth efe at Dafydd, efe a syrthiodd i lawr, ac a ymgrymodd.
1:3 A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, O ba le y daethost ti? Yntau a ddywedodd wrtho, O wersyll Israel y dihengais i.
1:4 A dywedodd Dafydd wrtho ef, Pa fodd y bu? mynega, atolwg, i mi. Yntau a ddywedodd, Y bobl a ffodd o’r rhyfel, a llawer hefyd o’r bobl a syrthiodd, ac a fuant feirw; a Saul a Jonathan ei fab a fuant feirw.
1:5 A Dafydd a ddywedodd wrth y llanc oedd yn mynegi iddo. Pa fodd y gwyddost ti farw Saul a Jonathan ei fab?
1:6 A’r llanc, yr hwn oedd yn mynegi iddo, a ddywedodd, Digwyddodd i mi ddyfod i fynydd Gilboa; ac wele, Saul oedd yn pwyso ar ei waywffon: wele hefyd y cerbydau a’r marchogion yn erlid ar ei ôl ef.
1:7 Ac efe a edrychodd o’i ôl, ac a’m canfu i, ac a alwodd arnaf fi. Minnau a ddywedais, Wele fi.
1:8 Dywedodd yntau wrthyf, Pwy wyt ti? Minnau a ddywedais wrtho, Amaleciad ydwyf fi.
1:9 Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Saf, atolwg, arnaf, a lladd fi: canys cyfyngder a ddaeth arnaf, oherwydd bod fy holl einioes ynof fi eto.
1:10 Felly mi a sefais arno ef, ac a’i lleddais ef, canys mi a wyddwn na byddai efe byw ar ôl ei gwympo: a chymerais y goron oedd ar ei ben ef, a’r freichled oedd am ei fraich ef, ac a’u dygais hwynt yma at fy arglwydd.
1:11 Yna Dafydd a ymaflodd yn ei ddillad, ac a’u rhwygodd hwynt; a’r holl wŷr hefyd y rhai oedd gydag ef.
1:12 Galarasant hefyd, ac wylasant, ac ymprydiasant hyd yr hwyr, am Saul ac am Jonathan ei fab, ac am bobl yr AR¬GLWYDD, ac am dŷ Israel; oherwydd iddynt syrthio trwy y cleddyf.
1:13 A Dafydd a ddywedodd wrth y llanc oedd yn mynegi hyn iddo, O ba le yr hanwyt ti? Yntau a ddywedodd, Mab i ŵr dieithr o Amaleciad ydwyf fi.
1:14 A dywedodd Dafydd wrtho, Pa fodd nad ofnaist ti estyn dy law i ddifetha eneiniog yr ARGLWYDD?
1:15 A Dafydd a alwodd ar un o’r gweision, ac a ddywedodd, Nesa, rhuthra iddo ef. Ac efe a’i trawodd ef, fel y bu efe farw.
1:16 A dywedodd Dafydd wrtho ef, Bydded dy waed di ar dy ben dy hun: canys dy enau dy hun a dystiolaethodd yn dy erbyn, gan ddywedyd, Myfi a leddais eneiniog yr ARGLWYDD.
1:17 A Dafydd a alarnadodd yr alarnad hon am Saul ac am Jonathan ei fab:
1:18 (Dywedodd hefyd am ddysgu meibion Jwda i saethu â bwa: wele, y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Jaser.)
1:19 O ardderchowgrwydd Israel, efe a archollwyd ar dy uchelfaoedd di: pa fodd y cwympodd y cedyrn!
1:20 Nac adroddwch hyn yn Gath; na fynegwch yn heolydd Ascalon: rhag llawenychu merched y Philistiaid, rhag gorfoleddu o ferched y rhai dienwaededig.
1:21 O fynyddoedd Gilboa, na ddisgynned arnoch chwi wlith na glaw, na meysydd o offrymau! canys yno y bwriwyd ymaith darian y cedyrn yn ddirmygus, tarian Saul, fel pe buasai heb ei eneinio ag olew.
1:22 Oddi wrth waed y lladdedigion, oddi wrth fraster y cedyrn, ni throdd bŵa Jonathan yn ôl, a chleddyf Saul ni ddychwelodd yn wag.
1:23 Saul a Jonathan oedd gariadus ac annwyl yn eu bywyd, ac yn eu marwol¬aeth ni wahanwyd hwynt:<noinclude><references/></noinclude>
49vd2s8wietf8jzcmmj0nodjqpfs842
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/353
104
3606
171287
6796
2026-10-04T05:32:27Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171287
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr cyntaf y brenhinoedd;}}}}<br>
{{sc|yr hwn a elwir hefyd,}}<br>
{{uc|Trydydd llyfr y brenhinoedd.}}}}
PENNOD 1
1:1 A’r brenin Dafydd oedd hen, ac a aethai mewn oedran; er iddynt ei anhuddo ef mewn dillad, eto ni chynhesai efe.
1:2 Am hynny ei weision a ddywedasant wrtho, Ceisier i’m harglwydd frenin lances o forwyn; a safed hi o flaen y brenin, a bydded yn gwneuthur ymgeledd iddo, a gorwedded yn dy fynwes, fel y gwresogo fy arglwydd frenin.
1:3 A hwy a geisiasant lances deg trwy holl fro Israel, ac a gawsant Abisag y Sunamees, ac a’i dygasant hi at y brenin.
1:4 A’r llances oedd deg iawn, ac oedd yn ymgeleddu’r brenin, ac yn ei wasanaethu ef: ond ni bu i’r brenin a wnaeth â hi.
1:5 Ac Adoneia mab Haggith a ymddyrchafodd, gan ddywedyd, Myfi a fyddaf frenin: ac efe a ddarparodd iddo gerbydau a gwŷr meirch, a dengwr a deugain i redeg o’i flaen.
1:6 A’i dad nid anfodlonasai ef yn ei ddyddiau, gan ddywedyd, Paham y gwnaethost fel hyn? yntau hefyd oedd deg iawn o bryd; ac efe a anesid wedi Absalom.
1:7 Ac o’i gyfrinach y gwnaeth efe Joab mab Serfia, ac Ahiathar yr offeiriad: a hwy a gynorthwyasant ar ôl Adoneia.
1:8 Ond Sadoc yr offeiriad, a Benaia mab Jehoiada, a Nathan y proffwyd, a Simei, a Rei, a’r gwŷr cedyrn a fuasai gyda Dafydd, nid oeddynt gydag Adoneia.
1:9 Ac Adoneia a laddodd ddefaid, a gwartheg, a phasgedigion, wrth faen Soheleth, yr hwn sydd wrth En-rogel, ac a wahoddodd ei holl frodyr meibion y brenin, a holl wŷr Jwda gweision y brenin.
1:10 Ond Nathan y proffwyd, a Benaia, a’r gwŷr cedyrn, a Solomon ei frawd, ni wahoddodd efe.
1:11 Am hynny y dywedodd Nathan wrth Bathseba mam Solomon, gan ddy¬wedyd, Oni chlywaist ti fod Adoneia mab Haggith yn teyrnasu, a’n harglwydd Dafydd heb wybod hynny?
1:12 Tyred gan hynny yn awr, atolwg, rhoddaf i ti gyngor, fel yr achubych dy einioes dy hun, ac einioes Solomon dy fab,
1:13 Dos, a cherdda i mewn at y brenin Dafydd, a dywed wrtho, Oni thyngaist ti, fy arglwydd frenin, wrth dy wasanaethwraig, gan ddywedyd, Solomon dy fab di a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i? paham gan hynny y mae Adoneia yn teyrnasu?
1:14 Wele, tra fyddych yno eto yn llefaru wrth y brenin, minnau a ddeuaf i mewn ar dy ôl di, ac a sicrhaf dy eiriau di.
1:15 A Bathseba a aeth i mewn at y brenin, i’r ystafell. A’r brenin oedd hen iawn; ac Abisag y Sunamees oedd yn gwasanaethu’r brenin.
1:16 A Bathseba a ostyngodd ei phen, ac a ymgrymodd i’r brenin. A’r brenin a ddywedodd, Beth a fynni di?
1:17 Hithau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd, ti a dyngaist i’r ARGLWYDD dy DDUW wrth dy wasanaethyddes, gan ddywedyd, Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i:
1:18 Ac yn awr, wele, Adoneia sydd frenin; ac yr awr hon, fy arglwydd frenin, nis gwyddost ti hyn.
1:19 Ac efe a laddodd wartheg, ac anifeiliaid breision, a defaid lawer iawn, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, ac Abiathar yr offeiriad, a Joab tywysog y filwriaeth: ond dy was Solomon ni wahoddodd efe.
1:20 Tithau, fy arglwydd frenhin, y<noinclude><references/></noinclude>
mde612b1716v22cwkwc5kxn8ivy58r2
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/388
104
3642
171288
6848
2026-10-04T05:33:46Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171288
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Ail lyfr y brenhinoedd;}}}}<br>
{{sc|yr hwn a elwir hefyd,}}<br>
{{uc|Pedwerydd llyfr y brenhinoedd.}}}}
PENNOD 1
1:1 Yna Moab a wrthryfelodd yn erbyn Israel, wedi marwolaeth Ahab.
1:2 Ac Ahaseia a syrthiodd trwy ddellt o’i lofft, yr hon oedd yn Samaria, ac a glafychodd; ac efe a anfonodd genhadau, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, ac ymofynnwch â Baal-sebub duw Ecron, a fyddaf fi byw o’r clefyd hwn.
1:3 Ac angel yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Eleias y Thesbiad, Cyfod, dos i fyny i gyfarfod â chenhadau brenin Samaria, a dywed wrthynt, Ai am nad oedd Duw yn Israel, yr ydych chwi yn myned i ymofyn a Baal-sebub duw Ecron?
1:4 Ac am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD; Ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw. Ac Eleias a aeth ymaith.
1:5 A phan ddychwelodd y cenhadau ato ef, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y dychwelasoch chwi?
1:6 A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr a ddaeth i fyny i’n cyfarfod ni, ac a ddy¬wedodd wrthym ni, Ewch, dychwelwch at y brenin a’ch anfonodd, a lleferwch wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ai am nad oes Duw yn Israel, yr ydwyt ti yn anfon i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron? oherwydd hynny ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw.
1:7 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa ddull oedd ar y gŵr a ddaeth i fyny i’ch cyfarfod chwi, ac a lefarodd wrthych yr ymadroddion yma?
1:8 A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr blewog oedd efe, wedi ymwregysu hefyd â gwregys croen am ei lwynau. Dywed¬odd yntau, Eleias y Thesbiad oedd efe.
1:9 Yna efe a anfonodd ato ef dywysog ar ddeg a deugain, ynghyda’i ddeg a deugain: ac efe a aeth i fyny ato ef; (ac wele ef yn eistedd ar ben bryn;) ac a lefarodd wrtho, Ti ŵr Duw, y brenin a lefarodd, Tyred i waered.
1:10 Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrth dywysog y deg a deugain, Os gŵr i Duw ydwyf fi, disgynned tân o’r nefoedd, ac ysed di a’th ddeg a deugain. A thân a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain.
1:11 A’r brenin a anfonodd eilwaith ato ef dywysog arall ar ddeg a deugain, a’i ddeg a deugain: ac efe a atebodd ac a ddywedodd, O ŵr Duw, fel hyn y dywedodd y brenin. Tyred i waered yn ebrwydd.
1:12 Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Os gŵr Duw ydwyf fi, disgynned tan o’r nefoedd, ac ysed di a’th ddeg a deugain. A thân Duw a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain.
1:13 A’r brenin a anfonodd eto y trydydd tywysog ar ddeg a deugain, a’i ddeg a deugain: a’r trydydd tywysog ar ddeg a deugain a aeth i fyny, ac a ddaeth ac a ymgrymodd ar ei liniau gerbron Eleias, ac a ymbiliodd ag ef, ac a lefarodd wrtho, O ŵr Duw, atolwg, bydded fy einioes i, ac einioes dy ddeg gwas a deugain hyn, yn werthfawr yn dy olwg di.
1:14 Wele, disgynnodd tân o’r nefoedd, ac a ysodd y ddau dywysog cyntaf ar ddeg a deugain, a’u deg a deugeiniau: am hynny yn awr bydded fy einioes i yn werthfawr yn dy olwg di.
1:15 Ac angel yr ARGLWYDD a lefarodd wrth Eleias, Dos i waered gydag ef, nac ofna ef. Ac efe a gyfododd, ac a aeth i waered gydag ef at y brenin.
1:16 Ac efe a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Oherwydd i ti anfon cenhadau i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron, (ai am nad oes Duw yn Israel i ymofyn â’i air?) am hynny ni ddisgynni<noinclude><references/></noinclude>
fxkuveoz95ci9esez3d04aes8pb3ofr
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/422
104
3677
171289
6904
2026-10-04T05:35:30Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171289
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr cyntaf y chronicl.}}}}}}
PENNOD I
1:1 Adda, Seth, Enos,
1:2 Cenan, Mahalaleel, Jered,
1:3 Enoch, Methusela, Lamech,
1:4 Noa, Sem, Cham, a Jaffeth.
1:5 Meibion Jaffeth; Gomer, a Magog, a Madai, a Jafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras.
1:6 A meibion Gomer; Aschenas, a Riffath, a Thogarma.
1:7 A meibion Jafan; Elisa, a Tharsis, Cittim, a Dodanim.
1:8 Meibion Cham; Cus, a Misraim, Put, a Chanaan.
1:9 A meibion Cus; Seba, a Hafila, a Sabta, a Raama, a Sabtecha: a Seba, a Dedan, meibion Raama.
1:10 A Chus a genhedlodd Nimrod: hwn a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear.
1:11 A Misraim a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Nafftuhim,
1:12 Pathrusim hefyd, a Chasluhim, (y rhai y daeth y Philistiaid allan ohonynt,) a Chafftorim.
1:13 A Chanaan a genhedlodd Sidon ei gyntaf-anedig, a Heth,
1:14 Y Jebusiad hefyd, a'r Amoriad, a'r Girgasiad,
1:15 A'r Hefiad, a'r Arciad, a'r Siniad,
1:16 A'r Arfadiad, a'r Semariad, a'r Hamathiad.
1:17 Meibion Sem; Elam, ac Assur, ac Arffacsad, a Lud, ac Aram, ac Us, a Hul, a Gether, a Mesech.
1:18 Ac Arffacsad a genhedlodd Sela, a Sela a genhedlodd Eber.
1:19 Ac i Eber y ganwyd dau o feibion: enw y naill ydoedd Peleg; oherwydd mai yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear: ac enw ei frawd oedd Joctan.
1:20 A Joctan a genhedlodd Almodad, a Seleff, a Hasarmafeth, a Jera,
1:21 Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla,
1:22 Ac Ebal, ac Abimael, a Seba,
1:23 Offir hefyd, a Hafila, a Jobab. Y rhai hyn oll oedd feibion Joctan.
1:24 Sem, Arffacsad, Sela,
1:25 Eber, Peleg, Reu,
1:26 Serug, Nachor, Tera,
1:27 Abram, hwnnw yw Abraham.
1:28 Meibion Abraham; Isaac, ac Ismael.
1:29 Dyma eu cenedlaethau hwynt: cyntaf-anedig Ismael oedd Nebaioth, yna Cedar, ac Adbeel, a Mibsam,
1:30 Misma, a Duma, Massa, Hadad, a Thema,
1:31 Jetur, Naffis, a Chedema. Dyma feibion Ismael.
1:32 A meibion Cetura, gordderchwraig Abraham: hi a ymddûg Simran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Sua. A meibion Jocsan; Seba, a Dedan.
1:33 A meibion Midian; Effa, ac Effer, a Henoch, ac Abida, ac Eldaa: y rhai hyn oll oedd feibion Cetura.
1:34 Ac Abraham a genhedlodd Isaac. Meibion Isaac; Esau, ac Israel.
1:35 Meibion Esau; Eliffas, Reuel, a Jëus, a Jaalam, a Chora.
1:36 Meibion Eliffas; Teman, ac Omar, Seffi, a Gatam, Cenas, a Thimna, ac Arnalec.
1:37 Meibion Reuel; Nahath, Sera, Samma, a Missa.
1:38 A meibion Seir; Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Ana, a Dison, ac Eser, a Disan.
1:39 A meibion Lotan; Hori, a Homam: a chwaer Lotan oedd Timna.
1:40 Meibion Sobal; Alïan, a Manahath, ac Ebal, Seffi, ac Onam. A meibion Sibeon; Aia, ac Ana.
1:41 Meibion Ana; Dison. A meibion Dison; Amram, ac Esban, ac Ithran, a Cheran.
1:42 Meibion Eser; Bilhan, a Safan, a Jacan. Meibion Dison; Us, ac Aran.
1:43 Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant yn nhir Edom, cyn teyrnasu o frenin ar feibion Israel; Bela mab Beor: ac enw ei ddinas ef oedd Dinhaba.
1:44 A phan fu farw Bela, y teyrnasodd yn ei le ef Jobab mab Sera o Bosra.
1:45 A phan fu farw Jobab, Husam o wlad y Temaniaid a deyrnasodd yn ei le ef.
1:46 A phan fu farw Husam, yn ei<noinclude><references/></noinclude>
6vjq75jn6o3e18l9doay21i7yu2i1e5
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/452
104
3707
171290
7544
2026-10-04T05:36:22Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171290
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="I"/>o’th law di y mae, ac eiddot ti ydyw oll.
º17 Gwn hefyd, O fy Nuw, mai ti sydd yn profi y galon, ac yn yrnfodloni mewa cyfiawnder. Myfi yn uniondeb fy nghalon, o wirfodd a offrymais hyn oll; ac yn awr y gwelais dy bobl a gafwyd yma yn offryma yn ewyllysgar i ti, a hynny mewn llawenydd.
º18 ARGLWYDD DDUW Abraham, Isaac, ac Israel, ein tadau, cadw hyn yn dragy¬wydd ym mryd meddyliau calon dy bobl; a pharatoa eu calon hwynt atat ti.
º19 A dyro i Solomon fy mab galon berffaith, i gadw dy orchmynion, dy dystiolaethau, a’th ddeddfau, ac i’w gwneuthur hwynt oll, ac i adeiladu y llys yr hwn y darperais iddo.
º20 y Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, Bendithiwch, atolwg, yr AR¬GLWYDD eich Duw. A’r holl dyrfa a fendithiasant ARGLWYDD DDUW eu tadau, a blygasant eu pennau, ac a ymgrymasant i’r ARGLWYDD, ac i’r brenin.
º21 Aberthasant hefyd ebyrth i’r AR-GLWYDD, a thrannoeth ar ôl y dydd hwnnw yr abenhasant yn boethoffrymmau i’r ARGLWYDD, fil o fustych, mil o hyrddod, a mil o wyn, a’u diod-offrymau, ac ebyrth yn lluosog, dros holl Israel:
º22 Ac a fwytasant ac a yfasant gerbron yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw mewn llawenydd mawr. A gosodasant Solomon mab Dafydd yn frenin yr ail waith; ac eneiniasant ef i’r ARGLWYDD yn flaenor, a Sadoc yn offeiriad.
º23 Felly yr eisteddodd Solomon ar orseddfa yr ARGLWYDD yn frenin, yn lle Dafydd ei dad, ac a lwyddodd; a holl Israel a wrandawsant arno.
º24 Yr holl dywysogion hefyd a’r cedyrn, a chyda hynny holl feibion y brenin Dafydd, a roddasant eu dwylo ar fod dan Solomon y brenin.
º25 A’r ARGLWYDD a fawrygodd Solomon yn rhagorol yng ngŵydd holl Israel, ac a roddes iddo ogomant brenhinol, math yr hwn ni bu i un brenin o’i flaen ef yn Israel.
º26 Felly Dafydd mab Jesse a deyrn-i asodd ar holl Israel.
º27 A’r dyddiau y tcyrnasodd efe a Israel oedd ddeugam mlynedd: saith, mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron, a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
º28 Ac efe a fu farw mewn oedran teg, yn gyflawn o ddyddiau, cyfoeth, ac anrhydedd: a Solomon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
º29 Ac am weithredoedd cyntafa diwethaf y brenin Dafydd, wele, y maent yn
ysgrifenedig yng ngeiriau Samuel y gweledydd, ac yng ngeiriau Nathan y proffwyd, ac yng ngeiriau Gad y gweled¬ydd,
º30 Gyda’i holl frenhiniaeth ef, a’i gadernid, a’r amserau a aethant drosto ef, a thros Israel, a thros holl deyrnasoedd y gwledydd.
<section end="I"/>
<section begin="II"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Ail lyfr y chronicl.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 A Solomon mab Dafydd a ymgadarnhaodd yn ei deyrnas, a’r ARGLWYDD ei DDUW oedd gydag ef, ac a’i mawrhaodd ef yn ddirfawr.
1:2 A Solomon a ddywedodd wrth holl Israel, wrth dywysogion y miloedd a’r cannoedd, ac wrth y barnwyr, ac wrth bob llywodraethwr yn holl Israel, sef y pennau-cenedl.
1:3 Felly Solomon a’r holl dyrfa gydag ef a aethant i’r uchelfa oedd yn Gibeon: canys yno yr oedd pabell cyfarfod Duw, yr hon a wnaethai Moses gwas yr ARGLWYDD yn yr anialwch.
1:4 Eithr arch Duw a ddygasai Dafydd i fyny o Ciriath-jearim, i’r lle a ddarparasai Dafydd iddi: canys efe a osodasai iddi hi babell yn Jerwsalem.
1:5 Hefyd, yr allor bres a wnaethai Besaleel mab Uri, mab Hur, oedd yno o flaen pabell yr ARGLWYDD: a Solomon a’r dyrfa a’i hargeisiodd hi.
1:6 A Solomon a aeth i fyny yno at yr allor bres, gerbron yr ARGLWYDD, yr hon oedd ym mhabell y cyfarfod, a mil o boethoffrymau a offrymodd efe arni hi.
1:7 Y noson honno yr ymddangos-<section end="II"/><noinclude><references/></noinclude>
d1bjx1se921ppy8qh3olijs5xm9ik0t
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/490
104
3745
171291
6987
2026-10-04T05:37:04Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171291
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="I"/>hefyd, a’r bobl, a chwanegasant gamfucheddu, yn ôl holl ffieidd-dra’r cenhedloedd; a hwy a halogasant dŷ yr ARGLWYDD, yr hwn a sancteiddiasai efe yn Jerwsalem.
36:15 Am hynny ARGLWYDD DDUW eu tadau a anfonodd atynt hwy trwy law ei genhadau, gan foregodi, ac anfon: am ei fod ef yn tosturio wrth ei bobl, ac wrth ei breswylfod.
36:16 Ond yr oeddynt hwy yn gwatwar cenhadau Duw, ac yn tremygu ei eiriau ef, ac yn gwawdio ei broffwydi ef; nes cyfodi o ddigofaint yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl, fel nad oedd iachâd.
36:17 Am hynny efe a ddygodd i fyny arnynt hwy frenin y Caldeaid, yr hwn a laddodd eu gwŷr ieuaninc hwy â’r cleddyf yn nhŷ eu cysegr, ac nid arbedodd na ŵr ieuanc na morwyn, na hen, na’r hwn oedd yn camu gan oedran: efe a’u rhoddodd hwynt oll yn ei law ef.
36:18 Holl lestri tŷ DDUW hefyd, mawrion a bychain, a thrysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau y brenin a’i dywysogion; y rhai hynny oll a ddug efe i Babilon.
36:19 A hwy a losgasant dŷ DDUW, ac a ddistrywiasant fur Jerwsalem; a’i holl balasau hi a losgasant hwy a thân, a’i holl lestri dymunol a ddinistriasant.
36:20 A’r rhai a ddianghasai gan y cleddyf a gaethgludodd efe i Babilon; lle y buant hwy yn weision iddo ef ac i’w feibion, nes teyrnasu o’r Persiaid:
36:21 I gyflawni gair yr ARGLWYDD trwy enau Jeremeia, nes mwynhau o’r wlad ei Sabothau; canys yr holl ddyddiau y bu hi yn anghyfannedd, y gorffwysodd hi, i gyflawni deng mlynedd a thrigain.
36:22 Ac yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, fel y cyflawnid gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddywedwyd trwy enau Jeremeia, yr ARGLWYDD a gyffrodd ysbryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl fren hiniaeth, a hynny mewn ysgrifen, gan ddywedyd,
36:23 Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, ARGLWYDD DDUW y nefoedd a roddodd holl deyrnasoedd y ddaear i mi, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu tŷ iddo yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda. Pwy sydd yn eich mysg chwi o’i holl bobl ef? yr ARGLWYDD ei DDUW fyddo gydag ef, ac eled i fyny.
{{lein|10em}}
<section end="I"/>
<section begin="II"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Ezra.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, i gyflawni gair yr ARGLWYDD o enau Jeremeia, y gyffrôdd yr ARGLWYDD ysbryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl deyrnas, a hynny hefyd mewn ysgrifen, gan ddywedyd,
1:2 Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, ARGLWYDD DDUW y nefoedd a roddes i mi holl deyrnasoedd y ddaear, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu iddo ef dŷ yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda.
1:3 Pwy sydd ohonoch o’i holl bobl ef? bydded ei DDUW gydag ef, ac eled i fyny i Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda, ac adeiled dŷ ARGLWYDD DDUW Israel, (dyna y DUW), yr hwn sydd yn Jerwsalem.
1:4 A phwy bynnag a adawyd mewn un man lle y mae efe yn ymdeithio, cynorthwyed gwŷr ei wlad ef ag arian, ac ag aur, ac a golud, ac ag anifeiliaid, gydag ewyllysgar offrwm tŷ DDUW, yr hwn sydd yn Jerwsalem.
1:5 Yna y cododd pennau-cenedl Jwda a Benjamin, a’r offeiriaid a’r Lefiaid, a phob un y cyffrôdd Duw ei ysbryd, i fyned i fyny i adeiladu tŷ yr ARGLWYDD yr hwn oedd yn Jerwsalem.
1:6 A’r rhai oll o’u hamgylch a’u cynorthwyasant hwy â llestri arian, ac aur, â golud, ac ag anifeiliaid, ac â phethau gwerthfawr, heblaw yr hyn oll a offrymwyd yn ewyllysgar.
1:7 A’r brenin Cyrus a ddug allan lestri tŷ yr ARGLWYDD, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor allan o Jerwsalem, ac a roddasai efe yn nhŷ ei dduwiau ei hun:
1:8 Y rhai hynny a ddug Cyrus brenin Persia allan trwy law Mith-<section end="II"/><noinclude><references/></noinclude>
bmdj6n49dndpgmn7hyn7bn7ddnbtprl
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/501
104
3756
171292
7000
2026-10-04T05:37:53Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171292
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Nehemiah}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Geiriau Nehemeia mab Hachaleia. A bu ym mis Cisleu, yn yr ugeinfed flwyddyn, pan oeddwn i ym mrenhinllys Susan,
1:2 Ddyfod o Hanani, un o’m brodyr, efe a gwŷr o Jwda, a gofynnais iddynt am yr Iddewon a ddianghasai, y rhai a adawsid o’r caethiwed, ac am Jerwsalem.
1:3 A hwy a ddywedasant wrthyf, Y gweddillion, y rhai a adawyd o’r gaethglud yno yn y dalaith ydynt mewn blinder mawr a gwaradwydd: mur Jerwsalem hefyd a ddrylliwyd, a’i phyrth a losgwyd â thân.
1:4 A phan glywais y geiriau hyn, myfi a eisteddais ac a wylais, ac a alerais dalm o ddyddiau; a bûm yn ymprydio, ac yn gweddïo gerbron Duw y nefoedd;
1:5 A dywedais, Atolwg, ARGLWYDD DUW y nefoedd, y DUW mawr ofnadwy, yr hwn sydd yn cadw cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant ef ac a gadwant ei orchmynion:
1:6 Bydded, atolwg, dy glust yn clywed, a’th lygaid yn agored, i wrando ar weddi dy was, yr hon yr ydwyf fi yn ei gweddïo ger dy fron di yr awr hon ddydd a nos, dros feibion Israel dy weision, ac yn cynesu pechodau meibion Israel, y
rhai a bechasom i’th erbyn: myfi hefyd a thŷ fy nhad a bechasom.
1:7 Gwnaethom yn llygredig iawn i’th erbyn, ac ni chadwasom y gorchmynion,
na’r deddfau, na’r barnedigaethau, a orchmynnaist i Moses dy was.
1:8 Cofia, atolwg, y gair a orchmynnaist wrth Moses dy was, gan ddywedyd, Os
chwi a droseddwch, myfi a’ch gwasgaraf chwi ymysg y bobloedd:
1:9 Ond os dychwelwch ataf fi, a chadw fy ngorchmynion, a’u gwneuthur hwynt, pe gyrrid rhai ohonoch chwi hyd eithaf y nefoedd, eto mi a’u casglaf hwynt oddi yno, ac a’u dygaf i’r lle a etholais i drigo o’m henw ynddo.
1:10 A hwy ydynt dy weision a’th bobl, y rhai a waredaist â’th fawr allu, ac â’th law nerthol.
1:11 Atolwg, ARGLWYDD, bydded yn awr dy glust yn gwrando ar weddi dy was, ac ar weddi dy weision y rhai sydd yn ewyllysio ofni dy enw: llwydda hefyd, atolwg, dy was heddiw, a chaniatâ iddo gael trugaredd gerbron y gŵr hwn. Canys myfi oedd drulliad i’r brenin.
PENNOD 2
2:1 Ac ym mis Nisan, yn yr ugeinfed flwyddyn i Artacsercses y brenin, yr oedd gwin o’i flaen ef: a mi a gymerais y gwin, ac a’i rhoddais i’r brenin. Ond ni byddwn arferol o fod yn drist ger ei fron ef.
2:3 Am hynny y brenin a ddywedodd wrthyf, Paham y mae dy wynepryd yn drist, a thithau heb fod yn glaf? nid yw hyn ond tristwch calon. Yna yr ofnais yn
ddirfawr:
2:4 A dywedais wrth y brenin, Byw fyddo’r brenin yn dragywydd: paham na thristái fy wyneb, pan fyddai y ddinas, tŷ beddrod fy nhadau, wedi ei dinistrio, a’i phyrth wedi eu hysu â thân?
2:4 A’r brenin a ddywedodd wrthyf. Pa beth yr wyt ti yn ei ddymuno? Yna y gweddïais ar DDUW y nefoedd.
2:5 A mi a ddywedais wrth y brenin, O rhynga bodd i’r brenin, ac od yw dy was yn gymeradwy ger dy fron di, ar i ti fy anfon i Jwda, i ddinas beddrod fy nhadau, fel yr adeiladwyf hi.
2:6 A’r brenin a ddywedodd wrthyf, a’i wraig yn eistedd yn ei ymyl ef, Pa hyd y bydd dy daith di, a pha bryd y dychweli? A gwelodd y brenin yn dda fy anfon i, a minnau a nodais iddo amser.
2:7 Yna y dywedais wrth y brenin, O rhynga bodd i’r brenin, rhodder i mi lythyrau at y tywysogion o’r<noinclude><references/></noinclude>
ivudngxk022scpokn3xga97ms57kjs0
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/516
104
3772
171293
7021
2026-10-04T05:38:31Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171293
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="I"/>merched hwynt i’ch meibion, nac i chwi eich hunain.
13:26 Onid o achos y rhai hyn y pechodd Solomon brenin Israel? er na bu brenin cyffelyb iddo ef ymysg cenhedloedd lawer, yr hwn oedd hoff gan ei DDUW, a DUW a’i gwnaeth ef yn frenin ar holl Israel, eto gwragedd dieithr a wnaethant iddo ef bechu.
13:27 Ai arnoch chwi y gwrandawn, i wneuthur yr holl ddrygioni mawr hwn, gan droseddu yn erbyn ein DUW, trwy briodi gwragedd dieithr?
13:28 Ac un o feibion Joiada, mab Eliasib yr archoffeiriad, oedd ddaw i Sanbalat yr Horoniad: yr hwn a ymlidiais i oddi wrthyf.
13:29 O fy NUW, cofia hwynt, am iddynt halogi’r offeiriadaeth, a chyfamod yr offeiriadaeth, a’r Lefiaid.
13:30 Yna y glanheais hwynt oddi wrth bob estron; gosodais hefyd oruchwyliaethau i’r offeiriaid ac i’r Lefiaid, pob un yn ei waith;
13:31 Ac at goed yr offrwm mewn amserau nodedig, ac at y blaenffrwythau. Cofia fi, O fy NUW, er daioni.
{{lein|5em}}
<section end="I"/>
<section begin="II"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Esther.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Yn nyddiau Ahasferus, (efe yw Ahasferus yr hwn oedd yn teyrnasu o India hyd Ethiopia, sef ar gant a saith ar hugain o daleithiau;)
1:2 Yn y dyddiau hynny, pan eisteddodd y brenin Ahasferus ar orseddfa ei frenhiniaeth, yr hon oedd yn Susan y brenhinllys,
1:3 Yn y drydedd flwyddyn o’i deyrnasiad, efe a wnaeth wledd i’w holl dywysogion a’i weision, cadernid Persia, a Media, y rhaglawiaid, a thywysogion y taleithiau, oedd ger ei fron ef:
1:4 Fel y dangosai efe gyfoeth a gogoniant ei deyrnas, ac anrhydedd a phrydferthwch ei fawredd, ddyddiau lawer, sef cant a phedwar ugain o ddyddiau.
1:5 Ac wedi gorffen y dyddiau hynny, y brenin a wnaeth i’r holl bobl a gafwyd yn Susan y brenhinllys, o’r mwyaf hyd y lleiaf, wledd dros saith niwrnod, yng nghyntedd gardd palas y brenin:
1:6 Lle yr oedd llenni gwynion, gwyrddion, a rhuddgochion, wedi eu clymu â llinynnau sidan, ac â phorffor, wrth fodrwyau arian, a cholofnau marmor: y gwelyau oedd o aur ac arian, ar balmant o faen grisial, a marmor, ac alabaster, a iasinct.
1:7 Ac yfed diod yr oeddynt mewn llestri aur, a chyfnewid amryw lestri, a gwin brenhinol lawer, yn ôl gallu y brenin.
1:8 Yr yfed hefyd oedd wrth ddefod, nid oedd neb yn cymell: canys gosodasai y brenin orchymyn ar bob swyddwr o fewn ei dŷ, ar wneuthur yn ôl ewyllys pawb.
1:9 Y frenhines Fasti hefyd a wnaeth wledd i’r gwragedd yn y brenhindy oedd eiddo Ahasferus y brenin.
1:10 Ar y seithfed dydd, pan oedd lawen calon y brenin gan win, efe a ddywedodd wrth Mehuman, Bistha, Harbona, Bigtha, ac Abagtha, Sethar, a Charcas, y saith ystafellydd oedd yn gweini gerbron y brenin Ahasferus,
1:11 Am gyrchu y frenhines Fasti o flaen y brenin, yn y frenhinol goron, i ddangos i’r bobloedd ac i’r tywysogion ei glendid hi: canys glân yr olwg ydoedd hi.
1:12 Ond y frenhines Fasti a wrthododd ddyfod wrth air y brenin trwy law ei ystafellyddion: am hynny y llidiodd y brenin yn ddirfawr, a’i ddicllonedd ef a enynnodd ynddo.
1:13 Yna y dywedodd y brenin wrth y doethion oedd yn gwybod yr amserau, (canys felly yr oedd arfer y brenin tuag at bob rhai a fyddai yn gwybod cyfraith a barn:
1:14 A nesaf ato ef oedd Carsena, Sethar, i Admatha, Tarsis, Meres, Marsena, a Memuchan, saith dywysog Persia a Media, y rhai oedd yn gweled wyneb y brenin, ac yn eistedd yn gyntaf yn y frenhiniaeth;)
1:15 Beth sydd i’w wneuthur wrth y gyfraith i’r frenhines Fasti, am na wnaeth hi archiad y brenin Ahasferus trwy law yr ystafellyddion?
{{nop}}<section end="II"/><noinclude><references/></noinclude>
rug0b6c11pi5bki9m2f8wai5809kd8f
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/525
104
3781
171294
7037
2026-10-04T05:39:09Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171294
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Job.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Yr oedd gŵr yng ngwlad Us a’i enw Job, ac yr oedd y gŵr hwnnw yn berffaith ac yn uniawn, ac yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni.
1:2 Ac iddo y ganwyd saith o feibion, a thair o ferched.
1:3 A’i olud oedd saith mil o ddefaid, a thair mil o gamelod, a phum can iau o ychen, a phum cant o asynnod, a llawer iawn o wasanaethyddion, ac yr oedd y gŵr hwn yn fwyaf o holl feibion y dwyrain.
1:4 A’i feibion ef a aent ac a wnaent wledd yn eu tai, bob un ar ei ddiwrnod; ac a anfonent ac a wahoddent eu tair chwaer i fwyta ac i yfed gyda hwynt.
1:5 A phan ddeuai dyddiau y wledd oddi amgylch, yna Job a anfonai ac a’u sancteiddiai hwynt, ac a gyfodai yn fore, ac a offrymai boethoffrymau yn ôl eu rhifedi hwynt oll: canys dywedodd Job, Fy meibion ond odid a bechasant, ac a felltithiasant DDUW yn eu calonnau. Felly y gwnai Job yr holl ddyddiau hynny.
1:6 A dydd a ddaeth i feibion Duw ddyfod i sefyll gerbron yr ARGLWYDD; a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt.
1:7 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, O ba le yr ydwyt ti yn dyfod? A Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O dramwy ar hyd y ddaear, ac o ymrodio ynddi.
1:8 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni?
1:9 Yna Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Ai yn ddiachos y mae Job yn ofni DUW?
1:10 Oni chaeaist o’i amgylch ef, ac o amgylch ei dŷ, ac ynghylch yr hyn oll sydd eiddo oddi amgylch? ti a fendithiaist waith ei ddwylo ef, a’i dda ef a gynyddodd ar y ddaear.
1:11 Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â’r hyn oll sydd ganddo, ac efe a’th felltithia o flaen dy wyneb.
1:12 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, Wele, yr hyn oll sydd eiddo ef yn dy law di; yn unig yn ei erbyn ef ei hun nac estyn dy law. Felly Satan a aeth allan oddi gerbron yr ARGLWYDD.
1:13 A dydd a ddaeth, pan oedd ei feibion ef a’i ferched yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf.
1:14 A daeth cennad at Job, ac a ddy¬wedodd, Yr ychen oedd yn aredig, a’r asynnod oedd yn pori gerllaw iddynt;
1:15 A’r Sabeaid a ruthrasant, ac a’u dygasant ymaith; y llanciau hefyd a drawsant hwy â min y cleddyf, a mi fy hunan yn unig a ddihengais i fynegi i ti.
1:16 Tra yr oedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Tân Duw a syrthiodd o’r nefoedd, ac a losgodd y defaid, a’r gweision, ac a’u hysodd hwynt; ond myfi fy hunan yn unig a ddihengais i fynegi i ti.
1:17 Tra yr ydoedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Y Caldeaid a osodasant dair byddin, ac a ruthrasant i’r camelod, ac a’u dygasant ymaith, ac a drawsant y llanciau â min y cleddyf; a minnau fy hun yn unig a ddi¬hengais i fynegi i ti.
1:18 Tra yr ydoedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Dy feibion a’th ferched oedd yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf:
1:19 Ac wele, gwynt mawr a ddaeth oddi ar yr anialwch, ac a drawodd wrth bedair congl y tŷ, ac efe a syrthiodd ar y llanciau, a buant feirw; ond myfi fy hun yn unig a ddihengais i fynegi i ti.
1:20 Yna y cyfododd Job, ac a rwygodd ei fantell, ac a eilliodd ei ben, ac a syrthiodd i lawr, ac a addolodd;
1:21 Ac a ddywedodd, Noeth y<noinclude><references/></noinclude>
8nq87esy53xdn0mdian71yc442fmzxk
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/554
104
3811
171295
138394
2026-10-04T05:39:45Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171295
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr y psalmau.}}}}}}
PSALM 1
1:1 Gwyn ei fyd y gŵr ni rodia y’nghyngor yr annuwiolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid, ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr.
1:2 Ond ''sydd'' â’i ewyllys y’nghyfraith yr ARGLWYDD; ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.
1:3 Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar làn afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd; a’i ddalen ni wywa; a pha beth bynnag a wnel, efe a lwydda.
1:4 Nid felly ''y bydd'' yr annuwiol; ond fel mân us yr hwn a chwal y gwynt ymaith.
1:5 Am hynny yr annuwiolion ni safant yn y farn, na phechaduriaid y’nghynulleidfa y rhai cyfiawn.
1:6 Canys yr ARGLWYDD a edwyn ffordd y rhai cyfiawn: ond ffordd yr annuwiolion a ddifethir.
PSALM 2
2:1 Paham y terfysga y cenhedloedd, ac y myfyria y bobloedd beth ofer?
2:2 Y mae brenhinoedd y ddaear yn ymosod, a’r pennaethiaid yn ymgynghori ynghyd, yn erbyn yr ARGLWYDD, ac yn erbyn ei Grist ef, ''gan ddywedyd'',
2:3 Drylliwn eu rhwymau hwy, a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym.
2:4 Yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd: yr ARGLWYDD a’u gwatwar hwynt.
2:5 Yna y llefara efe wrthynt yn ei lid, ac yn ei ddigllonrwydd y dychryna efe hwynt.
2:6 Minnau a osodais fy Mrenhin ar Sïon fy mynydd sanctaidd.
2:7 Mynegaf y ddeddf: dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Fy Mab ''ydwyt'' ti; myfi heddiw a’th genhedlais.
2:8 Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y ddaear i’th feddiant.
2:9 Drylli hwynt â gwïalen haiarn; maluri hwynt fel llestr pridd.
2:10 Gan hynny yr awr hon, frenhinoedd, byddwch synhwyrol: barnwyr y ddaear, cymerwch ddysg.
2:11 Gwasanaethwch yr ARGLWYDD mewn ofn, ac ymlawenhêwch mewn dychryn.
2:12 Cusenwch y Mab, rhag iddo ddigio, a’ch difetha chwi ''o''’r ffordd, pan gynneuo ei lid ef ond ychydig. Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef.
PSALM 3
3:1 Psalm Dafydd, pan ffodd efe rhag Absalom ei fab. ARGLWYDD, mor aml yw fy nhrallodwyr! llawer ''yw'' y rhai sydd yn codi i’m herbyn.
3:2 Llawer ''yw y rhai'' sydd yn dywedyd am fy enaid, Nid ''oes'' iachawdwriaeth iddo yn ''ei'' DDUW. Selah.
3:3 Ond tydi, ARGLWYDD, ''ydwyt'' darian i mi; fy ngogoniant, a dyrchafydd fy mhen.
3:4 A’m llef y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac efe a’m clybu o’i fynydd sanctaidd. Selah.
3:5 Mi a orweddais, ac a gysgais, ''ac'' a ddeffroais: canys yr ARGLWYDD a’m cynhaliodd.
3:6 Nid ofnaf fyrddiwn o bobl, y rhai o amgylch a ymosodasant i’m herbyn.
3:7 Cyfod, ARGLWYDD; achub fi, fy NUW: canys tarewaist fy holl elynion ''ar'' gar yr ên; torraist ddannedd yr annuwiolion.
3:8 Iachawdwriaeth ''sydd eiddo'' yr ARGLWYDD: dy fendith ''sydd'' ar dy bobl. Selah.
PSALM 4
4:1 I’r Pencerdd ar Neginoth, Psalm Dafydd. Gwrando fi pan alwyf, O DDUW fy nghyfiawnder: mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf; trugarhâ wrthyf, ac erglyw fy ngweddi.
4:2 O feibion dynion, pa hyd ''y trowch'' fy ngogoniant yn warth? yr hoffwch wegi, ''ac'' yr argeisiwch gelwydd? Selah.
4:3 Ond gwybyddwch i’r ARGLWYDD neillduo y duwiol iddo ei hun: yr<noinclude><references/></noinclude>
4ny53j9g6pegai8id2fifa8px6qp1gz
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/624
104
3986
171296
7486
2026-10-04T05:40:32Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171296
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr y Diarhebion.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Diarhebion Solomon mab Dafydd, brenin Israel;
1:2 I wybod doethineb ac addysg, i ddeall geiriau synnwyr;
1:3 I gymryd athrawiaeth deall, cyfiawnder, a barn, ac uniondeb;
1:4 I roi callineb i’r angall, ac i’r bachgen wybodaeth a synnwyr.
1:5 Y doeth a wrendy, ac a chwanega addysg; a’r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog:
1:6 I ddeall dihareb, a’i deongl; geiriau y doethion, a’u damhegion.
1:7 Ofn yr ARGLWYDD yw dechreuad gwybodaeth: ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg.
1:8 Fy mab, gwrando addysg dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam:
1:9 Canys cynnydd gras a fyddant hwy i’th ben, a chadwyni am dy wddf di.
1:10 Fy mab, os pechaduriaid a’th ddenant, na chytuna.
1:11 Os dywedant, Tyred gyda ni, cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos:
1:12 Llyncwn hwy yn fyw, fel y bedd; ac yn gyfan, fel rhai yn disgyn i’r pydew:
1:13 Nyni a gawn bob cyfoeth gwerthfawr, nyni a lanwn ein tai ag ysbail:
1:14 Bwrw dy goelbren yn ein mysg; bydded un pwrs i ni i gyd:
1:15 Fy mab, na rodia yn y ffordd gyda hwynt; atal dy droed rhag eu llwybr hwy.
1:16 Canys eu traed a redant i ddrygioni, ac a brysurant i dywallt gwaed.
1:17 Diau gwaith ofer yw taenu rhwyd yng ngolwg pob perchen adain.
1:18 Ac y maent hwy yn cynllwyn am eu gwaed eu hun: am eu heinioes eu hun y maent yn llechu.
1:19 Felly y mae llwybrau y rhai oll sydd chwannog i elw; yr hwn a ddwg einioes ei berchenogion.
1:20 Doethineb sydd yn gweiddi oddi allan; y mae hi yn adrodd ei lleferydd yn yr heolydd:
1:21 Y mae hi yn llefain ym mhrifleoedd y dyrfa, yn nrysau y pyrth; yn y ddinas y mae hi yn traethu ei hymadroddion, gan ddywedyd,
1:22 Pa hyd, chwi ynfydion, y cerwch ynfydrwydd? a chwi watwarwyr, y bydd hoff gennych watwar? ac y casâ ffyliaid wybodaeth?
1:23 Dychwelwch wrth fy ngherydd: wele, mi a dywalltaf fy ysbryd i chwi, fy ngeiriau a hysbysaf i chwi.
1:24 Yn gymaint ag i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod; i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried;
1:25 Ond diystyrasoch fy holl gyngor i, ac ni fynnech ddim o’m cerydd:
1:26 Minnau hefyd a chwarddaf yn eich dialedd chwi; mi a wawdiaf pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni;
1:27 Pan ddêl amoch yr hyn yr ydych yn ei ofni megis distryw, ac y dêl eich dialedd arnoch megis corwynt; a dyfod arnoch wasgfa a chaledi:
1:28 Yna y galwant arnaf, ond ni wrandawaf; yn fore y’m ceisiant, ond ni’m cânt:
1:29 Canys cas fu ganddynt wybodaeth, ac ofn yr ARGLWYDD ni ddewisasant:
1:30 Ni chymerent ddim o’m cyngor i; dirmygasant fy holl gerydd.
1:31 Am hynny hwy a gant fwyta ffrwyth eu ffordd eu hunain, a’u llenwi â’u cynghorion eu hunain.
1:32 Canys esmwythdra y rhai angall a’u lladd; a llwyddiant y rhai ffôl a’u difetha.
1:33 Er hynny y sawl a wrandawo arnaf fi, a gaiff aros yn ddiogel, ac a gaiff lonyddwch oddi wrth ofn drwg.
PENNOD 2
2:1 Fy mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi;
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
mg9w31g74ut9u0ka94vn6xr3pzymlcx
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/647
104
4011
171297
7519
2026-10-04T05:41:52Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171297
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Diarhebion"/>31:20 Hi a egyr ei llaw i’r tlawd, ac a estyn ei dwylo i’r anghenus.
31:21 Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eira; canys ei holl dŷ hi a ddilledir ag ysgarlad.
31:22 Hi a weithia iddi ei hun garpedau; ei gwisg yw sidan a phorffor.
31:23 Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyda henuriaid y wlad.
31:24 Hi a wna liain main, ac a’i gwerth, ac a rydd wregysau at y marsiandwr.
31:25 Nerth ac anrhydedd yw ei gwisg; ac yn yr amser a ddaw hi a chwardd.
31:26 Hi a egyr ei genau yn ddoeth: a chyfraith trugaredd sydd ar ei thafod hi.
31:27 Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thŷ: ac ni fwyty hi fara seguryd.
31:28 Ei phlant a godant, ac a’i galwant yn ddedwydd; ei gŵr hefyd, ac a’i canmol hi:
31:29 Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll.
31:30 Siomedig yw ffafr, ac ofer yw tegwch; ond benyw yn ofni yr ARGLWYDD, hi a gwy gaiff glod.
31:31 Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylo; a chanmoled ei gweithredoedd hi yn y pyrth.
<section end="Diarhebion"/>
<section begin="Pregethwr"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Ecclesiastes,}}}}<br>
{{uc|Neu y Pregethwr.}}}}
PENNOD 1
1:1 Geirau y Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem.
1:2 Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr, gwagedd o wagedd; gwagedd yw y cwbl.
1:3 Pa fudd sydd i ddyn o’i holl lafur a gymer efe dan yr haul?
1:4 Un genhedlaeth a â ymaith, a chenhedlaeth arall a ddaw: ond y ddaear a saif byth.
1:5 Yr haul hefyd a gyfyd, a’r haul a fachlud, ac a brysura i’w le lle y mae yn codi.
1:6 Y gwynt a â i’r deau, ac a amgylcha i’r gogledd: y mae yn myned oddi amgylch yn wastadol, y mae y gwynt yn dychwelyd yn ei gwmpasoedd.
1:7 Yr holl afonydd a redant i’r môr, eto nid yw y môr yn llawn: o’r lle y daeth yr afonydd, yno y dychwelant eilwaith.
1:8 Pob peth sydd yn llawn blinder; ni ddichon dyn ei draethu: ni chaiff y llygad ddigon o edrych, ac ni ddigonir y glust a chlywed.
1:9 Y peth a fu, a fydd; a’r peth a wnaed, a wneir: ac nid oes dim newydd dan yr haul.
1:10 A oes dim y gellir dywedyd amdano, Edrych ar hwn, dyma beth newydd? efe fu eisoes yn yr hen amser o’n blaen ni.
1:11 Nid oes goffa am y pethau gynt; ac ni bydd coffa am y pethau a ddaw, gan y rhai a ddaw ar ôl.
1:12 Myfi y Pregethwr oeddwn frenin ar Israel yn Jerwsalem;
1:13 Ac a roddais fy mryd ar geisio a chwilio trwy ddoethineb, am bob peth a wnaed dan y nefoedd: y llafur blin yma a roddes Duw ar feibion dynion i ymguro ynddo.
1:14 Mi a welais yr holl weithredoedd a wnaed dan haul; ac wele, gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl.
1:15 Ni ellir unioni yr hyn sydd gam, na chyfrif yr hyn sydd ddiffygiol.
1:16 Mi a ymddiddenais â’m calon fy hun, gan ddywedyd, Wele, mi a euthum yn fawr, ac a gesglais ddoethineb tu hwnt i bawb a fu o’m blaen i yn Jerwsalem; a’m calon a ddeallodd lawer o ddoethineb a gwybodaeth.
1:17 Mi a roddais fy nghalon hefyd i wybod doethineb, ac i wybod ynfydrwydd a ffolineb: mi a wybûm fod hyn hefyd yn orthrymder ysbryd.
1:18 Canys mewn llawer o ddoethineb y mae llawer o ddig: a’r neb a chwanego wybodaeth, a chwanega ofid.
{{nop}}<section end="Pregethwr"/><noinclude><references/></noinclude>
pttqjrjdfywcj8gtdh29iawaryvgohn
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/655
104
4019
171298
7543
2026-10-04T05:42:41Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171298
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Pregethwr"/>pan fo isel sŵn y malu, a’i gyfodi wrth lais yr aderyn, a gostwng i lawr holl ferched cerdd:
12:5 Ie, yr amser yr ofnant yr hyn sydd uchel, ac yr arswydant yn y ffordd, ac y blodeua y pren almon, ac y bydd y ceiliog rhedyn yn faich, ac y palla chwant: pan elo dyn i dŷ ei hir gartref, a’r galarwyr yn myned o bob tu yn yr heol:
12:6 Cyn torri y llinyn arian, a chyn torri y cawg aur, a chyn torri y piser gerllaw y ffynnon, neu dorri yr olwyn wrth y pydew.
12:7 Yna y dychwel y pridd i’r ddaear fel y bu, ac y dychwel yr ysbryd at DDUW, yr hwn a’i rhoes ef.
12:8 Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr; gwagedd yw y cwbl.
12:9 A hefyd, am fod y Pregethwr yn ddoeth, efe a ddysgodd eto wybodaeth i’r bobl; ie, efe a ystyriodd, ac a chwiliodd allan, ac a drefnodd ddiarhebion lawer.
12:10 Chwiliodd y Pregethwr am eiriau cymeradwy; a’r hyn oedd ysgrifenedig oedd uniawn, sef geiriau gwirionedd.
12:11 Geiriau y doethion sydd megis symbylau, ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistriaid y gynulleidfa, y rhai a roddir oddi wrth un bugail.
12:12 Ymhellach hefyd, fy mab, cymer rybudd wrth y rhai hyn, nid oes diben ar wneuthur llyfrau lawer, a darllen llawer sydd flinder i’r cnawd.
12:13 Swm y cwbl a glybuwyd yw, Ofna DDUW, a chadw ei orchmynion: canys hyn yw holl ddyled dyn.
12:14 Canys Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynnag fyddo ai da ai drwg.
<section end="Pregethwr"/>
<section begin="Caniad"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Caniad Solomon.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Cân y caniadau, eiddo Solomon.
1:2 Cusaned fi â chusanau ei fin: canys gwell yw dy gariad na gwin.
1:3 Oherwydd arogl dy ennaint daionus, ennaint tywalltedig yw dy enw: am hynny y llancesau a’th garant.
1:4 Tyn fi, ni a redwn ar dy ôl. Y brenin a’m dug i i’w ystafellau: ni a ymhyfrydwn ac a ymlawenhawn ynot; ni a gofiwn dy gariad yn fwy na gwin: y rhai uniawn sydd yn dy garu.
1:5 Du ydwyf fi, ond hawddgar, merched Jerwsalem, fel pebyll Cedar, fel llenni Solomon.
1:6 Nac edrychwch arnaf, am fy mod yn ddu, ac am i’r haul edrych arnaf: meibion fy mam a ddigiasant wrthyf, gosodasant fi i gadw gwinllannoedd eraill; fy ngwinllan fy hun ms cedwais.
1:7 Mynega i mi, yr hwn a hoffodd fy enaid, pa le yr wyt yn bugeilio, pa le y gwnei iddynt orwedd ganol dydd: canys paham y byddaf megis un yn troi heibio wrth ddiadellau dy gyfeillion?
1:8 Oni wyddost ti, y decaf o’r gwragedd, dos allan rhagot ar hyd ôl y praidd, a phortha dy fynnod gerllaw pebyll y bugeiliaid.
1:9 I’r meirch yng ngherbydau Pharo y’th gyffelybais, fy anwylyd.
1:10 Hardd yw dy ruddiau gan dlysau, a’th wddf gan gadwyni.
1:11 Tlysau o aur, a boglynnau o arian, a wnawn i ti.
1:12 Tra yw y brenin ar ei fwrdd, fy nardus i a rydd ei arogl.
1:13 Fy anwylyd sydd i mi yn bwysi myrr, rhwng fy mronnau yr erys dros nos.
1:14 Cangen o rawn camffir yw fy anwylyd i mi, yng ngwinllannoedd Engedi.
1:15 Wele di yn deg, tŷ anwylyd, wele di yn deg; y mae i ti lygaid colomennod.
1:16 Wele di, fy anwylyd, yn deg, ac yn hawddgar; ein gwely hefyd sydd iraidd.
1:17 Swmerau ein tai sydd gedrwydd, ein distiau sydd ffynidwydd.
PENNOD 2
{{nop}}<section end="Caniad"/><noinclude><references/></noinclude>
pigguasjwewm0zanpqy8grro7d0d2z4
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/659
104
4023
171299
7542
2026-10-04T05:44:59Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171299
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Caniad"/>8:2 Arweiniwn, a dygwn di i dŷ fy mam, yr hon a’m dysgai: parwn i ti yfed gwin llysieuog o sugn fy mhomgranadau.
8:3 Ei law aswy fyddai dan fy mhen, a’i law ddeau a’m cofleidiai.
8:4 Tynghedaf chwi, ferched Jerwsalem, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.
8:5 Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o’r anialwch, ac yn pwyso ar ei hanwylyd? Dan yr afallen y’th gyfodais: yno y’th esgorodd dy fam; yno y’th esgorodd yr hon a’th ymddûg.
8:6 Gosod fi megis sêl ar dy galon, fel sêl ar dy fraich: canys cariad sydd gryf fel angau; eiddigedd sydd greulon fel y bedd: ei farwor sydd farwor tanllyd, a fflam angerddol iddynt.
8:7 Dyfroedd lawer ni allant ddiffoddi cariad, ac afonydd nis boddant: pe rhoddai ŵr holl gyfoeth ei dy am gariad, gan ddirmygu y dirmygid hynny.
8:8 Y mae i ni chwaer fechan, ac nid oes fronnau iddi: beth a wnawn i’n chwaer y dydd y dyweder amdani?
8:9 Os caer yw hi, ni a adeiladwn arni balas arian, ac os drws yw hi, ni a’i caewn hi ag ystyllod cedrwydd.
8:10 Caer ydwyf fi, a’m bronnau fel tyrau: yna yr oeddwn yn ei olwg ef megis wedi cael tangnefedd.
8:11 Yr oedd gwinllan i Solomon yn Baalhamon: efe a osododd y winllan i warcheidwaid; pob un a ddygai am ei ffrwyth fil o ddarnau arian.
8:12 Fy ngwinllan sydd ger fy mron: mil a roddir i ti, Solomon, a dau cant i’r rhai a gadwant ei ffrwyth hi.
8:13 O yr hon a drigi yn, y gerddi, y cyfeillion a wrandawant ar dy lais: pâr i mi ei glywed.
8:14 Brysia, fy anwylyd, a bydd debyg i iwrch neu lwdn hydd ar fynyddoedd y perlysiau.
<section end="Caniad"/>
<section begin="Eseia"/>{{canoli|{{uc|Llyfr y}}<br>
{{mawr|{{uc|Prophwyd Esaiah.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Gweledigaeth Eseia mab Amos, yr hon a welodd efe am Jwda a Jerwsalem, yn nyddiau Usseia, Jotham, Alias, a Heseceia, brenhinoedd Jwda.
1:2 Gwrandewch, nefoedd; clyw dithau ddaear: canys yr ARGLWYDD a lefarodd, Megais a meithrinais feibion, a hwy a wrthryfelasant i’m herbyn.
1:3 Yr ych a edwyn ei feddiannydd, a’r asyn breseb ei berchennog: ond Israel nid edwyn, fy mhobl ni ddeall.
1:4 O genhedlaeth bechadurus, pobl lwythog o anwiredd, had y rhai drygionus, meibion yn llygru: gwrthodasant yr ARGLWYDD, digiasant Sanct Israel, ciliasant yn ôl!
1:5 I ba beth y’ch trewir mwy? cildynrwydd a chwanegwch: y pen oll sydd glwyfus, a’r holl galon yn llesg.
1:6 O wadn y troed hyd y pen nid oes dim cyfan ynddo; ond archollion, a chleisiau, a gweliau crawnllyd: ni wasgwyd hwynt, ac ni rwymwyd, ac ni thynerwyd ag olew.
1:7 Y mae eich gwlad yn anrheithiedig, eich dinasoedd wedi eu llosgi â thân: eich tir a dieithriaid yn ei ysu yn eich gŵydd, ac wedi ei anrheithio fel ped ymchwelai estroniaid ef.
1:8 Merch Seion a adewir megis lluesty mewn gwinllan, megis llety mewn gardd cucumerau, megis dinas warchaeëdig.
1:9 Oni buasai i ARGLWYDD y lluoedd adael i ni ychydig iawn o weddill, fel Sodom y buiasem, a chyffelyb fuasem i Gomorra.
1:10 Gwrandewch air yr ARGLWYDD tywysogion Sodom, clywch gyfraith ein Duw ni, pobl Gomorra.
1:11 Beth yw lluosowgrwydd eich <section end="Eseia"/><noinclude><references/></noinclude>
iy7fa481jc9ebfvhko4ds8kw02s179o
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/711
104
4171
171300
7734
2026-10-04T05:45:53Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171300
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{uc|Llyfr y}}<br>
{{mawr|{{uc|Prophwyd Jeremiah.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Geiriau Jeremeia mab Hilceia, o’r offeiriaid y rhai oedd yn Anathoth, o fewn tir Benjamin:
1:2 Yr hwn y daeth gair yr ARGLWYDD ato, yn nyddiau Joseia mab Amon brenin Jwda, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o’i deyrnasiad ef.
1:3 Ac fe ddaeth yn nyddiau Jehoiacim Blab Joseia brenin Jwda, nes darfod un flynedd ar ddeg i Sedeceia mab Joseia brenin Jwda, hyd ddygiad Jerwsalem i gaethiwed yn y pumed mis.
1:4 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
1:5 Cyn i mi dy lunio di yn y groth, mi a’th adnabûm; a chyn dy ddyfod o’r groth, y sancteiddiais di; a mi a’th roddais yn broffwyd i’r cenhedloedd.
1:6 Yna y dywedais, O Arglwydd DDUW, wele, ni fedraf ymadrodd; canys bachgen ydwyf fi.
1:7 Ond yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Na ddywed, Bachgen ydwyf fi: canys ti a ei at y rhai oll y’th anfonwyf, a’r hyn oll a orchmynnwyf i ti a ddywedi.
1:8 Nac ofna rhag eu hwynebau hwynt: Canys yr ydwyf fi gyda thi i’th waredu, medd yr ARGLWYDD.
1:9 Yna yr estynnodd yr ARGLWYDD ei law, ac a gyffyrddodd â’m genau. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau di.
1:10 Gwêl, heddiw y’th osodais ar y cenhedloedd, ac ar y teyrnasoedd, i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, i ddifetha, ac i ddistrywio, i adeiladu, ac i blannu.
1:11 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, Jeremeia, beth a weli di? Minnau a ddywedais, Gwialen almon a welaf fi.
1:12 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Da y gwelaist; canys mi a brysuraf fy ngair i’w gyflawni.
1:13 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf yr ail waith, gan ddywedyd, Beth a weli di? A mi a ddywedais. Mi a welaf grochan berwedig, a’i wyneb tua’r gogledd.
1:14 Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, O’r gogledd y tyr drwg allan ar holl drigolion y tir.
1:15 Canys wele, myfi a alwaf holl deuluoedd teyrnasoedd y gogledd, medd yr ARGLWYDD, a hwy a ddeuant, ac a osodant bob un ei orseddfainc wrth ddrws porth Jerwsalem, ac yn erbyn ei muriau oll o amgylch, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda.
1:16 A mi a draethaf fy marnedigaethau yn eu herbyn, am holl anwiredd y rhai a’m gadawsant, ac a arogl-darthasant i dduwiau eraill, ac a addolasant weithredoedd eu dwylo eu hunain.
1:17 Am hynny gwregysa dy lwynau, a chyfod, a dywed wrthynt yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti: na arswyda eu hwynebau, rhag i mi dy ddistrywio di ger eu bron hwynt.
1:18 Canys wele, heddiw yr ydwyf yn dy roddi di yn ddinas gaerog, ac yn golofn haearn, ac yn fur pres, yn erbyn yr holl dir, yn erbyn brenhinoedd Jwda, yn erbyn ei thywysogion, yn erbyn ei hoffeiriaid, ac yn erbyn pobl y tir.
1:19 Ymladdant hefyd yn dy erbyn, ond ni’th orchfygant: canys myfi sydd gyda thi i’th ymwared, medd yr ARGLWYDD.
PENNOD 2
2:1 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd,
2:2 Cerdda, a llefa yng nghlustiau Jerw¬salem, gan ddywedyd, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD. Cofiais di, caredigrwydd dy ieuenctid, a serch dy ddyweddi, pan y’m canlynaist yn y diffeithwch, mewn tir ni heuwyd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
hi9s0vul447uucqa1i5ge54hz4y92cl
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/772
104
4236
171301
7822
2026-10-04T05:46:35Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171301
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Jeremeia"/>º32 Ac a ddywedodd yn deg wrtho, ac a osododd ei frenhinfainc ef uwchlaw gorseddfeinciau y brenhinoedd, y rhai oedd gydag ef yn Babilon.
º33 Ac efe a newidiodd ei garcharwisg ef: ac efe a fwytaodd fara ger ei fron ef yn wastad, holl ddyddiau ei einioes.
º34 Ac am ei luniaeth ef, lluniaeth gwastadol a roddwyd iddo gan frenin Babilon, dogn dydd yn ei ddydd, hyd ddydd ei farwolaeth, holl ddyddiau ei einioes.
<section end="Jeremeia"/>
<section begin="Galarnad"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Galarnad Jeremiah.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Pa fodd y mae y ddinas aml ei phobl yn eistedd ei hunan! pa fodd y mae y luosog ymhlith y cenhedloedd megis yn weddw! pa fodd y mae tywysoges y taleithiau dan deyrnged?
1:2 Y mae hi yn wylo yn hidl liw nos, ac y mae ei dagrau ar ei gruddiau, heb neb o'i holl gariadau yn ei chysuro: ei holl gyfeillion a fuant anghywir iddi, ac a aethant yn elynion iddi.
1:3 Jwda a fudodd ymaith gan flinder, a chan faint caethiwed; y mae hi yn aros ymysg y cenhedloedd, heb gael gorffwystra: ei holl erlidwyr a'i goddiweddasant hi mewn lleoedd cyfyng.
1:4 Y mae ffyrdd Seion yn galaru, o eisiau rhai yn dyfod i'r ŵyl arbennig: i holl byrth hi sydd anghyfannedd, ei hoffeiriaid yn ucheneidio, ei morynion yn ofidus, a hithau yn flin arni.
1:5 Ei gwrthwynebwyr ydynt bennaf, y mae ei gelynion yn ffynnu: canys yr ARGLWYDD a'i gofidiodd hi am amlder ei chamweddau: ei phlant a aethant i gaethiwed o flaen y gelyn.
1:6 A holl harddwch merch Seion a ymadawodd â hi; y mae ei thywysogion hi fel hyddod heb gael porfa, ac yn myned yn ddi-nerth o flaen yr ymlidiwr.
1:7 Y mae Jerwsalem, yn nyddiau ei blinder a'i chaledi, yn cofio ei holl hyfrydwch oedd iddi yn y dyddiau gynt, pan syrthiodd ei phobl hi yn llaw y gelyn, heb neb yn ei chynorthwyo hi: y gelynion a'i gwelsant hi, ac a chwarddasant am ben ei sabothau.
1:8 Jerwsalem a bechodd bechod, am hynny y symudwyd hi: yr holl rai a'i hanrhydeddent sydd yn ei diystyru hi, oherwydd iddynt weled ei noethni hi: ie, y mae hi yn ucheneidio, ac yn troi yn ei hôl.
1:9 Ei haflendid sydd yn ei godre, nid yw hi yn meddwl am ei diwedd; am hynny y syrthiodd hi yn rhyfedd, heb neb yn ei chysuro. Edrych, ARGLWYDD, ar fy mlinder; canys ymfawrygodd y gelyn.
1:10 Y gwrthwynebwr a estynnodd ei law ar ei holl hoffbethau hi: hi a welodd y cenhedloedd yn dyfod i mewn i'w chysegr, i'r rhai y gorchmynasit ti na ddelent i'th gynulleidfa.
1:11 Y mae ei holl bobl hi yn ucheneidio, yn ceisio bwyd: hwy a roddasant eu hoffbethau am fwyd i ddadebru yr enaid: edrych, ARGLWYDD, a gwêl; canys dirmygus ydwyf fi.
1:12 Onid gwaeth gennych chwi, y fforddolion oil? gwelwch ac edrychwch, a oes y fath ofid â'm gofid i, yr hwn a wnaethpwyd i mi, a'r hwn y gofidiodd yr ARGLWYDD fi yn nydd angerdd ei ddicter.
1:13 O'r uchelder yr anfonodd efe dân i’m hesgyrn i, yr hwn a aeth yn drech na hwynt: efe a ledodd rwyd o flaen fy nhraed, ac a'm dychwelodd yn fy ôl; efe a'm gwnaeth yn anrheithiedig, ac yn ofidus ar hyd y dydd.
1:14 Rhwymwyd iau fy nghamweddau â’i law ef: hwy a blethwyd, ac a ddaethant i fyny am fy ngwddf: efe a wnaeth i'm - nerth syrthio; yr ARGLWYDD a'm rhoddodd mewn dwylo, oddi tan y rhai ni allaf gyfodi.
1:15 Yr ARGLWYDD a fathrodd fy holl rai grymus o'm mewn; efe a gyhoeddodd i'm herbyn gymanfa, i ddifetha fy ngwŷr ieuainc: fel <section end="Galarnad"/><noinclude><references/></noinclude>
dvq8n2yafac67og3hjvli70o8uf668n
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/777
104
4241
171302
138396
2026-10-04T05:47:26Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171302
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Galarnad"/>5:11 Hwy a dreisiasant y gwragedd yn Sïon, ''a'''r morwynion yn ninasoedd Judah.
5:12 Crogasant dywysogion â'u dwylaw; ni pherchid wynebau yr henafgwyr.
5:13 Hwy a gymmerasant y gwŷr ieuaingc i falu; a'r plant a syrthiasant dan y coed.
5:14 Yr henafgwyr a beidiasant â'r porth; y gwŷr ieuaingc â'u cerdd.
5:15 Darfu llawenydd ein calon: ein dawns a drodd yn alar.
5:16 Syrthiodd y goron ''oddi am'' ein pen: gwae ni yn awr bechu o honom!
5:17 Am hyn y mae ein calon yn ofidus; am hyn y tywyllodd ein llygaid.
5:18 O herwydd mynydd Sïon, yr hwn a anrheithiwyd, y mae y llwynogod yn rhodio ynddo.
5:19 Ti, ARGLWYDD, a barhêi byth; dy orsedd-faingc yn oes oesoedd.
5:20 Paham yr anghofi ni byth, ''ac'' y gadewi ni dros hir ddyddiau?
5:21 Dychwel ni, O ARGLWYDD, attat ti, a ni a ddychwelir: adnewydda ein dyddiau megis cynt.
5:22 Eithr ti a'n llwyr-wrthodaist ni: ti a ddigiaist wrthym ni yn ddirfawr.
<section end="Galarnad"/>
<section begin="Eseciel"/>{{canoli|{{uc|Llyfr y}}<br>
{{mawr|{{uc|Prophwyd Ezeciel.}}}}}}
PENNOD 1
1 A DARFU yn y ddegfed flwyddyn ar hugain, yn y pedwerydd ''mis'', ar y pumed ''dydd'' o'r mis, a mi ym mysg y gaethglud wrth afon Chebar, agoryd y nefoedd; a gwelwn weledigaethau DUW.
2 Yn y pumed ''dydd'' o'r mis, honno ''oedd'' y bummed flwyddyn o gaethgludiad brenhin Jehoiachin,
3 Y daeth gair yr ARGLWYDD yn eglur at Ezeciel yr offeiriad, mab Buzi, yn nhir y Caldeaid, wrth afon Chebar; ac yno y bu llaw yr ARGLWYDD arno ef.
4 Yna yr edrychais, ac wele yn dyfod o'r gogledd gorwynt, ''a'' chwmmwl mawr, a thân yn ymgymmeryd, a disgleirdeb o amgylch iddo; ac o'i ganol, ''sef'' o ganol y tân, fel lliw ambr.
5 Hefyd o'i ganol ''y daeth'' cyffelybrwydd i bedwar peth byw. A dyma eu hagwedd hwynt; Dull dyn oedd iddynt.
6 A phedwar wyneb ''i bob'' un, a phedair aden ''i bob'' un o honynt.
7 A'u traed yn draed uniawn; a gwadn eu traed fel gwadn troed llo; a gwreichioni yr oeddynt fel lliw efydd gloyw.
8 Ac ''yr oedd'' dwylaw dyn oddi tan eu hadenydd, ar eu pedwar ystlys; eu hwynebau hefyd a'u hadenydd ''oedd'' ganddynt ill pedwar.
9 Eu hadenydd hwynt ''oedd'' wedi en cysylltu y naill wrth y llall: pan gerddent, ni thröent; âent bob un yn uniawn rhag ei wyneb.
10 Dyma ddull eu hwynebau hwynt; Wyneb dyn, ac wyneb llew, ''oedd'' ar y tu dehau iddynt ill pedwar: ac wyneb ŷch o'r tu aswy iddynt ill pedwar, ac wyneb eryr iddynt ill pedwar.
11 Dyma eu hwynebau hwynt; a'u hadenydd ''oedd'' wedi eu dosparthu oddi arnodd, dwy i bob un wedi eu cyssylltu â'u gilydd, a dwy oedd yn cuddio eu cyrph.
12 Aent hefyd bob un yn uniawn rhag ei wyneb; i'r lle y byddai yr yspryd ar fyned, yno yr âent; ni thröent pan gerddent.
13 Dyma ddull y pethau byw; Eu gwelediad oedd fel marwor tân yn llosgi, ''ac'' fel gwelediad ffaglau: yr oedd efe yn ymgerdded rhwng y pethau byw, a disglair oedd y tân, a mellt yn dyfod allan o'r tân.
14 Rhedai hefyd a dychwelai y pethau byw, fel gwelediad mellten.
15 Edrychais hefyd ar y pethau byw: ac wele ar lawr yn ymyl y pethau byw un olwyn, gyd â'i bedwar wyneb.
16 Dull yr olwynion a'u gwaith ''oedd'' fel lliw beryl: a'r un dull oedd iddynt ill pedair; a'u gwedd hwynt a'u gwaith fel pe byddai olwyn y'nghanol olwyn.
17 Pan elent, âent ar eu pedwar ochr: ni thröent pan gerddent.
{{nop}}<section end="Eseciel"/><noinclude><references/></noinclude>
qadghgdr82h9tmp4dwcrcdfv5ggp6xg
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/832
104
4306
171303
7926
2026-10-04T05:48:10Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171303
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{c|{{mawr|{{uc|Llyfr Daniel}}.}}}}
PENNOD 1
1:1 Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i Jerwsalem, ac a warchaeodd arni.
1:2 A’r ARGLWYDD a roddes i’w law Jehoiacim brenin Jwda, a rhan o lestri tŷ DDUW; yntau a’u dug hwynt i wlad Sinar, i dŷ ei dduw ef; ac i drysordy ei dduw y dug efe y llestri.
1:3 A dywedodd y brenin wrth Aspenas ei ben-ystafellydd, am ddwyn o feibion Israel, ac o’r had brenhinol, o’r tywysogion,
1:4 Fechgyn y rhai ni byddai ynddynt ddim gwrthuni, eithr yn dda yr olwg, a deallgar ym mhob doethineb, ac yn y gwybod gwybodaeth, ac yn deall cyfarwyddyd, a’r rhai y byddai grym ynddynt i sefyll yn llys y brenin, i’w dysgu ar lyfr ac yn iaith y Caldeaid.
1:5 A’r brenin a ddognodd iddynt ran beunydd o fwyd y brenin, ac o’r gwin a yfai efe; felly i’w maethu hwynt dair blynedd, fel y safent ar ôl hynny gerbron y brenin.
1:6 Ac yr ydoedd yn eu plith hwynt feibion Jwda, Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia:
1:7 A’r pen-ystafellydd a osododd arnynt enwau: canys ar Daniel y gosododd efe Beltesassar; ac ar Hananeia, Sadrach; ac ar Misael, Mesach; ac ar Asareia, Abednego.
1:8 Daniel a roddes ei fryd nad ymhalogai efe trwy ran o fwyd y brenin, na thrwy y gwin a yfai efe: am hynny efe a ddymunodd ar y pen-ystafellydd, na byddai raid iddo ymhalogi.
1:9 A DUW a roddes Daniel mewn ffafra thiriondeb gyda’r pen-ystafellydd.
1:10 A’r pen-ystafellydd a ddywedod wrth Daniel, Ofni yr ydwyf fi fy arglwydd y brenin, yr hwn a osododd eich bwyd chwi a’ch diod chwi: oherwydd paham y gwelai efe eich wynebau yn gulach na’r bechgyn sydd fel chwithau? felly y parech fy mhen yn ddyledus i’r brenin.
1:11 Yna y dywedodd Daniel wrth Melsar, yr hwn a osodasai y pen-ystafellydd ar Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia,
1:12 Prawf, atolwg, dy weision ddeg diwrnod, a rhoddant i ni ffa i’w bwyta, a dwfr i’w yfed.
1:13 Yna edrycher ger dy fron di ein gwedd ni, a gwedd y bechgyn sydd yn bwyta rhan o fwyd y brenin: ac fel y gwelych, gwna â’th weision.
1:14 Ac efe a wrandawodd arnynt yn y peth hyn, ac a’u profodd.hwynt ddeg o ddyddiau.
1:15 Ac ymhen y deng niwrnod y gwelid eu gwedd hwynt yn decach, ac yn dewach o gnawd, na’r holl fechgyn oedd yn bwyta rhan o fwyd y brenin
1:16 Felly Melsar a gymerodd ymaith ran eu bwyd hwynt, a’r gwin a yfent; ac a roddes iddynt ffa.
1:17 A’r bechgyn hynny ill pedwar, DUW a roddes iddynt wybodaeth a deall ym mhob dysg a doethineb: a Daniel a hyfforddiodd efe ym mhob gweledigaeth a breuddwydion.
1:18 Ac ymhen y dyddiau y dywedasai y brenin am eu dwyn hwynt i mewn, yna y pen-ystafellydd a’u dug hwynt gerbron Nebuchodonosor.
1:19 A’r brenin a chwedleuodd â hwynt; ac ni chafwyd ohonynt oll un fel Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia: am hynny y safasant hwy gerbron y brenin.
1:20 Ac ym mhob rhyw ddoethineb a deall a’r a ofynnai y brenin iddynt, efe a’u cafodd hwynt yn ddeg gwell na’r holl ddewiniaid a’r astronomyddion oedd o fewn ei holl frenhiniaeth ef.
1:21 A bu Daniel hyd y flwyddyn gyntaf i’r brenin Cyrus.
PENNOD 2
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
gwbnc0j96xl78kefgtszekmtqiy15fi
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/848
104
4322
171304
7944
2026-10-04T05:48:53Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171304
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Daniel"/>hefyd a’r Ethiopiaid fyddant ar ei ôl ef.
11:44 Eithr chwedlau o’r dwyrain ac o’r glgledd a’i trallodant ef: ac efe a â allan mewn llid mawr i ddifetha, ac i ddifrodi llawer.
11:45 Ac efe a esyd bebyll ei lys rhwng Y y moroedd ar yr hyfryd fynydd sanctaidd: eto efe a ddaw hyd ei derfyn, ac ni bydd cynorthwywr iddo.
PENNOD 12
12:1 Ac yn yr amser hwnnw y saif Michael y twysog mawr, yr hwn sydd yn sefyll dros feibion dy bobl: yna y bydd amser blinder, y cyfryw ni bu er pan yw cenedl hyd yr amser hwnnw: ac yn yr amser hwnnw y gwaredir dy holl bobl, y rhai a gaffer yn ysgrifenedig yn y llyfr.
12:2 A llawer o’r rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaear a ddeffroant, rhai i fywyd tragwyddol, a rhai i warth a dirmyg tragwyddol.
12:3 A’r doethion a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen; a’r rhai a droant lawer i gyfiawnder, a fyddant fel y sêr byth yn dragywydd.
12:4 Tithau, Daniel, cae ar y geiriau, a selia y llyfr hyd amser y diwedd: ac a a gynweiriant, a gwybodaeth a amlheir.
12:5 Yna myfi Daniel a edrychais, ac wele ddau eraill yn sefyll, un o’r tu yma ar fin yr afon, ac un arall o’r tu arall ar fin yr afon.
12:6 Ac un a ddywedodd wrth yr wisgasid â lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon, Pa hyd fydd hyd diwedd y rhyfeddodau hyn?
12:7 Clywais hefyd y gŵr, a wisgasid â lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon, pan ddyrchafodd efe ei law ddeau a’i aswy tua’r nefoedd, ac y tyngodd i’r hwn sydd yn byw yn dragywydd, y bydd dros amser, amserau, a hanner: ac wedi darfod gwasgaru nerth y bobl sanctaidd, y gorffennir hyn oll.
12:8 Yna y clywais, ond ni ddeellais: eithr dywedais, O fy arglwydd, beth fydd diwedd y pethau hyn?
12:9 Ac efe a ddywedodd, Dos, Daniel: canys caewyd a seliwyd y geiriau hyd amser y diwedd.
12:10 Llawer a burir, ac a gennir, ac a brofir; eithr y rhai drygionus a wnânt ddrygioni: ac ni ddeall yr un o’r rhai drygionus; ond y rhai doethion a ddeallant.
12:11 Ac o’r amser y tynner ymaith y gwastadol: aberth, ac y gosoder i fyny y ffieidd-dra anrheithiol, y bydd mil dau cant a deg a phedwar ugain o ddyddiau.
12:12 Gwyn ei fyd a ddisgwylio, ac a ddêl hyd y mil tri chant a phymtheg ar hugain o ddyddiau.
12:13 Dos dithau hyd y diwedd: canys gorffwysi, a sefi yn dy ran yn niwedd y dyddiau.
<section end="Daniel"/>
<section begin="Hosea"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Hosea.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Hosea, mab Beeri, yn nyddiau Usseia, Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas, brenin Israel.
1:2 Dechrau ymadrodd yr ARGLWYDD trwy Hosea. Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Hosea, Dos; cymer i ti wraig o odineb, a phlant o odineb: oherwydd y mae y wlad gan buteinio yn puteinio oddi ar ôl yr ARGLWYDD.
1:3 Ac efe a aeth ac a gymerodd Gomer merch Diblaim; a hi a feichiogodd, ac a ddug iddo ef fab.
1:4 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Galw ei enw ef Jesreel: canys ar fyrder y dialaf waed Jesreel ar dŷ Jehu, ac y gwnaf i frenhiniaeth tŷ Israel ddarfod.
1:5 A’r dydd hwnnw y torraf fwa Israel yng nglyn Jesreel.
1:6 A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar ferch. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Galw ei henw hi Lo-rwhama; am na chwanegaf drugarhau wrth dŷ Is-<section end="Hosea"/><noinclude><references/></noinclude>
brlpr1c2t1wifey5jkps03032x7g2p9
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/856
104
4330
171305
7958
2026-10-04T05:49:23Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171305
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Hosea"/>ni farchogwn ar feirch; ac ni ddywedwn mwyach wrth waith ein dwylo, O ein duwiau: oherwydd ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd.
14:4 Meddyginiaethaf eu hymchweliad hwynt, caraf hwynt yn rhad: canys trodd fy nig oddi wrtho.
14:5 Byddaf fel gwlith i Israel: efe a flodeua fel y lili, ac a leda ei wraidd megis Libanus.
14:6 Ei geinciau a gerddant, a bydd ei degwch fel yr olewydden, a’i arogl fel Libanus.
14:7 Y rhai a arhosant dan ei gysgod ef a ddychwelant: adfywiant fel ŷd, blodeuant hefyd fel y winwydden: bydd ei goffadwriaeth fel gwin Libanus.
14:8 Effraim a ddywed, Beth sydd i mi mwyach a wnelwyf ag eilunod? Gwrandewais, ac edrychais arno: myfi sydd fel ffynidwydden ir; ohonof fi y ceir dy ffrwyth di.
14:9 Pwy sydd ddoeth, ac efe a ddeall hyn? a deallgar, ac efe a’i gwybydd? canys union yw ffyrdd yr ARGLWYDD, a’r rhai cyfiawn a rodiant ynddynt: ond y troseddwyr a dramgwyddant ynddynt.
<section end="Hosea"/>
<section begin="Joel"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Joel.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Joel mab Pethuel.
1:2 Gwrandewch hyn, chwi henuriaid; a rhoddwch glust, holl drigolion y wlad: a fu hyn yn eich dyddiau, neu yn nyddiau eich tadau?
1:3 Mynegwch hyn i'ch plant, a'ch plant i'w plant hwythau, a'u plant hwythau i genhedlaeth arall.
1:4 Gweddill y lindys a fwytaodd y ceiliog rhedyn, a gweddill y ceiliog rhedyn a ddifaodd pryf y rhwd, a gweddill pryf y rhwd a ysodd y locust.
1:5 Deffrowch, feddwyr, ac wylwch; ac udwch, holl yfwyr gwin, am y gwin newydd; canys torrwyd ef oddi wrth eich min.
1:6 Oherwydd cenhedlaeth gref annifeiriol a ddaeth i fyny ar fy nhir; dannedd llew yw ei dannedd, a childdannedd hen lew sydd iddi.
1:7 Gosododd fy ngwinwydden yn ddifrod, a'm ffigysbren a ddirisglodd: gan ddinoethi dinoethodd hi, a thaflodd hi ymaith: ei changau a wynasant.
1:8 Uda fel gwyry wedi ymwregysu mewn sachliain am briod ei hieuenctid.
1:9 Torrwyd oddi wrth dŷ yr ARGLWYDD yr offrwm bwyd, a'r offrwm diod: y mae yr offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, yn galaru.
1:10 Difrodwyd y maes, y ddaear a alara; canys gwnaethpwyd difrod ar yr ŷd: sychodd y gwin newydd, llesgaodd yr olew.
1:11 Cywilyddiwch, y llafurwyr, udwch, y gwinwyddwyr, am y gwenith, ac am yr haidd: canys darfu am gynhaeaf y maes.
1:12 Gwywodd y winwydden, llesgaodd y ffigysbren, y pren pomgranad, y balmwydden hefyd, a'r afallen, a holl brennau y maes, a wywasant; am wywo llawenydd oddi wrth feibion dynion.
1:13 Ymwregyswch a griddfenwch, chwi offeiriaid, udwch, weinidogion yr allor; deuwch, weinidogion fy NUW, gorweddwch ar hyd y nos mewn sachliain; canys atelir oddi wrth dŷ eich DUW yr offrwm bwyd, a'r offrwm diod.
1:14 Cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa, cesglwch yr henuriaid, a holl drigolion y wlad, i dŷ yr ARGLWYDD eich DUW, a gwaeddwch ar yr ARGLWYDD,
1:15 Och o'r diwrnod! canys dydd yr ARGLWYDD sydd yn agos, ac fel difrod oddi wrth yr Hollalluog y daw.
1:16 Oni thorrwyd yng ngŵydd ein llygaid ni oddi wrth dŷ ein DUW, y bwyd, y llawenydd, a'r digrifwch?
1:17 Pydrodd yr hadau dan eu priddellau, yr ysguboriau a anrheithiwyd, yr ydlan a fwriwyd i lawr; canys yr ŷd a wywodd.
1:18 O o'r griddfan y mae yr anifeiliaid! y mae yn gyfyng ar y minteioedd gwartheg, am nad oes <section end="Joel"/><noinclude><references/></noinclude>
30otktz1rn0sdawmq0lz2usc2xaa2yb
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/859
104
4333
171306
7963
2026-10-04T05:49:53Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171306
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Joel"/>myfi yw ARGLWYDD eich DUW, yn trigo yn Seion, fy mynydd sanctaidd: yna y bydd Jerwsalem yn sanctaidd, ac nid â dieithriaid trwyddi mwyach.
3:18 A'r dydd hwnnw y bydd i’r mynyddoedd ddefnynnu melyswin, a’r bryniau a lifeiriant o laeth, a holl ffynnon Jwda a redant gan ddwfr, a ffynnon a ddaw allan o dŷ yr ARGLWYDD, ac a ddyfrha ddyffryn Sittim.
3:19 Yr Aifft a fydd anghyfannedd, ac Edom fydd anialwch anghyfanheddol, am y traha yn erbyn meibion Jwda, am iddynt dywallt gwaed gwirion yn eu tir hwynt.
3:20 Eto Jwda a drig byth, a Jerwsalem o genhedlaeth i genhedlaeth.
3:21 Canys glanhaf waed y rhai nis glanheais: canys yr ARGLWYDD sydd yn trigo yn Seion.
<section end="Joel"/>
<section begin="Amos"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Amos.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Geiriau Amos, (yr hwn oedd ymysg bugeiliaid Tecoa,) y rhai a welodd efe am Israel, yn nyddiau Usseia brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas brenin Israel, ddwy flynedd o flaen y ddaeargryn.
1:2 Ac efe a ddywedodd, Yr ARGLWYDD a rua o Seion, ac a rydd ei lef o Jerwsalem; a chyfanheddau y bugeiliaid a alarant, a phen Carmel a wywa.
1:3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oherwydd tair o anwireddau Damascus, ac oherwydd pedair, ni throaf ymaith ei chosb hi: am iddynt ddyrnu Gilead ag offer dyrnu o heyrn.
1:4 Ond anfonaf dân i dŷ Hasael, ac efe a ddifa balasau Benhadad.
1:5 Drylliaf drosol Damascus, a thorraf ymaith y preswylwyr o ddyffryn Afen, a’r hwn sydd yn dal teyrnwialen o dŷ Eden; a phobl Syria a ânt yn gaeth i Cir, medd yr ARGLWYDD.
1:6 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD;. Am dair o anwireddau Gasa, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt gaethgludo y gaethiwed gyflawn, i’w rhoddi i fyny i Edom.
1:7 Eithr anfonaf dân ar fur Gasa, ac efe a ddifa ei phalasau hi.
1:8 A mi a dorraf y preswylwyr o Asdod, a’r hwn a ddeil deyrnwialen o Ascalon; a throaf fy llaw yn erbyn Ecron, a derfydd am weddill y Philistiaid, medd yr ARGLWYDD DDUW.
1:9 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Tyrus, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; oherwydd iddynt hwy roddi i fyny gwbl o’r gaethiwed i Edom, ac na chofiasant y cyfamod brawdol.
1:10 Eithr anfonaf dân i fur Tyrus, ac efe a ddifa ei phalasau hi.
1:11 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Edom, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo erlid ei frawd â’r cleddyf, a llygru ei drugaredd, a bod ei ddig yn rhwygo yn wastadol, a’i fod yn cadw ei lid yn dragwyddol.
1:12 Eithr anfonaf dan i Teman, yr hwn a ddifa balasau Bosra.
1:13 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau meibion Ammon, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt hwy rwygo gwragedd beichiogion Gilead, er mwyn helaethu eu terfynau.
1:14 Eithr cyneuaf dân ym mur Rabba, ae efe a ddifa ei phalasau, gyda gwaedd ar ddydd y rhyfel, gyda thymestl ar ddydd corwynt.
1:15 A’u brenin a â yn gaeth, efe a’i benaethiaid ynghyd, medd yr ARGLWYDD.
PENNOD 2
2:1 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Moab, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo losgi esgyrn brenin Edom yn galch.
2:2 Eithr anfonaf dân i Moab, yr hwn a ddifa balasau Cerioth: a <section end="Amos"/><noinclude><references/></noinclude>
o0mcfs23w87c4vafhmvk27m59c39ijr
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/865
104
4339
171307
7973
2026-10-04T05:50:23Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171307
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Amos"/>y dinasoedd anghyfannedd, ac a’u preswyliant; a hwy a blannant winllannoedd, ac a yfant o’u gwin; gwnânt hefyd erddi, a bwytânt eu ffrwyth hwynt.
9:15 Ac mi a’u plannaf hwynt yn eu tir, ac nis diwreiddir hwynt mwyach o’u tir a roddais i iddynt, medd yr ARGLWYDD DDUW.
<section end="Amos"/>
<section begin="Obadeia"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Obadiah.}}}}}}
1:1 Gweledigaeth Obadeia. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW am Edom; Clywsom sôn oddi with yr ARGLWYDD, a chennad a hebryngwyd ymysg y cenhedloedd; Codwch, a chyfodwn i yfela yn ei herbyn hi.
1:2 Wele, mi a’th wneuthum yn fychan ymysg y cenhedloedd; dibris iawn wyt.
1:3 Balchder dy galon a’th dwyllodd: ti yr hwn wyt yn trigo yn holltau y graig, yn uchel ei drigfa; yr hwn a ddywed yn ei galon, Pwy a’m tyn i’r llawr?
1:4 Ped ymddyrchefit megis yr eryr, a phe rhoit dy nyth ymhiith y sêr, mi a’th ddisgynnwn oddi yno, medd yr ARGLWYDD.
1:5 Pe delai lladron atat, neu ysbeilwyr nos, (pa fodd y’th dorrwyd ymaith!) oni ladratasent hwy eu digon? pe delsai cynullwyr grawnwin atat, oni weddillasent rawn?
1:6 Pa fodd y chwiliwyd Esau, ac y ceisiwyd ei guddfeydd ef!
1:7 Yr holl w^yr y rhai yr oedd cyfamod rhyngot a hwynt, a’th yrasant hyd y terfyn; y gwy^r yr oedd heddwch rhyngot a hwynt, a’th dwyllasant, ac a’th orfuant, bwytawyr dy fara a roddasant archoll danat: nid oes deall ynddo.
1:8 Oni ddinistriaf y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y doethion allan o Edom, a’r deall allan o fynydd Esau?
1:9 Dy gedyrn di, Teman, a ofnant; fel y torrer ymaith bob un o fynydd Esau trwy laddfa.
1:10 Am dy draha yn erbyn dy frawd Jacob, gwarth a’th orchuddia, a thi a dorrir ymaith byth.
1:11 Y dydd y sefaist o’r tu arall, y dydd y caethgludodd estroniaid ei olud ef, a myned o ddieithriaid i’w byrth ef, a bwrw coelbrennau ar Jerwsalem, tithau hefyd oeddit megis un ohonynt.
1:12 Ond ni ddylesit ti edrych ar ddydd dy frawd, y dydd y dieithriwyd ef; ac ni ddylesit lawenychu o achos plant Jwda, y dydd y difethwyd hwynt; ac ni ddylesit ledu dy safn ar ddydd y cystudd.
1:13 Ni ddylesit ddyfod o fewn porth fy mhobl yn nydd eu haflwydd; ie, ni ddylesit edrych ar eu hadfyd yn nydd eu haflwydd; ac ni ddylesit estyn dy law ar eu golud yn nydd eu difethiad hwynt:
1:14 Ac ni ddylesit sefyll ar y croesffyrdd, i dorri ymaith y rhai a ddihangai ohono; ac ni ddylesit roi i fyny y gweddill ohono ar ddydd yr adfyd.
1:15 Canys agos yw dydd yr ARGLWYDD ar yr holl genhedloedd: fel y gwnaethost, y gwneir i tithau; dy wobr a ddychwel ar dy ben dy hun.
1:16 Canys megis yr yfasoch ar fy mynydd sanctaidd, felly yr holl genhedloedd a yfant yn wastad; ie, yfant, al lyncant, a byddant fel pe na buasent.
1:17 Ond ar fynydd Seion y bydd ymwared, ac y bydd sancteiddrwydd; a thy^ Jacob a berchenogant eu perchenogaeth hwynt.
1:18 Yna y bydd ty^ Jacob yn dân, a thy^ Joseff yn fflam, a thy^ Esau yn sofl, a chyneuant ynddynt, a difant hwynt; ac ni bydd un gweddill o dy^ Esau: canys yr ARGLWYDD a’i dywedodd.
1:19 Goresgyn y deau hefyd fynydd Esau. a’r gwastadedd y Philistiaid; a pherchenogant feysydd Effraim, a meysydd Samaria, a Benjamin a feddianna Gilead;
1:20 A chaethglud y llu hwn o blant Israel, yr hyn a fu eiddo y Canaaneaid, hyd Sareffath; a chaethion Jerwsalem, y rhai sydd yn Seffarad, a feddiannant ddinasoedd y deau.
1:21 A gwaredwyr a ddeuant i fyny ar fynydd Seion i farnu mynydd Esau: a’r frenhiniaeth fydd eiddo yr ARGLWYDD.
{{nop}}<section end="Obadeia"/><noinclude><references/></noinclude>
9ltpdkgtyvzcvt4ham7ouptd72j75ts
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/866
104
4340
171308
7975
2026-10-04T05:50:50Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171308
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Jonah.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jona mab Amitai, gan ddywedyd,
1:2 Cyfod, dos i Ninefe y ddinas fawr, a llefa yn ei herbyn; canys eu drygioni hwynt a ddyrchafodd ger fy mron.
1:3 A Jona a gyfododd i ffoi i Tarsis oddi gerbron yr ARGLWYDD: ac efe a aeth i waered i Jopa, ac a gafodd long yn myned i Tarsis, ac a dalodd ei llong-log hi, ac a aeth i waered iddi i fyned gyda hwynt i Tarsis, oddi gerbron yr ARGLWYDD.
1:4 Ond yr ARGLWYDD a gyfododd wynt mawr yn y môr, a bu yn y môr dymestl fawr, fel y tybygwyd y drylliai y llong.
1:5 Yna y morwyr a ofnasant, ac a lefasant bob un ar ei dduw, a bwriasant y dodrefn oedd yn y llong i'r môr, i ymysgafnhau ohonynt: ond Jona a aethai i waered i ystlysau y llong, ac a orweddasai, ac a gysgasai.
1:6 A meistr y llong a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddarfu i ti, gysgadur? cyfod, galw ar dy DDUW: fe allai yr ystyr y DUW hwnnw wrthym, fel na'n coller.
1:7 A dywedasant bob un wrth ei gyfaill, Deuwch, a bwriwn goelbrennau, fel y gwypom o achos pwy y mae y drwg hwn arnom. A bwriasant goelbrennau, a'r coelbren a syrthiodd ar Jona.
1:8 A dywedasant wrtho, Atolwg, dangos i ni er mwyn pwy y mae i ni y drwg hwn: beth yw dy gelfyddyd di? ac o ba le y daethost? pa le yw dy wlad? ac o ba bobl yr wyt ti?
1:9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hebread ydwyf fi; ac ofni yr wyf fi ARGLWYDD DDUW y nefoedd, yr hwn a wnaeth y môr a'r sychdir.
1:10 A'r gwŷ r a ofnasant gan ofn mawr, ac a ddywedasant wrtho, Paham y gwnaethost hyn? Canys y dynion a wyddent iddo ffoi oddi gerbron yr ARGLWYDD, oherwydd efe a fynegasai iddynt.
1:11 A dywedasant wrtho, Beth a wnawn i ti, fel y gostego y môr oddi wrth ym? canys gweithio yr oedd y môr, a therfysgu.
1:12 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Cymerwch fi, a bwriwch fi i'r môr; a'r môr a ostega i chwi; canys gwn mai o'm hachos i y mae y dymestl fawr hon arnoch chwi.
1:13 Er hyn y gwŷ r a rwyfasant i'w dychwelyd i dir; ond nis gallent; fod y môr yn gweithio, ac yn terfysgu yn eu herbyn hwy.
1:14 Llefasant gan hynny ar yr ARGLWYDD, a dywedasant, Atolwg, ARGLWYDD, atolwg, na ddifether ni am einioes y gw^r hwn, ac na ddyro i'n herbyn waed gwirion: canys ti, O ARGLWYDD, a wnaethost fel y gwelaist yn dda.
1:15 Yna y cymerasant Jona, ac a’i bwriasant ef i'r môr: a pheidiodd y môr a'i gyffro.
1:16 A'r gwŷ r a ofnasant yr ARGLWYDD ag ofn mawr, ac a aberthasant aberth i’r ARGLWYDD, ac a addunasant addunedau.
1:17 A'r ARGLWYDD a ddarparasai bysgodyn mawr i lyncu Jona. A Jona a fu ym mol y pysgodyn dri diwrnod a thair nos.
PENNOD 2
2:1 A Jona a weddïodd ar yr ARGLWYDD ei DDUW o fol y pysgodyn,
2:2 Ac a ddywedodd, O'm hing y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac efe a'm hatebodd; o fol uffern y gwaeddais, a chlywaist fy llef.
2:3 Ti a'm bwriaist i'r dyfnder, i ganol y môr; a'r llanw a'm hamgylchodd: dy holl donnau a'th lifeiriaint a aethant drosof.
2:4 A minnau a ddywedais, Bwriwyd fi o w^ydd dy lygaid; er hynny mi a edrychaf eto tua'th deml sanctaidd.
2:5 Y dyfroedd a'm hamgylchasani hyd yr enaid; y dyfnder a ddaeth o'm hamgylch; ymglymodd yr hesg am fy mhen.
2:6 Disgynnais i odre'r mynyddoedd; y ddaear a'i throsolion oedd o'm hamgylch yn dragywydd: eto<noinclude><references/></noinclude>
bo2zujxcpfixynd2zo42p42eu348cog
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/868
104
4342
171309
7978
2026-10-04T05:51:17Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171309
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Michah.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Micha y Morasthiad yn nyddiau Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda, yr hwn a welodd efe am Samaria a Jerwsalem.
1:2 Gwrandewch, bobl oll; clyw dithau, y ddaear, ac sydd ynddi; a bydded yr ARGLWYDD DDUW yn dyst i'ch erbyn, yr Arglwydd o'i deml sanctaidd.
1:3 Canys wele yr ARGLWYDD yn dyfod o'i le; efe hefyd a ddisgyn, ac a sathr ar uchelderau y ddaear.
1:4 A'r mynyddoedd a doddant tano ef, a'r glynnoedd a ymholltant fel cŵyr o flaen y tân, ac fel y dyfroedd a dywelltir ar y goriwaered.
1:5 Hyn i gyd sydd am anwiredd Jacob, ac am bechodau tŷ Israel. Beth yw anwiredd Jacob? onid Samaria? Pa rai yw uchel leoedd Jwda? onid Jerwsalem?
1:6 Am hynny y gosodaf Samaria yn garneddfaes dda i blannu gwinllan; a gwnaf i'w cherrig dreiglo i'r dyffryn, a datguddiaf ei sylfeini.
1:7 A'i holl ddelwau cerfiedig a gurir yn ddrylliau, a'i holl wobrau a losgir yn tân, a'i holl eilunod a osodaf yn anrheithiedig: oherwydd o wobr putain y casglodd hi hwynt, ac yn wobr putain y dychwelant.
1:8 Oherwydd hyn galaraf ac udaf; cerddaf yn noeth ac yn llwm: gwnaf alar fel dreigiau, a gofid fel cywion y dylluan.
1:9 Oherwydd dolurus yw ei harcholl: canys daeth hyd at Jwda; daeth hyd borth fy mhobl, hyd Jerwsalem.
1:10 Na fynegwch hyn yn Gath; gan wylo nac wylwch ddim: ymdreigla mewn llwch yn nhŷ Affra.
1:11 Dos heibio, preswylferch Saffir, yn noeth dy warth: ni ddaeth preswylferch Saanan allan yng ngalar Beth-esel, efe a dderbyn gennych ei sefyllfan.
1:12 Canys trigferch Maroth a ddisgwyliodd yn ddyfal am ddaioni; eithr drwg a ddisgynnodd oddi wrth yr ARGLWYDD hyd at borth Jerwsalem.
1:13 Preswylferch Lachis, rhwym y cerbyd wrth y buanfarch: dechreuad pechod yw hi i ferch Seion: canys ynot ti y cafwyd anwireddau Israel.
1:14 Am hynny y rhoddi anrhegion i Moreseth-gath: tai Achsib a fyddant yn gelwydd i frenhinoedd Israel.
1:15 Eto mi a ddygaf etifedd i ti, preswyl ferch Maresa: daw hyd Adulam, gogoniant Israel.
1:16 Ymfoela, ac ymeillia am dy blant moethus: helaetha dy foelder fel eryr; canys caethgludwyd hwynt oddi wrthyt.
PENNOD 2
2:1 Gwae a ddychmygo anwiredd, ac a wnelo ddrygioni ar eu gwelyau! pan oleuo y bore y gwnânt hyn; am ei fod ui eu dwylo.
2:2 Meysydd a chwenychant hefyd, ac a ddygant trwy drais; a theiau, ac a'u dygant: gorthrymant hefyd w^r a'i dŷ , dyn a'i etifeddiaeth.
2:3 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, yn erbyn y teulu hwn dychmygais ddrwg, yr hwn ni thynnwch eich gyddfau ohono, ac ni rodiwch yn falch; canys amser drygfyd yw.
2:4 Yn y dydd hwnnw y cyfyd un ddameg amdanoch chwi, ac a alara alar gofidus, gan ddywedyd, Dinistriwyd ni yn llwyr; newidiodd ran fy mhobl: pa fodd y dug ef oddi arnaf! gan droi ymaith, efe a rannodd ein meysydd.
2:5 Am hynny ni bydd i ti a fwrio reffyn coelbren yng nghynulleidfa yr ARGLWYDD.
2:6 Na phroffwydwch, meddant wrth y rhai a broffwydant: ond ni phroffwydant iddynt na dderbyniont gywilydd.
2:7 O yr hon a elwir tŷ Jacob, a fyrhawyd ysbryd yr ARGLWYDD? ai dyma ei weithredoedd ef? oni<noinclude><references/></noinclude>
r5p1gpve9f2y9780zspl5li0f2n11ea
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/872
104
4346
171310
7986
2026-10-04T05:51:45Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171310
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Micha"/>i mi farn: efe a'm dwg allan i'r goleuad, a mi a welaf ei gyfiawnder ef.
7:10 A'm gelynes a gaiff weled, a chywilydd a'i gorchuddia hi, yr hon a ddywedodd wrthyf, Mae yr ARGLWYDD dy DDUW? fy llygaid a'i gwelant hi; bellach y bydd hi yn sathrfa, megis tom yr heolydd.
7:11 Y dydd yr adeiledir dy furiau, y dydd hwnnw yr ymbellha y ddeddf.
7:12 Y dydd hwnnw y daw efe hyd atat o Asyria, ac o'r dinasoedd cedyrn, ac o'r cadernid hyd yr afon, ac o fôr i fôr, ac o fynydd i fynydd.
7:13 Eto y wlad a fydd yn anrhaith o achos ei thrigolion, am ffrwyth eu gweithredoedd.
7:14 Portha dy bobl â'th wialen, defaid dy etifeddiaeth, y rhai sydd yn trigo yn y coed yn unig, yng nghanol Carmel: porant yn Basan a Gilead, megis yn y dyddiau gynt.
7:15 Megis y dyddiau y daethost allan o dir yr Aifft, y dangosaf iddo ryfeddodau.
7:16 Y cenhedloedd a welant, ac a gywilyddiant gan eu holl gryfder hwynt: rhoddant eu llaw ar eu genau; eu clustiau a fyddarant.
7:17 Llyfant y llwch fel sarff; fel pryfed y ddaear y symudant o'u llochesau: arswydant rhag yr ARGLWYDD ein DUW ni, ac o'th achos di yr ofnant.
7:18 Pa DDUW sydd fel tydi, yn maddau anwiredd, ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth? ni ddeil efe ei ddig byth, am fod yn hoff ganddo drugaredd.
7:19 Efe a ddychwel, efe a drugarha wrthym: efe a ddarostwng ein hanwireddau; a thi a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y môr.
7:20 Ti a gyflewni y gwirionedd i Jacob, y drugaredd hefyd i Abraham, yr hwn a dyngaist i'n tadau er y dyddiau gynt.
<section end="Micha"/>
<section begin="Nahum"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Nahum.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Baich Ninefe. Llyfr gweledigaeth Nahum yr Elcosiad.
1:2 DUW sydd eiddigus, a'r ARGLWYDD sydd yn dial, yr ARGLWYDD sydd yn dial, ac yn berchen llid: dial yr ARGLWYDD ar ei wrthwynebwyr, a dal dig y mae efe i'w elynion.
1:3 Yr ARGLWYDD sydd hwyrfrydig i ddig, a mawr ei rym, ac ni ddieuoga yr anwir: yr ARGLWYDD sydd a'i lwybr yn y corwynt ac yn y rhyferthwy, a'r cymylau yw llwch ei draed ef.
1:4 Efe a gerydda y môr, ac a'i sych; yr holl afonydd a ddihysbydda efe: llesgaodd Basan a Channel, a llesgaodd blodeuyn Libanus.
1:5 Y mynyddoedd a grynant rhagddo, a'r bryniau a doddant, a'r ddaear a lysg gan ei olwg, a'r byd hefyd a chwbl ag a drigant ynddo.
1:6 Pwy a saif o flaen ei lid ef? a phwy a gyfyd yng nghynddaredd ei ddigofaint ef? ei lid a dywelltir fel tân, a'r creigiau a fwrir i lawr ganddo.
1:7 Daionus yw yr ARGLWYDD, amddiffynfa yn nydd blinder; ac efe a edwyn y rhai a ymddiriedant ynddo.
1:8 A llifeiriant yn myned trosodd y gwna efe dranc ar ei lle hi, a thywyllwch a erlid ei elynion ef.
1:9 Beth a ddychmygwch yn erbyn yr ARGLWYDD? efe a wna dranc; ni chyfyd blinder ddwywaith.
1:10 Canys tra yr ymddrysont fel drain, a thra meddwont fel meddwon, ysir hwynt fel sofl wedi llawn wywo.
1:11 Ohonot y daeth allan a ddychmyga ddrwg yn erbyn yr ARGLWYDD: cynghorwr drygionus.
1:12 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pe byddent heddychol, ac felly yn aml, eto fel hyn y torrir hwynt i lawr, pan elo efe heibio. Er i mi dy flino, ni'th flinaf mwyach.
1:13 Canys yr awron y torraf ei iau ef oddi arnat, drylliaf dy rwymau.
1:14 Yr ARGLWYDD hefyd a orchmynnodd o'th blegid, na heuer o'th enw mwyach: torraf o dŷ dy dduwiau y gerfiedig a'r dawdd ddelw: gwnaf dy fedd; canys gwael ydwyt.
1:15 Wele ar y mynyddoedd draed <section end="Nahum"/><noinclude><references/></noinclude>
9k64t2fcvb6u0k2zs2zx4w3coch14iv
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/874
104
4348
171311
7990
2026-10-04T05:52:11Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171311
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Nahum"/>dy ganol di: pyrth dy dir a agorir i'th elyn-ion; tân a ysodd dy farrau.
3:14 Tyn i ti ddwfr i'r gwarchae, cadarnha dy amddiffynfeydd; dos i'r dom, sathr y clai, cryfha yr odyn briddfaen.
3:15 Yno y tân a'th ddifa, y cleddyf a'th dyr ymaith, efe a'th ysa di fel pryf y rhwd; ymluosoga fel pryf y rhwd, ymluosoga fel y ceiliog rhedyn.
3:16 Amlheaist dy farchnadwyr rhagor sêr y nefoedd: difwynodd pryf y rhwd, ac ehedodd ymaith.
3:17 Dy rai coronog sydd fel y locustiaid, a'th dywysogion fel y ceiliogod rhedyn mawr, y rhai a wersyllant yn y caeau ar y dydd oerfelog, ond pan gyfodo yr haul, hwy a ehedant ymaith, ac ni adwaenir eu man lle y maent.
3:18 Dy fugeiliaid, brenin Asyria, a hepiant; a'th bendefigion a orweddant, gwasgerir dy bobl ar y mynyddoedd, ac ni bydd a'u casglo.
3:19 Ni thynnir dy archoll ynghyd, clwyfus yw dy well, pawb a glywo sôn amdanat a gurant eu dwylo arnat, oherwydd pwy nid aeth dy ddrygioni drosto bob amser?
<section end="Nahum"/>
<section begin="Habacuc"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Habacuc.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Y baich a welodd y proffwyd Habacuc.
1:2 Pa hyd, ARGLWYDD, y gwaeddaf, ac nis gwrandewi! y bloeddiaf arnat rhag trais, ac nid achubi!
1:3 Paham y gwnei i mi weled anwiredd, ac y peri i mi edrych ar flinder? anrhaith a thrais sydd o'm blaen i, ac y mae a gyfyd ddadl ac ymryson.
1:4 Am hynny yr oedir cyfraith, ac nid â barn allan byth: am fod y drygionus yn amgylchu y cyfiawn; am hynny cam farn a â allan.
1:5 Gwelwch ymysg y cenhedloedd, ac edrychwch, rhyfeddwch yn aruthrol: canys gweithredaf weithred yn eich dyddiau, ni choeliwch er ei mynegi i chwi.
1:6 Canys wele fi yn codi y Caldeaid, cenedl chwerw a phrysur, yr hon a rodia ar hyd lled y tir, i feddiannu cyfanheddoedd nid yw eiddynt.
1:7 Y maent i'w hofni ac i'w harswydo: ohonynt eu hun y daw allan eu barn a’u rhagoriaeth.
1:8 A'u meirch sydd fuanach na'r llewpardiaid, a llymach ydynt na bleiddian yr hwyr: eu marchogion hefyd a ymdaenant, a'u marchogion a ddeuant o bell, ehedant fel eryr yn prysuro at fwyd.
1:9 Hwy a ddeuant oll i dreisio; ar gyfer eu hwyneb y bydd gwynt y dwyrain, a hwy a gasglant gaethion fel y tywod.
1:10 A hwy a watwarant frenhinoedd, a thywysogion a fyddant watwargerdd iddynt: hwy a watwarant yr holl gestyll, ac a gasglant lwch, ac a'i goresgynnant.
1:11 Yna y newidia ei feddwl, ac yr â trosodd, ac a drosedda, gan ddiolch am ei rym yma i'w dduw ei hun.
1:12 Onid wyt ti er tragwyddoldeb, O ARGLWYDD fy NUW, fy Sanctaidd? ni byddwn feirw. O ARGLWYDD, ti a'u gosodaist hwy i farn, ac a'u sicrheaist, O DDUW, i gosbedigaeth.
1:13 Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elli edrych ar anwiredd: paham yr edrychi ar yr anffyddloniaid, ac y tewi pan lynco yr anwir un cyfiawnach nag ef ei hun?
1:14 Ac y gwnei ddynion fel pysgod y môr, fel yr ymlusgiaid heb lywydd arnynt?
1:15 Cyfodant hwynt oll â'r bach; casglant hwynt yn eu rhwyd, a chynullant hwynt yn eu ballegrwyd: am hynny hwy a lawenychant ac a ymddigrifant.
1:16 Am hynny yr aberthant i'w rhwyd, ac y llosgant arogl-darth i'w ballegrwyd: Canys trwyddynt hwy y mae eu rhan yn dew, a'u bwyd yn fras.
1:17 A gânt hwy gan hynny dywallt eu rhwyd, ac nad arbedont ladd y cenhedloedd yn wastadol?
{{nop}}<section end="Habacuc"/><noinclude><references/></noinclude>
78stsyq8djh2h31jmflz0a9g90aynse
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/876
104
4350
171312
7995
2026-10-04T05:52:47Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171312
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Habacuc"/>oesol a grymasant: llwybrau tragwyddol sydd iddo.
3:7 Dan gystudd y gwelais wersyllau Cuwsan; crynodd llenni tir Midian.
3:8 A sorrodd yr ARGLWYDD wrth yr afonydd? ai wrth yr afonydd y mae dy ddig? ai wrth y môr y mae dy ddigofaint, gan i ti farchogaeth ar dy feirch, ac ar gerbydau dy iachawdwriaeth?
3:9 Llwyr noethwyd dy fwa, yn ôl llwon y llwythau, sef dy air di. Sela. Holltaist y ddaear ag afonydd.
3:10 Y mynyddoedd a'th welsant, ac a grynasant; y llifeiriant dwfr a aeth heibio; y dyfnder a wnaeth dwrf; cyfododd hefyd ei ddwylo yn uchel.
3:11 Yr haul a'r lleuad a safodd yn eu preswylfa; wrth oleuad dy saethau yr aethant, ac wrth lewyrch dy waywffon ddisglair.
3:12 Mewn llid y cerddaist y ddaear, a dyrnaist y cenhedloedd mewn dicter.
3:13 Aethost allan er iachawdwriaeth i'th bobl, er iachawdwriaeth ynghyd â’th eneiniog: torraist y pen allan o dŷ yr anwir, gan ddinoethi y sylfaen hyd y gwddf. Sela.
3:14 Trywenaist ben ei faestrefydd â'i ffyn ei hun; rhyferthwyasant i'm gwasgaru; ymlawenhasant, megis i fwyta y tlawd mewn dirgelwch. .
3:15 Rhodiaist â'th feirch trwy y môr, trwy bentwr o ddyfroedd mawrion.
3:16 Pan glywais, fy mol a ddychrynodd; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef: daeth pydredd i'm hesgyrn, ac yn fy lle y crynais, fel y gorffwyswn yn nydd trallod: pan ddêl efe i fyny at y bobl, efe a’u difetha hwynt â'i fyddinoedd.
3:17 Er i'r ffigysbren na flodeuo, ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd; gwaith yr olewydd a balla, a'r meysydd ni roddant fwyd; torrir ymaith y praidd o'r gorlan, ac ni bydd eidion yn eu beudai:
3:18 Eto mi a lawenychaf yn yr ARGLWYDD; byddaf hyfryd yn NUW fy iachawdwriaeth.
3:19 Yr ARGLWYDD DDUW yw fy nerth a'm traed a wna efe fel traed ewigod; efe a wna i mi rodio ar fy uchel leoedd. I'r pencerdd ar fy offer tannau.
<section end="Habacuc"/>
<section begin="Seffaneia"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Sephaniah.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Seffaneia mab Cusi, fab Gedaleia, fab Amareia, fab Heseceia, yn amser Joseia mab Amon brenin Jwda.
1:2 Gan ddistrywio y distrywiaf bob dim oddi ar wyneb y ddaear, medd yr ARGLWYDD.
1:3 Distrywiaf ddyn ac anifail; distrywiaf adar yr awyr, a physgod y mor; a'r tramgwyddiadau ynghyd a'r annuwiolion; a thorraf ymaith ddyn oddi ar wyneb y ddaear, medd yr ARGLWYDD.
1:4 Estynnaf hefyd fy llaw ar Jwda, ac ar holl breswylwyr Jerwsalem; a thorraf ymaith o'r lle hwn weddill Baal, ac enw y Chemariaid â’r offeiriaid;
1:5 A'r neb a ymgrymant ar bennau y tai i lu y nefoedd; a'r addolwyr y rhai a dyngant i'r ARGLWYDD, a hefyd a dyngant i Malcham;
1:6 A'r rhai a giliant oddi ar ôl yr ARGLWYDD; a'r rhai ni cheisiasant yr ARGLWYDD, ac nid ymofynasant amdano.
1:7 Distawa gerbron yr ARGLWYDD DDUW; canys agos yw dydd yr ARGLWYDD: oherwydd arlwyodd yr ARGLWYDD aberth, gwahoddodd ei wahoddedigion.
1:8 A bydd, ar ddydd aberth yr ARGLWYDD, i mi ymweled â'r tywysogion, ac â phlant y brenin, ac â phawb a wisgant wisgoedd dieithr.
1:9 Ymwelaf hefyd â phawb a neidiant ar y rhiniog y dydd hwnnw, y sawl a lanwant dai eu meistr â thrais ac a thwyll.
1:10 A'r dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y bydd llais gwaedd o borth y pysgod, ac udfa o'r ail, a drylliad mawr o'r bryniau.
1:11 Udwch, breswylwyr Machtes: <section end="Seffaneia"/><noinclude><references/></noinclude>
opzj7o341gsu7qfxumlyasl4xzei0g9
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/878
104
4352
171313
7999
2026-10-04T05:53:22Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171313
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Seffaneia"/>3:1 Gwae y fudr a'r halogedig, y ddinas orthrymus!
3:2 Ni wrandawodd ar y llef, ni dderbyniodd gerydd; nid ymddiriedodd yn yr ARGLWYDD, ni nesaodd at ei DUW.
3:3 Ei thywysogion o'i mewn sydd yn llewod rhuadwy; ei barnwyr yn fleiddiau yr hwyr, ni adawant asgwrn erbyn y bore.
3:4 Ei phroffwydi sydd ysgafn, yn wŷ r anffyddlon: ei hoffeiriaid a halogasant y cysegr, treisiasant y gyfraith.
3:5 Yr ARGLWYDD cyfiawn sydd yn ei chanol, ni wna efe anwiredd: yn fore y dwg ei farn i oleuni, ni phalla; ond yr anwir ni fedr gywilyddio.
3:6 Torrais ymaith y cenhedloedd: eu tyrau sydd anghyfannedd, diffeithiais eu heolydd, fel nad elo neb heibio; eu dinasoedd a ddifwynwyd, heb w^r, a heb drigiannol.
3:7 Dywedais, Yn ddiau ti a'm hofni; derbynni gerydd: felly ei thrigfa ni thorrid ymaith, pa fodd bynnag yr ymwelais â hi: eto boregodasant, a llygrasant eu holl weithredoedd.
3:8 Am hynny disgwyliwch arnaf fi, medd yr ARGLWYDD, hyd y dydd y cyfodwyf i'r ysglyfaeth: canys fy marn sydd ar gynnull y cenhedloedd, ar gasglu y teyrnasoedd, i dywallt arnynt fy llid, holl angerdd fy nigofaint: canys â thân fy eiddigedd yr ysir yr holl ddaear.
3:9 Oherwydd yna yr adferaf i'r bobl wefus bur, fel y galwo pob un ohonynt ar enw yr ARGLWYDD, i'w wasanaethu ef ag un ysgwydd.
3:10 O'r tu hwnt i afonydd Ethiopia y dwg fy ngweddïwyr, sef merch fy ngwasgaredig, fy offrwrn.
3:11 Y dydd hwnnw ni'th waradwyddir am dy holl weithredoedd, yn y rhai y pechaist i'm herbyn: canys yna y symudaf o'th blith y neb sydd yn hyfryd ganddynt dy falchder, fel nad ymddyrchafech mwyach yn fy mynydd sanctaidd.
3:12 Gadawaf ynot hefyd bobl druain dlodion, ac yn enw yr ARGLWYDD y gobeithiant hwy.
3:13 Gweddill Israel ni wna anwiredd, ac ni ddywedant gelwydd; ac ni cheir yn eu geneuau dafod twyllodrus: canys hwy a borant ac a orweddant, ac ni bydd a'u tarfo.
3:14 Merch Seion, cân; Israel, crechwena; merch Jerwsalem, ymlawenycha a gorfoledda â’th holl galon.
3:15 Tynnodd yr ARGLWYDD ymaith dy farnau, bwriodd allan dy elynion: yr ARGLWYDD brenin Israel sydd yn dy ganol, nid ofni ddrwg mwyach.
3:16 Y dydd hwnnw y dywedir wrth Jerwsalem, Nac ofna; wrth Seion, Na laesed dy ddwylo.
3:17 Yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy ganol di sydd gadarn: efe a achub, efe a lawenycha o'th blegid gan lawenydd; efe a lonydda yn ei gariad, efe a ymddigrifa ynot dan ganu.
3:18 Casglaf y rhai sydd brudd am y gymanfa, y rhai sydd ohonot, i'r rhai yr oedd ei gwaradwydd yn faich.
3:19 Wele, mi a ddifethaf yr amser hwnnw bawb a'th flinant: ac a achubaf y gloff, a chasglaf y wasgaredig; ac a'u gosodaf yn glodfawr ac yn enwog yn holl dir eu gwarth.
3:20 Yr amser hwnnw y dygaf chwi drachefn, yr amser y’ch casglaf: canys gwnaf chwi yn enwog ac yn glodfawr ymysg holl bobl y ddaear, pan ddychwelwyf eich caethiwed o flaen eich llygaid, medd yr ARGLWYDD.
<section end="Seffaneia"/>
<section begin="Haggai"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Haggai.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Yn yr ail flwyddyn i'r brenin Dareius, yn y chweched mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y proffwyd at Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac at Josua mab Josedec yr archoffeiriad, gan ddywedyd,
1:2 Fel hyn y llefara ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Y bobl hyn a ddywedant, Ni ddaeth yr amser, yr amser i adeiladu tŷ yr ARGLWYDD.
{{nop}}<section end="Haggai"/><noinclude><references/></noinclude>
8adnbngxg0qdc1g3a8weyaz7wivi7uv
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/880
104
4354
171314
8004
2026-10-04T05:53:53Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171314
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Haggai"/>nghwrr ei wisg, ac â'i gwr a gyffwrdd â'r bara, neu â'r cawl, neu â'r gwin, neu â'r olew, neu â dim o'r bwyd, a fyddant hwy sanctaidd? A'r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Na fyddant.
2:13 A Haggai a ddywedodd, Os un a fo aflan gan gorff marw â gyffwrdd â dim o'r rhai hyn, a fyddant hwy aflan? A’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Byddant aflan.
2:14 Yna yr atebodd Haggai, ac a ddywedodd, Felly y mae y bobl hyn, ac felly y mae y genhedlaeth hon ger fy mron, medd yr ARGLWYDD; ac felly y mac holl waith eu dwylo, a'r hyn a aberthant yno, yn aflan.
2:15 Ac yr awr hon meddyliwch, atolwg, o'r diwrnod hwn allan a chynt, cyn gosod carreg ar garreg yn nheml yr ARGLWYDD;
2:16 Er pan oedd y dyddiau hynny pan ddelid at dwr o ugain llestraid, deg fyddai; pan ddelid at y gwinwryf i dynnu deg llestraid a deugain o'r cafn, ugain a fyddai yno.
2:17 Trewais chwi â diflaniad, ac â mallter, ac â chenllysg, yn holl waith eich dwylo; a chwithau ni throesoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD.
2:18 Ystyriwch yr awr hon o'r dydd hwn ac er cynt, o'r pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, ac ystyriwch o'r dydd y sylfaenwyd teml yr ARGLWYDD.
19 A yw yr had eto yn yr ysgubor? y winwydden hefyd, y ffigysbren, a'r pomgranad, a'r pren olewydd, ni ffrwythasant: o'r dydd hwn allan y bendithiaf chwi.
20 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth eilwaith at Haggai, ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r mis, gan ddywedyd,
21 Llefara wrth Sorobabel tywysog Jwda, gan ddywedyd, Myfi a ysgydwaf y lefoedd a'r ddaear;
22 A mi a ymchwelaf deyrngadair teyrnasoedd, ac a ddinistriaf gryfder breniniaethau y cenhedloedd; ymchwelaf hefyd y cerbydau, a'r rhai a eisteddant ynddynt; a'r meirch a'u marchogion a syrthiant, bob un gan gleddyf ei frawd.
23 Y diwrnod hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, y'th gymeraf di, fy ngwas Sorobabel, mab Salathiel, medd yr ARGLWYDD, ac y'th wnaf fel sêl: canys mi a'th ddewisais di, medd ARGLWYDD y lluoedd.
<section end="Haggai"/>
<section begin="Sechareia"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Zechariah.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Yn yr wythfed mis o'r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd,
1:2 Llwyr ddigiodd yr ARGLWYDD wrth eich tadau.
1:3 Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Dychwelwch ataf fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a mi a ddychwelaf atoch chwithau, medd ARGLWYDD y lluoedd.
1:4 Na fyddwch fel eich tadau, y rhai y galwodd y proffwydi o'r blaen arnynt, an ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Dychwelwch yn awr oddi wrth eich ffyrdd drwg, ac oddi wrth eich gweithredoedd drygionus: ond ni chlywent, ac ni wrandawent arnaf, medd yr ARGLWYDD.
1:5 Eich tadau, pa le y maent hwy? a'r proffwydi, ydynt hwy yn fyw byth?
1:6 Oni ddarfu er hynny i'm geiriau a'm deddfau, y rhai a orchmynnais wrth fy ngweision y proffwydi, oddiwes eich tadau? a hwy a ddychwelasant, ac a dywedasant, Megis y meddyliodd ARGLWYDD y lluoedd wneuthur i ni, yn ôl ein ffyrdd, ac yn ôl ein gweithredoedd ein hun, felly y gwnaeth efe â ni.
1:7 Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r unfed mis ar ddeg, hwnnw yw mis Sebat, o'r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd,
1:8 Gwelais noswaith; ac wele w^r yn marchogaeth ar farch coch, ac yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrt-<section end="Sechareia"/><noinclude><references/></noinclude>
dbf1jt17xo8qsceurly3b6nf3am4fkc
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/889
104
4363
171315
8019
2026-10-04T05:54:23Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171315
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Sechareia"/>na byddo goleuni disglair, na thywyll:
14:7 Ond bydd un diwrnod, hwnnw a adwaenir gan yr ARGLWYDD, nid dydd, ac nid nos; ond bydd goleuni yn yr hwyr.
14:8 A bydd y dwthwn hwnnw, y daw allan o Jerwsalem ddyfroedd bywiol; eu hanner hwynt tua môr y dwyrain, a'u hanner tua'r môr eithaf: haf a gaeaf y bydd hyn.
14:9 A'r ARGLWYDD a fydd yn Frenin ar yr holl ddaear: y dydd hwnnw y bydd un ARGLWYDD, a'i enw yn un.
14:10 Troir yr holl dir megis yn wastad o Geba hyd Rimmon, o'r tu deau i Jerwsalem: hi a ddyrchefir, ac a gyfanheddir yn ei lle, o borth Benjamin hyd le y porth cyntaf, hyd borth y gongl, ac o dwr Hananeel hyd winwryfau y brenin.
14:11 Yno y trigant ynddi, ac ni bydd yn ddifrod mwyach; ond Jerwsalem a gyfanheddir yn ddienbyd.
14:12 A hyn fydd y pla a'r hwn y tery yr ARGLWYDD yr holl bobloedd a ryfelant yn erbyn Jerwsalem; Eu cnawd a dderfydd, er eu bod yn sefyll ar eu traed, a'u llygaid a ddarfyddant yn eu tyllau, a'u tafod a dderfydd yn eu safn.
14:13 Y dydd hwnnw y bydd mawr derfysg oddi wrth yr ARGLWYDD yn eu plith hwynt; a phob un a ymafael yn llaw ei gymydog, a'i law a gyfyd yn erbyn llaw ei gymydog.
14:14 A Jwda hefyd a ryfela yn Jerwsalem: a chesglir golud yr holl genhedloedd o amgylch, aur ac arian, a gwisgoedd lawer iawn.
14:15 Ac felly y bydd pla y march, y mul, y camel, yr asyn, a phob anifail a fyddo yn y gwersylloedd hyn, fel y pla hwn.
14:16 A bydd i bob un a adawer o’r holl genhedloedd a ddaethant yn erbyn Jerwsalem, fyned i fyny o flwyddyn i flwyddyn, i addoli y Brenin, ARGLWYWDD y lluoedd, ac i gadw gw^yl y pebyll.
14:17 A phwy bynnag nid êl i fyny o deuluoedd y ddaear i Jerwsalem, i addoli y Brenin, ARGLWYDD y lluoedd, ni bydd glaw arnynt.
14:18 Ac os teulu yr Aifft nid â i fyny, ac ni ddaw, y rhai nid oes glaw arnynt; yno y bydd y pla â'r hwn y tery yr ARGLWYDD y cenhedloedd y rhai nid esgynnant i gadw gw^yl y pebyll.
14:19 Hyn a fydd cosb yr Aifft, a chosb yr holl genhedloedd nid elont i fyny i gadw gw^yl y pebyll.
14:20 Y dydd hwnnw y bydd ar ffrwynau y meirch, SANCTEIDDRWYDD I'R ARGLWYDD; a bydd y crochanau yn nhy^ yr ARGLWYDD fel meiliau gerbron yr allor.
14:21 Bydd pob crochan yn Jerwsalem ac yn Jwda yn Sancteiddrwydd i ARGLWYDD y lluoedd: a daw pob aberthwr, ac a gymerant ohonynt, ac a ferwant ynddynt; ac ni bydd Canaanead mwyach yn nhy^ARGLWYDD y lluoedd y dydd hwnnw.
<section end="Sechareia"/>
<section begin="Malachi"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Malachi.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Baich gair yr ARGLWYDD at Israel trwy law Malachi.
1:2 Hoffais chwi, medd yr ARGLWYDD: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth yr hoffaist ni? Onid brawd oedd Esau i Jacob? medd yr ARGLWYDD: eto Jacob a hoffais,
1:3 Ac Esau a gaseais, ac a osodais ei fynyddoedd yn ddiffeithwch, a'i etifeddiaeth i ddreigiau yr anialwch.
1:4 Lle y dywed Edom, Tlodwyd ni, eto dychwelwn, ac adeiladwn yr anghyfaneddleoedd; fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Hwy a adeiladant, ond minnau a fwriaf i lawr; a galwant hwynt yn Ardal drygioni, a'r Bobl wrth y rhai y llidiodd yr ARGLWYDD yn dragywydd.
1:5 Eich llygaid hefyd a welant, a chwithau a ddywedwch, Mawrygir yr ARGLWYDD oddi ar derfyn Israel.
1:6 Mab a anrhydedda ei dad, a gweinidog ei feistr: ac os ydwyf fi dad, pa le y mae <section end="Malachi"/><noinclude><references/></noinclude>
36efhvhufoxxlg24h1jihvwov82l48a
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/932
104
4931
171316
9019
2026-10-04T05:56:01Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171316
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Sant Mathew"/>28:10 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch: ewch, mynegwch i’m brodyr, fel yr elont i Galilea, ac yno y’m gwelant i.
28:11 ¶ Ac wedi eu myned hwy, wele, rhai o’r wyliadwriaeth a ddaethant i’r ddinas, ac a fynegasant i’r archoffeiriaid yr hyn oll a wnaethid.
28:12 Ac wedi iddynt ymgasglu ynghyd gyda’r henuriaid, a chydymgynghori, hwy a roesant arian lawer i’r milwyr,
28:13 dan ddywedyd, Dywedwch, Ei ddisgyblion a ddaethant o hyd nos, ac a’i lladratasant ef, a nyni yn cysgu.
28:14 Ac os clyw y rhaglaw hyn, m a’i, perswadiwn ef, ac a’ch gwnawn chwi yn ddiofal.
28:15 A hwy a gymerasant yr arian, ac a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt: a thaenwyd y gair hwn ymhlith yr Iddewon hyd y dydd heddiw.
28:16 ¶ A’r un disgybl ar ddeg a aethant i Galilea, i’r mynydd lle yr ordeiniasai’r Iesu iddynt.
28:17 A phan welsant ef, hwy a’i haddolasant ef: ond rhai a ameuasant.
28:18 A’r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear.
28:19 Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân;
28:20 Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a’r a orchmynnais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Amen.
<section end="Sant Mathew"/>
<section begin="Sant Marc"/>{{canoli|{{uc|Yr efengyl yn ol}}<br>
{{mawr|{{uc|Sant Marc.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Dechrau efengyl Iesu Grist, Fab Duw;
1:2 Fel yr ysgrifennwyd yn y proffwydi, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen.
1:3 Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch yn union ei lwybrau ef.
1:4 Yr oedd Ioan yn bedyddio yn y diffeithwch, ac yn pregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau.
1:5 Ac aeth allan ato ef holl wlad Jwdea, a’r Hierosolymitiaid, ac a’u bedyddiwyd oll ganddo yn afon yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.
1:6 Ac Ioan oedd wedi ei wisgo â blew camel, a gwregys croen ynghylch ei lwynau, ac yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt.
1:7 Ac efe a bregethodd, gan ddywedyd, Y mae yn dyfod ar fy ôl i un cryfach na myfi, carrai esgidiau yr hwn nid wyf fi deilwng i ymostwng ac i’w datod.
1:8 Myfi yn wir a’ch bedyddiais chwi â dwfr: eithr efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân.
1:9 A bu yn y dyddiau hynny, ddyfod o’r Iesu o Nasareth yng Ngalilea; ac efe a fedyddiwyd gan Ioan yn yr Iorddonen.
1:10 Ac yn ebrwydd wrth ddyfod i fyny o’r dwfr, efe a welodd y nefoedd yn agored, a’r Ysbryd yn disgyn arno megis colomen.
1:11 A llefa ddaeth o’r nefoedd, Tydi yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd.
1:12 Ac yn ebrwydd y gyrrodd yr Ysbryd ef i’r diffeithwch.
1:13 Ac efe a fu yno yn y diffeithwch ddeugain niwrnod yn ei demtio gan Satan: ac yr oedd efe gyda’r gwylltfilod: a’r angylion a weiniasant iddo.
1:14 Ac ar ôl traddodi Ioan, yr Iesu a ddaeth i Galilea, gan bregethu efengyl teyrnas Dduw;
1:15 A dywedyd, Yr amser a gyflawnwyd, a theyrnas Dduw a nesaodd: edifarhewch, a chredwch yr efengyl.
1:16 Ac fel yr oedd efe yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu Simon, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd yn y môr: (canys pysgodwyr oeddynt.)
{{nop}}<section end="Sant Marc"/><noinclude><references/></noinclude>
n5s0q0qf8gcjfo60ym1brg2ssjeaokh
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/956
104
4956
171317
101331
2026-10-04T05:56:46Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171317
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Sant Marc"/>nynt. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb: canys yr oeddynt wedi ofni.
16:9 ¶ A’r Iesu, wedi atgyfodi y bore y dydd cyntaf o’r wythnos, a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o’r hon y twriasai efe allan saith o gythreuliaid.
16:10 Hithau a aeth, ac a fynegodd i’r rhai a fuasent gydag ef, ac oeddynt mewn galar ac wylofain.
16:11 A hwythau, pan glywsant ei fod ef yn fyw, ac iddi hi ei weled ef, ni chredent.
16:12 ¶ Ac wedi hynny yr ymddangosodd efe mewn gwedd arall i ddau ohonynt, a hwynt yn ymdeithio, ac yn myned i’r wlad.
16:13 A hwy a aethant, ac a fynegasant i’r lleill: ac ni chredent iddynt hwythau.
16:14 ¶ Ac ar ôl hynny efe a ymddangosadd i’r un ar ddeg, a hwy yn eistedd i fwyta; ac a ddanododd iddynt eu hanghrediniaeth a’u calongaledwch, am na chredasent y rhai a’i gwelsent ef wedi atgyfodi.
16:15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur.
16:16 Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig: eithr y neb ni chredo a gondemnir.
16:17 A’r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant: Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid; ac â thafodau newyddion y llefarant;
16:18 Seirff a godant ymaith; ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt ddim niwed; ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, a hwy a fyddant iach.
16:19 ¶ Ac felly yr Arglwydd, wedi llefaru wrthynt, a gymerwyd i fyny i’r nef, ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw.
16:20 A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant ymmhob man, a’r Arglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau’r gair, trwy arwyddion y rhai oedd yn canlyn. Amen.
<section end="Sant Marc"/>
<section begin="Sant Luc"/>{{canoli|{{uc|Yr efengyl yn ol}}<br>
{{mawr|{{uc|Sant Luc.}}}}}}
PENNOD 1
1 YN gymaint â darfod i lawer gymryd mewn llaw osod allan mewn trefn draethawd am y pethau a gredir yn ddi-amau yn ein plith,
2 Megis y traddodasant hwy i ni, y rhai oeddynt eu hunain o’r dechreuad yn gweled, ac yn weinidogion y gair:
3 Minnau a welais yn dda, wedi i mi ddilyn pob peth yn ddyfal o’r dechreuad, ysgrifennu mewn trefn atat, O ardderchocaf Theoffilus,
4 Fel y ceit wybod sicrwydd am y pethau y’th ddysgwyd ynddynt.
5 R osdd yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, ryw offeiriad a’i enw Sachareias, o ddyddgylch Abeia: a’i wraig oedd o ferched Aaron, a’i henw Elisabeth.
6 Ac yr oeddynt ill dau yn gyflawn gerbron Duw, yn rhodio yn holl orchmynion a deddfau’r Arglwydd yn ddiargyhoedd.
7 Ac nid oedd plentyn iddynt, am fod Elisabeth yn arnhlantadwy; ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran.
8 A bu, ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad gerbron Duw, yn nhrefn ei ddyddgylch ef,
9 Yn ôl arfer swydd yr offeiriaid, ddyfod o ran iddo arogldarthu yn ôl ei fyned i deml yr Arglwydd.
10 A holl liaws y bobl oedd allan yn gweddïo ar awr yr arogl-darthiad.
11 Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o’r tu deau i allor yr arogl-darth.
12 A Sachareias, pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno.
13 Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Sachareias: canys gwrandawyd dy weddi; a’th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, â thi a eiwi ei enw ef Ioan.
14 A bydd iti lawenydd a gorfoledd; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef.
{{nop}}<section end="Sant Luc"/><noinclude><references/></noinclude>
4rlke23iaffajy5y2oyquc8yamtdcva
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/997
104
5002
171318
9102
2026-10-04T05:57:19Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171318
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{uc|Yr efengyl yn ol}}<br>
{{mawr|{{uc|Sant Ioan.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a’r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair.
1:2 Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw.
1:3 Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a’r a wnaethpwyd.
1:4 Ynddo ef yr oedd bywyd; a’r bywyd oedd oleuni dynion.
1:5 A’r goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch; a’r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred.
1:6 Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a’i enw Ioan.
1:7 Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef.
1:8 Nid efe oedd y Goleuni, eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethai am y Goleuni.
1:9 Hwn ydoedd y gwir Oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn a’r y sydd yn dyfod i’r byd.
1:10 Yn y byd yr oedd efe, a’r byd a wnaethpwyd trwyddo ef; a’r byd nid adnabu ef.
1:11 At ei eiddo ei hun y daeth, a’r eiddo ei hun nis derbyniasant ef.
1:12 Ond cynifer ag a’i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw, sef i’r sawl a gredant yn ei enw ef.
1:13 Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gŵr, eithr o Dduw.
1:14 A’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a driogodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr Unig-anedig oddi wrth y Tad,) yn llawn gras a gwirionedd.
1:15 Ioan a dystiolaethodd amdano ef, ac a lefodd gan ddywedyd, Hwn oedd yr un y dywedais amdano, Yr hwn sydd yn dyfod at fy ôl i, a aeth o’m blaen i: canys yr oedd efe o’m blaen i.
1:16 Ac o’i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, a gras am ras.
1:17 Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y gras a’r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist.
1:18 Ni welodd neb Dduw erioed: yr unig-anedig Fab, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a’i hysbysodd ef.
1:19 A hon yw tystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Jerusalem offeiriaid a Lefiaid i ofyn iddo, Pwy wyt ti?
1:20 Ac efe a gyffesodd, ac ni wadodd; a chyffesodd, Nid myfi yw’r Crist.
1:21 A hwy a ofynasant iddo, Beth ynteu? Ai Eleias wyt ti? Yntau a ddywedodd, Nage. Ai’r Proffwyd wyt ti? Ac efe a atebodd, Nage.
1:22 Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? fel y rhoddom ateb i’r rhai a’n danfonodd. Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdanat dy hun?
1:23 Eb efe, Myfi yw llef un yn gweiddi yn y diffeithwch, Unionwch ffordd yr Arglwydd, fel y dywedodd Eseias y proffwyd.
1:24 A’r rhai a anfonasid oedd o’r Phariseaid.
1:25 A hwy a ofynasant iddo, ac a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny yr wyt ti yn bedyddio, onid ydwyt ti na’r Crist, nac Eleias, na’r proffwyd?
1:26 Ioan a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Myfi sydd yn bedyddio â dwfr; ond y mae un yn sefyll yn eich plith chwi yr hwn nid adwaenoch chwi:
1:27 Efe yw’r hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn a aeth o’m blaen i; yr hwn nid ydwyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgid.
1:28 Y pethau hyn a wnaethpwyd yn Bethabara, y tu hwnt i’r Iorddonen, lle yr oedd Ioan yn bedyddio.
1:29 Trannoeth Ioan a ganfu yr Iesu yn dyfod ato; ac efe a ddywedodd, Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechodau’r byd.
1:30 Hwn yw efe am yr hwn y dywedais i, Ar fy ôl i y mae gŵr yn dyfod, yr hwn a aeth o’m blaen i: canys yr oedd efe o’m blaen i.
1:31 Ac myfi nid adwaenwn ef: eithr<noinclude><references/></noinclude>
92rvvem8yh0izr7ru9436st1wndj8sd
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1028
104
5033
171319
9138
2026-10-04T05:58:56Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171319
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Sant Ioan"/>yn canlyn, (yr hwn hefyd a bwysasai ar ei ddwyfron ef ar swper, ac a ddywedasai, Pwy, Arglwydd, yw’r hwn a’th fradycha di?)
21:21 Pan welodd Pedr hwn, efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, ond beth a wna hwn?
21:22 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti? canlyn di fyfi.
21:23 Am hynny yr aeth y gair yma allan ymhlith y brodyr, na fyddai’r disgybl hwnnw farw: ac ni ddywedasai yr Iesu wrtho na fyddai efe farw; ond, Os mynnaf iddo aros hyd oni delwyf, beth yw hynny i ti?
21:24 Hwn yw’r disgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac a ysgrifennodd y pethau hyn; ac ni a wyddom fod ei dystiolaeth ef yn wir.
21:25 Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped ysgrifennid hwy bob yn un ac un, nid wyf yn tybied y cynhwysai’r byd y llyfrau a ysgrifennid. Amen.
<section end="Sant Ioan"/>
<section begin="Actau"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Actau,}}}}<br>
{{sc|neu}}<br>
{{uc|Weithredoedd yr Apostolion Sanctaidd.}}}}
PENNOD 1
1:1 Y traethawd cyntaf a wneuthum, - O Theoffilus, am yr holl bethau a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a’u dysgu,
1:2 Hyd y dydd y derbyniwyd ef i fyny wedi iddo trwy’r Ysbryd Glân roddi gorchmynion i’r apostolion a etholasai:
1:3 I’r rhai hefyd yr ymddangosodd efe yn fyw wedi iddo ddioddef, trwy lawer o arwyddion sicr; gan fod yn weledig iddynt dros ddeugain niwrnod, a dywedyd y pethau a berthynent i deymas Dduw.
1:4 Ac wedi ymgynnull gyda hwynt, efe a orchmynnodd iddynt nad ymadawent o Jerwsalem, eithr disgwyl am addewid y Tad, yr hwn, eb efe, a glywsoch gennyf fi.
1:5 Oblegid Ioan yn ddiau a fedyddiodd â dwfr; ond chwi a fedyddir â’r Ysbryd Glân, cyn nemor o ddyddiau.
1:6 Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd, hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, ai’r pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel?
1:7 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd na’r prydiau, y rhai a osododd y Tad yn ei feddiant ei hun.
1:8 Eithr chwi a dderbyniwch nerth yr Ysbryd Glân wedi y delo efe arnoch; ac a fyddwch dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea, a Samaria, ac hyd eithaf y ddaear.
1:9 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt-hwy yn edrych, efe a ddyrchafwyd i fyny; a chwmwl a’i derbyniodd ef allan o’u golwg hwynt.
1:10 Ac fel yr oeddynt yn edrych yn ddyfal tua’r nef, ac efe yn myned i fyny, wele, dau ŵr a safodd gerllaw iddynt mewn gwisg wen;
1:11 Y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wŷr o Galilea, paham y sefwch yn edrych tua’r nef? yr Iesu hwn, yr hwn a gymerwyd i fyny oddi wrthych i’r nef, a ddaw felly yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn myned i’r nef.
1:12 Yna y troesant i Jerwsalem, o’r mynydd a elwir Olewydd, yr hwn sydd yn agos i Jerwsalem, sef taith diwrnod Saboth.
1:13 Ac wedi eu dyfod i mewn, hwy a aethant i fyny i oruwchystafell, lle yr oedd Pedr, ac Iago, ac loan, ac Andreas, Philip, a Thomas, Bar-<section end="Actau"/><noinclude><references/></noinclude>
4354m0sxjnwhqqkobd3sl1c0qk4r7p8
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1067
104
5074
171320
9240
2026-10-04T06:00:34Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171320
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Actau"/>fynasent fy ngollwng ymaith, am nad oedd dim achos angau ynof.
28:19 Eithr am fod yr Iddewon yn dywedyd yn erbyn hyn, mi a yrrwyd i apelio at Gesar; nid fel petai gennyf beth i achwyn ar fy nghenedl.
28:20 Am yr achos hwn gan hynny y gelwais amdanoch chwi, i’ch gweled, ac i ymddiddan â chwi: canys o achos gobaith Israel y’m rhwymwyd i a’r gadwyn hon.
28:21 A hwythau a ddywedasant wrtho, Ni dderbyniasom ni lythyrau o Jwdea yn dy gylch di, ac ni fynegodd ac ni lefarodd neb o’r brodyr a ddaeth oddi yno ddim drwg amdanat ti,
28:22 Ond yr ydym ni yn deisyf cael clywed gennyt ti beth yr ydwyt yn ei synied; oblegid am y sect hon, y mae yn hysbys i ni fod ym mhob man yn dywedyd yn ei herbyn.
28:23 Ac wedi iddynt nodi diwrnod iddo, llawer a ddaeth ato ef i’w lety; i’r rhai y tystiolaethodd ac yr eglurodd efe deyrnas Dduw, gan gynghori iddynt y pethau am yr Iesu, allan o gyfraith Moses, a’r proffwydi, o’r bore hyd yr hwyr.
28:24 A rhai a gredasant i’r pethau a ddywedasid, a rhai ni chredasant.
28:25 Ac a hwy yn anghytûn â’i gilydd, hwy a ymadawsant, wedi i Paul ddywedyd un gair, mai da y llefarodd yr Ysbryd Glân trwy Eseias y proffwyd wrth ein tadau ni,
28:26 Gan ddywedyd, Dos at y bobl yma, a dywed, Yn clywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch:
28:27 Canys brasawyd calon y bobl hyn, a thrwm y clywsant â’u clustiau, a’u llygaid a gaeasant; rhag iddynt weled â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’r galon, a dychwelyd, ac i mi eu hiacháu hwynt.
28:28 Bydded hysbys i chwi gan hynny, anfon iachawdwriaeth Duw at y Cenhedloedd, a hwy a wrandawant.
28:29 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, ymadawodd yr Iddewon, a chanddynt ddadl mawr yn eu plith.
28:30 A Phaul a arhoes ddwy flynedd gyfan yn ei dŷ ardrethol ei hun, ac a dderbyniodd bawb a’r oedd yn dyfod i mewn ato,
28:31 Gan bregethu teyrnas Dduw, ac athrawiaethu y pethau am yr Arglwydd Iesu Grist, gyda phob hyfder, yn ddiwahardd.
<section end="Actau"/>
<section begin="Rhufeiniaid"/>{{canoli|{{uc|Epistol Paul yr apostol at y}}<br>
{{mawr|{{uc|Rhufeiniaid.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Paul, gwasanaethwr Iesu Grist, wedi ei alw i fod yn apostol, ac wedi ei neilltuo i efengyl Duw,
1:2 (Yr hon a ragaddawsai efe trwy ei broffwydi yn yr ysgrythurau sanctaidd,)
1:3 Am ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni, yr hwn a wnaed o had Dafydd o ran y cnawd;
1:4 Ac a eglurwyd yn Fab Duw mewn gallu, yn ôl ysbryd sancteiddiad, trwy’r atgyfodiad oddi wrth y meirw:
1:5 Trwy’r hwn y derbyniasom ras ac apostoliaeth, i ufudd-dod ffydd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ei enw ef:
1:6 Ymysg y rhai yr ydych chwithau yn alwedigion Iesu Grist:
1:7 At bawb sydd yn Rhufain, yn annwyl gan Dduw, wedi eu galw i fod yn saint: Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist.
1:8 Yn gyntaf, yr wyf yn diolch i’m Duw trwy Iesu Grist drosoch chwi oll, oblegid bod eich ffydd chwi yn gyhoeddus yn yr holl fyd.
1:9 Canys tyst i mi yw Duw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu yn fy ysbryd yn efengyl ei Fab ef, fy mod i yn ddibaid yn gwneuthur coffa ohonoch bob amser yn fy ngweddïau,
1:10 Gan ddeisyf a gawn ryw fodd, ryw amser bellach, rwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddyfod atoch chwi.
1:11 Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu <section end="Rhufeiniaid"/><noinclude><references/></noinclude>
8npqqtadslblu8v3k3ffr3uozfg7d3t
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1083
104
5423
171321
9954
2026-10-04T06:01:30Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171321
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Rhufeiniaid"/>yn yr Arglwydd, a’i fam ef a minnau.
16:14 Anerchwch Asyncritus, Phlegon, Hennas, Patrobas, Mercurius; a’r brodyr sydd gyda hwynt.
16:15 Anerchwch Philogus, a Jwlia, Nereus a’i chwaer, ac Olympas, a’r holl saint y rhai sydd gyda hwynt.
16:16 Anerchwch y naill y llall â chusan sanctaidd. Y mae eglwysi Crist yn eich annerch.
16:17 Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi; a chiliwch oddi wrthynt.
16:18 Canys y rhai sydd gyfryw, nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy ymadrodd teg a gweniaith, yn twyllo calonnau’r rhai diddrwg.
16:19 Canys eich ufudd-dod chwi a ddaeth ar led at bawb. Yr wyf fi gan hynny yn llawen o’ch rhan chwi: eithr myfi a ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tuag at y peth sydd dda, ac yn wirion tuag at y peth sydd ddrwg.
16:20 A Duw’r tangnefedd a sathr Satan dan eich traed chwi ar frys. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen.
16:21 Y mae Timotheus fy nghydweithiwr, a Lucius, a Jason, a Sosipater, fy ngfaeraint, yn eich annerch.
16:22 Yr wyf fi Tertius, yr hwn a ysgrifennais yr epistol hwn, yn eich annerch yn yr Arglwydd.
16:23 Y mae Gaius fy lletywr i, a’r holl eglwys, yn eich annerch. Y mae Erastus, goruchwyliwr y ddinas, yn eich annerch, a’r brawd Cwartus.
16:24 Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi oll. Amen.
16:25 I’r hwn a ddichon eich cadarnhau yn ôl fy efengyl i, a phregethiad Iesu Grist, (yn ôl datguddiad y dirgelwch, yr hwn ni soniwyd amdano er dechreuad y byd;
16:26 Ac yr awron a eglurwyd, a thrwy ysgrythurau’r proffwydi, yn ôl gorchymyn y tragwyddol Dduw, a gyhoeddwyd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ufudd-dod ffydd:)
16:27 I Dduw yr unig ddoeth, y byddo gogoniant trwy Iesu Grist yn dragywydd. Amen.
At y Rhufeiniaid yr ysgrifennwyd o Gorinth, gyda Phebe, gweinidoges yr eglwys yn Cenchrea.
<section end="Rhufeiniaid"/>
<section begin="1 Corinthiaid"/>{{canoli|{{uc|Epistol cyntaf Paul yr apostol at y}}<br>
{{mawr|{{uc|Corinthiaid.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Paul, wedi ei alw i fod yn apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a’r brawd Sosthenes,
1:2 At eglwys Dduw yr hon sydd yng Nghorinth, at y rhai a sancteiddiwyd yng Nghrist Iesu, a alwyd yn saint, gyda phawb ag sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist, ym mhob man, o’r eiddynt hwy a ninnau:
1:3 Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Ar¬glwydd Iesu Grist.
1:4 Yr ydwyf yn diolch i’m Duw bob amser drosoch chwi, am y gras Duw a rodded i chwi yng Nghrist Iesu;
1:5 Am eich bod ym mhob peth wedi eich cyfoethogi ynddo ef, mewn pob ymadrodd, a phob gwybodaeth;
1:6 Megis y cadarnhawyd tystiolaeth Crist ynoch:
1:7 Fel nad ydych yn ôl mewn un dawn, yn disgwyl am ddatguddiad ein Har¬glwydd Iesu Grist:
1:8 Yr hwn hefyd a’ch cadarnha chi hyd y diwedd, yn ddiargyhoedd, yn nydd ein Harglwydd Iesu Grist.
1:9 Ffyddlon yw Duw, trwy yr hwn y’ch galwyd i gymdeithas ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni.
1:10 Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd o bawb ohonoch chwi yr un peth, ac na byddo ymbleidio yn eich plith; eithr bod ohonoch wedi eich cyfan gysylltu yn yr un meddwl, ac yn yr un fam.
{{nop}}<section end="1 Corinthiaid"/><noinclude><references/></noinclude>
a2dufulaemz6c4d3elchh7ox61wuhty
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1099
104
5440
171322
9980
2026-10-04T06:02:11Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171322
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{uc|Ail epistol Paul yr apostol at y}}<br>
{{mawr|{{uc|Corinthiaid.}}}}}}
PENNOD 1
1 PAUL, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a’r brawd Timotheus, at eglwys Dduw yr hon sydd yng Nghorinth, gyda’r holl seintiau y rhai sydd yn holl Achaia:
2 Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist.
3 Bendigedig fyddo Duw, a Thad eiq Harglwydd ni Iesu Grist, Tad y tru gareddau, a Duw pob diddanwch;
4 Yr hwn sydd yn ein diddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau ddiddanu’r rhai sydd mewn dim gorthrymder, trwy’r diddanwch a’r hwn y’n diddenir ni ein hunain gan Dduw.
5 Oblegid fel y mae dioddefiadau Crist yn amlhau ynom ni; felly trwy Grist y mae ein diddanwch ni hefyd yn aailhau.
6 A pha un bynnag ai ein gorthrymu yr ydys, er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae, yr hon a weithir trwy ymaros dan yr un dioddefiadau, y rhai yr ydym ninnau yn eu dioddef; ai ein diddanu yr ydys, er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae hynny.
7 Ac y mae ein gobaith yn sicr amdanoch; gan i ni wybod, mai megis yr ydych yn gyfranogion o’r dioddefiadau, felly y byddwch hefyd o’r diddanwch.
8 Canys ni fynnem i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein cystudd a ddaeth i ni yn Asia, bwyso arnom yn ddirfawr uwchbcn ein gallu, hyd onid oeddem yn amau cael byw hefyd.
9 Eithr ni a gawsom ynom ein hunain farn angau, fel na byddai i ni ymddiried ynom ein hunain, ond yn Nuw, yr hwn sydd yn cyfodi’r meirw;
10 Yr hwn a’n gwaredodd ni oddi wrth gyfryw ddirfawr angau, ac sydd yn ein gwaredu; yn r hwn yr ydym yn gobeithio y gwared ni hefyd rhag llaw: i
11 A chwithau hefyd yn cydweithin drosom mewn gweddi, fel, am y rhoddiad a rodded i ni oherwydd llawer, y rhodder diolch gan lawer drosom.
12 Canys ein gorfoledd ni yw hyn, set’ tystiolaeth ein cydwybod, mai mewn symlrwydd, a phurdeb duwiol, nid mewn doethineb cnawdol, ond trwy ras Duw, yr ymddygasom yn y byd, ond yn hytrach tuag atoch chwi.
13 Canys nid ydym yn ysgrifennu amgen bethau atoch nag yr ydych yn eu darilen, neu yn eu cydnabod, ac yr wyf yn gobeithio a gydnabyddwch hyd y diwedd hefyd;
14 Megis y cydnabuoch ni o ran, mai nyni yw eich gorfoledd chwi, fel chwithau yr eiddom ninnau hefyd yn nydd yr Arglwydd Iesu.
15 Ac yn yr hyder hwn yr oeddwn yn ewyllysio dyfod atoch o’r blaen, fel y caff-tch ail ras;
16 A myned heb eich llaw chwi i Facedonia, a dyfod drachefn o Facedonia atoch, a chael fy hebrwng gennych i jwdea.
17 Gan hynny, pan oeddwn yn bwriadu hyn, a arferais i ysgafnder? neu y pethau yr wyf yn eu bwriadu, ai yn ôl y cnawd yr wyf yn eu bwriadu, fel y bydd¬ai gyda mi, ie, ie, a nage, nage?
18 Eithr ffyddlon yw Duw, a’n hymadrodd ni wrthych chwi ni bu ie, a nage.
19 Canys Mab Duw, Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd yn eich plith gennym ni, sef gennyf fi, a Silfanus, a Thimo-theus, nid ydoedd ie, a nage, eithr ynddo ef ie ydoedd.
20 Oblegid holl addewidion Duw ynddo ef ydynt ie, ac ynddo ef amen, er gogoniant i Dduw trwom ni.
21 A’r hwn sydd yn ein cadarnhau<noinclude><references/></noinclude>
nx2e9hovdbf8biu5qtezjh2fr9jln6l
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1109
104
5451
171323
9998
2026-10-04T06:02:51Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171323
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="2 Corinthiaid"/>rai ag a fynnwn, a’m cael innau i chwithau yn gyfryw ag nis mynnech: rhag bod cyn-hennau, cenfigennau, llidiau, ymrysonau, goganau, hustyngau, ymchwyddiadau, anghydfyddiaethau:
21 Rhag pan ddelwyf drachefn, fod i’m Duw fy narostwng yn eich plith, ac i mi ddwyn galar dros lawer, y rhai a bechasant eisoes, ac nid edifarhasant am yr aflendid, a’r godineb., a’r anlladrwydd a wnaethant.
PENNOD 13
1 Y DRYDEDD waith hon yr ydwyf yn dyfod atoch. Yng ngenau dau neu dri o dystion y bydd safadwy pob gair.
2 Rhagddywedais i chwi, ac yr ydwyf yn rhagddywedyd fel pe bawn yn bresennol yr ail waith, ac yn absennol yr awron yr ydwyf yn ysgrifennu at y rhai a bechasant eisoes, ac at y lleill i gyd, os deuaf drachefn, nad arbedaf:;
3 Gan eich bod yn ceisio profiad o Grist, yr hwn sydd yn llefaru ynof, yr hwn tuag atoch chwi nid yw wan, eithr sydd nerthol ynoch chwi.
4 Canys er ei groeshoelio ef o ran gwendid, eto byw ydyw trwy nerth Duw: canys ninnau hefyd ydym weiniaid ynddo , ef, eithr byw fyddwn gydag ef trwy nerth Duw tuag atoch chwi.
5 Profwch chwychwi eich hunain, a ydych yn y ffydd; holwch eich hunain. Onid ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bod Iesu Grist ynoch, oddieithr i chwi fod yn anghymeradwy?
6 Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymeradwy.
7 Ac yr wyf yn gweddïo ar Dduw na wneloch chwi ddim drwg; nid fel yr yrnddangosom ni yn gymeradwy, ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd dda, er bod ohonom ni megis rhai anghymeradwy.
8 Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y gwirionedd, ond dros y gwirionedd.
9 Canys llawen ydym pan fyddom ni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion: a hyn hefyd yr ydym yn ei ddymuno, sef eich perffeithrwydd chwi.
10 Am hynny rnyfi yn absennol ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn, fel pan fyddwyf bresennol nad arferwyf doster, yn ôl yr awdurdod a roddes yr Arglwydd i mi er adeilad, ac nid er dinistr.
11 Bellach, frodyr, byddwch wych. Byddwch berffaith, diddaner chwi, syn-iwch yr un peth, byddwch heddychol; a Duw’r cariad a’r heddwch a fydd gyda chwi.
12 Anerchwch eich gilydd & chusan sanctaidd. Y mae’r holl saint yn eich; annerch chwi.
13 Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân, a fyddo gyda chwi oll. Amen.
Yr ail at y Corinthiaid a ysgrifennwyd o Philipi ym Macedonia, gyda Thitus a Luc.
<section end="2 Corinthiaid"/>
<section begin="Galatiaid"/>{{canoli|{{uc|Epistol Paul yr apostol at y}}<br>
{{mawr|{{uc|Galatiaid.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Paul, apostol, (nid o ddynion, na thrwy ddyn, eithr trwy Iesu Grist, a Duw Dad, yr hwn a’i cyfododd ef o feirw;)
1:2 A’r brodyr oll y rhai sydd gyda mi, at eglwysi Galatia:
1:3 Gras fyddo i chwi a heddwch oddi wrth Dduw Dad, a’n Harglwydd Iesu Grist;
1:4 Yr hwn a’i rhoddes ei hun dros ein pechodau, fel y’n gwaredai ni oddi wrth y byd drwg <section end="Galatiaid"/><noinclude><references/></noinclude>
e42r1etx1l439uebwjkrzasgt2stfss
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1115
104
5458
171324
138395
2026-10-04T06:03:55Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171324
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Galatiaid"/>arnoch chwi, fel y gorfoleddont yn eich cnawd chwi.
6:14 Eithr na atto Duw i mi ymffrostio ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y croeshoeliwyd y byd i mi, a minnau i’r byd.
6:15 Canys yng Nghrist Iesu ni ddichon enwaediad ddim, na dïenwaediad, ond creadur newydd.
6:16 A chynnifer ag a rodiant yn ôl y rheol hon, tangnefedd arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw.
6:17 O hyn allan na flined neb fi: canys dwyn yr wyf fi yn fy nghorph nodau yr Arglwydd Iesu.
6:18 Gras ein Harglwydd Iesu Grist ''a fyddo'' gyd â’ch ysbryd chwi, frodyr. Amen. At y Galatiaid yr ysgrifennwyd o Rufain.
<section end="Galatiaid"/>
<section begin="Effesiaid"/>{{canoli|{{uc|Epistol Paul yr apostol at yr}}<br>
{{mawr|{{uc|Ephesiaid.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, at y saint sydd yn Effesus, a'r ffyddloniaid yng Nghrist Iesu:
1:2 Gras ''fyddo'' i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist.
1:3 Bendigedig ''fyddo'' Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a'n bendithiodd ni â phob bendith ysbrydol yn y nefolion ''leoedd'' yng Nghrist:
1:4 Megis yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad:
1:5 Wedi iddo ein rhagluniaethu ni i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hun, yn ôl bodlonrwydd ei ewyllys ef,
1:6 Er mawl gogoniant ei ras ef, trwy yr hwn y gwnaeth ni yn gymmeradwy yn yr Anwylyd:
1:7 Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, ''sef'' maddeuant pechodau, yn ôl cyfoeth ei ras ef;
1:8 Trwy yr hwn y bu efe helaeth i ni ym mhob doethineb a deall,
1:9 Gwedi iddo hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn ôl ei fodlonrwydd ei hun, yr hon a arfaethasai efe ynddo ei hun:
1:10 Fel yng ngoruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd, y gallai grynhôi ynghyd yng Nghrist yr holl bethau sydd yn y nefoedd, ac ar y ddaear, ynddo ef:
1:11 Yn yr hwn y'n dewiswyd hefyd, wedi ein rhagluniaethu yn ôl arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth wrth gynghor ei ewyllys ei hun:
1:12 Fel y byddem ni er mawl i'w ogoniant ef, y rhai o'r blaen a obeithiasom yng Nghrist.
1:13 Yn yr hwn ''y gobeithiasoch'' chwithau hefyd, wedi i chwi glywed gair y gwirionedd, efengyl eich iachawdwriaeth: yn yr hwn hefyd, wedi i chwi gredu, y'ch seliwyd trwy Lân Yspryd yr addewid;
1:14 Yr hwn yw ernes ein hetifeddiaeth ni, hyd bryniad y pwrcas, i fawl ei ogoniant ef.
1:15 O herwydd hyn minnau hefyd, wedi clywed eich ffydd yn yr Arglwydd Iesu, a'ch cariad tu ag at yr holl saint,
1:16 Nid wyf yn peidio â dïolch drosoch, gan wneuthur coffa am danoch yn fy ngweddïau;
1:17 Ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y gogoniant, roddi i chwi Yspryd doethineb a datguddiad, trwy ei adnabod ef:
1:18 Wedi goleuo llygaid eich meddyliau; fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, a pheth ''yw'' golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint,
1:19 A pheth ''yw'' rhagorol fawredd ei nerth ef tu ag attom ni y rhai ŷm yn credu, yn ôl gweithrediad nerth ei gadernid ef;
1:20 Yr hon a weithredodd efe yng Nghrist, pan ei cyfododd ef o feirw, ac a'i gosododd i eistedd ar ei ddeheulaw ei hun yn y nefolion ''leoedd'',
{{nop}}<section end="Effesiaid"/><noinclude><references/></noinclude>
nj9nsr5zo3hf95nm6nw9hz69ztfg9kk
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1120
104
5463
171325
10017
2026-10-04T06:04:45Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171325
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Effesiaid"/>fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol.
6:12 Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd.
6:13 Am hynny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi gorffen pob peth, sefyll.
6:14 Sefwch gan hynny, wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisgo dwyfronneg cyfiawnder;
6:15 A gwisgo am eich traed esgidiau paratoad efengyl tangnefedd:
6:16 Uwchlaw pob dim, wedi cymryd tarian y ffydd, a'r hon y gellwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y fall.
6:17 Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw:
6:18 Gan weddio bob amser a phob rhyw weddi â deisyfiad yn yr Ysbryd, a bod yn wyliadwrus at hyn yma, trwy hob dyfalbara, a deisyfiad dros yr holl saint,
6:19 A throsof finnau, fel y rhodder i mi ymadrodd, trwy agoryd fy ngenau yn hy, i hysbysu dirgelwch yr efengyl;
6:20 Dros yr hon yr wyf yn gennad mewn cadwyn: fel y traethwyf yn hy amdani, fel y perthyn imi draethu.
6:21 Ond fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt, beth yr wyf yn ei wneuthur, Tychicus, y brawd annwyl a'r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd, a hysbysa i chwi bob peth:
6:22 Yr hwn a anfonais atoch er mwyn hyn yma; fel y caech wybod ein helynt ni, ac fel y diddanai efe eich calonnau chwi.
6:23 Tangnefedd i'r brodyr, a chariad gyda ffydd, oddi wrth Dduw Dad, a'r Arglwydd Iesu Grist.
6:24 Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn purdeb. Amen.
At yr Effesiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus.
<section end="Effesiaid"/>
<section begin="Philipiaid"/>{{canoli|{{uc|Epistol Paul yr apostol at y}}<br>
{{mawr|{{uc|Philippiaid.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Paul a Thimotheus, gweision Iesu Grist, at yr holl saint yng Nghrist Iesu y rhai sydd yn Philipi, gyda'r esgobion a'r diaconiaid:
1:2 Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.
1:3 I'm Duw yr ydwyf yn diolch ym mhob coffa amdanoch,
1:4 Bob amser ym mhob deisyfiad o'r eiddof drosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd,
1:5 Oblegid eich cymdeithas chwi yn yr efengyl, o'r dydd cyntaf hyd yr awr hon;
1:6 Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orffen hyd ddydd Iesu Grist:
1:7 Megis y mae'n iawn i mi synied hyn amdanoch oll, am eich bod gennyf yn fy nghalon, yn gymaint â'ch bod chwi oll, yn gystal yn fy rhwymau, ag yn fy amddiffyn a chadarnhad yr efengyl, yn gyfranogion â mi o ras.
1:8 Canys Duw sydd dyst i mi, mor hiraethus wyf amdanoch oll yn ymysgaroedd Iesu Grist.
1:9 A hyn yr wyf yn ei weddïo, ar amlhau o'ch cariad chwi eto fwyfwy mewn gwybodaeth a phob synnwyr;
1:10 Fel y profoch y pethau sydd â gwahaniaeth rhyngddynt; fel y byddoch bur a didramgwydd hyd ddydd Crist;
1:11 Wedi eich cyflawni â ffrwythau <section end="Philipiaid"/><noinclude><references/></noinclude>
2jvcigz705d98cskt8nff42j0nzf4pe
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1124
104
5467
171326
10029
2026-10-04T06:05:26Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171326
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Philipiaid"/>4:10 Mi a lawenychais hefyd yn yr Arglwydd yn fawr, oblegid i'ch gofal chwi amdanaf fi yr awr hon o'r diwedd adnewyddu; yn yr hyn y buoch ofalus hefyd, ond eisiau amser cyfaddas oedd arnoch.
4:11 Nid am fy mod yn dywedyd oherwydd eisiau: canys myfi a ddysgais yn mha gyflwr bynnag y byddwyf, fod yn fodlon iddo.
4:12 Ac mi a fedraf ymostwng, ac a fedraf ymhelaethu: ym mhob lle ac ym mhob peth y'm haddysgwyd, i fod yn llawn ac i fod yn newynog, i fod mewn helaethrwydd ac i fod mewn prinder.
4:13 Yr wyf yn gallu pob peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu i.
4:14 Er hynny, da y gwnaethoch gydgyfrannu â'm gorthrymder i.
4:15 A chwithau, Philipiaid, hefyd a wyddoch yn nechreuad yr efengyl, pan euthum i ymaith o Facedonia, na chyfrannodd un eglwys â mi o ran rhoddi a derbyn, ond chwychwi yn unig.
4:16 Oblegid yn Thesalonica hefyd yr anfonasoch i mi unwaith ac eilwaith wrth fy anghenraid.
4:17 Nid oherwydd fy mod i yn ceisio rhodd: eithr yr ydwyf yn ceisio ffrwyth yn amlhau erbyn eich cyfrif chwi.
4:18 Ond y mae gennyf bob peth, ac y mae gennyf helaethrwydd: mi a gyflawnwyd, wedi i mi dderbyn gan Epaffroditus y pethau a ddaethant oddi wrthych chwi; sef arogi peraidd, aberth cymeradwy, bodlon gan Dduw.
4:19 A'm Duw i a gyflawna eich holl raid chwi yn ôl ei olud ef mewn gogoniant, yng Nghrist Iesu.
4:20 Ond i Dduw a'n Tad ni y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
4:21 Anerchwch yr holl saint yng Nghrist Iesu. Y mae'r brodyr sydd gyda mi yn eich annerch.
4:22 Y mae'r saint oll yn eich annerch chwi, ac yn bennaf y rhai sydd o deulu Cesar.
4:23 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll. Amen. At y Philipiaid yr ysgrifennwyd o Rufain gydag Epaffroditus.
<section end="Philipiaid"/>
<section begin="Colosiaid"/>{{canoli|{{uc|Epistol Paul yr apostol at y}}<br>
{{mawr|{{uc|Colossiaid.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a Thimotheus ein brawd,
1:2 At y saint a'r ffyddlon frodyr yng Nghrist y rhai sydd yng Ngholosa: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist.
1:3 Yr ydym yn diolch i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, gan weddio drosoch chwi yn wastadol,
1:4 Er pan glywsom am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint;
1:5 Er mwyn y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hon y clywsoch o'r blaen yng ngair gwirionedd yr efengyl:
1:6 Yr hon sydd wedi dyfod atoch chwi, megis ag y mae yn yr holl fyd; ac sydd yn dwyn ffrwyth, megis ag yn eich plith chwithau, er y dydd y clywsoch, ac y gwybuoch ras Duw mewn gwirionedd:
1:7 Megis ag y dysgasoch gan Epaffras ein hannwyl gyd-was, yr hwn sydd drosoch chwi yn ffyddlon weinidog i Grist;
1:8 Yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Ysbryd.
1:9 Oherwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch, a deisyf eich cyflawni chwi a gwybodaeth ei ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysbrydol;
1:10 Fel y rhodioch yn addas i'r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chynyddu yng ngwybodaeth am Dduw;
1:11 Wedi eich nerthu â phob nerth <section end="Colosiaid"/><noinclude><references/></noinclude>
bzcf952noh1wew6dzska7wwmqm1k8m9
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1128
104
5471
171327
10035
2026-10-04T06:06:35Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171327
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{uc|Epistol cyntaf Paul yr apostol at y}}<br>
{{mawr|{{uc|Thessaloniaid.}}}}}}
PENNOD I
1:1 Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thesaloniaid, yn Nuw Dad, a'r Arglwydd Iesu Grist: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist.
1:2 Yr ydym yn diolch i Dduw yn wastadol drosoch chwi oll, gan wneuthur coffa amdanoch yn ein gweddïau,
1:3 Gan gofio yn ddi-baid waith eich ffydd chwi, a llafur eich cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, gerbron Duw a'n Tad;
1:4 Gan wybod, frodyr annwyl, eich etholedigaeth chwi gan Dduw.
1:5 Oblegid ni bu ein hefengyl ni tuag atoch mewn gair yn unig, eithr hefyd mewn nerth, ac yn yr Ysbryd Glân, ac mewn sicrwydd mawr; megis y gwyddoch chwi pa fath rai a fuom ni yn eich plith, er eich mwyn chwi.
1:6 A chwi a aethoch yn ddilynwyr i ni, ac i'r Arglwydd, wedi derbyn y gair mewn gorthrymder mawr, gyda llawenydd yr Ysbryd Glân:
1:7 Hyd onid aethoch yn siamplau i'r rhai oll sydd yn credu ym Macedonia ac yn Achaia.
1:8 Canys oddi wrthych chwi y seiniodd gair yr Arglwydd, nid yn unig ym Macedonia, ac yn Achaia, ond ym mhob man hefyd eich ffydd chwi ar Dduw a aeth ar led; fel nad rhaid i ni ddywedyd dim.
1:9 Canys y maent hwy yn mynegi amdanom ni, pa ryw ddyfodiad i mewn a gawsom ni atoch chwi, a pha fodd y troesoch at Dduw oddi wrth eilunod, i wasanaethu'r bywiol a'r gwir Dduw;
1:10 Ac i ddisgwyl am ei Fab ef o'r nefoedd, yr hwn a gyfododd efe o feirw, sef Iesu, yr hwn a'n gwaredodd ni oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod.
PENNOD 2
2:1 Canys chwi eich hunain a wyddoch, frodyr, ein dyfodiad ni i niewn atoch, nad ofer fu:
2:2 Eithr wedi i ni ddioddef o'r blaen, a chael amarch, fel y gwyddoch chwi, yn Philipi, ni a fuom hy yn ein Duw i lefaru wrthych chwi efengyl Duw trwy fawr ymdrech.
2:3 Canys ein cyngor ni nid oedd o hudoliaeth nac o aflendid, nac mewn twyll:
2:4 Eithr megis y'n cyfrifwyd ni gan Dduw yn addas i ymddiried i ni am yr efengyl, felly yr ydym yn llefaru; nid megis yn rhyngu bodd i ddynion, ond i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonnau ni.
2:5 Oblegid ni fuom ni un amser mewn ymadrodd gwenieithus, fel y gwyddoch chwi, nac mewn rhith cybydd-dod; Duw yn dyst:
2:6 Nac yn ceisio moliant gan ddynion, na chennych chwi, na chan eraill; lle y gallasem bwyso arnoch, fel apostolion Crist.
2:7 Eithr ni a fuom addfwyn yn eich mysg chwi, megis mamaeth yn maethu ei phlant.
2:8 Felly, gan eich hoffi chwi, ni a welsom yn dda gyfrannu â chwi, nid yn unig efengyl Duw, ond ein heneidiau ein hunain hefyd, am eich bod yn annwyl gennym.
2:9 Canys cof yw gennych, frodyr, ein llafur a'n lludded ni: canys gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb ohonoch, ni a bregethasom i chwi efengyl Duw.
2:10 Tystion ydych chwi, a Duw hefyd, mor sanctaidd, ac mor gyfiawn, a diargyhoedd, yr ymddygasom yn eich mysg chwi y rhai ydych yn credu:
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
5c35e13nf6t15bobrxl5ohlsp94b9df
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1131
104
5474
171328
10041
2026-10-04T06:07:29Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171328
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="1 Thesaloniaid"/>gwylied ai cysgu, y byddom fyw gydag ef.
5:11 Oherwydd paham cynghorwch eich gilydd, ac adeiledwch bob un eich gilydd, megis ag yr ydych yn gwneuthur.
5:12 Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, adnabod y rhai sydd yn llafurio yn eich mysg, ac yn eich llywodraethu chwi yn yr Arglwydd, ac yn eich rhybuddio,
5:13 A gwneuthur cyfrif mawr ohonynt mewn cariad, er mwyn eu gwaith. Byddwch dangnefeddus yn eich plith eich hunain.
5:14 Ond yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus, diddenwch y gwan eu meddwl, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb.
5:15 Gwelwch na thalo neb ddrwg dros ddrwg i neb: eithr yn wastadol dilynwch yr hyn sydd dda, tuag at eich gilydd, a thuag at bawb.
5:16 Byddwch lawen yn wastadol.
5:17 Gweddiwch yn ddi-baid.
5:18 Ym mhob dim diolchwch: canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag atoch chwi.
5:19 Na ddiffoddwch yr Ysbryd.
5:20 Na ddirmygwch broffwydoliaethau.
5:21 Profwch bob peth: deliwch yr hyn sydd dda.
5:22 Ymgedwch rhag pob rhith drygioni.
5:23 A gwir Dduw'r tangnefedd a'ch sancteiddio yn gwbl oll: a chadwer eich ysbryd oll, a'ch enaid, a'ch corff, yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist.
5:24 Ffyddlon yw'r hwn a'ch galwodd, yr hwn hefyd a'i gwna.
5:25 O frodyr, gweddiwch drosom.
5:26 Anerchwch yr holl frodyr a chusan sancteiddiol.
5:27 Yr ydwyf yn eich tynghedu yn yr Arglwydd, ar ddarllen y llythyr hwn i'r holl frodyr sanctaidd.
5:28 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen.
Y cyntaf at y Thesaloniaid a ysgrifennwyd o Athen.
<section end="1 Thesaloniaid"/>
<section begin="2 Thesaloniaid"/>{{canoli|{{uc|Ail epistol Paul yr apostol at y}}<br>
{{mawr|{{uc|Thessaloniaid.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thesaloniaid, yn Nuw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist:
1:2 Gras i chwi, a thangnefedd, oddi with Dduw ein Tad ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.
1:3 Diolch a ddylem i Dduw yn wastadol drosoch, frodyr, fel y mae yn addas, oblegid bod eich ffydd chwi yn mawr gynyddu, a chariad pob un ohonoch oll tuag at eich gilydd yn ychwanegu;
1:4 Hyd onid ydym ni ein hunain yn gorfoleddu ynoch chwi yn eglwysi Duw, oherwydd eich amynedd chwi a'ch ffydd yn eich holl erlidiau a'r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef:
1:5 Yr hyn sydd argoel golau o gyfiawn farn Duw, fel y'ch cyfrifer yn deilwng i deyrnas Dduw, er mwyn yr hon yr ydych hefyd yn goddef.
1:6 Canys cyfiawn yw gerbron Duw, dalu cystudd i'r rhai sydd yn eich cystuddio chwi,
1:7 Ac i chwithau, y rhai a gystuddir, esmwythdra gyda ni, yn ymddangosiad yr Arglwydd Iesu o'r nef, gyda'i angylion nerthol,
1:8 A thân fflamllyd, gan roddi dial i'r sawl nid adwaenant Dduw, ac nid ydynt yn ufuddhau i efengyl ein Harglwydd Iesu Grist:
1:9 Y rhai a ddioddefant yn gosbedigaeth, ddinistr tragwyddol oddi gerbron yr Arglwydd, ac oddi wrth ogoniant ei gadernid ef;
1:10 Pan ddêl efe i'w ogoneddu yn ei saint, ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu, (oherwydd i'n tystiolaeth ni yn eich mysg chwi gael ei chredu,) yn y dydd hwnnw.
1:11 Am ba achos yr ydym hefyd yn gweddïo yn wastadol drosoch, <section end="2 Thesaloniaid"/><noinclude><references/></noinclude>
ksq23bcgfvn1q6if6gx6x9v6wue44xx
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1133
104
5486
171329
10063
2026-10-04T06:08:27Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171329
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="2 Thesaloniaid"/>3:7 Canys chwi a wyddoch eich hunain pa fodd y dylech ein dilyn ni: oblegid ni buom afreolus yn eich plith chwi;
3:8 Ac ni fwytasom fara neb yn rhad; ond trwy weithio mewn llafur a lludded, nos a dydd, fel na phwysem ar neb ohonoch chwi;
3:9 Nid oherwydd nad oes gennym awdurdod, ond fel y'n rhoddem ein hunain yn siampl i chwi i'n dilyn.
3:10 Canys pan oeddem hefyd gyda chwi, hyn a orchmynasom i chwi, Os byddai neb ni fynnai weithio, ni chai fwyta chwaith.
3:11 Canys yr ydym yn clywed fod rhai yn rhodio yn eich plith chwi yn afreolus, heb weithio dim, ond bod yn rhodresgar.
3:12 Ond i'r cyfryw gorchymyn yr ydym, a'u hannog trwy ein Harglwydd Iesu Grist, ar iddynt weithio trwy lonyddwch, a bwyta eu bara eu hunain.
3:13 A chwithau, frodyr, na ddiffygiwch yn gwneuthur daioni.
3:14 Ond od oes neb heb ufuddhau i'n gair trwy y llythyr yma, hysbyswch hwnnw; ac na fydded i chwi gymdeithas ag ef, megis y cywilyddio efe.
3:15 Er hynny na chymerwch ef megis gelyn, eithr cynghorwch ef fel brawd.
3:16 Ac Arglwydd y tangnefedd ei hun a roddo i chwi dangnefedd yn wastadol ym mhob modd. Yr Arglwydd a fyddo gyda chwi oll.
3:17 Yr annerch â'm llaw i Paul fy hun; yr hyn sydd arwydd ym mhob epistol: fel hyn yr ydwyf yn ysgrifennu.
3:18 Gras ein Harglwydd Iesu Grist gyda chwi oll. Amen.
Yr ail at y Thesaloniaid a ysgrifennwyd o Athen.
<section end="2 Thesaloniaid"/>
<section begin="1 Timotheus"/>{{canoli|{{uc|Epistol cyntaf Paul yr apostol at}}<br>
{{mawr|{{uc|Timotheus.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Paul, apostol Iesu Grist, yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr, a'r Arglwydd Iesu Grist, ein gobaith:
1:2 At Timotheus, fy mab naturiol yn y ffydd: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a Christ Iesu ein Harglwydd.
1:3 Megis y deisyfais arnat aros yn Effesus, pan euthum i Facedonia, fel y gellit rybuddio rhai na ddysgont ddim amgen,
1:4 Ac na ddaliont ar chwedlau, ac achau anorffen, y rhai sydd yn peri cwestiynau yn hytrach nag adeiladaeth dduwiol, yr hon sydd trwy ffydd; gwna felly.
1:5 Eithr diwedd y gorchymyn yw cariad o galon bur, a chydwybod dda, a ffydd ddiragrith:
1:6 Oddi wrth yr hyn bethau y gŵyrodd rhai, ac y troesant heibio at ofer siarad;
1:7 Gan ewyllysio bod yn athrawon o'r ddeddf, heb ddeall na pha bethau y maent yn eu dywedyd, nac am ba bethau y maent yn taeru.
1:8 Eithr nyni a wyddom mai da yw'r gyfraith, os arfer dyn hi yn gyfreithlon;
1:9 Gan wybod hyn, nad i'r cyfiawn y rhoddwyd y gyfraith, eithr i'r rhai digyfraith ac anufudd, i'r rhai annuwiol a phechaduriaid, i'r rhai disanctaidd a halogedig, i dad-leiddiaid a mam-leiddiaid, i leiddiaid dynion,
1:10 I buteinwyr, i wryw-gydwyr, i ladron dynion, i gelwyddwyr, i anudonwyr, ac os oes dim arall yn wrthwyneb i athrawiaeth iachus;
1:11 Yn ôl efengyl gogoniant y bendigedig Dduw, am yr hon yr ymddiriedwyd i mi.
1:12 Ac yr ydwyf yn diolch i'r hwn a'm nerthodd i, sef Crist Iesu ein Harglwydd, am iddo fy nghyfrif yn ffyddlon, gan fy ngosod yn y weinidogaeth;
1:13 Yr hwn oeddwn o'r blaen yn gablwr, ac yn erlidiwr, ac yn drahaus: eithr mi a gefais drugaredd, <section end="1 Timotheus"/><noinclude><references/></noinclude>
7xw7xyann7pdqgy46qh5au200hjaovc
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1137
104
5490
171330
10069
2026-10-04T06:09:15Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171330
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="1 Timotheus"/>llygredig eu meddwl, heb fod y gwirionedd ganddynt, yn tybied mai elw yw duwioldeb: cilia oddi wrth y cyfryw.
6:6 Ond elw mawr yw duwioldeb gyda bodlonrwydd.
6:7 Canys ni ddygasom ni ddim i’r byd, ac eglur yw na allwn ddwyn dim allan chwaith.
6:8 Ac o bydd gennym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny.
6:9 Ond y rhai sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth a magl, a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, y rhai sydd yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth.
6:10 Canys gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch: yr hon, a rhai yn chwannog iddi, hwy a gyfeiliornasant oddi wrth y ffydd, ac a’u gwanasant eu hunain a llawer o ofidiau.
6:11 Eithr tydi, gŵr Duw, gochel y pethau hyn, a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, amynedd, addfwyndra.
6:12 Ymdrecha hardd-deg ymdrech y ffydd; cymer afael ar y bywyd tragwyddol;i’r hwn hefyd y’th alwyd, ac y proffesaist broffes dda gerbron llawer o dystion.
6:13 Yr ydwyf yn gorchymyn i ti gerbron Duw, yr hwn sydd yn bywhau pob peth, a cherbron Crist Iesu, yr hwn dan Pontius Peilat a dystiodd broffes dda;
6:14 Gadw ohonot y gorchymyn hwn yn ddifeius, yn ddiargyhoedd, hyd ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist:
6:15 Yr hwn yn ei amserau priod a ddengys y bendigedig a’r unig Bennaeth, Brenin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi,
6:16 Yr hwn yn unig sydd ganddo anfarwoldeb, sydd yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod ato, yr hwn nis gwelodd un dyn, ac ni ddichon ei weled: i’r hwn y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol. Amen.
6:17 Gorchymyn i’r rhai sydd oludog yn y byd yma, na byddont uchel feddwl, ac na obeithiont mewn golud anwadal, ond yn y Duw byw, yr hwn sydd yn helaeth yn rhoddi i ni bob peth i’w mwynhau:
6:18 Ar iddynt wneuthur daioni, ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da, fod yn hawdd ganddynt roddi a chyfrannu;
6:19 Yn trysori iddynt eu hunain sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod, fel y caffont afael ar y bywyd tragwyddol.
6:20 O Timotheus, cadw’r hyn a roddwyd i’w gadw atat, gan droi oddi wrth halogedig ofer-sain, a gwrthwyneb gwybodaeth, a gamenwir felly:
6:21 Yr hon tra yw rhai yn ei phroffesu, hwy a gyfeiliornasant o ran y ffydd. Gras fyddo gyda thi. Amen.
Y cyntaf at Timotheus a ysgrifennwyd o Laodicea, yr hon yw prifddinas Phrygia Pacatiana.
<section end="1 Timotheus"/>
<section begin="2 Timotheus"/>{{canoli|{{uc|Ail epistol Paul yr apostol at}}<br>
{{mawr|{{uc|Timotheus.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, yn ôl addewid y bywyd, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu,
1:2 At Timotheus, fy mab annwyl: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, a Christ Iesu ein Harglwydd.
1:3 Y mae gennyf ddiolch i Dduw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu o’m rhieni a chydwybod bur, mor ddi-baid y mae gennyf goffa amdanat ti yn fy ngweddiau nos a dydd;
1:4 Gan fawr ewyllysio dy weled, gan gofio dy ddagrau, fel y’m llanwer o lawenydd;
1:5 Gan alw i’m cof y ffydd ddiffuant sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac <section end="2 Timotheus"/><noinclude><references/></noinclude>
sitaow066cjkip3o7bbmwgffod2btmj
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1143
104
5822
171331
10770
2026-10-04T06:10:49Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171331
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{uc|Epistol Sant Paul at}}<br>
{{mawr|{{uc|Philemon.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Paul, carcharor Crist Iesu, a’r brawd Timotheus, at Philemon ein hanwylyd, a’n cyd-weithiwr,
1:2 Ac at Apffia ein hanwylyd, ac at Archipus ein cyd-filwr, ac at yr eglwys sydd yn dy dŷ di:
1:3 Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist.
1:4 Yr wyf yn diolch i’m Duw, gan wneuthur coffa amdanat yn wastadol yn fy ngweddiau,
1:5 Wrth glywed dy gariad, a’r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu, a thuag at yr holl saint;
1:6 Fel y gwneler cyfraniad dy ffydd di yn nerthol, trwy adnabod pob peth daionus a’r sydd ynoch chwi yng Nghrist Iesu.
1:7 Canys y mae gennym lawer o lawenydd a diddanwch yn dy gariad di, herwydd bod ymysgaroedd y saint wedi eu llonni trwot ti, frawd.
1:8 Oherwydd paham, er bod gennyf hyfdra lawer yng Nghrist, i orchymyn i ti y peth sydd weddus:
1:9 Eto o ran cariad yr ydwyf yn hytrach yn atolwg, er fy mod yn gyfryw un a Phaul yr hynafgwr, ac yr awron hefyd yn garcharor Iesu Grist.
1:10 Yr ydwyf yn atolwg i ti dros fy mab Onesimus, yr hwn a genhedlais i yn fy rhwymau:
1:11 Yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol, ond yr awron yn fuddiol i ti ac i minnau hefyd;
1:12 Yr hwn a ddanfonais drachefn: a derbyn dithau ef, yr hwn yw fy ymysgaroedd i:
1:13 Yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei ddal gyda mi, fel drosot ti y gwasanaethai efe fi yn rhwymau yr efengyl.
1:14 Eithr heb dy feddwl di nid ewyllysiais wneuthur dim; fel na byddai dy ddaioni di megis o anghenraid, ond o fodd.
1:15 Canys ysgatfydd er mwyn hyn yr ymadawodd dros amser, fel y derbynnit efyn dragywydd;
1:16 Nid fel gwas bellach, eithr uwchlaw gwas, yn frawd annwyl, yn enwedig i mi; eithr pa faint mwy i ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd hefyd?
1:17 Os wyt ti gan hynny yn fy nghymryd i yn gydymaith, derbyn ef fel myfi.
1:18 Ac os gwnaeth efe ddim cam â thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hynny arnaf i;
1:19 Myfi Paul a’i hysgrifennais a’m llaw fy hun, myfi a’i talaf: fel na ddywedwyf wrthyt, dy fod yn fy nyled i ymhellach amdanat dy hun hefyd.
1:20 Ie, frawd, gad i mi dy fwynhau di yn yr Arglwydd: llonna fy ymysgaroedd i yn yr Arglwydd.
1:21 Gan hyderu ar dy ufudd-dod yr ysgrifennais atat, gan wybod y gwnei, ie, fwy nag yr wyf yn ei ddywedyd.
1:22 Heblaw hyn hefyd, paratoa i mi lety: canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddiau chwi y rhoddir fi i chwi.
1:23 Y mae yn dy annerch, Epaffras, fy nghyd-garcharor yng Nghrist Iesu;
1:24 Marc, Aristarchus, Demas, Luc, fy nghyd-weithwyr.
1:25 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda’ch ysbryd chwi. Amen.
At Philemon yr ysgrifennwyd Rufain, gyda’r gwas Onesimus.<noinclude><references/></noinclude>
h19dtujrhbor8h52l2a57mhoym7of5c
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1144
104
5823
171332
10772
2026-10-04T06:11:37Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171332
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{uc|Epistol Paul yr apostol at yr}}<br>
{{mawr|{{uc|Hebreaid.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd gynt wrth y tadau trwy’r proffwydi, yn y dyddiau diwethaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab;
1:2 Yr hwn a wnaeth efe yn etifedd pob peth, trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd:
1:3 Yr hwn, ac efe yn ddisgleirdeb ei ogoniant ef, ac yn wir lun ei berson ef, ac yn cynnal pob peth trwy air ei nerth, wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch leoedd;
1:4 Wedi ei wneuthur o hynny yn well na’r angylion, o gymaint ag yr etifeddodd efe enw mwy rhagorol na hwynt-hwy.
1:5 Canys wrth bwy o’r angylion y dywedodd efe un amser, Fy mab ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais di? A thrachefn, Myfi a fyddaf iddo ef yn Dad, ac efe a fydd i mi yn Fab?
1:6 A thrachefn, pan yw yn dwyn y Cyntaf-anedig i’r byd, y mae yn dywedyd, Ac addoled holl angylion Duw ef.
1:7 Ac am yr angylion y mae yn dywedyd, Yr hwn sydd yn gwneuthur ei angylion yn ysbrydion, a’i weinidogion yn fflam dân.
1:8 Ond wrth y Mab, Dy orseddfainc di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy deyrnas di.
1:9 Ti a geraist gyfiawnder, ac a gaseaist anwiredd: am hynny y’th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew gorfoledd tu hwnt i’th gyfeillion.
1:10 Ac, Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaear; a gwaith dy ddwylo di yw y nefoedd:
1:11 Hwynt-hwy a ddarfyddant; ond tydi sydd yn parhau; a hwynt-hwy oll fel dilledyn a heneiddiant;
1:12 Ac megis gwisg y plygi di hwynt, a hwy a newidir: ond tydi yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni phallant.
1:13 Ond wrth ba un o’r angylion y dywedodd efe un amser, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed?
1:14 Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth?
PENNOD 2
2:1 Am hynny y mae’n rhaid i ni ddal yn well ar y pethau a glywsom, rhag un amser i ni eu gollwng hwy i golli.
2:2 Canys os bu gadarn y gair a lefarwyd trwy angylion, ac os derbyniodd pob trosedd ac anufudd-dod gyfiawn daledigaeth;
2:3 Pa fodd y dihangwn ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint, yr hon, wedi dechrau ei thraethu trwy’r Arglwydd, a sicrhawyd i ni gan y rhai a’i clywsant ef:
2:4 A Duw hefyd yn cyd-dystiolaethu, trwy arwyddion a rhyfeddodau, ac amryw nerthoedd, a doniau yr Ysbryd Glân, yn ôl ei ewyllys ei hun?
2:5 Canys nid i’r angylion y darostyngodd efe y byd a ddaw, am yr hwn yr ydym yn llefaru.
2:6 Eithr un mewn rhyw fan a dystiolaethodd, gan ddywedyd. Pa beth yw dyn, i ti i feddwl amdano? neu fab dyn, i ti i ymweled ag ef?
2:7 Ti a’i gwnaethost ef ychydig is na’r angylion: a gogoniant ac anrhydedd y coronaist ti ef, ac a’i gosodaist ef ar weithredoedd dy ddwylo:
2:8 Ti a ddarostyngaist bob peth dan ei draed ef. Canys wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd efe ddim heb ddarostwng iddo. Ond yr awron nid ydym ni eto yn gweled pob peth wedi eu darostwng iddo.
2:9 Eithr yr ydym ni yn gweled Iesu, yr hwn a wnaed ychydig yn is na’r<noinclude><references/></noinclude>
9tucb7vnlb47z4f78pb8ejqiwrcpwu9
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1155
104
6072
171333
11383
2026-10-04T06:13:04Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171333
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Hebreaid"/>13:12 Oherwydd paham Iesu hefyd, fel y sancteiddiai’r bobl trwy ei waed ei hun, a ddioddefodd y tu allan i’r porth.
13:13 Am hynny awn ato ef o’r tu allan i’r gwersyll, gan ddwyn ei waradwydd ef.
13:14 Canys nid oes i ni yma ddinas barhaus, eithr un i ddyfod yr ym ni yn ei disgwyl.
13:15 Trwyddo ef gan hynny offrymwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i’w enw ef.
13:16 Ond gwneuthur daioni, a chyfrannu, nac anghofiwch: canys â chyfryw ebyrth y rhyngir binid Duw.
13:17 Ufuddhcwch i’rh blaenoriaid, ac ymddarostyngwch: oblegid y maent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi, megis rhai a fydd rhaid iddynt roddi cyfrif; fel y gallont wneuthur hynny yn llawen, ac nid yn drist: canys di-fudd i chwi yw hynny.
13:18 Gweddiwch drosom ni: canys yr ydym yn credu fod gennym gydwybod dda, gan ewyllysio byw yn onest ym mhob peth.
13:19 Ond yr ydwyf yn helaethach yn dymuno gwneuthur ohonoch hyn, i gael fy rhoddi i chwi drachefn yn gynt.
13:20 A Duw’r heddwch, yr hwn a ddug drachefn oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfamod tragwyddol,
13:21 A’ch perffeithio ym mhob gweithred dda, i wneuthur ei ewyllys ef; gan weithio ynoch yr hyn sydd gymeradwy yn ei olwg ef, trwy Iesu Grist: i’r hwn y byddo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
13:22 Ac yr ydwyf yn atolwg i chwi, frodyr, goddefwch air y cyngor: oblegid ar fyr eiriau yr ysgrifennais atoch.
13:23 Gwybyddwch ollwng ein brawd Timotheus yn rhydd; gyda’r hwn, os daw efe ar fyrder, yr ymwelaf â chwi.
13:24 Anerchwch eich holl flaenoriaid, a’r holl saint. Y mae’r rhai o’r Ital yn eich annerch.
13:25 Gras fyddo gyda chwi oll. Amen.
At yr Hebreaid yr ysgrifennwyd o’r Ital, gyda Thimotheus.
<section end="Hebreaid"/>
<section begin="Iago"/>{{canoli|{{uc|Epistol cyffredinol}}<br>
{{mawr|{{uc|Iago yr Apostol.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Iago, gwasanaethwr Duw a’r Arglwydd Iesu Grist, at y deuddeg llwyth sydd ar wasgar, annerch.
1:2 Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau,
1:3 Gan wybod fod profiad eich ffydd chwi yn gweithredu amynedd.
1:4 Ond caffed amynedd ei pherffaith waith; fel y byddoch berffaith a chyfan, heb ddiffygio mewn dim.
1:5 O bydd ar neb ohonoch eisiau doethineb, gofynned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddannod; a hi roddir iddo ef.
1:6 Eithr gofynned mewn ffydd, heb amau dim: canys yr hwn sydd yn amau, sydd gyffelyb i don y mâr, a chwelir ac a deflir gan y gwynt.
1:7 Canys na feddylied y dyn hwnnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd.
1:8 Gŵr dauddyblyg ei feddwl sydd anwastad yn ei holl ffyrdd.
1:9 Y brawd o radd isel, llawenyched yn ei oruchafiaeth:
1:10 A’r cyfoethog, yn ei ddarostyngiad: canys megis blodeuyn y glaswelltyn y diflanna efe.
1:11 Canys cyfododd yr haul gyda gwres, a gwywodd y glaswelltyn, a’i flodeuyn a gwympodd, a thegwch ei bryd ef a gollodd: felly hefyd y diflanna’r cyfoethog yn ei ffyrdd.
1:12 Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef profedigaeth: canys pan fyddo profedig, efe a dderbyn gor-<section end="Iago"/><noinclude><references/></noinclude>
0140os23x6frwqmmyb6uzt9hp3fgy3k
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1159
104
6076
171334
11391
2026-10-04T06:13:54Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171334
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Iago"/>a wnaethoch, megis mewn dydd lladdedigaeth.
5:6 Condemniasoch a lladdasoch y cyfiawn: ac yntau heb sefyll i’ch erbyn.
5:7 Byddwch gan hynny yn ymarhous, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, y mae’r llafurwr yn disgwyl am werthfawr ffrwyth y ddaear, yn dda ei amynedd amdano, nes iddo dderbyn y glaw cynnar a diweddar.
5:8 Byddwch chwithau hefyd dda eich amynedd; cadarnhewch eich calonnau: oblegid dyfodiad yr Arglwydd a nesaodd.
5:9 Na rwgnechwch yn erbyn eich gilydd, frodyr, fel na’ch condemnier: wele, y mae’r Barnwr yn sefyll with y drws.
5:10 Cymerwch, fy mrodyr, y proffwydi, y rhai a lefarasant yn enw yr Arglwydd, yn siampl o ddioddef blinder, ac o hirymaros.
5:11 Wele, dedwydd yr ydym yn gadael y rhai sydd ddioddefus. Chwi a glywsoch am amynedd Job, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd: oblegid tosturiol iawn yw’r Arglwydd, a thrugarog.
5:12 Eithr o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch, nac i’r nef, nac i’r ddaear, nac un llw arall: eithr bydded eich ie chwi yn ie, a’ch nage yn nage; fel na syrthioch i farnedigaeth.
5:13 A oes neb yn eich plith mewn adfyd? gweddied. A oes neb yn esmwyth arno? caned salmau.
5:14 A oes neb yn eich plith yn glaf? galwed ato henuriaid yr eglwys; a gweddïant hwy drosto, gan ei eneinio ef ag olew yn enw’r Arglwydd:
5:15 A gweddi’r ffydd a iacha’r claf, a’r Arglwydd a’i cyfyd ef i fyny; ac os bydd wedi gwneuthur pechodau, hwy a faddeuir iddo.
5:16 Cyffeswch eich camweddau bawb i’ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, fel y’ch iachaer. Llawer a ddichon taer weddi’r cyfiawn.
5:17 Eleias oedd ddyn yn rhaid iddo ddioddef fel ninnau, ac mewn gweddi efe a weddïodd na byddai law: ac ni bu glaw ar y ddaear dair blynedd a chwe mis.
5:18 Ac efe a weddïodd drachefn; a’r nef a roddes law, a’r ddaear a ddug ei ffrwyth.
5:19 Fy mrodyr, od aeth neb ohonoch ar gyfeiliorn oddi with y gwirionedd, a throi o ryw un ef;
5:20 Gwybydded, y bydd i’r hwn a drodd bechadur oddi wrth gyfeiliorni ei ffordd, gadw enaid rhag angau, a chuddio lliaws o bechodau.
<section end="Iago"/>
<section begin="1 Pedr"/>{{canoli|{{uc|Epistol cyntaf cyffredinol}}<br>
{{mawr|{{uc|Petr yr Apostol.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Pedr, apostol Iesu Grist, at y dieithriaid sydd ar wasgar ar hyd Pontus, Galatia, Capadocia, Asia, a Bithynia,
1:2 Etholedigion yn ôl rhagwybodaeth Duw Dad, trwy sancteiddiad yr Ysbryd, i ufudd-dod a thaenelliad gwaed Iesu Grist: Gras i chwi a heddwch a amlhaer.
1:3 Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn yn ôl ei fawr drugaredd a’n hadgenhedlodd ni i obaith bywiol, trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw,
1:4 I etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a diddiflanedig, ac yng nghadw yn y nefoedd i chwi.
1:5 Y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig trwy ffydd i iachawdwriaeth, parod i’w datguddio yn yr amser diwethaf.
1:6 Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau, er eich bod ychydig yr awron, os rhaid yw, mewn tristwch, trwy amryw brofedigaethau:
1:7 Fel y caffer profiad eich ffydd chwi, yr hwn sydd werthfawrusach na’r aur colladwy, cyd profer ef trwy dân, er mawl, ac anrhydedd, a gogoniant, yn ymddangosiad Iesu Grist:
{{nop}}<section end="1 Pedr"/><noinclude><references/></noinclude>
k7yr687nuh2d3mtjoqffbdj4f5j2s5k
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1164
104
6797
171335
13037
2026-10-04T06:14:38Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171335
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{uc|Ail epistol cyffredinol}}<br>
{{mawr|{{uc|Petr yr Apostol.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Simon Pedr, gwasanaethwr ac apostol Iesu Grist, at y rhai a gawsant gyffelyb werthfawr ffydd a ninnau, trwy gyfiawnder ein Duw ni, a’n Hachubwr Iesu Grist:
1:2 Gras i chwi a thangnefedd a amlhaer, trwy adnabod Duw, a Iesu ein Harglwydd ni,
1:3 Megis y rhoddes ei dduwiol allu ef i ni bob peth a berthyn i fywyd a duwioldeb, trwy ei adnabod ef yr hwn a’n galwodd ni i ogoniant a rhinwedd:
1:4 Trwy’r hyn y rhoddwyd i ni addewidion mawr iawn a gwerthfawr, fel trwy’r rhai hyn y byddech gyfranogion o’r duwiol anian, wedi dianc oddi wrth y llygredigaeth sydd yn y byd trwy drachwant.
1:5 A hyn yma hefyd, gan roddi cwbl ddiwydrwydd, chwanegwch at eich ffydd, rinwedd, ac at rinwedd, wybodaeth;
1:6 Ac at wybodaeth, gymedrolder; ac at gymedrolder, amynedd, ac at amynedd, dduwioldeb;
1:7 Ac at dduwioldeb, garedigrwydd brawdol; ac at garedigrwydd brawdol, gariad.
1:8 Canys os yw’r pethau hyn gennych, ac yn aml hwynt, y maent yn peri na byddoch na segur na diffrwyth yng ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist.
1:9 Oblegid yr hwn nid yw’r rhai hyn ganddo, dall ydyw, heb weled ymhell, wedi gollwng dros gof ei lanhau oddi wrth ei bechodau gynt.
1:10 Oherwydd paham yn hytrach, frodyr, byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a’ch etholedigaeth yn sicr: canys, tra fyddoch yn gwneuthur y pethau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth:
1:11 Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a’n Hachubwr Iesu Grist.
1:12 Oherwydd paham nid esgeulusaf eich coffau bob amser am y pethau hyn, er eich bod yn eu gwybod, ac wedi eich sicrhau yn y gwirionedd presennol.
1:13 Eithr yr ydwyf yn tybied fod yn iawn, tra fyddwyf yn y tabernacl hwn, eich cyffroi chwi, trwy ddwyn ar gof i chwi,
1:14 Gan wybod y bydd i mi ar frys roddi fy nhabernacl hwn heibio, megis ag yr hysbysodd ein Harglwydd Iesu Grist i mi.
1:15 Ac mi a wnaf fy ngorau hefyd ar allu ohonoch bob amser, ar ôl fy ymadawiad i, wneuthur coffa am y pethau hyn.
1:16 Canys nid gan ddilyn chwedlau cyfrwys, yr hysbysasom i chwi nerth a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr wedi gweled ei fawredd ef â’n llygaid.
1:17 Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant, pan ddaeth y cyfryw lef ato oddi wrth y mawr-ragorol Ogoniant, Hwn yw fy annwyl Fab i, yn yr hwn y’m bodlonwyd.
1:18 A’r llef yma, yr hon a ddaeth o’r nef, a glywsom ni, pan oeddem gydag ef yn y mynydd sanctaidd.
1:19 Ac y mae gennym air sicrach y proffwydi, yr hwn da y gwnewch fod yn dal arno, megis ar gannwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio’r dydd, ac oni chodo’r seren ddydd yn eich calonnau chwi:
1:20 Gan wybod hyn yn gyntaf, nad oes un broffwydoliaeth o’r ysgrythur o ddehongliad priod.
1:21 Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth gynt broffwydoliaeth, eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glân.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
27v9vtd1usc7sxohysc7ar11tx7clcv
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1167
104
6801
171336
13042
2026-10-04T06:15:15Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171336
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{uc|Epistol cyntaf cyffredinol}}<br>
{{mawr|{{uc|Ioan yr Apostol.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Yr hyn oedd o’r dechreuad, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom â’n llygaid, yr hyn a edrychasom arno, ac a deimlodd ein dwylo am Air y bywyd;
1:2 (Canys y bywyd a eglurhawyd, ac ni a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ac yn mynegi i chwi’r bywyd tragwyddol, yr hwn oedd gyda’r Tad, ac a eglurhawyd i ni;)
1:3 Yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni: a’n cymdeithas ni yn wir sydd gyda’r Tad, a chyda’i Fab ef Iesu Grist.
1:4 A’r pethau hyn yr ydym yn eu hysgrifennu atoch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.
1:5 A hon yw’r genadwri a glywsom ganddo ef, ac yr ydym yn ei hadrodd i chwi; Mai goleuni yw Duw, ac nad oes ynddo ddim tywyllwch.
1:6 Os dywedwn fod i ni gymdeithas ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd:
1:7 Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megis y mae efe yn y goleuni, y mae i ni gymdeithas a’n gilydd, a gwaed Iesu Grist ei Fab ef, sydd yn ein glanhau ni oddi wrth bob pechod.
1:8 Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a’r gwirionedd nid yw ynom.
1:9 Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y’n glanhao oddi wrth bob anghyfiawnder.
1:10 Os dywedwn na phechasom, yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, a’i air ef nid yw ynom.
PENNOD 2
2:1 Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, fel na phechoch, Ac o phecha neb, y mae i ni Eiriolwr gyda’r Tad, Iesu Grist yCyfiawn:
2:2 Ac efe yw’r iawn dros ein pechodau ni: ac nid dros yr eiddom ni yn unig, eithr dros bechodau yr holl fyd.
2:3 Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom ef, os cadwn ni ei orchmynion ef.
2:4 Yr hwn sydd yn dywedyd. Mi a’i hadwaen ef, ac heb gadw ei orchmynion ef, celwyddog yw, a’r gwirionedd nid yw ynddo.
2:5 Eithr yr hwn a gadwo ei air ef, yn wir yn hwn y mae cariad Duw yn berffaith: wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo ef.
2:6 Yr hwn a ddywed ei fod yn aros ynddo ef, a ddylai yntau felly rodio, megis ag y rhodiodd ef.
2:7 Y brodyr, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, eithr gorchymyn hen yr hwn oedd gennych o’r dechreuad. Yr hen orchymyn yw’r gair a glywsoch o’r dechreuad.
2:8 Trachefn, gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, yr hyn sydd wir ynddo ef, ac ynoch chwithau: oblegid y tywyllwch a aeth heibio, a’r gwir oleuni sydd yr awron yn tywynnu.
2:9 Yr hwn a ddywed ei fod yn y goleuni, ac a gasao ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hwn.
2:10 Yr hwn sydd yn caru ei frawd, sydd yn aros yn y goleuni, ac nid oes rhwystr ynddo.
2:11 Eithr yr hwn sydd yn casáu ei frawd, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y mae yn rhodio; ac ni ŵyr i ba le y mae yn myned,<noinclude><references/></noinclude>
s2kjz2lxlde979dynjxkj3bdmtoql0c
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1171
104
6811
171337
13056
2026-10-04T06:15:54Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171337
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="1 Ioan"/>ein gwrando ni, os gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef.
5:15 Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrando ni, pa beth bynnag a ddeisyfom, ni a wyddom ein bod yn cael y deisyfiadau a ddeisyfasom ganddo.
5:16 Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod nid yw i farwolaeth, efe a ddeisyf, ac efe a rydd iddo fywyd, i’r rhai sydd yn pechu nid i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth: nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd ar ddeisyf ohono.
5:17 Pob anghyfiawnder, pechod yw: ac y mae pechod nid yw i farwolaeth.
5:18 Ni a wyddom nad yw’r neb a aned o Dduw, yn pechu, eithr y mae’r hwn a aned o Dduw, yn ei gadw ei hun, a’r drwg hwnnw nid yw yn cyffwrdd ag ef.
5:19 Ni a wyddom ein bod o Dduw, ac y mae’r holl fyd yn gorwedd mewn drygioni.
5:20 Ac a wyddom ddyfod Mab Duw, ac efe a roes i ni feddwl, fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir; ac yr ydym yn y Cywir hwnnw, sefyn ei Fab ef Iesu Grist. Hwn yw’r gwir Dduw, a’r bywyd tragwyddol.
5:21 Y plant bychain, ymgedwch oddi wrth eilunod. Amen.
<section end="1 Ioan"/>
<section begin="2 Ioan"/>{{canoli|{{uc|Ail epistol cyffredinol}}<br>
{{mawr|{{uc|Ioan yr Apostol.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Yr henuriad at yr etholedig arglwyddes a’i phlant, y rhai yr wyf fi yn eu caru yn y gwirionedd; ac nid myfi yn unig, ond pawb hefyd a adnabuant y gwirionedd;
1:2 Er mwyn y gwirionedd, yr hwn sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyda ni yn dragywydd.
1:3 Bydded gyda chwi ras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, ac oddi wrth yr Arglwydd Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad.
1:4 Bu lawen iawn gennyf i mi gael o’th blant di rai yn rhodio mewn gwirionedd, fel y derbyniasom orchymyn gan y Tad.
1:5 Ac yn awr yr wyf yn atolwg i ti, arglwyddes, nid fel un yn ysgrifennu gorchymyn newydd i ti, eithr yr hwn oedd gennym o’r dechreuad, garu ohonom ein gilydd.
1:6 A hyn yw’r cariad: bod i ni rodio yn ôl ei orchmynion ef. Hwn yw’r gorchymyn; Megis y clywsoch o’r dechreuad, fod i chwi rodio ynddo.
1:7 Oblegid y mae twyllwyr lawer wedi dyfod i mewn i’r byd, y rhai nid ydynt yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd. Hwn yw’r twyllwr a’r anghrist.
1:8 Edrychwch arnoch eich hunain, fel na chollom y pethau a wnaethom, ond bod i ni dderbyn llawn wobr.
1:9 Pob un a’r sydd yn troseddu, ac heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo ef. Yr hwn sydd yn aros yn nysgeidiaeth Crist, hwnnw y mae’r Tad a’r Mab ganddo.
1:10 Od oes neb yn dyfod atoch, a heb ddwyn y ddysgeidiaeth hon, na dderbyniwch ef i dy^, ac na ddywedwch, Duw yn rhwydd, wrtho:
1:11 Canys yr hwn sydd yn dywedyd wrtho, Duw yn rhwydd, sydd gyfrannog o’i weithredoedd drwg ef.
1:12 Er bod gennyf lawer o bethau i’w hysgrifennu atoch, nid oeddwn yn ewyllysio ysgrifennu â phapur ac inc: eithr gobeithio yr ydwyf ddyfod atoch, a llefaru wyneb yn wyneb, fel y byddo ein llawenydd yn gyflawn.
1:13 Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy annerch. Amen.<section end="2 Ioan"/><noinclude><references/></noinclude>
fxn0monodz6on0up88ik6q6xbbgis66
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1172
104
6988
171338
13522
2026-10-04T06:16:37Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171338
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="3 Ioan"/>{{canoli|{{uc|Trydydd epistol cyffredinol}}<br>
{{mawr|{{uc|Ioan yr Apostol.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Yr henuriad at yr annwyl Gaius, yr hwn yr wyf yn ei garu mewn gwirionedd.
1:2 Yr anwylyd, yr ydwyf yn bennaf dim yn dymuno dy fod yn llwyddo ac yn iach, fel y mae dy enaid yn llwyddo.
1:3 Canys mi a lawenychais yn fawr, pan ddaeth y brodyr, a thystiolaethu am dy wirionedd di, megis ag yr ydwyt yn rhodio mewn gwirionedd.
1:4 Mwy llawenydd na hyn nid oes gennyf, sef cael clywed bod fy mhlant yn rhodio mewn gwirionedd.
1:5 Yr anwylyd, yr ydwyt yn gwneuthur yn ffyddlon yr hyn yr ydwyt yn ei wneuthur tuag at y brodyr, a thuag at ddieithriaid;
1:6 Y rhai a dystiolaethasant am dy gariad di gerbron yr eglwys: y rhai os hebryngi fel y gweddai i Dduw, da y gwnei.
1:7 Canys er mwyn ei enw yr aethant allan, heb gymryd dim gan y Cenhedloedd.
1:8 Ni a ddylem gan hynny dderbyn y cyfryw rai, fel y byddom gyd-gynorthwy-wyr i’r gwirionedd.
1:9 Mi a ysgrifennais at yr eglwys: eithr Diotreffes, yr hwn sydd yn chwennych y blaen yn eu plith hwy, ni dderbyn ddim ohonom.
1:10 Oherwydd hyn, os deuaf, mi a ddygaf ar gof ei weithredoedd y mae efe yn eu gwneuthur, gan wag siarad i’n herbyn a geiriau drygionus: ac heb fod yn fodlon ar hynny, nid yw efe ei nun yn derbyn y brodyr, a’r rhai sydd yn ewyllysio, y mae yn eu gwahardd, ac yn eu bwrw allan o’r eglwys.
1:11 Anwylyd, na ddilyn yr hyn sydd ddrwg, ond yr hyn sydd dda. Yr hwn sydd yn gwneuthur daioni, o Dduw y mae: ond yr hwn sydd yn gwneuthur drygioni, ni welodd Dduw.
1:12 Y mae i Demetrius air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun: a ninnau hefyd ein hunain ydym yn tystiolaethu, a chwi a wyddoch fod ein tystiolaeth ni yn wir.
1:13 Yr oedd gennyf lawer o bethau i’w hysgrifennu, ond nid wyf yn chwennych ysgrifennu ag inc a phin atat ti:
1:14 Eithr gobeithio yr ydwyf gael dy weled ar fyrder, ac ni a ymddiddanwn wyneb yn wyneb.
1:15 Tangnefedd i ti. Y mae’r cyfeillion i’th annerch. Annerch y cyfeillion wrth eu henwau.
<section end="3 Ioan"/>
<section begin="Jwdas"/>EPISTOL CYFFEDINOL JWDAS YR APOSTOL
1:1 Jwdas, gwasanaethwr Iesu Grist, a brawd lago, at y rhai a sancteiddiwyd gan Dduw Dad, ac a gadwyd yn Iesu Grist, ac a alwyd:
1:2 Trugaredd i chwi, a thangnefedd, a chariad, a luosoger.
1:3 Anwylyd, pan roddais bob diwydrwydd ar ysgrifennu atoch am yr iachawdwriaeth gyffredinol, anghenraid oedd i mi ysgrifennu atoch gan eich annog i ymdrech ym mhlaid y ffydd, yr hon a rodded unwaith i'r saint.
1:4 Canys y mae rhyw ddynion wedi ymlusgo i mewn, y rhai a ragordeiniwyd er ys talm i'r farnedigaeth hon; annuwiolion, yn troi gras <section end="Jwdas"/><noinclude><references/></noinclude>
9umn9yvzbyc3yym07zfis25kjzqnrnv
171339
171338
2026-10-04T06:17:23Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171339
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="3 Ioan"/>{{canoli|{{uc|Trydydd epistol cyffredinol}}<br>
{{mawr|{{uc|Ioan yr Apostol.}}}}}}
PENNOD 1
1:1 Yr henuriad at yr annwyl Gaius, yr hwn yr wyf yn ei garu mewn gwirionedd.
1:2 Yr anwylyd, yr ydwyf yn bennaf dim yn dymuno dy fod yn llwyddo ac yn iach, fel y mae dy enaid yn llwyddo.
1:3 Canys mi a lawenychais yn fawr, pan ddaeth y brodyr, a thystiolaethu am dy wirionedd di, megis ag yr ydwyt yn rhodio mewn gwirionedd.
1:4 Mwy llawenydd na hyn nid oes gennyf, sef cael clywed bod fy mhlant yn rhodio mewn gwirionedd.
1:5 Yr anwylyd, yr ydwyt yn gwneuthur yn ffyddlon yr hyn yr ydwyt yn ei wneuthur tuag at y brodyr, a thuag at ddieithriaid;
1:6 Y rhai a dystiolaethasant am dy gariad di gerbron yr eglwys: y rhai os hebryngi fel y gweddai i Dduw, da y gwnei.
1:7 Canys er mwyn ei enw yr aethant allan, heb gymryd dim gan y Cenhedloedd.
1:8 Ni a ddylem gan hynny dderbyn y cyfryw rai, fel y byddom gyd-gynorthwy-wyr i’r gwirionedd.
1:9 Mi a ysgrifennais at yr eglwys: eithr Diotreffes, yr hwn sydd yn chwennych y blaen yn eu plith hwy, ni dderbyn ddim ohonom.
1:10 Oherwydd hyn, os deuaf, mi a ddygaf ar gof ei weithredoedd y mae efe yn eu gwneuthur, gan wag siarad i’n herbyn a geiriau drygionus: ac heb fod yn fodlon ar hynny, nid yw efe ei nun yn derbyn y brodyr, a’r rhai sydd yn ewyllysio, y mae yn eu gwahardd, ac yn eu bwrw allan o’r eglwys.
1:11 Anwylyd, na ddilyn yr hyn sydd ddrwg, ond yr hyn sydd dda. Yr hwn sydd yn gwneuthur daioni, o Dduw y mae: ond yr hwn sydd yn gwneuthur drygioni, ni welodd Dduw.
1:12 Y mae i Demetrius air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun: a ninnau hefyd ein hunain ydym yn tystiolaethu, a chwi a wyddoch fod ein tystiolaeth ni yn wir.
1:13 Yr oedd gennyf lawer o bethau i’w hysgrifennu, ond nid wyf yn chwennych ysgrifennu ag inc a phin atat ti:
1:14 Eithr gobeithio yr ydwyf gael dy weled ar fyrder, ac ni a ymddiddanwn wyneb yn wyneb.
1:15 Tangnefedd i ti. Y mae’r cyfeillion i’th annerch. Annerch y cyfeillion wrth eu henwau.
<section end="3 Ioan"/>
<section begin="Jwdas"/>{{canoli|{{uc|Epistol cyffredinol}}<br>
{{mawr|{{uc|Judas yr Apostol.}}}}}}
1:1 Jwdas, gwasanaethwr Iesu Grist, a brawd lago, at y rhai a sancteiddiwyd gan Dduw Dad, ac a gadwyd yn Iesu Grist, ac a alwyd:
1:2 Trugaredd i chwi, a thangnefedd, a chariad, a luosoger.
1:3 Anwylyd, pan roddais bob diwydrwydd ar ysgrifennu atoch am yr iachawdwriaeth gyffredinol, anghenraid oedd i mi ysgrifennu atoch gan eich annog i ymdrech ym mhlaid y ffydd, yr hon a rodded unwaith i'r saint.
1:4 Canys y mae rhyw ddynion wedi ymlusgo i mewn, y rhai a ragordeiniwyd er ys talm i'r farnedigaeth hon; annuwiolion, yn troi gras <section end="Jwdas"/><noinclude><references/></noinclude>
sd9c22rv7zaw28bayvfzczfbfyl0fwa
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1174
104
6990
171340
13525
2026-10-04T06:18:36Z
Tylopous
3717
teitl y llyfr
171340
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Datguddiad}}}}<br>
{{uc|Sant Ioan y difinydd.}}}}
PENNOD 1
1:1 Datguddiad Iesu Grist, yr hwn a roddes Duw iddo ef, i ddangos i’w wasanaethwyr y pethau sydd raid eu dyfod i ben ar fyrder, a chan ddanfon trwy ei angel, efe a’i hysbysodd i’w wasanaethwr Ioan:
1:2 Yr hwn a dystiolaethodd air Duw, a thystiolaeth Iesu Grist, a’r holl bethau a welodd.
1:3 Dedwydd yw’r hwn sydd yn darllen, a’r rhai sydd yn gwrando geiriau’r broffwydoliaeth hon, ac yn cadw y pethau sydd yn ysgrifenedig ynddi: canys y mae’r amser yn agos.
1:4 Ioan at y saith eglwys sydd yn Asia: Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth yr hwn sydd, a’r hwn a fu, a’r hwn sydd ar ddyfod; ac oddi wrth y saith Ysbryd sydd gerbron ei orseddfainc ef;
1:5 Ac oddi wrth Iesu Grist, yr hwn yw y Tyst ffyddlon, y Cyntaf-anedig o’r meirw, a Thywysog brenhinoedd y ddaear. Iddo ef yr hwn a’n carodd ni, ac a’n golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun,
1:6 Ac a’n gwnaeth ni yn frenhinoedd ac yn offeiriaid i Dduw a’i Dad ef; iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen.
1:7 Wele, y mae efe yn dyfod gyda’r cymylau; a phob llygad a’i gwel ef, ie, y rhai a’i gwanasant ef: a holl lwythau’r ddaear a alarant o’i blegid ef. Felly, Amen.
1:8 Mi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd, a’r hwn oedd, a’r hwn sydd i ddyfod, yr Hollalluog.
1:9 Myfi Ioan, yr hwn wyf hefyd eich brawd, a’ch cydymaith mewn cystudd, ac yn nheyrnas ac amynedd Iesu Grist, oeddwn yn yr ynys a elwir Patmos, am air Duw, ac am dystiolaeth Iesu Grist.
1:10 Yr oeddwn i yn yr ysbryd ar ddydd yr Arglwydd; ac a glywais o’r tu ôl i mi lef fawr fel llais utgorn,
1:11 Yn dywedyd. Mi yw Alffa ac Omega, y cyntaf a’r diwethaf: a’r hyn yr wyt yn ei weled, ysgrifenna mewn llyfr, a danfon i’r saith eglwys y rhai sydd yn Asia; i Effesus, ac i Smyrna, ac i Pergamus, ac i Thyatira, ac i Sardis, a Philadelffia, a Laodicea.
1:12 Ac mi a droais i weled y llef a lefarai wrthyf. Ac wedi i mi droi, mi a welais saith ganhwyllbren aur;
1:13 Ac yng nghanol y saith ganhwyllbren, un tebyg i Fab y dyn, wedi ymwisgoa gwisg laes hyd ei draed, ac wedi ymwregysu ynghylch ei fronnau a gwregys aur.
1:14 Ei ben ef a’i wallt oedd wynion fel gwlân, cyn wynned â’r eira; a’i lygaid fel fflam dân;
1:15 A’i draed yn debyg i bres coeth, megis yn llosgi mewn ffwrn; a’i lais fel sŵn llawer o ddyfroedd.
1:16 Ac yr oedd ganddo yn ei law ddeau saith seren: ac o’i enau yr oedd cleddau llym daufiniog yn dyfod allan: a’i wynepryd fel yr haul yn disgleirio yn ei nerth.
1:17 A phan welais ef, mi a syrthiais wrth ei draed ef fel marw. Ac efe a osododd ei law ddeau arnaf fi, gan ddywedyd wrthyf, Nac ofna; myfi yw’r cyntaf a’r diwethaf:
1:18 A’r hwn wyf fyw, ac a fûm farw; ac wele, byw ydwyf yn oes oesoedd. Amen, ac y mae gennyf agoriadau uffern a marwolaeth.
1:19 Ysgrifenna’r pethau a welaist, a’r pethau sydd, a’r pethau a fydd ar ôl hyn;
1:20 Dirgelwch y saith seren a welaist yn fy llaw ddeau, a’r saith ganhwyllbren aur. Y saith seren, angylion y saith eglwys ydynt: a’r saith ganhwyllbren a welaist, y saith eglwys ydynt.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
nmefa0mdg8uz9sljuh33s9dmqcdatjw
Tudalen:Madam Wen.djvu/110
104
33428
171341
76106
2026-10-04T10:20:46Z
~2026-53194-05
4253
171341
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>a'u cwrs tua'r gogledd, â'r llong dan ei llwyth o beilliad ar gyfer y gwŷr o Ffrainc oedd yn barod i ymladd dros y Brenin Iago yn Iwerddon. Yr oedd yn haws gan forwyr Môn wneud y gwaith am mai pleidwyr y Brenin Iago oeddynt hwythau yn eu calonnau. Tra buont ar y daith honno, gwnaeth Madam Wen ei rhan hithau o'r gwaith ar y lan, gan ymdaflu iddo gydag egni. Yr oedd digonedd o alwadau am lestr mor hwylus a'r Wennol, a chan fod y perygl yn fawr oherwydd natur y gwaith, yr oedd y tâl gymaint â hynny yn fwy.
Daeth y Wennol yn ôl yn ddiogel ac mewn pryd, wedi cael tywydd ffafriol a mordaith lwyddiannus. Ac erbyn hynny yr oedd ei pherchen yn barod am hynt arall ar y môr. Ei bwriad oedd myned gyda'r llong i'r porthladd Gwyddelig, ac yna dychwelyd i'w hardal ei hun ar y ffordd yn ôl. Dyna oedd y trefniad. Ond nid felly y mynnai ffawd. Nid oedd dim mor dawel â hynny ar ei chyfer erbyn gweld.
Gyferbyn â cheg yr Hafren yr oeddynt, a phymtheng milltir o Abergwaun, pan welsant long ymhellach i fyny yng ngenau'r afon. Llygad craff Huw Bifan oedd y cyntaf i ganfod perygl: "Llong Abel ydyw honna, fechgyn, ac y mae a'i lygaid arnom."
Ac felly'r oedd. Gwelodd Abel Owen slŵp o'r fath a redai beunydd y dyddiau hynny rhwng porthladdoedd Ffrainc a thraeth Iwerddon, a phenderfynodd ei hymlid. Yr oedd eisoes wedi dal dwy gyffelyb iddi, ac wedi cael swm mwy na'i gwerth am ryddhau un oherwydd pwysigrwydd y teithwyr a gludai. Am y llall, gwerthodd hi yn ddidrafferth, long a llwyth, yn Llychlyn.
Pan welwyd y Wennol, codwyd hwyliau ar y ''Certain Death'' a dechreuodd nesáu. Wrth weled hynny, newidiodd Huw Bifan ei gwrs, ysgwariwyd hwyliau, ac ymaith â hwy o flaen y gwynt am draethau Corc. Rhedai'r Wennol yn dda, ond enillai'r llall. "Mae ganddynt fwy o liain na ni, fechgyn," meddai Huw Bifan wrth weld ei long yn colli tir. "Mae am ein dal, mi welaf. Rhaid i mi fynd a dweud wrth Madam Wen."
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
0luwtljlv066huy6bz420lfvsjfjpfv