Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.22 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/288 104 3540 171379 6703 2026-10-05T20:43:09Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171379 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{sc|glwydd}}; canys nid dim hebot ti: ac nid ''oes'' graig megis ein {{sc|Duw}} ni. {{angor|2:3|3}} Na chwanegwch lefaru yn uchel uchel; ''na'' ddeued allan ddim balch o’ch genau: canys {{sc|Duw}} gwybodaeth ''yw'' yr {{sc|Arglwydd}}, a’i amcanion ef a gyflawnir. {{angor|2:4|4}} Bwäau y cedyrn a dorrwyd, a’r gweiniaid a ymwregysasant â nerth. {{angor|2:5|5}} Y ''rhai'' digonol a ymgyflogasant er bara; a’''r rhai'' newynog a beidiasant; hyd onid esgorodd yr ammhlantadwy ar saith, a llesgâu yr aml ''ei'' meibion. {{angor|2:6|6}} Yr {{sc|Arglwydd}} sydd yn marwhâu, ac yn bywhâu: efe sydd yn dwyn i waered i’r bedd, ac yn dwyn i fynu. {{angor|2:7|7}} Yr {{sc|Arglwydd}} sydd yn tlodi, ac yn cyfoethogi; yn darostwng, ac yn dyrchafu. {{angor|2:8|8}} Efe sydd yn cyfodi y tlawd o’r llwch, ''ac'' yn dyrchafu yr anghenus o’r tommennau, i’''w'' gosod gyd â thywysogion, ac i beri iddynt etifeddu teyrn-gadair gogoniant: canys eiddo yr {{sc|Arglwydd}} colofnau y ddaear, ac efe a osododd y byd arnynt. {{angor|2:9|9}} Traed ei saint a geidw efe, a’r annuwiolion a ddistawant mewn tywyllwch: canys nid trwy nerth y gorchfyga gwr. {{angor|2:10|10}} Y rhai a ymrysonant â’r {{sc|Arglwydd}}, a ddryllir: efe a darana yn eu herbyn hwynt o’r nefoedd: yr {{sc|Arglwydd}} a farn derfynau y ddaear; ac a ddyry nerth i’w frenhin, ac a ddyrchafa gorn ei enneiniog. {{angor|2:11|11}} Ac Elcanah a aeth i Ramah i’w dy; a’r bachgen a fu weinidog i’r {{sc|Arglwydd}} ger bron Eli yr offeiriad. {{angor|2:12|12}} ¶ A meibion Eli ''oedd'' feibion Belial: nid adwaenent yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|2:13|13}} A defod yr offeiriad gyd â’r bobl ''oedd'', pan offrymmai neb aberth, gwas yr offeiriad a ddeuai pan fyddai y cig yn berwi, a chigwain dridaint yn ei law; {{angor|2:14|14}} Ac a’''i'' tarawai ''hi'' yn y badell, neu yn yr efyddyn, neu yn y crochan, neu yn y pair: yr hyn oll a gyfodai y gigwain, a gymmerai yr offeiriad iddo. Felly y gwnaent yn Siloh i holl Israel y rhai oedd yn dyfod yno. {{angor|2:15|15}} Hefyd cyn arogl-losgi o honynt y brasder, y deuai gwas yr offeiriad hefyd, ac a ddywedai wrth y gwr a fyddai yn aberthu, Dyro gig i’w rostio i’r offeiriad: canys ni fyn efe gennyt gig berw, ond amrwd. {{angor|2:16|16}} Ac ''os'' gwr a ddywedai wrtho, Gan losgi llosgant yn awr y brasder, ac ''yna'' cymmer ''fel'' yr ewyllysio dy galon: yntau a ddywedai wrtho, ''Nag ê;'' yn awr y rhoddi ''ef:'' ac onid ê, mi a’''i'' cymmeraf trwy gryfder. {{angor|2:17|17}} Am hynny pechod y llangciau oedd fawr iawn ger bron yr {{sc|Arglwydd}}: canys ffieiddiodd dynion offrwm yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|2:18|18}} ¶ A Samuel oedd yn gweini o flaen yr {{sc|Arglwydd}}, yn fachgen, wedi ymwregysu âg ephod lïan. {{angor|2:19|19}} A’i fam a wnai iddo fantell fechan, ac a’''i'' dygai iddo o flwyddyn i flwyddyn, pan ddelai hi i fynu gyd â’i gwr i aberthu yr aberth blynyddol. {{angor|2:20|20}} ¶ Ac Eli a fendithiodd Elcanah a’i wraig, ac a ddywedodd, Rhodded yr {{sc|Arglwydd}} i ti had o’r wraig hon, am y dymuniad a ddymunodd gan yr {{sc|Arglwydd}}. A hwy a aethant i’w mangre eu hun. {{angor|2:21|21}} A’r {{sc|Arglwydd}} a ymwelodd â Hannah; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar dri o feibion, a dwy o ferched: a’r bachgen Samuel a gynnyddodd ger bron yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|2:22|22}} ¶ Ac Eli ''oedd'' hen iawn; ac efe a glybu yr hyn oll a wnelsai ei feibion ef i holl Israel, a’r modd y gorweddent gyd â’r gwragedd oedd yn ymgasglu yn finteioedd ''wrth'' ddrws pabell y cyfarfod. {{angor|2:23|23}} Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Paham y gwnaethoch y pethau hyn? canys clywaf gan yr holl bobl hyn ddrygair i chwi. {{angor|2:24|24}} Nag ê, fy meibion: canys nid da y gair yr ydwyf fi yn ei glywed; eich bod chwi yn peri i bobl yr {{sc|Arglwydd}} droseddu. {{angor|2:25|25}} Os gwr a becha yn erbyn gwr, y swyddogion a’i barnant ef: ond os yn erbyn yr {{sc|Arglwydd}} y pecha gwr, pwy a eiriol drosto ef? Ond ni wrandawsant ar lais eu tad, am y mynnai yr {{sc|Arglwydd}} eu lladd hwynt. {{angor|2:26|26}} A’r bachgen Samuel a gynnyddodd, ac a aeth yn dda gan {{sc|Dduw}}, a dynion hefyd. {{angor|2:27|27}} ¶ A daeth gwr i {{sc|Dduw}} at Eli, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr {{sc|Arglwydd}}; Onid gan ymddangos yr ymddangosais i dŷ dy dad, pan oeddynt yn yr Aipht yn nhŷ Pharaoh? {{angor|2:28|28}} Gan ei ddewis ef hefyd o holl<noinclude><references/></noinclude> jnvqsqehns5ngsdcuz9mpq6jpoxrnj3 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/289 104 3541 171386 171347 2026-10-06T05:23:43Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171386 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>lwythau Israel yn offeiriad i mi, i offrymmu ar fy allor, i losgi arogl-darth, i wisgo ephod ger fy mron? oni roddais hefyd i dŷ dy dad di holl ebyrth tanllyd meibion Israel? {{angor|2:29|29}} Paham y sethrwch chwi fy aberth a’m bwyd-offrwm, y rhai a orchymynais ''yn fy'' nhrigfa, ac yr anrhydeddi dy feibion yn fwy na myfi, gan eich pesgi eich hunain â’r goreu o holl offrymmau fy mhobl Israel? {{angor|2:30|30}} Am hynny medd {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel, Gan ddywedyd y dywedais, Dy dŷ di a thŷ dy dad a rodiant o’m blaen i byth: eithr yn awr medd yr {{sc|Arglwydd}}, Pell fydd hynny oddi wrthyf fi; canys fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi, a’m dirmygwyr a ddirmygir. {{angor|2:31|31}} Wele y dyddiau yn dyfod, pan dorrwyf dy fraich di, a braich tŷ dy dad, fel na byddo hen wr yn dy dŷ di. {{angor|2:32|32}} A thi a gei weled gelyn ''yn fy'' nhrigfa, yn yr hyn oll a wna ''{{sc|Duw}}'' o ddaioni i Israel: ac ni bydd hen wr yn dy dŷ di byth. {{angor|2:33|33}} A’r gwr o’r eiddot, ''yr hwn'' ni thorraf ymaith oddi wrth fy allor, ''fydd'' i beri i’th lygaid ballu, ac i beri i’th galon ofidio: a holl gynnyrch dy dŷ di a fyddant feirw yn wŷr. {{angor|2:34|34}} A hyn ''fydd'' i ti yn arwydd, yr hwn a ddaw ar dy ddau fab, ar Hophni a Phinees: Yn yr un dydd y byddant feirw ill dau. {{angor|2:35|35}} A chyfodaf i mi offeiriad ffyddlawn a wna yn ol fy nghalon a’m meddwl; a mi a adeiladaf iddo ef dŷ sicr, ac efe a rodia ger bron fy enneiniog yn dragywydd. {{angor|2:36|36}} A bydd i bob un a adewir yn dy dŷ di ddyfod ''ac'' ymgrymmu iddo ef am ddernyn o arian, a thammaid o fara; a dywedyd, Gosod fi yn awr mewn rhyw offeiriadaeth, i ''gael'' bwytta tammaid o fara. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Y modd y datguddiwyd gair yr Arglwydd gyntaf i Samuel.'' 11 ''Duw yn dangos i Samuel ddinystr tŷ Eli.'' 15 ''Samuel o’i ledanfodd yn mynegi i Eli y weledigaeth.'' 19 ''Samuel yn tyfu mewn cymmeriad.''}} {{angor|3:1}} {{uc|A’r}} bachgen Samuel a wasanaethodd yr {{sc|Arglwydd}} ger bron Eli. A gair yr {{sc|Arglwydd}} oedd werthfawr yn y dyddiau hynny; nid ''oedd'' weledigaeth eglur. {{angor|3:2|2}} A’r pryd hwnnw, pan ''oedd'' Eli yn gorwedd yn ei fangre, wedi i’w lygaid ef ddechreu tywyllu, ''fel'' na allai weled; {{angor|3:3|3}} A chyn i lamp {{sc|Duw}} ddiffoddi yn nheml yr {{sc|Arglwydd}}, lle ''yr oedd'' arch {{sc|Duw}}, a Samuel oedd wedi gorwedd ''i gysgu:'' {{angor|3:4|4}} Yna y galwodd yr {{sc|Arglwydd}} ar Samuel. Dywedodd yntau, Wele fi. {{angor|3:5|5}} Ac efe a redodd at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Ni elwais i; dychwel ''a'' gorwedd. Ac efe a aeth ac a orweddodd. {{angor|3:6|6}} A’r {{sc|Arglwydd}} a alwodd eilwaith, Samuel. A Samuel a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Na elwais, fy mab; dychwel ''a'' gorwedd. {{angor|3:7|7}} Ac nid adwaenai Samuel etto yr {{sc|Arglwydd}}, ac nid eglurasid iddo ef air yr {{sc|Arglwydd}} etto. {{angor|3:8|8}} A’r {{sc|Arglwydd}} a alwodd Samuel drachefn y drydedd waith. Ac efe a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. A deallodd Eli mai yr {{sc|Arglwydd}} a alwasai ar y bachgen. {{angor|3:9|9}} Am hynny Eli a ddywedodd wrth Samuel, Dos, gorwedd: ac os geilw efe arnat, dywed, Llefara, {{sc|Arglwydd}}; canys y mae dy was yn clywed. Felly Samuel a aeth ac a orweddodd yn ei le. {{angor|3:10|10}} A daeth yr {{sc|Arglwydd}}, ac a safodd, ac a alwodd megis o’r blaen, Samuel, Samuel. A dywedodd Samuel, Llefara; canys y mae dy was yn clywed. {{angor|3:11|11}} ¶ A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Samuel, Wele fi yn gwneuthur peth yn Israel, yr hwn pwy bynnag a’i clywo, fe a ferwina ei ddwy glust ef. {{angor|3:12|12}} Yn y dydd hwnnw y dygaf i ben yn erbyn Eli yr hyn oll a ddywedais am ei dŷ ef, gan ddechreu a diweddu ''ar unwaith''. {{angor|3:13|13}} Mynegais hefyd iddo ef, y barnwn ei dŷ ef yn dragywydd, am yr anwiredd a ŵyr efe; o herwydd i’w feibion haeddu iddynt felldith, ac nas gwaharddodd efe iddynt. {{angor|3:14|14}} Ac am hynny y tyngais wrth dŷ Eli, na wneir iawn am anwiredd tŷ Eli âg aberth, nac a bwyd-offrwm byth. {{angor|3:15|15}} ¶ A Samuel a gysgodd hyd y bore, ac a agorodd ddrysau tŷ yr {{sc|Arglwydd}}: a Samuel oedd yn ofni mynegi y weledigaeth i Eli. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> d75og5pgac4nj298y8aco9o75fbtd5v Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/323 104 3575 171380 171286 2026-10-05T21:10:40Z Tylopous 3717 penodau 171380 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Ail lyfr Samuel;}}}}<br> {{sc|yr hwn a elwir hefyd,}}<br> {{uc|Ail lyfr y brenhinoedd.}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|1 ''Yr Amaleciaid, a ddygasai newyddion o’r gyflafan, ac a’i cyhuddasai ei hun o farwolaeth Saul, yn cael ei ladd.'' 17 ''Dafydd yn gwneuthur marwnad i Saul a Jonathan.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Ac}} ar ôl marwolaeth Saul, pan ddychwelasai Dafydd o ladd yr Amaleciaid, wedi aros o Dafydd ddeuddydd yn Siclag; 1:2 Yna y trydydd dydd, wele ŵr yn dyfod o’r gwersyll oddi wrth Saul, a’i ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben: a phan ddaeth efe at Dafydd, efe a syrthiodd i lawr, ac a ymgrymodd. 1:3 A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, O ba le y daethost ti? Yntau a ddywedodd wrtho, O wersyll Israel y dihengais i. 1:4 A dywedodd Dafydd wrtho ef, Pa fodd y bu? mynega, atolwg, i mi. Yntau a ddywedodd, Y bobl a ffodd o’r rhyfel, a llawer hefyd o’r bobl a syrthiodd, ac a fuant feirw; a Saul a Jonathan ei fab a fuant feirw. 1:5 A Dafydd a ddywedodd wrth y llanc oedd yn mynegi iddo. Pa fodd y gwyddost ti farw Saul a Jonathan ei fab? 1:6 A’r llanc, yr hwn oedd yn mynegi iddo, a ddywedodd, Digwyddodd i mi ddyfod i fynydd Gilboa; ac wele, Saul oedd yn pwyso ar ei waywffon: wele hefyd y cerbydau a’r marchogion yn erlid ar ei ôl ef. 1:7 Ac efe a edrychodd o’i ôl, ac a’m canfu i, ac a alwodd arnaf fi. Minnau a ddywedais, Wele fi. 1:8 Dywedodd yntau wrthyf, Pwy wyt ti? Minnau a ddywedais wrtho, Amaleciad ydwyf fi. 1:9 Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Saf, atolwg, arnaf, a lladd fi: canys cyfyngder a ddaeth arnaf, oherwydd bod fy holl einioes ynof fi eto. 1:10 Felly mi a sefais arno ef, ac a’i lleddais ef, canys mi a wyddwn na byddai efe byw ar ôl ei gwympo: a chymerais y goron oedd ar ei ben ef, a’r freichled oedd am ei fraich ef, ac a’u dygais hwynt yma at fy arglwydd. 1:11 Yna Dafydd a ymaflodd yn ei ddillad, ac a’u rhwygodd hwynt; a’r holl wŷr hefyd y rhai oedd gydag ef. 1:12 Galarasant hefyd, ac wylasant, ac ymprydiasant hyd yr hwyr, am Saul ac am Jonathan ei fab, ac am bobl yr AR¬GLWYDD, ac am dŷ Israel; oherwydd iddynt syrthio trwy y cleddyf. 1:13 A Dafydd a ddywedodd wrth y llanc oedd yn mynegi hyn iddo, O ba le yr hanwyt ti? Yntau a ddywedodd, Mab i ŵr dieithr o Amaleciad ydwyf fi. 1:14 A dywedodd Dafydd wrtho, Pa fodd nad ofnaist ti estyn dy law i ddifetha eneiniog yr ARGLWYDD? 1:15 A Dafydd a alwodd ar un o’r gweision, ac a ddywedodd, Nesa, rhuthra iddo ef. Ac efe a’i trawodd ef, fel y bu efe farw. 1:16 A dywedodd Dafydd wrtho ef, Bydded dy waed di ar dy ben dy hun: canys dy enau dy hun a dystiolaethodd yn dy erbyn, gan ddywedyd, Myfi a leddais eneiniog yr ARGLWYDD. 1:17 A Dafydd a alarnadodd yr alarnad hon am Saul ac am Jonathan ei fab: 1:18 (Dywedodd hefyd am ddysgu meibion Jwda i saethu â bwa: wele, y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Jaser.) 1:19 O ardderchowgrwydd Israel, efe a archollwyd ar dy uchelfaoedd di: pa fodd y cwympodd y cedyrn! 1:20 Nac adroddwch hyn yn Gath; na fynegwch yn heolydd Ascalon: rhag llawenychu merched y Philistiaid, rhag gorfoleddu o ferched y rhai dienwaededig. 1:21 O fynyddoedd Gilboa, na ddisgynned arnoch chwi wlith na glaw, na meysydd o offrymau! canys yno y bwriwyd ymaith darian y cedyrn yn ddirmygus, tarian Saul, fel pe buasai heb ei eneinio ag olew. 1:22 Oddi wrth waed y lladdedigion, oddi wrth fraster y cedyrn, ni throdd bŵa Jonathan yn ôl, a chleddyf Saul ni ddychwelodd yn wag. 1:23 Saul a Jonathan oedd gariadus ac annwyl yn eu bywyd, ac yn eu marwol¬aeth ni wahanwyd hwynt:<noinclude><references/></noinclude> 5vcxqylh35h1myjyco6ncnyltkgv1ga Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/324 104 3576 171381 6750 2026-10-05T21:13:59Z Tylopous 3717 penodau 171381 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>cynt oeddynt na’r eryrod, a chryfach oeddynt na’r llewod. 1:24 Merched Israel, wylwch am Saul, yr hwn oedd yn eich dilladu chwi ag ysgariad, gyda hyfrydwch, yr hwn oedd yn gwisgo addurnwisg aur ar eich dillad chwi. 1:25 Pa fodd y cwympodd y cedyrn yng nghanol y rhyfel! Jonathan, ti a laddwyd ar dy uchelfaoedd. 1:26 Gofid sydd arnaf amdanat ti, fy mrawd Jonathan: cu iawn fuost gennyf fi: rhyfeddol oedd dy gariad tuag ataf fi, tu hwnt i gariad gwragedd. 1:27 Pa fodd y syrthiodd y cedyrn, ac y difethwyd arfau rhyfel! {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1 ''Dafydd, ar archiad Duw, yn myned gyd â’i wŷr i Hebron; lle y gwnaed ef yn frenhin ar Judah:'' 5 ''yn canmol gwŷr Jabes Gilead, am eu caredigrwydd i Saul.'' 8 ''Abner yn gwneuthur Isboseth yn frenhin ar Israel.'' 12 ''Ymladd creulawn rhwng deuddeg o wŷr Abner a deuddeg o wŷr Joab.'' 18 ''Lladd Asahel.'' 25 ''Joab, ar ddeisyflad Abner, yn galw y bobl yn ol.'' 32 ''Claddedigaeth Asahel.''}} {{angor|2:1}} {{uc|Ac}} ar ôl hyn yr ymofynnodd Dafydd’â’r ARGLWYDD, gan ddywedyd, A af fi i fyny i’r un o ddinasoedd Jwda? A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho ef, Dos i fyny. A dywedodd Dafydd, I ba le yr af i fyny? Dywedodd yntau, I Hebron. 2:2 A Dafydd a aeth i fyny yno, a’i ddwy wraig hefyd, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail gwraig Nabal y Carmeliad. 2:3 A Dafydd a ddug i fyny ei wŷr y rhai oedd gydag ef, pob un a’i deulu: a hwy a arosasant yn ninasoedd Hebron. 2:4 A gwŷr Jwda a ddaethant, ac a eneiniasant Dafydd yno yn frenin ar dŷ Jwda. A mynegasant i Dafydd, gan ddy¬wedyd, mai gwŷr Jabes Gilead a gladdasent Saul. 2:5 A Dafydd a anfonodd genhadau at wŷr Jabes Gilead, ac a ddywedodd wrthynt, Bendigedig ydych chwi gan yr ARGLWYDD, y rhai a wnaethoch y drugaredd hon â’ch arglwydd Saul, ac a’i claddasoch ef. 2:6 Ac yn awr yr ARGLWYDD a wnelo fi chwi drugaredd a gwirionedd: minnau hefyd a dalaf i chwi am y daioni hwn, oblegid i chwi wneuthur y peth hyn. 2:7 Yn awr gan hynny ymnerthed eich dwylo, a byddwch feibion grymus: canys marw a fu eich arglwydd Saul, a thŷ Jwda a’m heneiniasant innau yn frenin arnynt. 2:8 Ond Abner mab Ner, tywysog y filwriaeth oedd gan Saul, a gymerth Isboseth mab Saul, ac a’i dug ef drosodd i Mahanaim; 2:9 Ac efe a’i gosododd ef yn frenin ar Gilead, ac ar yr Assuriaid, ac ar Jesreel, ac ar Effraim, ac ar Benjamin, ac ar holl Israel. 2:10 Mab deugeinmlwydd oedd Isboseth mab Saul, pan ddechreuodd deyrnasu ar Israel, a dwy flynedd y teyrnasodd efe. Tŷ Jwda yn unig oedd gyda Dafydd. 2:11 A rhifedi y dyddiau y bu Dafydd yn frenin yn Hebron ar dŷ Jwda, oedd saith mlynedd a chwe mis. 2:12 Ac Abner mab Ner, a gweision Isboseth mab Saul, a aethant allan o Mahanaim i Gibeon. 2:13 Joab hefyd mab Serfia, a gweision Dafydd, a aethant allan, ac a gyfarfuant ynghyd wrth lyn Gibeon: a hwy a eisteddasant wrth y llyn, rhai o’r naill du, a’r lleill wrth y hyn o’r tu arall. 2:14 Ac Abner a ddywedodd wrth Joab, Cyfoded yn awr y llanciau, a chwaraeant ger ein bronnau ni. A dywedodd Joab, Cyfodant. 2:15 Yna y cyfodasant, ac yr aethant drosodd dan rif, deuddeg o Benjamin, sef oddi wrth Isboseth mab Saul, a deuddeg o weision Dafydd. 2:16 A phob un a ymaflodd ym mhen ei gilydd, ac a yrrodd ei gleddyf yn ystlys ei gyfaill; felly y cydsyrthiasant hwy. Am hynny y galwyd y lle hwnnw Helcath Hassurim, yn Gibeon. 2:17 A bu ryfel caled iawn y dwthwn hwnnw; a thrawyd Abner, a gwŷr Israel, o flaen gweision Dafydd. 2:18 A thri mab Serfia oedd yno, Joab, ac Abisai, ac Asahel: ac Asahel oedd mor fuan ar ei draed ag un o’r iyrchod sydd yn y maes.: 2:19 Ac Asahel a ddilynodd ar ôl Abner, ac wrth fyned ni throdd ar y tu deau nac ar y tu aswy, oddi ar ôl Abner.: 2:20 Yna Abner a edrychodd o’i ôl, ac a ddywedodd, Ai tydi yw Asahel? A dywedodd yntau, Ie, myfi. 2:21 A dywedodd Abner wrtho ef, Tro ar dy law ddeau, neu ar dy law aswy, a dal i ti un o’r llanciau, a chymer i ti ei arfau ef.<noinclude><references/></noinclude> a7dlbrwqmydidjke1ps9rn1u3v53rco Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/325 104 3577 171382 6751 2026-10-05T21:17:51Z Tylopous 3717 penodau 171382 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>Ond ni fynnai Asahel droi oddi ar ei ôl ef. 2:22 Ac Abner a ddywedodd eilwaith wrth Asahel, Cilia oddi ar fy ôl i: paham y trawaf di i lawr? canys pa fodd y codwn fy ngolwg ar Joab dy frawd di wedi hynny? 2:23 Ond efe a wrthododd ymado. Am hynny Abner a’i trawodd ef â bôn y waywffon dan y bumed ais, a’r waywffon a aeth allan o’r tu cefn iddo; ac efe a syrthiodd yno, ac a fu farw yn ei le: a phawb a’r oedd yn dyfod i’r lle y syrthiasai Asahel ynddo, ac y buasai farw, a safasant. 2:24 Joab hefyd ac Abisai a erlidiasant ar ôl Abner: pan fachludodd yr haul, yna y daethant hyd fryn Amma, yr hwn sydd gyferbyn â Gia, tuag anialwch Gibeon. 2:25 A meibion Benjamin a ymgasglasant ar ôl Abner, ac a aethant yn un fintai, ac a safasant ar ben bryn. 2:26 Yna Abner a alwodd ar Joab, ac a ddywedodd, Ai byth y difa y cleddyf? oni wyddost ti y bydd chwerwder yn y diwedd? hyd ba bryd gan hynny y byddi heb ddywedyd wrth y bobl am ddychwelyd oddi ar ôl eu brodyr? 2:27 A dywedodd Joab, Fel mai byw Duw, oni buasai yr hyn a ddywedaist, diau yna y bore yr aethai y bobl i fyny, bob un oddi ar ôl ei frawd. 2:28 Felly Joab a utganodd mewn utgorn; a’r holl bobl a safasant, ac nid erlidiasant mwyach ar ôl Israel, ac ni chwanegasant ymladd mwyach. 2:29 Ac Abner a’i wŷr a aethant trwy’r gwastadedd ar hyd y nos honno, ac a aethant dros yr Iorddonen, ac a aethant trwy holl Bithron, a daethant i Mahanaim. 2:30 A Joab a ddychwelodd oddi ar ôl Abner: ac wedi iddo gasglu’r holl bobl ynghyd, yr oedd yn eisiau o weision Dafydd bedwar gŵr ar bymtheg, ac Asahel. 2:31 A gweision Dafydd a drawsent o Benjamin, ac o wŷr Abner, dri chant a thrigain gŵr, fel y buant feirw. 2:32 A hwy a gymerasant Asahel, ac a’i claddasant ef ym meddrod ei dad, yr hwn oedd ym Methlehem. A Joab a’i wŷr a gerddasant ar hyd y nos, ac yn Hebron y goleuodd arnynt. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn myned yn gryfach tra y parhaodd y rhyfel.'' 2 ''Geni chwe mab iddo ef yn Hebron.'' 6 ''Abner yn anfoddlawn i Isboseth,'' 12 ''yn cilio at Dafydd.'' 13 ''Dafydd yn ei dderbyn ef, dan ammod iddo ef ddwyn iddo ei wraig Michal.'' 17 ''Abner, wedi ymddiddan â’r Israeliaid, yn cael gwledd gan Dafydd, a’i ollwng ymaith.'' 22 ''Joab yn dychwelyd o’r rhyfel, yn anfoddlawn i Dafydd, ac yn lladd Abner.'' 28 ''Dafydd yn melldithio Joab,'' 31 ''ac yn galaru am Abner.''}} {{angor|3:1}} {{uc|A bu}} ryfel hir rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd: a Dafydd oedd yn myned. gryfach gryfach, ond tŷ Saul oedd yn myned wannach wannach. 3:2 A meibion a anwyd i Dafydd yn Hebron: a’i gyntaf-anedig ef oedd Amnon, o Ahinoam y Jesreeles; 3:3 A’i ail fab oedd Chileab, o Abigail gwraig Nabal y Carmeliad; a’r trydydd, Absalom, mab Maacha ferch Talmai brenin Gesur; 3:4 A’r pedwerydd, Adoneia, mab Hag-gith; a’r pumed, Seffatia, mab Abital: 3:5 A’r chweched, Ithream, o Egla gwraig Dafydd. Y rhai hyn a anwyd i Dafydd yn Hebron. 3:6 A thra yr ydoedd rhyfel rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd, yr oedd Abner yn ymegnïo dros dŷ Saul. 3:7 Ond i Saul y buasai ordderchwraig a’i henw Rispa, merch Aia: ac Isboseth a ddywedodd wrth Abner, Paham yr aethost i mewn at ordderchwraig fy nhad? 3:8 Yna y digiodd Abner yn ddirfawr oherwydd geiriau Isboseth, ac a ddy¬wedodd, Ai pen ci ydwyf fi, yr hwn ydwyf heddiw yn erbyn Jwda yn gwneuthur trugaredd â thŷ Saul dy dad di, â’i frodyr, ac â’i gyfeillion, a heb dy roddi di yn llaw Dafydd, pan osodaist i’m herbyn fai am y wraig hon heddiw? 3:9 Fel hyn y gwnelo Duw i Abner, ac fel hyn y chwanego iddo, onid megis y tyngodd yr ARGLWYDD wrth Dafydd, felly y gwnaf iddo ef, 3:10 Gan droi y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Saul, a dyrchafu gorseddfainc Dafydd ar Israel, ac ar Jwda, o Dan hyd Beer-seba. 3:11 Ac ni feiddiodd efe mwyach ateb gair i Abner, rhag ei ofn ef. 3:12 Ac Abner a anfonodd genhadau at Dafydd drosto ei hun, gan ddywedyd, Eiddo pwy yw y wlad? a chan ddywedyd, Gwna gynghrair â mi; ac wele, fy llaw i fydd gyda thi, i droi atat ti holl Israel. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> i225kzbz4s6dpxbci6kd8sz822b1muz Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/327 104 3579 171383 6753 2026-10-05T21:19:55Z Tylopous 3717 penodau 171383 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>os archwaethaf fara, na dim oll, nes machludo’r haul. 3:36 A’r holl bobl a wybuant hynny, a da oedd hyn yn eu golwg hwynt: a’r hyn oll a wnâi y brenin, oedd dda yng ngolwg y bobl. 3:37 A’r holl bobl a holl Israel a wybuant y diwrnod hwnnw, na ddarfuasai o fodd y brenin ladd Abner mab Ner. 3:38 A’r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch chwi i dywysog ac i ŵr mawr syrthio heddiw yn Israel? 3:39 A minnau ydwyf eiddil heddiw, er fy eneinio yn frenin; a’r gwŷr hyn, meib¬ion Serfia, sydd ry galed i mi. Yr ARGLWYDD a dâl i’r hwn a wnaeth y drwg yn ôl ei ddrygioni. {{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Tra yr oedd yr Israeliaid yn ddychrynedig o achos marwolaeth Abner,'' 2 ''Baanah a Rechab yn lladd Isboseth, ac yn dwyn ei ben ef i Hebron.'' 9 ''Dafydd yn peri eu lladd hwynt, a chladdu pen Isboseth.''}} {{angor|4:1}} {{uc|A phan}} glybu mab Saul farw o Abner yn Hebron, ei ddwylo a laesasant, a holl Israel a ofnasant. 4:2 A dau ŵr oedd gan fab Saul yn dywysogion ar dorfoedd: enw un oedd Baana, ac enw yr ail Rechab, meibion Rimmon y Beerothiad, o feibion Benjamin: (canys Beeroth hefyd a gyfrifid i Benjamin: 4:3 A’r Beerothiaid a ffoesent i Gittaim, ac a fuasent yno yn ddieithriaid hyd y dydd hwn.) 4:4 Ac i Jonathan, mab Saul, yr oedd mab cloff o’i draed. Mab pum mlwydd oedd efe pan ddaeth y gair am Saul a Jonathan o Jesreel; a’i famaeth a’i cymerth ef ac a ffodd: a bu, wrth frysio ohoni i ffoi, iddo ef syrthio, fel y cloffodd efe. A’i enw ef oedd Meffiboseth. 4:5 A meibion Rimmon y Beerothiad, Rechab a Baana, a aethant ac a ddaethant, pan wresogasai y dydd, i dŷ Isboseth; ac efe oedd yn gorwedd ar wely ganol dydd. 4:6 Ac wele, hwy a ddaethant i mewn i ganol y tŷ, fel rhai yn prynu gwenith; a hwy a’i trawsant ef dan y bumed asen: a Rechab a Baana ei frawd a ddianghasant. 4:7 A phan ddaethant i’r tŷ, yr oedd efe yn gorwedd ar ei wely o fewn ystafell ei wely: a hwy a’i trawsant ef, ac a dorasant ei ben ef, ac a gymerasant ei ben ef, ac a gerddasant trwy’r gwastadedd ar hyd y nos. 4:8 A hwy a ddygasant ben Isboseth at Dafydd i Hebron; ac a ddywedasant wrth y brenin, Wele ben Isboseth mab Saul, dy elyn di, yr hwn a geisiodd dy einioes di: a’r ARGLWYDD a roddes i’m harglwydd frenin ddial y dydd hwn ar Saul, ac ar ei had. 4:9 A Dafydd a atebodd Rechab a Baana ei frawd, meibion Rimmon y Beeroth¬iad, ac a ddywedodd wrthynt, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hwn a ryddhaodd fy enaid o bob cyfyngdra, 4:10 Pan fynegodd un i mi, gan ddywedyd, Wele, bu farw Saul, (ac yr oedd yn ei olwg ei hun megis un yn dwyn llawen chwedl,) mi a ymeflais ynddo, ac a’i lleddais ef yn Siclag, yr hwn a dybiasai y rhoddaswn iddo obrwy am ei chwedl: 4:11 Pa faint mwy y gwnaf i ddynion annuwiol a laddasant ŵr cyfiawn yn ei dŷ, ar ei wely? Yn awr, gan hynny, oni cheisiaf ei waed ef ar eich llaw chwi? ac oni thorraf chwi ymaith oddi ar y ddaear? 4:12 A Dafydd a orchmynnodd i’w lanciau; a hwy a’u lladdasant hwy, ac a dorasant eu dwylo hwynt a’u traed, ac a’u crogasant hwy uwchben y llyn yn Hebron. Ond pen Isboseth a gymerasant hwy, ac a’i claddasant ym meddrod Abner, yn Hebron. PENNOD 5 5:1 Yna holl lwythau Israel a ddaethant at Dafydd i Hebron, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Wele, dy asgwrn di a’th gnawd ydym ni. 5:2 Cyn hyn hefyd; pan oedd Saul yn frenin arnom ni, ti oeddit yn arwain Israel allan, ac yn eu dwyn i mewn: a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt ti, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi yn flaenor ar Israel. 5:3 Felly holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron: a’r brenin Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, ger bron<noinclude><references/></noinclude> 10z0azayj31uc19997m4zky48gtj3x7 171384 171383 2026-10-05T21:22:45Z Tylopous 3717 penodau 171384 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>os archwaethaf fara, na dim oll, nes machludo’r haul. 3:36 A’r holl bobl a wybuant hynny, a da oedd hyn yn eu golwg hwynt: a’r hyn oll a wnâi y brenin, oedd dda yng ngolwg y bobl. 3:37 A’r holl bobl a holl Israel a wybuant y diwrnod hwnnw, na ddarfuasai o fodd y brenin ladd Abner mab Ner. 3:38 A’r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch chwi i dywysog ac i ŵr mawr syrthio heddiw yn Israel? 3:39 A minnau ydwyf eiddil heddiw, er fy eneinio yn frenin; a’r gwŷr hyn, meib¬ion Serfia, sydd ry galed i mi. Yr ARGLWYDD a dâl i’r hwn a wnaeth y drwg yn ôl ei ddrygioni. {{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Tra yr oedd yr Israeliaid yn ddychrynedig o achos marwolaeth Abner,'' 2 ''Baanah a Rechab yn lladd Isboseth, ac yn dwyn ei ben ef i Hebron.'' 9 ''Dafydd yn peri eu lladd hwynt, a chladdu pen Isboseth.''}} {{angor|4:1}} {{uc|A phan}} glybu mab Saul farw o Abner yn Hebron, ei ddwylo a laesasant, a holl Israel a ofnasant. 4:2 A dau ŵr oedd gan fab Saul yn dywysogion ar dorfoedd: enw un oedd Baana, ac enw yr ail Rechab, meibion Rimmon y Beerothiad, o feibion Benjamin: (canys Beeroth hefyd a gyfrifid i Benjamin: 4:3 A’r Beerothiaid a ffoesent i Gittaim, ac a fuasent yno yn ddieithriaid hyd y dydd hwn.) 4:4 Ac i Jonathan, mab Saul, yr oedd mab cloff o’i draed. Mab pum mlwydd oedd efe pan ddaeth y gair am Saul a Jonathan o Jesreel; a’i famaeth a’i cymerth ef ac a ffodd: a bu, wrth frysio ohoni i ffoi, iddo ef syrthio, fel y cloffodd efe. A’i enw ef oedd Meffiboseth. 4:5 A meibion Rimmon y Beerothiad, Rechab a Baana, a aethant ac a ddaethant, pan wresogasai y dydd, i dŷ Isboseth; ac efe oedd yn gorwedd ar wely ganol dydd. 4:6 Ac wele, hwy a ddaethant i mewn i ganol y tŷ, fel rhai yn prynu gwenith; a hwy a’i trawsant ef dan y bumed asen: a Rechab a Baana ei frawd a ddianghasant. 4:7 A phan ddaethant i’r tŷ, yr oedd efe yn gorwedd ar ei wely o fewn ystafell ei wely: a hwy a’i trawsant ef, ac a dorasant ei ben ef, ac a gymerasant ei ben ef, ac a gerddasant trwy’r gwastadedd ar hyd y nos. 4:8 A hwy a ddygasant ben Isboseth at Dafydd i Hebron; ac a ddywedasant wrth y brenin, Wele ben Isboseth mab Saul, dy elyn di, yr hwn a geisiodd dy einioes di: a’r ARGLWYDD a roddes i’m harglwydd frenin ddial y dydd hwn ar Saul, ac ar ei had. 4:9 A Dafydd a atebodd Rechab a Baana ei frawd, meibion Rimmon y Beeroth¬iad, ac a ddywedodd wrthynt, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hwn a ryddhaodd fy enaid o bob cyfyngdra, 4:10 Pan fynegodd un i mi, gan ddywedyd, Wele, bu farw Saul, (ac yr oedd yn ei olwg ei hun megis un yn dwyn llawen chwedl,) mi a ymeflais ynddo, ac a’i lleddais ef yn Siclag, yr hwn a dybiasai y rhoddaswn iddo obrwy am ei chwedl: 4:11 Pa faint mwy y gwnaf i ddynion annuwiol a laddasant ŵr cyfiawn yn ei dŷ, ar ei wely? Yn awr, gan hynny, oni cheisiaf ei waed ef ar eich llaw chwi? ac oni thorraf chwi ymaith oddi ar y ddaear? 4:12 A Dafydd a orchmynnodd i’w lanciau; a hwy a’u lladdasant hwy, ac a dorasant eu dwylo hwynt a’u traed, ac a’u crogasant hwy uwchben y llyn yn Hebron. Ond pen Isboseth a gymerasant hwy, ac a’i claddasant ym meddrod Abner, yn Hebron. {{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}} {{bach|1 ''Y llwythau yn dyfod i Hebron i enneinio Dafydd yn frenhin ar Israel.'' 4 ''Oedran Dafydd.'' 6 ''Dafydd yn ennill Sïon ar y Jebusiaid, ac yn trigo ynddi.'' 11 ''Hiram yn anfon at Dafydd.'' 13 ''Geni meibion iddo yn Jerusalem.'' 17 ''Dafydd, trwy gyfarwyddyd Duw, yn taro y Philistiaid yn Baal-perasim,'' 22 ''ac wrth y morwydd.''}} {{angor|5:1}} {{uc|Yna}} holl lwythau Israel a ddaethant at Dafydd i Hebron, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Wele, dy asgwrn di a’th gnawd ydym ni. 5:2 Cyn hyn hefyd; pan oedd Saul yn frenin arnom ni, ti oeddit yn arwain Israel allan, ac yn eu dwyn i mewn: a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt ti, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi yn flaenor ar Israel. 5:3 Felly holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron: a’r brenin Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, ger bron<noinclude><references/></noinclude> q8tpnek4bptn7yikv7c21aprwfl1kl0 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/328 104 3580 171385 6755 2026-10-05T21:26:52Z Tylopous 3717 penodau 171385 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>yr ARGLWYDD: a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel. 5:4 Mab deng mlwydd ar hugain oedd Dafydd pan ddechreuodd deyrnasu; a deugain mlynedd y teyrnasodd efe. 5:5 Yn Hebron y teyrnasodd efe ar Jwda saith mlynedd a chwe mis: ac yn Jerwsalem y teyrnasodd efe dair blynedd ar ddeg ar hugain ar holl Israel a Jwda. 5:6 A’r brenin a’i wŷr a aethant i Jerwsalem, at y Jebusiaid, preswylwyr y wlad: y rhai a lefarasant wrth Dafydd, gan ddywedyd, Ni ddeui di yma, oni thynni ymaith y deillion a’r cloffion: gan dybied, Ni ddaw Dafydd yma. 5:7 Ond Dafydd a enillodd amddinynfa Seion: honno yw dinas Dafydd. 5:8 A dywedodd Dafydd y dwthwn hwnnw, Pwy bynnag a elo i fyny i’r gwter, ac a drawo’r Jebusiaid, a’r cloffion, a’r deillion, y rhai sydd gas gan enaid Dafydd, hwnnw fydd blaenor. Am hynny y dywedasant, Y dall a’r cloff ni ddaw i mewn i’r tŷ. 5:9 A Dafydd a drigodd yn yr amddiffynfa, ac a’i galwodd hi, Dinas Dafydd. A Dafydd a adeiladodd oddi amgylch, o Milo ac oddi mewn. 5:10 A Dafydd a aeth rhagddo, ac a gynyddodd yn fawr; ac ARGLWYDD DDUW y lluoedd oedd gydag ef. 5:11 A Hiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a seiri prennau, a seiri meini: a hwy a adeiladasant dŷ i Dafydd. 5:12 A gwybu Dafydd i’r ARGLWYDD ei sicrhau ef yn frenin ar Israel, a dyrchafu ohono ei frenhiniaeth ef er mwyn ei bobl Israel. 5:13 A Dafydd a gymerodd eto ordderchwragedd a gwragedd o Jerwsalem, wedi iddo ddyfod o Hebron: a ganwyd eto i Dafydd feibion a merched. 5:14 A dyma enwau y rhai a anwyd iddo ef yn Jerwsalem; Sammua, a Sobab, a Nathan, a Solomon, 5:15 Ibhar hefyd, ac Elisua, a Neffeg, a Jaffia, 5:16 Elisama hefyd, ac Eliada, ac Eliffalet. 5:17 Ond pan glybu y Philistiaid iddynt eneinio Dafydd yn frenin ar Israel, yr holl Philistiaid a ddaethant i fyny i geisio Dafydd. A Dafydd a glybu, ac a aeth i waered i’r amddiffynfa. 5:18 A’r Philistiaid a ddaethant, ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim. 5:19 A Dafydd a ymofynnodd â’r AR¬GLWYDD, gan ddywedyd, A af fi i fyny at y Philistiaid? a roddi di hwynt yn fy llaw i? A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Dafydd, Dos i fyny: canys gan roddi y rhoddaf y Philistiaid yn dy law di. 5:20 A Dafydd a ddaeth i Baal-perasim; a Dafydd a’u trawodd hwynt yno; ac a ddywedodd, Yr ARGLWYDD a wahanodd fy ngelynion o’m blaen i, megis gwahanu dyfroedd. Am hynny y galwodd efe enw y lle hwnnw, Baal-perasim. 5:21 Ac yno y gadawsant hwy eu delwau; a Dafydd a’i wŷr a’u llosgodd hwynt. 5:22 A’r Philistiaid eto a chwanegasant ddyfod i fyny, ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim. 5:23 A Dafydd a ymofynnodd â’r AR¬GLWYDD; ac efe a ddywedodd, Na ddos i fyny: amgylchyna o’r tu ôl iddynt, a thyred arnynt hwy gyferbyn â’r morwydd. 5:24 A phan glywech drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna ymegnïa: canys yna yr ARGLWYDD a â allan o’th flaen di, i daro gwersyll y Philistiaid. 5:25 A Dafydd a wnaeth megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD iddo ef; ac a drawodd y Philistiaid o Geba, hyd oni ddelech i Gaser. {{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn cyrchu yr arch o Ciriath-jearim ar fèn newydd.'' 6 ''Taro Uzzah yn Peres-Uzzah.'' 11 ''Duw yn bendithio Obed-Edom o achos yr arch.'' 12 ''Dafydd yn dwyn yr arch i Sïon gyd âg aberthau, ac yn dawnsio o’i blaen hi: a Michal yn ei ddirmygu ef am hynny.'' 17 ''Efe yn gosod yr arch mewn pabell, gyd â llawenydd mawr a gwledda.'' 20 ''Michal, am geryddu Dafydd am ei lawenydd duwiol, yn ammhlantadwy hyd farwolaeth.''}} {{angor|6:1}} {{uc|A chasglodd}} Dafydd eto yr holl etholedigion yn Israel, sef deng mil ar bugain. 6:2 A Dafydd a gyfododd, ac a aeth, a’r holl bobl oedd gydag ef, o Baale Jwda, i ddwyn i fyny oddi yno arch Duw; enw yr hon a elwir ar enw ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn sydd yn aros arni rhwng y ceriwbiaid. 6:3 A hwy a osodasant arch Duw ar fen newydd, ac a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea: Ussa hefyd ac Ahio, meibion Abinadab, oedd yn gyrru y fen newydd. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 6joejhz0ku60licyxjh2a9iy71enhrj Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/329 104 3581 171387 6756 2026-10-06T05:29:43Z Tylopous 3717 penodau 171387 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>6:4 A hwy a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea, gydag arch Duw; ac Ahio oedd yn myned o flaen yr arch. 6:5 Dafydd hefyd a holl dŷ Israel oedd yn chwarae gerbron yr ARGLWYDD, â phob offer o goed ffynidwydd, sef â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac ag utgyrn, ac â symbalau. 6:6 A phan ddaethant i lawr dyrnu Nachon, Ussa a estynnodd ei law at arch Duw, ac a ymaflodd ynddi hi, canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd. 6:7 A digofaint yr ARGLWYDD a lidiodd wrth Ussa: a Duw a’i trawodd ef yno am yr amryfusedd hyn; ac efe a fu farw yno wrth arch Duw. 6:8 A bu ddrwg gan Dafydd, am i’r ARGLWYDD rwygo rhwygiad ar Ussa: ac efe a alwodd y lle hwnnw Peresussa, hyd y dydd hwn. 6:9 A Dafydd a ofnodd yr ARGLWYDD y dydd hwnnw; ac a ddywedodd. Pa fodd y daw arch yr ARGLWYDD ataf fi? 6:10 Ac ni fynnai Dafydd fudo arch yr ARGLWYDD ato ef i ddinas Dafydd: ond Dafydd a’i trodd hi i dŷ Obed-Edom y Gethiad. 6:11 Ac arch yr ARGLWYDD a arhosodd yn nhŷ Obed-Edom y Gethiad dri mis: a’r ARGLWYDD a fendithiodd Obed-Edom, a’i holl dŷ. 6:12 A mynegwyd i’r brenin Dafydd, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a fendith¬iodd dy Obed-Edom, a’r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch Duw. Yna Dafydd a aeth, ac a ddug i fyny arch Duw o dŷ Obed-Edom, i ddinas Dafydd, mewn llawenydd. 6:13 A phan gychwynnodd y rhai oedd yn dwyn arch yr ARGLWYDD chwech o gamau, yna efe a offrymodd ychen a phasgedigion. 6:14 A Dafydd a ddawnsiodd â’i holl egni gerbron yr ARGLWYDD; a Dafydd oedd wedi ymwregysu ag effod liain. 6:15 Felly Dafydd a holl dŷ Israel a ddygasant i fyny arch yr ARGLWYDD, trwy floddest, a sain utgorn. 6:16 Ac fel yr oedd arch yr ARGLWYDD yn dyfod i mewn i ddinas Dafydd, yna Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu’r brenin Dafydd yn neidio, ac yn llemain o flaen yr AR¬GLWYDD; a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon. 6:17 A hwy a ddygasant i mewn arch yr ARGLWYDD, ac a’i gosodasant yn ei lle, yng nghanol y babell, yr hon a osodasai Dafydd iddi. A Dafydd a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd ger¬bron yr ARGLWYDD. 6:18 Ac wedi gorffen o Dafydd offrymu poethoffrwm ac offrymau hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw ARGLWYDD y lluoedd. 6:19 Ac efe a rannodd i’r holl bobl, sef i holl dyrfa Israel, yn ŵr ac yn wraig, i bob un deisen o fara, ac un dryll o gig, ac un gostrelaid o win. Felly yr aeth yr holl bobl bawb i’w dy ei hun. 6:20 Yna y dychwelodd Dafydd i fendigo ei dŷ: a Michal merch Saul a ddaeth i gyfarfod Dafydd; ac a ddy¬wedodd, O mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw, yr hwn a ymddiosgodd heddiw yng ngŵydd llawforynion ei weision, fel yr ymddiosgai un o’r ynfydion gan ymddiosg. 6:21 A dywedodd Dafydd wrth Michal, Gerbron yr ARGLWYDD, yr hwn a’m dewisodd i o flaen dy dad di, ac o flaen ei holl dy ef, gan orchymyn i mi fod yn flaenor ar bobl yr ARGLWYDD, ar Israel, y chwaraeais: a mi a chwaraeaf gerbron yr ARGLWYDD. 6:22 Byddaf eto waelach na hyn, a byddaf ddirmygus yn fy ngolwg fy hun: a chyda’r llawforynion, am y rhai y dywedaist wrthyf, y’m gogoneddir. 6:23 Am hynny i Michal merch Saul ni bu etifedd hyd ddydd ei marwolaeth. {{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}} {{bach|1 ''Nathan yn canmol amcan Dafydd ar adeiladu tŷ i’r Arglwydd;'' 4 ''ac ar ol hynny, trwy air Duw, yn gwarafun iddo.'' 12 ''Yn addaw iddo ddaioni a bendithion yn ei had.'' 18 ''Gweddi a dïolch Dafydd.''}} {{angor|7:1}} {{uc|A phan}} eisteddodd y brenin yn ei dŷ, a rhoddi o’r ARGLWYDD lonydd iddo ef rhag ei holl elynion oddi amgylch: 7:2 Yna y dywedodd y brenin wrth Nathan y proffwyd, Wele yn awr fi yn preswylio mewn tŷ o gedrwydd, ac arch Duw yn aros o fewn y cortynnau. 7:3 A Nathan a ddywedodd wrth y brenin, Dos, gwna yr hyn oll ''sydd''<noinclude><references/></noinclude> egeisuyxnekkp1t4ef4khzda330o2hr Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/331 104 3583 171388 6758 2026-10-06T05:33:50Z Tylopous 3717 penodau 171388 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>7:29 Yn awr gan hynny rhynged bodd i ti fendigo tŷ dy was, i fod ger dy fron di yn dragywydd: canys ti, O Arglwydd DDUW, a leferaist, ac â’th fendith di y bendithier tŷ dy was yn dragywydd. {{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn darostwng y Philistiaid a1 ''.''r Moabiaid.'' 3 ''Yn taro Hadadezer a1 ''.''r Syriaid.'' 10 ''Toi yn anfon Joram âg anrhegion i1 ''.''w fendithio ef.'' 11 ''Dafydd yn cyssegru yr anrhegion a1 ''.''r yspail i Dduw:'' 14 ''yn gosod pennaethiaid yn Edom.'' 16 ''Swyddogion Dafydd.''}} {{angor|8:1}} {{uc|Ac}} wedi hyn trawodd Dafydd y Philist-—A iaid, ac a’u darostyngodd hwynt: a Dafydd a ddug ymaith Metheg-amma o law y Philistiaid. º2 Ac efe a drawodd Moab, ac a’u tnesurodd hwynt a llinyn, gan eu cwympo hwynt i lawr: ac efe a fcsurodd â dau linyn, i ladd; ac a llinyn llawn, i gadw yn fyw. Ac felly y Moabiaid fuant i Da¬fydd yn weision, yn dwyn treth. º3 Trawodd Dafydd hefyd Hadad-eser mab Rehob, brenin Soba, pan oedd efe yn myned i ennill ei derfynau wrth afon Ewffrates. º4 A Dafydd a enillodd oddi arno ef fil o gerbydau, a saith gant o farchogion, ac ugain mil o wŷr traed: a thorrodd Da¬fydd linynnau gar meirch pob cerbyd, ac efe a adawodd ohonynt gan cerbyd. º5 A phan ddaeth y Syriad o Damascus, i gynorthwyo Hadadeser brenin Soba, Dafydd a laddodd o’r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr. º6 A Dafydd a osododd swyddogion yn Syria Damascus; a’r Syriaid a fuant weision i Dafydd, yn dwyn treth. A’r ARGLWYDD a gadwodd Dafydd ym mha le bynnag yr aeth efe. º7 Dafydd hefyd a gymerth y tarianau aur oedd gan weision Hadadeser, ac a’u dug hwynt i Jerwsalem. º8 O Beta hefyd, ac o Berothai, dinasoedd Hadadeser, y dug y brenin Dafydd lawer iawn o bres. º9 Pan glybu Toi brenin Hamath, daro o Dafydd holl lu Hadadeser; º10 Yna Toi a anfonodd Joram ei fab at y brenin Dafydd, i gyfarch gwell iddo ac i’w fendithio, am iddo ymladd yn erbyn Hadadeser, a’i faeddu ef; (canys gŵr rhyfelgar oedd Hadadeser yn erbyn Toi:) a llestri arian, a llestri aur, a llestri pres ganddo: º11 Y rhai hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i’r ARGLWYDD, gyda’r arian a’r aur a gysegrasai efe o’r holl genhedloedd a oresgynasai efe; º12 Oddi ar Syria, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec, ac o anrhaith Hadadeser mab Rehob, brenin Soba. º13 A Dafydd a enillodd iddo enw, pan ddychwelodd efe o ladd y Syriaid, yn nyffryn yr halen, sef tair mil ar bymtheg. º14 Ac efe a osododd benaethiaid ar Edom; ar holl Edom y gosododd efe benaethiaid, a bu holl Edom yn weision i Dafydd. A’r ARGLWYDD a gadwodd Dafydd, i ba le bynnag yr aeth etc. º15 A theyrnasodd Dafydd ar holl Israel; ac yr oedd Dafydd yn gwneuthur barn a chyfiawnder i’w hull bobl. º16 A Joab mab Serfia oedd ben ar y llu; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur; º17 A Sadoc mab Ahitub, ac Ahimelech mab Abiathar, oedd offeiriaid; a Seraia yn ysgrifennydd: º18 Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a’r Peiethiaid; a meibion Dafydd oedd dywysogion. {{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}} {{bach|1 ''Dafydd, trwy law Siba, yn danfon am Mephi-boseth;'' 7 ''ac, er mwyn Jonathan, yn ei dderbyn ef i’w fwrdd, ac yn edfryd iddo gwbl ag oedd eiddo Saul;'' 9 ''ac yn gwneuthur Siba yn oruchwyliwr iddo ef.''}} {{angor|9:1}} {{uc|A Dafydd}} a ddywedodd, A oes eto un wedi ei adael o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd ag ef, er mwyn Jonathan? º2 Ac yr oedd gwas o dŷ Saul a’i enw Siba. A hwy a’i galwasant ef at Dafydd. A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, Ai tydi yw Siba? A dywedodd yntau, Dy was yw efe. º3 A dywedodd y brenin, A oes neb eto o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd Duw ag ef? A dywedodd Siba wrth y brenin, Y mae eto fab i Jonathan, yn gloff o’i draed. º4 A dywedodd y brenin wrtho. Pa te y mae efe? A Siba a ddywedodd wrth y brenin, Wele ef yn nhŷ Machir, mab Arnmiel, yn Lo-debar. º5 Yna y brenin Dafydd a anfonodd, ac a’i cyrchodd ef o dy Machir, mab Ammi’el, o Lo-debar. º6 A phan ddaeth Meffiboseth mab Jonathan, mab Saul, at Da-<noinclude><references/></noinclude> 3p0h8ovvt1vtccw8zy5t5knlbywr6d6 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/332 104 3584 171389 6759 2026-10-06T05:35:56Z Tylopous 3717 penodau 171389 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>fydd, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymgrymodd. A Dafydd a ddywedodd, Meffiboseth. Dywedodd yntau, Wele dy was. º7 A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, Nac ofna: canys gan wneuthur y gwnaf drugaredd a thi, er mwyn Jonathan dy dad, a mi a roddaf yn ei ôl i ti holl dir Saul dy dad; a thi a fwytei fara ar fy mwrdd i yn wastadol. º8 Ac efe a ymgrymodd, ac a ddywedodd, Beth ydyw dy was di, pan edrychit as gi marw o’m bath i? º9 Yna y brenin a alwodd ar Siba gwas Saul, ac a ddywedodd wrtho, Yr hyn oll oedd eiddo Saul, ac eiddo ei holl d ef, a roddais i fab dy feistr di. º10 A thi a erddi y tir iddo ef, ‘ti, a’th feibion, a’th weision, ac a’u dygi i mewn, fel y byddo bara i fab dy feistr di, ac y bwytao efe: a Meffiboseth, mab dy feistr di, a fwyty yn wastadol fara ar fy mwrdd i. Ac i Siba yr oedd pymtheg o feibion, ac ugain o weision. º11 Yna y dywedodd Siba wrth y brenin, Yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd fy arglwydd y brenin i’w was, felly y gwna dy was. Yna y dywedodd Dafydd, Meffiboseth a fwyty ar fy mwrdd i, fel un o feibion y brenin. º12 Ac i Meffiboseth yr oedd mab bychan, a’i enw oedd Micha. A phawb a’r a oedd yn cyfanheddu ty Siba oedd weision i Meffiboseth. º13 A Meffiboseth a drigodd yn Jerw¬salem: canys ar fwrdd y brenin yr oedd efe yn bwyta yn wastadol: ac yr oedd efe yn gloff o’l ddeudroed. {{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}} {{bach|1 ''Y dirmyg a wnaed â’r cenhadon a anfonasai Dafydd i gysuro Hanun mab Nahas.'' 6 ''Joab ac Abisai yn gorchfygu yr Ammoniaid, er bod y Syriaid yn eu cynnorthwyo.'' 15 ''Sobach yn ail-gasglu y Syriaid, a Dafydd yn ei ladd ef yn Helam.''}} {{angor|10:1}} {{uc|Ac}} ar ôl hyn y bu i frenin meibion Ammon farw, a Hanun ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. º2 Yna y dywedodd Dafydd, Mi a wnaf garedigrwydd a Hanun mab Nahas, megis y gwnaeth ei dad ef garedigrwydd a mi. A Dafydd a anfonodd gyda’i weision i’w gysuro ef am ei dad. A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meibion Ammon. º3 A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun eu haiglwydd., Wyt ti yn tybied mai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd, oherwydd iddo ddanfon cysurwyr atat ti? onid er mwyq chwilio’r ddinas, a’i throedio, a’i difetha, yr anfonodd Dafydd ei weision atat ti? º4 Yna Hanun a gymerth weision Da¬fydd, ac a eilliodd hanner eu barfau hwynt, ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner, hyd eu cluniau, ac a’u go-llyngodd hwynt ymaith. º5 Pan fynegwyd hyn i Dafydd, efe a anfonodd i’w cyfarfod hwynt; canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr. A dywedodd y brenin, Arhoswch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau chwi, ac yna dychwelwch. º6 A meibion Ammon a welsant eu bod yn ffiaidd gan Dafydd; a meibion Ammon a anfonasant ac a gyflogasant y Syriaid o Bethrehob, a’r Syriaid o Soba, ugain mil o wŷr traed, a chan frenin Maacha fil o wŷr, ac o Istob ddeuddeng mil o wŷr. º7 A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab, a holl lu y cedyrn. º8 A meibion Ammon a ddaethant, ac a luniaethasant ryfel wrth ddrws y porth: a’r Syriaid o Soba, a Rehob, ac o Istob, a Maacha, oedd o’r neilitu yn y maes. º9 Pan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl, efe. a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a ymfyddinodd yn erbyn y Syriaid. º10 A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd, i’w byddino yn erbyn meibion Ammon. º11 Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di i mi yn gynhorthwy; ond os meibion Ammon fyddant drech na thi, yna y deuaf i’th gynorthwyo dithau. º12 Bydd bybyr, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw: a gwnaed yr ARGLWYDD yr hyn fyddo da yn ei olwg ef. º13 A nesaodd Joab, a’r bobl oedd gydag ef, yn erbyn y Syriaid i’r rhyfel; a hwy a ffoesant o’i flaen ef. º14 A phan welodd meibion Ammon ffoi o’r Syriaid, hwythau a ffoesant o flaen Abisai, ac a aethant i’r ddinas. A dych welodd Joab oddi wrth feibion Ammon, ac a ddaeth i Jerwsalem. º15 A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, hwy a ymgynullasant ynghyd. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> rox1nar7roz0k4w6j953s5c8qsfe2qt Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/333 104 3585 171390 6760 2026-10-06T05:38:20Z Tylopous 3717 penodau 171390 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º16 A Hadareser a anfonodd, ac a ddug y Syriaid oedd o’r tu hwnt i’r afon: a hwy a ddaethant i Helam, a Sobach tywysog llu Hadareser o’u blaen. º17 A phan fynegwyd i Dafydd hynny, fife a gasglodd holl Israel, ac a aeth dros yr Iorddonen, ac a ddaeth i Helam: a’r Synaid a ymfyddinasant yn erbyn Da¬fydd, ac a ymladdasant ag ef. º18 A’r Syriaid a ffoesant o flaen Israel; a Dafydd a laddodd o’r Syriaid, wŷr saith gant o gerbydau, a deugain mil o wŷr meirch: ac efe a drawodd Sobach tywysog eu llu hwynt, fel y bu efe farw yno. º19 A phan welodd yr holl frenhinoedd oedd weision i Hadareser, eu lladd hwynt o flaen Israel, hwy a heddychasant ag Israel, ac a’u gwasanaethasant hwynt. A’r Syriaid a ofnasant gynorthwyo meib¬ion Ammon mwyach. {{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod XI}}.}} {{bach|1 ''Dafydd, tra yr ydoedd Joab yn gwarchae ar Rabbah, yn godinebu gyd â Bathseba:'' 6 ''yn anfon am Urïas adref, i geisio coluro ei odineb:'' 14 ''yn anfon llythyr gyd âg ef at Joab, i beri iddo farw.'' 18 ''Joab yn danfon newyddion o’i farwolaeth ef i Dafydd.'' 26 ''Dafydd yn cammeryd Bathseba yn wraig iddo.''}} {{angor|11:1}} {{uc|Ac}} wedi pen y flwyddyn, yn yr amser y byddai y brenhinoedd yn myned allan i ryfel, danfonodd Dafydd Joab a’i weision gydag ef, a holl Israel; a hwy a ddistrywiasant feibion Ammon, ac a warchaeasant ar Rabba: ond Dafydd oedd yn aros yn Jerwsalem. º2 A bu ar brynhawngwaith gyfodi o Dafydd oddi ar ei wely, a rhodio ar nen ty y brenin: ac oddi ar y nen efe a ganfu, wraig yn ymolchi; a’r wraig oedd deg iawn yr olwg. º3 A Dafydd a anfonodd ac a ymofyn-, nodd am y wraig: ac un a ddywedodd," Onid hon yw Bathseba merch Eli’am, gwraig Ureias yr Hethiad? º4 A Dafydd a anfonodd genhadau, ac a’i cymerth hi; a hi a ddaeth i mewn ato ef, ac efe a orweddodd gyda hi: ac yr oedd hi wedi ei glanhau oddi wrth ei haflendid: a hi a ddychwelodd i’w thŷ ei hun. º5 A’r wraig a feichiogodd, ac a anfon¬odd ac a fynegodd i Dafydd, ac a ddy¬wedodd, Yr ydwyf fi yn feichiog. º6 A Dafydd a anfonodd at Joab, gan ddywedyd, Danfon ataf fi Ureias yr Hethiad. A Joab a anfonodd Ureias at Dafydd. º7 A phan ddaeth Ureias ato ef, Dafydd a ymofynnodd âm lwyddiant Joab, ac am lwyddiant y bobl, ac am ffyniant y rhyfel. º8 Dywedodd Dafydd hefyd wrth Ureias, DOS i waered i’th dŷ, a golch dy draed. Ac Ureias a aeth allan o dy y brenin, a saig y brenin a aeth ar ei ôl ef. º9 Ond Ureias a gysgodd wrth ddrws ty y brenin gyda holl weision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dy ei hun. º10 Yna y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Nid aeth Ureias i waered i’w dy ei hun. A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Onid o’th daith yr ydwyt ti yn dyfod? paham nad eit ti i waered i’th dŷ dy hun? º11 A dywedodd Ureias wrth Dafydd, Yr arch, ac Israel hefyd, a Jwda, sydd yn aros mewn pebyll; a Joab fy arglwydd, a gweision fy arglwydd, sydd yn gwersyllu ar hyd wyneb y maes: a af fi gan hynny i’m ty fy hun, i fwyta, ac i yfed, ac i orwedd gyda’m gwraig? fel mai byw di, ac fel mai byw dy enaid di, ni wnaf y peth hyn. º12 A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Aros yma eto heddiw, ac yfory y’th ollyngaf di. Ac Ureias a arhosodd yn Jerwsalem y dwthwn hwnnw a thrannoeth. º13 A Dafydd a’i galwodd ef, i fwyta ac i yfed ger ei fron ef, ac a’i meddwodd ef: ac yn yr hwyr efe a aeth i orwedd ar ei wely gyda gweision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dy ei hun. º14 A’r bore yr ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab, ac a’i hanfonodd yn llaw Ureias. º15 Ac efe a ysgrifennodd yn ei lythyr, gan ddywedyd, Gosodwch Ureias ar gyfer wyneb y rhyfelwyr glewaf; a dychwelwch oddi ar ei ôl ef, fel y trawer ef, ac y byddo marw. º16 A phan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas, efe a osododd Ureias yn y lle y gwyddai efe fod gwŷr nerthol ynddo. º17 A gwŷr y ddinas a aethant allan, ac a ymladdasant a Joab: a syrthiodd rhai o’r bobl o weision Dafydd; ac Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd. º18 Yna Joab a anfonodd, ac a fynegodd i Dafydd holl hanes y rhyfel: {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 4m3vnb9tfjnlermdp5r51t4doq0blc9 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/334 104 3586 171391 6761 2026-10-06T05:40:59Z Tylopous 3717 penodau 171391 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º19 Ac a orchmynnodd i’r gennad, gan ddywedyd. Pan orffennych lefaru holl hanes y rhyfel wrth y brenin: º20 Os cyfyd llidiowgrwydd y brenin, ac os dywed wrthyt, Paham y nesasoch at y ddinas i ymladd? oni wyddech y taflent hwy oddi ar y gaer? º21 Pwy a drawodd Abimelech fab Jerwbbeseth? onid gwraig a daflodd arno ef ddarn o faen melin oddi ar y mur, fel y bu efe farw yn Thebes? paham y nesasoch at y mur? yna y dywedi, Dy was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd. º22 Felly y gennad a aeth, ac a ddaeth ac a fynegodd i Dafydd yr hyn oll yr anfonasai Joab ef o’i blegid. º23 A’r gennad a ddywedodd wrth Da¬fydd, Yn ddiau y gwŷr oeddynt drech na ni, ac a ddaethant atom ni i’r maes, a ninnau a aethom arnynt hwy hyd ddrws y porth. º24 A’r saethyddion a saethasant at dy weision oddi ar y mur; a rhai o weisiofa y brenin a fuant feirw; a’th was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd. º25 Yna Dafydd a ddywedodd wrth y gennad. Fel hyn y dywedi di wrth Joab, Na fydded hyn ddrwg yn dy oiwg di: canys y naill fel y llall a ddifetha y cleddyf; cadarnha dy ryfel yn erbyn y ddinas, a distrywiwch hi; a chysura dithau ef. º26 A phan glybu gwraig Ureias farw Ureias ei gŵr, hi a alarodd am ei phriod. º27 A phan aeth y galar heibio, Dafydd a anfonodd, ac a’i cyrchodd hi i’w dŷ, i fod iddo yn wraig; a hi a ymddug iddo fab. A drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD oedd y peth a wnaethai Dafydd. {{angor|Pennod_12}}{{c|{{uc|Pennod XII}}.}} {{bach|1 ''Dammeg Nathan am yr oenig, yn peri i Dafydd fod yn farnwr arno ei hun.'' 7 ''Dafydd, wedi i Nathan ei geryddu, yn cyfaddef ei bechod, ac yn cael maddeuant:'' 15 ''yn galaru ac yn gweddïo dros y plentyn, tra oedd fwy.'' 24 ''Geni Solomon, a’i enwi Jedidïah.'' 26 ''Dafydd yn ennill Rabbah, ac yn arteithio ei phobl hi.''}} {{angor|12:1}} {{uc|A’r}} ARGLWYDD a anfonodd Nathan at Dafydd. Ac efe a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Dau ŵr oedd yn yr un ddinas; y naill yn gyfoethog, a’r llall yn dlawd. º2 Gan y cyfoethog yr oedd llawer iawa o ddefaid a gwartheg: º3 A chan y tlawd nid oedd dim ohd un oenig fechan, yr hon a brynasai efe, ac a fagasai; a hi a gynyddasai gydag ef, a chyda’i blant: o’i damaid ef y bwytai hi, ac o’i gwpan ef yr yfai hi, ac yn ei fynwes ef y gorweddai hi, ac yr oedd hi iddo megis merch. º4 Ac ymdeithydd a ddaeth at y gŵr cyfoethog; ond efe a arbedodd gymryd O’i ddefaid ei hun, ac o’i wartheg ei hun, l arlwyo i’r ymdeithydd a ddaethai ato; ond efe a gymerth oenig y gŵr tlawd, ac a’i parat6dd i’r gŵr a ddaethai ato. º5 A digofaint Dafydd a enynnodd yn ddirfawr wrth y gŵr; ac efe a ddywedodd wrth Nathan, Fel mai byw yr ARGLWYDD, euog o farwolaeth yw y gŵr a wnaeth hyn. º6 A’r oenig a dâl efe adref yn bedwar dyblyg; oherwydd iddo wneuthur y peth .hyn, ac nad arbedodd. º7 A dywedodd Nathan wrth Dafydd, Ti yw y gŵr. Fel hyn y dywed ARGLWYDO DDUW Israel, Myfi a’th enem¬ies di yn frenin ar Israel, myfi hefyd a’th waredais di o law Saul: º8 Rhoddais hefyd i ti dŷ dy arglwydd, a gwragedd dy arglwydd yn dy fynwes, a mi a roddais i ti dŷ Israel a Jwda; a pfae rhy fychan fuasai hynny, myfi a toddaswn i ti fwy o lawer. º9 Paham y dirmygaist air yr ARGLWYDP, i wneuthur drwg yn ei olwg ef? Ure&s yr Hethiad a drewaist ti a’r cleddyf, a’i wraig ef a gymeraist i ti yn wraig, a ttu a’i lleddaist ef a chleddyf meibion Ammon. º10 Yn awr gan hynny nid ymedy y cleddyf a’th dŷ di byth; oherwydd i ti fy nirmygu i, a chymryd gwraig Ureias yr Hethiad i fod yn wraig i ti. º11 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, myfi a gyfodaf i’th erbyn ddrwg o’th dŷ dy hun, a mi a ddygaf dy wragedd di yng ngŵydd dy lygaid, ac a’u rhoddaf hwynt i’th gymydog, ac efe a orwedd gyda’th wragedd di yng ngolwg yr haul hwn. º12 Er i ti wneuthur mewn dirgelwch; eto myfi a wnaf y peth hyn gerbron holl Israel, a cherbron yr haul. º13 A dywedodd Dafydd wrth Nathan., Pechais yn erbyn yr ARGLWYDD. A Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Yr ARGLWYDD hefyd a dynnodd ymaith dy bechod di: ni byddi di marw. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> l17ss21x2qxb4hss63vyclv8jctixdx Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/335 104 3587 171392 6762 2026-10-06T05:44:14Z Tylopous 3717 penodau 171392 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º14 Eto, oherwydd i ti beri i elynion yr ARGLWYDD gablu trwy y peth hyn, y plentyn a anwyd i ti a fydd marw yn ddiau. º15 A Nathan a aeth i’w dŷ.A’r AR¬GLWYDD a drawodd y plentyn a blantasai gwraig Ureias i Dafydd.; ac efe a, aeth yn glaf iawn. º16 Dafydd am hynny a ymbitiodd â Duw dros y bachgen; a Dafyddaymprydiodd ympryd, ac a aeth ac a orweddodd ar y ddaear ar hyd y nos. º17 A henuriaid ei dy ef a gyfodasant .ato ef, i beri iddo godi oddi ar y ddaear: ond ni fynnai efe, ac ni fwytai fara gyda hwynt. º18 Ac ar y seithfed dydd y bu farw y plentyn. A gweision Dafydd a ofnasant fynegi iddo ef farw y bachgen: canys dywedasant, Wele, tra oedd y bachgen yn fyw y llefarasom wrtho, ond ni wrandawai ar ein llais, pa fodd gan hynny yr ymofidia, os dywedwn wrtho farw y plentyn? º19 Ond pan welodd Dafydd ei weision yn sibrwd, deallodd Dafydd farw y plentyn: a Dafydd a ddywedodd wrth ei weision, A fu farw y plentyn? A hwy a ddywedasant, Efe a fu farw. º20 Yna Dafydd a gyfododd oddi ar y ddaear, ac a ymolchodd, ac a ymeneiniodd, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth i dŷ yr ARGLWYDD, ac a addolodd: wedi hynny y daeth efe i’w dy ei hun; ac a ofynnodd, a hwy a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd. º21 Yna ei weision a ddywedasant wrtho ef. Pa beth yw hyn a wnaethost ti? dros y plentyn byw yr ymprydiaist, ac yr wylaist; ond pan fu y plentyn farw, ti a gyfodaist ac a fwyteaist fara. º22 Ac efe a ddywedodd, Tra yr ydoedd y plentyn yn fyw, yr ymprydiais ac yr wylais: canys mi a ddywedais, Pwy a wŷr a drugarha yr ARGLWYDD wrthyf, fel y byddo byw y plentyn? º23 Ond yn awr efe fu farw, i ba beth yr ymprydiwn? a allaf fi ei ddwyn ef yn ei ôl mwyach? myfi a af ato ef, ond ni ddychwel efe ataf fi. º24 A Dafydd a gysurodd Bathseba ei wraig, ac a aeth i mewn ati hi, ac a orweddodd gyda hi: a hi a ymddug fab, ac efe a alwodd ei enw ef Solomon. A’r ARGLWYDD a’i carodd ef. º25 Ac efe a anfonodd trwy law Nathan y proffwyd; ac efe a alwodd ei enw ef Jedidia oblegid yr ARGLWYDD. º26 A Joab a ymladdodd yn erbyn Rabba meibion Ammon, ac a enillodd y frenhinol ddinas. º27 A Joab a anfonodd genhadau at Dafydd, ac a ddywedodd, Rhyfelais yn erbyn Rabba, ac a enillais ddinas y dyfroedd. º28 Yn awr gan hynny casgl weddill y bobl, a gwersylla yn erbyn y ddinas, ac ennill hi; rhag i mi ennill y ddinas, a galw fy enw i arni hi. º29 A Dafydd a gasglodd yr holl bobl, ac a aeth i Rabba, ac a ymladdodd yn ei herbyn, ac a’i henillodd hi. º30 Ac efe a gymerodd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben; a’i phwys hi oedd dalent o aur, gyda’r maen gwerthfawr: a hi a osodwyd ar ben Dafydd. Ac efe a ddug ymaith o’r ddinas anrhaith fawr iawn. º31 Ac efe a ddug ymaith y bobl oedd ynddi, ac a’u gosododd dan lifiau, a than ogau heyrn, a than fwyeill heyrn, ac a’u bwriodd hwynt i’r odynau calch: ac felly y gwnaeth i holl ddinasoedd meib¬ion Ammon. A dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Jerusalem. {{angor|Pennod_13}}{{c|{{uc|Pennod XIII}}.}} {{bach|1 ''Amnon yn caru Tamar: a thrwy gynghor Jonadab, yn cymmeryd arno fod yn glaf, ac yn ei threisio hi;'' 15 ''ac yna yn ei chasâu hi, ac yn ei throi ymaith yn gywilyddus.'' 19 ''Absalom yn ei derbyn hi, ac yn celu ei amcan:'' 23 ''ac, wrth gneifio ei ddefaid, yn lladd Amnon.'' 30 ''Dafydd yn pruddhâu wrth glywed hynny; a Jonadab yn ei gysuro ef.'' 37 ''Absalom yn ffoi at Talmai i Gesur.''}} {{angor|13:1}} {{uc|Ac}} ar ôl hyn yr oedd gan Absalom mab Dafydd chwaer deg, a’i henw Tamar: ac Amnon mab Dafydd a’i carodd hi. º2 Ac yr oedd mor flin ar Amnon, fel y clafychodd efe oherwydd Tamar ei chwaer: canys gwyry oedd hi; ac anodd y gwelai Amnon wneuthur dim iddi hi. º3 Ond gan Amnon yr oedd cyfaill, a’i enw Jonadab, mab Simea, brawd Dafydd: a Jonadab oedd ŵr call iawn. º4 Ac efe a ddywedodd wrtho ef, Ti fab y brenin, paham yr ydwyt yn curio fel hyn beunydd? oni fynegi di i mi? Ac’ Amnon a ddywedodd wrtho ef, Caru yr ydwyf fi Tamar, chwaer Absalom fy mrawd. º5 A Jonadab a ddywedodd wrtho ef, Gorwedd ar dy wely, a chymmer<noinclude><references/></noinclude> dsui0yqjfl3h7a91sziq84j0kthbuzz Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/337 104 3590 171393 6776 2026-10-06T05:46:53Z Tylopous 3717 penodau 171393 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>calon Amnon gan win, a phan ddywedwyf wrthych, Trewch Amnon; yna lleddwch ef, nac ofnwch: oni orchmynnais i chwi? ymwrolwch, a byddwch feibion glewion. {{angor|13:29|29}} A llanciau Absalom a wnaethant i Amnon fel y gorchmynasai Absalom. A holl feibion y brenin a gyfodasant, a phob un a farchogodd ar ei ful, ac a ffoesant. {{angor|13:30|30}} ¶ A thra yr oeddynt hwy ar y ffordd, y daeth y chwedl at Dafydd, gan ddywedyd, Absalom a laddodd holl feibion y brenin, ac ni adawyd un ohonynt. {{angor|13:31|31}} Yna y brenin a gyfododd, ac a rwygodd ei ddillad, ac a orweddodd ar y ddaear; a’i holl weision oedd yn sefyll gerllaw, â’u gwisgoedd yn rhwygedig. {{angor|13:32|32}} A Jonadab mab Simea, brawd Dafydd, a atebodd ac a ddywedodd, Na thybied fy arglwydd iddynt hwy ladd yr holl lanciau, sef meibion y brenin; canys Amnon yn unig a fu farw: canys yr oedd ym mryd Absalom hynny, er y dydd y treisiodd efe Tamar ei chwaer ef. {{angor|13:33|33}} Ac yn awr na osoded fy arglwydd frenin y peth at ei galon, gan dybied farw holl feibion y brenin: canys Amnon yn unig a fu farw. {{angor|13:34|34}} Ond Absalom a ffodd. A’r llanc yr hwn oedd yn gwylio a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele bobl lawer yn dyfod ar hyd y ffordd o’i ôl ef, ar hyd ystlys y mynydd. {{angor|13:35|35}} A Jonadab a ddywedodd wrth y brenin, Wele feibion y brenin yn dyfod: fel y dywedodd dy was, felly y mae. {{angor|13:36|36}} A phan orffenasai efe ymddiddan, wele, meibion y brenin a ddaethant, ac a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant. A’r brenin hefyd a’i holl weision a wylasant ag wylofain mawr iawn. {{angor|13:37|37}} ¶ Ac Absalom a ffodd, ac a aeth at Talmai mab Ammihud brenin Gesur: a Dafydd a alarodd am ei fab bob dydd. {{angor|13:38|38}} Ond Absalom a ffodd, ac a aeth i Gesur; ac yno y bu efe dair blynedd. {{angor|13:39|39}} Ac enaid Dafydd y brenin a hiraethodd am fyned at Absalom: canys efe a gysurasid am Amnon, gan ei farw efe. {{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}} {{bach|1 ''Joab yn gosod gwraig weddw o Tecoah, trwy ddammeg, i droi calon y brenhin i gyrchu ei fab adref; ac yn ei ddwyn ef i Jerusalem.'' 25 ''Tegwch, gwallt, a phlant Absalom.'' 28 ''Joab, ym mhen dwy flynedd, yn dwyn Absalom i ŵydd y brenhin.''}} {{angor|14:1}} {{uc|Yna}} Joab mab Serfia a wybu fod calon y brenin tuag at Absalom. {{angor|14:2|2}} A Joab a anfonodd i Tecoa, ac a gyrchodd oddi yno wraig ddoeth, ac a ddywedodd wrthi, Cymer arnat, atolwg, alaru, a gwisg yn awr alarwisg, ac nac ymira ag olew, eithr bydd fel gwraig yn galaru er ys llawer o ddyddiau am y marw: {{angor|14:3|3}} A thyred at y brenin, a llefara wrtho yn ôl yr ymadrodd hyn. A Joab a osododd yr ymadroddion yn ei genau hi. {{angor|14:4|4}} ¶ A’r wraig o Tecoa, pan ddywedodd wrth y brenin, a syrthiodd i lawr ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd, ac a ddywedodd, Cynorthwya, O frenin. {{angor|14:5|5}} A dywedodd y brenin wrthi hi, Beth a ddarfu i ti? A hi a ddywedodd, Yn wir gwraig weddw ydwyf fi, a’m gŵr a fu farw. {{angor|14:6|6}} Ac i’th lawforwyn yr oedd dau fab, a hwynt ill dau a ymrysonasant yn y maes; ond nid oedd athrywynwr rhyngddynt hwy; ond y naill a drawodd y llall, ac a’i lladdodd ef. {{angor|14:7|7}} Ac wele, yr holl dylwyth a gyfododd yn erbyn dy lawforwyn, a hwy a ddywedasant, Dyro yr hwn a drawodd ei frawd, fel y lladdom ni ef, am einioes ei frawd a laddodd efe; ac y difethom hefyd yr etifedd: felly y diffoddent fy marworyn, yr hwn a adawyd, heb adael i’m gŵr nac enw nac epil ar wyneb y ddaear. {{angor|14:8|8}} A’r brenin a ddywedodd wrth y wraig, Dos i’th dŷ; a mi a roddaf orchymyn o’th blegid di. {{angor|14:9|9}} A’r wraig o Tecoa a ddywedodd wrth y brenin, Bydded y camwedd hwn arnaf fi, fy arglwydd frenin, ac ar dŷ fy nhad i, a’r brenin a’i orseddfainc ef yn ddieuog. {{angor|14:10|10}} A’r brenin a ddywedodd, Dwg ataf fi yr hwn a yngano wrthyt, ac ni chaiff mwyach gyffwrdd â thi. {{angor|14:11|11}} Yna hi a ddywedodd, Cofied, atolwg, y brenin dy Arglwydd Dduw, rhag amlhau dialwyr y gwaed i ddistrywio, a rhag difetha ohonynt hwy fy mab i. Ac efe a<noinclude><references/></noinclude> ihmhctc0m6vmfdmpwngy4q8s7bn3f69 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/339 104 3592 171394 6778 2026-10-06T05:56:25Z Tylopous 3717 penodau 171394 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>hin, ac a fynegodd iddo ef. Ac efe a alwodd am Absalom. Yntau a ddaeth at y brenin, ac a ymgrymodd iddo i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin. A’r brenin a gusanodd Absalom. {{angor|Pennod_15}}{{c|{{uc|Pennod XV}}.}} {{bach|1 ''Absalom, trwy ei fwyneidd-dra, yn lladratta calonnau Israel:'' 7 ''ac, yn rhith talu adduned, yn cael cennad i fyned i Hebron:'' 10 ''ac yn gwneuthur cyd-fwriad mawr yno.'' 13 ''Dafydd, wrth glywed hynny, yn ffoi o Jerusalem.'' 19 ''Ittai heb ymadael âg ef.'' 24 ''Danfon Sadoc ac Abïathar yn eu hol â’r arch.'' 30 ''Dafydd a’i gyfeillion yn myned i fynydd yr Olwe-wydd, dan wylo:'' 31 ''yn melldigo cynghor Ahitophel;'' 32 ''ac yn anfon Husai yn ei ol.''}} {{angor|15:1}} {{uc|Ac}} wedi hyn y paratôdd Absalom iddo ei hun gerbydau, a meirch, a dengwr a deugain i redeg o’i flaen. 2 Ac Absalom a gyfodai yn fore, ac a safai gerllaw ffordd y porth: ac Absalom a alwai ato bob gŵr yr oedd iddo fater i ddyfod at y brenin am farn, ac a ddywedai, O ba ddinas yr ydwyt ti? Yntau a ddywedai, O un o lwythau Israel y mae dy was. 3 Ac Absalom a ddywedai wrtho ef, Wele, y mae dy faterion yn dda, ac yn uniawn; ond nid oes neb dan y brenin a wrandawo arnat ti. 4 Dywedai Absalom hefyd, O na’m gosodid i yn farnwr yn y wlad, fel y delai ataf fi bob gŵr a fyddai ganddo hawl neu gyngaws; myfi a wnawn gyfiawnder iddo! 5 A phan nesâi neb i ymgrymu iddo ef, efe a estynnai ei law, ac a ymaflai ynddo ef, ac a’i cusanai. 6 Ac fel hyn y gwnâi Absalom i holl Israel y rhai a ddeuent am farn at y brenin. Felly Absalom a ladrataodd galon holl wŷr Israel. 7 Ac ymhen deugain mlynedd y dywedodd Absalom wrth y brenin, Gad i mi fyned, atolwg, a thalu fy adduned a addunedais i’r Arglwydd, yn Hebron. 8 Canys dy was a addunedodd adduned, pan oeddwn i yn aros o fewn Gesur yn Syria, gan ddywedyd, Os gan ddychwelyd y dychwel yr Arglwydd fi i Jerwsalem, yna y gwasanaethaf yr Arglwydd. 9 A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, Dos mewn heddwch. Felly efe a gyfododd, ac a aeth i Hebron. 10 Eithr Absalom a anfonodd ysbïwyr trwy holl lwythau Israel, gan ddywedyd, Pan glywoch lais yr utgorn, yna dywedwch, Absalom sydd yn teyrnasu yn Hebron. 11 A dau cant o wŷr a aethant gydag Absalom o Jerwsalem, ar wahodd; ac yr oeddynt yn myned yn eu gwiriondeb, ac heb wybod dim oll. 12 Ac Absalom a anfonodd am Ahitoffel y Giloniad, cynghorwr Dafydd, o’i ddinas, o Gilo, tra oedd efe yn offrymu aberthau. A’r cydfradwriaeth oedd gryf; a’r bobl oedd yn amlhau gydag Absalom yn wastadol. 13 A daeth cennad at Dafydd, gan ddywedyd, Y mae calon gwŷr Israel ar ôl Absalom. 14 A dywedodd Dafydd wrth ei holl weision y rhai oedd gydag ef yn Jerwsalem, Cyfodwch, a ffown; canys ni ddihangwn ni gan Absalom: brysiwch i fyned; rhag iddo ef frysio a’n dala ni, a dwyn drwg arnom ni, a tharo’r ddinas â min y cleddyf. 15 A gweision y brenin a ddywedasant wrth y brenin, Wele dy weision yn barod, ar ôl yr hyn oll a ddewiso fy arglwydd frenin. 16 A’r brenin a aeth, a’i holl dylwyth ar ei ôl. A’r brenin a adawodd ddeg o ordderchwragedd i gadw y tŷ. 17 A’r brenin a aeth ymaith, a’r holl bobl ar ei ôl; a hwy a arosasant mewn lle o hirbell. 18 A’i holl weision ef oedd yn cerdded ger ei law ef: yr holl Gerethiaid, a’r holl Belethiaid, a’r holl Gethiaid, y chwe channwr a ddaethai ar ei ôl ef o Gath, oedd yn cerdded o flaen y brenin. 19 Yna y dywedodd y brenin wrth Ittai y Gethiad, Paham yr ei di hefyd gyda ni? Dychwel, a thrig gyda’r brenin: canys alltud ydwyt ti, a dieithr hefyd allan o’th fro dy hun. 20 Doe y daethost ti; a fudwn i di heddiw i fyned gyda ni? Myfi a af: dychwel di, a dwg dy frodyr gyda thi: trugaredd a gwirionedd fyddo gyda thi. 21 Ac Ittai a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw fy arglwydd frenin, yn ddiau yn y lle y byddo fy arglwydd frenin ynddo, pa un bynnag ai mewn angau ai mewn einioes, yno y bydd dy was hefyd. 22 A Dafydd a ddywedodd wrth<noinclude><references/></noinclude> m5ojxi8hoj3pm28nm2uwer782nv6jty Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/340 104 3593 171395 6780 2026-10-06T05:58:43Z Tylopous 3717 penodau 171395 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>Ittai, Dos, a cherdda drosodd. Ac Ittai y Gethiad a aeth drosodd, a’i holl wŷr, a’r holl blant oedd gydag ef. 23 A’r holl wlad oedd yn wylofain â llef uchel; a’r holl bobl a aethant drosodd. A’r brenin a aeth dros afon Cidron, a’r holl bobl a aeth drosodd, tua ffordd yr anialwch. 24 Ac wele Sadoc, a’r holl Lefiaid oedd gydag ef, yn dwyn arch cyfamod Duw; a hwy a osodasant i lawr arch Duw: ac Abiathar a aeth i fyny, nes darfod i’r holl bobl ddyfod allan o’r ddinas. 25 A dywedodd y brenin wrth Sadoc, Dychwel ag arch Duw i’r ddinas: os caf fi ffafr yng ngolwg yr Arglwydd, efe a’m dwg eilwaith, ac a bair i mi ei gweled hi, a’i babell. 26 Ond os fel hyn y dywed efe; Nid wyf fodlon i ti; wele fi, gwnaed i mi fel y byddo da yn ei olwg. 27 A’r brenin a ddywedodd wrth Sadoc yr offeiriad, Onid gweledydd ydwyt ti? dychwel i’r ddinas mewn heddwch, a’th ddau fab gyda thi, sef Ahimaas dy fab, a Jonathan mab Abiathar. 28 Gwelwch, mi a drigaf yng ngwastadedd yr anialwch, nes dyfod gair oddi wrthych i’w fynegi i mi. 29 Felly Sadoc ac Abiathar a ddygasant yn ei hôl arch Duw i Jerwsalem; ac a arosasant yno. 30 A Dafydd a aeth i fyny i fryn yr Olewydd; ac yr oedd yn myned i fyny ac yn wylo, a’i ben wedi ei orchuddio, ac yr oedd efe yn myned yn droednoeth. A’r holl bobl y rhai oedd gydag ef a orchuddiasant bawb ei ben, ac a aethant i fyny, gan fyned ac wylo. 31 A mynegwyd i Dafydd, gan ddywedyd, Y mae Ahitoffel ymysg y cydfwriadwyr gydag Absalom. A Dafydd a ddywedodd, O Arglwydd, tro, atolwg, gyngor Ahitoffel yn ffolineb. 32 A phan ddaeth Dafydd i ben y bryn yr addolodd efe Dduw ynddo, wele Husai yr Arciad yn ei gyfarfod ef, wedi rhwygo ei bais, a phridd ar ei ben. 33 A Dafydd a ddywedodd wrtho, Od ei drosodd gyda mi, ti a fyddi yn faich arnaf: 34 Ond os dychweli i’r ddinas, a dywedyd wrth Absalom, Dy was di, O frenin, fyddaf fi; gwas dy dad fûm hyd yn hyn, ac yn awr dy was dithau fyddaf: ac felly y diddymi i mi gyngor Ahitoffel. 35 Oni bydd gyda thi yno Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid? am hynny pob gair a glywych o dŷ y brenin, mynega i Sadoc ac i Abiathar yr offeiriaid. 36 Wele, y mae yno gyda hwynt eu dau fab, Ahimaas mab Sadoc, a Jonathan mab Abiathar: danfonwch gan hynny gyda hwynt ataf fi bob peth a’r a glywoch. 37 Felly Husai, cyfaill Dafydd, a ddaeth i’r ddinas; ac Absalom a ddaeth i Jerwsalem. {{angor|Pennod_16}}{{c|{{uc|Pennod XVI}}.}} {{bach|1 ''Siba, trwy anrhegion a chelwyddau, yn cael etifeddiaeth ei feistr.'' 5 ''Simei yn melldithio Dafydd yn Bahurim.'' 9 ''Dafydd, trwy amynedd, yn ei gadw ei hun ac eraill rhag dïal.'' 15 ''Husai yn ymlusgo i mewn i gyfrinach Absalom.'' 20 ''Cynghor Ahitophel.''}} {{angor|16:1}} {{uc|Ac}} wedi myned o Dafydd ychydig dros ben y bryn, wele Siba gwas Meffiboseth yn ei gyfarfod ef â chwpl o asynnod wedi eu cyfrwyo, ac arnynt hwy yr oedd dau can torth o fara, a chan swp o resinau, a chant o ffrwythydd haf, a chostrelaid o win. 2 A dywedodd y brenin wrth Siba, Beth yw y rhai hyn sydd gennyt? A Siba a ddywedodd, Asynnod i dylwyth y brenin i farchogaeth, a bara a ffrwythydd haf i’r llanciau i’w bwyta, a gwin i’r lluddedig i’w yfed yn yr anialwch, ydynt hwy. 3 A’r brenin a ddywedodd, A pha le y mae mab dy feistr? A Siba a ddywedodd wrth y brenin, Wele, y mae efe yn aros yn Jerwsalem: canys efe a ddywedodd, Tŷ Israel a roddant drachefn i mi heddiw frenhiniaeth fy nhad. 4 Yna y dywedodd y brenin wrth Siba, Wele, eiddot ti yr hyn oll oedd eiddo Meffiboseth. A Siba a ddywedodd, Yr ydwyf yn atolwg gael ohonof ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd frenin. 5 A phan ddaeth y brenin Dafydd hyd Bahurim, wele un o dylwyth tŷ Saul yn dyfod allan oddi yno, a’i enw ef oedd Simei, mab Gera: efe a ddaeth allan, dan gerdded a melltigo. 6 Ac efe a daflodd Dafydd â cherrig, a holl weision y brenin Dafydd: ac yr oedd yr holl bobl a’r<noinclude><references/></noinclude> 3av5nfobzq98goextpighc5q7yraie5 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/341 104 3594 171396 6781 2026-10-06T06:00:49Z Tylopous 3717 penodau 171396 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>holl gedyrn ar ei law ddeau ac ar ei law aswy ef. 7 Ac fel hyn y dywedai Simei wrth felltithio; Tyred allan, tyred allan, ŵr gwaedlyd, a gŵr i’r fall. 8 Yr Arglwydd a drodd arnat ti holl waed tŷ Saul, yr hwn y teyrnesaist yn ei le; a’r Arglwydd a roddodd y frenhiniaeth yn llaw Absalom dy fab: ac wele di wedi dy ddal yn dy ddrygioni; canys gŵr gwaedlyd wyt ti. 9 Yna y dywedodd Abisai mab Serfia wrth y brenin, Paham y melltithia’r ci marw hwn fy arglwydd frenin? gad i mi fyned drosodd, atolwg, a thorri ei ben ef. 10 A’r brenin a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â chwi, meibion Serfia? felly melltithied, oherwydd yr Arglwydd a ddywedodd wrtho, Melltithia Dafydd. Am hynny pwy a ddywed, Paham y gwnei fel hyn? 11 A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, ac wrth ei holl weision, Wele fy mab, yr hwn a ddaeth allan o’m hymysgaroedd i, yn ceisio fy einioes: ac yn awr pa faint mwy y cais y Benjaminiad hwn? Gadewch iddo, a melltithied: canys yr Arglwydd a archodd iddo. 12 Efallai yr edrych yr Arglwydd ar fy nghystudd i, ac y dyry yr Arglwydd i mi ddaioni am ei felltith ef y dydd hwn. 13 Ac fel yr oedd Dafydd a’i wŷr yn myned ar hyd y ffordd, Simei yntau oedd yn myned ar hyd ystlys y mynydd, ar ei gyfer ef; ac fel yr oedd efe yn myned, efe a felltithiai, ac a daflai gerrig, ac a fwriai lwch i’w erbyn ef. 14 A daeth y brenin, a’r holl bobl oedd gydag ef, yn lluddedig, ac a orffwysodd yno. 15 Ac Absalom a’r holl bobl, gwŷr Israel, a ddaethant i Jerwsalem, ac Ahitoffel gydag ef. 16 A phan ddaeth Husai yr Arciad, cyfaill Dafydd, at Absalom, Husai a ddywedodd wrth Absalom, Byw fo’r brenin, byw fyddo’r brenin. 17 Ac Absalom a ddywedodd wrth Husai, Ai dyma dy garedigrwydd di i’th gyfaill? paham nad aethost ti gyda’th gyfaill? 18 A Husai a ddywedodd wrth Absalom, Nage; eithr yr hwn a ddewiso yr Arglwydd, a’r bobl yma, a holl wŷr Israel, eiddo ef fyddaf fi, a chydag ef yr arhosaf fi. 19 A phwy hefyd a wasanaethaf? onid gerbron ei fab ef? Megis y gwasanaethais gerbron dy dad di, felly y byddaf ger dy fron dithau. 20 Yna y dywedodd Absalom wrth Ahitoffel, Moeswch eich cyngor beth a wnawn ni. 21 Ac Ahitoffel a ddywedodd wrth Absalom, Dos i mewn at ordderchwragedd dy dad, y rhai a adawodd efe i gadw y tŷ: pan glywo holl Israel dy fod yn ffiaidd gan dy dad, yna y cryfheir llaw y rhai oll sydd gyda thi. 22 Felly y taenasant i Absalom babell ar nen y tŷ: ac Absalom a aeth i mewn at ordderchwragedd ei dad, yng ngŵydd holl Israel. 23 A chyngor Ahitoffel, yr hwn a gynghorai efe yn y dyddiau hynny, oedd fel ped ymofynnai un â gair Duw: felly yr oedd holl gyngor Ahitoffel, gyda Dafydd a chydag Absalom. {{angor|Pennod_17}}{{c|{{uc|Pennod XVII}}.}} {{bach|1 ''Cynghor Husai, trwy ewyllys Duw, yn difwyno cynghor Ahitophel.'' 15 ''Danfon dirgel gydnabyddiaeth i Dafydd.'' 23 ''Ahitophel yn ymgrogi.'' 25 ''Gwneuthur Amasa yn gapten.'' 27 ''Dafydd yn cael ymborth ym Mahanaim.''}} {{angor|17:1}} {{uc|Dywedodd}} Ahitoffel hefyd wrth Absalom, Gad i mi yn awr ddewis deuddeng mil o wŷr, a mi a gyfodaf ac a erlidiaf ar ôl Dafydd y nos hon. 2 A mi a ddeuaf arno tra fyddo ef yn lluddedig, ac yn wan ei ddwylo, ac a’i brawychaf ef: a ffy yr holl bobl sydd gydag ef; a mi a drawaf y brenin yn unig. 3 A throaf yr holl bobl atat ti: megis pe dychwelai pob un, yw y gŵr yr ydwyt ti yn ei geisio: felly yr holl bobl fydd mewn heddwch. 4 A da fu’r peth yng ngolwg Absalom, ac yng ngolwg holl henuriaid Israel. 5 Yna y dywedodd Absalom, Galw yn awr hefyd ar Husai yr Arciad, a gwrandawn beth a ddywedo yntau hefyd. 6 A phan ddaeth Husai at Absalom, llefarodd Absalom wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedodd Ahitoffel: a wnawn ni ei gyngor ef? onid e, dywed di. 7 A dywedodd Husai wrth Absalom, Nid da y cyngor a gynghorodd Ahitoffel y waith hon. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> k0h49nzx41xmu2i4hi4fwe00egmhvqs Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/343 104 3596 171397 6783 2026-10-06T06:03:37Z Tylopous 3717 penodau 171397 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>bobl oedd gydag ef, i’w bwyta. Canys dywedasant, Y mae y bobl yn newynog, yn flin. hefyd, ac yn sychedig yn yr anialwch. {{angor|Pennod_18}}{{c|{{uc|Pennod XVIII}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn edrych ar y lluoedd yn myned allan, ac yn rhoddi gorchymyn ynghylch Absalom.'' 6 ''Lladdfa fawr ar yr Israeliaid y’nghoed Ephraim.'' 9 ''Absalom y’nghrog wrth ei wallt mewn derwen; a Joab yn ei ladd ef, ac yn ei fwrw mewn pydew.'' 18 ''Lle Absalom.'' 19 ''Ahimaas a Chusi yn dwyn newyddion i Dafydd.'' 33 ''Dafydd yn galaru am Absalom.''}} {{angor|18:1}} {{uc|A Dafydd}} a gyfrifodd y. bobl oedd gydag ef, ac a osododd arnynt hwy filwriaid a chanwriaid. º2 A Dafydd a anfonodd o’r bobl y dryd¬edd ran dan law Joab, a’r drydedd ran dan law Abisai mab Serfia, brawd Joab, a’r drydedd ran dan law Ittai y Gethiad. A’r brenin a ddywedodd wrth y bobl, Gan fyned yr af finnau hefyd gyda chwi. º3 Ond y bobl a atebodd, Nid ei di allan: canys os gan ffoi y ffown ni, ni osodant hwy eu meddwl arnom ni; ac os bydd marw ein hanner ni, ni osodant eu meddwl arnom: ond yn awr yr ydwyt ti fel deng mil ohonom ni: yn awr gan hynny gwell yw i ti fod i’n cynorthwyo ni o’r ddinas. º4 A dywedodd y brenin wrthynf hwy, I Gwnaf yr hyA’fyddo da y& eich golwg c’hwi. A’r brenin a safoddgerllawyporth;;i’r holl bobl a aethant allan yn gannoedd ai; yn filoedd. º5 A’r brenin a orchmynnodd i Joab, ac Abisai, ac Ittai, gan ddywedyd, Byddwch esmwyth, er fy mwyn i, wrth y llanc Absalom. A’r holl bobl a glywsant pan orchmynnodd y brenin i’r holl flaenoriaid yn achos Absalom. º6 Felly yr aeth y bobl i’r maes i gyfarfod Israel: a’r rhyfel fu yng nghoed Hlfraim. º7 Ac yno y lladdwyd pobl Israel o flaen gweision Dafydd: ac yno y bu lladdfa fawr y dwthwn hwnnw, sef ugain mil. " º8 Canys y rhyfel oedd yno wedi gwasgaru ar hyd wyneb yr holl wlad: a’r coed a ddifethodd fwy o’r bobl nag a ddifethodd y cleddyf y diwrnod hwnnw. º9 Ac Absalom a gyfarfu a gweision Dafydd yn eu hwyneb. Ac Absalom oedd yn marchogaeth ar ful, a’r mul «a aeth dan dewfrig derwen fawr, a’i ben ef a lynodd yn y dderwen: felly yr oedd efe rhwng y nefoedd a’r ddaear; a’r mul oedd dano ef a aeth ymaith. º10 A rhyw un a ganfu hynny, ac a fynegodd i Joab, ac a ddywedodd, Wele, gwelais Absalom ynghrog mewn der¬wen. º11 A dywedodd Joab wrth y gŵr oedd yn mynegi iddo, Ac wele, ti a’i gwelaist ef; paham nas trewaist ef yno i’r llawr, ac arnaf fi roddi i ti ddeg sicl o arian, ac un gwregys? º12 A dywedodd y gŵr wrth Jaob, P’e cawn bwyso ar fy llaw fil o siclau arian, nid estynnwn fy llaw yn erbyn mab y brenin: canys gorchmynnodd y brenin lle y clywsom ni wrthyt ti, ac wrth Abisai, ac wrth Ittai, gan ddywedyd, Gwyliwch gyftwrdd o neb a’r llanc Absalom. º13 Os amgcn, mi a wnaethwn ffalster yn erbyn fy einioes: canys nid oes dim yn guddiedig oddi wrth y brenin; tithau hefyd a safasit yn fy erbyn. º14 Yna y dywedodd Joab, Nid arhoaf fel hyn gyda thi. Ac efe a gymerth dair o bicellau yn ei law, ac a’u brathodd trwy galoa. Absalom, ac efeeto.yn,’fyw -yng nghanol y dderwen. º15 A’r deg llanc y rhai oedd yn dwyn arfau Joab a amgylchynasant, ac a drawsant Absalom, ac a’i lladdasant ef. º16 A Joab a utganodd mewn utgorn; a’r bobl a ddychwelodd o erlid ar ôl Israel: canys Joab a ataliodd y bobl. º17 A hwy a gymerasant Absalom, ac a’i bwriasant ef mewn rfos fawr yn y coed, at a osodasant arno garnedd gerrig fawr i wn: a holl Israel a ffoesant bob un i’w tiabell. º18 Ac Absalom a gymerasai ac a osod* «sai iddo yn ei fywyd golofh, yn nyf&yn y brenin: canys efe a ddywedodd, Nid oes fab gennyf i wneuthur coffa am fy enw: ac efe a alwodd y golofn ar ei enw ei toun. A hi a elwir lle Absalom, hyd y dydd hwn. º19 Yna Ahimaas mab Sadoc a ddywedodd. Gad i mi redeg yn awr, a mynegi i’r brenin, ddarfod i’r ARGLWYDD ei ddial ef ar ei elynion. º20 A Joab a ddywedodd wrtho ef, Ni byddi di yn genhadwr y dydd<noinclude><references/></noinclude> ps5xdifje44ia7w7ux1lsbafh433lum Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/344 104 3597 171398 6784 2026-10-06T06:06:52Z Tylopous 3717 penodau 171398 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>hwn, eithr mynegi ddiwrnod arall: ond heddiw ni byddi di gennad, oherwydd marw mab y brenin. º21 Yna y dywedodd Joab wrth Cusi, DOS, dywed i’r brenin yr hyn a welaist. A Chusi a ymgrymodd i Joab, ac a red add. º22 Yna Ahimaas mab Sadoc a ddywed¬odd eilwaith wrth Joab, Beth bynnag a fyddo, gad i minnau, atolwg, redeg ar ôl Cusi. A dywedodd Joab, I ba beth y rhedi di, fy mab, gan nad oes gennyt genadwriaeth addas? º23 Ond beth bynnag a fyddo, eb efe, gad i mi redeg. A dywedodd yntau wrtho:, Rhed. Felly Ahimaas a redodd ar hyd y gwastadedd, ac a aeth heibio i Cusi. º24 A Dafydd oedd yn eistedd rhwng y ddau borth: a’r gwyliedydd a aeth ar nen y porth ar y mur, ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele ŵr yn rhedeg ei hunan. º25 A’r gwyliedydd a waeddodd, ac.a fynegodd i’r brenin. A’r brenin a ddywedodd, Os ei hun y mae efe, cenadwriaeth sydd yn ei enau ef. Ac efe a ddaeth yn fuan, ac a nesaodd. º26 A’r gwyliedydd a ganfu ŵr arall yn rhedeg: a’r gwyliedydd a alwodd ar y porthor, ac a ddywedodd, Wele ŵr arall yn rhedeg ei hunan. A dywedodd y brenin, Hwn hefyd sydd gennad. º27 A’r gwyliedydd a ddywedodd, Yr ydwyf fi yn gweled rhediad y blaenaf fel rhediad Ahimaas mab Sadoc. A dywedodd y brenin, Gwr da yw hwnnw, ac a chen-adwriaeth dda y daw efe. º28 Ac Ahimaas a alwodd, ac a ddywed¬odd wrth y brenin, Heddwch: ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a warchaeodd ar y gwŷr a gyfodasant eu yaw yn erbyn fy arglwydd frenin. º29 A’r brenin a ddywedodd, Ai dihangol yllanc Absalom? A dywedodd Ahimaas, Gwelais gythrwfl mawr, pan anfonodd Joab was y brenin, a’th was dithau, ond ni wybum i beth ydoedd. º30 A’r brenin a ddywedodd, Tro heibio; saf yma. Ac efe a drodd heibio, ac a safodd. º31 Ac wele, Cusi a ddaeth. A dywed¬odd Cusi, Cenadwri, arglwydd frenin: canys yr ARGLWYDD a’th ddialodd di heddiw ar bawb a’r a ymgyfododd i’th erbyn. º32 A dywedodd y brenin wrth Cusi, A ‘-ddihangodd y llanc Absalom? A dywed-pdd Cusi, Fel y llanc hwnnw y byddo .gelynion fy arglwydd frenin, a’r holl rai a ymgyfodant i’th erbyn di er niwed i ti. º33 A’r brenin a gyf&odd, ac a aeth i fyny i ystafell y porth, ac a wylodd: ac .fel hyn y dywedodd efe wrth fyned; O fy mab Absalom, fy mab, fy mab Absalom! O na buaswn farw drosot ti, Absalom, fy mab., fy mab! {{angor|Pennod_19}}{{c|{{uc|Pennod XIX}}.}} {{bach|1 ''Joab yn peri i’r brenhin beidio â galaru.'' 9 ''Yr Israeliaid yn daer am ddwyn y brenhin adref.'' 11 ''Dafydd yn anfon at yr offeiriaid i gynhyrfu gwŷr Judah.'' 18 ''Simei yn cael ei bardwn;'' 24 ''a Mephiboseth ei esgusodi.'' 32 ''Barzilai yn cael cennad i fyned adref; a chymmeryd Chimham ei fab ef i dŷ y brenhin.'' 41 ''Yr Israeliaid yn ymsennu â gwŷr Judah, am ddwyn y brenhin adref habddynt hwy.''}} {{angor|19:1}} {{uc|A mynegwyd}} i Joab, Wele y brenin yn wylo, ac yn galaru am Absalom. º2 A’r fuddugoliaeth a aeth y dwthwn hwnnw yn alar i’r holl bobl: canys clywodd y bobl y diwrnod hwnnw ddywedyd, dristau o’r brenin am ei fab. º3 A’r bobl a aethant yn lladradaidd y diwrnod hwnnw i mewn i’r ddinas, fel pobl a fyddai yn myned yn lladradaidd wedi eu cywilyddio wrth ffoi o ryfel. º4 Ond y brenin a orchuddiodd ei wyneb; a’r brenin a waeddodd â llef uchel, O fy mab Absalom, Absalom, fy mab, fy mab! º5 A Joab a ddaeth i mewn i’r ty at y brenin, ac a ddywedodd, Gwaradwydd-aist heddiw wynebau dy holl weision, y rhai a amddiffynasant dy einioes di heddiw, ac einioes dy feibion a’th ferched, ac einioes dy wragedd, ac einioes dy ordderchwragedd; º6 Gan garu dy gaseion, a chasau dy garedigion: canys dangosaist heddiw nad oedd ddim gennyt dy dywysogion, na’th weision: oherwydd mi a wn heddiw, pe Absalom fuasai byw, a ninnau i gyd yn feirw heddiw, mai da fuasai hynny yn dy olwg di. º7 Cyfod yn awr gan hynny, cerdda allan, a dywed yn deg wrth dy<noinclude><references/></noinclude> 6of2uwhwx089xlishkv2l4enjsc7hyf Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/346 104 3599 171399 6786 2026-10-06T06:09:27Z Tylopous 3717 penodau 171399 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º28 Canys nid oedd holl dy fy nhad i ond dynion meirw gerbron fy arglwydd y brenin; eto tydi a osodaist dy was ymhiith y rhai oedd yn bwyta ar dy fwrdd dy hun: pa gyfiawnder gan hynny sydd i mi bellach i weiddi mwy ar y brenin? º29 A’r brenin a ddywedodd wrtho, I ba beth yr adroddi dy faterion ymhellach? dywedais, Ti a Siba rhennwch y tir. º30 A Meffiboseth a ddywedodd wrth y brenin, Ie, cymered efe y cwbl, gan ddy¬fod fy arglwydd frenin i’w dy mewn heddwch. º31 A Barsilai y Gileadiad a ddaeth i waered o Rogelim; ac a aeth dros yr Iorddonen gyda’r brenin, i’w hebrwng efdros yr Iorddonen. º32 A Barsilai oedd hen iawn, yn fab pedwar ugain mlwydd: efe oedd yn dar-paru lluniaeth i’r brenin tra yr ydoedd efe ym Mahanaim; canys gŵr mawr iawn oedd efe. º33 A’r brenin a ddywedodd with Barsilai, Tyred drosodd gyda mi, a nri a’th borthaf di gyda mi yn Jerwsalem. º34 A Barsilai a ddywedodd wrth y brenin. Pa faint yw dyddiau blynyddoedd fy einioes i, fel yr elwn i fyny gyda’r brenin i Jerwsalem? º35 Mab pedwar ugain mlwydd ydwyf fi heddiw: a wn i ragoriaeth rhwng da a drwg? a ddichon dy was di archwaethu yr hyn a fwytaf, neu yr hyn a yfaf? a glywaf fi bellach lais cerddorion a cherdd-oresau? paham gan hynny y bydd dy was mwyach yn faich ar fy arglwydd fren-in? º36 Dy was a â ychydig tu hwnt i’r Iorddonen gyda’r brenin: a phaham y talai y brenin i mi gyfryw daledigaeth? º37 Gad, atolwg, i’th was ddychwetyd yn fy ôl, fel y byddwyf marw yn fy ninas fy hun, ac fel y’m cladder ym meddrod fy-nhad a’m mam: ac wele, Chimham dy was, efe a â drosodd gyda’m harglwydd frenin, a gwna iddo yr hyn fyddo da yn dy olwg. º38 A dywedodd y brenin, Chimham a-a gyda mi, a mi a wnaf iddo ef yr hyn. fyddo da yn dy olwg di: a pheth bynnag a erfyniech di arnaf fi, mi a’i gwnaf erot. º39 A’r holl bobl a aethant dros yr Iorddonen. Y brenin hefyd a aeth drosodd: a’r brenin a gusanodd Barsilai, ac a’i bendithiodd ef; ac efe a ddychwelodd i’w fangre ei hun. º40 Yna y brenin a aeth i Gilgal, a Chimham a aeth gydag ef. A holl bobl Jwda a hebryngasant y brenin, a hanner pobl Israel hefyd. º41 Ac wele, holl wŷr Israel a ddaethant at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Paham y lladrataodd ein brodyr ni, gwŷr Jwda, dydi, ac y dygasant y brenin a’i dylwyth dros yr Iorddonen, a holl wŷr Dafydd gydag ef? º42 Ac atebodd holl wŷr Jwda i wŷr Israel, Oblegid car agos yw y brenin i ni: paham gan hynny y digiasoch chwi am y peth hyn? a fwytasom ni ddim ar draul y brenin? neu a anrhegodd efe ni ag anrheg? º43 A gwŷr Israel a atebasant wŷr Jwda, ac a ddywedasant, Deg rhan sydd i ni yn y brenin; hefyd y mae i ni yn Dafydd fwy nag i chwi: paham gaa hynny y diystyraist fi? onid myfi a ddywedais yn gyntaf am gyrchu adref fy mrenin? Ac ymadrodd gwŷr Jwda oedd galetach nag ymadrodd gwŷr Israel. {{angor|Pennod_20}{{c|{{uc|Pennod XX}}.}} {{bach|1 ''Seba, o achos yr ymrafael, yn codi plaid yn Israel.'' 3 ''Deg gordderch-wraig Dafydd mewn carchar tragywyddol.'' 4 ''Gwneuthur Amasa yn bennaeth ar Judah; a Joab yn ei ladd ef.'' 14 ''Joab yn erlid Seba i Abel.'' 16 ''Gwraig ddoeth yn achub y ddinas, trwy dorri pen Seba.'' 23 ''Swyddogion Dafydd.''}} {{angor|20:1}} {{uc|Ac}} yno y digwyddodd bod gŵr i’r fall, a’i enw Seba, mab Bichri, gŵr o Jemini; ac efe a utganodd mewn utgom, ac a ddywedodd, Nid oes i ni ddim rhan yn Dafydd, nac etifeddiaeth i ni ym mab Jesse: pawb i’w babell, O Israel. º2 Felly holl wŷr Israel a aeihant i fyny oddi ar ôl Dafydd, ar ôl Seba mab Bichri: ond gwŷr Jwda a lynasant wrth eu brenin, o’r Iorddonen hyd Jerwsalem. º3 A daeth Dafydd i’w dy ei hun i Jerwsalem; a’r brenin a gymerth y deg gordderch-wraig a<noinclude><references/></noinclude> 9wa38haxi0uco3262fcvpn10jf84k7f 171400 171399 2026-10-06T06:09:47Z Tylopous 3717 171400 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º28 Canys nid oedd holl dy fy nhad i ond dynion meirw gerbron fy arglwydd y brenin; eto tydi a osodaist dy was ymhiith y rhai oedd yn bwyta ar dy fwrdd dy hun: pa gyfiawnder gan hynny sydd i mi bellach i weiddi mwy ar y brenin? º29 A’r brenin a ddywedodd wrtho, I ba beth yr adroddi dy faterion ymhellach? dywedais, Ti a Siba rhennwch y tir. º30 A Meffiboseth a ddywedodd wrth y brenin, Ie, cymered efe y cwbl, gan ddy¬fod fy arglwydd frenin i’w dy mewn heddwch. º31 A Barsilai y Gileadiad a ddaeth i waered o Rogelim; ac a aeth dros yr Iorddonen gyda’r brenin, i’w hebrwng efdros yr Iorddonen. º32 A Barsilai oedd hen iawn, yn fab pedwar ugain mlwydd: efe oedd yn dar-paru lluniaeth i’r brenin tra yr ydoedd efe ym Mahanaim; canys gŵr mawr iawn oedd efe. º33 A’r brenin a ddywedodd with Barsilai, Tyred drosodd gyda mi, a nri a’th borthaf di gyda mi yn Jerwsalem. º34 A Barsilai a ddywedodd wrth y brenin. Pa faint yw dyddiau blynyddoedd fy einioes i, fel yr elwn i fyny gyda’r brenin i Jerwsalem? º35 Mab pedwar ugain mlwydd ydwyf fi heddiw: a wn i ragoriaeth rhwng da a drwg? a ddichon dy was di archwaethu yr hyn a fwytaf, neu yr hyn a yfaf? a glywaf fi bellach lais cerddorion a cherdd-oresau? paham gan hynny y bydd dy was mwyach yn faich ar fy arglwydd fren-in? º36 Dy was a â ychydig tu hwnt i’r Iorddonen gyda’r brenin: a phaham y talai y brenin i mi gyfryw daledigaeth? º37 Gad, atolwg, i’th was ddychwetyd yn fy ôl, fel y byddwyf marw yn fy ninas fy hun, ac fel y’m cladder ym meddrod fy-nhad a’m mam: ac wele, Chimham dy was, efe a â drosodd gyda’m harglwydd frenin, a gwna iddo yr hyn fyddo da yn dy olwg. º38 A dywedodd y brenin, Chimham a-a gyda mi, a mi a wnaf iddo ef yr hyn. fyddo da yn dy olwg di: a pheth bynnag a erfyniech di arnaf fi, mi a’i gwnaf erot. º39 A’r holl bobl a aethant dros yr Iorddonen. Y brenin hefyd a aeth drosodd: a’r brenin a gusanodd Barsilai, ac a’i bendithiodd ef; ac efe a ddychwelodd i’w fangre ei hun. º40 Yna y brenin a aeth i Gilgal, a Chimham a aeth gydag ef. A holl bobl Jwda a hebryngasant y brenin, a hanner pobl Israel hefyd. º41 Ac wele, holl wŷr Israel a ddaethant at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Paham y lladrataodd ein brodyr ni, gwŷr Jwda, dydi, ac y dygasant y brenin a’i dylwyth dros yr Iorddonen, a holl wŷr Dafydd gydag ef? º42 Ac atebodd holl wŷr Jwda i wŷr Israel, Oblegid car agos yw y brenin i ni: paham gan hynny y digiasoch chwi am y peth hyn? a fwytasom ni ddim ar draul y brenin? neu a anrhegodd efe ni ag anrheg? º43 A gwŷr Israel a atebasant wŷr Jwda, ac a ddywedasant, Deg rhan sydd i ni yn y brenin; hefyd y mae i ni yn Dafydd fwy nag i chwi: paham gaa hynny y diystyraist fi? onid myfi a ddywedais yn gyntaf am gyrchu adref fy mrenin? Ac ymadrodd gwŷr Jwda oedd galetach nag ymadrodd gwŷr Israel. {{angor|Pennod_20}}{{c|{{uc|Pennod XX}}.}} {{bach|1 ''Seba, o achos yr ymrafael, yn codi plaid yn Israel.'' 3 ''Deg gordderch-wraig Dafydd mewn carchar tragywyddol.'' 4 ''Gwneuthur Amasa yn bennaeth ar Judah; a Joab yn ei ladd ef.'' 14 ''Joab yn erlid Seba i Abel.'' 16 ''Gwraig ddoeth yn achub y ddinas, trwy dorri pen Seba.'' 23 ''Swyddogion Dafydd.''}} {{angor|20:1}} {{uc|Ac}} yno y digwyddodd bod gŵr i’r fall, a’i enw Seba, mab Bichri, gŵr o Jemini; ac efe a utganodd mewn utgom, ac a ddywedodd, Nid oes i ni ddim rhan yn Dafydd, nac etifeddiaeth i ni ym mab Jesse: pawb i’w babell, O Israel. º2 Felly holl wŷr Israel a aeihant i fyny oddi ar ôl Dafydd, ar ôl Seba mab Bichri: ond gwŷr Jwda a lynasant wrth eu brenin, o’r Iorddonen hyd Jerwsalem. º3 A daeth Dafydd i’w dy ei hun i Jerwsalem; a’r brenin a gymerth y deg gordderch-wraig a<noinclude><references/></noinclude> kjz8zwrj4pq1oo1nk60vxcgl6pk0rmg Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/348 104 3601 171401 6789 2026-10-06T06:12:09Z Tylopous 3717 penodau 171401 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º25 Sefa hefyd yn ysgrifennydd; a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid; º26 Ira hefyd y Jairiad oedd ben-llywydd ynghylch Dafydd. {{angor|Pennod_21}}{{c|{{uc|Pennod XXI}}.}} {{bach|1 ''Y tair blynedd newyn, o achos y Gibeoniaid, yn peidio, trwy grogi saith o feibion Saul.'' 10 ''Caredigrwydd Rispah tu ag at y marw.'' 12 ''Dafydd yn claddu esgyrn Saul a Jonathan.'' 15 ''Pedair câd yn erbyn y Philistiaid; lle y lladdodd pedwar o gedyrn Dafydd bedwar o gawri.''}} {{angor|21:1}} {{uc|A bu}} newyn yn nyddiau Dafydd dair blynedd olynol. A Dafydd a ymo-fynnodd gerbron yr ARGLWYDD. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Oherwydd Saul, ac oherwydd ei dy gwaedlyd ef, y mae hyn; oblegid lladd ohono ef y Gibeoniaid. º2 A’r brenin a alwodd am y Gibeoniaid, ac a ymddiddanodd â hwynt; (a’r Gibeon¬iaid hynny nid oeddynt o feibion Israel, ond o weddill yr Amoriaid; a meibion Israel a dyngasai iddynt hwy: eto Saul a geisiodd eu lladd hwynt, o’i serch i feibion Israel a Jwda.) º3 A Dafydd a ddywedodd wrth y Gibeoniaid, Beth a wnaf i chwi? ac & pha beth y gwnaf gymod, fel y bendithioch chwi etifeddiaeth yr ARGLWYDD? º4 A’r Gibeoniaid a ddywedasant wrtho, Ni fynnwn ni nac arian nac aur gan Saul, na chan ei dy ef; ac ni fynnwn ni ladd neb yn Israel. Ac efe a ddywedodd, Yr hyn a ddywedoch chwi, a wnaf i chwi. º5 A hwy a ddywedasant with y brenin, Y gŵr a’n difethodd ni, ac a fwriadodd i’n herbyn ni, i’n dinistrio ni rhag aros yn un o derfynau Israel, º6 Rhodder i ni saith o wŷr o’i feibion ef, fel y crogom ni hwynt i’r ARGLWYDD yn Gibea Saul, dewisedig yr ARGLWYDD. A dywedodd y brenin, Myfi a’u rhoddaf. º7 Ond y brenin a arbedodd Meffi-boseth, mab Jonathan, mab Saul, oherwydd llw yr ARGLWYDD yr hwn oedd rhyngddynt hwy, rhwng Dafydd a Jonathan mab Saul. º8 Ond y brenin a gymerth ddau fab Rispa merch Aia, y rhai a ymddug hi i Saul, sef Armoni a Meffiboseth; a phum mab Michal merch Saul, y rhai a blantodd hi i Adriel mab Barsilai y Maholathiad: º9 Ac efe a’u rhoddes hwynt yn llaw y Gibeoniaid; a hwy a’u crogasant hwy yn y mynydd gerbron yr ARGLWYDD: a’r saith hyn a gydgwympasant, ac a rodd-wyd i farwolaeth yn y dyddiau cyntaf o’r cynhaeaf, yn nechreuad cynhaeaf yr haidd. º10 A Rispa merch Aia a gymerth sachliain, a hi a’i hestynnodd ef iddi ar y graig, o ddechrau y cynhaeaf nes diferu dwfr arnynt hwy o’r nefoedd, ac ni adawodd hi i ehediaid y nefoedd orffwys arnynt hwy y dydd, na bwystfil y maes liw nos. º11 A mynegwyd i Dafydd yr hyn a wnaethai Rispa merch Aia, gordderchwraig Saul. º12 A Dafydd a aeth ac a ddug esgyrn Saul," ac esgyrn Jonathan ei fab, oddi wrth berchenogion Jabes Gilead, y rhai a’u lladratasent hwy o heol Bethsan yr hon y crogasai y Philistiaid hwynt ynddi, y dydd y lladdodd y Philistiaid Saul yn Gilboa. º13 Ac efe a ddug i fyny oddi yno esgyrn Saul, ac esgyrn Jonathan ei fab: a hwy 9 gasglasant esgyrn y rhai a grogasid. º14 A hwy a gladdasant esgyrn Saul a Jonathan ei fab yng ngwlad Benjamin, yn Sela, ym meddrod Cis ei dad: a hwy a wnaethant yr hyn oll a orchmynasai y brenin. A bu Duw fodlon i’r wlad ar ôl hyn. º15 A bu eilwaith ryfel rhwng y Philistiaid ac Israel; a Dafydd a aeth i waered a’i weision gydag ef, ac a ymladdasant a’r Philistiaid. A diffygiodd Dafydd. º16 Ac Isbi-benob, yr hwn oedd o feibion y cawr, (a phwys ei waywffon yn dri chan sicl o bres,) ac wedi ei wregysu a chleddyf newydd, a feddyliodd ladd Dafydd. º17 Ond Abisai mab Serfia a’i helpiodd ef, ac a drawodd y Philistiad, ac a’i lladdodd ef. Yna gwŷr Dafydd a dyngasant wrtho ef, gan ddywedyd, Nid ei di allan mwyach gyda ni i ryfel, rhag i ti ddiffoddi goleuni Israel. º18 Ac ar ôl hyn fe fu eilwaith ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid: yna Sib-bechai yr Husathiad<noinclude><references/></noinclude> d29d62e3jcla860ktjzwuo9lg8s2a8w Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/349 104 3602 171402 6790 2026-10-06T06:13:24Z Tylopous 3717 penodau 171402 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>a laddodd Saff, yr hwn oedd o feibion y cawr. º19 A bu eto ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid: ac Elhanan mab Jaare-oregim, y Bethlehemiad, a drawodd frawd Goleiath y Gethiad; a phren ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd. º20 A bu eto ryfel yn Gath: ac yr oedd gŵr corffol, a chwech o fysedd ar bob llaw iddo, a chwech o fysedd ar bob troed iddo, pedwar ar hugain o rifedi; efe hefyd oedd fab i’r cawr. º21 Ac efe a amharchodd Israel; a Jonathan mab Simea, brawd Dafydd, a’i lladdodd ef. º22 Y pedwar hyn a aned i’r cawr yn Gath, ac a gwympasant trwy law Dafydd, a thrwy law ei weision ef. {{angor|Pennod_22}}{{c|{{uc|Pennod XXII}}.}} {{bach|''Psalm o ddïolchgarwch am alluog ymwared Duw, a’i amryw fendithion.''}} {{angor|22:1}} {{uc|A Dafydd}} a lefarodd wrth yr ARGLWYDD eiriau y gan hon, yn y dydd y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei holl elynion, ac o law Saul. º2 Ac efe a ddywedodd, Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd i; º3 Duw fy nghraig, ynddo ef yr ymddiriedaf: fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, fy uchel dwr a’m noddfa, fy achubwr; rhag trais y’m hachubaist. º4 Galwaf ar yr ARGLWYDD canmoladwy: felly y’m cedwir rhag fy ngelynion. º5 Canys gofidion angau a’m cylchynasant; afonydd y fall a’m dychrynasant i. º6 Doluriau uffern a’m hamgylchynasant; maglau angau a’m rhagflaenasant. º7 Yn fy nghyfyngdra y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac y gwaeddais ar fy Nuw; ac efe a glybu fy llef o’i deml, a’m gwaedd a aeth i’w glustiau ef. º8 Yna y cynhyrfodd ac y crynodd y ddaear: seiliau y nefoedd a gyffroesant ac a ymsiglasant, am iddo ef ddigio. º9 Dyrchafodd mwg o’i ffroenau ef, â thân o’i enau ef a ysodd: glo a enynasant ganddo ef. º10 Efe a ogwyddodd y nefoedd, ac a ddisgynnodd; a thywyllwch oedd dan ei draed ef. º11 Marchogodd efe hefyd ar y ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a welwyd ar adenydd y gwynt. º12 Efe a osododd y tywyllwch yn bebyll o’i amgylch; sef casgliad y dyfroedd, a thew gymylau yr awyr. º13 Gan y disgleirdeb ger ei fron ef yr enynnodd y marwor tanllyd. º14 Yr ARGLWYDD a daranodd o’r nefoedd, a’r Goruchaf a roddes ei lef. º15 Ac efe a anfonodd ei saethau, ac a’u gwasgarodd hwynt; mellt, ac a’u drylliodd hwynt. º16 Gwaelodion y môr a ymddangosodd, a seiliau y byd a ddinoethwyd, gan gerydd yr ARGLWYDD, a chan chwythad anadl ei ffroenau ef. º17 Efe a anfonodd oddi uchod: cymerodd fi; tynnodd fi o ddyfroedd lawer. º18 Gwaredodd fi rhag fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghascion; am eu bod yn drech na mi. º19 Achubasant fy miaen. yn nydd fy ngofid: ond yr ARGLWYDD oedd gynhaliad i mi. º20 Efe a’m dug i ehangder: efe a’m gwaredodd i, am iddo ymhoffi ynof. º21 Yr ARGLWYDD a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder: yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi. º22 Canys mi a gedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw. º23 Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i: ac oddi wrth ei ddeddfau ni chiliais i. º24 bûm hefyd berffaith ger ei fron ef; ac ymgedwais rhag fy anwiredd., º25 A’r ARGLWYDD a’m gobrwyodd innau yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl fy nglendid o flaen ei lygaid ef. º26 A’r trugarog y gwnei drugaredd: a’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd. º27 A’r glân y gwnei lendid; ac a’r cyn-dyn yr ymgyndynni. º28 Y bobl gystuddiedig a waredi: ond y mae dy lygaid ar y rhai uchel, i’w darostwng. º29 Canys ti yw fy nghannwyll i, O ARGLWYDD; a’r ARGLWYDD a lewyrcha fy nhywyllwch. º30 Oblegid ynot ti y rhedaf trwy fyddin: trwy fy Nuw y llamaf dros fur. º31 Duw sydd berffaith ei ffordd; ymad-rodd yr ARGLWYDD sydd buredig: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant -ynddo. º32 Canys pwy sydd DDUW, heb<noinclude><references/></noinclude> 8vf19i6joz0pvziaescq3e28eblzyq4 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/350 104 3603 171403 6791 2026-10-06T06:15:08Z Tylopous 3717 penodau 171403 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>law yr ARGLWYDD? a phwy sydd graig, eithr -.ein Duw ni? º33 Duw yw fy nghadernid a’m nerth; ac a rwyddhaodd fy ffordd i yn berffaith. º34 Efe sydd yn gwneuthur fy nhraed fel traed ewigod; ac efe sydd yn fy ngosod ar fy uchelfaoedd. º35 Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllir bwa dur yn fy mreichiau. º36 Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; ac a’th fwynder y lluosogaist fi. | º37 Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy sodlau. º38 Erhdiais fy ngelynion, a difethais hwynt; ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt. º39 Difeais hwynt hefyd, a thrywenais(jiwynt, fel na chyfodent; a hwy a syrthiasant dan fy nhraed i. º40 Canys ti a’m gwregyiaist i nerth i .tyfel: y rhai a ymgyfodenti’m herbyn, a iddarostyngaist danaf. º41 Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ‘ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion. i; º43 Disgwyliasant, ond nid oedd achubydd; sef am yr ARGLWYDD, ond nid .Stebodd hwynt. º43 Yna y maluriais hwynt fel llwch y ddaear; melais hwynt fel torn yr heolydd, a thaenais hwynt. º44 Gwaredaist fi rhag cynhennau fy mhobl; cedwaist fi yn ben ar genhedloedd: pobl nid adnabum a’m gwasanaethant. º45 Meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi: pan glywant, igwrandawant arnaf fi. º46 Meibion dieithr a ballant, ac a ddychrynant o’u carchardai. " º47 Byw fyddo yr ARGLWYDD, a bendigedig fyddo fy nghraig; a dyrchafer Duw, craig fy iachawdwriaeth. º48 Duw sydd yn fy nial i, ac sydd yn darostwng pobloedd danaf fi, º49 Ac sydd yn fy nhywys i o blith fy ngelynion: ti hefyd a’m dyrchefaist uwchlaw y rhai a gyfodent i’m herbyn, rhag y gŵr traws y’m hachubaist i. º50 Am hynny y moliannaf di, O AR¬GLWYDD, ymhiith y cenhedloedd, ac y canaf i’th enw. º51 Efe sydd dwr iachawdwriaeth i’w frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog, i Dafydd, ac i’w had yn dragy-wydd. {{angor|Pennod_23}}{{c|{{uc|Pennod XXIII}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn ei eiriau diweddaf yn dangos fod ei ffydd ef yn addewidion Duw tu hwnt i bob deall dynol.'' 6 ''Anghyffelyb gyflwr yr annuwiol.'' 8 ''Enwau cedyrn Dafydd.''}} {{angor|23:1}} {{uc|Dyma}} eiriau diwethaf Dafydd. Dy-wedodd Dafydd mab Jesse, a dywedodd y gŵr a osodwyd yn uchel, eneiniog Duw Jacob, a pheraidd gamedydd Israel, º2 Ysbryd yr ARGLWYDD a lefarodd ynof fi, a’i ymadrodd ef oedd ar fy nhafod. º3 Duw Israel a ddywedodd wrthyflfi, Craig Israel a. .ddywedodd, ByddeA llywodraethwr ar ddynion yn gyfiawn, yn llywodraethu mewn i?fn Duw: º4 Ac efe a fydd fel y bore-oleuni, pan gyfodo haul foregwaith heb gymylau: fel eginyn a dyf o’r ddaear, gan lewyrchiad yn ôl glaw. º5 Er nad yw fy nhŷ i felly gyda Duw; eto cyfamod tragwyddol a wnaeth efe a mi, wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr; canys fy holl iachawdwriaeth, a’m holl ddymuniad yw, er nad yw yn peri iddo flaguro. º6 A’r anwir fyddant oll fel drain wedi eu bwrw heibio: canys mewn llaw nis cymerir hwynt. º7 Ond y gŵr a gyffyrddo a hwynt a ddiffynnir a haearn, ac a phaladr gwayw-ffon; ac â thân y llosgir hwynt yn eu lle. º8 Dyma enwau y cedyrn oedd gan Dafydd. Y Tachmoniad a eisteddai yn y gadair, yn bennaeth y tywysogion; hwnnw oedd Adino yr Esniad: efe a ruthrodd yn erbyn wyth cant, y rhai a laddodd efe ar unwaith. º9 Ac ar ei ôl ef yr oedd Eleasar mab Dodo, mab Ahohi, ymhiith y tri chadarn, gyda Dafydd, pan ddifenwasant hwy y Philistiaid a ymgynullasent yno i ryfel, a phan aeth gwŷr Israel ymaith. º10 Efe a gyfododd, ac a drawodd ar y Philistiaid, nes diffygio ei law ef a glynu o’i law ef wrth y cleddyf: a’r ARGLWYDD a wnaeth iachawdwriaeth mawr y diwrnod hwnnw; a’r bobl a ddychwelasant ar ei ôl ef yn unig i anrheithio. º11 Ac ar ei ôl ef yr oedd Samma mab Age yr Harariad. A’r Philistiaid a ymgyn¬ullasent yn dorf; ac yr oedd yno ran o’r maes yn llawn o ffacbys: a’r bobl a ffodd o flaen y Philistiaid. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 1ya52wzz1mdnk6m4swdf948l5w8b5oe Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/351 104 3604 171404 6792 2026-10-06T06:18:38Z Tylopous 3717 penodau 171404 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º12 Ond efe a safodd yng nghanol y rhandir, ac a’i hachubodd, ac a laddodd y Philisitiaid. Felly y gwnaeth yr AR¬GLWYDD ymwared mawr. º13 A thri o’r deg pemiaeth ar hugain a ddisgynasant, ac a ddaethant y cynhaeaf at Dafydd i ogof Adulam: a thorf y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Refiaim., º14 A Dafydd oedd yna mewn amddi- ffynfa: a sefyllfa y Philistiqid ydoedd yna yn Bethlehem. º15 A blysiodd Dafydd, a dywedodd, Pwy a’m dioda i a dwfr o bydew Bethle¬hem, yr hwn sydd wrth y porth? º16 A’r tri chadarn a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwft o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a’i cymerasant hefyd, ac a’i dygasant at Dafydd: ond ni fynnai efe ei yfed, eithr efe a’i diodoffrymodd ef i’r ARGLWYDD; º17 Ac a ddywedodd, Na ato yr AR¬GLWYDD i mi wneuthur hyn; onid gwaed y gwŷr a aethant mewn enbydrwydd am eu heinioes yw hwn? Am hynny ni fynnai efe ei yfed. Hyn a wnaeth y tri chadarn hynny. º18 Ac Abisai brawd Joab, mab Serfia, oedd bennaf o’r tri. Ac efe a gyfododd ei waywffon yn erbyn tri chant, ac a’u lladdodd hwynt: ac iddo ef yr oedd yr enw ymhiith y tri. º19 Onid anrhydeddusaf oedd efe o’r tri? a bu iddynt yn dywysog: eto ni’ chyrhaeddodd efe y tri chyntaf. º20 A Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, aml ei weithredoedd, efe a laddodd ddau o gedyrn Moab: ac efe a aeth i waered, ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira. º21 Ac efe a drawodd Eifftddyn, gŵr golygus o faint: ac yn llaw yr Eifftiad yr oedd gwaywffon; eithr efe a ddaeth i waered ato ef a ffon, ac a ddug y wayw¬ffon o law yr Eifftiad, ac a’i lladdodd ef a’i waywffon ei hun. º22 Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada: ac iddo yr oedd yr enw ymhiith y tri chadarn. º23 Anrhydeddusach oedd na’r deg ar hugain; ond ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf: a Dafydd a’i gosododd ef ar ei wŷr o gard. º24 Asahel brawd Joab oedd un o’r’ deg ar hugain; Elhanan mab Dodo y Bethlehemiad, º25 Samma yr Harodiad, Elica yr Harodiad, º26 Heles y Pa&iad, Ira mab Icces y Tecoiad, º27 Abieser yr Anathuthiad, Mebunnflii;’ yr Husaihiad, º28 Salmon yr Ahohiad, Maharai y Netoffathiad, º29 Heleb mab Baana y Netoffathiad, Ittai mab Ribai o Gibea meibion Ben¬jamin, º30 Benaia y’Pirathoniad, Hidai o afonydd Gaas, º31 Abi-alboa yr Arbathiad, AsmafetB y Barhumiad, º32 Eliahba y Saalboniafl; o feibion Jasen, Jonathan, º33 Samma yr Harariad, Ahiam mab. Sarar yr Harariad, º34 Eliffelet mab Ahasbai, mab y Maachathiad, Eliam mab Ahitoffel y Giloniad, º35 Hesrat y Carmeliad . Paarai yr Arbiad, º36 Igal mab Nathan o Soba, Bani y Gadiad, º37 Selec yr Ammoniad, Naharai y Beerothiad yn dwyn arfau Joab mab Serfia, º38 Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad, º39 Ureias yr Hethiad: dau ar bymtheg ar hugain o gwbl. {{angor|Pennod_24}}{{c|{{uc|Pennod XXIV}}.}} {{bach|1 ''Satan yn temtio Dafydd, ac yntau yn gyrru Joab i rifo y bobl.'' 5 ''Y capteniaid, ym mhen y raw mis a’r ugain niwrnod, yn dwyn cyfrif o dri chàn mil ar ddeg o ryfelwyr.'' 10 ''Dafydd yn cael ei ddewis o dri pla; ac yn dewis tridiau o’r nodau:'' 15 ''ac wedi lladd deng mil a thri ugain o’r bobl, yn edifarhâu, ac wrth hynny yn achub dinystr Jerusalem.'' 18 ''Dafydd, trwy gynghor Gad, yn prynu llawr-dyrnu Arafnah; a’r pla yn peidio, wedi iddo ef aberthu.''}} {{angor|24:1}} {{uc|A thrachefn}} dicllonedd yr AR¬GLWYDD a enynnodd yn erbyn Israel; ac efe a anogodd Dafydd yn ett herbyn hwynt, i ddywedyd, DOS, cyfrift Israel a Jwda. º2 Canys y brenin a ddywedodd wrth’ Joab tywysog y llu oedd ganddo ef, DOS’ yn awr trwy holl lwythau Israel, o Dan’: hyd Beer-seba, a chyfrif y bobl, fel y gwypwyf rifedi y bobl. º3 A Joab a ddywedodd wrth y brenin, Yr ARGLWYDD dy DDUW a chwanego y" bobl yn gan cymaint ag y maent, fel y gwelo llygaid fy arglwydd frenin: on4< paham yr ewyllysia fy arglwydd frenin y.peth hyn? {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> bjhz2q2a6rueprvfuunedkbg1iwdbeo Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/353 104 3606 171405 171287 2026-10-06T06:22:22Z Tylopous 3717 penodau 171405 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr cyntaf y brenhinoedd;}}}}<br> {{sc|yr hwn a elwir hefyd,}}<br> {{uc|Trydydd llyfr y brenhinoedd.}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|1 ''Abisag yn ymgeleddu Dafydd.'' 5 ''Adonïah, anwylyd Dafydd, yn ei wneuthur ei hun yn frenhin.'' 11 ''Nathan yn cynghori'' 15 ''i Bathseba ddywedyd i’r brenhin,'' 22 ''ac yn dywedyd gyd â hi.'' 28 ''Dafydd yn adnewyddu ei lw i Bathseba.'' 32 ''Sadoc a Nathan, trwy archiad Dafydd, yn enneinio Solomon yn frenhin; a’r bobl yn gorfoleddu.'' 41 ''Jonathan yn adrodd hynny, a gwahoddedigion Adonïah yn ffoi.'' 50 ''Adonïah yn cymmeryd noddfa wrth gyrn yr allor; a than ammod, yn cael ei ollwng yn rhydd.''}} {{angor|1:1}} {{uc|A’r}} brenin Dafydd oedd hen, ac a aethai mewn oedran; er iddynt ei anhuddo ef mewn dillad, eto ni chynhesai efe. 1:2 Am hynny ei weision a ddywedasant wrtho, Ceisier i’m harglwydd frenin lances o forwyn; a safed hi o flaen y brenin, a bydded yn gwneuthur ymgeledd iddo, a gorwedded yn dy fynwes, fel y gwresogo fy arglwydd frenin. 1:3 A hwy a geisiasant lances deg trwy holl fro Israel, ac a gawsant Abisag y Sunamees, ac a’i dygasant hi at y brenin. 1:4 A’r llances oedd deg iawn, ac oedd yn ymgeleddu’r brenin, ac yn ei wasanaethu ef: ond ni bu i’r brenin a wnaeth â hi. 1:5 Ac Adoneia mab Haggith a ymddyrchafodd, gan ddywedyd, Myfi a fyddaf frenin: ac efe a ddarparodd iddo gerbydau a gwŷr meirch, a dengwr a deugain i redeg o’i flaen. 1:6 A’i dad nid anfodlonasai ef yn ei ddyddiau, gan ddywedyd, Paham y gwnaethost fel hyn? yntau hefyd oedd deg iawn o bryd; ac efe a anesid wedi Absalom. 1:7 Ac o’i gyfrinach y gwnaeth efe Joab mab Serfia, ac Ahiathar yr offeiriad: a hwy a gynorthwyasant ar ôl Adoneia. 1:8 Ond Sadoc yr offeiriad, a Benaia mab Jehoiada, a Nathan y proffwyd, a Simei, a Rei, a’r gwŷr cedyrn a fuasai gyda Dafydd, nid oeddynt gydag Adoneia. 1:9 Ac Adoneia a laddodd ddefaid, a gwartheg, a phasgedigion, wrth faen Soheleth, yr hwn sydd wrth En-rogel, ac a wahoddodd ei holl frodyr meibion y brenin, a holl wŷr Jwda gweision y brenin. 1:10 Ond Nathan y proffwyd, a Benaia, a’r gwŷr cedyrn, a Solomon ei frawd, ni wahoddodd efe. 1:11 Am hynny y dywedodd Nathan wrth Bathseba mam Solomon, gan ddy¬wedyd, Oni chlywaist ti fod Adoneia mab Haggith yn teyrnasu, a’n harglwydd Dafydd heb wybod hynny? 1:12 Tyred gan hynny yn awr, atolwg, rhoddaf i ti gyngor, fel yr achubych dy einioes dy hun, ac einioes Solomon dy fab, 1:13 Dos, a cherdda i mewn at y brenin Dafydd, a dywed wrtho, Oni thyngaist ti, fy arglwydd frenin, wrth dy wasanaethwraig, gan ddywedyd, Solomon dy fab di a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i? paham gan hynny y mae Adoneia yn teyrnasu? 1:14 Wele, tra fyddych yno eto yn llefaru wrth y brenin, minnau a ddeuaf i mewn ar dy ôl di, ac a sicrhaf dy eiriau di. 1:15 A Bathseba a aeth i mewn at y brenin, i’r ystafell. A’r brenin oedd hen iawn; ac Abisag y Sunamees oedd yn gwasanaethu’r brenin. 1:16 A Bathseba a ostyngodd ei phen, ac a ymgrymodd i’r brenin. A’r brenin a ddywedodd, Beth a fynni di? 1:17 Hithau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd, ti a dyngaist i’r ARGLWYDD dy DDUW wrth dy wasanaethyddes, gan ddywedyd, Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i: 1:18 Ac yn awr, wele, Adoneia sydd frenin; ac yr awr hon, fy arglwydd frenin, nis gwyddost ti hyn. 1:19 Ac efe a laddodd wartheg, ac anifeiliaid breision, a defaid lawer iawn, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, ac Abiathar yr offeiriad, a Joab tywysog y filwriaeth: ond dy was Solomon ni wahoddodd efe. 1:20 Tithau, fy arglwydd frenhin, y<noinclude><references/></noinclude> 7rpkfor6tddmi3bmmy0d5uaa46icpeh Tudalen:Chwalfa.djvu/14 104 24546 171406 66066 2026-10-06T08:18:40Z Figaro-ahp 1983 171406 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Unwaith eto edrychodd Gwyn fel un wedi'i sarhau. "Na faswn," meddai'n swta. "Yr ydw i'n mynd i'r gwaith copar. Ond os lici di droi'n ôl..." Chwarddodd Llew: gwyddai mor benderfynol y gallai'i frawd fod. Pan ddaeth y ffermwr heibio yn ei gert, taflodd olwg chwilfrydig ar y ddau hogyn, gan synnu eu gweld mewn lle mor unig ac anghysbell. Ond nodiodd y ddau'n hynod ddifraw arno, fel petaent yn hollol gartrefol yno ar fin y ffordd. Nodiodd yntau. "Fasach chi'n licio cael pas, hogia'?" "Dim, diolch." "Dim, diolch." Gwyliodd y ddau y gert yn pellhau, ac yna cododd Llew. "Mi gawn ni ddiod yn y ffrwd 'na, Gwyn," meddai, "ac wedyn mi gychwynnwn. Hynny ydi, os wyt ti'n benderfynol o ddŵad. 'Dydi hi ddim yn rhy hwyr iti redag ar ôl y gert 'na, cofia." Ateb Gwyn oedd brysio at y nant a'i daflu'i hun ar ei wyneb i yfed yn swnllyd ohoni. "Dew, dŵr da, yntê, Llew?" meddai wrth godi'i ben cyn yfed eilwaith. "Ia, ond paid ti ag yfad gormod ohono fo, 'rŵan. Mae o'n oer, cofia, a'th du-fewn di wedi poethi. Tyd, mi awn ni." Ymaith â hwy i'r dde ar hyd y llwybr caregog. Sylwodd Llew fod ei frawd yn dechrau cloffi. "Be' sy ar dy droed di, Gwyn? "Dim byd." A cheisiodd gerdded yn rhwydd a thalog, gan sgwario'i ysgwyddau. Ond ni allai guddio'r cloffni. "Oes. Gad imi weld y droed dde 'na." "O, o'r gora'." Eisteddodd ar ddarn o graig a thynnu'i esgid. Yr oedd twll crwn drwy'r gwadn a thrwy'r hosan, a chwysigen fawr ar ei droed. Cymerodd Llew ddraenen oddi ar lwyn eithin gerllaw ac yna cydiodd yn nhroed ei frawd. "Be' wyt ti am wneud, Llew?" "Torri'r swigan 'na, debyg iawn. 'Wna' i mo dy frifo di." Gwthiodd y ddraenen i'r chwysigen a gwasgodd y dŵr ohoni. "Dyna ti," meddai. "A 'rwan rhaid inni roi rhwbath i mewn yn yr esgid 'na. Be' gawn ni, dywad?" {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 3gckc0p5j88o1738bgvna4f1s2hzsns Tudalen:Madam Wen.djvu/111 104 33429 171375 76107 2026-10-05T14:12:58Z ~2026-53844-22 4254 171375 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Daeth Madam Wen i'r bwrdd â gwên ar ei hwyneb; "A ydyw o 'n dal i ennill?" "Ydyw. Beth a wnawn ni?" gofynnodd Huw. "Rhoddi gwerth ei arian iddo i ddechrau," meddai hithau, gan chwerthin. "A chawn weled beth wedyn pan fyddwn wedi'n dal." "Felly yr oeddwn innau'n teimlo," meddai Huw, ac ymlaen â'r Wennol dros y tonnau fel yr awel. Ar fwrdd ei long cablai Abel Owen nerthoedd y nefoedd, a bygythiai drychineb anhraethadwy i wŷr y llong las, oedd yn herio cyflymder ei lestr ef mewn dull mor feiddgar. "Mi grogaf bob copa walltog ohonynt!" meddai. "Na, mi rhwymaf hwy mewn sachau ac mi daflaf y dyhirod dros y bwrdd, a darn o blwm wrth bob sawdl.' Am agos i awr safodd Madam Wen yn gwylied y rhedegfa, ac yn ymddangos fel pe'n mwynhau yr olygfa. "A ydynt yn ennill?" gofynnodd o'r diwedd. "Os yr un, ydynt," atebodd Huw Bifan, "ond pur ychydig." Ennill yr oedd y lleidr serch hynny, er yn araf. Ymhen dwyawr yr oedd hynny'n fwy amlwg. Ond nid oedd gwŷr y Wennol am ildio cyn bod rhaid, a chymerodd hanner awr yn ychwaneg i'r môr-leidr i ddyfod o fewn cyrraedd. Saethwyd ergyd, a chodwyd y faner ddu, ond dal i redeg a wnai'r Wennol. "Mi fyddai'n well i ni ostwng hwyl, yr wyf yn meddwl," meddai Huw Bifan o'r diwedd. Na, arhoswch dipyn eto," meddai Madam Wen. Trowch fagnel hir arni! gwaeddai Abel gyda llw erchyll o gynddaredd. "Suddwch hi!" Yr oedd y fagnel hir ar begwn ynghanol y llong, ac ar y gair trowyd ei ffroen ar y Wennol. Taniwyd, ond aeth yr ergyd ar ddisberod. Trawodd Abel y gŵr oedd wedi anelu a disgynnodd hwnnw'n llonydd ar y bwrdd. Ail-lanwyd, a chymerodd y capten y magdan yn ei law ei hun. Ond fel y digwyddodd,<noinclude><references/></noinclude> jp7qx1vgxhxc6t6mxesoo1pwzc4egkm 171376 171375 2026-10-05T14:31:29Z ~2026-53844-22 4254 171376 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Daeth Madam Wen i'r bwrdd â gwên ar ei hwyneb; "A ydyw o 'n dal i ennill?" "Ydyw. Beth a wnawn ni?" gofynnodd Huw. "Rhoddi gwerth ei arian iddo i ddechrau," meddai hithau, gan chwerthin. "A chawn weled beth wedyn pan fyddwn wedi'n dal." "Felly yr oeddwn innau'n teimlo," meddai Huw, ac ymlaen â'r Wennol dros y tonnau fel yr awel. Ar fwrdd ei long cablai Abel Owen nerthoedd y nefoedd, a bygythiai drychineb anhraethadwy i wŷr y llong las, oedd yn herio cyflymder ei lestr ef mewn dull mor feiddgar. "Mi grogaf bob copa walltog ohonynt!" meddai. "Na, mi rhwymaf hwy mewn sachau ac mi daflaf y dyhirod dros y bwrdd, a darn o blwm wrth bob sawdl." Am agos i awr safodd Madam Wen yn gwylied y rhedegfa, ac yn ymddangos fel pe'n mwynhau yr olygfa. "A ydynt yn ennill?" gofynnodd o'r diwedd. "Os yr un, ydynt," atebodd Huw Bifan, "ond pur ychydig." Ennill yr oedd y lleidr serch hynny, er yn araf. Ymhen dwyawr yr oedd hynny'n fwy amlwg. Ond nid oedd gwŷr y Wennol am ildio cyn bod rhaid, a chymerodd hanner awr yn ychwaneg i'r môr-leidr i ddyfod o fewn cyrraedd. Saethwyd ergyd, a chodwyd y faner ddu, ond dal i redeg a wnai'r Wennol. "Mi fyddai'n well i ni ostwng hwyl, yr wyf yn meddwl," meddai Huw Bifan o'r diwedd. Na, arhoswch dipyn eto," meddai Madam Wen. Trowch fagnel hir arni! gwaeddai Abel gyda llw erchyll o gynddaredd. "Suddwch hi!" Yr oedd y fagnel hir ar begwn ynghanol y llong, ac ar y gair trowyd ei ffroen ar y Wennol. Taniwyd, ond aeth yr ergyd ar ddisberod. Trawodd Abel y gŵr oedd wedi anelu a disgynnodd hwnnw'n llonydd ar y bwrdd. Ail-lanwyd, a chymerodd y capten y magdan yn ei law ei hun. Ond fel y digwyddodd,<noinclude><references/></noinclude> rzt3uz3blwh77dr41ojjk6zynmnyoqs 171377 171376 2026-10-05T14:46:07Z ~2026-53844-22 4254 171377 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Daeth Madam Wen i'r bwrdd â gwên ar ei hwyneb; "A ydyw o 'n dal i ennill?" "Ydyw. Beth a wnawn ni?" gofynnodd Huw. "Rhoddi gwerth ei arian iddo i ddechrau," meddai hithau, gan chwerthin. "A chawn weled beth wedyn pan fyddwn wedi'n dal." "Felly yr oeddwn innau'n teimlo," meddai Huw, ac ymlaen â'r Wennol dros y tonnau fel yr awel. Ar fwrdd ei long cablai Abel Owen nerthoedd y nefoedd, a bygythiai drychineb anhraethadwy i wŷr y llong las, oedd yn herio cyflymder ei lestr ef mewn dull mor feiddgar. "Mi grogaf bob copa walltog ohonynt!" meddai. "Na, mi rhwymaf hwy mewn sachau ac mi daflaf y dyhirod dros y bwrdd, a darn o blwm wrth bob sawdl." Am agos i awr safodd Madam Wen yn gwylied y rhedegfa, ac yn ymddangos fel pe'n mwynhau yr olygfa. "A ydynt yn ennill?" gofynnodd o'r diwedd. "Os yr un, ydynt," atebodd Huw Bifan, "ond pur ychydig." Ennill yr oedd y lleidr serch hynny, er yn araf. Ymhen dwyawr yr oedd hynny'n fwy amlwg. Ond nid oedd gwŷr y Wennol am ildio cyn bod rhaid, a chymerodd hanner awr yn ychwaneg i'r môr-leidr i ddyfod o fewn cyrraedd. Saethwyd ergyd, a chodwyd y faner ddu, ond dal i redeg a wnai'r Wennol. "Mi fyddai'n well i ni ostwng hwyl, yr wyf yn meddwl," meddai Huw Bifan o'r diwedd. "Na, arhoswch dipyn eto," meddai Madam Wen. "Trowch fagnel hir arni!" gwaeddai Abel gyda llw erchyll o gynddaredd. "Suddwch hi!" Yr oedd y fagnel hir ar begwn ynghanol y llong, ac ar y gair trowyd ei ffroen ar y Wennol. Taniwyd, ond aeth yr ergyd ar ddisberod. Trawodd Abel y gŵr oedd wedi anelu a disgynnodd hwnnw'n llonydd ar y bwrdd. Ail-lanwyd, a chymerodd y capten y magdan yn ei law ei hun. Ond fel y digwyddodd,<noinclude><references/></noinclude> d95kkib6k46hpodn7x61w27ucxo9b9w Tudalen:Madam Wen.djvu/112 104 33430 171378 76108 2026-10-05T15:20:32Z ~2026-53844-22 4254 171378 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>ni fu yntau ronyn mwy llwyddiannus na'r llall. Aeth yr ail ergyd i'r môr heb gyffwrdd â'r llong las. Ond yr adeg honno, er bodlonrwydd i Huw Bifan, barnodd Madam Wen yn ddoeth ildio. Gostyngwyd hwyl, a daeth y Certain Death i ymyl y Wennol. "Anfonwch y capten i'r bwrdd yma ar unwaith!" oedd gorchymyn Abel Owen, "a pharatowch chwithau bob jac ohonoch i fynd i waelod y môr." Ufuddhaodd Huw Bifan gyda golwg ar ran gyntaf y gorchymyn, ac nid oedd heb ofni na byddai yn angenrheidiol talu sylw i'r rhan ddiwethaf hefyd. Pan oedd yn ei ollwng ei hun i lawr i'r cwch aeth Madam Wen at ei ochr a sibrydodd air yn ei glust na chlywodd y morwyr mohono. Ni cheid ar yr un o'r moroedd neb cyfrwysach na Huw Bifan o Fau Cymyran, ac yr oedd yn ddiarhebol o bwyllog. Pan ddaeth ar fwrdd llestr y môr-leidr, ac i olwg y capten, ffugiodd syndod didwyll. "Ai Abel Owen sydd yma? meddai yn Gymraeg. A llw Cymraeg dilediaith oedd llw Abel yn ei dro. Gofynnodd pwy oedd Huw. "Ac onibai mai Cymro wyt, buaswn yn dy saethu heb ragor o eiriau. Pwy wyt ti'n feddwl wyt ti yn dy gafn mochyn?" "Nid arnaf fi yr oedd y bai," atebodd llywydd y Wennol yn addfwyn. "Nid arnat ti, a thithau'n gapten. Ti ydyw'r capten, onid e?" "Y fi sy'n esgus o hynny," meddai Huw, mewn hanner grwgnach. "Ond un arall sy'n llywyddu ar y fordaith yma." "O'r holl ynfydrwydd. . . ." dechreuodd Abel. "Ond eglura dy feddwl, mae'r amser yn fyr," meddai. Eglurodd Huw yn ei ffordd ei hun. A'r diwedd fu i'r môr-leidr newid ei fwriad. Anfonodd Huw Bifan yn ôl i'w long gyda gorchymyn ar i Madam Wen, gan mai hi a lywyddai, ddyfod ar fwrdd y ''Certain Death'' rhag blaen i ateb am y drafferth yr oedd hi wedi ei achosi iddo ef mor ddi-alw-amdani. A rhywbeth<noinclude><references/></noinclude> bdw8msmdjcko6bzz9bxkz3vd6hqf9cp