Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.23 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/290 104 3542 171407 171348 2026-10-06T16:47:42Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171407 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|3:16|16}} Ac Eli a alwodd ar Samuel, ac a ddywedodd, Samuel fy mab. Yntau a ddywedodd, Wele fi. {{angor|3:17|17}} Ac efe a ddywedodd, Beth ''yw'' y gair a lefarodd ''yr {{sc|Arglwydd}}'' wrthyt? na chela, attolwg, oddi wrthyf: fel hyn y gwnelo {{sc|Duw}} i ti, ac fel hyn y chwanego, os celi oddi wrthyf ''ddim'' o’r holl bethau a lefarodd efe wrthyt. {{angor|3:18|18}} A Samuel a fynegodd iddo yr holl eiriau, ac nis celodd ddim rhagddo. Dywedodd yntau, Yr {{sc|Arglwydd}} ''yw'' efe: gwnaed ''a fyddo'' da yn ei olwg. {{angor|3:19|19}} ¶ A chynnyddodd Samuel; a’r {{sc|Arglwydd}} oedd gyd âg ef, ac ni adawodd ''i un'' o’i eiriau ef syrthio i’r ddaear. {{angor|3:20|20}} A gwybu holl Israel, o Dan hyd Beerseba, mai prophwyd ffyddlawn yr {{sc|Arglwydd}} ''oedd'' Samuel. {{angor|3:21|21}} A’r {{sc|Arglwydd}} a ymddangosodd drachefn yn Siloh: canys yr {{sc|Arglwydd}} a ymeglurhaodd i Samuel yn Siloh trwy air yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Y Philistiaid yn gorchfygu yr Israeliaid yn Eben-ezer.'' 3 ''Hwythau yn cyrchu yr arch, i ddychrynu y Philistiaid.'' 10 ''Y Philistiaid yn eu taro hwynt eilwaith; yn dal yr arch, ac yn lladd Hophni a Phinees.'' 12 ''Eli, wrth glywed y newyddion, yn syrthio yn wysg ei gefn, ac yn torri ei wddf.'' 19 ''Gwraig Phinees, wedi digalonni wrth esgor ar Ichabod, yn marw.''}} {{angor|4:1}} {{uc|A daeth}} gair Samuel i holl Israel. Ac Israel a aeth yn erbyn y Philistiaid i ryfel: a gwersyllasant ger llaw Eben-ezer: a’r Philistiaid a wersyllasant yn Aphec. {{angor|4:2|2}} A’r Philistiaid a ymfyddinasant yn erbyn Israel: a’r gâd a ymgyfarfu; a lladdwyd Israel o flaen y Philistiaid: a hwy a laddasant o’r fyddin yn y maes ynghylch pedair mil o wŷr. {{angor|4:3|3}} ¶ A phan ddaeth y bobl i’r gwersyll, henuriaid Israel a ddywedasant, Paham y tarawodd yr {{sc|Arglwydd}} ni heddyw o flaen y Philistiaid? Cymmerwn attom o Siloh arch cyfammod yr {{sc|Arglwydd}}, a deled i’n mysg ni; fel y cadwo hi ni o law ein gelynion. {{angor|4:4|4}} Felly y bobl a anfonodd i Siloh, ac a ddygasant oddi yno arch cyfammod {{sc|Arglwydd}} y lluoedd, yr hwn sydd yn aros ''rhwng'' y cerubiaid: ac yno ''yr oedd'' dau fab Eli, Hophni a Phinees, gyd âg arch cyfammod {{sc|Duw}}. {{angor|4:5|5}} A phan ddaeth arch cyfammod yr {{sc|Arglwydd}} i’r gwersyll, holl Israel a floeddiasant â bloedd fawr, fel y dadseiniodd y ddaear. {{angor|4:6|6}} A phan glybu y Philistiaid lais y floedd, hwy a ddywedasant, Pa beth ''yw'' llais y floedd fawr hon yng ngwersyll yr Hebreaid? A gwybuant mai arch yr {{sc|Arglwydd}} a ddaethai i’r gwersyll. {{angor|4:7|7}} A’r Philistiaid a ofnasant: o herwydd hwy a ddywedasant, Daeth {{sc|Duw}} i’r gwersyll. Dywedasant hefyd, Gwae ni! canys ni bu y fath beth o flaen hyn. {{angor|4:8|8}} Gwae ni! pwy a’n gwared ni o law y Duwiau nerthol hyn? Dyma y Duwiau a darawsant yr Aiphtiaid â’r holl bläau yn yr anialwch. {{angor|4:9|9}} Ymgryfhêwch, a byddwch wŷr, O Philistiaid; rhag i chwi wasanaethu yr Hebreaid, fel y gwasanaethasant hwy chwi: byddwch wŷr, ac ymleddwch. {{angor|4:10|10}} ¶ A’r Philistiaid a ymladdasant; a lladdwyd Israel, a ffodd pawb i’w babell: a bu lladdfa fawr iawn; canys syrthiodd o Israel ddeng mil ar hugain o wŷr traed. {{angor|4:11|11}} Ac arch {{sc|Duw}} a ddaliwyd; a dau fab Eli, Hophni a Phinees, a fuant feirw. {{angor|4:12|12}} ¶ A gwr ''o'' Benjamin a redodd o’r fyddin, ac a ddaeth i Siloh y diwrnod hwnnw, â’i ddillad wedi ''eu'' rhwygo, a phridd ar ei ben. {{angor|4:13|13}} A phan ddaeth efe, wele Eli yn eistedd ar eisteddfa ''ger'' llaw y ffordd, yn disgwyl: canys yr oedd ei galon ef yn ofni am arch {{sc|Duw}}. A phan ddaeth y gwr i’r ddinas, a mynegi ''hyn'', yr holl ddinas a waeddodd. {{angor|4:14|14}} A phan glywodd Eli lais y waedd, efe a ddywedodd, Beth ''yw'' llais y cynnwrf yma? A’r gwr a ddaeth i mewn ar frys, ac a fynegodd i Eli. {{angor|4:15|15}} Ac Eli ''oedd'' fab tair blwydd ar bymtheg a phedwar ugain; a phallasai ei lygaid ef, fel na allai efe weled. {{angor|4:16|16}} A’r gwr a ddywedodd wrth Eli, Myfi ''sydd'' yn dyfod o’r fyddin, myfi hefyd a ffoais heddyw o’r fyddin. A dywedodd yntau, Pa beth a ddigwyddodd, fy mab? {{angor|4:17|17}} A’r gennad a attebodd, ac a ddywedodd, Israel a ffodd o flaen y Philistiaid; a bu hefyd laddfa fawr ym mysg y bobl, a’th ddau fab hefyd, Hophni a Phinees, a fuant feirw, ac arch {{sc|Duw}} a ddaliwyd. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> f5sixbwkczlmp7g59pxsj1vpjer3bnk Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/291 104 3543 171429 171349 2026-10-07T05:27:20Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171429 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|4:18|18}} A phan grybwyllodd efe am arch {{sc|Duw}}, yntau a syrthiodd oddi ar yr eisteddle yn wysg ei gefn ger llaw y porth; a’i wddf a dorrodd, ac efe a fu farw: canys y gwr ''oedd'' hen a thrwm. Ac efe a farnasai Israel ddeugain mlynedd. {{angor|4:19|19}} ¶ A’i waudd ef, gwraig Phinees, oedd feichiog, ''yn agos'' i esgor: a phan glybu sôn ddarfod dal arch {{sc|Duw}}, a marw o’i chwegrwn a’i gwr, hi a ymgrymmodd, ac a glafychodd: canys ei gwewyr a ddaeth arni. {{angor|4:20|20}} Ac ynghylch y pryd y bu hi farw, y dywedodd ''y gwragedd'' oedd yn sefyll gyd â hi, Nac ofna; canys esgoraist ar fab. Ond nid attebodd hi, ac nid ystyriodd. {{angor|4:21|21}} A hi a alwodd y bachgen Ichabod; gan ddywedyd, Y gogoniant a ymadawodd o Israel; (am ddal arch {{sc|Duw}}, ac am ei chwegrwn a’i gwr.) {{angor|4:22|22}} A hi a ddywedodd, Y gogoniant a ymadawodd o Israel; canys arch {{sc|Duw}} a ddaliwyd. {{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}} {{bach|1 ''Y Philistiaid yn dwyn yr arch i Asdod, ac yn ei gosod yn nhŷ Dagon.'' 3 ''Dwrw Dagon i lawr, a’i dorri yn ddarnau, a tharo gwŷr Asdod â chlwyf y marchogion.'' 8 ''Duw yn gwneuthur felly i wŷr Gath, pan ddygwyd hi yno;'' 10 ''ac felly i wŷr Ecron.''}} {{angor|5:1}} {{uc|A’r}} Philistiaid a gymmerasant arch {{sc|Duw}}, ac a’i dygasant hi o Eben-ezer i Asdod. {{angor|5:2|2}} A’r Philistiaid a gymmerasant arch {{sc|Duw}}, ac a’i dygasant i mewn i dŷ Dagon, ac a’i gosodasant yn ymyl Dagon. {{angor|5:3|3}} ¶ A’r Asdodiaid a gyfodasant yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, ger bron arch yr {{sc|Arglwydd}}. A hwy a gymmerasant Dagon, ac a’i gosodasant eilwaith yn ei le. {{angor|5:4|4}} Codasant hefyd yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, ger bron arch yr {{sc|Arglwydd}}: a phen Dagon, a dwy gledr ei ddwylaw, ''oedd'' wedi torri ar y trothwy; ''corph'' Dagon yn unig a adawyd iddo ef. {{angor|5:5|5}} Am hynny ni sathr offeiriaid Dagon, na neb a ddelo i mewn i dŷ Dagon, ar drothwy Dagon yn Asdod, hyd y dydd hwn. {{angor|5:6|6}} A thrwm fu llaw yr {{sc|Arglwydd}} ar yr Asdodiaid; ac efe a’u distrywiodd hwynt, ac a’u tarawodd hwynt, ''sef'' Asdod a’i therfynau, â chlwyf y marchogion. {{angor|5:7|7}} A phan welodd gwŷr Asdod mai felly ''yr oedd'', dywedasant, Ni chaiff arch {{sc|Duw}} Israel aros gyd â ni: canys caled yw ei law ef arnom, ac ar Dagon ein duw. {{angor|5:8|8}} Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi y Philistiaid attynt; ac a ddywedasant, Beth a wnawn ni i arch {{sc|Duw}} Israel? A hwy a attebasant, Dyger arch {{sc|Duw}} Israel o amgylch ''i'' Gath. A hwy a ddygasant arch {{sc|Duw}} Israel oddi amgylch ''yno''. {{angor|5:9|9}} Ac wedi iddynt ei dwyn hi o amgylch, bu llaw yr {{sc|Arglwydd}} yn erbyn y ddinas â dinystr mawr iawn: ac efe a darawodd wŷr y ddinas o fychan hyd fawr, a chlwyf y marchogion oedd yn eu dirgel-leoedd. {{angor|5:10|10}} Am hynny yr anfonasant hwy arch {{sc|Duw}} i Ecron. A phan ddaeth arch {{sc|Duw}} i Ecron, yr Ecroniaid a waeddasant, gan ddywedyd, Dygasant attom ni o amgylch arch {{sc|Duw}} Israel, i’n lladd ni a’n pobl. {{angor|5:11|11}} Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi y Philistiaid: ac a ddywedasant, Danfonwch ymaith arch {{sc|Duw}} Israel, a dychweler hi adref; fel na laddo hi ni a’n pobl: canys dinystr angeuol ''oedd'' trwy yr holl ddinas; trom iawn oedd llaw {{sc|Duw}} yno. {{angor|5:12|12}} A’r gwŷr, y rhai ni buant feirw, a darawyd â chlwyf y marchogion: a gwaedd y ddinas a ddyrchafodd ''i''’r nefoedd. {{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}} {{bach|1 ''Y Philstiaid, ar ol saith o fisoedd, yn ymgynghori am anfon yr arch yn ei hol:'' 10 ''ac yn ei dwyn hi gyd âg offrwm ar fèn newydd i Beth-semes.'' 19 ''Taro y bobl am edrych yn yr arch.'' 21 ''Hwythau yn anfon at wŷr Ciriath-jearim i’w chyrchu hi.''}} {{angor|6:1}} {{uc|A bu}} arch yr {{sc|Arglwydd}} yng ngwlad y Philistiaid saith o fisoedd. {{angor|6:2|2}} A’r Philistiaid a alwasant am yr offeiriaid ac am y dewiniaid, gan ddywedyd, Beth a wnawn ni i arch yr {{sc|Arglwydd}}? hysbyswch i ni pa fodd yr anfonwn hi adref. {{angor|6:3|3}} Dywedasant hwythau, Os ydych ar ddanfon ymaith arch {{sc|Duw}} Israel, nac anfonwch hi yn wag; ond gan roddi rhoddwch iddo offrwm dros gamwedd: yna y’ch iachêir, ac y bydd hysbys i chwi paham nad ymadawodd ei law ef oddi wrthych chwi. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> hk8tungrzsghz6rle00wqxeb63w8vez Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/355 104 3608 171408 6798 2026-10-06T16:54:52Z Tylopous 3717 penodau 171408 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ein harglwydd frenin Dafydd a osododd Solomon yn frenin. 1:44 A’r brenin a anfonodd gydag ef Solomon ei fab, gan ddywedyd, Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada, a’r Cerethiaid, a’r Pelethiaid; a hwy a barasant iddo ef farchogaeth ar fules y brenin. 1:45 A Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd a’i heneiniasant ef yn frenin yn Gihon: a hwy a ddaethant i fyny oddi yno yn llawen; a’r ddinas a derfysgodd. Dyna’r twrf a glywsoch chwi. 1:46 Ac y mae Solomon yn eistedd ar orseddfainc y frenhiniaeth. 1:47 A gweision y brenin a ddaethant hefyd i fendithio ein harglwydd frenin Dafydd, gan ddywedyd, Dy DDUW a wnelo enw Solomon yn well na’th enw di, ac a wnelo yn fwy ei orseddfainc ef na’th orseddfainc di. A’r brenin a ymgrymodd ar y gwely. 1:48 Fel hyn hefyd y dywedodd y brenin: Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a roddodd heddiw un i eistedd ar fy ngorseddfainc, a’m llygaid innau yn gweled hynny. 1:49 A’r holl wahoddedigion, y rhai oedd gydag Adoneia, a ddychrynasant, ac a gyfodasant, ac a aethant bob un ei ffordd. 1:50 Ac Adoneia oedd yn ofni rhag Solomon; ac a gyfododd, ac a aeth ac a ymaflodd yng nghyrn yr allor. 1:51 A mynegwyd i Solomon, gan ddywedyd, Wele, y mae Adoneia yn ofni’r brenin Solomon: canys wele, efe a ymafl¬ odd yng nghyrn yr allor, gan ddywedyd, Tynged y brenin Solomon i mi heddiw, na ladd efe ei was â’r cleddyf. 1:52 A dywedodd Solomon, Os bydd efe yn ŵr da, ni syrth un o’i wallt ef i lawr; ond os ceir drygioni ynddo ef, efe a fydd marw. 1:53 A’r brenin Solomon a anfonodd, a hwy a’i dygasant ef oddi wrth yr allor. Ac efe a ddaeth, ac a ymgrymodd i’r brenin Solomon. A dywedodd Solomon wrtho, Dos i’th dŷ. {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn rhoi cynghor i Solomon,'' 3 ''i fod yn dduwiol,'' 5 ''ynghylch Joab,'' 7 ''Barzìlai,'' 8 ''a Simei;'' 10 ''ac yn marw.'' 12 ''Solomon yn frenhin ar ei ol ef.'' 13 ''Adonïah yn ceisio gan Bathseba ddywedyd wrth Solomon am Abisag, ac yn cael ei ddihenydd.'' 26 ''Abïathar yn cael ei hoedl, ac yn colli yr offeiriadaeth.'' 28 ''Joab yn ffoi at gyrn yr allor, a’i ladd ef;'' 35 ''a gosod Benaiah yn lle Joab, a Sadoc yn lle Abïathar.'' 36 ''Simei yn cael gorchymyn i aros yn Jerusalem; ac am fyned i Gath, yn gorfod arno farw.''}} {{angor|2:1}} {{uc|Yna}} dyddiau Dafydd a nesasant i farw; ac efe a orchmynnodd i Solomon ei fab, gan ddywedyd, 2:2 Myfi wyf yn myned ffordd yr holl ddaear; am hynny ymnertha, a bydd ŵr; 2:3 A chadw gadwraeth yr ARGLWYDD dy DDUW, i rodio yn ei ffyrdd ef, i gadw ei ddeddfau ef, a'i orchmynion, a'i farnedigaethau, a'i dystiolaethau, fel yr ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses; fel y llwyddych yn yr hyn oll a wnelych, ac i ba le bynnag y tröech: 2:4 Fel y cyflawno yr ARGLWYDD ei air a lefarodd efe wrthyf, gan ddywedyd, Os dy feibion a gadwant eu ffyrdd, i rodio ger fy mron mewn gwirionedd, â'u holl galon, ac â'u holl enaid, ni thorrir (eb efe) na byddo ohonot ŵr ar orseddfainc Israel. 2:5 Tithau hefyd a wyddost yr hyn a wnaeth Joab mab Serfia â mi, a'r hyn a wnaeth efe i ddau o dywysogion lluoedd Israel, i Abner mab Ner, ac i Amasa mab Jether, y rhai a laddodd efe, ac a ollyngodd waed rhyfel mewn heddwch, ac a roddodd waed rhyfel ar ei wregys oedd am ei lwynau, ac yn ei esgidiau oedd am ei draed. 2:6 Am hynny gwna yn ôl dy ddoethineb, ac na ad i'w benllwydni ef ddisgyn i'r bedd mewn heddwch. 2:7 Ond i feibion Barsilai y Gileadiad y gwnei garedigrwydd, a byddant ymysg y rhai a fwytânt ar dy fwrdd di: canys felly y daethant ataf fi pan oeddwn yn ffoi rhag Absalom dy frawd di. 2:8 Wele hefyd Simei mab Gera, mab Jemini, o Bahurim, gyda thi, yr hwn a'm melltithiodd i â melltith dost, y dydd yr euthum i Mahanaim: ond efe a ddaeth i waered i'r Iorddonen i gyfarfod â mi; a mi a dyngais i'r ARGLWYDD wrtho ef, gan ddywedyd, Ni'th laddaf â'r cleddyf. 2:9 Ond yn awr na ad di ef heb gosbedigaeth: canys gŵr doeth ydwyt ti, a gwyddost beth a wnei iddo: dwg dithau ei benwynni ef i waered i’r bedd mewn gwaed. 2:10 Felly Dafydd a hunodd gyd<noinclude><references/></noinclude> sxyzyjub62rf1hojb8moxsynfcnhzol Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/357 104 3610 171409 6803 2026-10-06T16:58:00Z Tylopous 3717 penodau 171409 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>efe a ruthrodd ar ddau ŵr cyfiawnach a gwell nag ef ei hun, ac a’u lladdodd hwynt â’r cleddyf , a Dafydd fy nhad heb wybod; sef Abner mab Ner, tywysog llu Israel, ac Amasa mab Jether, tywysog llu Jwda. 2:33 A’u gwaed hwynt a ddychwel ar ben Joab, ac ar ben ei had ef yn dragywydd: ond i Dafydd, ac i’w had, ac i’w dŷ, ac i’w orseddfainc, y bydd heddwch yn dragywydd gan yr ARGLWYDD. 2:34 Felly yr aeth Benaia mab Jehoiada i fyny, ac a ruthrodd arno, ac a’i lladdodd. Ac efe a gladdwyd yn ei dŷ ei hun yn yr anialwch. 2:35 A’r brenin a osododd Benaia mab Jehoiada yn ei le ef ar y filwriaeth. A’r brenin a osododd Sadoc yr offeiriad yn lle Abiathar. 2:36 A’r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei, ac a ddywedodd wrtho, Adeilada i ti dŷ yn Jerwsalem, ac aros yno, ac na ddos allan oddi yno nac yma na thraw. 2:37 Canys bydd, y dydd yr elych allan, ac yr elych dros afon Cidron, gan wybod y cei di wybod y lleddir di yn farw: dy waed fydd ar dy ben dy hun. 2:38 A dywedodd Simei wrth y brenin, Da yw y gair: fel y dywedodd fy arglwydd frenin, felly y gwna dy was. A Simei a drigodd yn Jerwsalem ddyddiau lawer. 2:39 Eithr ymhen tair blynedd y ffodd dau was i Simei at Achis, mab Maacha, brenin Gath. A mynegwyd i Simei, gan ddywedyd, Wele dy weision di yn Gath. 2:40 A Simei a gyfododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a aeth i Gath at Achis, i geisio ei weision: ie, Simei a aeth, ac a gyrchodd ei weision o Gath. 2:41 A mynegwyd i Solomon, fyned o Simei o Jerwsalem i Gath, a’i ddychwelyd ef. 2:42 A’r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei, ac a ddywedodd wrtho. Oni pherais i ti dyngu i’r ARGLWYDD, ac oni thystiolaethais wrthyt, gan ddywedyd, Yn y dydd yr elych allan, ac yr elych nac yma nac acw, gan wybod gwybydd y lleddir di yn farw? a thi a ddywedaist wrthyf. Da yw y gair a glywais. 2:43 Paham gan hynny na chedwaist lw yr ARGLWYDD, a’r gorchymyn a orchmynnais i ti,? 2:44 A dywedodd y brenin wrth Simei, Ti a wyddost yr holl ddrygioni a ŵyr dy galon, yr hwn a wnaethost ti yn erbyn Dafydd fy nhad: yr ARGLWYDD am hynny a ddychwelodd dy ddrygioni di ar dy ben dy hun; 2:45 A bendigedig fydd y brenin Solo¬mon, a gorseddfainc Dafydd a sicrheir o flaen yr ARGLWYDD yn dragywydd. 2:46 Felly y gorchmynnodd y brenin i Benaia mab Jehoiada; ac efe a aeth allan, ac a ruthrodd arno ef, fel y bu efe farw. A’r frenhiniaeth a sicrhawyd yn llaw Solomon. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Solomon yn prïodi merch Pharaoh:'' 2 ''ac wrth aberthu yn uchelfa Gibeon,'' 5 ''yn cael gan Dduw ei ddewis rodd, ac yn dewis doethineb; ac yn cael doethineb, a chyfoeth, ac anrhydedd.'' 16 ''Barn Solomon rhwng y ddwy buttain, yn ei wneuthur ef yn enwog.''}} {{angor|3:1}} {{uc|A Solomon}} a ymgyfathrachodd â Pharo brenin yr Aifft, ac a briododd ferch Pharo, ac a’i dug hi i ddinas Dafydd, nes darfod iddo adeiladu ei dŷ ei hun, a thŷ yr ARGLWYDD, a mur Jerw¬salem oddi amgylch. 3:2 Eto y bobl oedd yn aberthu mewn uchelfaoedd, oherwydd nad adeiladasid tŷ i enw yr ARGLWYDD, hyd y dyddiau hynny. 3:3 A Solomon a garodd yr ARGLWYDD, gan rodio yn neddfau Dafydd ei dad: eto mewn uchelfaoedd yr oedd efe yn aberthu ac yn arogl-darthu. 3:4 A’r brenin a aeth i Gibeon i aberthu yno: canys honno oedd uchelfa fawr. Mil o boethoffrymau a offrymodd Solo¬mon ar yr allor honno. 3:5 Yn Gibeon yr ymddangosodd yr ARGLWYDD i Solomon mewn breuddwyd liw nos: a dywedodd Duw, Gofyn beth a roddaf i ti. 3:6 A dywedodd Solomon, Ti a wnaethost â’th was Dafydd fy nhad fawr drugaredd, megis y rhodiodd efe o’th flaen di mewn gwirionedd, ac mewn cyfiawnder, ac mewn uniondeb calon gyda thi; ie, cedwaist iddo y drugaredd fawr honi a rhoddaist iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc, fel y gwelir heddiw. 3:7 Ac yn awr, O ARGLWYDD fy Nuw, ti a wnaethost i’th was deyrnasu yn lle Dafydd fy nhad: a minnau yn fachgen bychan: ni fedraf fyned nac allan nac i mewn. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> gr9hnxofnnr6y0oxk597puidywcue0i Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/358 104 3611 171410 6804 2026-10-06T17:00:25Z Tylopous 3717 penodau 171410 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>3:8 A’th was sydd ymysg dy bobl, y rhai a ddewisaist ti; pobl aml, y rhai ni rifir ac nis cyfrifir gan luosowgrwydd. 3:9 Am hynny dyro i’th was galon ddeallus, i farnu dy bobl, i ddeall rhagot rhwng da a drwg: canys pwy a ddichon farnu dy luosog bobl hyn? 3:10 A’r peth fu dda yng ngolwg yr ARGLWYDD, am ofyn o Solomon y peth hyn. 3:11 A Duw a ddywedodd wrtho, Oherwydd gofyn ohonot y peth hyn, ac na ofynnaist i ti ddyddiau lawer, ac na ofynnaist i ti olud, ac na cheisiaist einioes dy elynion, eithr gofynnaist i ti ddeall i wrando barn: 3:12 Wele, gwneuthum yn ôl dy eiriau; wele, rhoddais i ti galon ddoeth a deallus, fel na bu dy fath o’th flaen, ac na chyfyd dy fath ar dy ôl. 3:13 A rhoddais i ti hefyd yr hyn nis gofynnaist, golud, a gogoniant hefyd; fel na byddo un o’th fath ymysg y brenhinoedd, dy holl ddyddiau di. 3:14 Ac os rhodi yn fy ffyrdd i, gan gadw fy neddfau a’m gorchmynion, megis y rhodiodd Dafydd dy dad, estynnaf hefyd dy ddyddiau di. 3:15 A Solomon a ddeffrodd; ac wele, breuddwyd oedd. Ac efe a ddaeth i Jerwsalem, ac a safodd o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac a offrymodd offrymau poeth, ac a aberthodd aberthau hedd, ac a wnaeth wledd i’w holl weision. 3:16 Yna dwy wraig o buteiniaid a ddaethant at y brenin, ac a safasant ger ei fron ef. 3:17 A’r naill wraig a ddywedodd, O fy arglwydd, myfi a’r wraig hon oeddem yn trigo yn yr un tŷ; a mi a esgorais yn tŷ gyda hi. 3:18 Ac ar y trydydd dydd wedi esgor ohonof fi, yr esgorodd y wraig hon hefyd ac yr oeddem ni ynghyd, heb arall yn tŷ gyda ni, ond nyni ein dwyoedd yn tŷ. 3:19 A mab y wraig hon a fu farw liw nos; oherwydd hi a orweddodd arno ef. 3:20 A hi a gododd yng nghanol y nos, ac a gymerodd fy mab i o’m hymyl, tra yr ydoedd dy lawforwyn yn cysgu, ac a’i gosododd ef yn ei mynwes hi, a’i mab marw hi a osododd hi yn fy mynwes innau. 3:21 A phan godais i y bore i beri i’m mab sugno, wele, marw oedd efe; ac wedi i mi ddal arno y bore, wele, nid fy mab i, yr hwn a esgoraswn i, ydoedd efe. 3:22 A’r wraig arall a ddywedodd, Nage, eithr fy mab i yw y byw, a’th fab dithau yw y marw. A hon a ddywedodd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a’m mab i yw y byw. Fel hyn y llefarasant o flaen y brenin. 3:23 Yna y dywedodd y brenin, Hon sydd yn dywedyd, Dyma fy mab i sydd fyw, a’th fab dithau yw y marw: a hon acw sydd yn dywedyd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a’m mab innau yw y byw. 3:24 A dywedodd y brenin, Dygwch i mi gleddyf. A hwy a ddygasant gleddyf o flaen y brenin. 3:25 A’r brenin a ddywedodd, Rhennwch: y bachgen byw yn ddau, a rhoddwch yr hanner i’r naill, a’r hanner i’r llall. 3:26 Yna y dywedodd y wraig bioedd y mab byw wrth y brenin, (canys ei hymysgaroedd a gynesasai wrth ei mab,) ac a. lefarodd, O fy arglwydd, rhoddwch iddi hi y bachgen byw, ac na leddwch ef ddim: ond y llall a ddywedodd, Na fydded eiddof fi na thithau, eithr rhennwch ef. 3:27 Yna yr atebodd y brenin, ac y dywedodd, Rhoddwch y bachgen byw iddi hi, ac na leddwch ef ddim: dyna ei farn ef. 3:28 A holl Israel a glywsant y farn a farnasai y brenin; a hwy a ofnasant y brenin: canys gwelsant fod doethineb Duw ynddo ef i wneuthur barn. {{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Tywysogion Solomon,'' 7 ''a deuddeg swyddog ei lys ef;'' 20, 24 ''a heddwch a helaethrwydd ei frenhiniaeth;'' 22 ''ac arlwy ei fwrdd,'' 26 ''a’i stablau;'' 29 ''a’i doethineb,'' 32 ''a’i lyfrau.''}} {{angor|4:1}} {{uc|A’r}} brenin Solomon oedd frenin ar holl Israel. 4:2 A dyma y tywysogion oedd ganddo ef: Asareia mab Sadoc, yr offeiriad; 4:3 Elihoreff ac Ahia, meibion Sisa, oeddi ysgrifenyddion; Jehosaffat mab Ahilud, yn gofiadur; 4:4 Benaia mab Jehoiada oedd ar y llu; a Sadoc ac Abiathar, yn offeiriaid; 4:5 Ac Asareia mab Nathan oedd ar y swyddogion; a Sabud mab Nathan oedd ben-llywydd, ac yn gyfaill i’r brenin; {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 64hpho1dwgc4h057p58icz8lbo4t0k3 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/359 104 3612 171411 6805 2026-10-06T17:02:33Z Tylopous 3717 penodau 171411 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>4:6 Ac Ahisar oedd benteulu; ac Adoniram mab Abda, ar y deyrnged. 4:7 A chan Solomon yr ydoedd deuddeg o swyddogion ar holl Israel, y rhai a baratoent luniaeth i’r brenin a’i dŷ: mis yn y flwyddyn yr oedd ar bob un ddarparu. 4:8 Dyma eu henwau hwynt. Mab Hur, ym mynydd Effraim. 4:9 Mab Decar ym Macas, ac yn Saalbim, a Beth-semes, ac Elon-bethanan. 4:10 Mab Hesed, yn Aruboth: iddo efyr oedd Socho, a holl dir Heffer. 4:11 Mab Abinadab oedd yn holl ardal Dor: Taffath merch Solomon oedd yn wraig iddo ef. 4:12 Baana mab Ahilud oedd yn Taanach, a Megido, a Bethsean oll, yr hon sydd gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Bethsean hyd Abel-mehola, hyd y tu hwnt i Jocneam. 4:13 Mab Geber oedd yn Ramoth-Gilead: iddo ef yr oedd trefydd Jair mab Manasse, y rhai sydd yn Gilead: eiddo ef oedd ardal Argob, yr hon sydd yn Basan; sef trigain o ddinasoedd mawrion, â chaerau a barrau pres. 4:14 Ahinadab mab Ido oedd ym Mahariaim. 4:15 Ahimaas oedd yn Nafftali: yntau a gymerodd Basmath merch Solomon yn wraig. 4:16 Baana mab Husai oedd yn Aser ac yn Aloth. 4:17 Jehosaffat mab Parua oedd yn Issachar. 4:18 Simei mab Ela oedd o fewn Benjamin. 4:19 Geber mab Uri oedd yng ngwlad Gilead, gwlad Sehon brenin yr Amoriaid.y ac Og brenin Basan; a’r unig swyddog oedd yn y wlad ydoedd efe. 4:20 Jwda ac Israel oedd aml, fel y tywod sydd gerllaw y môr o amldra, yn bwyta ac yn yfed, ac yn gwneuthur yn llawen. 4:21 A Solomon oedd yn llywodraethi ar yr holl deyrnasoedd, o’r afon hyd wlad y Philistiaid, ac hyd derfyn yr Aifft: yr oeddynt hwy yn dwyn anrhegion, ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei einioes ef. 4:22 A bwyd Solomon beunydd oedd ddeg corus ar hugain o beilliaid, a thrigain corus o flawd; 4:23 Deg o ychen pasgedig, ac ugain o ychen porfadwy, a chant o ddefaid, heblaw ceirw, ac iyrchod, a buail, ac ednod breision. 4:24 Canys efe oedd yn llywodraethu ar y tu yma i’r afon oll, o Tiffsa byd Assa, ar yr holl frenhinoedd o’r tu yma i’r afon: ac yr oedd iddo ef heddwch o bob parth iddo o amgylch. 4:25 Ac yr oedd Jwda ac Israel yn preswylio yn ddiogel, bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, o Dan hyd Beer-seba, holl ddyddiau Solomon. 4:26 Ac yr oedd gan Solomon ddeugain mil o bresebau meirch i’w gerbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch. 4:27 A’r swyddogion hynny a baratoent luniaeth i Solomon y brenin, ac i bawb a ddelai i fwrdd y brenin Solomon, pob un yn ei fis: ni adawsant eisiau dim. 4:28 Haidd hefyd a gwellt a ddygasant hwy i’r meirch, ac i’r cyflym gamelod, i’r fan lle y byddai y swyddogion, pob un ar ei ran. 4:29 A Duw a roddodd ddoethineb i Solomon, a deall mawr iawn, a helaethdra calon, fel y tywod sydd ar fin y môr. 4:30 A doethineb Solomon oedd fwy na doethineb holl feibion y dwyrain, ac na holl ddoethineb yr Aifft. 4:31 Ie, doethach oedd efe nag un dyn; nag Ethan yr Esrahiad, na Heman, nai. Chalcol, na Darda, meibion Mahol: a’i enw ef oedd ymhlith yr holl genhedloedd oddi amgylch. 4:32 Ac efe a lefarodd dair mil o ddiarhebion: a’i ganiadau ef oedd fil a phump. 4:33 Llefarodd hefyd am brennau, o’r cedrwydd sydd yn Libanus, hyd yr isop a dyf allan o’r pared: ac efe a lefarodd am anifeiliaid, ac am ehediaid, ac am ymlusgiaid, ac am bysgod. 4:34 Ac o bob pobloedd y daethpwyd i wrando doethineb Solomon, oddi wrth holl frenhinoedd y ddaear, y rhai a glywsent am ei ddoethineb ef. {{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}} {{bach|1 ''Hiram yn gyrru i gyfarch Solomon, ac yn cael gwybod ei fod ef ar fedr adeiladu y deml, ac yn addaw defnyddiau i’r gwaith.'' 7 ''Hiram yn bendithio Duw dros Solomon, yn cael ymborth i’w deulu, ac yn gyrru coed i Solomon.'' 13 ''Rhifedi gweithwyr Solomon.''}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> kroh0xk7evirt2qweh8m1toi84qhenl Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/360 104 3613 171412 6806 2026-10-06T17:04:56Z Tylopous 3717 penodau 171412 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>5:1 Hiram hefyd brenin Tyrus a anfonodd ei weision at Solomon; canys clybu eneinio ohonynt hwy ef yn frenin yn lle ei dad: canys hoff oedd gan Hiram Dafydd bob amser. 5:2 A Solomon a anfonodd at Hiram, gan ddywedyd, 5:3 Ti a wyddost am Dafydd fy nhad, na allai efe adeiladu ty` i enw yr ARGLWYDD ei DDUW, gan y rhyfeloedd oedd o’i amgylch ef, nes rhoddi o’r ARGLWYDD hwynt dan wadnau ei draed ef. 5:4 Eithr yn awr yr ARGLWYDD fy Nuw a roddodd i mi lonydd oddi amgylch, fel nad oes na gwrthwynebydd, nac ymgyfarfod niweidiol. 5:5 Ac wele fi a’m bryd ar adeiladu tŷ i enw yr ARGLWYDD fy Nuw; megis y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Dafydd fy nhad, gan ddywedyd, Dy fab, yr hwn a osodaf fi yn dy le di ar dy orseddfainc di, efe a adeilada dŷ i’m henw i. 5:6 Yn awr, gan hynny, gorchymyn dorri ohonynt i mi gedrwydd o Libanus; a’m gweision i a fyddant gyda’th weision di: a rhoddaf atat gyflog dy weision, yn ôl yr hyn a ddywedych: canys ti a wyddost nad oes yn ein plith ni ŵr a fedro gymynu coed megis y Sidoniaid. 5:7 A bu, pan glybu Hiram eiriau Solomon, lawenychu ohono ef yn ddirfawr, a dywedyd, Bendigedig yw yr ARGLWYDD heddiw, yr hwn a roddes i Dafydd fab doeth ar y bobl luosog yma. 5:8 A Hiram a anfonodd at Solomon, gan ddywedyd, Gwrandewais ar yr hyn a anfonaist ataf: mi a wnaf dy holl ewyllys di am goed cedrwydd, a choed ffynidwydd. 5:9 Fy ngweision a’u dygant i waered o Libanus hyd y môr: a mi a’u gyrraf hwynt yn gludeiriau ar hyd y môr, hyd y fan a osodych di i mi; ac yno y datodaf hwynt, a chymer di hwynt: ond ti a wnei fy ewyllys innau, gan roddi ymborth i’m teulu i. 5:10 Felly yr oedd Hiram yn rhoddi i Solomon o goed cedrwydd, ac o goed ffynidwydd, ei holl ddymuniad. 5:11 A Solomon a roddodd i Hiram ugain mil corus o wenith yn gynhaliaeth i’w dŷ, ac ugain corus o olew coeth: felly y rhoddai Solomon i Hiram bob blwyddyn. 5:12 A’r ARGLWYDD a roddes ddoeth¬ineb i Solomon, fel y dywedasai wrtho: a bu heddwch rhwng Hiram a Solomon; a hwy a wnaethant gyfamod ill dau. 5:13 A’r brenin Solomon a gyfododd dreth o holl Israel, a’r dreth oedd ddeng mil ar hugain o wŷr. 5:14 Ac efe a’u hanfonodd hwynt i Libanus, deng mil yn y mis ar gylch: mis y byddent yn Libanus, a dau fis gartref. Ac Adoniram oedd ar y dreth. 5:15 Ac yr oedd gan Solomon ddeng mil a thrigain yn dwyn beichiau, a phedwar ugain mil yn naddu cerrig yn y mynydd; 5:16 Heb law pen-swyddogion Solomon, y rhai oedd ar y gwaith, sef tair mil a thri chant, yn llywodraethu y bobl a weithient yn y gwaith. 5:17 A’r brenin a orchmynnodd ddwyn ohonynt hwy feini mawr, a meini costus, a meini nadd, i sylfaenu y tŷ. 5:18 Felly seiri Solomon, a seiri Hiram, a’r Gibliaid, a naddasant, ac a ddarparasant goed a cherrig i adeiladu’r tŷ. {{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}} {{bach|1 ''Adeiladu teml Solomon,'' 5 ''a’i ystafelloedd.'' 11 ''Addewid Duw i’r deml.'' 15 ''Byrddio ac addurno y deml.'' 23 ''Y cerubiaid.'' 31 ''Y dorau.'' 36 ''Y cyntedd.'' 37 ''Yr hŷd y buwyd yn adeiladu y deml.''}} {{angor|6:1}} {{uc|Ac}} yn y bedwar ugeinfed a phedwar cant o flynyddoedd wedi dyfod meibion Israel allan o’r Aifft, yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Solomon ar Israel, yn y mis Sif, hwnnw yw yr ail fis, y dechreuodd efe adeiladu tŷ yr ARGLWYDD. 6:2 A’r tŷ a adeiladodd y brenin Solomon i’r ARGLWYDD oedd drigain cufydd ei hyd, ac ugain cufydd ei led, a deg cufydd ar hugain ei uchder. 6:3 A’r porth o flaen teml y tŷ oedd ugain cufydd ei hyd, yn un hyd a lled y tŷ; ac yn ddeg cufydd ei led, o flaen y tŷ. 6:4 Ac efe a wnaeth i’r tŷ ffenestri, yn llydain oddi fewn, ac yn gyfyng oddi allan. 6:5 Ac efe a adeiladodd wrth fur y tŷ ystafelloedd oddi amgylch mur y tŷ, ynghylch y deml, a’r gafell; ac a wnaeth gelloedd o amgylch. 6:6 Yr ystafell isaf oedd bûm cufydd ei lled, a’r ganol chwe chufydd ei<noinclude><references/></noinclude> cfrcw625m2t8ctb9qc7lbb6vajdqr0r Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/362 104 3615 171413 6808 2026-10-06T17:35:42Z Tylopous 3717 penodau 171413 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>nynt; ac a’u gwisgodd ag aur, yr hwn a gymhwyswyd ar y cerfiad. 6:36 Ac efe a adeiladodd y cyntedd nesaf i mewn â thair rhes o gerrig nadd, ac â rhes o drawstiau cedrwydd.: . 6:37 Yn y bedwaredd flwyddyn y sylfaenwyd tŷ yr ARGLWYDD, ym mis Sif: 6:38 Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, ym mis Bul, (dyna yr wythfed mis,) y gorffennwyd y tŷ, a’i holl rannau, a’i holl berthynasau. Felly mewn saith mlynedd yr adeiladodd efe ef. {{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}} {{bach|1 ''Adeiladu tŷ Solomon,'' 2 ''a thŷ coed Libanus,'' 6 ''a’r porth colofnau,'' 7 ''a phorth y frawdle,'' 8 ''a thŷ merch Pharaoh.'' 13 ''Gwaith Hiram ar y ddwy golofn.'' 23 ''Y môr tawdd.'' 27 ''Y deg ystôl.'' 38 ''Y deg noe bres,'' 40 ''a’r holl lestri.''}} {{angor|7:1}} {{uc|Eithr}} ei dŷ ei hun a adeiladodd Solomon mewn tair blynedd ar ddeg, ac a orffennodd ei holl dŷ. 7:2 Efe a adeiladodd dŷ coedwig Libanus, yn gan cufydd ei hyd, ac yn ddeg cufydd a deugain ei led, ac yn ddeg cufydd ar hugain ei uchder, ar bedair rhes o golofnau cedrwydd, a thrawstiau cedrwydd ar y colofnau. 7:3 Ac efe a dowyd â chedrwydd oddi arnodd ar y trawstiau oedd ar y pum colofn a deugain, pymtheg yn y rhes. 7:4 Ac yr oedd tair rhes o ffenestri, golau ar gyfer golau, yn dair rhenc. 7:5 A’r holl ddrysau a’r gorsingau oedd ysgwar, felly yr oedd y ffenestri; a golau ar gyfer golau, yn dair rhenc. 7:6 Hefyd efe a wnaeth borth o golofn¬au, yn ddeg cufydd a deugain ei hyd, ac yn ddeg cufydd ar hugain ei led: a’r porth oedd o’u blaen hwynt; a’r colofn¬au eraill a’r swmerau oedd o’u blaen hwythau. 7:7 Porth yr orseddfa hefyd, yr hwn y barnai efe ynddo, a wnaeth efe yn borth barn: ac efe a wisgwyd â chedrwydd o’r naill gŵr i’r llawr hyd y llall. 7:8 Ac i’w dŷ ei hun, yr hwn y trigai efe ynddo, yr oedd cyntedd arall o fewa y porth o’r un fath waith. Gwnaeth hefyd dŷ i ferch Pharo, yr hon a briodasai Solomon, fel y porth hwn. 7:9 Hyn oll oedd o feini costus, wedi eu naddu wrth fesur, a’u lladd â llif, oddi fewn ac oddi allan, a hynny o’r sylfaen hyd y llogail; ac felly o’r tu allan hyd y cyntedd mawr. 7:10 Ac efe a sylfaenesid â meini costus, â meini mawr, â meini o ddeg cufydd, ac â meini o wyth gufydd. 7:11 Ac oddi arnodd yr oedd meini costus, wedi eu naddu wrth fesur, a chedrwydd. 7:12 Ac i’r cyntedd mawr yr oedd o amgylch, dair rhes o gerrig nadd, a rhes o drawstiau cedrwydd, i gyntedd tŷ yr ARGLWYDD oddi fewn, ac i borth y tŷ. 7:13 A’r brenin Solomon a anfonodd ac a gyrchodd Hiram o Tyrus. 7:14 Mab gwraig weddw oedd hwn o lwyth Nafftali, a’i dad yn ŵr o Tyrus: gof pres ydoedd efe, a llawn ydoedd o ddoethineb, a deall, a gwybodaeth, i weithio pob gwaith o bres. Ac efe a ddaeth at y brenin Solomon, ac a weithiodd ei holl waith ef. 7:15 Ac efe a fwriodd ddwy golofn o bres; deunaw cufydd oedd uchder pob colofn; a llinyn o ddeuddeg cufydd a amgylchai bob un o’r ddwy. 7:16 Ac efe a wnaeth ddau gnap o bres tawdd, i’w rhoddi ar bennau y colofnau; pum cufydd oedd uchder y naill gnap, a phum cufydd uchder y cnap arall. 7:17 Efe a wnaeth rwydwaith, a phlethiadau o gadwynwaith, i’r cnapiau oedd ar ben y colofnau; saith i’r naill gnap, a saith i’r cnap arall. 7:18 Ac efe a wnaeth y colofnau, a dwy res o bomgranadau o amgylch ar y naill rwydwaith, i guddio’r cnapiau oedd uwchben; ac felly y gwnaeth efe i’r cnap arall. 7:19 A’r cnapiau y rhai oedd ar y colofnau oedd o waith lili, yn y porth, yn bedwar cufydd. 7:20 Ac i’r cnapiau ar y ddwy golofn oddi arnodd, ar gyfer y canol, yr oedd pomgranadau, y rhai oedd wrth y rhwydwaith; a’r pomgranadau oedd ddau cant, yn rhesau o amgylch, ar y cnap arall. 7:21 Ac efe a gyfododd y colofnau ym mhorth y deml: ac a gyfododd y golofn ddeau, ac a alwodd ei henw hi Jachin; ac efe a gyfododd y golofn aswy, ac a alwodd ei henw hi Boas. 7:22 Ac ar ben y colofnau yr oedd gwaith lili. Felly y gorffennwyd gwaith y colofn¬au. 7:23 Ac efe a wnaeth fôr tawdd yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl: yn grwn<noinclude><references/></noinclude> aon7qmkbru8dn67uwghvpokbqyjzr9k Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/364 104 3617 171414 6810 2026-10-06T17:37:17Z Tylopous 3717 penodau 171414 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>7:51 Felly y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth y brenin Solomon i dŷ yr AR¬GLWYDD. A Solomon a ddug i mewn yr hyn a gysegrasai Dafydd ei dad; yr arian, a’r aur, a’r dodrefn, a roddodd efe ymhlith trysorau tŷ yr ARGLWYDD. {{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}} {{bach|1 ''Gwyl cyssegriad y deml.'' 12, 55 ''Bendith Solomon,'' 22 ''a’i weddi,'' 62 ''a’i hedd-aberth.''}} {{angor|8:1}} {{uc|Yna}} Solomon a gasglodd henuriaid Israel, a holl bennau y llwythau, a thywysogion tadau meibion Isreal, at at y brenin Solomon, yn Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch cyfamod yr ARGLWYDD o ddinas Dafydd, honno yw Seion. º2 A holl wŷr Israel a ymgynullasant at y brenin Solomon, ar yr wyl, ym mis Ethanim, hwnnw yw y seithfed mis. º3 A holl henuriaid Israel a ddaethant, a’r offeiriaid a godasant yr arch i fyny. º4 A hwy a ddygasant i fyny arch yr ARGLWYDD, a phabell y cyfarfod, a holl lestri’r cysegr y rhai oedd yn y babell, a’r offeiriaid a’r Lefiaid a’u dygasant hwy i fyny. º5 A’r brenin Solomon, a holl gynull-eidfa Israel, y rhai a ymgynullasai ato ef, oedd gydag ef o flaen yr arch, yn aberthu defaid, a gwartheg, y rhai ni rifid ac ni chyfrifid, gan luosowgrwydd. º6 Felly yr offeiriaid a ddygasant arch cyfamod yr ARGLWYDD i’w lle ei hun, i gafell y tŷ, i’r cysegr sancteiddiaf, dan adenydd y ceriwbiaid. º7 Canys y ceriwbiaid oedd yn lledu eu hadenydd dros Ie yr arch; a’r ceriwbiaid a orchuddient yr arch, a’i barrau oddi arnodd. º8 A’r barrau a estynasant, fel y gwelid pennau y barrau o’r cysegr o flaen y gafell, ond nis gwelid oddi allan: yno y maent hwy hyd y dydd hwn. º9 Nid oedd dim yn yr arch ond y ddwy lech faen a osodasai Moses yno yn Horeb, lle y cyfamododd yr ARGLWYDD a meibion Israel, pan oeddynt yn dyfod o wlad yr Aifft. º10 A phan ddaeth yr offeiriaid allan o’r cysegr, y cwmwl a lanwodd dŷ yr ARGLWYDD, º11 Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu, oherwydd y cwmwl: canys gogoniant yr ARGLWYDD a lanwasai d yr ARGLWYDD. º12 Yna y dywedodd Solomon, Yr ARGLWYDD a ddywedodd, y preswyliai efe yn y tywyllwch. º13 Gan adeiladu yr adeiledais d yn breswylfod i ti, trigle i ti i aros yn dragy-wydd ynddo. º14 A’r brenin a drodd ei wyneb, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel. A holl gynulleidfa Israel oedd yn sefyll. º15 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a lefarodd a’i enau wrth Dafydd fy nhad, ac a’i cwblhaodd a’i law, gan ddywedyd, º16 Er y dydd y dygais fy mhobl Israel allan o’r Aifft, ni ddewisais ddinas o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ, fel y byddai fy enw i yno: eithr dewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel. º17 Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw ARGLWYDD DDUW Israel. º18 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Dafydd fy nhad, Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu t i’m henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon: º19 Eto nid adeiledi di y tŷ; ond dy fab di, yr hwn a ddaw allan o’th lwynau di, efe a adeilada y tŷ i’m henw i. º20 A’r ARGLWYDD a gywirodd ei air a lefarodd efe; a mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad, ac a eisteddais ar deymgadair Israel, megis y llefarodd yr AR¬GLWYDD, ac a adeiledais dŷ i enw AR¬GLWYDD DDUW Israel. º31 A mi a osodais yno Ie i’r arch, yr hon y mae ynddi gyfamod yr ARGLWYDD, yr hwn a gyfamododd efe a’n tadau ni, pan ddug efe hwynt allan o wlad yr Aifft. º22 A Solomon a safodd o flaen allor yr ARGLWYDD, yng ngŵydd holl gynull¬eidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd: º23 Ac efe a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Israel, nid oes Duw fel tydi, yn y nefoedd oddi uchod, nac ar y ddaear oddi isod, yn cadw cyfamod a xxx thrugaredd a’th weision sydd yn rhodio ger dy fron di a’u holl galon; º24 Yr hwn a gedwaist a’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho: traethaist hefyd a’th enau, a chwblheaist a’th law, megis heddiw y mae. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> bgr0lfwnfaxsf3z59zzmzm3suepijda Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/366 104 3619 171415 6812 2026-10-06T17:40:13Z Tylopous 3717 penodau 171415 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>gelyn¬ion a’u caethgludasant hwynt, a gweddi’o arnat ti tua’u gwlad a roddaist i’w tadau, a’r ddinas a ddewisaist, a’r tŷ a adeiledais i’th enw di: º49 Yna gwrando di yn y nefoedd, man¬gre dy breswylfod, eu gweddi hwynt, a’u deisyfiad, a gwna farn iddynt, º50 A maddau i’th bobl a bechasant i’th erbyn, a’u holl gamweddau yn y rhai y troseddasant i’th erbyn, a phar iddynt gael trugaredd gerbron y rhai a’u caeth¬gludasant, fel y trugarhaont wrthynt hwy: º51 Canys dy bobl di a’th etifeddiaeth ydynt hwy, y rhai a ddygaist ti allan o’r Aifft, o ganol y ffwrn haearn: º52 Fel y byddo dy lygaid yn agored i ddeisyfiad dy was, a deisyfiad dy bobl Israel, i wrando arnynt hwy pa bryd bynnag y galwont arnat ti. º53 Canys ti a’u neilltuaist hwynt yn etifeddiaeth i ti o holl bobl y ddaear, fel y lleferaist trwy law Moses dy was, pan ddygaist ein tadau ni allan o’r Aifft, O ARGLWYDD DDUW. º54 Ac wedi gorffen o Solomon weddïo ar yr ARGLWYDD yr holl weddi a’r deisyf¬iad yma, efe a gyfododd oddi gerbron allor yr ARGLWTOD, o ostwng ar ei liniau, ac o estyn ei ddwylo tua’r nefoedd. º55 Ac efe a safodd, ac a fendithiodd hoH gynulleidfa Israel a llef uchel, gan ddy¬wedyd, - º56 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn a roddes lonyddwch i’w bobl Israel, yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe: ni syrthiodd un gair o’i holl addewidion da ef, y rhai a addawodd efe trwy law Moses ei was. º57 Yr ARGLWYDD ein Dew fyddo gyda ni, fel y bu gyda’n tadau: na wrthoded ni, ac na’n gadawed ni: º58 I ostwng ein calonnau ni iddo ef, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i gadw ei orchmynion ef, a’i ddeddfau, a’i farnedig-’’n’o’o 30 siNVianisa siaa aethau, y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau ni. º59 A bydded fy ngeiriau hyn, y rhai a ddeisyfais gerbron yr ARGLWYDD, yn agos at yr ARGLWYDD ein Duw ddydd a nos, i wneuthur barn a’i was, a barn a’i bobl Israel beunydd, fel y byddo’r achos: º60 Fel y gwypo holl bobl y ddaear mai yr ARGLWYDD sydd DDUW, ac nad oes arall. º61 Bydded gan hynny eich calon yn berffaith gyda’r ARGLWYDD ein Duw ni, l rodio yn ei ddeddfau ef, ac i gadw ei orchmynion ef, fel heddiw. º62 y A’r brenin a holl Israel gydag efa aberthasant aberth gerbron yr ARGLWYDD. º63 A Solomon a aberthodd aberth hedd, yr hwn a offrymodd efe i’r ARGLWYDD, sef dwy fil ar hugain o wartheg, a chwech ugain mil o ddefaid. Felly y brenin a holl feibion Israel a gyseg-rasant dŷ yr ARGLWYDD. , . º64 Y dwthwn hwnnw y sancteiddiodd y brenin ganol y cyntedd oedd o flaen tŷ yr ARGLWYDD: canys yno yr offrymodd efe y poethoffrymau, a’r bwyd-offrymau, a braster yr offrymau hedd: oherwydd yr allor bres, yr hon oedd gerbron yr ARGLWYDD, oedd ry fechan i dderbyn y poethoffrymau, a’r bwyd-offrymau, a braster yr offrymau hedd. º65 A Solomon a gadwodd y pryd hwnnw wyl, a holl Israel gydag ef, cynulleidfa fawr, o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft, gerbron yr ARGLWYDD ein Duw, saith o ddyddiau a saith o ddyddiau, sef pedwar diwrnod ar ddeg. º66 A’r wythfed dydd y gollyngodd efe ‘ymaith y bobl: a hwy a fendithiasant y brenin, ac a aethant i’w pebyll yn hyfryd ac a chalon lawen, am yr holl ddaioni a wnaethai yr ARGLWYDD i Dafydd ei was, ac i Israel ei bobl. {{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}} {{bach|1 ''Ammod Duw â Solomon mewn gweledigaeth.'' 10 ''Solomon a Hiram yn anrhegu eu gilydd.'' 15 ''Y cenhedloedd yn gaethion, a’r Israeliaid yn weision parchedig, y’ngwaith Solomon.'' 24 ''Merch Pharaoh yn symmudo i’w thŷ.'' 25 ''Cyhoedd aberthau blynyddol Solomon.'' 26 ''Ei lynges ef yn cyrchu aur o Ophir.''}} {{angor|9:1}} {{uc|A phan}} orffennodd Solomon adeil-adu tŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y torenin, a chwbl o ddymuniad Solotnon yr hyn a ewyllysiodd efe ei wneuthuf; º2 Yr ARGLWYDD a ymddangosodd i Solomon yr ail waith, fel yr yinddangosasai iddo yn Gibeon. º3 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Gwrandewais dy weddi di a’th ddeisyfiad di, yr hwn a ddeisyfaist ger fy mron i: cysegrais y tŷ yma a adeiledaist, i osod fy enw ynddo byth; fy llygaid hefyd a’m calon fydd yno yn wastadol. º4 Ac os rhodi di ger fy mron i,<noinclude><references/></noinclude> im08e21ysvgpqn76dqbqqu8h1zso82t Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/368 104 3621 171416 6816 2026-10-06T17:42:44Z Tylopous 3717 penodau 171416 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}} {{bach|1 ''Brenhines Seba yn rhyfedd ganddi ddoethineb Solomon.'' 14 ''Swm ei aur ef:'' 16 ''ei dariannau:'' 18 ''ei orsedd-faingc ifori:'' 21 ''ei lestri:'' 24 ''ei anrhegion:'' 26 ''ei gerbydau a’i farchogion:'' 28 ''ei derynged.''}} {{angor|10:1}} {{uc|A phan}} glybu brenhines Seba glod Solomon am enw yr ARGLWYDD, hi- — oolomon am enw yr -— ., w, m a ddaeth i’w brofi ef a chwestiynau caled. º2 A hi a ddaeth i Jerwsalem a llu mawr iawn, a chamelod yn dwyn aroglau, ac aur lawer iawn, a meini gwerthfawr. A hi a ddaeth at Solomon, ac a lefarodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon. º3 A Solomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion: nid oedd dim yn guddiedig rhag y brenin, a’r na fynegodd efe iddi hi. º4 A phan welodd brenhines Seba holl ddoethineb Solomon, a’r tŷ a adeiladasai efe, º5 A bwyd ei fwrdd, ac eisteddiad ei Tyeision, a threfn ei weinidogion, a’u dillad hwynt, a’i drulliadau ef, a’i esgynfa ar hyd yr hon yr ai efe i fyny i dŷ yr AR¬GLWYDD; nid oedd mwyach ysbryd ynddi. º6 A hi a ddywedodd wrth y brenin, Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad am dy ymadroddion di, ac am dy ddoethineb. º7 Eto ni chredais y geiriau, nes i mi ddyfod, ac i’m llygaid weled: ac wele, ni fynegasid i mi yr hanner: mwy yw dy ddoethineb a’th ddaioni na’r clod a glyw¬ais i. º8 Gwyn fyd dy wŷr di, gwyn fyd dy weision hyn, y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron di, yn clywed dy ddoethineb. º9 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a’th hoffodd di, i’th roddi ar deyrngadair Israel: oherwydd cariad yr ARGLWYDD tuag at Israel yn dragywydd, y gosododd efe di yn frenin, i wneuthur barn a chyfiawnder. º10 A hi a roddes i’r brenin chwech ugain talent o aur, a pheraroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr. Ni ddaeth y fath beraroglau mwyach, cyn amied a’r rhai a roddodd brenhines Seba i’r brenin Solomon. º11 A llongau Hiram hefyd, y rhai a gludent aur o Offir, a ddygasant o Offir lawer iawn o goed almugim, ac o feini gwerthfawr. º12 A’r brenin a wnaeth o’r coed almug¬im anelau i dŷ yr ARGLWYDD, ac i dŷ y brenin, a thelynau a saltringau i gant-orion. Ni ddaeth y fath goed almugim, ac ni welwyd hyd y dydd hwn. º13 A’r brenin Solomon a roddes i frenhines Seba ei holl ddymuniad, yr hyn a ofynnodd hi, heblaw yr hyn a roddodd Solomon iddi hi o’i frenhinol haelioni. Felly hi a ddychwelodd, ac a aeth i’w gwlad, hi a’i gweision. º14 A phwys yr aur a ddeuai i Solo¬mon bob blwyddyn, oedd chwe chant a thrigain a chwech o dalentau aur; º15 Heblaw yr hyn a gai efe gan y march-nadwyr, ac o farsiandiaeth y llysieuwyr, a chan holl frenhinoedd Arabia, a thywys¬ogion y wlad. º16 A’r brenin Solomon a wnaeth ddau gant o darianau aur dilin; cnwe chan sicl o aur a roddodd efe ym mhob tarian: º17 A thri chant o fwcledi o aur dilin; tair punt o aur a roddes efe ym mhob bwcled. A’r brenin a’u rhoddes hwynt yn nhŷ coedwig Libanus. º18 A’r brenin a wnaeth orseddfainc fawr o ifori, ac a’i gwisgodd hi ag aur o’r gorau. ‘ º19 Chwech o risiau oedd i’r orsedd¬fainc; a phen crwn oedd i’r orseddfainc o’r tu ôl iddi, a chanllawiau o bob tu i’r eisteddle, a dau lew yn sefyll yn ymyl y canllawiau. º20 A deuddeg o lewod oedd yn sefyll yno ar y chwe gris o’r ddeutu. Ni wnaethpwyd y fath yn un deyrnas. º21 A holl lestri yfed y brenin Solo¬mon oedd o aur; a holl lestri tŷ coedwig Libanus oedd aur pur: nid oedd arian ynddynt. Ni roddid dim bri arno yn nyddiau Solomon. º22 Oherwydd llongau Tarsis oedd gan y brenin ar y môr, gyda llongau Hiram. Unwaith yn y tair blynedd y deuai llong¬au Tarsis, yn dwyn aur, ac arian, ac ifori, ac epaod, a pheunod. º23 A’r brenin Solomon a ragorodd ar holl frenhinoedd y ddaear, mewn cyfoeth a doethineb. º24 I A’r holl fyd oedd yn ceisio gweled wyneb Solomon, i glywed ei ddoethineb ef, a roddasai Duw yn ei galon ef. º25 A hwy a ddygasant bob un ei anrheg, llestri arian, a llestri aur, a gwisgoedd, ac arfau, a phêr-aroglau,<noinclude><references/></noinclude> ml0n7upx69cpfok4is42k4xzjvx3972 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/369 104 3622 171417 6818 2026-10-06T17:45:42Z Tylopous 3717 penodau 171417 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>meirch, a mulod, dogn bob blwyddyn. º26 A Solomon a gasglodd gerbydau a marchogion: ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau, a deuddeng mil o farchogion; y rhai a osododd efe yn ninasoedd y cerbydau, a chyda’r brenin yn Jerwsalem. º27 A’r brenin a wnaeth yr arian yn Jerwsalem fel cerrig, a’r cedrwydd a wnaeth efe fel sycamorwydd yn y doldir, o amldra. º28 A meirch a ddygid i Solomon o’r Aifft, ac edafedd llin: marchnadyddion y brenin a gymerent yr edafedd llin dan bris. º29 A cherbyd a ddeuai i fyny ac a ai allan o’r Aifft am chwe chan sicl o arian, a march am gant a deg a deugain: ac fel hyn i holl frenhinoedd yr Hethiaid, ac i frenhinoedd Syria, y dygent hwy feirch trwy eu llaw hwynt. {{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod XI}}.}} {{bach|1 ''Gwragedd a gordderchadon Solomon.'' 4 ''Y rhai hynny yn ei henaint yn ei dynnu ef i gau-dduwiaeth.'' 9 ''Duw yn ei fygwth ef.'' 14 ''Gwrthwynebwyr Solomon oedd, Hadad, a aeth i’r Aipht;'' 23 ''Rezon, a deyrnasodd yn Damascus;'' 26 ''a Jeroboam, i’r hwn y prophwydodd Ahïah.'' 41 ''Gweithredoedd, a theyrnasiad, a marwolaeth Solomon.'' 43 ''Rehoboam yn teyrnasu ar ei ol ef.''}} {{angor|11:1}} {{uc|Ond}} y brenin Solomon a garodd lawer o wragedd dieithr, heblaw merch Pharo, Moabesau, Ammonesau, Edomesau, Sidonesau, a Hethesau; º2 O’r cenhedloedd am y rhai y dyweA". asai yr ARGLWYDB wrth feibion Israel, Nac ewch i mewn atynt hwy, ac na ddeuant hwythau i mewn atoch chwi: diau y troant eich calonnau chwi ar ôl eu duw-iau hwynt. Wrthynt hwy y glynodd Solomon mewn cariad. º3 Ac yr oedd ganddo ef saith gant o wragedd, yn freninesau; a thri chant o ordderchwragedd: a’i wragedd a droesant ei galon ef. º4 A phan heneiddiodd Solomon, ei wragedd a droesant ei galon ef ar ôl duw-iau dieithr: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r ARGLWYDD ei DDUW, fel y buasai calon Dafydd ei dad ef. º5 Canys Solomon a aeth ar ôl Astoreth duwies y Sidoniaid, ac ar ôl Milcom (Beidd-dra yr Ammoniaid. º6 A Solomon a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD; ac ni chyflawnodd fyned ar ôl yr ARGLWYDD, fel Dafydd ei dad. º7 Yna Solomon a adeiladodd uchelfa i Cemos, ffieidd-dra Moab, yn y bryn sydd ar gyfer Jerwsalem; ac i Moloch, ffieiddira meibion Ammon. º8 Ac felly y gwnaeth efe i’w holl wragedd dieithr, y rhai a arogl-darthasant ac a aberthasant i’w duwiau. º9 A’r ARGLWYDD a ddigiodd wrth Solomon, oherwydd troi ei galon ef oddi wrth ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a ymddangosasai iddo ef ddwy waith, º10 Ac a orchmynasai iddo am y peth hyn, nad elai efe ar ôl duwiau dieithr: ond ni chadwodd efe yr hyn a orchmyn¬asai yr ARGLWYDD. º11 Am hynny y dywedodd yr AR¬GLWYDD wrth Solomon, Oherwydd bod hyn ynot ti, ac na chedwaist fy nghyf-amod â’m deddfau a orchmynnais i ti, gan rwygo y rhwygaf y frenhiniaeth oddi wrthyt ti, ac a’i rhoddaf hi i’th was di. º12 Eto yn dy ddyddiau di ni wnaf hyn, er mwyn Dafydd dy dad: o law dy fab di y rhwygaf hi. º13 Ond ni rwygaf yr holl frenhiniaeth; un llwyth a roddaf i’th fab di, er mwyn Dafydd fy ngwas, ac er mwyn Jerwsalera yr hon a etholais. º14 A’r ARGLWYDD a gyfododd wrthwynebwr i Solomon, Hadad yr Edomiad: o had y brenin yn Edom yr oedd efe. º15 Canys pan oedd Dafydd yn Edom, a Joab tywysog y filwriaeth yn myned i fyny i gladdu’r lladdedigion, wedi iddo daro pob gwryw yn Edom; º16 (Canys chwe mis yr arhosodd Joab yno a holl Israel, nes difetha pob gwryw yn Edom:) .tf Yr Hadad hwnnw a ffodd, a gwŷr Edom o weision ei dad gydag ef, i fyned i’r Aifft; a Hadad yn fachgen bychan eto. º18 A hwy a gyfodasant o Midian, ac a ddaethant i Paran: ac a gymerasant wŷr gyda hwynt o Paran, ac a ddaethant i’r Aifft, at Pharo brenin yr Aifft; ac efe a r&ddes iddo ef dŷ, ac a ddywedodd am roddi bwyd iddo, ac a roddodd dir iddo. º19 A Hadad a gafodd ffafr fawr yng ngolwg Pharo, ac efe a roddes iddo ef yn raig chwaer ei wraig ei hun, chwaer Tahpenes y frenhines. º20 A chwaer Tahpenes a ymddug<noinclude><references/></noinclude> eujpt01p7eqll0obm4ki44vp94yoa9a Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/371 104 3624 171418 6820 2026-10-06T17:48:58Z Tylopous 3717 penodau 171418 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|Pennod_12}}{{c|{{uc|Pennod XII}}.}} {{bach|1 ''Yr Israeliaid wedi ymgasglu yn Sichem i goroni Rehoboam, trwy Jeroboam yn ceisio rhyddhâd ganddo.'' 6 ''Rehoboam yn gwrthod cynghor yr henafgwyr, a thrwy gynghor y gwŷr ieuaingc, yn eu hatteb hwy yn arw.'' 16 ''Deg llwyth yn gwrthryfela, ac yn lladd Adoram, ac yn gyrru Rehoboam i ffoi.'' 21 ''Rehoboam yn caglu llu, a Semaiah yn gwarafan iddo.'' 25 ''Jeroboam yn ymgadarnhâu â threfydd,'' 26 ''a thrwy ddelw-addoliaeth y ddau lo.''}} {{angor|12:1}} {{uc|Yna}} Rehoboam a aeth i Sichem: canys i Sichem y daethai holl Israel i’w urddo ef yn frenin. º2 A phan glybu Jeroboam mab Nebat, ac efe eto yn yr Aifft, (canys efe a ffoesai o ŵydd Solomon y brenin, a Jeroboam a arosasai yn yr Aifft;) º3 Hwy a anfonasant, ac a alwasant arno ef. A Jeroboam a holl gynulleidfa Israel a ddaethant, ac a ymddiddanasant a Rehoboam, gan ddywedyd, º4 Dy dad di a wnaeth ein hiau ni yn drom: ac yn awr ysgafnha beth o gaethiwed caled dy dad, ac o’i iau drom ef a roddodd efe arnom ni, ac ni a’th wasanaethwn di. º5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch eto dridiau; yna dychwelwch ataf fi. A’r bobl a aethant ymaith. º6 A’r brenin Rehoboam a ymgyng-horodd a’r henuriaid a fuasai yn sefyll gerbron Solomon ei dad ef, tra yr ydoedd efe yn fyw, ac a ddywedodd. Pa fodd yr ydych chwi yn cynghori ateb i’r bobl hyn? º7 A hwy a lefarasant wrtho ef, gan ddywedyd, Os byddi di heddiw was i’r bobl hyn, a’u gwasanaethu hwynt, a’u hateb hwynt, a llefaru wrthynt eiriau teg; yna y byddant weision i ti byth. º8 Ond efe a wrthododd gyngor yr hen¬uriaid, yr hwn a gyngorasent iddo ef, ac efe a ymgynghorodd a’r gwŷr ieuainc a gynyddasai gydag ef, a’r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef: º9 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Beth yr ydych chwi yn ei gynghori, fel yr atebom y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyf, gan ddywedyd, Ysgafnha yr iau a roddodd dy dad arnom ni? º10 A’r gwŷr ieuainc, y rhai a gynyddasent gydag ef, a lefarasant wrtho, gan ddywedyd. Fel hyn y dywedi di wrth y bobl yma, y rhai a lefarasant wrthyt, gan ddywedyd, Dy dad di a drymhaodd ein hiau ni, ond ysgafnha di hi arnom ni; fel hyn y lleferi di wrthynt; Fy mys bach fydd breisgach na llwynau fy nhad. º11 Ac yn awr fy nhad a’ch llwythodd a iau drom, a minnau a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a’ch cosbodd chwi a ffrewyllau, a mi a’ch cosbaf chwi ag ysgorpionau. º12 A daeth Jeroboam a’r holl bobl at Rehoboam y trydydd dydd, fel y llef- arasai y brenin, gan ddywedyd, Dy-’chwelwch ataf fi y trydydd dydd. º13 A’r brenin a atebodd y bobl yn arw, ac a wrthododd gyngor yr henuriaid a gyngorasent hwy iddo; º14 Ac a lefarodd wrthynt hwy yn ôl cyngor y gwŷr ieuainc, gan ddywedyd, Fy nhad a wnaeth eich iau chwi yn drom, a minnau a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a’ch ceryddodd chwi A ffrewyllau, "a minnau a’ch ceryddaf chwi ag ysgorp¬ionau. º15 Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl. Oherwydd yr achos oedd oddi wrth yr ARGLWYDD, fel y cwblheid ei air ef, yr hwn a lefarasai yr ARGLWYDD trwy law Ahia y Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat. º16 A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy, y bobl a atebasant y brenin, gan ddywedyd, Pa ran sydd i ni yn Dafydd? nid oes i ni etifeddiaeth ym mab Jesse: O Israel, dos i’th bebyll; edrych yn awr ar dy dŷ dy hun, Dafydd. Felly Israel a aethant i’w pebyll. º17 Ond meibion Israel, y rhai oedd yn preswylio yn ninasoedd Jwda, Rehoboam a deyrnasodd arnynt hwy. º18 A’r brenin Rehoboam a anfonodd Adoram, yr hwn oedd ar y dreth; a holl Israel a’i llabyddiasant ef a meini, fel y bu efe farw. Am hynny y brenin Reho¬boam a brysurodd i fyned i’w gerbyd, i ffoi i Jerwsalem. º19 Felly Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Dafydd hyd y dydd hwn. º20 A phan glybu holl Israel ddychwelyd o Jeroboam, hwy a anfonasant ac a’i galwasant efat y gynulleidfa, ac a’i gosodasant ef yn frenin ar holl Israel: nid oedd yn myned ar ôl tŷ Dafydd, ond llwyth Jwda yn unig. º21 A phan ddaeth Rehoboam<noinclude><references/></noinclude> 6s4tgc9jrvhc0ih4w0onfem8d2ktapj Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/372 104 3625 171419 6821 2026-10-06T17:52:57Z Tylopous 3717 penodau 171419 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>i Jerwsalem, efe a gasglodd holl dŷ Jwda, a llwyth Benjamin, cant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol, cymwys i ryfel, i ymladd yn erbyn tŷ Israel, i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam mab Solomon. º22 Ond gair Duw a ddaeth at Semaia gŵr Duw, gan ddywedyd, º23 Adrodd wrth Rehoboam mab Sol¬omon brenin Jwda, ac wrth holl dŷ Jwda a Benjamin, a gweddill y bobl, gan ddywedyd, º24 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Nac ewch i fyny, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr meibion Israel; dych¬welwch bob un i’w dŷ ei hun: canys trwof fi y mae y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar air yr ARGLWYDD, ac a ddychwelasant i fyned ymaith, yn ôl gair yr AR¬GLWYDD. º25 Yna Jeroboam a adeiladodd Sichem ym mynydd Effraim, ac a drigodd ynddi hi; ac a aeth oddi yno, ac adeilad¬odd Penuel. º26 A Jeroboam a feddyliodd yn ei galon, Yn awr y dychwel y frenhiniaeth at dŷ Dafydd. º27 Os a y bobl hyn i fyny i wneuthur aberthau yn nhŷ yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, yna y try calon y bobl hyn at eu harglwydd Rehoboam brenin Jwda, a hwy a’m lladdant i, ac a ddychwelant at Rehoboam brenin Jwda. º28 Yna y brenin a ymgynghorodd, ac a «| wnaeth ddau lo aur, ac a ddywedodd I’ wrthynt hwy, Gormod yw i chwi fyned i fyny i Jerwsalem: wele dy dduwiau di, O Israel, y rhai a’th ddug di i fyny o wlad yr Aifft. º29 Ac efe a osododd un yn Bethel, ac a osododd y llall yn Dan. º30 A’r peth hyn a aeth yn bechod: cfclegid y bobl a aethant gerbron y naill hyd Dan. _ º31 Ac efe a wnaeth dy uchelfeydd, ac a wnaeth offeiriaid o’r rhai gwaelaf o’r bobl, y rhai nid oedd o feibion Lefi. º32 A Jeroboam a wnaeth uchel wyl yn yr wythfed mis, ar y pymthegfed dydd o’r mis, fel yr uchel wyl oedd yn Jwda; ac efe a offrymodd ar yr allor. Felly y gwnaeth efe yn Bethel, gan aberthu i’r lloi a wnaethai efe: ac efe a osododd yn Bethel offeiriaid yr uchelfaoedd a wnaeth¬ai efe. º33 Ac efe a offrymodd ar yr allor a wnaethai efe yn Bethel, y pymthegfed dydd o’r wythfed mis, sef yn y mis a ddychmygasai efe yn ei galon ei hun; ac efe a wnaeth uchel wyl i feibion Israel: ac efe a aeth i fyny at yr allor i arogl-darthu. {{angor|Pennod_13}}{{c|{{uc|Pennod XIII}}.}} {{bach|1 ''Llaw Jeroboam, yr hon a estynasai efe yn erbyn yr hwn a brophwydasai yn erbyn yr allor yn Bethel, yn gwywo;'' 6 ''a thrwy weddi y prophwyd, yn myned yn iach.'' 7 ''Y prophwyd yn gwrthod croesaw y brenhin, ac yn myned ymaith o Bethel.'' 11 ''Hen brophwyd yn ei hudo ef, ac yn ei droi yn ei ol.'' 20 ''Duw yn ei geryddu ef;'' 24 ''a llew yn ei ladd ef;'' 26 ''a’r hen brophwyd yn ei gladdu ef,'' 31 ''ac yn cadarnhâu ei brophwydoliaeth ef.'' 33 ''Cyndynrwydd Jeroboam.''}} {{angor|13:1}} {{uc|Ac}} wele gŵr i DDUW a ddaeth o Jwda, *~ trwy air yr ARGLWYDD, i Bethel: a Jeroboam oedd yn sefyll wrth yr allor i arogl-darthu. º2 Ac efe a lefodd yn erbyn yr allor, trwy air yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O allor, allor, fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Wele, mab a enir i dŷ Dafydd, a’i enw Joseia; ac efe a abertha arnat ti offeiriaid yr uchelfeydd y rhai sydd yn arogl-darthu arnat ti, a hwy a losgant esgyrn dynion arnat ti. º3 Ac efe a roddodd arwydd y dwthwn hwnnw, gan ddywedyd, Dyma yr argoel a lefarodd yr ARGLWYDD; Wele, yr allor a rwygir, a’r lludw sydd arni a dywelltir. º4 A phan glybu y brenin air gŵr Duw, yr hwn a lefodd efe yn erbyn yr allor yn Bethel, yna Jeroboam a estynnodd ei law oddi wrth yr allor, gan ddywedyd, Deliwch ef. A diffrwythodd ei law ef, yr hon a estynasai efe yn ei erbyn ef, fel na allai efe ei thynnu hi ato. º5 Yr allor hefyd a rwygodd, a’r lludw a dywalltwyd oddi ar yr allor, yn ôl yr ‘ argoel a roddasai gŵr Duw trwy air yr ARGLWYDD. º6 A’r brenin a atebodd ac a ddywedodd wrth ŵr Duw, Gweddïa, atolwg, ger¬bron yr ARGLWYDD dy DDUW, ac ymbil drosof fi, fel yr adferer fy llaw i mi. A gŵr Duw a weddïodd gerbron yr AR¬GLWYDD; a llaw y brenin a adferwyd iddo ef, ac a fu fel cynt. º7 A’r brenin a ddywedodd wrth ŵr Duw, Tyred adref gyda mi, a chymer luniaeth, a mi a roddaf rodd i ti. º8 A gŵr Duw a ddywedodd wrth y brenin, Pe rhoddit i mi hanner<noinclude><references/></noinclude> rjrcjt8hr4nycmb8it5klfwmjzdj666 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/374 104 3627 171420 6823 2026-10-06T17:56:08Z Tylopous 3717 penodau 171420 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>yn erbyn yr allor sydd yn Bethel, ac yn erbyn holl dai yr uchelfeydd sydd yn ninasoedd Samaria. º33 Wedi y peth hyn ni ddychwelodd Jeroboam o’i ffordd ddrygionus; ond efe a wnaeth drachefn o wehilion y bobl offeiriaid i’r uchelfeydd: y neb a fynnai, efe a’i cysegrai ef, ac efe a gai fod yn offeiriad i’r uchelfeydd. º34 A’r peth hyn a aeth yn bechod i dŷ Jeroboam, i’w ddiwreiddio hefyd, ac i’w ddileu oddi ar wyneb y ddaear. {{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}} {{bach|1 ''Jeroboam, pan glefychodd ei fab Abïah, yn gyrru ei wraig yn ddïeithr âg anrhegion i’r prophwyd Ahïah i Siloh.'' 5 ''Ahïah, ar rybudd Duw, yn cyhoeddi barn Duw.'' 17 ''Abïah yn marw, a’i gladdu ef.'' 19 ''Nadab yn dyfod ar ol Jeroboam.'' 21 ''Drygionus lwyodraeth Rehoboam.'' 25 ''Sisac yn anrheithio Jerusalem.'' 29 ''Abïam yn dyfod ar ol Rehoboam.''}} {{angor|14:1}} {{uc|Y pryd}} hwnnw y clafychodd Abeia mab Jeroboam. º2 A Jeroboam a ddywedodd wrth ei. wraig, Cyfod atolwg, a newid dy ddillad, fel na wypont mai ti yw gwraig Jeroboam; a dos i Seilo: wele, yno y mae Ahia y proffwyd, yr hwn a ddywedodd wrthyf y byddwn frenin ar y bobl yma. º3 A chymer yn dy law ddeg o fara, a theisennau, a chostrelaid o fêl, a dos ato ef: efe a fynega i ti beth a dderfydd i’r bachgen. º4 A gwraig Jeroboam a wnaeth felly; ac a gyfododd ac a aeth i Seilo, ac a ddaeth i dŷ Ahia. Ond ni allai Ahia weled; oherwydd ei lygaid ef a ballasai oblegid ei henaint. º5 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Ahia, Wele, y mae gwraig Jeroboam yn dyfod i geisio peth gennyt dros ei mab; canys claf yw efe: fel hyn ac fel hyn y dywedi wrthi hi: canys pan ddelo hi i mewn, hi a ymddieithra. º6 A phan glybu Ahia drwst ei thraed hi yn dyfod i’r drws, efe a ddywedodd, Tyred i mewn, gwraig Jeroboam; i ba beth yr wyt ti yn ymddieithro? canys’ myfi a anfonwyd atat ti a newyddion caled. º7 DOS, dywed wrth Jeroboam, Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW Israel; Yn gymaint a darfod i mi dy ddyrchafu di o blith y bobl, a’th wneuthur di yn, flaenor ar fy mhobl Israel, º8 A thorri ymaith y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Dafydd, a’i rhoddi i ti; ac na buost ti fel fy ngwas Dafydd, yr hwn a gadwodd fy ngorchmynion, a’r hwn a rodiodd ar fy ôl i a’i holl galon, i wneuth¬ur yn unig yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i; º9 Ond a wnaethost ddrwg y tu hwnt i, bawb a fu o’th flaen di; ac a aethost ac a wnaethost i ti dduwiau dieithr, a delwau toddedig, i’m digio i, ac a’m teflaist i o’r tu ôl i’th gefn: º10 Am hynny, wele fi yn dwyn drwg ar dy Jeroboam; a thorraf ymaith oddi wrth Jeroboam bob gwryw, y gwarchaeed.g a’r gweddilledig yn Israel; a mi a fwriaf allan weddillion tŷ Jeroboam, fel y bwrir allan dom, nes ei ddarfod. º11 Y cwn a fwyty yr hwn fyddo farw o eiddo Jeroboam yn y ddinas; ac adar y nefoedd a fwyty yr hwn fyddo farw yn y maes: canys yr ARGLWYDD a’i dywed¬odd. º12 Cyfod di gan hynny, dos i’th dŷ: a phan ddelo dy draed i’r ddinas, bydd marw y bachgen. º13 A holl Israel a alarant amdano ef, ac a’i claddant ef: canys efe yn unig o Jero¬boam a ddaw i’r bedd; oherwydd cael ynddo ef beth daioni tuag at ARGLWYDD DDUW Israel, yn nhŷ Jeroboam. º14 Yr ARGLWYDD hefyd a gyfyd iddo frenin ar Israel, yr hwn a dyr ymaith dy Jeroboam y dwthwn hwnnw: ond pa beth? ie, yn awr. º15 Canys yr ARGLWYDD a dery Israel, megis y siglir y gorsen mewn dwfr; ac a ddiwreiddia Israel o’r wlad dda hon a roddodd efe i’w tadau hwynt, ac a’u gwasgar hwynt tu hwnt i’r afon; oher¬wydd gwneuthur ohonynt eu llwyni, gan annog yr ARGLWYDD i ddigofaint. º16 Ac efe a ddyry heibio Israel, er mwyn pechodau Jeroboam, yr hwn a bechodd, a’r hwn a wnaeth i Israel bechu. º17 A gwraig Jeroboam a gyfododd, ac a aeth ymaith, ac a ddaeth i Tirsa: ac a hi yn dyfod i drothwy y tŷ, bu farw y bachgen. º18 A hwy a’i claddasant ef; a holl Israel a alarasant amdano, yn ôl gair yr AR¬GLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahia y proffwyd. º19 A’r rhan arall o weithredoedd Jero¬boam, fel y rhyfelodd efe, ac fel y teyrnasodd efe, wele hwynt yn<noinclude><references/></noinclude> t5r18sjjagu7rpcte119ipf5aq3depw Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/375 104 3628 171421 6824 2026-10-06T17:59:33Z Tylopous 3717 penodau 171421 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel. º20 A’r dyddiau y teyrnasodd Jeroboam oedd ddwy flynedd ar hugain: ac efe a hunodd gyda’i dadau; a Nadab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. º21 A Rehoboam mab Solomon a deyrnasodd yn Jwda. Mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan aeth efe yn frenin, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisasai yr ARGLWYDD o holl lwythau Israel, i osod ei enw yno. Ac enw ei fam ef oedd Naaroa, Ammones. º22 A Jwda a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD; a hwy a’i hanogasant ef i eiddigedd, rhagor yr hyn oll a wnaethai eu tadau, yn eu pechodau a wnaethent. º23 Canys hwy a adeiladasant iddynt uchelfeydd, a delwau, a llwyni ar bob bryn uchel, a than bob pren gwyrddlas. º24 A gwŷr sodomiaidd oedd yn y wlad: gwnaethant hefyd yn ôl holl ffieidd-dra’r cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel. º25 Ac yn y bumed flwyddyn i’r brenin Rehoboam, Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem. º26 Ac efe a ddug ymaith drysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau tŷ y brenin; efe a’u dug hwynt ymaith oil: dug ymaith hefyd yr holl darianau aur a wnaethai Solomon. º27 A’r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres, ac a’u rhoddodd hwynt i gadw yn llaw tywysogion y rhedegwyr, y rhai oedd yn cadw drws tŷ y brenin. º28 A phan elai y brenin i dŷ yr AR¬GLWYDD, y rhedegwyr a’u dygent hwy, ac a’u hadferent i ystafell y rhedegwyr. º29 A’r rhan arall o weithredoedd Rehoboam, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronid brenhinoedd Jwda? º30 A rhyfel fu rhwng Rehoboam a Jeroboam yr holl ddyddiau. º31 A Rehoboam a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd. Ac enw ei fam ef oedd Naama, Ammones. Ac Abeiam ei fab a deyrnas¬odd yn ei le ef. {{angor|Pennod_15}}{{c|{{uc|Pennod XV}}.}} {{bach|1 ''Annuwiol deyrnasiad Abïam.'' 8 ''Asa ar ei ol ef,'' 11 ''yn teyrnasu yn ddaionus;'' 16 ''a’r rhyfel rhyngddo ef a Baasa, yn peri iddo wneuthur cynghrair â Benhadad.'' 24 ''Jehosaphat yn dyfod ar ei ol ef.'' 25 ''Drygionus lywodraeth Nadab.'' 27 ''Brad Baasa yn ei erbyn ef, yn cyflawni prophwydoliaeth Ahïah.'' 31 ''Hanes Nadab, a’i farwolaeth.'' 33 ''Drygionus lywodraeth Baasa.''}} {{angor|15:1}} {{uc|Ac}} yn y ddeunawfed flwyddyn i’r brenin Jeroboam mab Nebat, yr aeth Abeiam yn frenin ar Jwda. º2 Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Maacha, merch Abisalom. º3 Ac efe a rodiodd yn holl bechodau ei dad, y rhai a wnaethai efe o’i flaen dF: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r ARGLWYDD ei DDUW, fel calon Dafydd ei dad. º4 Ond er mwyn Dafydd y rhoddodd yr ARGLWYDD ei DDUW iddo ef oleuni yn Jerwsalem; i gyfodi ei fab ef ar ei ôl ef, ac i sicrhau Jerwsalem: º5 Oherwydd gwneuthur o Dafydd yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac na chiliodd oddi wrth yr hyn oll a orchmynnodd efe iddo holl ddydd¬iau ei einioes, ond yn achos Ureia yr Hethiad. º6 A rhyfel a fu rhwng Rehoboam a Jeroboam holl ddyddiau ei einioes. º7 A’r rhan arall o weithredoedd Abeiam, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronid bren¬hinoedd Jwda? A rhyfel a fu rhwng Abeiam a Jeroboam. º8 Ac Abeiam a hunodd gyda’i dadau, a hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd. Ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. º9 Ac yn yr ugeinfed flwyddyn i Jero¬boam brenin Israel yr aeth Asa yn frenin ar Jwda. º10 Ac un flynedd a deugain y teyrnas¬odd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Maacha, merch Abisalom. º11 Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel Dafydd ei dad. º12 Ac efe a yrrodd ymaith y gwŷr sodomiaidd o’r wlad, ac a fwriodd ymaith yr holl ddelwau a wnaethai ei dadau. º13 Ac efe a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines, oherwydd gwneuthur ohoni hi ddelw<noinclude><references/></noinclude> l2vzhx1qugobf18wog9sv1ddceeswmh Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/376 104 3629 171422 6826 2026-10-06T18:04:15Z Tylopous 3717 penodau 171422 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>mewn llwyn; ac Asa a ddrylliodd ei delw hi, ac a’i llosgodd wrth afon Cidron. º14 Ond ni fwriwyd ymaith yr uchelfeydd xxx: eto calon Asa oedd berffaith gyda’r ARGLWYDD ei holl ddyddiau ef. º15 Ac efe a ddug i mewn gysegredig bethau ei dad, a’r pethau a gysegrasai efe ei hun, i dŷ yr ARGLWYDD, yn arian, yn aur, ac yn llestri. º16 A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt. º17 A Baasa brenin Israel a aeth i fyny yn erbyn Jwda, ac a adeiladodd Rama, fel na adawai efe i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda. º18 Yna Asa a gymerodd yr holl arias a’r aur a adawsid yn nhrysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau t y brenin, ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw ei weision; a’r brenin Asa a anfonodd at Benhadad mab TabRimmon, mab Hesion, brenin Syria, yr hwn oedd yn trigo yn Damascus, gan ddywedyd, º19 Cyfamod sydd rhyngof fi a thi, rhwng fy nhad i a’th dad di: wele, mi a anfonais i ti anrheg o arian ac aur; tyred, diddyma dy gyfamod â Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthyf fi. º20 Felly Benhadad a wrandawodd af y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ganddo ef, yn erbyn dinasoedd Israel, ac a drawodd Ijon, a Dan, ac Abel-bethmaacha, a holl Cinneroth, gyda holl wlad Nafftali. º21 A phan glybu Baasa hynny, efe a beidiodd ag adeiladu Rama; ac a drigodd yn Tirsa. º22 Yna y brenin Asa a gasglodd holl Jwda, heb lysu neb: a hwy a gymerasant gerrig Rama, a’i choed, a’r rhai yr adeiladasai Baasa; a’r brenin Asa a adeiladodd a hwynt Geba Benjamin, a Mispa. º23 A’r rhan arall o holl hanes Asa, a’i holl gadernid ef, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’r dinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronid brenhinoedd Jwda? eithr yn amser ei henaint efe a glafychodd o’i draed. º24 Ac Asa a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad; a Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. º25 A Nadab mab Jeroboam a dfccfareuodd deyrnasu ar Israel yn yr afl flwyddyn i Asa brenin Jwda; ac a deyrn asodd ar Israel ddwy flynedd. º26 Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd yn ffordd ei dad, ac yn ei bechod ef a’ hwn y gwnaeth efe i Israel bechu. º27 A Baasa mab Ahia, o dŷ Issachar* a gydfwriadodd yn ei erbyn ef; a Baasa a’i trawodd ef yn Gibbethon eiddo y Philistiaid: canys Nadab a holl Israel oedd yn gwarchae ar Gibbethon. º28 A Baasa a’i lladdodd ef yn y drydedB flwyddyn i Asa brenin Jwda, ac a deyrn¬asodd yn ei le ef. º29 A phan deyrnasodd, efe a drawodd holl dy Jeroboam; ni adawodd un per* chen anadl i Jeroboam, nes ei ddifetha ef, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahia y Siloniad: º30 Am bechodau Jeroboam y rhai a bechasai efe, a thrwy y rhai y gwnaethai efe i Israel bechu; oherwydd ei waith ef yn digio ARGLWYDD DDUW Israel. º31 A’r rhan arall o hanes Nadab, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronid brenhinoedd Israel? º32 A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt. º33 Yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Baasa mab Ahia ar holl Israel yn Tirsa, bedair blynedd ar hugain. º34 Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd yn ffordd Jeroboam, ac yn ei bechod ef trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu. {{angor|Pennod_16}}{{c|{{uc|Pennod XVI}}.}} {{bach|1, 7 ''Prophwydoliaeth Jehu yn erbyn Baasa.'' 5 ''Elah yn dyfod ar ei ol ef:'' 8 ''a Zimri, trwy frad, ar ei ol yntau;'' 11 ''ac yn dwyn i ben brophwydoliaeth Jehu.'' 15 ''Omri yn ei yrru ef i’w losgi ei hun;'' 21 ''a chwedi ymrannu o’r bobl, yn gorthrechu Tibni,'' 23 ''yn adeiladu Samaria,'' 25 ''yn teyrnasu yn annuwiol.'' 27 ''Ahab ar ei ol ef,'' 29 ''yn teyrnasu yn ysgeler.'' 34 ''Melldith Josua yn dyfod i Hïel am adeiladu Jericho.''}} {{angor|16:1}} {{uc|Yna}} y daeth gair yr ARGLWYDD at Jehu mab Hanani yn erbyn Baasa, gan ddywedyd, º2 Oherwydd i mi dy ddyrchafu o’r llwch, a’th wneuthur yn flaenor ar fy mhobl Israel, a rhodio ohonot<noinclude><references/></noinclude> kfbzuv01vbh5ost7ko0eckdrm4ekiu4 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/378 104 3632 171423 6832 2026-10-06T18:06:59Z Tylopous 3717 penodau 171423 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? .. ’. º28 Ac Omri a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria, ac Ahab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.;; º29 Ac Ahab mab Omri a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn y drydedd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asa brenin Jwda: ac Ahab mab Omri a deyrnasodd ar Israel yn Samaria ddwy flynedd ar hugain. º30 Ac Ahab mab Omri a wnaeth ddryg¬ioni yng ngolwg yr ARGLWYDD y tu hwnt i bawb o’i flaen ef. º31 Canys ysgafn oedd ganddo ef rodio ym mhechodau Jeroboam mab Nebat, ac efe a gymerth yn wraig Jesebel merch Ethbaal brenin y Sidoniaid, ac a aeth ac a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymodd iddo. º32 Ac efe. a gyfododd allor i Baal yn nhŷ Baal, yr hwn a adeiladasai efe yn Samaria. º33 Ac Ahab a wnaeth lwyn. Ac Ahab a wnaeth fwy i ddigio ARGLWYDD DDUW Israel na holl frenhinoedd Israel a fuasai o’i flaen ef.;’ º34 Yn ei ddyddiau efHiel y Betheliad a adeiladodd Jericho: yn Abiram ei gyntaf-anedig y sylfaenodd efe hi, ac yn Scgub ei fab ieuangaf y gosododd efe ia phyrth hi, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law Josua mab Nun. {{angor|Pennod_17}}{{c|{{uc|Pennod XVII}}.}} {{bach|1 ''Elïas, wedi prophwydo yn erbyn Ahab, yn cael ei borthi gan gigfrain yn Cerith,'' 10 ''a chan wraig weddw yn Sarephtah,'' 14 ''a honno yn cael rhad penllad,'' 17 ''a chyfodi ei mab o farw i fyw,'' 24 ''ac yn credu Elïas.''}} {{angor|17:1}} {{uc|Ac}} Eleias y Thesbiad, un o breswylwyr Gilead, a ddywedodd wrth Ahab, Fel mai byw ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, ni bydd y blynyddoedd hyn na gwlith na glaw, ond yn ôl fy ngair i. º2 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, º3 DOS oddi yma, a thro tua’r dwyrain, ac ymguddia wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen. º4 Ac o’r afon yr yfi; a mi a berais i’r cigfrain dy borthi di yno. º5 Felly efe a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair yr ARGLWYDD; canys efe a aeth, ac a arhosodd wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen. º6 A’r cigfrain a ddygent iddo fara a chig y bore, a bara a chig brynhawn; ac efe a yfai o’r afon. º7 Ac yn ôl talm o ddyddiau y sychodd yr afon, oblegid na buasai law yn y wlad; º8 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, º9 Cyfod, dos i Sareffta, yr hon sydd yn perthyn i Sidon, ac aros yno: wele, gorchmynnais i wraig weddw dy borthi di yno. º10 Felly efe a gyfododd, ac a aeth i Sareffta. A phan ddaeth efe at borth y ddinas, wele yno wraig weddw yn casglu briwydd: ac efe a alwodd arni, ac a ddy¬wedodd, Dwg, atolwg, i mi ychydig ddwfr mewn llestr, fel yr yfwyf. º11 Ac a hi yn myned i’w gyrchu, efe a alwodd arni, ac a ddywedodd, Dwg, atolwg, i mi damaid o fara yn dy law. º12 A hi a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD dy DDUW, nid oes gennyf deisen, ond llonaid llaw o flawd mewn celwrn, ac ychydig olew mewn ysten: ac wele fi yn casglu dau o friwydd, i fyned i mewn, ac i baratoi hynny i mi ac i’m mab, fel y bwytaom hynny, ac y byddom feirw. º13 Ac Eleias a ddywedodd wrthi, Nac ofna; dos, gwna yn ôl dy air: eto gwna i mi o hynny deisen fechan yn gyntaf, a dwg i mi; a gwna i ti ac i’th fab ar ôl hynny. º14 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Y blawd yn y celwrn ni threulir, a’r olew o’r ysten ni dderfydd, hyd y dydd y rhoddo yr ARGLWYDD law ar wyneb y ddaear. º15 A hi a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair Eleias: a hi a fwytaodd, ac yntau, a’i thylwyth, ysbaid blwyddyn. . ‘ º16 Ni ddarfu y celwrn blawd, a’r ysten ©kw ni ddarfu, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a ddywedasai efe trwy law Eleias. º17 Ac wedi y pethau hyn y clafychodd mab gwraig y tŷ, ac yr oedd ei glefyd ef Stior gryf, fel na thrigodd anadl ynddo. º18 A hi a ddywedodd wrth Eleias, Beth Sydd i mi a wnelwyf a thi, gŵr Duw? a ddaethost ti ataf i goffau fy anwiredd, flc i ladd fy mab? º19 Ac efe a ddywedodd wrthi, Moes i mi dy fab. Ac efe a’i cymerth ef o’i Jnynwes hi, ac a’i dug ef i fyny i ystafell yr oedd efe yn<noinclude><references/></noinclude> 9wjrw2q1q0yqvt7mnb5mik16vertnsn Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/379 104 3633 171424 6833 2026-10-06T18:11:14Z Tylopous 3717 penodau 171424 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>aros ynddi, ac a’i gosododd ef ar ei wely ei hun. º20 Ac efe a lefodd ar yr ARGLWYDD, ac 8 ddywedodd, O ARGLWYDD fy Now, a ddrygaist ti y wraig weddw yr ydwyf fi yn ymdeithio gyda hi, gan ladd ei mab hi? º21 Ac efe a ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith, ac a lefodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD fy Nuw, dychweled, atolwg, enaid y bachgen hwn iddo eilwaith. º22 A’r ARGLWYDD a wrandawodd ar lef Eleias; ac enaid y bachgen a ddychwelodd i mewn iddo, ac efe a ddadebrodd. º23 Ac Eleias a gymerodd y bachgen, ac a’i dug ef i waered o’r ystafell i’r tŷ, ac a’i rhoddes ef i’w fam: ac Eleias a ddywedodd, gwêl, byw yw dy fab. º24 A’r wraig a ddywedodd wrth Eleias, Yn awr wrth hyn y gwn mai gŵr Duw ydwyt ti, ac mai gwirionedd yw gair yr ARGLWYDD yn dy enau di. {{angor|Pennod_18}}{{c|{{uc|Pennod XVIII}}.}} {{bach|1 ''Elïas, pan oedd dostaf y newyn, wedi ei yrru at Ahab, yn cyfarfod âg Obadïah;'' 9 ''a hwnnw yn dwyn Ahab at Elïas:'' 17 ''ac yntau yn argyhoeddi Ahab; a thrwy dân o’r nef, yn cael y maes ar brophwydi Baal;'' 41 ''a thrwy weddi yn cael gwlaw, ac yn canlyn Ahab i Jezreel.''}} {{angor|18:1}} {{uc|Ac}} ar ôl dyddiau lawer daeth gair yr ARGLWYDD at Eleias, yn y drydedd flwyddyn, gan ddywedyd, DOS, ymddangos i Ahab; a mi a roddaf law ar, wyneb y ddaear. º2 Ac Eleias a aeth i ymddangos i Ahab. A’r newyn oedd dost yn Samaria. º3 Ac Ahab a alwodd Obadeia, yr hwn oedd benteulu iddo: (ac Obadeia oedd yn ofni yr ARGLWYDD yn fawr: ;4 Canys pan ddistrywiodd Jesebel btoffwydi yr ARGLWYDD, Obadeia a gymerodd gant o broffwydi, ac a’u cudd- aodd hwynt bob yn ddeg a deugain mewn ogof, ac a’u porthodd hwynt a bara ac & dwfr.) º5 Ac Ahab a ddywedodd wrth Obadeia, DOS i’r wlad, at bob ffynnon ddwfr, ac at yr holl afonydd: ysgatfydd ni a gawn laswellt, fel y cadwom yn fyw y ceffylau a’r mulod, fel na adawom i’r holl anifeiliaid golli. º6 Felly hwy a ranasant y wlad rhyngddynt i’w cherdded: Ahab a aeth y naill ffordd ei hunan, ac Obadeia a aeth y ffordd arall ei hunan. º7 Ac fel yr oedd Obadeia ar y ffordd, wele Eleias yn ei gyfarfod ef: ac efe a’i hadnabu ef, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ddywedodd, Onid ti yw fy arglwydd Eleias? º8 Yntau a ddywedodd wrtho. Ie, myfi: dos, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias. º9 Dywedodd yntau. Pa bechod a wneuthum i, pan roddit ti dy was yn llaw Ahab i’m lladd? º10 Fel mai byw yr ARGLWYDD dyDDUW, nid oes genedl na brenhiniaeth yr hon ni ddanfonodd fy arglwydd iddi i’th geisio di; a phan ddywedent, Nid yw efe yma, efe a dyngai y frenhiniaeth a’r genedl, na chawsent dydi. º11 Ac yn awr yr wyt ti yn dywedyd, DOS, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias. º12 A phan elwyf fi oddi wrthyt ti, ysbryd yr ARGLWYDD a’th gymer di lle nis gwn i; a phan ddelwyfi fynegi i Ahab, ac yntau heb dy gael di, efe a’m lladd i: ond y mae dy was di yn ofni yr ARGLWYDD 6’m mebyd. º13 Oni fynegwyd i’m harglwydd yr hyn ‘ wneuthum i, pan laddodd Jesebel broffwydi yr ARGLWYDD, fel y cuddiais gannwr o broffwydi yr ARGLWYDD, bob yn ddengwr a deugain mewn ogof, ac y porthais hwynt a bara ac a dwfr? º14 Ac yn awr ti a ddywedi, DOS, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias: ac efe a’m lladd i. º15 A dywedodd Eleias, Fel mai byw ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn yr wyf yn sefyll ger ei fron, heddiw yn ddiau yr ymddangosaf iddo ef. ,’ º16 Yna Obadeia a aeth i gyfarfod Ahab, ac a fynegodd iddo. Ac Ahab a aeth i gyfarfod Eleias. º17 A phan welodd Ahab Eleias, Ahab a ddywedodd wrtho, Onid ti yw yr hwn sydd yn blino Israel? º18 Ac efe a ddywedodd, Ni flinais i Israel; ond tydi, a thŷ dy dad: am i chwi wrthod gorchmynion yr ARGLWYDD, ac i ti rodio ar ôl Baalim. º19 Yn awr gan hynny anfon, a chasgl ataf holl Israel i fynydd Carmel, a phroffwydi Baal, pedwar cant a deg a deugain, a phroffwydi y llwyni, pedwar cant, y rhai sydd yn bwyta ar fwrdd Jezebel. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> kmb4wo0r2y4ne1g1waw7e55fvjpawk7 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/381 104 3635 171425 6835 2026-10-06T18:13:37Z Tylopous 3717 penodau 171425 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º43 Ac a ddywedodd wrth ei lane, DOS i fyny yn awr, edrych tua’r môr. Ac efe a aeth i fyny ac a edrychodd, ac a ddywed¬odd, Nid oes dim. Dywedodd yntau, DOS eto saith waith. º44 A’r seithfed waith y dywedodd efe, Wele gwmwl bychan fel cledr llaw gŵr yn dyrchafu o’r môr. A dywedodd yntau, DOS i fyny, dywed wrth Ahab, Rhwym dy gerbyd, a dos i waered, fel na’th rwystro y glaw. º45 Ac yn yr ennyd honno y nefoedd a dduodd gan gymylau a gwynt; a bu glaw mawr. Ac Ahab a farchogodd, ac a aeth i Jesreel. º46 A llaw yr ARGLWYDD oedd ar Eleias, ac efe a wregysodd ei lwynau, ac a redodd o flaen Ahab nes ei ddyfod i Jesreel. {{angor|Pennod_19}}{{c|{{uc|Pennod XIX}}.}} {{bach|1 ''Elïas, wrth fygwth Jezebel, yn ffoi i Beerseba;'' 4 ''a phan oedd flin ganddo ei einioes, yn cael cysur gan angel.'' 9 ''Duw yn ymddangos iddo yn Horeb, ac yn ei anfon ef i enneinio Hazael, Jehu, ac Elisëus.'' 19 ''Elisëus, wedi canu yn iach i’r eiddo, yn canlyn Elïas.''}} {{angor|19:1}} {{uc|Ac}} Ahab a fynegodd i Jesebel yr hyn Ix oll a wnaethai Eleias; a chyda phob peth, y modd y lladdasai efe yr holl broffwydi â’r cleddyf . º2 Yna Jesebel a anfonodd gennad at Eleias, gan ddywedyd. Fel hyn y gwnelo y duwiau, ac fel hyn y chwanegont, oni wnaf erbyn y pryd hwn yfory dy einioes di fel einioes un ohonynt hwy. º3 A phan welodd efe hynny, efe a gyfododd, ac a aeth am ei einioes, ac a ddaeth i Beerseba, yr hon sydd yn Jwda, ac a adawodd ei lane yno. º4 Ond efe a aeth i’r anialwch daith diwrnod, ac a ddaeth ac a eisteddodd dan ferywen; ac a ddeisyfodd iddo gael marw: dywedodd hefyd, Digon yw; yn awr, ARGLWYDD, cymer fy einioes: canys nid ydwyf fi well na’m tadau. º5 Ac fel yr oedd efe yn gorwedd ac yn cysgu dan ferywen, wele, angel a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Cyfod, bwyta. º6 Ac efe a edrychodd: ac wele deisen wedi ei chrasu ar farwor, a ffiolaid o ddwfr wrth ei ben ef. Ac efe a fwytaodd ac a yfodd, ac a gysgodd drachefn. º7 Ac angel yr ARGLWYDD a ddaeth drachefn yr ail waith, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd, Cyfod a bwyta; canys y mae i ti lawer o ffordd. º8 Ac efe a gyfododd, ac a fwytaodd ac a yfodd; a thrwy rym y bwyd hwnnw y cerddodd efe ddeugain niwrnod a deugain nos, hyd Horeb mynydd Duw. º9 Ac yno yr aeth efe i fewn ogof, ac a letyodd yno. Ac wele air yr ARGLWYDD ato ef; ac efe a ddywedodd wrtho, Beth a wnei di yma, Eleias? º10 Ac efe a ddywedodd, Dygais fawr sel dros ARGLWYDD DDUW y lluoedd; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau di, a lladd dy broffwydi â’r cleddyf : a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent ddwyn fy einioes innau. º11 Ac efe a ddywedodd, DOS allan, a saf yn y mynydd gerbron yr ARGLWYDD. Ac wele yr ARGLWYDD yn myned heibio, a gwynt mawr a chryf yn rhwygo’r mynyddoedd, ac yn dryllio’r creigiau o flaen yr ARGLWYDD; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y gwynt: ac ar ôl y gwynt, daeargryn; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y ddaeargryn: º12 Ac ar ôl y ddaeargryn, tân; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y tân: ac ar ôl y tân, llef ddistaw fain. º13 A phan glybu Eleias, efe a oblygodd ei wyneb yn ei fantell, ac a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws yr ogof. Ac wele lef yn dyfod ato, yr hon a ddywedodd, Beth a wnei di yma, Eleias? º14 Dywedodd yntau, Dygais fawr sel dros ARGLWYDD DDUW y lluoedd; oher¬wydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau, a lladd dy broff¬wydi â’r cleddyf : a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y macnt fy einioes innau i’w dwyn hi ymaith. º15 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, DOS, dychwel i’th ffordd i anialwch Damascus: a phan ddelych, eneinia Hasael yn frenin ar Syria; º16 A Jehu mab Nimsi a eneini di yn frenin ar Israel; ac Eliseus mab Saffat, o Abel-mehola, a eneini di yn broffwyd yn dy Ie dy hun. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> lmfr9ixpyo05nh346ew9he5pkulo8ab Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/382 104 3636 171426 6836 2026-10-06T18:16:50Z Tylopous 3717 penodau 171426 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º17 A’r hwn a ddihango rhag cleddyf Hasael, Jehu a’i lladd ef: ac Eliseus a ladd yr hwn a ddihango rhag cleddyf Jehu. º18 A mi a adewais yn Israel saith o filoedd, y gliniau oll ni phlygasant i Baal, a phob genau a’r nis cusanodd ef. º19 Felly efe a aeth oddi yno, ac a gafodd Eliseus mab Saffat yn aredig, a deuddeg cwpl o ychen o’i flaen, ac efe oedd gyda’r deuddegfed. Ac Eleias a aeth heibio iddo ef, ac a fwriodd ei fantell arno ef. º20 Ac efe a adawodd yr ychen, ac a redodd ar ôl Eleias, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi gusanu fy nhad a’m mam, ac yna mi a ddeuaf ar dy ôl. Ac yntau a ddywedodd wrtho, DOS, dychwel; canys beth a wneuthum i ti? º21 Ac efe a ddychwelodd oddi ar ei ôl ef, ac a gymerdi gwpl o ychen, ac a’u lladdodd, ac ag offer yr ychen y berwodd efe eu cig hwynt, ac a’i rhoddodd i’r bobl, a hwy a fwytasant. Yna efe a gyfododd ac a aeth ar ôl Eleias, ac a’i gwasanaethodd ef. {{angor|Pennod_20}}{{c|{{uc|Pennod XX}}.}} {{bach|1 ''Benhadad, yn anfoddlawn i ŵrogaeth Ahab, yn gwarchae ar Samaria.'' 13 ''Lladd y Syriaid, trwy gynghor y prophwyd.'' 22 ''Y Syriaid, fel y dywedasai y prophwyd i Ahab, yn dyfod yn ei erbyn ef yn Aphec;'' 28 ''a thrwy air y prophwyd, a barn Duw, yn cael eu taro drachefn,'' 31 ''ac yn ymrôi, ac Ahab dan ammod yn gollwng ymaith Benhadad.'' 35 ''Y prophwyd, trwy ddammeg, yn peri i Ahab ei farnu ei hun, ac yn datgan barn Duw yn ei erbyn ef.''}} {{angor|20:1}} {{uc|A Benhadad}} brenin Syria a gasglt lodd ei holl lu, a deuddeg brenin ar hugain gydag ef, a meirch, a cherbydau: ac efe a aeth i fyny, ac a warchaeodd a£ Samaria, ac a ryfelodd i’w herbya hi. º2 Ac efe a anfonodd genhadau at Ahab brenin Israel, i’r ddinas, º3 Ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed Benhadad, Dy arian a’th aur sydd eiddof fi; dy wragedd hefyd, a’th feibion ,glanaf, ydynt eiddof fi. º4 A brenin Israel a atebodd ac a ddy¬wedodd, Yn ôl dy air di, fy arglwydd frenin, myfi a’r byn oll sydd gennyf ydym eiddot ti. º5 A’r cenhadau a ddychwelasant, ac a ddywedasant, Fel hyn yr ymadroddodd Benhadad, gan ddywedyd, Er i mi anfon atat ti, gan ddywedyd, Dy arian a’th aur, a’th wragedd, a’th feibion, a roddi di i mi: . 6 Eto ynghylch y pryd hwn yfory yr anfonaf fy ngweision atat ti, a hwy a chwiliant dy dŷ di, a thai dy weision: a phob peth dymunol yn dy olwg a gymerant hwy yn eu dwylo, ac a’i dygant ymaith. º7 Yna brenin Israel a alwodd holl henuriaid y wlad, ac a ddywedodd, Gwybyddwch, atolwg, a gwelwch mai ceisio drygioni y mae hwn: canys efe a anfonodd ataf fi am fy ngwragedd, ac am fy meibion, ac am fy arian, ac am fy aur, ac nis gomeddais ef. º8 Yr holl henuriaid hefyd, a’r holl bobl, a ddywedasant wrtho ef, Na wrando, ac na chytuna ag ef. º9 Am hynny y dywedodd efe wrth genhadau Benhadad, Dywedwch i’m harglwydd y brenin. Am yr hyn oll yr anfonaist ti at dy was ar y cyntaf, mi a’i gwnaf: ond ni allaf wneuthur y peth hyn. A’r cenhadau a aethant, ac a ddygasant air iddo drachefn. º10 A Benhadad a anfonodd ato ef, ac a ddywedodd, Fel hyn y gwnelo y duwiau i mi, ac fel hyn y chwanegont, os bydd pridd Samaria ddigon o ddyrneidiau i’r holl bobl sydd i’m canlyn i. º11 A brenin Israel a atebodd ac a ddy¬wedodd, Dywedwch wrtho, Nac ymffrostied yr hwn a wregyso ei arfau, fel yr hwn sydd yn eu diosg. º12 A phan glywodd efe y peth hyn, (ac efe yn yfed, efe a’r brenhinoedd, yn y pebyll,) efe a ddywedodd wrth ei weision, Ymosodwch. A hwy a ymosodasant yn erbyn y ddinas. º13 Ac wele, rhyw broffwyd a nesaodd at Ahab brenin Israel, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oni welaist ti yr holl dyrfa fawr hon? wele, mi a’i rhoddaf yn dy law di heddiw, fel y gwypech mai myfi yw yr ARGLWYDD, º14 Ac Ahab a ddywedodd, Trwy bwy? Dywedodd yntau. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Trwy wŷr ieuainc tywysogion y taleithiau. Ac efe a ddywedodd, Pwy a drefna y fyddin? Dywedodd yntau, Tydi. º15 Yna efe a gyfrifodd wŷr ieuainc tywysogion y taleithiau, ac yr oeddynt yn ddau cant a deuddeg ar hugain: ac ar eu hoi hwynt efe a gyfrifodd yr holl bobl, cwbl o feibion Israel, yn saith mil. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> nlusyw460n88hykm9a0ju7s4eloiskv Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/384 104 3638 171427 6838 2026-10-06T18:19:10Z Tylopous 3717 penodau 171427 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>aeth oddi wrtho ef, a Hew a’i cyfarfu ef, ac a’i lladdodd. º37 Yna efe a gafodd ŵr arall, ac a ddy*’ wedodd, Taro fi, atolwg. A’r gŵr a’L, trawodd ef, gan ei daro a’i archolli. º38 Felly y proffwyd a aeth ymaith, ac a safodd o flaen y brenin ar y ffordd, ac & ymddieithrodd a lludw ar ei wyneb. º39 A phan ddaeth y brenin heibio, efe a lefodd ar y brenin, ac a ddywedodd, Dy was a aeth i ganol y rhyfel:, ac wele, gŵr a drodd heibio, ac a ddug ŵr ataf fi, ac a ddywedodd, Cadw y gŵr hwn: os gaa golli y cyll efe, yna y bydd dy einioes di yn lle ei einioes ef, neu ti a deli dalent o arian. º40 A thra yr oedd dy was yn ymdroi yma ac acw, efe a ddihangodd. A brenin Israel a ddywedodd wrtho. Felly y bydd dy farn di; ti a’i rhoddaist ar lawr. º41 Ac efe a frysiodd, ac a dynnodd ymaith y lludw oddi ar ei wyneb: a: brenin Israel a’i hadnabu ef, mai o’r proffwydi yr oedd efe. º42 Ac efe a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oherwydd i ti ollwng ymaith o’th law y gŵr a nodais i’w ddifetha, dy einioes di fydd yn lle ei. einioes ef, a’th bobl di yn lle ei bobl ef. º43 A brenin Israel a aeth i’w dŷ ei hunt xxx yn drist ac yn ddicllon, ac a ddaeth i Samaria. {{angor|Pennod_21}}{{c|{{uc|Pennod XXI}}.}} {{bach|1 ''Ahab yn athrist am ei naccâu o winllan Naboth.'' 5 ''Naboth, ar lythyrau Jezebel, yn cael barn i farw am gabledd:'' 15 ''ac Ahab yn perchennogi ei winllan ef.'' 17 ''Elïas yn datgan barn Duw yn erbyn Ahab a Jezebel.'' 25 ''A Duw, ar edifeirwch Ahab, yn oedi ei farnedigaeth.''}} {{angor|21:1}} {{uc|A digwyddodd}} ar ol y pethau hyn, fod gwinllan gan Naboth y Jesreeliady yr hon oedd yn Jesreel, wrth balas Ahab brenin Samaria. º2 Ac Ahab a lefarodd wrth Naboth, gan. ddywedyd, Dyro i mi dy winllan, fel y byddo hi i mi yn ardd lysiau, canys y’ mae hi yn agos i’m tŷ i: a mi a roddaf i ti amdani hi winllan well na hi; neu, os da. fydd gennyt, rhoddaf i ti ei gwerth hi ycB arian. º3 A Naboth a ddywedodd wrth Ahab,; Na ato yr ARGLWYDD i mi roddi treftadaeth fy hynafiaid i ti. º4 Ac Ahab a ddaeth i’w dŷ yn athrist ac yn ddicllon, oherwydd y gair a lefarasai Naboth y Jesreeliad wrtho ef; canys efe a ddywedasai, Ni roddaf i ti dreftadaeth fy hynafiaid. Ac efe a orweddodd ar ei wely, ac a drodd ei wyneb ymaith, ac m fwytai fara. º5 Ond Jesebel ei wraig a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Paham y mae’ dy ysbryd mor athrist, ac nad wyt yn bwyta bara? º6 Ac efe a ddywedodd wrthi, Oherwydd. i mi lefaru wrth Naboth y Jesreeliad, a dywedyd wrtho, Dyro i mi dy winllan er arian: neu, os mynni di, rhoddaf i ti winllan amdani. Ac efe a ddywedodd, Ni roddaf i ti fy ngwinllan. º7 A Jesebel ei wraig a ddywedodd wrtho, Ydwyt ti yn awr yn teyrnasu ar Israel? cyfod, bwyta fara, a llawenyched dy galon; myfi a roddaf i ti winllan Naboth y Jesreeliad. º8 Felly hi a ysgrifennodd lythyrau yn enw Ahab, ac a’u seliodd a’i sel ef, ac a; anfonodd y llythyrau at yr henuriaid, ac at y penaethiaid oedd yn. ei ddinas yn. trigo gyda Naboth. ’ º9 A hi a ysgrifennodd yn y llythyrau, gan ddywedyd, Cyhoeddwch ympryd, a gosodwch Naboth uwchben y bobl. º10 Cyflewch hefyd ddau ŵr o feibion y fall, gyferbyn âg ef, i dystiolaethu i’w erbyn ef, gan ddywedyd, Ti a geblaist DDUW a’r brenin. Ac yna dygwch efallan, a llabyddiwch ef, fel y byddo efe marw. º11 A gwŷr ei ddinas, sef yr henuriaid a’r penaethiaid, y rhai oedd yn trigo yn ei ddinas ef, a wnaethant yn ôl yr hyn a anfonasai Jesebel atynt hwy, ac yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yn y llythyrau a anfonasai hi atynt hwy. º12 Cyhoeddasant ympryd, a chyfleasant Naboth uwchben y bobl. º13 A dau ŵr, o feibion y fall, a ddaethant, ac a eisteddasant ar ei gyfer ef: a gwŷr y fall a dystiolaethasant yn ei erbyn ef, sef yn erbyn Naboth, gerbron y bobl, gan ddywedyd, Naboth a gablodd DDUW a’r brenin. Yna hwy a’i dygasant ef allan o’r ddinas, ac a’i llabyddiasant ef a meini, fel y bu efe farw. º14 Yna yr anfonasant hwy at Jesebel, gan ddywedyd, Naboth a labyddiwyd, ac a fu farw. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> jfahb40qbhfdgpv70l5vaem6rajhwao Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/385 104 3639 171428 6839 2026-10-06T18:21:45Z Tylopous 3717 penodau 171428 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º15 A phan glybu Jesebel labyddio Naboth, a’i farw, Jesebel a ddywedodd wrth Ahab, Cyfod, perchenoga winllan Naboth y Jesreeliad yr hwn a wrthododd ei rhoddi i ti er arian; canys nid byw Naboth, eithr marw yw. º16 A phan glybu Ahab farw Naboth, Ahab a gyfododd i fyned i waered i win¬llan Naboth y Jesreeliad, i gymryd meddiant ynddi. º17 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, º18 Cyfod, dos i waered i gyfarfod Ahab brenin Israel, yr hwn sydd yn Samaria: wele efe yng ngwinllan Naboth, yr hon yr aeth efe i waered iddi i’w meddiannu. º19 A llefara wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, A leddaist ti, ac a feddiennaist hefyd? Llefara hefyd wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Yn y fan lle y llyfodd y cwn waed Naboth, y llyf cwn dy waed dithau hefyd. º20 A dywedodd Ahafa wrth bleias, A gefaist ti fi, O fy ngelyn? Dywedodd yntau, Cefais: oblegid i ti ymwerthu i wneuthur yr hyn sydd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. º21 Wele fi yn dwyn drwg arnat ti, a mi a dynnaf ymaith dy hiliogaeth di, ac a dorraf oddi wrth Ahab bob gwryw, y gwarchaeëdig hefyd, a’r gweddilledig yn Israel: º22 A mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat, ac fel tŷ Baasa mab Ahia, oherwydd y dieter trwy yr hwn y’m digiaist, ac y gwnaethost i Israel bechu. º23 Am Jesebel hefyd y llefarodd yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Y cwn a fwyty Jesebel wrth fur Jesreel. º24 Y cwn a fwyty yr hwn a fyddo marw o’r eiddo Ahab yn y ddinas: a’r hwn a fyddo marw yn y maes a fwyty adar y nefoedd. º25 Diau na bu neb fel Ahab yr hwn a ymwerthodd i wneuthur drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: oherwydd Jesebel ei wraig a’i hanogai ef. º26 Ac efe a wnaeth yn ffiaidd iawn, gan fyned ar ôl delwau, yn ôl yr hyn oll a wnaeth yr Amoriaid, y rhai a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel. º27 A phan glybu Ahab y geiriau hyn, efe a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachliain am ei gnawd, ac a ymprydiodd, ac a orweddodd mewn sachliain, ac a gerddodd yn araf. º28 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, º29 Oni weli di fel yr ymostwng Ahab ger fy mron? am iddo ymostwng ger fy mron i, ni ddygaf y drwg yn ei ddyddiau ef; ond yn nyddiau ei fab ef y dygaf y drwg ar ei dy ef. {{angor|Pennod_22}}{{c|{{uc|Pennod XXII}}.}} {{bach|1 ''Ahab wedi ei dwyllo gan y gau-brophwydi, yn ol gair Micheah, yn cael ei ladd yn Ramoth-Gilead.'' 37 ''Y cwn yn llyfu ei waed ef, ac Ahazïah yn teyrnasu ar ei ol ef.'' 41 ''Daionus lywodraeth Jehosaphat,'' 45 ''a’i weithredoedd.'' 50 ''Jehoram yn frenhin ar ei ol ef.'' 51 ''Drygionus lywodraeth Ahazïah.''}} {{angor|22:1}} {{uc|A buant}} yn aros dair blynedd heb ryfel rhwng Syria ac Israel. º2 Ac yn y drydedd flwyddyn, Jehosaffat brenin Jwda a ddaeth i waered at frenin Israel. º3 A brenin Israel a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch mai eiddo ni yw RamothGilead, a’n bod ni yn tewi, heb ei dwyn hi o law brenin Syria? º4 Ac efe a ddywedodd wrth Jehosaffat, A ei gyda mi i ryfel i RamothGilead? A Jehosaffat a ddywedodd wrth frenin Israel, Yr ydwyf fi fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau. º5 Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel, Ymgynghora, atolwg, heddiw a gair yr ARGLWYDD. º6 Yna brenin Israel a gasglodd y proffwydi, ynghylch pedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A af fi yn erbyn RamothGilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, DOS i fyny; canys yr ARGLWYDD a’i dyry hi yn llaw y brenin. º7 A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma un proffwyd i’r ARGLWYDD mwyach, fel yr ymgynghorem ag ef? º8 A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori a’r ARGLWYDD: eithr cas yw gennyf fi ef, canys ni phroffwyda efe i mi ddaioni, namyn drygioni;<noinclude><references/></noinclude> 1n33x6qshmebr1ty5hvtblapm7o0536 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/388 104 3642 171430 171288 2026-10-07T05:33:33Z Tylopous 3717 penodau 171430 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Ail lyfr y brenhinoedd;}}}}<br> {{sc|yr hwn a elwir hefyd,}}<br> {{uc|Pedwerydd llyfr y brenhinoedd.}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|1 ''Moab yn gwrthryfela.'' 2 ''Ahazïah yn gyrru at Baal-zebub, ac yn cael ei farnu gan Elïas.'' 5 ''Elïas ddwywaith yn dwyn tân o’r nefoedd ar y rhai a anfonasai Ahazïah i’w ddal ef,'' 13 ''yn tosturio wrth y trydydd tywysog; a chwedi ei gysuro gan angel, yn dangos i’r brenhin ei farwolaeth.'' 17 ''Jehoram mab Ahab yn teyrnasu yn lle Ahazïah.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Yna}} Moab a wrthryfelodd yn erbyn Israel, wedi marwolaeth Ahab. 1:2 Ac Ahaseia a syrthiodd trwy ddellt o’i lofft, yr hon oedd yn Samaria, ac a glafychodd; ac efe a anfonodd genhadau, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, ac ymofynnwch â Baal-sebub duw Ecron, a fyddaf fi byw o’r clefyd hwn. 1:3 Ac angel yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Eleias y Thesbiad, Cyfod, dos i fyny i gyfarfod â chenhadau brenin Samaria, a dywed wrthynt, Ai am nad oedd Duw yn Israel, yr ydych chwi yn myned i ymofyn a Baal-sebub duw Ecron? 1:4 Ac am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD; Ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw. Ac Eleias a aeth ymaith. 1:5 A phan ddychwelodd y cenhadau ato ef, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y dychwelasoch chwi? 1:6 A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr a ddaeth i fyny i’n cyfarfod ni, ac a ddy¬wedodd wrthym ni, Ewch, dychwelwch at y brenin a’ch anfonodd, a lleferwch wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ai am nad oes Duw yn Israel, yr ydwyt ti yn anfon i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron? oherwydd hynny ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw. 1:7 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa ddull oedd ar y gŵr a ddaeth i fyny i’ch cyfarfod chwi, ac a lefarodd wrthych yr ymadroddion yma? 1:8 A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr blewog oedd efe, wedi ymwregysu hefyd â gwregys croen am ei lwynau. Dywed¬odd yntau, Eleias y Thesbiad oedd efe. 1:9 Yna efe a anfonodd ato ef dywysog ar ddeg a deugain, ynghyda’i ddeg a deugain: ac efe a aeth i fyny ato ef; (ac wele ef yn eistedd ar ben bryn;) ac a lefarodd wrtho, Ti ŵr Duw, y brenin a lefarodd, Tyred i waered. 1:10 Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrth dywysog y deg a deugain, Os gŵr i Duw ydwyf fi, disgynned tân o’r nefoedd, ac ysed di a’th ddeg a deugain. A thân a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain. 1:11 A’r brenin a anfonodd eilwaith ato ef dywysog arall ar ddeg a deugain, a’i ddeg a deugain: ac efe a atebodd ac a ddywedodd, O ŵr Duw, fel hyn y dywedodd y brenin. Tyred i waered yn ebrwydd. 1:12 Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Os gŵr Duw ydwyf fi, disgynned tan o’r nefoedd, ac ysed di a’th ddeg a deugain. A thân Duw a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain. 1:13 A’r brenin a anfonodd eto y trydydd tywysog ar ddeg a deugain, a’i ddeg a deugain: a’r trydydd tywysog ar ddeg a deugain a aeth i fyny, ac a ddaeth ac a ymgrymodd ar ei liniau gerbron Eleias, ac a ymbiliodd ag ef, ac a lefarodd wrtho, O ŵr Duw, atolwg, bydded fy einioes i, ac einioes dy ddeg gwas a deugain hyn, yn werthfawr yn dy olwg di. 1:14 Wele, disgynnodd tân o’r nefoedd, ac a ysodd y ddau dywysog cyntaf ar ddeg a deugain, a’u deg a deugeiniau: am hynny yn awr bydded fy einioes i yn werthfawr yn dy olwg di. 1:15 Ac angel yr ARGLWYDD a lefarodd wrth Eleias, Dos i waered gydag ef, nac ofna ef. Ac efe a gyfododd, ac a aeth i waered gydag ef at y brenin. 1:16 Ac efe a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Oherwydd i ti anfon cenhadau i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron, (ai am nad oes Duw yn Israel i ymofyn â’i air?) am hynny ni ddisgynni<noinclude><references/></noinclude> f9od6wv5yamdhy733unlzb4vm6rhf9e Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/389 104 3644 171431 6853 2026-10-07T05:37:06Z Tylopous 3717 penodau 171431 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>o’r gwely y dringaist amo, eithr gan farw y byddi farw. 1:17 Felly efe a fu farw, yn ôl gair yr ARGLWYDD yr hwn a lefarasai Eleias: a Jehoram a deyrnasodd yn ei le ef, yn yr ail flwyddyn i Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda; am nad oedd mab iddo ef. 1:18 A’r rhan arall o weithredoedd Ahaseia y rhai a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1 ''Elïas, wrth ganu yn iach i Elisëus, yn hollti yr Iorddonen â’i fantell;'' 9 ''a chwedi rhoi ei ddymuniad i Elisëus, yn cael ei ddwyn i’r nefoedd mewn cerbyd tanllyd.'' 12 ''Elisëus yn hollti yr Iorddonen â mantell Elïas; ac eraill yn gwybod wrth hynny ei fod ef yn lle Elïas.'' 16 ''Meibion y prophwydi yn mynnu chwilio am Elïas, a heb ei gael ef.'' 19 ''Elisëus â halen yn iachâu y dwfr.'' 23 ''Eirth yn distrywio y plant a felldigasai Elisëus.''}} {{angor|2:1}} {{uc|A phan}} oedd yr ARGLWYDD ar gymryd i fyny Eleias mewn corwynt i’r nefoedd, aeth Eleias ac Eliseus allan o Gilgal. 2:2 Ac Eleias a ddywedodd wrth Eliseus, Aros, atolwg, yma: canys yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i Bethel. Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. Felly hwy a aethant i waered i Bethel. 2:3 A meibion y proffwydi, y rhai oedd yn Bethel, a ddaethant allan at Eliseus, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti mai heddiw y mae yr ARGLWYDD yn dwyn dy feistr oddi arnat ti? Dywedodd yntau. Mi a wn hynny hefyd, tewch chwi â son. 2:4 Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg, Eliseus; canys yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i Jericho. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. Felly hwy a ddaethant i Jericho. 2:5 A meibion y proffwydi, y rhai oedd yn Jericho, a ddaethant at Eliseus, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti mai heddiw y mae yr ARGLWYDD yn dwyn dy feistr oddi arnat ti? Yntau a ddywedodd, Mi a wn hynny hefyd, tewch chwi â son. 2:6 Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg; canys yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i’r Iorddonen. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. A hwy a aethant ill dau rhagddynt. 2:7 A dengwr a deugain o feibion y proffwydi a aethant, ac a safasant ar gyfer o bell: a hwy ill dau a safasant wrth yr Iorddonen. 2:8 Ac Eleias a gymerth ei fantell, ac a’i plygodd ynghyd, ac a drawodd y dyfroedd, a hwy a ymwahanasant yma ac acw, fel yr aethant hwy trwodd ill dau ar dir sych. 2:9 Ac wedi iddynt fyned drosodd, Eleias a ddywedodd wrth Eliseus, Gofyn y peth a wnelwyf i ti, cyn fy nghymryd oddi wrthyt. A dywedodd Eliseus, Bydded gan hynny, atolwg, ddau parth o’th ysbryd di arnaf fi. 2:10 Dywedodd yntau, Gofynnaist beth anodd: os gweli fi wrth fy nghymryd oddi wrthyt, fe fydd i ti felly; ac onid e, ni bydd. 2:11 Ac fel yr oeddynt hwy yn myned dan rodio ac ymddiddan, wele gerbyd tanllyd, a meirch tanllyd, a hwy a’u gwahanasant hwynt ill dau. Ac Eleias a ddyrchafodd mewn corwynt i’r nefoedd. 2:12 Ac Eliseus oedd yn gweled, ac efe a lefodd, Fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel, a’i farchogion. Ac nis gwelodd ef mwyach: ac efe a ymaflodd yn ei ddillad, ac a’u rhwygodd yn ddeuddarn. 2:13 Ac efe a gododd i fyny fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef; ac a ddychwelodd ac a safodd wrth fin yr Iorddonen. 2:14 Ac efe a gymerth fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef, ac a drawodd y dyfroedd, ac a ddywedodd. Pa le y mae ARGLWYDD DDUW Eleias? Ac wedi iddo yntau daro’r dyfroedd, hwy a wahanwyd yma ac acw. Ac Eliseus a aeth drosodd. 2:15 A phan welodd meibion y proffwydi ef, y rhai oedd yn Jericho ar ei gyfer, hwy a ddywedasant, Gorffwysodd ysbryd Eleias ar Eliseus. A hwy a ddaethant i’w gyfarfod ef, ac a ymgrymasant hyd lawr iddo. 2:16 A hwy a ddywedasant wrtho, Wele yn awr, y mae gyda’th weision ddeg a deugain o wŷr cryfion; elont yn. awr, ni a atolygwn, a cheisiant dy feistr: rhag i ysbryd yr ARGLWYDD ei ddwyn ef, a’i fwrw ar ryw fynydd, neu mewn rhyw<noinclude><references/></noinclude> 1s2701xet8lbkh1111afcuvqyrjkzeu Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/390 104 3645 171432 6854 2026-10-07T05:40:14Z Tylopous 3717 penodau 171432 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ddyffryn. Dywedodd yntau, Na anfonwch. 2:17 Eto buant daer arno, nes cywilyddio ohono, ac efe a ddywedodd, Anfonwch. A hwy a anfonasant ddengwr a deugain, y rhai a’i ceisiasant ef dridiau, ond nis cawsant. 2:18 A hwy a ddychwelasant ato ef, ac efe oedd yn aros yn Jericho; ac efe a ddy¬wedodd wrthynt hwy, Oni ddywedais i wrthych, Nac ewch? 2:19 A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Eliseus, Wele, atolwg, ansawdd y ddinas, da yw, fel y mae fy arglwydd yn gweled: ond y dyfroedd sydd ddrwg, a’r tir yn ddiffaith. 2:20 Ac efe a ddywedodd, Dygwch i mi ffiol newydd, a dodwch ynddi halen. A hwy a’i dygasant ato ef. 2:21 Ac efe a aeth at ffynhonnell y dyfr¬oedd, ac a fwriodd yr halen yno, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Mi a iacheais y dyfroedd hyn; ni bydd oddi yno farwolaeth mwyach, na diffrwythdra. 2:22 Felly yr iachawyd y dyfroedd hyd y dydd hwn, yn ôl gair Eliseus, yr hwn a ddywedasai efe. 2:23 Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Bethel: ac fel yr oedd efe yn myned i fyny ar hyd y ffordd, plant bychain a ddaeth allan o’r ddinas, ac a’i gwatwarasant ef, ac a ddywedasant wrtho ef, Dos i fyny, moelyn, dos i fyny, moelyn. 2:24 Ac efe a drodd yn ei ôl, ac a edrychodd arnynt, ac a’u melltithiodd yn enw yr ARGLWYDD. A dwy arth a ddaeth allan o’r goedwig, ac a ddrylliodd ohonynt ddau blentyn a deugain. 2:25 Ac efe a aeth oddi yno i fynydd Carmel, ac oddi yno efe a ddychwelodd i Samaria. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Jehoram yn teyrnasu.'' 4 ''Mesa yn gwrthryfela.'' 6 ''Jehoram, a Jehosaphat, a brenhin Edom, mewn cyfyngder am ddwfr, trwy Elisëus yn cael dwfr, ac addewid o fuddugoliaeth.'' 21 ''Y Moabiaid, wedi eu twyllo gan liw y dwfr wrth ddyfod i yspeilio, yn cael eu gorchfygu.'' 26 ''Brenhin Moab, trwy aberthu mab brenhin Edom, yn gyrru Israel i’w gwlad.''}} {{angor|3:1}} {{uc|A Jehoram}} mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria, yn y ddeunawfed flwyddyn i Jehosaffat brenin Jwda, ac a deyrnasodd ddeuddeng mlynedd. 3:2 Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ond nid fel ei dad nac fel ei fam: canys efe a fwriodd ymaith ddelw Baal, yr hon a wnaethai ei dad. 3:3 Eto efe a lynodd wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu: ni chiliodd efe oddi wrthynt hwy. 3:4 A Mesa brenin Moab oedd berchen defaid, ac a dalai i frenin Israel gan mil o ŵyn, a chan mil o hyrddod gwlanog. 3:5 Ond wedi marw Ahab, brenin Moab a wrthryfelodd yn erbyn brenin Israel. 3:6 A’r brenin Jehoram a aeth allan y pryd hwnnw o Samaria, ac a gyfrifodd holl Israel. 3:7 Efe a aeth hefyd ac a anfonodd at Jehosaffat brenin Jwda, gan ddywedyd, Brenin Moab a wrthryfelodd i’m herbyn i: a ddeui di gyda mi i ryfel yn erbyn Moab? Dywedodd yntau, Mi a af i fyny; myfi a fyddaf fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau. 3:8 Ac efe a ddywedodd. Pa ffordd yr awn ni i fyny? Dywedodd yntau, Ffordd anialwch Edom. 3:9 Felly yr aeth brenin Israel, a brenin Jwda, a brenin Edom; ac a aethant o amgylch ar eu taith saith niwrnod: ac nid oedd dwfr i’r fyddin, nac i’r anifeiliaid oedd yn eu canlyn hwynt. 3:10 A brenin Israel a ddywedodd, Gwae fi! oherwydd i’r ARGLWYDD alw y tri brenin hyn ynghyd i’w rhoddi yn llaw Moab. 3:11 A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma broffwyd i’r ARGLWYDD, fel yr ymofynnom ni â’r ARGLWYDD trwyddo ef? Ac un o weision brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Y mae yma Eliseus mab Saffat, yr hwn a dywalltodd ddwfr ar ddwylo Eleias. 3:12 A Jehosaffat a ddywedodd, Y mae gair yr ARGLWYDD gydag ef. Felly brenin Israel, a Jehosaffat, a brenin Edom, a aethant i waered ato ef. 3:13 Ac Eliseus a ddywedodd wrth frenin Israel, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi? dos at broffwydi dy dad, ac at broffwydi dy fam. A brenin Israel a ddywedodd wrtho, Nage: canys yr ARGLWYDD a alwodd y tri brenin hyn ynghyd i’w rhoddi yn llaw Moab. 3:14 Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw ARGLWYDD y lluoedd, yr<noinclude><references/></noinclude> i96zy3ggtwhb1nqishd5hw8nt75e1e0 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/391 104 3646 171433 6855 2026-10-07T05:42:40Z Tylopous 3717 penodau 171433 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, oni bai fy mod i yn perchi wyneb Jehosaffat brenin Jwda, nid edrychaswn i arnat ti, ac ni’th welswn. 3:15 Ond yn awr dygwch i mi gerddor. A phan ganodd y cerddor, daeth llaw yr ARGLWYDD arno ef. 3:16 Ac efe a ddywedodd. Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Gwna y dyffryn hwn yn llawn ffosydd. 3:17 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ni welwch wynt, ac ni welwch law; eto y dyffryn hwn a lenwir o ddwfr, fel yr yfoch chwi, a’ch anifeiliaid, a’ch ysgrubliaid. 3:18 A pheth ysgafn yw hyn yng ngolwg yr ARGLWYDD: efe a ddyry Moab yn eich llaw chwi hefyd. 3:19 A chwi a drewch bob dinas gaerog, a phob dinas ddetholedig; a phob pren teg a fwriwch chwi i lawr; yr holl ffynhonnau dyfroedd hefyd a gaewch chwi, a phob darn o dir da a ddifwynwch chwi â cherrig. 3:20 A’r bore pan offrymwyd y bwyd-offrwm, wele ddyfroedd yn dyfod o ffordd Edom; a’r wlad a lanwyd o ddyfr¬oedd. 3:21 A phan glybu yr holl Foabiaid fod y brenhinoedd hynny wedi dyfod i fyny i ymladd yn eu herbyn hwynt, y galwyd ynghyd bawb a’r a allai wisgo arfau, ac uchod, a hwy a safasant ar y terfyn. 3:22 A hwy a gyfodasant yn fore, a’r haul a gyfodasai ar y dyfroedd; a’r Moabiaid a ganfuant ar eu cyfer y dyfroedd yn goch fel gwaed: 3:23 A hwy a ddywedasant, Gwaed yw hwn: gan ddifetha y difethwyd y brenhin¬oedd, a hwy a drawsant bawb ei gilydd: am hynny yn awr at yr anrhaith, Moab. 3:24 A phan ddaethant at wersyll Israel, yr Israeliaid a gyfodasant ac a drawsant y Moabiaid, fel y ffoesant o’u blaen hwynt: a hwy a aethant rhagddynt, gan daro’r Moabiaid yn eu gwlad eu hun. 3:25 A hwy a ddistrywiasant y dinasoedd, ac i bob darn o dir da y bwriasant bawb ei garreg, ac a’i llanwasant; a phob ffynnon ddwfr a gaeasant hwy, a phob pren da a gwympasant hwy i lawr: yn unig yn Cir-haraseth y gadawsant ei cherrig; eto y rhai oedd yn taflu a’i hamgylchynasant, ac a’i trawsant hi. 3:26 A phan welodd brenin Moab fod y rhyfelwyr yn drech nag ef, efe a gymerth saith gant o wŷr gydag ef yn tynnu cleddyf, i ruthro ar frenin Edom: ond nis gallasant hwy. 3:27 Yna efe a gymerodd ei fab cyntaf-anedig ef, yr hwn oedd i deyrnasu yn ei le ef, ac a’i hoffrymodd ef yn boethoffrwm ar y mur. A bu llid mawr yn erbyn Israel: a hwy a aethant ymaith oddi wrtho ef, ac a ddychwelasant i’w gwlad eu hun. {{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Elisëus trwy rad penllad yn amlhâu olew y wraig weddw ddyledog.'' 12 ''Yn cael mab i’r Sunamees,'' 18 ''ac yn ei gyfodi ef o farw i fyw:'' 38 ''yn iachâu y cawl yn Gilgal:'' 42 ''yn porthi cannwr âg ugain torth o fara.''}} {{angor|4:1}} {{uc|A rhyw}} wraig o wragedd meibion y proffwydi a lefodd ar Eliseus, gan ddywedyd, Dy was fy ngŵr a fu farw; a thi a wyddost fod dy was yn ofni yr AR¬GLWYDD: a’r echwynnwr a ddaeth i gymryd fy nau fab i i fod yn gaethion iddo. 4:2 Ac Eliseus a ddywedodd wrthi, Beth a wnaf fi i ti? mynega i mi, beth sydd gennyt ti yn dy dŷ? Dywedodd hithau, Nid oes dim gan dy lawforwyn yn tŷ, ond ystenaid o olew. 4:3 Ac efe a ddywedodd, Dos, cais i ti lestri oddi allan gan dy holl gymdogion, sef llestri gweigion, nid ychydig. 4:4 A phan ddelych i mewn, cae y drws arnat, ac ar dy feibion, a thywallt i’r holl lestri hynny; a dod heibio yr hwn a fyddo llawn. 4:5 Felly hi a aeth oddi wrtho ef, ac a gaeodd y drws arni, ac ar ei meibion: a hwynt-hwy a ddygasant y llestri ati hi; a hithau a dywalltodd. 4:6 Ac wedi llenwi y llestri, hi a ddywed¬odd wrth ei mab, Dwg i mi eto lestr. Dywedodd yntau wrthi, Nid oes mwyach un llestr. A’r olew a beidiodd. 4:7 Yna hi a ddaeth ac a fynegodd i ŵr Duw. Dywedodd yntau, Dos, gwerth yr olew, a thâl dy ddyled; a bydd di fyw, ti a’th feibion, ar y rhan arall. 4:8 A bu ar ryw ddiwrnod i Eliseus dramwyo i Sunem; ac yno yr oedd gwraig oludog, yr hon a’i cymhellodd ef i fwyta bara. A chynifer gwaith ag y tramwyai efe heibio, efe a droai yno i fwyta bara. 4:9 A hi a ddywedodd wrth ei gŵr, Wele yn awr, mi a wn mai gŵr sanct-<noinclude><references/></noinclude> 9lccbhp287eu3mcgy7sqn8qqupzzayo Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/393 104 3648 171434 6857 2026-10-07T05:45:21Z Tylopous 3717 penodau 171434 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>yn seithwaith, a’r bachgen a agorodd ei lygaid. 4:36 Ac efe a alwodd ar Gehasi, ac a ddywedodd, Galw y Sunamees hon. Ac efe a alwodd arni hi. A hi a ddaeth ato ef. Dywedodd yntau, Cymer dy fab. 4:37 A hi a aeth i mewn, ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a ymgrymodd hyd lawr, ac a gymerodd ei mab, ac a aeth allan. 4:38 Ac Eliseus a ddychwelodd i Gilgal. Ac yr oedd newyn yn y wlad; a meibion y proffwydi oedd yn eistedd ger ei fron ef: ac efe a ddywedodd wrth ei was, Trefna’r crochan mawr, a berw gawl i feibion y proffwydi. 4:39 Ac un a aeth allan i’r maes i gasglu bresych, ac a gafodd winwydden wyllt, ac a gasglodd ohoni fresych gwylltion lonaid ei wisg, ac a ddaeth ac a’u briwodd yn y crochan cawl: canys nid adwaenent hwynt. 4:40 Yna y tywalltasant i’r gwŷr i fwyta. A phan fwytasant o’r cawl, hwy a waeddasant, ac a ddywedasant, O ŵr Duw, y mae angau yn y crochan: ac ni allent ei fwyta. 4:41 Ond efe a ddywedodd, Dygwch flawd. Ac efe a’i bwriodd yn y crochan: dywedodd hefyd, Tywallt i’r bobl, fel y bwytaont. Ac nid oedd dim niwed yn y crochan. 4:42 A daeth gŵr o Baal-salisa, ac a ddug i ŵr Duw o fara blaenffrwyth ugain torth haidd, a thywysennau o ŷd newydd yn ei gibau. Ac efe a ddywedodd, Dod i’r bobl, fel y bwytaont. 4:43 A’i weinidog ef a ddywedodd, I ba beth y rhoddaf hyn gerbron cannwr? Dywedodd yntau, Dyro i’r bobl, fel y bwytaont: canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Hwy a fwytânt, a bydd gweddill. 4:44 Felly efe a’i rhoddodd ger eu bron hwynt: a hwy a fwytasant, ac a weddillasant, yn ôl gair yr ARGLWYDD. {{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}} {{bach|1 ''Naaman, wrth chwedl ei gaeth-forwyn, yn myned i Samaria i’w iachâu o’i wahan-glwyf.'' 8 ''Elisëus yn ei yrru ef i’r Iorddonen i’w iachâu;'' 15 ''yn gwrthod ei roddion ef, ac yn rhoi iddo beth o’r ddaear.'' 20 ''Gehazi yn enw ei feistr yn cymmeryd rhoddion Naaman, ac yn cael gwahan-glwyf tragywyddol.''}} {{angor|5:1}} {{uc|A Naaman}}, tywysog llu brenin Syria, oedd ŵr mawr yng ngolwg ei ar¬glwydd, ac yn anrhydeddus; canys trwyddo ef y rhoddasai yr ARGLWYDD ymwared i Syria: ac yr oedd efe yn ŵr cadarn nerthol, ond yr oedd yn wahanglwyfus. 5:2 A’r Syriaid a aethent allan yn finteioedd, ac a gaethgludasent o wlad Israel lances fechan; a honno oedd yn gwasanaethu gwraig Naaman. 5:3 A hi a ddywedodd wrth ei meistres, O na byddai fy arglwydd o flaen y proffwyd sydd yn Samaria! canys efe a’i hiachai ef o’i wahanglwyf. 5:4 Ac un a aeth ac a fynegodd i’w arglwydd, gan ddywedyd, Fel hyn ac fel hyn y dywedodd y llances o wlad Israel. 5:5 A brenin Syria a ddywedodd, Dos, cerdda, a mi a anfonaf lythyr at frenin Israel. Ac efe a aeth ymaith, ac a ddug gydag ef ddeg talent o arian, a chwe mil o aur, a deg pâr o ddillad. 5:6 Ac efe a ddug y llythyr at frenin Israel, gan ddywedyd, Yn awr pan ddêl y llythyr hwn atat ti, wele, anfonais atat ti Naaman fy ngwas, fel yr iacheit ef o’i; wahanglwyf. 5:7 A phan ddarllenodd brenin Israel y llythyr, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ddywedodd, Ai Duw ydwyf fi, i farwhau, ac i fywhau, pan anfonai efe ataf fi i iacháu gŵr o’i wahanglwyf? gwybyddwch gan hynny, atolwg, a gwelwch mai ceisio achos y mae efe i’m herbyn i. 5:8 A phan glybu Eliseus gŵr Duw rwygo o frenin Israel ei ddillad, efe a anfonodd at y brenin, gan ddywedyd, Paham y rhwygaist dy ddillad? deued yn awr ataf fi, ac efe a gaiff wybod fod proffwyd yn Israel. 5:9 Yna Naaman a ddaeth â’i feirch ac â’i gerbydau, ac a safodd wrth ddrws tŷ Eliseus. . 5:10 Ac Eliseus a anfonodd ato ef gennad, gan ddywedyd, Dos ac ymolch saith waith yn yr Iorddonen; a’th gnawd a ddychwel i ti, a thithau a lanheir. 5:11 Ond Naaman a ddigiodd, ac a aeth ymaith; ac a ddywedodd, Wele, mi a feddyliais ynof fy hun, gan ddyfod y deuai efe allan, ac y safai efe, ac y galwai ar enw yr ARGLWYDD ei DDUW, ac y gosodai ei law ar y fan, ac yr iachai y gwahan-glwyfus. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> az76yanxojbc65nwun5yoojmxy5tw7r Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/394 104 3649 171435 6858 2026-10-07T05:48:17Z Tylopous 3717 penodau 171435 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>5:12 Onid gwell Abana a Pharpar, afonydd Damascus, na holl ddyfroedd Israel? oni allaf ymolchi ynddynt hwy, ac ymlanhau? Felly efe a drodd, ac, a aeth ymaith mewn dicter. 5:13 A’i weision a nesasant, ac a lefarasant wrtho, ac a ddywedasant, Fy nhad, pe dywedasai y proffwyd beth mawr wrthyt ti, onis gwnelsit? pa faint mwy, gan iddo ddywedyd wrthyt, Ymolch, a bydd lân? 5:14 Ac yna efe a aeth i waered, ac a ymdrochodd saith waith yn yr Iorddonen, yn ôl gair gŵr Duw: a’i gnawd a ddy¬chwelodd fel cnawd dyn bach, ac efe a lanhawyd. 5:15 Ac efe a ddychwelodd at ŵr Duw, efe a’i holl fintai, ac a ddaeth ac a safodd ger ei fron ef; ac a ddywedodd, Wele, yn awr y gwn nad oes Duw trwy yr holl ddaear, ond yn Israel: am hynny cymer yn awr, atolwg, rodd gan dy was. 5:16 Ond efe a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, ni chymeraf. Ac efe a gymhellodd arno ei chymryd; eto efe a’i gwrthododd. 5:17 A Naaman a ddywedodd, Oni roddir yn awr i’th was lwyth cwpl o fulod o ddaear? canys ni offryma dy was mwyach boethoffrwm nac aberth i dduwiau eraill, ond i’r ARGLWYDD. 5:18 Yn y peth hyn yr ARGLWYDD a faddeuo i’th was; pan elo fy arglwydd i dŷ Rimmon i addoli yno, a phwyso ar fy llaw i, a phan ymgrymwyf finnau yn nhŷ Rimmon; pan ymgrymwyf yn nhŷ Rimmon, maddeued yr ARGLWYDD i’th was yn y peth hyn. 5:19 Ac efe a ddywedodd wrtho, Dos mewn heddwch. Ac efe a aeth oddi wrtho ef encyd o ffordd. 5:20 Ond Gehasi, gwas Eliseus gŵr Duw, a ddywedodd, Wele, fy meistr a arbedodd Naaman y Syriad hwn, heb gymryd o’i law ef yr hyn a ddygasai efe: fel mai byw yr ARGLWYDD, mi a redaf ar ei ôl ef, ac a gymeraf ryw beth ganddo ef. 5:21 Felly Gehasi a ganlynodd ar ôl Naaman. A phan welodd Naaman ef yn rhedeg ar ei ôl, efe a ddisgynnodd oddi ar y cerbyd i’w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, A yw pob peth yn dda? 5:22 Dywedodd yntau, Y mae pob peth yn dda. Fy meistr a’m hanfonodd i, gan ddywedyd, Wele, yr awr hon dau lanc o fynydd Effraim, o feibion y proffwydi, a ddaeth ataf fi: dyro yn awr iddynt hwy dalent o arian, a dau bâr o ddillad. 5:23 A Naaman a ddywedodd, Bydd fodlon, cymer ddwy dalent. Ac efe a fu daer arno ef; ac a rwymodd ddwy dalent arian mewn dwy god, a deubar o ddillad; ac efe a’u rhoddodd ar ddau o’i weision, i’w dwyn o’i flaen ef. 5:24 A phan ddaeth efe i’r bwlch, efe a’u cymerth o’u llaw hwynt, ac a’u rhoddodd i gadw yn tŷ; ac a ollyngodd ymaith y gwŷr, a hwy a aethant ymaith. 5:25 Ond efe a aeth i mewn, ac a safodd o flaen ei feistr. Ac Eliseus a ddywedodd wrtho ef, O ba le y daethost ti, Gehasi? Dywedodd yntau, Nid aeth dy was nac yma na thraw. 5:26 Ac efe a ddywedodd wrtho, Onid aeth fy nghalon gyda thi, pan drodd y gŵr oddi ar ei gerbyd i’th gyfarfod di? a ydoedd hi amser i gymryd arian, ac i gymryd gwisgoedd, ac olewyddlannau, a gwinllannau, a defaid, a gwartheg, a gweision, a morynion? 5:27 Am hynny gwahanglwyf Naaman a lŷn wrthyt ti, ac wrth dy had yn dragywydd. Ac efe a aeth ymaith o’i ŵydd ef yn wahanglwyfus cyn wynned â’r eira. {{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}} {{bach|1 ''Elisëus yn caniattâu i feibion y prophwydi gael ehengi eu terfynau; ac yn peri i’r haiarn nofio:'' 8 ''yn datguddio cyfrinach brenhin Syria.'' 18 ''Y llu a yrrwyd i ddal Elisëus, yn cael eu taro â dallineb:'' 19 ''a chwedi eu dwyn i Samaria, yn cael eu gollwng ymaith.'' 24 ''Y newyn yn Samaria yn peri i wragedd fwytta eu plant.'' 30 ''Y brenhin yn gyrru i ladd Elisëus.''}} {{angor|6:1}} {{uc|A meibion}} y proffwydi a ddywedasant wrth Eliseus, Wele yn awr, y lle yr hwn yr ydym ni yn trigo ynddo ger dy fron di, sydd ry gyfyng i ni. 6:2 Awn yn awr hyd yr Iorddonen, fel y cymerom oddi yno bawb ei drawst, ac y gwnelom i ni yno le i gyfanheddu ynddo. Dywedodd yntau, Ewch. 6:3 Ac un a ddywedodd, Bydd fodlon, atolwg, a thyred gyda’th weision. Dywed¬odd yntau. Mi a ddeuaf. 6:4 Felly efe a aeth gyda hwynt.<noinclude><references/></noinclude> td965iftgbn0j1mm7kqa3rflnagv0wq Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/396 104 3651 171436 6860 2026-10-07T05:50:54Z Tylopous 3717 penodau 171436 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ddywedodd, Y wraig hon a ddywedodd wrthyf, Dyro dy fab, fel y bwytaom ef heddiw; a’m mab innau a fwytawn ni yfory. 6:29 Felly ni a ferwasom fy mab i, ac a’i bwytasom ef: a mi a ddywedais wrthi hithau y diwrnod arall, Dyro dithau dy fab, fel y bwytaom ef: ond hi a guddiodd ei mab. 6:30 A phan glybu y brenin eiriau y wraig, efe a rwygodd ei ddillad, ac a aeth heibio ar y mur; a’r bobl a edrychodd, ac wele, sachliain oedd am ei gnawd ef oddi fewn. 6:31 Ac efe a ddywedodd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, os saif pen Eliseus mab Saffat arno ef heddiw. 6:32 Ond Eliseus oedd yn eistedd yn ei dŷ, a’r henuriaid yn eistedd gydag ef. A’r brenin a anfonodd ŵr o’i flaen: ond cyn dyfod y gennad ato ef, efe a ddywedodd wrth yr henuriaid, A welwch chwi fel yr anfonodd mab y llofrudd hwn i gymryd ymaith fy mhen i? Edrychwch pan ddêl y gennad i mewn, caewch y drws, a deliwch ef wrth y drws: onid yw trwst traed ei arglwydd ar ei ôl ef? 6:33 Ac efe eto yn ymddiddan â hwynt, wele y gennad yn dyfod i mewn ato ef: ac efe a ddywedodd, Wele, y drwg hyn sydd oddi wrth yr ARGLWYDD; paham y disgwyliaf wrth yr ARGLWYDD mwy? {{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}} {{bach|1 ''Elisëus yn prophwydo helaethrwydd anghredawy yn Samaria.'' 3 ''Pedwar gwahan-glwyfus yn myned i wersyll y Syriaid, ac yn dangos iddynt ffoi.'' 12 ''Y brenhin yn cael hynny yn wir, ac yn yspeilio pebyll y Syriaid.'' 17 ''Y pennaeth ni choeliai eiriau y prophwyd, yn cael ei sathru dan draed nes ei farw.''}} {{angor|7:1}} {{uc|Yna}} Eliseus a ddywedodd, Gwrandewch air yr ARGLWYDD: Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Ynghylch y pryd hwn yfory y gwerthir sat o beilliaid er sicl, a dau sat o haidd er sicl, ym mhorth Samaria. 7:2 Yna tywysog yr oedd y brenin yn pwyso ar ei law a atebodd ŵr Duw, ac a ddywedodd, Wele, pe gwnelai yr ARGLWYDD ffenestri yn y nefoedd, a fyddai y peth hyn? Dywedodd yntau, Wele, ti a’i gweli â’th lygaid, ond ni fwytei ohono. 7:3 Ac yr oedd pedwar gŵr gwahanglwyfus wrth ddrws y porth, a hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Paham yr ydym ni yn aros yma nes ein meirw? 7:4 Os dywedwn ni, Awn i mewn i’r ddinas, newyn sydd yn y ddinas, a ni a fyddwn feirw yno; ac os trigwn yma, ni a fyddwn feirw hefyd. Am hynny deuwch yn awr, ac awn i wersyll y Syriaid: o chadwant ni yn fyw, byw fyddwn; ac os lladdant ni, byddwn feirw. 7:5 A hwy a gyfodasant ar doriad dydd i fyned i wersyll y Syriaid. A phan ddaethant at gwr eithaf gwersyll y Syriaid, wele, nid oedd neb yno. 7:6 Canys yr ARGLWYDD a barasai i wersyll y Syriaid glywed trwst cerbydau, a thrwst meirch, trwst llu mawr: a hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Wele, brenin Israel a gyflogodd i’n herbyn ni frenhinoedd yr Hethiaid, a brenhinoedd yr Aifft, i ddyfod arnom ni. 7:7 Am hynny hwy a gyfodasant, ac a ffoesant, ar lasiad dydd, ac a adawsant eu pebyll, a’u meirch, a’u hasynnod, sef y gwersyll fel yr ydoedd, ac a ffoesant am eu heinioes. 7:8 A phan ddaeth y rhai gwahanglwyfus hyn hyd gwŵr eithaf y gwersyll, hwy a aethant i un babell, ac a fwytasant, ac a yfasant, ac a gymerasant oddi yno arian, ac aur, a gwisgoedd, ac a aethant, ac a’i cuddiasant, ac a ddychwelasant; ac a aethant i babell arall, ac a gymerasant oddi yno, ac a aethant, ac a’i cuddiasant. 7:9 Yna y dywedodd y naill wrth y llall, Nid ydym ni yn gwneuthur yn iawn; y dydd hwn sydd ddydd llawen-chwedl, ac yr ydym ni yn tewi â son; os arhoswn ni hyd oleuni y bore, rhyw ddrwg a ddigwydd i ni: deuwch gan hynny yn awr, ac awn fel y mynegom i dŷ y brenin. 7:10 Felly hwy a ddaethant, ac a waeddasant ar borthor y ddinas; a hwy a fynegasant iddynt, gan ddywedyd, Daethom i wersyll y Syriaid, ac wele, nid oedd yno neb, na llais dyn, ond y meirch yn rhwym, a’r asynnod yn rhwym, a’r pebyll megis yr oeddynt o’r blaen. 7:11 Ac efe a alwodd ar y porthorion; a hwy a’i mynegasant i dŷ y brenin oddi fewn. 7:12 A’r brenin a gyfododd liw nos, ac a ddywedodd wrth ei weision, Mynegaf yn awr i chwi yr hyn<noinclude><references/></noinclude> 3bd13umq9rl6klnyamc7dcp1bvz625q Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/397 104 3652 171437 6861 2026-10-07T05:54:12Z Tylopous 3717 penodau 171437 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>a wnaeth y Syriaid i ni. Gwyddent mai newynog oeddem ni; am hynny yr aethant ymaith o’r gwersyll i ymguddio yn y maes, gan ddywedyd. Pan ddelont hwy allan o’r ddinas, ni a’u daliwn hwynt yn fyw, ac a awn i mewn i’r ddinas. 7:13 Ac un o’r gweision a atebodd ac a ddywedodd, Cymer yn awr bump o’r meirch a adawyd, y rhai a adawyd yn y ddinas, (wele, y maent hwy fel holl liaws Israel, y rhai a arosasant ynddi; wele, y maent hwy fel holl liaws Israel, y rhai a ddarfuant;) ac anfonwn, ac edrychwn. 7:14 Felly hwy a gymerasant feirch dau gerbyd: a’r brenin a anfonodd ar ôl gwersyll y Syriaid, gan ddywedyd, Ewch ac edrychwch. 7:15 A hwy a aethant ar eu hôl hwynt hyd yr Iorddonen, ac wele, yr holl ffordd ydoedd yn llawn o ddillad a llestri, y rhai a fwriasai y Syriaid ymaith wrth frysio: a’r cenhadau a ddychwelasant ac a fynegasant i’r brenin. 7:16 A’r bobl a aethant allan, ac a anrheithiasant wersyll y Syriaid: a bu sat o beilliaid er sicl, a dau sat o haidd er sicl, yn ôl gair yr ARGLWYDD. 7:17 A’r brenin a osododd y tywysog yr oedd efe yn pwyso ar ei law i wylied ar y porth: a’r bobl a’i mathrasant ef yn y porth, ac efe fu farw, megis y llefarasai gŵr Duw, yr hwn a ddywedasai hynny pan ddaeth y brenin i waered ato ef. 7:18 A bu megis y llefarasai gŵr Duw wrth y brenin, gan ddywedyd, Dau sat o haidd er sicl, a sat o beilliaid er sicl, fydd y pryd hwn yfory ym mhorth Samaria. 7:19 A’r tywysog a atebasai ŵr Duw, ac a ddywedasai, Wele, pe gwnelai yr AR¬GLWYDD ffenestri yn y nefoedd, a fyddai y peth hyn? Dywedodd yntau, Wele, ti a’i gweli â’th lygaid, ond ni fwytei ohono. 7:20 Ac felly y bu iddo ef: canys y bobl a’i sathrasant ef yn y porth, ac efe a fu farw. {{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}} {{bach|1 ''Y Sunamees, wedi gadael ei gwlad saith mlynedd i ffoi rhag y newyn, yn cael gan y brenhin ei thir yn ei ol, er mwyn gwyrthiau Elisëus.'' 7 ''Hazael, wedi clywed y brophwydoliaeth, yn lladd ei feistr, ac yn teyrnasu yn ei le ef.'' 16 ''Annuwiol lywodraeth Jehoram ar Judah.'' 20 ''Edom a Libnah yn cilio oddi wrth Judah.'' 23 ''Ahazïah yn frenhin ar ol Jehoram,'' 25 ''a’i lywodraeth annuwiol ef.'' 28 ''Efe yn ymweled â Jehoram, oedd friwedig yn Jezreel.''}} {{angor|8:1}} {{uc|Yna}} Eliseus a lefarodd wrth y wraig y bywhasai efe ei mab, gan ddy¬wedyd, Cyfod, a dos,ti a’th dylwyth, ac ymdeithia lle y gellych ymdeithio: canys yr ARGLWYDD a alwodd am newyn, a hwnnw a ddaw ar y wlad saith mlynedd. º2 A’r wraig a gyfododd, ac a wnaeth yn ôl gair gŵr Duw: a hi a aeth, hi a’i thylwyth, ac a ymdeithiodd yng ngwlad y Philistiaid saith mlynedd. º3 Ac ymhen y saith mlynedd, y wraig a ddychwelodd o wlad y Philistiaid: a hi a aeth i weiddi ar y brenin am ei thy, ac am ei thir. º4 A’r brenin oedd yn ymddiddan â Gehasi gwas gŵr Duw, gan ddywedyd, Adrodd i mi, atolwg, yr holl bethau mawr a wnaeth Eliseus. º5 Ac fel yr oedd efe yn mynegi i’r brenin y modd y bywhasai efe y marw, yna wele y wraig y bywhasai efe ei mab yn gweiddi ar y brenin am ei thy, ac am ei thir. A Gehasi a ddywedodd, Fy arglwydd frenin, dyma’r wraig, a dyma ei mab yr hwn a ddarfu i Eliseus ei fywhau. º6 A’r brenin a ofynnodd i’r wraig; a hithau a fynegodd iddo ef. A’r brenin a roddodd iddi ryw ystafellydd, gan ddy¬wedyd, Dod drachefn yr hyn oll oedd eiddi hi, a holl gnwd y maes, o’r dydd y gadawodd hi y wlad hyd y pryd hwn. º7 A daeth Eliseus i Damascus: a Benhadad brenin Syria oedd glaf; a mynegwyd iddo ef, gan ddywedyd, Daeth gŵr Duw yma. º8 A’r brenin a ddywedodd wrth Hasael, Cymer anrheg yn dy law, a dos i gyfarfod â gŵr Duw; ac ymofyn a’r ARGLWYDD trwyddo ef, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o’r clefyd hwn? º9 Felly Hasael a aeth i’w gyfarfod ef, ac a gymerth anrheg yn ei law, a phob peth a’r a oedd dda o Damascus, sef Bwyth deugain o gamelod; ac a ddaeth, ac a safodd o’i flaen ef, ac a ddywedodd, Benhadad brenin Syria dy fab a’m hanfonodd atat, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o’r clefyd hwn? º10 Ac Eliseus a ddywedodd wrtho, DOS, a dywed wrtho, Diau y gelli fyw: eto yr ARGLWYDD a ddangosodd i mi y bydd efe marw yn ddiau. º11 Ac efe a osododd ei wyneb, ac a ddaliodd sylw arno, nes cywil-<noinclude><references/></noinclude> 42uheetupr8ci745jr62y03r9orlo27 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/398 104 3653 171438 6862 2026-10-07T05:56:47Z Tylopous 3717 penodau 171438 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>yddio ohono ef: a gŵr Duw a wylodd. º12 A Hasael a ddywedodd, Paham y mae fy arglwydd yn wylo? Dywedodd yntau. Am fy mod yn gwybod y drwg a wnei di i feibion Israel: eu hamddiffynfaoedd hwynt a losgi di â thân, a’u gwŷr ‘ieuainc a leddi â’r cleddyf , a’u plant a bwyi, a’u gwragedd beichiogion a rwygi. º13 A Hasael a ddywedodd. Pa beth! ai ei yw dy was, fel y gwnelai efe y mawr beth hyn? Ac Eliseus a ddywedodd, Yr ARGLWYDD a ddangosodd i mi y byddi di, yn frenin ar Syria. º14 Felly efe a aeth ymaith oddi wrth Eliseus, ac a ddaeth at ei arglwydd; yr hwn a ddywedodd wrtho, Beth a ddy¬wedodd Eliseus wrthyt ti? Ac efe a ateb¬odd, Efe a ddywedodd wrthyf, y byddit ti byw yn ddiau. º15 A thrannoeth efe a gymerth wrthban, ac a’i gwlychodd mewn dwfr, ac a’i lledodd ar ei wyneb ef, fel y bu efe farw: a Hasael a deyrnasodd yn ei le ef. º16 Ac yn y bumed flwyddyn i Jorara mab Ahab brenin Israel, a Jehosaffat yn, frenin yn Jwda, y dechreuodd Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda deyrnasu. º17 Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu; ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. º18 Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhin¬oedd Israel, fel y gwnai tŷ Ahab: canys merch Ahab oedd yn wraig iddo: felly efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. º19 Ond ni fynnai yr ARGLWYDD ddifetha Jwda, er mwyn Dafydd ei was; megis yr addawsai efe, y rhoddai iddo oleuni, ac i’w feibion yn dragywydd. º20 Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Jwda, ac y gosodasant frenin arnynt eu hunain. º21 A Joram a aeth trosodd i Sair, a’r holl gerbydau gydag ef; ac efe a gyfododd liw nos, ac a drawodd yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau: a’r bobl a ffodd i’w pebyll. º22 Er hynny Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda hyd y dydd hwn. Yna y gwrthryfelodd Libna y pryd hwnnw. º23 A’r rhan arall o hanes Joram, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? º24 A Joram a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd; ac Ahaseia ei fab a deyrnasoddi yn ei le ef. º25 Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Joram mab Ahab brenin Israel yr aeth Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda yn frenin. º26 Mab dwy flwydd ar hugain oedd Ahaseia pan aeth efe yn frenin; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Athaleia, merch Omri brenin Israel. º27 Ac efe a rodiodd yn ffordd tŷ Ababa ac a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel tŷ Ahab: canys’ daw tŷ Ahab ydoedd efe. º28 Ac efe a aeth gyda Joram mab Ahab i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria i RamothGilead; a’r Syriaid a drawsant Joram. º29 A Joram y brenin a ddychwelodd i Jesreel i ymiacháu o’r briwiau a roesai y Syriaid iddo ef yn Rama, wrth ymladd, ohono ef yn erbyn Hasael brenin Syria: ac Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled a Joram mab Ahab yn Jesreel; canys claf ydoedd. {{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}} {{bach|1 ''Elisëus yn danfon prophwyd ieuangc i enneinio Jehu yn Ramoth-Gilead.'' 4 ''Y prophwyd wedi gwneuthur ei neges, yn ffoi.'' 11 ''Jehu, wedi ei wneuthur yn frenhin gan y milwyr, yn lladd Joram ym maes Naboth.'' 27 ''Lladd Ahazïah yn Gur, a’i gladdu yn Jerusalem.'' 30 ''Taflu Jezebel allan trwy ffenestr, a chwn yn ei bwytta hi.''}} {{angor|9:1}} {{uc|Ac}} Eliseus y proffwyd a alwodd un o-feibion y proffwydi, ac a ddywedodd wrtho, Gwregysa dy lwynau, a chymer y ffiolaid olew hon yn dy law, a dos i RamothGilead. º2 A phan ddelych yno, edrych yno am Jehu mab Jehosaffat, mab Nimsi; a dos i mewn, a phar iddo godi o fysg ei frodyr, a dwg ef i ystafell ddirgel: º3 Yna cymer y ffiolaid olew, a thywallt ar ei ben ef, a dywed, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Mi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel; yna agor y drws, a ffo, ac nac aros. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> gj9izwyjvwqx5n830zh0f17ov8jntkp Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/400 104 3655 171439 6865 2026-10-07T05:59:57Z Tylopous 3717 penodau 171439 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>dau ar ôl Ahab ei dad ef, roddi o’r ARGLWYDD arno ef y baich hwn. º26 Diau, meddai yr ARGLWYDD, gwaed Naboth, a gwaed ei feibion, a welais i neithiwr, a mi a dalaf i ti yn y rhandir hon, medd yr ARGLWYDD. Gan hynny cymer a bwrw ef yn awr yn y rhandir hon, yn ôl gair yr ARGLWYDD. º27 Ond pan welodd Ahaseia brenin Jwda hynny, efe a ffodd ar hyd ffordd tŷ yr ardd. A Jehu a yrnlidiodd ar ei ôl ef, ac a ddywedodd, Trewch hwn hefyd yn ei gerbyd. A hwy a’i trawsant ef yn rhiw Gur, yr hon sydd wrth Ibleam; ac efe a ffodd i Megido, ac a fu farw yno. º28 A’i weision a’i dygasant ef mewn cerbyd i Jerwsalem, ac a’i claddasant ef yn ei feddrod gyda’i dadau, yn ninas Dafydd. º29 Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg’i Joram mab Ahab yr aethai Ahaseia yn frenin ar Jwda. º30 A phan ddaeth Jehu i Jesreel, Jesebel a glybu hynny, ac a golurodd ei hwyneb, ac a wisgodd yn wych am ei phen, ac a edrychodd trwy ffenestr. º31 A phan oedd Jehu yn dyfod i mewn i’r porth, hi a ddywedodd, A fu heddwch "i Simri, yr hwn a laddodd ei feistr? º32 Ac efe a ddyrchafodd ei wyneb at y ffenestr, ac a ddywedodd, Pwy sydd gyda mi, pwy? A dau neu dri o’r ystafellyddion a edrychasant arno ef. º33 Yntau a ddywedodd, Teflwch hi i lawr. A hwy a’i taflasant hi i lawr; a thaenellwyd peth o’i gwaed hi ar y pared, ac ar y meirch: ac efe a’i mathrodd hi. º34 A phan ddaeth efe i mewn, efe a fwytaodd ac a yfodd, ac a ddywedodd, Edrychwch am y wraig felltigedig honno, a. chleddwch hi; canys merch brenin ydyw hi. º35 A hwy a aethant i’w chladdu hi; ond ni chawsant ohoni onid y benglog a’r traed, a chledrau’r dwylo. º36 Am hynny hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant iddo ef. Dywedodd yntau, Dyma air yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarodd efe trwy law ei wasanaethwr Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, Yn rhandir Jesreel y bwyty y own gnawd Jesebel: º37 A chelain Jesebel a fydd fel tomen ar wyneb y maes, yn rhandir Jesreel; fel na ellir dywedyd, Dyma Jesebel. {{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}} {{bach|1 ''Jehu trwy lythyrau yn peri torri pennau deng mab a thri ugain Ahab:'' 8 ''ac yn ei esgusodi ei hun â prophwydoliaeth Elïas:'' 12 ''yn laadd dau a deugain o frodyr Ahazïah wrth y tŷ cenifio:'' 15 ''yn cymmeryd Jehonadab atto;'' 18 ''a thrwy gyfrwysdra yn difetha holl addolwyr Baal:'' 29 ''yn canlyn pechodau Jeroboam.'' 32 ''Hazael yn gorthrymmu Israel.'' 34 ''Joahaz yn frenhin ar ol Jehu.''}} {{angor|10:1}} {{uc|Ac}} i Ahab yr oedd deng mab a thrigain Ax yn Samaria. A Jehu a ysgrifennodd lythyrau, ac a anfonodd i Samaria, at dywysogion Jesreel, ac at yr henuriaid, ac at dadmaethod Ahab, gan ddywedyd, º2 Ac yn awr pan ddêl y llythyr hwn atoch chwi, canys gyda chwi y mae meibion eich arglwydd, a chennych chwi y mae cerbydau, a meirch, a dinasoedd caerog, ac arfau: º3 Yna edrychwch yr hwn sydd orau, ac yn gymhwysaf o feibion eich arglwydd, a gosodwch ef ar deyrngadair ei dad, ac ymleddwch dros dy eich arglwydd. º4 A hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant, Wele, dau frenin ni safasant o’i flaen ef: pa fodd gan hynny y safwn ni? º5 Am hynny yr anfonodd yr hwn oedd ar y tŷ, a’r hwn oedd ar y ddinas, a’r henuriaid, a’r tadmaethod, at Jehu, gan ‘ddywedyd, Dy weision di ydym ni, a’r byn oll a ddywedych di wrthym a wnawn ni; ni wnawn ni neb yn frenin: gwna yr hyn a fyddo da yn dy olwg. º6 Yna efe a ysgrifennodd yr ail lythyr atynt hwy, gan ddywedyd, Os eiddof fi fyddwch, ac os ar fy llais i y gwrandewch, cymerwch bennau y gwŷr, meibion eich arglwydd xxxx a deuwch ataf fi y pryd hwn yfory i Jesreel. A meibion y brenin, sef deng nyn a thrigain, oedd gyda phenaethiaid y ddinas, y rhai oedd yn eu meithrin hwynt. º7 A phan ddaeth y llythyr atynt, hwy a gymerasant feibion y brenin, ac a laddasant ddeng nyn a thrigain, ac a osodasant eu pennau hwynt mewn basgedau, ac a’u danfonasant ato ef i Jesreel. º8 A chennad a ddaeth ac a fynegodd iddo ef, gan ddywedyd, Hwy a ddygasant bennau meibion y brenin. Dywed¬odd yntau, Gos-<noinclude><references/></noinclude> li4n6teteqd9fn4i51kds947x5qpxj7 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/402 104 3657 171440 6867 2026-10-07T06:02:13Z Tylopous 3717 penodau 171440 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>yn dda, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, yn ôl yr hyn oll a’r a oedd yn fy nghalon i y gwnaethost i dŷ Ahab, meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfainc Israel. º31 Ond nid edrychodd Jehu am rodio yng nghyfraith ARGLWYDD DDUW Israel a’i holl galon: canys ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. º32 Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr ARGLWYDD dorri cyrrau Israel: a Hasael a’u trawodd hwynt yn holl derfynau Israel; º33 O’r Iorddonen tua chodiad haul, sef holl wlad Gilead, y Gadiaid, a’r Reubeniaid, a’r Manassiaid, o Aroer, yr hon sydd wrth afon Arnon, Gilead a Basan hefyd. º34 A’r rhan arall o hanes Jehu, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe, a’i holl gadernid ef; onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? º35 A Jehu a hunodd gyda’i dadau, a chladdwyd ef yn Samaria, a Joahas ei fab a deymasodd yn ei le ef. º36 A’r dyddiau y teyrnasodd Jehu as Israel yn Samaria oedd wyth mlynedd ar hugain. {{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod XI}}.}} {{bach|1 ''Achub Joas gan ei fodryb Joseba, pan ladodd Athalïah yr had brenhinol, a’i guddio chwe blynedd yn nhŷ Dduw.'' 4 ''Jehoiada, trwy gynnorthwy y tywysogion, ar y seithfed flwyddyn yn ei wneuthur ef yn frenhin.'' 13 ''Lladd Athalïah.'' 17 ''Jehoiada yn adferu gwasanaeth Duw.''}} {{angor|11:1}} {{uc|A phan}} welodd Athaleia mam Ahaseia farw o’i mab, hi a gyfododd, ac a ddifethodd yr holl had brenhinol. º2 Ond Joseba merch y brenin Joram, chwaer Ahaseia, a gymerth Joas mab Ahaseia, ac a’i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd: a hwy a’i cuddiasant ef a’i famaeth yn ystafell y gwelyau, rhag Athaleia, fel na ladd-royd ef. º3 Ac efe a fu gyda hi ynghudd yn nhŷ yr ARGLWYDD chwe blynedd: ac Athaleia oedd yn teyrnasu ar y wlad. º4 Ac yn y seithfed flwyddyn yr anfonodd Jehoiada, ac y cymerth dywysogion y cannoedd, a’r capteiniaid, a’r swyddogion, ac a’u dug hwynt i mewn ato i dŷ yr ARGLWYDD, ac a wnaeth a hwynt gyfamod, ac a wnaeth iddynt dyngu yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac a ddangosodd iddynt fab y brenin. º5 Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Dyma’r peth a wnewch chwi; Trydedd ran ohonoch sydd yn dyfod i mewn ar y Saboth, a gadwant wyliadwriaeth tŷ y brenin: º6 A thrydedd ran fydd ym mhorth Sur: a thrydedd ran yn y porth o’r tu ôl i’r swyddogion: felly y cedwch wyliadwriaeth y tŷ rhag ei dorri. º7 A deuparth ohonoch oll sydd yn myned allan ar y Saboth, a gadwant wyliadwriaeth tŷ yr ARGLWYDD, ynghylch y brenin. º8 A chwi a amgylchynwch y brenin o bob parth, pob un a’i arfau yn ei law; a’r hwn a ddelo i’r rhesau, lladder ef: a byddwch gyda’r brenin pan elo efe allan, a phan ddelo efe i mewn. º9 A thywysogion y cannoedd a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad, a chymerasant bawb eu gwŷr y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth, gyda’r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth; ac a ddaethant at Jehoiada yr offeiriad. º10 A’r offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd waywffyn a tharianau y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD. º11 A’r swyddogion a safasant bob un a5i arfau yn ei law, o’r tu deau i’r tŷ, hyd y tu aswy i’r tŷ, wrth yr allor a’r tŷ, amgylch ogylch y brenin. º12 Ac efe a ddug allan fab y brenin, ac a roddodd y goron arno ef, a’r dystiolaeth: a hwy a’i hurddasant ef yn frenin, ac a’i heneiniasant ef; curasant hefyd eu dwylo, a dywedasant, Byw fyddo’r brenin. º13 A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, hi a ddaeth i mewn at y bobl i dŷ yr ARGLWYDD. º14 A phan edrychodd hi, wele, y brenin oedd yn sefyll wrth y golofn yn ôl yr arfer, a’r tywysogion a’r utgyrn yn ymyl y brenin, a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn canu mewn utgyrn. Ac Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a waeddodd, Bradwriaeth, bradwriaeth! º15 A Jehoiada yr offeiriad a orchy-<noinclude><references/></noinclude> oms7l3z53f1uemid7f45bsj5gjkiiot Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/403 104 3658 171441 6868 2026-10-07T06:04:11Z Tylopous 3717 penodau 171441 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>mynodd i dywysogion y cannoedd, y rhai oedd wedi eu gosod ar y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi o’r tu allan i’r rhesau; a’r hwn a ddelo ar ei hôl hi, Lladder ef â’r cleddyf : canys dywedasai yr offeiriad, Na ladder hi yn nhŷ yr ARGLWYDD. º16 A hwy a osodasant ddwylo arni hi, a hi a aeth ar hyd y ffordd feirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdwyd hi. º17 A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhwng yr ARGLWYDD a’r brenin a’r bobl, i fod ohonynt yn bobl i’r ARGLWYDD,, a rhwng y brenin a’r bobl. º18 A holl bobl y wlad a aethant i d Baal, ac a’i dinistriasant ef a’i allorau, ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy yn chwilfriw, lladdasant hefyd Mattan offeir¬iad Baal o flaen yr allorau. A’r offeiriad a osododd oruchwylwyr ar dŷ yr AR¬GLWYDD. º19 Efe a gymerth hefyd dywysogion y cannoedd, a’r capteiniaid, a’r swydd¬ogion, a holl bobl y wlad, a hwy a ddygasant i waered y brenin o d yr ARGLWYDD , ac a ddaethant ar hyd ffordd porth y swyddogion, i dŷ y brenin: ac efe a eisteddodd ar orseddfa y brenhinoedd. º20 A holl bobl y wlad a lawenychasant, a’r ddinas a lonyddodd: a hwy a laddasant Athaleia â’r cleddyf wrth dy y brenin. º21 Mab saith mlwydd oedd Joas pan aeth efe yn frenin. {{angor|Pennod_12}}{{c|{{uc|Pennod XII}}.}} {{bach|1 ''Joas yn teyrnasu yn dduwiol tra fu fyw Jehoiada;'' 4 ''ac yn peri cyweirio y deml.'' 17 ''Troi Hazael oddi wrth Jerusalem âg anrheg o’r trysorau cyssegredig.'' 19 ''Ei weision yn lladd Joas, ac Amasïah yn myned yn frenhin ar ei ol ef.''}} {{angor|12:1}} {{uc|Yn}} y seithfed flwyddyn i Jehu y dechreuodd Joas deyrnasu, a deugaia mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Sibia o Beerseba. º2 A Joas a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei holl ddyddiau, yn y rhai y dysgodd Jehoiada yr offeiriad ef. ‘ º3 Er hynny ni thynasid ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd. º4 A Joas a ddywedodd wrth yr offeiriaid, Holl arian y pethau cysegredig a ddyger i mewn i dŷ yr ARGLWYDD, arian y gŵr a gyniweirio, arian gwerth eneidiau pob un, a’r holl arian a glywo neb ar ei galon eu dwyn i mewn i dŷ yr ARGLWYDD-S º5 Cymered yr offeiriaid hynny iddynfe, pawb gan ei gydnabod, a chyweiriant adwyau y tŷ, pa le bynnag y caffer adwy ynddo. º6 Ond yn y drydedd flwyddyn ar hugain i’r brenin Joas, nid adgyweiriasai yr offeiriaid agennau y tŷ. º7 Yna y brenin Joas a alwodd am Jehoiada yr offeiriad, a’r offeiriaid erailt, ac a ddywedodd wrthynt, Paham nad ydych chwi yn cyweirio agennau y ty? yn awr gan hynny, na dderbyniwch ariaa gan eich cydnabod, ond rhoddwch hwy at gyweirio adwyau y tŷ. º8 A’r offeiriaid a gydsyniasant na dderbynient arian gan y bobl, ac na chyweirient agennau y tŷ. º9 Eithr Jehoiada yr offeiriad a gymerth gist, ac a dyllodd dwil yn ei chaead, ac a’i gosododd hi o’r tu deau i’r allor, ffordd y delai un i mewn i dŷ yr ARGLWYDD: a’r offeiriaid, y rhai oedd yn cadw y drws, a roddent yno yr holl arian a ddygid i mewn i d yr ARGLWYDD. º10 A phan welent fod llawer o arian yn y gist, y deuai ysgrifennydd y brenin, a’r archoffeiriad, i fyny, ac a roent mewn codau, ac a gyfrifent yr arian a gawsid yn nh yr ARGLWYDD. º11 A hwy a roddasant yr arian wedi en cyfrif, yn nwylo gweithwyr y gwaith, ‘ goruchwylwyr tŷ yr ARGLWYDD: a hwy a’i talasant i’r seiri pren, ac i’r adeiladwyr oedd yn gweithio tŷ yr ARGLWYDD. º12 Ac i’r seiri meini, ac i’r naddwyr cerrig, ac i brynu coed a cherrig nadd, i gyweirio adwyau tŷ yr ARGLWYDD, ac am yr hyn oll a aethai allan i adgyweirio y tŷ. º13 Eto ni wnaed yn nhŷ yr ARGLWYDD gwpanau arian, saltringau, cawgiau, utgyrn, na llestri aur, na llestri arian, o’r arian a ddygasid i mewn i dŷ yr AR¬GLWYDD. º14 Eithr hwy a’i rhoddasant i’ weithwyr y gwaith; ac a gyweiriasant a, hwynt dŷ yr ARGLWYDD. º15 Ac ni cheisiasant gyfrif gan y<noinclude><references/></noinclude> ksy3pq6aseg4j1hx7gtyh0dl2hnfffv Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/404 104 3659 171442 6870 2026-10-07T06:07:27Z Tylopous 3717 penodau 171442 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>dynion y rhoddasant hwy yr arian yn eu dwylo i’w rhoddi i weithwyr y gwaith: canys yr oeddynt hwy yn gwneuthur yn ffyddlon. º16 Yr arian dros gamwedd a’r arian dros bechodau, ni dducpwyd i mewn i dŷ yr ARGLWYDD: eiddo yr offeiriaid oeddynt hwy. º17 Yna Hasael brenin Syria a aeth i fyny, ac a ymladdodd yn erbyn Gath, ac a’i henillodd hi: a Hasael a osododd ei wyneb i fyned i fyny yn erbyn Jerw¬salem. º18 A Joas brenin Jwda a gymerth yr holl bethau cysegredig a gysegrasai Jehosa-ffat, a Jehoram, ac Ahaseia, ei dadau ef, brenhinoedd Jwda, a’i gysegredig bethau ef ei hun, a’r holl aur a gafwyd yn nhrysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin, ac a’u hanfonodd at Hasael brenin Syria, ac efe a ymadawodd oddi wrth Jerwsalem. º19 A’r rhan arall o hanes Joas, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Jwda? º20 A’i weision ef a gyfodasant, ac a gydfwriadasant fradwriaeth; ac a laddasant Joas yn nhŷ Milo, wrth ddyfod i waered i Sila. 21 A Josachar mab Simeath, a Josabad mab Somer, ei weision ef, a’i trawsant ef, ac efe a fu farw; a hwy a’i claddasant ef gyda’i dadau yn ninas Dafydd: ac Amaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. {{angor|Pennod_13}}{{c|{{uc|Pennod XIII}}.}} {{bach|1 ''Annuwiol lywodraeth Joahaz;'' 3 ''a Hazael yn ei orthrymmu ef; ac yntau yn cael ymwared trwy weddi.'' 8 ''Joas yn teyrnasu yn ei le ef;'' 10 ''ei annuwiol lywodraeth yntau.'' 12 ''Jeroboam yn dyfod ar ei ol ef.'' 14 ''Elisëus wrth farw yn prophwydo y gorchfygai Joas y Syriaid dair gwaith.'' 20 ''Y Moabiaid yn dyfod yn erbyn y wlad, ac esgyrn Elisëus yn cyfodi gwr marw.'' 22 ''Hazael yn marw, a Joas deirgwaith yn gorchfygu Benhadad.''}} {{angor|13:1}} {{uc|Yn}} y drydedd flwyddyn ar hugain i Joas mab Ahaseia brenin Jwda, y teyrnasodd Joahas mab Jehu ar Israel yn Samaria, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe. º2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd ar ôl pechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; ni throdd oddi wrthynt hwy. º3 A digofaint yr ARGLWYDD a lidiodd yn erbyn Israel; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw Hasael brenin Syria, ac yn llaw Benhadad mab Hasael, eu holl ddyddiau hwynt. º4 A Joahas a erfyniodd ar yr ARGLWYDD, a gwrandawodd yr ARGLWYDD arno ef; oherwydd iddo ganfod gorthrymder Israel, canys brenin Syria a’u gorthrynaai hwynt. º5 (A’r ARGLWYDD a roddodd achubwr i Israel, fel yr aethant oddi tan law y Syriaid: a meibion Israel a drigasant yn eu pebyll fel cynt. º6 Eto ni throesant hwy oddi wrth bechodau tŷ Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, eithr rhodiasant ynddyn): hwy: a’r llwyn hefyd a safai yn Samaria.) º7 Ac ni adawodd efe i Joahas o’r bobl;, ond deg a deugain o wŷr meirch, a deg cerbyd, a deng mil o wŷr traed: oherwydd brenin Syria a’u dinistriasai hwynt, ac a’u gwnaethai hwynt fel llwch wrth ddyrnu. º8 A’r rhan arall o hanes Joahas, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i gadernid, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Israel? º9 A Joahas a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn Samaria, a Joas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. º10 Yn y ddwyfed flwyddyn ar bym¬theg ar hugain i Joas brenin Jwda, y teyrnasodd Joas mab Joahas ar Israel yn Samaria: un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe. º11 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: ni throdd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; eithr efe a rodiodd ynddynt. º12 A’r rhan arall o hanes Joas, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i gadernid, trwy yr hwn yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Israel? º13 A Joas a hunodd gyda’i dadau, a Jeroboam a eisteddodd ar ei deyrngadair ef: a Joas a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel. º14 Ac yr oedd Eliseus yn glaf o’r clefyd y bu efe farw ohono: a Joas brenin Israel a ddaeth i waered ato ef, ac a wylodd ar ei wyneb ef, ac a ddywedodd, O fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel, a’i farchogion. º15 Ac Eliseus a ddywedodd wrtho ef, Cymer fwa a saethau. Ac efe a gymerth fwa a saethau. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> s7fyqip9kp79ahhtbtnwkcner90xbwj Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/405 104 3660 171443 6871 2026-10-07T06:10:31Z Tylopous 3717 penodau 171443 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>º16 Ac efe a ddywedodd wrth frenin Israel, Dod dy law ar y bwa. Ac efe a roddodd ei law: ac Eliseus a osododd ei ddwylo ar ddwylo’r brenin. º17 Ac efe a ddywedodd, Agor y ffenestr tua’r dwyrain. Yntau a’i hagorodd. Yna y dywedodd Eliseus, Saetha. Ac efe a saethodd. Dywedodd yntau, Saeth ymr wared yr ARGLWYDD, a saeth ymwared rhag Syria; a thi a drewi y Syriaid yn Affec, nes eu difa hwynt. º18 Hefyd efe a ddywedodd, Cymer y saethau. Ac efe a’u cymerodd. Ac efe a ddywedodd wrth frenin Israel, Taro y ddaear. Ac efe a drawodd dair gwaiti , ac a beidiodd. º19 A gŵr Duw a ddigiodd wrtho ef, ac a ddywedodd, Dylesit daro bump neu chwech o weithiau, yna y trawsit Syria nes ei difa: ac yn awr tair gwaith y trewi Syria. º20 Ac Eliseus a fu farw, a hwy a’i claddasant ef. A minteioedd y Moabiaid a ddaethant i’r wlad y flwyddyn honno. º21 A phan oeddynt hwy yn claddu gŵr, wele, hwy a ganfuant dorf, ac a fwriasant y gŵr i feddrod Eliseus. A phan aeth y gŵr i lawr a chyftwrdd ag esgyrn Eliseus, efe a ddadebrodd, ac a gyfododd ar ei draed. º22 A Hasael brenin Syria a orthrymodd Israel holl ddyddiau Joahas. º23 A’r ARGLWYDD a drugarhaodd wrth¬ynt hwy, ac a dosturiodd wrthynt hwy, ac a drodd atynt hwy, er mwyn ei gyfamod ag Abraham, Isaac, a Jacob, ac ni fynnai eu dinistrio hwynt, ac ni fwriodd efe hwynt allan o’i olwg hyd yn hyn. º24 Felly Hasael brenin Syria a fu farw; a Benhadad ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. º25 A Joas mab Joahas a enillodd yn eu hôl o law Benhadad mab Hasael, y dinasoedd a ddygasai efe o law Joahas ei dad ef mewn rhyfel: Joas a’i trawodd ef dair gwaith, ac a ddug adref ddinasoedd Israel. {{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}} {{bach|1 ''Amasïah y brenhin da.'' 5 ''Ei gyfiawnder ar y rhai a laddasai ei dad ef:'' 7 ''a’i oruchafiaeth ar Edom.'' 8 ''Amasïah yn annog Joas, ac yn cael ei orchfygu a’i yspeilio.'' 16 ''Jeroboam yn dyfod yn lle Joas.'' 19 ''Lladd Amasïah trwy fradwriaeth.'' 21 ''Azarïah yn dyfod ar ei ol ef.'' 23 ''Annuwiol deyrnasiad Jeroboam:'' 29 ''a Zacharïah yn dyfod yn ei le yntau.''}} {{angor|14:1}} {{uc|Yn}} yr ail flwyddyn i Joas mab Joahas brenin Israel y teyrnasodd Amaseia mab Joas brenin Jwda. º2 Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth yn frenin, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac cnw ei fam efoedd Joadan o Jerwsalem. º3 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, eto nid fel Dafydd ei dad; ond cfc a wnaeth yn ôl yr hyn oll a wnaethai Joas ei dad ef. º4 Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd cto xxxxx yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd. º5 A phan sicrhawyd ei deyrnas yn ei law ef, efe a laddodd ei weision y rhai a laddasent y brenin ei dad ef. º6 Ond ni laddodd efe feibion y lleiddiaid; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, yn yr hon y gorchmynasai yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Na ladder y tadau dros y meibion, ac na ladder y meibion dros y tadau; ond lladder pob un am ei bechod ei hun. º7 Efe a drawodd o’r Edomiaid, yn nyffryn yr halen, ddeng mil, ac a enillodd y graig mewn rhyfel, ac a alwodd ei henw Joctheel, hyd y dydd hwn. º8 Yna Amaseia a anfonodd genhadau at Joas mab Joahas, mab Jehu, brenin Israel, gan ddywedyd. Tyred, gwelwn wyneb ein gilydd. º9 A Joas brenin Israel a anfonodd at Amaseia brenin Jwda, gan ddywedyd, Yr ysgellyn yn Libanus a anfonodd at y gedrwyddcn yn Libanus, gan ddywedyd, Dyro dy ferch i’m mab i yn wraig. A bwystfil y maes yr hwn oedd yn Libanus a dramwyodd ac a sathrodd yr ysgellyn. º10 Gan daro y trewaist yr Edomiaid, am hynny dy galon a’th falchiodd: ymffrostia, ac eistedd yn dy dŷ: canys i ba beth yr ymyrri i’th ddrwg dy hun, fel y syrthit ti, a Jwda gyda thi? º11 Ond ni wrandawai Amaseia. Am hynny Joas brenin Israel a aeth i fyny, a hwy a welsant wynebau ei gilydd, efe ac Amaseia brenin Jwda, yn Bethsemes, yr hon sydd yn Jwda. º12 A Jwda a drawyd o flaen<noinclude><references/></noinclude> igad63ahdtu1zbvhhkw9dzuqgpvub8g Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/406 104 3661 171444 6879 2026-10-07T06:14:31Z Tylopous 3717 penodau 171444 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>Israel; a hwy a ffoesant bawb i’w pebyll. º13 A Joas brenin Israel a ddaliodd Amaseia brenin Jwda, mab Joas, mab Ahaseia, yn Bethsemes, ac a ddaeth i Jerwsalem, ac a dorrodd i lawr fur Jerw¬salem, o borth Effraim hyd borth y gongi, bedwar can cufydd. º14 Ac efe a gymerth yr holl aur a’r arian, a’r holl lestri a’r a gafwyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn nhrysorau tŷ y brenin, a gwystlon, ac a ddychwelodd i Samaria. º15 A’r rhan arall o hanes Joas, yr hyn a wnaeth efe, a’i gadernid, ac fel yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Israel? 16 A Joas a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a Jeroboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. º17 Ac Amaseia mab Joas brenin Jwda a fu fyw ar ôl marwolaeth Joas mab Joahas brenin Israel bymtheng mlynedd. º18 A’r rhan arall o hanes Amaseia, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Jwda? º19 Ond hwy a fradfwriadasant yn ai erbyn ef yn Jerwsalem; ac efe a ffodd i Lachis: eto hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis, ac a’i lladdasant ef yno. º20 A hwy a’i dygasant ef ar feirch, ac efe a gladdwyd yn Jerwsalem gyda’i dadau, yn ninas Dafydd. º21 A holl bobl Jwda a gymerasant Asareia, ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg, ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad. º22 Efe a adeiladodd Elath, ac a’i rhoddodd hi drachefn i Jwda, ar ôl huno o’r brenin gyda’i dadau. º23 Yn y bymthegfed flwyddyn i Amaseia mab Joas brenin Jwda y teyrnasodd Jeroboam mab Joas brenin Israel yn Samaria; un flynedd a deugain y teyrnasodd efe. º24 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: ni chiliodd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. º25 Efe a ddug adref derfyn Israel o’r lle yr eir i mewn i Hamath hyd fôr y rhos, yn ôl gair ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Jona mab Amittai y proffwyd, yr hwn oedd o GathHeffer. º26 Canys yr ARGLWYDD a welodd gystudd Israel yn flin iawn: canys nid oedd neb gwarchaeëdig, na neb wedi ei adael, na chynorthwyydd i Israel. º27 Ac ni lefarasai yr ARGLWYDD y dileai efe enw Israel oddi tan y nefoedd: ond efe a’u gwaredodd hwynt trwy law Jeroboam mab Joas. º28 A’r rhan arall o hanes Jeroboam, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe, a’i gadernid ef, y modd y rhyfelodd efe, a’r modd y dug efe adref Damascus, a Hamath, i Jwda yn Israel, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici hrenhinoedd Israel? º29 A Jeroboam a hunodd gyda’i dadau, sef gyda brenhinoedd Israel; a Sachareia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. {{angor|Pennod_15}}{{c|{{uc|Pennod XV}}.}} {{bach|1 ''Daionus deyrnasiad Azarïah.'' 5 ''Efe yn marw o’r gwahan-glwyf; a Jotham yn dyfod yn ei le ef.'' 8 ''Zacharïah, y diweddaf o genedl Jehu, yn teyrnasu yn ddrygionus; a’i ladd ef gan Sàlum.'' 13 ''Sàlum yn teyrnasu fis; a Menahem yn ei ladd ef.'' 16 ''Menahem yn cael nerth gan Pul.'' 22 ''Pecahïah yn dyfod yn ei le ef.'' 25 ''Pecah yn ei ladd ef.'' 29 ''Tiglath-pileser yn gorthrymmu Pecah: a Hosea yn ei ladd ef.'' 32 ''Jotham y brenhin da.'' 38 ''Ahaz yn dyfod ar ei ol ef.''}} {{angor|15:1}} {{uc|Yn}} y seithfed flwyddyn ar hugain i * Jeroboam brenin Israel y teyrnasodd Asareia mab Amaseia brenin Jwda. º2 Mab un flwydd ar bymtheg ydoedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, a deuddeng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam oedd Jecholeia o Jerwsalem. º3 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef: º4 Ond na thynnwyd ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd. º5 A’r ARGLWYDD a drawodd y brenin, fel y bu efe wahanglwyfus hyd ddydd ei farwolaeth, ac y trigodd mewn tŷ o’r neilitu: a Jotham mab y brenin oedd ar y tŷ yn barnu pobl y wlad. º6 A’r rhan arall o hanes Asareia, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ''yd<noinclude>-</noinclude><includeonly>ynt</includeonly>''<noinclude><references/></noinclude> eouoapb9amu6gywh9t9kcf7iimw73mo Tudalen:O Law i Law.pdf/46 104 13390 171445 25957 2026-10-07T09:43:27Z Figaro-ahp 1983 171445 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>Caeais fy llygaid am ennyd wrth ddychmygu am Huw Ffowcs yn mynd heibio i'r hen dwll chwarel. Clywn y gwynt yn crïo wrth y ffenestr, a gwelwn Huw Ffowcs druan yn cael ei hyrddio at y wal, ac yn gorfod gwrando ar chwerthin ofnadwy Sac Lewis yn crwydro hyd y cregiau a thrwy'r lefelydd ymhell oddi tano. Dyn ffeind iawn oedd Huw Ffowcs, meddwn wrthyf fy hun, a 'doedd dim rhaid i'r hen Sac Lewis 'na ei ddychryn fel hyn, yn enwedig ac yntau'n dod yr holl ffordd o'r Tyddyn Gwyn i roi gwers imi ar yr harmoniym. Ni welswn i mo Sac Lewis erioed, ond yr oeddwn yn siŵr mai hen ddyn bach crintachlyd ydoedd, a chrwb ar ei gefn a dim ond un sbeic o ddant ym mlaen ei geg. Felly y gwelswn ef yn fy mreuddwydion, beth bynnag, ac yr oedd hi'n hen bryd i rywun ei ddal a'i roi mewn caets fel yr anifeiliaid hynny a oedd yn y sioe. "'Oes 'na rywun yn curo, Elin?"gofynnodd fy nhad. "Huw Ffowcs, 'nhad," ebe fi, gan godi ar unwaith i ateb y drws. Ond nid oedd neb yno, dim ond rhuthr y gwynt. Dychwel- ais braidd yn siomedig at y tân, ond fe'm cysurais fy hun â'r ffaith fod tipyn o ffordd o Lyn Sac Lewis i'n tŷ ni yng ngwaelod y pentref. Dechreuais eto ddilyn taith Huw Ffowcs—heibio i hen domen y chwarel, i lawr yr allt wrth fferm Bryn Llwyd, trwy Victoria Street a'i rhes ddiderfyn o dai unffurf wedi ei hongian ar y llethr, troi yn y gwaelod wrth siop William Williams y tunman, trwy Liverpool Road, ymlaen trwy Caradog Row at y "gas-works "a siop Sarah Da-da, troi wedyn wrth gapel bach y Wesleaid, ac yna, trwy'r lôn gefn at ein tŷ ni. Trois fy mhen i wrando am ei gnoc ar y drws. Ond ni ddaeth, a rhaid oedd bodloni eto ar syllu i'r tân. Efallai ei fod wedi taro ar rywun ar y ffordd, neu wedi galw yn siop Sarah Da-da i brynu taffi i Owen a Jane ac Eirlys. Gwyddwn na throesai yn ei ôl, wedi ei ddychryn gan ysbryd Sac Lewis. "'Ydi hi'n saith eto, 'nhad?"gofynnais. "Mae hi'n o agos, wel'di. 'Ydi'r cloc o gwmpas 'i le, Elin?" "Ydi," ebe fy mam. "Mi rois i o'n iawn hefo corn y chwarel pan oedd o'n canu pedwar." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 4oq5x6xzubx3x8u1vf7xxrei1k2ea7r