Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.23 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/294 104 3546 171488 171352 2026-10-08T16:02:22Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171488 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>y gwrthodasant fi, ac y gwasanaethasant dduwiau dïeithr; felly y gwnant hwy hefyd i ti. {{angor|8:9|9}} Yn awr gan hynny gwrando ar eu llais hwynt: etto gan dystiolaethu tystiolaetha iddynt, a dangos iddynt ddull y brenhin a deyrnasa arnynt. {{angor|8:10|10}} ¶ A Samuel a fynegodd holl eiriau yr {{sc|Arglwydd}} wrth y bobl, y rhai oedd yn ceisio brenhin ganddo. {{angor|8:11|11}} Ac efe a ddywedodd, Dyma ddull y brenhin a deyrnasa arnoch chwi: Efe a gymmer eich meibion, ac a’''u'' gesyd iddo yn ei gerbydau, ac yn wŷr meirch iddo, ac i redeg o flaen ei gerbydau ef: {{angor|8:12|12}} Ac a’u gesyd ''hwynt'' iddo yn dywysogion miloedd, ac yn dywysogion deg a deugain, ac i aredig ei âr, ac i fedi ei gynhauaf, ac i wneuthur arfau ei ryfel, a pheiriannau ei gerbydau. {{angor|8:13|13}} A’ch merched a gymmer efe yn apothecaresau, yn gogesau hefyd, ac yn bobyddesau. {{angor|8:14|14}} Ac efe a gymmer eich meusydd, a’ch gwinllannoedd, a’ch olewlannoedd gorau, ac a’''u'' dyry i’w weision. {{angor|8:15|15}} Eich hadau hefyd a’ch gwinllannoedd a ddegymma efe, ac a’u dyry i’w ystafellyddion ac i’w weision. {{angor|8:16|16}} Eich gweision hefyd, a’ch morwynion, eich gwŷr ieuaingc goreu hefyd, a’ch asynod, a gymmer efe, ac a’''u'' gesyd i’w waith. {{angor|8:17|17}} Eich defaid hefyd a ddegymma efe: chwithau hefyd fyddwch yn weision iddo ef. {{angor|8:18|18}} A’r dydd hwnnw y gwaeddwch, rhag eich brenhin a ddewisasoch i chwi: ac ni wrendy yr {{sc|Arglwydd}} arnoch yn y dydd hwnnw. {{angor|8:19|19}} ¶ Er hynny y bobl a wnhodasant wrandaw ar lais Samuel; ac a ddywedasant, Nag ê, eithr brenhin fydd arnom ni: {{angor|8:20|20}} Fel y byddom ninnau hefyd fel yr holl genhedloedd; a’n brenhin a’n barna ni, efe a â allan hefyd o’n blaen ni, ac efe a ymladd ein rhyfeloedd ni. {{angor|8:21|21}} A gwrandawodd Samuel holl eiriau y bobl, ac a’u hadroddodd hwynt lle y clybu yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|8:22|22}} A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth Samuel, Gwrando ar eu llais hwynt, a gosod frenhin arnynt. A dywedodd Samuel wrth wŷr Israel, Ewch bob un i’w ddinas ei hun. {{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}} {{bach|1 ''Saul yn anobeithio cael asynod ei dad,'' 6 ''trwy gynghor ei was,'' 11 ''a chyfarwyddiad llangcesau,'' 15 ''yn dyfod trwy ddatguddiad Duw'' 18 ''at Samuel.'' 19 ''Samuel yn croesawu Saul yn y wledd;'' 25 ''ac, ar ol ymddiddan âg ef o’r neilldu, yn hebrwng Saul ar ei ffordd.''}} {{angor|9:1}} {{uc|Ac}} yr oedd gwr o Benjamin, a’i enw Cis, mab Abïel, mab Seror, mab Bechorath, mab Aphïah, mab i wr o Jemini, yn gadarn o nerth. {{angor|9:2|2}} Ac iddo ef yr oedd mab, a’i enw Saul, yn wr ieuangc, dewisol a glân: ac nid ''oedd'' neb o feibion Israel lanach nag ef: o’i ysgwydd i fynu ''yr oedd'' yn uwch na’r holl bobl. {{angor|9:3|3}} Ac asynod Cis, tad Saul, a gyfrgollasant: a dywedodd Cis wrth Saul ei fab, Cymmer yn awr un o’r llangciau gyd â thi, a chyfod, dos, cais yr asynod. {{angor|9:4|4}} Ac efe a aeth trwy fynydd Ephraim, ac a dramwyodd trwy wlad Salisah; ac nis cawsant ''hwynt:'' yna y tramwyasant trwy wlad Salim; ac nis ''cawsant hwynt:'' ac efe a aeth trwy wlad Jemini; ond nis cawsant ''hwynt''. {{angor|9:5|5}} Pan ddaethant i wlad Suph, y dywedodd Saul wrth ei langc ''oedd'' gyd âg ef, Tyred, a dychwelwn; rhag i’m tad beidio â’r asynod, a gofalu am danom ni. {{angor|9:6|6}} Dywedodd yntau wrtho ef, Wele, yn awr ''y mae'' yn y ddinas hon wr i {{sc|Dduw}}, a’r gwr ''sydd'' anrhydeddus; yr hyn oll a ddywedo efe, gan ddyfod a ddaw: awn yno yn awr; nid hwyrach y mynega efe i ni y ffordd y mae i ni fyned iddi. {{angor|9:7|7}} Yna y dywedodd Saul wrth ei langc, Wele, ''od'' awn ni, pa beth a ddygwn ni i’r gwr? canys y bara a ddarfu yn ein llestri ni, a gwobr ''arall'' nid ''oes'' i’w ddwyn i wr {{sc|Duw}}: beth ''sydd'' gennym? {{angor|9:8|8}} A’r llangc a attebodd eilwaith i Saul, ac a ddywedodd, Wele, cafwyd gyd â mi bedwaredd ran sicl o arian: mi a roddaf ''hynny'' i wr {{sc|Duw}}, er mynegi i ni ein ffordd. {{angor|9:9|9}} (Gynt yn Israel, fel hyn y dywedai gwr wrth fyned i ymgynghori â {{sc|Duw}}; Deuwch, ac awn hyd at y gweledydd: canys y Prophwyd heddyw, a elwid gynt yn Weledydd.) {{angor|9:10|10}} Yna y dywedodd Saul wrth ei langc, Da y dywedi; tyred, awn.<noinclude><references/></noinclude> 9js17bhnlxte6qhv7dl56288hxlue1n Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/295 104 3547 171528 171353 2026-10-09T04:38:26Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171528 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>Felly yr aethant i’r ddinas ''yr oedd'' gwr {{sc|Duw}} ynddi. {{angor|9:11|11}} ¶ ''Ac'' fel yr oeddynt yn myned i riw y ddinas, hwy a gawsant langcesau yn dyfod allan i dynnu dwfr; ac a ddywedasant wrthynt, A yw y gweledydd yma? {{angor|9:12|12}} Hwythau a’u hattebasant hwynt, ac a ddywedasant, Ydyw; wele ''efe'' o’th flaen: brysia yr awr hon: canys heddyw y daeth efe i’r ddinas; o herwydd aberth ''sydd'' heddyw gan y bobl yn yr uchelfa. {{angor|9:13|13}} Pan ddeloch gyntaf i’r ddinas, chwi a’i cewch ef, cyn ei fyned i fynu i’r uchelfa i fwytta: canys ni fwytty y bobl hyd oni ddelo efe, o herwydd efe a fendiga yr aberth; ar ol hynny y bwytty y rhai a wahoddwyd: am hynny ewch i fynu; canys ynghylch y pryd hwn y cewch ef. {{angor|9:14|14}} A hwy a aethant i fynu i’r ddinas; ''a phan'' ddaethant i ganol y ddinas, wele Samuel yn dyfod i’w cyfarfod, i fyned i fynu i’r uchelfa. {{angor|9:15|15}} ¶ A’r {{sc|Arglwydd}} a fynegasai y’nghlust Samuel, ddiwrnod cyn dyfod Saul, gan ddywedyd, {{angor|9:16|16}} Ynghylch y pryd ''hwn'' y fory yr anfonaf attat ti wr o wlad Benjamin; a thi a’i henneini ef yn flaenor ar fy mhobl Israel, ac efe a wared fy mhobl o law y Philistiaid: canys edrychais ar fy mhobl; o herwydd daeth eu gwaedd attaf. {{angor|9:17|17}} A phan ganfu Samuel Saul, yr {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd wrtho ef, Wele y gwr am yr hwn y dywedais wrthyt: hwn a lywodraetha ar fy mhobl. {{angor|9:18|18}} Yna Saul a nesaodd at Samuel y’nghanol y porth, ac a ddywedodd, Mynega i mi, attolwg, pa le yma ''y mae'' tŷ y gweledydd. {{angor|9:19|19}} A Samuel a attebodd Saul, ac a ddywedodd, Myfi ''yw'' y gweledydd: dos i fynu o’m blaen i’r uchelfa; canys bwyttêwch gyd â myfi heddyw: a mi a’th ollyngaf y bore, ac a fynegaf i ti yr hyn oll ''y sydd'' yn dy galon. {{angor|9:20|20}} Ac ''am'' yr asynod a gyfrgollasant er ys tridiau, na ofala am danynt; canys cafwyd hwynt. Ac i bwy ''y mae'' holl bethau dymunol Israel? onid i ti, ac i holl dŷ dy dad? {{angor|9:21|21}} A Saul a attebodd ac a ddywedodd, Onid mab Jemini ''ydwyf'' fi, o’r lleiaf o lwythau Israel? a’m teulu ''sydd'' leiaf o holl deuluoedd llwyth Benjamin? a phaham y dywedi wrthyf y modd hyn? {{angor|9:22|22}} A Samuel a gymmerth Saul a’i langc, ac a’u dug hwynt i’r ystafell, ac a roddodd iddynt le o flaen y gwahoddedigion; a hwy ''oeddynt'' ynghylch dengwr ar hugain. {{angor|9:23|23}} A Samuel a ddywedodd wrth y côg, Moes y rhan a roddais attat ti, am yr hon y dywedais wrthyt, Cadw hon gyd â thi. {{angor|9:24|24}} A’r côg a gyfododd yr ysgwyddog, a’r hyn ''oedd'' arni, ac a’i gosododd ger bron Saul. A ''Samuel'' a ddywedodd, Wele yr hyn a adawyd; gosod ger dy fron, ''a'' bwytta: canys hyd y pryd hwn y cadwyd ef i ti, er pan ddywedais, Y bobl a wahoddais i. A bwyttaodd Saul gyd â Samuel y dydd hwnnw. {{angor|9:25|25}} ¶ A phan ddisgynasant o’r uchelfa i’r ddinas, ''Samuel'' a ymddiddanodd â Saul ar ben y tŷ. {{angor|9:26|26}} A hwy a gyfodasant yn fore: ac ynghylch codiad y wawr, galwodd Samuel ar Saul i ben y tŷ, gan ddywedyd, Cyfod, fel y’th hebryngwyf ymaith. A Saul a gyfododd, ac efe a Samuel a aethant ill dau allan. {{angor|9:27|27}} ''Ac'' fel yr oeddynt yn myned i waered i gwrr eithaf y ddinas, Samuel a ddywedodd wrth Saul, Dywed wrth y llangc am fyned o’n blaen ni; (felly yr aeth efe;) ond saf di yr awr hon, a mynegaf i ti air {{sc|Duw}}. {{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}} {{bach|1 ''Samuel yn enneinio Saul;'' 2 ''ac yn ei sicrhâu ef trwy dri arwydd.'' 9 ''Troi calon Saul; ac yntau yn prophwydo;'' 14 ''Yn celu chwedl y frenhiniaeth rhag ei ewythr.'' 17 ''Dewis Saul trwy goelbren ym Mispah.'' 26 ''Amryw feddyliau ei ddeiliaid am dano ef.''}} {{angor|10:1}} {{uc|Yna}} Samuel a gymmerodd phïolaid o olew, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef, ac a’i cusanodd ef; ac a ddywedodd, Onid yr {{sc|Arglwydd}} a’th enneiniodd di yn flaenor ar ei etifeddiaeth? {{angor|10:2|2}} Pan elych di heddyw oddi wrthyf, yna y cei ddau wr wrth fedd Rahel, yn nherfyn Benjamin, yn Selsah: a hwy a ddywedant wrthyt, Cafwyd yr asynod yr aethost i’w ceisio: ac wele, dy dad a ollyngodd heibio chwedl yr asynod, a gofalu y mae am danoch chwi, gan ddywedyd, Beth a wnaf am fy mab? {{angor|10:3|3}} Yna yr âi di ym mhellach oddi yno, ac y deui hyd wastadedd Tabor: ac yno y’th gyferfydd tri wŷr yn<noinclude><references/></noinclude> iu1aejw3du48not2ea8f1i8nia126fd Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/453 104 3708 171489 6942 2026-10-08T16:04:43Z Tylopous 3717 penodau 171489 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>odd Duw i Solomon, ac y dywedodd wrtho ef, Gofyn yr hyn a roddaf i ti. 1:8 A dywedodd Solomon wrth DDUW, Ti a wnaethost fawr drugaredd â’m tad Dafydd, ac a wnaethost i mi deyrnasu yn ei le ef. 1:9 Yn awr, O ARGLWYDD DDUW, sicrhaer dy air wrth fy nhad Dafydd; canys gwnaethost i mi deyrnasu ar bobl mor lluosog â llwch y ddaear. 1:10 Yn awr dyro i mi ddoethineb a gwybodaeth, fel yr elwyf allan, ac y delwyf i mewn o flaen y bobl hyn: canys pwy a ddichon farnu dy bobl luosog hyn? 1:11 A dywedodd Duw wrth Solomon, Oherwydd bod hyn yn dy feddwl di, ac na ofynnaist na chyfoeth, na golud, na gogoniant, nac einioes dy elynion, ac na ofynnaist lawer o ddyddiau chwaith; eithr gofyn ohonot i ti ddoethineb, a gwybodaeth, fel y bernit fy mhobl y’th osodais yn frenin arnynt: 1:12 Doethineb a gwybodaeth a roddwyd i ti, cyfoeth hefyd, a golud, a gogoniant, a roddaf i ti, y rhai ni bu eu cyffelyb gan y brenhinoedd a fu o’th flaen di, ac ni bydd y cyffelyb i neb ar dy ôl di. 1:13 A Solomon a ddaeth o’r uchelfa oedd yn Gibeon, i Jerwsalem, oddi ger¬bron pabell y cyfarfod, ac a deyrnasodd ar Israel. 1:14 A Solomon a gasglodd gerbydau a marchogion; ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch, ac efe a’u gosododd hwynt yn ninasoedd y cerbydau, ac yn Jerwsalem gyda’r brenin. 1:15 A’r brenin a wnaeth yr arian a’r aur yn Jerwsalem cyn amled â’r cerrig, a chedrwydd a roddes efe fel y sycamorwydd o amldra, y rhai sydd yn tyfu yn y doldir. 1:16 A meirch a ddygid i Solomon o’r Aifft, ac edafedd llin: marchnadwyr y brenin a gymerent yr edafedd llin dan bris. 1:17 Canys deuent i fyny, a dygent o’r Aifft gerbyd am chwe chan darn o arian, a march am gant a hanner, ac felly y dygent i holl frenhinoedd yr Hethiaid, ac i frenhinoedd Syria gyda hwynt. {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1, 17 ''Gweithwyr Solomon wrth adeiladu y deml.'' 3 ''Solomon yn gyrru at Hiram am weithwyr a defnyddiau.'' 11 ''A Hiram yn ei atteb ef yn garedig.''}} {{angor|2:1}} {{uc|A Solomon}} a roes ei fryd ar adeiladu tŷ i enw yr ARGLWYDD, a brenhindy iddo ei hun. 2:2 A Solomon a rifodd ddeng mil a thrigain o gludwyr, a phedwar ugain mil o gymynwyr yn y mynydd, ac yn oruchwylwyr arnynt hwy dair mil a chwe chant. 2:3 A Solomon a anfonodd at Hiram brenin Tyrus, gan ddywedyd, Megis y gwnaethost a Dafydd fy nhad, ac yr anfonaist iddo gedrwydd i adeiladu iddo dŷ i drigo ynddo, felly gwna a minnau. 2:4 Wele fi yn adeiladu tŷ i enw yr AR¬GLWYDD fy Nuw, i’w gysegru iddo, ac i arogldarthu arogldarth llysieuog ger ei fron ef, ac i’r gwastadol osodiad bara, a’r poethoffrymau bore a hwyr, ar y Sabothau, ac ar y newyddloerau, ac ar osodedig wyliau yr ARGLWYDD ein Duw ni. Hyd byth y mae hyn ar Israel. 2:5 A’r tŷ a adeiladaf fi fydd mawr: canys mwy yw ein Duw ni na’r holl dduwiau. 2:6 A phwy sydd abl i adeiladu iddo ef dŷ, gan na all y nefoedd, ie, nefoedd y nefoedd ei amgyffred? a phwy ydwyf fi, fel yr adeiladwn iddo ef dŷ, ond yn unig i arogldarthu ger ei fron ef? 2:7 Felly yn awr anfon i mi ŵr cywraint, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres, ac mewn haearn, ac mewn porffor, ac ysgarlad, a glas, ac yn medru cerfio cerfiadau gyda’r rhai celfydd sydd gyda mi yn Jwda ac yn Jerwsalem, y rhai a ddarparodd fy nhad Dafydd. 2:8 Anfon hefyd i mi goed cedr, a ffynidwydd, ac algumimwydd, o Libanus: canys myfi a wn y medr dy weision di naddu coed Libanus; ac wele, fy ngweision innau a fyddant gyda’th weision dithau; 2:9 A hynny i ddarparu i mi lawer o goed: canys y tŷ yr ydwyf fi ar ei adeiladu fydd mawr a rhyfeddol. 2:10 Ac wele, i’th weision, i’r seiri a naddant y coed, y rhoddaf ugain mil corus o wenith wedi ei guro, ac ugain mil o haidd, ac ugain mil bath o win, ac ugain mil bath o olew. 2:11 A Hiram brenin Tyrus a atebodd mewn ysgrifen, ac a’i hanfonodd at Solomon, O gariad yr ARGLWYDD ar ei bobl, y rhoddes efe dydi yn frenin arnynt hwy. 2:12 Dywedodd Hiram hefyd, Ben-<noinclude><references/></noinclude> 2g6mjowifdooioi2i98fzq8dx3ufjq7 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/454 104 3709 171490 6943 2026-10-08T16:06:28Z Tylopous 3717 penodau 171490 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>digedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a wnaeth nef a daear, yr hwn a roddes i’r brenin Dafydd fab doeth, gwybodus o synnwyr a deall, i adeiladu tŷ i’r AR¬GLWYDD, a brenhindy iddo ei hun. 2:13 Ac yn awr mi a anfonais ŵr celfydd, cywraint, a deallus, o’r eiddo fy nhad Hiram: 2:14 Mab gwraig o ferched Dan, a’i dad yn ŵr o Tyrus, yn medru gweithio mewn aur, ac mewn arian, mewn pres, mewn haearn, mewn cerrig, ac mewn coed, mewn porffor, ac mewn glas, ac mewn lliain main, ac mewn ysgarlad; ac i gerfio pob cerfiad, ac i ddychmygu pob dychymyg a roddir ato ef, gyda’th rai cywraint di, a rhai cywraint fy arglwydd Dafydd dy dad. 2:15 Ac yn awr, y gwenith, a’r haidd, yr olew, a’r gwin, y rhai a ddywedodd fy arglwydd, anfoned hwynt i’w weision: 2:16 A ni a gymynwn goed o Libanus, yn ôl dy holl raid, ac a’u dygwn hwynt i ti yn gludeiriau ar hyd y môr i Jopa: dwg dithau hwynt i fyny i Jerwsalem. 2:17 A Solomon a rifodd yr holl wŷr dieithr oedd yn nhir Israel, wedi y rhifiad â’r hon y rhifasai Dafydd ei dad ef hwynt: a chaed tair ar ddeg a saith ugain o filoedd a chwe chant. 2:18 Ac efe a wnaeth ohonynt hwy ddeng mil a thrigain yn gludwyr, a phedwar again mil yn naddwyr yn y mynydd, a thair mil a chwe chant yn oruchwylwyr i roi y bobl ar waith. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Y lle a’r amser yr adeiladwyd y deml.'' 3 ''Ei mesur a’i haddurn.'' 10 ''Y cerubiaid.'' 14 ''Y llèn a’r colofnau.''}} {{angor|3:1}} {{uc|A Solomon}} a ddechreuodd adeiladu tŷ yr ARGLWYDD yn Jerwsalem ym mynydd Moreia, lle yr ymddangosasai yr ARGLWYDD i Dafydd ei dad ef, yn y lle a ddarparasai Dafydd, yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad. 3:2 Ac efe a ddechreuodd adeiladu ar yr ail ddydd o’r ail fis, yn y bedwaredd flwyddyn o’i deyrnasiad. 3:3 A dyma fesurau sylfaeniad Solomon wrth adeiladu tŷ DDUW. Yr hyd oedd o gufyddau wrth y mesur cyntaf yn drigain cufydd; a’r lled yn ugain cufydd. 3:4 A’r porth oedd wrth dalcen y tŷ oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a’i uchder yn chwech ugain cufydd; ac efe a wisgodd hwn o fewn ag aur pur. 3:5 A’r tŷ mawr a fyrddiodd efe a ffynidwydd, y rhai a wisgodd efe ag aur dilin, ac a gerfiodd balmwydd a chadwynau ar hyd-ddo ef. 3:6 Ac efe a addurnodd y tŷ â meini gwerthfawr yn hardd; a’r aur oedd aur Parfaim. 3:7 Ie, efe a wisgodd y tŷ, y trawstiau, y rhiniogau, a’i barwydydd, a’i ddorau, ag aur, ac a gerfiodd geriwbiald ar y parwydydd. 3:8 Ac efe a wnaeth dŷ y cysegr sancteiddiolaf; ei hyd oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a’i led yn ugain cufydd: ac efe a’i gwisgodd ef ag aur da, sef â chwe chan talent. 3:9 Ac yr oedd pwys yr hoelion o ddeg sicl a deugain o aur; y llofftydd hefyd a wisgodd efe ag aur. 3:10 Ac efe a wnaeth yn nhŷ y cysegr sancteiddiolaf ddau geriwb o waith cywraint, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur. 3:11 Ac adenydd y ceriwbiaid oedd ugain cufydd eu hyd: y naill adain o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a’r adain arall o bum cufydd yn cyrhaeddyd at adain y ceriwb arall. 3:12 Ac adain y ceriwb arall o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y ty; a’r adain arall o bum cufydd, ynghyd ag adain y ceriwb arall. 3:13 Adenydd y ceriwbiaid hyn a ledwyd yn ugain cufydd: ac yr oeddynt hwy yn sefyll ar eu traed, a’u hwynebau tuag i mewn. 3:14 Ac efe a wnaeth y wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, ac a weithiodd geriwbiaid ar hynny. 3:15 Gwnaeth hefyd ddwy golofn o flaen y tŷ, yn bymtheg cufydd ar hugain o hyd, a’r cnap ar ben pob un ohonynt oedd bum cufydd. 3:16 Ac efe a wnaeth gadwyni fel yn y gafell, ac a’u rhoddodd ar ben y colofnau; ac efe a wnaeth gant o bomgranadau, ac a’u rhoddodd ar y cadwynau. 3:17 A chyfododd y colofnau o flaen y deml, un o’r tu deau, ac un o’r tu aswy; ac a alwodd enw y ddeau, Jachin; ac enw yr aswy, Boas. PENNOD 4 {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 3ckug92w76snyqwg3ofdjxippkpbzx8 171491 171490 2026-10-08T16:08:26Z Tylopous 3717 penodau 171491 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>digedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a wnaeth nef a daear, yr hwn a roddes i’r brenin Dafydd fab doeth, gwybodus o synnwyr a deall, i adeiladu tŷ i’r AR¬GLWYDD, a brenhindy iddo ei hun. 2:13 Ac yn awr mi a anfonais ŵr celfydd, cywraint, a deallus, o’r eiddo fy nhad Hiram: 2:14 Mab gwraig o ferched Dan, a’i dad yn ŵr o Tyrus, yn medru gweithio mewn aur, ac mewn arian, mewn pres, mewn haearn, mewn cerrig, ac mewn coed, mewn porffor, ac mewn glas, ac mewn lliain main, ac mewn ysgarlad; ac i gerfio pob cerfiad, ac i ddychmygu pob dychymyg a roddir ato ef, gyda’th rai cywraint di, a rhai cywraint fy arglwydd Dafydd dy dad. 2:15 Ac yn awr, y gwenith, a’r haidd, yr olew, a’r gwin, y rhai a ddywedodd fy arglwydd, anfoned hwynt i’w weision: 2:16 A ni a gymynwn goed o Libanus, yn ôl dy holl raid, ac a’u dygwn hwynt i ti yn gludeiriau ar hyd y môr i Jopa: dwg dithau hwynt i fyny i Jerwsalem. 2:17 A Solomon a rifodd yr holl wŷr dieithr oedd yn nhir Israel, wedi y rhifiad â’r hon y rhifasai Dafydd ei dad ef hwynt: a chaed tair ar ddeg a saith ugain o filoedd a chwe chant. 2:18 Ac efe a wnaeth ohonynt hwy ddeng mil a thrigain yn gludwyr, a phedwar again mil yn naddwyr yn y mynydd, a thair mil a chwe chant yn oruchwylwyr i roi y bobl ar waith. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Y lle a’r amser yr adeiladwyd y deml.'' 3 ''Ei mesur a’i haddurn.'' 10 ''Y cerubiaid.'' 14 ''Y llèn a’r colofnau.''}} {{angor|3:1}} {{uc|A Solomon}} a ddechreuodd adeiladu tŷ yr ARGLWYDD yn Jerwsalem ym mynydd Moreia, lle yr ymddangosasai yr ARGLWYDD i Dafydd ei dad ef, yn y lle a ddarparasai Dafydd, yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad. 3:2 Ac efe a ddechreuodd adeiladu ar yr ail ddydd o’r ail fis, yn y bedwaredd flwyddyn o’i deyrnasiad. 3:3 A dyma fesurau sylfaeniad Solomon wrth adeiladu tŷ DDUW. Yr hyd oedd o gufyddau wrth y mesur cyntaf yn drigain cufydd; a’r lled yn ugain cufydd. 3:4 A’r porth oedd wrth dalcen y tŷ oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a’i uchder yn chwech ugain cufydd; ac efe a wisgodd hwn o fewn ag aur pur. 3:5 A’r tŷ mawr a fyrddiodd efe a ffynidwydd, y rhai a wisgodd efe ag aur dilin, ac a gerfiodd balmwydd a chadwynau ar hyd-ddo ef. 3:6 Ac efe a addurnodd y tŷ â meini gwerthfawr yn hardd; a’r aur oedd aur Parfaim. 3:7 Ie, efe a wisgodd y tŷ, y trawstiau, y rhiniogau, a’i barwydydd, a’i ddorau, ag aur, ac a gerfiodd geriwbiald ar y parwydydd. 3:8 Ac efe a wnaeth dŷ y cysegr sancteiddiolaf; ei hyd oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a’i led yn ugain cufydd: ac efe a’i gwisgodd ef ag aur da, sef â chwe chan talent. 3:9 Ac yr oedd pwys yr hoelion o ddeg sicl a deugain o aur; y llofftydd hefyd a wisgodd efe ag aur. 3:10 Ac efe a wnaeth yn nhŷ y cysegr sancteiddiolaf ddau geriwb o waith cywraint, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur. 3:11 Ac adenydd y ceriwbiaid oedd ugain cufydd eu hyd: y naill adain o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a’r adain arall o bum cufydd yn cyrhaeddyd at adain y ceriwb arall. 3:12 Ac adain y ceriwb arall o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y ty; a’r adain arall o bum cufydd, ynghyd ag adain y ceriwb arall. 3:13 Adenydd y ceriwbiaid hyn a ledwyd yn ugain cufydd: ac yr oeddynt hwy yn sefyll ar eu traed, a’u hwynebau tuag i mewn. 3:14 Ac efe a wnaeth y wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, ac a weithiodd geriwbiaid ar hynny. 3:15 Gwnaeth hefyd ddwy golofn o flaen y tŷ, yn bymtheg cufydd ar hugain o hyd, a’r cnap ar ben pob un ohonynt oedd bum cufydd. 3:16 Ac efe a wnaeth gadwyni fel yn y gafell, ac a’u rhoddodd ar ben y colofnau; ac efe a wnaeth gant o bomgranadau, ac a’u rhoddodd ar y cadwynau. 3:17 A chyfododd y colofnau o flaen y deml, un o’r tu deau, ac un o’r tu aswy; ac a alwodd enw y ddeau, Jachin; ac enw yr aswy, Boas. {{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Yr allor bres.'' 2 ''Y môr tywdd ar ddeuddeg o ychain.'' 6 ''Y deg noe, y canhwyllbrenni a1 ''.''r byrddau.'' 9 ''Y cynteddau, a1 ''.''r dodrefn pres.'' 19 ''Yr offer aur.''}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> g5ke3vmycn7gv9039t5k5trr7fcaqk3 171492 171491 2026-10-08T16:09:13Z Tylopous 3717 171492 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>digedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a wnaeth nef a daear, yr hwn a roddes i’r brenin Dafydd fab doeth, gwybodus o synnwyr a deall, i adeiladu tŷ i’r AR¬GLWYDD, a brenhindy iddo ei hun. 2:13 Ac yn awr mi a anfonais ŵr celfydd, cywraint, a deallus, o’r eiddo fy nhad Hiram: 2:14 Mab gwraig o ferched Dan, a’i dad yn ŵr o Tyrus, yn medru gweithio mewn aur, ac mewn arian, mewn pres, mewn haearn, mewn cerrig, ac mewn coed, mewn porffor, ac mewn glas, ac mewn lliain main, ac mewn ysgarlad; ac i gerfio pob cerfiad, ac i ddychmygu pob dychymyg a roddir ato ef, gyda’th rai cywraint di, a rhai cywraint fy arglwydd Dafydd dy dad. 2:15 Ac yn awr, y gwenith, a’r haidd, yr olew, a’r gwin, y rhai a ddywedodd fy arglwydd, anfoned hwynt i’w weision: 2:16 A ni a gymynwn goed o Libanus, yn ôl dy holl raid, ac a’u dygwn hwynt i ti yn gludeiriau ar hyd y môr i Jopa: dwg dithau hwynt i fyny i Jerwsalem. 2:17 A Solomon a rifodd yr holl wŷr dieithr oedd yn nhir Israel, wedi y rhifiad â’r hon y rhifasai Dafydd ei dad ef hwynt: a chaed tair ar ddeg a saith ugain o filoedd a chwe chant. 2:18 Ac efe a wnaeth ohonynt hwy ddeng mil a thrigain yn gludwyr, a phedwar again mil yn naddwyr yn y mynydd, a thair mil a chwe chant yn oruchwylwyr i roi y bobl ar waith. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Y lle a’r amser yr adeiladwyd y deml.'' 3 ''Ei mesur a’i haddurn.'' 10 ''Y cerubiaid.'' 14 ''Y llèn a’r colofnau.''}} {{angor|3:1}} {{uc|A Solomon}} a ddechreuodd adeiladu tŷ yr ARGLWYDD yn Jerwsalem ym mynydd Moreia, lle yr ymddangosasai yr ARGLWYDD i Dafydd ei dad ef, yn y lle a ddarparasai Dafydd, yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad. 3:2 Ac efe a ddechreuodd adeiladu ar yr ail ddydd o’r ail fis, yn y bedwaredd flwyddyn o’i deyrnasiad. 3:3 A dyma fesurau sylfaeniad Solomon wrth adeiladu tŷ DDUW. Yr hyd oedd o gufyddau wrth y mesur cyntaf yn drigain cufydd; a’r lled yn ugain cufydd. 3:4 A’r porth oedd wrth dalcen y tŷ oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a’i uchder yn chwech ugain cufydd; ac efe a wisgodd hwn o fewn ag aur pur. 3:5 A’r tŷ mawr a fyrddiodd efe a ffynidwydd, y rhai a wisgodd efe ag aur dilin, ac a gerfiodd balmwydd a chadwynau ar hyd-ddo ef. 3:6 Ac efe a addurnodd y tŷ â meini gwerthfawr yn hardd; a’r aur oedd aur Parfaim. 3:7 Ie, efe a wisgodd y tŷ, y trawstiau, y rhiniogau, a’i barwydydd, a’i ddorau, ag aur, ac a gerfiodd geriwbiald ar y parwydydd. 3:8 Ac efe a wnaeth dŷ y cysegr sancteiddiolaf; ei hyd oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a’i led yn ugain cufydd: ac efe a’i gwisgodd ef ag aur da, sef â chwe chan talent. 3:9 Ac yr oedd pwys yr hoelion o ddeg sicl a deugain o aur; y llofftydd hefyd a wisgodd efe ag aur. 3:10 Ac efe a wnaeth yn nhŷ y cysegr sancteiddiolaf ddau geriwb o waith cywraint, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur. 3:11 Ac adenydd y ceriwbiaid oedd ugain cufydd eu hyd: y naill adain o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a’r adain arall o bum cufydd yn cyrhaeddyd at adain y ceriwb arall. 3:12 Ac adain y ceriwb arall o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y ty; a’r adain arall o bum cufydd, ynghyd ag adain y ceriwb arall. 3:13 Adenydd y ceriwbiaid hyn a ledwyd yn ugain cufydd: ac yr oeddynt hwy yn sefyll ar eu traed, a’u hwynebau tuag i mewn. 3:14 Ac efe a wnaeth y wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, ac a weithiodd geriwbiaid ar hynny. 3:15 Gwnaeth hefyd ddwy golofn o flaen y tŷ, yn bymtheg cufydd ar hugain o hyd, a’r cnap ar ben pob un ohonynt oedd bum cufydd. 3:16 Ac efe a wnaeth gadwyni fel yn y gafell, ac a’u rhoddodd ar ben y colofnau; ac efe a wnaeth gant o bomgranadau, ac a’u rhoddodd ar y cadwynau. 3:17 A chyfododd y colofnau o flaen y deml, un o’r tu deau, ac un o’r tu aswy; ac a alwodd enw y ddeau, Jachin; ac enw yr aswy, Boas. {{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Yr allor bres.'' 2 ''Y môr tywdd ar ddeuddeg o ychain.'' 6 ''Y deg noe, y canhwyllbrenni a’r byrddau.'' 9 ''Y cynteddau, a’r dodrefn pres.'' 19 ''Yr offer aur.''}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 73kls4mekgwtsy2sf4gx7r7797w9ynq Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/455 104 3710 171493 6944 2026-10-08T16:11:16Z Tylopous 3717 penodau 171493 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|4:1}} {{uc|Ac}} efe a wnaeth allor bres, o ugain cufydd ei hyd, ac ugain cufydd ei lled, a deg cufydd ei huchder. 4:2 Gwnaeth hefyd fôr tawdd, yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, yn grwn o amgylch, ac yn bum cufydd ei uchder, a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a’i hamgylchai oddi amgylch. 4:3 A llun ychen oedd dano yn ei amgylchu o amgylch, mewn deg cufydd yr oeddynt yn amgylchu y môr oddi am¬gylch: dwy res o ychen oedd wedi eu toddi, pan doddwyd yntau. 4:4 Sefyll yr oedd ar ddeuddeg o ychen; tri yn edrych tua’r gogledd, a thri yn edrych tua’r gorllewin, a thri yn edrych tua’r deau, a thri yn edrych tua’r dwyrain: a’r môr arnynt oddi arnodd, a’u holl bennau ôl hwynt oedd o fewn. 4:5 A’i dewder oedd ddyrnfedd, a’i ymyl fel gwaith ymyl cwpan, â blodau lili; a thair mil o bathau a dderbyniai, ac a ddaliai. 4:6 Gwnaeth hefyd ddeg o noeau, ac efe a roddodd bump o’r tu deau, a phump o’r tu aswy, i ymolchi ynddynt: trochent ynddynt ddefnydd y poethoffrwm; ond y môr oedd i’r offeiriaid i ymolchi ynddo. 4:7 Ac efe a wnaeth ddeg canhwyllbren aur yn ôl eu portreiad, ac a’u gosododd yn y deml, pump o’r tu deau, a phump o’r tu aswy. 4:8 Gwnaeth hefyd ddeg o fyrddau, ac a’u gosododd yn y deml, pump o’r tu deau, a phump o’r tu aswy: ac efe a wnaeth gant o gawgiau aur. 4:9 Ac efe a wnaeth gyntedd yr offeiriaid, a’r cyntedd mawr, a dorau i’r cynteddoedd; a’u dorau hwynt a wisgodd efe â phres. 4:10 Ac efe a osododd y môr ar yr ystlys ddeau, tua’r dwyrain, ar gyfer y deau. 4:11 Gwnaeth Hiram hefyd y crochanau, a’r rhawiau, a’r cawgiau: a darfu i Hiram wneuthur y gwaith a wnaeth efe dros frenin Solomon i dŷ DDUW: 4:12 Y ddwy golofn, a’r cnapiau, a’r coronau ar ben y ddwy golofn, a’r ddwy bleth i guddio y ddau gnap coronog, y rhai oedd ar ben y colofnau: 4:13 A phedwar cant o bomgranadau ar y ddwy bleth; dwy res oedd o bom¬granadau ar bob pleth, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar bennau y colofnau. 4:14 Ac efe a wnaeth ystolion, ac a wnaeth noeau ar yr ystolion; 4:15 Un môr, a deuddeg o ychen dano: 4:16 Y crochanau hefyd, a’r rhawiau, a’r cigweiniau, a’u holl lestri hwynt, a wnaeth Hiram ei dad i’r brenin Solomon, yn nhŷ yr ARGLWYDD, o bres gloyw. 4:17 Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt, mewn cleidir, rhwng Succoth a Seredatha. 4:18 Fel hyn y gwnaeth Solomon yr holl lestri hyn, yn lluosog iawn; canys anfeidrol oedd bwys y pres. 4:19 A Solomon a wnaeth yr holl lestri oedd yn nhŷ DDUW, a’r allor aur, a’r byrddau oedd a’r bara gosod arnynt, 4:20 A’r canwyllbrennau, a’u lampau, i oleuo yn ôl y ddefod o flaen y gafell, o aur pur; 4:21 Y blodau hefyd, a’r lampau, a’i gefeiliau, oedd aur, a hwnnw yn aur perffaith. 4:22 Y saltringau hefyd, .a’r cawgiau, a’r llwyau, a’r thuserau, oedd aur pur: a drws y tŷ, a’i ddorau, o du mewn y cysegr sancteiddiolaf, a dorau tŷ y deml, oedd aur. {{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}} {{bach|1 ''Y trysorau cyssegredig.'' 2 ''Dwyn arch Duw yn barchedig i’r cyssegr.'' 11 ''Duw, yn ol ei foliannu, yn dangos arwydd o’i ffafr.''}} {{angor|5:1}} {{uc|Felly}} y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth Solomon i dŷ yr ARGLWYDD; a Solomon a ddug i mewn yr hyn a gysegrasai Dafydd ei dad; ac a osododd yn nhrysorau tŷ DDUW, yr arian, a’r aur, a’r holl lestri. 5:2 Yna y cynullodd Solomon henuriaid Israel, a holl bennau y llwythau, pennau-cenedl meibion Israel, i Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch cyfamod yr ARGLWYDD o ddinas Dafydd, honno yw Seion. 5:3 Am hynny holl wŷr Israel a ymgynullasant at y brenin ar yr ŵyl oedd yn y seithfed mis. 5:4 A holl henuriaid Israel a ddaethant, a’r Lefiaid a godasant yr arch. 5:5 A hwy a ddygasant i fyny yr arch, a phabell y cyfarfod, a holl lestri y cysegr, y rhai oedd yn y babell, yr offeiriaid a’r Lefiaid a’u dygasant hwy i fyny. 5:6 Hefyd y brenin Solomon, a holl gynulleidfa Israel, y rhai a gynullasid ato ef o flaen yr arch, a aberthasant o ddefaid, a gwartheg,<noinclude><references/></noinclude> ggqi4yryuxclq51s0t51t90lmxajwfq Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/456 104 3711 171494 6945 2026-10-08T16:13:01Z Tylopous 3717 penodau 171494 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>fwy nag a ellid eu rhifo na’u cyfrif gan luosowgrwydd. 5:7 A’r offeiriaid a ddygasant arch cyf¬amod yr ARGLWYDD i’w lle, i gafell y tŷ, i’r cysegr sancteiddiolaf, hyd dan adenydd y ceriwbiaid. 5:8 A’r ceriwbiaid oedd yn lledu eu hadenydd dros le yr arch: a’r ceriwbiaid a gysgodent yr arch a’i throsolion, oddi arnodd. 5:9 A thynasant allan y trosolion, fel y gwelid pennau y trosolion o’r arch o flaen y gafell, ac ni welid hwynt oddi allan. Ac yno y mae hi hyd y dydd hwn. 5:10 Nid oedd yn yr arch ond y ddwy lech a roddasai Moses ynddi yn Horeb, lle y gwnaethai yr ARGLWYDD gyfamod â meibion Israel, pan ddaethant hwy allan o’r Aifft. 5:11 A phan ddaeth yr offeiriaid o’r cysegr; canys yr holl offeiriaid, y rhai a gafwyd, a ymsancteiddiasent, heb gadw dosbarthiad: 5:12 Felly y Lefiaid, y rhai oedd gantorion, hwynt-hwy oll o Asaff, o Heman, o Jeduthun, â’u meibion hwynt, ac â’u brodyr, wedi eu gwisgo â lliain main, â symbalau, ac â nablau a thelynau, yn sefyll o du dwyrain yr allor, a chyda hwynt chwe ugain o offeiriaid yn utganu mewn utgyrn. 5:13 Ac fel yr oedd yr utganwyr a’r cantorion, megis un, i seinio un sain i glodfori ac i foliannu yr ARGLWYDD; ac wrth ddyrchafu sain mewn utgyrn, ac mewn symbolau, ac mewn offer cerdd, ac wrth foliannu yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Canys da yw; ac yn dragywydd y mae ei drugaredd ef: yna y llanwyd y tŷ â chwmwl, sef tŷ yr ARGLWYDD; 5:14 Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu gan y cwmwl: oherwydd gogoniant yr ARGLWYDD a lanwasai dŷ DDUW. {{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}} {{bach|1 ''Solomon, wedi bendithio y bobl, yn bendithio Duw.'' 12 ''Gweddi Solomon wrth gyssegru y deml, allan o’r pulpud pres.''}} {{angor|6:1}} {{uc|Yna}} y llefarodd Solomon, Yr AR¬GLWYDD a ddywedodd yr arhosai efe yn y tywyllwch; 6:2 A minnau a adeiledais dŷ yn drigfa i ti, a lle i’th breswylfod yn dragywydd. 6:3 A’r brenin a drodd ei wyneb, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel: a holl gynulleidfa Israel oedd yn sefyll. 6:4 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a lefarodd â’i enau wrth Dafydd fy nhad, ac a gwblhaodd â’i ddwylo, gan ddywedyd, 6:5 Er y dydd y dygais i fy mhobl allan o wlad yr Aifft, ni ddetholais ddinas o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ, i fod fy enw ynddo; ac ni ddewisais ŵr i fod yn flaenor ar fy mhobl Israel: 6:6 Ond mi a etholais Jerwsalem, i fod fy enw yno; ac a ddewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel. 6:7 Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw ARGLWYDD DDUW Israel. 6:8 Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrth Dafydd fy nhad, Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu tŷ i’m henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon: 6:9 Er hynny nid adeiledi di y tŷ; ond dy fab di, yr hwn a ddaeth allan o’th lwynau, efe a adeilada y tŷ i’m henw i. 6:10 Am hynny yr ARGLWYDD a gwbl¬haodd ei air a lefarodd efe: canys mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad, ac a eisteddais ar orseddfa Israel, fel y llefar¬odd yr ARGLWYDD, ac a adeiledais dŷ i enw ARGLWYDD DDUW Israel. 6:11 Ac yno y gosodais yr arch; yn yr hon y mae cyfamod yr ARGLWYDD, yr hwn a amododd efe a meibion Israel. 6:12 A Solomon a safodd o flaen allor yr ARGLWYDD, yng ngŵydd holl gynull¬eidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo: 6:13 Canys Solomon a wnaethai bulpud pres, ac a’i gosodasai yng nghanol y cyntedd, yn bum cufydd ei hyd, a phum cufydd ei led, a thri chufydd ei uchder; ac a safodd arno, ac a ostyngodd ar ei liniau gerbron holl gynulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd: 6:14 Ac efe a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Israel, nid oes Duw cyffelyb i ti yn y nefoedd, nac ar y ddaear; yn cadw cyfamod â thrugaredd a’th weision, sydd yn rhodio ger dy fron di a’u holl galon: 6:15 Yr hwn a gedwaist â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho; fel y lleferaist â’th enau, felly y cwblheaist â’th law, megis y mae y dydd hwn. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> o58lwecu3b6byzqdlz1d7kijldl0ckn Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/458 104 3713 171495 6947 2026-10-08T20:08:49Z Tylopous 3717 penodau 171495 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>galon, ac â’u holl enaid, yng ngwlad eu caethiw¬ed, lle y caethgludasant hwynt, a gweddïo tua’u gwlad a roddaist i’w tadau, a’r ddinas a ddetholaist, a’r tŷ a adeiledais i’th enw di: 6:39 Yna gwrando di o’r nefoedd, o fangre dy breswylfod, eu gweddi hwynt a’u deisyfiadau, a gwna farn iddynt, a maddau i’th bobl a bechasant i’th erbyn. 6:40 Yn awr, O fy NUW, bydded, atolwg, dy lygaid yn agored, a’th glustiau yn ymwrando à’r weddi a wneir tua’r lle yma. 6:41 Ac yn awr cyfod, O ARGLWYDD DDUW, i’th orffwysfa, ti ac arch dy gadernid: dillader dy offeiriaid, O ARGLWYDD DDUW, â iachawdwriaeth, a llawenyched dy saint mewn daioni. 6:42 O ARGLWYDD DDUW, na thro ymaith wyneb dy eneiniog: cofia drugareddau Dafydd dy was. {{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}} {{bach|1 ''Duw yn tystiolaethu gyd â gweddi Solomon, trwy dân o’r nef, a gognoiant yn y deml; a’r bobl yn ei addoli ef.'' 4 ''Cyhoedd ebyrth Solomon.'' 8 ''Solomon, ar ol cadw gwyl y pebyll, a gwyl cyssegriad yr allor, yn gollwng y bobl ymaith.'' 12 ''Duw yn ymddangos i Solomon, ac yn rhoi iddo addewidion dan ammod.''}} {{angor|7:1}} {{uc|Ac}} wedi gorffen o Solomon weddïo, tân a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a ysodd y poethoffrwm a’r ebyrth; a gogoniant yr ARGLWYDD a lanwodd y tŷ. 7:2 Ac ni allai yr offeiriaid fyned i mewn i dŷ yr ARGLWYDD, oherwydd gogoniant yr ARGLWYDD a lanwasai dŷ yr AR¬GLWYDD. 7:3 A phan welodd holl feibion Israel y tân yn disgyn, a gogoniant yr ARGLWYDD ar y tŷ, hwy a ymgrymasant â’u hwynebau i lawr ar y palmant, ac a addolasant, ac a glodforasant yr ARGLWYDD, canys daionus yw efe, oherwydd bod ei drugaredd ef yn dragywydd. 7:4 Yna y brenin a’r holl bobl a aberthasant ebyrth gerbron yr ARGLWYDD. 7:5 A’r brenin Solomon a aberthodd aberth o ddwy fil ar hugain o ychen, a chwech ugain mil o ddefaid: felly y brenin a’r holl bobl a gysegrasant dŷ DDUW. 7:6 A’r offeiriaid oedd yn sefyll yn eu goruchwyliaeth: a’r Lefiaid ag offer cerdd yr ARGLWYDD, y rhai a wnaethai Dafydd y brenin i gyffesu yr ARGLWYDD, oherwydd yn dragywydd y mae ei drugaredd ef, pan oedd Dafydd yn moliannu Duw trwyddynt hwy: a’r offeiriaid oedd yn utganu ar eu cyfer hwynt, a holl Israel oedd yn sefyll. 7:7 A Solomon a gysegrodd ganol y cyntedd yr hwn oedd o flaen tŷ yr AR¬GLWYDD: canys yno yr offrymodd efe boethoffrymau, a braster yr aberthau hedd; canys ni allai yr allor bres a wnaeth¬ai Solomon dderbyn y poethoffrwm, a’r bwyd-offrwm, a’r braster. 7:8 A Solomon a gadwodd ŵyl y pryd hwnnw saith niwrnod, a holl Israel gydag ef, cynulleidfa fawr iawn, o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft. 7:9 Gwnaethant hefyd yr wythfed dydd gymanfa: canys cysegriad yr allor a gadwasant hwy saith niwrnod, a’r ŵyl saith niwrnod. 7:10 Ac yn y trydydd dydd ar hugain o’r seithfed mis y gollyngodd efe y bobl i’w pabellau, yn hyfryd ac yn llawen eu calon, am y daioni a wnaethai yr ARGLWYDD i Dafydd, ac i Solomon, ac i Israel ei pobl. 7:11 Fel hyn y gorffennodd Solomon dŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin: a’r hyn oll oedd ym mryd Solomon ei wneuthur yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn ei dŷ ei hun, a wnaeth efe yn llwyddiannus. 7:12 A’r ARGLWYDD a ymddangosodd i Solomon liw nos, ac a ddywedodd wrtho, Gwrandewais dy weddi, a mi a ddewisais y fan hon i mi yn dŷ aberth. 7:13 Os caeaf fi y nefoedd, fel na byddo glaw, neu os gorchmynnaf i’r locustiaid ddifa y ddaear, ac os anfonaf haint ymysg fy mhobl; 7:14 Os fy mhobl, y rhai y gelwir fy enw arnynt, a ymostyngant, ac a weddïant, ac a geisiant fy wyneb, ac a droant o’u ffyrdd drygionus: yna y gwrandawaf o’r nefoedd, ac y maddeuaf iddynt eu pechodau, ac yr iachaf eu gwlad hwynt. 7:15 Yn awr fy llygaid a fyddant yn agored, a’m clustiau yn ymwrando a’r weddi a wneir yn y fan hon. 7:16 Ac yn awr mi a ddetholais ac a sancteiddiais y tŷ hwn, i fod fy enw yno hyd byth: fy llygaid hefyd a’m calon a fyddant yno yn wastadol. 7:17 A thithau, os rhodi ger fy mron i, fel y rhodiodd Dafydd dy dad, a<noinclude><references/></noinclude> 3rscqlzyb3ftfso8rimgckrjmuu49s6 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/459 104 3714 171496 6948 2026-10-08T20:13:32Z Tylopous 3717 penodau 171496 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>gwneuthur yr hyn oll a orchmynnais i ti, a chadw fy neddfau a’m barnedigaethau: 7:18 Yna y sicrhaf deyrngadair dy frenhiniaeth di, megis yr amodais a Dafydd dy dad, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr yn arglwyddiaethu yn Israel. 7:19 Ond os dychwelwch, ac os gwrthodwch fy neddfau a’m gorchmynion a roddais ger eich bron, ac os ewch a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt hwy: 7:20 Yna mi a’u diwreiddiaf hwynt o’m gwlad a roddais iddynt, a’r tŷ a sanct¬eiddiais i’m henw a fwriaf allan o’m golwg, a mi a’i rhoddaf ef yn ddihareb, ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd. 7:21 A’r tŷ yma, yr hwn sydd uchel, a wna i bawb a’r a êl heibio iddo synnu: fel y dywedo, Paham y gwnaeth yr AR¬GLWYDD fel hyn i’r wlad hon, ac i’r tŷ hwn? 7:22 Yna y dywedant, Am iddynt wrthod ARGLWYDD DDUW eu tadau, yr hwn a’u dug hwy allan o wlad yr Aifft, ac am iddynt ymaflyd mewn duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt, a’u gwasanaethu hwynt: am hynny y dug efe yr holl ddrwg yma arnynt hwy. {{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}} {{bach|1 ''Adeilad Solomon.'' 7 ''Solomon yn dwyn y cenhedloedd a adawsid dan deyrnged iddo; ac yn gwneuthur yr Israeiliaid yn llywiawdwyr dano.'' 11 ''Merch Pharaoh yn sammudo i’w thŷ.'' 12 ''Cyhoedd aberthau blynyddol Solomon.'' 14 ''Solomon yn gosod yr offeiriaid a’r Lefiaid yn eu lleoed.'' 17 ''Y llynges yn cyrchu aur o Ophir.''}} {{angor|8:1}} {{uc|Ac}} ymhen yr ugain mlynedd, yn y rhai yr adeiladodd Solomon dŷ yr ARGLWYDD, a’i dŷ ei hun, 8:2 Solomon a adeiladodd y dinasoedd a roddasai Hiram i Solomon, ac a wnaeth i feibion Israel drigo yno. 8:3 A Solomon a aeth i Hamath-soba, ac a’i gorchfygodd hi. 8:4 Ac efe a adeiladodd Tadmor yn yr anialwch, a holl ddinasoedd y trysorau, y rhai a adeiladodd efe yn Hamath. 8:5 Efe hefyd a adeiladodd Beth-horon uchaf, a Beth-horon isaf, dinasoedd wedi eu cadarnhau â muriau, pyrth, a barrau; 8:6 Baalath hefyd, a holl ddinasoedd y trysorau oedd gan Solomon, a holl ddinas¬oedd y cerbydau, a dinasoedd y marchogion, a’r hyn oll oedd ewyllys gan Solomon ei adeiladu yn Jerwsalem, ac yn Libanus, ac yn holl dir ei arglwyddiaeth ef. 8:7 Yr holl bobl y rhai a adawyd o’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pherestaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid, y rhai nid oeddynt o Israel; 8:8 Ond o’u meibion hwynt, y rhai a drigasant ar eu hôl hwynt yn y wlad, y rhai ni ddifethasai meibion Israel, Sol¬omon a’u gwnaeth hwynt yn drethol hyd y dydd hwn. 8:9 Ond o feibion Israel ni roddodd Solomon neb yn weision yn ei waith: canys hwynt-hwy oeddynt ryfelwyr, a thywysogion ei gapteiniaid ef, a thywysogion ei gerbydau a’i wŷr meirch ef. 8:10 A dyma y rhai pennaf o swyddogion y brenin Solomon, sef dau cant a deg a deugain, yn arglwyddiaethu ar y pobl. 8:11 A Solomon a ddug ferch Pharo i fyny o ddinas Dafydd i’r tŷ a adeiladasai efe iddi hi: canys efe a ddywedodd, Ni thrig fy ngwraig i yn nhŷ Dafydd brenin Israel, oherwydd sanctaidd yw, oblegid i arch yr ARGLWYDD ddyfod i mewn iddo. 8:12 Yna Solomon a offrymodd boethoffrymau i’r ARGLWYDD ar allor yr ARGLWYDD, yr hon a adeiladasai efe o flaen y porth; 8:13 I boethoffrymu dogn dydd yn ei ddydd, yn ôl gorchymyn Moses, ar y Sabothau, ac ar y newyddloerau, ac ar y gwyliau arbennig, dair gwaith yn y flwyddyn; sef ar ŵyl y bara croyw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll. 8:14 Ac efe a osododd, yn ôl trefn Dafydd ei dad, ddosbarthiadau yr offeiriaid yn eu gwasanaeth, a’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth, i foliannu ac i weini gerbron yr offeiriaid, fel yr oedd ddyledus bob dydd yn ei ddydd, a’r porthorion yn eu dosbarthiadau, wrth bob porth: canys felly yr oedd gorchymyn Dafydd gŵr Duw. 8:15 Ac ni throesant hwy oddi wrth orchymyn y brenin i’r offeiriaid a’r Lefiaid, am un peth, nac am y trysorau. 8:16 A holl waith Solomon oedd wedi ei baratoi hyd y dydd y seiliwyd tŷ yr ARGLWYDD, a hyd oni orffennwyd ef. Felly y gorffennwyd tŷ yr ARGLWYDD. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> s9hxnery9awum5oszpk3vg16184uzg2 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/460 104 3715 171497 6949 2026-10-08T20:16:33Z Tylopous 3717 penodau 171497 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>8:17 Yna yr aeth Solomon i Esion-gaber, ac i Eloth, ar fin y môr, yng ngwlad Edom. 8:18 A Hiram a anfonodd gyda’i weision longau, a gweision cyfarwydd ar y môr; a hwy a aethant gyda gweision Solomon i Offir, ac a gymerasant oddi yno bedwar cant a deg a deugain talent o aur, ac a’u dygasant i’r brenin Solomon.: {{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}} {{bach|1 ''Brenhines Seba yn rhyfedd ganddi ddoethineb Solomon.'' 13 ''Aur Solomon,'' 15 ''a’i darianau,'' 17 ''a’i orsedd-faingc ifori,'' 20 ''a’i lestri,'' 23 ''a’i anrhegion,'' 25 ''a’i gerbydau a’i feirch,'' 26 ''a’i deyrnged.'' 29 ''Pa hyd y teyrnasodd efe, a’i farwolaeth.''}} {{angor|9:1}} {{uc|A phan}} glybu brenhines Seba glod Solomon, hi a ddaeth i Jerwsalem, i brofi Solomon â chwestiynau caled, â llu mawr iawn, ac â chamelod yn dwyn aroglau, ac aur lawer, a meini gwerthfawr: a hi a ddaeth at Solomon, ac a ddywedodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon. 9:2 A Solomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion: ac nid oedd dim yn guddiedig rhag Solomon a’r na fynegodd efe iddi hi. 9:3 A phan welodd brenhines Seba ddoethineb Solomon, a’r tŷ a adeiladasai efe, 9:4 A bwyd ei fwrdd, ac eisteddiad ei weision, a threfn ei weinidogion, a’u dillad, a’i drulliadau ef, a’u gwisgoedd, a’i esgynfa ar hyd yr hon yr ai efe i fyny i dŷ yr ARGLWYDD; nid oedd mwyach ysbryd ynddi. 9:5 A hi a ddywedodd wrth y brenin, Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad, am dy weithredoedd di, ac am dy ddoeth¬ineb: 9:6 Eto ni choeliais i’w geiriau hwynt, nes i mi ddyfod, ac i’m llygaid weled. Ac wele, ni fynegasid i mi hanner helaethrwydd dy ddoethineb: ychwanegaist at y clod a glywais i. 9:7 Gwyn fyd dy wŷr di, a gwynfydedig yw dy weision hyn, y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron, ac yn clywed dy ddoethineb. 9:8 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a’th hoffodd di, i’th osod ar ei orseddfa ef, yn frenin dros yr ARGLWYDD dy DDUW: oherwydd cariad dy DDUW tuag at Israel, i’w sicrhau yn dragywydd; am hynny y gwnaeth efe dydi yn frenin arnynt hwy, i wneuthur barn a chyfiawnder. 9:9 A hi a roddodd i’r brenin chwech ugain talent o aur, a pheraroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr: ac ni bu y fath beraroglau â’r rhai a roddodd bren¬hines Seba i’r brenin Solomon. 9:10 Gweision Hiram hefyd, a gweision Solomon, y rhai a ddygasant aur o Offir, a ddygasant goed algumim a meini gwerthfawr. 9:11 A’r brenin a wnaeth o’r coed algu¬mim risiau i dŷ yr ARGLWYDD, ac i dŷ y brenin, a thelynau a nablau i’r cantorion: ac ni welsid eu bath o’r blaen yng ngwlad Jwda. 9:12 A’r brenin Solomon a roddodd i frenhines Seba ei holl ddymuniad, a’r hyn a ofynnodd hi, heblaw yr hyn a ddygasai hi i’r brenin. Felly hi a ddychwelodd, ac a aeth i’w gwlad, hi a’i gweision. 9:13 A phwys yr aur a ddeuai i Solomon bob blwyddyn, oedd chwe chant a thrigain a chwech o dalentau aur; 9:14 Heblaw yr hyn yr oedd y marchnadwyr a’r marsiandwyr yn eu dwyn: a holl frenhinoedd Arabia, a thywysogion y wlad, oedd yn dwyn aur ac arian i Solomon. 9:15 A’r brenin Solomon a wnaeth ddau can tarian o aur dilin: chwe chan sicl o aur dilin a roddodd efe ym mhob tarian. 9:16 A thri chant o fwcledi o aur dilin: tri chan sicl o aur a roddodd efe ym mhob bwcled. A’r brenin a’u gosododd hwynt yn nhŷ coed Libanus. 9:17 A’r brenin a wnaeth orseddfa fawr o ifori, ac a’i gwisgodd ag aur pur. 9:18 A chwech o risiau oedd i’r orseddfa, a throedle o aur, ynglyn wrth yr orseddfa, a chanllawiau o bob tu i’r eisteddle, a dau lew yn sefyll wrth y canllawiau; 9:19 A deuddeg o lewod yn sefyll yno ar y chwe gris o bob tu. Ni wnaethpwyd y fath mewn un deyrnas. 9:20 A holl llestri diod y brenin Solomon oedd o aur, a holl lestri tŷ coed Libanus oedd aur pur: nid oedd yr un o arian; nid oedd dim bri arno yn nyddiau Solomon. 9:21 Canys llongau y brenin oedd yn myned i Tarsis gyda gweision Hiram: unwaith yn y tair blynedd y deuai llongau Tarsis yn dwyn aur, ac arian, ac ifori, ac epaod, a pheunod. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> dj1stslqs0897fg6d7z4rfnsyjbszyt Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/461 104 3716 171498 6950 2026-10-08T20:19:17Z Tylopous 3717 penodau 171498 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>9:22 A’r brenin Solomon a ragorodd ar holl frenhinoedd y ddaear mewn cyfoeth a doethineb. 9:23 A holl frenhinoedd y ddaear oedd yn ceisio gweled wyneb Solomon, i wrando ei ddoethineb a roddasai Duw yn ei galon ef. 9:24 A hwy a ddygasant bod un ei anrheg, llestri arian, a llestri aur, a gwisgoedd, arfau, a pheraroglau, meirch, a mulod, dogn bob blwyddyn. 9:25 Ac yr oedd gan Solomon bedair mil o bresebau meirch a cherbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch; ac efe a’u cyfleodd hwynt yn ninasoedd y cerbydau, a chyda’r brenin yn Jerwsalem. 9:26 Ac yr oedd efe yn arglwyddiaethu ar yr holl frenhinoedd, o’r afon hyd wlad y Philistiaid, a hyd derfyn yr Aifft. 9:27 A’r brenin a wnaeth yr arian yn Jerwsalem fel cerrig, a’r cedrwydd a wnaeth efe fel y sycamorwydd yn y doldir, o amldra. 9:28 Ac yr oeddynt hwy yn dwyn meirch i Solomon o’r Aifft, ac o bob gwlad. 9:29 A’r rhan arall o weithredoedd Solomon, cyntaf a diwethaf, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yng ngeiriau Nathan y proffwyd, ac ym mhroffwydoliaeth Ahia y Siloniad, ac yng ngweledigaethau Ido y gweledydd yn erbyn Jeroboam mab Nebat? 9:30 A Solomon a deyrnasodd yn Jerw¬salem ar holl Israel ddeugain mlynedd. 9:31 A Solomon a hunodd gyda’i dadau, a chladdwyd ef yn ninas Dafydd ei dad; a Rehoboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. {{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}} {{bach|1 ''Yr Israeliaid yn ymgasglu yn Sichem i goroni Rehoboam, a thrwy Jeroboam yn ceisio gandoo eu ryddhâu hwy.'' 6 ''Rehoboam yn gwrthod cynghor yr henafgwyr, a thrwy gynghor y gwŷr ieuaingc, yn eu hatteb hwy yn arw.'' 16 ''Deg llwyth yn cilio oddi wrtho ef, yn lladd Hadoram, ac yn ei yrru yntau i ffô.''}} {{angor|10:1}} {{uc|A Rehoboam}} a aeth i Sichem; canys i Sichem y daethai holl Israel i’w urddo ef yn frenin. 10:2 A phan glybu Jeroboam mab Nebat, ac yntau yn yr Aifft, lle y ffoesai efe o ŵydd Solomon y brenin, Jeroboam a ddychwelodd o’r Aifft. 10:3 Canys hwy a anfonasent, ac a alwasent amdano ef. A Jeroboam a holl Is¬rael a ddaethant, ac a ymddiddanasant â Rehoboam, gan ddywedyd, 10:4 Dy dad a wnaeth ein hiau ni yn drom; yn awr gan hynny ysgafnha beth o gaethiwed caled dy dad, ac o’i iau drom ef yr hon a roddodd efe arnom ni, a ni a’th wasanaethwn di. 10:5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ymhen y tridiau dychwelwch ataf fi. A’r bobl a aethant ymaith. 10:6 A’r brenin Rehoboam a ymgynghorodd â’r henuriaid a fuasai yn sefyll o flaen Solomon ei dad ef pan ydoedd efe yn fyw, gan ddywedyd, Pa fodd yr ydych chwi yn cynghori ateb y bobl hyn? 10:7 A hwy a lefarasant wrtho, gan ddy¬wedyd, Os byddi yn dda i’r bobl yma, a’u bodloni hwynt, ac os dywedi wrthynt eiriau teg, hwy a fyddant yn weision i ti byth. 10:8 Ond efe a wrthododd gyngor yr henuriaid a gyngorasent hwy iddo; ac efe a ymgynghorodd â’r gwŷr ieuainc a gynyddasent gydag ef, a’r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef. 10:9 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Beth yr ydych chwi yn ei gynghori, fel yr atebom y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyf, gan ddywedyd, Ysgafnha beth ar yr iau a osododd dy dad arnom ni? 10:10 A’r gwŷr ieuainc y rhai a gynydd¬asent gydag ef a lefarasant wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth y bobl a lefarasant wrthyt, gan ddywedyd, dy dad a wnaeth ein hiau ni yn drom, ysgafnha dithau hi oddi arnom ni: fel hyn y dywedi wrthynt; Fy mys bach fydd ffyrfach na llwynau fy nhad. 10:11 Ac yn awr fy nhad a’ch llwythodd chwi â iau drom, minnau hefyd a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a’ch ceryddodd chwi â ffrewyllau, a minnau a’ch ceryddaf ag ysgorpionau. 10:12 Yna y daeth Jeroboam, a’r holl bobl, at Rehoboam y trydydd dydd, fel y llefarasai y brenin, gan ddywedyd, Dychwelwch ataf fi y trydydd dydd. 10:13 A’r brenin a’u hatebodd hwynt yn arw: a’r brenin Rehoboam a wrthododd gyngor yr henuriaid; 10:14 Ac efe a lefarodd wrthynt yn ôl cyngor y gwŷr ieuainc, gan ddywedyd, Fy nhad a wnaeth eich iau chwi yn drom, a minnau a chwanegaf arni hi: fy nhad a’ch cerydd-<noinclude><references/></noinclude> br772nwt9uvl25cplhq5xno2wmdli82 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/462 104 3717 171499 6951 2026-10-08T20:21:57Z Tylopous 3717 penodau 171499 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>odd chwi â ffrewyllau, a min¬nau a’ch ceryddaf chwi ag ysgorpionau. 10:15 Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl: oherwydd yr achos oedd oddi wrth DDUW, fel y cwblhai yr ARGLWYDD ei air a lefarasai efe trwy law Ahïa y Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat. 10:16 A ^phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy, y bobl a atebasant y brenin, gan ddywedyd. Pa ran sydd i ni yn Dafydd? nid oes chwaith i ni etifeddiaeth ym mab Jesse: O Israel, aed pawb i’w pebyll, edrych yn awr ar dy dŷ dy hun, Dafydd. Felly holl Israel a aethant i’w pebyll. 10:17 Ond meibion Israel, y rhai oedd yn preswylio yn ninasoedd Jwda, Rehoboam a deyrnasodd arnynt hwy. 10:18 A’r brenin Rehoboam a anfonodd Hadoram, yr hwn oedd ar y dreth, a meibion Israel a’i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw: ond y brenin Rehoboam a brysurodd i fyned i’w gerbyd, i ffoi i Jerwsalem. 10:19 Ac Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Dafydd hyd y dydd hwn. {{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod XI}}.}} {{bach|1 ''Rehoboam yn codi llu i ddwyn Israel dano, a Semaiah yn gwarafun iddo.'' 5 ''Rehoboam yn cadarnhâu y deyrnas âg amddiffynfeydd ac anghenrheidiau.'' 13 ''Yr offeiriaid a’r Lefiaid, a’r rhai oedd yn ofni Duw, wedi i Jeroboam eu gwrthod, yn cadarnhâu teyrnas Judah.'' 18 ''Gwragedd a phlant Rehoboam.''}} {{angor|11:1}} {{uc|A phan}} ddaeth Rehoboam i Jerwsalem, efe a gasglodd o holl dŷ Jwda, ac o Benjamin, gant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol, cymwys i ryfel, i ymladd ag Israel, ac i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam. 11:2 Ond gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Semaia gŵr Duw, gan ddywedyd, 11:3 Dywed wrth Rehoboam mab Solomon brenin Jwda, ac wrth holl Israel yn Jwda a Benjamin, gan ddywedyd, 11:4 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Nac ewch i fyny, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr; dychwelwch bob un i’w dŷ ei hun: canys trwof fi y gwnaethpwyd y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar eiriau yr ARGLWYDD, ac a ddychwelasant, heb fyned yn erbyn Jeroboam. 11:5 A Rehoboam a drigodd yn Jerw¬salem, ac a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Jwda. 11:6 Ac efe a adeiladodd Bethlehem, ac Etam, a Thecoa, 11:7 A Bethsur, a Socho, ac Adulam, 11:8 A Gath, a Maresa, a Siff, 11:9 Ac Adoraim, a Lachis, ac Aseca, 11:10 A Sora, ac Ajalon, a Hebron, y rhai oedd yn Jwda, ac yn Benjamin; dinasoedd o gadernid. 11:11 Ac efe a gadarnhaodd yr amddiffynfaoedd, ac a osododd flaenoriaid ynddynt hwy, a chellau bwyd, ac olew, a gwin. 11:12 Ac ym mhob dinas y gosododd efe darianau, a gwaywffyn, ac a’u cadarnhaodd hwynt yn gadarn iawn, ac eiddo ef oedd Jwda a Benjamin. 11:13 A’r offeiriaid a’r Lefiaid, y rhai oedd yn holl Israel, a gyrchasant ato ef o’u holl derfynau. 11:14 Canys y Lefiaid a adawsant eu meysydd pentrefol, a’u meddiant, ac a ddaethant i Jwda, ac i Jerwsalem: canys Jeroboam a’i feibion a’u bwriasai hwynt ymaith o fod yn offeiriaid i’r ARGLWYDD. 11:15 Ac efe a osododd iddo offeiriaid i’r uchelfeydd, ac i’r cythreuliaid, ac i’r lloi a wnaethai efe. 11:16 Ac ar eu hôl hwynt, o holl lwythau Israel, y rhai oedd yn rhoddi eu calon i geisio ARGLWYDD DDUW Israel, a ddaeth¬ant i Jerwsalem, i aberthu i ARGLWYDD DDUW eu tadau. 11:17 Felly hwy a gadarnhasant frenhin¬iaeth Jwda, ac a gryfhasant Rehoboam mab Solomon, dros dair blynedd: canys hwy a rodiasant yn ffordd Dafydd a Solomon dair blynedd. 11:18 A Rehoboam a gymerth Mahalath, merch Jerimoth mab Dafydd, yn wraig iddo, ac Abihail merch Eliab mab Jesse: 11:19 A hi a ymddug iddo ef feibion, sef Jeus, a Samareia, a Saham. 11:20 Ac ar ei hôl hi efe a gymerth Maacha merch Absalom: a hi a ymddug iddo ef Abeia, ac Attai, a Sisa, a Selomith. 11:21 A Rehoboam a garodd Maacha merch Absalom yn fwy na’i holl wragedd a’i ordderchadon: canys deunaw o wragedd a gymerth efe, a thrigain o ordderchadon; ac efe a genhedlodd wyth ar hugain o feibion, a thrigain o ferched. 11:22 A Rehoboam a osododd Abeia mab Maacha yn ben, yn flaenor ar<noinclude><references/></noinclude> 65w7bkqp0t9ackjhnofvv5922tvlzrm Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/463 104 3718 171500 6953 2026-10-08T20:26:04Z Tylopous 3717 penodau 171500 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ei frodyr; canys yr oedd yn ei fryd ei urddo ef yn frenin. 11:23 Ac efe a fu gall, ac a wasgarodd rai o’i feibion i holl wledydd Jwda a Ben¬jamin, i bob dinas gadarn, ac a roddes iddynt hwy luniaeth yn helaeth: ac efe a geisiodd liaws o wragedd. {{angor|Pennod_12}}{{c|{{uc|Pennod XII}}.}} {{bach|1 ''Rehoboam yn ymwrthod â Duw, a Sisac yn ei gospi ef.'' 5 ''Efe a’i dywysogion yn edifarhâu wrth bregeth Semaiah, ac yn cael ymwared rhag eu dinystrio, ond nid rhag eu hanrheithio.'' 13 ''Pa hyd y teyrnasidd Rehoboam, a’i farwolaeth ef.''}} {{angor|12:1}} {{uc|Ac}} wedi i Rehoboam sicrhau y fren¬hiniaeth, a’i chadarnhau, efe a wrthododd gyfraith yr ARGLWYDD, a holl Israel gydag ef. 12:2 Ac yn y bumed flwyddyn i’r brenin Rehoboam, y daeth Sisac brenin yr Aifft i fyny yn erbyn Jerwsalem, oherwydd iddynt wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, 12:3 A mil a dau cant o gerbydau, a thrigeinmil o wŷr meirch; ac nid oedd nifer ar y bobl a ddaeth gydag ef o’r Aifft, sef y Lubiaid, y Succiaid, a’r Ethiopiaid. 12:4 Ac efe a enillodd y dinasoedd cedyrn, y rhai oedd yn Jwda, ac a ddaeth hyd Jerwsalem. 12:5 Yna Semaia y proffwyd a ddaeth at Rehoboam a thywysogion Jwda, y rhai oedd wedi ymgasglu yn Jerwsalem rhag ofn Sisac, ac a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Chwi a’m gwrthodasoch i, am hynny myfi a’ch gadewais chwi yn llaw Sisac. 12:6 Yna tywysogion Israel a’r brenin a ymostyngasant ac a ddywedasant, Cyfiawn yw yr ARGLWYDD. 12:7 A phan welodd yr ARGLWYDD iddynt hwy ymostwng, daeth gair yr ARGLWYDD at Semaia, gan ddywedyd, Hwy a ym¬ostyngasant; am hynny ni ddifethaf hwynt, ond rhoddaf iddynt ymwared ar fyrder; ac ni thywelltir fy llid yn erbyn Jerwsalem trwy law Sisac. 12:8 Eto byddant yn weision iddo ef, fel yr adnabyddont fy ngwasanaeth i, a gwasanaeth teyrnasoedd y gwledydd. 12:9 Yna Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem, ac a gymerth drysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau tŷ y brenin, ac a’u dug hwynt ymaith oll: dug ymaith hefyd y tarianau aur a wnaethai Solomon. 12:10 A’r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres, ac a’u rhoddodd hwynt i gadw dan law tywysogion gwŷr y gard, y rhai oedd yn cadw drws tŷ y brenin. 12:11 A phan elai y brenin i dŷ yr AR¬GLWYDD, gwŷr y gard a ddeuent ac a’u cyrchent hwy, ac a’u dygent drachefn i ystafell gwŷr y gard. 12:12 A phan ymostyngodd efe, llid yr ARGLWYDD a ddychwelodd oddi wrtho ef, fel nas dinistriai ef yn hollol; ac yn Jwda hefyd yr oedd pob peth yn dda. 12:13 Felly y brenin Rehoboam a ymgryfhaodd yn Jerwsalem, ac a deyrnasodd: a mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisasai yr ARGLWYDD i osod ei enw ef ynddi, o holl lwythau Israel: ac enw ei fam oedd Naama, Ammones. 12:14 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg, canys ni pharatodd efe ei galon i geisio yr ARGLWYDD. 12:15 Am y gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Rehoboam, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yng ngeiriau Semaia y proffwyd, ac Ido y gweledydd, yn yr achau? A bu rhyfeloedd rhwng Reho¬boam a Jeroboam yn wastadol. 12:16 A Rehoboam a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd; ac Abeia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. {{angor|Pennod_13}}{{c|{{uc|Pennod XIII}}.}} {{bach|1 ''Abïah yn dyfod yn lle Rehoboam, ac yn rhyfela â Jeroboam:'' 4 ''yn adrodd ddäed oedd ei achos:'' 13 ''yn rhoi ei hyder ar Dduw, ac yn gorchfygu Jeroboam.'' 21 ''Gwragedd a phlant Abïah.''}} {{angor|13:1}} {{uc|Ac}} yn y ddeunawfed flwyddyn i’r brenin Jeroboam y dechreuodd Abeia deyrnasu ar Jwda. 13:2 Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam ef oedd Michaia, merch Uriel o Gibea. Ac yr oedd rhyfel rhwng Abeia a Jeroboam. 13:3 Ac Abeia a gydiodd y rhyfel a llu o ryfelwyr grymus, sef pedwar can mil o wŷr etholedig: a Jeroboam a luniaethodd y rhyfel yn ei erbyn ef ag wyth gan mil o wŷr etholedig, grymus, nerthol. 13:4 Ac Abeia a gyfododd ar fynydd Semaraim, yr hwn sydd ym mynydd Effraim, ac a ddywedodd,<noinclude><references/></noinclude> iy9lvatq3aw2ld8gfijsbjutmyu6zof Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/464 104 3719 171501 6954 2026-10-08T20:28:15Z Tylopous 3717 penodau 171501 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>O Jeroboam, a holl Israel, gwrandewch fi; 13:5 Oni ddylech chwi wybod roddi o ARGLWYDD DDUW Israel y frenhiniaeth i Dafydd ar Israel yn dragywydd, iddo ef ac i’w feibion, trwy gyfamod halen? 13:6 Eto Jeroboam mab Nebat, gwas Solomon mab Dafydd, a gyfododd ac a wrthryfelodd yn erbyn ei arglwydd. 13:7 Ac ofer ddynion, sef meibion y fall, a ymgasglasant ato ef, ac a ymgadarnhasant yn erbyn Rehoboam mab Solomon, pan oedd Rehoboam yn fachgen, ac yn wan ei galon, ac ni allai ymgadarnhau i’w herbyn hwynt. 13:8 Ac yn awr yr ydych yn meddwl ymgadarnhau yn erbyn brenhiniaeth yr ARGLWYDD, yr hon sydd yn llaw meibion Dafydd; ac yr ydych yn dyrfa fawr, a chyda chwi y mae y lloi aur a wnaeth Jeroboam yn dduwiau i chwi. 13:9 Oni yrasoch ymaith offeiriaid yr AR¬GLWYDD, meibion Aaron, a’r Lefiaid? ac oni wnaethoch i chwi offeiriaid fel pobl y gwledydd eraill? pwy bynnag sydd yn dyfod i’w gysegru â bustach ieuanc ac â saith o hyrddod, hwnnw sydd yn offeiriad i’r rhai nid ydynt dduwiau. 13:10 Ninnau, yr ARGLWYDD yw ein Duw ni, ac nis gwrthodasom ef; a’r offeiriaid y rhai sydd yn gwasanaethu yr ARGLWYDD yw meibion Aaron, a’r Lefiaid sydd yn eu gorchwyl. 13:11 Ac y maent hwy yn llosgi i’r AR¬GLWYDD boethoffrymau bob bore a phob hwyr, ac arogldarth peraidd; ac yn cadw trefn y bara gosod ar y bwrdd pur, a’r canhwyllbren aur a’i lampau, i losgi bob prynhawn: canys yr ydym ni yn cadw goruchwyliaeth yr ARGLWYDD ein Duw; ond chwi a’i gwrthodasoch ef. 13:12 Ac wele, Duw sydd ben gyda ni, a’i offeiriaid ef ag utgyrn soniarus i utganu yn eich erbyn chwi. O feibion Israel, nac ymleddwch yn erbyn ARGLWYDD DDUW eich tadau; canys ni lwyddwch chwi. 13:13 Ond Jeroboam a barodd osod cynllwyn o amgylch, a dyfod o’u hôl hwynt: felly yr oeddynt hwy o flaen Jwda, a’r cynllwyn o’r tu ôl iddynt. 13:14 A Jwda a edrychodd yn 61, ac wele ryfel iddynt ymlaen ac yn 61; a hwy a waeddasant ar yr ARGLWYDD, a’r offeir¬iaid a leisiasant mewn utgyrn. 13:15 A gwŷr Jwda a floeddiasant: a phan waeddodd gwŷr Jwda, Duw a drawodd Jeroboam, a holl Israel, a flaen Abeia a Jwda. 13:16 A meibion Israel a ffoesant o flaen Jwda: a Duw a’u rhoddodd hwynt i’w llaw hwynt. 13:17 Ac Abeia a’i bobl a’u trawsant hwy â lladdfa fawr: a syrthiodd yn archolledig o Israel bum can mil o wŷr etholedig. 13:18 Felly y darostyngwyd meibion Israel y pryd hwnnw; a meibion Jwda a orfuant, oherwydd iddynt bwyso ar AR¬GLWYDD DDUW eu tadau. 13:19 Ac Abeia a erlidiodd ar ôl Jeroboam, ac a ddug oddi arno ef ddinasoedd, Bethel a’i phentrefi, a Jesana a’i phentrefi, ac Effraim a’i phentrefi. 13:20 Ac ni chafodd Jeroboam nerth mwyach yn nyddiau Abeia: ond yr AR¬GLWYDD a’i trawodd ef, fel y bu efe farw. 13:21 Ond Abeia a ymgryfhaodd, ac a gymerth iddo bedair ar ddeg o wragedd, ac a genhedlodd ddau fab ar hugain, ac un ar bymtheg o ferched. 13:22 A’r rhan arall o hanes Abeia, a’i ffyrdd ef, a’i eiriau, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwyd Ido. {{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}} {{bach|1 ''Asa yn dyfod ar ol Abïah, ac yn dilëu delw-addoliaeth;'' 6 ''a chwedi cael heddwch, yn cadarnhâu ei deyrnas âg amddiffynfeydd ac âg arfau:'' 9 ''yn galw ar Dduw, ac yn gorchfygu Zerah, ac yn yspeilio yr Ethiopiaid.''}} {{angor|14:1}} {{uc|Felly}} Abeia a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn ninas Dafydd; ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. Yn ei ddyddiau ef y cafodd y wlad lonydd ddeng mlynedd. 14:2 Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei DDUW. 14:3 Canys efe a fwriodd ymaith allorau y duwiau dieithr, a’r uchelfeydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni: 14:4 Ac a orchmynnodd i Jwda geisio ARGLWYDD DDUW eu tadau, a gwneuthur y gyfraith a’r gorchymyn. 14:5 Ac efe a fwriodd ymaith o holl ddinas¬oedd Jwda yr uchelfeydd a’r delwau: a chafodd y frenhiniaeth lonydd o’i flaen ef. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> h9rcme17klbfvqz0njyledk8q4tknt9 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/465 104 3720 171502 6955 2026-10-08T20:30:34Z Tylopous 3717 penodau 171502 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>14:6 Ac efe a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Jwda, oherwydd bod y wlad yn cael llonydd, ac nad oedd rhyfel yn ei erbyn ef yn y blynyddoedd hynny, oblegid yr ARGLWYDD a roddasai lonyddwch iddo. 14:7 Am hynny efe a ddywedodd wrth Jwda, Adeiladwn y dinasoedd hyn, ac amgylchwn hwynt â mur, â thyrau, â drysau, ac â barrau, tra fyddo y wlad o’n blaen ni; oherwydd i ni geisio yr AR¬GLWYDD ein Duw, ni a’i ceisiasom, ac efe a roddodd lonyddwch i ni o amgylch. Felly hwy a adeiladasant, ac a lwyddasant. 14:8 Ac yr oedd gan Asa lu o wŷr yn dwyn tarianau a gwaywffyn, o Jwda tri chan mil, ac o Benjamin dau cant a phedwar ugain mil yn dwyn tarianau, ac yn tynnu bwa: y rhai hyn oll oedd wŷr grymus. 14:9 A Sera yr Ethiopiad a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt, â llu o fil o filoedd, ac â thri chant o gerbydau; ac a ddaeth hyd Maresa. 14:10 Yna Asa a aeth allan yn ei erbyn ef, a hwy a luniaethasant ryfel yn nyffryn Seffatha wrth Maresa. 14:11 Ac Asa a waeddodd ar yr ARGLWYDD ei DDUW, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD, nid yw ddim i ti gynorthwyo, pa un bynnag ai gyda llawer, ai gyda’r rhai nid oes ganddynt gryfder: cynorthwya di ni, O ARGLWYDD ein Duw; canys pwyso yr ydym ni arnat ti, ac yn dy enw di y daethom yn erbyn y dorf hon: O AR¬GLWYDD, ein Duw ni ydwyt ti, na orfydded dyn i’th erbyn. 14:12 Felly yr ARGLWYDD a drawodd yr Ethiopiaid o flaen Asa, ac o flaen Jwda; a’r Ethiopiaid a ffoesant. 14:13 Ac Asa a’r bobl oedd gydag ef a’u herlidiasant hwy hyd Gerar: a syrthiodd yr Ethiopiaid fel na allent ymatgryfhau; canys drylliasid hwynt o flaen yr AR¬GLWYDD, ac o flaen ei lu ef; a hwy a ddygasant ymaith anrhaith fawr iawn. 14:14 A thrawsant yr holl ddinasoedd o amgylch Gerar; canys yr oedd dychryn yr ARGLWYDD arnynt hwy: a hwy a anrheithiasant yr holl ddinasoedd; canys anrhaith fawr oedd ynddynt. 14:15 Lluestai yr anifeiliaid hefyd a drawsant hwy, ac a gaethgludasant lawer o ddefaid a chamelod, ac a ddychwelasant i Jerwsalem. {{angor|Pennod_15}}{{c|{{uc|Pennod XV}}.}} {{bach|1 ''Asa a Judah, a llawer o Israel, trwy annog prophwydoliaeth Azarïah mab Oded, yn gwneuthur cyhoedd gyfammod â Duw:'' 16 ''yn symmudo Maachah ei fam o fod yn frenhines, o herwydd ai delw-addoliaeth:'' 18 ''yn dwyn y pethau cyssegredig i dŷ Dduw, ac yn cael hir heddwch.''}} {{angor|15:1}} {{uc|Ac}} ysbryd Duw a ddaeth ar Asareia mab Oded. 15:2 Ac efe a aeth allan o flaen Asa, ac a ddywedodd wrtho, O Asa, a holl Jwda, a Benjamin, gwrandewch fi; Yr AR¬GLWYDD sydd gyda chwi, tra fyddoch gydag ef; ac os ceisiwch ef, chwi a’i cewch ef: ond os gwrthodwch chwi ef, yntau a’ch gwrthyd chwithau. 15:3 Dyddiau lawer y bu Israel heb y gwir DDUW, a heb offeiriad yn ddysgawdwr, a heb gyfraith. 15:4 Ond pan ddychwelent yn eu cyfyngdra at ARGLWYDD DDUW Israel, a’i geisio ef, efe a geid ganddynt. 15:5 Ac yn yr amseroedd hynny nid oedd heddwch i’r hwn oedd yn myned allan, nac i’r hwn oedd yn dyfod i mewn: ond blinder lawer oedd ar holl breswylwyr y gwledydd. 15:6 A chenedl a ddinistriwyd gan genedl, a dinas gan ddinas: oblegid Duw oedd yn eu poeni hwy â phob aflwydd. 15:7 Ymgryfhewch gan hynny, ac na laesed eich dwylo: canys y mae gwobr i’ch gwaith chwi. 15:8 A phan glybu Asa y geiriau hyn, a phroffwydoliaeth Oded y proffwyd, efe a gryfhaodd, ac a fwriodd ymaith y ffiaidd eilunod o holl wlad Jwda, a Benjamin, ac o’r holl ddinasoedd a enillasai efe o fynydd Effraim, ac a adnewyddodd allor yr ARGLWYDD, yr hon oedd o flaen porth yr ARGLWYDD. 15:9 Ac efe a gynullodd holl Jwda, a Benjamin, a’r dieithriaid gyda hwynt, o Effraim a Manasse, ac o Simeon: canys. hwy a syrthiasant ato ef yn arni o Israel, pan welsant fod yr ARGLWYDD ei DDUW gydag ef. 15:10 Felly hwy a ymgynullasant i Jerwsalem, yn y trydydd mis, yn y bymthegfed. flwyddyn o deyrnasiad Asa. 15:11 A hwy a aberthasant i’r ARGLWYDD y dwthwn hwnnw, o’r anrhaith a ddygasent, saith gant o eidionau, a saith mil o ddefaid. 15:12 A hwy a aethant dan gyfamod i geisio ARGLWYDD DDUW eu tadau, a’u holl galon, ac a’u holl enaid: 15:13 A phwy bynnag ni cheisiai AR-<noinclude><references/></noinclude> 29h7itxax67g6x6ifpewch391gh5aqo Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/466 104 3721 171503 6956 2026-10-08T20:35:30Z Tylopous 3717 penodau 171503 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>GLWYDD DDUW Israel, fod ei roddi ef i farwolaeth, yn fychan ac yn fawr, yn ŵr ac yn wraig. 15:14 A hwy a dyngasant i’r ARGLWYDD â llef uchel, ac â bloedd, ag utgyrn hefyd, ac â thrwmpedau. 15:15 A holl Jwda a lawenychasant oherwydd y llw; canys a’u holl galon y tyngasent, ac â’u holl ewyllys y ceisiasant ef, a hwy a’i cawsant ef: a’r ARGLWYDD a roddodd lonyddwch iddynt o amgylch. 15:16 A’r brenin Asa a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines; oherwydd gwneuthur ohoni ddelw mewn llwyn: ac Asa a donodd ei delw hi, ac a’i drylliodd, ac a’i llosgodd wrth afon Cidron. 15:17 Ond ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd o Israel: eto yr oedd calon Asa yn berffaith ei holl ddyddiau ef. 15:18 Ac efe a ddug i mewn i dŷ yr ARGLWYDD yr hyn a gysegrasai ei dad, a’r hyn a gysegrasai efe ei hun, arian, ac aur, a llestri. 15:19 Ac ni bu ryfel mwyach hyd y bymthegfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad Asa. {{angor|Pennod_16}}{{c|{{uc|Pennod XVI}}.}} {{bach|1 ''Asa, trwy gymmorth y Syriaid, yn rhwstro i Baasa adeiladu Ramah.'' 7 ''Hanani yn ei argyhoeddi ef am hynny, ac yntau yn ei fwrw ef y’ngharchar.'' 11 ''Ym mhlith ei weithredoedd eraill, y mae efe, yn ei gelfyd, yn ymgais, nid â Duw, ond â’r physygwyr.'' 13 ''Ei farwolaeth ef a’i gladdedigaeth.''}} {{angor|16:1}} {{uc|Yn}} yr unfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad Asa, y daeth Baasa brenin Israel i fyny yn erbyn Jwda, ac a adeiladodd Rama, fel na adawai i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda. 16:2 Yna Asa a ddug allan arian, ac aur, o drysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin, ac a’i hanfonodd at Benhadad brenin Syria, yr hwn oedd yn trigo yn Damascus, gan ddywedyd, 16:3 Cyfamod sydd rhyngof fi a thi, fel y bu rhwng fy nhad i a’th dad dithau: wele, anfonais atat arian, ac aur; dos, tor dy gyfamod â Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthyf fi. 16:4 A Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion ei luoedd yn.erbyn dinasoedd Israel, a hwy a drawsant Ijon, a Dan, ac Abel-maim, a holl drysor-ddinasoedd Nafftali. 16:5 A phan glybu Baasa hynny, efe a beidiodd ag adeiladu Rama, ac a adawodd ei waith i sefyll. 16:6 Yna Asa y brenin a gymerth holl Jwda, a hwy a gludasant ymaith gerrig Rama, a’i choed, a’r rhai yr adeiladai Baasa; ac a adeiladodd â hwynt Geba, a Mispa. 16:7 Y pryd hwnnw y daeth Hanani y gweledydd at Asa brenin Jwda, ac a ddywedodd wrtho, Gan i ti roi dy bwyd ar frenin Syria, ac na roddaist dy bwys ar yr ARGLWYDD dy DDUW, am hynny y dihangodd llu brenin Syria o’th law di. 16:8 Onid oedd yr Ethiopiaid a’r Lubiaid yn llu dirfawr, â cherbydau ac â gwŷr meirch yn aml iawn? ond am i ti roi dy bwys ar yr ARGLWYDD, efe a’u rhoddodd hwynt yn dy law di. 16:9 Canys y mae llygaid yr ARGLWYDD yn edrych ar yr holl ddaear, i’w ddangos ei hun yn gryf gyda’r rhai sydd a’u calon yn berffaith tuag ato ef. Ynfyd y gwnaethost yn hyn; am hynny rhyfeloedd fydd i’th erbyn o hyn allan. 16:10 Yna y digiodd Asa wrth y gweledydd, ac a’i rhoddodd ef mewn carchardy; canys yr oedd efe yn ddicllon wrtho am y peth hyn. Ac Asa a orthrymodd rai o’r bobl y pryd hwnnw. 16:11 Ac wele, gweithredoedd Asa, y rhai cyntaf a’r rhai diwethaf, wele, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel. 16:12 Ac Asa a glafychodd o’i draed yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain o’i deyrnasiad, nes i’w glefyd fyned yn ddirfawr; eto ni cheisiodd efe yr ARGLWYDD yn ei glefyd, ond y meddygon. 16:13 Ac Asa a hunodd gyda’i dadau, ac a fu farw yn yr unfed flwyddyn a deugain o’i deyrnasiad. 16:14 A chladdasant ef yn ei feddrod ei hun, yr hwn a wnaethai efe iddo yn ninas Dafydd, a rhoddasant ef i orwedd mewn gwely a lanwasid â pheraroglau o amryw rywogaethau, wedi eu gwneuthur trwy waith apothecari; a hwy a gyneuasant iddo ef gynnau. mawr iawn. {{angor|Pennod_17}}{{c|{{uc|Pennod XVII}}.}} {{bach|1 ''Jehosaphat yn dyfod ar ol Asa, yn teyrnasu yn ddaionus, ac yn ffynnu;'' 7 ''yn anfon Lefiaid gyd â’r pennaethiaid i ddysgu Judah.'' 10 ''Duw yn dychrynu ei elynion ef, a rhai o honynt yn dwyn iddo anrhegion a theyrngad.'' 12 ''Ei fawredd, a’i gapteniaid, a’i luoedd ef.''}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 1u66nsrnriq3jpessu2sv00ntqwqcfo Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/467 104 3722 171504 6957 2026-10-08T20:37:48Z Tylopous 3717 penodau 171504 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|17:1}} {{uc|A Jehosaphat}} ei fab a deyrnasodd yn ei le ef, ac a ymgryfhaodd yn erbyn Israel. 17:2 Ac efe a roddodd fyddinoedd ym mhob un o gaerog ddinasoedd Jwda, ac a roddes raglawiaid yng ngwlad Jwda, ac yn ninasoedd Effraim, y rhai a enillasai Asa ei dad ef. 17:3 A’r ARGLWYDD a fu gyda Jehosaffat, oherwydd iddo rodio yn ffyrdd cyntaf Dafydd ei dad, ac nad ymofynnodd a Baalim: 17:4 Eithr Duw ei dad a geisiodd efe, ac yn ei orchmynion ef y rhodiodd, ac nid yn ôl gweithredoedd Israel. 17:5 Am hynny yr ARGLWYDD a sicrhaodd y frenhiniaeth yn ei law ef; a holl Jwda a roddasant anrhegion i Jehosaffat; ac yr ydoedd iddo olud ac anrhydedd yn helaeth. 17:6 Ac efe a ddyrchafodd ei galon yn ffyrdd yr ARGLWYDD: ac efe a fwriodd hefyd yr uchelfeydd a’r llwyni allan o Jwda. 17:7 Hefyd yn y drydedd flwyddyn o’i deyrnasiad, efe a anfonodd at ei dywysogion, sef Benhail, ac Obadeia, a Sechareia, a Nethaneel, a Michaia, i ddysgu yn ninasoedd Jwda. 17:8 A chyda hwynt yr anfonodd efe Lefiaid, Semaia, a Nethaneia, a Sebadeia, ac Asahel, a Semiramoth a Jehonathan, ac Adoneia, a Thobeia, a Thob Adoneia, y Lefiaid; a chyda hwynt Elisama, a Jehoram, yr offeiriaid. 17:9 A hwy a ddysgasant yn Jwda, a chyda hwynt yr oedd llyfr cyfraith yr ARGLWYDD: felly yr amgylchasant hwy holl ddinasoedd Jwda, ac y dysgasant y bobl. 17:10 Ac arswyd yr ARGLWYDD oedd ar holl deyrnasoedd y gwledydd oedd o amgylch Jwda, fel nad ymladdasant hwy yn erbyn Jehosaffat. 17:11 A rhai o’r Philistiaid oedd yn dwyn i Jehosaffat anrhegion, a theyrnged o arian: yr Arabiaid hefyd oedd yn dwyn iddo ef ddiadelloedd, saith mil a saith gant o hyrddod, a saith mil a saith gant o fychod. 17:12 Felly Jehosaffat oedd yn myned rhagddo, ac yn cynyddu yn uchel; ac efe a adeiladodd yn Jwda balasau, a dinasoedd trysorau. 17:13 A llawer o waith oedd ganddo ef yn ninasoedd Jwda; a rhyfelwyr cedyra nerthol yn Jerwsalem. 17:14 A dyma eu rhifedi hwynt, yn ôl tŷ eu tadau: O Jwda yn dywysogion miloedd, yr oedd Adna y pennaf, a chydag ef dri chan mil o wŷr cedyrn nerthol. 17:15 A cher ei law ef, Jehohanan y tywysog, a chydag ef ddau cant a phedwar ugain mil. 17:16 A cherllaw iddo ef, Amaseia mab Sichri, yr hwn o’i wirfodd a ymroddodd i’r ARGLWYDD; a chydag ef ddau can mil o wŷr cedyrn nerthol. 17:17 Ac o Benjamin, yr oedd Eliada yn ŵr cadarn nerthol, a chydag ef ddau can mil yn arfogion a bwau a tharianau. 17:18 A cherllaw iddo ef, Jehosabad, a chydag ef gant a phedwar ugain mil yn barod i ryfel. 17:19 Y rhai hyn oedd yn gwasanaethu y brenin, heblaw y rhai a roddasai y brenin yn y dinasoedd caerog, trwy holl Jwda. {{angor|Pennod_18}}{{c|{{uc|Pennod XVIII}}.}} {{bach|1 ''Jehosaphat yn ymgyfathrachu âg Ahab, ac yn myned gyd âg ef i Ramoth-Gilead.'' 4 ''Gau-brophwydi yn twyllo Ahab, a’i ladd ef yn ol gair Micheah.''}} {{angor|18:1}} {{uc|Ac}} i Jehosaffat yr ydoedd golud ac anrhydedd yn helaeth; ac efe a ymgyfathrachodd ag Ahab. 18:2 Ac ymhen ennyd o flynyddoedd efe a aeth i waered at Ahab i Samaria. Ac Ahab a laddodd ddefaid a gwartheg lawer, iddo ef ac i’r bobl oedd gydag ef, ac a’i hanogodd ef i fyned i fyny gydag ef i Ramoth-Gilead. 18:3 Ac Ahab brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat brenin Jwda, A ei di gyda mi i Ramoth-Gilead? Yntau a ddy¬wedodd wrtho, Yr ydwyf fi fel tithau, a’m pobl i fel dy bobl dithau, a byddwn gyda thi yn y rhyfel. 18:4 Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel, Ymgynghora, atolwg, heddiw â gair yr ARGLWYDD. 18:5 Am hynny brenin Israel a gasglodd o’r proffwydi bedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A awn ni yn erbyn Ramoth-Gilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, DOS i fyny; canys Duw a’i dyry yn llaw y brenin. 18:6 Ond Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma un proffwyd i’r ARGLWYDD eto mwyach, fel yr ymgynghorem ag ef? 18:7 A brenin Israel a ddywedodd<noinclude><references/></noinclude> enr06n4zmxfmoz1h1bgbh22bffmu1ip Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/469 104 3724 171529 6959 2026-10-09T04:44:39Z Tylopous 3717 penodau 171529 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ymleddwch â bychan nac â mawr, ond â brenin Israel yn unig. 18:31 A phan welodd tywysogion y cerbyd¬au Jehosaffat, hwy a ddywedasant, Brenin Israel yw efe. A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef: ond Jehosaffat a waeddodd, a’r ARGLWYDD a’i cynorthwyodd ef, a Duw a’u gyrrodd hwynt oddi wrtho ef. 18:32 A phan welodd tywysogion y cerbyd¬au nad brenin Israel oedd efe, hwy a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef. 18:33 A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ar ei amcan, ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig: am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr, Tro dy law, a dwg fi allan o’r gad; canys fe’m clwyfwyd i. 18:34 A’r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw; a brenin Israel a gynhelid yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid byd yr hwyr: ac efe a fu farw ynghylch machludiad haul. {{angor|Pennod_19}}{{c|{{uc|Pennod XIX}}.}} {{bach|1 ''Jehu yn ceryddu Jehosaphat, ac yntau yn ymweled â’i deyrnas,'' 5 ''ac yn rhoi athrawiaeth i’w farnwyr,'' 8 ''ac i’r offeiriaid a’r Lefiaid.''}} {{angor|19:1}} {{uc|A Jehosaphat}} brenin Jwda a ddychwelodd i’w dŷ ei hun i Jerwsalem mewn heddwch. 19:2 A Jehu mab Hanani y gweledydd, a aeth o’i flaen ef, ac a ddywedodd wrth y brenin Jehosaffat, Ai cynorthwyo yr annuwiol, a charu y rhai oedd yn casau yr ARGLWYDD, a wneit ti? am hyn digofaint oddi wrth yr ARGLWYDD sydd arnat ti. 19:3 Er hynny pethau da a gafwyd ynot ti; canys ti a dynnaist ymaith y llwyni o’r wlad, ac a baratoaist dy galon i geisio Duw. 19:4 A Jehosaffat a drigodd yn Jerwsalem: ac efe a aeth drachefn trwy’r bobl o Beerseba hyd fynydd Effraim, ac a’u dug hwynt eilwaith at ARGLWYDD DDUW eu tadau. 19:5 Ac efe a osododd farnwyr yn y wlad, trwy holl ddinasoedd caerog Jwda, o ddinas bwygilydd; 19:6 Ac efe a ddywedodd wrth y barnwyr, Edrychwch beth a wneloch: canys nid dros ddyn yr ydych yn barnu, ond dros yr ARGLWYDD; ac efe a fydd gyda chwi wrth roddi barn. 19:7 Yn awr gan hynny bydded ofn yr ARGLWYDD arnoch chwi; gwyliwch a gwnewch hynny: oherwydd nid oes anwiredd gyda’r ARGLWYDD ein Duw, na derbyn wyneb, na chymryd gwobr. 19:8 A Jehosaffat a osododd hefyd yn Jerwsalem rai o’r Lefiaid, ac o’r offeiriaid, ac o bennau tadau Israel, i drin barnedigaethau yr ARGLWYDD, ac amrafaelion, pan ddychwelent i Jerwsalem. 19:9 Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Pel hyn y gwnewch mewn ofn yr ARGLWYDD, mewn ffyddlondeb, ac â chalon berffaith. 19:10 A pha amrafael bynnag a ddel atoch chwi oddi wrth eich brodyr, y rhai sydd yn trigo yn eu dinasoedd, rhwng gwaed a gwaed, rhwng cyfraith a gorchymyn, deddfau a barnedigaetliau, rhybuddiwch hwynt na throseddont yn erbyn yr ARGLWYDD, a bod digofaint arnoch chwi, ac ar eich brodyr: felly gwnewch ac na throseddwch. 19:11 Ac wele, Amareia yr archoffeiriad sydd arnoch chwi ym mhob peth a berthyn i’r ARGLWYDD; a Sebadeia mab Ismael, blaenor tŷ Jwda, ym mhob achos i’r brenin; a’r Lefiaid yn swyddogion ger eich bron chwi. Ymwrolwch, a gwnewch hynny, a’r ARGLWYDD fydd gyda’r daionus. {{angor|Pennod_20}}{{c|{{uc|Pennod XX}}.}} {{bach|1 ''Jehosaphat yn ei ofn yn cyhoeddi ympryd,'' 5 ''ac yn gweddïo.'' 14 ''Prophwydoliaeth Jahaziel.'' 20 ''Jehosaphat yn cynghori y bobl, ac yn gosod cantorion i foliannu yr Arglwydd.'' 22 ''Mawr ddinystr y gelynion.'' 26 ''Y bobl, wedi bendithio Duw yn Berachah, yn dychwelyd mewn gorfoledd.'' 31 ''Teyrnasiad Jehosaphat.'' 31 ''Ei longau ef ac Ahazïah yn dryllio.''}} {{angor|20:1}} {{uc|Ac}} wedi hyn meibion Moab a meibion Ammon a ddaethant, a chyda hwynt eraill heblaw yr Ammoniaid, yn erbyn Jehosaffat, i ryfel. 20:2 Yna y daethpwyd ac y mynegwyd i Jehosaffat, gan ddywedyd, Tyrfa fawr a ddaeth yn dy erbyn di o’r tu hwnt i’r môr, o Syria; ac wele y maent hwy yn Hasason-Tamar, honno yw En-gedi. 20:3 A Jehosaffat a ofnodd, ac a ymroddodd i geisio yr ARGLWYDD; ac a gyhoeddodd ymipryd trwy holl Jwda. 20:4 A Jwda a ymgasglasant i ofyn cymorth gan yr ARGLWYDD: canys hwy a ddaethant holl ddinasoedd Jwda i geisio’r ARGLWYDD. 20:5 A Jehosaffat a safodd yng nghynulleidfa Jwda a Jerwsalem,<noinclude><references/></noinclude> nzkt6f3cd8ggh2of62xp4qmylnnxf6a Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/471 104 3726 171530 6961 2026-10-09T04:47:27Z Tylopous 3717 penodau 171530 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>thridiau y buant yn ysglyf¬aethu yr ysbail; canys mawr oedd. 20:26 Ac ar y pedwerydd dydd yr ymgynullasant i ddyffryn y fendith; canys yno y bendithiasant yr ARGLWYDD: am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn y fendith, hyd heddiw. 20:27 Yna y dychwelodd holl wŷr Jwda a Jerwsalem, a Jehosaffat yn flaenor iddynt, i fyned yn eu hôl i Jerwsalem mewn llawenydd; canys yr ARGLWYDD a roddasai lawenydd iddynt hwy ar eu gelynion. 20:28 A hwy a ddaethant i Jerwsalem â nablau, â thelynau, ac utgyrn, i dŷ yr ARGLWYDD. 20:29 Ac ofn Duw oedd ar holl deyrnasoedd y ddaear, pan glywsant hwy fel y rhyfelasai yr ARGLWYDD yn erbyn gelyn¬ion Israel. 20:30 Felly teyrnas Jehosaffat a gafodd lonydd: canys ei DDUW a roddodd iddo lonyddwch o amgylch. 20:31 A Jehosaffat a deyrnasodd ar Jwda: mab pymtheng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, a phum mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Asuba merch Silhi. 20:32 Ac efe a rodiodd yn ffordd Asa ei dad, ac ni chiliodd oddi wrthi, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. 20:33 Er hynny ni thynnwyd yr uchelfeydd ymaith: canys ni pharatoesai y bobl eu calon eto at DDUW eu tadau. 20:34 A’r rhan arall o’r gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Jehosaffat, wele hwy yn ysgrifenedig ymysg geiriau Jehu mab Hanani, yr hwn y crybwyllir amdano yn llyfr brenhinoedd Israel. 20:35 Ac wedi hyn Jehosaffat brenin Jwda a ymgyfeillodd ag Ahaseia brenin Israel, yr hwn a ymroddasai i ddrygioni. 20:36 Ac efe a unodd ag ef at wneuthur llongau i fyned i Tarsis: a gwnaethant y llongau yn Esion-gaber. 20:37 Yna Elieser mab Dodafa o Maresa a broffwydodd yn erbyn Jehosaffat, gan ddywedyd, Oherwydd i ti ymgyfeillachu ag Ahaseia, yr ARGLWYDD a ddrylliodd dy waith di. A’r llongau a ddrylliwyd, fel na allasant fyned i Tarsis. {{angor|Pennod_21}}{{c|{{uc|Pennod XXI}}.}} {{bach|1 ''Jehoram yn teyrnasu ar ol Jehosaphat, ac yn lladd ei frodyr.'' 5 ''Ei annuwioldeb ef.'' 8 ''Edom a Libnah yn troi oddi wrtho ef.'' 12 ''Prophwydoliaeth Elïas yn ei erbyn ef.'' 16 ''Y Philistiaid a’r Arabiaid yn ei orthrymmu ef.'' 18 ''Ei anaele glefyd ef, a’i waradwyddus farwolaeth, a’i gladdedigaeth.''}} {{angor|21:1}} {{uc|A Jehosaphat}} a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd. A Jehoram ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. 21:2 Ac iddo ef yr oedd brodyr, meibion Jehosaffat; Asareia, a Jehiel, a Sechareia, ac Asareia, a Michael, a Seffatia: y rhai hyn oll oedd feibion Jehosaffat brenin Israel. 21:3 A’u tad a roddodd iddynt roddion lawer, o arian, ac aur, a gwerthfawr bethau, gyda dinasoedd caerog yn Jwda: ond efe a roddodd y frenhiniaeth i Jehoram, canys efe oedd y cyntaf-anedig. 21:4 A Jehoram a gyfododd ar frenhiniaeth ei dad, ac a ymgadarnhaodd, ac a laddodd ei holl frodyr a’r cleddyf, a rhai hefyd o dywysogion Israel. 21:5 Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd Jehoram pan ddechreuodd efe deyrn¬asu, ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. 21:6 Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, fel y gwnaethai tŷ Ahab; canys merch Ahab oedd wraig iddo: ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. 21:7 Ond ni fynnai yr ARGLWYDD ddifetha tŷ Dafydd, er mwyn y cyfamod a amodasai efe a Dafydd, fel y dywedasai, y rhoddai efe iddo oleuni ac i’w feibion byth. 21:8 Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Jwda, ac y gosodasant frenin arnynt eu hun. 21:9 A Jehoram a aeth allan, a’i dywys¬ogion, a’i holl gerbydau gydag ef: ac efe a gyfododd liw nos, ac a drawodd yr Edomiaid, y rhai oedd yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau. 21:10 Felly Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda tryd y dydd hwn: a gwrthry¬felodd Libna y pryd hwnnw oddi tan ei law ef: oherwydd iddo ymwrthod ag AR¬GLWYDD DDUW ei dadau. 21:11 Efe hefyd a wnaeth uchelfeydd ym mynyddoedd Jwda, ac a wnaeth<noinclude><references/></noinclude> 10udbs6htstvipxzrcooqrtlb4t99nn Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/472 104 3727 171531 6962 2026-10-09T04:50:00Z Tylopous 3717 penodau 171531 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>i drigolion Jerwsalem buteinio, ac a gymhellodd Jwda i hynny. 21:12 A daeth ysgrifen oddi wrth Eleias y proffwyd ato ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Dafydd dy dad, Oherwydd na rodiaist ti yn ffyrdd Jehosaffat dy dad, nac yn ffyrdd Asa brenin Jwda; 21:13 Eithr rhodio ohonot yn ffordd brenhinoedd Israel, a gwneuthur ohonot i Jwda ac i drigolion Jerwsalem buteinio, fel y puteiniodd tŷ Abab, a lladd ohonot dy frodyr hefyd o dŷ dy dad, y rhai oedd well na thydi: 21:14 Wele, yr ARGLWYDD a dery â phla mawr dy bobl di, a’th blant, a’th wragedd, a’th holl olud. 21:15 A thi a gei glefyd mawr, clefyd o’th ymysgaroedd, nes myned o’th goluddion allan gan y clefyd, o ddydd i ddydd. 21:16 Felly yr ARGLWYDD a gyffrodd yn erbyn Jehoram ysbryd y Philistiaid, a’r Arabiaid, y rhai oedd gerllaw yr Ethiopiaid: 21:17 A hwy a ddaethant i fyny i Jwda, ac a’i drylliasant hi, ac a gaethgludasant yr holl gyfoeth a gafwyd yn nhŷ’r brenin, a’i feibion hefyd a’i wragedd; fel na adawyd mab iddo, ond Jehoahas, yr ieuangaf o’i feibion. 21:18 Ac wedi hyn oll yr ARGLWYDD a’i trawodd ef yn ei ymysgaroedd â chlefyd anaele. 21:19 A bu, ar ôl talm o ddyddiau, ac wedi darfod ysbaid dwy flynedd, ei ymysgar¬oedd ef a aeth allan gan ei glefyd: felly y bu efe farw o glefydau drwg. A’i bobl ni wnaethant iddo gynnau, megis cynnau ei dadau. 21:20 Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac efe a ymadawodd heb hiraeth amdano: a chladdasant ef yn ninas Dafydd, ond nid ym meddrod y brenhin¬oedd. {{angor|Pennod_22}}{{c|{{uc|Pennod XXII}}.}} {{bach|1 ''Ahazïah yn dyfod ar ol Jehoram, ac yn teyrnasu yn annuwiol.'' 5 ''Ei gynghrair ef â Joram mab Ahab, a Jehu yn ei ladd ef.'' 10 ''Athalïah yn difetha yr holl had brenhinol ond Joas, yr hwn a guddiasai Josabea ei fodryb, ac yn cammeryd arni y frenhiniaeth.''}} {{angor|22:1}} {{uc|A thrigolion}} Jerwsalem a urddasant Ahaseia ei fab ieuangaf ef yn frenin yn ei le ef: canys y fyddin a ddaethai gyda’r Arabiaid i’r gwersyll, a laddasai y rhai hynaf oll. Felly Ahaseia mab Jeho¬ram brenin Jwda a deyrnasodd. 22:2 Mab dwy flwydd a deugain oedd Ahaseia pan ddechreuodd efe deyrnasu; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam efoedd Athaleia merch Omri. 22:3 Yntau hefyd a rodiodd yn ffyrdd tŷ Ahab: canys ei fam oedd ei gyngor ef i wneuthur drwg. 22:4 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel tŷ Ahab: canys hwynt-hwy oedd gynghoriaid iddo ef, ar ôl marwolaeth ei dad, i’w ddinistr ef. 22:5 S Ac efe a rodiodd yn ôl eu cyngor hwynt, ac a aeth gyda Jehoram mab Ahab brenin Israel i ryfel, yn erbyn Hasael brenin Syria, yn Ramoth-Gilead: a’r Syriaid a drawsant Joram. 22:6 Ac efe a ddychwelodd i ymiacháu i Jesreel, oherwydd yr archollion a’r rhai y trawsant ef yn Rama, pan ymladdodd efe a Hasael brenin Syria. Ac Asareia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled â Jehoram mab Ahab i Jesreel, canys claf oedd efe. 22:7 A dinistr Ahaseia oedd oddi wrth DDUW, wrth ddyfod at Joram: canys pan ddaeth, efe a aeth gyda Jehoram yn erbyn Jehu mab Nimsi, yr hwn a eneiniasai yr ARGLWYDD i dorri ymaith dyˆ Ahab. 22:8 A phan farnodd Jehu yn erbyn tŷ Ahab, efe a gafodd dywysogion Jwda, a meibion brodyr Ahaseia, y rhai oedd yn gwasanaethu Ahaseia, ac efe a’u lladdodd hwynt. 22:9 Ac efe a geisiodd Ahaseia; a hwy a’i daliasant ef, (canys yr oedd efe yn llechu yn Samaria;) a hwy a’i dygasant ef at Jehu: lladdasant ef hefyd, a chladdasant ef; canys dywedasant, Mab Jehosaffat yw efe, yr hwn a geisiodd yr ARGLWYDD â’i holl galon. Felly nid oedd gan dy Ahaseia nerth i lynu yn y deyrnas. 22:10 Ond pan welodd Athaleia mam Ahaseia farw o’i mab, hi a gyfododd, ac a ddifethodd holl frenhinol had tŷ Jwda. 22:11 Ond Josabea merch y brenin a gymerth Joas mab Ahaseia, ac a’i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd, ac a’i rhoddodd ef a’i famaeth yn ystafell y gwelyau. Felly Josabea<noinclude><references/></noinclude> qr9d6jrb0t09wflpxbhibfjx16xyejz Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/473 104 3728 171532 6964 2026-10-09T04:51:42Z Tylopous 3717 penodau 171532 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>merch y brenin Jehoram, gwraig Jehoiada yr offeiriad, (canys chwaer Ahaseia ydoedd hi,) a’i cuddiodd ef rhag Athaleia, fel na laddodd hi ef. 22:12 Ac efe a fu yng nghudd gyda hwynt yn nhŷ DDUW chwe blynedd: ac Athaleia oedd yn teyrnasu ar y wlad. {{angor|Pennod_23}}{{c|{{uc|Pennod XXIII}}.}} {{bach|1 ''Jehoiada, wedi gosod pethau mewn trefn, yn gwneuthur Joas yn frenhin.'' 12 ''Lladd Athalïah.'' 16 ''Jehoiada yn edfryd gwasanaeth Duw.''}} {{angor|23:1}} {{uc|Ac}} yn y seithfed flwyddyn yr ymgadarnhaodd Jehoiada, ac y cymerodd dywysogion y cannoedd, Asareia mab Jeroham, ac Ismael mab Johanan, ac Asareia mab Obed, a Maaseia mab Adaia, ac Elisaffat mab Sichri, gydag ef mewn cyfamod. 23:2 A hwy a aethant o amgylch yn Jwda, ac a gynullasant y Lefiaid o holl ddinasoedd Jwda, a phennau-cenedl Israel, ac a ddaethant i Jerwsalem. 23:3 A’r holl gynulleidfa a wnaethant gyfamod â’r brenin yn nhŷ DDUW: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Wele, mab y brenin a deyrnasa, fel y llefarodd yr AR¬GLWYDD am feibion Dafydd. 23:4 Dyma y peth a wnewch chwi; Y drydedd ran ohonoch, y rhai a ddeuant i mewn ar y Saboth, o’r offeiriaid ac o’r Lefiaid, fydd yn borthorion i’r trothwyau; 23:5 A’r drydedd ran fydd yn nhŷ y brenin; a’r drydedd ran wrth borth y sylfaen; a’r holl bobl yng nghynteddau tŷ yr AR¬GLWYDD. 23:6 Ac na ddeled neb i dŷ yr ARGLWYDD, ond yr offeiriaid, a’r gweinidogion o’r Lefiaid; deuant hwy i mewn, canys sanctaidd ydynt: ond yr holl bobl a gadwant wyliadwriaeth yr ARGLWYDD. 23:7 A’r Lefiaid a amgylchant y brenin o bob tu, pob un â’i arfau yn ei law; a phwy bynnag arall a ddelo i’r tŷ, lladder ef: ond byddwch chwi gyda’r brenin, pan ddelo efe i mewn, a phan elo efe allan. 23:8 A’r Lefiaid a holl Jwda a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad, a hwy a gymerasant bawb eu gwŷr, y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth, gyda’r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth: (canys ni ryddhasai Jehoiada yr offeiriad y dosbarthiadau.) 23:9 A Jehoiada yr offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd, y gwaywffyn, a’r tarianau, a’r estylch, a fuasai yn eiddo y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhŷ DDUW. 23:10 Ac efe a gyfleodd yr holl bobl, a phob un â’i arf yn ei law, o’r tu deau i’r tŷ hyd y tu aswy i’r tŷ, ynghylch yr allor a’r tŷ, yn ymyl y brenin oddi amgylch. 23:11 Yna y dygasant allan fab y brenin, a rhoddasant y goron arno ef, a’r dystiolaeth, ac a’i hurddasant ef yn frenin: Jehoiada hefyd a’i feibion a’i heneiniasant ef, ac a ddywedasant, Byw fyddo y brenin. 23:12 A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, ac yn moliannu y brenin, hi a ddaeth at y bobl i dŷ yr ARGLWYDD. 23:13 A hi a edrychodd, ac wele y brenin yn sefyll wrth ei golofn yn y ddyfodfa, a’r tywysogion a’r utgyrn yn ymyl y brenin, a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn lleisio mewn utgyrn; a’r cantorion ag offer cerdd, a’r rhai a fedrent foliannu. Yna Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a ddywedodd, Bradwriaeth, bradwriaeth! 23:14 A Jehoiada yr offeiriad a ddug allan dywysogion y cannoedd, sef swyddogion y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi allan o’r rhesau: a’r hwn a ddelo ar ei hôl hi, lladder ef â’r cleddyf. Canys dywedasai yr offeiriad, Na leddwch hi yn nhŷ yr ARGLWYDD. 23:15 A hwy a roddasant ddwylo arni hi, a hi a ddaeth tua’r porth y deuai y meirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdasant hwy hi. 23:16 A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhyngddo ei hun, a rhwng yr holl bobl, a rhwng y brenin, i fod yn bobl i’r AR¬GLWYDD. 23:17 Yna yr holl bobl a aethant i dŷ Baal, ac a’i distrywiasant ef, a’i allorau, ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy, ac a laddasant Mattan offeiriad Baal o flaen yr allor. 23:18 A Jehoiada a osododd swyddau yn nhŷ yr ARGLWYDD, dan law yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai a ddosbarthasai Dafydd yn nhŷ yr ARGLWYDD, i offrymu poethoffrymau yr ARGLWYDD, fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses,<noinclude><references/></noinclude> rgdrcdut9ubiw84hcc6sxwyvmk4xt20 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/474 104 3729 171533 6965 2026-10-09T04:54:08Z Tylopous 3717 penodau 171533 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>mewn llawenydd a chân, yn ôl trefn Dafydd. 23:19 Ac efe a gyfleodd y porthorion wrth byrth tŷ yr ARGLWYDD, fel na ddelai i mewn neb a fyddai aflan mewn dim oll. 23:20 Cymerodd hefyd dywysogion y cannoedd, a’r pendefigion, a’r rhai oedd yn arglwyddiaethu ar y bobl, a holl bobl y wlad, ac efe a ddug y brenin i waered o dŷ yr ARGLWYDD: a hwy a ddaethant trwy y porth uchaf i dŷ y brenin, ac a gyfleasant y brenin ar orseddfa y frenhiniaeth. 23:21 A holl bobl y wlad a lawenychasant, a’r ddinas a fu lonydd wedi iddynt ladd Athaleia a’r cleddyf. {{angor|Pennod_24}}{{c|{{uc|Pennod XXIV}}.}} {{bach|1 ''Joas yn teyrnasu yn ddaionus tra fu fyw Jehoiada:'' 4 ''yn peri cyweirio y deml.'' 15 ''Marwolaeth Jehoiada, a’i barchedig angladd.'' 17 ''Joas yn troi at ddelw-addoliaeth, ac yn lladd Zecharïah mab Jehoiada.'' 23 ''Y Syriaid yn ei anrheithio ef, a Zabad a Jehozabag yn ei ladd ef.'' 27 ''Amasïah yn teyrnasu ar ei ol ef.''}} {{angor|24:1}} {{uc|Mab}} saith mlwydd oedd Joas pan ddechreuodd efe deyrnasu, a deugain mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Sibia o Beerseba. 24:2 A Joas a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD holl ddyddiau Jehoiada yr offeiriad. 24:3 A Jehoiada a gymerth iddo ddwy wraig: ac efe a genhedlodd feibion a merched. 24:4 Ac wedi hyn Joas a roes ei fryd ar adnewyddu tŷ yr ARGLWYDD. 24:5 Ac efe a gynullodd yr offeiriaid a’r Lefiaid, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i ddinasoedd Jwda, a chesglwch gan holl Israel arian i gyweirio tŷ eich Duw, o flwyddyn i flwyddyn: prysurwch chwithau y peth. Ond ni frysiodd y Lefiaid. 24:6 A’r brenin a alwodd am Jehoiada, yr offeiriad pennaf, ac a ddywedodd wrtho, Paham na cheisiaist gan y Lefiaid ddwyn o Jwda, ac o Jerwsalem, dreth Moses gwas yr ARGLWYDD, a chynulleidfa Israel, i babell y dystiolaeth? 24:7 Canys meibion Athaleia, y wraig ddrygionus honno, a rwygasent dŷ DDUW; a holl gysegredig bethau tŷ yr ARGLWYDD a roesant hwy i Baalim. 24:8 Ac wrth orchymyn y brenin hwy a wnaethant gist, ac a’i gosodasant hi ym mhorth tŷ yr ARGLWYDD oddi allan. 24:9 A rhoddasant gyhoeddiad yn Jwda, ac yn Jerwsalem, ar ddwyn i’r ARGLWYDD dreth Moses gwas Duw, yr hon a roesid ar Israel yn yr anialwch. 24:10 A’r holl dywysogion a’r holl bobl a lawenychasant, ac a ddygasant, ac a fwriasant i’r gist, nes gorffen ohonynt. 24:11 A bu, yr amser y ducpwyd y gist at swyddog y brenin trwy law y Lefiaid, a phan welsant fod llawer o arian, ddyfod o ysgrifennydd y brenin, a swyddog yr archoffeiriad, a thywallt y gist, a’i chymryd hi, a’i dwyn drachefn i’w lle ei hun. Felly y gwnaethant o ddydd i ddydd, a chasglasant arian lawer. 24:12 A’r brenin a Jehoiada a’i rhoddodd i’r rhai oedd yn gweithio gwasanaeth tŷ yr ARGLWYDD; a chyflogasant seiri maen, a seiri pren, i gyweirio tŷ yr ARGLWYDD; a gofaint haearn a phres, i gadarnhau tŷ yr ARGLWYDD. 24:13 Felly y gweithwyr a weithiasant, a’r gwaith a orffennwyd trwy eu dwylo hwynt: a hwy a wnaethant dŷ DDUW yn ei drefn ei hun, ac a’i cadarnhasant ef. 24:14 A phan orffenasant hwy ef, hwy a ddygasant y gweddill o’r arian gerbron y brenin a Jehoiada; a hwy a wnaethant ohonynt lestri i dŷ yr ARGLWYDD, sef llestri y weinidogaeth, a’r morterau, a’r llwyau, a’r llestri aur ac arian. Ac yr oeddynt hwy yn offrymu poethoffrymau yn nhŷ yr ARGLWYDD yn wastadol, holl ddyddiau Jehoiada. 24:15 Ond Jehoiada a heneiddiodd, ac oedd gyflawn o ddyddiau, ac a fu farw: mab can mlwydd a deg ar hugain oedd efe pan fu farw. 24:16 A hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd gyda’r brenhinoedd; canys efe a wnaethai ddaioni yn Israel, tuag at DDUW a’i dŷ. 24:17 Ac wedi marw Jehoiada, tywysogion Jwda a ddaethant, ac a ymgrymasant i’r brenin: yna y brenin a wrandawodd arnynt hwy. 24:18 A hwy a adawsant dy ARGLWYDD DDUW eu tadau, ac a wasanaethasant y llwyni, a’r ddwau: a daeth digofeint ar Jwda a Jerwsalem, oherwydd eu camwedd hyn. 24:19 Eto efe a anfonodd atynt hwy broffwydi, i’w troi hwynt at yr AR-<noinclude><references/></noinclude> jin7iyz1p56kqznwjw69ojk7r2mrre2 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/475 104 3730 171534 6966 2026-10-09T04:59:07Z Tylopous 3717 penodau 171534 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>GLWYDD; a hwy a dystiolaethasant yn eu herbyn hwynt, ond ni wrandawsant hwy. 24:20 Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Sechareia mab Jehoiada yr offeiriad, ac efe a safodd oddi ar y bobl, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Fel hyn y dywedodd Duw, Paham yr ydych chwi yn troseddu gorchmynion yr ARGLWYDD? diau na ffynnwch chwi; canys gwrthodasoch yr ARGLWYDD, am hynny yntau a’ch gwrthyd chwithau. 24:21 A hwy a gydfwriadasant yn ei erbyn ef, ac a’i llabyddiasant ef â meini wrth orchymyn y brenin, yng nghyntedd tŷ yr ARGLWYDD. 24:22 Ac ni chofiodd Joas y brenin y caredigrwydd a wnaethai Jehoiada ei dad ef ag ef, ond efe a laddodd ei fab ef: a phan oedd efe yn marw, efe a ddywedodd, Edryched yr ARGLWYDD, a gofynned. 24:23 Ac ymhen y flwyddyn y daeth llu y Syriaid i fyny yn ei erbyn ef: a hwy a ddaethant yn erbyn Jwda a Jerwsalem, ac a ddifethasant holl dywysogion y bobl o blith y bobl, ac a anfonasant eu holl anrhaith hwynt i frenin Damascus. 24:24 Canys llu y Syriaid a ddaethai ag ychydig wŷr, a’r ARGLWYDD a roddodd yn eu llaw hwynt lu mawr iawn, am iddynt wrthod ARGLWYDD DDUW eu tadau: felly y gwnaethant hwy farn yn erbyn Joas. 24:25 A phan aethant hwy oddi wrtho ef, (canys hwy a’i gadawsant ef mewn clefydau mawrion,) ei weision ei hun a gyd-fwriadodd i’w erbyn ef, oherwydd gwaed meibion Jehoiada yr offeiriad, ac a’i lladdasant ef ar ei wely; ac efe a fu farw: a hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd, ond ni chladdasant ef ym meddau y brenhinoedd. 24:26 A dyma y rhai a fradfwriadasant yn ei erbyn ef; Sabad mab Simeath yr Ammones, a Jehosabad mab Simrith y Foabes. 24:27 Am ei feibion ef, a maint y baich a roddwyd amo, a sylfaeniad tŷ DDUW, wele hwy yn ysgrifenedig yn histori llyfr y brenhinoedd. Ac Amaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. {{angor|Pennod_25}}{{c|{{uc|Pennod XXV}}.}} {{bach|1 ''Amasïah yn dechreu teyrnasu yn ddaionus:'' 3 ''yn gwneuthur cyfiawnder â’r bradwyr:'' 5 ''yn cyflogi llu o’r Israeliaid yn erbyn yr Edomiaid, ac ar air y prophwyd yn colli y càn talent cyflog, ac yn eu gollwng hwynt ymaith:'' 11 ''yn gorchfygu yr Edomiaid.'' 10, 13 ''Yr Israeliaid yn ddigllawn am eu gollwng ymaith, yn yspeilio wrth fyned adref.'' 14 ''Amazïah yn balchïo am ei oruchafiaeth, ac yn gwasanaethu duwiau Edom, ac yn dïystyru rhybudd y prophwyd;'' 17 ''yn cyffroi Joas i’w ddinystr ei hun.'' 25 ''Yr hŷd y teyrnasodd efe.'' 27 ''Ei ladd ef trwy frad.''}} {{angor|25:1}} {{uc|Mab}} pum mlwydd ar hugain oedd Amaseia pan ddechreuodd efe deyrnasu, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jehoadan o Jerwsalem. 25:2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ond nid â chalon berffaith. 25:3 A phan sicrhawyd ei deyrnas iddo ef, efe a laddodd ei weision a laddasent y brenin ei dad ef. 25:4 Ond ni laddodd efe eu meibion hwynt, ond efe a wnaeth fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith yn llyfr Moses, lle y gorchmynasai yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Ni bydd marw y tadau dros y meibion, ac ni bydd marw y meibion dros y tadau, ond pob un a fydd marw am ei bechod ei hun. 25:5 Ac Amaseia a gynullodd Jwda, ac a’u gwnaeth hwy, yn ôl tŷ eu tadau, yn dywysogion ar filoedd, ac yn dywysogion ar gannoedd, trwy holl Jwda a Benjamin: ac efe a’u cyfrifodd hwynt o fab ugain mlwydd ac uchod, ac a’u cafodd hwy yn dri chan mil o wŷr etholedig yn gallu myned i ryfel, yn medru trin gwaywffon a tharian. 25:6 Ac efe a gyflogodd o Israel gan mil o wŷr cedyrn nerthol, er can talent o arian. 25:7 Ond gŵr Duw a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, O frenin, nac aed llu Israel gyda thi: canys nid yw yr ARGLWYDD gydag Israel, sef gyda holl feibion Effraim. 25:8 Ond os myned a fynni, gwna, ymgadarnha i ryfel: ond Duw a wna i ti syrthio o flaen dy elynion; canys y mae gan DDUW nerth i gynorthwyo, ac i gwympo. 25:9 Ac Amaseia a ddywedodd wrth ŵr DUW, Ond beth a wneir am y can talent a roddais i dorf Israel? A dywedodd gŵr DUW, y mae ar law yr ARGLWYDD roddi i ti lawer mwy na hynny. 25:10 Felly Amaseia a’u neilltuodd hwynt, sef y dorf a ddaethai ato ef o Effraim, i fyned i’w mangre eu hun. A llidiodd eu digllonedd hwy<noinclude><references/></noinclude> pc6647mmkqgqmkwqfz6p5vxmgs30v02 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/476 104 3731 171535 6967 2026-10-09T05:01:33Z Tylopous 3717 penodau 171535 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>yn ddirfawr yn erbyn Jwda, a dychwelasant i’w mangre eu hun mewn llid dicllon. 25:11 y Ac Amaseia a ymgadarnhaodd, ac a dywysodd allan ei bobl, ac a aeth i ddyffryn yr halen, ac a drawodd o feibion Seir ddeng mil. 25:12 Meibion Jwda hefyd a gaethgludasant ddeng mil yn fyw, ac a’u dygasant i ben y graig, ac a’u taflasant hwy o ben y graig, fel y drylliwyd hwynt oll. 25:13 A’r rhyfelwyr, y rhai a ddarfuasai i Amaseia eu troi yn ôl rhag myned gydag ef i ryfel, a ruthrasant ar ddinasoedd Jwda, o Samaria hyd Beth-horon, ac a drawsant ohonynt dair mil, ac a ysglyfaethasant anrhaith fawr. 25:14 Ac wedi dyfod Amaseia o ladd yr Edomiaid, efe a ddug dduwiau meibion Seir, ac a’u gosododd hwynt iddo ef yn dduwiau, ac a addolodd ger eu bron hwynt, ac a arogldarthodd iddynt. 25:15 Am hynny y llidiodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn Amaseia; ac efe a anfonodd broffwyd ato ef, yr hwn a ddy¬wedodd wrtho ef, Paham y ceisiaist ti dduwiau y bobl, y rhai nid achubasant eu pobl eu hun o’th law di? 25:16 A phan oedd efe yn llefaru wrtho ef, y brenin a ddywedodd wrtho yntau, A wnaed tydi yn gynghorwr i’r brenin? paid, i ba beth y’th drewid? A’r proffwyd a beidiodd, ac a ddywedodd. Mi a wn fod Duw wedi arfaethu dy ddinistrio di, am i ti wneuthur hyn, ac na wrandewaist ar fy nghyngor i. 25:17 Yna Amaseia brenin Jwda a ymgynghorodd, ac a anfonodd at Joas mab Jehoahas mab Jehu brenin Israel, gan ddywedyd. Tyred, gwelwn wyneb ein gilydd. 25:18 A Joas brenin Israel a anfonodd at Amaseia brenin Jwda, gan ddywedyd, Yr ysgellyn sydd yn Libanus a anfonodd at y gedrwydden sydd yn Libanus, gan ddywedyd, Dyro dy ferch i’m mab i yn wraig: a bwystfil y maes, yr hwn oedd yn Libanus, a dramwyodd, ac a sathrodd yr ysgellyn. 25:19 Dywedaist, Wele, trewaist yr Edom¬iaid, a’th galon a’th ddyrchafodd i ymffrostio; eistedd yn awr yn dy dŷ, paham yr wyt yn ymyrryd er drwg i ti dy hun, fel y syrthit ti, a Jwda gyda thi? 25:20 Ond ni wrandawai Amaseia; canys oddi wrth DDUW yr oedd hynny, fel y rhoddid hwynt yn llaw y gelyn, am iddynt geisio duwiau Edom. 25:21 Felly Joas brenin Israel a aeth i fyny, a hwy a welsant wynebau ei gilydd, efe ac Amaseia brenin Jwda, yn Bethsemes, yr hon oedd yn Jwda. 25:22 A Jwda a drawyd o flaen Israel, a hwy a ffoesant bawb i’w pebyll. 25:23 A Jaos brenin Israel a ddaliodd Amaseia mab Joas, fab Jehoahas brenin Jwda, yn Bethsemes, ac a’i dug ef i Jerwsalem, ac a dorrodd i lawr fur Jerw¬salem, o berth Effraim hyd borth y gongl, pedwar can cufydd. 25:24 Ac efe a gymerth yr holl aur, a’r arian, a’r holl lestri a gafwyd yn nhŷ DDUW gydag Obed-edom, a thrysorau tŷ y brenin, a’r gwystlon hefyd, ac a ddychwelodd i Samaria. 25:25 Ac Amaseia mab Joas brenin Jwda a fu fyw, wedi marwolaeth Joas mab Jehoahas brenin Israel, bymtheng mlynedd. 25:26 A’r rhan arall o’r gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Amaseia, wele, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel? 25:27 Ac wedi’r amser yr ymadawodd Amaseia oddi ar ôl yr ARGLWYDD, hwy a fradfwriadasant fradwriaeth yn ei erbyn ef yn Jerwsalem, ac efe a ffodd i Lachis: ond hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis, ac a’i lladdasant ef yno. 25:28 A hwy a’i dygasant ef ar feirch, ac a’i claddasant ef gyda’i dadau yn ninas Jwda. {{angor|Pennod_26}}{{c|{{uc|Pennod XXVI}}.}} {{bach|1 ''Uzzïah yn frenhin ar ol Amasïah, ac yn llywodraethu yn dda tra fu fyw Zecharïah, ac yn llwyddo.'' 16 ''Wedi hynny yn balchïo, ac yn cymmeryd arno yr offeiriadaeth, ac yn cael ei daro â gwahan-glwyf.'' 22 ''Efe yn marw, a Jotham yn teyrnasu ar ei ol ef.''}} {{angor|26:1}} {{uc|Yna}} holl bobl Jwda a gymerasant Usseia, ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg, ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad. 26:2 Efe a adeiladodd Eloth, ac a’i dug hi drachefn i Jwda, ar ôl huno o’r brenin gyda’i dadau. 26:3 Mab un flwydd ar bymtheg oedd Usseia pan ddechreuodd efe deyrnasu, a deuddeng mlynedd a<noinclude><references/></noinclude> 1f71ptpf36q4rn1bdqawbmmk16xl2vs Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/477 104 3732 171536 6968 2026-10-09T05:03:10Z Tylopous 3717 penodau 171536 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>deugain y teyrnas¬odd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jecholeia o Jerwsalem. 26:4 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef. 26:5 Ac efe a ymgeisiodd â Duw yn nyddiau Sechareia, yr hwn oedd ganddo ddeall yng ngweledigaethau Duw: a’r dyddiau y ceisiodd efe yr ARGLWYDD, Duw a’i llwyddodd ef. 26:6 Ac efe a aeth allan, ac a ryfelodd yn erbyn y Philistiaid, ac a dorrodd i lawr fur Gath, a mur Jabne, a mur Asdod, ac a adeiladodd ddinasoedd yn Asdod, ac ymysg y Philistiaid. 26:7 A Duw a’i cynorthwyodd ef yn erbyn y Philistiaid, ac yn erbyn yr Arabiaid, y rhai oedd yn trigo yn Gur-baal, a’r Mehuniaid. 26:8 A’r Ammoniaid a roesant roddion i Usseia: a’i enw ef a aeth hyd y mynediad i’r Aifft; oherwydd efe a ymgryfhaodd yn ddirfawr. 26:9 Hefyd Usseia a adeiladodd dyrau yn Jerwsalem wrth borth y gongl, ac wrth borth y glyn, ac wrth droad y mur, ac a’u cadarnhaodd hwynt. 26:10 Ac efe a adeiladodd dyrau yn yr anialwch, ac a gloddiodd bydewau lawer, oblegid yr oedd ganddo lawer o anifeiliaid, yn y dyffryndir ac yn y gwastadedd: a llafurwyr a gwinllanwyr yn y mynyddoedd, ac yn Carmel: canys hoff oedd ganddo goledd y ddaear. 26:11 Ac yr oedd gan Usseia lu o ryfelwyr, yn myned allan yn fyddinoedd, yn ôl nifer eu cyfrif hwynt, trwy law Jeiel yr ysgrifennydd, a Maaseia y llywydd, dan law Hananeia, un o dywysogion y brenin. 26:12 Holl nifer pennau-cenedl y rhai cedyrn o nerth oedd ddwy fil a chwe chant. 26:13 A than eu llaw hwynt yr oedd llu grymus, tri chan mil a saith mil a phum cant, yn rhyfela â chryfder nerthol, i gynorthwyo’r brenin yr erbyn y gelyn. 26:14 Ac Usseia a ddarparodd iddynt, sef i’r holl lu, darianau, a gwaywffyn, a helmau, a llurigau, a bwau, a thaflau i daflu cerrig. 26:15 Ac efe a wnaeth yn Jerwsalem offer trwy gelfyddyd y rhai cywraint, i fod ar y tyrau ac ar y conglau, i ergydio saethau a cherrig mawrion: a’i enw ef a aeth ymhell, canys yn rhyfedd y cynorthwywyd ef, nes ei gadarnhau. 26:16 Ond pan aeth yn gryf, ei galon a ddyrchafwyd i’w ddinistr ei hun; canys efe a droseddodd yn erbyn yr ARGLWYDD ei DDUW: ac efe a aeth i mewn i deml yr ARGLWYDD i arogldarthu ar allor yr arogldarth. 26:17 Ac Asareia yr offeiriad a aeth i mewn ar ei ôl ef, a chydag ef bedwar ugain o offeiriaid yr ARGLWYDD, yn feibion grymus: 26:18 A hwy a safasant yn erbyn Usseia y brenin, ac a ddywedasant wrtho, Ni pherthyn i ti, Usseia, arogldarthu i’r ARGLWYDD, ond i’r offeiriaid meibion Aaron, y rhai a gysegrwyd i arogldarthu: dos allan o’r cysegr; canys ti a droseddaist, ac ni bydd hyn i ti yn ogoniant oddi wrth yr ARGLWYDD DDUW. 26:19 Yna y llidiodd Usseia, a’r arogldarth i arogldarthu oedd yn ei law ef: a thra yr ydoedd efe yn llidiog yn erbyn yr offeiriaid, gwahanglwyf a gyfododd yn ei dalcen ef, yng ngwydd yr offeiriaid yn nhŷ yr ARGLWYDD, gerllaw allor yr arogldarth. 26:20 Ac edrychodd Asareia yr arch-offeiriad a’r holl offeiriaid arno ef, ac wele, yr oedd efe yn wahanglwyfus yn ei dalcen, a gwnaethant iddo frysio oddi yno: ac yntau hefyd a frysiodd i fyned allan, oherwydd i’r ARGLWYDD ei daro ef. 26:21 Ac Usseia y brenin a fu wahan¬glwyfus hyd ddydd ei farwolaeth, ac a drigodd yn wahanglwyfus mewn tŷ neiiltuol, canys efe a dorasid ymaith o dŷ yr ARGLWYDD: a Jotham ei fab ef oedd ar dŷ y brenin, yn barnu pobl y wlad. 26:22 A’r rhan arall o weithredoedd cyntaf a diwethaf Usseia, a ysgrifennodd Eseia y proffwyd mab Amos. 26:23 Felly Usseia a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef gyda’i dadau ym maes beddrod y brenhinoedd; canys dywedasant, Gwahanglwyfus ydyw efe. A Jotham ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. {{angor|Pennod_27}}{{c|{{uc|Pennod XXVII}}.}} {{bach|1 ''Jotham yn teyrnasu yn dda, ac yn llwyddo:'' 5 ''yn darostwng yr Ammoniaid.'' 7 ''Ei deyrnasiad ef.'' 9 ''Ahaz yn teyrnasu ar ei ol ef.''}} {{angor|27:1}} {{uc|Mab}} pum mlwydd ar hugain oedd Jotham pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un mlynedd ar<noinclude><references/></noinclude> qgervgk2j3cqaxhahkzjht030ua876x Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/478 104 3733 171537 6969 2026-10-09T05:05:46Z Tylopous 3717 penodau 171537 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, ac enw ei fam ef oedd Jerwsa merch Sadoc. 27:2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Usseia ei dad: eithr nid aeth efe i deml yr ARGLWYDD. A’r bobl oedd eto yn ymlygru. 27:3 Efe a adeiladodd y porth uchaf i dŷ yr ARGLWYDD, ac ar fur y twr yr adeilad¬odd efe lawer. 27:4 Dinasoedd hefyd a adeiladodd efe ym mynyddoedd Jwda, ac yn y coedydd yr adeiladodd efe balasau a thyrau. 27:5 Ac efe a ryfelodd yn erbyn brenin meibion Ammon, ac a aeth yn drech na hwynt. A meibion Ammon a roddasant iddo ef gan talent o arian y flwyddyn honno, a deng mil corus o wenith, a deng mil corus o haidd. Hyn a roddodd meib¬ion Ammon iddo ef yr ail flwyddyn a’r drydedd. 27:6 Felly Jotham a aeth yn gadarn, oblegid efe a baratodd ei ffyrdd gerbron yr ARGLWYDD ei DDUW. 27:7 A’r rhan arall o hanes Jotham, a’i holl ryfeloedd ef, a’i ffyrdd, wele y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda. 27:8 Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerw¬salem. 27:9 A Jotham a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn ninas .Dafydd. Ac Ahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. {{angor|Pennod_28}}{{c|{{uc|Pennod XXVIII}}.}} {{bach|1 ''Ahaz yn teyrnasu yn ddrygionus, a’r Syriaid yn ei flino ef.'' 6 ''Yr Israeliaid yn caethgludo gwŷr Judah, a thrwy gynghor Oded y prophwyd yn eu gollwng hwy adref.'' 16 ''Ahaz yn gyrru am gymmorth i Assyria, a hynny heb lesu iddo:'' 22 ''yn ei gyfyngder yn chwanegu ei ddelw-addoliaeth:'' 26 ''yn marw, a Hezecïah yn dyfod ar ei ol ef.''}} {{angor|28:1}} {{uc|Mab}} ugain mlwydd oedd Ahas pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ond ni wnaeth ele yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel Dafydd ei dad. 28:2 Eithr efe a rodiodd yn ffyrdd brenhinoedd Israel, ac a wnaeth i Baalim ddelwau toddedig. 28:3 Ac efe a arogldarthodd yn nyffryn Ben-hinnom, ac a losgodd ei blant yn tân, yn ôl ffieidd-dra’r cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel. 28:4 Efe a aberthodd hefyd, ac a arogl¬darthodd yn yr uchelfeydd, ac ar y bryniau, a than bob pren gwyrddlas. 28:5 Am hynny yr ARGLWYDD ei DDUW a’i rhoddodd ef yn llaw brenin Syria; a hwy a’i trawsant ef, ac a gaethgludasant ymaith oddi ganddo ef gaethglud fawr, ac a’u dygasant i Damascus. Ac yn llaw brenin Israel hefyd y rhoddwyd ef, yr hwn a’i trawodd ef a lladdfa fawr. 28:6 Canys Peca mab Remaleia a laddodd yn Jwda chwech ugain mil mewn un diwrnod, hwynt oll yn feibion grymus: am wrthod ohonynt ARGLWYDD DDUW eu tadau. 28:7 A Sichri, gŵr grymus o Effraim, a laddodd Maaseia mab y brenin, ac Asricam llywodraethwr y tŷ, ac Eicana y nesaf at y brenin. 28:8 A meibion Israel a gaethgludasant o’u brodyr ddau can mil, yn wragedd, yn feibion, ac yn ferched, ac a ysglyfaethasant anrhaith fawr oddi arnynt, ac a ddygasant yr ysbail i Samaria. 28:9 Ac yno yr oedd proffwyd i’r AR¬GLWYDD, a’i enw Oded; ac efe a aeth allan o flaen y llu oedd yn dyfod i Samaria, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, oherwydd digofaint ARGLWYDD DDUW eich tadau yn erbyn Jwda, y rhoddodd efe hwynt yn eich llaw chwi, a lladdasoch hwynt mewn cynddaredd yn cyrhaeddyd hyd y nefoedd. 28:10 Ac yn awr yr ydych chwi yn amcanu darostwng meibion Jwda a Jerwsalem yn gaethweision, ac yn gaethforynion i chwi: onid oes gyda chwi, ie, gyda chwi, bechodau yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw? 28:11 Yn awr gan hynny gwrandewch arnaf fi, a gollyngwch adref y gaethglud a gaethgludasoch o’ch brodyr: oblegid y mae llidiog ddigofaint yr ARGLWYDD arnoch chwi. 28:12 Yna rhai o benaethiaid meibion Effraim, Asareia mab Johanan, Berecheia mab Mesilemoth, a Jehisceia mab Salum, ac Amasa mab Hadlai, a gyfodasant yn erbyn y rhai oedd yn dyfod o’r filwriaeth, 28:13 Ac a ddywedasant wrthynt, Ni ddygwch y gaethglud yma: canys gan i ni bechu eisoes yn erbyn yr ARGLWYDD, yr ydych chwi yn am-<noinclude><references/></noinclude> sl1zi45x17zyn3corsu4nqmmi8og2gt Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/479 104 3734 171538 6970 2026-10-09T05:08:12Z Tylopous 3717 penodau 171538 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>canu chwanegu ar ein pechodau ni, ac ar ein camweddau: canys y mae ein camwedd ni yn fawr, ac y mae digofaint llidiog yn erbyn Israel. 28:14 Felly y llu a adawodd y gaethglud a’r anrhaith o flaen y tywysogion, a’r holl gynulleidfa. 28:15 A’r gwŷr, y rhai a enwyd wrth eu henwau, a gyfodasant ac a gymerasant y gaethglud, ac a ddilladasant eu holl rai noethion hwynt a’r ysbail, a dilladasant hwynt, a rhoddasant iddynt esgidiau, ac a wnaethant iddynt fwyta ac yfed; eneiniasant hwynt hefyd, a dygasant ar asynnod bob un llesg, ie, dygasant hwynt i Jericho, dinas y palmwydd, at eu brodyr. Yna hwy a ddychwelasant i Samaria. 28:16 Yr amser hwnnw yr anfonodd y brenin Ahas at frenhinoedd Asyria i’w gynorthwyo ef. 28:17 A’r Edomiaid a ddaethent eto, ac a drawsent Jwda, ac a gaethgludasent gaethglud. 28:18 Y Philistiaid hefyd a ruthrasent a ddinasoedd y gwastadedd, a thu deau Jwda, ac a enillasent Beth-semes, ac Ajalon, a Gederoth, a Socho a’i phentrefi, Timna hefyd a’i phentrefi, a Gimso a’i phentrefi; ac a drigasant yno. 28:19 Canys yr ARGLWYDD a ddarostyngodd Jwda, o achos Ahas brenin Israel: oblegid efe a noethodd Jwda, gan droseddu yn erbyn yr ARGLWYDD yn ddirfawr. 28:20 A Thilgath-pilneser brenin Asyria a ddaeth ato ef, ac a gyfyngodd arno ef, ac nis cynorthwyodd ef. 28:21 Er i Ahas gymryd rhan allan o dŷ yr ARGLWYDD, ac o dŷ y brenin, a chan y tywysogion, a’i rhoddi i frenin Asyria; eto nis cynorthwyodd efe ef. 28:22 A’r amser yr oedd yn gyfyng arno, efe a chwanegodd droseddu yn erbyn yr ARGLWYDD: hwn yw y brenin Ahas. 28:23 Canys efe a aberthodd i dduwiau Damascus, y rhai a’i trawsent ef; ac efe a ddywedodd. Am i dduwiau brenhinoedd Syria eu cynorthwyo hwynt, minnau a aberthaf iddynt hwy, fel y’m cynorthwyont innau: ond hwy a fuant iddo ef ac i holl Israel yn dramgwydd. 28:24 Ac Ahas a gasglodd lestri tŷ DDUW, ac a ddarniodd lestri tŷ DDUW, ac a gaeodd ddrysau tŷ yr ARGLWYDD, ac a wnaeth iddo allorau ym mhob congl i Jerwsalem. 28:25 Ac ym mhob dinas yn Jwda y gwnaeth efe uchelfeydd i arogldarthu i dduwiau dieithr, ac a ddicllonodd AR¬GLWYDD DDUW ei dadau. 28:26 A’r rhan arall o’i hanes ef, a’i holl ffyrdd, cyntaf a diwethaf, wele hwy yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel. 28:27 Ac Ahas a hunodd gyda’i dadau, a hwy a’i claddasant ef yn y ddinas ya Jerwsalem, ond ni ddygasant hwy efi feddrod brenhinoedd Israel. A Heseceia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. {{angor|Pennod_29}}{{c|{{uc|Pennod XXIX}}.}} {{bach|1 ''Y brenhin duwiol Hezecïah,'' 3 ''yn adferu gwir grefydd,'' 5 ''yn cynghori y Lefiaid:'' 12 ''a hwythau yn ymsancteiddio, ac yn glanhâu tŷ Dduw.'' 20 ''Hezecïah yn aberthu ebyrth cyhoedd, lle yr oedd y Lefiaid yn barottach na’r offeiriaid.''}} {{angor|29:1}} {{uc|Mab}} pum mlwydd ar hugain oedd Heseceia pan ddechreuodd efe deyrnasu, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam ef oedd Abeia merch Sechareia. 29:2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Dafydd ei dad. 29:3 Yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad ef, yn y mis cyntaf, efe a agorodd ddrysau tŷ yr ARGLWYDD, ac a’u cyweiriodd hwynt. 29:4 Ac efe a ddug i mewn yr offeiriaid, a’r Lefiaid, ac a’u casglodd hwynt ynghyd i heol y dwyrain, 29:5 Ac a ddywedodd wrthynt hwy, Gwrandewch fi, O Lefiaid, ymsancteiddiwch yn awr, a sancteiddiwch dy ARGLWYDD DDUW eich tadau, a dygwch yr aflendid allan o’r lle sanctaidd. 29:6 Canys ein tadau ni a droseddasant, ac a wnaethant yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ein Duw, ac a’i gwrthodasant ef, ac a droesant eu hwynebau oddi wrth babell yr ARGLWYDD, ac a droesant eu gwarrau. 29:7 Caeasant hefyd ddrysau y porth, ac a ddiffoddasant y lampau, ac nid arogldarthasant arogldarth, ac ni offrymasant boethoffrymau yn y cysegr i DDUW Israel. 29:8 Am hynny digofaint yr ARGLWYDD a ddaeth yn erbyn Jwda a Jerwsalem, ac efe a’u rhoddodd hwynt yn gyffro, yn syndod, ac yn<noinclude><references/></noinclude> 3wmy7mq888hmbhwhp4gsqaykq8tu8x9 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/481 104 3736 171539 6972 2026-10-09T05:10:21Z Tylopous 3717 penodau 171539 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ddywed¬odd, Yn awr yr ymgysegrasoch chwi i’r ARGLWYDD; nesewch, a dygwch ebyrth, ac ebyrth moliant, i dŷ yr ARGLWYDD. A’r gynulleidfa a ddygasant ebyrth, ac ebyrth moliant, a phob ewyllysgar o galon, boethoffrymau. 29:32 A rhifedi y poethoffrymau a ddug y gynulleidfa, oedd ddeg a thrigain o fustych, cant o hyrddod, dau cant o ŵyn: y rhai hyn oll oedd yn boethoffrwm i’r ARGLWYDD. 29:33 A’r pethau cysegredig oedd chwe chant o fustych, a thair mil o ddefaid. 29:34 Ond yr oedd rhy fychan o offeiriaid, fel na allent flingo yr holl boethoffrymau: am hynny eu brodyr y Lefiaid a’u cynorthwyasant hwy, nes gorffen y gwaith, ac nes i’r offeiriaid ymgysegru: canys y Lefiaid oedd uniawnach o galon i ymgys¬egru na’r offeiriaid. 29:35 Y poethoffrymau hefyd oedd yn aml, gyda braster yr hedd-offrwm, a’r ddiod-offrwm i’r poethoffrymau. Felly y trefnwyd gwasanaeth tŷ yr ARGLWYDD. 29:36 A Heseceia a lawenychodd, a’r holl bobl, oherwydd paratoi o DDUW y bobl: oblegid yn ddisymwth y bu y peth. {{angor|Pennod_30}}{{c|{{uc|Pennod XXX}}.}} {{bach|1 ''Hezecïah yn cyhoeddi Pasc arbennig ar yr ail mis, i Judah ac i Israel.'' 13 ''Y gynnulleidfa, wedi distrywio allorau delw-addoliaeth, yn cadw yr wyl bedwar diwrnod ar ddeg.'' 27 ''Yr offeiriaid a’r Lefiaid yn bendithio y bobl.''}} {{angor|30:1}} {{uc|A Hezeciah}} a anfonodd at holl Israel a Jwda, ac a ysgrifennodd lythyrau hefyd at Effraim a Manasse, i ddyfod i dŷ yr ARGLWYDD i Jerwsalem i gynnal Pasg i ARGLWYDD DDUW Israel. 30:2 A’r brenin a ymgynghorodd, a’i dywysogion, a’r holl gynulleidfa, yn Jerwsalem, am gynnal y Pasg yn yr ail fis. 30:3 Canys ni allent ei gynnal ef y pryd hwnnw; oblegid nid ymsancteiddiasai yr offeiriaid ddigon, ac nid ymgasglasai y bobl i Jerwsalem. 30:4 A da oedd y peth yng ngolwg y brenin, ac yng ngolwg yr holl gynulleidfa. 30:5 A hwy a orchmynasant gyhoeddi trwy holl Israel, o Beerseba hyd Dan, am ddy¬fod i gynnal y Pasg i ARGLWYDD DDUW Israel yn Jerwsalem: canys ni wnaethent er ys talm fel yr oedd yn ysgrifenedig. 30:6 Felly y rhedegwyr a aethant â’r llythyrau o law y brenin a’i dywysogion trwy holl Israel a Jwda, ac wrth orchymyn y brenin, gan ddywedyd, O feibion Israel, dychwelwch at ARGLWYDD DDUW Abra¬ham, Isaac, ac Israel, ac efe a ddychwel at y gweddill a ddihangodd ohonoch chwi o law brenhinoedd Asyria. 30:7 Ac na fyddwch fel eich tadau, nac fel .eich brodyr, y rhai a droseddasant yn erbyn ARGLWYDD DDUW eu tadau; am hynny efe a’u rhoddodd hwynt yn anghyfannedd, megis y gwelwch chwi. 30:8 Yn awr na chaledwch eich gwar, fel eich tadau; rhoddwch law i’r ARGLWYDD, a deuwch i’w gysegr a gysegrodd efe yn dragywydd: a gwasanaethwch yr AR¬GLWYDD eich Duw, fel y tro llid ei ddigofaint ef oddi wrthych chwi. 30:9 Canys os dychwelwch chwi at yr ARGLWYDD, eich brodyr chwi a’ch meibion a gânt drugaredd gerbron y rhai a’u caethgludodd hwynt, fel y dychwelont i’r wlad yma: oblegid grasol a thrugarog yw yr ARGLWYDD eich Duw, ac ni thry efe ei wyneb oddi wrthych, os dychwel¬wch ato ef. 30:10 Felly y rhedegwyr a aethant o ddinas i ddinas trwy wlad Effraim a Manasse, hyd Sabulon: ond hwy a wawdiasant, ac a’u gwatwarasant hwy. 30:11 Er hynny gwŷr o Aser, a Manasse., ac o Sabulon, a ymostyngasant, ac a ddaethant i Jerwsalem. 30:12 Llaw Duw hefyd fu yn Jwda, i roddi iddynt un galon i wneuthur gorchymyn y brenin a’r tywysogion, yn ôl gair yr ARGLWYDD. 30:13 A phobl lawer a ymgasglasant i Jerwsalem, i gynnal gŵyl y bara croyw, yn yr ail fis; cynulleidfa fawr iawn. 30:14 A hwy a gyfodasant, ac a fwriasant ymaith yr allorau oedd yn Jerwsalem: bwriasant ymaith allorau yr arogldarth, a thaflasant hwynt i afon Cidron. 30:15 Yna y lladdasant y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r ail fis: yr offeir¬iaid hefyd a’r Lefiaid a gywilyddiasant, ac a ymsancteiddiasant, ac a ddygasant y poethoffrymau i dŷ yr ARGLWYDD. 30:16 A hwy a safasant yn eu lle, wrth eu harfer, yn ôl cyfraith Mo-<noinclude><references/></noinclude> llqrsl14upxn35zkowcdk12m2odz2xs Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/482 104 3737 171540 6973 2026-10-09T05:12:47Z Tylopous 3717 penodau 171540 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ses gŵr Duw: yr offeiriaid oedd yn taenellu y gwaed o law y Lefiaid. 30:17 Canys yr oedd llawer yn y gynulleidfa:y rhai nid ymsancteiddiasent: ac ar y Lefiaid yr oedd lladd y Pasg dros yr holl rai aflan, i’w sancteiddio i’r ARGLWYDD. 30:18 Oherwydd llawer o’r bobl, sef llawer o Effraim a Manasse, Issachar, a Sabulon, nid ymlanhasent; eto hwy a fwytasant y Pasg, yn amgenach nag yr oedd yn ysgrif¬enedig. Ond Heseceia a weddïodd drostynt hwy, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD daionus a faddeuo i bob un 30:19 A baratodd ei galon i geisio Duw, gef ARGLWYDD DDUW ei dadau, er na lanhawyd ef yn ôl puredigaeth y cysegr. 30:20 A’r ARGLWYDD a wrandawodd ar Heseceia, ac a iachaodd y pobl. 30:21 A meibion Israel, y rhai a gafwyd yn Jerwsalem, a gynaliasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod trwy lawenydd mawr: y Lefiaid hefyd a’r offeiriaid oedd yn moliannu yr ARGLWYDD o ddydd i ddydd, gan ganu ag offer soniarus i’r ARGLWYDD. 30:22 A Heseceia a ddywedodd wrth fodd calon yr holl Lefiaid, y rhai oedd yn dysgu gwybodaeth ddaionus yr ARGLWYDD; a hwy a fwytasant ar hyd yr ŵyl saith niwrnod, ac a aberthasant ebyrth hedd, ac a gyffesasant i ARGLWYDD DDUW eu tadau. 30:23 A’r holl gynulleidfa a ymgyngorasant i gynnal saith o ddyddiau eraill: felly y cynaliasant saith o ddyddiau eraill trwy lawenydd. 30:24 Canys Heseceia brenin Jwda a roddodd i’r gynulleidfa fil o fustych, a saith mil o ddefaid: a’r tywysogion a roddasant i’r gynulleidfa fil o fustych, a deng mil o ddefaid: a llawer o offeiriaid a ymsancteiddiasant. 30:25 A holl gynulleidfa Jwda a lawenychasant, gyda’r offeiriaid a’r Lefiaid, a’r holl gynulleidfa a ddaeth o Israel, a’r dieithriaid a ddaethai o wlad Israel, ac oeddynt yn gwladychu yn Jwda. 30:26 Felly y bu llawenydd mawr yn Jerwsalem: canys er dyddiau Solomon mab Dafydd brenin Israel ni bu y cyffelyb yn Jerwsalem. 30:27 Yna yr offeiriaid a’r Lefiaid a gyfodasant, ac a fendithiasant y bobl, a gwrandawyd ar eu llef hwynt, a’u gweddi hwynt a ddaeth i fyny i’w breswylfa sanctaidd ef, i’r nefoedd. {{angor|Pennod_31}}{{c|{{uc|Pennod XXXI}}.}} {{bach|1 ''Y bobl yn chwannog i ddilëu delw-addoliaeth.'' 2 ''Hezecïah yn trefnu cylchoedd yr offeiriaid a’r Lefiaid, ac yn parottôi gwaith a chynhaliaeth iddynt.'' 5 ''Parodrwydd y bobl i dalu degwm ac offrwm.'' 11 ''Hezecïah yn gosod swyddogion i ddosparthu y degymmau.'' 20 ''Purdeb Hezecïah.''}} {{angor|31:1}} {{uc|Ac}} wedi gorffen hyn i gyd, holl Israel y rhai oedd bresennol a aethant allan i ddinasoedd Jwda, ac a ddrylliasant y delwau, ac a dorasant y llwyni, ac a ddistrywiasant yr uchelfeydd a’r allorau allan o holl Jwda a Benjamin, yn Effraim hefyd a Manasse, nes eu llwyr ddifa. Yna holl feibion Israel a ddychwelasant bob un i’w feddiant, i’w dinasoedd. 31:2 A Heseceia a osododd ddosbarthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid, yn eu cylchoedd, pob un yn ôl ei weinidogaeth, yr offeiriaid a’r Lefiaid i’r poethoffrwm, ac i’r ebyrth hedd, i weini, ac i foliannu, ac i ganmol, ym mhyrth gwersylloedd yr ARGLWYDD. 31:3 A rhan y brenin oedd o’i olud ei hun i’r poethoffrymau, sef i boethoffrymau y bore a’r hwyr, ac i boethoffrymau y Sabothau, a’r newyddloerau, a’r gwyliau arbennig, fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD. 31:4 Efe a ddywedodd hefyd wrth y bobl, trigolion Jerwsalem, am roddi rhan i’r offeiriaid a’r Lefiaid, fel yr ymgryfhaent yng nghyfraith yr ARGLWYDD. 31:5 A phan gyhoeddwyd y gair hwn, meibion Israel a ddygasant yn aml, flaenffrwyth yr ŷd, y gwin, a’r olew, a’r mêl, ac o holl gnwd y maes, a’r degwm o bob peth a ddygasant hwy yn helaeth. 31:6 A meibion Israel a Jwda, y rhai oedd yn trigo yn ninasoedd Jwda, hwythau a ddygasant ddegwm gwartheg a defaid, a degwm y pethau cysegredig a gysegrasid i’r ARGLWYDD eu Duw, ac a’u gosodasant bob yn bentwr. 31:7 Yn y trydydd mis y dechreuasant hwy seilio’r pentyrrau, ac yn y seithfed mis y gorffenasant hwynt. 31:8 A phan ddaeth Heseceia a’r tywys¬ogion, a gweled y pentyrrau, hwy a fendithiasant yr ARGLWYDD, a’i bobl Israel. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> spb3fjt3p2uew1sdph2a6bcygduidpy Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/483 104 3738 171541 6975 2026-10-09T05:16:36Z Tylopous 3717 penodau 171541 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>31:9 A Heseceia a ymofynnodd â’r offeir¬iaid a’r Lefiaid oherwydd y pentyrrau. 31:10 Ac Asareia yr offeiriad pennaf o dy Sadoc, a ddywedodd wrtho, ac a lefarodd, Er pan ddechreuwyd dwyn offrymau i dŷ yr ARGLWYDD, bwytasom a digonwyd ni, gweddillasom hefyd lawer iawn: canys yr ARGLWYDD a fendithiodd ei bobl; a’r gweddill yw yr amldra hyn. 31:11 A Heseceia a ddywedodd am baratoi celloedd yn nhŷ yr ARGLWYDD; a hwy a’u paratoesant, 31:12 Ac a ddygasant i mewn y blaenffrwyth, a’r degwm, a’r pethau cysegredig, yn ffyddlon: a Chononeia y Lefiad oedd flaenor arnynt hwy, a Simei ei frawd ef yn ail. 31:13 Jehiel hefyd, ac Asaseia, a Nahath, ac Asahel, a Jerimoth, a Josabad, ac Eliel, ac Ismachia, a Mahath, a Benaia, oedd swyddogion dan law Cononeia a Simei ei frawd ef, trwy orchymyn Heseceia y brenin, ac Asareia blaenor tŷ DDUW. 31:14 A Chore mab Imna y Lefiad, y porthor tua’r dwyrain, oedd ar y petha a offrymid yn ewyllysgar i DDUW, i rannu offrymau yr ARGLWYDD, a’r pethau sancteiddiolaf. 31:15 Ac wrth ei law ef yr oedd Eden, a Miniamin, a Jesua, a Semaia, Amareia, a Sechaneia, yn ninasoedd yr offeiriaid, yn eu swydd, i roddi i’w brodyr yn ôl eu rhan, i fawr ac i fychan: 31:16 Heblaw y gwrywiaid o’u cenedl hwynt, o fab tair blwydd ac uchod, i bawb a’r oedd yn dyfod i dŷ yr ARGLWYDD, ddogn dydd yn ei ddydd, yn eu gwasanaeth hwynt, o fewn eu goruchwyliaethau, yn ôl eu dosbarthiadau; 31:17 I genedl yr offeiriaid wrth dŷ eu tadau, ac i’r Lefiaid o fab ugain mlwydd ac uchod, yn ôl eu goruchwyliaethau, yn eu dosbarthiadau; 31:18 Ac i genedl eu holl blant hwy, eu gwragedd, a’u meibion, a’u merched, trwy’r holl gynulleidfa: oblegid trwy eu ffyddlondeb y trinent hwy yn sanctaidd yr hyn oedd sanctaidd: 31:19 Ac i feibion Aaron, yr offeiriaid, y rhai oedd ym meysydd pentrefol eu dinasoedd, ym mhob dinas, y gwŷr a enwasid wrth eu henwau, i roddi rhannau i bob gwryw ymysg yr offeiriaid, ac i’r holl rai a gyfrifwyd wrth achau ymhlith y Lefiaid. 31:20 Ac fel hyn y gwnaeth Heseceia trwy holl Jwda, ac efe a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn, a’r gwirionedd, gerbron yr ARGLWYDD ei DDUW. 31:21 Ac ym mhob gwaith a ddechreuodd .efe yng ngweinidogaeth tŷ DDUW, ac yn y gyfraith, ac yn y gorchymyn i geisio ei DDUW, efe a’i gwnaeth a’i holl galon, ac a ffynnodd. {{angor|Pennod_32}}{{c|{{uc|Pennod XXXII}}.}} {{bach|1 ''Senacherib yn dyfod yn erbyn Judah; a Hezecïah yn ymgadarnhâu, ac yn cysuro ei bobl.'' 9 ''Hezecïah ac Esaiah yn gweddïo yn erbyn cabledd Senacherib.'' 21 ''Angel yn difetha llu yr Assyriaid, a hynny yn barch i Hezecïah.'' 24 ''Hezecïah yn gweddïo yn ei glefyd, a Duw yn rhoi iddo argoel iechyd.'' 25 ''Hezecïah yn balchïo, a Duw yn ei ddarostwng ef.'' 27 ''Ei gyfoeth ef, a’i weithredoedd.'' 31 ''Ei fai ef ynghylch cenhadon Babilon.'' 32 ''Efe yn marw, a Manasseh yn teyrnasu ar ei ol ef.''}} {{angor|32:1}} {{uc|Wedi}} y pethau hyn, a’u sicrhau, y daeth Senacherib brenin Asyria, ac a ddaeth i mewn i Jwda; ac a wersyllodd yn erbyn y dinasoedd caerog, ac a feddyliodd eu hennill hwynt iddo ei hun. 32:2 A phan welodd Heseceia ddyfod Senacherib, a bod ei wyneb ef i ryfela yn erbyn Jerwsalem, 32:3 Efe a ymgynghorodd â’i dywysogion, ac â’i gedyrn, am argae dyfroedd y ffynhonnau, y rhai oedd allan o’r ddinas. A hwy a’i cynorthwyasant ef. 32:4 Felly pobl lawer a ymgasglasant, ac a argaeasant yr holl ffynhonnau, a’r afon sydd yn rhedeg trwy ganol y wlad, gan ddywedyd, Paham y daw brenhinoedd Asyria, ac y cânt ddyfroedd lawer? 32:5 Ac efe a ymgryfhaodd, ac a adeiladodd yr holl fur drylliedig, ac a’i cyfododd i fyny hyd y tyrau, a mur arall oddi allan, ac a gadarnhaodd Milo yn ninas Dafydd, ac a wnaeth lawer o bicellau ac o darianau. 32:6 Ac efe a osododd dywysogion rhyfel ar y bobl, ac a’u casglodd hwynt ato i heol porth y ddinas, ac a lefarodd wrth fodd eu calon hwynt, gan ddywedyd, 32:7 Ymwrolwch, ac ymgadarnhewch; nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag brenin Asyria, na rhag yr holl dyrfa sydd gydag ef: canys y mae gyda ni fwy na chydag ef. 32:8 Gydag ef y mae braich cnawdol;<noinclude><references/></noinclude> dg5kwhj3na3bkfyg707k5noz02psd10 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/485 104 3740 171542 6977 2026-10-09T05:20:02Z Tylopous 3717 penodau 171542 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ac a’u dug hwynt yn union oddi tanodd, tua thu y gorllewin i ddinas Dafydd. A ffynnodd Heseceia yn ei holl waith. 32:31 Eto yn neges cenhadau tywysogion Babilon, y rhai a anfonwyd ato ef i ymofyn am y rhyfeddod a wnaethid yn y wlad, Duw a’i gadawodd ef, i’w brofi ef, i wybod y cwbl ag oedd yn ei galon. 32:32 A’r rhan arall o hanes Heseceia, a’i garedigrwydd ef, wele hwy yn ysgrifenedig yng ngweledigaeth Eseia y proffwyd mab Amos, ac yn llyfr bren¬hinoedd Jwda ac Israel. 32:33 A Heseceia a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn yr uchaf o feddau meibion Dafydd. A holl Jwda a thrigolion Jerwsalem a wnaethant anrhydedd iddo ef wrth ei farwolaeth. A Manasse ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. {{angor|Pennod_33}}{{c|{{uc|Pennod XXXIII}}.}} {{bach|1 ''Y brenhin annuwiol Manasseh,'' 3 ''yn gosod i fynu ddelw-addoliaeth, ac heb gymmeryd rhybudd.'' 11 ''Ei gaethgludo ef i Babilon:'' 12 ''a’i weddi at Dduw yn achos o’i ryddhâd, ac yntau yn tynnu i lawr ddelw-addoliaeth.'' 18 ''Ei weithredoedd,'' 20 ''a’i farwolaeth ef, ac Amon yn dyfod ar ei ol ef.'' 21 ''Annuwiol deyrnasiad Amon, a’i weision yn ei ladd ef.'' 25 ''Lladd y lleiddiaid, a Josïah yn myned yn frenhin.''}} {{angor|33:1}} {{uc|Mab}} deuddeng mlwydd oedd Manasse pan ddechreuodd efe deyrnasu, a phymtheng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: 33:2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl ffieidd-dra y cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel. 33:3 Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd, y rhai a ddinistriasai Heseceia ei dad ef, ac a gyfododd allorau i Baalim, ac a wnaeth lwyni, ac a addolodd holl lu’r nefoedd, ac a’u gwasanaethodd hwynt. 33:4 Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ yr ARGLWYDD, am yr hwn y dywedasai yr ARGLWYDD, Yn Jerwsalem y bydd fy enw i yn dragywydd. 33:5 Ac efe a adeiladodd allorau i holl lu’r nefoedd yn nau gyntedd tŷ yr ARGLWYDD. 33:6 Ac efe a yrrodd ei feibion trwy’r tân yn nyffryn mab Hinnom, ac a arferodd frud, a hudoliaeth, a chyfareddion, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i’w ddigio ef. 33:7 Ac efe a osododd y ddelw gerfiedig, y ddelw a wnaethai efe, yn nhŷ DDUW, am yr hwn y dywedasai DUW wrth Dafydd, ac wrth Solomon ei fab, Yn y tŷ hwn, ac yn Jerwsalem, yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel, y gosodaf fy enw yn dragywydd. 33:8 Ac ni chwanegaf symud troed Israel oddi ar y tir a ordeiniais i’ch tadau chwi; os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt, yn ôl yr holl gyfraith, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, trwy law Moses. 33:9 Felly Manasse a wnaeth i Jwda a thrigolion Jerwsalem gyfeiliorni, a gwneuthur yn waeth na’r cenhedloedd a ddifethasai yr ARGLWYDD o flaen meibion Israel. 33:10 Er llefaru o’r ARGLWYDD wrth Manasse, ac wrth ei bobl, eto ni wrandawsant hwy. 33:11 Am hynny y dug yr ARGLWYDD arnynt hwy dywysogion llu brenin Asyria, a hwy a ddaliasant Manasse mewn drysni, ac a’i rhwymasant ef â dwy gadwyn, ac a’i dygasant ef i Babilon. 33:12 A phan oedd gyfyng arno ef, efe a weddïodd gerbron yr ARGLWYDD ei DDUW, ac a ymostyngodd yn ddirfawr o flaen Duw ei dadau, 33:13 Ac a weddïodd arno ef: ac efe a fu fodlon iddo, ac a wrandawodd ei ddymuniad ef, ac a’i dug ef drachefn i Jerw¬salem i’w frenhiniaeth. Yna y gwybu Manasse mai yr ARGLWYDD oedd DDUW. 33:14 Wedi hyn hefyd efe a adeiladodd y mur oddi allan i ddinas Dafydd, o du’r gorllewin i Gihon, yn y dyffryn, hyd y ddyfodfa i borth y pysgod, ac a amgylchodd Offel, ac a’i cyfododd yn uchel iawn, ac a osododd dywysogion y llu yn yr holl ddinasoedd caerog o fewn Jwda. 33:15 Ac efe a dynnodd ymaith y duwiau dieithr, a’r ddelw, allan o dŷ yr ARGLWYDD, a’r holl allorau a adeiladasai efe ym mynydd tŷ yr ARGLWYDD, ac yn Jerwsalem, ac a’u taflodd allan o’r ddinas. 33:16 Ac efe a gyweiriodd allor yr AR¬GLWYDD, ac a aberthodd arni hi ebyrth hedd a moliant, dywedodd hefyd wrth Jwda am wasanaethu ARGLWYDD DDUW Israel. 33:17 Er hynny y bobl oedd etto yn<noinclude><references/></noinclude> rgmsa7hbcw8e5oytxs7wcaemi377ucs Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/486 104 3741 171543 6978 2026-10-09T05:23:14Z Tylopous 3717 penodau 171543 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>aberthu yn yr uchelfeydd: eto i’r ARGLWYDD eu Duw yn. unig. 33:18 A’r rhan arall o hanes Manasse, a’i weddi ef at ei DDUW, a geiriau y gweledyddion a lefarasant wrtho ef yn enw ARGLWYDD DDUW Israel, wele hwynt ymhiith geiriau brenhinoedd Israel. 33:19 Ei weddi ef hefyd, a’r modd y cymododd Duw ag ef, a’i holl bechod ef, a’i gamwedd, a’r lleoedd yr adeiladodd efe ynddynt uchelfeydd, ac y gosododd lwyni, a delwau cerfiedig, cyn ymostwng ohono ef; wele hwynt yn ysgrifenedig ymysg geiriau y gweledyddion. 33:20 Felly Manasse a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef.yn ei dŷ ei hun, ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. 33:21 Mab dwy flwydd ar hugain oedd Amon pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerw¬salem. 33:22 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y gwnaethai Manasse ei dad ef: canys Amon a aberthodd i’r holl ddelwau cerfiedig a wnaethai Manasse ei. dad ef, ac a’u gwasanaethodd hwynt. 33:23 Ond nid ymostyngodd efe gerbron yr ARGLWYDD, fel yr ymostyngasai Man¬asse ei dad ef: eithr yr Amon yma a bechodd fwyfwy. 33:24 A’i weision ef a fradfwriadasant i’w erbyn ef, ac a’i lladdasant ef yn ei dŷ ei him. 33:25 Ond pobl y wlad a laddasant yr holl rai a fradfwriadasent yn erbyn y brenin Amon; a phobl y wlad a urddasant Joseia ei fab ef yn frenin yn ei le ef. {{angor|Pennod_34}}{{c|{{uc|Pennod XXXIV}}.}} {{bach|1 ''Josïah yn teyrnasu yn dduwiol,'' 3 ''ac yn dinystrio delw-addoliaeth,'' 8 ''yn peri adgyweirio y deml.'' 14 ''Hilcïah yn cael llyfr y gyfraith, a Josïah yn gyrru at Huldah i ymofyn â’r Arglwydd,'' 23 ''a hithau yn prophwydo dinystr Jerusalem, ond yr oedid hynny dros amser Josïah.'' 29 ''Josïah yn peri darllen llyfr y gyfraith y’ngŵydd yr holl bobl, ac yn adnewyddu y cyfammod â Duw.''}} {{angor|34:1}} {{uc|Mab}} wyth mlwydd oedd Joseia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. 34:2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd yn ffyrdd Dafydd ei dad, ac ni ogwyddodd ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy. 34:3 Canys yn yr wythfed flwyddyn o’i deyrnasiad, tra yr ydoedd efe eto yn fachgen, efe a ddechreuodd geisio DUW Dafydd ei dad: ac yn y ddeuddegfed flwyddyn efe a ddechreuodd lanhau Jwda a Jerwsalem oddi wrth yr uchel¬feydd, a’r llwyni, a’r delwau cerfiedig, a’r delwau .toddedig. 34:4 Distrywiasant hefyd yn ei ŵydd ef allorau Baalim; a’r delwau y rhai oedd i fyny oddi arnynt hwy a dorrodd efe: y llwyni hefyd, a’r delwau cerfiedig, a’r delwau toddedig, a ddrylliodd efe, ac a faluriodd, taenodd hefyd eu llwch hwy.ar hyd wyneb beddau y rhai a aberthasent iddynt hwy. 34:5 Ac esgyrn yr offeiriaid a losgodd efe ar eu hallorau, ac a lanhaodd Jwda a Jerwsalem. 34:6 Felly y gwnaeth.efe yn ninasoedd Manasse, ac Effraim, a Simeon, a hyd Nafftali, â’u ceibiau oddi amgylch. 34:7 A phan ddinistriasai efe yr allorau a’r llwyni, a dryllio ohono y delwau cerfiedig, gan eu malurio yn llwch, a thorri yr eilunod i gyd trwy holl wlad Israel, efe a ddychwelodd i Jerwsalem. 34:8 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef, wedi glanhau y wlad, a’r tŷ, efe a anfonodd Saffan mab Asaleia, a Maaseia tywysog y ddinas, a Joa mab Joahas y cofiadur, i gyweirio tŷ yr AR¬GLWYDD ei DDUW. 34:9 A phan ddaethant hwy at Hilceia yr archoffeiriad, hwy a roddasant yr arian a ddygasid i dŷ DDUW, y rhai a gasglasai y Lefiaid oedd yn cadw y drysau, o law Manasse ac Effraim, ac oddi gan holl weddill Israel, ac oddi ar holl Jwda a Benjamin, a hwy a ddychwelasant i Jerwsalem. 34:10 A hwy a’i rhoddasant yn llaw y gweithwyr, y rhai oedd oruchwylwyr ar dŷ yr ARGLWYDD: hwythau a’i rhoddasant i wneuthurwyr y gwaith, y rhai oedd yn gweithio yn nhŷ yr ARGLWYDD, i gyweirio ac i gadarnhau y tŷ. 34:11 Rhoddasant hefyd i’r seiri ac i’r adeiladwyr, i brynu cerrig nadd, a choed tuag at y cysylltiadau, ac i fyrddio y tai a ddinistriasai brenhinoedd Jwda. 34:12 A’r gwŷr oedd yn gweithio yn y gwaith yn ffyddlon: ac arnynt<noinclude><references/></noinclude> f8zlumx64aoagb8dxa8be9h4g89wm21 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/488 104 3743 171544 6983 2026-10-09T05:24:55Z Tylopous 3717 penodau 171544 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>y rhai oedd eiddo meibion Israel, ac efe a wnaeth i bawb a’r a gafwyd yn Israel wasanaethu, sef gwasanaethu yr AR¬GLWYDD eu Duw. Ac yn ei holl ddyddiau ef ni throesant hwy oddi ar ôl ARGLWYDD DDUW eu tadau. {{angor|Pennod_35}}{{c|{{uc|Pennod XXXV}}.}} {{bach|1 ''Josïah yn cadw Pasc godidog,'' 20 ''yn annog Pharaoh-Necho, ac yn cael ei ladd ym Megìdo.'' 25 ''Galarnad Josïah.''}} {{angor|35:1}} {{uc|A Josiah}} a gynhaliodd Basg i’r AR¬GLWYDD yn Jerwsalem: a hwy a laddasant y Pasg y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis cyntaf. 35:2 Ac efe a gyfleodd yr offeiriaid yn eu goruchwyliaethau, ac a’u hanogodd hwynt i weinidogaeth tŷ yr ARGLWYDD; 35:3 Ac a ddywedodd wrth y Lefiaid, y rhai oedd yn dysgu holl Israel, ac oedd sanctaidd i’r ARGLWYDD, Rhoddwch yr arch sanctaidd yn y tŷ a addladodd Solomon mab Dafydd brenin Israel; na fydded hi mwyach i chwi yn faich ar ysgwydd: gwasanaethwch yn awr yr ARGLWYDD eich Duw, a’i bobl Israel, 35:4 Ac ymbaratowch wrth deuluoedd eich tadau, yn ôl eich dosbarthadau, yn ôl ysgrifen Dafydd brenin Israel, ac yn ôl ysgrifen Solomon ei fab ef. 35:5 A sefwch yn y cysegr yn ôl dosbarthiadau tylwyth tadau eich brodyr y bobl, ac yn ôl dosbarthiad tylwyth y Lefiaid. 35:6 Felly Heddwch y Pasg, ac ymsancteiddiwch, a pharatowch eich brodyr, i wneuthur yn ôl gair yr ARGLWYDD trwy law Moses. 35:7 A Joseia a roddodd i’r bobl ddiadell o ŵyn, a mynnod, i gyd tuag at y Pasg-aberthau, sef i bawb a’r a gafwyd, hyd rifedi deng mil ar hugain, a thair mil o eidionau; hyn oedd o gyfoeth y brenin. 35:8 A’i dywysogion ef a roddasant yn ewyllysgar i’r bobl, i’r offeiriaid, ac i’r Lefiaid: Hilceia, a Sechareia, a Jehiel, blaenoriaid tŷ DDUW, a roddasant i’r offeiriaid tuag at y Pasg-aberthau, ddwy fil a chwe chant o ddefaid, a thri chant o eidionau. 35:9 Cononeia hefyd, a Semaia, a Neth-aneel, ei frodyr, a Hasabeia, a Jehiel, a Josabad, tywysogion y Lefiaid, a rodd¬asant i’r Lefiaid yn Basg-ebyrth, bum mil o ddefaid, a phum cant o eidionau. 35:10 Felly y paratowyd y gwasanaeth; a’r offeiriaid a safasant yn eu lle, a’r Lefiaid yn eu dosbarthiadau, yn ôl gorchymyn y brenin. 35:11 A hwy a laddasant y Pasg; a’r offeir¬iaid a daenellasant y gwaed o’u llaw hwynt, a’r Lefiaid oedd yn eu blingo hwynt. 35:12 A chymerasant ymaith y poeth-offrymau, i’w rhoddi yn ôl dosbarthiadau teuluoedd y bobl, i offrymu i’r ARGLWYDD, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Moses: ac felly am yr eidionau. 35:13 A hwy a rostiasant y Pasg wrth dân yn ôl y ddefod: a’r cysegredig bethau eraill a ferwasant hwy mewn crochanau, ac mewn pedyll, ac mewn peiriau, ac a’u rhanasant ar redeg i’r holl pobl. 35:14 Wedi hynny y paratoesant iddynt eu hunain, ac i’r offeiriaid; canys yr offeiriaid meibion Aaron oedd yn offrymu’r poethoffrymau a’r braster hyd y nos; am hynny y Lefiaid oedd yn paratoi iddynt eu hunain, ac i’r offeiriaid meibion Aaron. 35:15 A meibion Asaff y cantorion oedd yn eu sefyllfa, yn ôl gorchymyn Dafydd, ac Asaff, a Heman, a Jeduthun gweledydd y brenin; a’r porthorion ym mhob porth; ni chaent hwy ymado o’u gwasanaeth; canys eu brodyr y Lefiaid a baratoent iddynt hwy. 35:16 Felly y paratowyd holl wasanaeth yr ARGLWYDD y dwthwn hwnnw, i gynnal y Pasg, ac i offrymu poethoffrym¬au ar allor yr ARGLWYDD, yn ôl gorchy¬myn y brenin Joseia. 35:17 A meibion Israel y rhai a gafwyd, a gynaliasant y Pasg yr amser hwnnw, a gŵyl y bara croyw, saith niwrnod. 35:18 Ac ni chynaliasid Pasg fel hwnnw yn Israel, er dyddiau Samuel y proffwyd: ac ni chynhaliodd neb o frenhinoedd Israel gyffelyb i’r Pasg a gynhaliodd Joseia, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a holl Jwda, a’r neb a gafwyd o Israel, a thrigolion Jerw¬salem. 35:19 Yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasiad Joseia y cynhaliwyd y Pasg hwn. 35:20 Wedi hyn oll, pan baratoesai Joseia y tŷ, Necho brenin yr Aifft a ddaeth i fyny i ryfela yn erbyn Charcemis wrth Ewffrates: a Joseia a aeth allan yn ei erbyn ef. 35:21 Yntau a anfonodd genhadau<noinclude><references/></noinclude> ezypwkx14gi370ih3qg3hzi1o4bqc1y Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/489 104 3744 171545 6984 2026-10-09T05:28:25Z Tylopous 3717 penodau 171545 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>atto ef, gan ddywedyd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, O frenin Jwda? nid yn dy erbyn di y deuthum i heddiw, ond yn erbyn tŷ arall y mae fy rhyfel i; a Duw a archodd i mi frysio: paid di â DUW, yr hwn sydd gyda mi, fel na ddifetho efe dydi. 35:22 Ond ni throai Joseia ei wyneb oddi wrtho ef, eithr newidiodd ei ddillad i ymladd yn ei erbyn ef, ac ni wrandawodd ar eiriau Necho o enau Duw, ond efe a ddaeth i ymladd i ddyffryn Megido. 35:23 A’r saethyddion a saethasant at y brenin Joseia: a’r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Dygwch fi ymaith, canys clwyfwyd fi yn dost. 35:24 Felly ei weision a’i tynasant ef o’r cerbyd, ac a’i gosodasant ef yn yr ail gerbyd yr hwn oedd ganddo: dygasant ef hefyd i Jerwsalem, ac efe fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dadau. A holl Jwda a Jerwsalem a alarasant am Joseia. 35:25 Jeremeia hefyd a alarnadodd am Joseia, a’r holl gantorion a’r cantoresau yn eu galarnadau a soniant am Joseia hyd heddiw, a hwy a’i gwnaethant yn ddefod yn Israel; ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn y galarnadau. 35:26 A’r rhan arall o hanes Joseia a’i didaioni ef, yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD, 35:27 A’i weithredoedd ef, cyntaf a diwethaf, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda. {{angor|Pennod_36}}{{c|{{uc|Pennod XXXVI}}.}} {{bach|1 ''Joahaz yn frenhin ar ol Josïah: a Pharaoh yn ei ddiswyddo ef, ac yn ei ddwyn i’r Aipht.'' 5 ''Joacim yn teyrnasu yn ddrygionus, a’i ddwyn ef yn rhwym i Babilon.'' 9 ''Joachin yn teyrnasu yn ddrygionus, a’i ddwyn yntau i Babilon.'' 11 ''Sedecïah y brenhin drygionus yn dïystyru y prophwydi, ac yn gwrthryfela yn erbyn Nebuchodonosor.'' 14 ''Llwyr-ddifrodi Jerusalem am bechodau yr offeiriaid a’r bobl.'' 22 ''Cyrus yn cyhoeddi yr adeiledid y deml.''}} {{angor|36:1}} {{uc|Yna}} pobl y wlad a gymerasant Joahas mab Joseia, ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle ei dad yn Jerwsalem. 36:2 Mab tair blwydd ar hugain oedd Joahas pan ddechreuodd efe deyrnasu; a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. 36:3 A brenin yr Aifft a’i diswyddodd ef yn Jerwsalem; ac a drethodd ar y wlad gan talent o arian, a thalent o aur. 36:4 A brenin yr Aifft a wnaeth Eliacim ei frawd ef yn frenin ar Jwda a Jerwsalem, ac a drodd ei enw ef yn Joacim. A Necho a gymerodd Joahas ei frawd ef, ac a’i dug i’r Aifft. 36:5 Mab pum mlwydd ar hugain oedd Joacim pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ei DDUW. 36:6 Nebuchodonosor brenin Babilon a ddaeth i fyny yn ei erbyn ef, ac a’i rhwymodd ef mewn cadwynau pres, i’w ddwyn i Babilon. 36:7 Nebuchodonosor hefyd a ddug o lestri tŷ yr ARGLWYDD i Babilon, ac a’u rhoddedd hwynt yn ei deml o fewn Babilon, 36:8 A’r rhan arall o hanes Joacim, a’i ffieidd-dra ef y rhai a wnaeth efe, a’r hyn a gafwyd arno ef, wele hwynt yn ysgrif¬enedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda. A Joachin ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. 36:9 Mab wyth mlwydd oedd Joachin pan ddechreuodd efe deyrnasu, a thri mis a deng niwrnod y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. 36:10 Ac ymhen y flwyddyn yr anfonodd y brenin Nebuchodonosor, ac a’i dug ef i Pabilon, gyda llestri dymunol tŷ yr AR¬GLWYDD: ac efe a wnaeth Sedeceia ei frawd ef yn frenin ar Jwda a Jerwsalem. 36:11 Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. 36:12 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ei DDUW, ac nid ymostyngodd efe o flaen Jeremeia y proffwyd, yr hwn oedd yn llefaru o enau yr ARGLWYDD. 36:13 Ond efe a wrthryfelodd yn erbyn brenin Neluchodonosor, yr hwn a wnaethai iddo dyngu i DDUW: ond efe a galedodd ei war, ac a gryfhaodd ei galon, rhag dychwelyd at ARGLWYDD DDUW Israel. 36:14 Holl dywysogion yr offeiriaid<noinclude><references/></noinclude> 3zzgf0ipf2h7zg4vw9ubba497g8ihp7 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/490 104 3745 171546 171291 2026-10-09T05:30:05Z Tylopous 3717 penodau 171546 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="I"/>hefyd, a’r bobl, a chwanegasant gamfucheddu, yn ôl holl ffieidd-dra’r cenhedloedd; a hwy a halogasant dŷ yr ARGLWYDD, yr hwn a sancteiddiasai efe yn Jerwsalem. 36:15 Am hynny ARGLWYDD DDUW eu tadau a anfonodd atynt hwy trwy law ei genhadau, gan foregodi, ac anfon: am ei fod ef yn tosturio wrth ei bobl, ac wrth ei breswylfod. 36:16 Ond yr oeddynt hwy yn gwatwar cenhadau Duw, ac yn tremygu ei eiriau ef, ac yn gwawdio ei broffwydi ef; nes cyfodi o ddigofaint yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl, fel nad oedd iachâd. 36:17 Am hynny efe a ddygodd i fyny arnynt hwy frenin y Caldeaid, yr hwn a laddodd eu gwŷr ieuaninc hwy â’r cleddyf yn nhŷ eu cysegr, ac nid arbedodd na ŵr ieuanc na morwyn, na hen, na’r hwn oedd yn camu gan oedran: efe a’u rhoddodd hwynt oll yn ei law ef. 36:18 Holl lestri tŷ DDUW hefyd, mawrion a bychain, a thrysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau y brenin a’i dywysogion; y rhai hynny oll a ddug efe i Babilon. 36:19 A hwy a losgasant dŷ DDUW, ac a ddistrywiasant fur Jerwsalem; a’i holl balasau hi a losgasant hwy a thân, a’i holl lestri dymunol a ddinistriasant. 36:20 A’r rhai a ddianghasai gan y cleddyf a gaethgludodd efe i Babilon; lle y buant hwy yn weision iddo ef ac i’w feibion, nes teyrnasu o’r Persiaid: 36:21 I gyflawni gair yr ARGLWYDD trwy enau Jeremeia, nes mwynhau o’r wlad ei Sabothau; canys yr holl ddyddiau y bu hi yn anghyfannedd, y gorffwysodd hi, i gyflawni deng mlynedd a thrigain. 36:22 Ac yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, fel y cyflawnid gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddywedwyd trwy enau Jeremeia, yr ARGLWYDD a gyffrodd ysbryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl fren hiniaeth, a hynny mewn ysgrifen, gan ddywedyd, 36:23 Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, ARGLWYDD DDUW y nefoedd a roddodd holl deyrnasoedd y ddaear i mi, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu tŷ iddo yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda. Pwy sydd yn eich mysg chwi o’i holl bobl ef? yr ARGLWYDD ei DDUW fyddo gydag ef, ac eled i fyny. {{lein|10em}} <section end="I"/> <section begin="II"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Ezra.}}}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|1 ''Cyrus yn gorchymyn adeiladu y deml.'' 5 ''Y bobl yn ymbarottôi i ddychwelyd yn eu hol.'' 7 ''Cyrus yn rhoi yn ol lestri y deml i Sesbassar.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Yn}} y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, i gyflawni gair yr ARGLWYDD o enau Jeremeia, y gyffrôdd yr ARGLWYDD ysbryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl deyrnas, a hynny hefyd mewn ysgrifen, gan ddywedyd, 1:2 Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, ARGLWYDD DDUW y nefoedd a roddes i mi holl deyrnasoedd y ddaear, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu iddo ef dŷ yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda. 1:3 Pwy sydd ohonoch o’i holl bobl ef? bydded ei DDUW gydag ef, ac eled i fyny i Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda, ac adeiled dŷ ARGLWYDD DDUW Israel, (dyna y DUW), yr hwn sydd yn Jerwsalem. 1:4 A phwy bynnag a adawyd mewn un man lle y mae efe yn ymdeithio, cynorthwyed gwŷr ei wlad ef ag arian, ac ag aur, ac a golud, ac ag anifeiliaid, gydag ewyllysgar offrwm tŷ DDUW, yr hwn sydd yn Jerwsalem. 1:5 Yna y cododd pennau-cenedl Jwda a Benjamin, a’r offeiriaid a’r Lefiaid, a phob un y cyffrôdd Duw ei ysbryd, i fyned i fyny i adeiladu tŷ yr ARGLWYDD yr hwn oedd yn Jerwsalem. 1:6 A’r rhai oll o’u hamgylch a’u cynorthwyasant hwy â llestri arian, ac aur, â golud, ac ag anifeiliaid, ac â phethau gwerthfawr, heblaw yr hyn oll a offrymwyd yn ewyllysgar. 1:7 A’r brenin Cyrus a ddug allan lestri tŷ yr ARGLWYDD, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor allan o Jerwsalem, ac a roddasai efe yn nhŷ ei dduwiau ei hun: 1:8 Y rhai hynny a ddug Cyrus brenin Persia allan trwy law Mith-<section end="II"/><noinclude><references/></noinclude> 2gsn9oo3q5smsohybyyawalei7naglq Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/491 104 3746 171547 6988 2026-10-09T05:41:02Z Tylopous 3717 penodau 171547 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>redath y trysorydd, ac a’u rhifodd hwynt at Sesbassar pennaeth Jwda. 1:9 A dyma eu rhifedi hwynt; Deg ar hugain o gawgiau aur, mil o gawgiau arian, naw ar hugain o gyllyll. 1:10 Deg ar hugain o orflychau aur, deg a phedwar cant o ail fath o orflychau arian, a mil o lestri eraill. 1:11 Yr holl lestri, y aur ac yn arian, oedd bum mil a phedwar cant. Y rhai hyn oll a ddug Sesbassar i fyny gyda’r gaethglud a ddygwyd i fyny o Babilon i Jerwsalem. {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1 ''Rhifedi y bobl a ddychwelodd,'' 36 ''a’r offeiriaid,'' 40 ''a’r Lefiaid,'' 43 ''a’r Nethiniaid,'' 55 ''a gweision Solomon,'' 62 ''a’r offeririaid ni fedrent ddangos eu hachau.'' 64 ''Rhifedi y cwbl, a’u golud.'' 68 ''Eu hoffrymmau.''}} {{angor|2:1}} {{uc|A dyma}} feibion y dalaith y rhai a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud, yr hon a gaethgludasai Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon, ac a ddychwelasant i Jerwsalem a Jwda, pob un i’w ddinas ei hun; 2:2 Y rhai a ddaeth gyda Sorobabel: Jesua, Nehemeia, Seraia, Reelaia, Mordecai, Bilsan, Mispar, Bigfai, Rehum, Baana. Rhifedi gwyr pobl Israel: 2:3 Meibion Paros, dwy fil a deuddeg ac wyth ugain. 2:4 Meibion Seffatia, tri chant a deuddeg a thrigain. 2:5 Meibion Ara, saith gant a phymtheg a thrigain. 2:6 Meibion Pahath-Moab, o feibion Jesua a Joab, dwy fil wyth gant a deuddeg. 2:7 Meibion Elam, mil dau dant a phedwar ar ddeg a deugain. 2:8 Meibion Sattu, naw cant a phump a deugain. 2:9 Meibion Saccai, saith gant a thrigain. 2:10 Meibion Bani, chwe chant a dau a deugain. 2:11 Meibion Bebai, chwe chant a thri ar hugain. 2:12 Meibion Asgad, mil dau cant a dau ar hugain 2:13 Meibion Adonicam, chwe chant a chwech a thrigain. 2:14 Meibion Bigfai, dwy fil ac onid pedwar trigain. 2:15 Meibion Adin, pedwar cant a phedwar ar ddeg a deugain. 2:16 Meibion Ater o Heseceia, onid dau pum ugain. 2:17 Meibion Besai, tri chant a thri ar hugain. 2:18 Meibion Jora, cant a deuddeg. 2:19 Meibion Hasum, dau cant a thri ar hugain. 2:20 Meibion Gibbar, pymtheg a phedwar ugain. 2:21 Meibion Bethlehem, cant a thri ar hugain. 2:22 Gwŷr Netoffa, onid pedwar trigain 2:23 Gwŷr Anathoth, cant ac wyth ar hugain. 2:24 Meibion Asmafeth, dau a deugain. 2:25 Meibion Ciriath-arim, Ceffira, a Beeroth, saith gant a thri a deugain. 2:26 Meibion Rama a Gaba, chwe chant ac un ar hugain. 2:27 Gwŷr Michmas, cant a dau ar hugain. 2:28 Gwŷr Bethel ac Ai, dau cant a thri war ar hugain. 2:29 Meibion Nebo, deuddeg a deugain. 2:30 Meibion Magbis, cant ac onid pedwar trigain. 2:31 Meibion Elam arall, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain. 2:32 Meibion Harim, tri chant ac ugain. 2:33 Meibion Lod, Hadid, ac Ono, saith gant a phump ar hugain. 2:34 Meibion Jericho, tri chant a phump a deugain. 2:35 Meibion Senaa, tair mil a chwe chant a deg ar hugain. 2:36 Yr offeiriaid: meibion Jedaia, o dŷ Jesua, naw cant deg a thrigain a thri. 2:37 Meibion Immer, mil a deuddeg a deugain. 2:38 Meibion Pasur, mil dau cant a saith a deugain. 2:39 Meibion Harim, mil a dau ar bymtheg. 2:40 Y Lefiaid: meibion Jesua a Chadmiel, o feibion Hodafia, pedwar a ddeg a thrigain. 2:41 Y cantoriaid: meibion Asaff, cant ac wyth ar hugain. 2:42 Meibion y porthorion: sef meibion Salum, meibion Ater, meibion Talmon, meibion Accub, meibion Hatita, meibion Sobai, oedd oll gant ac onid un deugain. 2:43 Y Nethiniaid: meibion Siha, meibion Hasuffa, meibion Tabbaoth, {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 397t5zbv3zfut3d6qiegtuo4yfxakwj Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/492 104 3747 171548 6989 2026-10-09T05:42:34Z Tylopous 3717 penodau 171548 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>2:44 Meibion Ceros, meibion Siaha, meibion Padon, 2:45 Meibion Lebana, meibion Hagaba, meibion Accub, 2:46 Meibion Hagab, meibion Samlai, meibion Hanan, 2:47 Meibion Gidel, meibion Gahar, meibion Reaia, 2:48 Meibion Resin, meibion Necoda, meibion Gassam, 2:49 Meibion Ussa, meibion Pasea, meibion Besai, 2:50 Meibion Asna, meibion Mehunim, meibion Neffusim, 2:51 Meibion Bacbuc, meibion Hacuffa, meibion Harhur, 2:52 Meibion Basluth, meibion Mehida, meibion Harsa, 2:53 Meibion Barcos, meibion Sisera, meibion Thama, 2:54 Meibion Neseia, meibion:Hatiffa. 2:55 § Meibion gweision Solomon: meibion Sotai meibion Soffereth, meibion Peruda, 2:56 Meibion Jaala, meibion Darcon, meibion Gidel, 2:57 Meibion Seffatia, meibion Hattil, meibion Pochereth o Sebaim, meibion Ami. 2:58 Yr holl Nethiniaid, a meibion gweision Solomon, oedd dri chant deuddeg a phedwar ugain. 2:59 A’r rhai hyn a aethant i fyny o Tel-mela, Tel-harsa, Cerub, Adan, ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau, na’u hiliogaeth, ai o Israel yr oeddynt: 2:60 Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a deuddeg a deugain. 2:61 A meibion yr offeiriaid: meibion Habaia, meibion Cos, meibion Barsilai; yr hwn a gymerasai wraig o ferched Barsilai y Gileadiad, ac a alwasid ar eu henw hwynt. 2:62 Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhiith yr achau, ond ni chafwyd hwynt: am hynny y bwriwyd hwynt allan o’r offeiriadaeth. . 2:63 A’r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o’r pethau sancteiddiaf, hyd oni chyfodai offeiriad ag Urim ac a Thummim. 2:64 Yr holl dyrfa ynghyd, oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain: 2:65 Heblaw eu gweision a’u morynion; y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain: ac yn eu mysg yr oedd dau cant yn gantorion ac yn gantoresau. 2:66 Eu meirch oedd saith gant ac onid pedwar deugain; eu mulod yn ddau cant ac yn bump a deugain; 2:67 Eu camelod yn bedwar cant ac yn bymtheg ar hugain; eu hasynnod yn chwe mil saith gant ac ugain. 2:68 Ac o’r pennau-cenedl pan ddaethant i dŷ yr ARGLWYDD, yr hwn oedd yn Jerwsalem, rhai a offrymasant o’u gwaith eu hun tuag at dŷ yr ARGLWYDD, i’w gyfodi yn ei le. 2:69 Rhoddasant yn ôl eu gallu i drysordy y gwaith, un fil a thrigain o ddracmonau aur, a phum mil o bunnoedd o arian, a chant o wisgoedd offeiriaid, 2:70 Yna yr offeiriaid a’r Lefiaid, a rhai o’r bobl, a’r cantorion, a’r porthorion, a’r Nethiniaid, a drigasant yn eu dinasoedd, a holl Israel yn eu dinasoedd. {{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}} {{bach|1 ''Gosod i fynu yr allor.'' 4 ''Amled yr offrymmau.'' 7 ''Parottôi gweithwyr.'' 8 ''Gosod sylfeini y deml gyd â llawenydd mawr a galar.''}} {{angor|3:1}} {{uc|A phan}} ddaeth y seithfed mis, a meibion Israel yn eu dinasoedd, y bobl a ymgasglasant i Jerwsalem megis un gŵr. 3:2 Yna y cyfododd Jesua mab Josadac, a’i frodyr yr offeiriaid, a Sorobabel mab Salathiel, a’i frodyr, ac a adeiladasant allor Duw Israel, i offrymu aml offrymau poeth, fel yr ysgrifenasid yng nghyfraith Moses gŵr Duw. 3:3 A hwy a osodasant yr allor ar ei hystolion, (canys yr oedd arnynt ofn pobl y wlad,) ac a offrymasant arni boeth-offrymau i’r ARGLWYDD, poethoffrymau bore a hwyr. 3:4 Cadwasant hefyd ŵyl y pebyll, fel y mae yn ysgrifenedig, ac a offrymasant boethaberth beunydd dan rifedi, yn ôl y ddefod, dogn dydd yn ei ddydd; 3:5 Ac wedi hynny y poethoffrwm gwastadol, ac offrwm y newyddloerau, a holl sanctaidd osodedig wyliau yr ARGLWYDD, offrwm ewyllysgar pob un a offrymai ohono ei hun, a offrymasant i’r ARGLWYDD. 3:6 O’r dydd cyntaf i’r seithfed mis y dechreuasant offrymu poethoffrymau i’r ARGLWYDD. Ond teml yr ARGLWYDD ni sylfaenasid eto. 3:7 Rhoddasant hefyd arian i’r seiri maen, ac i’r seiri pren; a bwyd, a diod, ac olew, i’r Sidoniaid, ac i’r Tyriaid,<noinclude><references/></noinclude> ginqpfqfjdqpifnenxotf74cv3r4ods Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/493 104 3748 171549 6990 2026-10-09T05:44:41Z Tylopous 3717 penodau 171549 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>am ddwyn coed cedr o Libanus hyd y môr i Jopa: yn ôl caniatâd Cyrus brenin Persia iddynt hwy. 3:8 Ac yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy i dŷ DDUW i Jerwsalem, yn yr ail fis, y dechreuodd Sorobabel mab Salathiel, a Jesua mab Josadac, a’r rhan arall o’u brodyr hwynt yr offeinaid ar Lefiaid, a’r rhai oll a ddaethai o’r caethiwed i Jerwsalem; ac a osodasant y Lefiaid, o fab ugeinmlwydd ac uchod, yn olygwyr ar waith tŷ yr ARGLWYDD. 3:9 Yna y safodd Jesua, a’i feibion a’l frodyr, Cadmiel a’i feibion, meibion Jwda yn gytûn, i oruchwylio ar weithwyr y gwaith yn nhŷ DDUW: meibion Henadad, â’u meibion hwythau a u brodyr y Lefiaid. 3:10 A phan oedd y seiri yn sylfaenu teml yr ARGLWYDD, hwy a osodasant yr offeiriaid yn eu gwisgoedd ag utgyrn, a’r Lefiaid meibion Asaff â symbalau, i foliannu yr ARGLWYDD, yn ol ordinhad Dafydd brenin Israel. 3:11 A hwy a gydganasant, wrth foliannu ac wrth glodfori yr ARGLWYDD, mai da oedd, mai yn dragywydd yr ydoedd ei drugaredd ef ar Israel. A’r holl bobl a floeddiasant â bloedd fawr, gan foliannu yr ARGLWYDD, am sylfaenu tŷ yr ARGLWYDD. 3:12 Ond llawer o’r offeiriaid ‘r Lefiaid, a’r pennau-cenedl, y rhai oedd hen, ac a welsent y tŷ cyntaf, wrth sylfaenu y tŷ hwn yn eu golwg, a wylasant â llef uchel; a llawer oedd yn dyrchafu llef mewn bloedd gorfoledd: 3:13 Fel nad oedd y bobl yn adnabod sain bloedd y llawenydd oddi wrth sain wylofain y bobl: canys y bobl oedd yn bloeddio â bloedd fawr, a’r sŵn a glywid ymhell. {{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}} {{bach|1 ''Gwrthwynebwyr Judah, am na chynhwysid iddynt adeiladu y deml gyd â’r Iuddewon, yn ceisio llestair ei hadeiladu hi.'' 7 ''Eu llythyrau hwy at Artaxerxes.'' 17 ''Gorchymyn Artaxerxes.'' 23 ''Rhwystro adeiladu y deml.''}} {{angor|4:1}} {{uc|Yna}} gwrthwynebwyr Jwda a Benjamin a glywsant fod meibion y gaethglud yn adeiladu y deml i ARGLWYDD DDUW Israel; 4:2 Ac a ddaethant at Sorobabel, ac at y pennau-cenedl, ac a ddywedasant wrthynt, Adeiladwn gyda chwi: canys fel chwithau y ceisiwn eich Duw chwi; ac iddo ef yr ydym ni yn aberthu, er dyddiau Esarhadon brenin Assyria, yr hwn a’n dug ni i fyny yma. 4:3 Eithr dywedodd Sorobabel a Jesua, a’r rhan arall o bennau-cenedl Israel, wrthynt, Nid yw i chwi ac i ninnau adeiladu tŷ i’n Duw ni; eithr nyni a gydadeiladwn i ARGLWYDD DDUW Israel, o megis y’n gorchmynnodd y brenin Cyrus, brenin Persia. 4:4 A phobl y wlad oedd yn anghysuro pobl Jwda, ac yn eu rhwystro hwy i adeiladu, 4:5 Ac yn cyflogi cynghorwyr yn eu herbyn hwynt, i ddiddymu eu cyngor hwynt, holl ddyddiau Cyrus brenin Persia, a hyd deyrnasiad Dareius brenin Persia. 4:6 Ac yn nheyrnasiad Ahasferus, yn nechreuad ei deyrnasiad ef, yr ysgrifenasant ato achwyn yn erbyn trigolion Jwda a Jerwsalem. 4:7 Ac yn nyddiau Artacsercses yr ysgrifennodd Bislam, Mithredath, Tabeel, a’r rhan arall o’u cyfeillion, at Artacsercses brenin Persia; ac ysgrifen y llythyr a ysgrifennwyd yn Syriaeg, ac a eglurwyd yn Syriaeg. 4:8 Rehum y cofiadur a Simsai yr ysgrifenydd a ysgrifenasant lythyr yn erbyn a Jerwsalem at Artacsercses y brenin, fel hyn: 4:9 Yna yr ysgrifennodd Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd, a’r rhan arall o’u cyfeillion, y Dinaiaid, yr Affarsathchiaid, y Tarpeliaid, yr Affarsiaid, yr Archefiaid, y Babiloniaid, y Susanchiaid, y Dehafiaid, yr Elamiaid, 4:10 A’r rhan arall o’r bobl y rhai a ddug Asnappar mawr ac enwog, ac a osododd efe yn ninasoedd Samaria, a’r rhan arall tu yma i’r afon, a’r amser a’r amser. 4:11 Dyma ystyr y llythyr a anfonasant ato ef, sef at Artacsercses y brenin, Dy wasanaethwyr o’r tu yma i’r afon, a’r amser a’r amser. 4:12 Bid hysbys i’r brenin, fod yr Iddewon a ddaethant i fyny oddi wrthyt ti atom ni, wedi dyfod i Jerwsalem, ac yn adeiladu y ddinas wrthryfelgar ddrygionus, a’r muriau a sylfaenasant hwy, ac a gydwniasant y sylfaenau. 4:13 Yn awr bydded hysbys i’r brenin, os adeiledir y ddinas hon, a gorffen ei chaerau, na roddant na tholl, na theyrnged, na threth; felly y drygi drysor y brenhinoedd. 4:14 Ac yn awr oherwydd ein bod<noinclude><references/></noinclude> 1akqeax8wmnzt43pz5ahmtikjbgckej Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/494 104 3749 171550 6991 2026-10-09T05:46:40Z Tylopous 3717 penodau 171550 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ni yn cael ein cynhaliaeth o lys y brenin, ac nad oedd weddaidd i ni weled gwarth y brenin; am hynny yr anfonasom ac yr hysbysasom i’r brenin, 4:15 Fel y ceisier yn llyfr historiau dy dadau: a thi a gei yn llyfr yr historiau, (ac a elli wybod, fod y ddinas hon yn ddinas wrthryfelgar, niweidiol i frenhinoedd a thaleithiau, a bod yn gwneuthur brad-fwriad o fewn hon er ys talm: am hynny y dinistriwyd y ddinas hon. 4:16 Yr ydym yn hysbysu i’r brenin, os y ddinas hon a adeiledir, a’r muriau a sylfaenir, wrth hynny ni fydd i ti ran o’r tu yma i’r afon. 4:17 Yna yr anfonodd y brenin air at Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd, a’r rhan arall o’u cyfeillion hwynt y rhai a drigent yn Samaria, ac at y lleill o’r tu hwnt i’r afon, Tangnefedd, a’r amser a’r amser. 4:18 Y llythyr a anfonasoch ataf, a ddarllenwyd yn eglur ger fy mron. 4:19 A mi a osodais orchymyn, a chwiliwyd; a chafwyd fod y ddinas hon er ys talm yn ymddyrchafu yn erbyn brenhinoedd, a gwneuthur ynddi anufudd-dod a gwrthryfel. 4:20 A brenhinoedd cryfion a fu ar Jerwsalem, yn llywodraethu ar bawb o’r tu hwnt i’r afon, ac iddynt hwy y rhoddid toll, teyrnged, a threth. 4:21 Yn awr rhoddwch orchymyn, i beri i’r gwŷr hynny beidio, ac nad adeilader y ddinas honno, hyd oni roddwyf fi orchymyn eto. 4:22 A gwyliwch wneuthur yn amryfus yn hyn: paham y tyf niwed i ddrygu y brenhinoedd? 4:23 Yna pan ddarllenwyd ystyr llythyr Artacsercses y brenin o flaen Rehum a Simsai yr ysgrifennydd, a’u cyfeillion, hwy a aethant i fyny ar frys i Jerwsalem at yr Iddewon, ac a wnaethant iddynt beidio trwy fraich a chryfder. 4:24 Yna y peidiodd gwaith tŷ DDUW yr hwn sydd yn Jerwsalem, ac y bu yn sefyll hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin Persia. {{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}} {{bach|1 ''Zorobabel a Jesua, wedi eu hannog gan Haggai a Zecharïah, yn rhwyddhâu adeiladu y deml.'' 3 ''Tatnai a Sethurboznai heb allel rhwystro yr Iuddewon.'' 6 ''Eu llythyr hwy at Darïus yn erbyn yr Iuddewon.''}} {{angor|5:1}} {{uc|Yna}} y proffwydi, Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido, a broffwydasant i’r Iddewon oedd yn Jwda ac yn Jerwsalem; yn enw Duw Israel y proffwydasant iddynt. 5:2 Yna Sorobabel mab Salathiel, a Jesua mab Josadac, a godasant, ac a ddechreuasant adeiladu tŷ DDUW yr hwn sydd yn Jerwsalem: a phroffwydi Duw oedd gyda hwynt yn eu cynorthwyo. 5:3 pryd hwnnw y daeth atynt hwy Tatnai tywysog y tu yma i’r afon, a Setharbosnai, a’u cyfeillion, ac fel hyn y dywedasant wrthynt; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y muriau hyn? 5:4 Yna fel hyn y dywedasom wrthynt; Beth yw enwau y gwŷr a adeiladant yr adeiladaeth yma? 5:5 A golwg eu Duw oedd ar henuriaid yr Iddewon, fel na wnaethant iddynt beidio, nes dyfod yr achos at Dareius; ac yna yr atebasant trwy lythyr am hyn. 5:6 Ystyr y llythyr a anfonodd Tatnai: tywysog y tu yma i’r afon, a Setharbosnai, a’i gyfeillion yr Affarsachiaid, y rhai oedd o’r tu yma i’r afon, at y brenin Dareius: 5:7 Anfonasant lythyr ato ef, ac fel hyn, yr ysgrifenasid ynddo; Pob heddwch i’r brenin Dareius. 5:8 Bydded hysbys i’r brenin, fyned ohonom ni i dalaith Jwdea, i dŷ y Duw mawr, a bod yn ei adeiladu ef â meini mawr, a bod yn gosod coed yn ei barwydydd ef, a bod y gwaith yn myned rhagddo ar frys, a’i fod yn llwyddo yn eu dwylo hwynt. 5:9 Yna y gofynasom i’r henuriaid hynny, ac a ddywedasom wrthynt fel hyn; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y mur yma? 5:10 Gofynasom hefyd iddynt eu henwau, fel yr hysbysem i ti, ac fel yr ysgrifennem enwau y gwŷr oedd yn bennau iddynt. 5:11 A’r geiriau hyn a atebasant hwy i ni, gan ddywedyd, Nyni ydym weision Duw nef a daear, ac yn adeiladu y tŷ yr hwn a adeiladwyd cyn hyn lawer o flynyddoedd; a brenin mawr o Israel a’i hadeiladodd, ac a’i seiliodd ef. 5:12 Eithr wedi i’n tadau ni ddigio Duw y nefoedd, efe a’u rhoddes hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, y Caldead; a’r tŷ<noinclude><references/></noinclude> 0z5w81bm0zw44dk5qyxrowhh5sxgqg4 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/495 104 3750 171551 6992 2026-10-09T05:48:30Z Tylopous 3717 penodau 171551 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>hwn a ddinistriodd efe, ac a gaethgludodd y bobl i Babilon. 5:13 Ond yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Babilon y rhoddes y brenin Cyrus orchymyn i adeiladu y tŷ DDUW hwn. 5:14 A llestri tŷ DDUW hefyd o aur ac arian, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor o’r deml yn Jerwsalem, ac a’u dygasai i deml Babilon, y rhai hynny a ddug y brenin Cyrus allan o deml Babilon, a rhoddwyd hwynt i un Sesbassar wrth ei enw, yr hwn a osodasai efe yn dywysog; 5:15 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer y llestri hyn, dos, dwg hwynt i’r deml yn Jerwsalem, ac adeilader tŷ DDUW yn ei le. 5:16 Yna y daeth y Sesbassar hwnnw, ac a osododd sylfeini tŷ DDUW yn Jerwsalem. Ac o’r pryd hwnnw hyd yr awr hon yr ydys yn ei adeiladu, ac nis gorffennwyd ef. 5:17 Ac yn awr, os da gan y brenin, ceisier yn nhrysordy y brenin yna yn Babilon, a ddarfu i’r brenin Cyrus osod gorchymyn am adeiladu y tŷ DDUW hwn yn Jerwsalem; ac anfoned y brenin ei ewyllys atom am y peth hyn. {{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}} {{bach|1 ''Darïus, wedi gweled gorchymyn Cyrus, yn rhoi gorchymyn newydd i yrru gwaith y deml ym mlaen.'' 13 ''Gorphen y deml, trwy gymmorth y gelynion, a chyfarwyddiad y prophwydi.'' 16 ''Cadw gwyl y cyssegriad,'' 19 ''a gwyl y Pasc.''}} {{angor|6:1}} {{uc|Yna}} y brenin Dareius a osododd orchymyn; a chwiliwyd yn nhŷ y llyfrau, lle y cedwid y trysorau yn Babilon. 6:2 A chafwyd yn Achmetha, yn y Llys yn nhalaith Media, ryw lyfr, ac fel hyn yr ysgrifenasid ynddo yn goffadwriaeth: 6:3 Yn y flwyddyn gyntaf i’r brenin Cyrus y gosododd y brenin Cyrus orchymyn am dŷ DDUW o fewn Jerwsalem, Adeilader y tŷ, y fan lle yr aberthent aberthau, a gwnaer yn gadarn ei sylfeini; yn drigain cufydd ei uchder, ac yn drigain cufydd ei led: 6:4 Yn dair rhes o feini mawr, a rhes o goed newydd: a rhodder y draul o dŷ y brenin. 6:5 A llestri tŷ DDUW hefyd, yn aur ac yn arian, y rhai a ddug Nebuchodonosor o’r deml yn Jerwsalem, ac a ddug efe adref i Babilon, rhodder hwynt i’w dwyn i’r deml yn Jerwsalem, i’w lle, a gosoder hwynt yn nhŷ DDUW. 6:6 Yn awr Tatnai tywysog y tu hwnt i’r afon, Setharbosnai, a’ch cyfeillion yr Affarsachiaid, y rhai ydych o’r tu hwnt i’r afon, ciliwch oddi yno. 6:7 Gadewch yn llonydd waith y tŷ DDUW hwn: adeiladed tywysogion a henuriaid yr Iddewon y tŷ hwn i DDUW yn ei le. 6:8 Gosodais hefyd orchymyn am yr hyn a wnewch i henuriaid yr Iddewon hyn wrth adeiladu y tŷ DDUW hwn; mai o gyfoeth y brenin, sef o’r deyrnged o’r tu hwnt i’r afon, y rhoddir traul i’r gwŷr hyn, fel na pheidio y gwaith. 6:9 A’r hyn a fyddo angenrheiduil i boethoffrymau DUW y nefoedd, yn eidionau, neu yn hyrddod, neu yn ŵyn, yn yd, yn halen, yn win, ac yn olew, yn ôl yr hyn a ddywedo yr offeiriaid sydd yn Jerwsalem, rhodder iddynt bob dydd yn ddi-baid: 6:10 Fel yr offrymont aroglau peraidd i DDUW y nefoedd, ac y gweddïont dros einioes y brenin, a’i feibion. 6:11 Gosodais hefyd orchymyn, pa ddyn bynnag a newidio y gair hwn, tynner coed o’i dŷ ef, a gosoder i sefyll, ac ar hwnnw croger ef; a bydded ei dŷ ef yn domen am hynny. 6:12 A’r Duw, yr hwn a wnaeth i’w enw breswylio yno, a ddinistria bob brenin a phobl a estynno ei law i newidio ac i ddistrywio y tŷ hwn eiddo DUW yn Jerwsalem. Myfi Dareius a osodais y gorchymyn; gwneler ef yn ebrwydd. 6:13 Yna Tatnai tywysog y tu yma i’r afon, Setharbosnai, a’u cyfeillion, megis yr anfonodd y brenin Dareius, felly y gwnaethant yn ebrwydd. 6:14 A henuriaid yr Iddewon a adeiladasant, ac a lwyddasant trwy broffwydoliaeth Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido; ie, adeiladasant, a gorffenasant, wrth orchymyn DUW Israel, ac wrth orchymyn Cyrus a Dareius, ac Artacsercses brenin Persia. 6:15 A’r tŷ hwn a orffennwyd y trydydd dydd o fis Adar, pan oedd y chweched flwyddyn o deyrnasiad y brenin Dareius. 6:16 A meibion Israel, yr offeiriaid a’r Lefiaid, a’r rhan arall o feibion y gaethglud, a gyssegrasant y<noinclude><references/></noinclude> 8mt9xa6e1cs3116u1mewqone88jk4jc Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/496 104 3751 171552 6993 2026-10-09T05:49:59Z Tylopous 3717 penodau 171552 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>tŷ hwn eiddo DUW mewn llawenydd; 6:17 Ac a offrymasant wrth gysegru y tŷ hwn eiddo Duw, gant o ychen, dau cant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, a deuddeg o fychod geifr, yn bech-aberth dros Israel, yn ôl rhifedi llwythau Israel. 6:18 Gosodasant hefyd yr offeiriaid yn eu diosbarthiadau, a’r Lefiaid yn eu cylchoedd hwythau, i wasanaeth DUW yn Jerwsalem, yn ôl ysgrifen llyfr Moses. 6:19 Meibion y gaethglud hefyd a gadwasant y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis cyntaf. 6:20 Canys yr offeiriaid a’r Lefiaid a ymlanhasant yn gytûn, yn lân i gyd oll, ac a aberthasant y Pasg dros holl feibion y gaethglud, a thros eu brodyr yr offeiriaid, a throstynt eu hunain. 6:21 A meibion Israel, y rhai a ddychwelasent o’r gaethglud, a phob un a ymneilltuasai oddi wrth halogedigaeth cenhedloedd y wlad atynt hwy, i geisio ARGLWYDD DDUW Israel, a fwytasant, 6:22 Ac a gadwasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod mewn llawenydd: canys yr ARGLWYDD a’u llawenhasai hwynt, ac a droesai galon brenin Asyria atynt hwy, i’w cynorthwyo hwynt yng ngwaith tŷ DDUW, DUW Israel. {{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}} {{bach|1 ''Ezra yn myned i fynu i Jerusalem,'' 11 ''wedi cael cennad a gorchymyn gan Artaxerxes;'' 27 ''ac yn bendithio Duw am ei drugaredd.''}} {{angor|7:1}} {{uc|Ac}} wedi y pethau hyn, yn nheyrnasiad Artacsercses brenin Persia, Esra, mab Seraia, fab Asareia, fab Hilceia, 7:2 Fab Salum, fab Sadoc, fab Ahitub, 7:3 Fab Amareia, fab Asareia, fab Meraioth, 7:4 Fab Seraheia, fab Ussi, fab Bucci, 7:5 Fab Abisua, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad pennaf: 7:6 Yr Esra hwn a aeth i fyny o Babilon; ac efe oedd ysgrifennydd cyflym yng nghyfraith Moses, yr hon a roddasai ARGLWYDD DDUW Israel: a’r brenin a roddes iddo ef ei holl ddymuniad, fel yr ydoedd llaw yr ARGLWYDD ei DDUW arno ef. 7:7 A rhai a aethant i fyny o feibion Israel, ac o’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r cantorion, a’r porthorion, a’r Nethiniaid, i Jerwsalem, yn y seithfed flwyddyn i’r brenin Artacsercses. 7:8 Ac efe a ddaeth i Jerwsalem yn y pumed mis, yr hwn oedd yn y seithfed flwyddyn i’r brenin. 7:9 Canys ar y dydd cyntaf o’r mis cyntaf y dechreuodd efe fyned i fyny o Babilon; ac ar y dydd cyntaf o’r pumed mis y daeth efe i Jerwsalem, fel yr oedd daionus law ei DDUW gydag ef. 7:10 Canys Esra a baratoesai ei galon i geisio cyfraith yr ARGLWYDD, ac i’w gwneuthur, ac i ddysgu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau. 7:11 A dyma ystyr y llythyr a roddodd y brenin Artacsercses i Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd, sef ysgrifennydd geiriau gorchmynion yr ARGLWYDD, a’i ddeddfau ef i Israel. 7:12 Artacsercses brenin y brenhinoedd at Esra yr offeiriad, ysgrifennydd deddf DUW y nefoedd, perffaith dangnefedd, a’r amser a’r amser. 7:13 Myfi a osodais orchymyn, fod i bwy bynnag yn fy nheyrnas i o bobl Israel, ac o’i offeiriaid ef, a’i Lefiaid, sydd ewyllysgar i fyned i Jerwsalem, gael myned gyda thi. 7:14 Oherwydd dy anfon di oddi wrth y brenin, a’i saith gynghoriaid, i ymweled â Jwda ac â Jerwsalem, wrth gyfraith dy DDUW yr hon sydd yn dy law di, 7:15 Ac i ddwyn yr arian a’r aur a offrymodd y brenin a’i gynghoriaid, ohonynt eu hunain, i DDUW Israel, yr hwn y mae ei breswylfa yn Jerwsalem, 7:16 A’r holl arian a’r aur a fedrych ei gael yn holl dalaith Babilon, gydag offrymau gwirfodd y bobl a’r offeiriaid, y rhai a offrymant ohonynt eu hunain tuag at dŷ eu Duw yn Jerwsalem: 7:17 Fel y prynych yn ebrwydd â’r arian hynny ychen, hyrddod, ŵyn, a’u bwyd-offrymau, a’u diod-offrymau, a’u hoffrwm hwynt ar allor tŷ eich Duw yn Jerwsalem. 7:18 A’r hyn a fyddo da gennyt ti, a chan dy frodyr, ei wneuthur a’r rhan arall o’r arian a’r aur, gwnewch yn ôl ewyllys eich DUW. 7:19 A’r llestri, y rhai a roddwyd i ti i wasanaeth tŷ dy DDUW, dod adref o flaen dy DDUW yn Jerwsalem. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> fdvy1jldytt19smw0sq1m7x858kaqly Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/497 104 3752 171553 6994 2026-10-09T05:52:40Z Tylopous 3717 penodau 171553 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>7:20 A pheth bynnag ychwaneg a fyddo anghenraid i dŷ dy DDUW, yr hyn a ddigwyddo i ti ei roddi, a roddi di o drysordy y brenin. 7:21 A minnau y brenin Artacsercses ydwyf yn gosod gorchymyn i holl drysorwyr y tu hwnt i’r afon, beth bynnag a geisio Esra, offeiriad, ac ysgrifennydd deddf Duw y nefoedd, gennych, gwneler yn ebrwydd; 7:22 Hyd gan talent o arian, a hyd gan corus o wenith, a hyd gan bath o win, a hyd gan bath o olew, a halen heb fesur. 7:23 Beth bynnag yw gorchymyn DUW y nefoedd, gwneler yn ddyfal i dŷ DUW y nefoedd: canys paham y byddai llidiowgrwydd yn erbyn teyrnas y brenin a’i feibion? 7:24 Yr ydym yn hysbysu i chwi hefyd, am yr holl offeiriaid, a’r Lefiaid, cantorion, porthorion, Nethiniaid, a gweinidogion y tŷ DDUW hwn, na ellir bwrw arnynt doll, na theyrnged, na threth. 7:25 Tithau, Esra, yn ôl doethineb dy DDUW, yr hwn sydd yn dy law, gosod gwyddogion a barnwyr, i farnu yr holl bobl o’r tu hwnt i’r afon, y rhai oll a fedrant gyfraith dy DDUW; a dysgwch y rhai nis medrant. 7:26 A phwy bynnag ni wnelo gyfraith dy DDUW, a chyfraith y brenin, gwneler barn yn ebrwydd arno ef, pa un bynnag ai i farwolaeth, ai i’w ddeol, ai i ddirwy o dda; ai i garchar. 7:27 Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW ein tadau, yr hwn a roddes fel hyn yng nghalon y brenin, i harddu tŷ yr ARGLWYDD yr hwn sydd yn Jerwsalem: 7:28 Ac a barodd i mi drugaredd o flaen y brenin a’i gynghoriaid, ac o flaen holl gedyrn dywysogion y brenin. A mi a gynorthwywyd, fel yr oedd llaw yr ARGLWYDD fy Nuw arnaf fi, a chesglais o Israel benaethiaid i fyned i fyny gyda mi. {{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}} {{bach|1 ''Pa rai a ddychwelasant gyd âg Ezra o Babilon.'' 15 ''Ezra yn danfon at Ido am weinidogion i’r deml:'' 21 ''yn cadw ympryd:'' 24 ''yn gorchymyn y trysorau i gadwraeth yr offeiriaid.'' 31 ''Y bobl yn dyfod o Ahafa i Jerusalem.'' 33 ''Pwyso y trysor yn y deml.'' 36 ''Rhoi gorchymyn y brenhin at y pendefigion.''}} {{angor|8:1}} {{uc|A dyma}} eu pennau-cenedl hwynt, a’u hachau, y rhai a aeth i fyny gyda mi, yn nheyrnasiad Artacsercses brenin, allan o Babilon. 8:2 O feibion Phinees; Gersom: o feibion Ithamar; Daniel: o feibion Dafydd; Hattus: 8:3 O feibion Sechaneia, o feibion Pharos; Sechareia: a chydag ef y rhifwyd wrth eu hachau gant a deg a deugain o wrywiaid. 8:4 O feibion Pahath-Moab; Elihoenai mab Seraheia, a chydag ef ddau cant o wrywiaid. 8:5 O feibion Sechaneia; mab Jahasiel, a chydag ef dri chant o wrywiaid. 8:6 O feibion Adin hefyd; Ebed mab Jonathan, a chydag ef ddeg a deugain o wrywiaid. 8:7 Ac o feibion Elam; Jesaia mab Athaleia, a chydag ef ddeg a thrigain o wrywiaid. 8:8 Ac o feibion Seffatia; Sebadeia mab Michael, a chydag ef bedwar ugain o wrywiaid. 8:9 O feibion Joab; Obadeia mab Jehiel, a chydag ef ddau cant a deunaw o wrywiaid. 8:10 Ac o feibion Selomith; mab Josiffia, a chydag ef wyth ugain o wrywiaid. 8:11 Ac o feibion Bebai; Sechareia mab Bebai, a chydag ef wyth ar hugain o wrywiaid. 8:12 Ac o feibion Asgad; Johanan mab Haccatan, a chydag ef ddeng mab a chant. 8:13 Ac o feibion olaf Adonicam, dyma hefyd eu henwau hwynt, Eliffelet, Jeiel, a Semaia, a chyda hwynt drigain o wrywiaid. 8:14 Ac o feibion Bigfai; Uthai, a Sabbud, a chyda hwynt ddeg a thrigain o wrywiaid. 8:15 A chesglais hwynt wrth yr afon sydd yn myned i Ahafa; ac yno y gwersyllasom ni dridiau: a mi a ystyriais y bobl, a’r offeiriaid, ond ni chefais yno neb o feibion Lefi. 8:16 Yna yr anfonais am Elieser, am Ariel, am Semaia, ac am Elnathan, ac am Jarib, ac am Elnathan, ac am Nathan, ac am Sechareia, ac am Mesulam, y penaethiaid; ac am Joiarib, ac am Elnathan, y rhai doethion: 8:17 A rhoddais orchymyn gyda hwynt at Ido, y pennaeth yn y fan a elwir Chasiffia; a<noinclude><references/></noinclude> gpne60om34lfrri3i527172fm8132db Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/498 104 3753 171554 6996 2026-10-09T05:54:07Z Tylopous 3717 penodau 171554 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>gosodais yn eu pennau hwynt eiriau i’w traethu wrth Ido, a’i frodyr y Nethiniaid, yn y fan a elwir Chasiffia, fel y dygent atom ni weinidogion i dŷ ein Duw. 8:18 A hwy a ddygasant atom, fel yr oedd daionus law ein Duw arnom ni, ŵr deallgar o feibion Mahli, fab Lefi, fab Israel, a Serebeia, a’i feibion, a’i frodyr, ddeunaw; 8:19 A Hasabeia, a chydag ef Jesaia o feibion Merasi, a’i frodyr, a’u meibion, ugain; 8:20 Ac o’r Nethiniaid, a roddasai Dafydd a’r tywysogion yng ngwasanaeth y Lefiaid, dau cant ac ugain o Nethiniaid: hwynt oll a hysbysasid erbyn eu henwau. 8:21 Ac yno, wrth afon Ahafa, y cyhoeddais ympryd, i ymgystuddio gerbron ein DUW ni, i geisio ganddo ef ffordd union i ni, ac i’n plant, ac i’n golud oll. 8:22 Canys cywilydd oedd gennyf geisio gan y brenin fyddin a gwŷr meirch, i’n cynorthwyo rhag y gelyn ar y ffordd: canys llefarasem wrth y brenin, gan ddywedyd, Llaw ein Duw ni sydd er daioni ar bawb a’i ceisiant ef, a’i gryfder a’i ddicter yn erbyn pawb a’i gadawant ef. 8:23 Am hynny yr ymprydiasom ac yr ymbiliasom â’n Duw am hyn; ac efe a wrandawodd amom. 8:24 Yna y neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid, Serebeia, Hasabeia, a deg o’u brodyr gyda hwynt; 8:25 Ac a bwysais atynt hwy yr arian, a’r aur, a’r llestri, sef offrwm tŷ ein Duw ni, yr hyn a offrymasai y brenin, a’i gynghoriaid, a’i dywysogion, a holl Israel, y rhai a gawsid yno. 8:26 Ie, pwysais i’w dwylo hwynt chwe chant a deg a deugain talent o arian, ac o lestri arian gan talent, a chan talent o aur; 8:27 Ac ugain o orflychau aur o fil o ddracmonau; a dau lestr o bres melyn da, mor brydferth ag aur. 8:28 A dywedais wrthynt, Sanctaidd ydych chwi i’r ARGLWYDD; a’r llestri ydynt sanctaidd; yr arian hefyd a’r aur sydd offrwm gwirfodd i ARGLWYDD DDUW eich tadau. 8:29 Gwyliwch, a chedwch hwynt, hyd oni phwysoch hwynt gerbron penaethiaid yr offeiriaid a’r Lefiaid, a phennau-cenedl Israel yn Jerwsalem, yng nghelloedd tŷ yr ARGLWYDD. 8:30 Felly yr offeiriaid a’r Lefiaid a gymerasant bwys yr arian, a’r aur, a’r llestri, i’w dwyn i Jerwsalem i dŷ ein Duw ni. ; 8:31 A chychwynasom oddi wrth afon Ahafa, ar y deuddegfed dydd o’r mis cyntaf i fyned i Jerwsalem: a llaw ein ein Duw oedd arnom ni, ac a gwaredodd o law y gelyn, a’r rhai oedd yn cynllwyn ar y ffordd. 8:32 A ni a ddaethom i Jerwsalem, ac a arosasom yno dridiau. 8:33 Ac ar y pedwerydd dydd y pwyswyd yr arian, a’r aur, a’r llestri, yn nhŷ ein DUW ni, trwy law Meremoth mab Ureia yr offeiriad; ac Eleasar mab Phinees oedd gydag ef; a Josabad mab Jesua, a Noadeia mab Binnui, y Lefiaid, oedd gyda hwynt; 8:34 Wrth rifedi ac wrth bwys pob un: a’r holl bwysau a ysgrifennwyd y pryd hwnnw. 8:35 Meibion y gaethglud, y rhai a ddaeth o’r caethiwed, a offrymasant boethoffrymau i DDUW Israel, sef deuddeg o fustych dros holl Israel, onid pedwar pum ugain o hyrddod, namyn tri pedwar again o ŵyn, a deuddeg o fychod yn bech-aberth: y cwbl oedd yn offrwm poeth i’r ARGLWVDD. 8:36 A rhoddasant orchymyn y brenin at bendefigion y brenin, a thywysogion y tu hwnt i’r afon: a hwy a gynorthwyasant y bobl, a thŷ Duw. {{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}} {{bach|1 ''Ezra yn gofidio am fod y bobl yn ymgyfathrachu â dïeithriaid;'' 5 ''yn gweddïo Duw, ac yn cyfaddef eu pechodau hwynt.''}} {{angor|9:1}} {{uc|Ac}} wedi darfod hynny, y tywysogion a ddaethant ataf fi, gan ddywedyd, Nid ymneilltuodd pobl Israel, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid, oddi wrth bobl y gwledydd: gwnaethant yn ôl eu ffieidd-dra hwynt; sef y Canaaneaid, yr Hethiaid, y Pheresiaid, y Jebusiaid, yr Ammoniaid, y Moabiaid, yr Eifftiaid, a’r Amoriaid. 9:2Canys cymerasant o’u merched iddynt eu hun, ac i’w meibion; a’r had sanctaidd a ymgymysgodd â phobl y gwledydd: a llaw y penaethiaid a’r tywysogion fu gyntaf yn y camwedd hyn. 9:3 Pan glywais innau hyn, mi a rwygais fy nillad a’m gwisg, ac a dynnais wallt fy mhen a’m barf, ac a eisteddais yn syn. 9:4 Yna yr ymgasglodd ataf fi bob<noinclude><references/></noinclude> pttqbtt0towtz6z6rm0reiu5m6rqyka Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/499 104 3754 171555 6997 2026-10-09T05:56:19Z Tylopous 3717 penodau 171555 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>un a’r a ofnodd eiriau Duw Israel, am gamwedd y rhai a gaethgludasid; a myfi a eisteddais yn syn hyd yr aberth prynhawnol. 9:5 Ac ar yr aberth prynhawnol mi a gyfodais o’m cystudd; ac wedi i mi rwygo fy nillad a’m gwisg, mi a ostyngais ar fy ngliniau, ac a ledais fy nwylo at yr ARGLWYDD fy NUW, 9:6 Ac a ddywedais, O fy NUW, y mae arnaf gywilydd a gorchwyledd godi fy wyneb atat ti, fy Nuw; oherwydd ein hanwireddau ni a aethant yn aml dros ben, a’n camwedd a dyfodd hyd y nefoedd. 9:7 Er dyddiau ein tadau yr ydym ni mewn camwedd mawr hyd y dydd hwn; ac am ein hanwireddau y rhoddwyd ni, ein brenhinoedd, a’n hoffeiriaid, i law brenhinoedd y gwledydd, i’r cleddyf, i gaethiwed, ac i anrhaith, ac i warthrudd wyneb, megis heddiw. 9:8 Ac yn awr dros ennyd fechan y daeth gras oddi wrth yr ARGLWYDD ein Duw, i adael i ni weddill i ddianc, ac i roddi i ni hoel yn ei le sanctaidd ef; fel y goleuai ein Duw ein llygaid, ac y rhoddai i ni ychydig orffwystra yn ein caethiwed. 9:9 Canys caethion oeddem ni; ond ni adawodd ein DUW ni yn ein caethiwed, eithr parodd i ni drugaredd o fluen brenhinoedd Persia, i roddi i ni orffwystra iddyrchafu tŷ ein Duw ni, ac i gyfodi ei leoedd anghyfannedd ef, ac i roddi i ni fur yn Jwda a Jerwsalem. 9:10 Ac yn awr beth a ddywedwn wedi hyn, O ein Duw? canys gadawsom dy orchmynion di, 9:11 Y rhai a orchmynnaist trwy law dy weision y proffwydi, gan ddywedyd, Y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu, gwlad halogedig yw hi, trwy halogedigaeth pobi y gwledydd, oblegid eu ffieidd-dra hwynt, y rhai a’i llanwasant hi â’u haflendid o gwr bwygilydd. 9:12 Ac yn awr, na roddwch eich merched i’w meibion hwynt, ac na chymerwch eu merched hwynt i’ch meibion chwi, ac na cheisiwch eu heddwch hwynt na’u daioni byth: fel y cryfhaoch, ac y mwynhaoch ddaioni y wlad, ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i’ch meibion byth. 9:13 Ac wedi yr hyn oll a ddaeth arnom am ein drwg weithredoedd, a’n mawr gamwedd, am i ti ein Duw ein cosbi yn llai na’n hanwiredd, a rhoddi i ni ddihangfa fel hyn; 9:14 A dorrem ni drachefn dy orchmynion di, ac ymgyfathrachu a’r ffiaidd bobl hyn? oni ddigit ti wrthym, nes ein difetha, fel na byddai un gweddill na dihangol? 9:15 ARGLWYDD DDUW Israel, cyfiawn. ydwyt ti; eithr gweddill dihangol ydym ni, megis heddiw; wele ni o’th flaen di yn ein camweddau; canys ni allwn ni sefyll o’th flaen di am hyn. {{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}} {{bach|1 ''Sechanïah yn annog Ezra i ddiwygio y prïodasau dïeithr.'' 6 ''Ezra yn galaru, ac yn casglu y bobl ynghyd.'' 9 ''Y bobl, trwy eiriol Ezra, yn edifarhâu, ac yn addaw gewllhâu.'' 15 ''Eu gofal am gyflawni hynny.'' 18 ''Enwau y rhai a brïodasai wragedd dïeithr.''}} {{angor|10:1}} {{uc|Ac}} wedi i Esra weddïo a chyffesu, gan wylo a syrthio i lawr o flaen tŷ DDUW, tyrfa fawr o Israel a ymgasglasant ef, yn wŷr, ac yn wragedd, ac yn blant: canys y bobl a wylasant ag wylofain mawr 10:2 Yna y llefarodd Sechaneia mab Jehiel, o feibion Elam, ac a ddywedodd wrth Esra, Ni a bechasom yn erbyn ein DUW, ac a gytaliasom â gwragedd dieithr o bobl y wlad: etc yn awr y mae gobaith i Israel am hyn. 10:3 Yn awr, gan hynny, gwnawn gyfamod â’n Duw, ar fwrw allan yr holl wragedd, a’u plant, wrth gyngor yr ARGLWYDD, a’r rhai a ofnant orchmynion ein DUW: a gwneler yn ôl y gyfraith. 10:4 Cyfod; canys arnat ti y mae y peth: a ni a fyddwn gyda thi: ymwrola, a gwna. 10:5 Yna y cyfododd Esra, ac a dyngodd benaethiaid yr offeiriaid a’r Lefiaid, a holl Israel, ar wneuthur yn ôl y peth hyn. A hwy a dyngasant. 10:6 Yna y cyfododd Esra o flaen tŷ DUW, ac a aeth i ystafell Johanan mab Eliasib: a phan ddaeth yno, ni fwytaodd fara, ac nid yfodd ddwfr; canys galaru yr oedd am gamwedd y gaethglud. 10:7 A chyhoeddasant yn Jwda a Jerwsalem, ar i holl feibion y gaethglud ymgaslu i Jerwsalem; 10:8 A phwy bynnag ni ddelai o fewn tridiau, yn ôl cyngor y penaethiaid a’r henuriaid, efa a gollai<noinclude><references/></noinclude> iulvi1kuqtdoupil4d56xys0senotcu Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/501 104 3756 171556 171292 2026-10-09T05:59:56Z Tylopous 3717 penodau 171556 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Nehemiah}}}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|1 ''Nehemïah, wrth glywed gan Hanani ddrwg gyflwr Jerusalem, yn galaru, ac yn ymprydio, ac yn gweddïo.'' 5 ''Ei weddi ef.''}} {{angor|1:1}} {{uc|Geiriau}} Nehemeia mab Hachaleia. A bu ym mis Cisleu, yn yr ugeinfed flwyddyn, pan oeddwn i ym mrenhinllys Susan, 1:2 Ddyfod o Hanani, un o’m brodyr, efe a gwŷr o Jwda, a gofynnais iddynt am yr Iddewon a ddianghasai, y rhai a adawsid o’r caethiwed, ac am Jerwsalem. 1:3 A hwy a ddywedasant wrthyf, Y gweddillion, y rhai a adawyd o’r gaethglud yno yn y dalaith ydynt mewn blinder mawr a gwaradwydd: mur Jerwsalem hefyd a ddrylliwyd, a’i phyrth a losgwyd â thân. 1:4 A phan glywais y geiriau hyn, myfi a eisteddais ac a wylais, ac a alerais dalm o ddyddiau; a bûm yn ymprydio, ac yn gweddïo gerbron Duw y nefoedd; 1:5 A dywedais, Atolwg, ARGLWYDD DUW y nefoedd, y DUW mawr ofnadwy, yr hwn sydd yn cadw cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant ef ac a gadwant ei orchmynion: 1:6 Bydded, atolwg, dy glust yn clywed, a’th lygaid yn agored, i wrando ar weddi dy was, yr hon yr ydwyf fi yn ei gweddïo ger dy fron di yr awr hon ddydd a nos, dros feibion Israel dy weision, ac yn cynesu pechodau meibion Israel, y rhai a bechasom i’th erbyn: myfi hefyd a thŷ fy nhad a bechasom. 1:7 Gwnaethom yn llygredig iawn i’th erbyn, ac ni chadwasom y gorchmynion, na’r deddfau, na’r barnedigaethau, a orchmynnaist i Moses dy was. 1:8 Cofia, atolwg, y gair a orchmynnaist wrth Moses dy was, gan ddywedyd, Os chwi a droseddwch, myfi a’ch gwasgaraf chwi ymysg y bobloedd: 1:9 Ond os dychwelwch ataf fi, a chadw fy ngorchmynion, a’u gwneuthur hwynt, pe gyrrid rhai ohonoch chwi hyd eithaf y nefoedd, eto mi a’u casglaf hwynt oddi yno, ac a’u dygaf i’r lle a etholais i drigo o’m henw ynddo. 1:10 A hwy ydynt dy weision a’th bobl, y rhai a waredaist â’th fawr allu, ac â’th law nerthol. 1:11 Atolwg, ARGLWYDD, bydded yn awr dy glust yn gwrando ar weddi dy was, ac ar weddi dy weision y rhai sydd yn ewyllysio ofni dy enw: llwydda hefyd, atolwg, dy was heddiw, a chaniatâ iddo gael trugaredd gerbron y gŵr hwn. Canys myfi oedd drulliad i’r brenin. {{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}} {{bach|1 ''Artaxerxes, pan wybu yr achos yr oedd Nehemïah yn athrist, yn ei anfon ef â llythyrau ac â gorchymynion i Jerusalem.'' 9 ''Nehemïah yn dyfod i Jerusalem, a’r gelynion yn ddrwg ganddynt hynny.'' 12 ''Yntau yn gyfrinachol yn golygu adfail y caerau,'' 17 ''ac yn annog yr Iuddewon i adeiladu Jerusalem, ar gwaethaf eu gelynion.''}} {{angor|2:1}} {{uc|Ac}} ym mis Nisan, yn yr ugeinfed flwyddyn i Artacsercses y brenin, yr oedd gwin o’i flaen ef: a mi a gymerais y gwin, ac a’i rhoddais i’r brenin. Ond ni byddwn arferol o fod yn drist ger ei fron ef. 2:3 Am hynny y brenin a ddywedodd wrthyf, Paham y mae dy wynepryd yn drist, a thithau heb fod yn glaf? nid yw hyn ond tristwch calon. Yna yr ofnais yn ddirfawr: 2:4 A dywedais wrth y brenin, Byw fyddo’r brenin yn dragywydd: paham na thristái fy wyneb, pan fyddai y ddinas, tŷ beddrod fy nhadau, wedi ei dinistrio, a’i phyrth wedi eu hysu â thân? 2:4 A’r brenin a ddywedodd wrthyf. Pa beth yr wyt ti yn ei ddymuno? Yna y gweddïais ar DDUW y nefoedd. 2:5 A mi a ddywedais wrth y brenin, O rhynga bodd i’r brenin, ac od yw dy was yn gymeradwy ger dy fron di, ar i ti fy anfon i Jwda, i ddinas beddrod fy nhadau, fel yr adeiladwyf hi. 2:6 A’r brenin a ddywedodd wrthyf, a’i wraig yn eistedd yn ei ymyl ef, Pa hyd y bydd dy daith di, a pha bryd y dychweli? A gwelodd y brenin yn dda fy anfon i, a minnau a nodais iddo amser. 2:7 Yna y dywedais wrth y brenin, O rhynga bodd i’r brenin, rhodder i mi lythyrau at y tywysogion o’r<noinclude><references/></noinclude> t03e5mfo126tx1jcs5npeolgu90rtaz Tudalen:Madam Wen.djvu/114 104 33432 171557 76110 2026-10-09T09:51:46Z ~2026-54187-97 4257 171557 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>codi eu pennau. Gwelodd y lleidr hefyd anawsterau yn ei fygwth yntau, a rhagflaenodd un ohonynt trwy ddywedyd ar unwaith, "Fyddai wiw i mi feddwl am adael i'r slŵp ddianc. Mi fyddai hynny'n ddigon am fy hoedl ymysg yr anwariaid sydd o'm cwmpas." "Byddai yn ddiau," atebodd hithau, gan weled mai ffolineb ar hyn o bryd fyddai gwrthddywedyd. Yr oedd yn ddihareb nad oedd y gronyn lleiaf o ymddiried y naill yn y llall ymysg y môr-ladron. Gwyddai Abel Owen mai y mymryn lleiaf fuasai yn troi'r fantol yn ei erbyn ef. Un camgymeriad o'i eiddo a fuasai yn ddigon o reswm dros i rywun arall godi fel arweinydd, a chael cefnogaeth y criw. Yna ni buasai ei fywyd ef—Abel—yn werth botwm. Fel y rhelyw o'i dylwyth, yr oedd yn barod i ddywedyd faint a fynnid o gelwyddau, i dwyllo hyd yn oed ei frawd ei hun, ac i dywallt gwaed fel y môr os gelwid am hynny gan hwylustod y foment. "Rhaid i mi gael gair efo'r dynion yma," meddai, "onid e mi fydd yma helynt. Mae yma ddau neu dri o rai peryglus." Arweiniwyd Madam Wen i lawr i'r caban tra byddai'r capten yn cael trafodaeth gyda dwsin o'r gwŷr a ofnai fwyaf. Dywedodd lawer o gelwyddau wrthynt, fel y digwyddai daro i'w feddwl beth oedd debycaf o roddi bodlonrwydd. Ond yr oedd cyn baroted â neb ohonynt i goll-farnu criw'r Wennol, er cymaint oedd ei awydd am feddiannu ei pherchennog. Bychan a wyddai fod Madam Wen yn llawer hwy ei phen nag yr oedd wedi dewis ymddangos. Trwy ryw reddf oedd yn perthyn iddi, gwelodd wrth eu hwynebau, wedi darfod y drafodaeth, mai rhyw anfadwaith oedd eu bwriad. Cam byr iddi hi oedd o hynny hyd at ddyfalu beth oedd y bwriad hwnnw. Wedi iddi gael cefn y capten am funud, meddai wrth un o'r lleill, gydag amnaid i gyfeiriad y Wennol a'i chriw,' "Sut y cawn ni ymwared â hwy? Beth ydych chi am wneud â hwy? {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 2f1jwch5oecx16x1a6djm4tvah1jwrr Tudalen:Y Dreflan.djvu/122 104 88635 171505 2026-10-08T22:30:41Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171505 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD XIV.<br>JIM.}}}} RHAG fy mod yn gosod gormod o waith ar y darllenydd i ddyfalu, ysgatfydd y dylwn roddi gair o eglurhâd ar rai pethau na wnaed ond cyfeirio atynt yn y pennodau blaenorol. Un o'r pethau hyny ydyw y modd y daeth Jim i fod yn was i Mr. Pugh. Gan y rhaid i mi ynglŷn â hyn gofnodi amryw bethau lled blentynaidd, ni ddigiaf wrth y darllenydd coeth a dysgedig am neidio dros y bennod hon, gan hyderu y gallaf fod o ddyddordeb i fy nghyfeillion ieuainc y bechgyn. Hwyrach y cofir mai yr adeg y daeth Mr. Pugh i gysylltiad gyntaf â Jim ydoedd y prydnawn Sul hafaidd hwnw pan fu raid i mi fyned gydag ef i geisio rhai i'r ysgol, ac y cymerodd efe fi i Fuarth Jenkins. Dedwyddwch penaf fy hen gyfaill ydoedd gweinyddu caredigrwydd, a gwyddwn cyn i ni ddyfod o'r Buarth y prydnawn hwnw, wedi iddo wybod ychydig am helbulon Ismael, ei dlodi, ac yn enwedig am afiechyd maith ei wraig, na byddai efe yn ol o wneyd ei ran tuag at eu lleddfu. Canlyniad uniongyrchol ein hymweliad â'r Buarth oedd, rhoddi gorchymyn caeth ar Jim i ddyfod bob dydd i'r Cartrefle i geisio rhywbeth i'w fam. Ni bu Jim yn fyr o ddyfod i fyny â'r gorchymyn; ac er mai croesaw bychan a gaffai efe gan Susan y forwyn, ni feiddiai hi ei droi ymaith yn waglaw. Yr oedd teulu y Cartrefle yn ddiarebol am ganiatâu i'w gweinidogion fyned yn rhy hyf arnynt; ac nid oedd Susan yn eithriad i'r rhai a fuasai yno o'i blaen. Pan ddeuai Mr. Pugh adref gyda'r hwyr, un o'r cwestiynau cyntaf a ofynai à fyddai, "Susan, a fu Jim yma heddyw?" "Do, mi gwranta fo," meddai Susan {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> jx0imdgx3kmd5s2aq8p8hjwcf14a9jw Tudalen:Y Dreflan.djvu/123 104 88636 171506 2026-10-08T22:36:21Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171506 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Roist ti lon'd ei haffle fo o fwyd, dywed?" gofynai Mr. Pugh. "Bwyd!" meddai Susan; "wn i ddim be mae o'n neyd efo'r bwyd mae o'n gael yma! 'Rydach chi'n rhy wirion o lawer, mistar, hefo rhw hen feggars fel ene, na wyddoch ch'i pwy na be ydy'n nhw. Cawn i fy ffordd, ni chai o na'i sort damed yma byth." "Ar dy ên, Susan," atebai Mr Pugh, "rho di fwyd i Jim nes y deyda i wrthat ti am beidio." Coleddai Susan elyniaeth farwol yn erbyn pob math o gardotwyr, gan y credai mai lladron oeddynt yn ddïeithriad; a mwy pleserus o lawer ganddi hi a fuasai cymhwyso coes y brws at gefn pob un a ddeuai at ddrws y Cartrefle nag estyn un math o gymwynas iddynt. Yn ffortunus i Jim, yr oedd Mrs. Pugh yn dwyn gormod o ddelw ei gwr haelionus i ochri dim gyda Susan. Yr oedd yr hen ferch groendeneu wedi cyfrif ar gynnorthwy ei meistres i gael gwared o'r "hogyn drwg a budur oedd yn dwad at y drws bob dydd;" a mawr oedd ei syndod, a dirfawr y syrthiodd ei gwep, pan ddeallodd hi fod Mrs. Pugh yn gwybod am ymweliadau Jim, ac yn tueddu yn gryf o'i blaid. {{nop}}Meistres," ebe hi, "'rydach chi'n wirionach na mistar. 'Rydw i wedi bod mewn llawer lle; ond weles i neb yn cyrajio cymint ar rôgs a lladron." "Susan," ebe ei meistres, "nid ydyw yr hyn a roddir i Jim yn costio dim i chwi; ac y mae yr hogyn yn wir wrthddrych o dosturi. Mae tlodi mawr yn ei gartref; nid ydyw ei dad yn gryf; ac y mae ei fam yn sâl yn ei gwely er ys wythnosau." "O ïe, dene ch'i yn credu'r cwbl," ebe Susan: "yr hen stori ydi nene, mistres. Ond dydi mhamau nhw i gyd—yn sâl, a'u tadau nhw i gyd wedi marw? a rhyfedd arw fod tad hwn yn fyw!" "Susan," ebe Mrs. Pugh, "yr ydych yn galongaled." "Mi fase'ch calon chithe'n galetach, mistres, dasech chi'n gwbod cymint am danyn nhw â fi. Mi wn o'r gore mai un drwg ydi'r hogyn ene. Be dae chi'n gwel'd i<noinclude><references/></noinclude> dr1ga0rootmez5ral4y7djm3o0vyzrt Tudalen:Y Dreflan.djvu/124 104 88637 171507 2026-10-08T22:40:27Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171507 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>lygid o! Mae nhw cyn ddued â llygid y sipsiwn sy'n 'r hen ffordd lâs. Gewch ch'i wel'd fod o'n perthyn iddyn' nhw. By dae Miss Pugh ddim ond yn 'i wel'd o, y ''hi'' y cwartre fo o'r buarth yn o ''handy'', 'dwy'n meddwl Fedre fo mo'i thwyllo ''hi''." "Yr ydych yn siarad am rywbeth na wyddoch ddim yn ei gylch, Susan," ebe Mrs. Pugh; "ni wnaeth yr hogyn ddim niwed i ch'i, ai do?" "Niwed!" ebe Susan yn ddirmygus; "mi faswn yn leicio 'i wel'd o'n treio! Ac mi ddaru hefyd, ran hyny; mi chwerthodd am ben 'y nhraed i pan oeddwn i'n rhedeg ar draws y buarth ddoe; ond lwc iddo nad oeddwn i yn 'i ymyl o. Dase fo wedi dyodde cymint o ''riwmatis'' â fi, fase fynte ddim mor ''sharp'' ar 'i droed." Cafodd Mrs. Pugh drafferth i gadw ei gwyneb yn sobr wrth ofyn i Susan, "A roisoch chwi rywbeth i'r hogyn heddyw?" "Na rois i," oedd yr âteb, "'roedd o yma pan oedd 'y mistar yn y gegin, a mi rôth o ddigon iddo fo, os digon ydi llawer, heblaw fod o wedi gneyd iddo fo eistedd wrth y bwrdd. A be dasech chi'n 'i wel'd o'n byta! 'Roedd gen i ofn 'i wel'd o'n myn'd yn sâl, dase gen i ofn hefyd. A mistar yn edrach arno fo; 'roeddwn i'n synu ato fo." "Os daw y bachgen yma yfory, Susan, gadewch i mi gael gwybod," ebe Mrs. Pugh. "''Os'', ddaru ch'i ddeyd, mistres? Mi ddaw yma o hyd nes y ffeindiwch ch'i golli rhwbeth. O''s'' yn wir! ''os'' gneiff yr haul godi!" "Purion," ebe Mrs. Pugh, gan fyned ymaith. "Y dydd ydw ''i'''n fyw os gweles ''i'' bobol wirionach," ebe Susan wrthi ei hunan. Bore drannoeth a ddaeth; ac fel y prophwydasai Susan, càn sicred a bod yr haul wedi codi, yr oedd Jim wrth ddrws y Cartrefle. Gan fod yr hogyn yn berffaith ymwybodol fod ganddo orchymyn pendant Mr. Pugh wrth ei gefn, nid oedd gwyneb sarug ac anfoddog y forwyn yn effeithio mwy arno nag ar bôst y drws. Eithr pan<noinclude><references/></noinclude> 8agl0b2v2vc3rk9h4lai7k4o9gsofsw Tudalen:Y Dreflan.djvu/125 104 88638 171508 2026-10-08T23:12:57Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171508 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hysbysodd hi ef y byddai raid iddo sefyll y diwrnod hwnw o flaen Mrs. Pugh, gan awgrymu ei bod yn y pen arno, edrychodd yr hogyn braidd yn bryderus. Er fod gan y forwyn ei hammheuon ynghylch canlyniad y cydgyfarfyddiad, ymhyfrydai mewn bygwth a dychrynu y bachgen; a rhag mai hwn fuasai y cyfleusdra olaf iddi, yr oedd yn benderfynol o wneyd y defnydd goreu o hono. "Wel," ebe hi, "yr hogyn drwg gen ti, wyt ti'n barod i ddeyd ffarwel wrth y Cartrefle? Wyt ti'n meddwl fod ti wedi cario digon odd'ma bellach? Fedri di fyw ar dy floneg erbyn hyn, ddyliet ti? Rhaid i ti sefyll o flaen 'y mistres heddyw, wel di, a ''hi'' chwiliff dy bac di! Paid ti meddwl y cei di hel dy straeon wrthi hi. Hi ddangosiff i ti ple ma'r drws! Pan ddaw mistres yma—ac mi fydd yma i ti yn y mynyd—paid ti gwadu mai lleidar wyt ti, achos mae hi yn siwr o dy gael di allan." Aeth Susan ymlaen yn y ffordd hon am yspaid, gyda'r amcan o ddychrynu Jim a pheri iddo redeg ymaith; ond nid oedd efe yn gwneyd osgo at ddianc, eithr parhâi i ddyweyd yn ngwyneb pob bygythiad, "Mae Mr. Pugh yn deyd wrtha i ddŵad yma." Aeth Susan i hysbysu dyfodiad Jim i Mrs. Pugh, ac wrth fyned ysgydwai ei phen yn fygythiol ar yr hogyn, ac edrychai drach ei chefn, gan ddysgwyl ei weled yn dianc; ond yr oedd Jim yno mor sefydlog â'r cloc wyth niwrnod, wrth yr hwn yr oedd wedi cymeryd ei safle. Tra yr oedd Susan yn ceisio ei meistres, cymerodd Jim drem arno ei hun, gan ddyfalu pa argraff a gaffai yr olwg arno ar galon Mrs. Pugh. Gofidiai na fuasai yn gwybod ymlaen llaw fod y fath gyfarfyddiad i gymeryd lle, er mwyn iddo gael cyfleusdra i daclu tipyn arno ei hun. Ymgysurai, pa fodd bynag, y gallasai fod yn waeth arno; oblegid fel y dygwyddodd y peth fod, yr oedd wedi ymolchi ychydig ar ei wyneb y bore hwnw; ac er fod dwy rês ddu o bobtu ei wyneb, y rhai a ddangosent yn eglur derfynau y glanhâd—cyffelyb i'r mapiau a welir yn fynych sydd yn gosod allan y byd gwareiddiedig ac anwareiddiedig yr oedd Jim yn hoelio llawer o'i lwyddiant gyda<noinclude><references/></noinclude> 2rjhsnf5h9p9wilmbssg6r27aivfkrs Tudalen:Y Dreflan.djvu/126 104 88639 171509 2026-10-08T23:14:18Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171509 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Mrs. Pugh ar y ffaith ei fod wedi ymolchi. Ond yr hyn a gynnaliai ei ysbryd i fyny fwyaf oedd y botwm corn gwyn mawr a osodasai ar ei gôb y bore hwnw, yr hwn, o'i gymharu â'r botymau eraill, oedd fel llawn lleuad yn nghanol sêr y nef. Mor ffortunus yr oedd wedi bod wrth osod y botwm hwnw ar ei gôb cyn cychwyn oddicartref! Nid oedd yn bosibl, ystyriai Jim, i'r olwg arno beidio effeithio yn ei ffafr gyda Mrs. Pugh. Heblaw hyny, oni buasai am y botwm hwn, buasai Mrs. Pugh yn rhwym o ddyfod i wybod nad oedd gan Jim wasgod. Rhoddasai yr hogyn ei gap yn ei boced; ond gan yr achosai hyny iddi ymddangos yn fawr a chwyddedig, daeth Jim i'r penderfyniad mai doethach oedd ei dynu allan drachefn, rhag y buasai Susan yn tybied ei fod wedi lladrata rhywbeth yn ystod ei habsennoldeb. Ei bryder mawr oedd sut y gallai guddio y twll oedd yn mhen glin ei lodrau llydain, yr hwn a ddangosai fwy o'i groen Ethiopaidd nag oedd ddymunol. Daeth cynllun i'w feddwl. Gan fod ei gôb yn anarferol o laes, gorchwyl bychan oedd cymeryd y pin oedd yn ei llawes, a chydio ei dwy gongl ynghyd yn y gwaelod. "''First-rate,''" ebe Jim wrtho ei hun, gan edmygu ei ddyfais. Eithr pan glywodd efe Mrs. Pugh yn dyfod ar hyd y ''lobby'' hir, a Susan yn dyweyd rhywbeth wrthi am "wel'd drostoch y'ch hun," dechreuodd ei galon guro fel calon aderyn yn y ddalfa. "Wel, 'y ngwas bach i," ebe Mrs. Pugh, gan roddi ei llaw yn dyner ar ei ben crych, a chan edrych yn fwyn arno, "sut y mae dy fam heddyw?" "Reit sâl; cysgu dim drw'r nos," ebe Jim. "Mae yn ddrwg genyf glywed, 'y machgen i," ebe Mrs. Pugh. "Pwy sydd yn edrych ar ei hol yrwan? "Siân Jones," 'ebe'r bachgen. "A ydyw Dr. Ellis yn dal i ddyfod acw?" "Bob dydd yn ''gonstant''," ebe Jim. "Pam ddeydi di, ''mam''?' Wyt ti ddim yn gwbod hefo pwy wyt ti'n siarad, dywed?" gwaeddai Susan arno yn ffyrnig. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 83aukj69gbydifny0918rm0rq6gbiuz Tudalen:Y Dreflan.djvu/127 104 88640 171510 2026-10-08T23:15:28Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171510 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Susan," ebe Mrs. Pugh, "gadewch chwi rhyngof fi â'r bachgen." "Hyh!" ebe Susan, gan guro y pethau yn eu gilydd, a gwneyd mwy o lawer o drwst nag oedd anghenrheidiol. "Wel, 'y ngwas i," ebe Mrs. Pugh, "yr wyf yn gobeithio dy fod yn fachgen da, ac y gwnaiff dy fam fendio yn fuan." "Mae hi'n siwr o fendio," ebe Jim. "Beth sydd yn gwneyd i ti feddwl hyny, 'machgen i?" gofynai Mrs. Pugh. "Sian Jones yn gwddïo bob dydd, Doctor Ellis yn thoi ffisic, a Mr. Pugh yn rhoi bwyd," ebe Jim yn ddiniwed. Wel yn wir, 'y ngwas gwirion i, mae genyt le cryf i obeithio," ebe'r foneddiges. "Aros di," ychwanegai, "a welais i mo honot ti yn Ysgol Sul yr Hen Gapel yn ddiweddar? Beth wnaeth i ti beidio dal i ddyfod, Jim bach?" "Plant yn chwerthin am y mhen i ac yn bloeddio. 'taid' ar yn ol i," ebe Jim, gan edrych ar ei gôb fawr. "Plant drwg oedd yn gwneyd hyny, 'y ngwas i, ond na hidia; cha' nhw ddim gwaeddi 'taid' ar dy ol eto," ebe y wraig garedig. "Hyh!" ebe Susan, gan wneyd mwy fyth o drwst. Yr oedd Miss Pugh yn clywed y rhan olaf o'r ymgom, ac yn ymddangos yn cymeryd dyddordeb neillduol yn y bachgen. Wedi peth siarad pellach, dywedodd hi wrtho, "Fedri di fyn'd ar neges i mi, Jim?" "Medra," ebe Jim, gan fywiogi drwyddo. "Mae Susan," ychwanegai Miss Pugh, "braidd yn brysur heddyw, heblaw ei bod yn gloff (edrychodd Jim ar draed mawr y forwyn), ac y mae genyf eisieu i ti fyn'd a'r ''note'' yma i ''shop'' Mr. Rogers." Cychwynodd Jim y foment hono. "Aros," ebe Miss Pugh; "dyma'r pres i ti dalu am y neges." Aeth Jim ymaith fel saeth. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> qtwlvrpxriavfau6pimk42y51pg6a7k Tudalen:Y Dreflan.djvu/128 104 88641 171511 2026-10-08T23:16:20Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171511 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"'Roeddwn i'n siŵr, mistres," ebe Susan, "y gnai Miss ddyfeisio rhwbeth i brofi i ch'i mai lleidar ydi'r hogyn ene. Mi dyffeia i na welwch ch'i byth y pres na'r neges." "Dim o'r fath beth, Susan; nid oedd dim pellach o fy meddwl. Yr wyf yn sicr fod yr hogyn druan yn onest," ebe Miss Pugh. Ac ychwanegai, "Welsoch chwi yn eich bywyd, 'mam, y fath lygaid ag sydd gan y bachgen yna? Yr wyf yn sicr na welais i erioed lygaid prydferthach." "Maent yn hynod felly, Kit," ebe Mrs. Pugh; "pe byddai y creadur bach wedi ymolchi yn lân, a chael dillad taclus am dano, byddai fel pictiwr.' "Mi roddwn unrhyw beth ymron am ei weled felly, 'mam," ebe y ferch. "Wel, ti gei ei weled felly cyn y byddi yn wythnos hŷn," ebe y fam. Disgynai y geiriau hyn ar deimlad Susan fel halen ar friw, ond yr unig beth a ddywedodd oedd, "Amser neiff ddangos," gan luchio a thaflu y pethau o'i chwmpas yn ddidrugaredd. Cyn iddynt prin wybod fod Jim wedi cychwyn, yr oedd wedi dychwelyd, ac wedi colli ei wynt yn gymaint fel nad allai siarad. Yr oedd yr hogyn wedi gwneyd ei neges mewn amser mor anhygoel o fyr, fel mai o'r braidd y gallasai Miss Pugh gredu mai yn ''shop'' Mr. Rogers y cawsai efe y nwyddau, oni buasai fod enw y gŵr parchus hwnw wrth y ''receipt''. Teimlai Susan mor ddigofus am na phrofasai Jim ei hun yn lleidr, fel na siaradodd hi air â neb byw bedyddiol am ddau ddiwrnod cyfan. O hyny allan bu Jim yn negeseuwr cyson yn y Cartrefle; ac er ei fod trwy hyny yn arbed llawer ar gymmalwst Susan, nid oedd gelyniaeth y chwerwen hono tuag ato ronyn llai. Ymhen y deuddydd neu dri, yn unol â'i haddewid, anfonodd Mrs. Pugh am William Jones y Dilledydd i'r Cartrefle i fesur Jim am ddillad newydd; ac hyd y dydd hwn y mae y crefftwr medrus hwnw yn edrych yn ol at yr amgylchiad, fel yr unig dro y bu ei holl ymenydd ar lawn waith;<noinclude><references/></noinclude> 0r4dhk2lnuptvv5wnzzwrjhi6au38f6 Tudalen:Y Dreflan.djvu/129 104 88642 171512 2026-10-08T23:18:15Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171512 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"oblegid," ebe fe, "yr oedd yn nesaf peth i anmhosiblrwydd i wybod beth oedd hŷd gwasg yr hogyn, gan nad oedd efe ond rhyw wyth neu naw oed, ac yntau wedi ei wisgo yn nillad ei dad." Pan gwblhäwyd y gorchestwaith, ac yr anfonwyd y dillad i'r Cartrefle, a phan orchymynodd Mrs. Pugh i Susan gymeryd Jim i'r bath cynhes a'i olchi yn lân cyn rhoddi ei wisg newydd am dano, synwyd y foneddiges' yn fawr na ddarfu i'r forwyn sarug yngan gair o wrthwynebiad. Pa fodd bynag, cafodd Mrs. Pugh esboniad boddhäol ar y parodrwydd hwn ar ran y forwyn o enau Jim ei hun. Defnyddiodd Susan y bath yn gyfleusdra i ddangos ei llid at yr hogyn. Protestiai Jim fod y dwfr bron yn ferwedig. Cymhwysodd yr hen ferch ddialgar y brws at ei groen mor ffyrnig nes ydoedd càn goched a moronen. Pan o dan y driniaeth, os agorai Jim ei safn, rhoddai Susan lwmp o sebon ynddi y foment hono. Cyn iddo ddyfod trwy yr olchfa, yr oedd yr hogyn druan yn credu yn ei galon fod ei groen a'i gnawd wedi eu crafu ymaith, ac nad oedd dim ond ei esgyrn yn aros. Ni feiddiai agor ei lygaid i weled a oedd ei grediniaeth yn gywir ai peidio; oblegid y foment y gwnai hyny, taflai Susan gruglwyth o sebon iddynt. Dechreuodd Jim wylofain; ond po fwyaf y dolefai ef, mwyaf o sebon a roddai Susan yn ei safn. Felly bu raid iddo ohirio y mynegiad hwn o'i deimladau hyd ryw amser dyfodol, a dyoddef yn ddystaw. Tra yr oedd yr hen ferch genfigenus yn ei drin fel hyn, yr oedd ei thafod yn myn'd yn ddibaid. Mynegai er adeiladaeth Jim, os efe a ddeuai i fyw i'r Cartrefle, mai hon oedd y driniaeth y byddai raid iddo fyned drwyddi bob dydd; ac adroddai ac ailadroddai os oedd Mrs. Pugh am gymeryd ''beggars'' i'r Cartrefle, mai ei henw hi a fyddai ''Susan Walker''. A welodd y darllenydd y lindys yn tori ei groen garw ac anolygus, ac yn dyfod allan o'i garchar, gan ymagor yn löyn byw prydferth ac amrywliwiog? Nid llai oedd y cyfnewidiad a ganfyddid yn Jim Price wedi iddo fyned drwy orchwyliaeth y bath, a rhoi ei wisg newydd amdano.<noinclude><references/></noinclude> sjtr67cbp0f5mmeh7fxnt2vldo0ois3 Tudalen:Y Dreflan.djvu/130 104 88643 171513 2026-10-08T23:19:15Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171513 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd yr olwg arno mor lân a phrydferth, nes y methodd Miss Pugh ymattal rhag ei gusanu, a hyny yn mhresennoldeb Susan, yr hyn oedd fel pe gyrid dagr i galon yr olaf. Eithr teimlai Jim ei hun—wedi ymadael â'i fudreddi a'i garpiau—yn wahanol iawn i'r lindys. Hyd nes iddo gynnefino ychydig â'i wisg newydd, edrychai yn yswil a digalon. Ofnai y byddai raid iddo bellach eistedd yn llonydd i bobl edrych arno fel yr edrychant ar ddarlun, ac fod yr adeg iddo redeg oddiamgylch â'i ben yn y gwynt wedi myned heibio am byth. Yn ei galon dymunai fod eilwaith yn ei hen ddillad mawr a charpiog. Deallodd Mrs. Pugh ei ofid, a gwnaeth iddo redeg yma a thraw ar negeseuon, amryw o ba rai nad oedd gwir anghen am danynt. Ymhen y ddeuddydd yr oedd Jim yn berffaith hapus yn ei wisg newydd, ac yn meddwl cryn lawer o honi ac o hono ei hun. O herwydd fod Jim yn negeseuwr campus, yr oedd yn cyfarfod â dymuniadau Mrs. Pugh; o herwydd fod ganddo lygaid prydferth, yr oedd yn ddwfn yn ffafr Miss Pugh; o herwydd ei fod yn gallu "bwyta yn glyfar, ac nid rhyw bigo gwirion," ys dywedai yr hen foneddwr, yr oedd yn bobpeth ymron y gallasai Mr. Pugh ei ddymuno. Gwnaeth y tri rhinwedd hyn ef yn was sefydlog yn y Cartrefle mewn byr amser. Yr hyn a flinai yr hogyn fwyaf oedd, na thelid iddo gan ei gymdeithion y parch, fel y tybiai ef, yr oedd ei sefyllfa newydd yn ei hawlio, oblegid parhäent i'w alw yn "Jim y matches." Pan elai i Fuarth Jenkins i ymweled â'i rieni, byddai yn gorfod bod ar ei wyliadwriaeth, onidê ymgasglai ei hen gymdeithion o'i amgylch, a dwbient ei ddillad newydd â baw, a hyny oddiar genfigen. Pan elai i'r Ysgol Sabbothol, yr hyn a wnai yn gyson erbyn hyn, nid oedd ei sefyllfa nemawr gwell; canys pan droai yr athraw ei gefn, difyrai y naill hogyn neu y llall ei gymdeithion trwy wneyd udgorn o'i ddwrn a sibrwd drwyddo, "Jim y matches." Ystyriai Jim hyn yn ymddygiad annheilwng hollol tuag at un oedd yn was i Mr. Pugh. Blinid ef i'r fath raddau gan y plant fel y dygodd efe ei gŵyn un<noinclude><references/></noinclude> d330f9no54xzmvjhfbx7h8kvvpoojb0 Tudalen:Y Dreflan.djvu/131 104 88644 171514 2026-10-08T23:21:18Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171514 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>diwrnod ger bron Mr. Pugh. Teimlodd ei feistr yn ddwys yn yr achos, a dywedodd dan hanner gau ei lygaid fel y bydd dyn yn gwneyd pan yn ceisio dyfeisio cynllun: "Wel, aros di, Jim; be' nawn ni â nhw?" "Deyd wrth y ''bobby''," ebe Jim. "Deyd wrth bwy?" gofynai ei feistr. "Wrth y ''bobby''," ebe Jim drachefn; ac nid heb dipyn o esboniad y gallodd roddi ar ddeall i Mr. Pugh mai yr heddgeidwad a olygai. Yr oedd dyweyd wrth yr heddgeidwad am gamymddygiad plant yr Ysgol Sul, wrth gwrs, allan o'r cwestiwn; a methodd holl gynlluniau Mr. Pugh i wneyd i ffwrdd â'r hyn y cwynai Jim o'i blegid. Pa fodd bynag, ymhen amser, ffurfiodd Jim gyfeillgarwch mawr â mab William Jones y Dilledydd, sylfaen yr hon oedd fod Jim yn gwsmer i'w dad; ac o herwydd fod Dick Jones yn hogyn cryf a beiddgar, ac yn dipyn o wron ymhlith y plant, rhoddodd efe derfyn buau ar achos y gŵyn. Gan na fyddai hyny yn un anrhydedd i blant yr Ysgol Sabbothel, fe allai mai nid priodol a fyddai nodi yn y fan hon y moddion y bu raid eu harferyd i ddwyn y diwygiad oddiamgylch. Wrth fyned heibio, goddefer i mi ddyweyd cymaint a hyn: na ddangosir gan blant yr Ysgol Sul y caredigrwydd a'r cydymdeimlad a allesid ei ddysgwyl oddiwrthynt tuag at y rhai a ennillir i'r ysgol o'r buarthau a'r ystrydoedd. A addysgir plant crefyddwyr ar yr aelwyd gartref i fod yn dyner a charedig at y ''street Arab'' tlawd a charpiog? Gwn oddiar brofiad fod mwy nag un o'r dosbarth hwn wedi eu tarfu o'r Ysgol, am nad allent oddef gwawd ac ucheldrem y bechgyn a fagwyd yn yr ysgol. Ond i fyned ymlaen. Effeithiodd caredigrwydd teulu y Cartrefle yn eu gofal am Jim yn ddwfn ar ei rieni. Pan aeth efe i ddangos ei hun yn ei ddillad newydd, tarawyd ei dad â mudandod, a phrin y credai mai ei fachgen ef ydoedd. Ei fam ef, yr hon oedd yn wael yn ei gwely, pan.y gwelodd ef, a wylodd o lawenydd; ac<noinclude><references/></noinclude> a5kxdhzp7k4fbh1jp60i284zt9agdt1 Tudalen:Y Dreflan.djvu/132 104 88645 171515 2026-10-08T23:22:24Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171515 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mor ddaionus yr effeithiodd yr olwg arno ar ei hysbryd, fel y tystiai Jim, pan ddychwelodd i'r Cartrefle, ei bod "''just'' a mendio." Hyn a fu y dechreuad i Mr. Pugh allu llwyddo i gael Ismael i'r oedfaon, ac yn ddilynol i'r ysgol, ac i adael y ''White Horse''. Yr oedd ei noddwyr caredig yn caniatâu i Jim fyned adref i gysgu y nos, gan fod hyny yn ddymuniad gan ei fam. Bob nos cyn myned i gysgu, byddai ei dad yn rhoi gwersi iddo mewn darllen ac ysgrifenu, yr hyn na feddyliodd am wneyd yn flaenorol, ac amryw weithiau yn ystod y dydd, byddai Miss Pugh yn gwneyd yr un peth; ac os yfodd bachgen ei ddysg erioed, Jim a wnaeth hyny. Yr wyf yn awr wedi dwyn hanes Jim hyd at yr amgylchiadau gofidus a gofnodwyd yn y bennod ddiweddaf. Bu marwolaeth ei fam yn ergyd drom iddo. Hyd y noswaith y bu hi farw, credai Jim yn ddiysgog y gwnai wella. Yr oedd Siân Jones a Mrs. Pugh wedi ei ddysgu i weddïo, ac i gredu y gwnai Duw wrando gweddi. Gweddïai Jim ei hun, ac yr oedd yn gwybod fod Siân Jones a Noah Rees yn gweddïo; ac nid ammheuodd am eiliad na wrandewid hwynt. Ond er yr holl weddïo, bu ei fam farw. Nis gallasai Jim weled cysondeb yr amgylchiad â'r addysg a dderbyniasai. Yr oedd wedi ei ddyrysu yn lân, ac ni fynai ei gysuro. Ceisiodd Mr. Pugh ei ddyddanu; ond gyrai Jim yr hen foneddwr i'r wàl yn union trwy ofyn, "Pam na fase Duw yn gwrando, a fi a Siân Jones a Mr. Rees wedi gwddïo? Be ydi iws gwddïo os na neiff o wrando? Mistres yn deyd, Duw yn gwrando; fynte ddim yn gwrando. O mam, O mam bach!" ac wylai nes yr oedd ei wyneb yn fudr; ac nid oedd gan Mr. Pugh ddim. i'w ddyweyd na'i wneyd ond wylo gydag ef. Trwy lawer iawn o dynerwch, ac o ymresymu cywrain, y cafodd Miss Pugh gan Jim ymdawelu ychydig; ond cymerodd lawer o amser a dyfalwch iddi allu gwneyd hyn. Y gorchwyl caletaf a gafodd y foneddiges ieuanc yn ei bywyd oedd cadw Jim rhag meddwl yn galed am Dduw. Fwy nag unwaith, pan feddyliai ei bod wedi<noinclude><references/></noinclude> 4cdjt53lw5pntn2coc23dpvu120gnyf Tudalen:Y Dreflan.djvu/133 104 88646 171516 2026-10-08T23:25:04Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171516 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>llwyddo i hollol dawelu ei feddwl yn ngwyneb yr amgylchiad, deuai cawod drom o hiraeth a gofid dros yr hogyn ag oedd yn wir galonrwygol, a byddai raid iddi hithau fyned dros yr un tir a'r un ymresymiad drachefn. Rhyfedd y dyddordeb a gymerai teulu y Cartreffe yn y bachgen amddifad a phrofedigaethus! Ymddygent tuag ato yn fwy fel mab nag fel gwas. A oedd yna wagle yn eu mynwesau eisieu ei lenwi? A oedd Jim, mewn rhan, yn llenwi lle rhywun arall? Pan glywodd Benjamin Prŷs hanes Jim, gwnaeth gân hirfaith iddo. Rhoddaf bennill neu ddau fel engraifft:— {{center block| <poem> "Jim Price ydoedd hogyn bychan a thlawd :Heb undyn yn sylwi arno, Heb addysg, heb ddillad, heb chwaer, heb frawd, :A'i rieni 'n ddiofal o hono: Ei wallt oedd yn grych, a'i wyneb yn llwyd, A chanwaith bu 'n dyoddef gan eisieu bwyd; :Ond ni chlywid Jim yn cwyno. "Ei dad oedd oferddyn disùt, ac yn hael :Yn gwario ei arian am gwrw, A'i fam a orweddai er 's misoedd yn wael :Yn ei gwely ymron a marw. A Jim a gerddai y Dreflan bob cam, Gan gardota i gynnal ei anwyl fam, :Heb yn wybod i'w dad rhag twrw. "Gweddïai Jim am i'w fam wellhâu, :A chredai y cai ei wrando; Gweddïai Sian Jones, a rhwng y ddau :Ni phetrusai na wnaent lwyddo. Bu farw ei fam! 'ond gofalodd Duw Am fam i Jim yn Mrs. Puw, :A mam ragorol oedd hono." </poem> }} <br><noinclude><references/></noinclude> 4kb3x3585h8tmeulqwyc0not5tolkqk Tudalen:Y Dreflan.djvu/134 104 88647 171517 2026-10-09T00:07:07Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171517 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD XV.<br>CYNGHOR BENJAMIN PRYS.}}}} "NOAH," ebe fi wrth fy nghyfaill un noswaith, "a wyt ti yn cofio addaw dro yn ol fyned ymlaen pan geffit gyfleusdra gyda'th adroddiad o'r argraffiadau cyntaf?" "Ydwyf, yn burion," ebe efe, "ond y mae cymaint o amser er hyny, a minnau wedi dyfod i gysylltiad â'r cymeriadau gynifer o weithiau ar ol hyny, fel mai nid. gorchwyl hawdd a fydd i mi adgofio yr argraffiadau cyntaf, ac yn enwedig eu didoli oddiwrth yr argraffiadau a wnaed ar fy meddwl yn ddilynol." "Os da yr wyf yn cofio," ebe fi, "clywais di yn dyweyd flynyddau yn ol mai anfynych y byddai dy argraffiadau cyntaf yn anghywir. A wyt ti wedi newid dy feddwl ar hyn?" "Nac ydwyt," ebe Noah. "Po fwyaf o gymeriadau yr wyf yn eu cyfarfod, mwyaf oll yr wyf yn cael fod y rheol yn gywir. Mae yn wir fod eithriadau yn bod, ond yr wyt yn cofio y dywediad fod yr eithriad yn profi y rheol. Ac y mae yr eithriad yn cymeryd lle mor anfynych fel y mae mewn gwirionedd yn eithriad eithriadol iawn, os goddefi yr ymadrodd, fel y dywedir. Mwy na hyny, y mae yr eithriad weithiau fel pe byddai yn edifarhâu am fod yn eithriad, ac yn dychwelyd yn ol i fod yn rhan o'r rheol. Er mwyn gwneyd fy meddwl yn eglurach, rhoddaf i ti engraifft. Pan oeddwn gartref yn y Tyddyn Bach—yr oedd hyn cyn i mi fyned i'r Athrofa—daeth i'r Llan acw ŵr dyeithr i lenwi swydd bwysig yn y gymydogaeth. Gan na wyddid dim yn ei gylch cyn ei ddyfodiad atom, teimlid cryn ddyddordeb i ba enwad crefyddol y perthynai.. Y diwrnod cyntaf y daeth i'n plith, cyflwynodd ei bapyr aelodaeth yn ein seiat ni y Methodistiaid. Y foment gyntaf y gwelais ef, credais mai ci lladd defaid<noinclude><references/></noinclude> r33vwku9su64gxwno860e56u6y6wv7c Tudalen:Y Dreflan.djvu/135 104 88648 171518 2026-10-09T00:08:02Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171518 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ydoedd. Paham y credwn hyny nis gwyddwn. Fel ''compliment'' i ŵr dyeithr, annogwyd ef i ddiweddu y cyfarfod eglwysig trwy weddi, yr hyn a wnaeth yn ddoniol iawn a chyda'r fath ddylanwad nes oeddwn yn teimlo yn ddig wrthyf fy hun am ffurfio syniad mor galed am dano. Wrth fyned allan o'r capel, ebe yr hen William Thomas wrthyf, 'Wel, Noah, dyna ddyn gwerthfawr! y fath gaffaeliad a fydd i ni yma!' Gobeithio na byddwch wedi newid eich syniad am dano ymhen y flwyddyn, William Thomas,' ebe finnau bron yn ddiarwybod i mi fy hun, ac edifarheais wneyd y sylw. 'Beth,' ebe yr hen ŵr, 'wyt ti yn ei adnabod o?' 'Ni welais mo hono erioed cyn heno,' ebe finnau. Aeth wythnosau a misoedd heibio; a phrofodd y gŵr dyeithr ei hun yn weithgar, gonest, a ffyddlawn, ac argyhoeddodd fi yn hollol fod fy argraff gyntaf o hono yn gyfeiliornus. Ond och fi! ymhen y deunaw mis gwnaeth ei botes yn rhyfedd, ac aeth ymaith dan warth mawr, a dychwelodd fy argraff gyntaf, ac edliwiodd i mi fy anghrediniaeth. Appeliaf atat, Ai onid oes genyt engreifftiau cyffelyb o fewn cylch dy brofiad dy hun?" "Wel, aros di, gyfaill," ebe fi wrth Noah, "pa fodd yr wyt yn rhoddi cyfrif fod dy argraffiadau cyntaf di yn gywir, a'r eiddo William Thomas, yr hwn oedd wr craff, fel yr wyf yn deall, yn anghywir? Onid ydyw dy engraifft yn profi gormod? Yr unig gasgliad y gallaf fi ddyfod iddo ydyw dy fod di wedi dy ddonio uwchlaw dynion yn gyffredin â gallu i adnabod cymeriadau." "Mae dy wrthddadl," ebe Noah, "wedi dyfod arnaf mor sydyn fel na fedraf dy ateb ar unwaith; ond yr wyf ymhell ò feddwl fod genyf fi allu uwchlaw dynion eraill. Y ffordd rwyddaf i mi ddyfod allan o'r fagl ydyw, trwy ddyweyd mai yr engraifft a nodwyd oedd yr eithriad yn amgylchiad William Thomas. Nid oes a fynwyf fi ychwaith âg argraffiadau cyntaf pobl eraill; fy mhwnc i yn syml yw hyn: mai anfynych y mae fy argraffiadau cyntaf o gymeriadau yn gyfeiliornus. Mae yn wir mai y<noinclude><references/></noinclude> 8w6wiwrkymlm1rtq9gjk2lek2c9ojv2 Tudalen:Y Dreflan.djvu/136 104 88649 171519 2026-10-09T00:08:52Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171519 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ffordd gyffredin y ffurfir syniad am gymeriad ydyw trwy gwrs o ymresymiad—megys trwy glywed ei hanes blaenorol, barnu ffurf ei wyneb, sylwi ar ei ymddygiad a'i eiriau, ac yna gwneyd casgliad oddiwrth y cyfan. Ond, ai onid oes argraff yn cael ei gwneyd ar feddwl dyn o gymeriad yn fynych megys gan ymwybyddiaeth nad all roddi cyfrif am dano? Oni chyfarfyddaist di â chymeriadau na wyddit ddim yn eu cylch, ac na wnaethant ddim niwed i ti, ac hyd yn nôd a ddangosasant garedigrwydd atat, ac ar yr un pryd nad oeddit yn eu hoffi? Oni welaist di ambell fachgen dirieidus, a dyweyd y goreu am dano, ag yr oedd genyt well meddwl o hono nag am un arall yr hwn yr oedd ei fuchedd yn llawer gwastadach? Oni feddaist di ymwybyddiaeth o ddaioni cuddiedig yn y naill amgylchiad, ac o ddrygioni cuddiedig yn yr amgylchiad arall? Ac oni chlywaist di am rai yn syrthio mewn cariad â gwrthddrychau na wyddent ddim yn eu cylch, a hyny nid am eu bod yn brydferthach na rhywun arall, ond o herwydd fod rhyw fath o ysbryd prophwydoliaeth wedi disgyn arnynt fod y gwrthddrychau hyny yn meddu y peth y dymunent iddynt ei feddu? Ac oni chlywaist fod naw o bob deg o'r argraffiadau cyntaf hyn yn troi allan yn gywir?" "Mi a glywais am bethau felly," ebe fi, "ond nis gallaf weled pa fodd y gellir cynnyrchu argraff ar feddwl dyn heb fod achos o'r tu allan i'r meddwl ag sydd yn rhoddi cyfrif am dano, ac hefyd fod yr argraff yn rhwym o ddwyn delw yr achos o hono. Er engraifft, pan welaf ddyn dyeithr i mi, a hwnw yn feddw, mae yn anmhosibl i mi gael argraff o hono ar fy meddwl fel dyn sobr. Yr wyf yn addef," ychwanegais, "fod argraff yn cael ei gwneyd ar feddwl dyn mewn rhai engreifftiau heb iddo ef fod yn ym wybodol o'r achos fydd yn ei gynnyrchu." "Dyna yn union yr wyf yn dadleu drosto," ebe Noah; "yr argraff a wneir ar feddwl dyn nad all roddi cyfrif am dano, ac nid yr hwn y mae yn ei dderbyn trwy ymresymiad fel yr engraifft a nodaist, sef y dyn meddw. Pan oeddit<noinclude><references/></noinclude> gzphbzohvzq9mjphid4nla535e4vdlr Tudalen:Y Dreflan.djvu/137 104 88650 171520 2026-10-09T00:10:38Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171520 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn son am y dyn meddw, yr oeddit yn crwydro oddiwrth y pwnc.' "Yr wyf yn meddwl dy fod tithau yn crwydro tipyn," atebais; "ein pwnc ni heno ydyw i ti fyned ymlaen gyda'th adroddiad; ac os da yr wyf yn cofio, mai newydd ymadael â Mr. Smart yr oeddit ti a Mr. Pugh, a'ch bod yn hwylio i ymweled â'r hen frawd o'r tŷ pobtŷ. Yrwan, dos ymlaen. "Wel," ebe efe, "os hyny sydd oreu genyt, ceisiaf alw i'm cof y rhan sydd yn ol o ddygwyddiadau y dydd hwnw; oblegid â hyny yr ymgymerais, sef adrodd yr argraffiadau a wnaed ar fy meddwl y diwrnod cyntaf y daethum i'r Dreflan. Wedi i ni ymadael â Mr. Smart, a'i eiriau olaf'', 'Appearance, appearance'',' eto yn swnio yn ein clustiau, cerddodd Mr. Pugh am encyd mewn dystawrwydd, oddigerth yr hyn a siaradai âg ef ei hun. Yr oedd yn amlwg i mi ei fod mewn dwfn fyfyrdod, ac mai yr hyn oedd yn cael ei droi yn ei feddwl oedd '''appearance''," oblegid clywais ef yn sibrwd y gair fwy nag unwaith. Yn y man, ebe efe wrthyf yn sydyn, Mr. Rees, ffasiwn un oedd Iesu Grist, ddyliech ch'i, o ran yr olwg arno?' 'Yn wir, Mr. Pugh,' atebais, 'ni fedraf eich ateb. Nid wyf yn cofio fod yr olwg allanol arno yn cael son am dano; ond y mae geiriau i'r perwyl yma yn rhywle nad oedd na phryd na thegwch ynddo.' ''Just'' y geirie oedd yn 'y meddwl ine,' medd efe; ac ychwanegodd yn ddystawach, 'Piti hefyd, gan fod ''appearance'' yn myn'd mor bell hefo chrefydd, fel y dywed Mr. Smart.' Awgrymais fod yn bosibl nad oedd y geiriau yn cyfeirio at ei ymddangosiad corfforol, ond eu bod i'w hystyried fel yn desgrifio ansawdd ysbrydol y rhai a edrychent arno. Hwyrach hyny,' ebe Mr. Pugh; ond ydach ch'i ddim yn meddwl fod dystawrwydd y Bibl am ei ymddangosiad yn dangos yn ddigon plaun nad oedd dim byd neillduol yn yr olwg arno? Atebais fod y casgliad yn un digon naturiol, a syrthiodd Mr. Pugh i fyfyrdod drachefn. Yn awr ac yn y man dywedai megys wrtho ei hun, 'Piti! piti garw! Ie, piti mawr!' Oni buasai fy mod yn sicr fod Mr. Pugh<noinclude><references/></noinclude> jczvuh0d8ztnw0xsw5opog2h0bklzmg Tudalen:Y Dreflan.djvu/138 104 88651 171521 2026-10-09T00:13:13Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171521 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mor ddiddichell â phlentyn, buaswn yn edrych ar y geiriau hyn o'i eiddo fel gwatwareg; ond yr oedd difrifwch ei wyneb yn dangos yn eglur fod y geiriau yn dyfod yn syth o'i galon. "Wedi cerdded oddeutu can' llath, heb ddyweyd yr un gair, safodd Mr. Pugh yn sydyn, a dywedodd gydag angerddoldeb, 'Wyddoch ch'i be', Mr. Rees? mae Mr. Smart yn misio' Nid ''appearance'' ydi'r peth pwysig i ch'i a mine, yn siwr i ch'i. Mae yna beth annhraethol fwy pwysig nag ''appearance''!' Wedi dyweyd cymaint a hyn, edrychodd yn galed yn fy llygaid, heb symud modfedd o'r lle y safai. Wedi dysgwyl yn ofer am yspaid iddo fyned ymlaen, gofynais iddo, 'Beth ydyw y peth hwnw, Mr. Pugh? <nowiki>'</nowiki>''Bôd,''<nowiki>'</nowiki> ebe fe, gan roddi winc ddeallgar arnaf, a chan ail ddechre cerdded yn gyflym. Troedia ymlaen fel bachgen ieuanc, ac fel un wedi gwneyd darganfyddiad neu ennill goruchafiaeth. Ymhen enyd gafaelodd yn fy mraich a dywedodd gydag yni, 'ië, Mr. Rees, bôd ydi'r peth pwysig yn siwr i ch'i ac nid ''appearance'', achos mi ddeyda i ch'i pam. 'Dydi ''appearance'' yn werth dim os nad ydi o yn ''appearance'' o rwbeth sy tu cefn iddo fo ag sydd yn fwy na fo. Mi ddeyda i ch'i beth arall; mae ''appearance'' heb ddim ond ''appearance'' yn gelwydd ac yn bechod. Mr. Rees bach,' ebe fe yn fwy cyfrinachol, 'ydach ch'i ddim yn meddwl, erbyn i ni 'styried, fod yr oes hon yn gofalu mwy am ''appearance'' nag am fôd? Be' ydi'r holl redeg i ddyled a'r tori i fyny yma ond effeth gofalu am yr ''appearance'' yn lle am y bôd? Ac yn wir, Mr. Rees, mae gen i ofn fod ''appearance'' yn ennill tir hefo chrefyddwyr. Drychwch ar yr hogia yma—ond o ran hyny dydach ch'i ddim yn 'u 'nabod nhw—ond wyddoch ch'i be'? mae yma hogia yn perthyn i'n capel ni yn 'u menyg cid, eu ''sigars'', a'u ''mirsham''s, eu ffyn â thopia arian iddynt, na fedra nhw yn eu byw las fforddio rhoi ceiniog at y weinidogaeth. Be ydi hyny ond y felldith ''appearance''? Chymeren nhw lawer a rhoi hanner coron am lyfr, ond hidia nhw ddim rhoi deuddeg swllt am bibell, neu dairpunt am gadwen aur. Mae'r<noinclude><references/></noinclude> dm4go3vn4ryakgj414tz628om6b3qg3 Tudalen:Y Dreflan.djvu/139 104 88652 171522 2026-10-09T00:14:26Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171522 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>morwynion yma yr un fath yn union. Dacw Susan acw; mae hi'n troi allan yn grandiach o'r hanner na Kit ni. Mi fydda'n deyd llawer wrthi, 'dawn ni nês er hyny. Mae hi'n gwario ei holl gyflog, ac y mae hi'n cael cyflog go lew hefyd, ar ei chefn, ac yn enwedig ar ei phen, a drychiff hi byth ar lyfr. A welsoch ch'i erioed siwn drafferth fydda i'n gael ganddi roi tair ceiniog yn y mis ar lyfr y seiat. Yr ydyw i'n credu o 'nghalon mai llyfr y seiat sydd wedi creu cas ynddi at bob llyfr arall. Mi fydda i'n meddwl fod yn iawn i bob dyn gael digon o fwyd, ac y mae'n gwilydd mewn gwlad efengyl i neb fod heb ddigon; ond wyddoch ch'i be? mae'r ''appearance'' yma yr oedd Mr. Smart yn son am dano heno wedi hel llawer o bethe i meddwl i. Ydan ni fel crefyddwyr yn peidio rhoi siampal ddrwg i bobol deydwch? Oes ene rw wahaniaeth rhwng capel hardd heb dalu am dano â bonet hardd neu gôt hardd heb dalu am danynt? Hwyrach fod hefyd. Ond waeth i ch'i befo, mae yma ormod o'r ''appearance'' yn ein plith ni, a rhy fychan o lawer o'r bôd, yn siwr i ch'i. Mae o'n taro i meddwl y mynyd yma, dae pawb o honom ni yn ymddangos y peth ydan ni mewn gwirionedd, a nae ni nabod ein gilydd, ddylech ch'i? mae gen i ddowt yn siwr i ch'i, Mr. Rees. Ond rhoswch, dyma ni wrth y tŷ pobtŷ, ac mi gawn rwbeth yma heblaw —''appearance'', cèn wired a fy mod i yn y fan yma. On'd ydi'r bara brwd yma yn hogle yn glên? mae o ddigon a chodi eisio bwyd ar rwfun. Sut 'rydach ch'i, Becca? rhowch i mi wicsen frwd. Dyma Mr. Rees wedi dwad i ch' heb ei ddysgwyl. Wyddoch ch'i be? mae'r wicsen yma yn dda hefyd. Sut mae Benjamin, Becca? Fynwch ch'i wicsen, Mr. Rees? Dyma'r wraig fwyaf hapus yn y byd, Mr. Rees, er ei bod hi yn wastad yn cwyno. "Llefarodd Mr. Pugh yr holl eiriau hyn ar yr un gwynt, gan helpio ei hun gyda'r teisenau brwd, ac yr oedd efe wedi gwthio un i fy llaw cyn i mi gael ysgwyd dwylaw â gwraig dda y tŷ. Gwyddwn oddiwrth ei<noinclude><references/></noinclude> frta6pgrcyvx1pr6f13lnotqciqfilb Tudalen:Y Dreflan.djvu/140 104 88653 171523 2026-10-09T00:15:04Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171523 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gwyneb nad oedd dim yn ei boddio yn well' na gweled Mr. Pugh yn gwneyd yn hyf ar ei heiddo; ac mewn atebiad i'w sylwadau dywedodd, 'Mae'n dda mod i yn y'ch nabod ch'i cyn heno, Mr. Pugh. Mae llawer yn cwyno mwy na fi, a llai o achos. Mae pobol yn meddwl, Mr. Rees, os ydw i'n edrach yn symol na ddylwn i ddim cwyno, yr un fath a dase edrach yn rhwbeth. Dydi golwg ddim byd, ydi o, Mr. Rees? On'd oes llawer yn edrach yn dda, ac yn dyodde mwy nag a ddylie neb? Cymerwch wicsen arall, Mr. Pugh. 'Rydach ch'i wedi dwad i le aflêr iawn, Mr. Rees. Ond 'does gen i ddim amser i neyd y tŷ yn deidi, mae Mr. Pugh yn gwbod, a rhaid i chi'n cymyd fel rydan ni. Gybeithio y cewch ni yn well na'n golwg.' "Dyna air synwyrol, Becca,' ebe Mr. Pugh, 'yr hen bwnc, Mr. Rees; nid ''appearance'' ydi'r peth yn siwr i ch'i. Ple mae'r hen ddifein yma, Becca?' "Mae o 'run fan ag arfar i ch'i—yn y gornel,' ebe Весса. 'Roeddwn i'n gwbod o'r gore mai i edrach am dano fo yr oeddach ch'i wedi dwad, Mr. Pugh. Dae rhwbeth yn hapno i hwnyma, ddoe ch'i byth i edrach am dana i, y rydw i'n siŵr, er nad oes gen i ddim ond pob da i ddeyd am danoch ch'i, Mr. Pugh.' "Wyddoch ch'i prun, Becca,' oedd unig ateb Mr Pugh. Arweiniodd Mr. Pugh fi i'r ystafell ymha le yr oedd yr hen ddifein, chwedl yntau. Cawsom ef yn eistedd yn fyr ei anadl mewn cadair ddwyfraich, yr hon y dymunaswn iddi fod yn esmwythach i ŵr o'i oedran a'i wendid ef. Ar ein mynediad cyntaf i'r ystafell, gloëwodd ei wyneb deallgar, er mai prin y gallai siarad â ni gan fel y dyoddefai o herwydd diffyg anadl. Wedi i Mr. Pugh rwbio y rhwd oddiar ei dafod, ys dywedai yr hen foneddwr, rhyfedd mor rhwydd a diboen y daeth yr hen ŵr i allu parablu. A ddarfu i ti sylwi erioed fel y bydd pobl asthmatic yn gwella wrth ymddyddan â hwynt? Cyn i ni ymadael, yr oedd Benjamin Prŷs. yn siarad mor rhugl ymron âg un o honom ninnau, er y dywedai<noinclude><references/></noinclude> mnxzq3g4n3j5mfjcxehw2dlqvrjda1e Tudalen:Y Dreflan.djvu/141 104 88654 171524 2026-10-09T00:15:45Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171524 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Becca mai hi a fyddai raid ddyoddef am hyny wedi i ni fyned ymaith. Gŵr hynod ydyw Benjamin Prŷs, ac nid rhyfedd fod Mr. Pugh yn meddwl cymaint o hono. Anfynych y cyfarfyddais â gŵr uniaith yn meddu meddwl mor gyflawn a choeth. Dywedai Mr. Pugh wrthyf ei fod yn fardd penigamp; ond y mae arnaf ofn mai syniad lled hen ffasiwn sydd gan Mr. Pugh am farddoniaeth. Ni ddeuwn i ben heno âg adrodd wrthyt yr holl ymddyddan gymerodd le y noswaith hono. Nis gwn pa hyd y buom yno; ond yr wyf yn cofio yn dda i Mr. Pugh orfod gael adgyflenwad o'r teisenau brwd fwy nag unwaith. Yr hyn a lynodd fwyaf yn fy meddwl ydoedd y cynghor a roddodd Benjamin Prys i mi ar annogaeth Mr. Pugh. Hwyrach mai yr hyn a barodd i'r cynghor wneyd y fath argraft arnaf oedd y cyferbyniad a ffurfiai â'r cynghorion a gefais yr un noswaith gan Mr. Smart. Yr wyf yn meddwl y gallaf ei gofio air am air; ac wedi i mi ei adrodd, cei dithe fyned adref. "Yr wyf wedi arfer, Mr. Rees,' ebe efe, 'ag ufuddhâu i Mr. Pugh, a rhaid i chwithau ddysgu y wers hono yn lled fuan. Mae yn ymddangos yn lled chwithig i hen greadur annysgedig fel fi roddi cynghori un fel chwi sydd wedi derbyn cymaint o fanteision addysg; a fy unig gymhwysder at y gwaith, am a wn i, ydyw fy oedran. Un o'r pethau sydd yn peri mwyaf o ofid i mi yn fy hen ddyddiau ydyw meddwl am yr hyn a allaswn fod pe buaswn wedi cael y manteision priodol yn fy ieuenctyd, neu yn wir pe buaswn wedi gwneyd defnydd o'r manteision oedd genyf. Yr wyf yn credu yn sicr os câf fyn'd i'r nefoedd—ac yr wyf weithiau yn lled hyderus y caf—('Dim dowt,' ebe Mr. Pugh) mai un o'r pethau cyntaf a wnaiff y Brenin Mawr â fi fydd fy anfon i ryw goleg yno i ddysgu yr hyn a ddylaswn fod wedi ei ddysgu tra ar y ddaear. Mae darllen ''volume'' fawr fy mywyd yn ofid dwys i mi erbyn hyn. Er na chaf fi fwynhâu nemawr o'ch gwasanaeth, na bod o nemawr gynnorthwy a chefnogaeth i chwi yn eich gwaith, credwch fi pan ddywedaf nad allasai dim ddygwydd i<noinclude><references/></noinclude> 9t00se2pe3g93l9neqo6eg9c11szkwd Tudalen:Y Dreflan.djvu/142 104 88655 171525 2026-10-09T00:16:20Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171525 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>roddi mwy o foddhâd i mi na'ch dyfodiad i'n plith. Mae yma lawer o le i chwi weithio, a gwneyd daioni; ac os na ddeuwch i weled hyny yn gynt, byddwch yn sicr o ddyfod i'w weled pan gyrhaeddwch fy oedran i, mai gwneyd daioni ydyw yr unig beth gwerth byw er ei fwyn yn y byd yma. Gresyn fod yn rhaid i ddyn fyned yn hen, ac i'r cyfleusderau gan mwyaf fyned heibio, cyn y daw i gredu hyn i bwrpas! Byddaf yn meddwl weithiau fod agos yn anmhosibl i ddyn weled gwir amcan bywyd nes i'r bywyd fyned heibio. Pa fodd bynag, yr ydych chwi yn ieuanc, ac wedi ymgymeryd â'r alwedigaeth uchaf y gall creadur meidrol ymaflyd ynddi. Pan glywaf am ŵr ieuanc wedi penderfynu cysegru ei fywyd i wasanaethu Duw yn yr efengyl, bydd rhyw lawenydd nefol yn fy meddiannu, a bron a fy llethu. Dichon y daw meddyliau i'ch calon y gallasech ddewis galwedigaeth arall fwy ennillfawr ac anrhydeddusach yn ngolwg dynion. Os deuant, sathrwch hwynt o dan eich traed. Erbyn i chwi ddyfod i ymylon y byd tragywyddol, ni welsoch chwi erioed càn lleied o bris a roddwch ar holl gyfoeth y byd hwn yn ei grynswth. Bydd un weithred dda, wedi ei chyflawni o gariad at Grist, yn annhraethol fwy gwerthfawr yn eich golwg yr adeg hono. Ymegnïwch ac ymwrolwch at y gwaith. Hwyrach mai bèr fydd eich oes, ond gofelwch am iddi fod yn oes lawn o waith. O fel y mae blynyddoedd fy oferedd yn pwyso arnaf yn y gornel yma! Pa beth a roddwn yn awr am gael ail ddechre byw! Er nad ydyw ein cynnulleidfa ond bechan, mewn cymhariaeth, cewch weled, pan ddeuwch i'n adnabod ni i gyd, fod yma lawer math o honom. Gyda gwaith y weinidogaeth, byddai i chwi ddeall ychydig ar y natur ddynol o fantais fawr i chwi, ond nid er mwyn i chwi fod yn boblogaidd. Bydd yn anmhosibl i chwi fod yn gymeradwy gyda phawb, a gwneyd eich dyledswydd. Yn ystod fy oes mi a welais rai yn ceisio gwneyd hyny; ond nis gallwn lai na'u cymharu i William y minceg. Byddai gan William felusion ar gyfer pawb; ond yr oedd pawb yn gwybod<noinclude><references/></noinclude> sbp65bx7eyv8uudh6fkt1uakwnqyrgl Tudalen:Y Dreflan.djvu/143 104 88656 171526 2026-10-09T00:16:51Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171526 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>mai minceg ydoedd—rhywbeth i foddio plant. Chwi a gewch rai yma y bydd raid i chwi werthu dimeiwerth o finceg iddynt, os mynech eu boddio, oblegid mai plant ydynt er eu bod wedi tyfu i fyny. Cewch eraill na wna dim y tro iddynt ond torth neu gosyn. Na cheisiwch foddio pawb, ond gofalwch am dafellu hen fara canreg yr efengyl i'r bobl, a gellwch fod yn siŵr y gwna ddygymmod âg ystymog eich gwrandäwyr. Ni raid i mi ddyweyd wrthych am i chwi ddarllen llawer. Yr wyf yn credu fod hyny mor anhebgorol genych â'ch ymborth anghenrheidiol. Goddefwch i mi roddi un cynghor i chwi, er fy mod yn credu ei fod yn ddianghenrhaid: Peidiwch a benthyca eich pregethau gan neb; gadewch iddynt fod yn eiddo i chwi eich hunan, serch iddynt fod yn waelach. Mae hyd yn nôd y ''policeman'' yn edrych yn well yn ei ddillad ei hun. Gall y pryf copyn ddal mwy o ysglyfaeth gyda ei edafedd fain a wea o'i goluddion ei hun, na phe benthyciai holl gortynau y wlad. Byddwch yn rhy annibynol eich meddwl i ladrata pregeth neb; yn hytrach gadewch iddi dyfu o'ch calon a'ch profiad chwi eich hunan. Pregethwch eich goreu glas. Gellwch ymweled gormod neu ry ychydig; ond ni ddywed neb eich bod yn pregethu yn rhy dda. Os pregethwch yn dda, maddeuir i chwi lawer o ddiffygion eraill a all fod ynoch. Rhoddwch arbenigrwydd ar bregethu. Ar yr un pryd, nac anghofiwch ymweled â'r dirywiedig, y cleifion, a'r tlodion. Pe byddai raid i chwi anghofio pawb, nac anghofiwch y tlodion, gan gofio eu bod hwy yn perthyn yn agosach i'r Hwn nad oedd ganddo le i roddi ei ben i lawr. Ni ddymunwn i chwi ymweled gormod, rhag i chwi gael eich galw yn Gadi, nac ychwaith ry ychydig, rhag y tybir eich bod yn falch a diofal. Yn eich ymweliadau a'ch ymddyddanion, ymddygwch hyd y galloch yn deilwng o'ch sefyllfa. Na fyddwch yn rhy offeiriadol a rhodresgar ar y naill law, nac yn rhy gellweirus ac ysgafn ar y llaw arall. Ceisiwch fod mor naturiol fel y gallo pawb deimlo yn hapus a rhydd yn eich cwmni, ac mor bur fel y teimlo pawb<noinclude><references/></noinclude> 58xt2se64v7ics1gunt4awq57kmezmo Tudalen:Y Dreflan.djvu/144 104 88657 171527 2026-10-09T00:17:19Z AlwynapHuw 1710 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171527 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn well o'ch herwydd. Bydd rhai pobl yn sylwi ar bethau bychain. Na fyddwch yn aflêr a shabby yn eich gwisg, nac ychwaith yn rhoi lle i neb gredu eich bod yn meddwl gormod am eich ymddangosiad. Yr wyf yn credu fod aflerwch gyda'r ymddangosiad yn groes i ddysgeidiaeth yr efengyl; ond pan welaf fi bregethwr fydd yn dangos ei fod wedi cymeryd trafferth fawr gyda'i wallt er engraifft, byddaf yn meddwl fod rhyw wendid o dan y gwallt yn rhywle. Yr wyf yn teimlo fy mod yn rhoi cynghorion nad oes arnoch eu hanghen, ac ni fuaswn yn son am bethau fel hyn pe cawswn lonydd gan Mr. Pugh. Yr wyf yn dysgwyl pethau mawr oddiwrthych, ac yr wyf yn credu na chaf fy siomi. Y pwnc mawr i chwi a minnau, Mr. Rees, ydyw cadw yn ffafr ein Meistr, oblegid bydd hyny o ddaioni a gawn ac a wnawn yma ac ar ol hyn yn dibynu yn gwbl ar hyny. Os byddwch yn hoffi eich lle yma, yr wyf yn hyderu y gwnewch aros, ac na chymerwch eich hudo i ymadael à ni er mwyn ychydig bunnoedd. Gwn yn burion y cewch lawer o anhawsderau gyda ni. Mae yma lawer o honom yn hen bobl wedi tyfu a chaledu yn ein rhagfarnau, ac ni wnewch ond anafu eich hun wrth geisio ein diwygio. Ond byddwn ni yn union deg oddiar eich ffordd; ac os ceisiwch, gellwch genedlu y genedl sydd yn codi ar eich llun a'ch delw eich hun, a bod o annhraethol fendith iddynt. Cawn ymgomio am bethau fel hyn eto, Mr. Rees. Maddeuwch i mi fy hyfdra. Duw fyddo gyda chwi ydyw gwir ddymuniad fy nghalon.' "Diolchais i'r hen ŵr am ei gynghorion; ac wedi i Mr. Pugh wastadhâu ein cyfrif am y teisenau brwd, aethom adref." {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 4qcl85lb2ajqnjybmih8dr0sifpg2wb