Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.23
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/299
104
3551
171677
171582
2026-10-11T04:22:43Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171677
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>mil oedd gyd â Jonathan yn Gibeah Benjamin: a’r bobl eraill a anfonodd efe bawb i’w babell ei hun.
{{angor|13:3|3}} A Jonathan a darawodd sefyllfa y Philistiaid, yr hon ''oedd'' yn Geba: a chlybu y Philistiaid ''hynny''. A Saul a ganodd mewn udgorn trwy yr holl dir, gan ddywedyd, Clywed yr Hebreaid.
{{angor|13:4|4}} A holl Israel a glywsant ddywedyd daro o Saul sefyllfa y Philistiaid, a bod Israel yn ffiaidd gan y Philistiaid: a’r bobl a ymgasglodd ar ol Saul i Gilgal.
{{angor|13:5|5}} ¶ A’r Philistiaid a ymgynnullasant i ymladd âg Israel, deng mil ar hugain o gerbydau, a chwe mil o wŷr meirch, a phobl ''eraill'' cyn amled a’r tywod ''sydd'' ar fin y môr. A hwy a ddaethant i fynu, ac a wersyllasant ym Michmas, o du y dwyrain i Beth-afen.
{{angor|13:6|6}} Pan welodd gwŷr Israel fod yn gyfyng arnynt, (canys gwasgasid ar y bobl,) yna y bobl a ymguddiasant mewn ogofeydd, ac mewn dyrysni, ac mewn creigiau, ac mewn tyrau, ac mewn pydewau.
{{angor|13:7|7}} A ''rhai'' o’r Hebreaid a aethant dros yr Iorddonen, i dir Gad a Gilead: a Saul ''oedd'' etto yn Gilgal, a’r holl bobl a aethant ar ei ol ef dan grynu.
{{angor|13:8|8}} ¶ Ac efe a arhosodd saith niwrnod, hyd yr amser gosodedig ''a nodasai'' Samuel. Ond ni ddaeth Samuel i Gilgal; a’r bobl a ymwasgarodd oddi wrtho ef.
{{angor|13:9|9}} A Saul a ddywedodd, Dygwch attaf fi boeth-offrwm, ac offrymmau hedd. Ac efe a offrymmodd y poeth-offrwm.
{{angor|13:10|10}} Ac wedi darfod iddo offrymmu y poeth-offrwm, wele, Samuel a ddaeth: a Saul a aeth allan i’w gyfarfod ef, ''ac'' i gyfarch gwell iddo.
{{angor|13:11|11}} ¶ A dywedodd Samuel, Beth a wnaethost ti? A Saul a ddywedodd, O herwydd gweled o honof i’r bobl ymwasgaru oddi wrthyf, ac na ddaethost tithau o fewn y dyddiau gosodedig, ac i’r Philistiaid ymgasglu i Michmas;
{{angor|13:12|12}} Am hynny y dywedais, Y Philistiaid yn awr a ddeuant i waered attaf fi i Gilgal, ac ni weddïais ger bron yr {{sc|Arglwydd}}: am hynny yr anturiais i, ac yr offrymmais boeth-offrwm.
{{angor|13:13|13}} A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Ynfyd y gwnaethost: ni chedwaist orchymyn yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}, yr hwn a orchymynodd efe i ti: canys yr {{sc|Arglwydd}} yn awr a gadarnhasai dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd.
{{angor|13:14|14}} Ond yn awr ni saif dy frenhiniaeth di: yr {{sc|Arglwydd}} a geisiodd iddo wr wrth ''fodd'' ei galon ei hun: yr {{sc|Arglwydd}} hefyd a orchymynodd iddo fod yn flaenor ar ei bobl; o herwydd na chedwaist ti yr hyn a orchymynodd yr {{sc|Arglwydd}} i ti.
{{angor|13:15|15}} A Samuel a gyfododd ac a aeth i fynu o Gilgal i Gibeah Benjamin: a chyfrifodd Saul y bobl a gafwyd gyd âg ef, ynghylch chwe chant o wŷr.
{{angor|13:16|16}} A Saul a Jonathan ei fab, a’r bobl a gafwyd gyd â hwynt, oedd yn aros yn Gibeah Benjamin: a’r Philistiaid a wersyllasant ym Michmas.
{{angor|13:17|17}} ¶ A daeth allan o wersyll y Philistiaid anrheithwyr, yn dair byddin: un fyddin a drodd tu a ffordd Ophrah, tu a gwlad Sual;
{{angor|13:18|18}} A’r fyddin arall a drodd ''tu a'' ffordd Beth-horon: a’r drydedd fyddin a drodd ''tu a'' ffordd y terfyn sydd yn edrych tu a’r dyffryn Seboim, tu a’r anialwch.
{{angor|13:19|19}} ¶ Ac ni cheid gôf trwy holl wlad Israel: canys dywedasai y Philistiaid, Rhag gwneuthur o’r Hebreaid gleddyfau neu waywffyn.
{{angor|13:20|20}} Ond holl Israel a aent i waered at y Philistiaid, i flaenllymmu bob un ei swch, a’i gwlltwr, a’i fwyell, a’i gaib.
{{angor|13:21|21}} Ond yr oedd llif-ddur ''i wneuthur'' min ar y ceibiau, ac ar y cylltyrau, ac at y picffyrch, ac ar y bwyeill, ac i flaenllymmu y symbylau.
{{angor|13:22|22}} Felly yn nydd y rhyfel ni chaed na chleddyf na gwaywffon yn llaw yr un o’r bobl ''oedd'' gyd â Saul a Jonathan, ond a gaed gyd â Saul a Jonathan ei fab.
{{angor|13:23|23}} A sefyllfa y Philistiaid a aeth allan i fwlch Michmas.
{{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}}
{{bach|1 ''Jonathan, heb wybod i’w dad ac i’r offeiriad a’r bobl, yn myned ac yn taro amddiffynfa y Philistiaid yn rhyfeddol.'' 15 ''Dychryn Duw yn eu gyrru hwynt i ladd eu gilydd.'' 17 ''Saul, heb aros am atteb yr offeiriad, yn gosod arnynt.'' 21 ''Yr Hebreaid caethion, a’r Israeliaid oedd yn llechu, yn troi yn eu herbyn hwy.'' 24 ''Ehud adduned Saul yn rhwystro yr oruchafiaeth.'' 32 ''Saul yn gwahardd i’r bobl fwytta gwaed;'' 35 ''ac yn adeiladu allor.'' 36 ''Y bobl yn achub Jonathan, wedi ei ddal wrth goelbren.'' 47 ''Cryfder Saul a’i deulu.''}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
t4x0sm6t4gyw9punihn9qhcejifxok0
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/324
104
3576
171681
171381
2026-10-11T04:46:00Z
Tylopous
3717
angorau
171681
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>cynt oeddynt na’r eryrod, a chryfach oeddynt na’r llewod.
{{angor|1:24|24}} Merched Israel, wylwch am Saul, yr hwn oedd yn eich dilladu chwi ag ysgariad, gyda hyfrydwch, yr hwn oedd yn gwisgo addurnwisg aur ar eich dillad chwi.
{{angor|1:25|25}} Pa fodd y cwympodd y cedyrn yng nghanol y rhyfel! Jonathan, ti a laddwyd ar dy uchelfaoedd.
{{angor|1:26|26}} Gofid sydd arnaf amdanat ti, fy mrawd Jonathan: cu iawn fuost gennyf fi: rhyfeddol oedd dy gariad tuag ataf fi, tu hwnt i gariad gwragedd.
{{angor|1:27|27}} Pa fodd y syrthiodd y cedyrn, ac y difethwyd arfau rhyfel!
{{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd, ar archiad Duw, yn myned gyd â’i wŷr i Hebron; lle y gwnaed ef yn frenhin ar Judah:'' 5 ''yn canmol gwŷr Jabes Gilead, am eu caredigrwydd i Saul.'' 8 ''Abner yn gwneuthur Isboseth yn frenhin ar Israel.'' 12 ''Ymladd creulawn rhwng deuddeg o wŷr Abner a deuddeg o wŷr Joab.'' 18 ''Lladd Asahel.'' 25 ''Joab, ar ddeisyflad Abner, yn galw y bobl yn ol.'' 32 ''Claddedigaeth Asahel.''}}
{{angor|2:1}} {{uc|Ac}} ar ôl hyn yr ymofynnodd Dafydd’â’r ARGLWYDD, gan ddywedyd, A af fi i fyny i’r un o ddinasoedd Jwda? A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho ef, Dos i fyny. A dywedodd Dafydd, I ba le yr af i fyny? Dywedodd yntau, I Hebron.
{{angor|2:2|2}} A Dafydd a aeth i fyny yno, a’i ddwy wraig hefyd, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail gwraig Nabal y Carmeliad.
{{angor|2:3|3}} A Dafydd a ddug i fyny ei wŷr y rhai oedd gydag ef, pob un a’i deulu: a hwy a arosasant yn ninasoedd Hebron.
{{angor|2:4|4}} A gwŷr Jwda a ddaethant, ac a eneiniasant Dafydd yno yn frenin ar dŷ Jwda. A mynegasant i Dafydd, gan ddy¬wedyd, mai gwŷr Jabes Gilead a gladdasent Saul.
{{angor|2:5|5}} A Dafydd a anfonodd genhadau at wŷr Jabes Gilead, ac a ddywedodd wrthynt, Bendigedig ydych chwi gan yr ARGLWYDD, y rhai a wnaethoch y drugaredd hon â’ch arglwydd Saul, ac a’i claddasoch ef.
{{angor|2:6|6}} Ac yn awr yr ARGLWYDD a wnelo fi chwi drugaredd a gwirionedd: minnau hefyd a dalaf i chwi am y daioni hwn, oblegid i chwi wneuthur y peth hyn.
{{angor|2:7|7}} Yn awr gan hynny ymnerthed eich dwylo, a byddwch feibion grymus: canys marw a fu eich arglwydd Saul, a thŷ Jwda a’m heneiniasant innau yn frenin arnynt.
{{angor|2:8|8}} Ond Abner mab Ner, tywysog y filwriaeth oedd gan Saul, a gymerth Isboseth mab Saul, ac a’i dug ef drosodd i Mahanaim;
{{angor|2:9|9}} Ac efe a’i gosododd ef yn frenin ar Gilead, ac ar yr Assuriaid, ac ar Jesreel, ac ar Effraim, ac ar Benjamin, ac ar holl Israel.
{{angor|2:10|10}} Mab deugeinmlwydd oedd Isboseth mab Saul, pan ddechreuodd deyrnasu ar Israel, a dwy flynedd y teyrnasodd efe. Tŷ Jwda yn unig oedd gyda Dafydd.
{{angor|2:11|11}} A rhifedi y dyddiau y bu Dafydd yn frenin yn Hebron ar dŷ Jwda, oedd saith mlynedd a chwe mis.
{{angor|2:12|12}} Ac Abner mab Ner, a gweision Isboseth mab Saul, a aethant allan o Mahanaim i Gibeon.
{{angor|2:13|13}} Joab hefyd mab Serfia, a gweision Dafydd, a aethant allan, ac a gyfarfuant ynghyd wrth lyn Gibeon: a hwy a eisteddasant wrth y llyn, rhai o’r naill du, a’r lleill wrth y hyn o’r tu arall.
{{angor|2:14|14}} Ac Abner a ddywedodd wrth Joab, Cyfoded yn awr y llanciau, a chwaraeant ger ein bronnau ni. A dywedodd Joab, Cyfodant.
{{angor|2:15|15}} Yna y cyfodasant, ac yr aethant drosodd dan rif, deuddeg o Benjamin, sef oddi wrth Isboseth mab Saul, a deuddeg o weision Dafydd.
{{angor|2:16|16}} A phob un a ymaflodd ym mhen ei gilydd, ac a yrrodd ei gleddyf yn ystlys ei gyfaill; felly y cydsyrthiasant hwy. Am hynny y galwyd y lle hwnnw Helcath Hassurim, yn Gibeon.
{{angor|2:17|17}} A bu ryfel caled iawn y dwthwn hwnnw; a thrawyd Abner, a gwŷr Israel, o flaen gweision Dafydd.
{{angor|2:18|18}} A thri mab Serfia oedd yno, Joab, ac Abisai, ac Asahel: ac Asahel oedd mor fuan ar ei draed ag un o’r iyrchod sydd yn y maes.:
{{angor|2:19|19}} Ac Asahel a ddilynodd ar ôl Abner, ac wrth fyned ni throdd ar y tu deau nac ar y tu aswy, oddi ar ôl Abner.:
{{angor|2:20|20}} Yna Abner a edrychodd o’i ôl, ac a ddywedodd, Ai tydi yw Asahel? A dywedodd yntau, Ie, myfi.
{{angor|2:21|21}} A dywedodd Abner wrtho ef, Tro ar dy law ddeau, neu ar dy law aswy, a dal i ti un o’r llanciau, a chymer i ti ei arfau ef.<noinclude><references/></noinclude>
ip0nuuayvdi7ce5gt0hnkv2cq43had9
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/325
104
3577
171682
171382
2026-10-11T04:47:55Z
Tylopous
3717
angorau
171682
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>Ond ni fynnai Asahel droi oddi ar ei ôl ef.
{{angor|2:22|22}} Ac Abner a ddywedodd eilwaith wrth Asahel, Cilia oddi ar fy ôl i: paham y trawaf di i lawr? canys pa fodd y codwn fy ngolwg ar Joab dy frawd di wedi hynny?
{{angor|2:23|23}} Ond efe a wrthododd ymado. Am hynny Abner a’i trawodd ef â bôn y waywffon dan y bumed ais, a’r waywffon a aeth allan o’r tu cefn iddo; ac efe a syrthiodd yno, ac a fu farw yn ei le: a phawb a’r oedd yn dyfod i’r lle y syrthiasai Asahel ynddo, ac y buasai farw, a safasant.
{{angor|2:24|24}} Joab hefyd ac Abisai a erlidiasant ar ôl Abner: pan fachludodd yr haul, yna y daethant hyd fryn Amma, yr hwn sydd gyferbyn â Gia, tuag anialwch Gibeon.
{{angor|2:25|25}} A meibion Benjamin a ymgasglasant ar ôl Abner, ac a aethant yn un fintai, ac a safasant ar ben bryn.
{{angor|2:26|26}} Yna Abner a alwodd ar Joab, ac a ddywedodd, Ai byth y difa y cleddyf? oni wyddost ti y bydd chwerwder yn y diwedd? hyd ba bryd gan hynny y byddi heb ddywedyd wrth y bobl am ddychwelyd oddi ar ôl eu brodyr?
{{angor|2:27|27}} A dywedodd Joab, Fel mai byw Duw, oni buasai yr hyn a ddywedaist, diau yna y bore yr aethai y bobl i fyny, bob un oddi ar ôl ei frawd.
{{angor|2:28|28}} Felly Joab a utganodd mewn utgorn; a’r holl bobl a safasant, ac nid erlidiasant mwyach ar ôl Israel, ac ni chwanegasant ymladd mwyach.
{{angor|2:29|29}} Ac Abner a’i wŷr a aethant trwy’r gwastadedd ar hyd y nos honno, ac a aethant dros yr Iorddonen, ac a aethant trwy holl Bithron, a daethant i Mahanaim.
{{angor|2:30|30}} A Joab a ddychwelodd oddi ar ôl Abner: ac wedi iddo gasglu’r holl bobl ynghyd, yr oedd yn eisiau o weision Dafydd bedwar gŵr ar bymtheg, ac Asahel.
{{angor|2:31|31}} A gweision Dafydd a drawsent o Benjamin, ac o wŷr Abner, dri chant a thrigain gŵr, fel y buant feirw.
{{angor|2:32|32}} A hwy a gymerasant Asahel, ac a’i claddasant ef ym meddrod ei dad, yr hwn oedd ym Methlehem. A Joab a’i wŷr a gerddasant ar hyd y nos, ac yn Hebron y goleuodd arnynt.
{{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn myned yn gryfach tra y parhaodd y rhyfel.'' 2 ''Geni chwe mab iddo ef yn Hebron.'' 6 ''Abner yn anfoddlawn i Isboseth,'' 12 ''yn cilio at Dafydd.'' 13 ''Dafydd yn ei dderbyn ef, dan ammod iddo ef ddwyn iddo ei wraig Michal.'' 17 ''Abner, wedi ymddiddan â’r Israeliaid, yn cael gwledd gan Dafydd, a’i ollwng ymaith.'' 22 ''Joab yn dychwelyd o’r rhyfel, yn anfoddlawn i Dafydd, ac yn lladd Abner.'' 28 ''Dafydd yn melldithio Joab,'' 31 ''ac yn galaru am Abner.''}}
{{angor|3:1}} {{uc|A bu}} ryfel hir rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd: a Dafydd oedd yn myned. gryfach gryfach, ond tŷ Saul oedd yn myned wannach wannach.
{{angor|3:2|2}} A meibion a anwyd i Dafydd yn Hebron: a’i gyntaf-anedig ef oedd Amnon, o Ahinoam y Jesreeles;
{{angor|3:3|3}} A’i ail fab oedd Chileab, o Abigail gwraig Nabal y Carmeliad; a’r trydydd, Absalom, mab Maacha ferch Talmai brenin Gesur;
{{angor|3:4|4}} A’r pedwerydd, Adoneia, mab Hag-gith; a’r pumed, Seffatia, mab Abital:
{{angor|3:5|5}} A’r chweched, Ithream, o Egla gwraig Dafydd. Y rhai hyn a anwyd i Dafydd yn Hebron.
{{angor|3:6|6}} A thra yr ydoedd rhyfel rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd, yr oedd Abner yn ymegnïo dros dŷ Saul.
{{angor|3:7|7}} Ond i Saul y buasai ordderchwraig a’i henw Rispa, merch Aia: ac Isboseth a ddywedodd wrth Abner, Paham yr aethost i mewn at ordderchwraig fy nhad?
{{angor|3:8|8}} Yna y digiodd Abner yn ddirfawr oherwydd geiriau Isboseth, ac a ddy¬wedodd, Ai pen ci ydwyf fi, yr hwn ydwyf heddiw yn erbyn Jwda yn gwneuthur trugaredd â thŷ Saul dy dad di, â’i frodyr, ac â’i gyfeillion, a heb dy roddi di yn llaw Dafydd, pan osodaist i’m herbyn fai am y wraig hon heddiw?
{{angor|3:9|9}} Fel hyn y gwnelo Duw i Abner, ac fel hyn y chwanego iddo, onid megis y tyngodd yr ARGLWYDD wrth Dafydd, felly y gwnaf iddo ef,
{{angor|3:10|10}} Gan droi y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Saul, a dyrchafu gorseddfainc Dafydd ar Israel, ac ar Jwda, o Dan hyd Beer-seba.
{{angor|3:11|11}} Ac ni feiddiodd efe mwyach ateb gair i Abner, rhag ei ofn ef.
{{angor|3:12|12}} Ac Abner a anfonodd genhadau at Dafydd drosto ei hun, gan ddywedyd, Eiddo pwy yw y wlad? a chan ddywedyd, Gwna gynghrair â mi; ac wele, fy llaw i fydd gyda thi, i droi atat ti holl Israel.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
sesuwhyiio53wbkuoqkpklergvaq01n
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/326
104
3578
171683
6752
2026-10-11T04:49:58Z
Tylopous
3717
angorau
171683
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|3:13|13}} A dywedodd yntau. Da; myfi a wnaf gyfamod â thi: eto un peth yr ydwyf fi yn ei geisio gennyt, gan ddy¬wedyd, Ni weli fy wyneb, oni ddygi di yn gyntaf Michal merch Saul, pan ddelych i edrych yn fy wyneb.
{{angor|3:14|14}} A Dafydd a anfonodd genhadau at Isboseth mab Saul, gan ddywedyd, Dyro i mi fy ngwraig Michal, yr hon a ddyweddïais i mi am gant o flaengrwyn y Philistiaid.
{{angor|3:15|15}} Ac Isboseth a anfonodd, ac a’i dug hi oddi wrth ei gŵr, sef oddi wrth Phaltiel mab Lais.
{{angor|3:16|16}} A’i gŵr a aeth gyda hi, gan fyned ac wylo ar ei hôl hi, hyd Bahurim. Yna y dywedodd Abner wrtho ef, Dos, dychwel. Ac efe a ddychwelodd.
{{angor|3:17|17}} Ac Abner a lefarodd wrth henuriaid Israel, gan ddywedyd, Cyn hyn yr oeddech chwi yn ceisio Dafydd yn frenin arnoch.
{{angor|3:18|18}} Ac yn awr gwnewch hynny: canys yr ARGLWYDD a lefarodd am Dafydd, gan ddywedyd, Trwy law Dafydd fy ngwas y gwaredaf fy mhobl Israel o law y Philistiaid, ac o law eu holl elynion.
{{angor|3:19|19}} Dywedodd Abner hefyd wrth Ben¬jamin: ac Abner a aeth i ymddiddan â Dafydd yn Hebron, am yr hyn oll oedd dda yng ngolwg Israel, ac yng ngolwg holl dŷ Benjamin.
{{angor|3:20|20}} Felly Abner a ddaeth at Dafydd i Hebron, ac ugeinwr gydag ef. A Dafydd a wnaeth wledd i Abner, ac i’r gwŷr oedd gydag ef.
{{angor|3:21|21}} A dywedodd Abner wrth Dafydd, Mi a gyfodaf ac a af, ac a gasglaf holl Israel at fy arglwydd frenin, fel y gwnelont gyfamod â thi, ac y teyrnasech di ar yr hyn oll a chwennych dy galon. A Dafydd a ollyngodd Abner ymaith; ac efe a aeth mewn heddwch.
{{angor|3:22|22}} Ac wele weision Dafydd a Joab yn dyfod oddi wrth y dorf, ac anrhaith fawr a ddygasent hwy ganddynt: ond nid oedd Abner gyda Dafydd yn Hebron; canys efe a’i gollyngasai ef ymaith, ac yntau a aethai mewn heddwch.
{{angor|3:23|23}} Pan ddaeth Joab a’r holl lu oedd gydag ef, mynegwyd i Joab, gan ddy¬wedyd, Abner mab Ner a ddaeth at y brenin; ac efe ai gollyngodd ef ymaith, ac efe a aeth mewn heddwch.
{{angor|3:24|24}} A Joab a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd, Beth a wnaethost ti? wele, daeth Abner atat ti; paham y gollyngaist ef i fyned ymaith?
{{angor|3:25|25}} Ti a adwaenit Abner mab Ner, mai i’th dwyllo di y daeth efe, ac i wybod dy fynediad allan, a’th ddyfodiad i mewn, ac i wybod yr hyn oll yr wyt ti yn ei wneuthur.
{{angor|3:26|26}} A Joab aaeth allan oddi wrth Dafydd, ac a anfonodd genhadau ar ôl Abner; a hwy a’i dygasant ef yn ôl oddi wrth ffynnon Sira; heb wybod i Dafydd.
{{angor|3:27|27}} A phan ddychwelodd Abner i Hebron, Joab a’i trodd ef o’r neilitu yn y porth, i ymddiddan ag ef mewn hedd¬wch; ac a’i trawodd ef yno dan y bumed ais, fel y bu efe farw, oherwydd gwaed Asahel ei frawd ef.
{{angor|3:28|28}} Ac wedi hynny y clybu Dafydd, ac y dywedodd, Dieuog ydwyf fi a’m brenhiniaeth gerbron yr ARGLWYDD byth, oddi wrth waed Abner mab Ner:
{{angor|3:29|29}} Syrthied ar ben Joab, ac ar holl dy ei dad ef: fel na phallo fod un o dŷ Joab yn ddiferllyd, neu yn wahanglwyfus, neu yn ymgynnal wrth fagl neu yn syrthio ar gleddyf, neu mewn eisiau bara.
{{angor|3:30|30}} Felly Joab ac Abisai ei frawd ef a laddasant Abner, oherwydd lladd ohono ef Asahel eu brawd hwynt mewn rhyfel yn Gibeon.
{{angor|3:31|31}} A Dafydd a ddywedodd wrth Joab, ac wrth yr holl bobl oedd gydag ef, Rhwygwch eich dillad, ac ymwregyswch mewn sachliain, a galerwch o flaen Abner. A’r brenin Dafydd oedd yn myned ar ôl yr elor.
{{angor|3:32|32}} A hwy a gladdasant Abner yn Hebron. A’r brenin a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd wrth fedd Abner; a’r holl bobl a wylasant.
{{angor|3:33|33}} A’r brenin a alarnadodd am Abner, ac a ddywedodd, Ai fel y mae yr ynfyd yn marw, y bu farw Abner?:
{{angor|3:34|34}} Dy ddwylo nid oeddynt yn rhwym, ac nid oedd dy draed wedi eu rhoddi, mewn egwydydd: syrthaist fel y syrthiai un o flaen meibion anwir. A’r holl bobl a chwanegasant wylo amdano ef.
{{angor|3:35|35}} A phan ddaeth yr holl bobl i beri i Dafydd fwyta bara, a hi eto yn ddydd, Dafydd a dyngodd, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego,<noinclude><references/></noinclude>
tfo07fx9muoiebr3fdi5xi6l48j8uqr
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/327
104
3579
171684
171384
2026-10-11T04:51:26Z
Tylopous
3717
angorau
171684
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>os archwaethaf fara, na dim oll, nes machludo’r haul.
{{angor|3:36|36}} A’r holl bobl a wybuant hynny, a da oedd hyn yn eu golwg hwynt: a’r hyn oll a wnâi y brenin, oedd dda yng ngolwg y bobl.
{{angor|3:37|37}} A’r holl bobl a holl Israel a wybuant y diwrnod hwnnw, na ddarfuasai o fodd y brenin ladd Abner mab Ner.
{{angor|3:38|38}} A’r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch chwi i dywysog ac i ŵr mawr syrthio heddiw yn Israel?
{{angor|3:39|39}} A minnau ydwyf eiddil heddiw, er fy eneinio yn frenin; a’r gwŷr hyn, meib¬ion Serfia, sydd ry galed i mi. Yr ARGLWYDD a dâl i’r hwn a wnaeth y drwg yn ôl ei ddrygioni.
{{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}}
{{bach|1 ''Tra yr oedd yr Israeliaid yn ddychrynedig o achos marwolaeth Abner,'' 2 ''Baanah a Rechab yn lladd Isboseth, ac yn dwyn ei ben ef i Hebron.'' 9 ''Dafydd yn peri eu lladd hwynt, a chladdu pen Isboseth.''}}
{{angor|4:1}} {{uc|A phan}} glybu mab Saul farw o Abner yn Hebron, ei ddwylo a laesasant, a holl Israel a ofnasant.
{{angor|4:2|2}} A dau ŵr oedd gan fab Saul yn dywysogion ar dorfoedd: enw un oedd Baana, ac enw yr ail Rechab, meibion Rimmon y Beerothiad, o feibion Benjamin: (canys Beeroth hefyd a gyfrifid i Benjamin:
{{angor|4:3|3}} A’r Beerothiaid a ffoesent i Gittaim, ac a fuasent yno yn ddieithriaid hyd y dydd hwn.)
{{angor|4:4|4}} Ac i Jonathan, mab Saul, yr oedd mab cloff o’i draed. Mab pum mlwydd oedd efe pan ddaeth y gair am Saul a Jonathan o Jesreel; a’i famaeth a’i cymerth ef ac a ffodd: a bu, wrth frysio ohoni i ffoi, iddo ef syrthio, fel y cloffodd efe. A’i enw ef oedd Meffiboseth.
{{angor|4:5|5}} A meibion Rimmon y Beerothiad, Rechab a Baana, a aethant ac a ddaethant, pan wresogasai y dydd, i dŷ Isboseth; ac efe oedd yn gorwedd ar wely ganol dydd.
{{angor|4:6|6}} Ac wele, hwy a ddaethant i mewn i ganol y tŷ, fel rhai yn prynu gwenith; a hwy a’i trawsant ef dan y bumed asen: a Rechab a Baana ei frawd a ddianghasant.
{{angor|4:7|7}} A phan ddaethant i’r tŷ, yr oedd efe yn gorwedd ar ei wely o fewn ystafell ei wely: a hwy a’i trawsant ef, ac a dorasant ei ben ef, ac a gymerasant ei ben ef, ac a gerddasant trwy’r gwastadedd ar hyd y nos.
{{angor|4:8|8}} A hwy a ddygasant ben Isboseth at Dafydd i Hebron; ac a ddywedasant wrth y brenin, Wele ben Isboseth mab Saul, dy elyn di, yr hwn a geisiodd dy einioes di: a’r ARGLWYDD a roddes i’m harglwydd frenin ddial y dydd hwn ar Saul, ac ar ei had.
{{angor|4:9|9}} A Dafydd a atebodd Rechab a Baana ei frawd, meibion Rimmon y Beeroth¬iad, ac a ddywedodd wrthynt, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hwn a ryddhaodd fy enaid o bob cyfyngdra,
{{angor|4:10|10}} Pan fynegodd un i mi, gan ddywedyd, Wele, bu farw Saul, (ac yr oedd yn ei olwg ei hun megis un yn dwyn llawen chwedl,) mi a ymeflais ynddo, ac a’i lleddais ef yn Siclag, yr hwn a dybiasai y rhoddaswn iddo obrwy am ei chwedl:
{{angor|4:11|11}} Pa faint mwy y gwnaf i ddynion annuwiol a laddasant ŵr cyfiawn yn ei dŷ, ar ei wely? Yn awr, gan hynny, oni cheisiaf ei waed ef ar eich llaw chwi? ac oni thorraf chwi ymaith oddi ar y ddaear?
{{angor|4:12|12}} A Dafydd a orchmynnodd i’w lanciau; a hwy a’u lladdasant hwy, ac a dorasant eu dwylo hwynt a’u traed, ac a’u crogasant hwy uwchben y llyn yn Hebron. Ond pen Isboseth a gymerasant hwy, ac a’i claddasant ym meddrod Abner, yn Hebron.
{{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}}
{{bach|1 ''Y llwythau yn dyfod i Hebron i enneinio Dafydd yn frenhin ar Israel.'' 4 ''Oedran Dafydd.'' 6 ''Dafydd yn ennill Sïon ar y Jebusiaid, ac yn trigo ynddi.'' 11 ''Hiram yn anfon at Dafydd.'' 13 ''Geni meibion iddo yn Jerusalem.'' 17 ''Dafydd, trwy gyfarwyddyd Duw, yn taro y Philistiaid yn Baal-perasim,'' 22 ''ac wrth y morwydd.''}}
{{angor|5:1}} {{uc|Yna}} holl lwythau Israel a ddaethant at Dafydd i Hebron, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Wele, dy asgwrn di a’th gnawd ydym ni.
{{angor|5:2|2}} Cyn hyn hefyd; pan oedd Saul yn frenin arnom ni, ti oeddit yn arwain Israel allan, ac yn eu dwyn i mewn: a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt ti, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi yn flaenor ar Israel.
{{angor|5:3|3}} Felly holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron: a’r brenin Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, ger bron<noinclude><references/></noinclude>
7rbo0lbqbtev91pp7ng17lvbokawzun
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/328
104
3580
171685
171385
2026-10-11T04:53:23Z
Tylopous
3717
angorau
171685
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>yr ARGLWYDD: a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel.
{{angor|5:4|4}} Mab deng mlwydd ar hugain oedd Dafydd pan ddechreuodd deyrnasu; a deugain mlynedd y teyrnasodd efe.
{{angor|5:5|5}} Yn Hebron y teyrnasodd efe ar Jwda saith mlynedd a chwe mis: ac yn Jerwsalem y teyrnasodd efe dair blynedd ar ddeg ar hugain ar holl Israel a Jwda.
{{angor|5:6|6}} A’r brenin a’i wŷr a aethant i Jerwsalem, at y Jebusiaid, preswylwyr y wlad: y rhai a lefarasant wrth Dafydd, gan ddywedyd, Ni ddeui di yma, oni thynni ymaith y deillion a’r cloffion: gan dybied, Ni ddaw Dafydd yma.
{{angor|5:7|7}} Ond Dafydd a enillodd amddinynfa Seion: honno yw dinas Dafydd.
{{angor|5:8|8}} A dywedodd Dafydd y dwthwn hwnnw, Pwy bynnag a elo i fyny i’r gwter, ac a drawo’r Jebusiaid, a’r cloffion, a’r deillion, y rhai sydd gas gan enaid Dafydd, hwnnw fydd blaenor. Am hynny y dywedasant, Y dall a’r cloff ni ddaw i mewn i’r tŷ.
{{angor|5:9|9}} A Dafydd a drigodd yn yr amddiffynfa, ac a’i galwodd hi, Dinas Dafydd. A Dafydd a adeiladodd oddi amgylch, o Milo ac oddi mewn.
{{angor|5:10|10}} A Dafydd a aeth rhagddo, ac a gynyddodd yn fawr; ac ARGLWYDD DDUW y lluoedd oedd gydag ef.
{{angor|5:11|11}} A Hiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a seiri prennau, a seiri meini: a hwy a adeiladasant dŷ i Dafydd.
{{angor|5:12|12}} A gwybu Dafydd i’r ARGLWYDD ei sicrhau ef yn frenin ar Israel, a dyrchafu ohono ei frenhiniaeth ef er mwyn ei bobl Israel.
{{angor|5:13|13}} A Dafydd a gymerodd eto ordderchwragedd a gwragedd o Jerwsalem, wedi iddo ddyfod o Hebron: a ganwyd eto i Dafydd feibion a merched.
{{angor|5:14|14}} A dyma enwau y rhai a anwyd iddo ef yn Jerwsalem; Sammua, a Sobab, a Nathan, a Solomon,
{{angor|5:15|15}} Ibhar hefyd, ac Elisua, a Neffeg, a Jaffia,
{{angor|5:16|16}} Elisama hefyd, ac Eliada, ac Eliffalet.
{{angor|5:17|17}} Ond pan glybu y Philistiaid iddynt eneinio Dafydd yn frenin ar Israel, yr holl Philistiaid a ddaethant i fyny i geisio Dafydd. A Dafydd a glybu, ac a aeth i waered i’r amddiffynfa.
{{angor|5:18|18}} A’r Philistiaid a ddaethant, ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim.
{{angor|5:19|19}} A Dafydd a ymofynnodd â’r AR¬GLWYDD, gan ddywedyd, A af fi i fyny at y Philistiaid? a roddi di hwynt yn fy llaw i? A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Dafydd, Dos i fyny: canys gan roddi y rhoddaf y Philistiaid yn dy law di.
{{angor|5:20|20}} A Dafydd a ddaeth i Baal-perasim; a Dafydd a’u trawodd hwynt yno; ac a ddywedodd, Yr ARGLWYDD a wahanodd fy ngelynion o’m blaen i, megis gwahanu dyfroedd. Am hynny y galwodd efe enw y lle hwnnw, Baal-perasim.
{{angor|5:21|21}} Ac yno y gadawsant hwy eu delwau; a Dafydd a’i wŷr a’u llosgodd hwynt.
{{angor|5:22|22}} A’r Philistiaid eto a chwanegasant ddyfod i fyny, ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim.
{{angor|5:23|23}} A Dafydd a ymofynnodd â’r AR¬GLWYDD; ac efe a ddywedodd, Na ddos i fyny: amgylchyna o’r tu ôl iddynt, a thyred arnynt hwy gyferbyn â’r morwydd.
{{angor|5:24|24}} A phan glywech drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna ymegnïa: canys yna yr ARGLWYDD a â allan o’th flaen di, i daro gwersyll y Philistiaid.
{{angor|5:25|25}} A Dafydd a wnaeth megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD iddo ef; ac a drawodd y Philistiaid o Geba, hyd oni ddelech i Gaser.
{{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn cyrchu yr arch o Ciriath-jearim ar fèn newydd.'' 6 ''Taro Uzzah yn Peres-Uzzah.'' 11 ''Duw yn bendithio Obed-Edom o achos yr arch.'' 12 ''Dafydd yn dwyn yr arch i Sïon gyd âg aberthau, ac yn dawnsio o’i blaen hi: a Michal yn ei ddirmygu ef am hynny.'' 17 ''Efe yn gosod yr arch mewn pabell, gyd â llawenydd mawr a gwledda.'' 20 ''Michal, am geryddu Dafydd am ei lawenydd duwiol, yn ammhlantadwy hyd farwolaeth.''}}
{{angor|6:1}} {{uc|A chasglodd}} Dafydd eto yr holl etholedigion yn Israel, sef deng mil ar bugain.
{{angor|6:2|2}} A Dafydd a gyfododd, ac a aeth, a’r holl bobl oedd gydag ef, o Baale Jwda, i ddwyn i fyny oddi yno arch Duw; enw yr hon a elwir ar enw ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn sydd yn aros arni rhwng y ceriwbiaid.
{{angor|6:3|3}} A hwy a osodasant arch Duw ar fen newydd, ac a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea: Ussa hefyd ac Ahio, meibion Abinadab, oedd yn gyrru y fen newydd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
bm9xxvyejxqwlj2j0jl3ooucc9qv577
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/329
104
3581
171686
171387
2026-10-11T04:55:11Z
Tylopous
3717
angorau
171686
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|6:4|4}} A hwy a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea, gydag arch Duw; ac Ahio oedd yn myned o flaen yr arch.
{{angor|6:5|5}} Dafydd hefyd a holl dŷ Israel oedd yn chwarae gerbron yr ARGLWYDD, â phob offer o goed ffynidwydd, sef â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac ag utgyrn, ac â symbalau.
{{angor|6:6|6}} A phan ddaethant i lawr dyrnu Nachon, Ussa a estynnodd ei law at arch Duw, ac a ymaflodd ynddi hi, canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd.
{{angor|6:7|7}} A digofaint yr ARGLWYDD a lidiodd wrth Ussa: a Duw a’i trawodd ef yno am yr amryfusedd hyn; ac efe a fu farw yno wrth arch Duw.
{{angor|6:8|8}} A bu ddrwg gan Dafydd, am i’r ARGLWYDD rwygo rhwygiad ar Ussa: ac efe a alwodd y lle hwnnw Peresussa, hyd y dydd hwn.
{{angor|6:9|9}} A Dafydd a ofnodd yr ARGLWYDD y dydd hwnnw; ac a ddywedodd. Pa fodd y daw arch yr ARGLWYDD ataf fi?
{{angor|6:10|10}} Ac ni fynnai Dafydd fudo arch yr ARGLWYDD ato ef i ddinas Dafydd: ond Dafydd a’i trodd hi i dŷ Obed-Edom y Gethiad.
{{angor|6:11|11}} Ac arch yr ARGLWYDD a arhosodd yn nhŷ Obed-Edom y Gethiad dri mis: a’r ARGLWYDD a fendithiodd Obed-Edom, a’i holl dŷ.
{{angor|6:12|12}} A mynegwyd i’r brenin Dafydd, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a fendith¬iodd dy Obed-Edom, a’r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch Duw. Yna Dafydd a aeth, ac a ddug i fyny arch Duw o dŷ Obed-Edom, i ddinas Dafydd, mewn llawenydd.
{{angor|6:13|13}} A phan gychwynnodd y rhai oedd yn dwyn arch yr ARGLWYDD chwech o gamau, yna efe a offrymodd ychen a phasgedigion.
{{angor|6:14|14}} A Dafydd a ddawnsiodd â’i holl egni gerbron yr ARGLWYDD; a Dafydd oedd wedi ymwregysu ag effod liain.
{{angor|6:15|15}} Felly Dafydd a holl dŷ Israel a ddygasant i fyny arch yr ARGLWYDD, trwy floddest, a sain utgorn.
{{angor|6:16|16}} Ac fel yr oedd arch yr ARGLWYDD yn dyfod i mewn i ddinas Dafydd, yna Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu’r brenin Dafydd yn neidio, ac yn llemain o flaen yr AR¬GLWYDD; a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon.
{{angor|6:17|17}} A hwy a ddygasant i mewn arch yr ARGLWYDD, ac a’i gosodasant yn ei lle, yng nghanol y babell, yr hon a osodasai Dafydd iddi. A Dafydd a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd ger¬bron yr ARGLWYDD.
{{angor|6:18|18}} Ac wedi gorffen o Dafydd offrymu poethoffrwm ac offrymau hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw ARGLWYDD y lluoedd.
{{angor|6:19|19}} Ac efe a rannodd i’r holl bobl, sef i holl dyrfa Israel, yn ŵr ac yn wraig, i bob un deisen o fara, ac un dryll o gig, ac un gostrelaid o win. Felly yr aeth yr holl bobl bawb i’w dy ei hun.
{{angor|6:20|20}} Yna y dychwelodd Dafydd i fendigo ei dŷ: a Michal merch Saul a ddaeth i gyfarfod Dafydd; ac a ddy¬wedodd, O mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw, yr hwn a ymddiosgodd heddiw yng ngŵydd llawforynion ei weision, fel yr ymddiosgai un o’r ynfydion gan ymddiosg.
{{angor|6:21|21}} A dywedodd Dafydd wrth Michal, Gerbron yr ARGLWYDD, yr hwn a’m dewisodd i o flaen dy dad di, ac o flaen ei holl dy ef, gan orchymyn i mi fod yn flaenor ar bobl yr ARGLWYDD, ar Israel, y chwaraeais: a mi a chwaraeaf gerbron yr ARGLWYDD.
{{angor|6:22|22}} Byddaf eto waelach na hyn, a byddaf ddirmygus yn fy ngolwg fy hun: a chyda’r llawforynion, am y rhai y dywedaist wrthyf, y’m gogoneddir.
{{angor|6:23|23}} Am hynny i Michal merch Saul ni bu etifedd hyd ddydd ei marwolaeth.
{{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}}
{{bach|1 ''Nathan yn canmol amcan Dafydd ar adeiladu tŷ i’r Arglwydd;'' 4 ''ac ar ol hynny, trwy air Duw, yn gwarafun iddo.'' 12 ''Yn addaw iddo ddaioni a bendithion yn ei had.'' 18 ''Gweddi a dïolch Dafydd.''}}
{{angor|7:1}} {{uc|A phan}} eisteddodd y brenin yn ei dŷ, a rhoddi o’r ARGLWYDD lonydd iddo ef rhag ei holl elynion oddi amgylch:
{{angor|7:2|2}} Yna y dywedodd y brenin wrth Nathan y proffwyd, Wele yn awr fi yn preswylio mewn tŷ o gedrwydd, ac arch Duw yn aros o fewn y cortynnau.
{{angor|7:3|3}} A Nathan a ddywedodd wrth y brenin, Dos, gwna yr hyn oll ''sydd''<noinclude><references/></noinclude>
cupig6gd8fvy6upgyv76l0g5lryn6sg
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/555
104
3812
171678
7076
2026-10-11T04:30:21Z
Tylopous
3717
penodau
171678
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ARGLWYDD a wrendy pan alwyf arno
4:4 Ofnwch, ac na phechwch: ymddiddenwch â’ch calon ar eich gwely, a thewch. Sela.
4:5 Aberthwch ebyrth cyfiawnder; a gobeithiwch yn yr ARGLWYDD.
4:6 Llawer sydd yn dywedyd, Pwy a ddengys i ni ddaioni? ARGLWYDD, dyrcha arnom lewyrch dy wyneb.
4:7 Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon, mwy na’r amser yr amlhaodd eu hŷd a’u gwin hwynt.
4:8 Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hunaf: canys ti, ARGLWYDD, yn unig a wnei i mi drigo mewn diogelwch.
{{angor|Psalm_5}}{{c|{{uc|Psalm V}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn gweddïo, ac yn datgan ei ddiwydrwydd yn gweddïo.'' 4 ''Ni ffafria Duw yr enwir.'' 7 ''Dafydd yn dangos ei ffydd, ac yn gweddïo ar Dduw am ei gyfarwyddo ef,'' 10 ''a difetha ei elynion,'' 11 ''a chadw y duwiol.''}}
{{canoli|{{bach|I’r Pencerdd ar Nehiloth, Psalm Dafydd.}}}}
{{angor|5:1}} {{uc|Gwrando}} fy ngeiriau, ARGLWYDD; deall fy myfyrdod.
5:2 Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenin, a’m Duw: canys arnat y gweddïaf.
5:3 Yn fore, ARGLWYDD, y clywi fy llef; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat, ac yr edrychaf i fyny.
5:4 Oherwydd nid wyt ti DDUW yn ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyda thi.
5:5 Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithredwyr anwiredd.
5:6 Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr ARGLWYDD a ffieiddia y gŵr gwaedlyd a’r twyllodrus.
5:7 A minnau a ddeuaf ith dŷ di yn amlder dy drugaredd; ac a addolaf tua’th deml sanctaidd yn dy ofn di.
5:8 ARGLWYDD, arwain fi yn dy gyfiawnder, o achos fy ngelynion; ac uniona dy ffordd o’m blaen.
5:9 Canys nid oes uniondeb yn eu genau; eu ceudod sydd anwireddau: bedd agored yw eu ceg; gwenieithiant â’u tafod.
5:10 Distrywia hwynt, O Dduw; syrthiant oddi wrth eu cynghorion: gyr hwynt ymaith yn amlder eu camweddau: canys gwrthryfelasant i’th erbyn.
5:11 Ond llawenhaed y rhai oll a ymddiriedant ynot ti: llafarganant yn dragywydd, am i ti orchuddio drostynt: a’r rhai a garant dy enw, gorfoleddant ynot.
5:12 Canys ti, ARGLWYDD, a fendithi y cyfiawn: â charedigrwydd megis â tharian y coroni di ef.
{{angor|Psalm_6}}{{c|{{uc|Psalm VI}}.}}
{{bach|1 ''Achwynion Dafydd yn ei glefyd.'' 8 ''Y mae efe trwy ffydd yn ymorfoleddu ar ei elynion.''}}
{{canoli|{{bach|I’r Pencerdd ar Neginoth ar y Seminith, Psalm Dafydd.}}}}
{{angor|6:1}} {{uc|Arglwydd}}, na cherydda fi yn dy lidiowgrwydd, ac na chosba fi yn dy lid.
6:2 Trugarha wrthyf, ARGLWYDD: canys llesg ydwyf fi: iachâ fi, O ARGLWYDD, canys fy esgyrn a gystuddiwyd.
6:3 A’m henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithau, ARGLWYDD, pa hyd?
6:4 Dychwel, ARGLWYDD, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd.
6:5 Canys yn angau nid oes goffa amdanat; yn y bedd pwy a’th folianna?
6:6 Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â’m dagrau.
6:7 Treuliodd fy llygad gan ddicter: heneiddiodd oherwydd fy holl elynion.
6:8 Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd; canys yr ARGLWYDD a glywodd lef fy wylofain.
6:9 Clybu yr ARGLWYDD fy neisyfiad: yr ARGLWYDD a dderbyn fy ngweddi.
6:10 Gwaradwydder a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion: dychweler a chywilyddier hwynt yn ddisymwth.
{{angor|Psalm_7}}{{c|{{uc|Psalm VII}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn gweddïo yn erbyn malais ei elynion, ac yn dangos ei wiriondeb;'' 10 ''a thrwy ffydd yn gweled yr amddiffynnid ef, ac y difethid ei elynion.''}}
{{canoli|{{bach|Sigaion Dafydd, yr hwn a ganodd efe i’r {{sc|Arglwydd}}, oblegid geiriau Cus mab Jemini.}}}}
{{angor|7:1}} {{uc|Arglwydd}} fy NUW, ynot yr ymddiriedais: achub fi rhag fy holl erlidwyr a gwared fi:
7:2 Rhag iddo larpio fy enaid fel llew, gan ei rwygo, pryd na byddo gwaredydd.
7:3 ARGLWYDD fy NUW, os gwneuthum hyn; od oes anwiredd yn fy nwylo;
7:4 O thelais ddrwg i’r neb oedd heddychol â mi, (ie, mi a waredais yr hwn sydd elyn i mi heb achos;)
7:5 Erlidied y gelyn fy enaid, a go-<noinclude><references/></noinclude>
teb6x12o46o6tzkpoi0qq69rq1okbwe
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/556
104
3813
171679
7077
2026-10-11T04:35:21Z
Tylopous
3717
penodau
171679
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ddiwedded: sathred hefyd fy mywyd i’r llawr, a gosoded fy ngogoniant yn y llwch. Sela.
7:6 Cyfod, ARGLWYDD, yn dy ddicllonedd, ymddtrcha, oherwydd llid fy ngely: deffro hefyd drosof i’r farn a orchmynnaist.
7:7 Felly cynulleidfa y bobloedd a’th amgylchynant: er eu mwyn dychwel dithau i’r uchelder.
7:8 Yr ARGLWYDD a farn y bobloedd: barn fi, O ARGLWYDD, yn ôl fy nghyfiawnder, ac yn ôl fy mherffeithrwydd sydd ynof.
7:9 Darfydded weithian anwiredd yr annuwiolion, eithr cyfarwydda di y cyfiawn: canys y Duw cyfiawn a chwilia y calonnau a’r arennau.
7:10 Fy amddiffyn sydd o DDUW, Iachawdwr y rhai uniawn o galon.
7:11 Duw sydd Farnydd cyfiawn, a Duw sydd ddicllon beunydd wrth yr annuwiol.
7:12 Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hoga ei gleddyf: efe a anelodd ei fwa, ac a’i paratôdd.
7:13 Paratôdd hefyd iddo arfau angheuol: efe a drefnodd ei saethau yn erbyn yr erlidwyr.
7:14 Wele, efe a ymddŵg anwiredd, ac a feichiogodd ar gamwedd, ac a esgorodd gelwydd.
7:15 Torrodd bwll, cloddiodd ef, syrthiodd i hefyd yn y clawdd a wnaeth.
7:16 Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben ei hun, a’i draha a ddisgyn ar ei gopa ei hun.
7:17 Clodforaf yr ARGLWYDD yn ôl ei gyfiawnder; a chanmolaf enw yr ARGLWYDD goruchaf.
{{angor|Psalm_8}}{{c|{{uc|Psalm VIII}}.}}
{{bach|''Mawrygu gogniant Duw, wrth ei weithredoedd, ac wrth ei gariad tu ag at ddyn.''}}
{{canoli|{{bach|I’r Pencerdd ar Gittith, Psalm Dafydd.}}}}
{{angor|8:1}} {{uc|Arglwydd}} ein IOR ni, mor arddercog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd.
8:2 O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a’r ymddialydd.
8:3 Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordenaist;
8:4 Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn i ti i ymweled ag ef?
8:5 Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion, ac a’i coronaist i gogoniant ac â harddwch.
8:6 Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef:
8:7 Defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd;
8:8 Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd.
8:9 ARGLWYDD ein IOR, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!
{{angor|Psalm_9}}{{c|{{uc|Psalm IX}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn moliannu Duw am wneuthur barn;'' 11 ''ac yn annog eraill i’w glodfori ef,'' 13 ''ac yn gweddïo ar iddo gael achos i’w foliannu ef.''}}
{{canoli|{{bach|I’r Pencerdd ar Muth-labben, Psalm Dafydd.}}}}
{{angor|9:1}} {{uc|Clodforaf}} di, O ARGLWYDD, â’m holl galon: mynegaf dy holl ryfeddodau.
9:2 Llawenychaf a gorfoleddaf ynot: canaf i’th enw di, y Goruchaf.
9:3 Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hôl, hwy a gwympant ac a ddifethir o’th flaen di.
9:4 Canys gwnaethost fy mam a’m mater yn dda: eisteddaist ar orseddfainc, gan farnu yn gyfiawn.
9:5 Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annuwiol; eu henw hwynt a ddileaist byth bythol.
9:6 Ha elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd: a diwreiddiaist y dinasoedd; darfu eu coffadwriaeth gyda hwynt.
9:7 Ond yr ARGLWYDD a bery yn dragywydd: efe a baratôdd ei orseddfainc i farn.
9:8 Ac efe a farn y byd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn uniondeb.
9:9 Yr ARGLWYDD hefyd fydd noddfa i’r gorthrymedig, noddfa yn amser trallod.
9:10 A’r rhai a adwaenant dy enw, a ymddiriedant ynot: canys ni adewaist, O ARGLWYDD, y rhai a’th geisient.
9:11 Canmolwch yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn preswylio yn Seion: mynegwch ymysg y bobloedd ei weithredoedd ef.
9:12 Pan ymofynno efe am waed, efe, a’u cofia hwynt: nid anghofia waed y cystuddiol.
9:13 Trugarha wrthyf, ARGLWYDD; gwêl fy mlinder gan fy nghaseion, fy nyrchafydd o byrth angau:
9:14 Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Seion: llawenychaf yn dy iachawdwriaeth.
9:15 Y cenhedloedd a soddasant yn y<noinclude><references/></noinclude>
q2a3twtd5el6hfumoej530m3qjl6hx4
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/557
104
3814
171680
7078
2026-10-11T04:42:17Z
Tylopous
3717
penodau
171680
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ffos a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed eu hun.
9:16 Adwaenir yr ARGLWYDD wrth y farn a.wna: yr annuwiol a faglwyd yng ngweithredoedd ei ddwylo ei hun. Higgaion. Sela.
9:17 Y rhai drygionus a ymchwelant i uffem, a’r holl genhedloedd a anghofiant DDUW.
9:18 Canys nid anghofir y tlawd byth: gobaith y trueiniaid ni chollir byth.
9:19 Cyfod, ARGLWYDD; na orfydded dyn: barner y cenhedloedd ger dy fron di.
9:20 Gosod, ARGLWYDD, ofn arnynt: fel y gwybyddo y cenhedloedd mai dynion ydynt. Sela.
{{angor|Psalm_10}}{{c|{{uc|Psalm X}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn cwyno wrth Dduw rhag traha yr annuwiol;'' 12 ''ac yn gweddïo am ymwared;'' 16 ''ac yn dangos ei hyder.''}}
{{angor|10:1}} {{uc|Paham}}, ARGLWYDD, y sefi o bell? Pam yr ymguddi yn amser cyfyngder?
10:2 Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd: dalier hwynt yn y bwriadau a ddychmygasant.
10:3 Canys yr annuwiol a ymffrostia am ewyllys ei galon; ac a fendithia y cybydd, yr hwn y mae yr ARGLWYDD yn ei ffieiddio.
10:4 Yr annuwiol, gan uchder ei ffroen, ni chais DDUW: nid yw DUW yn ei holl feddyliau ef.
10:5 Ei ffyrdd sydd flin bob amser; uchel yw dy farnedigaethau allan o’i olwg ef: chwythu y mae yn erbyn ei holl elynion.
10:6 Dywedodd yn ei galon, Ni’m symudir: oherwydd ni byddaf mewn drygfyd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
10:7 Ei enau sydd yn llawn melltith, a dichell, a thwyll: dan ei dafod y mae camwedd ac anwiredd.
10:8 Y mae efe yn eistedd yng nghynllwynfa y pentrefi: mewn cilfachau y lladd efe y gwirion: ei lygaid a dremiant yn ddirgel ar y tlawd.
10:9 Efe a gynllwyna mewn dirgelwch megis llew yn ei ffau: cynllwyn y mae i ddal y tlawd: efe a ddeil y tlawd, gan ei dynnu i’w rwyd.
10:10 Efe a ymgryma, ac a ymostwng, fel y cwympo tyrfa trueiniaid gan ei gedyrn ef.
10:11 Dywedodd yn ei galon, Anghofiodd DUW: cuddiodd ei wyneb; ni wêl byth.
10:12 Cyfod, ARGLWYDD; 0O DDUW, dyrcha dy law: nac anghofia y cystuddiol.
10:13 Paham y dirmyga yr annuwiol DDUW? dywedodd yn ei galon, nid ymofynni.
10:14 Gwelaist hyn; canys ti a ganfydd anwiredd a cham, i roddi tâl a’th ddwylo dy hun: arnat ti y gedy y tlawd; ti yw cynorthwywr yr amddifad.
10:15 Tor fraich yr annuwiol a’r drygionus: cais ei ddrygioni ef hyd na chaffech ddim.
10:16 Yr ARGLWYDD sydd frenin byth ac yn dragywydd: difethwyd y cenhedloedd allan o’i dir ef.
10:17 ARGLWYDD, clywaist ddymuniad y tlodion: paratoi eu calon hwynt, gwrendy dy glust arnynt;
10:18 I farnu yr amddifad a’r gorthrymedig, fel na chwanego dyn daearol beri ofn mwyach.
{{angor|Psalm_11}}{{c|{{uc|Psalm XI}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn ymgysuro yn Nuw yn erbyn ei elynion.'' 4 ''Rhagddarbodaeth a chyfiawnder Duw.''}}
{{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, Psalm Dafydd.}}}}
{{angor|11:1}} {{uc|Yn}} yr ARGLWYDD yr wyf yn ymddiried: pa fodd y dywedwch wrth fy enaid, Eheda i’ch mynydd fel aderyn?
11:2 Canys wele, y drygionus a anelant fwa, paratoesant eu saethau ar y llinyn i saethu yn ddirgel y rhai uniawn o galon.
11:3 Canys y seiliau a ddinistriwyd; pa beth a wna y cyfiawn?
11:4 Yr ARGLWYDD sydd yn nheml ei sancteiddrwydd; gorseddfa yr ARGLWYDD sydd yn y nefoedd: y mae ei lygaid ef yn gweled, ei amrantau yn profi meibion dynion.
11:5 Yr ARGLWYDD a brawf y cyfiawn: eithr cas gan ei enaid ef y drygionus, a’r hwn sydd hoff ganddo drawster.
11:6 Ar yr annuwiolion y glawia efe faglau, tân a brwmstan, a phoethwynt ystormus: dyma ran eu ffiol hwynt.
11:7 Canys yr ARGLWYDD cyfiawn a gâr gyfiawnder: ei wyneb a edrych ar yr uniawn.
{{angor|Psalm_12}}{{c|{{uc|Psalm XII}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd, heb ganddo ddim cysur dynol, yn erfyn cymmorth gan Dduw,'' 3 ''ac yn ymgysuro â barnedigaethau Duw ar yr enwir, a’i ymddiried ym mhrofedig addewidion Duw.''}}
{{canoli|{{bach|I’r Pencerdd ar Seminith, Psalm Dafydd.}}}}
{{angor|12:1}} {{uc|Achub}}, ARGLWYDD; canys darfu y trugarog: oherwydd<noinclude><references/></noinclude>
1p8p0njuoaim4635ukgkrgocng8b1lk
Tudalen:Y Dreflan.djvu/145
104
88658
171638
2026-10-10T22:20:16Z
AlwynapHuw
1710
/* Heb ei brawfddarllen eto */ Dechrau tudalen newydd gyda "{{c|{{mawr|PENNOD XVI.<br>GOLYGFA NOSOL.}}}} YR oedd Mr. Sharp Rogers o'r ''London House'', gyda'r hwn yr oedd John Aelod Jones yn gynnorthwywr, a Walter Wynn yn egwyddorwas, yn un o'r dynion hyny sydd yn ymffrostio na wyddant ddim ond a wyddant; a gellid yn hawdd grynhoi ei fywyd i dri gair—''shop'', ''ledger'', a ''bank''; yn wir, gellid dyweyd ei hanes mewn tair llythyren—£. s. d.; ac oddiar yr egwyddor fod yr holl greadigaeth yn...
171638
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD XVI.<br>GOLYGFA NOSOL.}}}}
YR oedd Mr. Sharp Rogers o'r ''London House'', gyda'r hwn yr oedd John Aelod Jones yn gynnorthwywr, a Walter Wynn yn egwyddorwas, yn un o'r dynion hyny sydd yn ymffrostio na wyddant ddim ond a wyddant; a gellid yn hawdd grynhoi ei fywyd i dri gair—''shop'', ''ledger'', a ''bank''; yn wir, gellid dyweyd ei hanes mewn tair llythyren—£. s. d.; ac oddiar yr egwyddor fod yr holl greadigaeth yn cael ei gwneyd i fyny o fân ronynau, gellid myned gam ymhellach, a chwtogi ei fuchedd i'r llythyren ''d'', neu, mewn geiriau eraill, y geiniog. Buasai ef ei hun, o bosibl, yn ymwrthod â'r desgrifiad hwn, ac yn dewis yn hytrach gael ei ddarnodi â gair, a'r gair hwnw yn ddiammeu a fuasai ''business''. Wrth ddyweyd fel hyn, nid ydwyf am i'r darllenydd feddwl am fynyd fod Mr. Sharp Rogers yn amddifad o egwyddorion; na, yr oedd y rhai hyny mor sefydlog a threfnus ganddo ag ydoedd y silffoedd ar ba rai y gosodai ei frethynau llydain. Ymhlith erthyglau ei gyffes ffydd yr oedd y rhai canlynol yn meddu lle amlwg:—
i. Mai dyledswydd benaf dyn ydyw edrych ar ol ''number one'', ac edrych ar ol pobl eraill neu beidio fel y bydd yn dewis, ond o'r ddau mai peidio sydd oreu.
2. Mai prif ddyben dyn ar y ddaear ydyw gwneyd arian, a dwyn pobpeth arall yn is-wasanaethgar i hyny.
3. Fod yn anmhosibl cario ymlaen fasnach lwyddiannus ac ar yr un pryd ymgadw yn hollol at y gwir.
4 Fod gwleidyddiaeth yn burion i segurwyr, ac i'r rhai hyny nad oes ganddynt ddim arall i gymeryd i fyny eu hamser. Attodiad: nad oes dim gwahaniaeth gwerth son am dano rhwng y pleidiau a elwir y Ceidwadwyr a'r
Q
Rhyddfrydwyr; ond o'r ddwy blaid mai yr oreu yw yr un Ryddfrydig, am ei bod yn fwy tueddol i gadw y trethi i lawr.
5. Fod crefydd, yr un modd ag y mae dirwest, yn dda i'r rhai nad ydynt yn alluog i ofalu am danynt eu hunain. Attodiad: nad oes dim gwahaniaeth rhwng offeiriad Pabaidd, person, a phregethwr; ond pe buasai raid iddo ef ddewis un o'r swyddogaethau hyn, mai swydd person a ddewisai efe, am fod gwell cyflog i'w gael, ac y gallai obeithio cael ei wneyd yn esgob.
6. Fod addysg yn dda er galluogi dyn i wneyd y goreu o'r byd hwn, ac mai y gangen uchaf mewn addysg ydyw rhifyddiaeth.
7. Fod beirdd a llenorion i'w hystyried fel rhai â chrac yn eu penau, ac mai dyfais ydyw llyfrau i ddyfetha amser ac i yspeilio dyn o'i arian, ei ymborth, a'i ddillad.
8. Ac yn olaf, fod annhraethol wahaniaeth rhwng y West of England a'r Yorkshire goods.
Yr oedd gan Mr. Sharp Rogers chwaer deneu, dàl, grebachlyd, a chybyddlyd, yr hon a ofalai am ei dŷ, a'r hon hefyd oedd mor debyg iddo ef ei hun o ran ei chwaeth a'i hegwyddorion, fel na theimlodd efe yn ystod ei oes yr anghenrheidrwydd lleiaf am wraig. Er nad oedd y brawd na'r chwaer eu hunain yn grefyddol, yr oedd aelodaeth eglwysig yn gymhwysder anhebgorol am dderbyniad i'r London. House yn yr egwyddorwas a'r cynnorthwywr, am y credid fod hyny, càn belled ag yr oedd yn myned, yn sicrhâd am onestrwydd. Yr oedd Mr. Sharp Rogers, fel rheol, yn gofalu hefyd ar fod yr egwyddorwas a'r cynnorthwywr yn perthyn i deuluoedd parchus a llïosog yn yr ardal, gan fod hyny yn "tueddbenu" i ddwyn llawer i'w fasnachdý na buasent, o dan amgylchiadau eraill, yn rhoi eu troed byth o'i fewn. Nid oedd y callineb hwn o eiddo Mr. Rogers yn ddiystyr ychwaith o nifer cymhariaethol y gwahanol enwadau crefyddol; oblegid nid unwaith na dwywaith y gwnaed cais ato i gymeryd bachgen yn egwyddorwas a fyddai o'r fydd drochyddol; eithr ymhob un o'r amgylchiadau hyny
Q
byddai Sharp Rogers yn dygwydd bod yn "llawn," neu wedi addaw cymeryd bachgen arall, pryd mewn gwirionedd mai y rheswm penaf fyddai fod ein brodyr y Bedyddwyr yn y lleiafrif yn fawr yn y Dreflan. Yr oedd lle i gredu mai yr un callineb a arweiniodd Mr. Rogers i beidio cysylltu ei hun âg un enwad yn neillduol, ac mai doethach oedd "rhoi tro" i edrych am y naill fel y llall yn achlysurol, yn enwedig ar adeg cyfarfod pregethu neu wyl flynyddol. Yn ei feddwl ef, nid oedd llawer o wahaniaeth rhwng yr enwadau crefyddol, ac yr oeddynt oll yn dda yn eu ffordd eu hunain. Ceisiai wneyd ei hun yn bobpeth i bawb fel y gallai gael ennill oddiwrth rai. Gan ei fod yn awyddus, fel y dywedwyd, i fod ar delerau da gyda phawb, yr oedd wedi ffurfio penderfyniad, er yn fore, i beidio dangos dim ffafraeth tuag at y naill enwad crefyddol mwy na'r llall; ac yn rhinwedd y penderfyniad hwnw, gwrthodai gyfranu at bob achos a fyddai yn dwyn gwedd enwadol. Gyda golwg ar gronfeydd cyhoeddus a chyffredinol, yr oedd pawb yn gwybod nad oedd efe yn ŵr cyhoeddus, ac felly nad oedd a fyno ef â hwynt o gwbl.
Gyda'r fath feistr, nid oedd lle i ddysgwyl y cawsai John Aelod Jones nemawr o gefnogaeth yn ei efrydiaeth lenyddol; ac, fel meibion athrylith yn gyffredin, bu raid iddo ymladd â llawer o rwystrau, a gorchfygu llawer o anhawsderau. Er y gallasai gael ambell i awr hamddenol i ddarllen yn ystod y diwrnod, nid gwiw oedd iddo edrych ar lyfr ''during business hours'', ys dywedai ei feistr. Yr oedd Mr. Sharp Rogers ymron mor gyson a ffyddlawn yn ei ''shop'' ag ydoedd y ''counter'', fel nad oedd gan Aelod Jones ychwaith gyfle ond rhyw unwaith yn y mis, sef pan elai ei feistr i Manchester, i fanteisio dim ar ei absennoldeb. Ac hyd yn nod y diwrnodiau hyny, byddai Miss Rogers bob rhyw hanner awr yn estyn ei thrwyn main gyda chil y drws oedd yn gwahanu y ''shop'' a'r gegin, i edrych a oedd y bechgyn wrth eu gwaith. Nid oedd dim amser i ddarllen i'w gael ar adeg y pryd bwyd, oblegid deng mynyd yn unig a ganiateid yn y London
Q
House i ddiwallu anghenrheidiau y corff. Yr oedd Mr. Rogers yn fanwl gyda hyn o herwydd dau reswm: yn un peth, er mwyn argraffu ar feddyliau ei weision werth amser; ac yn nesaf, er mwyn eu dysgu i beidio bwyta i ormodedd. Ië, anghofiais ddyweyd fod hon hefyd yn erthygl bwysig yn nghredo Mr. Rogers—mai arferad drwg oedd bwyta llawer, yn enwedig mewn pobl ieuainc. O herwydd rheol gyfyng y deng mynyd, ac fod dannedd John Aelod Jones yn hynod ddirywiedig a braenllyd, ac hefyd fod y cigfwyd a barotoid ar ei gyfer yn y ''London House'' yn amddifad bob amser o'r ansawdd hwnw a briodolir i einioes dyn, sef breuolder, yr oedd John, yn ystod ei arosiad gyda Mr. Rogers, wedi myned mor deneu ymron â gwïalen bysgota. Nid oedd neb a allai chwerthin yn fwy calonog wrth son am hyn na John ei hun; a mynych yr adroddai, er difyrwch i'w wrandäwyr, mai unwaith yn unig er pan ydoedd yn y Dreflan y cawsai e lwyr ddigoni âg ymborth, a'r waith hono ydoedd pan wahoddwyd ef i'r Cartrefle i swpera gyda Mr. Pugh. Dywedai John ddarfod i Mr. Pugh y noswaith hono addaw wrtho yn bendant y byddai iddo ef yn y cyfarfod brodyr dilynol gynnyg ar fod i ardreth yr eisteddle a ddaliai yn y capel gael ei ostwng i'r hanner, o herwydd ei fod mor deneu. Os dygwyddai i gwsmer y gwyddai Mr. Rogers ei fod yn meddwl yn lled uchel o Aelod Jones alw ei sylw at deneuwch y llanc, rhoddai Mr. Rogers ei law yn gyfrinachol ar ysgwydd y cwsmer, a dywedai,
"Syr, y mae enaid y bachgen yna yn fwy na'i gorff; yr wyf bob amser yn dyweyd hyny. Y mae yn deneu, ni wiw gwadu; ond nid diffyg ymborth ydyw yr achos o hyny na gormodedd gwaith, ond study, study, syr; dyna sydd yn lladd y bachgen. Nid ydyw o un dyben i mi siarad âg ef. Ni welais i erioed ddaioni o fechgyn a fyddent yn darllen gormod, ac yn moidro eu penau i ysgrifenu i'r wasg. Er nad wn i fy hun ddim am bethau. felly, yr wyf yn deall fod y bachgen yna, syr, yn ysgrifenu wmberth i'r papyrau newyddion. Pa bryd y mae
Q
yn cael amser i hyny, nis gwn. Ië, study, syr, sydd yn lladd y bachgen."
Yr oedd Mr. a Miss Rogers yn bobl gynnar iawn, fel y dywedir; hyny ydyw, yr oeddynt yn myned i'r gwely rai oriau o flaen pobl ereill, yn enwedig yn nhymmor y gauaf. Yr oedd gan Mr. Rogers ei resymau am hyn fel am bob peth arall. Dywedai Mr. Rogers fod myned i'r gwely yn gynnar yn fanteisiol i iechyd, a meddyliai ei fod yn arbediad mawr ar nwy a glo. Byddai y swper ar y bwrdd yn y ''London House'' bob nos am chwarter i naw o'r gloch i'r fynyd, a byddai pobpeth drosodd erbyn i'r awrlais daraw; yna eisteddai pawb yn llonydd am yspaid byr. Am bum' mynyd wedi naw, estynai Miss Rogers bâr o slippers i Mr. Rogers, a rhoddai dro ar hyd y gegin at waelod y grisiau, ac edrychai i fyny i'r llofft, a dychwelai i barotoi y canwyllau, yr un modd ag y bydd iâr yn myned o dan yr hofel i edrych ar ei chlwyd, ac yna yn dychwelyd i bigo tipyn wedi hyny hyd y buarth. Am ddeng mynyd wedi naw, dechreuai Miss Rogers ddylyfu gên, gan roddi tro arall hyd i waelod y grisiau, ac edrych i fyny i'r llofft, a dychwelai y tro hwn i dwymno ei thraed; ac yn y peth olaf cydymffurfid â hi gan Mr. Rogers. Am chwarter wedi naw, dywedai Mr. Rogers,
"Wel, boys, nid yw o un dyben i ni aros yma i edrych ar ein gilydd; gwell i ni fyn'd i gadw. Arabella" (enw bedyddiedig Miss Rogers), "goleuwch y canwyllau, a throwch y gas i ffwrdd;" a chyn pen deng mynyd arall, byddai Mr. a Miss Rogers yn chwyrnu yn eu gwahanol ystafelloedd, a John Aelod Jones a Walter Wynn yn y garret mor effro â dau ehedydd ar ben bore yn mis Ebrill.
Pan darawyd Aelod Jones â'r dwymyn lenyddol, darganfyddwyd gan Miss Rogers un bore nad oedd o'r ganwyll ddimai gyfan a roisai hi i'r llanciau y noson gynt ond rhyw hanner modfedd yn unig yn ngweddill. Byth wedi hyn, ni welwyd canwyll gyfan yn nwylaw y llanciau yn cychwyn ir ystafell wely, ond "pwt," ys dywedai Walter, "just ddigon i bara i ni dynu odd'an danom
Q
ac i ni ddeyd ein pader yn y t'w'llwch!" Ond nid oedd y genius i gael ei roddi i lawr fel hyn; na, nid oedd prinder canwyll yn garret y ''London House'', serch i'r geiniog olaf a feddai John Aelod Jones fyned i'w phwrcasu, a mynych y mynai Walter fwrw ei hatling i drysorfa y goleuni. Gan fod Mr. Rogers yn gysgwr trwm, ac o herwydd fod y "pwt canwyll" yn symud ymaith bob drwgdybiaeth, nid oedd fawr o bryder ar feddwl y bechgyn yr aflonyddid arnynt gan "Master of the hounds," fel y galwai Aelod Jones ef. Yr oedd profiad maith hefyd. wedi eu cadarnhâu yn hyn. Am wythnosau a misoedd, yr oedd y bechgyn wedi troi yr ystafell wely yn fyfyrgell, yn ddarllenfa ac yn neuadd gerddorol. Gwir mai Aelod Jones a Walter yn unig oeddynt yn cyfansoddi y chwareuwyr a'r gynnulleidfa, oddigerth rhyw ychydig o greaduriaid mân eraill nad allent fwynhau yr entertainment! Yr oedd y nifer mawr o lyfrau a feddai Aelod Jones, ei waith yn ysgrifenu llythyrau parhaus i Udgorn y Werin, ynghyd a'r ffaith ei fod yn deall grammadeg, wedi llenwi Walter a'r fath edmygedd o hono ag oedd yn ymylu ymron ar addoliad. Buasai yn rhoddi unrhyw beth am fod "mor glyfar" â Jones; ond yr oedd hyny allan o'r cwestiwn. Ystyriai Walter hi yn fraint o'r radd uchaf gael gwrando ar Aelod Jones yn darllen ei gynnyrchion cyn eu hanfon i'r wasg, a chael cymdeithasu âg up oedd yn gwybod cymaint. Yr oedd Aelod Jones yn ymwybodol o edmygedd Walter, ac yn ei werthfawrogi fel mynegai o edmygedd cyffredinol y byd llenyddol yr oedd efe i'w ennill ryw ddiwrnod. Mae yn gofus gan y darllenydd, o bosibl, mai ymddangosiad paragraph o'i eiddo mewn newyddiadur lleol a barodd iddo ef ymgyfenwi yn "Aelod" Jones. Effeithiodd gweled ei waith mewn argraff mor ddwfn arno nes penderfynu cwrs ei fywyd. Ar ol ymddangosiad y paragraph, ac wedi dysgwyl yn ofer am rai dyddiau am gydnabyddiaeth sylweddol am ei waith, penderfynodd Aelod Jones nad ysgrifenai air byth mwyach i'r papyr hwnw, ac.na fyddai iddo ef roddi ffrwyth ei feddwl i berchenogion ariangar a chybyddlyd, a chadwodd
Q
at ei benderfyniad. Ymhen ychydig ddyddiau anfonodd baragraph yn desgrifio "pytaten enfawr" i newyddiadur arall; ond ni chafodd yr ysgrif ymddangos. Yn "At ein Gohebwyr" gwnaeth y Golygydd y sylw canlynol: "J. Aelod Jones—Dysgwch sillebu." Beth? a oedd y dyn yn awgrymu nas gallai efe sillebu? Daeth goleuni i feddwl Aelod Jones, a gwelodd nad ydoedd eto yn llenor perffaith. Gosododd Walter i ddarllen iddo yn araf, ac ysgrifenai yntau yr hyn a ddarllenid, gan gymharu yr ysgrif â'r argraff; a chafodd er ei syndod fod Gol. y newyddiadur yn gywir. Ond beth oedd hyny i un oedd wedi penderfynu tori ffigiwr yn y byd llenyddol? Yr oedd ganddo un fantais fawr yn yr ymdrech: cawsai ysgol dda, ac yr oedd yn deall Saesoneg yn weddol, ac yn ysgrifenwr cyflym a phrydferth. Gyda chynnorthwy Walter fel darllenydd, meistrolodd Aelod Jones sillebiaeth a phriod-ddull y Gymraeg ymhen ychydig fisoedd. Wedi ennill y perffeithrwydd hwn deehreuodd ohebu i Udgorn y Werin, ac ni ddarfu i'r papyr "clodwiw" hwnw wrthod cyhoeddi cymaint ag un o'i ysgrifau. Yr oedd hyn yn galonogol. Yn y cyfnod hwn, yr oedd enw J. Aelod Jones ar ddalenau yr Udgorn bob wythnos, a bron wedi myned yn air teuluaidd. Yr oedd testynau ei ysgrifau yn cynnwys amrywiaeth diderfyn—o hanes "Hwch eppilgar" hyd at Gyfarfod Pregethu. Tua'r adeg hon cyfarfyddodd Aelod Jones â phrofedigaeth lem. Bu gohebydd o dref arall mor ryfygus ac anghyfiawn a defnyddio yr enw "Aelod." Brochodd Aelod Jones yn fawr, ac ysgrifenodd lythyr miniog a cheryddgar i'r Udgorn. Dilynwyd hwn gan lythyr oddiwrth yr "Aelod" arall. Wedi cryn ffrwgwd, tawelwyd meddwl y wlad gan ymyriad amserol Gol. yr Udgorn yn ffafr J. Aelod Jones, ac ni feiddiodd neb mwyach ladrata ei enw.
Ystyriai Walter y dylasai y gŵr oedd yn euog o'r fath anfadwaith gael ei roddi yn y carchar gyda llafur caled am o leiaf dair blynedd. Cydolygai Aelod Jones â'i gyfaill, a phrophwydai y byddai i ryw Seneddwr cyn bo hir, 'doedd bosibl, ddwyn mesur i'r Parliament er amddiffyn enwau llenorion adnabyddus. Gofidus ydyw
Q
meddwl na chyflawnwyd prophwydoliaeth Aelod Jones hyd y dydd hwn, er y cydnebydd pawb a wyddant rywbeth am lenyddiaeth Gymreig fod hyn yn un o anghenion pwysicaf yr oes oleu hon!
Dichon, wedi'r cwbl, fod peth gwir yn yr hyn a ddywedai Mr. Sharp Rogers gyda golwg ar yr achos o deneuwch Aelod Jones. Yr oedd gan efrydiaeth, o bosibl, ran yn nygiad yn mlaen guriad ei gnawd, oblegid treulid rhai oriau bob nos yn garret y ''London House'' ganddo ef a'i gyfaill i ddarllen, ysgrifenu, a chynnal cyfarfodydd amrywiâethol. Os byddai ar Aelod Jones eisieu "myn'd ati" i ysgrifenu, caniateid i Walter fyned i'r gwely, a chysgu, ar yr ammod iddo beidio chwyrnu. Os darllen a fyddai gwaith y noswaith i fod, eisteddai Walter yn ei wely â'i gôb am dano i'w gadw rhag anwyd, tra y cerddai Aelod Jones yn ol a blaen hyd yr ystafell, gan ddarllen yn uchel, a gwneyd ystumiau ar ei gorff er mwyn dysgu areithyddiaeth. Ar rai nosweithiau byddai raid cael dwy ganwyll: un i Walter, yr hon a ddaliai yn ei law, gan eistedd yn ei wely i ddarllen, ac un ar y bwrdd i Aelod Jones, yr hwn a geisiai ymberffeithio fel ''reporter''. Ar ddechreuad yr ymarferiadau hyn, cawsai Walter gryn drafferth i ddysgu cadw ei hun yn effro, tra y darllenai Aelod Jones ysgrifau meithion o'i awduriaeth ei hun, neu o eiddo rhywun arall. Ond esgorodd athrylith gynnyrchiol yr olaf ar gynllun a fu yn hynod effeithiol i ddwyn y deffröedigrwydd a ddymunid oddiamgylch. Yr oedd nenfwd yr ystafell lle y cysgai y ddau gyfaill yn hynod o isel, ac o herwydd hyny yn afiach a thra anfanteisiol i'r pwrpas y troisid hi yn ddiweddar; ond, fel pob gwir berchen athrylith, gwnaeth Aelod Jones i hyn wasanaethu er mantais iddo ef a'i gyfaill. Pan orchfygid Walter gan gwsg, rhoddai Aelod Jones ef i sefyll ar ei ben ar y gwely, gan osod ei draed i gyffwrdd â'r nenfwd, a chan berswadio Walter y gallai gydag ychydig ymarferiad ddysgu cerdded y nenfwd fel y bydd gwibedyn yn gwneyd; ac fel awdurdod ar y pwnc hwn, ac er mwyn ei argyhoeddi o bosiblrwydd y peth, dyfynai gyfran o "Hyfforddwr yr Efrydydd," yn dangos y
Q
gellid gwneyd pobpeth trwy ymarfer. Mynych y ceisiai Walter gerdded y nenfwd, a pharhâi yn yr ymdrech weithiau nes byddai ei wyneb yn glasu, a'i lygaid ymron syrthio o'i ben. Canlyniad naturiol y ceisiadau ebychfawr hyn a fyddai gwneyd Walter mor effro â'r gog, ac yna äi Aelod Jones ymlaen gyda'r darllen.
Er mwyn rhoddi chware teg i Mr. Sharp Rogers, dylaswn fod wedi hysbysu y darllenydd na byddai efe byth yn gwrthod caniatâd i'w weision fynychu cyfarfodydd hwyrol. Yn Eglwys Loegr y magesid Walter, ac Eglwyswyr oeddynt ei rieni; ond mor fawr yr edmygai efe Aelod Jones, fel nad oedd yn hapus heb gael ei ddilyn i bob cyfarfod a gynnelid ar ddyddiau yr wythnos yn y capel, a mynych y cwynai efe mor ddiffygiol oedd yr Eglwys o gyfarfodydd cyffelyb—mai un cyfarfod wythnosol yn unig a geid yn y Llan yn ystod blwyddyn, ac mai plygain oedd hwnw. Oni buasai am ei rieni, buasai Walter wedi troi ei gôt er ystalm. Os byddai ar y ddau gyfaill eisieu myned i gyfarfod, elai Aelod Jones at Mr. Rogers a gofynai,
"A wnewch chwi ganiatâu i Walter a finnau fyned i'r cyfarfod heno?"
Rhoddai Mr. Rogers ei ben i lawr am fynyd, ac yna dywedai,
"Beth ydyw natur y cyfarfod, Jones?"
Esboniai Jones natur y cyfarfod oreu y gallai.
"Wel," meddai Mr. Rogers, "yn gymaint a bod y cyfarfod â'i duedd i wneyd lles, gellwch fyn'd. Gadewch i mi weled; mae'n debyg y bydd hi yn lled hwyr arnoch yn dychwelyd; a fydd o ryw ddyben parotoi swper i chwi?"
"Na fydd o gwbl," fyddai atebiad hunanymwadol Jones. "Purion," meddai Mr. Rogers.
O dipyn i beth, daeth yn ddeddf yn y ''London House'', pan clai y gweision i gyfarfod hwyrol, na pharotoid swper ar eu cyfer; yn unig gadewid ar y bwrdd y "pwt canwyll" a dwy fatsen. Sylwyd gyda boddhâd gan Aelod Jones fod Mr. Rogers yn cynnyddu yn ei gefnogaeth i'r cyfarfodydd
Q
hyn; oblegid os dygwyddai i ychydig ddyddiau fyned heibio heb iddo ef ofyn am y caniatâd arferol, gofynai Mr. Rogers, Jones, oes yna yr un cyfarfod genych yr wythnos hon?"
Parai hyn sirioldeb mawr yn Jones, ond protestiai Walter mai arbed swper oedd yn llygad ''Master of the hounds''. Er pan ddaethai Noah Rees i'r Dreflan, yr oedd y cyfarfodydd hyn yn dygwydd yn lled fynych, ac yn achlysuro cryn waghâd ar logellau Aelod Jones a Walter; oblegid pan ddeuent allan o'r cyfarfod, byddai y ddau ymron syrthio o eisieu ymborth; ac nid oedd dim i'w wneyd ond myned i ''shop'' yr hen Ann Williams i brynu pastai ddwy geiniog. Mor llawen oedd gan yr hen wreigan ddeall fod y bechgyn yn mynychu y cyfarfodydd, fel y gorfodai hwynt yn aml i gymeryd cwpanaid o goffi gyda hi yn yr ystafell gefn. Yr unig beth a ofidiai Ann Williams oedd fod Walter, yr hwn oedd. fachgen prydferth a synwyrol, "yn myn'd i'r Eglwys yn lle bod hefo chrefydd!"
Yr oedd Aelod Jones wedi bod "wrthi" am dair noswaith yn olynol yn ysgrifenu hanes cyfarfod sefydlu Noah Rees, a Walter yn y cyfamser wedi bod yn cysgu yn y modd ammodol. O barch i'w athraw, yr oedd Aelod Jones wedi tynu allan ei holl ymadferthoedd i wneyd yr hanes yn y modd goreu a allai. Yr amser ydoedd hanner awr wedi naw ar y noswaith; y lle—garret y ''London House''. Oer oedd yr hin, a gwisgai Aelod Jones ei gôb uchaf am dano i gadw ei hun yn gynhes, a Walter a eisteddai yn ei wely â gwrthban dros ei ysgwyddau. Yr oedd y "pwt canwyll" wedi ei thaflu ymaith yn ddirmygedig, a chanwyll geiniog wedi ei gosod yn ei le Yr oedd Aelod Jones ymron a bod yn barod i ddechre darllen hanes y cyfarfod i Walter cyn ei anfon i Udgorn y Werin, pryd y cymerodd yr ymgom ganlynol le:
"Aelod Jones," ebe Walter, canys wrth ei enw llenyddol y dymunai Jones gael ei gyfarch; "ydach ch'i wedi gorphen yr hanes?"
{{nop}}"Ydwyf," ebe Jones, "ac yr wyf wedi ysgrifenu i'r Udgorn gadw tair colofn."
"Tair colofn!" ebe Walter, "dear me! Yr wdw i wedi meddwl lawer gwaith a gofyn i ch'i, Aelod Jones, a wnewch ch'i fy nysgu i scrifenu i'r print."
"Wel, rhywbeth a fedra i wneyd i ti, Wat, mi gwnaf o; ond cyn y medri di ysgrifenu i'r wasg, rhaid iddo fod ynot ti; rhaid i ti gael y dalent; fedr neb ei stwffio fo i ti. Mae hi yn ddawn ar ei phen ei hun, Wat. Dyma'r gaffer yma (Mr. Rogers), er mor ffond o bres ydi o, cae o ddwy fil o bunnau am ysgrifenu dwy frawddeg yn rammadegol, fedre fo ddim. Ond mi wnaiff dyn lawer o bethau wrth ymarfer; ac os oes awydd mawr arnat am fod yn ysgrifenwr, craffa ar y pethau canlynol yn gyntaf oll, rhaid i ti gael ffugenw. Wnei di ddim byd o honi heb ffugenw, a hwnw yn un a fydd yn swnio yn dda. Wedi hyn rhaid i ti feddwl, neu mewn geiriau eraill, synfyfyrio, a dae ti yn edrych dipyn yn hurt, dydi o ddim ods, achos mi feddyliff pobl ychwaneg o honot ti. Yn nesaf, rhaid i ti gael testun i ysgrifenu arno; ac y mae digon o destynau i'w cael bob amser i ddyn o feddwl. Mi wneiff grammadeg ddysgu llawer o bethau i ti, ond cofia hyn—pan yn ysgrifenu i'r wasg, ysgrifena ar un tu i'r ddalen. Wyt ti yn d'allt?"
"Ydw," ebe Walter; "ond be ydi y rheswm am hyny, Aelod Jones?"
"Wel," ebe Jones mewn tipyn o benbleth, "'does dim rheswm i'w roi am hyny, ond mai felly y byddai Dr. Johnson yn arfer gwneyd. Cofia, yn nesaf, wedi i ti roi dy ffugenw yn ngwaelod dy ysgrif, am roi dy enw priodol i lawr, a gwna gylch am dano. Wyt ti yn d'allt?"
"Rydw i meddwl 'y mod i," ebe Wat; ac ychwanegai, "I be mae nhw eisio yr enw priodol, Aelod Jones? ai er mwyn gwybod i b'le i anfon tal am yr ysgrif?"
"Wel," ebe Jones mewn penbleth eto, "gall hyny fod yn un rheswm, ond nid hyny ydyw y cwbl—mi ddoi i ddeall pethau fel hyn eto. Tria gofio y gwersi a gefaist heno, a chei wers arall yn y man.
{{nop}}"Un cwestiwn arall," ebe Wat. "Ydi hi yn talu yn o lew am ysgrifenu i'r wasg, Aelod Jones?"
"Mae hyny," ebe Jones, "yn dibynu ar alluoedd dyn, a'r enwogrwydd a fydd wedi ei ennill. Mi glywais fod golygwyr newyddiaduron Cymreig yn derbyn cymaint â phum' swllt ar hugain yr wythnos."
"Dear me! pwy fase'n meddwl!" ebe Walter yn synedig, ac ychwanegodd, "Rydach chithe yn scrifenu llawer, Aelod Jones; ydyn nhw yn talu yn o lew i chithe?"
"Wel," ebe Jones mewn penbleth mawr, "mae hyny hefo fi, Wat; nid cymaint ag yr wyf yn ei haeddu, hwyrach. (''Poor fellow''! ni chawsai geiniog erioed am ysgrifenu.) Nid er mwyn yr arian yn gymaint yr wyf yn ysgritenu; ond er mwyn—wel, mi ddoi i ddeall pethau fel hyn eto. Wyt ti yn barod i wrando ar yr hanes? 'Drycha di arna' i pan fydda' i yn darllen. Pan godaf un bys, dywed dithe clywch!' pan godaf ddau fys, dywed clywch, clywch!' pan godaf fy holl law, rho cheers. Mi wnaiff hyny dy gadw di yn effro. Ond yr wyt yn edrych yn lled gysglyd. Gwell i ti, yr ydw i yn meddwl, roi ''touch'' o gerdded ar y ''ceiling'' cyn i mi ddechreu."
"Hwyrach mai hyny fydd oreu, er fod gen' i ofn na ddysga i byth gerdded fel gwibedyn," ebe Wat.
"Practice ydyw'r cwbl," ebe Jones.
Taflodd Walter y gwrthban oddiam ei ysgwyddau, a safodd ar ei ben ar y gwely, a gosododd Jones ei draed ef vn gywir ar y nenfwd, a dywedodd,
"''Say when,'' Wat."
"Yrwan," ebe Wat; a gollyngodd Jones ei afael o hono.
Pa un ai diofalwch ar ran Aelod Jones, ai ynte diffyg ymarferiad, a barodd i Walter syrthio fel careg ar lawr y llofft, sydd yn gwestiwn hyd y dydd hwn heb ei benderfynu; ond i'r llawr y daeth, a hyny gyda'r fath drwst nes y tybid fod y. ''London House'' yn gandryll. Yr un foment rholiodd Aelod Jones ar lawr, gan chwerthin nes yr oedd ei ystlysau esgyrniog ymron ymagor. Pan ddadebrodd Walter o'i syfrdandod, dechreuodd wylo; ond mewn
Q
amrantiad, trôdd i chwerthin yn uchel a chalonog. Agorwyd drws yr ystafell, a gwnaeth y 'Master of the hounds'' ei ymddangosiad yn ei grys nos, yr hwn a gyrhaeddai hyd y llawr. Yr oedd ei ymddangosiad fel ymddangosiad ysbryd. Am foment meddyliodd Walter mai ficer y plwyf oedd y ddrychiolaeth; ond gwelodd ei fod yn ddiffygiol o'r riban goch ar ei ŵn gwyn, ac nad oedd ganddo flewyn o wallt ar ei ben. Yr oedd y bechgyn ar eu lledorwedd ar lawr, ac nis gallasent symud modfedd.
"Jones," ebe Mr. Rogers, "yr wyf yn synu atoch chwi; y chwi sydd yn ddyn o feddwl!"
"Syr," ebe Jones, "yr ydych wedi anghofio rhoi eich wig am eich pen."
Tynodd Sharp Rogers ei law dros ei ben, a chafodd fod hyny yn ffaith. Yr oedd Aelod Jones wedi ei orchfygu.
"Jones," ebe efe, "cawn siarad am hyn eto," a thrôdd ymaith ar ei sawdl ddihosan.
Er mor hoff o arian oedd Mr. Rogers, buasai yn well ganddo na phum' punt pe nas gwelsid ef gan ei weision. heb ei wig. Yr oedd wedi ei ddarostwng yn eu golwg, ac ni soniodd byth air am y noswaith hono. Boreu drannoeth, ar frecwast, gofynodd Miss Rogers a oedd un o honynt wedi clywed rhyw drwst mawr yn gynnar y noswaith gynt. Atebodd Mr. Rogers mai tebygol oedd ei bod wedi breuddwydio. Bu agos i Walter dagu.
Bu codwm Walter yn derfyniad ar weithrediadau y noswaith; ond gan y byddai yn gryn golled i'r darllenydd gael ei amddifadu o hanes cyfarfod sefydlu Noah Rees, mi a'i hanrhegaf âg ef yn y bennod nesaf ''verbatim et literatim'', fel yr ymddangosodd yn Udgorn y Werin.<noinclude><references/></noinclude>
29988t3l61ugrntyyelndb9ec0ggkl9
171654
171638
2026-10-10T22:58:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171654
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD XVI.<br>GOLYGFA NOSOL.}}}}
YR oedd Mr. Sharp Rogers o'r ''London House'', gyda'r hwn yr oedd John Aelod Jones yn gynnorthwywr, a Walter Wynn yn egwyddorwas, yn un o'r dynion hyny sydd yn ymffrostio na wyddant ddim ond a wyddant; a gellid yn hawdd grynhoi ei fywyd i dri gair—''shop'', ''ledger'', a ''bank''; yn wir, gellid dyweyd ei hanes mewn tair llythyren—£. s. d.; ac oddiar yr egwyddor fod yr holl greadigaeth yn cael ei gwneyd i fyny o fân ronynau, gellid myned gam ymhellach, a chwtogi ei fuchedd i'r llythyren ''d'', neu, mewn geiriau eraill, y geiniog. Buasai ef ei hun, o bosibl, yn ymwrthod â'r desgrifiad hwn, ac yn dewis yn hytrach gael ei ddarnodi â gair, a'r gair hwnw yn ddiammeu a fuasai ''business''. Wrth ddyweyd fel hyn, nid ydwyf am i'r darllenydd feddwl am fynyd fod Mr. Sharp Rogers yn amddifad o egwyddorion; na, yr oedd y rhai hyny mor sefydlog a threfnus ganddo ag ydoedd y silffoedd ar ba rai y gosodai ei frethynau llydain. Ymhlith erthyglau ei gyffes ffydd yr oedd y rhai canlynol yn meddu lle amlwg:—
1. Mai dyledswydd benaf dyn ydyw edrych ar ol ''number one'', ac edrych ar ol pobl eraill neu beidio fel y bydd yn dewis, ond o'r ddau mai peidio sydd oreu.
2. Mai prif ddyben dyn ar y ddaear ydyw gwneyd arian, a dwyn pobpeth arall yn is-wasanaethgar i hyny.
3. Fod yn anmhosibl cario ymlaen fasnach lwyddiannus ac ar yr un pryd ymgadw yn hollol at y gwir.
4 Fod gwleidyddiaeth yn burion i segurwyr, ac i'r rhai hyny nad oes ganddynt ddim arall i gymeryd i fyny eu hamser. ''Attodiad'': nad oes dim gwahaniaeth gwerth son am dano rhwng y pleidiau a elwir y Ceidwadwyr a'r<noinclude><references/></noinclude>
bld6g29dsf8x1c993f3cnjzw22izb1k
Tudalen:Y Dreflan.djvu/158
104
88659
171639
2026-10-10T22:22:04Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171639
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>amrantiad, trôdd i chwerthin yn uchel a chalonog. Agorwyd drws yr ystafell, a gwnaeth y 'Master of the hounds'' ei ymddangosiad yn ei grys nos, yr hwn a gyrhaeddai hyd y llawr. Yr oedd ei ymddangosiad fel ymddangosiad ysbryd. Am foment meddyliodd Walter mai ficer y plwyf oedd y ddrychiolaeth; ond gwelodd ei fod yn ddiffygiol o'r riban goch ar ei ŵn gwyn, ac nad oedd ganddo flewyn o wallt ar ei ben. Yr oedd y bechgyn ar eu lledorwedd ar lawr, ac nis gallasent symud modfedd.
"Jones," ebe Mr. Rogers, "yr wyf yn synu atoch chwi; y chwi sydd yn ddyn o feddwl!"
"Syr," ebe Jones, "yr ydych wedi anghofio rhoi eich wig am eich pen."
Tynodd Sharp Rogers ei law dros ei ben, a chafodd fod hyny yn ffaith. Yr oedd Aelod Jones wedi ei orchfygu.
"Jones," ebe efe, "cawn siarad am hyn eto," a thrôdd ymaith ar ei sawdl ddihosan.
Er mor hoff o arian oedd Mr. Rogers, buasai yn well ganddo na phum' punt pe nas gwelsid ef gan ei weision. heb ei wig. Yr oedd wedi ei ddarostwng yn eu golwg, ac ni soniodd byth air am y noswaith hono. Boreu drannoeth, ar frecwast, gofynodd Miss Rogers a oedd un o honynt wedi clywed rhyw drwst mawr yn gynnar y noswaith gynt. Atebodd Mr. Rogers mai tebygol oedd ei bod wedi breuddwydio. Bu agos i Walter dagu.
Bu codwm Walter yn derfyniad ar weithrediadau y noswaith; ond gan y byddai yn gryn golled i'r darllenydd gael ei amddifadu o hanes cyfarfod sefydlu Noah Rees, mi a'i hanrhegaf âg ef yn y bennod nesaf ''verbatim et literatim'', fel yr ymddangosodd yn Udgorn y Werin.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
af87iy81aot2av4n1h6c1y93fgld1ox
171640
171639
2026-10-10T22:22:38Z
AlwynapHuw
1710
171640
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>amrantiad, trôdd i chwerthin yn uchel a chalonog. Agorwyd drws yr ystafell, a gwnaeth y ''Master of the hounds'' ei ymddangosiad yn ei grys nos, yr hwn a gyrhaeddai hyd y llawr. Yr oedd ei ymddangosiad fel ymddangosiad ysbryd. Am foment meddyliodd Walter mai ficer y plwyf oedd y ddrychiolaeth; ond gwelodd ei fod yn ddiffygiol o'r riban goch ar ei ŵn gwyn, ac nad oedd ganddo flewyn o wallt ar ei ben. Yr oedd y bechgyn ar eu lledorwedd ar lawr, ac nis gallasent symud modfedd.
"Jones," ebe Mr. Rogers, "yr wyf yn synu atoch chwi; y chwi sydd yn ddyn o feddwl!"
"Syr," ebe Jones, "yr ydych wedi anghofio rhoi eich wig am eich pen."
Tynodd Sharp Rogers ei law dros ei ben, a chafodd fod hyny yn ffaith. Yr oedd Aelod Jones wedi ei orchfygu.
"Jones," ebe efe, "cawn siarad am hyn eto," a thrôdd ymaith ar ei sawdl ddihosan.
Er mor hoff o arian oedd Mr. Rogers, buasai yn well ganddo na phum' punt pe nas gwelsid ef gan ei weision. heb ei wig. Yr oedd wedi ei ddarostwng yn eu golwg, ac ni soniodd byth air am y noswaith hono. Boreu drannoeth, ar frecwast, gofynodd Miss Rogers a oedd un o honynt wedi clywed rhyw drwst mawr yn gynnar y noswaith gynt. Atebodd Mr. Rogers mai tebygol oedd ei bod wedi breuddwydio. Bu agos i Walter dagu.
Bu codwm Walter yn derfyniad ar weithrediadau y noswaith; ond gan y byddai yn gryn golled i'r darllenydd gael ei amddifadu o hanes cyfarfod sefydlu Noah Rees, mi a'i hanrhegaf âg ef yn y bennod nesaf ''verbatim et literatim'', fel yr ymddangosodd yn ''Udgorn y Werin.''
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
i3vyqrzd1o7q4nrl9tpthchgaydqk5x
Tudalen:Y Dreflan.djvu/157
104
88660
171641
2026-10-10T22:23:53Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171641
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Un cwestiwn arall," ebe Wat. "Ydi hi yn talu yn o lew am ysgrifenu i'r wasg, Aelod Jones?"
"Mae hyny," ebe Jones, "yn dibynu ar alluoedd dyn, a'r enwogrwydd a fydd wedi ei ennill. Mi glywais fod golygwyr newyddiaduron Cymreig yn derbyn cymaint â phum' swllt ar hugain yr wythnos."
"''Dear me''! pwy fase'n meddwl!" ebe Walter yn synedig, ac ychwanegodd, "Rydach chithe yn scrifenu llawer, Aelod Jones; ydyn nhw yn talu yn o lew i chithe?"
"Wel," ebe Jones mewn penbleth mawr, "mae hyny hefo fi, Wat; nid cymaint ag yr wyf yn ei haeddu, hwyrach. (''Poor fellow''! ni chawsai geiniog erioed am ysgrifenu.) Nid er mwyn yr arian yn gymaint yr wyf yn ysgritenu; ond er mwyn—wel, mi ddoi i ddeall pethau fel hyn eto. Wyt ti yn barod i wrando ar yr hanes? 'Drycha di arna' i pan fydda' i yn darllen. Pan godaf un bys, dywed dithe clywch!' pan godaf ddau fys, dywed clywch, clywch!' pan godaf fy holl law, rho ''cheers''. Mi wnaiff hyny dy gadw di yn effro. Ond yr wyt yn edrych yn lled gysglyd. Gwell i ti, yr ydw i yn meddwl, roi ''touch'' o gerdded ar y ''ceiling'' cyn i mi ddechreu."
"Hwyrach mai hyny fydd oreu, er fod gen' i ofn na ddysga i byth gerdded fel gwibedyn," ebe Wat.
"P''ractice'' ydyw'r cwbl," ebe Jones.
Taflodd Walter y gwrthban oddiam ei ysgwyddau, a safodd ar ei ben ar y gwely, a gosododd Jones ei draed ef vn gywir ar y nenfwd, a dywedodd,
"''Say when,'' Wat."
"Yrwan," ebe Wat; a gollyngodd Jones ei afael o hono.
Pa un ai diofalwch ar ran Aelod Jones, ai ynte diffyg ymarferiad, a barodd i Walter syrthio fel careg ar lawr y llofft, sydd yn gwestiwn hyd y dydd hwn heb ei benderfynu; ond i'r llawr y daeth, a hyny gyda'r fath drwst nes y tybid fod y. ''London House'' yn gandryll. Yr un foment rholiodd Aelod Jones ar lawr, gan chwerthin nes yr oedd ei ystlysau esgyrniog ymron ymagor. Pan ddadebrodd Walter o'i syfrdandod, dechreuodd wylo; ond mewn<noinclude><references/></noinclude>
mewhx8gzdk9gw0nes2pokp6rmsnkfqb
Tudalen:Y Dreflan.djvu/156
104
88661
171642
2026-10-10T22:25:44Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171642
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Ydwyf," ebe Jones, "ac yr wyf wedi ysgrifenu i'r ''Udgorn'' gadw tair colofn."
"Tair colofn!" ebe Walter, "''dear me''! Yr wdw i wedi meddwl lawer gwaith a gofyn i ch'i, Aelod Jones, a wnewch ch'i fy nysgu i scrifenu i'r print."
"Wel, rhywbeth a fedra i wneyd i ti, Wat, mi gwnaf o; ond cyn y medri di ysgrifenu i'r wasg, rhaid iddo fod ynot ti; rhaid i ti gael y dalent; fedr neb ei stwffio fo i ti. Mae hi yn ddawn ar ei phen ei hun, Wat. Dyma'r ''gaffer'' yma (Mr. Rogers), er mor ffond o bres ydi o, cae o ddwy fil o bunnau am ysgrifenu dwy frawddeg yn rammadegol, fedre fo ddim. Ond mi wnaiff dyn lawer o bethau wrth ymarfer; ac os oes awydd mawr arnat am fod yn ysgrifenwr, craffa ar y pethau canlynol yn gyntaf oll, rhaid i ti gael ffugenw. Wnei di ddim byd o honi heb ffugenw, a hwnw yn un a fydd yn swnio yn dda. Wedi hyn rhaid i ti feddwl, neu mewn geiriau eraill, synfyfyrio, a dae ti yn edrych dipyn yn hurt, dydi o ddim ods, achos mi feddyliff pobl ychwaneg o honot ti. Yn nesaf, rhaid i ti gael testun i ysgrifenu arno; ac y mae digon o destynau i'w cael bob amser i ddyn o feddwl. Mi wneiff grammadeg ddysgu llawer o bethau i ti, ond cofia hyn—pan yn ysgrifenu i'r wasg, ysgrifena ar un tu i'r ddalen. Wyt ti yn d'allt?"
"Ydw," ebe Walter; "ond be ydi y rheswm am hyny, Aelod Jones?"
"Wel," ebe Jones mewn tipyn o benbleth, "'does dim rheswm i'w roi am hyny, ond mai felly y byddai Dr. Johnson yn arfer gwneyd. Cofia, yn nesaf, wedi i ti roi dy ffugenw yn ngwaelod dy ysgrif, am roi dy enw priodol i lawr, a gwna gylch am dano. Wyt ti yn d'allt?"
"Rydw i meddwl 'y mod i," ebe Wat; ac ychwanegai, "I be mae nhw eisio yr enw priodol, Aelod Jones? ai er mwyn gwybod i b'le i anfon tal am yr ysgrif?"
"Wel," ebe Jones mewn penbleth eto, "gall hyny fod yn un rheswm, ond nid hyny ydyw y cwbl—mi ddoi i ddeall pethau fel hyn eto. Tria gofio y gwersi a gefaist heno, a chei wers arall yn y man.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
4jid3mzfcg12jjekx5wupff18nzpp82
Tudalen:Y Dreflan.djvu/155
104
88662
171643
2026-10-10T22:27:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171643
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>hyn; oblegid os dygwyddai i ychydig ddyddiau fyned heibio heb iddo ef ofyn am y caniatâd arferol, gofynai Mr. Rogers, Jones, oes yna yr un cyfarfod genych yr wythnos hon?"
Parai hyn sirioldeb mawr yn Jones, ond protestiai Walter mai arbed swper oedd yn llygad ''Master of the hounds''. Er pan ddaethai Noah Rees i'r Dreflan, yr oedd y cyfarfodydd hyn yn dygwydd yn lled fynych, ac yn achlysuro cryn waghâd ar logellau Aelod Jones a Walter; oblegid pan ddeuent allan o'r cyfarfod, byddai y ddau ymron syrthio o eisieu ymborth; ac nid oedd dim i'w wneyd ond myned i ''shop'' yr hen Ann Williams i brynu pastai ddwy geiniog. Mor llawen oedd gan yr hen wreigan ddeall fod y bechgyn yn mynychu y cyfarfodydd, fel y gorfodai hwynt yn aml i gymeryd cwpanaid o goffi gyda hi yn yr ystafell gefn. Yr unig beth a ofidiai Ann Williams oedd fod Walter, yr hwn oedd. fachgen prydferth a synwyrol, "yn myn'd i'r Eglwys yn lle bod hefo chrefydd!"
Yr oedd Aelod Jones wedi bod "wrthi" am dair noswaith yn olynol yn ysgrifenu hanes cyfarfod sefydlu Noah Rees, a Walter yn y cyfamser wedi bod yn cysgu yn y modd ammodol. O barch i'w athraw, yr oedd Aelod Jones wedi tynu allan ei holl ymadferthoedd i wneyd yr hanes yn y modd goreu a allai. Yr amser ydoedd hanner awr wedi naw ar y noswaith; y lle—''garret'' y ''London House''. Oer oedd yr hin, a gwisgai Aelod Jones ei gôb uchaf am dano i gadw ei hun yn gynhes, a Walter a eisteddai yn ei wely â gwrthban dros ei ysgwyddau. Yr oedd y "pwt canwyll" wedi ei thaflu ymaith yn ddirmygedig, a chanwyll geiniog wedi ei gosod yn ei le Yr oedd Aelod Jones ymron a bod yn barod i ddechre darllen hanes y cyfarfod i Walter cyn ei anfon i ''Udgorn y Werin'', pryd y cymerodd yr ymgom ganlynol le:
"Aelod Jones," ebe Walter, canys wrth ei enw llenyddol y dymunai Jones gael ei gyfarch; "ydach ch'i wedi gorphen yr hanes?"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
2eaw8usikz321z2lxs5wdz6472fhba3
Tudalen:Y Dreflan.djvu/154
104
88663
171644
2026-10-10T22:28:28Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171644
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gellid gwneyd pobpeth trwy ymarfer. Mynych y ceisiai Walter gerdded y nenfwd, a pharhâi yn yr ymdrech weithiau nes byddai ei wyneb yn glasu, a'i lygaid ymron syrthio o'i ben. Canlyniad naturiol y ceisiadau ebychfawr hyn a fyddai gwneyd Walter mor effro â'r gog, ac yna äi Aelod Jones ymlaen gyda'r darllen.
Er mwyn rhoddi chware teg i Mr. Sharp Rogers, dylaswn fod wedi hysbysu y darllenydd na byddai efe byth yn gwrthod caniatâd i'w weision fynychu cyfarfodydd hwyrol. Yn Eglwys Loegr y magesid Walter, ac Eglwyswyr oeddynt ei rieni; ond mor fawr yr edmygai efe Aelod Jones, fel nad oedd yn hapus heb gael ei ddilyn i bob cyfarfod a gynnelid ar ddyddiau yr wythnos yn y capel, a mynych y cwynai efe mor ddiffygiol oedd yr Eglwys o gyfarfodydd cyffelyb—mai un cyfarfod wythnosol yn unig a geid yn y Llan yn ystod blwyddyn, ac mai plygain oedd hwnw. Oni buasai am ei rieni, buasai Walter wedi troi ei gôt er ystalm. Os byddai ar y ddau gyfaill eisieu myned i gyfarfod, elai Aelod Jones at Mr. Rogers a gofynai,
"A wnewch chwi ganiatâu i Walter a finnau fyned i'r cyfarfod heno?"
Rhoddai Mr. Rogers ei ben i lawr am fynyd, ac yna dywedai,
"Beth ydyw natur y cyfarfod, Jones?"
Esboniai Jones natur y cyfarfod oreu y gallai.
"Wel," meddai Mr. Rogers, "yn gymaint a bod y cyfarfod â'i duedd i wneyd lles, gellwch fyn'd. Gadewch i mi weled; mae'n debyg y bydd hi yn lled hwyr arnoch yn dychwelyd; a fydd o ryw ddyben parotoi swper i chwi?"
"Na fydd o gwbl," fyddai atebiad hunanymwadol Jones. "Purion," meddai Mr. Rogers.
O dipyn i beth, daeth yn ddeddf yn y ''London House'', pan clai y gweision i gyfarfod hwyrol, na pharotoid swper ar eu cyfer; yn unig gadewid ar y bwrdd y "pwt canwyll" a dwy fatsen. Sylwyd gyda boddhâd gan Aelod Jones fod Mr. Rogers yn cynnyddu yn ei gefnogaeth i'r cyfarfodydd<noinclude><references/></noinclude>
tly1lftl9tlxio1gtaie2stho0x8fal
Tudalen:Y Dreflan.djvu/153
104
88664
171645
2026-10-10T22:30:18Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171645
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>meddwl na chyflawnwyd prophwydoliaeth Aelod Jones hyd y dydd hwn, er y cydnebydd pawb a wyddant rywbeth am lenyddiaeth Gymreig fod hyn yn un o anghenion pwysicaf yr oes oleu hon!
Dichon, wedi'r cwbl, fod peth gwir yn yr hyn a ddywedai Mr. Sharp Rogers gyda golwg ar yr achos o deneuwch Aelod Jones. Yr oedd gan efrydiaeth, o bosibl, ran yn nygiad yn mlaen guriad ei gnawd, oblegid treulid rhai oriau bob nos yn ''garret'' y ''London House'' ganddo ef a'i gyfaill i ddarllen, ysgrifenu, a chynnal cyfarfodydd amrywiâethol. Os byddai ar Aelod Jones eisieu "myn'd ati" i ysgrifenu, caniateid i Walter fyned i'r gwely, a chysgu, ar yr ammod iddo beidio chwyrnu. Os darllen a fyddai gwaith y noswaith i fod, eisteddai Walter yn ei wely â'i gôb am dano i'w gadw rhag anwyd, tra y cerddai Aelod Jones yn ol a blaen hyd yr ystafell, gan ddarllen yn uchel, a gwneyd ystumiau ar ei gorff er mwyn dysgu areithyddiaeth. Ar rai nosweithiau byddai raid cael dwy ganwyll: un i Walter, yr hon a ddaliai yn ei law, gan eistedd yn ei wely i ddarllen, ac un ar y bwrdd i Aelod Jones, yr hwn a geisiai ymberffeithio fel ''reporter''. Ar ddechreuad yr ymarferiadau hyn, cawsai Walter gryn drafferth i ddysgu cadw ei hun yn effro, tra y darllenai Aelod Jones ysgrifau meithion o'i awduriaeth ei hun, neu o eiddo rhywun arall. Ond esgorodd athrylith gynnyrchiol yr olaf ar gynllun a fu yn hynod effeithiol i ddwyn y deffröedigrwydd a ddymunid oddiamgylch. Yr oedd nenfwd yr ystafell lle y cysgai y ddau gyfaill yn hynod o isel, ac o herwydd hyny yn afiach a thra anfanteisiol i'r pwrpas y troisid hi yn ddiweddar; ond, fel pob gwir berchen athrylith, gwnaeth Aelod Jones i hyn wasanaethu er mantais iddo ef a'i gyfaill. Pan orchfygid Walter gan gwsg, rhoddai Aelod Jones ef i sefyll ar ei ben ar y gwely, gan osod ei draed i gyffwrdd â'r nenfwd, a chan berswadio Walter y gallai gydag ychydig ymarferiad ddysgu cerdded y nenfwd fel y bydd gwibedyn yn gwneyd; ac fel awdurdod ar y pwnc hwn, ac er mwyn ei argyhoeddi o bosiblrwydd y peth, dyfynai gyfran o "Hyfforddwr yr Efrydydd," yn dangos y<noinclude><references/></noinclude>
eoozofzremq0udgvmtzasdh0xbontq1
Tudalen:Y Dreflan.djvu/152
104
88665
171646
2026-10-10T22:42:26Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171646
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>[[Delwedd:Y Dreflan (Master of the Hounds).jpg|canol|500px|bawd|{{c|"Gwnaeth y Master of the Hounds ei ymddangosiad." t.d. 142.}}]]
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
5d0su0ruds5gvu55tbv3rmmo9ntmf2r
Tudalen:Y Dreflan.djvu/151
104
88666
171647
2026-10-10T22:45:06Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171647
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>at ei benderfyniad. Ymhen ychydig ddyddiau anfonodd baragraph yn desgrifio "pytaten enfawr" i newyddiadur arall; ond ni chafodd yr ysgrif ymddangos. Yn "At ein Gohebwyr" gwnaeth y Golygydd y sylw canlynol: "J. Aelod Jones—Dysgwch sillebu." Beth? a oedd y dyn yn awgrymu nas gallai efe sillebu? Daeth goleuni i feddwl Aelod Jones, a gwelodd nad ydoedd eto yn llenor perffaith. Gosododd Walter i ddarllen iddo yn araf, ac ysgrifenai yntau yr hyn a ddarllenid, gan gymharu yr ysgrif â'r argraff; a chafodd er ei syndod fod Gol. y newyddiadur yn gywir. Ond beth oedd hyny i un oedd wedi penderfynu tori ffigiwr yn y byd llenyddol? Yr oedd ganddo un fantais fawr yn yr ymdrech: cawsai ysgol dda, ac yr oedd yn deall Saesoneg yn weddol, ac yn ysgrifenwr cyflym a phrydferth. Gyda chynnorthwy Walter fel darllenydd, meistrolodd Aelod Jones sillebiaeth a phriod-ddull y Gymraeg ymhen ychydig fisoedd. Wedi ennill y perffeithrwydd hwn deehreuodd ohebu i ''Udgorn y Werin'', ac ni ddarfu i'r papyr "clodwiw" hwnw wrthod cyhoeddi cymaint ag un o'i ysgrifau. Yr oedd hyn yn galonogol. Yn y cyfnod hwn, yr oedd enw J. Aelod Jones ar ddalenau yr ''Udgorn'' bob wythnos, a bron wedi myned yn air teuluaidd. Yr oedd testynau ei ysgrifau yn cynnwys amrywiaeth diderfyn—o hanes "Hwch eppilgar" hyd at Gyfarfod Pregethu. Tua'r adeg hon cyfarfyddodd Aelod Jones â phrofedigaeth lem. Bu gohebydd o dref arall mor ryfygus ac anghyfiawn a defnyddio yr enw "Aelod." Brochodd Aelod Jones yn fawr, ac ysgrifenodd lythyr miniog a cheryddgar i'r ''Udgorn''. Dilynwyd hwn gan lythyr oddiwrth yr "Aelod" arall. Wedi cryn ffrwgwd, tawelwyd meddwl y wlad gan ymyriad amserol Gol. yr ''Udgorn'' yn ffafr J. Aelod Jones, ac ni feiddiodd neb mwyach ladrata ei enw.
Ystyriai Walter y dylasai y gŵr oedd yn euog o'r fath anfadwaith gael ei roddi yn y carchar gyda llafur caled am o leiaf dair blynedd. Cydolygai Aelod Jones â'i gyfaill, a phrophwydai y byddai i ryw Seneddwr cyn bo hir, 'doedd bosibl, ddwyn mesur i'r ''Parliament'' er amddiffyn enwau llenorion adnabyddus. Gofidus ydyw<noinclude><references/></noinclude>
qn0lwvbk5vyokfp8vvaacdwoucgo21f
Tudalen:Y Dreflan.djvu/150
104
88667
171648
2026-10-10T22:48:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171648
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ac i ni ddeyd ein pader yn y t'w'llwch!" Ond nid oedd y ''genius'' i gael ei roddi i lawr fel hyn; na, nid oedd prinder canwyll yn ''garret'' y ''London House'', serch i'r geiniog olaf a feddai John Aelod Jones fyned i'w phwrcasu, a mynych y mynai Walter fwrw ei hatling i drysorfa y goleuni. Gan fod Mr. Rogers yn gysgwr trwm, ac o herwydd fod y "pwt canwyll" yn symud ymaith bob drwgdybiaeth, nid oedd fawr o bryder ar feddwl y bechgyn yr aflonyddid arnynt gan "''Master of the hounds''," fel y galwai Aelod Jones ef. Yr oedd profiad maith hefyd. wedi eu cadarnhâu yn hyn. Am wythnosau a misoedd, yr oedd y bechgyn wedi troi yr ystafell wely yn fyfyrgell, yn ddarllenfa ac yn neuadd gerddorol. Gwir mai Aelod Jones a Walter yn unig oeddynt yn cyfansoddi y chwareuwyr a'r gynnulleidfa, oddigerth rhyw ychydig o greaduriaid mân eraill nad allent fwynhau yr ''entertainment''! Yr oedd y nifer mawr o lyfrau a feddai Aelod Jones, ei waith yn ysgrifenu llythyrau parhaus i ''Udgorn y Werin'', ynghyd a'r ffaith ei fod yn deall grammadeg, wedi llenwi Walter a'r fath edmygedd o hono ag oedd yn ymylu ymron ar addoliad. Buasai yn rhoddi unrhyw beth am fod "mor ''glyfar''" â Jones; ond yr oedd hyny allan o'r cwestiwn. Ystyriai Walter hi yn fraint o'r radd uchaf gael gwrando ar Aelod Jones yn darllen ei gynnyrchion cyn eu hanfon i'r wasg, a chael cymdeithasu âg up oedd yn gwybod cymaint. Yr oedd Aelod Jones yn ymwybodol o edmygedd Walter, ac yn ei werthfawrogi fel mynegai o edmygedd cyffredinol y byd llenyddol yr oedd efe i'w ennill ryw ddiwrnod. Mae yn gofus gan y darllenydd, o bosibl, mai ymddangosiad paragraph o'i eiddo mewn newyddiadur lleol a barodd iddo ef ymgyfenwi yn "Aelod" Jones. Effeithiodd gweled ei waith mewn argraff mor ddwfn arno nes penderfynu cwrs ei fywyd. Ar ol ymddangosiad y paragraph, ac wedi dysgwyl yn ofer am rai dyddiau am gydnabyddiaeth sylweddol am ei waith, penderfynodd Aelod Jones nad ysgrifenai air byth mwyach i'r papyr hwnw, ac na fyddai iddo ef roddi ffrwyth ei feddwl i berchenogion ariangar a chybyddlyd, a chadwodd<noinclude><references/></noinclude>
jl1wj36ibyz1zrr4i0c5q27lpv2fdqd
Tudalen:Y Dreflan.djvu/149
104
88668
171649
2026-10-10T22:52:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171649
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn cael amser i hyny, nis gwn. Ië, study, syr, sydd yn lladd y bachgen."
Yr oedd Mr. a Miss Rogers yn bobl gynnar iawn, fel y dywedir; hyny ydyw, yr oeddynt yn myned i'r gwely rai oriau o flaen pobl ereill, yn enwedig yn nhymmor y gauaf. Yr oedd gan Mr. Rogers ei resymau am hyn fel am bob peth arall. ''Dywedai'' Mr. Rogers fod myned i'r gwely yn gynnar yn fanteisiol i iechyd, a ''meddyliai'' ei fod yn arbediad mawr ar nwy a glo. Byddai y swper ar y bwrdd yn y ''London House'' bob nos am chwarter i naw o'r gloch i'r fynyd, a byddai pobpeth drosodd erbyn i'r awrlais daraw; yna eisteddai pawb yn llonydd am yspaid byr. Am bum' mynyd wedi naw, estynai Miss Rogers bâr o ''slippers'' i Mr. Rogers, a rhoddai dro ar hyd y gegin at waelod y grisiau, ac edrychai i fyny i'r llofft, a dychwelai i barotoi y canwyllau, yr un modd ag y bydd iâr yn myned o dan yr hofel i edrych ar ei chlwyd, ac yna yn dychwelyd i bigo tipyn wedi hyny hyd y buarth. Am ddeng mynyd wedi naw, dechreuai Miss Rogers ddylyfu gên, gan roddi tro arall hyd i waelod y grisiau, ac edrych i fyny i'r llofft, a dychwelai y tro hwn i dwymno ei thraed; ac yn y peth olaf cydymffurfid â hi gan Mr. Rogers. Am chwarter wedi naw, dywedai Mr. Rogers,
"Wel, ''boys'', nid yw o un dyben i ni aros yma i edrych ar ein gilydd; gwell i ni fyn'd i gadw. Arabella" (enw bedyddiedig Miss Rogers), "goleuwch y canwyllau, a throwch y ''gas'' i ffwrdd;" a chyn pen deng mynyd arall, byddai Mr. a Miss Rogers yn chwyrnu yn eu gwahanol ystafelloedd, a John Aelod Jones a Walter Wynn yn y ''garret'' mor effro â dau ehedydd ar ben bore yn mis Ebrill.
Pan darawyd Aelod Jones â'r dwymyn lenyddol, darganfyddwyd gan Miss Rogers un bore nad oedd o'r ganwyll ddimai gyfan a roisai hi i'r llanciau y noson gynt ond rhyw hanner modfedd yn unig yn ngweddill. Byth wedi hyn, ni welwyd canwyll gyfan yn nwylaw y llanciau yn cychwyn ir ystafell wely, ond "pwt," ys dywedai Walter, "''just'' ddigon i bara i ni dynu odd'an danom<noinclude><references/></noinclude>
fk0jnbeov5mpv9ail8z535h2k5t3ufr
Tudalen:Y Dreflan.djvu/148
104
88669
171650
2026-10-10T22:53:20Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171650
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>House i ddiwallu anghenrheidiau y corff. Yr oedd Mr. Rogers yn fanwl gyda hyn o herwydd dau reswm: yn un peth, er mwyn argraffu ar feddyliau ei weision werth amser; ac yn nesaf, er mwyn eu dysgu i beidio bwyta i ormodedd. Ië, anghofiais ddyweyd fod hon hefyd yn erthygl bwysig yn nghredo Mr. Rogers—mai arferad drwg oedd bwyta llawer, yn enwedig mewn pobl ieuainc. O herwydd rheol gyfyng y deng mynyd, ac fod dannedd John Aelod Jones yn hynod ddirywiedig a braenllyd, ac hefyd fod y cigfwyd a barotoid ar ei gyfer yn y ''London House'' yn amddifad bob amser o'r ansawdd hwnw a briodolir i einioes dyn, sef breuolder, yr oedd John, yn ystod ei arosiad gyda Mr. Rogers, wedi myned mor deneu ymron â gwïalen bysgota. Nid oedd neb a allai chwerthin yn fwy calonog wrth son am hyn na John ei hun; a mynych yr adroddai, er difyrwch i'w wrandäwyr, mai unwaith yn unig er pan ydoedd yn y Dreflan y cawsai e lwyr ddigoni âg ymborth, a'r waith hono ydoedd pan wahoddwyd ef i'r Cartrefle i swpera gyda Mr. Pugh. Dywedai John ddarfod i Mr. Pugh y noswaith hono addaw wrtho yn bendant y byddai iddo ef yn y cyfarfod brodyr dilynol gynnyg ar fod i ardreth yr eisteddle a ddaliai yn y capel gael ei ostwng i'r hanner, o herwydd ei fod mor deneu. Os dygwyddai i gwsmer y gwyddai Mr. Rogers ei fod yn meddwl yn lled uchel o Aelod Jones alw ei sylw at deneuwch y llanc, rhoddai Mr. Rogers ei law yn gyfrinachol ar ysgwydd y cwsmer, a dywedai,
"Syr, y mae enaid y bachgen yna yn fwy na'i gorff; yr wyf bob amser yn dyweyd hyny. Y mae yn deneu, ni wiw gwadu; ond nid diffyg ymborth ydyw yr achos o hyny na gormodedd gwaith, ond ''study, study'', syr; dyna sydd yn lladd y bachgen. Nid ydyw o un dyben i mi siarad âg ef. Ni welais i erioed ddaioni o fechgyn a fyddent yn darllen gormod, ac yn moidro eu penau i ysgrifenu i'r wasg. Er nad wn i fy hun ddim am bethau. felly, yr wyf yn deall fod y bachgen yna, syr, yn ysgrifenu wmberth i'r papyrau newyddion. Pa bryd y mae<noinclude><references/></noinclude>
msfrbaqsteujhqgfhmb041ml609ux7r
171652
171650
2026-10-10T22:55:07Z
AlwynapHuw
1710
171652
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>''House'' i ddiwallu anghenrheidiau y corff. Yr oedd Mr. Rogers yn fanwl gyda hyn o herwydd dau reswm: yn un peth, er mwyn argraffu ar feddyliau ei weision werth amser; ac yn nesaf, er mwyn eu dysgu i beidio bwyta i ormodedd. Ië, anghofiais ddyweyd fod hon hefyd yn erthygl bwysig yn nghredo Mr. Rogers—mai arferad drwg oedd bwyta llawer, yn enwedig mewn pobl ieuainc. O herwydd rheol gyfyng y deng mynyd, ac fod dannedd John Aelod Jones yn hynod ddirywiedig a braenllyd, ac hefyd fod y cigfwyd a barotoid ar ei gyfer yn y ''London House'' yn amddifad bob amser o'r ansawdd hwnw a briodolir i einioes dyn, sef breuolder, yr oedd John, yn ystod ei arosiad gyda Mr. Rogers, wedi myned mor deneu ymron â gwïalen bysgota. Nid oedd neb a allai chwerthin yn fwy calonog wrth son am hyn na John ei hun; a mynych yr adroddai, er difyrwch i'w wrandäwyr, mai unwaith yn unig er pan ydoedd yn y Dreflan y cawsai e lwyr ddigoni âg ymborth, a'r waith hono ydoedd pan wahoddwyd ef i'r Cartrefle i swpera gyda Mr. Pugh. Dywedai John ddarfod i Mr. Pugh y noswaith hono addaw wrtho yn bendant y byddai iddo ef yn y cyfarfod brodyr dilynol gynnyg ar fod i ardreth yr eisteddle a ddaliai yn y capel gael ei ostwng i'r hanner, o herwydd ei fod mor deneu. Os dygwyddai i gwsmer y gwyddai Mr. Rogers ei fod yn meddwl yn lled uchel o Aelod Jones alw ei sylw at deneuwch y llanc, rhoddai Mr. Rogers ei law yn gyfrinachol ar ysgwydd y cwsmer, a dywedai,
"Syr, y mae enaid y bachgen yna yn fwy na'i gorff; yr wyf bob amser yn dyweyd hyny. Y mae yn deneu, ni wiw gwadu; ond nid diffyg ymborth ydyw yr achos o hyny na gormodedd gwaith, ond ''study, study'', syr; dyna sydd yn lladd y bachgen. Nid ydyw o un dyben i mi siarad âg ef. Ni welais i erioed ddaioni o fechgyn a fyddent yn darllen gormod, ac yn moidro eu penau i ysgrifenu i'r wasg. Er nad wn i fy hun ddim am bethau. felly, yr wyf yn deall fod y bachgen yna, syr, yn ysgrifenu wmberth i'r papyrau newyddion. Pa bryd y mae<noinclude><references/></noinclude>
631m31j2bokkt0zli5hgkx6o2c3gnkn
Tudalen:Y Dreflan.djvu/147
104
88670
171651
2026-10-10T22:54:47Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171651
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>byddai Sharp Rogers yn dygwydd bod yn "llawn," neu wedi addaw cymeryd bachgen arall, pryd mewn gwirionedd mai y rheswm penaf fyddai fod ein brodyr y Bedyddwyr yn y lleiafrif yn fawr yn y Dreflan. Yr oedd lle i gredu mai yr un callineb a arweiniodd Mr. Rogers i beidio cysylltu ei hun âg un enwad yn neillduol, ac mai doethach oedd "rhoi tro" i edrych am y naill fel y llall yn achlysurol, yn enwedig ar adeg cyfarfod pregethu neu wyl flynyddol. Yn ei feddwl ef, nid oedd llawer o wahaniaeth rhwng yr enwadau crefyddol, ac yr oeddynt oll yn dda yn eu ffordd eu hunain. Ceisiai wneyd ei hun yn bobpeth i bawb fel y gallai gael ennill oddiwrth rai. Gan ei fod yn awyddus, fel y dywedwyd, i fod ar delerau da gyda phawb, yr oedd wedi ffurfio penderfyniad, er yn fore, i beidio dangos dim ffafraeth tuag at y naill enwad crefyddol mwy na'r llall; ac yn rhinwedd y penderfyniad hwnw, gwrthodai gyfranu at bob achos a fyddai yn dwyn gwedd enwadol. Gyda golwg ar gronfeydd cyhoeddus a chyffredinol, yr oedd pawb yn gwybod nad oedd efe yn ŵr cyhoeddus, ac felly nad oedd a fyno ef â hwynt o gwbl.
Gyda'r fath feistr, nid oedd lle i ddysgwyl y cawsai John Aelod Jones nemawr o gefnogaeth yn ei efrydiaeth lenyddol; ac, fel meibion athrylith yn gyffredin, bu raid iddo ymladd â llawer o rwystrau, a gorchfygu llawer o anhawsderau. Er y gallasai gael ambell i awr hamddenol i ddarllen yn ystod y diwrnod, nid gwiw oedd iddo edrych ar lyfr ''during business hours'', ys dywedai ei feistr. Yr oedd Mr. Sharp Rogers ymron mor gyson a ffyddlawn yn ei ''shop'' ag ydoedd y ''counter'', fel nad oedd gan Aelod Jones ychwaith gyfle ond rhyw unwaith yn y mis, sef pan elai ei feistr i Manchester, i fanteisio dim ar ei absennoldeb. Ac hyd yn nod y diwrnodiau hyny, byddai Miss Rogers bob rhyw hanner awr yn estyn ei thrwyn main gyda chil y drws oedd yn gwahanu y ''shop'' a'r gegin, i edrych a oedd y bechgyn wrth eu gwaith. Nid oedd dim amser i ddarllen i'w gael ar adeg y pryd bwyd, oblegid deng mynyd yn unig a ganiateid yn y ''London''<noinclude><references/></noinclude>
1heyrvtst7j9xiev9tvc9gla2kl9rmp
Tudalen:Y Dreflan.djvu/146
104
88671
171653
2026-10-10T22:57:09Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171653
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Rhyddfrydwyr; ond o'r ddwy blaid mai yr oreu yw yr un Ryddfrydig, am ei bod yn fwy tueddol i gadw y trethi i lawr.
5. Fod crefydd, yr un modd ag y mae dirwest, yn dda i'r rhai nad ydynt yn alluog i ofalu am danynt eu hunain. ''Attodiad'': nad oes dim gwahaniaeth rhwng offeiriad Pabaidd, person, a phregethwr; ond pe buasai raid iddo ef ddewis un o'r swyddogaethau hyn, mai swydd person a ddewisai efe, am fod gwell cyflog i'w gael, ac y gallai obeithio cael ei wneyd yn esgob.
6. Fod addysg yn dda er galluogi dyn i wneyd y goreu o'r byd hwn, ac mai y gangen uchaf mewn addysg ydyw rhifyddiaeth.
7. Fod beirdd a llenorion i'w hystyried fel rhai â chrac yn eu penau, ac mai dyfais ydyw llyfrau i ddyfetha amser ac i yspeilio dyn o'i arian, ei ymborth, a'i ddillad.
8. Ac yn olaf, fod annhraethol wahaniaeth rhwng y ''West of England a'r Yorkshire goods''.
Yr oedd gan Mr. Sharp Rogers chwaer deneu, dàl, grebachlyd, a chybyddlyd, yr hon a ofalai am ei dŷ, a'r hon hefyd oedd mor debyg iddo ef ei hun o ran ei chwaeth a'i hegwyddorion, fel na theimlodd efe yn ystod ei oes yr anghenrheidrwydd lleiaf am wraig. Er nad oedd y brawd na'r chwaer eu hunain yn grefyddol, yr oedd aelodaeth eglwysig yn gymhwysder anhebgorol am dderbyniad i'r ''London House'' yn yr egwyddorwas a'r cynnorthwywr, am y credid fod hyny, càn belled ag yr oedd yn myned, yn sicrhâd am onestrwydd. Yr oedd Mr. Sharp Rogers, fel rheol, yn gofalu hefyd ar fod yr egwyddorwas a'r cynnorthwywr yn perthyn i deuluoedd parchus a llïosog yn yr ardal, gan fod hyny yn "tuedd benu" i ddwyn llawer i'w fasnachdý na buasent, o dan amgylchiadau eraill, yn rhoi eu troed byth o'i fewn. Nid oedd y callineb hwn o eiddo Mr. Rogers yn ddiystyr ychwaith o nifer cymhariaethol y gwahanol enwadau crefyddol; oblegid nid unwaith na dwywaith y gwnaed cais ato i gymeryd bachgen yn egwyddorwas a fyddai o'r fydd drochyddol; eithr ymhob un o'r amgylchiadau hyny<noinclude><references/></noinclude>
abyfb5ctbcig7z54d4stx7pv91duv5n
Tudalen:Y Dreflan.djvu/167
104
88672
171655
2026-10-10T23:35:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171655
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Wel, wyddost ti be," ebe Mr. Pugh, "yr ydw i'n leicio rhw hen ''sort'' fel ene. 'Rydw i'n ei theimlo hi yn fraint cael rhoi ''lodging'' i'r hen ''foy'' ene."
Dilynwyd William Thomas gan amryw frodyr eraill, ac ar y cyfan cafwyd anerchiadau rhagorol. Canmolai Mr. Pugh y cyfarfod yn fawr; ond teimlwn i fy hun fod rhywbeth yn anystwyth ynddo, a'i fod heb gael ei nodweddu â chymaint o ireidd-dra ag y dymunaswn. Yr oedd hyn o bosibl i'w briodoli i'r siomedigaeth a gafwyd o herwydd absennoldeb Mr. Stephen Hughes, yr hwn wrth gwrs a ddylasai fod yn brif siaradwr y cyfarfod. Yr oeddwn yn meddwl wrth wrandaw ar Noah nad oedd efe yn ei ysbryd arferol; ac hwyrach ei fod yn camesbonio absennoldeb y genad a anfonwyd dros y Cyfartod Misol. Er mai yn y capel y cynnelid y cyfarfod, yr oedd y cyfeillion yn ymhyfhâu ar adegau, ac yn arwyddo eu cymeradwyaeth, pan gaent rywbeth i'w boddio, trwy guro eu dwylaw. Sylwodd Mr. Pugh a minnau mai Jim, yr hwn oedd. wedi gosod ei hunan ar ben mainc yn nghanol y plant, oedd ''ringleader'' y gorchwyl o guro dwylaw; ac er i Mr. Pugh ysgwyd ei ben arno i ymattal lawer gwaith, cymerai Jim arno esbonio y nogiadau hyn fel annogaeth i fyned ymlaen, a churai ei ddwylaw gyda mwy o egni nag erioed.
<br>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD XVIII.<br>MR. JEREMIAH JENKINS.}}}}
DYCHYMYGAF fod y darllenydd sydd wedi fy nilyn yn feddylgar, fel y dywedir, yn y pennodau diweddaf, wedi bod yn ymofyn âg ef ei hun, Pa beth a ddaeth o Jeremiah Jenkins, gan ei fod ef, fel yr oedd yn ymddangos ar ddechre yr hanes, yn gymeriad nad allai fod yn hir yn
<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
kkfaz0f1snj1nuq02v2150jglwb1eln
Tudalen:Y Dreflan.djvu/166
104
88673
171656
2026-10-10T23:36:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171656
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ac yn teimlo'n isel iawn; ac eto 'roeddwn i'n llawen iawn wrth feddwl mai hyny oedd ore iddo fo, ac mai yr hyn oedd ore iddo fo oedd ore i minnau ac i'w fam. Fedra i ddim deyd i ch'i sut 'roeddwn in teimlo, ond 'y mod i yn gymysglyd iawn. 'Rydw i'n cofio o'r gore be ddeydodd ei fam wrth William pan oedd o yn gadael cartref, ac yn myn'd i fyw at ei wraig: William,' medde hi, dae rhywbeth yn hapno i Lizabeth dy wraig di, cofia y bydd yn dda gynno ni dy wel'd di yn dwad yn ol i'r hen gartre'.' Ac mi fu gynon ni hiraeth garw ar 'i ol o am spel; do, wir. Wel, gyfeillion, dene ydi'n nheimlad i heno. 'Rydw i'n teimlo colled ryfeddol ar ol Noah Rees—naiff o ddim digio am i mi beidio deyd Mistar. Oes, mae acw hiraeth mawr ar 'i ol o hefyd. Ond mae'n dda gen i feddwl mai wedi newid ei le mae o, ac nid wedi myn'd allan o'r winllan—mai wedi cael ei godi mae o gan ei Feistr, ac nid ei droi i ffwrdd. Peth garw fydde i ni gael ein troi i ffwrdd gan ein Meistr fel gweision anfuddiol. Mi welais i rai yn cael eu troi o'r winllan, ac yn marw ar y comin. Gybeithio y cawn i gyd ein cadw yn y winllan, a'n codi ynddi. 'Does gen i ddim llawer i ddeyd wrthoch ch'i. Mi fase'n dda ryfeddol gen i dase Mr. Hughes wedi dwad yma; mi fase fo yn gallu Thoi cynghorion go dda i ni. Ond mi liciwn yn arw i ch'i neyd yn fawr o Noah Rees, a bod yn bob help iddo gyda'r gwaith mawr. Rhowch ddigon o waith iddo fo ne mi golliff ei iechyd, achos welais i neb erioed mor anghyfforddus â fo os na chae o ddigon i neyd. Os bydd o heb neyd cymaint ag y buasech chi'n ddymuno, gweddiwch drosto, ac mi neiff fwy nag y byddwch yn dysgwyl iddo neyd, hyd y gellwch, peidiwch a brifo ei deimladau. Weles i erioed was na morwyn, os bydde nhw yn werth eu cael, na fydde gynyn nhw dipyn o hunanbarch; ac y mae dyn sydd yn parchu ei hun yn haws ei frifo o lawer na'r dyn diog aflêr. Mi gewch ddeyd be fynoch bron wrth hwnw; mae o wedi arfer clywed pethau felly. Ond mae y dyn sydd yn gwybod ei fod yn ceisio gneyd ei ddyledswydd yn teimlo yn union os deydwch ch'i air cas wrtho fo. Yr ydw i'n cofio yn dda fod hefo mistar unweth oedd yn wastad yn edliw fy nghyflog i mi, er 'y mod yn trio gwneyd fy ngore iddo fo. Dene'r adeg fwya anhapus ar f'oes i. Er mwyn pob peth, peidiwch ag edliw cyflog eich bigel; gwell i ch'i o lawer roi ''notice'' iddo fo fadel. Mae nhw'n deyd mai yn ei gartre y dylid morol am garitor dyn. Wel, 'does gen i ddim ofn i ch'i ddwad acw i morol am garitor eich bigel. Yr ydw i wedi cael cyfleusdra o'r blaen i roi ychydig gynghorion i Noah Rees, dase arno fo anghen am danyn nhw. Ond mi ddymunwn, fy nghyfaill, i ch'i gadw y cwestiwn hwnw o flaen eich meddwl o hyd, Pwy a gredodd i'n hymadrodd? Eich gwaith mawr ydi cael y bobol i gredu. Wrth i ch'i ymweled, a phregethu, a gweddïo—wrth i ch'i neyd eich gore hefo'r bobol ifinc, y pwnc mawr o hyd ydi cael y bobol i gredu. 'Does gen' i, fel Mr. Lewis, ond dymuno pob llwyddiant a hapusrwydd i ch'i, a dae rhywbeth yn hapno rhyngoch ch'i a'r eglwys yma, cofiwch, fy anwyl gyfaill, fod acw gartref agored i ch'i neiff eich derbyn yn groesawgar.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
dcsx8bkeecicktom07lq3weorljsa6r
Tudalen:Y Dreflan.djvu/165
104
88674
171657
2026-10-10T23:37:24Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171657
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>â'ch gweinidog newydd ar achlysuron fwy nag un; ac oddiar brofiad gweddol faith o'r ddynol natur, yr wyf wedi ei gael yn ŵr ieuanc coeth, pur, dysgedig, dwfn-dreiddiol ei feddwl, eang ei syniadau, tanllyd ei ysbryd, yn tueddbenu i fod yn llawen yn ei gymdeithas, ac ar yr un pryd yn ochelgar yn ei ymddyddan, ac yn wyliadwrus yn ei ymddygiad. Mae yn dda genyf fod y symudiad newydd hwn, fel y dosbenwyd ef gan Mr. Bevan, sef gofal gweinidogaethol, yn ennill tir ac yn ymeangu ac yn hydreiddio yn nghorff y Calfinistiaid, yr hwn sydd wedi profi mor fendithfawr ac wedi dylanwi mor rymus yn ein plith ni, y Methodistiaid Wesleyaidd. Wrth dewi, nid oes genyf ond dymuno pob bendith a llwydd arnoch un ac oll, a'ch annog i gydymosod ar furgaerau y gelyn, hyd nes y bydd baner y groes yn cyhwfanu ar ''wreck'' pob ymherodraeth."
"Wyddost ti be?" ebe Mr. Pugh, "dyna ddyn clyfar anwêdd; ond mi feddyliwn mai yn Sas'neg mae o wedi arfer pregethu; be wyt ti'n ddeyd?" Atebais nad hyny oedd y ffaith, ac nad oeddwn yn deall fod Mr. Lewis yn enwog fel Sais. Arwyddodd Mr. Pugh gryn syndod. Dywedodd y cadeirydd,—
"Dylaswn fod wedi dyweyd yn y dechre fod amgylchiadau wedi attal i'r Parch. Stephen Hughes, yr hwn a benodwyd gan y Cyfarfod Misol i ddyfod yma ar yr amgylchiad presennol—fod amgylchiadau wedi ei attal i ddyfod yma. Ond y mae yn dda genym weled yr hen batrïarch William Thomas ar yr amgylchiad. O'r eglwys y magwyd Mr. Rees y mae William Thomas, ac y mae ar yr amgylchiad presennol wedi ei anfon dros y Cyfarfod Misol; a bydd yn dda gan bawb ei glywed yn dyweyd gair ar yr amgylchiad. Ond cyn iddo ef siarad, cawn air gan Mr. Rees ei hun ar yr am—hyny ydyw, cawn air o'i deimlad."
Siaradodd Mr. Rees ychydig eiriau pur gall; ond gan y gwyddys ei fod ef a minnau yn gryn gyfeillion, ni roddaf ei anerchiad i lawr yn y fan hon, rhag i rywrai dybio fy mod yn dueddol. Yr oeddwn yn tybied, ac yr oedd Mr. Pugh yn cydolygu â mi, fod Noah yn siarad braidd yn rhy ''independent''. Galwodd y cadeirydd ar William Thomas ymlaen, yr hwn a ddywedodd:
"Yr ydw i yn teimlo heno yn debyg iawn fel 'roeddwn i'n teimlo ar ddiwrnod priodas fy mab William. 'Roeddwn i'n teimlo y diwrnod hwnw yn brudd iawn ac yn llawen iawn. 'Roeddwn i'n erbyn yn arw iddo fo briodi, ac eto 'roeddwn yn leicio'n ryfeddol 'i wel'd o'n cael gwraig dda. 'Roeddwn i fel bydaswn i'n 'i golli o am byth,<noinclude><references/></noinclude>
6cmpl9lvdw4f10bzdnje50mqh1yax0z
Tudalen:Y Dreflan.djvu/164
104
88675
171658
2026-10-10T23:38:38Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171658
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>dyweyd fod tipyn o ''jealousy'' ynom ni, pregethwyr yr hen ysgol, at y bugeiliaid. Gall hyny fod yn wir mewn rhai amgylchiadau; ond ni welais i beth felly ymhlith fy mrodyr. Mae yn gysur mawr i un fel fi, sydd yn nghanol trafferthion y byd, gofio fod y Pen mawr wedi gwneyd wmbreth o ddaioni mewn amser aeth heibio trwy rai cyffelyb i mi. Yn wir, yr wyf yn meddwl y gallaf ddyweyd na fuasai Methodistiaeth yr hyn ydyw heddyw oni buasai am y rhai oeddynt yn pregethu gydag arddeliad ar y Sabbothau, ac yn nghanol helynt y byd a'i bethau yn y ''shop'' neu y fferm fore Llun. Ond y mae amgylchiadau erbyn hyn wedi newid; ac y mae yn debygol nad ellir myned ymlaen gyda'r achos yn hwylus yn ein dyddiau ni heb yr hyn a elwir y fugeiliaeth, yn enwedig yn y trefydd mawrion. Rhydd i bob dyn ei farn; ac y mae genyf finnau fy marn ar hyn. Ond yr wyf yn hyderu y bydd dyfodiad y gŵr ieuanc, Mr. Rees, atoch yn profi yn llesol i'r eglwys, ac y byddwch ymhen y flwyddyn yn gallu pwyntio at rywbeth mawr wedi ei wneyd. Yn y cyfamser, nid oes genym ni yn y capel acw ond ceisio myned ymlaen yn ol yr hen ''jog trot''. Yr wyf yn llongyfarch yr eglwys yn yr Hen Gapel ar ei chaffaeliad newydd, ac yn dymuno pob bendith arnoch. Nid oes llawer o gydnabyddiaeth wedi bod rhyngof â Mr. Rees; ond oddiar bobpeth a glywais am dano, y mae yn ŵr ieuanc tra chymhwys i wneyd y gwaith yr ydych yn ei ddysgwyl oddiwrtho. Os ydyw efe braidd yn ieuanc, mae ganddo gynghorwr yn ein cadeirydd parchus; ac y mae Mr. Rees yn ddigon call i wybod mai yr hen a ŵyr."
Gwyrodd Mr. Smart ei ben yn gydnabyddgar, càn belled ag y goddefai ei goler stiff iddo wneyd hyny; a galwodd ar y Parch. Robert Hugh Lewis (W.) i ddyweyd ychydig eiriau, yr hwn a lefarodd,
"Mr. Cadeirydd, a chyfeillion cristionogol oll; daethum yma heno fel syml wrandawr, ac ni freuddwydiais y buasai raid i mi wyddfodi ar y lwyfan; ond fel y dywedodd ein parchus gadeirydd ar y dechreu, gwell ydyw bod yn ''obedient''. Yr wyf wedi dysgu cymaint a hyn o athroniaeth, mai ufudd-dod ydyw ammod bodaeth. Hon ydyw deddf gyffredinol y bydysawd. Torwn y ddeddf, peidiwn a bod mor sicr a bod effaith yn dilyn yr achos. Ufudd-dod ydyw yr achos; yr effaith yw eich bod yn clywed fy llais i yma heno. Gwyddoch oll mai yn ddiweddar y daethum i gylchdaith y Dreflan; ac, o anghenrheidrwydd, rhaid mai ammherffaith gydnabyddiaeth a feddaf o'm brodyr Calfinaidd; ond fel y bydd olwynion amser yn chwyldroi, a'n llwybrau yn y byd yn cynghroesi, hyderus ddysgwyliaf y deuaf i feddu yr hyn yr wyf heno yn teimlo yn golledwr am na bawn yn ei feddu, sef yw hyny, adnabyddiaeth—cydnabyddiaeth, a mynwesol gyfeillach fy mrodyr y Calfinistiaid. Yr wyf eisoes yn ystod fy myr arosiad yn eich plith, wedi dyfod i ddamweiniol gysylltiad<noinclude><references/></noinclude>
jxxsb0jmq88nh4o3eo6gq9avigygoqg
Tudalen:Y Dreflan.djvu/163
104
88676
171659
2026-10-10T23:49:36Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171659
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ni fyddai ond ofer i mi ar amgylchiad o natur yr amgylchiad presennol—yn awr mi alwaf ar Mr. Bevan i ddywedyd gair ar yr amgylchiad."
"Dydi yr hen Smertyn ddim yn gallu siarad mor deidi ar y ''stage'' ag yn ei barlwr; be wyt ti'n ddeyd?" ebe Mr. Pugh wrthyf, gan roddi peneliniad i mi yn fy ystlys.
Ymhlith pethau eraill, dywedodd Mr. Bevan,—
"Gan fod Mr. Rees yn ein plith er ys rhai misoedd bellach, hwyrach fod rhywrai yn barod i ofyn, Paham na chynnaliwyd y cyfarfod hwn yn gynt? Digon ydyw dyweyd mai hyn ydoedd dymuniad Mr. Rees ei hun i ni oedi cyfarfod ei sefydliad nes iddo ef ymgydnabyddu â ni a ninnau âg yntau. Mae y fugeiliaeth yn symudiad newydd mewn cymhariaeth yn nghorff y Methodistiaid; ond y mae yn symudiad, yr wyf yn meddwl, ag sydd yn sicr o gynnyddu, ac o fod o fendith gyffredinol. Ofer a fyddai i mi heno fyned yn fanwl dros yr amgylchiadau a barodd i ni gymeryd y cam pwysig o alw Mr. Rees i'n bugeilio. Tra yr oedd y diweddar Mr. Williams gyda ni, nid oedd arnom anghen am fugail, gan ei fod ef yn gwneyd y gwaith ymhob ystyr o'r gair yn rhad ac am ddim. Ond wedi iddo ef fyned at ei wobr, yr oedd y diaconiaid yn teimlo fod yn rhaid cael rhywun i ofalu am yr achos [rhoddodd Mr. Pugh bwt i mi yn fy ystlys], ac yn hyn yr oedd yr eglwys yn cyttuno. Yr wyf yn credu y cydolygwch â mi pan ddywedaf ein bod wedi bod yn hynod ffortunus wrth gael Mr. Rees atom. Mae efe bellach yn adnabyddus i'r rhan fwyaf o honoch, ac wedi profi ei hun eisoes yn ŵr cymhwys i'r gwaith y galwyd ef iddo. Yr wyf yn teimlo yn falch o allu hysbysu yr eglwys a'r gynnulleidfa fod perffaith gydwelediad rhwng y bugail a'r swyddogion hyd yn hyn.'
Wedi gwneyd rhai sylwadau ymhellach, eisteddodd Mr. Bevan i lawr a dywedodd Mr. Pugh wrthyf, "Mae grammar Mr. Bevan yn rhagori ar un Mr. Smart, beth bynag am ei logic."
Galwodd y Cadeirydd yn nesaf ar y Parch. Edward Prysor, yr hwn, fel y crybwyllais yn y bennod gyntaf, a berthynai i'r capel newydd, a'r hwn, o ran ei alwedigaeth, oedd yn ffermwr, yn siopwr, yn gasglwr trethi, yn ''general dealer,'' ac yn pregethu rhwng cromfachau. Dywedodd Mr. Prysor ar ol rhai sylwadau rhagarweiniol:—
"Yr wyf fi fel y gwyddoch, yn perthyn i'r hen ysgol, ac nis gallaf ymffrostio i mi dderbyn addysg athrofäol; ac y mae rhai yn<noinclude><references/></noinclude>
klut0c3wzembgytwq2ofzgk6ws7oc08
Tudalen:Y Dreflan.djvu/162
104
88677
171660
2026-10-10T23:51:05Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171660
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>chartrefol; ac ymddangosai pawb yn eu hwyliau goreu. Hyderir y bydd y symudiad newydd hwn er lles i'r eglwys a'r gymydogaeth. —J. AELOD JONES."
Gan fod mwy o ddyddordeb a phwysigrwydd ynglŷn â chyfarfod sefydlu Noah Rees nag y mynai ''Udgorn y Werin'' ei osod arno, fe allai na wnawn gyfiawnder â'r hanes hwn nac â'r darllenydd, pe yr elwn heibio heb geisio gwneyd crynodeb byr o'r hyn a gymerodd le ar y pryd. Mae genyf gof da am dano, ac am yr hyn a ddywedwyd ar yr achlysur. Nid wyf yn cofio i mi ''deimlo'' mwy mewn unrhyw gyfarfod; oblegid yr oedd Mr. Pugh yn eistedd wrth fy ochr, ac yn fy mhwnio yn barhâus yn fy ystlys tra yr oedd hwn a'r llall yn siarad. Fel gyda phob peth arall, yr oedd Mr. Smart a Mr. Bevan wedi arbed y drafferth i'r blaenoriaid eraill, ac i'r eglwys, o gynllunio a threfnu y cyfarfod. Yr unig ofal a osodwyd arnynt hwy gan y ddau ddiacon parchus oedd, ar iddynt gofio y dyddiad yr oedd y cyfarfod i gymeryd lle.
Wedi dechreu y cyfarfod yn y ffurf arferol, ar gynnygiad Mr. Bevan, cymerwyd y gadair gan Mr. Smart, yr hwn er fod y peth yn wybyddus iddo ymlaen llaw, a arwyddocäodd syndod mawr, ac a ymddangosai braidd yn ''nervous''; ond gan nad oedd yn hoffi bod yn anufudd, cerddodd yn araf a pharchus i'r gader grybwylledig; ac wedi eistedd i lawr am oddeutu chwarter mynyd, cododd ar ei draed, a dywedodd:
"Frodyr a Chwiorydd,—Yr ydych i gyd yn gwybod nad wyf un amser yn hoff o fod yn gyhoeddus, llawer llai ar amgylchiad o natur —natur yr amgylchiad presennol. Ond ar amgylchiad o natur yr amgylchiad presennol, gwell ydyw bod yn ''obedient''. Yr ydych i gyd yn gwybod nad wyf yn arfer siarad yn gyhoeddus, yn enwedig ar amgylchiad fel o natur yr amgylchiad—hym—presennol. Gan mai Mr. Bevan ydyw y blaenor hynaf ar yr amgylchiad—hym—gwell o lawer a fuasai iddo ef fod yn gadeirydd ar yr amgylchiad. Ond gan fod yr amgylchiad—ïe dyna yr oeddwn i yn myn'd i ddyweyd—nid oes genyf ond gwneyd fy ngoreu yn bresennol. Ni wnaf gymeryd eich amser ar yr amgylchiad—hyny ydyw yn y cyfarfod hwn—gan eich bod oll yn gwybod beth ydyw natur yr am hyny ydyw, y cyfarfod hwr Mae yma amryw frodyr i'ch anerch, ac mi gewch glywed beth ydyw natur—hyny ydyw, y mae yma frodyr dyeithr, ac<noinclude><references/></noinclude>
33kj50gez403us91t1575xxxbup9dpm
Tudalen:Y Dreflan.djvu/161
104
88678
171661
2026-10-10T23:52:25Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171661
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ef, ac a fuasai o ddyddordeb cyffredinol, wedi ei lurgynio a'i wasgu i le gymaint a'm mys bach i. Son yr wyt ti am hawlio ''damages''! sonia yn hytrach am roi sense yn mhenau golygwyr!"
Cyfaddefodd Walter ei anwybodaeth, a gwnaeth ymddiheuriad, a meiddiodd wneyd un awgrymiad arall: "Aelod Jones," ebe fe, fedrech ch'i ddim codi papyr newydd i chi'ch hun? Mae Phillip Humphreys yn gallu printio ''programme'' y cyfarfod cystadleuol; a pham na fedre fo brintio papyr newydd?”
"Wyddost ti beth?" ebe Jones; "mae rhywbeth yn dy ben di wedi'r cwbl. Gyda golwg ar yr olygyddiaeth, mi fedrwn i ''fanagio'' hyny yn burion—yn llawer gwell nag y mae golygydd yr ''Udgorn'' yn gwneyd. Ond y mae genyf ofn mai nid Phillip Humphreys ydyw'r dyn i brintio papyr newydd, ac mae eisio tipyn go lew o bres i gychwyn newyddiadur, Walter."
"Wel," ebe Walter, "mae gen i goron, a ddyliwn fod gynoch chithe bunt neu ddwy, ac hwyrach y gallech ch'i gael punt gan eich tad, a dae y gaffer yma yn meddwl y gnae o dalu, y gallech ch'i gael punt gyno fynte."
"Mae genyf ofn," ebe Jones, wedi tawelu yn fawr, "na fyddai hyny ddim yn ddigon i gychwyn papyr ''First-class''; ond mi gawn feddwl am hyn eto;" a syrthiodd i ddystawrwydd synfyfyriol, ymha un y dychymygai weled ei hun yn nghader y golygydd, ac yn galw ei hunan yn "ni." Parodd awgrymiad Walter i Aelod Jones adfeddiannu ei natur dda; ac nid peth bychan oedd hyny, oblegid ni welwyd ef erioed wedi colli ei dymher mor fawr. A phwy yn ei sefyllfa ef a fuasai yn gallu cadw ei bwyll? Wedi iddo fod wrthi am nosweithiau yn ysgrifenu yn ddygn, ac er iddo anfon gair i'r ''Udgorn'' am iddynt gadw tair colofn, wele y Golygydd wedi dirwasgu yr hanes maith a gorphenedig i'r paragraph canlynol:—
"''Y Dreflan''.—Nos Lun diweddaf, cynnaliwyd cyfarfod yn yr Hen Gapel i sefydlu y Parch. Noah Rees yn fugail ar eglwys y Methodistiaid yn y lle. Yr oedd y cynnulliad yn lliosog; a chafwyd anerchiadau pwrpasol i'r amgylchiad gan amryw frodyr dyeithr a<noinclude><references/></noinclude>
of5980f4jo745gwksektzg7k3lm431m
Tudalen:Y Dreflan.djvu/160
104
88679
171662
2026-10-10T23:53:11Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171662
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Hawddach dychymygu na darlunio teimladau John Aelod Jones ar dderbyniad ''Udgorn y Werin'', yr hwn oedd i gynnwys hanes cyflawn am sefydliad Noah Rees yn fugail yn y Dreflan. Ar ol yr holl drafferth a'r llafur yr oedd ef wedi ei gymeryd gyda'r hanes, yr oedd y Gol. afresymol wedi ei dalfyru i ddim ymron. Pan agorodd Aelod Jones yr ''Udgorn'', a hyny mewn dull braidd yn ddoctoraidd a hunan-ddigonol, a phan welodd i gàn lleied o le yr oedd y Gol. wedi crynhoi yr hanes maith a llafurfawr, collodd ei dymher yn hollol. Tarawodd y papyr yn y llawr, a tharawodd ei het wedi hyny, gan fwrw ffrwd o gaseiriau ar awdwr y trychineb. Cerddodd yn ol a blaen hyd yr ystafell, gan gicio yn ddirmygus y papyr a'r het. O herwydd na wyddai Walter Wynn y rheswm am y gynddaredd hon, meddyliodd yn sicr fod Aelod Jones yn dechreu dyrysu yn ei synwyrau, a bod hyny wedi ei ddwyn oddiamgylch gan orefrydiaeth; ac yr oedd efe ar fedr galw am help pan ddywedodd Aelod Jones,
"Walter, mae hyn yn fwy nag y medr un dyn o feddwl ei ddyoddef. Wedi i mi fyned i'r drafferth i ysgrifenu hanes manwl, cyflawn, a gorphenedig, dyma fo—byd a'i gwelo!—wedi ei gwtogi i un paragraph!" a tharawodd yr ''Udgorn'' yn y llawr drachefn. Gofynodd Waiter, âg eiddigedd yn amlwg i'w ganfod yn ei wyneb,
"Ai onid ellwch chwi roddi cyfraith ar y Golygydd, a hawlio ''damages''?"
"Ti a siaredaist fel un o'r ynfydion, Wat," ebe Aelod Jones; "ond o ran hyny, be wyddost ti am lenyddiaeth a'i rheolau? un fel ti nad ysgrifenaist linell erioed i bapyr newydd, ac nad oes genyt ffugenw! Pe buasit yn gofyn ai onid oedd modd dyfeisio peiriant i wneyd gwaith golygydd, a'i wneyd yn llawer rhagorach nag y gwneir ef yn ein dyddiau ni, buasit yn siarad sense. Mae yn gywilydd ac yn warth ar Gymru fod dynion yn cael eu gosod yn olygwyr na wyddant y gwahaniaeth rhwng sothach a champwaith —rhwng manus a gwenith. Dyma yr ''Udgorn'' yma am heddyw; mae o yn llawn o ''rubbish'', na ddarllenir gan neb byth; a'r hanes y cymerais i gymaint o drafferth gydag<noinclude><references/></noinclude>
4yfilywpv3t8d8bn0ai7judvfx2lvr9
Tudalen:Y Dreflan.djvu/159
104
88680
171663
2026-10-10T23:53:33Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171663
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>{{c|{{mawr|PENNOD XVII.<br>SEFYDLU Y BUGAIL.}}}}
OES dosbarth o bobl mor ''arbitrary'', mor ddichwaeth, ac mor analluog i farnu teilyngdod cynnyrchion llênyddol ag ydyw golygwyr, ac yn enwedig golygwyr newyddiaduron? Yr wyf yn appelio at filoedd gohebwyr Cymru, Ai onid ydyw yn ffaith, sydd yn cael ei phrofi bob dydd o'r flwyddyn, fod Golygwyr yn arddangos yr anwybodaeth dyfnaf, a'r dylni mwyaf anesgusodol, yn eu gwaith yn gwrthod yn wastadol gyhoeddi ysgrifau galluog a gwreiddiol a anfonir iddynt gan ddynion o dalent a dawn? Nid yn unig hyny, ond y fath anallu a arddangosant i wahaniaethu rhwng cynnyrch gwir athrylith a sothach! Gwrthodant bob wythnos yr hyn sydd werth ei gyhoeddi, a chyhoeddant yr hyn nad ydyw werth dim, nac o un dyddordeb i neb. Hyn ydyw barn onest pob awdwr ysgrifau yr hwn a wrthodir; a phwy sydd ablach i farnu gwerth a theilyngdod ysgrif na'r hwn a'i cyfansoddodd? Peth arall ag sydd wrthunach fyth yn Meistri Golygwyr ydyw, y digywilydd-dra digydwybod a arferant wrth gwtogi a chyfnewid ysgrifau. Pan wneir hyn gadewir allan bob amser y rhanau rhagoraf, a rhoddir i mewn y rhanau gwaelaf; a phan wneir cyfnewidiadau, y maent yn ddïeithriad yn gwaethygu ac nid yn gwella ysgrif. Yn y cyfryw amgylchiadau, mae genyf awdurdod i ddyweyd dros ohebwyr Cymru, yn hytrach nag i'w hysgrifau gael eu llurgynio a'u talfyru fel y gwneir, mai mwy dymunol gan yr awdwyr a fyddai iddynt gael eu gwrthod allan ac allan. Yr hyn sydd fwyaf pruddaidd ynglŷn â'r achos hwn ydyw nad oes obaith am welliant; ac er crefu o'r gohebwyr ar y golygwyr i gyhoeddi eu hysgrifau "fel y maent" ac "yn eu ffurf wreiddiol," nid ydynt yn diwygio dim oll; maent mor ddwfn yn y camwedd hwn heddyw ag y buont erioed!
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
jvjuk3coxwfw40f2wlkltaavsmsvrel
Tudalen:Y Dreflan.djvu/178
104
88681
171664
2026-10-11T01:05:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171664
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Ceir cymeriadau cyffelyb i Mr. Jenkins ymron ymhob eglwys y mae ei nifer yn ddau cant a hanner."—''Mr. Bevan.''
"Bydaswn i yn lle Mr. Rees, mi faswn yn deyd wrth y ''bobby'' an yr hen Jenkins ene."—''Jim Price.''
"Pe buaswn yn barnu crefydd a chrefyddwyr oddiwrth esiampl y
yna, ni roeswn fy nhroed o fewn i gapel byth."—''Ismael.''
"Yr oedd Enoch Jones yn wastad yn deyd mai un òd oedd Jeremiah; a phwy oedd yn 'i adnabod o yn well nag Enoch Jones?" —Mrs. Enoch Jones.
"Gobeithio y caiff y creadur druan faddeuant."—''Siân Jones''.
"Mae genyf ofn fod clefyd Jeremiah yn anfeddyginiaethol."—''Dr. Ellis.''
Ni chwanegaf.
<br>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD XIX.<br>CRYNODEB.}}}}
ADWAENWN ddyn yr hwn a wnelar bobpeth ymron yn ei ffordd ei hun, a byddai y ffordd hono yn wahanol i ffyrdd pawb eraill. Pan elai i gyrchu dwfr o'r ffynnon, yr hon oedd dipyn o ffordd oddiwrth ei breswylfod, cymerai amryw biserau gydag ef, ac wedi eu llenwi oll hyd yr ymylon, cariai un o honynt am oddeutu ugain llath, a gosodai ef yn ofalus ar lawr, ac elai i gyrchu un arall, ac wedi eu cael i gyd yn rhes, dechreuai eilwaith eu hebrwng yn nghyfeiriad ei breswylfod, nes eu cael oll o'r diwedd i'r man dymunol. Yn y bennod hon, ceisiaf finnau, mewn rhan, wneyd â'r cymeriadau y buwyd yn son am danynt, yr hyn a wnelai y brawd a grybwyllwyd â'r piserau Ac er nad allaf addaw llawer o ddifyrwch i'r darllenydd wrth eu gosod i gyd yn rhes unionsyth, dichon y bydd hyny yn fantais i mi ail gychwyn i'w hebrwng bob yn un ac un at y terfyn, lle y byddaf yn ffarwelio â hwynt, yr hyn a raid ei wneyd yn lled fuan bellach.
<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
nnk8z64t3lsumgixguv3hchs2aap8b8
171665
171664
2026-10-11T01:13:45Z
AlwynapHuw
1710
171665
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>"Ceir cymeriadau cyffelyb i Mr. Jenkins ymron ymhob eglwys y mae ei nifer yn ddau cant a hanner."—''Mr. Bevan.''
"Bydaswn i yn lle Mr. Rees, mi faswn yn deyd wrth y ''bobby'' an yr hen Jenkins ene."—''Jim Price.''
"Pe buaswn yn barnu crefydd a chrefyddwyr oddiwrth esiampl y
yna, ni roeswn fy nhroed o fewn i gapel byth."—''Ismael.''
"Yr oedd Enoch Jones yn wastad yn deyd mai un òd oedd Jeremiah; a phwy oedd yn 'i adnabod o yn well nag Enoch Jones?" —Mrs. Enoch Jones.
"Gobeithio y caiff y creadur druan faddeuant."—''Siân Jones''.
"Mae genyf ofn fod clefyd Jeremiah yn anfeddyginiaethol."—''Dr. Ellis.''
Ni chwanegaf.
<br>
<section begin="aaa"/><section end="aaa"/>
<section begin="bbb"/>{{c|{{mawr|PENNOD XIX.<br>CRYNODEB.}}}}
ADWAENWN ddyn yr hwn a wnelar bobpeth ymron yn ei ffordd ei hun, a byddai y ffordd hono yn wahanol i ffyrdd pawb eraill. Pan elai i gyrchu dwfr o'r ffynnon, yr hon oedd dipyn o ffordd oddiwrth ei breswylfod, cymerai amryw biserau gydag ef, ac wedi eu llenwi oll hyd yr ymylon, cariai un o honynt am oddeutu ugain llath, a gosodai ef yn ofalus ar lawr, ac elai i gyrchu un arall, ac wedi eu cael i gyd yn rhes, dechreuai eilwaith eu hebrwng yn nghyfeiriad ei breswylfod, nes eu cael oll o'r diwedd i'r man dymunol. Yn y bennod hon, ceisiaf finnau, mewn rhan, wneyd â'r cymeriadau y buwyd yn son am danynt, yr hyn a wnelai y brawd a grybwyllwyd â'r piserau Ac er nad allaf addaw llawer o ddifyrwch i'r darllenydd wrth eu gosod i gyd yn rhes unionsyth, dichon y bydd hyny yn fantais i mi ail gychwyn i'w hebrwng bob yn un ac un at y terfyn, lle y byddaf yn ffarwelio â hwynt, yr hyn a raid ei wneyd yn lled fuan bellach.
{{nop}}<section end="bbb"/><noinclude><references/></noinclude>
rnmdkazlb127t63xrr1scnwyewfm60f
Tudalen:Y Dreflan.djvu/177
104
88682
171666
2026-10-11T01:15:32Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171666
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fod ganddo resymau eraill, pa rai a nodwyd genyf mewn pennod flaenorol. Yr oedd Noah Rees yn hysbys o ddaliadau Jeremiah cyn iddo ddyfod atom; ac yr oedd efe yn dysgwyl cael ei feirniadu a'i alw i gyfrif yn fynych; ac yn hyn ni siomwyd ef; eithr byddai Mr. Jenkins yn cymeryd trafferth i egluro mai lles y bugail a'r achos fyddai ganddo mewn golwg bob amser. Tua'r adeg y daeth Noah i'r Dreflan, yr oedd Tom Jenkins wedi dyfod i'w oed, ac yn llanc cryf a heinyf, ac hefyd wedi cyrhaedd pwynt uchaf ei anufudd-dod i'w barchus dad. Sibrydid mewn cylch bychan fod Mr. Jenkins, hynaf, wedi cael ar ei feddwl un diwrnod geryddu Mrs. Jenkins yn ol yr hen ddull, ac i Mr. Jenkins, ieuengaf, ddyweyd wrtho yn bendant na oddefai iddo wneyd hyny, ac i Mr. Jenkins, hynaf, ddyweyd y mynai wneyd, ac i Mr. Jenkins, ieuengaf, y pryd hyny roddi hergwd i Mr. Jenkins, hynaf, nes oedd ei wadnau i fyny, yr hwn ymddygiad oedd hollol anweddaidd. Daeth y ffaith rywfodd i glustiau Mr. Pugh, ac er na fynai efe i neb feddwl ei fod mewn modd yn y byd yn cymeradwyo ymddygiad Tom, gwahoddodd ef yn uniongyrchol i swpera i'r Cartrefle.
Fe wêl pob darllenydd diduedd fod safle Mr. Jenkins yn y Dreflan yn esgusawd digonol am feithder y bennod hon ac unrhywiaeth ei thestun. Ond er mwyn iddo gael chware teg i ffurfio barn gywir am garitor Jeremiah, nodaf yn fyr syniadau amryw o bersonau oeddynt dipyn yn wahanol eu barn am dano; ac hwyrach fod gan y darllenydd fwy o ymddiried yn eu barn hwy nag yn eiddo yr ysgrifenydd:—
"Os bu yr ysbryd drwg yn preswylio yn rhywddyn yn ein hoes ni, Jeremiah Jenkins ydi hwnw—wired a mod yn y fan yma."—''Peter Pugh, Ysw''
"Un o'r pethau sydd yn peri i mi hiraethu fwyaf am fyned i'r nefoedd ydyw na fydd yno neb tebyg i Jeremiah Jenkins."—''Benjamin Prys''
"Yr wyf bob amser yn dyweyd, fel y mae Mr. Bevan yn gwybod, mai un o ragoriaethau penaf Eglwys Loegr ydyw na chaniateir i rai cyffelyb i Jeremiah glebar ar bob amgylchiad."—''Mr. Smart.''
How very ridiculous that Mr. Jenkins is, pa?—''Miss Smart''.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
ivc5c4z2uyc3x70500r6m6nuxqsopez
Tudalen:Y Dreflan.djvu/176
104
88683
171667
2026-10-11T01:16:54Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171667
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn lled brydlawn, ac yn myned i'r sedd fawr heb ei wahodd, ni chawsai gymaint ag arfer moddion yn gyhoeddus. Nis gallai Jeremiah esbonio hyn mewn modd yn y byd ond yn ei gysylltiad â Mrs. Jenkins. Ond er yr holl ddiystyrwch a deflid arno, ystyriai Jeremiah mai ei ddyledswydd oedd siarad yn gyhoeddus mor aml ag a allai yn y capel, i ddadlenu twyll a rhagrith, a chyhoeddi y gwirionedd yn ddifloesgni. Er na fynai yr eglwys ef yn flaenor, nid ystyriai ef fod ei rwymedigaeth yn llai i actio fel ''detective'', a galw y swyddogion a'r aelodau i gyfrif fel y byddai amgylchiadau yn gofyn, a chymeryd ar ei ysgwyddau ei hun oruwchreolaeth purdeb ac ymddygiad da pawb yn ddïeithriad. Yn gymaint a'i fod yn gwybod fod yn yr eglwys y fath ragfarn yn ei erbyn, byddai Jeremiah fel rheol yn achub y cyfleusdra i ddadlenu diffygion ei gydaelodau yn mhresennoldeb brodyr dyeithr, megys pan ddeuai pregethwr dyeithr i'r daith, neu pan ddeuai rhywun o'r newydd i'r seiat, neu ar ymweliad blynyddol â'r eglwys dros y Cyfarfod Misol; ac yn fynych iawn, pan feddyliai yr eglwys yn gyffredinol eu bod wedi cael seiat dda a bendithiol, byddai ychydig eiriau awgrymiadol oddiwrth Jeremiah ar y diwedd yn rhoi ''damp'' ar y cyfan. Y fath ydyw nerth gwirionedd, yn enwedig pan leferir ef gan un y mae ei fywyd yn ymylu ar berffeithrwydd!
Ond er yr holl ragoriaethau a berthynai i Jeremiah, cyfaddefai ei fod yn ystod ei fywyd wedi gwneyd rhai camgymeriadau. Un o'r rhai hyny oedd ei fod, tra yr oedd Mr. Williams, y diweddar weinidog, yn fyw, wedi ei hystyried yn fraint ac yn ddyledswydd i alw y gŵr parchedig hwnw i gyfrif rai ugeiniau o weithiau am ei ddiffygion, ei ddallbleidiaeth, a'i ddiffyg barn yn gyffredinol. Ond wedi i'r gŵr parchedig farw, yr oedd wedi newid ei feddwl am dano, ac yn synio mai ei ddyledswydd bellach oedd ei ddal i fyny o flaen y byw, yn enwedig o flaen y diaconiaid, a Noah Rees, fel siampl o berffeithrwydd. Syniadau uchel Jeremiah am Mr. Williams a barodd iddo yn benaf wrthwynebu hyd eithaf ei allu benderfyniad yr eglwys i alw Noah Rees i'w gwasanaethu fel bugail. Gwir<noinclude><references/></noinclude>
5zmqqgkjloyn74a7kjxpmuks1zfth9g
Tudalen:Y Dreflan.djvu/175
104
88684
171668
2026-10-11T01:19:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171668
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Yr oedd y gwas hwn wedi gweithio mor galed a diwyd nes y tybid fod ei gymmalau wedi lleihâu yn fawr o ran nifer er pan ydoedd yn ngwasanaeth Mr. Jenkins. Gan na feddai y gwas ond syniad anmherffaith am rifyddiaeth, nac, yn wir, am ddim arall oddigerth ei orchwyl, byddai Jeremiah yn garedig dros ben tuag ato, ac yn ofalus iawn o hono. Mike oedd enw y gwas, Gwyddel o genedl; ond o herwydd ei fod wedi ei eni a'i fagu yn y Dreflan, gallai siarad Cymraeg yn rhwydd. Fel engraifft o garedigrwydd Jeremiah tuag ato, gellir nodi ei fod wedi cadw a chymeryd gofal o'i gyflog am lawer o flynyddau, heb roddi dim iddo ond oedd wir anhebgorol er ei les, megys ''suit'' o ''corduroy'' bob dwy flynedd, a thair ceiniog ar noswaith "''wakes''," gyda gorchymyn caeth iddo beidio eu gwario am oferedd. Engraifft arall o garedigrwydd Jenkins at Mike ydyw na byddai byth yn anghofio chwaeth neillduol ei gydgenedl o'r Ynys Werdd; eithr caniatâi iddo fyw ymron yn hollol o'r naill Nadolig i'r llall ar bytatws a phenwaig. Gwir y byddai Mike yn rhoddi awgrym i'w feistr ar rai adegau, megys drannoeth ar ol "''wakes''," am "''drop o' the cretur;''" ond, yn eithaf priodol, ni chymerai Mr. Jenkins arno ei glywed. Pan ofynid i Mike pa swm o arian oedd ganddo wedi ei adael gyda'i feistr, atebai nad oedd yn ddigon o ysgolaig i wybod, ond ei fod yn meddwl ei fod tua'r un faint a'r ''"national dit."''
Ond y mae yn rhaid i mi brysuro. Profedigaeth fawr bywyd Mr. Jenkins oedd hyn: nid oedd byd nac eglwys yn cydnabod nac yn gwerthfawrogi y talentau a'r nodweddion gwahaniaethol yr oedd ef ei hun yn ymwybodo! ei fod yn eu meddu. Yr oedd y ffaith na elwid arno un amser i eistedd ar unrhyw fwrdd na phwyllgor, nac i lenwi unrhyw swydd gyhoeddus o ymddiried yn y Dreflan, yn dangos yn ddigon eglur, yn ol ei feddwl ef, ac yn ei orfodi i ddyfod i'r penderfyniad, mai ar Mrs. Jenkins yr oedd y bai. Yn y capel, yr oedd y diystyrwch a deflid arno yn fwy adgas fyth. Pan oeddid yn dewis blaenoriaid, ni chafodd gymaint a'i enwi gan un o'r aelodau; ac oni buasai ei fod weithiau yn myned i'r addoliad<noinclude><references/></noinclude>
9hd5d4ly9isiqxxme2ar0p7ioz5m3rj
Tudalen:Y Dreflan.djvu/174
104
88685
171669
2026-10-11T01:22:12Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171669
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Jenkins yr oedd y bai i gyd yn gorwedd. Gwiriwyd ei brophwydoliaeth i'r llythyren; oblegid, yn ol tystiolaeth Mr. Jenkins ei hun ymhen blynyddau ar ol hyn, ni fu hogyn fwy anhywaeth, dirieidus, ac anufudd, yn gwisgo esgid erioed. Nid oedd y bachgen yn gwella wrth heneiddio; eithr ymgysurai ei dad mai nid diffyg dysgyblaeth oedd yr achos o hyny, ac mai Mrs. Jenkins oedd yn gyfrifol am ei ddrygioni. Dygai y bachgen ei hunan dystiolaeth i wirionedd y peth cyntaf; a dywedai yn fynych wrth ei gymdeithion, pe buasai ganddo gynifer o geiniogau ag o wiail a dorwyd ar ei gefn y buasai yn gyfoethog iawn.
Perthynai un peth i'r bachgen na fedrodd ei dad erioed ei faddeu iddo, sef ei fod yn caru ei fam yn angerddol ac yn ei gasâu yntau â chas perffaith. Galwyd y bachgen yn Tom, am mai Thomas oedd enw ei daid o ochr ei fam, a mynai ei dad fod a wnelo ei enw gryn lawer â'i ddrygioni; ond bai Mrs. Jenkins oedd hyny. Yr unig fai a welai ei fam yn Tom oedd ei fod yn rhy dueddol o alw ei dad yn "hen law" ac yn "''governor''." Oni buasai am y diffyg hwn, buasai yn berffaith yn ei golwg. Yr oedd Mrs. Jenkins yn ei gwiriondeb yn hoff iawn o Tom; a channoedd o weithiau y dywedodd hi wrtho, gan ei gofleidio, "Oni buasai am danat ti, Tom bach, buaswn wedi tori fy nghalon er ys blynyddau." Ffaith nad allodd Jeremiah Jenkins erioed roddi cyfrif am dani oedd, fod Tom, er cynddrwg ydoedd, yn cael ei hoffi yn fawr gan ei denantiaid; ac anaml y gallai ymddiried y gorchwyl iddo o hel y rhenti, am ei fod yn deall yr arferai Tom eistedd gyda Siân Jones i siarad am grefydd, a chydag Ismael Price i siarad am ''politics''. Ymgysurai ei dad, pa fodd bynag, nad oedd hyn ond peth i'w ddysgwyl oddiwrth bobl anwybodus; ond yr oedd gwaith un o safle Mr. Pugh yn dyweyd yn ei wyneb fod Tom yn werth cant o hono ef, Jeremiah, yn beth nad allai byth ei anghofio.
Yr oedd gan Mr. Jenkins was, yr hwn oedd yn weithiwr medrus, ond na chyfrifid ef gan bawb yn ben llathen.<noinclude><references/></noinclude>
9dzs4bg96vffcokx299zwldwrahoz0c
Tudalen:Y Dreflan.djvu/173
104
88686
171670
2026-10-11T01:22:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171670
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>a pherchid hi gan bawb. Pa fodd bynag, ofnai y cymydogion y cyfeiriwyd atynt y gellid casglu oddiwrth ei llefau, a glywid ar rai adegau, fod Jeremiah yn gorfod ei cheryddu; ond ar yr un pryd tystient yn ei ffafr ef na byddai yn defnyddio moddion llymach na'i ddyrnau. Ni chlywid fod Mrs, Jenkins byth yn cwyno wrth neb o'i chymydogesau, am y credai, dybygid, fod y driniaeth a dderbyniai oddiar law, neu yn hytrach oddiar ddyrnau, ei gŵr yn anghenrheidiol er ei lles. Yr oedd lle i feddwl, er hyn, nad oedd bywyd priodasol yn dygymmod â hi yn dda; canys tystiolaeth y rhai a'i hadwaenai oreu oedd ei bod "wedi tori'n arw," ac yn edrych yn ddiysbryd a theneu. Ar yr un pryd, ymddangosai fod gan Mrs. Jenkins barch i'w gŵr; oblegid byddai yn ei ofni yn fawr, ac fel pe buasai ar ei llw pa eiriau a ddefnyddiai wrth siarad âg ef; a gwelwyd hi fwy nag unwaith yn gwelwi fel calchen pan ddygwyddai Jeremiah ddyfod yn sydyn i'r tŷ, a'i chael wedi gwahodd rhai o'i chymydogesau i'r parlwr.
Erbyn i mi ystyried, mae yn rhaid fod rhyw ddiffyg pwysig yn perthyn i Mrs. Jenkins; oblegid os byddai Jeremiah wedi gwneyd bargen ddrwg, neu ynte wedi cael ei siomi, neu ei roi allan o'r ffordd gan rywun, ar Mrs. Jenkins y byddai y bai bob amser, a hi fyddai raid ddyoddef; a chan y byddai yn dyoddef yn ddystaw, y casgliad naturiol ydyw ei bod yn euog. Gwir na fyddai Mrs. Jenkins, druan, yn gallu gweled fod y cysylltiad lleiaf rhyngddi hi â'r dygwyddiadau anffortunus hyn; ond byddai Mr. Jenkins yn ei weled, ac yr oedd hyny yn ddigon. Wedi bod yn briod am rai blynyddau, rhoddodd Mrs. Jenkins enedigaeth i fab bychan, yr hwn amgylchiad oedd yn groes iawn i feddwl Mr. Jenkins; a thystiodd yn nghlywedigaeth yr etifedd y dydd y ganwyd ef na fyddai iddo ef fyned i lawer o gôst gydag ef. Ond ni chymerodd ei gyntafanedig sylw yn y byd o'i eiriau, yr hwn ymddygiad a liosogodd efe yn ddiderfyn mewn blynyddoedd dilynol. Pan nad oedd ei etifedd ond diwrnod oed, prophwydodd Jeremiah gyda rhagwelediad gwyrthiol ymron, mai bachgen drwg ac anufudd a fyddai, ac mai wrth ddrws Mrs.<noinclude><references/></noinclude>
1fh47tfrdf203mrfeha22ztybwvyosp
Tudalen:Y Dreflan.djvu/168
104
88687
171671
2026-10-11T01:25:42Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171671
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>guddiedig? Hwyrach, hefyd, fod y darllenydd wedi bod yn ymresymu, os oedd Jeremiah wedi marw, y dylaswn fod wedi hysbysu hyny, neu, os oedd wedi myned i'w gragen o herwydd siomedigaethau, y dylaswn fod wedi hysbysu hyny hefyd; eithr os oedd efe yn cymeryd rhan yn y dygwyddiadau a gofnodwyd, nad oedd genyf un esgusawd digonol dros ei gadw fel y gwnaethum yn nhir neillduaeth. Yn wyneb hyn oll, rhaid i mi syrthio ar fy mai, a chydnabod fy anfedrusrwydd fel hanesydd. Wrth i mi ystyried a chofio fod Mr. Jenkins yn ŵr mor bwysig fel trefwr, ac fel aelod o'r eglwys yn yr "Hen Gapel," y mae fy esgeulusdra o roddi iddo y lle a ddylasai efe ei gael yn yr hanes hwn yn ymddangos yn fwy camweddol fyth, ac yr wyf yn ceisio edifarhâu yn gyfatebol. O dan yr amgylchiadau, ymdrechaf wneyd iawn am y cwbl trwy roddi y bennod hon yn hollol i ddesgrifio ei gymeriad, a chofnodi hyd eithaf fy ngallu y rhan a gymerodd efe yn y dygwyddiadau a groniclwyd yn anmherffaith eisoes.
Ymfalchiai Jeremiah Jenkins yn ei linach, am y rheswm, fel y dywedai ef ei hun, fod ei deulu yn byw erioed ''yn'' y plwyf, heb i un o honynt erioed fod yn byw ''ar'' y plwyf. Yr oedd Jeremiah yn gallu myned gam ymhellach, ac ymffrostio fod ei daid o ochr ei dad wedi llenwi un tro y swydd o bentrulliad i dad Loveall Goodman, Ysw., a'i daid o ochr ei fam ar un adeg wedi bod yn byw yn ''lodge'' y Plâs. Gwir ddarfod i dad Jeremiah anghofio anrhydedd y teulu, a myned i weithio i'r glo; ond dangosodd yntau natur y clai o ba un yr oedd y teulu wedi ei wneyd, trwy gael myned "ar ei bige" cyn bod yn ugain oed; a chyn i Jeremiah weled goleuni dydd yr oedd ei dad yn dal swydd fel "sheltrwr," yr hon a gadwodd efe hyd ddydd ei farwolaeth.
Gan fod cyflogau da i'w cael i blant yn y gwaith glo pan oedd Jeremiah yn ddeuddeng mlwydd oed, ceisiodd ei dad ei berswadio i fyned gydag ef i lawr y pwll. Ond o herwydd fod Jeremiah o duedd lwfr, ac nad oedd yn bosibl iddo gael cyflog mawr heb osod ei hun yn agored i ddamweiniau, ac i gael ei gymeryd ymaith yn ddisyfyd, gwrthododd<noinclude><references/></noinclude>
tsfwa8g942ky5yxg6pfnyfupupmgfjw
Tudalen:Y Dreflan.djvu/169
104
88688
171672
2026-10-11T01:26:31Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171672
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>yn bendant gydymffurfio â'r cais. Yn siopwr yr oedd efe wedi meddwl am fod, ac yn siopwr y mynai fyned. Gan mai hyn oedd ei benderfyniad, gwelodd ei dad y byddai raid iddo gael addysg; ac yn ganlynol anfonodd ef at Miss Whipum, o Stryt y Capel, i dderbyn y parotoad anghenrheidiol. Bu Jeremiah o dan addysg am flwyddyn gron, a pheidio cyfrif yr amser yr oedd efe yn chware "triwels," ys dywedai y plant. Er fod y duedd o hel i mewn wedi dangos ei hun yn fore yn Jeremiah, nid oedd yn ymddangos fod y duedd hon yr un yn ei dylanwad gyda golwg ar addysg; oblegid ychydig mewn cymhariaeth a gymerodd efe i mewn tra y bu gyda Miss Whipum; a'r unig deitl a ennillodd efe oedd yr hwn a gafodd gan ei gyd-ysgoleigion, sef "''spunjiwr''" Teg ydyw hysbysu iddo dderbyn y teitl yn onest yn y ffordd ganlynol: os digwyddai i Jeremiah gael dimai neu geiniog gan rywun, byddai yn anmhosibl ei berswadio i'w chyfnewid am felusion yn ''shop'' Ann Williams; ond os gwyddai ef fod gan rywrai o'r plant eraill geiniog, ni chaent lonydd ganddo nes ei gwario, ac iddo yntau gael cyfran o'r hyn a brynid, am yr hwn ymddygiad y rhoddwyd iddo y teitl "spwnjiwr." Wedi iddo orphen ei ysgol, gosodwyd ef ar fis o brawf gyda masnachwr yn y Dreflan; ond cyn i'r mis ddirwyn i fyny, darganfyddodd y masnachwr nad oedd ei dderbyniadau lawn cymaint ag arferol; a daeth i'r casgliad fod ei fasnach yn lleihâu, neu ynte fod rhywun yn cyfranogi o'i ennillion; ac felly penderfynodd geisio gwneyd heb wasanaeth Jeremiah.
O herwydd fod y tymmor y bu Jeremiah yn gwasanaethu fel siopwr mor fyr, neu ynte o herwydd rhyw reswm arall nad amlygwyd, nid allai y masnachwr roddi caritor a roddai drwydded iddo am dderbyniad i mewn i un masnachdŷ arall; ac felly tybiodd ei dad yn ddoeth ei osod eilwaith ar fis o brawf gyda phaentiwr a ''paperhanger'', at yr hwn orchwyl yr oedd gan Jeremiah gryn chwaeth. Cafodd y paentiwr yn ystod yr ychydig wythnosau y bu Jeremiah yn ei wasanaeth achlysur i anfon ei weithwyr i dai ac at deuluoedd gweddol barchus, y rhai, sef y teuluoedd, oeddynt<noinclude><references/></noinclude>
h8qszmnc06dnxbe520foj2ydae79ol9
Tudalen:Y Dreflan.djvu/170
104
88689
171673
2026-10-11T01:27:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171673
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>fel y dygwyddodd y peth fod, yn meddu chwaeth ac opiniynau lled neillduol; canys tystient yn bendant wrth y paentiwr nad oeddynt yn cael unrhyw bleser yn y ffaith fod eu tai yn wagach o amryw declynau wedi i'w weithwyr ef fod yn talu ymweliad â hwynt. Dygwyddodd fod y paentiwr yn union o'r un meddwl â'i gwsmeriaid; a chyda thipyn o hunanymwadiad er mwyn egwyddor, penderfynodd yntau, fel y masnachwr o'i flaen, amddifadu ei hun o wasanaeth gwerthfawr Jeremiah.
Yn gymaint ag i'r ddau brawf a enwyd droi allan yn fethiant, ac hefyd fod Jeremiah yn dal yn ddi-ildio yn ei benderfyniad i beidio myned i'r gwaith glo, ni farnodd ei dad yn briodol wneyd prawf arall i ddwyn ei fab i fyny yn grefftwr; a gadawodd iddo gymeryd ei ffordd o "sincio 'i siawns," fel y dywedai. Annogwyd y "sheltrwr" gan ei gyfeillion i anfon ei fab i ysgol fawr yn ymyl Llundain, i ba le yr anfonid bechgyn yn gyffredin a fyddent wedi dangos talent neillduol. Enw yr ysgol, os wyf yn cofio yn dda, oedd "''The Reformatory.''" Ond ni fynai tad Jeremiah wrando ar y cynghorion, am y rheswm dybygid ei fod yn rhy hoff o'r bachgen i ddygymmod â'r meddwl o ymadael âg ef, neu ynte ei fod yn ystyried fod y dalent yr oedd wedi ei harddangos eisoes wedi ei dadblygu i raddau gormodol, heb ei anfon at rai o gyffelyb feddwl.
Aeth rhai blynyddau heibio heb i Jeremiah ymaflyd mewn unrhyw orchwyl neillduol; a thybiai rhai mai yn y cyfnod hwnw y dechreuodd blew dyfu ar ei ddwylaw; ond mynai eraill, ac yn eu plith y masnachwr a'r paentiwr y cyfeiriwyd atynt yn barod, fod arwyddion o honynt i'w canfod yn llawer cynnarach. Tra yr ydoedd Jeremiah eto yn llanc, rhoddid credyd iddo, hyd yn nod gan ei elynion, am gyfrwysdra di-ben-draw, yr hyn a barai i rai gysylltu â'i gymeriad enw y creadur deallgar hwnw a elwir y llwynog. Yr oedd yn meddu gallu neillduol i ddyfod o hyd i gyfrinach a hanes ei gymydogion, ac ar yr un pryd i gadw ei hanes ei hun yn berffaith ddirgelwch i bawb. Yr oedd ei fuchedd yn hollol ddichlynaidd o ran dim a ellid ei brofi i'r gwrthwyneb; ac er nad oedd wedi cymeryd yr<noinclude><references/></noinclude>
2ma5yi5l3k8awsy8t5grryqxnf79n8r
Tudalen:Y Dreflan.djvu/171
104
88690
171674
2026-10-11T01:27:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171674
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ardystiad dirwestol, ni byddai byth yn cyffwrdd â'r ddiod feddwol. Byddai ganddo bob amser gyflawnder o arian yn ei logell; ac nid oedd ganddo wrthwynebiad i bobl wybod hyny, càn belled ag na byddent eisieu eu benthyca. Ar brydiau elai oddicartref am ddeuddydd neu dri; ond ni wyddai neb i ba le nac i ba beth. Wedi iddo dyfu i fyny i oed a synwyr, cafwyd allan gan rywrai y byddai Jeremiah yn prynu a gwerthu pethau ag y tybiai y gallai wneyd arian oddiwrthynt, ond nid oedd hyny yn rhoddi cyfrif digonol am y modd yr oedd wedi ac yn gallu cynnal ei hun. Pan ofynid i'w dad am esboniad ar amgylchiadau ac arferion Jeremiah, atebai yr hen ŵr yn ddigon gonest na wyddai efe ddim yn ei gylch. Tybiai rhai ei fod yn gamblo, a'i fod wedi bod yn lwcus; eraill a gredent ei fod wedi gwerthu ei hunan i hen ŵr boneddig, yr hwn y mae fy narllenwyr i gyd yn gwybod am dano, a'r hwn hefyd sydd yn awr yn fyw, ac yn debyg o fyw wedi i mi a hwythau ymadael â'r fuchedd hon, ac am hyny ni wnaf ei enwi, gan nad ydwyf yn dymuno bod yn rhy bersonol. Yr oedd rhyw ychydig o bersonau yn credu yn ddiysgog yn y dybiaeth olaf a enwyd, tra y taera eraill nad oedd hyny yn bosibl, gan fod Jeremiah yn wrandawr cyson yn yr Hen Gapel, ac nad oedd yr hen foneddwr y cyfeiriwyd ato yn orhoff o'r efengyl. a dyweyd y lleiaf. Ychydig ydoedd nifer cyfeillion Jeremiah: ond gellid priodoli hyny i ragfarn a chenfigen, am ei fod ef yn meddu neillduolion nad allai y lliaws gydymdeimlo â hwynt na chyfranogi o honynt.
Nid yn hawdd y gellid darlunio y syndod a amlygwyd gan aelodau eglwys yr Hen Gapel un nos Sabboth, pan arosodd Jeremiah yn y seiat; nid yn gymaint am fod ei fuchedd yn anghyson â phroffes grefyddol, eithr am y tybid yn gyffredinol fod crefydd yn beth ag oedd allan o'i lwybr, ac yn rhywbeth hefyd nad oedd efe yn teimlo yr anghenrheidrwydd lleiaf am dani. Yr oedd Mr. Williams y gweinidog a Benjamin Prŷs y diacon, dipyn yn hen ffasiwn yn eu golygiadau crefyddol, ac yn arddangos gofid am na buasai mwy o arwyddion edifeirwch yn Jeremiah wrth<noinclude><references/></noinclude>
0lywc6dx80v36bmdaa70rnq1369rk5q
Tudalen:Y Dreflan.djvu/172
104
88691
171675
2026-10-11T01:28:14Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171675
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>gynnyg ei hun yn aelod eglwysig. Ond nid oedd ef ei hun yn gweled fod ynddo ddim i edifarhâu o'i blegid; a synai braidd fod y frawdoliaeth yn dangos càn lleied o lawenydd am ei waith yn cynnyg ei hun fel ychwanegiad at addurniadau yr eglwys. Nid llai oedd y syndod yn lled fuan wedi hyn pan ledaenwyd y gair fod Meistr Jeremiah yn bwriadu cymeryd ato ei hun wraig, a hono yn neb amgen na Miss Jones, yr hon a gadwai ''shop'' barchus ar gongl Stryt y Capel. Yr oedd Miss Jones yn aelod ffyddlawn yn yr Hen Gapel; a chanmolid hi gan y rhai a'i hadwaenai oreu fel un oedd yn meddu mwy o ras nag o brydferthwch, a mwy o gyfoeth nag o bob un o'r ddau. Yn ngolwg Jeremiah, yr oedd y peth olaf yn gwneyd i fyny am bob diffyg; a buasai ef yn eithaf boddlawn i gymeryd Miss Jones yn wraig pe buasai yn amddifad o bob rhinwedd arall.
Wedi uniad Mr. Jenkins â chyfoeth Miss Jones,—oblegid dyna ydoedd nodwedd mwyaf arbenig y briodas, gwisgodd ei fywyd wedd fwy cyffredin, a chyflawnwyd breuddwyd ei fachgendod, sef cael bod yn siopwr. Ymroddodd i fasnach—i brynu a gwerthu, a gwneyd bargenion; ac nid oedd odid ddim prynadwy na gwerthadwy nad oedd gan Jeremiah law ynddo. Yr unig gŵyn a ddygid yn ei erbyn fel masnachwr oedd ei fod braidd yn galed fel gwerthwr, a braidd yn hwyrfrydig fel talwr. Byddai rhywrai yn camgymeryd yr hwyrfrydigrwydd hwn o'i eiddo am anonestrwydd, ac yn ei erlyn yn Llys y Mânddyledion; ond byddai Jeremiah, fel rheol, yn dangos ei fod yn ddyn gonest trwy dalu y ddyled ychydig oriau cyn i'r Llys gyfarfod.
Gyda golwg ar ei fywyd priodasol, ni oddef gofod i mi fanylu. Ymddengys oddiwrth dystiolaeth y rhai oeddynt ei gymydogion nesaf ei fod wedi cymeryd cryn drafferth gyda Mrs. Jenkins, i'w dwyn i ystâd o berffeithrwydd. I gwblhâu hyn, yr oedd Jeremiah wedi gorfod arfer moddion lled lymion; ond ystyriai ef fod y dyben yn eu cyfiawnhâu. Yn ystod ei bywyd morwynol, edrychid ar Mrs. Jenkins fel merch ieuanc ddiniwed, ddystaw, a rhinweddol<noinclude><references/></noinclude>
gsed05ezkeojnh0n6qi3z89uohzp8qe
Tudalen:Y Dreflan.djvu/250
104
88692
171676
2026-10-11T01:50:50Z
AlwynapHuw
1710
/* Wedi'i brawfddarllen */
171676
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>deall fod un i "gynnorthwyo" y llall gyda rhywbeth. Yn ebrwydd yr ydym yn sefyll yn gylch yn y sêdd fawr. Mae rhywun yn darllen ardystiad neu ddau yn uchel a hunanfeddiannol, a rhyw ddau yn eu dyweyd ar ei ol yn wanaidd a chrynedig, yn nghanol dystawrwydd fel y bedd. Yr ydym eilwaith yn y ''vestry-room'', a rhyw nifer yn signio eu henwau yn y llyfr coch. Ni welais Noah erioed yn ysgrifenu ei enw mor wael. Yn union drachefn yr ydym yn yr heol. lle mae tyrfa fawr yn ein dysgwyl. Mae yno ddau gerbyd hefyd a'r ceffylau sydd yn eu tynu yn gwisgo clustiau gwynion. Pan ydym yn chwyrnellu trwy y Dreflan, mae agos i bawb yn sefyll yn eu drysau ac yn chwyfio cadachau. Yr ydym yn y Cartrefle, ac y mae'r tŷ yn hanner llawn o bobl; a phe cawsai Mr. Pugh ei ffordd, buasai yno gymaint arall. Yr wyf yn adnabod pawb sydd yno. Dacw Cadwaladr Rees o'r Tyddyn Bach, yn ei glôs pen glin llwyd. Dacw Marged Rees ei wraig yn gwisgo bonet anferth o fawr—mor fawr nes peri i Mr. Pugh, yr hwn sydd yn siarad â Mrs. Rees, ymddangos mor bell oddiwrthi ag ydyw oddiwrth y ''clerk'' pan fydd yn ceisio ''railway ticket''! Mae Noah yn siarad â phawb, er mai prin, yr wyf yn ofni, y gŵyr pa beth y mae yn ei ddywedyd. Mae yn anterth ei ddedwyddwch; a buasai cwpan ei lawenydd yn rhedeg drosodd oni bae am fonet fawr ei fam. Mae yno un arall, yr hon sydd wedi ymwisgo yn brydferth; ond pwy sydd yn edrych ar ei gwisg tra y mae ei hwyneb yn arddangos y fath gyfuniad rhyfedd o lawenydd a difrifwch? Y fath ddiwrnod hapus ydyw! Fel y mae pawb yn mwynhâu eu hunain yn y wledd ardderchog! Ni chafodd plant Ysgol Sul yr Hen Gapel, y rhai sydd yn chware yn hoenus mewn cae cyfagos, erioed y fath ddifyrwch. Mae y cerbyd a'r ceffylau a'r clustiau gwynion wrth ddrws y Cartrefle. Nid oes ond dau yn unig yn myned i mewn iddo. Mae Noah yn un o'r ddau, a phawb yn rhoddi bonllef iddo ef a'r "eneth oreu yn y byd," tra y cychwynant yn llawen i dreulio eu mis mêl.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
fe1k8zxcjd761igrunrfbz1ggu5gutj