Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.23 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/300 104 3552 171687 171583 2026-10-11T13:59:03Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171687 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|14:1}} {{uc|A bu}} ddyddgwaith i Jonathan mab Saul ddywedyd wrth y llangc oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa y Philistiaid, yr hon ''sydd'' o’r tu hwnt: ond ni fynegodd efe i’w dad. {{angor|14:2|2}} A Saul a arhosodd y’nghwrr Gibeah, dan ''bren'' pomgranad, yr hwn ''oedd'' ym Migron: a’r bobl ''oedd'' gyd âg ef ''oedd'' ynghylch chwe channwr; {{angor|14:3|3}} Ac Ahïah mab Ahitub, brawd Ichabod, mab Phinees, mab Eli, offeiriad yr {{sc|Arglwydd}} yn Siloh, oedd yn gwisgo ephod. Ac ni wyddai y bobl i Jonathan fyned ymaith. {{angor|14:4|4}} ¶ A rhwng y bylchau, lle ceisiodd Jonathan fyned drosodd at amddiffynfa y Philistiaid, ''yr oedd'' craig serth o’r naill du i’r bwlch, a chraig serth o’r tu arall i’r bwlch; ac enw y naill ''oedd'' Boses, ac enw y llall Seneh. {{angor|14:5|5}} A safiad y naill ''oedd'' oddi wrth y gogledd ar gyfer Michmas, a’r llall oddi wrth y dehau ar gyfer Gibeah. {{angor|14:6|6}} A dywedodd Jonathan with y llangc oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa y rhai dïenwaededig hyn; nid hwyrach y gweithia yr {{sc|Arglwydd}} gyd â ni: canys nid ''oes'' rwystr i’r {{sc|Arglwydd}} waredu trwy lawer neu trwy ychydig. {{angor|14:7|7}} A’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ef a ddywedodd wrtho, Gwna yr hyn oll ''sydd'' yn dy galon: cerdda rhagot; wele fi gyd â thi fel y mynno dy galon. {{angor|14:8|8}} Yna y dywedodd Jonathan, Wele, ni awn trosodd at y gwŷr ''hyn'', ac a ymddangoswn iddynt. {{angor|14:9|9}} Os dywedant fel hyn wrthym, Arhoswch nes i ni ddyfod attoch chwi; yna y safwn yn ein lle, ac nid awn i fynu attynt hwy. {{angor|14:10|10}} Ond os fel hyn y dywedant, Deuwch i fynu attom ni, yna yr awn i fynu: canys yr {{sc|Arglwydd}} a’u rhoddodd hwynt yn ein llaw ni; a hyn ''fydd'' yn argoel i ni. {{angor|14:11|11}} A hwy a ymddangosasant ill dau i amddinynfa y Philistiaid. A’r Philistiaid a ddywedasant, Wele yr Hebreaid yn dyfod allan o’r tyllau y llechasant ynddynt. {{angor|14:12|12}} A gwŷr yr amddiffynfa a attebasant Jonathan, a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau, ac a ddywedasant, Deuwch i fynu attom ni, ac ni a ddangoswn beth i chwi. A dywedodd Jonathan wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau, Tyred i fynu ar fy ol: canys yr {{sc|Arglwydd}} a’u rhoddes hwynt yn llaw Israel. {{angor|14:13|13}} A Jonathan a ddringodd i fynu ar ei ddwylaw, ac ar ei draed; a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ar ei ol. A hwy a syrthiasant o flaen Jonathan: ei yswain hefyd oedd yn lladd ar ei ol ef. {{angor|14:14|14}} A’r lladdfa gyntaf honno a wnaeth Jonathan a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau, oedd ynghylch ugeinwr, megis o fewn ynghylch hanner cyfer dau ''ychain'' o dir. {{angor|14:15|15}} A bu fraw yn y gwersyll, yn y maes, ac ym mysg yr holl bobl: yr amddinynfa a’r anrheithwyr hwythau hefyd a ddychrynasant: y ddaear hefyd a grynodd, a bu dychryn {{sc|Duw}}. {{angor|14:16|16}} A gwylwyr Saul yn Gibeah Benjamin a edrychasant; ac wele y llïaws yn ymwasgaru, ac yn myned dan ymguro. {{angor|14:17|17}} Yna y dywedodd Saul wrth y bobl ''oedd'' gyd âg ef, Cyfrifwch yn awr, ac edrychwch pwy a aeth oddi wrthym ni. A phan gyfrifasant, wele, Jonathan a chludydd ei arfau nid ''oeddynt yno''. {{angor|14:18|18}} A Saul a ddywedodd wrth Ahïah, Dwg yma arch {{sc|Duw}}. (Canys yr oedd arch {{sc|Duw}} y pryd hynny gyd â meibion Israel.) {{angor|14:19|19}} ¶ A thra yr ydoedd Saul yn ymddiddan â’r offeiriad, y terfysg, yr hwn ''oedd'' y’ngwersyll y Philistiaid, gan fyned a aeth, ac a anghwanegodd. A Saul a ddywedodd wrth yr offeiriad, Tyn attat dy law. {{angor|14:20|20}} A Saul a’r holl bobl ''oedd'' gyd âg ef a ymgynnullasant, ac a ddaethant i’r rhyfel: ac wele gleddyf pob un yn erbyn ei gyfnesaf; a dinystr mawr iawn ''oedd yno''. {{angor|14:21|21}} Yr Hebreaid hefyd, ''y rhai'' oedd gyd â’r Philistiaid o’r blaen, y rhai a aethant i fynu gyd â hwynt i’r gwersyll ''o’r wlad'' oddi amgylch, hwythau hefyd ''a droisant'' i fod gyd â’r Israeliaid ''oedd'' gyd â Saul a Jonathan. {{angor|14:22|22}} A holl wŷr Israel, y rhai oedd yn llechu ym mynydd Ephraim, a glywsant ffoi o’r Philistiaid; hwythau hefyd a’u herlidiasant hwy o’u hol yn y rhyfel. {{angor|14:23|23}} Felly yr achubodd yr {{sc|Arglwydd}}<noinclude><references/></noinclude> gu14e0tfb5bjbu8h55xe4fsh5k8dmj1 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/301 104 3553 171708 171584 2026-10-12T05:04:39Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171708 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>Israel y dydd hwnnw; a’r ymladd a aeth drosodd i Beth-afen. {{angor|14:24|24}} ¶ A gwŷr Israel oedd gyfyng amynt y dydd hwnnw: o herwydd tynghedasai Saul y bobl, gan ddywedyd, Melldigedig ''fyddo'' y gwr a fwyttao fwyd hyd yr hwyr, fel y dïalwyf ar fy ngelynion. Felly nid archwaethodd yr un o’r bobl ''ddim'' bwyd. {{angor|14:25|25}} A’r ''rhai'' o’r holl wlad a ddaethant i goed, lle yr oedd mêl ar hyd wyneb y tir. {{angor|14:26|26}} A phan ddaeth y bobl i’r coed, wele y mêl yn diferu; etto ni chododd ''un'' ei law at ei enau: canys ofnodd y bobl y llw. {{angor|14:27|27}} Ond Jonathan ni chlywsai pan dynghedasai ei dad ef y bobl: am hynny efe a estynodd flaen y wïalen ''oedd'' yn ei law, ac a’i gwlychodd yn nil y mêl, ac a drodd ei law at ei enau; a’i lygaid a oleuasant. {{angor|14:28|28}} Yna un o’r bobl a attebodd, ac a ddywedodd, Gan dynghedu y tynghedodd dy dad y bobl, gan ddywedyd, Melldigedig ''fyddo'' y gwr a fwyttao fwyd heddyw. A’r bobl oedd luddedig. {{angor|14:29|29}} Yna y dywedodd Jonathan, Fy nhad a flinodd y wlad. Gwelwch yn awr fel y goleuodd fy llygaid i, o herwydd i mi archwaethu ychydig o’r mêl hwn: {{angor|14:30|30}} Pa faint mwy, pe bwyttasai y bobl yn ddïwarafun heddyw o anrhaith eu gelynion, yr hon a gawsant hwy? oni buasai yn awr fwy y lladdfa ym mysg y Philistiaid? {{angor|14:31|31}} A hwy a darawsant y Philistiaid y dydd hwnnw o Michmas ''hyd'' Ajalon: a’r bobl oedd ddiffygiol iawn. {{angor|14:32|32}} A’r bobl a ruthrodd at yr anrhaith, ac a gymmerasant ddefaid, a gwartheg, a lloi, ac a’''u'' lladdasant ar y ddaear: a’r bobl a’''u'' bwyttaodd gyd â’r gwaed. {{angor|14:33|33}} ¶ Yna y mynegasant hwy i Saul, gan ddywedyd, Wele, y bobl sydd yn pechu yn erbyn yr {{sc|Arglwydd}}, gan fwytta ynghyd â’r gwaed. Ac efe a ddywedodd, Troseddasoch: treiglwch attaf fi heddyw faen mawr. {{angor|14:34|34}} Dywedodd Saul hefyd, Ymwasgerwch ym mysg y bobl, a dywedwch wrthynt, Dygwch attaf fi bob un ei ŷch, a phob un ei lwdn dafad, a lleddwch ''hwynt'' yma, a bwyttêwch; ac na phechwch yn erbyn yr {{sc|Arglwydd}}, gan fwytta ynghyd â’r gwaed. A’r bobl oll a ddygasant bob un ei ŷch yn ei law y noswaith honno, ac a’''u'' lladdasant yno. {{angor|14:35|35}} A Saul a adeiladodd allor i’r {{sc|Arglwydd}}. Hon oedd yr allor gyntaf a adeiladodd efe i’r {{sc|Arglwydd}}. {{angor|14:36|36}} ¶ A dywedodd Saul, Awn i waered ar ol y Philistiaid liw nos, ac anrheithiwn hwynt hyd oni oleuo y bore, ac na adâwn un o honynt. Hwythau a ddywedasant, Gwna yr hyn oll ''fyddo'' da yn dy olwg. Yna y dywedodd yr offeiriad, Nesâwn yma at {{sc|Dduw}}. {{angor|14:37|37}} Ac ymofynodd Saul â {{sc|Duw}}, A âf fi i waered ar ol y Philistiaid? a roddi di hwynt yn llaw Israel? Ond nid attebodd efe ef y dydd hwnnw. {{angor|14:38|38}} A dywedodd Saul, Dyneswch yma holl bennaethiaid y bobl: mynnwch wybod hefyd, ac edrychwch ym mhwy y bu y pechod hwn heddyw. {{angor|14:39|39}} Canys, ''megis mai'' byw yr {{sc|Arglwydd}}, yr hwn sydd yn gwaredu Israel, pe byddai hyn yn Jonathan fy mab, dïau y llwyr-roddir ef i farwolaeth. Ac nid attebodd ''neb'' o’r holl bobl ef. {{angor|14:40|40}} Yna y dywedodd efe wrth holl Israel, Chwi a fyddwch ar y naill du; minnau hefyd a Jonathan fy mab fyddwn ar y tu arall. A dywedodd y bobl wrth Saul, Gwna ''a fyddo'' da yn dy olwg. {{angor|14:41|41}} Am hynny y dywedodd Saul wrth {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel, Dod oleufynag. A daliwyd Jonathan a Saul: oad y bobl a ddïangodd. {{angor|14:42|42}} Dywedodd Saul hefyd, Bwriwch ''goelbren'' rhyngof fi a Jonathan fy mab. A daliwyd Jonathan. {{angor|14:43|43}} Yna y dywedodd Saul wrth Jonathan, Mynega i mi beth a wnaethost. A Jonathan a fynegodd iddo, ac a ddywedodd, Gan archwaethu yr archwaethais ychydig o fêl ar flaen y wïalen ''oedd'' yn fy llaw; ''ac'' wele, a fyddaf fi farw? {{angor|14:44|44}} Dywedodd Saul hefyd, Felly gwneled {{sc|Duw}} ''i mi'', ac felly chwaneged, onid gan farw y byddi di farw, Jonathan. {{angor|14:45|45}} A dywedodd y bobl wrth Saul, A leddir Jonathan, yr hwn a wnaeth yr ymwared mawr hyn yn Israel? Na atto {{sc|Duw}}: ''fel mai'' byw yr {{sc|Arglwydd}}, ni syrth ''un'' o wallt ei ben<noinclude><references/></noinclude> bopl85c0wnn0jwevrbxhbxndpf3ic9i Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/330 104 3582 171696 6757 2026-10-11T14:37:16Z Tylopous 3717 angorau 171696 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>yn dy galon: canys yr ARGLWYDD sydd gyda thi. {{angor|7:4|4}} A bu, y noson honno, i air yr AR¬GLWYDD ddyfod at Nathan, gan ddy¬wedyd, {{angor|7:5|5}} Dos, a dywed wrth fy ngwas Dafydd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ai tydi a adeiledi i mi dŷ, lle y cyfanheddwyf fi? {{angor|7:6|6}} Canys nid arhosais mewn tŷ, er y dydd yr arweiniais blant Israel o’r Aifft, hyd y dydd hwn, eithr bûm yn rhodio mewn pabell ac mewn tabernacl. {{angor|7:7|7}} Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl feibion Israel, a yngenais i air wrth un o lwythau Israel, i’r rhai y gorchmynnais borthi fy mhobl Israel, gan ddy¬wedyd, Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd? {{angor|7:8|8}} Ac yn awr fel hyn y dywedi wrth fy ngwas Dafydd; Fel hyn y dywed AR¬GLWYDD y lluoedd; Myfi a’th gymerais di o’r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yn flaenor ar fy mhobl, ar Israel. {{angor|7:9|9}} A bûm gyda thi ym mha le bynnag y rhodiaist; torrais ymaith hefyd dy holl elynion di o’th flaen, a gwneuthum enw mawr i ti, megis enw y rhai mwyaf ar y ddaear. {{angor|7:10|10}} Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le; a phlannaf ef, fel y trigo efe yn ei le ei hun, ac na symudo mwyach: a meibion anwiredd ni chwanegant ei gystuddio ef, megis cynt; {{angor|7:11|11}} Sef er y dydd yr ordeiniais i farnwyr ar fy mhobl Israel, ac y rhoddais lonyddwch i ti oddi wrth dy holl elynion. A’r ARGLWYDD sydd yn mynegi i ti, y gwna efe dŷ i ti. {{angor|7:12|12}} A phan gyflawner dy ddyddiau di, a huno ohonot gyda’th dadau, mi a gyfodaf dy had di ar dy ôl, yr hwn a ddaw allan o’th ymysgaroedd di, a mi a gadarnhaf ei frenhiniaeth ef. {{angor|7:13|13}} Efe a adeilada dŷ i’m henw i; minnau a gadarnhaf orseddfainc ei fren¬hiniaeth ef byth. {{angor|7:14|14}} Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab. Os trosedda efe, mi a’i ceryddaf â gwialen ddynol, ac â dyrnodiau meibion dynion: {{angor|7:15|15}} Ond fy nhrugaredd nid ymedy ag ef, megis ag y tynnais hi oddi wrth Saul, yr hwn a fwriais ymaith o’th flaen di. {{angor|7:16|16}} A’th dŷ di a sicrheir, a’th frenhiniaeth, yn dragywydd o’th flaen di: dy orseddfainc a sicrheir byth. {{angor|7:17|17}} Yn ôl yr holl eiriau hyn, ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd. {{angor|7:18|18}} Yna yr aeth y brenin Dafydd i mewn, ac a eisteddodd gerbron yr AR¬GLWYDD: ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O Arglwydd DDUW? a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma? {{angor|7:19|19}} Ac eto bychan oedd hyn yn dy olwg di, O Arglwydd DDUW; ond ti a leferaist hefyd am dŷ dy was dros hir amser: ai dyma arfer dyn, O Arglwydd DDUW? {{angor|7:20|20}} A pha beth mwyach a ddywed Dafydd ychwaneg wrthyt? canys ti a adwaenost dy was, O Arglwydd DDUW. {{angor|7:21|21}} Er mwyn dy air di, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i beri i’th was eu gwybod. {{angor|7:22|22}} Am hynny y’th fawrhawyd, O ARGLWYDD DDUW; canys nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw onid ti, yn ôl yr hyn oll a glywsom ni â’n clustiau {{angor|7:23|23}} A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl, megis Israel, yr hon yr aeth Duw i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun, ac i osod iddo enw, ac i wneuthur eroch chwi bethau mawr ac ofnadwy dros dy dir, gerbron dy bobl y rhai a waredaist i ti o’r Aifft, oddi wrth y cenhedloedd a’u duwiau? {{angor|7:24|24}} Canys ti a sicrheaist i ti dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, ARGLWYDD, ydwyt iddynt hwy yn DDUW. {{angor|7:25|25}} Ac yn awr, O ARGLWYDD DDUW, cwblha byth y gair a leferaist am dŷ was, ac am ei dŷ ef, a gwna megis y dywedaist. {{angor|7:26|26}} A mawrhaer dy enw yn dragywydd; gan ddywedyd, ARGLWYDD y lluoedd sydd DDUW ar Israel: a bydded tŷ dy was Dafydd wedi ei sicrhau ger dy fron di. {{angor|7:27|27}} Canys ti, O ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, a fynegaist i’th was, gan ddywedyd, Adeiladaf dŷ i ti: am hynny dy was a gafodd yn ei galon weddïo atat ti y weddi hon. {{angor|7:28|28}} Ac yn awr, O Arglwydd DDUW, tydi sydd DDUW, a’th eiriau di sydd wirionedd, a thi a leferaist am dy was y daioni hwn. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> mtl83xdvqrjhdbfp13uzb3nmljchsc7 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/331 104 3583 171697 171388 2026-10-11T14:39:25Z Tylopous 3717 angorau 171697 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|7:29|29}} Yn awr gan hynny rhynged bodd i ti fendigo tŷ dy was, i fod ger dy fron di yn dragywydd: canys ti, O Arglwydd DDUW, a leferaist, ac â’th fendith di y bendithier tŷ dy was yn dragywydd. {{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn darostwng y Philistiaid a1 ''.''r Moabiaid.'' 3 ''Yn taro Hadadezer a1 ''.''r Syriaid.'' 10 ''Toi yn anfon Joram âg anrhegion i1 ''.''w fendithio ef.'' 11 ''Dafydd yn cyssegru yr anrhegion a1 ''.''r yspail i Dduw:'' 14 ''yn gosod pennaethiaid yn Edom.'' 16 ''Swyddogion Dafydd.''}} {{angor|8:1}} {{uc|Ac}} wedi hyn trawodd Dafydd y Philist-—A iaid, ac a’u darostyngodd hwynt: a Dafydd a ddug ymaith Metheg-amma o law y Philistiaid. {{angor|8:2|2}} Ac efe a drawodd Moab, ac a’u tnesurodd hwynt a llinyn, gan eu cwympo hwynt i lawr: ac efe a fcsurodd â dau linyn, i ladd; ac a llinyn llawn, i gadw yn fyw. Ac felly y Moabiaid fuant i Da¬fydd yn weision, yn dwyn treth. {{angor|8:3|3}} Trawodd Dafydd hefyd Hadad-eser mab Rehob, brenin Soba, pan oedd efe yn myned i ennill ei derfynau wrth afon Ewffrates. {{angor|8:4|4}} A Dafydd a enillodd oddi arno ef fil o gerbydau, a saith gant o farchogion, ac ugain mil o wŷr traed: a thorrodd Da¬fydd linynnau gar meirch pob cerbyd, ac efe a adawodd ohonynt gan cerbyd. {{angor|8:5|5}} A phan ddaeth y Syriad o Damascus, i gynorthwyo Hadadeser brenin Soba, Dafydd a laddodd o’r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr. {{angor|8:6|6}} A Dafydd a osododd swyddogion yn Syria Damascus; a’r Syriaid a fuant weision i Dafydd, yn dwyn treth. A’r ARGLWYDD a gadwodd Dafydd ym mha le bynnag yr aeth efe. {{angor|8:7|7}} Dafydd hefyd a gymerth y tarianau aur oedd gan weision Hadadeser, ac a’u dug hwynt i Jerwsalem. {{angor|8:8|8}} O Beta hefyd, ac o Berothai, dinasoedd Hadadeser, y dug y brenin Dafydd lawer iawn o bres. {{angor|8:9|9}} Pan glybu Toi brenin Hamath, daro o Dafydd holl lu Hadadeser; {{angor|8:10|10}} Yna Toi a anfonodd Joram ei fab at y brenin Dafydd, i gyfarch gwell iddo ac i’w fendithio, am iddo ymladd yn erbyn Hadadeser, a’i faeddu ef; (canys gŵr rhyfelgar oedd Hadadeser yn erbyn Toi:) a llestri arian, a llestri aur, a llestri pres ganddo: {{angor|8:11|11}} Y rhai hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i’r ARGLWYDD, gyda’r arian a’r aur a gysegrasai efe o’r holl genhedloedd a oresgynasai efe; {{angor|8:12|12}} Oddi ar Syria, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec, ac o anrhaith Hadadeser mab Rehob, brenin Soba. {{angor|8:13|13}} A Dafydd a enillodd iddo enw, pan ddychwelodd efe o ladd y Syriaid, yn nyffryn yr halen, sef tair mil ar bymtheg. {{angor|8:14|14}} Ac efe a osododd benaethiaid ar Edom; ar holl Edom y gosododd efe benaethiaid, a bu holl Edom yn weision i Dafydd. A’r ARGLWYDD a gadwodd Dafydd, i ba le bynnag yr aeth etc. {{angor|8:15|15}} A theyrnasodd Dafydd ar holl Israel; ac yr oedd Dafydd yn gwneuthur barn a chyfiawnder i’w hull bobl. {{angor|8:16|16}} A Joab mab Serfia oedd ben ar y llu; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur; {{angor|8:17|17}} A Sadoc mab Ahitub, ac Ahimelech mab Abiathar, oedd offeiriaid; a Seraia yn ysgrifennydd: {{angor|8:18|18}} Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a’r Peiethiaid; a meibion Dafydd oedd dywysogion. {{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}} {{bach|1 ''Dafydd, trwy law Siba, yn danfon am Mephi-boseth;'' 7 ''ac, er mwyn Jonathan, yn ei dderbyn ef i’w fwrdd, ac yn edfryd iddo gwbl ag oedd eiddo Saul;'' 9 ''ac yn gwneuthur Siba yn oruchwyliwr iddo ef.''}} {{angor|9:1}} {{uc|A Dafydd}} a ddywedodd, A oes eto un wedi ei adael o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd ag ef, er mwyn Jonathan? {{angor|9:2|2}} Ac yr oedd gwas o dŷ Saul a’i enw Siba. A hwy a’i galwasant ef at Dafydd. A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, Ai tydi yw Siba? A dywedodd yntau, Dy was yw efe. {{angor|9:3|3}} A dywedodd y brenin, A oes neb eto o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd Duw ag ef? A dywedodd Siba wrth y brenin, Y mae eto fab i Jonathan, yn gloff o’i draed. {{angor|9:4|4}} A dywedodd y brenin wrtho. Pa te y mae efe? A Siba a ddywedodd wrth y brenin, Wele ef yn nhŷ Machir, mab Arnmiel, yn Lo-debar. {{angor|9:5|5}} Yna y brenin Dafydd a anfonodd, ac a’i cyrchodd ef o dy Machir, mab Ammi’el, o Lo-debar. {{angor|9:6|6}} A phan ddaeth Meffiboseth mab Jonathan, mab Saul, at Da-<noinclude><references/></noinclude> eidqvs7p713vjmcypph19d0egpyc30a Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/332 104 3584 171698 171389 2026-10-11T14:41:33Z Tylopous 3717 angorau 171698 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>fydd, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymgrymodd. A Dafydd a ddywedodd, Meffiboseth. Dywedodd yntau, Wele dy was. {{angor|9:7|7}} A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, Nac ofna: canys gan wneuthur y gwnaf drugaredd a thi, er mwyn Jonathan dy dad, a mi a roddaf yn ei ôl i ti holl dir Saul dy dad; a thi a fwytei fara ar fy mwrdd i yn wastadol. {{angor|9:8|8}} Ac efe a ymgrymodd, ac a ddywedodd, Beth ydyw dy was di, pan edrychit as gi marw o’m bath i? {{angor|9:9|9}} Yna y brenin a alwodd ar Siba gwas Saul, ac a ddywedodd wrtho, Yr hyn oll oedd eiddo Saul, ac eiddo ei holl d ef, a roddais i fab dy feistr di. {{angor|9:10|10}} A thi a erddi y tir iddo ef, ‘ti, a’th feibion, a’th weision, ac a’u dygi i mewn, fel y byddo bara i fab dy feistr di, ac y bwytao efe: a Meffiboseth, mab dy feistr di, a fwyty yn wastadol fara ar fy mwrdd i. Ac i Siba yr oedd pymtheg o feibion, ac ugain o weision. {{angor|9:11|11}} Yna y dywedodd Siba wrth y brenin, Yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd fy arglwydd y brenin i’w was, felly y gwna dy was. Yna y dywedodd Dafydd, Meffiboseth a fwyty ar fy mwrdd i, fel un o feibion y brenin. {{angor|9:12|12}} Ac i Meffiboseth yr oedd mab bychan, a’i enw oedd Micha. A phawb a’r a oedd yn cyfanheddu ty Siba oedd weision i Meffiboseth. {{angor|9:13|13}} A Meffiboseth a drigodd yn Jerw¬salem: canys ar fwrdd y brenin yr oedd efe yn bwyta yn wastadol: ac yr oedd efe yn gloff o’l ddeudroed. {{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}} {{bach|1 ''Y dirmyg a wnaed â’r cenhadon a anfonasai Dafydd i gysuro Hanun mab Nahas.'' 6 ''Joab ac Abisai yn gorchfygu yr Ammoniaid, er bod y Syriaid yn eu cynnorthwyo.'' 15 ''Sobach yn ail-gasglu y Syriaid, a Dafydd yn ei ladd ef yn Helam.''}} {{angor|10:1}} {{uc|Ac}} ar ôl hyn y bu i frenin meibion Ammon farw, a Hanun ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. {{angor|10:2|2}} Yna y dywedodd Dafydd, Mi a wnaf garedigrwydd a Hanun mab Nahas, megis y gwnaeth ei dad ef garedigrwydd a mi. A Dafydd a anfonodd gyda’i weision i’w gysuro ef am ei dad. A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meibion Ammon. {{angor|10:3|3}} A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun eu haiglwydd., Wyt ti yn tybied mai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd, oherwydd iddo ddanfon cysurwyr atat ti? onid er mwyq chwilio’r ddinas, a’i throedio, a’i difetha, yr anfonodd Dafydd ei weision atat ti? {{angor|10:4|4}} Yna Hanun a gymerth weision Da¬fydd, ac a eilliodd hanner eu barfau hwynt, ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner, hyd eu cluniau, ac a’u go-llyngodd hwynt ymaith. {{angor|10:5|5}} Pan fynegwyd hyn i Dafydd, efe a anfonodd i’w cyfarfod hwynt; canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr. A dywedodd y brenin, Arhoswch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau chwi, ac yna dychwelwch. {{angor|10:6|6}} A meibion Ammon a welsant eu bod yn ffiaidd gan Dafydd; a meibion Ammon a anfonasant ac a gyflogasant y Syriaid o Bethrehob, a’r Syriaid o Soba, ugain mil o wŷr traed, a chan frenin Maacha fil o wŷr, ac o Istob ddeuddeng mil o wŷr. {{angor|10:7|7}} A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab, a holl lu y cedyrn. {{angor|10:8|8}} A meibion Ammon a ddaethant, ac a luniaethasant ryfel wrth ddrws y porth: a’r Syriaid o Soba, a Rehob, ac o Istob, a Maacha, oedd o’r neilitu yn y maes. {{angor|10:9|9}} Pan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl, efe. a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a ymfyddinodd yn erbyn y Syriaid. {{angor|10:10|10}} A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd, i’w byddino yn erbyn meibion Ammon. {{angor|10:11|11}} Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di i mi yn gynhorthwy; ond os meibion Ammon fyddant drech na thi, yna y deuaf i’th gynorthwyo dithau. {{angor|10:12|12}} Bydd bybyr, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw: a gwnaed yr ARGLWYDD yr hyn fyddo da yn ei olwg ef. {{angor|10:13|13}} A nesaodd Joab, a’r bobl oedd gydag ef, yn erbyn y Syriaid i’r rhyfel; a hwy a ffoesant o’i flaen ef. {{angor|10:14|14}} A phan welodd meibion Ammon ffoi o’r Syriaid, hwythau a ffoesant o flaen Abisai, ac a aethant i’r ddinas. A dych welodd Joab oddi wrth feibion Ammon, ac a ddaeth i Jerwsalem. {{angor|10:15|15}} A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, hwy a ymgynullasant ynghyd. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 8oie9n0x9n1rtql6fabfqwia9n9q8lw Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/333 104 3585 171699 171390 2026-10-11T14:43:22Z Tylopous 3717 angorau 171699 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|10:16|16}} A Hadareser a anfonodd, ac a ddug y Syriaid oedd o’r tu hwnt i’r afon: a hwy a ddaethant i Helam, a Sobach tywysog llu Hadareser o’u blaen. {{angor|10:17|17}} A phan fynegwyd i Dafydd hynny, fife a gasglodd holl Israel, ac a aeth dros yr Iorddonen, ac a ddaeth i Helam: a’r Synaid a ymfyddinasant yn erbyn Da¬fydd, ac a ymladdasant ag ef. {{angor|10:18|18}} A’r Syriaid a ffoesant o flaen Israel; a Dafydd a laddodd o’r Syriaid, wŷr saith gant o gerbydau, a deugain mil o wŷr meirch: ac efe a drawodd Sobach tywysog eu llu hwynt, fel y bu efe farw yno. {{angor|10:19|19}} A phan welodd yr holl frenhinoedd oedd weision i Hadareser, eu lladd hwynt o flaen Israel, hwy a heddychasant ag Israel, ac a’u gwasanaethasant hwynt. A’r Syriaid a ofnasant gynorthwyo meib¬ion Ammon mwyach. {{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod XI}}.}} {{bach|1 ''Dafydd, tra yr ydoedd Joab yn gwarchae ar Rabbah, yn godinebu gyd â Bathseba:'' 6 ''yn anfon am Urïas adref, i geisio coluro ei odineb:'' 14 ''yn anfon llythyr gyd âg ef at Joab, i beri iddo farw.'' 18 ''Joab yn danfon newyddion o’i farwolaeth ef i Dafydd.'' 26 ''Dafydd yn cammeryd Bathseba yn wraig iddo.''}} {{angor|11:1}} {{uc|Ac}} wedi pen y flwyddyn, yn yr amser y byddai y brenhinoedd yn myned allan i ryfel, danfonodd Dafydd Joab a’i weision gydag ef, a holl Israel; a hwy a ddistrywiasant feibion Ammon, ac a warchaeasant ar Rabba: ond Dafydd oedd yn aros yn Jerwsalem. {{angor|11:2|2}} A bu ar brynhawngwaith gyfodi o Dafydd oddi ar ei wely, a rhodio ar nen ty y brenin: ac oddi ar y nen efe a ganfu, wraig yn ymolchi; a’r wraig oedd deg iawn yr olwg. {{angor|11:3|3}} A Dafydd a anfonodd ac a ymofyn-, nodd am y wraig: ac un a ddywedodd," Onid hon yw Bathseba merch Eli’am, gwraig Ureias yr Hethiad? {{angor|11:4|4}} A Dafydd a anfonodd genhadau, ac a’i cymerth hi; a hi a ddaeth i mewn ato ef, ac efe a orweddodd gyda hi: ac yr oedd hi wedi ei glanhau oddi wrth ei haflendid: a hi a ddychwelodd i’w thŷ ei hun. {{angor|11:5|5}} A’r wraig a feichiogodd, ac a anfon¬odd ac a fynegodd i Dafydd, ac a ddy¬wedodd, Yr ydwyf fi yn feichiog. {{angor|11:6|6}} A Dafydd a anfonodd at Joab, gan ddywedyd, Danfon ataf fi Ureias yr Hethiad. A Joab a anfonodd Ureias at Dafydd. {{angor|11:7|7}} A phan ddaeth Ureias ato ef, Dafydd a ymofynnodd âm lwyddiant Joab, ac am lwyddiant y bobl, ac am ffyniant y rhyfel. {{angor|11:8|8}} Dywedodd Dafydd hefyd wrth Ureias, DOS i waered i’th dŷ, a golch dy draed. Ac Ureias a aeth allan o dy y brenin, a saig y brenin a aeth ar ei ôl ef. {{angor|11:9|9}} Ond Ureias a gysgodd wrth ddrws ty y brenin gyda holl weision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dy ei hun. {{angor|11:10|10}} Yna y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Nid aeth Ureias i waered i’w dy ei hun. A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Onid o’th daith yr ydwyt ti yn dyfod? paham nad eit ti i waered i’th dŷ dy hun? {{angor|11:11|11}} A dywedodd Ureias wrth Dafydd, Yr arch, ac Israel hefyd, a Jwda, sydd yn aros mewn pebyll; a Joab fy arglwydd, a gweision fy arglwydd, sydd yn gwersyllu ar hyd wyneb y maes: a af fi gan hynny i’m ty fy hun, i fwyta, ac i yfed, ac i orwedd gyda’m gwraig? fel mai byw di, ac fel mai byw dy enaid di, ni wnaf y peth hyn. {{angor|11:12|12}} A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Aros yma eto heddiw, ac yfory y’th ollyngaf di. Ac Ureias a arhosodd yn Jerwsalem y dwthwn hwnnw a thrannoeth. {{angor|11:13|13}} A Dafydd a’i galwodd ef, i fwyta ac i yfed ger ei fron ef, ac a’i meddwodd ef: ac yn yr hwyr efe a aeth i orwedd ar ei wely gyda gweision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dy ei hun. {{angor|11:14|14}} A’r bore yr ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab, ac a’i hanfonodd yn llaw Ureias. {{angor|11:15|15}} Ac efe a ysgrifennodd yn ei lythyr, gan ddywedyd, Gosodwch Ureias ar gyfer wyneb y rhyfelwyr glewaf; a dychwelwch oddi ar ei ôl ef, fel y trawer ef, ac y byddo marw. {{angor|11:16|16}} A phan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas, efe a osododd Ureias yn y lle y gwyddai efe fod gwŷr nerthol ynddo. {{angor|11:17|17}} A gwŷr y ddinas a aethant allan, ac a ymladdasant a Joab: a syrthiodd rhai o’r bobl o weision Dafydd; ac Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd. {{angor|11:18|18}} Yna Joab a anfonodd, ac a fynegodd i Dafydd holl hanes y rhyfel: {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> mesg914laftun53mi70k72zqen9ma05 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/334 104 3586 171700 171391 2026-10-11T14:45:05Z Tylopous 3717 angorau 171700 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|11:19|19}} Ac a orchmynnodd i’r gennad, gan ddywedyd. Pan orffennych lefaru holl hanes y rhyfel wrth y brenin: {{angor|11:20|20}} Os cyfyd llidiowgrwydd y brenin, ac os dywed wrthyt, Paham y nesasoch at y ddinas i ymladd? oni wyddech y taflent hwy oddi ar y gaer? {{angor|11:21|21}} Pwy a drawodd Abimelech fab Jerwbbeseth? onid gwraig a daflodd arno ef ddarn o faen melin oddi ar y mur, fel y bu efe farw yn Thebes? paham y nesasoch at y mur? yna y dywedi, Dy was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd. {{angor|11:22|22}} Felly y gennad a aeth, ac a ddaeth ac a fynegodd i Dafydd yr hyn oll yr anfonasai Joab ef o’i blegid. {{angor|11:23|23}} A’r gennad a ddywedodd wrth Da¬fydd, Yn ddiau y gwŷr oeddynt drech na ni, ac a ddaethant atom ni i’r maes, a ninnau a aethom arnynt hwy hyd ddrws y porth. {{angor|11:24|24}} A’r saethyddion a saethasant at dy weision oddi ar y mur; a rhai o weisiofa y brenin a fuant feirw; a’th was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd. {{angor|11:25|25}} Yna Dafydd a ddywedodd wrth y gennad. Fel hyn y dywedi di wrth Joab, Na fydded hyn ddrwg yn dy oiwg di: canys y naill fel y llall a ddifetha y cleddyf; cadarnha dy ryfel yn erbyn y ddinas, a distrywiwch hi; a chysura dithau ef. {{angor|11:26|26}} A phan glybu gwraig Ureias farw Ureias ei gŵr, hi a alarodd am ei phriod. {{angor|11:27|27}} A phan aeth y galar heibio, Dafydd a anfonodd, ac a’i cyrchodd hi i’w dŷ, i fod iddo yn wraig; a hi a ymddug iddo fab. A drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD oedd y peth a wnaethai Dafydd. {{angor|Pennod_12}}{{c|{{uc|Pennod XII}}.}} {{bach|1 ''Dammeg Nathan am yr oenig, yn peri i Dafydd fod yn farnwr arno ei hun.'' 7 ''Dafydd, wedi i Nathan ei geryddu, yn cyfaddef ei bechod, ac yn cael maddeuant:'' 15 ''yn galaru ac yn gweddïo dros y plentyn, tra oedd fwy.'' 24 ''Geni Solomon, a’i enwi Jedidïah.'' 26 ''Dafydd yn ennill Rabbah, ac yn arteithio ei phobl hi.''}} {{angor|12:1}} {{uc|A’r}} ARGLWYDD a anfonodd Nathan at Dafydd. Ac efe a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Dau ŵr oedd yn yr un ddinas; y naill yn gyfoethog, a’r llall yn dlawd. {{angor|12:2|2}} Gan y cyfoethog yr oedd llawer iawa o ddefaid a gwartheg: {{angor|12:3|3}} A chan y tlawd nid oedd dim ohd un oenig fechan, yr hon a brynasai efe, ac a fagasai; a hi a gynyddasai gydag ef, a chyda’i blant: o’i damaid ef y bwytai hi, ac o’i gwpan ef yr yfai hi, ac yn ei fynwes ef y gorweddai hi, ac yr oedd hi iddo megis merch. {{angor|12:4|4}} Ac ymdeithydd a ddaeth at y gŵr cyfoethog; ond efe a arbedodd gymryd O’i ddefaid ei hun, ac o’i wartheg ei hun, l arlwyo i’r ymdeithydd a ddaethai ato; ond efe a gymerth oenig y gŵr tlawd, ac a’i parat6dd i’r gŵr a ddaethai ato. {{angor|12:5|5}} A digofaint Dafydd a enynnodd yn ddirfawr wrth y gŵr; ac efe a ddywedodd wrth Nathan, Fel mai byw yr ARGLWYDD, euog o farwolaeth yw y gŵr a wnaeth hyn. {{angor|12:6|6}} A’r oenig a dâl efe adref yn bedwar dyblyg; oherwydd iddo wneuthur y peth .hyn, ac nad arbedodd. {{angor|12:7|7}} A dywedodd Nathan wrth Dafydd, Ti yw y gŵr. Fel hyn y dywed ARGLWYDO DDUW Israel, Myfi a’th enem¬ies di yn frenin ar Israel, myfi hefyd a’th waredais di o law Saul: {{angor|12:8|8}} Rhoddais hefyd i ti dŷ dy arglwydd, a gwragedd dy arglwydd yn dy fynwes, a mi a roddais i ti dŷ Israel a Jwda; a pfae rhy fychan fuasai hynny, myfi a toddaswn i ti fwy o lawer. {{angor|12:9|9}} Paham y dirmygaist air yr ARGLWYDP, i wneuthur drwg yn ei olwg ef? Ure&s yr Hethiad a drewaist ti a’r cleddyf, a’i wraig ef a gymeraist i ti yn wraig, a ttu a’i lleddaist ef a chleddyf meibion Ammon. {{angor|12:10|10}} Yn awr gan hynny nid ymedy y cleddyf a’th dŷ di byth; oherwydd i ti fy nirmygu i, a chymryd gwraig Ureias yr Hethiad i fod yn wraig i ti. {{angor|12:11|11}} Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, myfi a gyfodaf i’th erbyn ddrwg o’th dŷ dy hun, a mi a ddygaf dy wragedd di yng ngŵydd dy lygaid, ac a’u rhoddaf hwynt i’th gymydog, ac efe a orwedd gyda’th wragedd di yng ngolwg yr haul hwn. {{angor|12:12|12}} Er i ti wneuthur mewn dirgelwch; eto myfi a wnaf y peth hyn gerbron holl Israel, a cherbron yr haul. {{angor|12:13|13}} A dywedodd Dafydd wrth Nathan., Pechais yn erbyn yr ARGLWYDD. A Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Yr ARGLWYDD hefyd a dynnodd ymaith dy bechod di: ni byddi di marw. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> pzzsfmrbv26gyrrvlzirvs81agy4t2h Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/335 104 3587 171701 171392 2026-10-11T14:46:50Z Tylopous 3717 angorau 171701 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|12:14|14}} Eto, oherwydd i ti beri i elynion yr ARGLWYDD gablu trwy y peth hyn, y plentyn a anwyd i ti a fydd marw yn ddiau. {{angor|12:15|15}} A Nathan a aeth i’w dŷ.A’r AR¬GLWYDD a drawodd y plentyn a blantasai gwraig Ureias i Dafydd.; ac efe a, aeth yn glaf iawn. {{angor|12:16|16}} Dafydd am hynny a ymbitiodd â Duw dros y bachgen; a Dafyddaymprydiodd ympryd, ac a aeth ac a orweddodd ar y ddaear ar hyd y nos. {{angor|12:17|17}} A henuriaid ei dy ef a gyfodasant .ato ef, i beri iddo godi oddi ar y ddaear: ond ni fynnai efe, ac ni fwytai fara gyda hwynt. {{angor|12:18|18}} Ac ar y seithfed dydd y bu farw y plentyn. A gweision Dafydd a ofnasant fynegi iddo ef farw y bachgen: canys dywedasant, Wele, tra oedd y bachgen yn fyw y llefarasom wrtho, ond ni wrandawai ar ein llais, pa fodd gan hynny yr ymofidia, os dywedwn wrtho farw y plentyn? {{angor|12:19|19}} Ond pan welodd Dafydd ei weision yn sibrwd, deallodd Dafydd farw y plentyn: a Dafydd a ddywedodd wrth ei weision, A fu farw y plentyn? A hwy a ddywedasant, Efe a fu farw. {{angor|12:20|20}} Yna Dafydd a gyfododd oddi ar y ddaear, ac a ymolchodd, ac a ymeneiniodd, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth i dŷ yr ARGLWYDD, ac a addolodd: wedi hynny y daeth efe i’w dy ei hun; ac a ofynnodd, a hwy a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd. {{angor|12:21|21}} Yna ei weision a ddywedasant wrtho ef. Pa beth yw hyn a wnaethost ti? dros y plentyn byw yr ymprydiaist, ac yr wylaist; ond pan fu y plentyn farw, ti a gyfodaist ac a fwyteaist fara. {{angor|12:22|22}} Ac efe a ddywedodd, Tra yr ydoedd y plentyn yn fyw, yr ymprydiais ac yr wylais: canys mi a ddywedais, Pwy a wŷr a drugarha yr ARGLWYDD wrthyf, fel y byddo byw y plentyn? {{angor|12:23|23}} Ond yn awr efe fu farw, i ba beth yr ymprydiwn? a allaf fi ei ddwyn ef yn ei ôl mwyach? myfi a af ato ef, ond ni ddychwel efe ataf fi. {{angor|12:24|24}} A Dafydd a gysurodd Bathseba ei wraig, ac a aeth i mewn ati hi, ac a orweddodd gyda hi: a hi a ymddug fab, ac efe a alwodd ei enw ef Solomon. A’r ARGLWYDD a’i carodd ef. {{angor|12:25|25}} Ac efe a anfonodd trwy law Nathan y proffwyd; ac efe a alwodd ei enw ef Jedidia oblegid yr ARGLWYDD. {{angor|12:26|26}} A Joab a ymladdodd yn erbyn Rabba meibion Ammon, ac a enillodd y frenhinol ddinas. {{angor|12:27|27}} A Joab a anfonodd genhadau at Dafydd, ac a ddywedodd, Rhyfelais yn erbyn Rabba, ac a enillais ddinas y dyfroedd. {{angor|12:28|28}} Yn awr gan hynny casgl weddill y bobl, a gwersylla yn erbyn y ddinas, ac ennill hi; rhag i mi ennill y ddinas, a galw fy enw i arni hi. {{angor|12:29|29}} A Dafydd a gasglodd yr holl bobl, ac a aeth i Rabba, ac a ymladdodd yn ei herbyn, ac a’i henillodd hi. {{angor|12:30|30}} Ac efe a gymerodd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben; a’i phwys hi oedd dalent o aur, gyda’r maen gwerthfawr: a hi a osodwyd ar ben Dafydd. Ac efe a ddug ymaith o’r ddinas anrhaith fawr iawn. {{angor|12:31|31}} Ac efe a ddug ymaith y bobl oedd ynddi, ac a’u gosododd dan lifiau, a than ogau heyrn, a than fwyeill heyrn, ac a’u bwriodd hwynt i’r odynau calch: ac felly y gwnaeth i holl ddinasoedd meib¬ion Ammon. A dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Jerusalem. {{angor|Pennod_13}}{{c|{{uc|Pennod XIII}}.}} {{bach|1 ''Amnon yn caru Tamar: a thrwy gynghor Jonadab, yn cymmeryd arno fod yn glaf, ac yn ei threisio hi;'' 15 ''ac yna yn ei chasâu hi, ac yn ei throi ymaith yn gywilyddus.'' 19 ''Absalom yn ei derbyn hi, ac yn celu ei amcan:'' 23 ''ac, wrth gneifio ei ddefaid, yn lladd Amnon.'' 30 ''Dafydd yn pruddhâu wrth glywed hynny; a Jonadab yn ei gysuro ef.'' 37 ''Absalom yn ffoi at Talmai i Gesur.''}} {{angor|13:1}} {{uc|Ac}} ar ôl hyn yr oedd gan Absalom mab Dafydd chwaer deg, a’i henw Tamar: ac Amnon mab Dafydd a’i carodd hi. {{angor|13:2|2}} Ac yr oedd mor flin ar Amnon, fel y clafychodd efe oherwydd Tamar ei chwaer: canys gwyry oedd hi; ac anodd y gwelai Amnon wneuthur dim iddi hi. {{angor|13:3|3}} Ond gan Amnon yr oedd cyfaill, a’i enw Jonadab, mab Simea, brawd Dafydd: a Jonadab oedd ŵr call iawn. {{angor|13:4|4}} Ac efe a ddywedodd wrtho ef, Ti fab y brenin, paham yr ydwyt yn curio fel hyn beunydd? oni fynegi di i mi? Ac’ Amnon a ddywedodd wrtho ef, Caru yr ydwyf fi Tamar, chwaer Absalom fy mrawd. {{angor|13:5|5}} A Jonadab a ddywedodd wrtho ef, Gorwedd ar dy wely, a chymmer<noinclude><references/></noinclude> 0ux6qnldk62tz896icprsf91h6d6mx8 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/336 104 3588 171702 6763 2026-10-11T14:48:38Z Tylopous 3717 angorau 171702 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>arnat fod yn glaf: a phan ddelo dy dad i’th edrych, dywed wrtho ef, Deued, atolwg, Tamar fy chwaer i roddi bwyd i mi, ac i arlwyo’r bwyd yn fy ngolwg, fel y gwelwyf, ac y bwytawyf o’i llaw hi. {{angor|13:6|6}} Felly Amnon a orweddodd, ac a gymerth arno fod yn glaf. A’r brenin a ddaeth i’w edrych ef; ac Amnon a ddy¬wedodd wrth y brenin, Deued, atolwg, Tamar fy chwaer i grasu dwy deisen yn fy ngolwg i, fel y bwytawyf o’i llaw hi. {{angor|13:7|7}} Yna Dafydd a anfonodd adref at Tamar, gan ddywedyd, DOS yn. awr i dŷ Amnon dy frawd, a pharatoa fwyd iddo. {{angor|13:8|8}} Felly Tamar a aeth i dŷ Amnon ei brawd; ac efe oedd yn gorwedd: a hi a gymerth beilliaid, ac a’i tyhnodd, ac a wnaeth deisennau yn ei ŵydd ef, ac a grasodd y teisennau. {{angor|13:9|9}} A hi a gymerth badell, ac a’u tywalltodd hwynt ger ei fron ef: ond efe a wrthododd fwyta. Ac Amnon a ddy¬wedodd, Gyrrwch allan bawb oddi wrthyf fi. A phawb a aethant allan oddi wrtho ef. {{angor|13:10|10}} Yna Amnon a ddywedodd wrth Tamar, Dwg y bwyd i’r ystafell, fel y bwytawyf o’th law di. A Thamar a gymerth y teisennau a wnaethai hi, ac a’u dug at Amnon ei brawd i’r ystafell. {{angor|13:11|11}} A phan ddug hi hwynt ato ef i fwyta, efe a ymaflodd ynddi hi, ac a ddy¬wedodd wrthi hi, Tyred, gorwedd gyda mi, fy chwaer. f {{angor|13:12|12}} A hi a ddywedodd wrtho. Paid, fy mrawd; na threisia fi: canys ni wneir fel hyn yn Israel: na wna di yr ynfydrwydd hyn. {{angor|13:13|13}} A minnau, i ba le y bwriaf ymaith fy ngwarth? a thi a fyddi fel un o’r ynfydion yn Israel. Yn awr, gan hynny, ymddiddan, atolwg, a’r brenin: canys ni omedd efe fi i ti. {{angor|13:14|14}} Ond ni fynnai efe wrando ar ei llais hi; eithr efe a fu drech na hi, ac a’i treisiodd, ac a orweddodd gyda hi. {{angor|13:15|15}} Yoa Amnon a’i casaodd hi a chas mawr iawn: canys mwy oedd y cas a’r hwn y casasai efe hi, na’r cariad a’r hwn y carasai efe hi. Ac Amnon a ddywedodd wrthi hi, Cyfod, dos ymaith. {{angor|13:16|16}} A hi a ddywedodd wrtho ef, Nid oes achos: y drygioni hwn, sef fy ngyrru ymaith, sydd fwy na’r llall a wnaethost a mi. Ond ni wrandawai efe arni hi. {{angor|13:17|17}} Eithr efe a alwodd ar ei lane, ei weinidog, ac a ddywedodd, Gyrrwch hon yn awr allan oddi wrthyf fi; a chloa’r drws ar ei hôl hi. {{angor|13:18|18}} Ac amdani hi yr oedd mantell symudliw: canys a’r cyfryw fentyll y diilledid merched y brenin, y rhai oedd forynion. Yna ei weinidog ef a’i dug hi allan, ac a glodd y drws ar ei hôl hi. {{angor|13:19|19}} A Thamar a gymerodd ludw ar ei phen, ac a rwygodd y fantell symudliw oedd amdani, ac a osododd ei llaw ar ei phen, ac a aeth ymaith dan weiddi. {{angor|13:20|20}} Ac Absalom ei brawd a ddywedodd wrthi hi, Ai Amnon dy frawd a fu gyda thi? er hynny yn awr taw a son, fy chwaer: dy frawd di yw efe; na osod dy galon ar y peth hyn. Felly Tamar a drigodd yn amddifad yn nhŷ Absalom ei brawd. {{angor|13:21|21}} Ond pan glybu’r brenin Dafydd yr holl bethau hynny, efe a ddigiodd yn aruthr. {{angor|13:22|22}} Ac ni ddywedodd Absalom wrth Amnon na drwg na da: canys Absalom a gasaodd Amnon, oherwydd iddo dreisio Tamar ei chwaer ef. {{angor|13:23|23}} Ac ar ôl dwy flynedd o ddyddiau, yr oedd gan Absalom rai yn cneifio yn Baalhasor, yr hwn sydd wrth Effraim: ac Absalom a wahoddodd holl feibion y brenin. {{angor|13:24|24}} Ac Absalom a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd, Wele yn awr rai yn cneifio i’th was di; deued, atolwg, y brenin a’i. weision gyda’th was. {{angor|13:25|25}} A dywedodd y brenin wrth Absa¬lom, Nage, fy roab, ni ddeuwn ni i gyd yn awr; rhag i ni ormesu arnat ti. Ac efe a fu dacr arno: ond ni fynnai efe fyned, eithr efc a’i bcndithiodd ef. {{angor|13:26|26}} Yna y dywedodd Absalom, Oni ddaw Amnon fy mrawd yn awr gyda ni? A’r brenin a ddywedodd wrtho- ef, 1 ba beth yr a efe gyda thi? .;: {{angor|13:27|27}} Eto Absalom a fu daer arno, fal y gollyngodd efe Amnon gydag ef, a hot! feibion y brenin. {{angor|13:28|28}} Ac Absalom a orchmynnodd i’w lanciau, gan ddywedyd, Edrychwch, atolwg, pan fyddo llawen<noinclude><references/></noinclude> 5w5yholt8da8xtlgm6dak12neh6b925 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/338 104 3591 171703 6777 2026-10-11T14:53:50Z Tylopous 3717 angorau 171703 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ni syrth un o wallt pen dy fab di i lawr. {{angor|14:12|12}} Yna y dywedodd y wraig, Atolwg, gad i’th lawforwyn ddywedyd gair wrth fy arglwydd frenin. Yntau a ddywedodd, Dywed. {{angor|14:13|13}} A’r wraig a ddywedodd, Paham gan hynny y meddyliaist fel hyn yn erbyn pobl Dduw? canys y mae’r brenin yn llefaru y gair hwn megis un beius, gan na ddug y brenin adref ei herwr. {{angor|14:14|14}} Canys gan farw yr ydym ni yn marw, ac ydym fel dyfroedd wedi eu tywallt ar y ddaear, y rhai ni chesglir: gan na ddug Duw ei einioes, efe a feddyliodd foddion, fel na yrrer ymaith ei herwr oddi wrtho. {{angor|14:15|15}} Ac yn awr mi a ddeuthum i ymddiddan â’m harglwydd frenin am y peth hyn, oblegid i’r bobl fy nychrynu i: am hynny y dywedodd dy lawforwyn, Ymddiddanaf yn awr â’r brenin; ond odid fe a wna y brenin ddymuniad ei lawforwyn. {{angor|14:16|16}} Canys y brenin a wrendy, fel y gwaredo efe ei lawforwyn o law y gŵr a fynnai fy nifetha i a’m mab hefyd o etifeddiaeth Dduw. {{angor|14:17|17}} A’th lawforwyn a ddywedodd, Bydded, atolwg, gair fy arglwydd frenin yn gysur: canys fel angel Duw yw fy Arglwydd frenin, i wrando’r da a’r drwg: a’r Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi. {{angor|14:18|18}} Yna yr atebodd y brenin, ac y dywedodd wrth y wraig, Na chela, atolwg, oddi wrthyf fi y peth yr ydwyf yn ei ofyn i ti. A dywedodd y wraig, Llefared yn awr fy arglwydd frenin. {{angor|14:19|19}} A’r brenin a ddywedodd, A ydyw llaw Joab gyda thi yn hyn oll? A’r wraig a atebodd ac a ddywedodd, Fel mai byw dy enaid di, fy arglwydd frenin, nid gwiw troi ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy oddi wrth yr hyn oll a ddywedodd fy arglwydd frenin: canys dy was Joab a orchmynnodd i mi, ac a osododd yr holl eiriau hyn yng ngenau dy lawforwyn: {{angor|14:20|20}} Ar fedr troi’r chwedl y gwnaeth dy was Joab y peth hyn: ond fy arglwydd sydd ddoeth, fel doethineb angel Duw, i wybod yr hyn oll sydd ar y ddaear. {{angor|14:21|21}} A’r brenin a ddywedodd wrth Joab, Wele yn awr, gwneuthum y peth hyn: dos, a dwg y llanc Absalom yn ei ôl. {{angor|14:22|22}} A Joab a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymodd, ac a fendithiodd y brenin. A Joab a ddywedodd, Heddiw y gwybu dy was di gael ohonof ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd frenin, am i’r brenin gyflawni dymuniad ei was. {{angor|14:23|23}} A Joab a gyfododd, ac a aeth i Gesur, ac a ddug Absalom i Jerwsalem. {{angor|14:24|24}} A’r brenin a ddywedodd, Troed i’w dŷ ei hun; ac nac edryched yn fy wyneb i. Felly Absalom a drodd i’w dŷ ei hun, ac ni welodd wyneb y brenin. {{angor|14:25|25}} Ac nid oedd ŵr mor glodfawr am ei degwch ag Absalom o fewn holl Israel: o wadn ei droed hyd ei gorun nid oedd wrthuni ynddo ef. {{angor|14:26|26}} A phan gneifiai efe ei ben, (canys un waith yn y flwyddyn y torrai efe ei wallt: oherwydd ei fod yn drwm arno, am hynny efe a’i torrai ef;) efe a bwysai wallt ei ben yn ddau can sicl, wrth bwys y brenin. {{angor|14:27|27}} A thri mab a anwyd i Absalom, ac un ferch, a’i henw hi oedd Tamar: yr oedd hi yn wraig deg yr olwg. {{angor|14:28|28}} Felly Absalom a drigodd ddwy flynedd gyfan yn Jerwsalem, ac ni welodd wyneb y brenin. {{angor|14:29|29}} Am hynny Absalom a ddanfonodd am Joab, i’w anfon ef at y brenin; ond ni ddeuai efe ato ef: ac efe a anfonodd eto yr ail waith, ond ni ddeuai efe ddim. {{angor|14:30|30}} Am hynny efe a ddywedodd wrth ei weision, Gwelwch randir Joab ger fy llaw i, a haidd sydd ganddo ef yno; ewch a llosgwch hi â thân. A gweision Absalom a losgasant y rhandir â thân. {{angor|14:31|31}} Yna Joab a gyfododd, ac a ddaeth at Absalom i’w dŷ, ac a ddywedodd wrtho, Paham y llosgodd dy weision di fy rhandir i â thân? {{angor|14:32|32}} Ac Absalom a ddywedodd wrth Joab, Wele, mi a anfonais atat ti, gan ddywedyd, Tyred yma, fel y’th anfonwyf at y brenin, i ddywedyd, I ba beth y deuthum i o Gesur? gwell fuasai i mi fy mod yno eto: ac yn awr gadawer i mi weled wyneb y brenin; ac od oes gamwedd ynof, lladded fi. {{angor|14:33|33}} Yna Joab a ddaeth at y bren-<noinclude><references/></noinclude> 130yuvlwid0lf5zu291qpsbfasa8ylq Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/339 104 3592 171704 171394 2026-10-11T14:56:05Z Tylopous 3717 angorau 171704 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>hin, ac a fynegodd iddo ef. Ac efe a alwodd am Absalom. Yntau a ddaeth at y brenin, ac a ymgrymodd iddo i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin. A’r brenin a gusanodd Absalom. {{angor|Pennod_15}}{{c|{{uc|Pennod XV}}.}} {{bach|1 ''Absalom, trwy ei fwyneidd-dra, yn lladratta calonnau Israel:'' 7 ''ac, yn rhith talu adduned, yn cael cennad i fyned i Hebron:'' 10 ''ac yn gwneuthur cyd-fwriad mawr yno.'' 13 ''Dafydd, wrth glywed hynny, yn ffoi o Jerusalem.'' 19 ''Ittai heb ymadael âg ef.'' 24 ''Danfon Sadoc ac Abïathar yn eu hol â’r arch.'' 30 ''Dafydd a’i gyfeillion yn myned i fynydd yr Olwe-wydd, dan wylo:'' 31 ''yn melldigo cynghor Ahitophel;'' 32 ''ac yn anfon Husai yn ei ol.''}} {{angor|15:1}} {{uc|Ac}} wedi hyn y paratôdd Absalom iddo ei hun gerbydau, a meirch, a dengwr a deugain i redeg o’i flaen. {{angor|15:2|2}} Ac Absalom a gyfodai yn fore, ac a safai gerllaw ffordd y porth: ac Absalom a alwai ato bob gŵr yr oedd iddo fater i ddyfod at y brenin am farn, ac a ddywedai, O ba ddinas yr ydwyt ti? Yntau a ddywedai, O un o lwythau Israel y mae dy was. {{angor|15:3|3}} Ac Absalom a ddywedai wrtho ef, Wele, y mae dy faterion yn dda, ac yn uniawn; ond nid oes neb dan y brenin a wrandawo arnat ti. {{angor|15:4|4}} Dywedai Absalom hefyd, O na’m gosodid i yn farnwr yn y wlad, fel y delai ataf fi bob gŵr a fyddai ganddo hawl neu gyngaws; myfi a wnawn gyfiawnder iddo! {{angor|15:5|5}} A phan nesâi neb i ymgrymu iddo ef, efe a estynnai ei law, ac a ymaflai ynddo ef, ac a’i cusanai. {{angor|15:6|6}} Ac fel hyn y gwnâi Absalom i holl Israel y rhai a ddeuent am farn at y brenin. Felly Absalom a ladrataodd galon holl wŷr Israel. {{angor|15:7|7}} Ac ymhen deugain mlynedd y dywedodd Absalom wrth y brenin, Gad i mi fyned, atolwg, a thalu fy adduned a addunedais i’r Arglwydd, yn Hebron. {{angor|15:8|8}} Canys dy was a addunedodd adduned, pan oeddwn i yn aros o fewn Gesur yn Syria, gan ddywedyd, Os gan ddychwelyd y dychwel yr Arglwydd fi i Jerwsalem, yna y gwasanaethaf yr Arglwydd. {{angor|15:9|9}} A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, Dos mewn heddwch. Felly efe a gyfododd, ac a aeth i Hebron. {{angor|15:10|10}} Eithr Absalom a anfonodd ysbïwyr trwy holl lwythau Israel, gan ddywedyd, Pan glywoch lais yr utgorn, yna dywedwch, Absalom sydd yn teyrnasu yn Hebron. {{angor|15:11|11}} A dau cant o wŷr a aethant gydag Absalom o Jerwsalem, ar wahodd; ac yr oeddynt yn myned yn eu gwiriondeb, ac heb wybod dim oll. {{angor|15:12|12}} Ac Absalom a anfonodd am Ahitoffel y Giloniad, cynghorwr Dafydd, o’i ddinas, o Gilo, tra oedd efe yn offrymu aberthau. A’r cydfradwriaeth oedd gryf; a’r bobl oedd yn amlhau gydag Absalom yn wastadol. {{angor|15:13|13}} A daeth cennad at Dafydd, gan ddywedyd, Y mae calon gwŷr Israel ar ôl Absalom. {{angor|15:14|14}} A dywedodd Dafydd wrth ei holl weision y rhai oedd gydag ef yn Jerwsalem, Cyfodwch, a ffown; canys ni ddihangwn ni gan Absalom: brysiwch i fyned; rhag iddo ef frysio a’n dala ni, a dwyn drwg arnom ni, a tharo’r ddinas â min y cleddyf. {{angor|15:15|15}} A gweision y brenin a ddywedasant wrth y brenin, Wele dy weision yn barod, ar ôl yr hyn oll a ddewiso fy arglwydd frenin. {{angor|15:16|16}} A’r brenin a aeth, a’i holl dylwyth ar ei ôl. A’r brenin a adawodd ddeg o ordderchwragedd i gadw y tŷ. {{angor|15:17|17}} A’r brenin a aeth ymaith, a’r holl bobl ar ei ôl; a hwy a arosasant mewn lle o hirbell. {{angor|15:18|18}} A’i holl weision ef oedd yn cerdded ger ei law ef: yr holl Gerethiaid, a’r holl Belethiaid, a’r holl Gethiaid, y chwe channwr a ddaethai ar ei ôl ef o Gath, oedd yn cerdded o flaen y brenin. {{angor|15:19|19}} Yna y dywedodd y brenin wrth Ittai y Gethiad, Paham yr ei di hefyd gyda ni? Dychwel, a thrig gyda’r brenin: canys alltud ydwyt ti, a dieithr hefyd allan o’th fro dy hun. {{angor|15:20|20}} Doe y daethost ti; a fudwn i di heddiw i fyned gyda ni? Myfi a af: dychwel di, a dwg dy frodyr gyda thi: trugaredd a gwirionedd fyddo gyda thi. {{angor|15:21|21}} Ac Ittai a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw fy arglwydd frenin, yn ddiau yn y lle y byddo fy arglwydd frenin ynddo, pa un bynnag ai mewn angau ai mewn einioes, yno y bydd dy was hefyd. {{angor|15:22|22}} A Dafydd a ddywedodd wrth<noinclude><references/></noinclude> nauutn83ovi4qjqcp6p6ty7agtk2s9d Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/340 104 3593 171705 171395 2026-10-11T14:58:35Z Tylopous 3717 angorau 171705 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>Ittai, Dos, a cherdda drosodd. Ac Ittai y Gethiad a aeth drosodd, a’i holl wŷr, a’r holl blant oedd gydag ef. {{angor|15:23|23}} A’r holl wlad oedd yn wylofain â llef uchel; a’r holl bobl a aethant drosodd. A’r brenin a aeth dros afon Cidron, a’r holl bobl a aeth drosodd, tua ffordd yr anialwch. {{angor|15:24|24}} Ac wele Sadoc, a’r holl Lefiaid oedd gydag ef, yn dwyn arch cyfamod Duw; a hwy a osodasant i lawr arch Duw: ac Abiathar a aeth i fyny, nes darfod i’r holl bobl ddyfod allan o’r ddinas. {{angor|15:25|25}} A dywedodd y brenin wrth Sadoc, Dychwel ag arch Duw i’r ddinas: os caf fi ffafr yng ngolwg yr Arglwydd, efe a’m dwg eilwaith, ac a bair i mi ei gweled hi, a’i babell. {{angor|15:26|26}} Ond os fel hyn y dywed efe; Nid wyf fodlon i ti; wele fi, gwnaed i mi fel y byddo da yn ei olwg. {{angor|15:27|27}} A’r brenin a ddywedodd wrth Sadoc yr offeiriad, Onid gweledydd ydwyt ti? dychwel i’r ddinas mewn heddwch, a’th ddau fab gyda thi, sef Ahimaas dy fab, a Jonathan mab Abiathar. {{angor|15:28|28}} Gwelwch, mi a drigaf yng ngwastadedd yr anialwch, nes dyfod gair oddi wrthych i’w fynegi i mi. {{angor|15:29|29}} Felly Sadoc ac Abiathar a ddygasant yn ei hôl arch Duw i Jerwsalem; ac a arosasant yno. {{angor|15:30|30}} A Dafydd a aeth i fyny i fryn yr Olewydd; ac yr oedd yn myned i fyny ac yn wylo, a’i ben wedi ei orchuddio, ac yr oedd efe yn myned yn droednoeth. A’r holl bobl y rhai oedd gydag ef a orchuddiasant bawb ei ben, ac a aethant i fyny, gan fyned ac wylo. {{angor|15:31|31}} A mynegwyd i Dafydd, gan ddywedyd, Y mae Ahitoffel ymysg y cydfwriadwyr gydag Absalom. A Dafydd a ddywedodd, O Arglwydd, tro, atolwg, gyngor Ahitoffel yn ffolineb. {{angor|15:32|32}} A phan ddaeth Dafydd i ben y bryn yr addolodd efe Dduw ynddo, wele Husai yr Arciad yn ei gyfarfod ef, wedi rhwygo ei bais, a phridd ar ei ben. {{angor|15:33|33}} A Dafydd a ddywedodd wrtho, Od ei drosodd gyda mi, ti a fyddi yn faich arnaf: {{angor|15:34|34}} Ond os dychweli i’r ddinas, a dywedyd wrth Absalom, Dy was di, O frenin, fyddaf fi; gwas dy dad fûm hyd yn hyn, ac yn awr dy was dithau fyddaf: ac felly y diddymi i mi gyngor Ahitoffel. {{angor|15:35|35}} Oni bydd gyda thi yno Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid? am hynny pob gair a glywych o dŷ y brenin, mynega i Sadoc ac i Abiathar yr offeiriaid. {{angor|15:36|36}} Wele, y mae yno gyda hwynt eu dau fab, Ahimaas mab Sadoc, a Jonathan mab Abiathar: danfonwch gan hynny gyda hwynt ataf fi bob peth a’r a glywoch. {{angor|15:37|37}} Felly Husai, cyfaill Dafydd, a ddaeth i’r ddinas; ac Absalom a ddaeth i Jerwsalem. {{angor|Pennod_16}}{{c|{{uc|Pennod XVI}}.}} {{bach|1 ''Siba, trwy anrhegion a chelwyddau, yn cael etifeddiaeth ei feistr.'' 5 ''Simei yn melldithio Dafydd yn Bahurim.'' 9 ''Dafydd, trwy amynedd, yn ei gadw ei hun ac eraill rhag dïal.'' 15 ''Husai yn ymlusgo i mewn i gyfrinach Absalom.'' 20 ''Cynghor Ahitophel.''}} {{angor|16:1}} {{uc|Ac}} wedi myned o Dafydd ychydig dros ben y bryn, wele Siba gwas Meffiboseth yn ei gyfarfod ef â chwpl o asynnod wedi eu cyfrwyo, ac arnynt hwy yr oedd dau can torth o fara, a chan swp o resinau, a chant o ffrwythydd haf, a chostrelaid o win. {{angor|16:2|2}} A dywedodd y brenin wrth Siba, Beth yw y rhai hyn sydd gennyt? A Siba a ddywedodd, Asynnod i dylwyth y brenin i farchogaeth, a bara a ffrwythydd haf i’r llanciau i’w bwyta, a gwin i’r lluddedig i’w yfed yn yr anialwch, ydynt hwy. {{angor|16:3|3}} A’r brenin a ddywedodd, A pha le y mae mab dy feistr? A Siba a ddywedodd wrth y brenin, Wele, y mae efe yn aros yn Jerwsalem: canys efe a ddywedodd, Tŷ Israel a roddant drachefn i mi heddiw frenhiniaeth fy nhad. {{angor|16:4|4}} Yna y dywedodd y brenin wrth Siba, Wele, eiddot ti yr hyn oll oedd eiddo Meffiboseth. A Siba a ddywedodd, Yr ydwyf yn atolwg gael ohonof ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd frenin. {{angor|16:5|5}} A phan ddaeth y brenin Dafydd hyd Bahurim, wele un o dylwyth tŷ Saul yn dyfod allan oddi yno, a’i enw ef oedd Simei, mab Gera: efe a ddaeth allan, dan gerdded a melltigo. {{angor|16:6|6}} Ac efe a daflodd Dafydd â cherrig, a holl weision y brenin Dafydd: ac yr oedd yr holl bobl a’r<noinclude><references/></noinclude> l6maoncpwkib4ly5l2361ecrpik6k6u Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/341 104 3594 171706 171396 2026-10-11T15:00:54Z Tylopous 3717 angorau 171706 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>holl gedyrn ar ei law ddeau ac ar ei law aswy ef. {{angor|16:7|7}} Ac fel hyn y dywedai Simei wrth felltithio; Tyred allan, tyred allan, ŵr gwaedlyd, a gŵr i’r fall. {{angor|16:8|8}} Yr Arglwydd a drodd arnat ti holl waed tŷ Saul, yr hwn y teyrnesaist yn ei le; a’r Arglwydd a roddodd y frenhiniaeth yn llaw Absalom dy fab: ac wele di wedi dy ddal yn dy ddrygioni; canys gŵr gwaedlyd wyt ti. {{angor|16:9|9}} Yna y dywedodd Abisai mab Serfia wrth y brenin, Paham y melltithia’r ci marw hwn fy arglwydd frenin? gad i mi fyned drosodd, atolwg, a thorri ei ben ef. {{angor|16:10|10}} A’r brenin a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â chwi, meibion Serfia? felly melltithied, oherwydd yr Arglwydd a ddywedodd wrtho, Melltithia Dafydd. Am hynny pwy a ddywed, Paham y gwnei fel hyn? {{angor|16:11|11}} A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, ac wrth ei holl weision, Wele fy mab, yr hwn a ddaeth allan o’m hymysgaroedd i, yn ceisio fy einioes: ac yn awr pa faint mwy y cais y Benjaminiad hwn? Gadewch iddo, a melltithied: canys yr Arglwydd a archodd iddo. {{angor|16:12|12}} Efallai yr edrych yr Arglwydd ar fy nghystudd i, ac y dyry yr Arglwydd i mi ddaioni am ei felltith ef y dydd hwn. {{angor|16:13|13}} Ac fel yr oedd Dafydd a’i wŷr yn myned ar hyd y ffordd, Simei yntau oedd yn myned ar hyd ystlys y mynydd, ar ei gyfer ef; ac fel yr oedd efe yn myned, efe a felltithiai, ac a daflai gerrig, ac a fwriai lwch i’w erbyn ef. {{angor|16:14|14}} A daeth y brenin, a’r holl bobl oedd gydag ef, yn lluddedig, ac a orffwysodd yno. {{angor|16:15|15}} Ac Absalom a’r holl bobl, gwŷr Israel, a ddaethant i Jerwsalem, ac Ahitoffel gydag ef. {{angor|16:16|16}} A phan ddaeth Husai yr Arciad, cyfaill Dafydd, at Absalom, Husai a ddywedodd wrth Absalom, Byw fo’r brenin, byw fyddo’r brenin. {{angor|16:17|17}} Ac Absalom a ddywedodd wrth Husai, Ai dyma dy garedigrwydd di i’th gyfaill? paham nad aethost ti gyda’th gyfaill? {{angor|16:18|18}} A Husai a ddywedodd wrth Absalom, Nage; eithr yr hwn a ddewiso yr Arglwydd, a’r bobl yma, a holl wŷr Israel, eiddo ef fyddaf fi, a chydag ef yr arhosaf fi. {{angor|16:19|19}} A phwy hefyd a wasanaethaf? onid gerbron ei fab ef? Megis y gwasanaethais gerbron dy dad di, felly y byddaf ger dy fron dithau. {{angor|16:20|20}} Yna y dywedodd Absalom wrth Ahitoffel, Moeswch eich cyngor beth a wnawn ni. {{angor|16:21|21}} Ac Ahitoffel a ddywedodd wrth Absalom, Dos i mewn at ordderchwragedd dy dad, y rhai a adawodd efe i gadw y tŷ: pan glywo holl Israel dy fod yn ffiaidd gan dy dad, yna y cryfheir llaw y rhai oll sydd gyda thi. {{angor|16:22|22}} Felly y taenasant i Absalom babell ar nen y tŷ: ac Absalom a aeth i mewn at ordderchwragedd ei dad, yng ngŵydd holl Israel. {{angor|16:23|23}} A chyngor Ahitoffel, yr hwn a gynghorai efe yn y dyddiau hynny, oedd fel ped ymofynnai un â gair Duw: felly yr oedd holl gyngor Ahitoffel, gyda Dafydd a chydag Absalom. {{angor|Pennod_17}}{{c|{{uc|Pennod XVII}}.}} {{bach|1 ''Cynghor Husai, trwy ewyllys Duw, yn difwyno cynghor Ahitophel.'' 15 ''Danfon dirgel gydnabyddiaeth i Dafydd.'' 23 ''Ahitophel yn ymgrogi.'' 25 ''Gwneuthur Amasa yn gapten.'' 27 ''Dafydd yn cael ymborth ym Mahanaim.''}} {{angor|17:1}} {{uc|Dywedodd}} Ahitoffel hefyd wrth Absalom, Gad i mi yn awr ddewis deuddeng mil o wŷr, a mi a gyfodaf ac a erlidiaf ar ôl Dafydd y nos hon. {{angor|17:2|2}} A mi a ddeuaf arno tra fyddo ef yn lluddedig, ac yn wan ei ddwylo, ac a’i brawychaf ef: a ffy yr holl bobl sydd gydag ef; a mi a drawaf y brenin yn unig. {{angor|17:3|3}} A throaf yr holl bobl atat ti: megis pe dychwelai pob un, yw y gŵr yr ydwyt ti yn ei geisio: felly yr holl bobl fydd mewn heddwch. {{angor|17:4|4}} A da fu’r peth yng ngolwg Absalom, ac yng ngolwg holl henuriaid Israel. {{angor|17:5|5}} Yna y dywedodd Absalom, Galw yn awr hefyd ar Husai yr Arciad, a gwrandawn beth a ddywedo yntau hefyd. {{angor|17:6|6}} A phan ddaeth Husai at Absalom, llefarodd Absalom wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedodd Ahitoffel: a wnawn ni ei gyngor ef? onid e, dywed di. {{angor|17:7|7}} A dywedodd Husai wrth Absalom, Nid da y cyngor a gynghorodd Ahitoffel y waith hon. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 3qswmx3absjpl0ei8vmt2prajbmypsp Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/342 104 3595 171707 6782 2026-10-11T15:02:43Z Tylopous 3717 angorau 171707 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|17:8|8}} Canys, eb Husai, ti a wyddost am dy dad a’i wŷr, mai cryfion ydynt hwy, a chreulon eu meddwl, megis arth wedi colli ei chenawon yn y maes: dy dad hefyd sydd ryfelwr, ac nid erys efe dros nos gyda’r bobl. {{angor|17:9|9}} Wele, yn awr y mae efe yn llechu mewn rhyw ogof, neu mewn rhyw le: a phan syrthio rhai ohonynt yn y dechrau, yna y bobl a glyw, ac a ddywed, Bu laddfa ymysg y bobl sydd ar ôl Absalom. {{angor|17:10|10}} Yna yr un grymus, yr hwn y mae ei galon fel calon Hew, a lwfrha: canys gwŷr holl Israel mai glew yw dy dad di, ac mai gwŷr grymus yw y rhai sydd gydag ef. {{angor|17:11|11}} Am hynny y cynghoraf, lwyr gasglu atat ti holl Israel, o Dan hyd Beer-seba, fel y tywod wrth y môr o arnldra, a myned o’th wyneb di dy hun i’r rhyfel. {{angor|17:12|12}} Felly y deuwn arno ef i un o’r lleoedd yr hwn y ceffir ef ynddo, ao a ruthrwn arno ef fel y syrth y gwlith ar y ddaear: ac ni adewir dim ohono ef, nac un chwaith o’r holl wŷr sydd gydag ef. {{angor|17:13|13}} Ond os i ddinas yr ymgasgl efe, yna holl Israel a ddygant raffau at y ddinas honno, a ni a’i tynnwn hi i’r afon, fel na chaffer yno un garegan. {{angor|17:14|14}} A dywedodd Absalom, a holl wŷr Israel, Gwell yw cyngor Husai yr Arciad na chyngor AhitoffeS. Canys yr ARGLWYDD a ordeiniasai ddiddymu cyngor da Ahitoffel, fel y dygai yr ARGLWYDD ddrwg ar Absalom. {{angor|17:15|15}} Yna y dywedodd Husai wrth Sadoc ac wrth Abiathar yr offeiriaid, Fel hyn ac fel hyn y cynghorodd Ahitoffel i Absalom ac i henuriaid Israel: ac fel hyn ac fel hyn y cynghorais innau. {{angor|17:16|16}} Yn awr gan hynny anfonwch yn fuan, a mynegwch i Dafydd, gan ddywedyd, Nac aros dros nos yng ngwastadedd yr anialwch, ond gan fyned dos, rhag difa’r brenin a’r holl bobl sydd gydag ef. {{angor|17:17|17}} Jonathan hefyd ac Ahimaas oedd yn sefyll wrth En-rogel; ac fe aeth llances ac a fynegodd iddynt. Hwythau a aethant ac a fynegasant i’r brenin Dafydd: canys ni allent hwy ymddangos i fyned i’r ddinas. {{angor|17:18|18}} Eto llanc a’u gwelodd hwynt, ac a fynegodd i Absalom: ond hwy a aethant ymaith ill dau yn fuan, ac a ddaethant i dŷ gŵr yn Bahurim, ac iddo ef yr oedd pydew yn ei gyntedd; a hwy a aethant i waered yno. {{angor|17:19|19}} A’r wraig a gymerth ac a ledodd glawr ar wyneb y pydew, ac a daenodd arno falurion yd; fel na wybuwyd y peth. {{angor|17:20|20}} A phan ddaeth gweision Absalom at . y wraig i’r tŷ, hwy a ddywedasant. Pa le y mae Ahimaas a Jonathan? A’r wraig a ddywedodd wrthynt, Hwy a aethant dros yr aber ddwfr. A phan geisiasant, ac nas cawsant hwynt, yna y dychwelasant i Jerwsalem. {{angor|17:21|21}} Ac ar ôl iddynt hwy fyned ymaith, yna y lleill a ddaethant i fyny o’r pydew, ac a aethant ac a fynegasant i’r brenin Dafydd; ac a ddywedasant wrth Dafydd, .Cyfodwch, ac ewch yn fuan dros y dwfr; canys fel hyn y cynghorodd Ahitoffel yn eich erbyn chwi. {{angor|17:22|22}} Yna y cododd Dafydd a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef, ac a aethant dros yr Iorddonen: erbyn goleuo’r bore nid oedd un yn eisiau a’r nad aethai dros yr Iorddonen. {{angor|17:23|23}} A phan welodd Ahitoffel na wnaethid ei gyngor ef, efe a gyfrwyodd ei asyn, ac a gyfododd, ac a aeth i’w dy ei hun, i’w ddinas, ac a wnaeth drefn ar ei dŷ, ac a ymgrogodd, ac a fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dad. {{angor|17:24|24}} Yna Dafydd a ddaeth i Mahanaim. Ac Absalom a aeth dros yr Iorddonen, efe a holl wŷr Israel gydag ef.: {{angor|17:25|25}} Ac Absalom a osododd Amasa yn lle Joab ar y llu, Ac Amasa oedd fab i ŵr a’i enw Ithra, yr hwn oedd Israeliad, yr hwn a aeth i mewn at Abigail merch Nahas, chwaer Serfia, main Joab. {{angor|17:26|26}} Felly y gwersyllodd Israel ac Absa¬lom yng ngwlad Gilead. {{angor|17:27|27}} A phan ddaeth Dafydd i Ma¬hanaim, Sobi mab Nahas o Rabba meibion Ammon, a Machir mab Ammi’el o Lo-debar, a Barsilai y Gileadiad o Rogelim, {{angor|17:28|28}} A ddygasant welyau, a chawgiau, a llestri pridd, a gwenith, a haidd, a blawd, a chras ŷd, a ffa, a fi’acbys, a chras bys, {{angor|17:29|29}} A mêl, ac ymenyn, a defaid, a chaws gwartheg, i Dafydd, ac i’r<noinclude><references/></noinclude> bfix8oayzy8ay83tdtylgidj4yet456 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/343 104 3596 171719 171397 2026-10-12T05:43:35Z Tylopous 3717 angorau 171719 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>bobl oedd gydag ef, i’w bwyta. Canys dywedasant, Y mae y bobl yn newynog, yn flin. hefyd, ac yn sychedig yn yr anialwch. {{angor|Pennod_18}}{{c|{{uc|Pennod XVIII}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn edrych ar y lluoedd yn myned allan, ac yn rhoddi gorchymyn ynghylch Absalom.'' 6 ''Lladdfa fawr ar yr Israeliaid y’nghoed Ephraim.'' 9 ''Absalom y’nghrog wrth ei wallt mewn derwen; a Joab yn ei ladd ef, ac yn ei fwrw mewn pydew.'' 18 ''Lle Absalom.'' 19 ''Ahimaas a Chusi yn dwyn newyddion i Dafydd.'' 33 ''Dafydd yn galaru am Absalom.''}} {{angor|18:1}} {{uc|A Dafydd}} a gyfrifodd y. bobl oedd gydag ef, ac a osododd arnynt hwy filwriaid a chanwriaid. {{angor|18:2|2}} A Dafydd a anfonodd o’r bobl y dryd¬edd ran dan law Joab, a’r drydedd ran dan law Abisai mab Serfia, brawd Joab, a’r drydedd ran dan law Ittai y Gethiad. A’r brenin a ddywedodd wrth y bobl, Gan fyned yr af finnau hefyd gyda chwi. {{angor|18:3|3}} Ond y bobl a atebodd, Nid ei di allan: canys os gan ffoi y ffown ni, ni osodant hwy eu meddwl arnom ni; ac os bydd marw ein hanner ni, ni osodant eu meddwl arnom: ond yn awr yr ydwyt ti fel deng mil ohonom ni: yn awr gan hynny gwell yw i ti fod i’n cynorthwyo ni o’r ddinas. {{angor|18:4|4}} A dywedodd y brenin wrthynf hwy, I Gwnaf yr hyA’fyddo da y& eich golwg c’hwi. A’r brenin a safoddgerllawyporth;;i’r holl bobl a aethant allan yn gannoedd ai; yn filoedd. {{angor|18:5|5}} A’r brenin a orchmynnodd i Joab, ac Abisai, ac Ittai, gan ddywedyd, Byddwch esmwyth, er fy mwyn i, wrth y llanc Absalom. A’r holl bobl a glywsant pan orchmynnodd y brenin i’r holl flaenoriaid yn achos Absalom. {{angor|18:6|6}} Felly yr aeth y bobl i’r maes i gyfarfod Israel: a’r rhyfel fu yng nghoed Hlfraim. {{angor|18:7|7}} Ac yno y lladdwyd pobl Israel o flaen gweision Dafydd: ac yno y bu lladdfa fawr y dwthwn hwnnw, sef ugain mil. " {{angor|18:8|8}} Canys y rhyfel oedd yno wedi gwasgaru ar hyd wyneb yr holl wlad: a’r coed a ddifethodd fwy o’r bobl nag a ddifethodd y cleddyf y diwrnod hwnnw. {{angor|18:9|9}} Ac Absalom a gyfarfu a gweision Dafydd yn eu hwyneb. Ac Absalom oedd yn marchogaeth ar ful, a’r mul «a aeth dan dewfrig derwen fawr, a’i ben ef a lynodd yn y dderwen: felly yr oedd efe rhwng y nefoedd a’r ddaear; a’r mul oedd dano ef a aeth ymaith. {{angor|18:10|10}} A rhyw un a ganfu hynny, ac a fynegodd i Joab, ac a ddywedodd, Wele, gwelais Absalom ynghrog mewn der¬wen. {{angor|18:11|11}} A dywedodd Joab wrth y gŵr oedd yn mynegi iddo, Ac wele, ti a’i gwelaist ef; paham nas trewaist ef yno i’r llawr, ac arnaf fi roddi i ti ddeg sicl o arian, ac un gwregys? {{angor|18:12|12}} A dywedodd y gŵr wrth Jaob, P’e cawn bwyso ar fy llaw fil o siclau arian, nid estynnwn fy llaw yn erbyn mab y brenin: canys gorchmynnodd y brenin lle y clywsom ni wrthyt ti, ac wrth Abisai, ac wrth Ittai, gan ddywedyd, Gwyliwch gyftwrdd o neb a’r llanc Absalom. {{angor|18:13|13}} Os amgcn, mi a wnaethwn ffalster yn erbyn fy einioes: canys nid oes dim yn guddiedig oddi wrth y brenin; tithau hefyd a safasit yn fy erbyn. {{angor|18:14|14}} Yna y dywedodd Joab, Nid arhoaf fel hyn gyda thi. Ac efe a gymerth dair o bicellau yn ei law, ac a’u brathodd trwy galoa. Absalom, ac efeeto.yn,’fyw -yng nghanol y dderwen. {{angor|18:15|15}} A’r deg llanc y rhai oedd yn dwyn arfau Joab a amgylchynasant, ac a drawsant Absalom, ac a’i lladdasant ef. {{angor|18:16|16}} A Joab a utganodd mewn utgorn; a’r bobl a ddychwelodd o erlid ar ôl Israel: canys Joab a ataliodd y bobl. {{angor|18:17|17}} A hwy a gymerasant Absalom, ac a’i bwriasant ef mewn rfos fawr yn y coed, at a osodasant arno garnedd gerrig fawr i wn: a holl Israel a ffoesant bob un i’w tiabell. {{angor|18:18|18}} Ac Absalom a gymerasai ac a osod* «sai iddo yn ei fywyd golofh, yn nyf&yn y brenin: canys efe a ddywedodd, Nid oes fab gennyf i wneuthur coffa am fy enw: ac efe a alwodd y golofn ar ei enw ei toun. A hi a elwir lle Absalom, hyd y dydd hwn. {{angor|18:19|19}} Yna Ahimaas mab Sadoc a ddywedodd. Gad i mi redeg yn awr, a mynegi i’r brenin, ddarfod i’r ARGLWYDD ei ddial ef ar ei elynion. {{angor|18:20|20}} A Joab a ddywedodd wrtho ef, Ni byddi di yn genhadwr y dydd<noinclude><references/></noinclude> 29q59jrz5q6kx0q6virxj7rw6dznidg Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/344 104 3597 171720 171398 2026-10-12T05:45:09Z Tylopous 3717 angorau 171720 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>hwn, eithr mynegi ddiwrnod arall: ond heddiw ni byddi di gennad, oherwydd marw mab y brenin. {{angor|18:21|21}} Yna y dywedodd Joab wrth Cusi, DOS, dywed i’r brenin yr hyn a welaist. A Chusi a ymgrymodd i Joab, ac a red add. {{angor|18:22|22}} Yna Ahimaas mab Sadoc a ddywed¬odd eilwaith wrth Joab, Beth bynnag a fyddo, gad i minnau, atolwg, redeg ar ôl Cusi. A dywedodd Joab, I ba beth y rhedi di, fy mab, gan nad oes gennyt genadwriaeth addas? {{angor|18:23|23}} Ond beth bynnag a fyddo, eb efe, gad i mi redeg. A dywedodd yntau wrtho:, Rhed. Felly Ahimaas a redodd ar hyd y gwastadedd, ac a aeth heibio i Cusi. {{angor|18:24|24}} A Dafydd oedd yn eistedd rhwng y ddau borth: a’r gwyliedydd a aeth ar nen y porth ar y mur, ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele ŵr yn rhedeg ei hunan. {{angor|18:25|25}} A’r gwyliedydd a waeddodd, ac.a fynegodd i’r brenin. A’r brenin a ddywedodd, Os ei hun y mae efe, cenadwriaeth sydd yn ei enau ef. Ac efe a ddaeth yn fuan, ac a nesaodd. {{angor|18:26|26}} A’r gwyliedydd a ganfu ŵr arall yn rhedeg: a’r gwyliedydd a alwodd ar y porthor, ac a ddywedodd, Wele ŵr arall yn rhedeg ei hunan. A dywedodd y brenin, Hwn hefyd sydd gennad. {{angor|18:27|27}} A’r gwyliedydd a ddywedodd, Yr ydwyf fi yn gweled rhediad y blaenaf fel rhediad Ahimaas mab Sadoc. A dywedodd y brenin, Gwr da yw hwnnw, ac a chen-adwriaeth dda y daw efe. {{angor|18:28|28}} Ac Ahimaas a alwodd, ac a ddywed¬odd wrth y brenin, Heddwch: ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a warchaeodd ar y gwŷr a gyfodasant eu yaw yn erbyn fy arglwydd frenin. {{angor|18:29|29}} A’r brenin a ddywedodd, Ai dihangol yllanc Absalom? A dywedodd Ahimaas, Gwelais gythrwfl mawr, pan anfonodd Joab was y brenin, a’th was dithau, ond ni wybum i beth ydoedd. {{angor|18:30|30}} A’r brenin a ddywedodd, Tro heibio; saf yma. Ac efe a drodd heibio, ac a safodd. {{angor|18:31|31}} Ac wele, Cusi a ddaeth. A dywed¬odd Cusi, Cenadwri, arglwydd frenin: canys yr ARGLWYDD a’th ddialodd di heddiw ar bawb a’r a ymgyfododd i’th erbyn. {{angor|18:32|32}} A dywedodd y brenin wrth Cusi, A ‘-ddihangodd y llanc Absalom? A dywed-pdd Cusi, Fel y llanc hwnnw y byddo .gelynion fy arglwydd frenin, a’r holl rai a ymgyfodant i’th erbyn di er niwed i ti. {{angor|18:33|33}} A’r brenin a gyf&odd, ac a aeth i fyny i ystafell y porth, ac a wylodd: ac .fel hyn y dywedodd efe wrth fyned; O fy mab Absalom, fy mab, fy mab Absalom! O na buaswn farw drosot ti, Absalom, fy mab., fy mab! {{angor|Pennod_19}}{{c|{{uc|Pennod XIX}}.}} {{bach|1 ''Joab yn peri i’r brenhin beidio â galaru.'' 9 ''Yr Israeliaid yn daer am ddwyn y brenhin adref.'' 11 ''Dafydd yn anfon at yr offeiriaid i gynhyrfu gwŷr Judah.'' 18 ''Simei yn cael ei bardwn;'' 24 ''a Mephiboseth ei esgusodi.'' 32 ''Barzilai yn cael cennad i fyned adref; a chymmeryd Chimham ei fab ef i dŷ y brenhin.'' 41 ''Yr Israeliaid yn ymsennu â gwŷr Judah, am ddwyn y brenhin adref habddynt hwy.''}} {{angor|19:1}} {{uc|A mynegwyd}} i Joab, Wele y brenin yn wylo, ac yn galaru am Absalom. {{angor|19:2|2}} A’r fuddugoliaeth a aeth y dwthwn hwnnw yn alar i’r holl bobl: canys clywodd y bobl y diwrnod hwnnw ddywedyd, dristau o’r brenin am ei fab. {{angor|19:3|3}} A’r bobl a aethant yn lladradaidd y diwrnod hwnnw i mewn i’r ddinas, fel pobl a fyddai yn myned yn lladradaidd wedi eu cywilyddio wrth ffoi o ryfel. {{angor|19:4|4}} Ond y brenin a orchuddiodd ei wyneb; a’r brenin a waeddodd â llef uchel, O fy mab Absalom, Absalom, fy mab, fy mab! {{angor|19:5|5}} A Joab a ddaeth i mewn i’r ty at y brenin, ac a ddywedodd, Gwaradwydd-aist heddiw wynebau dy holl weision, y rhai a amddiffynasant dy einioes di heddiw, ac einioes dy feibion a’th ferched, ac einioes dy wragedd, ac einioes dy ordderchwragedd; {{angor|19:6|6}} Gan garu dy gaseion, a chasau dy garedigion: canys dangosaist heddiw nad oedd ddim gennyt dy dywysogion, na’th weision: oherwydd mi a wn heddiw, pe Absalom fuasai byw, a ninnau i gyd yn feirw heddiw, mai da fuasai hynny yn dy olwg di. {{angor|19:7|7}} Cyfod yn awr gan hynny, cerdda allan, a dywed yn deg wrth dy<noinclude><references/></noinclude> avzzv95rvd3kf25txrwprk2vuks27p6 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/345 104 3598 171721 6785 2026-10-12T05:46:43Z Tylopous 3717 angorau 171721 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>weision: canys yr wyf fi yn tyngu i’r ARGLWYDD, os ti nid ei allan, nad erys neb gyda thi y nos hon; a gwaeth fydd hyn i ti na’r holl ddrwg a ddaeth i’th erbyn di o’th febyd hyd yr awr hon. {{angor|19:8|8}} Yna y brenin a gyfododd, ac a eisteddodd yn y porth. A mynegwyd i’r holl bobl, gan ddywedyd, Wele y brenin yn eistedd yn y porth. A’r holl bobl a ddaethant o flaen y brenin: canys Israel a ffoesai bob un i’w babell. {{angor|19:9|9}} Ac yr oedd yr holl bobl yn ymryson trwy holl lwythau Israel, gan ddywedyd, Y brenin a’n gwaredodd ni o law ein gelynion, ac efe a’n gwaredodd ni o law y Philistiaid; ac yn awr efe a ffodd o’r wlad rhag Absalom. {{angor|19:10|10}} Ac Absalom, yr hwn a eneiniasom ni arnom, a fu farw mewn rhyfel: ac yn awr paham yr ydych heb son am gyrchu y brenin drachefn? {{angor|19:11|11}} A’r brenin Dafydd a anfonodd at Sadoc ac at Abiathar yr offeiriaid, gan ddywedyd, Lleferwch wrth henuriaid Jwda, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi olaf i ddwyn y brenin yn ei ôl i’w dy? canys gair holl Israel a ddaeth at y brenin, hyd ei dŷ. {{angor|19:12|12}} Fy mrodyr ydych chwi; fy asgwrn a’m cnawd ydych chwi: paham gan hynny yr ydych yn olaf i ddwyn y brenin adrcf? {{angor|19:13|13}} Dywedwch hefyd wrth Amasa, Onid fy asgwrn i a’m cnawd wyt ti? Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, onid tywysog y llu fyddi di ger fy mron i yn lle Joab byth. {{angor|19:14|14}} Ac efe a drodd galon holl wŷr Jwda, fel calon un gŵr: a hwy a anfonasant at y brenin, gan ddywedyd, Dychwel di a’th holl weision. {{angor|19:15|15}} Felly y brenin a ddychwelodd, ac a ddaeth i’r Iorddonen. A Jwda a ddaeth i Gilgal, i fyned i gyfarfod a’r brenin, i ddwyn y brenin dros yr Iorddonen. {{angor|19:16|16}} A Simei mab Gera, mab Jemini, yr hwn oedd o Bahurim, a frysiodd, ac a ddaeth i waered gyda gwŷr Jwda, i gyfar¬fod a’r brenin Dafydd. {{angor|19:17|17}} A mil o wŷr o Benjamin oedd gydag ef; Siba hefyd gwas ty Saul, a’i bymtheng mab a’i ugain gwas gydag ef: a hwy a aethant dros yr Iorddonen o flaen y brenin. {{angor|19:18|18}} Ac ysgraff a aeth drosodd i ddwyn trwodd dylwyth y brenin, ac i wneuthur yr hyn fyddai da yn ei olwg ef. A Simci mab Gcra a syrthiodd gerbron y brenin, pan ddaeth efe dros yr Iorddonen; {{angor|19:19|19}} Ac a ddywedodd wrth y brenin, Na ddanoded fy arglwydd i mi anwiredd, ac na chofia yr hyn a wnaeth dy was yn anwir y dydd yr aeth fy arglwydd frenin o Jerwsalem, i osod o’r brenin hynny at ei galon. {{angor|19:20|20}} Canys dy was sydd yn cydnabod bechu ohonof fi: ac wele, deuthum heddiw yn gyntaf o holl dy Joseff, i ddyfod i waered i gyfarfod a’m harglwydd frenin. {{angor|19:21|21}} Ac Abisai mab Serfia a atebodd, ac a ddywedodd, Ai oherwydd hyn ni roddir Simei i farwolaeth, am iddo fell-tithio eneiniog yr ARGLWYDD? {{angor|19:22|22}} A dywedodd Dafydd, Beth sydd i mi a wnelwyf a chwi, meibion Serfia, fel y byddech i mi yn wrthwynebwyr heddiw? a roddir i farwolaeth heddiw neb yn Israel? canys oni wn i, mai heddiw yr ydwyf fi yn frenin ar Israel? {{angor|19:23|23}} A’r brenin a ddywedodd wrth Simei, Ni byddi di farw: a’r brenin a dyngodd wrtho ef. {{angor|19:24|24}} Mcffiboseth mab Saul hefyd a ddaeth i waered i gyfarfod a’r brenin; ac ni olchasai efe ei draed, ac ni thorasai ei farf, ac ni olchasai ei ddillad, er y dydd yr aethai’r brenin hyd y dydd y daeth efe drachefn mewn heddwch. {{angor|19:25|25}} A phan ddaeth efe i Jerwsalem i gyfarfod a’r brenin, yna y dywedodd y brenin wrtho ef, Paham nad aethost ti gyda mi, Meffiboseth? {{angor|19:26|26}} Ac efe a ddywedodd, Fy arglwydd frenin, fy ngwas a’m twyllodd i: canys dywedodd dy was, Cyfrwyaf i mi asyn, fel y marchogwyf arno, ac yr elwyf at y brenin; oherwydd cloff yw dy was. {{angor|19:27|27}} Ac efe a enllibiodd dy was wrth fy arglwydd frenin; ond fy arglwydd frenin sydd fel angel Duw: am hynny gwna yr hyn fyddo da yn dy olwg. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> i6szzpbhgr940lp0myspy32bq5cjune Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/346 104 3599 171722 171400 2026-10-12T05:48:13Z Tylopous 3717 angorau 171722 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|19:28|28}} Canys nid oedd holl dy fy nhad i ond dynion meirw gerbron fy arglwydd y brenin; eto tydi a osodaist dy was ymhiith y rhai oedd yn bwyta ar dy fwrdd dy hun: pa gyfiawnder gan hynny sydd i mi bellach i weiddi mwy ar y brenin? {{angor|19:29|29}} A’r brenin a ddywedodd wrtho, I ba beth yr adroddi dy faterion ymhellach? dywedais, Ti a Siba rhennwch y tir. {{angor|19:30|30}} A Meffiboseth a ddywedodd wrth y brenin, Ie, cymered efe y cwbl, gan ddy¬fod fy arglwydd frenin i’w dy mewn heddwch. {{angor|19:31|31}} A Barsilai y Gileadiad a ddaeth i waered o Rogelim; ac a aeth dros yr Iorddonen gyda’r brenin, i’w hebrwng efdros yr Iorddonen. {{angor|19:32|32}} A Barsilai oedd hen iawn, yn fab pedwar ugain mlwydd: efe oedd yn dar-paru lluniaeth i’r brenin tra yr ydoedd efe ym Mahanaim; canys gŵr mawr iawn oedd efe. {{angor|19:33|33}} A’r brenin a ddywedodd with Barsilai, Tyred drosodd gyda mi, a nri a’th borthaf di gyda mi yn Jerwsalem. {{angor|19:34|34}} A Barsilai a ddywedodd wrth y brenin. Pa faint yw dyddiau blynyddoedd fy einioes i, fel yr elwn i fyny gyda’r brenin i Jerwsalem? {{angor|19:35|35}} Mab pedwar ugain mlwydd ydwyf fi heddiw: a wn i ragoriaeth rhwng da a drwg? a ddichon dy was di archwaethu yr hyn a fwytaf, neu yr hyn a yfaf? a glywaf fi bellach lais cerddorion a cherdd-oresau? paham gan hynny y bydd dy was mwyach yn faich ar fy arglwydd fren-in? {{angor|19:36|36}} Dy was a â ychydig tu hwnt i’r Iorddonen gyda’r brenin: a phaham y talai y brenin i mi gyfryw daledigaeth? {{angor|19:37|37}} Gad, atolwg, i’th was ddychwetyd yn fy ôl, fel y byddwyf marw yn fy ninas fy hun, ac fel y’m cladder ym meddrod fy-nhad a’m mam: ac wele, Chimham dy was, efe a â drosodd gyda’m harglwydd frenin, a gwna iddo yr hyn fyddo da yn dy olwg. {{angor|19:38|38}} A dywedodd y brenin, Chimham a-a gyda mi, a mi a wnaf iddo ef yr hyn. fyddo da yn dy olwg di: a pheth bynnag a erfyniech di arnaf fi, mi a’i gwnaf erot. {{angor|19:39|39}} A’r holl bobl a aethant dros yr Iorddonen. Y brenin hefyd a aeth drosodd: a’r brenin a gusanodd Barsilai, ac a’i bendithiodd ef; ac efe a ddychwelodd i’w fangre ei hun. {{angor|19:40|40}} Yna y brenin a aeth i Gilgal, a Chimham a aeth gydag ef. A holl bobl Jwda a hebryngasant y brenin, a hanner pobl Israel hefyd. {{angor|19:41|41}} Ac wele, holl wŷr Israel a ddaethant at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Paham y lladrataodd ein brodyr ni, gwŷr Jwda, dydi, ac y dygasant y brenin a’i dylwyth dros yr Iorddonen, a holl wŷr Dafydd gydag ef? {{angor|19:42|42}} Ac atebodd holl wŷr Jwda i wŷr Israel, Oblegid car agos yw y brenin i ni: paham gan hynny y digiasoch chwi am y peth hyn? a fwytasom ni ddim ar draul y brenin? neu a anrhegodd efe ni ag anrheg? {{angor|19:43|43}} A gwŷr Israel a atebasant wŷr Jwda, ac a ddywedasant, Deg rhan sydd i ni yn y brenin; hefyd y mae i ni yn Dafydd fwy nag i chwi: paham gaa hynny y diystyraist fi? onid myfi a ddywedais yn gyntaf am gyrchu adref fy mrenin? Ac ymadrodd gwŷr Jwda oedd galetach nag ymadrodd gwŷr Israel. {{angor|Pennod_20}}{{c|{{uc|Pennod XX}}.}} {{bach|1 ''Seba, o achos yr ymrafael, yn codi plaid yn Israel.'' 3 ''Deg gordderch-wraig Dafydd mewn carchar tragywyddol.'' 4 ''Gwneuthur Amasa yn bennaeth ar Judah; a Joab yn ei ladd ef.'' 14 ''Joab yn erlid Seba i Abel.'' 16 ''Gwraig ddoeth yn achub y ddinas, trwy dorri pen Seba.'' 23 ''Swyddogion Dafydd.''}} {{angor|20:1}} {{uc|Ac}} yno y digwyddodd bod gŵr i’r fall, a’i enw Seba, mab Bichri, gŵr o Jemini; ac efe a utganodd mewn utgom, ac a ddywedodd, Nid oes i ni ddim rhan yn Dafydd, nac etifeddiaeth i ni ym mab Jesse: pawb i’w babell, O Israel. {{angor|20:2|2}} Felly holl wŷr Israel a aeihant i fyny oddi ar ôl Dafydd, ar ôl Seba mab Bichri: ond gwŷr Jwda a lynasant wrth eu brenin, o’r Iorddonen hyd Jerwsalem. {{angor|20:3|3}} A daeth Dafydd i’w dy ei hun i Jerwsalem; a’r brenin a gymerth y deg gordderch-wraig a<noinclude><references/></noinclude> f0157l4ts2taqcie0dmvourv8jetidu Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/347 104 3600 171723 6788 2026-10-12T05:49:46Z Tylopous 3717 angorau 171723 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>adawsai efe i gadw y tŷ, ac a’u rhoddes hwynt mewn cadwr*’ aeth, ac a’u porthodd hwynt; ond nid aeth efe i mewn atynt hwy: eithr buant yn rhwym hyd ddydd eu marwolaeth, yn byw mewn weddwdod. {{angor|20:4|4}} Yna y dywedodd y brenin wrth. Amasa, Cynnull i mi wŷr Jwda erbyn y trydydd dydd; a bydd dithau yma. {{angor|20:5|5}} Felly Amasa a aeth i gynnull Jwda: ond efe a drigodd yn hwy na’r amser terfynedig a osodasai efe iddo. {{angor|20:6|6}} A dywedodd Dafydd wrth Abisai Seba mab Bichri a’n dryga ni yn waetfa nag Absalom: cymer di weision dy ar¬glwydd, ac erlid ar ei ôl ef, rhag iddo gael y dinasoedd caerog, ac ymachub o’a golwg ni. {{angor|20:7|7}} A gwŷr Joab, a’r Cerethiaid, y Felethiaid hefyd, a’r holl gedyrn, a aethant ar ei ôl ef; ac a aethant allan o Jerwsalem, i erlid ar ôl Seba mab Bichri. {{angor|20:8|8}} Pan oeddynt hwy wrth y maen mawr’ sydd yn Gibeon, Amasa a aeth o’u blaen hwynt. A Joab oedd wedi gwregysu ei goctil oedd amdano, ac arni yr oedd-gwregys a chleddyf wedi ei rwymo ar ei lwynau ef yn ei wain; a phan gerddai efe y deddyf a syrthiai. {{angor|20:9|9}} A dywedodd Joab wrth Amasa, A wyt ti yn llawen, fy mrawd? A llaw ddeau Joab a ymaflodd ym marf Amasa i’w gusanu ef. {{angor|20:10|10}} Ond ni ddaliodd Amasa ar y cleddyf oedd yn llaw Joab: felly efe a’i trawodd el ag ef dan y bumed ais, ac a ollyngodd ei berfedd ef i’r llawr, ac nid aildrawodd i-t: ac efe a fu farw. Felly Joab ac Abisai ei frawd a ganlynodd ar ôl Seba mab liichri. {{angor|20:11|11}} Ac un o weision Joab oedd yn sefyll yn ei ymyl ef, ac a ddywedodd, Pwy bynnag a ewyllysio yn dda i Joab, a phwy hynnag sydd gyda Dafydd, eled ar ôl Joab. {{angor|20:12|12}} Ac Amasa oedd yn ymdrybaeddu. mewn gwaed yng nghanol y briffordd. A phan welodd y gŵr yr holl bobl yn sefyll, efe a symudodd Amasa oddi ar y briffordd i’r maes, ac a daflodd gadach arno, pan welodd efe bawb a’r oedd yn dyfod ato ef yn sefyll. {{angor|20:13|13}} Pan symudwydef oddi ary briffordd yr holl wŷr a aethant ar ôl Joab, i erlid ar ôl Seba mab Bichri. {{angor|20:14|14}} Ac efe a dramwyodd trwy holl lwythau Israel i Abel, ac i Bethmaacha, ac i holl leoedd Benin: a hwy a ymgasg-lasant, ac a aethant ar ei ôl ef. {{angor|20:15|15}} Felly y daethant hwy, ac a warchaeasant arno ef yn Abel Bethmaacha, ac a fwriasant glawdd yn erbyn y ddinas, yr hon a safodd ar y rhagfur: a’r holL bobl y rhai oedd gyda Joab oedd yn cur-o’r mur, i’w fwrw i lawr. {{angor|20:16|16}} Yna gwraig ddoeth o’r ddinas a’ lefodd, Clywch, clywch: dywedwch, atolwg, wrth Juab, Ncsa hyd yma, fel yr ymddiddanwyf & thi. {{angor|20:17|17}} Pan ncsaodd efe ati hi, y wraig a ddywedodd, Ai ti yw Joab? Dywedodd yntau. Ie, myfi. A hi a ddywedodd wrtho ef, Gwrando eiriau dy lawforwyn. Dywedodd yntau, Yr ydwyt yn gwrando. {{angor|20:18|18}} Yna hi a ddywedodd, Hwy a lefarent gynt, gan ddywedyd, Diau yr ymofynnant ag Abel: ac felly y dibenncnt. {{angor|20:19|19}} Myfi wyf un o heddychol ffyddloniaid Israel: yr wyt ti yn ceisio difetha dinas a mam yn Israel: paham y difedd di etifeddiaeth yr ARGLWYDD? {{angor|20:20|20}} A Joab a atebodd ac a ddywedodd, Na ato Duw, na ato Duw, i mi na difetha na dmistrio! {{angor|20:21|21}} Nid felly y mae y peth: eithr gŵr o t’ynydd Effraim, Seba mab Bichri dan ei enw, a ddyrchafodd ei law yn erbyn y brenin, yn erbyn Dafydd. Rhoddwch ef yn unig, a mi a af ymaith oddi wrth y ddinas. A dywedodd y wraig wrth Joab, Wele, ei ben ef a fwrir atat ti dros y mur. {{angor|20:22|22}} Yna y wraig o’i doethineb a aeth at yr holl bobl. A hwy a dorasant ben Seba mab Bichri, ac a’i taflasant allan i Joab. Ac efe a utganodd mewn utgorn; a hwy a wasgarwyd oddi wrth y ddinas, bob un i’w pabellau. A Joab a ddychwelodd i Jerwsalem at y brenin. {{angor|20:23|23}} Yna Joab oedd ar holl luoedd Israel; a Benaia mab Jehoiada ar y Cerethiaid, ac ar y Felethiaid; {{angor|20:24|24}} Ac Adoram oedd ar y dreth, a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur; {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 5koryagw67dvjevmrmfyq53246nheja Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/348 104 3601 171724 171401 2026-10-12T05:51:11Z Tylopous 3717 angorau 171724 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|20:25|25}} Sefa hefyd yn ysgrifennydd; a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid; {{angor|20:26|26}} Ira hefyd y Jairiad oedd ben-llywydd ynghylch Dafydd. {{angor|Pennod_21}}{{c|{{uc|Pennod XXI}}.}} {{bach|1 ''Y tair blynedd newyn, o achos y Gibeoniaid, yn peidio, trwy grogi saith o feibion Saul.'' 10 ''Caredigrwydd Rispah tu ag at y marw.'' 12 ''Dafydd yn claddu esgyrn Saul a Jonathan.'' 15 ''Pedair câd yn erbyn y Philistiaid; lle y lladdodd pedwar o gedyrn Dafydd bedwar o gawri.''}} {{angor|21:1}} {{uc|A bu}} newyn yn nyddiau Dafydd dair blynedd olynol. A Dafydd a ymo-fynnodd gerbron yr ARGLWYDD. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Oherwydd Saul, ac oherwydd ei dy gwaedlyd ef, y mae hyn; oblegid lladd ohono ef y Gibeoniaid. {{angor|21:2|2}} A’r brenin a alwodd am y Gibeoniaid, ac a ymddiddanodd â hwynt; (a’r Gibeon¬iaid hynny nid oeddynt o feibion Israel, ond o weddill yr Amoriaid; a meibion Israel a dyngasai iddynt hwy: eto Saul a geisiodd eu lladd hwynt, o’i serch i feibion Israel a Jwda.) {{angor|21:3|3}} A Dafydd a ddywedodd wrth y Gibeoniaid, Beth a wnaf i chwi? ac & pha beth y gwnaf gymod, fel y bendithioch chwi etifeddiaeth yr ARGLWYDD? {{angor|21:4|4}} A’r Gibeoniaid a ddywedasant wrtho, Ni fynnwn ni nac arian nac aur gan Saul, na chan ei dy ef; ac ni fynnwn ni ladd neb yn Israel. Ac efe a ddywedodd, Yr hyn a ddywedoch chwi, a wnaf i chwi. {{angor|21:5|5}} A hwy a ddywedasant with y brenin, Y gŵr a’n difethodd ni, ac a fwriadodd i’n herbyn ni, i’n dinistrio ni rhag aros yn un o derfynau Israel, {{angor|21:6|6}} Rhodder i ni saith o wŷr o’i feibion ef, fel y crogom ni hwynt i’r ARGLWYDD yn Gibea Saul, dewisedig yr ARGLWYDD. A dywedodd y brenin, Myfi a’u rhoddaf. {{angor|21:7|7}} Ond y brenin a arbedodd Meffi-boseth, mab Jonathan, mab Saul, oherwydd llw yr ARGLWYDD yr hwn oedd rhyngddynt hwy, rhwng Dafydd a Jonathan mab Saul. {{angor|21:8|8}} Ond y brenin a gymerth ddau fab Rispa merch Aia, y rhai a ymddug hi i Saul, sef Armoni a Meffiboseth; a phum mab Michal merch Saul, y rhai a blantodd hi i Adriel mab Barsilai y Maholathiad: {{angor|21:9|9}} Ac efe a’u rhoddes hwynt yn llaw y Gibeoniaid; a hwy a’u crogasant hwy yn y mynydd gerbron yr ARGLWYDD: a’r saith hyn a gydgwympasant, ac a rodd-wyd i farwolaeth yn y dyddiau cyntaf o’r cynhaeaf, yn nechreuad cynhaeaf yr haidd. {{angor|21:10|10}} A Rispa merch Aia a gymerth sachliain, a hi a’i hestynnodd ef iddi ar y graig, o ddechrau y cynhaeaf nes diferu dwfr arnynt hwy o’r nefoedd, ac ni adawodd hi i ehediaid y nefoedd orffwys arnynt hwy y dydd, na bwystfil y maes liw nos. {{angor|21:11|11}} A mynegwyd i Dafydd yr hyn a wnaethai Rispa merch Aia, gordderchwraig Saul. {{angor|21:12|12}} A Dafydd a aeth ac a ddug esgyrn Saul," ac esgyrn Jonathan ei fab, oddi wrth berchenogion Jabes Gilead, y rhai a’u lladratasent hwy o heol Bethsan yr hon y crogasai y Philistiaid hwynt ynddi, y dydd y lladdodd y Philistiaid Saul yn Gilboa. {{angor|21:13|13}} Ac efe a ddug i fyny oddi yno esgyrn Saul, ac esgyrn Jonathan ei fab: a hwy 9 gasglasant esgyrn y rhai a grogasid. {{angor|21:14|14}} A hwy a gladdasant esgyrn Saul a Jonathan ei fab yng ngwlad Benjamin, yn Sela, ym meddrod Cis ei dad: a hwy a wnaethant yr hyn oll a orchmynasai y brenin. A bu Duw fodlon i’r wlad ar ôl hyn. {{angor|21:15|15}} A bu eilwaith ryfel rhwng y Philistiaid ac Israel; a Dafydd a aeth i waered a’i weision gydag ef, ac a ymladdasant a’r Philistiaid. A diffygiodd Dafydd. {{angor|21:16|16}} Ac Isbi-benob, yr hwn oedd o feibion y cawr, (a phwys ei waywffon yn dri chan sicl o bres,) ac wedi ei wregysu a chleddyf newydd, a feddyliodd ladd Dafydd. {{angor|21:17|17}} Ond Abisai mab Serfia a’i helpiodd ef, ac a drawodd y Philistiad, ac a’i lladdodd ef. Yna gwŷr Dafydd a dyngasant wrtho ef, gan ddywedyd, Nid ei di allan mwyach gyda ni i ryfel, rhag i ti ddiffoddi goleuni Israel. {{angor|21:18|18}} Ac ar ôl hyn fe fu eilwaith ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid: yna Sib-bechai yr Husathiad<noinclude><references/></noinclude> nq4lbq7zlgfmi6lv5wefjgscwylut75 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/349 104 3602 171725 171402 2026-10-12T05:53:44Z Tylopous 3717 angorau 171725 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>a laddodd Saff, yr hwn oedd o feibion y cawr. {{angor|21:19|19}} A bu eto ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid: ac Elhanan mab Jaare-oregim, y Bethlehemiad, a drawodd frawd Goleiath y Gethiad; a phren ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd. {{angor|21:20|20}} A bu eto ryfel yn Gath: ac yr oedd gŵr corffol, a chwech o fysedd ar bob llaw iddo, a chwech o fysedd ar bob troed iddo, pedwar ar hugain o rifedi; efe hefyd oedd fab i’r cawr. {{angor|21:21|21}} Ac efe a amharchodd Israel; a Jonathan mab Simea, brawd Dafydd, a’i lladdodd ef. {{angor|21:22|22}} Y pedwar hyn a aned i’r cawr yn Gath, ac a gwympasant trwy law Dafydd, a thrwy law ei weision ef. {{angor|Pennod_22}}{{c|{{uc|Pennod XXII}}.}} {{bach|''Psalm o ddïolchgarwch am alluog ymwared Duw, a’i amryw fendithion.''}} {{angor|22:1}} {{uc|A Dafydd}} a lefarodd wrth yr ARGLWYDD eiriau y gan hon, yn y dydd y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei holl elynion, ac o law Saul. {{angor|22:2|2}} Ac efe a ddywedodd, Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd i; {{angor|22:3|3}} Duw fy nghraig, ynddo ef yr ymddiriedaf: fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, fy uchel dwr a’m noddfa, fy achubwr; rhag trais y’m hachubaist. {{angor|22:4|4}} Galwaf ar yr ARGLWYDD canmoladwy: felly y’m cedwir rhag fy ngelynion. {{angor|22:5|5}} Canys gofidion angau a’m cylchynasant; afonydd y fall a’m dychrynasant i. {{angor|22:6|6}} Doluriau uffern a’m hamgylchynasant; maglau angau a’m rhagflaenasant. {{angor|22:7|7}} Yn fy nghyfyngdra y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac y gwaeddais ar fy Nuw; ac efe a glybu fy llef o’i deml, a’m gwaedd a aeth i’w glustiau ef. {{angor|22:8|8}} Yna y cynhyrfodd ac y crynodd y ddaear: seiliau y nefoedd a gyffroesant ac a ymsiglasant, am iddo ef ddigio. {{angor|22:9|9}} Dyrchafodd mwg o’i ffroenau ef, â thân o’i enau ef a ysodd: glo a enynasant ganddo ef. {{angor|22:10|10}} Efe a ogwyddodd y nefoedd, ac a ddisgynnodd; a thywyllwch oedd dan ei draed ef. {{angor|22:11|11}} Marchogodd efe hefyd ar y ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a welwyd ar adenydd y gwynt. {{angor|22:12|12}} Efe a osododd y tywyllwch yn bebyll o’i amgylch; sef casgliad y dyfroedd, a thew gymylau yr awyr. {{angor|22:13|13}} Gan y disgleirdeb ger ei fron ef yr enynnodd y marwor tanllyd. {{angor|22:14|14}} Yr ARGLWYDD a daranodd o’r nefoedd, a’r Goruchaf a roddes ei lef. {{angor|22:15|15}} Ac efe a anfonodd ei saethau, ac a’u gwasgarodd hwynt; mellt, ac a’u drylliodd hwynt. {{angor|22:16|16}} Gwaelodion y môr a ymddangosodd, a seiliau y byd a ddinoethwyd, gan gerydd yr ARGLWYDD, a chan chwythad anadl ei ffroenau ef. {{angor|22:17|17}} Efe a anfonodd oddi uchod: cymerodd fi; tynnodd fi o ddyfroedd lawer. {{angor|22:18|18}} Gwaredodd fi rhag fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghascion; am eu bod yn drech na mi. {{angor|22:19|19}} Achubasant fy miaen. yn nydd fy ngofid: ond yr ARGLWYDD oedd gynhaliad i mi. {{angor|22:20|20}} Efe a’m dug i ehangder: efe a’m gwaredodd i, am iddo ymhoffi ynof. {{angor|22:21|21}} Yr ARGLWYDD a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder: yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi. {{angor|22:22|22}} Canys mi a gedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw. {{angor|22:23|23}} Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i: ac oddi wrth ei ddeddfau ni chiliais i. {{angor|22:24|24}} bûm hefyd berffaith ger ei fron ef; ac ymgedwais rhag fy anwiredd., {{angor|22:25|25}} A’r ARGLWYDD a’m gobrwyodd innau yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl fy nglendid o flaen ei lygaid ef. {{angor|22:26|26}} A’r trugarog y gwnei drugaredd: a’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd. {{angor|22:27|27}} A’r glân y gwnei lendid; ac a’r cyn-dyn yr ymgyndynni. {{angor|22:28|28}} Y bobl gystuddiedig a waredi: ond y mae dy lygaid ar y rhai uchel, i’w darostwng. {{angor|22:29|29}} Canys ti yw fy nghannwyll i, O ARGLWYDD; a’r ARGLWYDD a lewyrcha fy nhywyllwch. {{angor|22:30|30}} Oblegid ynot ti y rhedaf trwy fyddin: trwy fy Nuw y llamaf dros fur. {{angor|22:31|31}} Duw sydd berffaith ei ffordd; ymad-rodd yr ARGLWYDD sydd buredig: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant -ynddo. {{angor|22:32|32}} Canys pwy sydd DDUW, heb<noinclude><references/></noinclude> 6ql5yj66g0f1mu4gzjzl46t96ve9cb4 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/558 104 3820 171688 7096 2026-10-11T14:06:29Z Tylopous 3717 penodau 171688 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion. 12:2 Oferedd a ddywedant bob un wrth ei gymydog: â gwefus wenieithgar, ac â chalon ddauddyblyg, y llefarant. 12:3 Torred yr ARGLWYDD yr holl wefusau gwenieithus, a’r tafod a ddywedo fawrhydi: 12:4 Y rhai a ddywedant, A’n tafod y gorfyddwn; ein gwefusau sydd eiddom ni: pwy sydd arglwydd arnom ni? 12:5 Oherwydd anrhaith y rhai cystuddiedig, oherwydd uchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr, medd yr ARGLWYDD; rhoddaf rnewn iachawdwriaeth yr hwn y magler iddo. 12:6 Geiriau yr ARGLWYDD ydynt eiriau purion; fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro seithwaith. 12:7 Ti, ARGLWYDD, a’u cedwi hwynt: cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd. 12:8 Yr annuwiolion a rodiant o amgylch, pan ddyrchafer y gwaelaf o feibion dynion. {{angor|Psalm_13}}{{c|{{uc|Psalm XIII}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn cwyno bod yn oedi ei ymwared ef:'' 3 ''yn gweddïo am ras i’w ragflaenu:'' 5 ''yn ymffrostio yn nhrugaredd Duw.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, Psalm Dafydd.}}}} {{angor|13:1}} {{uc|Pa}} hyd, ARGLWYDD, y’m hanghofi? ai yn dragywydd? pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof? 13:2 Pa hyd y cymeraf gynghorion yn fy enaid, gan fod blinder beunydd yn fy nghalon? pa hyd y dyrchefir fy ngelyn arnaf? 13:3 Edrych, a chlyw fi, O ARGLWYDD fy NUW; ac goleua fy llygaid, rhag i mi huno yn yr angau: 13:4 Rhag dywedyd o’m gelyn, Gorchfygais ef; ac i’m gwrthwynebwyr lawenychu, os gogwyddaf. 13:5 Minnau hefyd a ymddiriedais yn dy drugaredd di; fy nghalon a ymlawenycha yn dy iachawdwriaeth: canaf i’r ARGLWYDD, am iddo synio arnaf. {{angor|Psalm_14}}{{c|{{uc|Psalm XIV}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn dangos llygredigaeth natur dyn:'' 4 ''yn argyhoeddi yr annuwiol trwy oleuni eu cydwybod eu hun:'' 7 ''yn ymogoneddu yn iachadwriaeth Duw.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, Psalm Dafydd.}}}} {{angor|14:1}} {{uc|Yr}} ynfyd a ddywedodd yn ei galon, Nid oes un DUW. Ymlygrasant; ffieiddwaith a wnaethant: nid oes a wnêl ddaioni. 14:2 Yr ARGLWYDD a edrychodd i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio â DUW. 14:3 Ciliodd pawb; cydymddifwynasant: nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un. 14:4 Oni ŵyr holl weithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl fel y bwytaent fara: ni alwasant ar yr ARGLWYDD. 14:5 Yno y dychrynasant gan ofn; canys y mae DUW yng nghenhedlaeth y cyfiawn. 14:6 Cyngor y tlawd a waradwyddasoch chwi; am fod yr ARGLWYDD yn obaith iddo. 14:7 Pwy a ddyry iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ddychwelo yr ARGLWYDD gaethiwed ei bobl, yr ymhyfryda Jacob, ac y llawenha Israel. {{angor|Psalm_15}}{{c|{{uc|Psalm XV}}.}} {{bach|''Dafydd yn dangos pa fath sydd ar ddinasyddion Sïon.''}} {{canoli|{{bach|Psalm Dafydd.}}}} {{angor|15:1}} {{uc|Arglwydd}}, pwy a drig yn dy babell? pwy a breswylia ym mynydd dy sancteiddrwydd? 15:2 Yr hwn a rodia yn berffaith, ac a wnêl gyfiawnder, ac a ddywed wir yn ei galon: 15:3 Heb absennu â’i dafod, heb wneuthur drwg i’w gymydog, ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymydog 15:4 Yr hwn y mae y drygionus yn ddirmygus yn ei olwg; ond a anrhydedda y rhai a ofnant yr ARGLWYDD: yr hwn a dwng i’w niwed ei hun, ac ni newidia. 15:5 Yr hwn ni roddes ei arian ar usuriaeth, ac ni chymer wobr yn erbyn y gwirion. A wnelo hyn, nid ysgogir yn dragywydd. {{angor|Psalm_16}}{{c|{{uc|Psalm XVI}}.}} {{bach|1 ''Dafydd, o anymddiried i’w haeddedigaethau ei hun, ac o gas ar ddelw-addoliaeth, yn cyrchu at Dduw am ymwared:'' 5 ''yn dangos gobaith ei alwedigaeth, yr adgyfodiad, a bywyd tragywyddol.''}} {{canoli|{{bach|Michtam Dafydd.}}}} {{angor|16:1}} {{uc|Cadw}} fi, O DDUW: canys ynot yr ymddiriedaf. 16:2 Fy enaid, dywedaist wrth yr ARGLWYDD, Fy Arglwydd ydwyt ti: fy na nid yw ddim i ti: 16:3 Ond i’r saint sydd ar y ddaear, a’r rhai rhagorol, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch. 16:4 Gofidiau a amlhânt i’r rhai a frysiant ar ôl duw dieithr:<noinclude><references/></noinclude> 0wuqojz8b8yhjvk88lv1zogj7x0f8o2 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/559 104 3821 171689 7097 2026-10-11T14:11:14Z Tylopous 3717 penodau 171689 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>eu diod-offrwm o waed nid offrymaf fi, ac ni chymeraf eu henwau yn fy ngwefusau. 16:5 Yr ARGLWYDD yw rhan fy etifeddiaeth, i a’m ffiol: ti a gynheli fy nghoelbren. 16:6 Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: ie, y mae i mi etifeddiaeth deg. 16:7 Bendithiaf yr ARGLWYDD, yr hwn a’m cynghorodd: fy arennau hefyd a’m dysgant y nos. 16:8 Gosodais yr ARGLWYDD bob amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheulaw, ni’m hysgogir. 16:9 Oherwydd hynny llawenychodd fy nghalon ac ymhyfrydodd fy ngogoniant: fy nghnawd hefyd a orffwys mewn gobaith: 16:10 Canys ni adewi fy enaid yn uffern; ac ni oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth. 16:11 Dangosi i mi lwybr bywyd: digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron, ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dragywydd. {{angor|Psalm_17}}{{c|{{uc|Psalm XVII}}.}} {{bach|1 ''Dafydd, o hyder ar ei wiriondeb, yn gofyn cymmorth Duw yn erbyn ei elynion;'' 10 ''yn dangos eu balchder, a1 ''.''u dichell, a1 ''.''u creulondeb hwy;'' 13 ''yn gweddïo yn eu herbyn hwy, mewn hyder ar ei obaith.''}} {{canoli|{{bach|Gweddi Dafydd.}}}} {{angor|17:1}} {{uc|Clyw}}, ARGLWYDD, gyfiawnder; ystyria fy llefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll. 17:2 Deued fy marn oddi ger dy fron: edryched dy lygaid at uniondeb. 17:3 Profaist fy nghalon; gofwyaist fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau. 17:4 Tuag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd. 17:5 Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed. 17:6 Mi a elwais arnat; canys gwrandewi arnaf fi, O DDUW: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd. 17:7 Dangos dy ryfedd drugareddau. O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw. 17:8 Cadw fi fel cannwyll llygad: cudd fi dan gysgod dy adenydd, 17:9 Rhag yr annuwiolion, y rhai a’m gorthrymant; rhag fy ngelynion marwol, y rhai a’m hamgylchant. 17:10 Caeasant gan eu braster: â’u genau y llefarant mewn balchder. 17:11 Ein cyniweirfa ni a gylchynasant hwy yr awron: gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i’r ddaear. 17:12 Eu dull sydd fel llew a chwenychai ysglyfaethu, ac megis llew ieuanc yn aros mewn lleoedd dirgel. 17:13 Cyfod, ARGLWYDD, achub ei flaen ef, cwympa ef: gwared fy enaid rhag yr annuwiol, yr hwn yw dy gleddyf di; 17:14 Rhag dynion, y rhai yw dy law, ARGLWYDD, rhag dynion y byd, y rhai mae eu rhan yn y bywyd yma, a’r rhai llenwaist eu boliau â’th guddiedig drysor: llawn ydynt o feibion, a gadawant eu gweddill i’w rhai bychain. 17:15 Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â’th ddelw di. {{angor|Psalm_18}}{{c|{{uc|Psalm XVIII}}.}} {{bach|''Dafydd yn moliannu Duw em ei amryw a’i ryfeddol fendithion.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, ''Psalm'' Dafydd, gwas yr {{sc|Arglwydd}}, yr hwn a lefarodd wrth yr {{sc|Arglwydd}} eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr {{sc|Arglwydd}} ef o law ei holl elynion, ac o law Saul: ac efe a ddywedodd,}}}} {{angor|18:1}} {{uc|Caraf}} di, ARGLWYDD fy nghadernid. 18:2 Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd; fy NUW, fy nghadernid, yn yr hwn yr ymddiriedaf fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth a’m huchel dŵr. 18:3 Galwaf ar yr ARGLWYDD canmoladwy felly y’m cedwir rhag fy ngelynion. 18:4 Gofidion angau a’m cylchynasant, ac afonydd y fall a’m dychrynasant i. 18:5 Gofidiau uffern a’m cylchynasant: maglau angau a achubasant fy mlaen. 18:6 Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac y gwaeddais ar fy NUW: efe a glybu fy llef o’i deml, a’m gwaedd ger ei fron a ddaeth i’w glustiau ef. 18:7 Yna y siglodd ac y crynodd y ddaear; a seiliau y mynyddoedd a gynhyrfodd ac a ymsiglodd, am iddo ef ddigio. 18:8 Dyrchafodd mwg o’i ffroenau, a thân a ysodd o’i enau: glo a enynasant ganddo.<noinclude><references/></noinclude> 1vl9chd6xoyugt66d8x09xver3515ah Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/561 104 3823 171690 7099 2026-10-11T14:16:17Z Tylopous 3717 penodau 171690 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>18:49 Am hynny y moliannaf di, O ARGLWYDD, ymhlith y cenhedloedd, ac y canaf i’th enw. 18:50 Efe sydd yn gwneuthur mawr ymwared i’w Frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog, i Dafydd, ac i’w had ef byth. {{angor|Psalm_19}}{{c|{{uc|Psalm XIX}}.}} {{bach|1 ''Bod y creaduriaid yn dangos gogoniant Duw:'' 7 ''a’i air yn dangos ei ras ef.'' 12 ''Dafydd yn gweddïo am ras.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, Psalm Dafydd.}}}} {{angor|19:1}} {{uc|Y nefoedd}} sydd yn datgan gogoniant Dduw; a’r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylo ef. 19:2 Dydd i ddydd a draetha ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth. 19:3 Nid oes iaith nac ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt, 19:4 Eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear, a’u geiriau hyd eithafoedd byd: i’r haul y gosododd efe babell ynddynt; 19:5 Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan o’i ystafell: ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa. 19:6 O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, a’i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wres ef. 19:7 Cyfraith yr ARGLWYDD sydd berffaith, yn troi yr enaid: tystiolaeth yr ARGLWYDD sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth. 19:8 Deddfau yr ARGLWYDD sydd uniawn, yn llawenhau y galon: gorchymyn yr ARGLWYDD sydd bur, yn goleuo y llygaid. 19:9 Ofn yr ARGLWYDD sydd lân, yn parhau yn dragwydd; barnau yr ARGLWYDD ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd. 19:10 Mwy dymunol ŷnt nag aur, ie, nag aur coeth lawer: melysach hefyd na’r mêl, ac na diferiad diliau mêl. 19:11 Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir was: o’u cadw y mae gwobr lawer. 19:12 Pwy a ddeall ei gamweddau? glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig. 19:13 Atal hefyd dy was oddi wrth bechodau rhyfygus: na arglwyddiaethont arnaf: yna y’m perffeithir, ac y’m glanheir oddi wrth anwiredd lawer. 19:14 Bydded ymadroddion fy ngenau, myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O ARGLWYDD, fy nghraig a’m prynwr. {{angor|Psalm_20}}{{c|{{uc|Psalm XX}}.}} {{bach|1 ''Yr eglwys yn bendithio y Brenhin yn ei fawr-hydi.'' 7 ''Ei hyder hi y’nghymmorth Duw.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, Psalm Dafydd.}}}} {{angor|20:1}} {{uc|Gwrandawed}} yr ARGLWYDD arnat yn nydd cyfyngder: enw DUW Jacob a’th ddiffynno. 20:2 Anfoned i ti gymorth o’r cysegr, a nerthed di o Seion. 20:3 Cofied dy holl offrymau, a bydded fodlon i’th boethoffrwm. Sela. 20:4 Rhodded i ti wrth fodd dy galon, chyfiawned dy holl gyngor. 20:5 Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di, a dyrchafwn faner yn enw ein DUW; cyfiawned yr ARGLWYDD dy holl dymuniadau. 20:6 Yr awr hon y gwn y gwared yr ARGLWYDD ei eneiniog: efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef. 20:7 Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr ARGLWYDD ein DUW. 20:8 Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant ond nyni a gyfodasom, ac a safasom. 20:9 Achub, ARGLWYDD: gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom. {{angor|Psalm_21}}{{c|{{uc|Psalm XXI}}.}} {{bach|1 ''Tâl dïolch am fuddugoliaeth:'' 7 ''a hyder ar gael ychwaneg o lwyddiant.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, Psalm Dafydd.}}}} {{angor|21:1}} {{uc|Arglwydd}}, yn dy nerth y llawenycha y Brenin; ac yn dy iachawdwriaeth di mor ddirfawr yr ymhyfryda! 21:2 Deisyfiad ei galon a roddaist iddo; a dymuniad ei wefusau nis gomeddaist. Sela. 21:3 Canys achubaist ei flaen ef a bendithion daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth. 21:4 Gofynnodd oes gennyt, a rhoddaist iddo: ie, hir oes, byth ac yn dragywydd. 21:5 Mawr yw ei ogoniant yn dy iachawdwriaeth: gosodaist arno ogoniant a phrydferthwch. 21:6 Canys gwnaethost ef yn fendithion yn dragywyddol; llawenychaist ef â llawenydd â’th wynepryd. 21:7 Oherwydd bod y Brenhin yn<noinclude><references/></noinclude> ir3trhri1uqcgjierzvna4gelnrsb8g Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/562 104 3826 171691 7107 2026-10-11T14:18:20Z Tylopous 3717 penodau 171691 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ymddiried yn yr ARGLWYDD, a thrwy drugaredd y Goruchaf nid ysgogir ef. 21:8 Dy law a gaiff afael ar dy holl elynion: dy ddeheulaw a gaiff afael ar dy gareion. 21:9 Ti a’u gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr ARGLWYDD yn ei ddicllonedd a’u llwnc hwynt, a’r tân a’u hysa hwynt. 21:10 Eu ffrwyth hwynt a ddinistri di oddi ar y ddaear, a’u had o blith meibion dynion. 21:11 Canys bwriadasant ddrwg i’th erbyn: meddyliasant amcan, heb allu ohonynt ei gwblhau. 21:12 Am hynny y gwnei iddynt droi eu cefnau: ar dy linynnau y paratöi di saethau yn erbyn eu hwynebau. 21:13 Ymddyrcha, ARGLWYDD, yn dy nerth; canwn, a chanmolwn dy gadernid. {{angor|Psalm_22}}{{c|{{uc|Psalm XXII}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn achwyn mewn anghysur mawr;'' 9 ''yn gweddïo mewn cyfyngder mawr;'' 23 ''ac yn clodfori Duw.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd ar Aieleth-hasahar, Psalm Dafydd.}}}} {{angor|22:1}} {{uc|Fy}} NUW, fy NUW, paham y’m gwrthodaist? paham yr ydwyt mor bell oddi wrth fy iawchawdwriaeth, a geiriau fy llefain? 22:2 Fy NUW, llefain yr ydwyf y dydd, ac ni wrandewi; y nos hefyd, ac nid oes osteg i mi. 22:3 Ond tydi wyt sanctaidd, O dydi yr hwn wyt yn cyfanheddu ym moliant Israel. 22:4 Ein tadau a obeithiasant ynot: gobeithiasant, a gwaredaist hwynt. 22:5 Arnat ti y llefasant , ac achubwyd hwynt; ynot yr ymddiriedasant, ac nis gwaradwyddwyd hwynt. 22:6 A minnau, pryf ydwyf, ac nid gŵr; gwarthrudd dynion, a dirmyg y bobl. 22:7 Pawb a’r a’m gwelant a’m gwatwarant: llaesant wefl, ysgydwant ben, gan ddywedyd, 22:8 Ymddiriedodd yn yr ARGLWYDD; gwareded ef: achubed ef, gan ei fod yn dda ganddo 22:9 Canys ti a’m tynnaist o’r groth: gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam. 22:10 Arnat ti y’m bwriwyd o’r bru: o groth fy mam fy NUW ydwyt. 22:11 Nac ymbellha oddi wrthyf; oherwydd cyfyngder sydd agos: canys nid oes cynorthwywr. 22:12 Teirw lawer a’m cylchynasant: gwrdd deirw Basan a’m hamgylchasant. 22:13 Agorasant arnaf eu genau, fel llew rheibus a rhuadwy. 22:14 Fel dwfr y’m tywalltwyd, a’m hesgyrn oll a ymwahanasant: fy nghalon sydd fel cwyr; hi a doddodd yng nghanol fy mherfedd. 22:15 Fy nerth a wywodd fel priddlestr; a’m tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau; ac i lwch angau y’m dygaist. 22:16 Canys cŵn a’m cylchynasant: cynulleidfa y drygionus a’m hamgylchasant: trywanasant fy nwylo a’m traed. 22:17 Gallaf gyfrif fy holl esgyrn: y maent yn tremio ac yn edrych arnaf. 22:18 Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg, ac ar fy ngwisg yn bwrw coelbren. 22:19 Ond tydi, ARGLWYDD, nac ymbellha: fy nghadernid, brysia i’m cynorthwyo. 22:20 Gwared fy enaid rhag y cleddyf, fy unig enaid o feddiant y ci. 22:21 Achub fi rhag safn y llew: canys o blith cyrn unicorniaid y’m gwrandewaist. 22:22 Mynegaf dy enw i’m brodyr: yng nghanol y gynulleidfa y’th folaf. 22:23 Y rhai sydd yn ofni yr ARGLWYDD, molwch ef: holl had Jacob, gogoneddwch ef; a holl had Israel, ofnwch ef. 22:24 Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd; ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno, efe a wrandawodd. 22:25 Fy mawl sydd ohonot ti yn y gynulleidfa fawr: fy addunedau a dalaf gerbron y rhai a’i hofnant ef. 22:26 Y tlodion a fwytânt, ac a ddiwellir: y rhai a geisiant yr ARGLWYDD, a’i moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd. 22:27 Holl derfynau y ddaear a gofiant, ac a droant at yr ARGLWYDD: a holl dylwythau y cenhedloedd a addolant ger dy fron di. 22:28 Canys eiddo yr ARGLWYDD yw y deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ymhlith y cenhedloedd. 22:29 Yr holl rai breision ar y ddaear a fwytânt, ac a addolant: y rhai a ddisgynnant i’r llwch, a ymgrymant ger ei fron ef; ac nid oes neb a all gadw yn fyw ei enaid ei hun. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> b218mgrm034vq9ao2js1jq815myo63x Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/563 104 3827 171692 7108 2026-10-11T14:21:43Z Tylopous 3717 penodau 171692 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>22:30 Eu had a’i gwasanaetha ef: cyfrifir ef i’r ARGLWYDD yn genhedlaeth. 22:31 Deuant, ac adroddant ei gyfiawnder ef i’r bobl a enir, mai efe a wnaeth hyn. {{angor|Psalm_23}}{{c|{{uc|Psalm XXIII}}.}} {{bach|''Hyder Dafydd ar ras Duw.''}} {{canoli|{{bach|Psalm Dafydd.}}}} {{angor|23:1}} {{uc|Yr}} ARGLWYDD yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf. 23:2 Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog: efe a’m tywys gerllaw y dyfroedd tawel. 23:3 Efe a ddychwel fy enaid: efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw. 23:4 Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a’th ffon a’m cysurant. 23:5 Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr: iraist fy mhen ag olew; fy ffiol sydd lawn. 23:6 Daioni a thrugaredd yn ddiau a’m canlynant holl ddyddiau fy mywyd: a phreswyliaf yn nhŷ yr ARGLWYDD yn dragywydd. {{angor|Psalm_24}}{{c|{{uc|Psalm XXIV}}.}} {{bach|1 ''Arglwyddiaeth Duw yn y byd hwn.'' 3 ''Dinasyddion ei ysbrydol deyrnas ef.'' 7 ''Cynghor i’w dderbyn ef.''}} {{canoli|{{bach|Psalm Dafydd.}}}} {{angor|24:1}} {{uc|Eiddo}} yr ARGLWYDD y ddaear, a’i chyfiawnder; y byd, ac a breswylia ynddo. 24:2 Canys efe a'i seiliodd ar y moroedd, ac a'i sicrhaodd ar yr afonydd. 24:3 Pwy a esgyn i fynydd yr ARGLWYDD? a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef? 24:4 Y glân ei ddwylo, a'r pur ei galon; yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo. 24:5 Efe a dderbyn fendith gan yr ARGLWYDD, a chyfiawnder gan DDUW ei iachawdwriaeth. 24:6 Dyma genhedlaeth y rhai a'i ceisiant ef, y rhai a geisiant dy wyneb di, O Jacob. Sela. 24:7 O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn. 24:8 Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? yr ARGLWYDD nerthol a chadarn, yr ARGLWYDD cadarn mewn rhyfel. 24:9 O byrth, dyrchefwch eich pennau; a ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn. 24:10 Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? ARGLWYDD y lluoedd, efe yw Brenin y gogoniant. Sela. {{angor|Psalm_25}}{{c|{{uc|Psalm XXV}}.}} {{bach|1 ''Hyder Dafydd yn ei weddi.'' 7 ''Y mae yn gweddïo am faddeuant pechodau,'' 16 ''ac am gymmorth mewn trallod.''}} {{canoli|{{bach|''Psalm'' Dafydd.}}}} {{angor|25:1}} {{uc|Attat}} ti, O ARGLWYDD, y dyrchafaf fy enaid. 25:2 O fy NUW, ynot ti yr ymddiriedais; na'm gwaradwydder; na orfoledded fy ngelynion arnaf 25:3 Ie, na waradwydder neb sydd yn disgwyl wrthyt ti: gwaradwydder y rhai a droseddant heb achos. 25:4 Pâr i mi wybod dy ffyrdd, O ARGLWYDD: dysg i mi dy lwybrau. 25:5 Tywys fi yn dy wirionedd, a dysg fi: canys ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y disgwyliaf ar hyd y dydd 25:6 Cofia, ARGLWYDD, dy dosturiaethau a'th drugareddau: canys erioed y maent hwy. 25:7 Na chofia bechodau fy ieuenctid na'm camweddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di amdanaf, er mwyn dy ddaioni, ARGLWYDD. 25:8 Da ac uniawn yw yr ARGLWYDD: oherwydd hynny y dysg efe bechaduriaid yn y ffordd. 25:9 Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn: a’i ffordd a ddysg efe i’r rhai gostyngedig. 25:10 Holl lwybrau yr ARGLWYDD ydynt drugaredd a gwirionedd, i’r rhai a gadwant ei gyfamod a’i dystiolaethau ef. 25:11 Er mwyn dy enw, ARGLWYDD, maddau fy anwiredd: canys mawr yw. 25:12 Pa ŵr yw efe sydd yn ofni’r ARGLWYDD? efe a’i dysg ef yn y ffordd a ddewiso. 25:13 Ei enaid ef a erys mewn daioni: a’i had a etifedda y ddaear. 25:14 Dirgelwch yr ARGLWYDD sydd gyda’r rhai a’i hofnant ef: a’i gyfamod hefyd, i’w cyfarwyddo hwynt. 25:15 Fy llygaid sydd yn wastad ar yr ARGLWYDD: canys efe a ddwg fy nhraed allan o’r rhwyd. 25:16 Tro ataf, a thrugarha wrthyf: canys unig a thlawd ydwyf. 25:17 Gofidiau fy nghalon a hel<noinclude><references/></noinclude> cmestu9ca5ifm8xfcqm3jyjvddz1xh4 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/564 104 3828 171693 7109 2026-10-11T14:25:40Z Tylopous 3717 penodau 171693 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>aethwyd: dwg fi allan o’m cyfyngderau. 25:18 Gwêl fy nghystudd a’m helbul, a maddau fy holl bechodau. 25:19 Edrych ar fy ngelynion; canys amlhasant; â chasineb traws hefyd y’m casasant. 25:20 Cadw fy enaid, ac achub fi: na’m gwaradwydder: canys ymddiriedais ynot. 25:21 Cadwed perffeithrwydd ac uniondeb fi: canys yr wyf yn disgwyl wrthy. 25:22 O DDUW, gwared Israel o’i holl gyfyngderau. {{angor|Psalm_26}}{{c|{{uc|Psalm XXVI}}.}} {{bach|''Dafydd yn cyrchu at Dduw, mewn hyder o’i ddiniweidrwydd.''}} {{canoli|{{bach|''Psalm'' Dafydd.}}}} {{angor|26:1}} {{uc|Barn}} fi, ARGLWYDD; canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd: ymddiriedais hefyd yn yr ARGLWYDD: am hynny ni lithraf. 26:2 Hola fi, ARGLWYDD, a phrawf fi: chwilia fy arennau a’m calon. 26:3 Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd. 26:4 Nid eisteddais gyda dynion coegion; a chyda’r rhai trofaus nid af. 26:5 Caeais gynulleidfa y drygionus; a chyda’r annuwiolion nid eisteddai. 26:6 Golchaf fy nwylo mewn diniweidrwydd: a’th allor, O ARGLWYDD, a amgylchynaf: 26:7 I gyhoeddi â llef clodforedd, ac i fynegi dy holl ryfeddodau. 26:8 ARGLWYDD, hoffais drigfan dy dŷ, a lle preswylfa dy ogoniant. 26:9 Na chasgl fy enaid gyda phechaduriaid, na’m bywyd gyda dynion gwaedlyd: 26:10 Y rhai y mae ysgelerder yn eu dwylo, a’u deheulaw yn llawn gwobrau. 26:11 Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeithrwydd: gwared fi, a thrugarha wrthyf. 26:12 Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr uniawn: yn y cynulleidfaoedd y’th fendithiaf, O ARGLWYDD. {{angor|Psalm_27}}{{c|{{uc|Psalm XXVII}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn attegu ei ffydd, trwy allu Duw,'' 4 ''trwy ei serch i wasanaeth Duw,'' 9 ''a thrwy weddi.''}} {{canoli|{{bach|''Psalm'' Dafydd.}}}} {{angor|27:1}} {{uc|Yr}} ARGLWYDD yw fy ngoleuni a’m hiachawdwriaeth; rhag pwy yr ofnaf? yr ARGLWYDD yw nerth fy mywyd; rhag pwy y dychrynaf? 27:2 Pan nesaodd y rhai drygionus, sef fy ngwrthwynebwyr a’m gelynion, i’m herbyn, i fwyta fy nghnawd, hwy a dramgwyddasant ac a syrthiasant. 27:3 Pe gwersyllai llu i’m herbyn, nid ofna fy nghalon: pe cyfodai cad i’m herbyn, yn hyn mi a fyddaf hyderus. 27:44 Un peth a ddeisyfais i gan yr ARGLWYDD, hynny a geisiaf; sef caffael trigo yn nhŷ yr ARGLWYDD holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar brydferthwch yr ARGLWYDD, ac i ymofyn yn ei deml. 27:5 Canys yn y dydd blin y’m cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y’m cuddia; ar graig y’m cyfyd i. 27:6 Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr ARGLWYDD. 27:7 Clyw, O ARGLWYDD, fy lleferydd pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf. 27:8 Pan ddywedaist, Ceisiwch fy wyneb; fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O ARGLWYDD. 27:9 Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn soriant: fy nghymorth fuost; na ad fi, ac na wrthod fi. O DDUW fy iachawdwriaeth. 27:10 Pan yw fy nhad a’m mam yn fy ngwrthod, yr ARGLWYDD a’m derbyn. 27:11 Dysg i mi dy ffordd, ARGLWYDD, ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb, oherwydd fy ngelynion. 27:12 Na ddyro fi i fyny i ewyllys fy ngelynion: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster, a gyfodasant i’m herbyn. 27:13 Diffygiaswn, pe na chredaswn weled daioni yr ARGLWYDD yn nhir y rhai byw. 27:14 Disgwyl wrth yr ARGLWYDD: ymwrola, ac efe a nertha dy galon: disgwyl, meddaf, wrth yr ARGLWYDD. {{angor|Psalm_28}}{{c|{{uc|Psalm XXVIII}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn gweddïo yn daer yn erbyn ei elynion;'' 6 ''yn bendithio Duw,'' 9 ''ac yn gweddïo dros y bobl.''}} {{canoli|{{bach|''Psalm'' Dafydd.}}}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> aopqqqiqp7kec4mwp6juih0olnc5r5g Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/565 104 3829 171694 7110 2026-10-11T14:30:52Z Tylopous 3717 penodau 171694 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|28:1}} {{uc|Arnat}} ti, ARGLWYDD, y gwaeddaf; fy nghraig, na ddistawa wrthyf: rhag, o thewi wrthyf, i mi fod yn gyffelyb i rai yn disgyn i’r pwll. 28:2 Erglyw lef fy ymbil pan waeddwyf arnat, pan ddyrchafwyf fy nwylo tuag at dy gafell sanctaidd. 28:3 Na thyn fi gyda’r annuwiolion, a chyda gweithredwyr anwiredd; y rhai a lefarant heddwch wrth eu cymdogion, a drwg yn eu calon. 28:4 Dyro iddynt yn ôl eu gweithred, ac yn ôl drygioni eu dychmygion: dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo; tâl iddynt eu haeddedigaethau. 28:5 Am nad ystyriant weithredoedd yr ARGLWYDD, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistria efe hwynt, ac nis adeilada hwynt. 28:6 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD: canys, clybu lef fy ngweddïau. 28:7 Yr ARGLWYDD yw fy nerth, a’m tarian; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, a myfi a gynorthwywyd: oherwydd hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef. 28:8 Yr ARGLWYDD sydd nerth i’r cyfryw rai, a chadernid iachawdwriaeth ei Eneiniog yw efe. 28:9 Cadw dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dyrcha hwynt yn dragywydd. {{angor|Psalm_29}}{{c|{{uc|Psalm XXIX}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn annog tywysogion i roi gogoniant i Dduw:'' 3 ''o herwydd ei fawr allu,'' 11 ''a’i amddiffyn i’w bobl.''}} {{canoli|{{bach|''Psalm'' Dafydd.}}}} {{angor|29:1}} {{uc|Moeswch}} i’r ARGLWYDD, chwi feibion cedyrn, moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant a nerth. 29:2 Moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant ei enw: addolwch yr ARGLWYDD ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd. 29:3 Llef yr ARGLWYDD sydd ar y dyfroedd: DUW y gogoniant a darana; yr ARGLWYDD sydd ar y dyfroedd mawrion. 29:4 Llef yr ARGLWYDD sydd mewn grym: llef yr ARGTWYDD sydd mewn prydferthwch. 29:55 Llef yr ARGLWYDD sydd yn dryllio y cedrwydd; ie, dryllia yr ARGLWYDD gedrwydd Libanus. 29:6 Efe a wna iddynt lamu fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn. 29:7 Llef yr ARGLWYDD a wasgara y fflamau tân. 29:8 Llef yr ARGLWYDD a wna i’r anialwch grynu: yr ARGLWYDD a wna i anialwch Cades grynu. 29:9 Llef yr ARGLWYDD a wna i’r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef. 29:10 Yr ARGLWYDD sydd yn eistedd ar y llifeiriant; ie, yr ARGLWYDD eistedd yn Frenin yn dragywydd. 29:11 Yr ARGLWYDD a ddyry nerth i’w bobl: yr ARGLWYDD a fendithia ei bobl â thangnefedd. {{angor|Psalm_30}}{{c|{{uc|Psalm XXX}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn moli Duw am ei ymwared;'' 4 ''yn annog eraill i’w glodfori, wrth fel yr oedd Duw yn gwneuthur âg ef.''}} {{canoli|{{bach|Psalm ''neu'' Gân o gyssegriad tŷ Dafydd.}}}} {{angor|30:1}} {{uc|Mawrygaf}} di, O ARGLWYDD: canys dyrchefaist fi, ac ni lawenheaist fy ngelynion o’m plegid. 30:2 ARGLWYDD fy NUW, llefais arnat, a thithau a’m hiacheaist. 30:3 ARGLWYDD, dyrchefaist fy enaid o’r bedd: cedwaist fi yn fyw, rhag disgyn ohonof i’r pwll. 30:4 Cenwch i’r ARGLWYDD, ei saint ef; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef. 30:5 Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid; ei fodlonrwydd y mae bywyd: dros brynhawn yr erys wylofain, ac erbyn y bore y bydd gorfoledd. 30:6 Ac mi a ddywedais yn fy llwyddiant, Ni’m syflir yn dragywydd. 30:7 O’th daioni, ARGLWYDD; y gosodaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bûm helbulus. 30:8 Arnat ti, ARGLWYDD, y llefais, ac â’r ARGLWYDD yr ymbiliais. 30:9 Pa fudd sydd yn fy ngwaed, pan ddisgynnwyf i’r ffos? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy wirionedd? 30:10 Clyw, ARGLWYDD, a thrugarha wrthyf: ARGLWYDD, bydd gynorthwywr i mi. 30:11 Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi: diosgaist fy sachwisg, a gwregysaist fi â llawenydd; 30:12 Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo. O ARGLWYDD fy NUW, yn dragwyddol y’th foliannaf. {{angor|Psalm_31}}{{c|{{uc|Psalm XXXI}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn dangos ei ymddiried yn Nuw, ac yn gofyn ei help ef;'' 7 ''yn ymlawenychu yn ei drugaredd ef;'' 9 ''yn gweddïo yn ei adfyd,'' 19 ''ac yn moliannu Duw am ei ddaioni.''}} {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 9kwps3v2cwacbl9kxdlocyhmfhh3fp9 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/566 104 3830 171695 7111 2026-10-11T14:33:14Z Tylopous 3717 penodau 171695 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, Psalm Dafydd.}}}} {{angor|31:1}} {{uc|Ynot}} ti, ARGLWYDD, yr ymddiriedais: na’m gwaradwydder yn dragywydd: gwared fi yn dy gyfiawnder. 31:2 Gogwydda dy glust ataf; gwared fi ar frys: bydd i mi yn graig gadarn, yn dŷ amddiffyn i’m cadw. 31:3 Canys fy nghraig a’m castell ydwyt: gan hynny er mwyn dy enw tywys fi, ac arwain fi. 31:4 Tyn fi allan o’r rhwyd a guddiasant i mi: canys ti yw fy nerth. 31:5 I’th law y gorchmynnaf fy ysbryd: gwaredaist fi, O ARGLWYDD DDUW y gwirionedd. 31:6 Caseais y rhai sydd yn dal ar ofer wagedd: minnau a obeithiaf yn yr ARGLWYDD. 31:7 Ymlawenhaf ac ymhyfrydaf yn dy drugaredd: canys gwelaist fy adfyd; adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau; 31:8 Ac ni warchaeaist fi yn llaw y gelyn; ond gosodaist fy nhraed mewn ehangder. 31:9 Trugarha wrthyf, ARGLWYDD; canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie, fy enaid a’m bol 31:10 Canys fy mywyd a ballodd gan ofid, a’m blynyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd oherwydd fy anwiredd, a’m hesgyrn a bydrasant. 31:11 Yn warthrudd yr ydwyf ymysg fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr ymysg fy nghymdogion; ac yn ddychryn i’r rhai a’m hadwaenant: y rhai a’m gwelent allan, a gilient oddi wrthyf. 31:12 Anghofiwyd fi fel un marw allan o feddwl: yr ydwyf fel llestr methedig. 31:13 Canys clywais ogan llaweroedd; dychryn oedd o bob parth - pan gydymgyngorasant yn fy erbyn, y bwriadasant fy nieneidio. 31:14 Ond mi a obeithiais ynot ti, ARGLWYDD: dywedais, Fy NUW ydwyt. 31:15 Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwyr. 31:16 Llewyrcha dy wyneb ar dy was, achub fi er mwyn dy drugaredd. 31:17 ARGLWYDD, na waradwydder fi; canys gelwais arnat: gwaradwydder yr annuwiolion, torrer hwynt i’r bedd. 31:18 Gosteger y gwefusau celwyddog, y rhai a ddywedant yn galed, trwy falchder a diystyrwch, yn erbyn y cyfiawn. 31:19 Mor fawr yw dy ddaioni a roddaist i gadw i’r sawl a’th ofnant; ac a wnaethost i’r rhai a ymddiriedant ynot, gerbron meibion dynion! 31:20 Cuddi hwynt yn nirgelfa dy wyneb rhag balchder dynion: cuddi hwynt mewn pabell rhag cynnen tafodau. 31:21 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD: canys dangosodd yn rhyfedd ei garedigrwydd i mi mewn dinas gadarn. 31:22 Canys mi a ddywedais yn fy ffrwst, Fe’m bwriwyd allan o’th olwg: er hynny ti a wrandewaist lais fy ngweddïau pan lefais arnat. 31:23 Cerwch yr ARGLWYDD, ei holl saint ef: yr ARGLWYDD a geidw y ffyddloniaid, ac a dâl yn ehelaeth i’r neb a wna falchder. 31:24 Ymwrolwch, ac efe a gryfha eich calon, chwychwi oll y rhai ydych yn gobeithio yn yr ARGLWYDD {{angor|Psalm_32}}{{c|{{uc|Psalm XXXII}}.}} {{bach|1 ''Ym maddeuant pechodau y mae dedwyddwch yn sefyll.'' 3 ''Bod cyfaddef pechodau yn esmwythâu ar y gydwybod.'' 8 ''Addewidion Duw yn dwyn llawenydd.''}} {{canoli|{{bach|''Psalm'' Dafydd, er athrawiaeth.}}}} {{angor|32:1}} {{uc|Gwyn}} ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod. 32:2 Gwyn ei fyd y dyn ni chyfrif yr ARGLWYDD iddo anwiredd, ac ni byddo dichell yn ei ysbryd. 32:3 Tra y tewais, heneiddiodd fy esgyrn, gan fy rhuad ar hyd y dydd. 32:4 Canys trymhaodd dy law arnaf ddydd a nos: fy irder a drowyd yn sychder haf. Sela. 32:5 Addefais fy mhechod wrthyt, a’m hanwiredd ni chuddiais: dywedais, Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i’r ARGLWYDD; a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod. Sela. 32:6 Am hyn y gweddïa pob duwiol arnat ti yn yr amser y’th geffir: yn ddiau yn llifeiriant dyfroedd mawrion, ni chânt nesáu ato ef. 32:7 Ti ydwyt loches i mi; cedwi fi rhag ing: amgylchyni fi â chaniadau ymwared. Sela. 32:8 Cyfarwyddaf di, a dysgaf di yn y ffordd yr elych: i’m llygad arnat y’th gynghoraf. 32:9 Na fyddwch fel march, neu ful, heb ddeall: yr hwn y mae rhaid<noinclude><references/></noinclude> 2c4kqrfqiwqcrzzy83wx823ngztvft6 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/567 104 3831 171709 7112 2026-10-12T05:09:46Z Tylopous 3717 penodau 171709 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>atal ei ên â genfa, ac â ffrwyn, rhag ei ddynesáu atat. 32:10 Gofidiau lawer fydd i’r annuwiol: ond y neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, trugaredd a’i cylchyna ef. 32:11 Y rhai cyfiawn, byddwch lawen a hyfryd yn yr ARGLWYDD: a’r rhai uniawn galon oll, cenwch yn llafar. {{angor|Psalm_33}}{{c|{{uc|Psalm XXXIII}}.}} {{bach|1 ''Bod yn rhaid moliannu Duw, am ei ddaioni,'' 6 ''am ei allu,'' 12 ''am ei ragluniaeth.'' 20 ''Ar Dduw y mae hyderu.''}} {{angor|33:1}} {{uc|Ymlawenhewch}}, y rhai cyfiawn, yn yr ARGLWYDD: i’r rhai uniawn gweddus yw mawl. 33:2 Molwch yr ARGLWYDD â’r delyn: cenwch iddo â’r nabl, ac â’r dectant. 33:3 Cenwch iddo ganiad newydd: cenwch yn gerddgar, yn soniarus 33:4 Canys uniawn yw gair yr ARGLWYDD; a’i holl weithredoedd a wnaed mewn a ffyddlondeb. 33:5 Efe a gâr gyfiawnder a barn, o drugaredd yr ARGLWYDD y mae y ddaear yn gyflawn. 33:6 Trwy air yr ARGLWYDD y gwnaethpwyd y nefoedd; a’u holl luoedd hwy trwy ysbryd ei enau ef. 33:7 Casglu y mae efe ddyfroedd y môr ynghyd megis pentwr: y mae yn rhoddi y dyfnderoedd mewn trysorau. 33:8 Ofned yr holl ddaear yr ARGLWYDD: holl drigolion y byd arswydant ef. 33:9 Canys efe a ddywedodd, ac felly y bu: efe a orchmynnodd, a hynny a safodd. 33:10 Yr ARGLWYDD sydd yn diddymu cyngor y cenhedloedd, y mae efe yn diddymu amcanion pobloedd. 33:11 Cyngor yr ARGLWYDD a saif yn dragywydd; meddyliau ei galon o genhedlaeth i genhedlaeth. 33:12 Gwyn ei byd y genedl y mae yr ARGLWYDD yn DDUW iddi; a’r bobl a ddetholodd efe yn etifeddiaeth iddo ei hun. 33:13 Yr ARGLWYDD sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd: y mae yn gweled holl feibion dynion. 33:14 O breswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigolion y ddaear. 33:15 Efe a gydluniodd eu calon hwynt: efe a ddeall eu holl weithredoedd. 33:16 Ni waredir brenin gan liaws llu: ni ddianc cadarn trwy ei fawr gryfder. 33:17 Peth ofer yw march i ymwared: ac nid achub efe neb trwy ei fawr gryfder. 33:18 Wele, y mae llygad yr ARGLWYDD ar y rhai a’i hofnant ef, sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef; 33:19 I waredu eu henaid rhag angau, ac i’w cadw yn fyw yn amser newyn. 33:20 Ein henaid sydd yn disgwyl am yr ARGLWYDD: efe yw ein porth a’n tarian. 33:21 Canys ynddo ef y llawenycha ein calon, oherwydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef. 33:22 Bydded dy drugaredd, ARGLWYDD, arnom ni, megis yr ydym yn ymddiried ynot. {{angor|Psalm_34}}{{c|{{uc|Psalm XXXIV}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn clodfori Duw, ac yn annog eraill i wneuthur hynny, wrth a brofasai efe.'' 8 ''Dadwydd yw y rhai sydd yn ymddiried yn Nuw.'' 11 ''Cynghor i ofni Duw.'' 15 ''Rhagorfraint y cyfiawn.''}} {{canoli|{{bach|''Psalm'' Dafydd, pan newidiodd efe ei wedd o flaen Abimelech; yr hwn a’i gyrrodd ef ymaith, ac efe a ymadawodd.}}}} {{angor|34:1}} {{uc|Bendithiaf}} yr ARGLWYDD bob amser: ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad. 34:2 Yn yr ARGLWYDD y gorfoledda fy enaid: y rhai gostyngedig a glywant hyn, ac a lawenychant. 34:3 Mawrygwch yr ARGLWYDD gyda mi; a chyd-ddyrchafwn ei enw ef. 34:4 Ceisiais yr ARGLWYDD, ac efe a’m gwrandawodd; gwaredodd fi hefyd o’m holl ofn. 34:5 Edrychasant arno, a hwy a oleuwyd; a’u hwynebau ni chywilyddiwyd. 34:6 Y tlawd hwn a lefodd, a’r ARGLWYDD a’i clybu, ac a’i gwaredodd o’i holl drallodau. 34:7 Angel yr ARGLWYDD a gastella o amgylch y rhai a’i hofnant ef, ac a’u gwared hwynt. 34:8 Profwch, a gwelwch mor dda yw yr ARGLWYDD: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo. 34:9 Ofnwch Yr ARGLWYDD, ei saint ef: canys nid oes eisiau ar y rhai a’i hofnant ef. 34:10 Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuainc: ond y sawl a geisiant yr ARGLWYDD, ni bydd arnynt eisiau dim daioni. 34:11 Deuwch, blant, gwrandewch<noinclude><references/></noinclude> ph4lfamhp0dwhbbht94yyykygn6mqoa Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/568 104 3832 171710 7113 2026-10-12T05:11:52Z Tylopous 3717 penodau 171710 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>arnaf: dysgaf i chwi ofn yr ARGLWYDD. 34:12 Pwy yw y gŵr a chwennych fywyd, ac a gâr hir ddyddiau, i weled daioni? 34:13 Cadw dy dafod rhag drwg, a’th wefusau rhag traethu twyll. 34:14 Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda; ymgais â thangnefedd, a dilyn hi. 34:15 Llygaid yr ARGLWYDD sydd ar y cyfiawn: a’i glustiau sydd yn agored i’w llefain hwynt. 34:16 Wyneb yr ARGLWYDD sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg, i dorri eu coffa oddi ar y ddaear. 34:17 Y rhai cyfiawn a lefant; a’r ARGLWYDD a glyw, ac a’u gwared o’u holl drallodau. 34:18 Agos yw yr ARGLWYDD at y rhai drylliedig o galon; ac efe a geidw y rhai briwedig o ysbryd. 34:19 Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn: ond yr ARGLWYDD a’i gwared ef oddi wrthynt oll. 34:20 Efe a geidw ei holl esgyrn ef: ni thorrir un ohonynt. 34:21 Drygioni a ladd yr annuwiol: a’r rhai a gasânt y cyfiawn, a anrheithir. 34:22 Yr ARGLWYDD a wared eneidiau ei weision: a’r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef, nid anrheithir hwynt. {{angor|Psalm_35}}{{c|{{uc|Psalm XXXV}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn gweddïo am ddïogelwch iddo ei hun, a gwarth i’w elynion:'' 11 ''yn achwyn rhag y cam a wnaent âg ef.'' 22 ''Ac wrth hynny, yn annog Duw yn eu herbyn hwy.''}} {{canoli|{{bach|''Psalm'' Dafydd.}}}} {{angor|35:1}} {{uc|Dadleu}} fy nadl, ARGLWYDD, yn erbyn y rhai a ddadleuant i’m herbyn: ymladd â’r rhai a ymladdant â mi. 35:2 Ymafael yn y darian a’r astalch, a chyfod i’m cymorth. 35:3 Dwg allan y waywffon, ac argaea yn erbyn fy erlidwyr: dywed wrth fy enaid, Myfi yw dy iachawdwriaeth. 35:4 Cywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy enaid: ymchweler yn eu hôl a gwarthaer y sawl a fwriadant fy nrygu. 35:5 Byddant fel us o flaen y gwynt: ac angel yr ARGLWYDD yn eu herlid. 35:6 Bydded eu ffordd yn dywyllwch ac yn llithrigfa: ac angel yr ARGLWYDD yn eu hymlid. 35:7 Canys heb achos y cuddiasant eu rhwyd i mi mewn pydew, yr hwn heb achos a gloddiasant i’m henaid. 35:8 Deued arno ddistryw ni wypo; a’i rwyd yr hon a guddiodd, a’i dalio: syrthied yn y distryw hwnnw. 35:9 A llawenycha fy enaid i yn yr ARGLWYDD: efe a ymhyfryda yn ei iachawdwriaeth ef. 35:10 Fy holl esgyrn a ddywedant, O ARGLWYDD, pwy sydd fel tydi, yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fyddo drech nag ef: y truan hefyd a’r tlawd, rhag y neb â’i hysbeilio? 35:11 Tystion gau a gyfodasant: holasant i mi yr hyn nis gwn oddi wrtho. 35:12 Talasant i mi ddrwg dros dda, i ysbeilio fy enaid. 35:13 A ninnau, pan glafychent hwy, oeddwn â’m gwisg o sachlen: gostyngais fy enaid ag ympryd, a’m gweddi a ddychwelodd i’m mynwes fy hun. 35:14 Ymddygais fel pe buasai yn gyfaill, neu yn frawd i mi: ymostyngais mewn galarwisg, fel un yn galaru am ei fam. 35:15 Ond ymlawenhasant hwy yn fy adfyd i, ac ymgasglasant; ie, ymgasglodd efryddion yn fy erbyn, ac nis gwyddwn; rhwygasant fi, ac ni pheidient. 35:16 Ymysg y gwatwarwyr rhagrithiol mewn gwleddoedd, ysgyrnygasant eu dannedd arnaf. 35:17 Arglwydd, pa hyd yr edrychi di ar hyn? gwared fy enaid rhag eu distryw hwynt, fy unig enaid rhag y llewod. 35:18 Mi a’th glodforaf yn y gynulleidfa fawr: moliannaf di ymhhth pobl lawer. 35:19 Na lawenychant o’m herwydd y rhai sydd elynion i mi heb achos: y sawl a’m casânt yn ddiachos, nac amneidiant â llygad. 35:20 Gan nad ymddiddanant yn dangnefeddus; eithr dychmygant eiriau dichellgar yn erbyn y rhai llonydd yn y tir. 35:21 Lledasant eu safn arnaf, gan ddywedyd, Ha, Ha, gwelodd ein llygad. 35:22 Gwelaist hyn, ARGLWYDD: na thaw dithau; nac ymbella oddi wrthyf, O ARGLWYDD: 35:23 Cyfod, a deffro i’m barn, sef i’m dadl, fy NUW a’m Harglwydd. 35:24 Barn fi, ARGLWYDD fy NUW, yn ôl dy gyfiawnder; ac na lawenhânt o’m plegid. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> hvzgc8rfi7ktpnfohs18r63yzohxc1x Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/569 104 3833 171711 7114 2026-10-12T05:15:05Z Tylopous 3717 penodau 171711 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>35:25 Na ddywedant yn eu calon, O ein gwynfyd: na ddywedant, Llyncasom ef. 35:26 Cywilyddier a gwaradwydder hwy i gyd, y rhai sydd lawen am fy nrygfyd: gwisger â gwarth ac â chywilydd y rhai a ymfawrygant i’m herbyn. 35:27 Caned a llawenyched y rhai a hoffant fy nghyfiawnder: dywedant hefyd yn wastad, Mawryger yr ARGLWYDD, yr hwn a gâr lwyddiant ei was. 35:28 Fy nhafod innau a lefara am dy gyfiawnder a’th foliant ar hyd y dydd. {{angor|Psalm_36}}{{c|{{uc|Psalm XXXVI}}.}} {{bach|1 ''Blin gyflwr yr annuwiol.'' 5 ''Godidowgrwydd trugaredd Duw.'' 10 ''Dafydd yn gweddïo am ffafr i blant Duw.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, ''Psalm'' Dafydd gwas yr {{sc|Arglwydd}}.}}}} {{angor|36:1}} {{uc|Y mae}} anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fy nghalon, nad oes ofn DUW o flaen ei lygaid ef. 36:2 Oherwydd ymwenieithio y mae efe iddo ei hun yn ei olwg ei hunan, nes cael ei anwiredd yn atgas. 36:3 Geiriau ei enau ydynt anwiredd a thwyll: peidiodd â bod yn gall i wneuthur daioni. 36:4 Anwiredd a ddychymyg efe ar ei wely: efe a'i gesyd ei hun ar ffordd nid yw dda; nid ffiaidd ganddo ddrygioni. 36:5 Dy drugaredd, ARGLWYDD, sydd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau. 36:6 Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawnder; dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dyn ac anifail a gedwi di, ARGLWYDD. 36:7 Mor werthfawr yw dy drugaredd, O DDUW! am hynny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd. 36:8 Llawn ddigonir hwynt â braster dy dŷ; ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt. 36:9 Canys gyda thi y mae ffynnon y bywyd: yn dy oleuni di y gwelwn oleuni. 36:10 Estyn dy drugaredd i'r rhai a'th adwaenant, a’th gyfiawnder i'r rhai uniawn o galon. 36:11 Na ddeued troed balchder i'm herbyn: na syfled llaw yr annuwiol fi. 36:12 Yno y syrthiodd gweithwyr anwiredd: gwthiwyd hwynt i lawr, ac ni allant gyfodi. {{angor|Psalm_37}}{{c|{{uc|Psalm XXXVII}}.}} {{bach|''Dafydd yn annog i amynedd, ac i hyderu ar Dduw, o herwydd y rhagor sydd rhwng cyflwr y duwiol a’r annuwiol.''}} {{canoli|{{bach|''Psalm'' Dafydd.}}}} {{angor|37:1}} {{uc|Nac}} ymddigia oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd. 37:2 Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt, ac y gwywant gwyrddlysiau. 37:3 Gobeithia yn yr ARGLWYDD, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau. 37:4 Ymddigrifa hefyd yn yr ARGLWYDD ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon. 37:5 Treigla dy ffordd ar yr ARGLWYDD, ymddiried ynddo; ac efe a'i dwg i ben. 37:6 Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a'th farn fel hanner dydd. 37:7 Distawa yn yr ARGLWYDD, a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion. 37:8 Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg. 37:9 Canys torrir ymaith y drwg ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr ARGLWYDD, hwynt-hwy a etifeddant y tir. 37:10 Canys eto ychydigyn, ac ni welir yr annuwiol: a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim ohono. 37:11 Eithr y rhai gostyngedig a etifeddant y ddaear; ac a ymhyfrydant gan liaws tangnefedd. 37:12 Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn, ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno. 37:13 Yr ARGLWYDD a chwardd am ei ben ef: canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod. 37:14 Yr annuwiolion a dynasant eu cleddyf, ac a anelasant eu bwa, i fwrw i lawr y tlawd a’r anghenog, ac i ladd y rhai uniawn eu ffordd. 37:15 Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain, a’u bwâu a ddryllir. 37:16 Gwell yw yr ychydig sydd gan y cyfiawn na mawr olud annuwiolion lawer. 37:17 Canys breichiau yr annuwiol-<noinclude><references/></noinclude> kuwpsdz7bvuwi4i8e0gnkkdu9my87cw Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/570 104 3834 171712 7115 2026-10-12T05:16:21Z Tylopous 3717 penodau 171712 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ion a dorrir: ond yr ARGLWYDD a gynnal y rhai cyfiawn. 37:18 Yr ARGLWYDD a edwyn ddyddiau y rhai perffaith: a’u hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd. 37:19 Nis gwaradwyddir hwy yn amser drygfyd: ac yn amser newyn y cânt ddigon. 37:20 Eithr collir yr annuwiolion, a gelynion yr ARGLWYDD fel braster ŵyn a ddiflannant: yn fwg y diflannant hwy. 37:21 Yr annuwiol a echwynna, ac ni thâl adref: ond y cyfiawn sydd drugarog, ac yn rhoddi. 37:22 Canys y rhai a fendigo efe, a etifeddant y tir; a’r rhai a felltithio efe, a dorrir ymaith. 37:23 Yr ARGLWYDD a fforddia gerddediad gŵr da; a da fydd ganddo ei ffordd ef. 37:24 Er iddo gwympo, ni lwyr fwrir ef i lawr: canys yr ARGLWYDD sydd yn ei gynnal ef â’i law. 37:25 Mi a fûm ieuanc, ac yr ydwyf yn hen; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu na’i had yn cardota bara. 37:26 Bob amser y mae efe yn drugarog, ac yn rhoddi benthyg; a’i had a fendithir. 37:27 Cilia di oddi wrth ddrwg, a gwna dda; a chyfanhedda yn dragywydd. 37:28 Canys yr ARGLWYDD a gâr farn, ac ni edy ei saint; cedwir hwynt yn dragywydd: ond had yr annuwiol a dorrir ymaith. 37:29 Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaear, ac a breswyliant ynddi yn dragywydd. 37:30 Genau y cyfiawn a fynega ddoethineb, a’i dafod a draetha farn. 37:31 Deddf ei DDUW sydd yn ei galon ef; a’i gamre ni lithrant. 37:32 Yr annuwiol a wylia ar y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef. 37:33 Ni ad yr ARGLWYDD ef yn ei law ef, ac ni ad ef yn euog pan ei barner. 37:34 Gobeithia yn yr ARGLWYDD, a chadw ei ffordd ef, ac efe a’th ddyrchafa fel yr etifeddech y tir: pan ddifether yr annuwiolion, ti a’i gweli. 37:35 Gwelais yr annuwiol yn gadarn, ac yn frigog fel y llawryf gwyrdd. 37:36 Er hynny efe a aeth ymaith, ac wele, nid oedd mwy ohono: a mi a’i ceisiais, ac nid oedd i’w gael. 37:37 Ystyr y perffaith, ac edrych at yr uniawn: canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangnefedd. 37:38 Ond y troseddwyr a gyd-ddistrywir: diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith. 37:39 A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi wrth yr ARGLWYDD: efe yw eu nerth yn amser trallod. 37:40 A’r ARGLWYDD a’u cymorth hwynt, ac a’u gwared: efe a’u gwared hwynt rhag yr annuwiolion, ac a’u ceidw hwynt, am iddynt ymddiried ynddo. {{angor|Psalm_38}}{{c|{{uc|Psalm XXXVIII}}.}} {{bach|''Dafydd yn erfyn ar Dduw dosturio wrth ei dostur gyflwr ef.''}} {{canoli|{{bach|Psalm Dafydd, er coffa.}}}} {{angor|38:1}} {{uc|Arglwydd}}, na cherydda fi yn dy lid: ac na chosba fi yn dy ddicllonedd. 38:2 Canys y mae dy saethau ynglŷn ynof, a’th law yn drom arnaf. 38:3 Nid oes iechyd yn fy nghnawd, oherwydd dy ddicllonedd; ac nid oes heddwch i’m hesgyrn, oblegid fy mhechod. 38:4 Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen: megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi. 38:5 Fy nghleisiau a bydrasant ac a lygrasant, gan fy ynfydrwydd. 38:6 Crymwyd a darostyngwyd fi yn ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus. 38:7 Canys fy lwynau a lanwyd o ffieiddglwyf; ac nid oes iechyd yn fy nghnawd. 38:8 Gwanhawyd, a drylliwyd fi yn dra mawr: rhuais gan aflonyddwch fy nghalon. 38:9 O’th flaen di, ARGLWYDD, y mae fy holl ddymuniad; ac ni chuddiwyd fy uchenaid oddi wrthyt. 38:10 Fy nghalon sydd yn llamu; fy nerth a’m gadawodd; a llewyrch fy llygaid nid yw chwaith gennyf. 38:11 Fy ngharedigion a’m cyfeillion a safent oddi ar gyfer fy mhla; a’m cyfneseifiaid a safent o hirbell. 38:12 Y rhai hefyd a geisient fy einioes, a osodasent faglau; a’r rhai a geisient fy niwed, a draethent anwireddau, ac a ddychmygent ddichellion ar hyd y dydd. 38:13 A minnau fel byddar ni chlywn; eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> gvev069d3d50xilhshh6zcisw8oy9n8 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/571 104 3835 171713 7116 2026-10-12T05:20:08Z Tylopous 3717 penodau 171713 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>38:14 Felly yr oeddwn fel gŵr ni chlywai, ac heb argyhoeddion yn ei enau. 38:15 Oherwydd i mi obeithio ynot, ARGLWYDD; ti, ARGLWYDD fy NUW, a wrandewi. 38:16 Canys dywedais, Gwrando fi rhag llawenychu ohonynt i’m herbyn: pan lithrai fy nhroed, ymfawrygent i’m herbyn. 38:17 Canys parod wyf i gloffi, a’m dolur sydd ger fy mron yn wastad. 38:18 Diau y mynegaf fy anwiredd, ac y pryderaf oherwydd fy mhechod. 38:19 Ac y mae fy ngelynion yn fyw, ac yn gedyrn: amlhawyd hefyd y rhai a’m casânt ar gam. 38:20 A’r rhai a dalant ddrwg dros dda, a’m gwrthwynebant; am fy mod yn dilyn daioni. 38:21 Na ad fi, O ARGLWYDD: fy NUW, nac ymhell oddi wrthyf. 38:22 Brysia i’m cymorth, O ARGLWYDD fy iachawdwriaeth. {{angor|Psalm_39}}{{c|{{uc|Psalm XXXIX}}.}} {{bach|1 ''Gofal Dafydd am ei feddyliau:'' 4 ''ystyried fyrred ac ofered oes dyn:'' 7 ''parch barnedigaethau Duw,'' 10 ''a gweddi, yn ffrwyno ei annïoddefgarwch ef.''}} {{canoli|{{bach|Psalm Dafydd i’r Pencerdd, ''sef'' i Jeduthun.}}}} {{angor|39:1}} {{uc|Dywedais}}, Cadwaf fy ffyrdd, rhag pechu â’m tafod: cadwaf ffrwyn yn fy ngenau, tra fyddo yr annuwiol yn fy ngolwg. 39:2 Tewais yn ddistaw, ie, tewais â daioni; a’m dolur a gyffrôdd. 39:3 Gwresogodd fy nghalon o’m mewn: tra yr oeddwn yn myfyrio, enynnodd tân, a mi a leferais â’m tafod. 39:4 ARGLWYDD, pâr i mi wybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau; fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi. 39:5 Wele, gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd; a’m heinioes sydd megis diddim yn dy olwg di: diau mai cwbl wagedd yw pob dyn, pan fo ar y gorau. Sela. 39:6 Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cysgod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac nis gŵyr pwy a’i casgl. 39:7 Ac yn awr beth a ddisgwyliaf, O ARGLWYDD? fy ngobaith sydd ynot ti. 39:8 Gwared fi o’m holl gamweddau; ac na osod fi yn waradwydd i’r ynfyd. 39:9 Euthum yn fud, ac nid agorais fy ngenau: canys ti a wnaethost hyn. 39:10 Tyn dy bla oddi wrthyf: gan ddyrnod dy law y darfûm i. 39:11 Pan gosbit ddyn â cheryddon am anwiredd, datodit fel gwyfyn ei ardderchowgrwydd ef: gwagedd yn ddiau yw pob dyn. Sela. 39:12 Gwrando fy ngweddi, ARGLWYDD, a chlyw fy llef; na thaw wrth fy wylofain: canys ymdeithydd ydwyf gyda thi, ac alltud, fel fy holl dadau. 39:13 Paid â mi, fel y cryfhawyf cyn fy myned, ac na byddwyf mwy. {{angor|Psalm_40}}{{c|{{uc|Psalm XL}}.}} {{bach|1 ''Y llês sydd o hyderu ar Dduw.'' 6 ''Ufudd-dod yw yr aberth goreu.'' 11 ''Drygau Dafydd yn peri iddo weddïo yn daerach.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, Psalm Dafydd.}}}} {{angor|40:1}} {{uc|Disgwyliais}} yn ddyfal am yr ARGLWYDD; ac efe a ymostyngodd ataf; ac a glybu fy llefain. 40:2 Cyfododd fi hefyd o’r pydew erchyll, o’r pridd tomlyd; ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fy ngherddediad. 40:3 A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i’n DUW ni: llawer a welant hyn, ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr ARGLWYDD. 40:4 Gwyn ei fyd y gŵr a osodo yr ARGLWYDD yn ymddiried iddo; ac ni thry at feilchion, nac at y rhai a ŵyrant at gelwydd. 40:5 Lluosog y gwnaethost ti, O ARGLWYDD fy NUW, dy ryfeddodau, a’th amcanion tuag atom: ni ellir yn drefnus eu cyfrif hwynt i ti: pe mynegwn, a phe traethwn hwynt, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo. 40:6 Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist; agoraist fy nghlustiau: poethoffrwm a phech-aberth nis gofynnaist. 40:7 Yna y dywedais, Wele yr ydwyf yn yfod: yn rhol y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf. 40:8 Da gennyf wneuthur dy ewyllys, O NUW: a’th gyfraith, sydd o fewn fy ghalon. 40:9 Pregethais gyfiawnder yn y gynulleidfa fawr: wele, nid ateliais fy ngwefusau; ti, ARGLWYDD a’i gwyddost. 40:10 Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy nghalon; traethais dy ffyddlondeb, a’th iachawdwriaeth: ni chelais dy drugaredd na’th wirionedd yn y gynulleidfa luosog. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 6w6szhue2jo75kw1i44y8qdz448z05t Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/572 104 3836 171714 7117 2026-10-12T05:22:53Z Tylopous 3717 penodau 171714 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>40:11 Tithau, ARGLWYDD, nac atal dy drugareddau oddi wrthyf: cadwed dy drugaredd a’th wirionedd fi byth. 40:12 Canys drygau annifeiriol a’m cylchynasant o amgylch: fy mhechodau a’m daliasant, fel na allwn edrych i fyny: amlach ydynt na gwallt fy mhen; am hynny y pallodd fy nghalon gennyf. 40:13 Rhynged bodd i ti, ARGLWYDD, fy ngwaredu: brysia, ARGLWYDD, i’m cymorth. 40:14 Cydgywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy einioes i’w difetha; gyrrer yn eu hôl a chywilyddier y rhai a ewyllysiant i mi ddrwg. 40:15 Anrheithier hwynt yn wobr am eu gwaradwydd, y rhai a ddywedant wrthyf, Ha, ha. 40:16 Llawenyched ac ymhyfryded ynot ti y rhai oll a’th geisiant: dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth bob amser, Mawryger yr ARGLWYDD. 40:17 Ond yr wyf fi yn dlawd ac yn anghenus; eto yr ARGLWYDD a feddwl amdanaf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti; fy NUW, na hir drig. {{angor|Psalm_41}}{{c|{{uc|Psalm XLI}}.}} {{bach|1 ''Gofal Duw dros y tlawd.'' 4 ''Dafydd yn cwyno rhag brad ei elynion;'' 10 ''yn cilio at Dduw am gymmorth.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, Psalm Dafydd.}}}} {{angor|41:1}} {{uc|Gwyn}} ei fyd a ystyria wrth y tlawd: yr ARGLWYDD a’i gwared ef yn amser adfyd. 41:2 Yr ARGLWYDD a’i ceidw, ac a’i bywha; gwynfydedig fydd ar y ddaear: na ddod dithau ef wrth ewyllys ei elynion. 41:3 Yr ARGLWYDD a’i nertha ef ar ei glaf wely: cyweiri ei holl wely ef yn ei glefyd. 41:4 Mi a ddywedais, ARGLWYDD, trugarha wrthyf: iachâ fy enaid; canys pechais i’th erbyn. 41:5 Fy ngelynion a lefarant ddrwg amdanaf, gan ddywedyd, Pa bryd y bydd efe farw, ac y derfydd am ei enw ef? 41:6 Ac os daw i’m hedrych, efe a ddywed gelwydd; ei galon a gasgl ati anwiredd: pan êl allan, efe a’i traetha. 41:7 Fy holl gaseion a gydhustyngant i’m herbyn: yn fy erbyn y dychmygant ddrwg i mi. 41:8 Aflwydd, meddant, a lŷn wrtho: a chan ei fod yn gorwedd, ni chyfyd mwy. 41:9 Hefyd y gŵr oedd annwyl gennyf, yr hwn yr ymddiriedais iddo, ac a fwytaodd fy mara, a ddyrchafodd ei sawdl i’m herbyn. 41:10 Eithr ti, ARGLWYDD, trugarha wrthyf; a chyfod fi, fel y talwyf iddynt. 41:11 Wrth hyn y gwn hoffi ohonot fi, am na chaiff fy ngelyn orfoleddu i’m herbyn. 41:12 Ond amdanaf fi, yn fy mherffeithrwydd y’m cynheli, ac y’m gosodi ger dy fron yn dragywydd. 41:13 Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW; Israel, o dragwyddoldeb a hyd dragwyddoldeb. Amen, ac Amen. {{angor|Psalm_42}}{{c|{{uc|Psalm XLII}}.}} {{bach|1 ''Zêl Dafydd i weddïo Duw yn ei deml.'' 5 ''Y mae yn cynhyrfu ei enaid i roi ei oglud ar Dduw.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, Maschil, i feibion Corah.}}}} {{angor|42:1}} {{uc|Fel}} y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O DDUW. 42:2 Sychedig yw fy enaid am DDUW, am y DUW byw: pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf gerbron DUW? 42:3 Fy nagrau oedd fwyd i mi ddydd a nos, tra dywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy DDUW? 42:4 Tywalltwn fy enaid ynof, pan gofiwn hynny: canys aethwn gyda’r gynulleidfa, cerddwn gyda hwynt i dŷ DDUW, mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gŵyl. 42:5 Paham, fy enaid, y’th ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof? gobeithia yn NUW: oblegid moliannaf ef eto, am iachawdwriaeth ei wynepryd. 42:6 Fy NUW, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Iorddonen, a’r Hermoniaid, o fryn Misar. 42:7 Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof fi. 42:8 Eto yr ARGLWYDD a orchymyn ei drugaredd liw dydd, a’i gân fydd gyda mi liw nos; sef gweddi ar DDUW fy einioes. 42:9 Dywedaf wrth DDUW fy nghraig, Paham yr anghofiaist fi? paham y rhodiaf yn alarus trwy orthrymder y gelyn? 42:10 Megis â chleddyf yn fy esgyrn<noinclude><references/></noinclude> n9yklz6jb9mpgu59udscudlcv0m6lgi Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/573 104 3837 171715 7119 2026-10-12T05:26:17Z Tylopous 3717 penodau 171715 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>y mae fy ngwrthwynebwyr yn fy ngwaradwyddo, pan ddywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy DDUW? 42:11 Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? ymddiried yn NUW; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m DUW. {{angor|Psalm_43}}{{c|{{uc|Psalm XLIII}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn gweddïo am gael ei ddwyn drachefn i’r deml; ac yn addaw gwasanaethu Duw yn llawen:'' 5 ''yn cynhyrfu ei enaid i ymddiried yn Nuw.''}} {{angor|43:1}} {{uc|Barn}} fi, O DDUW, a dadlau fy nadl yn erbyn y genhedlaeth anhrugarog: gwared fi rhag y dyn twyllodrus ac anghyfiawn. 43:2 Canys ti yw DUW fy nerth: paham y’m bwri ymaith? paham yr af yn alarus trwy orthrymder y gelyn? 43:3 Anfon dy oleuni a’th wirionedd: tywysant hwy fi; ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i’th bebyll. 43:4 Yna yr af at allor DUW, at DDUW hyfrydwch fy ngorfoledd; a mi a’th foliannaf ar y delyn, O DDUW, fy NUW. 43:5 Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? gobeithia yn NUW; canys eto y moliannaf ef, iachawdwriaeth fy wyneb, a’m DUW. {{angor|Psalm_44}}{{c|{{uc|Psalm XLIV}}.}} {{bach|1 ''Yr egwyl, wrth gofio daioni Duw tu ag atti o’r blaen,'' 7 ''yn cwyno rhag ei drygfyd presennol;'' 17 ''yn dangos ei phurdeb,'' 24 ''ac yn gweddïo yn ddifrif am gymmorth.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, i feibion Corah, Maschil.}}}} {{angor|44:1}} {{uc|Duw}}, clywsom â’n clustiau, ein tadau a fynegasant i ni, y weithred a wnaethost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt. 44:2 Ti â’th law a yrraist allan y cenhedloedd, ac a’u plennaist hwythau; ti a ddrygaist y bobloedd, ac a’u cynyddaist hwythau. 44:3 Canys nid â’u cleddyf eu hun y goresgynasant y tir, nid eu braich a barodd iachawdwriaeth iddynt; eithr dy ddeheulaw di, a’th fraich, a llewyrch dy wyneb, oherwydd i ti eu hoffi hwynt. 44:4 Ti, DDUW, yw fy mrenin: gorchymyn iachawdwriaeth i Jacob. 44:5 Ynot ti y cilgwthiwn ni ein gelynion: yn dy enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i’n herbyn. 44:6 Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf; nid fy nghleddyf chwaith a’m hachub. 44:7 Eithr ti a’n hachubaist ni oddi wrth ein gwrthwynebwyr, ac a waradwyddaist ein caseion. 44:8 Yn NUW yr ymffrostiwn trwy y dydd; a ni a glodforwn dy enw yn dragywydd. Sela. 44:9 Ond ti a’n bwriaist ni ymaith, ac a’n gwaradwyddaist; ac nid wyt yn myned allan gyda’n lluoedd. 44:10 Gwnaethost i ni droi yn ôl oddi wrth y gelyn: a’n caseion a anrheithiasant eu hun. 44:11 Rhoddaist ni fel defaid i’w bwyta; gwasgeraist ni ymysg y cenhedloedd. 44:12 Gwerthaist dy bobl heb elw, ac ni chwanegaist dy olud o’u gwerth hwynt. 44:13 Gosodaist ni yn warthrudd i’n watwargerdd ac yn wawd i’r rhai o’n hamgylch. 44:14 Gosodaist ni yn ddihareb ymysg y cenhedloedd, yn rhai i ysgwyd pen arnynt ymysg y bobloedd. 44:15 Fy ngwarthrudd sydd beunydd ger fy mron, a chywilydd fy wyneb a’m todd: 44:16 Gan lais y gwarthruddwr a’r cablwr; oherwydd y gelyn a’r ymddialwr. 44:17 Hyn oll a ddaeth arnom; eto ni’th anghofiasom di, ac ni buom anffyddlon yn dy gyfamod. 44:18 Ni throdd ein calon yn ei hôl, ac nid aeth ein cerddediad allan o’th lwybr di; 44:19 Er i ti ein curo yn nhrigfa dreigiau, a rhoi drosom â chysgod angau. 44:20 Os anghofiasom enw ein DUW, neu estyn ein dwylo at dduw dieithr: 44:21 Oni chwilia DUW hyn allan? canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon. 44:22 Ie, er dy fwyn di y’n lleddir beunydd; cyfrifir ni fel defaid i’w lladd. 44:23 Deffro, paham y cysgi, O ARGLWYDD? cyfod, na fwrw ni ymaith yn dragywydd. 44:24 Paham y cuddi dy wyneb? ac yr anghofi ein cystudd a’n gorthrymder? 44:25 Canys gostyngwyd ein henaid i’r llwch: glynodd ein bol wrth y ddaear.<noinclude><references/></noinclude> 9lqclvmszru25zbwk53ogk6bp4qzvm0 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/574 104 3838 171716 7120 2026-10-12T05:29:58Z Tylopous 3717 penodau 171716 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>44:26 Cyfod yn gynhorthwy i ni, a gwared ni er mwyn dy drugaredd. {{angor|Psalm_45}}{{c|{{uc|Psalm XLV}}.}} {{bach|1 ''Mawrhydi a rhad brenhiniaeth Crist.'' 10 ''Dyledswydd yr eglwys, a’r budd sydd o hynny.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd ar Sosannim, i feibion Corah, Maschil, Cân cariadau.}}}} {{angor|45:1}} {{uc|Traetha}} fy nghalon beth da: dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthum i’r brenin: fy nhafod sydd bin ysgrifennydd buan. 45:2 Tecach ydwyt na meibion dynion: tywalltwyd gras ar dy wefusau: oherwydd hynny y’th fendithiodd DUW yn dragywydd. 45:3 Gwregysa dy gleddyf ar dy glun, O Gadarn, a’th ogoniant a’th harddwch. 45:4 Ac yn dy harddwch marchoga yn llwyddiannus, oherwydd gwirionedd, a lledneisrwydd, a’th ddeheulaw a ddysg i ti bethau ofnadwy. 45:5 Pobl a syrthiant danat; oherwydd dy saethau llymion yn glynu yng nghalon gelynion y Brenin. 45:6 Dy orsedd di, O DDUW, sydd byth ac yn dragywydd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth di. 45:7 Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny y’th eneiniodd DUW, sef dy DDUW di, ag olew llawenydd yn fwy na’th gyfeillion. 45:8 Arogl myrr, aloes, a chasia, sydd ar dy holl wisgoedd: allan o’r palasau ifori, â’r rhai y’th lawenhasant. 45:9 Merched brenhinoedd oedd ymhlith dy bendefigesau: safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o Offir. 45:10 Gwrando, ferch, a gwêl, a gostwng dy glust; ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dad. 45:11 A’r Brenin a chwennych dy degwch; canys efe yw dy Iôr di; ymostwng dithau iddo ef. 45:12 Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg; a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â’th wyneb. 45:13 Merch y Brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn: gemwaith aur yw ei gwisg hi. 45:14 Mewn gwaith edau a nodwydd y dygir hi at y Brenin: y morynion y rhai a ddeuant, ar ei hôl, yn gyfeillesau iddi, a ddygir atat ti. 45:15 Mewn llawenydd a gorfoledd y dygir hwynt: deuant i lys y Brenin. 45:16 Dy feibion fydd yn lle dy dadau, y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir. 45:17 Paraf gofio dy enw ym mhob cenhedlaeth ac oes: am hynny y bobl a’th folianniant byth ac yn dragywydd. {{angor|Psalm_46}}{{c|{{uc|Psalm XLVI}}.}} {{bach|1 ''Yr ymddiried sydd gan yr eglwys yn Nuw.'' 8 ''Cynghor i ystyried hynny.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd o feibion Corah, Cân ar Alamoth.}}}} {{angor|46:1}} {{uc|Duw}} sydd noddfa a nerth i ni, cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder. 46:2 Am hynny nid ofnwn pe symudai y ddaear, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr. 46:3 Er rhuo a therfysgu o’i ddyfroedd, er crynu o’r mynyddoedd gan ei ymchwydd ef. Sela. 46:4 Y mae afon, a’i ffrydiau a lawenhânt ddinas DUW; cysegr preswylfeydd y Goruchaf. 46:5 DUW sydd yn ei chanol; nid ysgog hi: DUW a’i cynorthwya yn fore iawn. 46:6 Y cenhedloedd a derfysgasant, y teyrnasoedd a ysgogasant: efe a roddes ei lef, toddodd y ddaear. 46:7 Y mae ARGLWYDD y lluoedd gyda ni; y mae DUW Jacob yn amddiffynfa i ni. Sela. 46:8 Deuwch, gwelwch weithredoedd yr ARGLWYDD; pa anghyfanhedd-dra a wnaeth efe ar y ddaear. 46:9 Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaear; efe a ddryllia y bwa, ac a dyr y waywffon, efe a lysg y cerbydau â thân. 46:10 Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd DDUW: dyrchefir fi ymysg y cenhedloedd, dyrchefir fi ar y ddaear. 46:11 Y mae ARGLWYDD y lluoedd gyda ni; amddiffynfa i ni yw DUW Jacob. Sela. {{angor|Psalm_47}}{{c|{{uc|Psalm XLVII}}.}} {{bach|''Cynghori y cenhedloedd i groesawu teyrnas Crist yn llawen.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, Psalm i feibion Corah.}}}} {{angor|47:1}} {{uc|Yr}} holl bobl, curwch ddwylo; llafargenwch i DDUW â llef gorfoledd. 47:2 Canys yr ARGLWYDD goruchaf sydd ofnadwy; Brenin mawr ar yr holl ddaear. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> f2mbxx7hcy4hdy9hwzyzj700fw67t86 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/575 104 3839 171717 7121 2026-10-12T05:32:36Z Tylopous 3717 penodau 171717 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>47:3 Efe a ddwg y bobl danom ni, a’r cenhedloedd dan ein traed. 47:4 Efe a ddethol ein hetifeddiaeth i ni, ardderchowgrwydd Jacob, yr hwn a hoffodd efe. Sela. 47:5 Dyrchafodd DUW â llawen floedd, yr ARGLWYDD â sain utgorn. 47:6 Cenwch fawl i DDUW, Cenwch: cenwch fawl i’n Brenin, cenwch. 47:7 Canys Brenin yr holl ddaear yw DUW: cenwch fawl yn ddeallus. 47:8 DUW sydd yn teyrnasu ar y cenhedloedd: eistedd y mae DUW ar orseddfainc ei sancteiddrwydd. 47:9 Pendefigion y bobl a ymgasglasant ynghyd, sef pobl DUW Abraham - canys tarianau y ddaear ydynt eiddo DUW, dirfawr y dyrchafwyd ef. {{angor|Psalm_48}}{{c|{{uc|Psalm XLVIII}}.}} {{bach|''Addurn a rhagorfraint yr eglwys.''}} {{canoli|{{bach|Cân ''a'' Psalm i feibion Corah.}}}} {{angor|48:1}} {{uc|Mawr}} yw yr ARGLWYDD, a thra moliannus, yn ninas ein DUW yn ei fynydd sanctaidd. 48:2 Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaear, yw mynydd Seion, yn ystlysau y gogledd, dinas y Brenin mawr. 48:3 DUW yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa. 48:4 Canys, wele, y brenhinoedd a ymgynullasant, aethant heibio ynghyd. 48:5 Hwy a welsant, felly y rhyfeddasant; brawychasant, ac aethant ymaith ar ffrwst. 48:6 Dychryn a ddaeth arnynt yno, a dolur, megis gwraig yn esgor. 48:7 Â gwynt y dwyrain y drylli longau y môr. 48:8 Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas ARGLWYDD y lluoedd, yn ninas ein DUW ni: DUW a’i sicrha hi yn dragywydd. Sela. 48:9 Meddyliasom, O DDUW, am dy drugaredd yng nghanol dy deml. 48:10 Megis y mae dy enw, O DDUW, felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tir: cyfiawn o gyfiawnder yw dy ddeheulaw. 48:11 Llawenyched mynydd Seion, ac ymhyfryded merched Jwda, oherwydd dy farnedigaethau. 48:12 Amgylchwch Seion, ac ewch o’i hamgylch hi; rhifwch ei thyrau hi. 48:13 Ystyriwch ei rhagfuriau, edrychwch ar ei phalasau; fel y mynegoch i’r oes a ddelo ar ôl. 48:14 Canys y DUW hwn yw ein DUW ni byth ac yn dragywydd: efe a’n tywys ni hyd angau. {{angor|Psalm_49}}{{c|{{uc|Psalm XLIX}}.}} {{bach|1 ''Eiriol difrif i adeiladu ffydd yr adgyfodiad, nid ar allu bydol, ond ar Dduw.'' 16 ''Na ddylid rhyfeddu wrth lwyddiant bydol.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, Psalm i feibion Corah.}}}} {{angor|49:1}} {{uc|Clywch}} hyn, yr holl bobloedd, gwrandewch hyn, holl drigolion y byd; 49:2 Yn gystal gwreng a bonheddig, cyfoethog a thlawd ynghyd. 49:3 Fy ngenau a draetha ddoethineb; a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall. 49:4 Gostyngaf fy nghlust at ddihareb; fy nameg a ddatguddiaf gyda’r delyn. 49:5 Paham yr ofnaf yn amser adfyd, pan y’m hamgylchyno anwiredd fy sodlau? 49:6 Rhai a ymddiriedant yn eu golud, ac a ymffrostiant yn lluosowgrwydd eu cyfoeth. 49:7 Gan waredu ni wared neb ei frawd, ac ni all efe roddi iawn drosto i DDUW: 49:8 (Canys gwerthfawr yw pryniad eu henaid, a hynny a baid byth:) 49:9 Fel y byddo efe byw byth, ac na welo lygredigaeth. 49:10 Canys efe a wêl fod y doethion yn yr un ffunud y derfydd am ffôl ac ynfyd, gadawant eu golud i eraill. 49:11 Eu meddwl yw, y pery eu tai yn dragywydd, a’u trigfeydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: enwant eu tiroedd ar eu henwau eu hunain. 49:12 Er hynny dyn mewn anrhydedd, nid erys: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir. 49:13 Eu ffordd yma yw eu hynfydrwydd: eto eu hiliogaeth ydynt fodlon i’w hymadrodd. Sela. 49:14 Fel defaid y gosodir hwynt yn uffern; angau a ymborth arnynt; a’r rhai a lywodraetha arnynt y bore; a’u tegwch a dderfydd yn y bedd, o’u cartref. 49:15 Eto DUW a wared fy enaid i o feddiant uffern: canys efe a’m derbyn i. Sela. 49:16 Nac ofna pan gyfoethogo un, pan ychwanego gogoniant ei dŷ ef: 49:17 Canys wrth farw ni ddwg efe ddim ymaith, ac ni ddisgyn ei ogoniant ar ei ôl ef. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> kalsx4zg6xpnc1bd7yr5wis07u3i1vh Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/576 104 3840 171718 7122 2026-10-12T05:36:35Z Tylopous 3717 penodau 171718 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>49:18 Er iddo yn ei fywyd fendithio ei enaid: canmolant dithau, o byddi da wrthyt dy hun. 49:19 Efe a â at genhedlaeth ei dadau, ac ni welant oleuni byth. 49:20 Dyn mewn anrhydedd, ac heb ddeall, sydd gyffelyb i anifeiliaid a ddifethir. {{angor|Psalm_50}}{{c|{{uc|Psalm L}}.}} {{bach|1 ''Mawrhydi Duw yn ei eglwys.'' 5 ''Ei drefn ef am gasglu y saint ynghyd.'' 7 ''Nad oes ewyllys gan Dduw mewn seremonïau,'' 14 ''ond mewn gwir ufudd-dod.''}} {{canoli|{{bach|Psalm Asaph.}}}} {{angor|50:1}} {{uc|Duw}} y duwiau, sef yr ARGLWYDD, a lefarodd, ac a alwodd y ddaear, o godiad haul hyd ei fachludiad. 50:2 Allan o Seion, perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd DUW. 50:3 Ein DUW ni a ddaw, ac ni bydd distaw: tân a ysa o’i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o’i amgylch. 50:4 Geilw at y nefoedd oddi uchod, ac ar y ddaear, i farnu ei bobl. 50:5 Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth. 50:6 A’r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef: canys DUW ei hun sydd Farnwr. Sela. 50:7 Clywch, fy mhobl, a mi a lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i’th erbyn: DUW, sef dy DDUW di, ydwyf fi. 50:8 Nid am dy aberthau y’th geryddaf, na’th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad. 50:9 Ni chymeraf fustach o’th dŷ, na bychod o’th gorlannau. 50:10 Canys holl fwystfilod y coed ydynt eiddof fi, a’r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd. 50:11 Adwaen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddof fi. 50:12 Os bydd newyn arnaf, ni ddywedaf i ti: canys y byd a’i gyfiawnder sydd eiddof fi. 50:13 A fwytfâf fi gig teirw? neu a yfaf fi waed bychod? 50:14 Abertha foliant i DDUW; a thâl i’r Goruchaf dy addunedau: 50:15 A galw arnaf fi yn nydd trallod: mi a’th waredaf, a thi a’m gogoneddi. 50:16 Ond wrth yr annuwiol y dywedodd DUW, Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymerech ar fy nghyfamod yn dy enau? 50:17 Gan dy fod yn casáu addysg, ac yn taflu fy ngeiriau i’th ôl. 50:18 Pan welaist leidr, cytunaist ag ef; a’th gyfran oedd gyda’r godinebwyr. 50:19 Gollyngaist dy safn i ddrygioni, a’th dafod a gydbletha ddichell. 50:20 Eisteddaist a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam. 50:21 Hyn a wnaethost, a mi a dewais: tybiaist dithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a’th argyhoeddaf, ac a’u trefnaf o flaen dy lygaid. 50:22 Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio DUW; rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd. 50:23 Yr hwn a abertho foliant, a’m gogonedda i: a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iachawdwriaeth DUW. {{angor|Psalm_51}}{{c|{{uc|Psalm LI}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn gweddïo am faddeuant pechodau, ac yn gwneuthur cyffes ddifrif o honynt:'' 6 ''yn gweddïo am ei sancteiddio.'' 16 ''Nad oes ewyllys gan Dduw mewn aberth, ond mewn purdeb calon.'' 18 ''Y mae yn gweddïo dros yr eglwys.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, Psalm Dafydd, pan ddaeth Nathan y prophwyd atto, wedi iddo fyned i mewn at Bathseba.}}}} {{angor|51:1}} {{uc|Trugarha}} wrthyf, O DDUW, yn ôl dy drugarowgrwydd:, yn ôl lliaws dy dosturiaethau, dilea fy anwireddau. 51:2 Golch fi yn llwyr ddwys oddi wrth fy anwiredd, a glanha fi oddi wrth fy mhechod. 51:3 Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau: a’m pechod rydd yn wastad ger fy mron. 51:4 Yn dy erbyn di, dydi dy hunan, y pechais ac y gwneuthum y drwg hwn yn dy olwg: fel y’th gyfiawnhaer pan leferych, ac y byddit bur pan farnech. 51:5 Wele, mewn anwiredd y’m lluniwyd; ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf. 51:6 Wele, ceraist wirionedd oddi mewn: a pheri i mi wybod doethineb yn y dirgel. 51:7 Glanha fi ag isop, a mi a lanheir: golch fi, a byddaf wynnach na’r eira. 51:8 Pâr i mi glywed gorfoledd a llawenydd; fel y llawenycho yr esgyrn a ddrylliaist. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> fuhos4f4ci99msltnbb3avk9gk69wmq