Wicidestun cywikisource https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan MediaWiki 1.47.0-wmf.23 first-letter Media Arbennig Sgwrs Defnyddiwr Sgwrs Defnyddiwr Wicidestun Sgwrs Wicidestun Delwedd Sgwrs Delwedd MediaWici Sgwrs MediaWici Nodyn Sgwrs Nodyn Cymorth Sgwrs Cymorth Categori Sgwrs Categori Tudalen Sgwrs Tudalen Indecs Sgwrs Indecs TimedText TimedText talk Modiwl Sgwrs modiwl Event Event talk Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/302 104 3554 171726 171585 2026-10-12T20:33:35Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171726 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>ef i’r ddaear; canys gyd â {{sc|Duw}} y gweithiodd efe heddyw. A’r bobl a waredasant Jonathan, fel na laddwyd ef. {{angor|14:46|46}} Yna Saul a aeth i fynu oddi ar ol y Philistiaid: a’r Philistiaid a aethant i’w lle eu hun. {{angor|14:47|47}} ¶ Felly y cymmerodd Saul y frenhiniaeth ar Israel; ac a ymladdodd yn erbyn ei holl elynion oddi amgylch, yn erbyn Moab, ac yn erbyn meibion Ammon, ac yn erbyn Edom, ac yn erbyn brenhinoedd Sobah, ac yn erbyn y Philistiaid: ac yn erbyn pwy bynnag yr wynebodd, efe a orchfygodd. {{angor|14:48|48}} Cynhullodd lu hefyd, a tharawodd Amalec; ac a waredodd Israel o law ei anrheithwyr. {{angor|14:49|49}} A meibion Saul oedd Jonathan, ac Issui, a Malci-sua. ''Dyma'' enwau ei ddwy ferched ef: enw yr hynaf ''oedd'' Merab, ac enw yr ieuangaf Michal. {{angor|14:50|50}} Ac enw gwraig Saul ''oedd'' Ahinoam merch Ahimaas: ac enw tywysog ei filwriaeth ef ''oedd'' Abner mab Ner, ewythr frawd ei dad i Saul. {{angor|14:51|51}} Cis hefyd ''oedd'' dad Saul; a Ner tad Abner ''oedd'' fab Abïel. {{angor|14:52|52}} A bu ryfel caled yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Saul: a phan welai Saul wr glew a nerthol, efe a’i cymmerai atto ei hun. {{angor|Pennod_15}}{{c|{{uc|Pennod XV}}.}} {{bach|1 ''Samuel yn danfon Saul i ddinystrio Amalec.'' 6 ''Yntau yn arbed y Ceneaid,'' 8 ''ac Agag, a’r hyn goreu o’r ysglyfaeth.'' 10 ''Samuel yn cyhoeddi i Saul, (ac efe yn ei ganmol ac yn ei esgusodi ei hun,) ddarfod i Dduw ei wrthod ef am ei anufudd-dod.'' 24 ''Ymostyngiad Saul.'' 33 ''Samuel yn lladd Agag.'' 34 ''Samuel a Saul yn ymadael.''}} {{angor|15:1}} {{uc|A Samuel}} a ddywedodd wrth Saul, Yr {{sc|Arglwydd}} a’m hanfonodd i i’th enneinio di yn frenhin ar ei bobl, ''sef'' ar Israel: ac yn awr gwrando ar lais geiriau yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|15:2|2}} Fel hyn y dywedodd {{sc|Arglwydd}} y lluoedd; Cofiais yr hyn a wnaeth Amalec i Israel, y modd y gosododd efe i’w erbyn ar y ffordd, pan ddaeth efe i fynu o’r Aipht. {{angor|15:3|3}} Dos yn awr, a tharo Amalec, a dinystria yr hyn oll ''sydd'' ganddo, ac nac eiriach ef; ond lladd ''hwynt'', yn wr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, yn ŷch ac yn oen, yn gamel ac yn asyn. {{angor|15:4|4}} A Saul a gynhullodd y bobl, ac a’u cyfrifodd hwynt yn Telaim, dau càn mil o wŷr traed, a deng mil o wŷr Judah. {{angor|15:5|5}} A Saul a ddaeth hyd ddinas i Amalec, ac a gynllwynodd yn y dyffryn. {{angor|15:6|6}} ¶ Dywedodd Saul hefyd wrth y Ceneaid, Cerddwch, ciliwch, ewch i waered o fysg yr Amaleciaid; rhag i mi eich distrywio chwi gyd â hwynt: herwydd ti a wnaethost drugaredd â holl feibion Israel, pan ddaethant i fynu o’r Aipht. A’r Ceneaid a ymadawsant o fysg yr Amaleciaid. {{angor|15:7|7}} A Saul a darawodd yr Amaleciaid o Hafilah, ''ffordd'' y delych di i Sur, yr hon ''sydd'' ar gyfer yr Aipht. {{angor|15:8|8}} Ac a ddaliodd Agag brenhin yr Amaleciaid yn fyw, ac a laddodd yr holl bobl â min y cleddyf. {{angor|15:9|9}} Ond Saul a’r bobl a arbedasant Agag, a’r goreu o’r defaid, a’r ychain, a’r brasaf o’r ŵyn, a’r hyn oll ''ydoedd'' dda, ac ni ddistrywient hwynt: a phob peth gwael a salw, hwnnw a ddifrodasant hwy. {{angor|15:10|10}} ¶ Yna y bu gair yr {{sc|Arglwydd}} wrth Samuel, gan ddywedyd, {{angor|15:11|11}} Edifar yw gennyf osod Saul yn frenhin: canys efe a ddychwelodd oddi ar fy ol i, ac ni chyflawnodd fy ngeiriau. A bu ddrwg gan Samuel; ac efe a lefodd ar yr {{sc|Arglwydd}} ar hyd y nos. {{angor|15:12|12}} A phan gyfododd Samuel yn fore i gyfarfod Saul, mynegwyd i Samuel, gan ddywedyd, Daeth Saul i Carmel; ac wele, efe a osododd iddo le, efe a amgylchodd hefyd, ac a dramwyodd, ac a aeth i waered i Gilgal. {{angor|15:13|13}} A Samuel a ddaeth at Saul. A Saul ddywedodd wrtho ef, Bendigedig ''fyddech'' di gan yr {{sc|Arglwydd}}: mi a gyflawnais air yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|15:14|14}} A dywedodd Samuel, Beth ynte ''yw'' brefiad y defaid hyn yn fy nghlustiau, a beichiad y gwartheg yr hwn yr ydwyf yn ei glywed? {{angor|15:15|15}} A Saul a ddywedodd, Oddi ar yr Amaleciaid y dygasant hwy: canys y bobl a arbedodd y defaid goreu, a’r ychain, i aberthu i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}; a’r rhan arall a ddifrodasom ni. {{angor|15:16|16}} Yna y dywedodd Samuel wrth Saul, Aros, a mi a fynegaf i ti yr hyn a lefarodd yr {{sc|Arglwydd}} wrth-<noinclude><references/></noinclude> 4a2t1lsvoo7if18ph6tisks7wp027ne Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/303 104 3555 171727 171586 2026-10-13T05:40:56Z Tylopous 3717 /* Wedi'i brawfddarllen */ 171727 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>yf fi neithiwr. Yntau a ddywedodd wrtho, Llefara. {{angor|15:17|17}} A Samuel a ddywedodd, Onid pan ''oeddit'' fychan yn dy oLwg dy hun, ''y gwnaed'' di yn ben ''ar'' lwythau Israel, ac yr enneiniodd yr {{sc|Arglwydd}} di yn frenhin ar Israel? {{angor|15:18|18}} A’r {{sc|Arglwydd}} a’th anfonodd di i daith, ac a ddywedodd, Dos, a difroda y pechaduriaid, yr Amaleciaid, ac ymladd i’w herbyn, nes eu difa hwynt. {{angor|15:19|19}} Paham gan hynny na wrandewaist ar lais yr {{sc|Arglwydd}}, eithr troaist at yr anrhaith, a gwnaethost ddrwg y’ngolwg yr {{sc|Arglwydd}}? {{angor|15:20|20}} A Saul a ddywedodd wrth Samuel, Yn wir mi a wrandewais ar lais yr {{sc|Arglwydd}}, ac a rodiais yn y ffordd y’m hanfonodd yr {{sc|Arglwydd}} ''iddi'', a dygais Agag brenhin Amalec, ac a ddifrodais yr Amaleciaid. {{angor|15:21|21}} Ond y bobl a gymmerth o’r yspail, ddefaid a gwartheg, blaenion y ddifrodaeth, i aberthu i’r {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}} yn Gilgal. {{angor|15:22|22}} A Samuel a ddywedodd, A ''yw'' ewyllys yr {{sc|Arglwydd}} ar boeth-offrymmau, neu ebyrth, megis ar wrandaw ar lais yr {{sc|Arglwydd}}? Wele, gwrandaw ''sydd'' well nag aberth; ''ac'' ufuddhâu, na brasder hyrddod. {{angor|15:23|23}} Canys anufudd-dod ''sydd fel'' pechod dewiniaeth; a throseddiad ''sydd'' anwiredd a delw-addoliaeth. O herwydd i ti fwrw ymaith air yr {{sc|Arglwydd}}, yntau a’th fwrw dithau ymaith o ''fod'' yn frenhin. {{angor|15:24|24}} ¶ A Saul a ddywedodd wrth Samuel, Pechais: canys troseddais air yr {{sc|Arglwydd}}, a’th eiriau dithau; o herwydd i mi ofni y bobl, a gwrandaw ar eu llais hwynt. {{angor|15:25|25}} Ond yn awr maddeu, attolwg, fy mhechod, a dychwel gyd â mi, fel yr addolwyf yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|15:26|26}} A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Ni ddychwelaf gyd â thi; canys bwriaist ymaith air yr {{sc|Arglwydd}}, a’r {{sc|Arglwydd}} a’th fwriodd dithau ymaith o fod yn frenhin ar Israel. {{angor|15:27|27}} A phan drodd Samuel i fyned ymaith, efe a ymaflodd y’nghwrr ei fantell ef; a hi a rwygodd. {{angor|15:28|28}} A Samuel a ddywedodd wrtho, Yr {{sc|Arglwydd}} a rwygodd frenhiniaeth Israel oddi wrthyt ti heddyw, ac a’i rhoddes i gymmydog i ti, gwell na thydi. {{angor|15:29|29}} A hefyd, Cadernid Israel ni ddywed gelwydd, ac nid edifarhâ: canys nid dyn ''yw'' efe, i edifarhâu. {{angor|15:30|30}} Yna y dywedodd ''Saul'', Pechais; anrhydedda fi, attolwg, yn awr ger bron henuriaid fy mhobl, a cher bron Israel, a dychwel gyd â mi, fel yr addolwyf yr {{sc|Arglwydd}} dy {{sc|Dduw}}. {{angor|15:31|31}} Felly Samuel a ddychwelodd ar ol Saul: a Saul a addolodd yr {{sc|Arglwydd}}. {{angor|15:32|32}} ¶ Yna y dywedodd Samuel, Cyrchwch attaf fi Agag brenhin yr Amaleciaid. Ac Agag a ddaeth atto ef yn hoyw. Ac Agag a ddywedodd, Chwerwder marwolaeth yn ddïau a aeth ymaith. {{angor|15:33|33}} A Samuel a ddywedodd, Fel y diblantodd dy gleddyf di wragedd, felly y diblentir dy fam dithau ym mysg gwragedd. A Samuel a ddarniodd Agag ger bron yr {{sc|Arglwydd}} yn Gilgal. {{angor|15:34|34}} ¶ Yna Samuel a aeth i Ramah; a Saul a aeth i fynu i’w dŷ yn Gibeah Saul. {{angor|15:35|35}} Ac nid ymwelodd Samuel mwyach â Saul hyd ddydd ei farwolaeth; ond Samuel a alarodd am Saul: ac edifar fu gan yr {{sc|Arglwydd}} osod Saul yn frenhin ar Israel. {{angor|Pennod_16}}{{c|{{uc|Pennod XVI}}.}} {{bach|1 ''Samuel, wedi ei ddanfon gan Dduw, dan rith aberthu, yn dyfod i Bethlehem.'' 6 ''Ceryddu ei farn ddynol ef.'' 13 ''Efe yn enneinio Dafydd.'' 19 ''Saul yn danfon am Dafydd i lonyddu ei yspryd drwg.''}} {{angor|16:1}} {{uc|A’r}} {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd wrth Samuel, Pa hyd y galeri di am Saul, gan i mi ei fwrw ef ymaith o deyrnasu ar Israel? Llanw dy gorn âg olew, a dos; mi a’th anfonaf di at Jesse y Bethlehemiad: canys ym mysg ei feibion ef y darperais i mi frenhin. {{angor|16:2|2}} A Samuel a ddywedodd, Pa fodd yr âf fi? os Saul a glyw, efe a’m lladd i. A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}}, Cymmer anner-fuwch gyd â thi, a dywed, Deuthum i aberthu i’r {{sc|Arglwydd}}. {{angor|16:3|3}} A galw Jesse i’r aberth, a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych: a thi a enneini i mi yr hwn a ddywedwyf wrthyt. {{angor|16:4|4}} A gwnaeth Samuel yr hyn a archasai yr {{sc|Arglwydd}}, ac a ddaeth i Bethlehem. A henuriaid y ddinas a ddychrynasant wrth gyfarfod âg ef; ac a ddywedasant, Ai heddychlawn dy ddyfodiad? {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 2muijp2tnorfe8v4ryw5tsaf8x55he7 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/350 104 3603 171732 171403 2026-10-13T06:11:37Z Tylopous 3717 angorau 171732 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>law yr ARGLWYDD? a phwy sydd graig, eithr -.ein Duw ni? {{angor|22:33|33}} Duw yw fy nghadernid a’m nerth; ac a rwyddhaodd fy ffordd i yn berffaith. {{angor|22:34|34}} Efe sydd yn gwneuthur fy nhraed fel traed ewigod; ac efe sydd yn fy ngosod ar fy uchelfaoedd. {{angor|22:35|35}} Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllir bwa dur yn fy mreichiau. {{angor|22:36|36}} Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; ac a’th fwynder y lluosogaist fi. | {{angor|22:37|37}} Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy sodlau. {{angor|22:38|38}} Erhdiais fy ngelynion, a difethais hwynt; ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt. {{angor|22:39|39}} Difeais hwynt hefyd, a thrywenais(jiwynt, fel na chyfodent; a hwy a syrthiasant dan fy nhraed i. {{angor|22:40|40}} Canys ti a’m gwregyiaist i nerth i .tyfel: y rhai a ymgyfodenti’m herbyn, a iddarostyngaist danaf. {{angor|22:41|41}} Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ‘ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion. i; {{angor|22:42|42}} Disgwyliasant, ond nid oedd achubydd; sef am yr ARGLWYDD, ond nid .Stebodd hwynt. {{angor|22:43|43}} Yna y maluriais hwynt fel llwch y ddaear; melais hwynt fel torn yr heolydd, a thaenais hwynt. {{angor|22:44|44}} Gwaredaist fi rhag cynhennau fy mhobl; cedwaist fi yn ben ar genhedloedd: pobl nid adnabum a’m gwasanaethant. {{angor|22:45|45}} Meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi: pan glywant, igwrandawant arnaf fi. {{angor|22:46|46}} Meibion dieithr a ballant, ac a ddychrynant o’u carchardai. " {{angor|22:47|47}} Byw fyddo yr ARGLWYDD, a bendigedig fyddo fy nghraig; a dyrchafer Duw, craig fy iachawdwriaeth. {{angor|22:48|48}} Duw sydd yn fy nial i, ac sydd yn darostwng pobloedd danaf fi, {{angor|22:49|49}} Ac sydd yn fy nhywys i o blith fy ngelynion: ti hefyd a’m dyrchefaist uwchlaw y rhai a gyfodent i’m herbyn, rhag y gŵr traws y’m hachubaist i. {{angor|22:50|50}} Am hynny y moliannaf di, O AR¬GLWYDD, ymhiith y cenhedloedd, ac y canaf i’th enw. {{angor|22:51|51}} Efe sydd dwr iachawdwriaeth i’w frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog, i Dafydd, ac i’w had yn dragy-wydd. {{angor|Pennod_23}}{{c|{{uc|Pennod XXIII}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn ei eiriau diweddaf yn dangos fod ei ffydd ef yn addewidion Duw tu hwnt i bob deall dynol.'' 6 ''Anghyffelyb gyflwr yr annuwiol.'' 8 ''Enwau cedyrn Dafydd.''}} {{angor|23:1}} {{uc|Dyma}} eiriau diwethaf Dafydd. Dy-wedodd Dafydd mab Jesse, a dywedodd y gŵr a osodwyd yn uchel, eneiniog Duw Jacob, a pheraidd gamedydd Israel, {{angor|23:2|2}} Ysbryd yr ARGLWYDD a lefarodd ynof fi, a’i ymadrodd ef oedd ar fy nhafod. {{angor|23:3|3}} Duw Israel a ddywedodd wrthyflfi, Craig Israel a. .ddywedodd, ByddeA llywodraethwr ar ddynion yn gyfiawn, yn llywodraethu mewn i?fn Duw: {{angor|23:4|4}} Ac efe a fydd fel y bore-oleuni, pan gyfodo haul foregwaith heb gymylau: fel eginyn a dyf o’r ddaear, gan lewyrchiad yn ôl glaw. {{angor|23:5|5}} Er nad yw fy nhŷ i felly gyda Duw; eto cyfamod tragwyddol a wnaeth efe a mi, wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr; canys fy holl iachawdwriaeth, a’m holl ddymuniad yw, er nad yw yn peri iddo flaguro. {{angor|23:6|6}} A’r anwir fyddant oll fel drain wedi eu bwrw heibio: canys mewn llaw nis cymerir hwynt. {{angor|23:7|7}} Ond y gŵr a gyffyrddo a hwynt a ddiffynnir a haearn, ac a phaladr gwayw-ffon; ac â thân y llosgir hwynt yn eu lle. {{angor|23:8|8}} Dyma enwau y cedyrn oedd gan Dafydd. Y Tachmoniad a eisteddai yn y gadair, yn bennaeth y tywysogion; hwnnw oedd Adino yr Esniad: efe a ruthrodd yn erbyn wyth cant, y rhai a laddodd efe ar unwaith. {{angor|23:9|9}} Ac ar ei ôl ef yr oedd Eleasar mab Dodo, mab Ahohi, ymhiith y tri chadarn, gyda Dafydd, pan ddifenwasant hwy y Philistiaid a ymgynullasent yno i ryfel, a phan aeth gwŷr Israel ymaith. {{angor|23:10|10}} Efe a gyfododd, ac a drawodd ar y Philistiaid, nes diffygio ei law ef a glynu o’i law ef wrth y cleddyf: a’r ARGLWYDD a wnaeth iachawdwriaeth mawr y diwrnod hwnnw; a’r bobl a ddychwelasant ar ei ôl ef yn unig i anrheithio. {{angor|23:11|11}} Ac ar ei ôl ef yr oedd Samma mab Age yr Harariad. A’r Philistiaid a ymgyn¬ullasent yn dorf; ac yr oedd yno ran o’r maes yn llawn o ffacbys: a’r bobl a ffodd o flaen y Philistiaid. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> lnnktwpe7fdf9l4z1tdsywvnz332jm2 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/351 104 3604 171733 171404 2026-10-13T06:13:47Z Tylopous 3717 angorau 171733 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|23:12|12}} Ond efe a safodd yng nghanol y rhandir, ac a’i hachubodd, ac a laddodd y Philisitiaid. Felly y gwnaeth yr AR¬GLWYDD ymwared mawr. {{angor|23:13|13}} A thri o’r deg pemiaeth ar hugain a ddisgynasant, ac a ddaethant y cynhaeaf at Dafydd i ogof Adulam: a thorf y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Refiaim., {{angor|23:14|14}} A Dafydd oedd yna mewn amddi- ffynfa: a sefyllfa y Philistiqid ydoedd yna yn Bethlehem. {{angor|23:15|15}} A blysiodd Dafydd, a dywedodd, Pwy a’m dioda i a dwfr o bydew Bethle¬hem, yr hwn sydd wrth y porth? {{angor|23:16|16}} A’r tri chadarn a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwft o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a’i cymerasant hefyd, ac a’i dygasant at Dafydd: ond ni fynnai efe ei yfed, eithr efe a’i diodoffrymodd ef i’r ARGLWYDD; {{angor|23:17|17}} Ac a ddywedodd, Na ato yr AR¬GLWYDD i mi wneuthur hyn; onid gwaed y gwŷr a aethant mewn enbydrwydd am eu heinioes yw hwn? Am hynny ni fynnai efe ei yfed. Hyn a wnaeth y tri chadarn hynny. {{angor|23:18|18}} Ac Abisai brawd Joab, mab Serfia, oedd bennaf o’r tri. Ac efe a gyfododd ei waywffon yn erbyn tri chant, ac a’u lladdodd hwynt: ac iddo ef yr oedd yr enw ymhiith y tri. {{angor|23:19|19}} Onid anrhydeddusaf oedd efe o’r tri? a bu iddynt yn dywysog: eto ni’ chyrhaeddodd efe y tri chyntaf. {{angor|23:20|20}} A Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, aml ei weithredoedd, efe a laddodd ddau o gedyrn Moab: ac efe a aeth i waered, ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira. {{angor|23:21|21}} Ac efe a drawodd Eifftddyn, gŵr golygus o faint: ac yn llaw yr Eifftiad yr oedd gwaywffon; eithr efe a ddaeth i waered ato ef a ffon, ac a ddug y wayw¬ffon o law yr Eifftiad, ac a’i lladdodd ef a’i waywffon ei hun. {{angor|23:22|22}} Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada: ac iddo yr oedd yr enw ymhiith y tri chadarn. {{angor|23:23|23}} Anrhydeddusach oedd na’r deg ar hugain; ond ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf: a Dafydd a’i gosododd ef ar ei wŷr o gard. {{angor|23:24|24}} Asahel brawd Joab oedd un o’r’ deg ar hugain; Elhanan mab Dodo y Bethlehemiad, {{angor|23:25|25}} Samma yr Harodiad, Elica yr Harodiad, {{angor|23:26|26}} Heles y Pa&iad, Ira mab Icces y Tecoiad, {{angor|23:27|27}} Abieser yr Anathuthiad, Mebunnflii;’ yr Husaihiad, {{angor|23:28|28}} Salmon yr Ahohiad, Maharai y Netoffathiad, {{angor|23:29|29}} Heleb mab Baana y Netoffathiad, Ittai mab Ribai o Gibea meibion Ben¬jamin, {{angor|23:30|30}} Benaia y’Pirathoniad, Hidai o afonydd Gaas, {{angor|23:31|31}} Abi-alboa yr Arbathiad, AsmafetB y Barhumiad, {{angor|23:32|32}} Eliahba y Saalboniafl; o feibion Jasen, Jonathan, {{angor|23:33|33}} Samma yr Harariad, Ahiam mab. Sarar yr Harariad, {{angor|23:34|34}} Eliffelet mab Ahasbai, mab y Maachathiad, Eliam mab Ahitoffel y Giloniad, {{angor|23:35|35}} Hesrat y Carmeliad . Paarai yr Arbiad, {{angor|23:36|36}} Igal mab Nathan o Soba, Bani y Gadiad, {{angor|23:37|37}} Selec yr Ammoniad, Naharai y Beerothiad yn dwyn arfau Joab mab Serfia, {{angor|23:38|38}} Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad, {{angor|23:39|39}} Ureias yr Hethiad: dau ar bymtheg ar hugain o gwbl. {{angor|Pennod_24}}{{c|{{uc|Pennod XXIV}}.}} {{bach|1 ''Satan yn temtio Dafydd, ac yntau yn gyrru Joab i rifo y bobl.'' 5 ''Y capteniaid, ym mhen y raw mis a’r ugain niwrnod, yn dwyn cyfrif o dri chàn mil ar ddeg o ryfelwyr.'' 10 ''Dafydd yn cael ei ddewis o dri pla; ac yn dewis tridiau o’r nodau:'' 15 ''ac wedi lladd deng mil a thri ugain o’r bobl, yn edifarhâu, ac wrth hynny yn achub dinystr Jerusalem.'' 18 ''Dafydd, trwy gynghor Gad, yn prynu llawr-dyrnu Arafnah; a’r pla yn peidio, wedi iddo ef aberthu.''}} {{angor|24:1}} {{uc|A thrachefn}} dicllonedd yr AR¬GLWYDD a enynnodd yn erbyn Israel; ac efe a anogodd Dafydd yn ett herbyn hwynt, i ddywedyd, DOS, cyfrift Israel a Jwda. {{angor|24:2|2}} Canys y brenin a ddywedodd wrth’ Joab tywysog y llu oedd ganddo ef, DOS’ yn awr trwy holl lwythau Israel, o Dan’: hyd Beer-seba, a chyfrif y bobl, fel y gwypwyf rifedi y bobl. {{angor|24:3|3}} A Joab a ddywedodd wrth y brenin, Yr ARGLWYDD dy DDUW a chwanego y" bobl yn gan cymaint ag y maent, fel y gwelo llygaid fy arglwydd frenin: on4< paham yr ewyllysia fy arglwydd frenin y.peth hyn? {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 4wp8nzlx7qtw7364gjf7fwit9z7ic2o Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/352 104 3605 171734 6793 2026-10-13T06:15:32Z Tylopous 3717 angorau 171734 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|24:4|4}} A gair y brenin fu drech na Joab, ac na thywysogion y llu. Joab am hynny a aeth allan, a thywysogion y llu, o ŵydd y brenin, i gyfrif pobl Israel. {{angor|24:5|5}} A hwy a aethant dros yr Iorddonen, 1 ac a wersyllasant yn Aroer, o’r tu deau i’r ddinas sydd yng nghanol dyffryn Gad, ar yr ARGLWYDD y drwg hwn, ac a ddy a thua Jaser. wedodd wrth yr angel oedd yn dinistrig n ??? - wlad y bobl, Dieon hellarh- of"‘ f" ‘—-a thua Jaser. {{angor|24:6|6}} Yna y daethant i Gilead, ac i wiaa Tshtim-hodsi; daethant hefyd i Danjaan, ac o amgylch i Sidon; {{angor|24:7|7}} Daethant hefyd i amddiffynfa Tyrus, ac i holl ddinasoedd yr Hefiaid, a’r Ganaaneaid; a hwy a aethant i du deau Jwda, i Beer-seba. {{angor|24:8|8}} Felly y cylchynasarit yr holl wlad, ac a ddaethant ymhen naw mis ac ugain niwrnod i Jerwsalem. {{angor|24:9|9}} A rhoddes Joab nifer cyfrif y bobl at y brenin: ac Israel ydoedd wyth gan mil o wyr grymus yn tynnu cleddyf; a gwŷr Jwda oedd bûm can mil o wŷr, ap {{angor|24:10|10}} A chalon Dafydd a’i trawodd ef, ar ôl iddo gyfrif y bobl. A dywedodd Dafydd wrth yr ARGLWYDD, Pechais yn ddirfawr yn yr hyn a wneuthum: ac yn awr dilea, atolwg, O ARGLWYDD, anwiredd dy was, canys ynfyd iawn y gwneuthum. {{angor|24:11|11}} A phan gyfododd Dafydd y bore, daeth. gair yr ARGLWYDD at Gad y proff-wyd, gweledydd Dafydd, gan ddywedyd, {{angor|24:12|12}} DOS a dywed wrth Dafydd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Yr ydwyf fi yn gosod tri pheth o’th flaen di; dewis i ti;un ohonynt, a gwnaf hynny i ti. {{angor|24:13|13}} Felly Gad a ddaeth at Dafydd, ac a fynegodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, A fynni ddyfod i ti saith mlynedd o" newyn yn dy wlad? neu ffoi dri mis o flaen dy elynion, a hwy yn dy erlid? ai ynteu bod haint yn y wlad dri diwrnod? Yn awr ymgynghora, ac edrych pa beth a atebaf i’r hwn a’m hanfonodd i., {{angor|24:14|14}} A dywedodd Dafydd wrth Gad, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi: bid i mi syrthio yn awr yn llaw yr ARGLWYDD, canys arni yw ei drugareddau ef, ac na chwympwyf yn llaw dyn. {{angor|24:15|15}} Yna y rhoddes yl ARGLWYDD haint yn Israel, o’r bore hyd yr amser nodedig: a bu farw o’r bobl, o .Dan hyd Beer-seba ddeng mil a thrigain o wŷr. {{angor|24:16|16}} A phan estynasai yr angel ei law at Jerwsalem i’w dinistrio hi, edifarhaodd v«uu fii uumyi-no y bobl, Digon bellach: atal dy law. Ac angel yr ARGLWYDD oedd wrth lawr dyrnu Arafna y Jebusiad. {{angor|24:17|17}} A llefarodd Dafydd wrth yr AR¬GLWYDD, pan ganfu efe yr angel a drawsai y bobl, a dywedodd, Wele, myfi a bechais, ac a wneuthum yn ddrygionus: ond y defaid byn, beth a wnaethant hwy? bydded, atolwg, dy law arnaf fi, ac ar dy fy nhad, {{angor|24:18|18}} A Gad a ddaeth at Dafydd y dwthwn hwnnw, ac a ddywedodd wrtho, DOS i fyny, cyfod allor i’r ARGLWYDD yn llawr dyrnu Arafna y Jebusiad.; {{angor|24:19|19}} A Dafydd a aeth i fyny, yn ôl gair Gad, fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD. {{angor|24:20|20}} Ac Arafna a edrychodd, ac a ganfu y brenin a’i weision yn dyfod tuag ato. Ac Arafna a aeth allan, ac a ostyngodd ei wyneb i lawr gerbron y brenin. {{angor|24:21|21}} Ac Arafna a ddywedodd, Paham y daeth fy arglwydd frenin at ei was? A dywedodd Dafydd, I brynu gennyt ti y llawr dyrnu, i adeiladu allor i’r ARGLWYDD, fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl. {{angor|24:22|22}} A dywedodd Arafna wrth Dafydd, Cymered, ac offrymed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg: wele yr ychen yn boethoffrwm, a’r ffustiau ac offer yr ychen yn lle cynnud.: {{angor|24:23|23}} Hyn oll a roddodd Arafna, megis brenin, i’r brenin. A dywedodd Arafna wrth y brenin, Yr ARGLWYDD dy DDUW . a fyddo bodlon i ti. {{angor|24:24|24}} A dywedodd y brenin wrth Arafna, Nage; eithr gan brynu y prynaf efmewn ‘ pris gennyt: ac nid offrymaf i’r AR¬GLWYDD fy Nuw boethoffrymau rhad. Felly Dafydd a brynodd y llawr dyrnu a’r ychen, er deg a deugain o siclau arian. {{angor|24:25|25}} Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i’r ARGLWYDD, ac a offrymodd boeth¬offrymau ac offrymau hedd. A’r AR¬GLWYDD a gymododd a’r wlad, a’r pla a ataliwyd oddi wrth Israel.<noinclude><references/></noinclude> 6mtzm52dy5jhax508197i2dcdsicypp Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/353 104 3606 171735 171405 2026-10-13T06:17:05Z Tylopous 3717 angorau 171735 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr cyntaf y brenhinoedd;}}}}<br> {{sc|yr hwn a elwir hefyd,}}<br> {{uc|Trydydd llyfr y brenhinoedd.}}}} {{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}} {{bach|1 ''Abisag yn ymgeleddu Dafydd.'' 5 ''Adonïah, anwylyd Dafydd, yn ei wneuthur ei hun yn frenhin.'' 11 ''Nathan yn cynghori'' 15 ''i Bathseba ddywedyd i’r brenhin,'' 22 ''ac yn dywedyd gyd â hi.'' 28 ''Dafydd yn adnewyddu ei lw i Bathseba.'' 32 ''Sadoc a Nathan, trwy archiad Dafydd, yn enneinio Solomon yn frenhin; a’r bobl yn gorfoleddu.'' 41 ''Jonathan yn adrodd hynny, a gwahoddedigion Adonïah yn ffoi.'' 50 ''Adonïah yn cymmeryd noddfa wrth gyrn yr allor; a than ammod, yn cael ei ollwng yn rhydd.''}} {{angor|1:1}} {{uc|A’r}} brenin Dafydd oedd hen, ac a aethai mewn oedran; er iddynt ei anhuddo ef mewn dillad, eto ni chynhesai efe. {{angor|1:2|2}} Am hynny ei weision a ddywedasant wrtho, Ceisier i’m harglwydd frenin lances o forwyn; a safed hi o flaen y brenin, a bydded yn gwneuthur ymgeledd iddo, a gorwedded yn dy fynwes, fel y gwresogo fy arglwydd frenin. {{angor|1:3|3}} A hwy a geisiasant lances deg trwy holl fro Israel, ac a gawsant Abisag y Sunamees, ac a’i dygasant hi at y brenin. {{angor|1:4|4}} A’r llances oedd deg iawn, ac oedd yn ymgeleddu’r brenin, ac yn ei wasanaethu ef: ond ni bu i’r brenin a wnaeth â hi. {{angor|1:5|5}} Ac Adoneia mab Haggith a ymddyrchafodd, gan ddywedyd, Myfi a fyddaf frenin: ac efe a ddarparodd iddo gerbydau a gwŷr meirch, a dengwr a deugain i redeg o’i flaen. {{angor|1:6|6}} A’i dad nid anfodlonasai ef yn ei ddyddiau, gan ddywedyd, Paham y gwnaethost fel hyn? yntau hefyd oedd deg iawn o bryd; ac efe a anesid wedi Absalom. {{angor|1:7|7}} Ac o’i gyfrinach y gwnaeth efe Joab mab Serfia, ac Ahiathar yr offeiriad: a hwy a gynorthwyasant ar ôl Adoneia. {{angor|1:8|8}} Ond Sadoc yr offeiriad, a Benaia mab Jehoiada, a Nathan y proffwyd, a Simei, a Rei, a’r gwŷr cedyrn a fuasai gyda Dafydd, nid oeddynt gydag Adoneia. {{angor|1:9|9}} Ac Adoneia a laddodd ddefaid, a gwartheg, a phasgedigion, wrth faen Soheleth, yr hwn sydd wrth En-rogel, ac a wahoddodd ei holl frodyr meibion y brenin, a holl wŷr Jwda gweision y brenin. {{angor|1:10|10}} Ond Nathan y proffwyd, a Benaia, a’r gwŷr cedyrn, a Solomon ei frawd, ni wahoddodd efe. {{angor|1:11|11}} Am hynny y dywedodd Nathan wrth Bathseba mam Solomon, gan ddy¬wedyd, Oni chlywaist ti fod Adoneia mab Haggith yn teyrnasu, a’n harglwydd Dafydd heb wybod hynny? {{angor|1:12|12}} Tyred gan hynny yn awr, atolwg, rhoddaf i ti gyngor, fel yr achubych dy einioes dy hun, ac einioes Solomon dy fab, {{angor|1:13|13}} Dos, a cherdda i mewn at y brenin Dafydd, a dywed wrtho, Oni thyngaist ti, fy arglwydd frenin, wrth dy wasanaethwraig, gan ddywedyd, Solomon dy fab di a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i? paham gan hynny y mae Adoneia yn teyrnasu? {{angor|1:14|14}} Wele, tra fyddych yno eto yn llefaru wrth y brenin, minnau a ddeuaf i mewn ar dy ôl di, ac a sicrhaf dy eiriau di. {{angor|1:15|15}} A Bathseba a aeth i mewn at y brenin, i’r ystafell. A’r brenin oedd hen iawn; ac Abisag y Sunamees oedd yn gwasanaethu’r brenin. {{angor|1:16|16}} A Bathseba a ostyngodd ei phen, ac a ymgrymodd i’r brenin. A’r brenin a ddywedodd, Beth a fynni di? {{angor|1:17|17}} Hithau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd, ti a dyngaist i’r ARGLWYDD dy DDUW wrth dy wasanaethyddes, gan ddywedyd, Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i: {{angor|1:18|18}} Ac yn awr, wele, Adoneia sydd frenin; ac yr awr hon, fy arglwydd frenin, nis gwyddost ti hyn. {{angor|1:19|19}} Ac efe a laddodd wartheg, ac anifeiliaid breision, a defaid lawer iawn, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, ac Abiathar yr offeiriad, a Joab tywysog y filwriaeth: ond dy was Solomon ni wahoddodd efe. {{angor|1:20|20}} Tithau, fy arglwydd frenhin, y<noinclude><references/></noinclude> jk7h4icy283elik9uzoxwhpxsqrrwah Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/577 104 3841 171728 7123 2026-10-13T05:53:11Z Tylopous 3717 penodau 171728 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>51:9 Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau, a dilea fy holl anwireddau. 51:10 Crea galon lân ynof, O DDUW; ac adnewydda ysbryd uniawn o’m mewn. 51:11 Na fwrw fi ymaith oddi ger dy fron; ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddi wrthyf. 51:12 Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth; ac â’th hael ysbryd cynnal fi. 51:13 Yna y dysgaf dy ffyrdd i rai anwir; a phechaduriaid a droir atat. 51:14 Gwared fi oddi wrth waed, O DDUW, DUW fy iachawdwriaeth: a’m tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder. 51:15 ARGLWYDD, agor fy ngwefusau, a’m genau a fynega dy foliant. 51:16 Canys ni chwenychi aberth; pe amgen, mi a’i rhoddwn: poethoffrwm ni fynni. 51:17 Aberthau DUW ydynt ysbryd drylliedig: calon ddrylliog gystuddiedig, O DDUW, ni ddirmygi. 51:18 Gwna ddaioni yn dy ewyllysgarwch i Seion: adeilada furiau Jerusalem. 51:19 Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder, i boethoffrwm ac aberth llosg: yna yr offrymant fustych ar dy allor. {{angor|Psalm_52}}{{c|{{uc|Psalm LII}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn barnu ar goegni Döeg, ac yn prophwydo ei ddinystr ef,'' 6 ''ac y llawenhâ y cyfiawn o’i blegid.'' 8 ''Dafydd, o’i hyder ar drugaredd Duw, yn rhoddi dïolch.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, Maschil, ''Psalm'' Dafydd, pan ddaeth Döeg yr Edomiad a mynegi i Saul, a dywedyd wrtho, Daeth Dafydd i dŷ Ahimelech.}}}} {{angor|52:1}} {{uc|Paham}} yr ymffrosti mewn drygioni, O gadarn? y mae trugaredd DUW yn parhau yn wastadol. 52:2 Dy dafod a ddychymyg ysgelerder; fel ellyn llym, yn gwneuthur twyll. 52:3 Hoffaist ddrygioni yn fwy na daioni; a chelwydd yn fwy na thraethu cyflawnder. Sela. 52:4 Hoffaist bob geiriau distryw, O dafod twyllodrus. 52:5 DUW a’th ddistrywia dithau yn dragywydd: efe a’th gipia di ymaith, ac a’th dynn allan o’th babell, ac a’th ddiwreiddia o dir y rhai byw. Sela. 52:6 Y cyfiawn hefyd a welant, ac a ofnant, ac a chwarddant am ei ben. 52:7 Wele y gŵr ni osododd DDUW yn gadernid iddo; eithr ymddiriedodd yn lluosowgrwydd ei olud, ac a ymnerthodd yn ei ddrygioni. 52:8 Ond myfi sydd fel olewydden werdd yn nhŷ DDUW: ymddiriedaf yn nhrugaredd DUW byth ac yn dragywydd. 52:9 Clodforaf di yn dragywydd, oherwydd i ti wneuthur hyn: a disgwyliaf wrth dy enw; canys da yw gerbron dy saint. {{angor|Psalm_53}}{{c|{{uc|Psalm LIII}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn gosod allan lygredigaeth dyn naturiol;'' 4 ''yn argyhoeddi yr annuwiol wrth oleuni eu cydwybod eu hun;'' 6 ''yn ymogoneddu yn iachawdwriaeth Duw.''}} {{canoli|{{bach|I'r Pencerdd ar y Mahalath, Maschil, ''Psalm'' Dafydd.}}}} {{angor|53:1}} {{uc|Dywedodd}} yr ynfyd yn ei galon, Nid oes un Duw. Ymlygrasant, a gwnaethant ffiaidd anwiredd: nid oes un yn gwneuthur daioni. 53:2 Edrychodd Duw i lawr o'r nefoedd ar feibion dynion, i edrych a oedd neb yn ddeallus, ac yn ceisio Duw. 53:3 Ciliasai pob un ohonynt yn wysg ei gefn: cydymddifwynasent; nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un. 53:4 Oni ŵyr gweithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl, fel y bwytaent fara: ni alwasant ar DDUW. 53:5 Yno yr ofnasant gan ofn, lle nid oedd ofn: canys DUW a wasgarodd esgyrn yr hwn a'th warchaeodd: gwdradwyddaist hwynt am i DDUW eu dirmygu hwy. 53:6 O na roddid iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ymchwelo Duw gaethiwed ei bobl, y llawenycha Jacob, ac yr ymhyfryda Israel. {{angor|Psalm_54}}{{c|{{uc|Psalm LIV}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn cwyno rhag y Ziphiaid, ac yn gweddïo am iachawdwrieth:'' 4 ''ac, o hyder ar gymmorth Duw yn addaw aberth.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, ''Psalm'' Dafydd, pan ddaeth y Ziphiaid a dywedyd wrth Saul, Onid ydyw Dafydd yn ymguddio gyd â ni?}}}} {{angor|54:1}} {{uc|Achub}} fi, O DDUW, yn dy enw; a barn fi yn dy gadernid. 54:2 DUW, clyw fy ngweddi; gwrando ymadrodd fy ngenau. 54:3 Canys dieithriaid a gyfodasant i’m herbyn, a’r trawsion a geisiant fy enaid: ni osodasant DDUW o’u blaen. Sela. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> thd7n97i35dq685rexmk6w71w35iuz1 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/578 104 3842 171729 7124 2026-10-13T05:57:30Z Tylopous 3717 penodau 171729 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>54:4 Wele, DUW sydd yn fy nghynorthwyo: yr Arglwydd sydd ymysg y rhai a gynhaliant fy enaid. 54:5 Efe a ddâl ddrwg i’m gelynion: tor hwynt ymaith yn dy wirionedd. 54:6 Aberthaf i ti yn ewyllysgar: clodforaf dy enw, O ARGLWYDD; canys da yw. 54:7 Canys efe a’m gwaredodd o bob trallod; a’m llygad a welodd ei ewyllys ar fy ngelynion. {{angor|Psalm_55}}{{c|{{uc|Psalm LV}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn ei weddi yn cwyno ei gyflwr erchyll:'' 9 ''yn gweddïo yn erbyn ei elynion, ac yn achwyn rhag eu hanwiredd a’u brad hwy:'' 16 ''yn ymgysuro, o herwydd nawdd Duw yn ei gadw, ac o herwydd gwaradwydd ei elynion.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, ''Psalm'' Dafydd.}}}} {{angor|55:1}} {{uc|Gwrando}} fy ngweddi, O DDUW; ac ymguddia rhag fy neisyfiad. 55:2 Gwrando arnaf, ac erglyw fi: cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan, 55:3 Gan lais y gelyn, gan orthrymder yr annuwiol: oherydd y maent yn bwrw arnaf, ac yn fy nghasáu yn llidiog. 55:4 Fy nghalon a ofidia o’m mewn: ac ofn angau a syrthiodd arnaf. 55:5 Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf, a dychryn a’m gorchuddiodd. 55:6 A dywedais, O na bai i mi adenydd fel colomen! yna yr ehedwn ymaith, ac y gorffwyswn. 55:7 Wele, crwydrwn ymhell, ac arhoswn yn yr anialwch. Sela. 55:8 Brysiwn i ddianc, rhag y gwynt ystormus a’r dymestl. 55:9 Dinistria, O ARGLWYDD, a gwahan eu tafodau: canys gwelais drawster a chynnen yn y ddinas. 55:10 Dydd a nos yr amgylchant hi ar ei muriau: ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi. 55:11 Anwireddau sydd yn ei chanol hi; ac ni chilia twyll a dichell o’i heolydd hi. 55:12 Canys nid gelyn a’m difenwodd; yna y dioddefaswn: nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i’m herbyn; yna mi a ymguddiasiwn rhagddo ef: 55:13 Eithr tydi, ddyn, fy nghydradd, fy fforddwr, a’m cydnabod, 55:14 Y rhai oedd felys gennym gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dŷ DDUW ynghyd. 55:15 Rhuthred marwolaeth arnynt, a disgynnant i uffern yn fyw: canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg. 55:16 Myfi a waeddaf ar DDUW; a’r ARGLWYDD a’m hachub i. 55:17 Hwyr a bore, a hanner dydd, y gweddïaf, a byddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd. 55:18 Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel oedd i’m herbyn: canys yr oedd llawer gyda mi. 55:19 DUW a glyw, ac a’u darostwng hwynt, yr hwn sydd yn aros erioed: Sela: am nad oes gyfnewidiau iddynt, am hynny nid ofnant DDUW. 55:20 Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oedd heddychlon ag ef: efe a dorrodd ei gyfamod. 55:21 Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn, a rhyfel yn ei galon: tynerach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion. 55:22 Bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD, ac efe a’th gynnal di: ni ad i’r cyfiawn ysgogi byth. 55:23 Tithau, DDUW, a’u disgynni hwynt i bydew dinistr: gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau; ond myfi a obeithiaf ynot ti. {{angor|Psalm_56}}{{c|{{uc|Psalm LVI}}.}} {{bach|1 ''Dafydd, wrth weddïo Duw o hyder ar ei air, yn cwyno rhag ei elynion:'' 9 ''yn datgan ei ymddiried y’ngair Duw, ac yn addaw ei foliannu ef.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd ar Jonath-Elem-Rechocim, Michtam Dafydd, pan ddaliodd y Philistiaid ef yn Gath.}}}} {{angor|56:1}} {{uc|Trugarha}} wrthyf, O DDUW: canys a’m llyncai: beunydd, gan ymladd, y’m gorthryma. 56:2 Beunydd y’m llyncai fy ngelynion: canys llawer sydd yn rhyfela i’m herbyn, O DDUW Goruchaf. 56:3 Y dydd yr ofnwyf, mi a ymddiriedaf ynot ti. 56:4 Yn NUW y clodforaf ei air, yn NUW y gobeithiaf; nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi. 56:5 Beunydd y camgymerant fy ngeiriau: eu holl feddyliau sydd i’m herbyn er drwg. 56:6 Hwy a ymgasglant, a lechant, ac a wyliant fy nghamre, pan ddisgwyliant am fy enaid. 56:7 A ddihangant hwy trwy anwiredd? disgyn y bobloedd hyn, O DDUW, yn dy lidiowgrwydd. 56:8 Ti a gyfrifaist fy symmudiadau:<noinclude><references/></noinclude> 50pfp3515qpvux7dfwq9km4zx681ys6 Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/579 104 3843 171730 7125 2026-10-13T06:03:06Z Tylopous 3717 penodau 171730 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>dod fy nagrau yn dy gostrel: onid ydynt yn dy lyfr di? 56:9 Y dydd y llefwyf arnat, yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthol: hyn a wn; am fod DUW gyda mi. 56:10 Yn NUW y moliannaf ei air: yn yr ARGLWYDD y moliannaf ei air. 56:11 Yn NUW yr ymddiriedais: nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi. 56:12 Arnaf fi, O DDUW, y mae dy addunedau: talaf i ti foliant. 56:13 Canys gwaredaist fy enaid rhag angau: oni waredi fy nhraed rhag syrthio, fel y rhodiwyf gerbron DUW yng ngoleuni y rhai byw? {{angor|Psalm_57}}{{c|{{uc|Psalm LVII}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn cilio at Dduw trwy weddi, ac yn cwyno ei enbyd gyflwr;'' 7 ''yn ymgysuro i foliannu Duw.''}} {{canoli|{{bach|I'r Pencerdd, Al-taschith, Michtam Dafydd, pan ffodd rhag Saul i'r ogof.}}}} {{angor|57:1}} {{uc|Trugarha}} wrthyf, O DDUW, trugarha wrthyf: canys ynot y gobeithiodd fy enaid; ie, yng nghysgod dy adenydd y gobeithiaf, hyd onid êl yr aflwydd hwn heibio. 57:2 Galwaf ar DDUW Goruchaf; ar DDUW a gwblha â mi. 57:3 Efe a enfyn o'r nefoedd, ac a’m gwared oddi wrth warthrudd yr hwn a’m llyncai. Sela. Denfyn Duw ei drugaredd a’i wirionedd. 57:4 Fy enaid sydd ymysg llewod: gorwedd yr wyf ymysg dynion poethion, sef meibion dynion, y rhai y mae eu dannedd yn waywffyn a saethau, a'u tafod yn gleddyf llym. 57:5 Ymddyrcha, DDUW, uwch y nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear. 57:6 Darparasant rwyd i'm traed; crymwyd fy enaid; cloddiasant bydew o’m blaen; syrthiasant yn ei ganol. Sela. 57:7 Parod yw fy nghalon, O DDUW, parod yw fy nghalon: canaf a chanmolaf. 57:8 Deffro, fy ngogoniant; deffro, nabl a thelyn: deffroaf yn fore. 57:9 Clodforaf di, ARGLWYDD, ymysg bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd. 57:10 Canys mawr yw dy drugaredd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau. 57:11 Ymddyrcha, DDUW, uwch y nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr ddaear. {{angor|Psalm_58}}{{c|{{uc|Psalm LVIII}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn argyhoeddi barnwyr enwir;'' 3 ''yn dangos naturiaeth yr annuwiol;'' 6 ''ac yn ymrôi i farnedigaethau Duw,'' 10 ''y rhai a bâr i’r cyfiawn lawenychu.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, Al-taschith, Michtam Dafydd.}}}} {{angor|58:1}} {{uc|Ai}} cyfiawnder yn ddiau a draethwch chwi, O gynulleidfa? a fernwch uniondeb, O feibion dynion? 58:2 Anwiredd yn hytrach a weithredwch yn y galon: trawster eich dwylo yr ydych yn ei bwyso ar y ddaear. 58:3 O’r groth yr ymddieithriodd yr annuwiol: o’r bru y cyfeiliornasant, gan ddywedyd celwydd. 58:4 Eu gwenwyn sydd fel gwenwyn sarff: y maent fel y neidr fyddar yr hon a gae ei chlustiau; 58:5 Yr hon ni wrendy ar lais y rhinwyr, er cyfarwydded fyddo y swynwr. 58:6 Drylla, O DDUW, eu dannedd yn eu geneuau: tor, O ARGLWYDD, gilddannedd y llewod ieuainc. 58:7 Todder hwynt fel dyfroedd sydd yn rhedeg yn wastad: pan saetho eu saethau, byddant megis wedi eu torri. 58:8 Aed ymaith fel malwoden dawdd, neu erthyl gwraig; fel na welont yr haul. 58:9 Cyn i’ch crochanau glywed y mieri, efe a’u cymer hwynt ymaith megis â chorwynt, yn fyw, ac yn ei ddigofaint. 58:10 Y cyfiawn a lawenycha pan welo ddial: efe a ylch ei draed yng ngwaed yr annuwiol. 58:11 Fel y dywedo dyn, Diau fod ffrwyth i’r cyfiawn: diau fod DUW a farna ar y ddaear. {{angor|Psalm_59}}{{c|{{uc|Psalm LIX}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn gweddïo am gael ei wared oddi wrth ei elynion:'' 6 ''yn cwyno rhag eu creulondeb hwy:'' 9 ''yn ymddiried yn Nuw:'' 11 ''yn gweddïo yn eu herbyn hwy;'' 16 ''ac yn clodfori Duw.''}} {{canoli|{{bach|I’r pencerdd, Al-taschith, Michtam Dafydd, pan yrrodd Saul rai i gadw y tŷ i’w ladd ef.}}}} {{angor|59:1}} {{uc|Fy}} NUW, gwared fi oddi wrth fy ngelynion: amddiffyn fi oddi wrth y rhai a ymgyfodant i’m herbyn. 59:2 Gwared fi oddi wrth weithredwyr anwiredd, ac achub fi rhag y gwŷr gwaedlyd. 59:3 Canys wele, cynllwynasant yn erbyn fy enaid: ymgasglodd ced-<noinclude><references/></noinclude> cjy4t1188bsrv73gqutgrxj0mmiv6sj Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/580 104 3844 171731 7126 2026-10-13T06:08:07Z Tylopous 3717 penodau 171731 proofread-page text/x-wiki <noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>yrn i’m herbyn; nid ar fy mai na’m pechod i, O ARGLWYDD. 59:4 Rhedant, ymbaratoant, heb anwiredd ynof fi: deffro dithau i’m cymorth, ac edrych. 59:5 A thi, ARGLWYDD DDUW y lluoedd, DUW Israel, deffro i ymweled â’r holl genhedloedd: na thrugarha wrth neb a wnânt anwiredd yn faleisus. Sela. 59:6 Dychwelant gyda’r hwyr, cyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas. 59:7 Wele, bytheiriant â’u genau: cleddyfau sydd yn eu gwefusau: canys pwy, meddant, a glyw? 59:8 Ond tydi, O ARGLWYDD, a’u gwatweri hwynt; ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd. 59:9 Oherwydd ei nerth ef, y disgwyliaf wrthyt ti: canys DUW yw fy amddiffynfa. 59:10 Fy NUW trugarog a’m rhagflaena: DUW a wna i mi weled fy ewyllys ar fy ngelynion. 59:11 Na ladd hwynt, rhag i’m pobl anghofio: gwasgar hwynt yn dy nerth, a darostwng hwynt, O ARGLWYDD ein tarian. 59:12 Am bechod eu genau, ac ymadrodd eu gwefusau, dalier hwynt yn eu balchder: ac am y felltith a’r celwydd a draethant. 59:13 Difa hwynt yn dy lid, difa, fel na byddont: a gwybyddant mai DUW sydd yn llywodraethu yn Jacob, hyd eithafoedd y ddaear. Sela. 59:14 A dychwelant gyda’r hwyr, a chyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas. 59:15 Crwydrant am fwyd; ac onis digonir, grwgnachant. 59:16 Minnau a ganaf am dy nerth, ie, llafarganaf am dy drugaredd yn fore: canys buost yn amddiffynfa i mi, ac yn noddfa yn y dydd y bu cyfyngder arnaf. 59:17 I ti, fy nerth, y canaf; canys DUW yw fy amddiffynfa, a DUW fy nhrugaredd. {{angor|Psalm_60}}{{c|{{uc|Psalm LX}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn cwyno wrth Dduw am farnedigaethau o’r blaen o’r blaein:'' 4 ''ac yr awrhon, ar obaith gwell, yn gweddïo am ymwared:'' 6 ''yn ymgysuro yn addewidion Duw, ac yn deisyf cael yr help y rhoisai ei hyder arno.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd ar Susan-eduth, Michtam Dafydd, i ddysgu; pan ymladdodd yn erbyn Syriaid Mesopotamia, a Syriaid Sobah, pan ddychwelodd Joab, a lladd deuddeng mil o’r Edomiaid yn nyffryn yr halen.}}}} {{angor|60:1}} {{uc|O Dduw}}, bwriaist ni ymaith, gwasgeraist ni, a sorraist: dychwel atom drachefn. 60:2 Gwnaethost i’r ddaear grynu, a holltaist hi: iachâ ei briwiau; canys y mae yn crynu. 60:3 Dangosaist i’th bobl galedi: diodaist ni â gwin madrondod. 60:4 Rhoddaist faner i’r rhai a’th ofnant, i’w dyrchafu oherwydd y gwirionedd. Sela. 60:5 Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi. 60:6 DUW a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf: rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth. 60:7 Eiddof fi yw Gilead, ac eiddof fi Manasse: Effraim hefyd yw nerth fy mhen; Jwda yw fy neddfwr. 60:8 Moab yw fy nghrochan golchi; dros Edom y bwriaf fy esgid: Philistia, ymorfoledda di o’m plegid i. 60:9 Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn? pwy a’m harwain hyd yn Edom? 60:10 Onid tydi, DDUW, yr hwn a’n bwriaist ymaith? a thydi, O DDUW, yr hwn nid ait allan gyda’n lluoedd? 60:11 Moes i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys ofer yw ymwared dyn. 60:12 Yn NUW y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion. {{angor|Psalm_61}}{{c|{{uc|Psalm LXI}}.}} {{bach|1 ''Dafydd yn cilio at Dduw, wrth a brofasai o’r blaen;'' 4 ''ac yn addunedu ei wasanaethu ef yn wastadol, o herwydd ei addewidion.''}} {{canoli|{{bach|I’r Pencerdd ar Neginoth, ''Psalm'' Dafydd.}}}} {{angor|61:1}} {{uc|Clyw}}, O DDUW, fy llefain; gwrando ar fy ngweddi. 61:2 O eithaf y ddaear y llefaf atat, pan lesmeirio fy nghalon: arwain fi i graig a fyddo uwch na mi. 61:3 Canys buost yn noddfa i mi, ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn. 61:4 Preswyliaf yn dy babell byth: a’m hymddiried fydd dan orchudd dy adenydd. Sela. 61:5 Canys ti, DDUW, a llywaist fy addunedau: rhoddaist etifeddiaeth i’r rhai a ofnant dy enw. 61:6 Ti a estynni oes y Brenin; ei flynyddoedd fyddant fel cenedlaethau lawer. 61:7 Efe a erys byth gerbron DUW; darpar drugaredd a gwirionedd, fel y cadwont ef. 61:8 Felly y canmolaf dy enw yn dragywydd, fel y talwyf fy addunedau beunydd. {{nop}}<noinclude><references/></noinclude> 0ygcgdj0nqn0jft6zwynqphbfpqxpnt