Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.24
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/304
104
3556
171736
171587
2026-10-13T22:05:00Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171736
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|16:5|5}} Ac efe a ddywedodd, Heddychlawn: deuthum i aberthu i’r {{sc|Arglwydd}}: ymsancteiddiwch, a deuwch gyd â mi i’r aberth. Ac efe a sancteiddiodd Jesse a’i feibion, ac a’u galwodd hwynt i’r aberth.
{{angor|16:6|6}} ¶ A phan ddaethant, efe a edrychodd ar Elïab; ac a ddywedodd, Dïau ''fod'' enneiniog yr {{sc|Arglwydd}} ger ei fron ef.
{{angor|16:7|7}} A’r {{sc|Arglwydd}} a ddywedodd wrth Samuel, Nac edrych ar ei wynepryd ef, nac ar uchder ei gorpholaeth ef: canys gwrthodais ef. O herwydd nid ''edrych {{sc|Duw}}'' fel yr edrych dyn: canys dyn a edrych ar y golygiad; ond yr {{sc|Arglwydd}} a edrych ar y galon.
{{angor|16:8|8}} Yna Jesse a alwodd Abinadab, ac a barodd iddo ef fyned o flaen Samuel. A dywedodd yntau, Ni ddewisodd yr {{sc|Arglwydd}} hwn chwaith.
{{angor|16:9|9}} Yna y gwnaeth Jesse i Sammah ddyfod. A dywedodd yntau, Ni ddewisodd yr {{sc|Arglwydd}} hwn chwaith.
{{angor|16:10|10}} Yna y parodd Jesse i’w saith mab ddyfod ger bron Samuel. A Samuel a ddywedodd wrth Jesse, Ni ddewisodd yr {{sc|Arglwydd}} y rhai hyn.
{{angor|16:11|11}} Dywedodd Samuel hefyd wrth Jessei, Ai dyma ''dy'' holl blant? Yntau a ddywedodd, Yr ieuangaf etto sydd yn ol; ac wele, ''mae'' efe yn bugeilio y defaid. A dywedodd Samuel wrth Jesse, Danfon, a chyrch ef: canys nid eisteddwn ni i lawr nes ei ddyfod ef yma.
{{angor|16:12|12}} Ac efe a anfonodd, ac a’i cyrchodd ef. Ac efe ''oedd'' wridgoch, a theg yr olwg, a hardd o wedd. A dywedodd yr {{sc|Arglwydd}}, Cyfod, enneinia ef: canys dyma efe.
{{angor|16:13|13}} Yea y cymmerth Samuel gorn yr olew, ac a’i henneiniodd ef yng nghanol ei frodyr. A daeth yspryd yr {{sc|Arglwydd}} ar Dafydd, o’r dydd hwnnw allan. Yna Samuel a gyfododd, ac a aeth i Ramah.
{{angor|16:14|14}} ¶ Ond yspryd yr {{sc|Arglwydd}} a giliodd oddi wrth Saul; ac yspryd drwg oddi wrth yr {{sc|Arglwydd}} a’i blinodd ef.
{{angor|16:15|15}} A gweision Saul a ddywedasant wrtho ef, Wele yn awr, drwg yspryd oddi wrth {{sc|Dduw}} sydd yn dy flino di.
{{angor|16:16|16}} Dyweded, attolwg, ein meistr ni ''wrth'' dy weision ''sydd'' ger dy fron, ''am'' iddynt geisio gwr yn medru canu telyn: a bydd, pan ddelo drwg yspryd oddi wrth {{sc|Dduw}} arnat ti, yna iddo ef ganu â’i law; a da fydd i ti.
{{angor|16:17|17}} A dywedodd Saul wrth ei weision, Edrychwch yn awr i mi ''am'' wr yn medru canu yn dda, a dygwch ''ef'' attaf fi.
{{angor|16:18|18}} Ac un o’r llangciau a attebodd, ac a ddywedodd, Wele, gwelais fab i Jesse y Bethlehemiad, yn medru canu, ac yn rymmus ''o'' nerth, ac yn rhyfelwr, yn ddoeth o ymadrodd hefyd, ac yn wr lluniaidd; a’r {{sc|Arglwydd}} ''sydd'' gyd âg ef.
{{angor|16:19|19}} ¶ Yna yr anfonodd Saul genhadau at Jesse, ac a ddywedodd, Anfon attaf fi Dafydd dy fab, yr hwn ''sydd'' gyd â’r praidd.
{{angor|16:20|20}} A Jesse a gymmerth asyn ''llwythog'' o fara, a chostrelaid o win, a mỳn gafr, ac a’''u'' hanfonodd gyd â Dafydd ei fab at Saul.
{{angor|16:21|21}} A Dafydd a ddaeth at Saul, ac a safodd ger ei fron ef: yntau a’i hoffodd ef yn fawr; ac efe a aeth yn gludydd arfau iddo ef.
{{angor|16:22|22}} A Saul a anfonodd at Jesse, gan ddywedyd, Arhosed Dafydd, attolwg, ger fy mron i: canys efe a gafodd ffafr yn fy ngolwg.
{{angor|16:23|23}} A phan fyddai y ''drwg'' yspryd oddi wrth {{sc|Dduw}} ar Saul, y cymmerai Dafydd delyn, ac y canai â’i ddwylaw: a byddai esmwythdra i Saul; a da ''oedd hynny'' iddo, a’r yspryd drwg a giliai oddi wrtho.
{{angor|Pennod_17}}{{c|{{uc|Pennod XVII}}.}}
{{bach|1 ''Pan ydoedd lluoedd yr Israeliaid a’r Philistiaid yn barod i ymladd,'' 4 ''y mae Golïath yn dyfod allan yn rhyfygus, yn gofyn un i ymladd âg ef.'' 12 ''Dafydd, wedi i’w dad ei ddanfon ef i ymweled â’i frodyr, yn cynnyg ymladd âg ef.'' 28 ''Elïab yn ei ystwrdio ef.'' 30 ''Ei ddwyn ef ger bron Saul.'' 32 ''Yntau yn dangos yr achos yr oedd efe mor hyderus.'' 38 ''Y mae efe heb ddim arfau, ond ffydd, yn lladd y cawr.'' 55 ''Saul yn cymmeryd cydnabod o Dafydd.''}}
{{angor|17:1}} {{uc|Yna}} y Philistiaid a gasglasant eu byddinoedd i ryfel, ac a ymgynnullasant yn Sochoh, yr hon ''sydd'' yn Judah, ac a wersyllasant rhwng Sochoh ac Azecah, y’nghwrr Dammim.
{{angor|17:2|2}} Saul hefyd a gwŷr Israel a ymgasglasant, ac a wersyllasant yn nyffryn Elah, ac a drefnasant y fyddin i ryfel yn erbyn y Philistiaid.
{{angor|17:3|3}} A’r Philistiaid oedd yn sefyll ar fynydd o’r naill du, ac Israel yn sefyll ar fynydd o’r tu arall: a dyffryn ''oedd'' rhyngddynt.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
0xl4cvj6olemwqeafjuww42kzt4t4dq
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/305
104
3557
171737
171588
2026-10-14T05:18:30Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171737
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|17:4|4}} ¶ A daeth gwr rhyngddynt hwy allan o wersylloedd y Philistiaid, a’i enw Golïath, o Gath: ei uchder ''oedd'' chwe chufydd a rhychwant.
{{angor|17:5|5}} A helm o bres ar ei ben, a llurig emmog a wisgai: a phwys y llurig ''oedd'' bùm mil o siclau pres.
{{angor|17:6|6}} A bottasau pres ''oedd'' am ei draed ef, a tharian pres rhwng ei ysgwyddau.
{{angor|17:7|7}} A phaladr ei waywffon ef ''oedd'' fel carfan gwehydd; a blaen ei waywffon ef ''oedd'' chwe chàn sicl o haiarn: ac un yn dwyn tarian oedd yn myned o’i flaen ef.
{{angor|17:8|8}} Ac efe a safodd, ac a waeddodd ar fyddinoedd Israel, ac a ddywedodd wrthynt, I ba beth y deuwch i drefnu ''eich'' byddinoedd? Onid ''ydwyf'' fi Philistiad, a chwithau yn weision i Saul? dewiswch i chwi wr, i ddyfod i waered attaf fi.
{{angor|17:9|9}} Os gall efe ymladd â mi, a’m lladd i; yna y byddwn ni yn weision i chwi: ond os myfi a’i gorchfygaf ef, ac a’i lladdaf ef; yna y byddwch chwi yn weision i ni, ac y gwasanaethwch ni.
{{angor|17:10|10}} A’r Philistiad a ddywedodd, Myfi a waradwyddais fyddinoedd Israel y dydd hwn: moeswch attaf fi wr, fel yr ymladdom ynghyd.
{{angor|17:11|11}} Pan glybu Saul a holl Israel y geiriau hynny ''gan'' y Philistiad, yna y digalonnasant, ac yr ofnasant yn ddirfawr.
{{angor|17:12|12}} ¶ A’r Dafydd hwn ''oedd'' fab i Ephratëwr o Bethlehem Judah, a’i enw Jesse; ac iddo ef ''yr oedd'' wyth o feibion: a’r gwr yn nyddiau Saul a âi yn henafgwr ym mysg gwŷr.
{{angor|17:13|13}} A thri mab hynaf Jesse a aethant ''ac'' a ddilynasant ar ol Saul i’r rhyfel: ac enw ei dri mab ef, y rhai a aethant i’r rhyfel, ''oedd'' Elïab y cyntaf-anedig, ac Abinadab yr ail, a Sammah y trydydd.
{{angor|17:14|14}} A Dafydd ''oedd'' ieuangaf: a’r tri hynaf a aeth ar ol Saul.
{{angor|17:15|15}} Dafydd hefyd a aeth ac a ddychwelodd oddi wrth Saul, i fugeilio defaid ei dad yn Bethlehem.
{{angor|17:16|16}} A’r Philistiad a nesaodd fore a hwyr, ac a ymddangosodd ddeugain niwrnod.
{{angor|17:17|17}} A dywedodd Jesse wrth Dafydd ei fab, Cymmer yn awr i’th frodyr ephah o’r cras-''ŷd'' hwn, a’r deg torth hyn, ac ar redeg dwg ''hwynt'' i’r gwersyll at dy frodyr.
{{angor|17:18|18}} Dwg hefyd y deg cosyn ir hyn i dywysog y mil, ac ymwêl a’th frodyr a ydynt hwy yn iach, a gollwng ''yn rhydd'' eu gwysti hwynt.
{{angor|17:19|19}} Yna Saul, a hwythau, a holl wŷr Israel, ''oeddynt'' yn nyffryn Elah, yn ymladd a’r Philistiaid.
{{angor|17:20|20}} ¶ A Dafydd a gyfododd yn fore, ac a adawodd y defaid gyd â cheidwad, ac a gymmerth, ac a aeth, megis y gorchymynasai Jesse iddo ef; ac efe a ddaeth i’r gwersyll, a’r llu yn myned allan i’r gâd, ac yn bloeddio i’r frwydr.
{{angor|17:21|21}} Canys Israel a’r Philistiaid a ymfyddinasent, fyddin yn erbyn byddin.
{{angor|17:22|22}} A Dafydd a adawodd y mud oddi wrtho dan law ceidwad y dodrefn, ac a redodd i’r llu, ac a ddaeth, ac a gyfarchodd well i’w frodyr.
{{angor|17:23|23}} A thra yr oedd efe yn ymddiddan â hwynt, wele y gwr ''oedd yn sefyll'' rhwng y ddeu-lu, yn dyfod i fynu o fyddinoedd y Philistiaid, Golïath y Philistiad o Gath ''wrth'' ei enw, ac efe a ddywedodd yr un fath eiriau, fel y clybu Dafydd.
{{angor|17:24|24}} A holl wŷr Israel, pan welsant y gwr hwnnw, a ffoisant rhagddo ef, ac a ofnasant yn ddirfawr.
{{angor|17:25|25}} A dywedodd gwŷr Israel, Oni welsoch chwi y gwr hwn a ddaeth i fynu? dïau i waradwyddo Israel y mae yn dyfod i fynu: a’r gwr a’i lladdo ef, y brenhin a gyfoethoga hwnnw â chyfoeth mawr; ei ferch hefyd a rydd efe iddo ef; a thŷ ei dad ef a wna efe yn rhydd yn Israel.
{{angor|17:26|26}} A Dafydd a lefarodd wrth y gwŷr oedd yn sefyll yn ei ymyl, gan ddywedyd, Beth a wneir i’r gwr a laddo y Philistiad hwn, ac a dynno ymaith y gwaradwydd oddi ar Israel? canys pwy ''yw'' y Philistiad dïenwaededig hwn, pan waradwyddai efe fyddinoedd y {{sc|Duw}} byw?
{{angor|17:27|27}} A’r bobl a ddywedodd wrtho ef fel hyn, gan ddywedyd, Felly y gwneir i’r gwr a’i lladdo ef.
{{angor|17:28|28}} ¶ Ac Elïab, ei frawd hynaf, a’i clybu pan oedd efe yn ymddiddan â’r gwyr: a digter Elïab a ennynodd yn erbyn Dafydd; ac efe a ddywedodd, Paham y daethost i waered yma? a chyd â phwy y gadewaist yr ychydig ddefaid hynny yn yr anialwch? Myfi a adwaen dy falchder di, a drygioni dy galon: canys i weled y rhyfel y daethost ti i waered.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
k4ffdks3f4jm69xzi5e8xv6qxeicv0q
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/354
104
3607
171746
6797
2026-10-14T06:00:40Z
Tylopous
3717
angorau
171746
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>mae llygaid holl Israel arnat ti, am fynegi iddynt pwy a eistedd ar orseddfainc fy arglwydd y brenin ar ei ôl ef.
{{angor|1:21|21}} Os amgen, pan orweddo fy ar¬glwydd frenin gyda’i dadau, yna y cyfrifir fi a’m mab Solomon yn bechoduriaid.
{{angor|1:22|22}} Ac wele, tra yr oedd hi eto yn ymddiddan â’r brenin, y daeth Nathan y proffwyd hefyd i mewn.
{{angor|1:23|23}} A hwy a fynegasant i’r brenin, gan ddywedyd, Wele Nathan y proffwyd. Ac efe a aeth i mewn o flaen y brenin, ac a ymgrymodd i’r brenin â’i wyneb hyd lawr.
{{angor|1:24|24}} A dywedodd Nathan, Fy arglwydd frenin, a ddywedaist ti, Adoneia a deyrnasa ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc?
{{angor|1:25|25}} Canys efe a aeth i waered heddiw, ac a laddodd ychen, ac anifeiliaid breision, a defaid lawer, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, a thywysogion y filwriaeth, ac Abiathar yr offeiriad; ac wele hwynt yn bwyta ac yn yfed o’i flaen ef, ac y maent yn dywedyd, Bydded fyw y brenin Adoneia.
{{angor|1:26|26}} Ond myfi dy was, a Sadoc yr offeir¬iad, a Benaia mab Jehoiada, a’th was Solomon, ni wahoddodd efe.
{{angor|1:27|27}} Ai trwy fy arglwydd frenin y bu y peth hyn, heb ddangos ohonot i’th was, pwy a eistedd ar orseddfainc fy arglwydd y brenin ar ei ôl ef?
{{angor|1:28|28}} A’r brenin Dafydd a atebodd ac a ddywedodd, Gelwch Bathseba ataf fi. A. hi a ddaeth o flaen y brenin, ac a safodd gerbron y brenin.
{{angor|1:29|29}} A’r brenin a dyngodd, ac a ddywed¬odd, Fel y mae yr ARGLWYDD yn fyw, yr hwn a waredodd fy enaid i allan o bob cyfyngder,
{{angor|1:30|30}} Yn ddiau megis y tyngais wrthyt ti i ARGLWYDD DDUW Israel, gan ddywedyd, Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorsedd¬fainc i yn fy lle i, felly y gwnaf y dydd hwn.
{{angor|1:31|31}} Yna Bathseba a ostyngodd ei phen â’i hwyneb i lawr, ac a ymgrymodd i’r brenin, ac a ddywedodd, Bydded fy arglwydd frenin Dafydd fyw byth.
{{angor|1:32|32}} A’r brenin Dafydd a ddywedodd, Gelwch ataf fi Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada. A hwy a ddaethant o flaen y brenin.
{{angor|1:33|33}} A’r brenin a ddywedodd wrthynt, Cymerwch weision eich arglwydd gyda chwi a pherwch i Solomon fy mab farchogaeth ar fy mules fy hun, a dygwch ef i waered i Gihon.
{{angor|1:34|34}} Ac eneinied Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd ef yno yn frenin ar Israel: ac utgenwch mewn utgorn, dywedwch, Bydded fyw y brenin Solo¬mon.
{{angor|1:35|35}} Deuwch chwithau i fyny ar ei ôl ef, a deued efe i fyny, ac eistedded ar fy ngorseddfa i, ac efe a deyrnasa yn fy lle i: canys ef a ordeiniais i fod yn flaenor ar Israel ac ar Jwda.
{{angor|1:36|36}} A Benaia mab Jehoiada a atebodd y brenin, ac a ddywedodd. Amen: yr un modd y dywedo ARGLWYDD DDUW fy arglwydd frenin.
{{angor|1:37|37}} Megis y bu yr ARGLWYDD gyda’m harglwydd y brenin, felly bydded gyda Solomon, a gwnaed yn fwy ei orsedd¬fainc ef na gorseddfainc fy arglwydd y brenin Dafydd.
{{angor|1:38|38}} Felly Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada, a’r Cerethiaid, a’r Felethiaid, a aethant i waered, ac a wnaethant i Solomon farchogaeth ar fules y brenin Dafydd, ac a aethant ag ef i Gihon.
{{angor|1:39|39}} A Sadoc yr offeiriad a gymerodd gorn o olew allan o’r babell, ac a eneiniodd Solomon. A hwy a utganasant mewn utgorn: a’r holl bobl a ddywedasant, Bydded fyw y brenin Solomon.
{{angor|1:40|40}} A’r holl bobl a aethant i fyny ar ei ôl ef, yn canu pibellau, ac yn llawenychu â llawenydd mawr, fel y rhwygai y ddaear gan eu sŵn hwynt.
{{angor|1:41|41}} A chlybu Adoneia, a’i holl wahoddedigion y rhai oedd gydag ef, pan ddarfuasai iddynt fwyta. Joab hefyd a glywodd lais yr utgorn; ac a ddywedodd, Paham y mae twrf y ddinas yn derfysgol?
{{angor|1:42|42}} Ac efe eto yn llefaru, wele, daeth Jonathan mab Abiathar yr offeiriad. A dywedodd Adoneia, Tyred i mewn: canys gŵr grymus ydwyt ti, a daioni a fynegi di.
{{angor|1:43|43}} A Jonathan a atebodd ac a ddy¬wedodd wrth Adoneia, Yn ddiau<noinclude><references/></noinclude>
5tyr6c27f4n2k9nu6lfad1rqlkdk56t
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/355
104
3608
171747
171408
2026-10-14T06:02:10Z
Tylopous
3717
angorau
171747
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ein harglwydd frenin Dafydd a osododd Solomon yn frenin.
{{angor|1:44|44}} A’r brenin a anfonodd gydag ef Solomon ei fab, gan ddywedyd, Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada, a’r Cerethiaid, a’r Pelethiaid; a hwy a barasant iddo ef farchogaeth ar fules y brenin.
{{angor|1:45|45}} A Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd a’i heneiniasant ef yn frenin yn Gihon: a hwy a ddaethant i fyny oddi yno yn llawen; a’r ddinas a derfysgodd. Dyna’r twrf a glywsoch chwi.
{{angor|1:46|46}} Ac y mae Solomon yn eistedd ar orseddfainc y frenhiniaeth.
{{angor|1:47|47}} A gweision y brenin a ddaethant hefyd i fendithio ein harglwydd frenin Dafydd, gan ddywedyd, Dy DDUW a wnelo enw Solomon yn well na’th enw di, ac a wnelo yn fwy ei orseddfainc ef na’th orseddfainc di. A’r brenin a ymgrymodd ar y gwely.
{{angor|1:48|48}} Fel hyn hefyd y dywedodd y brenin: Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a roddodd heddiw un i eistedd ar fy ngorseddfainc, a’m llygaid innau yn gweled hynny.
{{angor|1:49|49}} A’r holl wahoddedigion, y rhai oedd gydag Adoneia, a ddychrynasant, ac a gyfodasant, ac a aethant bob un ei ffordd.
{{angor|1:50|50}} Ac Adoneia oedd yn ofni rhag Solomon; ac a gyfododd, ac a aeth ac a ymaflodd yng nghyrn yr allor.
{{angor|1:51|51}} A mynegwyd i Solomon, gan ddywedyd, Wele, y mae Adoneia yn ofni’r brenin Solomon: canys wele, efe a ymafl¬ odd yng nghyrn yr allor, gan ddywedyd, Tynged y brenin Solomon i mi heddiw, na ladd efe ei was â’r cleddyf.
{{angor|1:52|52}} A dywedodd Solomon, Os bydd efe yn ŵr da, ni syrth un o’i wallt ef i lawr; ond os ceir drygioni ynddo ef, efe a fydd marw.
{{angor|1:53|53}} A’r brenin Solomon a anfonodd, a hwy a’i dygasant ef oddi wrth yr allor. Ac efe a ddaeth, ac a ymgrymodd i’r brenin Solomon. A dywedodd Solomon wrtho, Dos i’th dŷ.
{{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn rhoi cynghor i Solomon,'' 3 ''i fod yn dduwiol,'' 5 ''ynghylch Joab,'' 7 ''Barzìlai,'' 8 ''a Simei;'' 10 ''ac yn marw.'' 12 ''Solomon yn frenhin ar ei ol ef.'' 13 ''Adonïah yn ceisio gan Bathseba ddywedyd wrth Solomon am Abisag, ac yn cael ei ddihenydd.'' 26 ''Abïathar yn cael ei hoedl, ac yn colli yr offeiriadaeth.'' 28 ''Joab yn ffoi at gyrn yr allor, a’i ladd ef;'' 35 ''a gosod Benaiah yn lle Joab, a Sadoc yn lle Abïathar.'' 36 ''Simei yn cael gorchymyn i aros yn Jerusalem; ac am fyned i Gath, yn gorfod arno farw.''}}
{{angor|2:1}} {{uc|Yna}} dyddiau Dafydd a nesasant i farw; ac efe a orchmynnodd i Solomon ei fab, gan ddywedyd,
{{angor|2:2|2}} Myfi wyf yn myned ffordd yr holl ddaear; am hynny ymnertha, a bydd ŵr;
{{angor|2:3|3}} A chadw gadwraeth yr ARGLWYDD dy DDUW, i rodio yn ei ffyrdd ef, i gadw ei ddeddfau ef, a'i orchmynion, a'i farnedigaethau, a'i dystiolaethau, fel yr ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses; fel y llwyddych yn yr hyn oll a wnelych, ac i ba le bynnag y tröech:
{{angor|2:4|4}} Fel y cyflawno yr ARGLWYDD ei air a lefarodd efe wrthyf, gan ddywedyd, Os dy feibion a gadwant eu ffyrdd, i rodio ger fy mron mewn gwirionedd, â'u holl galon, ac â'u holl enaid, ni thorrir (eb efe) na byddo ohonot ŵr ar orseddfainc Israel.
{{angor|2:5|5}} Tithau hefyd a wyddost yr hyn a wnaeth Joab mab Serfia â mi, a'r hyn a wnaeth efe i ddau o dywysogion lluoedd Israel, i Abner mab Ner, ac i Amasa mab Jether, y rhai a laddodd efe, ac a ollyngodd waed rhyfel mewn heddwch, ac a roddodd waed rhyfel ar ei wregys oedd am ei lwynau, ac yn ei esgidiau oedd am ei draed.
{{angor|2:6|6}} Am hynny gwna yn ôl dy ddoethineb, ac na ad i'w benllwydni ef ddisgyn i'r bedd mewn heddwch.
{{angor|2:7|7}} Ond i feibion Barsilai y Gileadiad y gwnei garedigrwydd, a byddant ymysg y rhai a fwytânt ar dy fwrdd di: canys felly y daethant ataf fi pan oeddwn yn ffoi rhag Absalom dy frawd di.
{{angor|2:8|8}} Wele hefyd Simei mab Gera, mab Jemini, o Bahurim, gyda thi, yr hwn a'm melltithiodd i â melltith dost, y dydd yr euthum i Mahanaim: ond efe a ddaeth i waered i'r Iorddonen i gyfarfod â mi; a mi a dyngais i'r ARGLWYDD wrtho ef, gan ddywedyd, Ni'th laddaf â'r cleddyf.
{{angor|2:9|9}} Ond yn awr na ad di ef heb gosbedigaeth: canys gŵr doeth ydwyt ti, a gwyddost beth a wnei iddo: dwg dithau ei benwynni ef i waered i’r bedd mewn gwaed.
{{angor|2:10|10}} Felly Dafydd a hunodd gyd<noinclude><references/></noinclude>
hgbes5dqp397soal9ac5o22q11rr8cx
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/356
104
3609
171748
6801
2026-10-14T06:03:53Z
Tylopous
3717
angorau
171748
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>a’i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd.
{{angor|2:11|11}} A’r dyddiau y teyrnasodd Dafydd ar Israel oedd ddeugain mlynedd: saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron, a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrn¬asodd efe yn Jerwsalem.
{{angor|2:12|12}} A Solomon a eisteddodd ar orseddfainc Dafydd ei dad; a’i frenhiniaeth ef a sicrhawyd yn ddirfawr.
{{angor|2:13|13}} Ac Adoneia mab Haggith a ddaeth at Bathseba mam Solomon. A hi a ddy¬wedodd, Ai heddychlon dy ddyfodiad? Yntau a ddywedodd, Heddychlon.
{{angor|2:14|14}} Ac efe a ddywedodd, Y mae i mi air â thi. Hithau a ddywedodd, Dywed.
{{angor|2:15|15}} Yntau a ddywedodd, Ti a wyddost mai eiddof fi oedd y frenhiniaeth, ac i holl Israel osod eu hwynebau ar fy ngwneuthur i yn frenin: eithr trodd y frenhiniaeth, ac a aeth i’m brawd: canys trwy yr ARGLWYDD yr aeth hi yn eiddo ef.
{{angor|2:16|16}} Ond yn awr dymunaf gennyt un dymuniad; na omedd fi. Hithau a ddy¬wedodd wrtho, Dywed.
{{angor|2:17|17}} Yntau a ddywedodd, Dywed, atolwg, wrth y brenin Solomon, (canys ni omedd efe dydi,) am roddi ohono ef Abisag y Sunamees yn wraig i mi.
{{angor|2:18|18}} A dywedodd Bathseba, Da; mi a ddywedaf drosot ti wrth y brenin.
{{angor|2:19|19}} Felly Bathseba a aeth at y brenin Solomon, i ddywedyd wrtho ef dros Adoneia. A’r brenin a gododd i’w chyfarfod hi, ac a ostyngodd iddi, ac a eis¬teddodd ar ei orseddfainc, ac a barodd osod gorseddfainc i fam y brenin: a hi a eisteddodd ar ei ddeheulaw ef.
{{angor|2:20|20}} Yna hi a ddywedodd, Un dymuniad bychan yr ydwyf fi yn ei ddymuno gennyt; na omedd fi. A’r brenin a ddywedodd wrthi hi, Gofyn, fy mam: canys ni’th omeddaf.
{{angor|2:21|21}} A hi a ddywedodd, Rhodder Abisag y Sunamees yn wraig i Adoneia dy frawd.
{{angor|2:22|22}} A’r brenin Solomon a atebodd ac a ddywedodd wrth ei fam, Paham y ceisi di Abisag y Sunamees i Adoneia? gofyn hefyd y frenhiniaeth iddo ef; canys fy mrawd hyn na mi ydyw efe; a chydag ef y mae Abiathar yr offeiriad, a Joab mab Serfia.
{{angor|2:23|23}} A’r brenin Solomon a dyngodd i’r ARGLWYDD, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, onid yn erbyn ei einioes y llefarodd Adoneia y gair hwn.
{{angor|2:24|24}} Yn awr gan hynny, fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hwn a’m sicrhaodd i, ac a wnaeth i mi eistedd ar orseddfainc Dafydd fy nhad, yr hwn hefyd a wnaeth i mi dŷ, megis y dywedasai efe: heddiw yn ddiau y rhoddir Adoneia i farwolaeth.
{{angor|2:25|25}} A’r brenin Solomon a anfonodd gyda Benaia mab Jehoiada; ac efe a ruthrodd arno ef, fel y bu efe farw.
{{angor|2:26|26}} Ac wrth Abiathar yr offeiriad y dywedodd y brenin, Dos i Anathoth, i’th fro dy hun; canys gŵr yn haeddu marwolaeth ydwyt ti: ond ni laddaf di y pryd hwn; oherwydd dwyn ohonot arch yr Arglwydd DDUW o flaen fy nhad Dafydd, ac am dy gystuddio yn yr hyn oll y cystuddiwyd fy nhad.
{{angor|2:27|27}} Felly y bwriodd Solomon Abiathar ymaith o fod yn offeiriad i’r ARGLWYDD; fel y cyflawnai air yr ARGLWYDD, yr hwn a ddywedasai efe am dŷ Eli yn Seilo.
{{angor|2:28|28}} A’r chwedl a ddaeth at Joab: canys Joab a wyrasai ar ôl Adoneia, er na wyrasai efe ar ôl Absalom. A ffodd Joab i babell yr ARGLWYDD, ac a ymaflodd yng nghyrn yr allor.
{{angor|2:29|29}} A mynegwyd i’r brenin Solomon, ffoi o Joab i babell yr ARGLWYDD; ac wele, y mae efe wrth yr allor. A Solomon a anfonodd Benaia mab Jehoiada, gan ddy¬wedyd, Dos, rhuthra arno ef.
{{angor|2:30|30}} A daeth Benaia i babell yr AR¬GLWYDD, ac a ddywedodd wrtho ef, Fel hyn y dywed y brenin; Tyred allan. Yntau a ddywedodd, Na ddeuaf; eithr yma y byddaf farw. A Benaia a ddug drachefn air at y brenin, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedodd Joab, ac fel hyn y’m hatebodd.
{{angor|2:31|31}} A dywedodd y brenin wrtho ef, Gwna fel y dywedodd efe, a rhuthra arno ef, a chladd ef; fel y tynnych y gwaed gwirion a dywalltodd Joab, oddi arnaf fi, ac oddi ar dŷ fy nhad i.
{{angor|2:32|32}} A’r ARGLWYDD a ddychwel ei waed ef ar ei ben ei hun; o herwydd<noinclude><references/></noinclude>
huv1xpeqhfgfb7k7o7dsvavztd9oeze
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/357
104
3610
171749
171409
2026-10-14T06:05:30Z
Tylopous
3717
angorau
171749
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>efe a ruthrodd ar ddau ŵr cyfiawnach a gwell nag ef ei hun, ac a’u lladdodd hwynt â’r cleddyf , a Dafydd fy nhad heb wybod; sef Abner mab Ner, tywysog llu Israel, ac Amasa mab Jether, tywysog llu Jwda.
{{angor|2:33|33}} A’u gwaed hwynt a ddychwel ar ben Joab, ac ar ben ei had ef yn dragywydd: ond i Dafydd, ac i’w had, ac i’w dŷ, ac i’w orseddfainc, y bydd heddwch yn dragywydd gan yr ARGLWYDD.
{{angor|2:34|34}} Felly yr aeth Benaia mab Jehoiada i fyny, ac a ruthrodd arno, ac a’i lladdodd. Ac efe a gladdwyd yn ei dŷ ei hun yn yr anialwch.
{{angor|2:35|35}} A’r brenin a osododd Benaia mab Jehoiada yn ei le ef ar y filwriaeth. A’r brenin a osododd Sadoc yr offeiriad yn lle Abiathar.
{{angor|2:36|36}} A’r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei, ac a ddywedodd wrtho, Adeilada i ti dŷ yn Jerwsalem, ac aros yno, ac na ddos allan oddi yno nac yma na thraw.
{{angor|2:37|37}} Canys bydd, y dydd yr elych allan, ac yr elych dros afon Cidron, gan wybod y cei di wybod y lleddir di yn farw: dy waed fydd ar dy ben dy hun.
{{angor|2:38|38}} A dywedodd Simei wrth y brenin, Da yw y gair: fel y dywedodd fy arglwydd frenin, felly y gwna dy was. A Simei a drigodd yn Jerwsalem ddyddiau lawer.
{{angor|2:39|39}} Eithr ymhen tair blynedd y ffodd dau was i Simei at Achis, mab Maacha, brenin Gath. A mynegwyd i Simei, gan ddywedyd, Wele dy weision di yn Gath.
{{angor|2:40|40}} A Simei a gyfododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a aeth i Gath at Achis, i geisio ei weision: ie, Simei a aeth, ac a gyrchodd ei weision o Gath.
{{angor|2:41|41}} A mynegwyd i Solomon, fyned o Simei o Jerwsalem i Gath, a’i ddychwelyd ef.
{{angor|2:42|42}} A’r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei, ac a ddywedodd wrtho. Oni pherais i ti dyngu i’r ARGLWYDD, ac oni thystiolaethais wrthyt, gan ddywedyd, Yn y dydd yr elych allan, ac yr elych nac yma nac acw, gan wybod gwybydd y lleddir di yn farw? a thi a ddywedaist wrthyf. Da yw y gair a glywais.
{{angor|2:43|43}} Paham gan hynny na chedwaist lw yr ARGLWYDD, a’r gorchymyn a orchmynnais i ti,?
{{angor|2:44|44}} A dywedodd y brenin wrth Simei, Ti a wyddost yr holl ddrygioni a ŵyr dy galon, yr hwn a wnaethost ti yn erbyn Dafydd fy nhad: yr ARGLWYDD am hynny a ddychwelodd dy ddrygioni di ar dy ben dy hun;
{{angor|2:45|45}} A bendigedig fydd y brenin Solo¬mon, a gorseddfainc Dafydd a sicrheir o flaen yr ARGLWYDD yn dragywydd.
{{angor|2:46|46}} Felly y gorchmynnodd y brenin i Benaia mab Jehoiada; ac efe a aeth allan, ac a ruthrodd arno ef, fel y bu efe farw. A’r frenhiniaeth a sicrhawyd yn llaw Solomon.
{{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}}
{{bach|1 ''Solomon yn prïodi merch Pharaoh:'' 2 ''ac wrth aberthu yn uchelfa Gibeon,'' 5 ''yn cael gan Dduw ei ddewis rodd, ac yn dewis doethineb; ac yn cael doethineb, a chyfoeth, ac anrhydedd.'' 16 ''Barn Solomon rhwng y ddwy buttain, yn ei wneuthur ef yn enwog.''}}
{{angor|3:1}} {{uc|A Solomon}} a ymgyfathrachodd â Pharo brenin yr Aifft, ac a briododd ferch Pharo, ac a’i dug hi i ddinas Dafydd, nes darfod iddo adeiladu ei dŷ ei hun, a thŷ yr ARGLWYDD, a mur Jerw¬salem oddi amgylch.
{{angor|3:2|2}} Eto y bobl oedd yn aberthu mewn uchelfaoedd, oherwydd nad adeiladasid tŷ i enw yr ARGLWYDD, hyd y dyddiau hynny.
{{angor|3:3|3}} A Solomon a garodd yr ARGLWYDD, gan rodio yn neddfau Dafydd ei dad: eto mewn uchelfaoedd yr oedd efe yn aberthu ac yn arogl-darthu.
{{angor|3:4|4}} A’r brenin a aeth i Gibeon i aberthu yno: canys honno oedd uchelfa fawr. Mil o boethoffrymau a offrymodd Solo¬mon ar yr allor honno.
{{angor|3:5|5}} Yn Gibeon yr ymddangosodd yr ARGLWYDD i Solomon mewn breuddwyd liw nos: a dywedodd Duw, Gofyn beth a roddaf i ti.
{{angor|3:6|6}} A dywedodd Solomon, Ti a wnaethost â’th was Dafydd fy nhad fawr drugaredd, megis y rhodiodd efe o’th flaen di mewn gwirionedd, ac mewn cyfiawnder, ac mewn uniondeb calon gyda thi; ie, cedwaist iddo y drugaredd fawr honi a rhoddaist iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc, fel y gwelir heddiw.
{{angor|3:7|7}} Ac yn awr, O ARGLWYDD fy Nuw, ti a wnaethost i’th was deyrnasu yn lle Dafydd fy nhad: a minnau yn fachgen bychan: ni fedraf fyned nac allan nac i mewn.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
j3afb4jqpi3m1jyi7ncv87ll827gk92
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/358
104
3611
171750
171410
2026-10-14T06:07:23Z
Tylopous
3717
angorau
171750
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|3:8|8}} A’th was sydd ymysg dy bobl, y rhai a ddewisaist ti; pobl aml, y rhai ni rifir ac nis cyfrifir gan luosowgrwydd.
{{angor|3:9|9}} Am hynny dyro i’th was galon ddeallus, i farnu dy bobl, i ddeall rhagot rhwng da a drwg: canys pwy a ddichon farnu dy luosog bobl hyn?
{{angor|3:10|10}} A’r peth fu dda yng ngolwg yr ARGLWYDD, am ofyn o Solomon y peth hyn.
{{angor|3:11|11}} A Duw a ddywedodd wrtho, Oherwydd gofyn ohonot y peth hyn, ac na ofynnaist i ti ddyddiau lawer, ac na ofynnaist i ti olud, ac na cheisiaist einioes dy elynion, eithr gofynnaist i ti ddeall i wrando barn:
{{angor|3:12|12}} Wele, gwneuthum yn ôl dy eiriau; wele, rhoddais i ti galon ddoeth a deallus, fel na bu dy fath o’th flaen, ac na chyfyd dy fath ar dy ôl.
{{angor|3:13|13}} A rhoddais i ti hefyd yr hyn nis gofynnaist, golud, a gogoniant hefyd; fel na byddo un o’th fath ymysg y brenhinoedd, dy holl ddyddiau di.
{{angor|3:14|14}} Ac os rhodi yn fy ffyrdd i, gan gadw fy neddfau a’m gorchmynion, megis y rhodiodd Dafydd dy dad, estynnaf hefyd dy ddyddiau di.
{{angor|3:15|15}} A Solomon a ddeffrodd; ac wele, breuddwyd oedd. Ac efe a ddaeth i Jerwsalem, ac a safodd o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac a offrymodd offrymau poeth, ac a aberthodd aberthau hedd, ac a wnaeth wledd i’w holl weision.
{{angor|3:16|16}} Yna dwy wraig o buteiniaid a ddaethant at y brenin, ac a safasant ger ei fron ef.
{{angor|3:17|17}} A’r naill wraig a ddywedodd, O fy arglwydd, myfi a’r wraig hon oeddem yn trigo yn yr un tŷ; a mi a esgorais yn tŷ gyda hi.
{{angor|3:18|18}} Ac ar y trydydd dydd wedi esgor ohonof fi, yr esgorodd y wraig hon hefyd ac yr oeddem ni ynghyd, heb arall yn tŷ gyda ni, ond nyni ein dwyoedd yn tŷ.
{{angor|3:19|19}} A mab y wraig hon a fu farw liw nos; oherwydd hi a orweddodd arno ef.
{{angor|3:20|20}} A hi a gododd yng nghanol y nos, ac a gymerodd fy mab i o’m hymyl, tra yr ydoedd dy lawforwyn yn cysgu, ac a’i gosododd ef yn ei mynwes hi, a’i mab marw hi a osododd hi yn fy mynwes innau.
{{angor|3:21|21}} A phan godais i y bore i beri i’m mab sugno, wele, marw oedd efe; ac wedi i mi ddal arno y bore, wele, nid fy mab i, yr hwn a esgoraswn i, ydoedd efe.
{{angor|3:22|22}} A’r wraig arall a ddywedodd, Nage, eithr fy mab i yw y byw, a’th fab dithau yw y marw. A hon a ddywedodd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a’m mab i yw y byw. Fel hyn y llefarasant o flaen y brenin.
{{angor|3:23|23}} Yna y dywedodd y brenin, Hon sydd yn dywedyd, Dyma fy mab i sydd fyw, a’th fab dithau yw y marw: a hon acw sydd yn dywedyd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a’m mab innau yw y byw.
{{angor|3:24|24}} A dywedodd y brenin, Dygwch i mi gleddyf. A hwy a ddygasant gleddyf o flaen y brenin.
{{angor|3:25|25}} A’r brenin a ddywedodd, Rhennwch: y bachgen byw yn ddau, a rhoddwch yr hanner i’r naill, a’r hanner i’r llall.
{{angor|3:26|26}} Yna y dywedodd y wraig bioedd y mab byw wrth y brenin, (canys ei hymysgaroedd a gynesasai wrth ei mab,) ac a. lefarodd, O fy arglwydd, rhoddwch iddi hi y bachgen byw, ac na leddwch ef ddim: ond y llall a ddywedodd, Na fydded eiddof fi na thithau, eithr rhennwch ef.
{{angor|3:27|27}} Yna yr atebodd y brenin, ac y dywedodd, Rhoddwch y bachgen byw iddi hi, ac na leddwch ef ddim: dyna ei farn ef.
{{angor|3:28|28}} A holl Israel a glywsant y farn a farnasai y brenin; a hwy a ofnasant y brenin: canys gwelsant fod doethineb Duw ynddo ef i wneuthur barn.
{{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}}
{{bach|1 ''Tywysogion Solomon,'' 7 ''a deuddeg swyddog ei lys ef;'' 20, 24 ''a heddwch a helaethrwydd ei frenhiniaeth;'' 22 ''ac arlwy ei fwrdd,'' 26 ''a’i stablau;'' 29 ''a’i doethineb,'' 32 ''a’i lyfrau.''}}
{{angor|4:1}} {{uc|A’r}} brenin Solomon oedd frenin ar holl Israel.
{{angor|4:2|2}} A dyma y tywysogion oedd ganddo ef: Asareia mab Sadoc, yr offeiriad;
{{angor|4:3|3}} Elihoreff ac Ahia, meibion Sisa, oeddi ysgrifenyddion; Jehosaffat mab Ahilud, yn gofiadur;
{{angor|4:4|4}} Benaia mab Jehoiada oedd ar y llu; a Sadoc ac Abiathar, yn offeiriaid;
{{angor|4:5|5}} Ac Asareia mab Nathan oedd ar y swyddogion; a Sabud mab Nathan oedd ben-llywydd, ac yn gyfaill i’r brenin;
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
5weymrzfgpo2bp5drcvvq2ae7ikd4m1
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/359
104
3612
171751
171411
2026-10-14T06:09:25Z
Tylopous
3717
angorau
171751
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|4:6|6}} Ac Ahisar oedd benteulu; ac Adoniram mab Abda, ar y deyrnged.
{{angor|4:7|7}} A chan Solomon yr ydoedd deuddeg o swyddogion ar holl Israel, y rhai a baratoent luniaeth i’r brenin a’i dŷ: mis yn y flwyddyn yr oedd ar bob un ddarparu.
{{angor|4:8|8}} Dyma eu henwau hwynt. Mab Hur, ym mynydd Effraim.
{{angor|4:9|9}} Mab Decar ym Macas, ac yn Saalbim, a Beth-semes, ac Elon-bethanan.
{{angor|4:10|10}} Mab Hesed, yn Aruboth: iddo efyr oedd Socho, a holl dir Heffer.
{{angor|4:11|11}} Mab Abinadab oedd yn holl ardal Dor: Taffath merch Solomon oedd yn wraig iddo ef.
{{angor|4:12|12}} Baana mab Ahilud oedd yn Taanach, a Megido, a Bethsean oll, yr hon sydd gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Bethsean hyd Abel-mehola, hyd y tu hwnt i Jocneam.
{{angor|4:13|13}} Mab Geber oedd yn Ramoth-Gilead: iddo ef yr oedd trefydd Jair mab Manasse, y rhai sydd yn Gilead: eiddo ef oedd ardal Argob, yr hon sydd yn Basan; sef trigain o ddinasoedd mawrion, â chaerau a barrau pres.
{{angor|4:14|14}} Ahinadab mab Ido oedd ym Mahariaim.
{{angor|4:15|15}} Ahimaas oedd yn Nafftali: yntau a gymerodd Basmath merch Solomon yn wraig.
{{angor|4:16|16}} Baana mab Husai oedd yn Aser ac yn Aloth.
{{angor|4:17|17}} Jehosaffat mab Parua oedd yn Issachar.
{{angor|4:18|18}} Simei mab Ela oedd o fewn Benjamin.
{{angor|4:19|19}} Geber mab Uri oedd yng ngwlad Gilead, gwlad Sehon brenin yr Amoriaid.y ac Og brenin Basan; a’r unig swyddog oedd yn y wlad ydoedd efe.
{{angor|4:20|20}} Jwda ac Israel oedd aml, fel y tywod sydd gerllaw y môr o amldra, yn bwyta ac yn yfed, ac yn gwneuthur yn llawen.
{{angor|4:21|21}} A Solomon oedd yn llywodraethi ar yr holl deyrnasoedd, o’r afon hyd wlad y Philistiaid, ac hyd derfyn yr Aifft: yr oeddynt hwy yn dwyn anrhegion, ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei einioes ef.
{{angor|4:22|22}} A bwyd Solomon beunydd oedd ddeg corus ar hugain o beilliaid, a thrigain corus o flawd;
{{angor|4:23|23}} Deg o ychen pasgedig, ac ugain o ychen porfadwy, a chant o ddefaid, heblaw ceirw, ac iyrchod, a buail, ac ednod breision.
{{angor|4:24|24}} Canys efe oedd yn llywodraethu ar y tu yma i’r afon oll, o Tiffsa byd Assa, ar yr holl frenhinoedd o’r tu yma i’r afon: ac yr oedd iddo ef heddwch o bob parth iddo o amgylch.
{{angor|4:25|25}} Ac yr oedd Jwda ac Israel yn preswylio yn ddiogel, bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, o Dan hyd Beer-seba, holl ddyddiau Solomon.
{{angor|4:26|26}} Ac yr oedd gan Solomon ddeugain mil o bresebau meirch i’w gerbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch.
{{angor|4:27|27}} A’r swyddogion hynny a baratoent luniaeth i Solomon y brenin, ac i bawb a ddelai i fwrdd y brenin Solomon, pob un yn ei fis: ni adawsant eisiau dim.
{{angor|4:28|28}} Haidd hefyd a gwellt a ddygasant hwy i’r meirch, ac i’r cyflym gamelod, i’r fan lle y byddai y swyddogion, pob un ar ei ran.
{{angor|4:29|29}} A Duw a roddodd ddoethineb i Solomon, a deall mawr iawn, a helaethdra calon, fel y tywod sydd ar fin y môr.
{{angor|4:30|30}} A doethineb Solomon oedd fwy na doethineb holl feibion y dwyrain, ac na holl ddoethineb yr Aifft.
{{angor|4:31|31}} Ie, doethach oedd efe nag un dyn; nag Ethan yr Esrahiad, na Heman, nai. Chalcol, na Darda, meibion Mahol: a’i enw ef oedd ymhlith yr holl genhedloedd oddi amgylch.
{{angor|4:32|32}} Ac efe a lefarodd dair mil o ddiarhebion: a’i ganiadau ef oedd fil a phump.
{{angor|4:33|33}} Llefarodd hefyd am brennau, o’r cedrwydd sydd yn Libanus, hyd yr isop a dyf allan o’r pared: ac efe a lefarodd am anifeiliaid, ac am ehediaid, ac am ymlusgiaid, ac am bysgod.
{{angor|4:34|34}} Ac o bob pobloedd y daethpwyd i wrando doethineb Solomon, oddi wrth holl frenhinoedd y ddaear, y rhai a glywsent am ei ddoethineb ef.
{{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}}
{{bach|1 ''Hiram yn gyrru i gyfarch Solomon, ac yn cael gwybod ei fod ef ar fedr adeiladu y deml, ac yn addaw defnyddiau i’r gwaith.'' 7 ''Hiram yn bendithio Duw dros Solomon, yn cael ymborth i’w deulu, ac yn gyrru coed i Solomon.'' 13 ''Rhifedi gweithwyr Solomon.''}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
tsbbk7leseku8urzcu1rrs3r90ncix9
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/360
104
3613
171752
171412
2026-10-14T06:11:24Z
Tylopous
3717
angorau
171752
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|5:1}} {{uc|Hiram}} hefyd brenin Tyrus a anfonodd ei weision at Solomon; canys clybu eneinio ohonynt hwy ef yn frenin yn lle ei dad: canys hoff oedd gan Hiram Dafydd bob amser.
{{angor|5:2|2}} A Solomon a anfonodd at Hiram, gan ddywedyd,
{{angor|5:3|3}} Ti a wyddost am Dafydd fy nhad, na allai efe adeiladu ty` i enw yr ARGLWYDD ei DDUW, gan y rhyfeloedd oedd o’i amgylch ef, nes rhoddi o’r ARGLWYDD hwynt dan wadnau ei draed ef.
{{angor|5:4|4}} Eithr yn awr yr ARGLWYDD fy Nuw a roddodd i mi lonydd oddi amgylch, fel nad oes na gwrthwynebydd, nac ymgyfarfod niweidiol.
{{angor|5:5|5}} Ac wele fi a’m bryd ar adeiladu tŷ i enw yr ARGLWYDD fy Nuw; megis y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Dafydd fy nhad, gan ddywedyd, Dy fab, yr hwn a osodaf fi yn dy le di ar dy orseddfainc di, efe a adeilada dŷ i’m henw i.
{{angor|5:6|6}} Yn awr, gan hynny, gorchymyn dorri ohonynt i mi gedrwydd o Libanus; a’m gweision i a fyddant gyda’th weision di: a rhoddaf atat gyflog dy weision, yn ôl yr hyn a ddywedych: canys ti a wyddost nad oes yn ein plith ni ŵr a fedro gymynu coed megis y Sidoniaid.
{{angor|5:7|7}} A bu, pan glybu Hiram eiriau Solomon, lawenychu ohono ef yn ddirfawr, a dywedyd, Bendigedig yw yr ARGLWYDD heddiw, yr hwn a roddes i Dafydd fab doeth ar y bobl luosog yma.
{{angor|5:8|8}} A Hiram a anfonodd at Solomon, gan ddywedyd, Gwrandewais ar yr hyn a anfonaist ataf: mi a wnaf dy holl ewyllys di am goed cedrwydd, a choed ffynidwydd.
{{angor|5:9|9}} Fy ngweision a’u dygant i waered o Libanus hyd y môr: a mi a’u gyrraf hwynt yn gludeiriau ar hyd y môr, hyd y fan a osodych di i mi; ac yno y datodaf hwynt, a chymer di hwynt: ond ti a wnei fy ewyllys innau, gan roddi ymborth i’m teulu i.
{{angor|5:10|10}} Felly yr oedd Hiram yn rhoddi i Solomon o goed cedrwydd, ac o goed ffynidwydd, ei holl ddymuniad.
{{angor|5:11|11}} A Solomon a roddodd i Hiram ugain mil corus o wenith yn gynhaliaeth i’w dŷ, ac ugain corus o olew coeth: felly y rhoddai Solomon i Hiram bob blwyddyn.
{{angor|5:12|12}} A’r ARGLWYDD a roddes ddoeth¬ineb i Solomon, fel y dywedasai wrtho: a bu heddwch rhwng Hiram a Solomon; a hwy a wnaethant gyfamod ill dau.
{{angor|5:13|13}} A’r brenin Solomon a gyfododd dreth o holl Israel, a’r dreth oedd ddeng mil ar hugain o wŷr.
{{angor|5:14|14}} Ac efe a’u hanfonodd hwynt i Libanus, deng mil yn y mis ar gylch: mis y byddent yn Libanus, a dau fis gartref. Ac Adoniram oedd ar y dreth.
{{angor|5:15|15}} Ac yr oedd gan Solomon ddeng mil a thrigain yn dwyn beichiau, a phedwar ugain mil yn naddu cerrig yn y mynydd;
{{angor|5:16|16}} Heb law pen-swyddogion Solomon, y rhai oedd ar y gwaith, sef tair mil a thri chant, yn llywodraethu y bobl a weithient yn y gwaith.
{{angor|5:17|17}} A’r brenin a orchmynnodd ddwyn ohonynt hwy feini mawr, a meini costus, a meini nadd, i sylfaenu y tŷ.
{{angor|5:18|18}} Felly seiri Solomon, a seiri Hiram, a’r Gibliaid, a naddasant, ac a ddarparasant goed a cherrig i adeiladu’r tŷ.
{{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}}
{{bach|1 ''Adeiladu teml Solomon,'' 5 ''a’i ystafelloedd.'' 11 ''Addewid Duw i’r deml.'' 15 ''Byrddio ac addurno y deml.'' 23 ''Y cerubiaid.'' 31 ''Y dorau.'' 36 ''Y cyntedd.'' 37 ''Yr hŷd y buwyd yn adeiladu y deml.''}}
{{angor|6:1}} {{uc|Ac}} yn y bedwar ugeinfed a phedwar cant o flynyddoedd wedi dyfod meibion Israel allan o’r Aifft, yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Solomon ar Israel, yn y mis Sif, hwnnw yw yr ail fis, y dechreuodd efe adeiladu tŷ yr ARGLWYDD.
{{angor|6:2|2}} A’r tŷ a adeiladodd y brenin Solomon i’r ARGLWYDD oedd drigain cufydd ei hyd, ac ugain cufydd ei led, a deg cufydd ar hugain ei uchder.
{{angor|6:3|3}} A’r porth o flaen teml y tŷ oedd ugain cufydd ei hyd, yn un hyd a lled y tŷ; ac yn ddeg cufydd ei led, o flaen y tŷ.
{{angor|6:4|4}} Ac efe a wnaeth i’r tŷ ffenestri, yn llydain oddi fewn, ac yn gyfyng oddi allan.
{{angor|6:5|5}} Ac efe a adeiladodd wrth fur y tŷ ystafelloedd oddi amgylch mur y tŷ, ynghylch y deml, a’r gafell; ac a wnaeth gelloedd o amgylch.
{{angor|6:6|6}} Yr ystafell isaf oedd bûm cufydd ei lled, a’r ganol chwe chufydd ei<noinclude><references/></noinclude>
dfj899y55h97cubjzlxqschgzn75b03
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/361
104
3614
171753
6807
2026-10-14T06:14:02Z
Tylopous
3717
angorau
171753
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>lled, a’r drydedd yn saith gufydd ei lled: canys efe a roddasai ategion o’r tu allan i’r tŷ oddi amgylch, fel na rwymid y trawstiau ym mur y tŷ.
{{angor|6:7|7}} A’r tŷ, pan adeiladwyd ef, a adeiladwyd o gerrig wedi eu cwbl naddu cyn eu dwyn yno; fel na chlybuwyd na morthwylion, na bwyeill, nac un offeryn haearn yn y tŷ, wrth ei adeiladu.
{{angor|6:8|8}} Drws y gell ganol oedd ar ystlys ddeau y tŷ; ac ar hyd grisiau tröedig y dringid i’r ganol, ac o’r ganol i’r drydedd.
{{angor|6:9|9}} Felly yr adeiladodd efe y tŷ, ac a’i gorffennodd; ac a fyrddiodd y tŷ â thrawstiau ac ystyllod o gedrwydd.
{{angor|6:10|10}} Ac efe a adeiladodd ystafelloedd wrth yr holl dŷ, yn bûm cufydd eu huchder: ac â choed cedr yr oeddynt yn pwyso ar y tŷ.
{{angor|6:11|11}} A daeth gair yr ARGLWYDD at Solomon, gan ddywedyd,
{{angor|6:12|12}} Am y tŷ yr wyt ti yn ei adeiladu, os rhodi di yn fy neddfau i, a gwneuthur fy marnedigaethau, a chadw fy holl orchmynion, gan rodio ynddynt; yna y cyflawnaf a thi fy ngair a leferais wrth Dafydd dy dad:
{{angor|6:13|13}} A mi a breswyliaf ymysg meibion Israel, ac ni adawaf fy mhobl Israel.
{{angor|6:14|14}} Felly yr adeiladodd Solomon y tŷ, ac a’i gorffennodd.
{{angor|6:15|15}} Ac efe a fyrddiodd barwydydd y tŷ oddi fewn ag ystyllod cedrwydd, o lawr y tŷ hyd y llogail y byrddiodd efe ef â choed oddi fewn: byrddiodd hefyd lawr y tŷ â phlanciau o ffynidwydd.
{{angor|6:16|16}} Ac efe a adeiladodd ugain cufydd ar ystlysau y tŷ ag ystyllod cedr, o’r llawr hyd y parwydydd: felly yr adeilad¬odd iddo o fewn, sef i’r gafell, i’r cysegr sancteiddiolaf.
{{angor|6:17|17}} A’r tŷ, sef y deml o’i flaen ef, oedd ddeugain cufydd ei hyd.
{{angor|6:18|18}} A chedrwydd y tŷ oddi fewn oedd wedi eu cerfio yn gnapiau, ac yn flodau agored: y cwbl oedd gedrwydd; ni welid carreg.
{{angor|6:19|19}} A’r gafell a ddarparodd efe yn y tŷ o fewn, i osod yno arch cyfamod yr ARGLWYDD.
{{angor|6:20|20}} A’r gafell yn y pen blaen oedd ugain cufydd o hyd, ac ugain cufydd o led, ac ugain cufydd ei huchder: ac efe a’i gwisgodd ag aur pur; felly hefyd y gwisgodd efe yr allor o gedrwydd.
{{angor|6:21|21}} Solomon hefyd a wisgodd y tŷ oddi fewn ag aur pur; ac a roddes farrau ar draws, wrth gadwyni aur, o flaen y gafell, ac a’u gwisgodd ag aur.
{{angor|6:22|22}} A’r holl dy a wisgodd efe ag aur, nes gorffen yr holl dŷ: yr allor hefyd oll, yr hon oedd wrth y gafell, a wisgodd efe ag aur.
{{angor|6:23|23}} Ac efe a wnaeth yn y gafell ddau o geriwbiaid, o bren olewydd, pob un yn ddeg cufydd ei uchder.
{{angor|6:24|24}} A’r naill adain i’r ceriwb oedd bûm cufydd, a’r adain arall i’r cerub oedd bum cufydd: deg cufydd oedd o’r naill gŵr i’w adenydd ef hyd y cwr arall i’w adenydd ef.
{{angor|6:25|25}} A’r ail geriwb oedd o ddeg cufydd: un mesur ac un agwedd oedd y ddau geriwb.
{{angor|6:26|26}} Uchder y naill geriwb oedd ddeg cufydd; ac felly yr oedd y ceriwb arall.
{{angor|6:27|27}} Ac efe a osododd y ceriwbiaid yn y tŷ oddi fewn: ac adenydd y ceriwbiaid a ymledasant, fel y cyffyrddodd adain y naill â’r naill bared, ac adain y ceriwb arall oedd yn cyffwrdd â’r pared arall; a’u hadenydd hwy yng nghanol y tŷ oedd yn cyffwrdd â’i gilydd.
{{angor|6:28|28}} Ac efe a wisgodd y ceriwbiaid ag aur;
{{angor|6:29|29}} A holl barwydydd y tŷ o amgylch a gerfiodd efe â cherfiedig luniau ceriwb¬iaid, a phalmwydd, a blodau agored; o fewn ac oddi allan.
{{angor|6:30|30}} Llawr y tŷ hefyd a wisgodd efe ag aur, oddi fewn ac oddi allan.
{{angor|6:31|31}} Ac i ddrws y gafell y gwnaeth efe ddorau o goed olewydd; capan y drws a’r gorsingau oedd bumed ran y pared.
{{angor|6:32|32}} Ac ar y ddwy ddôr o goed olewydd y cerfiodd efe gerfiadau ceriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored, ac a’u gwisgodd ag aur, ac a ledodd aur ar y ceriwbiaid, ac ar y palmwydd,
{{angor|6:33|33}} Ac felly y gwnaeth efe i ddrws y deml orsingau o goed olewydd, y rhai oedd bedwaredd ran y pared.
{{angor|6:34|34}} Ac yr oedd y ddwy ddôr o goed ffynidwydd: dwy ddalen blygedig oedd i’r naill ddôr, a dwy ddalen blygedig i’r ddôr arall.
{{angor|6:35|35}} Ac efe a gerfiodd geriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored, ar-<noinclude><references/></noinclude>
1aatpe9og55f148nqni3iokftxhwac4
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/362
104
3615
171754
171413
2026-10-14T06:15:52Z
Tylopous
3717
angorau
171754
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>nynt; ac a’u gwisgodd ag aur, yr hwn a gymhwyswyd ar y cerfiad.
{{angor|6:36|36}} Ac efe a adeiladodd y cyntedd nesaf i mewn â thair rhes o gerrig nadd, ac â rhes o drawstiau cedrwydd.: .
{{angor|6:37|37}} Yn y bedwaredd flwyddyn y sylfaenwyd tŷ yr ARGLWYDD, ym mis Sif:
{{angor|6:38|38}} Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, ym mis Bul, (dyna yr wythfed mis,) y gorffennwyd y tŷ, a’i holl rannau, a’i holl berthynasau. Felly mewn saith mlynedd yr adeiladodd efe ef.
{{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}}
{{bach|1 ''Adeiladu tŷ Solomon,'' 2 ''a thŷ coed Libanus,'' 6 ''a’r porth colofnau,'' 7 ''a phorth y frawdle,'' 8 ''a thŷ merch Pharaoh.'' 13 ''Gwaith Hiram ar y ddwy golofn.'' 23 ''Y môr tawdd.'' 27 ''Y deg ystôl.'' 38 ''Y deg noe bres,'' 40 ''a’r holl lestri.''}}
{{angor|7:1}} {{uc|Eithr}} ei dŷ ei hun a adeiladodd Solomon mewn tair blynedd ar ddeg, ac a orffennodd ei holl dŷ.
{{angor|7:2|2}} Efe a adeiladodd dŷ coedwig Libanus, yn gan cufydd ei hyd, ac yn ddeg cufydd a deugain ei led, ac yn ddeg cufydd ar hugain ei uchder, ar bedair rhes o golofnau cedrwydd, a thrawstiau cedrwydd ar y colofnau.
{{angor|7:3|3}} Ac efe a dowyd â chedrwydd oddi arnodd ar y trawstiau oedd ar y pum colofn a deugain, pymtheg yn y rhes.
{{angor|7:4|4}} Ac yr oedd tair rhes o ffenestri, golau ar gyfer golau, yn dair rhenc.
{{angor|7:5|5}} A’r holl ddrysau a’r gorsingau oedd ysgwar, felly yr oedd y ffenestri; a golau ar gyfer golau, yn dair rhenc.
{{angor|7:6|6}} Hefyd efe a wnaeth borth o golofn¬au, yn ddeg cufydd a deugain ei hyd, ac yn ddeg cufydd ar hugain ei led: a’r porth oedd o’u blaen hwynt; a’r colofn¬au eraill a’r swmerau oedd o’u blaen hwythau.
{{angor|7:7|7}} Porth yr orseddfa hefyd, yr hwn y barnai efe ynddo, a wnaeth efe yn borth barn: ac efe a wisgwyd â chedrwydd o’r naill gŵr i’r llawr hyd y llall.
{{angor|7:8|8}} Ac i’w dŷ ei hun, yr hwn y trigai efe ynddo, yr oedd cyntedd arall o fewa y porth o’r un fath waith. Gwnaeth hefyd dŷ i ferch Pharo, yr hon a briodasai Solomon, fel y porth hwn.
{{angor|7:9|9}} Hyn oll oedd o feini costus, wedi eu naddu wrth fesur, a’u lladd â llif, oddi fewn ac oddi allan, a hynny o’r sylfaen hyd y llogail; ac felly o’r tu allan hyd y cyntedd mawr.
{{angor|7:10|10}} Ac efe a sylfaenesid â meini costus, â meini mawr, â meini o ddeg cufydd, ac â meini o wyth gufydd.
{{angor|7:11|11}} Ac oddi arnodd yr oedd meini costus, wedi eu naddu wrth fesur, a chedrwydd.
{{angor|7:12|12}} Ac i’r cyntedd mawr yr oedd o amgylch, dair rhes o gerrig nadd, a rhes o drawstiau cedrwydd, i gyntedd tŷ yr ARGLWYDD oddi fewn, ac i borth y tŷ.
{{angor|7:13|13}} A’r brenin Solomon a anfonodd ac a gyrchodd Hiram o Tyrus.
{{angor|7:14|14}} Mab gwraig weddw oedd hwn o lwyth Nafftali, a’i dad yn ŵr o Tyrus: gof pres ydoedd efe, a llawn ydoedd o ddoethineb, a deall, a gwybodaeth, i weithio pob gwaith o bres. Ac efe a ddaeth at y brenin Solomon, ac a weithiodd ei holl waith ef.
{{angor|7:15|15}} Ac efe a fwriodd ddwy golofn o bres; deunaw cufydd oedd uchder pob colofn; a llinyn o ddeuddeg cufydd a amgylchai bob un o’r ddwy.
{{angor|7:16|16}} Ac efe a wnaeth ddau gnap o bres tawdd, i’w rhoddi ar bennau y colofnau; pum cufydd oedd uchder y naill gnap, a phum cufydd uchder y cnap arall.
{{angor|7:17|17}} Efe a wnaeth rwydwaith, a phlethiadau o gadwynwaith, i’r cnapiau oedd ar ben y colofnau; saith i’r naill gnap, a saith i’r cnap arall.
{{angor|7:18|18}} Ac efe a wnaeth y colofnau, a dwy res o bomgranadau o amgylch ar y naill rwydwaith, i guddio’r cnapiau oedd uwchben; ac felly y gwnaeth efe i’r cnap arall.
{{angor|7:19|19}} A’r cnapiau y rhai oedd ar y colofnau oedd o waith lili, yn y porth, yn bedwar cufydd.
{{angor|7:20|20}} Ac i’r cnapiau ar y ddwy golofn oddi arnodd, ar gyfer y canol, yr oedd pomgranadau, y rhai oedd wrth y rhwydwaith; a’r pomgranadau oedd ddau cant, yn rhesau o amgylch, ar y cnap arall.
{{angor|7:21|21}} Ac efe a gyfododd y colofnau ym mhorth y deml: ac a gyfododd y golofn ddeau, ac a alwodd ei henw hi Jachin; ac efe a gyfododd y golofn aswy, ac a alwodd ei henw hi Boas.
{{angor|7:22|22}} Ac ar ben y colofnau yr oedd gwaith lili. Felly y gorffennwyd gwaith y colofn¬au.
{{angor|7:23|23}} Ac efe a wnaeth fôr tawdd yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl: yn grwn<noinclude><references/></noinclude>
0s08112vobvzfqit53ww5wi9prbkjxq
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/581
104
3845
171738
7127
2026-10-14T05:26:15Z
Tylopous
3717
penodau
171738
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|Psalm_62}}{{c|{{uc|Psalm LXII}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd, wrth ddangos ei hyder ar Dduw, yn digalonni ei elynion;'' 5 ''ac, yn yr un hyder, yn rhoi calon yn y duwiol.'' 9 ''Nad yw i neb roi ei oglud ar bethau bydol.'' 11 ''Gallu a thrugaredd a berthyn i Dduw.''}}
{{canoli|{{bach|I'r Pencerdd, i Jeduthun, Psalm Dafydd.}}}}
{{angor|62:1}} {{uc|Wrth}} DDUW yn unig y disgwyl fy enaid: ohono ef y daw fy iachawdwriaeth.
62:2 Efe yn unig yw fy nghraig, a'm hiachawdwriaeth, a'm hamddiffyn; ni'm mawr ysgogir.
62:3 Pa hyd y bwriedwch aflwydd yn erbyn gŵr? lleddir chwi oll; a byddwch fel magwyr ogwyddedig, neu bared ar ei ogwydd.
62:4 Ymgyngorasant yn unig i'w fwrw ef i lawr o'i fawredd; hoffasant gelwydd: â'u geneuau y bendithiant, ond o'u mewn y melltithiant. Sela.
62:5 O fy enaid, disgwyl wrth DDUW yn unig: canys ynddo ef y mae fy ngobaith.
62:6 Efe yn unig yw fy nghraig, a'm hiachawdwriaeth: efe yw fy amddiffynfa: ni'm hysgogir.
62:7 Yn NUW y mae fy iachawdwriaeth a'm gogoniant: craig fy nghadernid, a’m noddfa, sydd yn NUW.
62:8 Gobeithiwch ynddo ef bob amser; O bobl, tywelltwch eich calon ger ei fron ef: DUW sydd noddfa i ni. Sela.
62:9 Gwagedd yn ddiau yw meibion dynion, geudeb yw meibion gwŷr: i’w gosod yn y clorian, ysgafnach ydynt hwy i gyd na gwegi.
62:10 Nac ymddiriedwch mewn trawster, ac mewn trais na fyddwch ofer: os cynydda golud, na roddwch eich calon arno.
62:11 Unwaith y dywedodd DUW, clywais hynny ddwywaith; mai eiddo DUW yw cadernid.
62:12 Trugaredd hefyd sydd eiddot ti, O ARGLWYDD: canys ti a deli i bob yn ôl ei weithred.
{{angor|Psalm_63}}{{c|{{uc|Psalm LXIII}}.}}
{{bach|1 ''Hiraeth Dafydd am Dduw.'' 4 ''Y modd y bendithiai efe Dduw.'' 9 ''Ei hyder o ddinystr ei elynion, a’i ddïogelwch ei hun.''}}
{{canoli|{{bach|Psalm Dafydd, pan oedd efe yn niffaethwch Judah.}}}}
{{angor|63:1}} {{uc|Ti}}, O DDUW, yw fy NUW i; yn fore y'th geisiaf: sychedodd fy enaid amdanat, hiraethodd fy nghnawd amdanat, mewn tir cras a sychedig heb ddwfr;
63:2 I weled dy nerth a’th ogoniant, fel y'th welais yn y cysegr.
63:3 Canys gwell yw dy drugaredd di na'r bywyd: fy ngwefusau a'th foliannant.
63:4 Fel hyn y'th glodforaf yn fy mywyd: dyrchafaf fy nwylo yn dy enw.
63:5 Megis â mer ac â braster y digonir fy enaid; a'm genau a'th fawl â gwefusau llafar
63:6 Pan y'th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos.
63:7 Canys buost gynhorthwy i mi; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf.
63:8 Fy enaid a lŷn wrthyt: dy ddeheulaw a'm cynnal.
63:9 Ond y rhai a geisiant fy enaid i ddistryw, a ânt i iselderau y ddaear.
63:10 Syrthiant ar fin y cleddyf: rhan llwynogod fyddant.
63:11 Ond y Brenin a lawenycha yn NUW: gorfoledda pob un a dyngo iddo ef: eithr caeir genau y rhai a ddywedant gelwydd.
{{angor|Psalm_64}}{{c|{{uc|Psalm LXIV}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn gweddïo am ymwared, ac yn cwyno rhag ei elynion:'' 7 ''yn addaw iddo ei hun, y cai weled y fath amlwg ddinystr ar ei elynion, ag a barai i1 ''.''r cyfiawn lawenychu o1 ''.''i blegid.''}}
{{canoli|{{bach|I'r Pencerdd, Psalm Dafydd.}}}}
{{angor|64:1}} {{uc|Clyw}} fy llef, O DDUW, yn fy ngweddi: cadw fy einioes rhag ofn y gelyn.
64:2 Cudd fi rhag cyfrinach y rhai drygionus; rhag terfysg gweithredwyr anwiredd:
64:3 Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon:
64:4 I saethu y perffaith yn ddirgel: yn ddisymwth y saethant ef, ac nid ofnant.
64:5 Ymwrolant mewn peth drygionus, ymchwedleuant am osod maglau yn ddirgel; dywedant, Pwy a'u gwêl hwynt?
64:6 Chwiliant allan anwireddau; gorffennant ddyfal chwilio: ceudod a chalon pob un ohonynt sydd ddofn.
64:7 Eithr DUW a'u saetha hwynt; â saeth ddisymwth yr archollir hwynt.
64:8 Felly hwy a wnânt i’w tafodau eu hun syrthio arnynt: pob un a'u gwelo a gilia.
64:9 A phob dyn a ofna, ac a fynega waith DUW: canys doeth ystyriant ei waith ef.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
tm3iwrt7relfvst6ndfx6uwexzguvww
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/582
104
3846
171739
7128
2026-10-14T05:30:35Z
Tylopous
3717
penodau
171739
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>64:10 Y cyfiawn a lawenycha yn yr ARGLWYDD, ac a obeithia ynddo; a'r rhai uniawn o galon oll a orfoleddant.
{{angor|Psalm_65}}{{c|{{uc|Psalm LXV}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn moliannu Duw am ei ras.'' 4 ''Dedwyddwch etholedigion Duw, oblegid amryw ddoniau.''}}
{{canoli|{{bach|I'r Pencerdd, Psalm a Chân Dafydd.}}}}
{{angor|65:1}} {{uc|Mawl}} a’th erys di yn Seion, O DDUW: ac i ti y telir yr adduned.
65:2 Ti yw yr hwn a wrandewi weddi, atat ti y daw pob cnawd.
65:3 Pethau anwir a’m gorchfygasant: ein camweddau ni, ti a’u glanhei.
65:4 Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech, ac a nesaech atat; fel y trigo yn dy gynteddoedd: nyni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy deml sanctaidd.
65:5 Atebi i ni trwy bethau ofnadwy, yn dy gyfiawnder, O DDUW ein hiachawdwriaeth; gobaith holl gyrrau y ddaear, a’r rhai sydd bell ar y môr.
65:6 Yr hwn a sicrha y mynyddoedd trwy ei nerth, ac a wregysir â chadernid.
65:7 Yr hwn a ostega dwrf y moroedd, twrf eu tonnau, a therfysg y bobloedd.
65:8 A phreswylwyr eithafoedd y byd a ofnant dy arwyddion: gwnei i derfyn bore a hwyr lawenychu.
65:9 Yr wyt yn ymweled â'r ddaear, ac yn ei dyfrhau hi; yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon DUW, yr hon sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, pan ddarperaist felly iddi.
65:10 Gan ddyfrhau ei chefnau, a gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnwd hi.
65:11 Coroni yr ydwyt y flwyddyn â’th ddaioni; a'th lwybrau a ddiferant fraster.
65:12 Diferant ar borfeydd yr anialwch: a'r bryniau a ymwgregysant â hyfrydwch.
65:13 Y dolydd a wisgir â defaid, a'r dyffrynnoedd a orchuddir ag ŷd; am hynny y bloeddiant, ac y canant.
{{angor|Psalm_66}}{{c|{{uc|Psalm LXVI}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn annog i foliannu Duw,'' 5 ''i ddal er ei weithredoedd ef,'' 8 ''i’w fendithio am ei ddoniau grasusol;'' 13 ''yn addaw drosto ei hun wasanaeth crefyddol i Dduw;'' 16 ''yn datgan enwedig ddoniau Duw iddo.''}}
{{canoli|{{bach|I'r Pencerdd, Cân ''neu'' Psalm.}}}}
{{angor|66:1}} {{uc|Llawen-floeddiwch}} i DDUW, yr holl ddaear:
66:2 Datgenwch ogoniant ei enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus.
66:3 Dywedwch wrth DDUW, Mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd! oherwydd maint dy nerth, y cymer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedig i ti.
66:4 Yr holl ddaear a’th addolant di, ac a ganant i ti; ie, canant i’th enw. Sela.
66:5 Deuwch, a gwelwch weithredoedd DUW: ofnadwy yw yn ei weithred tuag at feibion dynion.
66:6 Trodd efe y môr yn sychdir: aethant trwy yr afon ar draed: yna y llawenychasom ynddo.
66:7 Efe a lywodraetha trwy ei gadernid byth; ei lygaid a edrychant at y cenhedloedd: nac ymddyrchafed y rhai anufudd. Sela.
66:8 O bobloedd, bendithiwch ein DUW, a pherwch glywed llais ei fawl ef.
66:9 Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni ad i'n troed lithro.
66:10 Canys profaist ni, O DDUW: coethaist, fel coethi arian.
66:11 Dygaist ni i’r rhwyd: gosodaist wasgfa at ein llwynau.
66:12 Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau; aethom trwy y tân a'r dwfr: a thi a'n dygaist allan i le diwall.
66:13 Deuaf i'th dŷ ag offrymau poeth: talaf i ti fy addunedau,
66:14 Y rhai a adroddodd fy ngwefusau, ac a ddywedodd fy ngenau yn fy nghyfyngder.
66:15 Offrymaf i ti boethoffrymau breision, ynghyd ag arogl-darth hyrddod; aberthaf ychen a bychod. Sela.
66:16 Deuwch, gwrandewch, y rhai oll a ofnwch DDUW; a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i'm henaid.
66:17 Llefais arno â’m genau, ac efe a ddyrchafwyd â’m tafod.
66:18 Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon, ni wrandawsai yr Arglwydd.
66:19 DUW yn ddiau a glybu, ac a wrandawodd ar lais fy ngweddi
66:20 Bendigedig fyddo DUW, yr hwn ni throdd fy ngweddi oddi wrtho, na’i drugaredd ef oddi wrthyf finnau.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
9zopu3k46dkm88teuftzteuuyj59fjk
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/583
104
3847
171740
7130
2026-10-14T05:34:19Z
Tylopous
3717
penodau
171740
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|Psalm_67}}{{c|{{uc|Psalm LXVII}}.}}
{{bach|1 ''Gweddi am helaethu teyrnas Dduw,'' 3 ''er llawenydd i’r bobl,'' 6 ''ac er amlhâu bendithion Duw.''}}
{{canoli|{{bach|I’r Pencerdd ar Neginoth, Psalm ''neu'' Gân.}}}}
{{angor|67:1}} {{uc|Duw}} a drugarhao wrthym, ac a’n bendithio; a thywynned ei wyneb arnom: Sela:
67:2 Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaear, a’th iachawdwriaeth ymhlith yr holl genhedloedd.
67:3 Molianned y bobl di, O DDUW; molianned yr holl bobl dydi.
67:4 Llawenhaed y cenhedloedd, a byddant hyfryd: canys ti a ferni y bobl yn uniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaear. Sela.
67:5 Molianned y bobl di, O DDUW; molianned yr holl bobl dydi.
67:6 Yna y ddaear a rydd ei ffrwyth; a DUW, sef ein DUW ni, a’n bendithia.
67:7 DUW a’n bendithia; a holl derfynau y ddaear a’i hofnant ef.
{{angor|Psalm_68}}{{c|{{uc|Psalm LXVIII}}.}}
{{bach|1 ''Gweddi wrth symmudo yr arch.'' 4 ''Cynghor i foliannu Duw am ei drugareddau;'' 7 ''am ei ofal dros ei eglwys;'' 19 ''am ei fawr drugareddau.''}}
{{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, Psalm ''neu'' Gân Dafydd.}}}}
{{angor|68:1}} {{uc|Cyfoded}} DUW, gwasgarer ei elynion: a ffoed ei gaseion o’i flaen ef.
68:2 Chweli hwynt fel chwalu mwg: fel y tawdd cwyr wrth y tân, difether y rhai annuwiol o flaen DUW.
68:3 Ond llawenycher y rhai cyfiawn, a gorfoleddant gerbron DUW; a byddant hyfryd o lawenydd.
68:4 Cenwch i DDUW, canmolwch ei enw: dyrchefwch yr hwn sydd yn marchogaeth ar y nefoedd, a’i enw yn JAH, a gorfoleddwch ger ei fron ef.
68:5 Tad yr amddifaid, a Barnwr y gweddwon, yw DUW, yn ei breswylfa sanctaidd.
68:6 DUW sydd yn gosod yr unig mewn teulu: yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn gefynnau; ond y rhai cyndyn a breswyliant grastir.
68:7 Pan aethost, O DDUW, O flaen dy bobl, pan gerddaist trwy yr anialwch; Sela:
68:8 Y ddaear a grynodd, a’r nefoedd a ddiferasant o flaen DUW: Sinai yntau a grynodd o flaen DUW, sef DUW Israel.
68:9 Dihidlaist law graslon, O DDUW, at dy etifeddiaeth: ti a’i gwrteithiaist wedi ei blino.
68:10 Dy gynulleidfa di sydd yn trigo ynddi: yn dy ddaioni, O DDUW, yr wyt yn darparu i’r tlawd.
68:11 Yr ARGLWYDD a roddes y gair; mawr oedd mintai y rhai a’i pregethent.
68:12 Brenhinoedd byddinog a ffoesant ar ffrwst: a’r hon a drigodd yn tŷ, rannodd yr ysbail.
68:13 Er gorwedd ohonoch ymysg y crochanau, byddwch fel esgyll colomen wedi eu gwisgo ag arian, a’i hadenydd ag aur melyn.
68:14 Pan wasgarodd yr Hollalluog frenhinoedd ynddi, yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon.
68:15 Mynydd DUW sydd fel mynydd Basan; yn fynydd cribog fel mynydd Basan.
68:16 Paham y llemwch, chwi fynyddoedd cribog? dyma y mynydd a chwenychodd DUW ei breswylio; ie, preswylia yr ARGLWYDD ynddo byth.
68:17 Cerbydau DUW ydynt ugain mil, sef miloedd o angylion: yr Arglwydd sydd yn eu plith, megis yn Sinai yn y cysegr.
68:18 Dyrchefaist i’r uchelder, caethgludaist gaethiwed: derbyniaist roddion i ddynion; ie, i’r rhai cyndyn hefyd, fel yr ARGLWYDD DDUW yn eu plith.
68:19 Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a’n llwytha beunydd â daioni; sef DUW ein hiachawdwriaeth. Sela.
68:20 Ein DUW ni sydd DDUW iachawdwriaeth; ac i’r ARGLWYDD DDUW y perthyn diangfâu rhag marwolaeth.
68:21 DUW yn ddiau a archolla ben ei elynion; a chopa walltog yr hwn a rodio rhagddo yn ei gamweddau.
68:22 Dywedodd yr Arglwydd, Dygaf fy mhobl drachefn o Basan, dygaf hwynt drachefn o ddyfnder y môr;
68:23 Fel y trocher dy droed yng ngwaed dy elynion, a thafod dy gŵn yn yr unrhyw.
68:24 Gwelsant dy fynediad, O DDUW; mynediad fy NUW, fy Mrenin, yn y cysegr.
68:25 Y cantorion a aethant o’r blaen, a’r cerddorion ar ôl; yn eu mysg yr oedd y llancesau yn canu tympanau.
68:26 Bendithiwch DDUW yn y cynlleidfaoedd, sef yr Arglwydd, y rhai ydych o ffynnon Israel.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
fv23lexwri32wfq9j6g6v40irtlfld1
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/584
104
3848
171741
7131
2026-10-14T05:36:24Z
Tylopous
3717
penodau
171741
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>68:27 Yno y mae Benjamin fychan â’u llywydd, tywysogion Jwda â’u cynulleidfa; tywysogion Sabulon, a thywysogion Nafftali.
68:28 Dy DDUW a orchmynnodd dy nerth: cadarnha, O DDUW, yr hyn a wnaethost ynom ni.
68:29 Brenhinoedd a ddygant i ti anrheg er mwyn dy deml yn Jerwsalem.
68:30 Cerydda dyrfa y gwaywffyn, cynulleidfa y gwrdd deirw, gyda lloi y bobl, fel y delont yn ostyngedig â darnau arian: gwasgar y bobl sydd dda ganddynt ryfel.
68:31 Pendefigion a ddeuant o’r Aifft; Ethiopia a estyn ei dwylo yn brysur at DDUW.
68:32 Teyrnasoedd y ddaear, cenwch i DDUW; canmolwch yr Arglwydd: Sela:
68:33 Yr hwn a ferchyg ar nef y nefoedd, y rhai oedd erioed: wele efe yn anfon ei lef, a honno yn llef nerthol.
68:34 Rhoddwch i DDUW gadernid: ei oruchelder sydd ar Israel, a’i nerth yn yr wybrennau.
68:35 Ofnadwy wyt, O DDUW, o’th gysegr: DUW Israel yw efe sydd yn rhoddi nerth a chadernid i’r bobl. Bendigedig fyddo DUW.
{{angor|Psalm_69}}{{c|{{uc|Psalm LXIX}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn cwyno ei gystudd;'' 13 ''yn gweddïo am ymwared;'' 22 ''yn dïofrydu ei elynion i ddinystr;'' 30 ''an moliannu Duw gyd â dïolch.''}}
{{canoli|{{bach|I’r Pencerdd ar Sosannim, ''Psalm'' Dafydd.}}}}
{{angor|69:1}} {{uc|Achub}} fi, O DDUW, canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid.
69:2 Soddais mewn tom dwfn, lle nid oes sefyllfa: deuthum i ddyfnder dyfroedd, a’r ffrwd a lifodd drosof.
69:3 Blinais yn llefain, sychodd fy ngheg: pallodd fy llygaid, tra yr ydwyf yn disgwyl wrth fy NUW.
69:4 Amlach na gwallt fy mhen yw y rhai a’m casânt heb achos: cedyrn yw fy ngelynion diachos, y rhai a’m difethent: yna y telais yr hyn ni chymerais.
69:5 O DDUW, ti a adwaenost fy ynfydrwydd; ac nid yw fy nghamweddau guddiedig rhagot.
69:6 Na chywilyddier o’m plegid i y rhai a obeithiant ynot ti, Arglwydd DDUW y lluoedd: na waradwydder o’m plegid i y rhai a’th geisiant di, O DDUW Israel.
69:7 Canys er dy fwyn di y dygais warthrudd, ac y todd cywilydd fy wyneb.
69:8 Euthum yn ddieithr i’m brodyr, ac fel estron gan blant fy mam.
69:9 Canys sêl dy dŷ a’m hysodd; a gwaradwyddiad y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiodd arnaf fi.
69:10 Pan wylais, gan gystuddio fy enaid ag ympryd, bu hynny yn waradwydd i mi.
69:11 Gwisgais hefyd sachliain; ac euthum yn ddihareb iddynt.
69:12 Yn fy erbyn y chwedleuai y rhai a eisteddent yn y porth; ac i’r meddwon yr oeddwn yn wawd.
69:13 Ond myfi, fy ngweddi sydd atat ti, O ARGLWYDD, mewn amser cymeradwy: O DDUW, yn lluosowgrwydd dy drugaredd gwrando fi, yng ngwirionedd dy iachawdwriaeth.
69:14 Gwared fi o’r dom, ac na soddwyf: gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o’r dyfroedd dyfnion.
69:15 Na lifed y ffrwd ddwfr drosof, ac na lynced y dyfnder fi; na chaeed y pydew chwaith ei safn arnaf.
69:16 Clyw fi, ARGLWYDD; canys da yw dy drugaredd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf.
69:17 Ac na chuddia dy wyneb oddi wrth dy was; canys y mae cyfyngder arnaf: brysia, gwrando fi.
69:18 Nesâ at fy enaid, a gwared ef: achub fi oherwydd fy ngelynion.
69:19 Ti a adwaenost fy ngwarthrudd, a’m cywilydd, a’m gwaradwydd: fy holl elynion ydynt ger dy fron di.
69:20 Gwarthrudd a dorrodd fy nghalon; yr ydwyf mewn gofid: a disgwyliais am rai i dosturio wrthyf, ac nid oedd neb; ac am gysurwyr, ac ni chefais neb.
69:21 Rhoddasant hefyd fustl yn fy mwyd, ac a’m diodasant yn fy syched â finegr.
69:22 Bydded eu bwrdd yn fagl ger eu bron, a’u llwyddiant yn dramgwydd.
69:23 Tywyller eu llygaid, fel na welont; a gwna i’w llwynau grynu bob amser.
69:24 Tywallt dy ddig arnynt; a chyrhaedded llidiowgrwydd dy ddigofaint hwynt.
69:25 Bydded eu preswylfod yn anghyfannedd; ac na fydded a drigo yn eu pebyll.
69:26 Canys erlidiasant yr hwn a drawsit ti; ac am ofid y rhai a archollaist ti, y chwedleuant.<noinclude><references/></noinclude>
sivy7uv8gilxvgtccc0j7rcwok1ewtr
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/585
104
3849
171742
7132
2026-10-14T05:39:43Z
Tylopous
3717
penodau
171742
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>69:27 Dod ti anwiredd at eu hanwiredd hwynt; ac na ddelont i’th gyfiawnder di.
69:28 Dileer hwynt o lyfr y rhai byw; ac na ysgrifenner hwynt gyda’r rhai cyfiawn.
69:29 Minnau, truan a gofidus ydwyf: dy iachawdwriaeth di, O DDUW, a’m dyrchafo.
69:30 Moliannaf enw DUW ar gân, a mawrygaf ef mewn mawl.
69:31 A hyn fydd well gan yr ARGLWYDD nag ych neu fustach corniog, carnol.
69:32 Y trueiniaid a lawenychant pan welant hyn: eich calon chwithau, y rhai a geisiwch DDUW, a fydd byw.
69:33 Canys gwrendy yr ARGLWYDD ar dlodion, ac ni ddiystyra efe ei garcharorion.
69:34 Nefoedd a daear, y môr a’r hyn oll a ymlusgo ynddo, molant ef.
69:35 Canys DUW a achub Seion, ac a adeilada ddinasoedd Jwda; fel y trigont yno, ac y meddiannont hi.
69:36 A hiliogaeth ei weision a’i meddiannant hi: a’r rhai a hoffant ei enw ef, a breswyliant ynddi.
{{angor|Psalm_70}}{{c|{{uc|Psalm LXX}}.}}
{{bach|''Dafydd yn ymbil â Duw am gyflym ddinystr i’r annuwiol, a’i nawdd i’r duwiol.''}}
{{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, ''Psalm'' Dafydd i goffa.}}}}
{{angor|70:1}} {{uc|O Dduw}}, prysura i’m gwaredu; brysia, ARGLWYDD, i’m cymorth.
70:2 Cywilyddier a gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl a gwaradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi.
70:3 Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd y rhai a ddywedant, Ha, ha.
70:4 Llawenyched, a gorfoledded ynot ti y rhai oll a’th geisiant; a dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth yn wastad, Mawryger Duw. i
70:5 Minnau ydwyf dlawd ac anghenus; O DDUW, brysia ataf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti, O ARGLWYDD; na hir drig.
{{angor|Psalm_71}}{{c|{{uc|Psalm LXXI}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd, mewn hyder ffydd, a phrawf o ffafr Duw, yn gweddïo drosto ei hun, ac yn erbyn gelynion ei enaid:'' 14 ''yn addaw bod yn ddïanwadal:'' 17 ''yn gweddïo am nerth i barhâu:'' 19 ''yn moliannu Duw, ac yn addaw gwneuthur hynny yn llawen.''}}
{{angor|71:1}} {{uc|Ynot}} ti, O ARGLWYDD, y gobeithiais; na’m cywilyddier byth.
71:2 Achub fi, a gwared fi yn dy iawnder: gostwng dy glust ataf, ac achub fi.
71:3 Bydd i mi yn drigfa gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchmynnaist fy achub; canys ti yw fy nghraig a’m hamddiffynfa.
71:4 Gwared fi, O fy NUW, o law yr annuwiol, o law yr anghyfiawn a’r traws.
71:5 Canys ti yw fy ngobaith, O Arglwydd DDUW; fy ymddiried o’m hieuenctid.
71:6 Wrthyt ti y’m cynhaliwyd o’r bru; ti a’m tynnaist o groth fy mam: fy mawl fydd yn wastad amdanat ti.
71:7 Oeddwn i lawer megis yn rhyfeddod: eithr tydi yw fy nghadarn noddfa.
71:8 Llanwer fy ngenau â’th foliant, ac â’th ogoniant beunydd.
71:9 Na fwrw fi ymaith yn amser henaint: na wrthod fi pan ballo fy nerth.
71:10 Canys fy ngelynion sydd yn dywedyd i’m herbyn; a’r rhai a ddisgwyliant am fy enaid a gydymgynghorant,
71:11 Gan ddywedyd, DUW a’i gwrthododd ef: erlidiwch a deliwch ef; canys nid oes gwaredydd.
71:12 O DDUW, na fydd bell oddi wrthyf: fy NUW, brysia i’m cymorth.
71:13 Cywilyddier a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid: â gwarth ac â gwaradwydd y gorchuddier y rhai a geisiant ddrwg i mi.
71:14 Minnau a obeithiaf yn wastad, ac a’th foliannaf di fwyfwy.
71:15 Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder a’th iachawdwriaeth beunydd; canys ni wn rifedi arnynt.
71:16 Yng nghadernid yr Arglwydd DDUW y cerddaf: dy gyfiawnder di yn unig a gofiaf fi.
71:17 O’m hieuenctid y’m dysgaist, O DDUW: hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau.
71:18 Na wrthod fi chwaith, O DDUW, mewn henaint a phenllwydni; hyd oni fynegwyf dy nerth i’r genhedlaeth hon, a’th gadernid i bob un a ddelo.
71:19 Dy gyfiawnder hefyd, O DDUW, sydd uchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion: pwy, O DDUW, sydd debyg i ti?
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
k4envbpygkl27c1lycu8z578jwlytby
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/586
104
3850
171743
7133
2026-10-14T05:43:50Z
Tylopous
3717
penodau
171743
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>71:20 Ti, yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau, a’m bywhei ac a’m cyfodi drachefn o orddyfnder y ddaear.
71:21 Amlhei fy mawredd, ac a’m cysuri oddi amgylch.
71:22 Minnau a’th foliannaf ar offeryn nabl, sef dy wirionedd, O fy NUW: canaf i ti â’r delyn, O Sanct Israel.
71:23 Fy ngwefusau a fyddant hyfryd pan ganwyf i ti; a’m henaid, yr hwn a waredaist.
71:24 Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beunydd: oherwydd cywilyddiwyd a gwaradwyddwyd y rhai a geisiant niwed i mi.
{{angor|Psalm_72}}{{c|{{uc|Psalm LXXII}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd, wrth weddïo dros Solomon, yn dangos daioni a gogoniant ei deyrnas ef yn y cysgod, ond mewn gwirionedd, teyrnas Crist:'' 18 ''yn bendithio Duw.''}}
{{canoli|{{bach|''Psalm'' i Solomon.}}}}
{{angor|72:1}} {{uc|O Dduw}}, dod i’r Brenin dy farnedigaethau, ac i fab y Brenin dy gyfiawnder.
72:2 Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder,a’th drueiniaid â barn.
72:3 Y mynyddoedd a ddygant heddwchi’r bobl, a’r bryniau, trwy gyfiawnder
72:4 Efe a farn, drueiniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghenus, ac a ddryllia y gorthrymydd.
72:5 Tra fyddo haul a lleuad y’th ofnant, yn oes oesoedd.
72:6 Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu gwlân; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear.
72:7 Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad.
72:8 Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd derfynau y ddaear.
72:9 O’i flaen ef yr ymgryma trigolion yr anialwch: a’i elynion a lyfant y llwch.
72:10 Brenhinoedd Tarsis a’r ynysoedd a dalant anrheg: brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd.
72:11 Ie, yr holl frenhinoedd a ymgrymant iddo: yr holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef.
72:12 Canys efe a wared yr anghenog pan waeddo: y truan hefyd, a’r hwn ni byddo cynorthwywr iddo.
72:13 Efe a arbed y tlawd a’r rheidus, ac a achub eneidiau y rhai anghenus.
72:14 Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll a thrawster: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef.
72:15 Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo aur Seba: gweddïant hefyd drosto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef.
72:16 Bydd dyrnaid o ŷd ar y ddaear ym mhen y mynyddoedd: ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus; a phobl y ddinas a flodeuant fel gwellt y ddaear.
72:17 Ei enw fydd yn dragywydd: ei enw a bery tra fyddo haul; ac ymfendithiant ynddo: yr holl genhedloedd a’i galwant yn wynfydedig.
72:18 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD DDUW, DUW Israel, yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau.
72:19 Bendigedig hefyd fyddo ei enw gogoneddus ef yn dragywydd; a’r holl ddaear a lanwer o’i ogoniant. Amen, ac Amen.
72:20 Gorffen gweddïau Dafydd mab Jesse.
{{angor|Psalm_73}}{{c|{{uc|Psalm LXXIII}}.}}
{{bach|1 ''Y prophwyd, wedi gorfod rhyw brofedigaeth,'' 2 ''ar yr achlysyr hwnnw, yn dangos llwyddiant yr enwir;'' 13 ''a’r briw a gafodd efe wrth hynny, sef anymddiried.'' 15 ''Ei orfodaeth, sef gwybod amcan Duw, yn difetha yr annuwiol, ac yn cynnal y cyfiawn.''}}
{{canoli|{{bach|Psalm Asaph.}}}}
{{angor|73:1}} {{uc|Yn}} ddiau da yw DUW i Israel; sef i’r rhai glân o galon.
73:2 Minnau, braidd na lithrodd fy nhraed: prin na thripiodd fy ngherddediad.
73:3 Canys cenfigennais wrth y rhai ynfyd, pan welais lwyddiant y rhai annuwiol.
73:4 Canys nid oes rhwymau yn eu marwolaeth; a’u cryfder sydd heini.
73:5 Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill; ac ni ddialeddir arnynt hwy gyda dynion eraill.
73:6 Am hynny y cadwynodd balchder hwynt, ac y gwisg trawster amdanynt fel dilledyn.
73:7 Eu llygaid a saif allan gan fraster: aethant dros feddwl calon o gyfoeth.
73:8 Y maent wedi llygru, yn chwedleua yn ddrygionus am drawster; yn dywedyd yn uchel.
73:9 Gosodasant eu genau yn erbyn y nefoedd: a’u tafod a gerdd trwy y ddaear.
73:10 Am hynny y dychwel ei bobl ef yma; ac y gwesgir iddynt ddwfr ffiol lawn.
73:11 Dywedant hefyd, Pa fodd y<noinclude><references/></noinclude>
qsdzeio1etp74yq3tw833mu8blbce0v
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/587
104
3949
171744
7431
2026-10-14T05:45:40Z
Tylopous
3717
penodau
171744
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>gŵyr DUW? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf?
73:12 Wele, dyma y rhai annuwiol, a’r rhai sydd lwyddiannus yn y byd, ac a amlhasant olud.
73:13 Diau mai yn ofer y glanheais fy nghalon, ac y golchiais fy nwylo mewn diniweidrwydd.
73:14 Canys ar hyd y dydd y’m maeddwyd; fy ngherydd a ddeuai bob bore.
73:15 Os dywedwn, Mynegaf fel hyn; wele, â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam.
73:16 Pan amcenais wybod hyn, blin oedd hynny yn fy ngolwg i;
73:17 Hyd onid euthum i gysegr DUW: yna y deellais eu diwedd hwynt.
73:18 Diau osod ohonot hwynt mewn llithrigfa, a chwympo ohonot hwynt i ddinistr.
73:19 Mor ddisymwth yr aethant yn anghyfannedd! pallasant, a darfuant gan ofn.
73:20 Fel breuddwyd wrth ddihuno un; felly, O Arglwydd, pan ddeffroech, dirmygi eu gwedd hwynt.
73:21 Fel hyn y gofidiodd fy nghalon, ac y’m pigwyd yn fy arennau.
73:22 Mor ynfyd oeddwn, ac heb wybod; anifail oeddwn o’th flaen di.
73:23 Eto yr ydwyf yn wastad gyda thi: ymaflaist yn fy llaw ddeau.
73:24 A’th gyngor y’m harweini; ac wedi hynny y’m cymeri i ogoniant.
73:25 Pwy sydd gennyf fi yn y nefoedd ond tydi? ac ni ewyllysiais at y ddaear neb gyda thydi.
73:26 Pallodd fy nghnawd a’m calon: ond nerth fy nghalon a’m rhan yw DUW yn dragywydd.
73:27 Canys wele, difethir y rhai a bellhânt oddi wrthyt: torraist ymaith bob un a buteinio oddi wrthyt.
73:28 Minnau, nesáu at DDUW sydd i mi: yn yr Arglwydd DDUW y gosodais fy ngobaith, i draethu dy holl weithredoedd.
{{angor|Psalm_74}}{{c|{{uc|Psalm LXXIV}}.}}
{{bach|1 ''Y prophwyd yn cwyno antheithio y cyssegr:'' 10 ''yn erfyn cymmorth gan Dduw, wrth ystyried ei allu,'' 18 ''a’i elynion enllibus, a’i blant, a’i gyfammod.''}}
{{canoli|{{bach|Maschil Asaph.}}}}
{{angor|74:1}} {{uc|Paham}}, DDUW, y’n bwriaist heibio yn dragywydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa?
74:2 Cofia dy gynulleidfa, yr hon a brynaist gynt; a llwyth dy etifeddiaeth, yr hwn a waredaist; mynydd Seion hwn, y preswyli ynddo.
74:3 Dyrcha dy draed at anrhaith dragywyddol; sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y cysegr.
74:4 Dy elynion a ruasant yng nghanol dy gynulleidfaoedd; gosodasant eu banerau yn arwyddion.
74:5 Hynod oedd gŵr, fel y codasai fwyell mewn drysgoed.
74:6 Ond yn awr y maent yn dryllio ei cherfiadau ar unwaith â bwyeill ac morthwylion.
74:7 Bwriasant dy gysegroedd yn tân; hyd lawr yr halogasant breswylfa dy enw.
74:8 Dywedasant yn eu calonnau, Cydanrheithiwn hwynt: llosgasant holl synagogau DUW yn y tir.
74:9 Ni welwn ein harwyddion: nid oes broffwyd mwy, nid oes gennym a ŵyr pa hyd.
74:10 Pa hyd, DDUW, y gwarthrudda y gwrthwynebwyr? a gabla y gelyn dy enw yn dragywydd?
74:11 Paham y tynni yn ei hôl dy law, sef dy ddeheulaw? tyn hi allan o ganol dy fynwes.
74:12 Canys DUW yw fy Mrenin o’r dechreuad, gwneuthurwr iachawdwriaeth o fewn y tir.
74:13 Ti yn dy nerth a berthaist y môr: drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd.
74:14 Ti a ddrylliaist ben lefiathan; rhoddaist ef yn fwyd i’r bobl yn yr anialwch.
74:15 Ti a holltaist y ffynnon a’r afon; ti a ddihysbyddaist afonydd cryfion.
74:16 Y dydd sydd eiddot ti, y nos hefyd sydd eiddot ti: ti a baratoaist oleuni a haul.
74:17 Ti a osodaist holl derfynau y ddaear: ti a luniaist haf a gaeaf.
74:18 Cofia hyn, i’r gelyn gablu, O ARGLWYDD, ac i’r bobl ynfyd ddifenwi dy enw.
74:19 Na ddyro enaid dy durtur i gynulleidfa y gelynion: nac anghofia gynulleidfa dy drueiniaid byth.
74:20 Edrych ar y cyfamod: canys llawn yw tywyll leoedd y ddaear o drigfannau trawster.
74:21 Na ddychweled y tlawd yn waradwyddus: molianned y truan a’r anghenus dy enw.
74:22 Cyfod, O DDUW, dadlau dy ddadl: cofia dy waradwydd gan yr ynfyd beunydd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
gku2a898g3hxibcmmmxg899yb58h6p6
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/588
104
3950
171745
7432
2026-10-14T05:51:11Z
Tylopous
3717
penodau
171745
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>74:23 Nac anghofia lais dy elynion: dadwrdd y rhai a godant i’th erbyn sydd yn dringo yn wastadol.
{{angor|Psalm_75}}{{c|{{uc|Psalm LXXV}}.}}
{{bach|1 ''Y prophwyd yn moliannu Duw;'' 2 ''yn addaw barnu yn gyfiawn;'' 4 ''yn ceryddu y beilchion, trwy ystyried rhagluniaeth Duw;'' 9 ''yn moliannu Duw, ac yn addaw gwneuthur cyfiawnder.''}}
{{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, Al-teschith, Psalm ''neu'' Gân Asaph.}}}}
{{angor|75:1}} {{uc|Clodforwn}} dydi, O DDUW, clodforwn; canys agos yw dy enw; dy ryfeddodau a fynegant hynny.
75:2 Pan dderbyniaf y gynulleidfa, mi a farnaf yn gyfiawn.
75:3 Ymddatadodd y ddaear, a’i holl drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau. Sela.
75:4 Dywedais wrth y rhai ynfyd, Nac ynfydwch; ac wrth y rhai annuwiol, Na ddyrchefwch eich corn:
75:5 Na ddyrchefwch eich corn yn uchel: na ddywedwch yn warsyth.
75:6 Canys nid o’r dwyrain, nac o’r gorllewin, nac o’r deau, y daw goruchafiaeth.
75:7 Ond DUW sydd yn barnu; efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall.
75:8 Oblegid y mae ffiol yn llaw yr ARGLWYDD, a’r gwin sydd goch; yn llawn cymysg, ac efe a dywalltodd ohono: eto holl annuwiolion y tir a wasgant, ac a yfant ei waelodion.
75:9 Minnau a fynegaf yn dragywydd, ac a ganaf i DDUW Jacob.
75:10 Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol; a chyrn y rhai cyfiawn a ddyrchefir.
{{angor|Psalm_76}}{{c|{{uc|Psalm LXXVI}}.}}
{{bach|1 ''Datgan mawredd Duw yn ei eglwys.'' 11 ''Cynghor i’w wasanaethu ef yn barchedig.''}}
{{canoli|{{bach|I’r Pencerdd ar Neginoth, Psalm ''neu'' Gân Asaph.}}}}
{{angor|76:1}} {{uc|Hynod}} yw DUW yn Jwda; mawr yw ei enw ef yn Israel.
76:2 Ei babell hefyd sydd yn Salem, a’i drigfa yn Seion.
76:3 Yna y torrodd efe saethau y bwa, y darian, y cleddyf hefyd, a’r frwydr. Sela.
76:4 Gogoneddusach wyt a chadarnach na mynyddoedd yr ysbail.
76:5 Ysbeiliwyd y cedyrn galon, hunasant eu hun: a’r holl wŷr o nerth ni chawsant eu dwylo.
76:6 Gan dy gerydd di, O DDUW Jacob, y rhoed y cerbyd a’r march i gysgu.
76:7 Tydi, tydi, wyt ofnadwy; a phwy a saif o’th flaen pan enynno dy ddicter?
76:8 O’r nefoedd y peraist glywed barn; ofnodd, a gostegodd y ddaear,
76:9 Pan gyfododd DUW i farn, i achub holl rai llednais y tir. Sela.
76:10 Diau cynddaredd dyn a’th folianna di: gweddill cynddaredd a waherddi.
76:11 Addunedwch, a thelwch i’r ARGLWYDD eich DUW: y rhai oll ydynt o’i amgylch ef, dygant anrheg i’r ofnadwy.
76:12 Efe a dyr ymaith ysbryd tywysogion: y mae yn ofnadwy i frenhinoedd y ddaear.
{{angor|Psalm_77}}{{c|{{uc|Psalm LXXVII}}.}}
{{bach|1 ''Y Psalmydd yn dangos pa ymdreth creulawn a fuasai rhyngddo ac anobaith;'' 10 ''a’r oruchafiaeth a gafodd, wrth ystyried mawr a grasusuol weithredoedd Duw.''}}
{{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, i Jeduthun, Psalm Asaph.}}}}
{{angor|77:1}} {{uc|A’m}} llef y gwaeddais ar DDUW, â’m nef ar DDUW; ac efe a’m gwrandawodd.
77:2 Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd: fy archoll a redodd liw nos, ac ni pheidiodd: fy enaid a wrthododd ei ddiddanu.
77:3 Cofiais DDUW, ac a’m cythryblwyd: cwynais, a therfysgwyd fy ysbryd. Sela.
77:4 Deliaist fy llygaid yn neffro: synodd arnaf, fel na allaf lefaru.
77:5 Ystyriais y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd.
77:6 Cofio yr ydwyf fy nghân y nos: yr ydwyf yn ymddiddan â’m calon; fy ysbryd sydd yn chwilio yn ddyfal.
77:7 Ai yn dragywydd y bwrw yr ARGLWYDD heibio? ac oni bydd efe bodlon mwy?
77:8 A ddarfu ei drugaredd ef dros byth? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd?
77:9 A anghofiodd DUW drugarhau? a gaeodd efe ei drugareddau mewn soriant? Sela.
77:10 A dywedais, Dyma fy ngwendid: eto cofiaf flynyddoedd deheulaw y Goruchaf.
77:11 Cofiaf weithredoedd yr ARGLWYDD; ie, cofiaf dy wyrthiau gynt.
77:12 Myfyriaf hefyd ar dy holl waith, ac am dy weithredoedd y chwedleuaf.
77:13 Dy ffordd, O DDUW, sydd yn<noinclude><references/></noinclude>
6rn3ys5qu1yrinz1nlyjcx39mydptn9