Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.24
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/308
104
3560
171768
171604
2026-10-15T17:23:29Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171768
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>rhoddi Merab merch Saul i Dafydd, hi a roddwyd i Adriel y Meholathiad yn wraig.
{{angor|18:20|20}} A Michal merch Saul a garodd Dafydd: a mynegasant ''hynny'' i Saul; a’r peth fu foddlawn ganddo.
{{angor|18:21|21}} A dywedodd Saul, Rhoddaf hi iddo ef, fel y byddo hi iddo yn fagl, ac y byddo llaw y Philistiaid yn ei erbyn ef. Felly Saul a ddywedodd wrth Dafydd, Trwy ''un'' o’r ddwy y byddi fab y’nghyfraith i mi heddyw.
{{angor|18:22|22}} ¶ A Saul a orchymynodd i’w weision ''fel hyn;'' Ymddiddenwch â Dafydd yn ddirgel, gan ddywedyd, Wele, y brenhin sydd hoff ganddo dydi, a’i holl weision ef a’th garant di: yn awr gan hynny ymgyfathracha â’r brenhin.
{{angor|18:23|23}} A gweision Saul a adroddasant wrth Dafydd y geiriau hyn. A Dafydd a ddywedodd, Ai ysgafn ''yw'' yn eich golwg chwi ymgyfathrachu â brenhin, a minnau yn wr tlawd a gwael?
{{angor|18:24|24}} A gweision Saul a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Fel hyn y llefarodd Dafydd.
{{angor|18:25|25}} A dywedodd Saul, Fel hyn y dywedwch wrth Dafydd; Nid yw y brenhin yn ewyllysio cynnysgaeth, ond ''cael'' cant o flaen-grwyn y Philistiaid, i ddïal ar elynion y brenhin. Ond Saul oedd yn meddwl peri lladd Dafydd trwy law y Philistiaid.
{{angor|18:26|26}} A’i weision ef a fynegasant i Dafydd y geiriau hyn; a’r ymadrodd fu foddlawn gan Dafydd am ymgyfathrachu â’r brenhin; ac ni ddaethai yr amser etto.
{{angor|18:27|27}} Am hynny y cyfododd Dafydd, ac efe a aeth, a’i wŷr, ac a darawodd ddau cannwr o’r Philistiaid: a Dafydd a ddygodd eu blaen-grwyn hwynt, a hwy a’u cwbl-dalasant i’r brenhin, i ymgyfathrachu o hono ef â’r brenhin. A Saul a roddodd Michal ei ferch yn wraig iddo ef.
{{angor|18:28|28}} ¶ A Saul a welodd ac a wybu ''fod'' yr {{sc|Arglwydd}} gyd â Dafydd, a ''bod'' Michal merch Saul yn ei garu ef.
{{angor|18:29|29}} A Saul oedd yn ofni Dafydd yn fwy etto: a bu Saul yn elyn i Dafydd byth.
{{angor|18:30|30}} Yna tywysogion y Philistiaid a aent allan: a phan elent hwy, Dafydd a fyddai ddoethach na holl weision Saul; a’i enw ef a aeth yn anrhydeddus iawn.
{{angor|Pennod_19}}{{c|{{uc|Pennod XIX}}.}}
{{bach|1 ''Jonathan yn datguddio amcan ei dad am ladd Dafydd;'' 4 ''ac yn annog ei dad i gymmodi âg ef.'' 8 ''Maleisus gynddaredd Saul yn torri allan yn erbyn Dafydd, o herwydd ei lwyddiant ef mewn rhyfel newydd.'' 12 ''Michal yn siommi ei thad â delw y’ngwely Dafydd.'' 18 ''Dafydd yn dyfod at Samuel yn Naioth.'' 20 ''Saul yn danfon cenhadau i ddal Dafydd,'' 22 ''a Saul ei hun yn prophwydo.''}}
{{angor|19:1}} {{uc|A Saul}} a ddywedodd wrth Jonathan ei fab, ac wrth ei holl weision, am ladd Dafydd.
{{angor|19:2|2}} Ond Jonathan mab Saul oedd hoff iawn ganddo Dafydd. A mynegodd Jonathan i Dafydd, gan ddywedyd, Saul fy nhad sydd yn ceisio dy ladd di: ac yn awr ymgadw, attolwg, hyd y bore, ac aros mewn ''lle'' dirgel, ac ymguddia:
{{angor|19:3|3}} A mi a âf allan, ac a safaf ger llaw fy nhad yn y maes ''y byddych'' di ynddo, a mi a ymddiddanaf â’m tad o’th blegid di; a’r hyn a welwyf, mi a’i mynegaf i ti.
{{angor|19:4|4}} ¶ A Jonathan a ddywedodd yn dda am Dafydd wrth Saul ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Na pheched y brenhin yn erbyn ei was, yn erbyn Dafydd: o herwydd ni phechodd efe i’th erbyn di, ac o herwydd ''bod'' ei weithredoedd ef yn dda iawn i ti.
{{angor|19:5|5}} Canys efe a osododd ei einioes yn ei law, ac a darawodd y Philistiad; a’r {{sc|Arglwydd}} a wnaeth iachawdwriaeth mawr i holl Israel: ti a’i gwelaist, ac a lawenychaist: paham, gan hynny, y pechi yn erbyn gwaed gwirion, gan ladd Dafydd yn ddïachos?
{{angor|19:6|6}} A Saul a wrandawodd ar lais Jonathan; a Saul a dyngodd, ''Fel mai'' byw yr {{sc|Arglwydd}}, ni leddir ef.
{{angor|19:7|7}} A Jonathan a alwodd ar Dafydd; a Jonathan a fynegodd iddo ef yr holl eiriau hyn. A Jonathan a ddug Dafydd at Saul: ac efe a fu ger ei fron ef megis cynt.
{{angor|19:8|8}} A bu chwaneg o ryfel: a Dafydd a aeth allan ac a ymladdodd yn erbyn y Philistiaid, ac a’u tarawodd hwynt â lladdfa fawr; a hwy a ffoisant rhagddo ef.
{{angor|19:9|9}} A’r drwg yspryd oddi wrth yr {{sc|Arglwydd}} oedd ar Saul, pan oedd efe yn eistedd yn ei dŷ a’i waywffon yn ei law: a Dafydd ''oedd'' yn canu â’''i'' law.,
{{angor|19:10|10}} A cheisiodd Saul daro a’i waywffon trwy Dafydd, yn y pared: ond efe a giliodd o ŵydd Saul; ac yntau<noinclude><references/></noinclude>
0ddtmosarrxmoa9xw1e41nrlo1x9pi3
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/309
104
3561
171788
171605
2026-10-16T03:43:05Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171788
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>a darawodd y waywffon yn y pared. A Dafydd a ffodd, ac a ddïangodd y nos honno.
{{angor|19:11|11}} Saul hefyd a anfonodd genhadau i dŷ Dafydd, i’w wylied ef, ac i’w ladd ef y bore: a Michal ei wraig a fynegodd i Dafydd, gan ddywedyd, Onid achubi dy einioes heno, y fory y’th leddir.
{{angor|19:12|12}} ¶ Felly Michal a ollyngodd Dafydd i lawr trwy ffenestr: ac efe a aeth, ac a ffodd, ac a ddïangodd.
{{angor|19:13|13}} A Michal a gymmerodd ddelw, ac a’i gosododd yn y gwely; a chlustog o ''flew'' geifr a osododd hi yn obennydd iddi, ac a’''i'' gorchuddiodd â dillad.
{{angor|19:14|14}} A phan anfonodd Saul genhadau i ddala Dafydd, hi a ddywedodd, ''Y mae'' efe yn glaf.
{{angor|19:15|15}} A Saul a anfonodd ''eilwaith'' genhadau i edrych Dafydd, gan ddywedyd, Dygwch ef i fynu attaf fi yn ei wely, fel y lladdwyf ef.
{{angor|19:16|16}} A phan ddaeth y cenhadau, wele y ddelw ar y gwely, a chlustog o ''flew'' geifr yn obennydd iddi.
{{angor|19:17|17}} A dywedodd Saul wrth Michal, Paham y twyllaist fi fel hyn, ac y gollyngaist fy ngelyn i ddïangc? A Michal a ddywedodd wrth Saul, Efe a ddywedodd wrthyf, Gollwng fi; onid ê, mi a’th laddaf di.
{{angor|19:18|18}} ¶ Felly Dafydd a ffodd, ac a ddïangodd, ac a ddaeth at Samuel i Ramah; ac a fynegodd iddo yr hyn oll a wnaethai Suul iddo ef. Ac efe a aeth at Samuel, a hwy a drigasant yn Naioth.
{{angor|19:19|19}} A mynegwyd i Saul, gan ddywedyd, Wele, ''y mae'' Dafydd yn Naioth o fewn Ramah.
{{angor|19:20|20}} A Saul a anfonodd genhadau i ddala Dafydd. A phan welsant gynnulleidfa y prophwydi yn prophwydo, a Samuel yn sefyll wedi ei osod arnynt hwy, yr oedd ar genhadau Saul yspryd {{sc|Duw}}, fel y prophwydasant hwythau hefyd.
{{angor|19:21|21}} A phan fynegwyd ''hyn'' i Saul, efe a anfonodd genhadau eraill; a hwythau hefyd a brophwydasant. A thrachefn danfonodd Saul genhadau y drydedd waith; a phrophwydasant hwythau hefyd.
{{angor|19:22|22}} Yna yntau hefyd a aeth i Ramah; ac a ddaeth hyd y ffynnon fawr ''sydd'' yn Sechu: ac efe a ofynodd, ac a ddywedodd, Pa le ''y mae'' Samuel a Dafydd? Ac ''un'' a ddywedodd, Wele, ''y maent'' yn Naioth o fewn Ramah.
{{angor|19:23|23}} Ac efe a aeth yno i Naioth yn Ramah. Ac arno yntau hefyd y daeth yspryd {{sc|Duw}}; a chan fyned yr aeth ac y prophwydodd, nes ei ddyfod i Naioth yn Ramah.
{{angor|19:24|24}} Ac efe a ddïosgodd ei ddillad, ac a brophwydodd hefyd ger bron Samuel, ac a syrthiodd i lawr yn noeth yr holl ddiwrnod hwnnw, a’r holl nos. Am hynny y dywedent, ''A ydyw'' Saul hefyd ym mysg y prophwydi?
{{angor|Pennod_20}}{{c|{{uc|Pennod XX}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn ymgynghori â Jonathan am ei ddïogelwch.'' 11 ''Jonathan a Dafydd yn adnewyddu eu cyfammod trwy lw.'' 18 ''Arwydd Jonathan i Dafydd.'' 24 ''Saul, o eisieu cael gafael ar Dafydd, yn ceisio lladd Jonathan.'' 35 ''Jonathan yn gariadus yn canu yn iach i Dafydd.''}}
{{angor|20:1}} {{uc|A Dafydd}} a ffodd o Naioth yn Ramah; ac a ddaeth, ac a ddywedodd ger bron Jonathan, Beth a wneuthum i? beth ''yw'' fy anwiredd? a pheth ''yw'' fy mhechod o flaen dy dad di, gan ei fod efe yn ceisio fy einioes i?
{{angor|20:2|2}} Ac efe a ddywedodd wrtho, Na atto {{sc|Duw}}; ni byddi farw: wele, ni wna fy nhad ddim, na mawr na bychan, heb ''ei'' fynegi i mi: paham gan hynny y celai fy nhad y peth hyn oddi wrthyf fi? Nid ''felly y mae''.
{{angor|20:3|3}} A Dafydd a dyngodd eilwaith, ac a ddywedodd, Dy dad a wŷr yn hysbys i mi gael ffafr yn dy olwg di; am hynny y dywed, Na chaed Jonathan wybod hyn, rhag ei dristâu ef: cyn wired ''a'' bod yr {{sc|Arglwydd}} yn fyw, a’th enaid dithau yn fyw, ''nid oes'' ond megis cam rhyngof fi ac angau.
{{angor|20:4|4}} Yna y dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Dywed beth ''yw'' dy ewyllys, a mi a’''i'' cwblhâf i ti.
{{angor|20:5|5}} A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Wele, ''y dydd cyntaf'' o’r mis ''yw'' y fory, a minnau gan eistedd a ddylwn eistedd gyd â’r brenhin i fwytta: ond gollwng fi, fel yr ymguddiwyf yn y maes hyd brydnawn y trydydd ''dydd''.
{{angor|20:6|6}} Os dy dad a ymofyn yn fanwl am danaf; yna dywed, Dafydd gan ofyn a ofynodd ''gennad'' gennyf fi, i redeg i Bethlehem, ei ddinas ei hun: canys aberth blynyddol ''sydd'' yno i’r holl genedl.
{{angor|20:7|7}} Os fel hyn y dywed efe, Da; heddwch ''fydd'' i’th was: ond os gan<noinclude><references/></noinclude>
35pnhy8esu043yv606xap019bq7pxjv
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/596
104
3958
171769
7441
2026-10-15T17:31:13Z
Tylopous
3717
penodau
171769
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o’m genau.
89:35 Tyngais unwaith i’m sancteiddrwydd na ddywedwn gelwydd i Dafydd
89:36 Bydd ei had ef yn dragywydd, a’i orseddfainc fel yr haul ger fy mron i.
89:37 Sicrheir ef yn dragywydd fel y lleuad, ac fel tyst ffyddlon yn y nef. Sela.
89:38 Ond ti a wrthodaist ac a ffieiddiaist, ti a ddigiaist wrth dy Eneiniog.
89:39 Diddymaist gyfamod dy was; halogaist ei goron, gan ei thaflu i lawr.
89:40 Drylliaist ei holl gaeau ef; gwnaethost ei amddiffynfeydd yn adwyau.
89:41 Yr holl fforddolion a’i hysbeiliant ef: aeth yn warthrudd i’w gymdogion.
89:42 Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr; llawenheaist ei holl elynion.
89:43 Troaist hefyd fin ei gleddyf, ac ni chadarnheaist ef mewn rhyfel.
89:44 Peraist i’w harddwch ddarfod, a bwrwiaist ei orseddfainc i lawr.
89:45 Byrheaist ddyddiau ei ieuenctid: toaist gywilydd drosto ef. Sela.
89:46 Pa hyd, ARGLWYDD, yr ymguddi? ai yn dragywydd? a lysg dy ddigofaint di fel tân?
89:47 Cofia pa amser sydd i mi: paham y creaist holl blant dynion yn ofer?
89:48 Pa ŵr a fydd byw, ac ni wêl farwolaeth? a wared efe ei enaid o law y bedd? Sela.
89:49 Pa le y mae dy hen drugareddau, O ARGLWYDD, y rhai a dyngaist i Dafydd yn dy wirionedd?
89:50 Cofia, O ARGLWYDD, waradwydd dy weision, yr hwn a ddygais yn fy mynwes gan yr holl bobloedd fawrion;
89:51 A’r hwn y gwaradwyddodd dy elynion, O ARGLWYDD; â’r hwn y gwaradwyddasant ôl troed dy Eneiniog.
89:52 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD yn dragywydd. Amen, ac Amen.
{{angor|Psalm_90}}{{c|{{uc|Psalm XC}}.}}
{{bach|1 ''Moses yn datgan rhagluniaeth Duw:'' 3 ''yn cwyno rhag breuolder dyn,'' 7 ''a cheryddon Duw,'' 10 ''a byrred yr einioes:'' 12 ''ac yn gweddïo am gael gwybodaeth a phrawf o ddaionus ragluniaeth Duw.''}}
{{canoli|{{bach|Gweddi Moses gwr Duw.}}}}
{{angor|90:1}} {{uc|Ti}}, ARGLWYDD, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth.
90:2 Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio ohonot y ddaear, a’r byd; ti hefyd wyt DDUW, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.
90:3 Troi ddyn i ddinistr; a dywedi, Dychwelwch, feibion dynion.
90:4 Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos.
90:5 Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant; y maent fel hun: y bore y maent fel llysieuyn a newidir.
90:6 Y bore y blodeua, ac y tyf; prynhawn y torrir ef ymaith, ac y gwywa.
90:7 Canys yn dy ddig y difethwyd ni, ac yn dy lidiowgrwydd y’n brawychwyd.
90:8 Gosodaist ein hanwiredd ger dy fron, ein dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb.
90:9 Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di: treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl.
90:10 Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrigain: ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd, eto eu nerth sydd boen a blinder; canys ebwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymaith.
90:11 Pwy a edwyn nerth dy soriant? canys fel y mae dy ofn, y mae dy ddicter.
90:12 Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb.
90:13 Dychwel, ARGLWYDD, pa hyd? ac edifarha o ran dy weision.
90:14 Diwalla ni yn fore â’th drugaredd; fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau.
90:15 Llawenha ni yn ôl y dyddiau: y cystuddiaist ni, a’r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd.
90:16 Gweler dy waith tuag at dy weision, a’th ogoniant tuag at eu plant hwy.
90:17 A bydded prydferthwch yr ARGLWYDD ein DUW arnom ni: a threfna weithred ein dwylo ynom ni; ie, trefna waith ein dwylo.
{{angor|Psalm_91}}{{c|{{uc|Psalm XCI}}.}}
{{bach|1 ''Cyflwr y duwiol,'' 3 ''a’u dïogelwch,'' 9 ''a’u trigias;'' 11 ''eu gweisioin,'' 14 ''a’u caredigion; a diwedd y cwbl.''}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
cvreje28u76qqher7hwgqh5cy74i7qn
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/597
104
3959
171770
7450
2026-10-15T17:36:17Z
Tylopous
3717
penodau
171770
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|91:1}} {{uc|Yr}} hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y y Goruchaf, a erys yng nghysgod yr Hollalluog.
91:2 Dywedaf am yr ARGLWYDD, Fy noddfa a’m hamddiffynfa ydyw: fy NUW; ynddo yr ymddiriedaf.
91:3 Canys efe a’th wareda di o fagl yr heliwr, ac oddi wrth haint echryslon.
91:4 A’i asgell y cysgoda efe trosot, a than ei adenydd y byddi ddiogel: ei wirionedd fydd darian ac astalch i ti.
91:5 Nid ofni rhag dychryn nos; na rhag y saeth a ehedo y dydd:
91:6 Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch; na rhag y dinistria a ddinistrio ganol dydd.
91:7 Wrth dy ystlys y cwymp mil, a deng mil wrth dy ddeheulaw, ond ni ddaw yn agos atat ti.
91:8 Yn unig ti a ganfyddi â’th lygaid, ac a weli dâl y rhai annuwiol.
91:9 Am i ti wneuthur yr ARGLWYDD fy noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa i ti;
91:10 Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw pla yn agos i’th babell.
91:11 Canys efe a orchymyn i’w angylion amdanat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd.
91:12 Ar eu dwylo, y’th ddygant rhag taro dy droed wrth garreg.
91:13 Ar y llew a’r asb y cerddi: y cenau llew a’r ddraig a fethri.
91:14 Am iddo toddi ei serch arnaf, a hynny gwaredaf ef: dyrchafaf ef, am iddo adnabod fy enw.
91:15 Efe a eilw arnaf, a mi a’i gwrandawaf mewn ing y byddaf fi gydag ef, y gwaredaf, ac y gogoneddaf ef.
91:16 Digonaf ef â hir ddyddiau; a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth.
{{angor|Psalm_92}}{{c|{{uc|Psalm XCII}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn annog i foliannu Duw,'' 4 ''am ei fawr weithredoedd,'' 6 ''am ei farnedigaethau ar yr enwir,'' 10 ''a’i ddaioni i’r duwiol.''}}
{{canoli|{{bach|Psalm ''neu'' Gân ar y dydd Sabbath.}}}}
{{angor|92:1}} {{uc|Da}} yw moliannu yr ARGLWYDD, a chanu mawl i’th enw di, Y Goruchaf:
92:2 A mynegi y bore am dy drugaredd, a’th wirionedd y nosweithiau;
92:3 Ar ddectant, ac ar y nabl; ac ar y delyn yn fyfyriol.
92:4 Canys llawenychaist fi, O ARGLWYDD â’th weithred: yng ngwaith dy ddwylo gorfoleddaf.
92:5 Mor fawredig, O ARGLWYDD, yw dy weithredoedd! dwfn iawn yw dy feddyliau.
92:6 Gŵr annoeth ni ŵyr, a’r ynfyd ni ddeall hyn.
92:7 Pan flodeuo y rhai annuwiol fel y llysieuyn, a blaguro holl weithredwyr anwiredd; hynny sydd i’w dinistrio byth bythoedd.
92:8 Tithau, ARGLWYDD, wyt ddyrchafedig yn dragywydd.
92:9 Canys wele, dy elynion, O ARGLWYDD, wele, dy elynion a ddifethir: gwasgerir holl weithredwyr anwiredd.
92:10 Ond fy nghorn i a ddyrchefi fel unicorn: ag olew ir y’m heneinir.
92:11 Fy llygad hefyd a wêl fy ngwynfyd ar fy ngwrthwynebwyr: fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai drygionus a gyfodant i’m herbyn.
92:12 Y cyfiawn a flodeua fel palmwydden; ac a gynydda fel cedrwydden yn Libanus.
92:13 Y rhai a blannwyd yn nhŷ yr ARGLWYDD a flodeuant yng nghynteddoedd ein DUW.
92:14 Ffrwythant eto yn eu henaint; tirfion ac iraidd fyddant:
92:15 I fynegi mai uniawn yw yr ARGLWYDD fy nghraig; ac nad oes anwiredd ynddo.
{{angor|Psalm_93}}{{c|{{uc|Psalm XCIII}}.}}
{{bach|''Mawrhydi, gallu, a sancteiddrwydd teyrnas Crist.''}}
{{angor|93:1}} {{uc|Yr}} ARGLWYDD sydd yn teyrnasu, efe a wisgodd ardderchowgrwydd; gwisgodd yr ARGLWYDD nerth, ac ymwregysodd: y byd hefyd a sicrhawyd, fel na syflo.
93:2 Darparwyd dy orseddfainc erioed: ti wyt er tragwyddoldeb.
93:3 Y llifeiriaint, O ARGLWYDD, a ddyrchafasant, y llifeiriaint a ddyrchafasant eu twrf, y llifeiriaint a ddyrchafasant eu tonnau.
93:4 Yr ARGLWYDD yn yr uchelder sydd gadernach na thwrf dyfroedd lawer, na chedyrn donnau y môr.
93:5 Sicr iawn yw dy dystiolaethau: sancteiddrwydd a weddai i’th dŷ, O ARGLWYDD, byth.
{{angor|Psalm_94}}{{c|{{uc|Psalm XCIV}}.}}
{{bach|1 ''Y prophwyd, wrth alw am gyfiawnder, yn cwyno rhag trais ac annuwioldeb:'' 8 ''yn dysgu rhagluniaeth Duw:'' 12 ''yn dangos dedwyddwch cystudd.'' 16 ''Mai Duw yw amddiffynnwr y cystuddiedig.''}}
{{angor|94:1}} {{uc|O Arglwydd}} DDUW y dial, O DDUW y dial, ymddisgleiria.<noinclude><references/></noinclude>
lzrzmxjwbbpautgea78s9y527y82tfm
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/598
104
3960
171771
7451
2026-10-15T17:39:33Z
Tylopous
3717
penodau
171771
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>94:2 Ymddyrcha, Farnwr y byd: tâl eu gwobr i’r beilchion.
94:3 Pa hyd, ARGLWYDD, y caiff yr annuwiolion, pa hyd, y caiff yr annuwiol orfoleddu?
94:4 Pa hyd y siaradant ac y dywedant yn galed? yr ymfawryga holl weithredwyr anwiredd?
94:5 Dy bobl, ARGLWYDD, a ddrylliant; a’th etifeddiaeth a gystuddiant.
94:6 Y weddw a’r dieithr a laddant, a’r amddifad a ddieneidiant.
94:7 Dywedant hefyd, Ni wêl yr ARGLWYDD; ac nid ystyria DUW Jacob hyn.
94:8 Ystyriwch, chwi rai annoeth ymysg y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deellwch?
94:9 Oni chlyw yr hwn a blannodd y glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygad?
94:10 Oni cherydda yr hwn a gosba y cenhedloedd? oni ŵyr yr hwn sydd yn dysgu gwybodaeth i ddyn?
94:11 Gŵyr yr ARGLWYDD feddyliau dyn, mai gwagedd ydynt.
94:12 Gwyn ei fyd y gŵr a geryddi di, O ARGLWYDD, ac a ddysgi yn dy gyfraith:
94:13 I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau drygfyd, hyd oni chloddier ffos i’r annuwiol.
94:14 Canys ni ad yr ARGLWYDD ei bobl, ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth.
94:15 Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder: a’r holl rai uniawn o galon a ânt ar ei ôl.
94:16 Pwy a gyfyd gyda mi yn erbyn y rhai drygionus? pwy a saif gyda mi yn erbyn gweithredwyr anwiredd?
94:17 Oni buasai yr ARGLWYDD yn gymorth i mi, braidd na thrigasai fy enaid mewn distawrwydd.
94:18 Pan ddywedais, Llithrodd fy nhroed dy drugaredd di, O ARGLWYDD, a’m cynhaliodd.
94:19 Yn amlder fy meddyliau o’m mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid.
94:20 A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfainc anwiredd, yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith?
94:21 Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn, a gwaed gwirion a farnant yn euog.
94:22 Eithr yr ARGLWYDD sydd yn amddiffynfa i mi; a’m DUW yw craig fy nodded.
94:23 Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac a’u tyr ymaith yn eu drygioni: yr ARGLWYDD ein DUW a’u tyr hwynt ymaith.
{{angor|Psalm_95}}{{c|{{uc|Psalm XCV}}.}}
{{bach|1 ''Cynghor i foliannu Duw,'' 3 ''o herwydd ei fawredd,'' 6 ''a’i ddaioni;'' 8 ''ac na themtier ef.''}}
{{angor|95:1}} {{uc|Deuwch}}, canwn i’r ARGLWYDD: ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd.
95:2 Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo â Salmau.
95:3 Canys yr ARGLWYDD sydd DDUW mawr, a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.
95:4 Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo.
95:5 Y môr sydd eiddo, ac efe a’i gwnaeth: a’i ddwylo a luniasant y sychdir.
95:6 Deuwch, addolwn, ac yngrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD ein Gwneuthurwr.
95:7 Canys efe yw ein DUW ni; a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd,
95:8 Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch:
95:9 Pan demtiodd eich tadau fi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd.
95:10 Deugain mlynedd yr ymrysonais â’r genhedlaeth hon, a dywedais, Pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy, ac nid adnabuant fy ffyrdd:
95:11 Wrth y rhai y tyngais yn fy llid, na ddelent i’m gorffwysfa.
{{angor|Psalm_96}}{{c|{{uc|Psalm XCVI}}.}}
{{bach|1 ''Cynghor i glodfori Duw,'' 4 ''am ei fawredd,'' 8 ''a’i frenhiniaeth,'' 11 ''a’i farn gyffredinol.''}}
{{angor|96:1}} {{uc|Cenwch}} i’r ARGLWYDD ganiad newydd; cenwch, i’r ARGLWYDD, yr holl ddaear.
96:2 Cenwch i’r ARGLWYDD, bendigwch ei enw; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef.
96:3 Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei ogoniant ef, ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau.
96:4 Canys mawr yw yr ARGLWYDD, a chanmoladwy iawn: ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau.
96:5 Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod: ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.
96:6 Gogoniant a harddwch sydd o’i<noinclude><references/></noinclude>
ny2847uw4zgy1c9wj7cg78yqhbfb15m
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/599
104
3961
171772
7452
2026-10-15T17:43:47Z
Tylopous
3717
penodau
171772
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr.
96:7 Tylwythau y bobl, rhoddwch i’r ARGLWYDD, rhoddwch i’r ARGLWYDD ogoniant a nerth.
96:8 Rhoddwch i’r ARGLWYDD ogoniant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch i’w gynteddoedd.
96:9 Addolwch yr ARGLWYDD mewn prydferthwch sancteiddrwydd: yr holl ddaear, ofnwch ger ei fron ef.
96:10 Dywedwch ymysg y cenhedloedd, Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu; a’r byd a sicrhaodd efe, fel nad ysgogo: efe a farna y bobl yn uniawn.
96:11 Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaear; rhued y môr a’i gyfiawnder.
96:12 Gorfoledded y maes, a’r hyn oll sydd ynddo: yna holl brennau y coed a ganant
96:13 O flaen yr ARGLWYDD; canys y mae yn dyfod, canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd trwy gyfiawnder, a’r bobloedd â’i wirionedd.
{{angor|Psalm_97}}{{c|{{uc|Psalm XCVII}}.}}
{{bach|1 ''Mawrhydi teyrnas Dduw.'' 7 ''Yr eglwys yn llawenychu o herwydd barnedigaethau Duw ar ddelw-addolwyr.'' 10 ''Cnyghor i dduwioldeb a llawenydd.''}}
{{angor|97:1}} {{uc|Yr}} ARGLWYDD sydd yn teyrnasu; gorfoledded y ddaear: llawenyched ynysoedd lawer.
97:2 Cymylau a thywyllwch sydd o’i amgylch ef: cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef.
97:3 Tân a â allan o’i flaen ef, ac a lysg ei elynion o amgylch.
97:4 Ei fellt a lewyrchasant y byd: y ddaear a welodd, ac a grynodd.
97:5 Y mynyddoedd a doddasant fel cwyr o flaen yr ARGLWYDD, o flaen Arglwydd yr holl ddaear.
97:6 Y nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef, a’r holl bobl a welant ei ogoniant.
97:7 Gwaradwydder y rhai oll a wasanaethant ddelw gerfiedig, y rhai a ymffrostiant mewn eilunod: addolwch ef, yr holl dduwiau.
97:8 Seion a glywodd, ac a lawenychodd; a merched Jwda a orfoleddasant, oherwydd dy farnedigaethau di, O ARGLWYDD.
97:9 Canys ti, ARGLWYDD, wyt oruchel goruwch yr holl ddaear: dirfawr y’th ddyrchafwyd goruwch yr holl dduwiau.
97:10 Y rhai a gerwch yr ARGLWYDD, casewch ddrygioni: efe sydd yn cadw eneidiau ei saint; efe a’u gwared o law y rhai annuwiol.
97:11 Heuwyd goleuni i’r cyfiawn, a llawenydd i’r rhai uniawn o galon.
97:12 Y rhai cyfiawn, llawenychwch yn yr ARGLWYDD; a moliennwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.
{{angor|Psalm_98}}{{c|{{uc|Psalm XCVIII}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn annog yr Iuddewon,'' 4 ''a’r cenhedloedd,'' 7 ''a’r holl greaduriaid, i glodfori Duw.''}}
{{canoli|{{bach|Psalm.}}}}
{{angor|98:1}} {{uc|Cenwch}} i’r ARGLWYDD ganiad newydd: canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: ei ddeheulaw a’i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth
98:2 Hysbysodd yr ARGLWYDD ei iachawdwriaeth: datguddiodd ei gyfiawnder yng ngolwg y cenhedloedd.
98:3 Cofiodd ei drugaredd a’i wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaear a welsant iachawdwriaeth ein DUW ni.
98:4 Cenwch yn llafar i’r ARGLWYDD, yr holl ddaear: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch.
98:5 Cenwch i’r ARGLWYDD gyda’r delyn; gyda’r delyn, a llef salm.
98:6 Ar utgyrn a sain cornet, cenwch yn llafar o flaen yr ARGLWYDD y Brenin.
98:7 Rhued y môr a’i gyfiawnder; y byd a’r rhai a drigant o’i fewn.
98:8 Cured y llifeiriaint eu dwylo; a chydganed y mynyddoedd.
98:9 O flaen yr ARGLWYDD; canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd â chyfiawnder, a’r bobloedd ag uniondeb.
{{angor|Psalm_99}}{{c|{{uc|Psalm XCIX}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn gosod allan deyrnas Dduw yn Sïon:'' 5 ''ac yn annog pawb, wrth esampl yr hen dadau, i addoli Duw yn ei fynydd sanctaidd.''}}
{{angor|99:1}} {{uc|Yr}} ARGLWYDD sydd yn teyrnasu; cryned y bobloedd: eistedd y mae rhwng y ceriwbiaid; ymgynhyrfed y ddaear.
99:2 Mawr yw yr ARGLWYDD yn Seion, a dyrchafedig yw efe goruwch yr holl bobloedd.
99:3 Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy; canys sanctaidd yw.
99:4 A nerth y Brenin a hoffa farn: ti a sicrhei uniondeb, barn a chyflawnder a wnei di yn Jacob.
99:5 Dyrchefwch yr ARGLWYDD ein DUW; ac ymgrymwch o flaen ei ystôl draed ef: canys sanctaidd yw.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
fh2y80ado4m84baijaqt3v0jvj5ijk2
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/600
104
3962
171773
7453
2026-10-15T17:48:39Z
Tylopous
3717
penodau
171773
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>99:6 Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid ef; a Samuel ymysg y rhai a alwant ar ei enw; galwasant ar yr ARGLWYDD, ac efe a’u gwrandawodd hwynt.
99:7 Llefarodd wrthynt yn y golofn gwmwl: cadwasant ei dystiolaethau, a’r ddeddf a roddodd efe iddynt.
99:8 Gwrandewaist arnynt, O ARGLWYDD ein Duw: DUW oeddit yn eu harbed, ie, pan ddielit am eu dychmygion.
99:9 Dyrchefwch yr ARGLWYDD ein Duw, ac ymgrymwch ar ei fynydd sanctaidd: canys sanctaidd yw yr ARGLWYDD ein Duw.
{{angor|Psalm_100}}{{c|{{uc|Psalm C}}.}}
{{bach|1 ''Cynghor i foliannu Duw yn llawen-hyfryd,'' 3 ''am ei fawredd,'' 4 ''ac am ei allu.''}}
{{canoli|{{bach|Psalm o foliant.}}}}
{{angor|100:1}} {{uc|Cenwch}} yn llafar i’r ARGLWYDD, yr holl ddaear.
100:2 Gwasanaethwch yr ARGLWYDD mewn llawenydd: deuwch o’i flaen ef â chân.
100:3 Gwybyddwch mai yr ARGLWYDD sydd DDUW: efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa.
100:4 Ewch i mewn i’w byrth ef â diolch, ac i’w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei enw.
100:5 Canys da yw yr ARGLWYDD: ei drugaredd sydd yn dragywydd; a’i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
{{angor|Psalm_101}}{{c|{{uc|Psalm CI}}.}}
{{bach|''Dafydd yn gwneuthur adduned a phroffes o dduwioldeb.''}}
{{canoli|{{bach|Psalm Dafydd.}}}}
{{angor|101:1}} {{uc|Canaf}} am drugaredd a barn: i ti, O ARGLWYDD, y canaf.
101:2 Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith. Pa bryd y deui ataf? rhodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon o fewn fy nhŷ.
101:3 Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid: cas gennyf waith y rhai cildynnus; ni lŷn wrthyf fi.
101:4 Calon gyndyn a gilia oddi wrthyf: nid adnabyddaf ddyn drygionus.
101:5 Torraf ymaith yr hwn a enllibio ei gymydog yn ddirgel: yr uchel o olwg, a’r balch ei galon, ni allaf ei ddioddef.
101:6 Fy llygaid fydd ar ffyddloniaid y tir, fel y trigont gyda mi: yr hwn a rodio mewn ffordd berffaith, hwnnw a’m gwasanaetha i.
101:7 Ni thrig o fewn fy nhŷ yr un a wnelo dwyll: ni thrig yn fy ngolwg yr un a ddywedo gelwydd.
101:8 Yn fore y torraf ymaith holl annuwiolion y tir, i ddiwreiddio holl weithredwyr anwiredd o ddinas yr ARGLWYDD.
{{angor|Psalm_102}}{{c|{{uc|Psalm CII}}.}}
{{bach|1 ''Y prophwyd yn ei weddi yn cwyno yn chwerwdost:'' 12 ''yn cymmeryd cysur o dragywyddoldeb a thrugaredd Duw.'' 18 ''Bod yn rhaid cadw coffa o drugareddau Duw.'' 23 ''Y mae yn attegu ei wendid âg anghyfnewidiolder Duw.''}}
{{canoli|{{bach|Gweddi y cystuddiedig, pan fyddo mewn blinder, ac yn tywallt ei gŵyn ger bron yr {{sc|Arglwydd}}.}}}}
{{angor|102:1}} {{uc|Arglwydd}}, clyw fy ngweddi, a deled fy llef atat.
102:2 Na chudd dy wyneb oddi wrthyf yn nydd fy nghyfyngder, gostwng dy glust ataf: yn y dydd y galwyf, brysia, gwrando fi.
102:3 Canys fy nyddiau a ddarfuant fel mwg, a'm hesgyrn a boethasant fel aelwyd.
102:4 Fy nghalon a drawyd, ac a wywodd fel llysieuyn; fel yr anghofiais fy mara.
102:5 Gan lais fy nhuchan y glynodd fy esgyrn wrth fy nghnawd.
102:6 Tebyg wyf i belican yr anialwch: ydwyf fel tylluan y diffeithwch.
102:7 Gwyliais, ac ydwyf fel aderyn y to, unig ar ben y tŷ.
102:8 Fy ngelynion a’m gwaradwyddant beunydd: y rhai a ynfydant wrthyf, a dyngasant yn fy erbyn.
102:9 Canys bwyteais ludw fel bara, a chymysgais fy niod ag wylofain;
102:10 Oherwydd dy lid di a’th ddigofaint: canys codaist fi i fyny, a theflaist fi i lawr.
102:11 Fy nyddiau sydd fel cysgod yn cilio; a minnau fel glaswelltyn a wywais.
102:12 Tithau, ARGLWYDD, a barhei ya dragwyddol, a’th gofradwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
102:13 Ti a gyfodi, ac a drugarhei wrth Seion: canys yr amser i drugarhau wrthi, ie, yr amser nodedig, a ddaeth.
102:14 Oblegid y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi.
102:15 Felly y cenhedloedd a ofnant enw yr ARGLWYDD, a holl frenhinoedd y ddaear dy ogonoiant.
102:16 Pan adeilado yr ARGLWYDD Seion, y gwelir ef yn ei ogoniant.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
1hayvkgyxlihsjkjwb36k2qxb8wyfco
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/601
104
3963
171774
7454
2026-10-15T17:51:05Z
Tylopous
3717
penodau
171774
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>102:17 Efe a edrych at weddi y gwael, ac ni ddiystyrodd eu dymuniad.
102:18 Hyn a ysgrifennir i’r genhedlaeth a ddêl: a’r bobl a grëir a foliannant yr ARGLWYDD.
102:19 Canys efe a edrychodd o uchelder ei gysegr: yr ARGLWYDD a edrychodd o’r nefoedd ar y ddaear;
102:20 I wrando uchenaid y carcharorion; ac i ryddhau plant angau;
102:21 I fynegi enw yr ARGLWYDD yn Seion, a’i foliant yn Jerwsalem:
102:22 Pan gasgler y bobl ynghyd, a’r teyrnasoedd i wasanaethu yr ARGLWYDD.
102:23 Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd; byrhaodd fy nyddiau.
102:24 Dywedais, Fy NUW, na chymer fi ymaith yng nghanol, fy nyddiau: dy flynyddoedd di sydd yn oes oesoedd.
102:25 Yn y dechreuad y seiliaist y ddaear; a’r nefoedd ydynt waith dy ddwylo.
102:26 Hwy a ddarfyddant, a thi a barhei: ie, hwy oll a heneiddiant fel dilledyn; fel gwisg y newidi hwynt, a hwy a newidir.
102:27 Tithau yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni ddarfyddant.
102:28 Plant dy weision a barhânt, a’u had a sicrheir ger dy fron di.
{{angor|Psalm_103}}{{c|{{uc|Psalm CIII}}.}}
{{bach|1 ''Cynghor i fendithio Duw, am ei drugaredd,'' 15 ''a’i ddïanwadalwch.''}}
{{canoli|{{bach|''Psalm'' Dafydd.}}}}
{{angor|103:1}} {{uc|Fy}} enaid, bendithia yr ARGLWYDD; a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd ef.
103:2 Fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD; ac nac anghofia ei holl ddoniau ef:
103:3 Yr hwn sydd yn maddau dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd:
103:4 Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw: yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi:
103:5 Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni; fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr.
103:6 Yr ARGLWYDD sydd: yn gwneuthur cyfiawnder a barn i’r rhai gorthrymedig oll.
103:77 Hysbysodd ei ffyrdd i Moses; ei weithredoedd i feibion Israel.
103:8 Trugarog a graslon yw yr ARGLWYDD; hwyrfrydig ei lid, a mawr o drugarowgrwydd.
103:9 Nid byth yr ymryson efe: ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint.
103:10 Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe a ni; ac nid yn ôl ein hanwireddau y talodd efe ini.
103:11 Canys cyfuwch ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear, y rhagorodd e drugaredd ef ar y rhai a’i hofnant ef.
103:12 Cyn belled ag yw y dwyrain oddi wrth y gorllewin, y pellhaodd efe ei camweddau oddi wrthym.
103:13 Fel y tosturia tad wrth ei blant, felly y tosturia yr ARGLWYDD wrth y rhai a’i hofnant ef.
103:14 Canys efe a edwyn ein defnydd ni: cofia mai llwch ydym.
103:15 Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn: megis blodeuyn y maes, felly y blodeua efe.
103:16 Canys y gwynt a â drosto, ac ni bydd mwy ohono; a’i le nid edwyn ddim ohono ef mwy.
103:17 Ond trugaredd yr ARGLWYDD sydd o drawyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ar y rhai a’i hofnant ef; a’i gyfiawnder i blant eu plant;
103:18 I’r sawl a gadwant ei gyfamod ef, ac a gofiant ei orchmynion i’w gwneuthur.
103:19 Yr ARGLWYDD a baratôdd ei orseddfa yn y nefoedd: a’i frenhiniaeth ef sydd yn draethu ar bob peth.
103:20 Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei angylion ef, cedyrn o nerth, yn gwneuthur ei air ef, gan wrando ar leferydd ei air ef.
103:21 Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl luoedd e; ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys ef.
103:22 Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl weithredoedd ef, ym mhob man o’i lywodraeth: fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD.
{{angor|Psalm_104}}{{c|{{uc|Psalm CIV}}.}}
{{bach|1 ''.''}}
{{canoli|{{bach|.}}}}
{{angor|104:1}} {{uc|A’r}}
104:1 Fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD. O ARGLWYDD fy NUW, tra mawr ydwyt; gwisgaist ogoniant a harddwch.
104:2 Yr hwn wyt yn gwisgo goleuni fel dilledyn: ac yn taenu y nefoedd fel llen.
104:3 Yr hwn sydd yn gosod tulathau ei ystafelloedd yn y dyfroedd; yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo; ac yn rhodio ar adenydd y gwynt.
104:4 Yr hwn sydd yn gwneuthur<noinclude><references/></noinclude>
rlh4cb30j3rxf58gxpt3kv2qavxhh8a
171775
171774
2026-10-15T17:52:53Z
Tylopous
3717
penodau
171775
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>102:17 Efe a edrych at weddi y gwael, ac ni ddiystyrodd eu dymuniad.
102:18 Hyn a ysgrifennir i’r genhedlaeth a ddêl: a’r bobl a grëir a foliannant yr ARGLWYDD.
102:19 Canys efe a edrychodd o uchelder ei gysegr: yr ARGLWYDD a edrychodd o’r nefoedd ar y ddaear;
102:20 I wrando uchenaid y carcharorion; ac i ryddhau plant angau;
102:21 I fynegi enw yr ARGLWYDD yn Seion, a’i foliant yn Jerwsalem:
102:22 Pan gasgler y bobl ynghyd, a’r teyrnasoedd i wasanaethu yr ARGLWYDD.
102:23 Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd; byrhaodd fy nyddiau.
102:24 Dywedais, Fy NUW, na chymer fi ymaith yng nghanol, fy nyddiau: dy flynyddoedd di sydd yn oes oesoedd.
102:25 Yn y dechreuad y seiliaist y ddaear; a’r nefoedd ydynt waith dy ddwylo.
102:26 Hwy a ddarfyddant, a thi a barhei: ie, hwy oll a heneiddiant fel dilledyn; fel gwisg y newidi hwynt, a hwy a newidir.
102:27 Tithau yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni ddarfyddant.
102:28 Plant dy weision a barhânt, a’u had a sicrheir ger dy fron di.
{{angor|Psalm_103}}{{c|{{uc|Psalm CIII}}.}}
{{bach|1 ''Cynghor i fendithio Duw, am ei drugaredd,'' 15 ''a’i ddïanwadalwch.''}}
{{canoli|{{bach|''Psalm'' Dafydd.}}}}
{{angor|103:1}} {{uc|Fy}} enaid, bendithia yr ARGLWYDD; a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd ef.
103:2 Fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD; ac nac anghofia ei holl ddoniau ef:
103:3 Yr hwn sydd yn maddau dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd:
103:4 Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw: yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi:
103:5 Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni; fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr.
103:6 Yr ARGLWYDD sydd: yn gwneuthur cyfiawnder a barn i’r rhai gorthrymedig oll.
103:77 Hysbysodd ei ffyrdd i Moses; ei weithredoedd i feibion Israel.
103:8 Trugarog a graslon yw yr ARGLWYDD; hwyrfrydig ei lid, a mawr o drugarowgrwydd.
103:9 Nid byth yr ymryson efe: ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint.
103:10 Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe a ni; ac nid yn ôl ein hanwireddau y talodd efe ini.
103:11 Canys cyfuwch ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear, y rhagorodd e drugaredd ef ar y rhai a’i hofnant ef.
103:12 Cyn belled ag yw y dwyrain oddi wrth y gorllewin, y pellhaodd efe ei camweddau oddi wrthym.
103:13 Fel y tosturia tad wrth ei blant, felly y tosturia yr ARGLWYDD wrth y rhai a’i hofnant ef.
103:14 Canys efe a edwyn ein defnydd ni: cofia mai llwch ydym.
103:15 Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn: megis blodeuyn y maes, felly y blodeua efe.
103:16 Canys y gwynt a â drosto, ac ni bydd mwy ohono; a’i le nid edwyn ddim ohono ef mwy.
103:17 Ond trugaredd yr ARGLWYDD sydd o drawyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ar y rhai a’i hofnant ef; a’i gyfiawnder i blant eu plant;
103:18 I’r sawl a gadwant ei gyfamod ef, ac a gofiant ei orchmynion i’w gwneuthur.
103:19 Yr ARGLWYDD a baratôdd ei orseddfa yn y nefoedd: a’i frenhiniaeth ef sydd yn draethu ar bob peth.
103:20 Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei angylion ef, cedyrn o nerth, yn gwneuthur ei air ef, gan wrando ar leferydd ei air ef.
103:21 Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl luoedd e; ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys ef.
103:22 Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl weithredoedd ef, ym mhob man o’i lywodraeth: fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD.
{{angor|Psalm_104}}{{c|{{uc|Psalm CIV}}.}}
{{bach|1 ''Myfyrdod ar gadarn allu,'' 7 ''a rhyfeddol ragddarbodaeth Duw.'' 31 ''Bod gogoniant Duw yn dragywyddol.'' 33 ''Y prophwyd yn adduno moliannu Duw yn ddibaid.''}}
{{angor|104:1}} {{uc|Fy}} enaid, bendithia yr ARGLWYDD. O ARGLWYDD fy NUW, tra mawr ydwyt; gwisgaist ogoniant a harddwch.
104:2 Yr hwn wyt yn gwisgo goleuni fel dilledyn: ac yn taenu y nefoedd fel llen.
104:3 Yr hwn sydd yn gosod tulathau ei ystafelloedd yn y dyfroedd; yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo; ac yn rhodio ar adenydd y gwynt.
104:4 Yr hwn sydd yn gwneuthur<noinclude><references/></noinclude>
s9nkmsc9q6g6bttf6f7ldkqzjcw2cl9
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/602
104
3964
171776
7455
2026-10-15T17:58:45Z
Tylopous
3717
penodau
171776
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ei genhadon yn ysbrydion; a’i weinidogion yn dân fflamllyd.
104:5 Yr hwn a seiliodd y ddaear ar ei symudo byth yn dragywydd.
104:6 Toaist hi â’r gorddyfnder, megis â gwisg: y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd.
104:7 Gan dy gerydd di y ffoesant: rhag sŵn dy daran y prysurasant ymaith.
104:8 Gan y mynyddoedd yr ymgodant: ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnaist, i’r lle a seiliaist iddynt.
104:9 Gosodaist derfyn, fel nad elont drosodd; fel na ddychwelont i orchuddio y ddaear.
104:10 Yr hwn a yrr y ffynhonnau i’r dyffrynnoedd, y rhai a gerddant rhwng y bryniau.
104:11 Diodant holl fwystfilod y maes: yr asynnod gwylltion a dorrant eu syched.
104:12 Adar y nefoedd a drigant gerllaw iddynt, y rhai a leisiant oddi rhwng y cangau.
104:13 Y mae efe yn dyfrhau y bryniau o’i ystafelloedd: y ddaear a ddigonir o ffrwyth dy weithredoedd.
104:14 Y mae yn peri i’r gwellt dyfu i’r anifeiliaid, a llysiau i wasanaeth dyn: fel y dyco fara allan o’r ddaear;
104:15 A gwin, yr hwn a lawenycha galon dyn; ac olew, i beri i’w wyneb ddisgleirio: a bara, yr hwn a gynnal galon dyn.
104:16 Prennau yr ARGLWYDD sydd lawn sugn: cedrwydd Libanus, y rhai a blannodd efe;
104:17 Lle y nytha yr adar: y ffynidwydd yw tŷ y ciconia.
104:18 Y mynyddoedd uchel sydd noddfa i’r geifr; a’r creigiau i’r cwningod.
104:19 Efe a wnaeth y lleuad i amserau nodedig: yr haul a edwyn ei fachludiad.
104:20 Gwnei dywyllwch, a nos fydd: ynddi yr ymlusga pob bwystfil coed.
104:21 Y cenawon llewod a ruant am ysglyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan DDUW.
104:22 Pan godo haul, ymgasglant, a gorweddant yn eu llochesau.
104:23 Dyn a â allan i’w waith, ac i’w orchwyl hyd yr hwyr.
104:24 Mor lluosog yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o’th gyfoeth.
104:25 Felly y mae y môr mawr, llydan: yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion.
104:26 Yno yr â y llongau: yno y mae y lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo.
104:27 Y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd.
104:28 A roddech iddynt, a gasglant: agori dy law, a diwellir hwynt â daioni.
104:29 Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i’w llwch.
104:30 Pan ollyngych dy ysbryd, y creir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear.
104:31 Gogoniant yr ARGLWYDD fydd yn dragywydd: yr ARGLWYDD a lawenycha yn ei weithredoedd.
104:32 Efe a edrych ar y ddaear, a hi a gryna: efe a gyffwrdd â’r mynyddoedd, a hwy a fygant.
104:33 Canaf i’r ARGLWYDD tra fyddwyf fyw: canaf i’m DUW tra fyddwyf.
104:34 Bydd melys fy myfyrdod amdano: mi a lawenychaf yn yr ARGLWYDD.
104:35 Darfydded y pechaduriaid o’r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD.
{{angor|Psalm_105}}{{c|{{uc|Psalm CV}}.}}
{{bach|1 ''Cynghor i foliannu Duw, ac i chwilio allan ei weithredoedd ef.'' 7 ''Ystori rhagluniaeth Duw tu ag at Abraham,'' 16 ''a Joseph,'' 23 ''a Jacob yn yr Aipht,'' 26 ''a Moses yn gwaredu yr Israeliaid,'' 37 ''a’r Israeliaid wedi eu dwyn allan o’r Aipht, eu porthi yn yr anialwch, a’u plannu y’ngwlad Canaan.''}}
{{angor|105:1}} {{uc|Clodforwch}} yr ARGLWYDD; gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
105:2 Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef.
105:3 Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr ARGLWYDD.
105:4 Ceisiwch yr ARGLWYDD a’i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser.
105:5 Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau;
105:6 Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion.
105:7 Efe yw yr ARGLWYDD ein DUW ni: ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
5r1v0vmbdg0t3ct92ykmhkal513jb24
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/603
104
3965
171777
7456
2026-10-15T18:04:33Z
Tylopous
3717
penodau
171777
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>105:8 Cofiodd ei gyfamod byth, y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau:
105:9 Yr hyn a amododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac;
105:10 A’r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel;
105:11 Gan ddywedyd, i ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.
105:12 Pan oeddynt ychydig o rifedi, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi:
105:13 Pan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, o’r naill deyrnas at bobl arall:
105:14 Ni adawodd i neb eu gorthrymu; ie, ceryddodd frenhinoedd o’u plegid;
105:15 Gan ddywedyd, Na chyffyrddwch â’m rhai eneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.
105:16 Galwodd hefyd am newyn ar y tir a dinistriodd holl gynhaliaeth bara.
105:17 Anfonodd ŵr o’u blaen hwynt, Joseff, yr hwn a werthwyd yn was.
105:18 Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn: ei enaid a aeth mewn heyrn:
105:19 Hyd yr amser y daeth ei air ef: gair yr ARGLWYDD a’i profodd ef.
105:20 Y brenin a anfonodd, ac a’i gollyngodd ef; llywodraethwr y bobl, ac a rhyddhaodd ef.
105:21 Gosododd ef yn arglwydd ar ei dŷ, ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth:
105:22 I rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewyllys; ac i ddysgu doethhineb i’w henuriaid ef.
105:23 Aeth Israel hefyd i’r Aifft; a Jacob a ymdeithiodd yn nhir Ham.
105:24 Ac efe a gynyddodd ei bobl yn ddirfawr; ac a’u gwnaeth yn gryfach na’u gwrthwynebwyr.
105:25 Trodd eu calon hwynt i gasâu ei bobl ef, i wneuthur yn ddichellgar â’i weision.
105:26 Efe a anfonodd Moses ei was; a Aaron, yr hwn a ddewisasai.
105:27 Hwy a ddangosasant ei arwyddion ef yn eu plith hwynt, a rhyfeddodau yn nhir Ham.
105:28 Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dywyllodd: ac nid anufuddhasant hwy ei air ef.
105:29 Efe a drodd eu dyfroedd yn waed, ac a laddodd eu pysgod.
105:30 Eu tir a heigiodd lyffaint yn ystafelloedd eu brenhinoedd.
105:31 Efe a ddywedodd, a daeth cymysgbla, a llau yn eu holl fro hwynt.
105:32 Efe a wnaeth eu glaw hwynt yn genllysg, ac yn fflamau tân yn eu tir.
105:33 Trawodd hefyd eu gwinwydd, a’u ffigyswydd; ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt.
105:34 Efe a ddywedodd, a daeth y locustiaid, a’r lindys, yn aneirif;
105:35 Y rhai a fwytasant yr holl laswellt yn eu tir hwynt, ac a ddifasant ffrwyth eu daear hwynt.
105:36 Trawodd hefyd bob cyntaf-anedig yn eu tir hwynt, blaenffrwyth eu holl nerth hwynt.
105:37 Ac a’u dug hwynt allan ag arian ac aur; ac heb un llesg yn eu llwythau.
105:38 Llawenychodd yr Aifft pan aethant allan: canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy.
105:39 Efe a daenodd gwmwl yn do, a thân i oleuo liw nos.
105:40 Gofynasant, ac efe a ddug soffleir; ac a’u diwallodd â bara nefol.
105:41 Efe a holltodd y graig, a’r dyfroedd a ddylifodd; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd.
105:42 Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei was.
105:43 Ac a ddug ei bobl allan mewn llawenydd; ei etholedigion mewn gorfoledd.
105:44 Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a meddianasant lafur y bobloedd.
105:45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cyhalient ei gyfreithiau. Molwch yr ARGLWYDD.
{{angor|Psalm_106}}{{c|{{uc|Psalm CVI}}.}}
{{bach|1 ''Y Psalmydd yn annog i foliannu Duw.'' 4 ''yn gweddïo am faddeuant pechodau, megis y gwnaeth Duw â’r tadau.'' 7 ''Ystori o wrthryfelgarwch y bobl, a thrugaredd Duw.'' 47 ''Y mae efe yn diweddu â gweddi ac â moliant.''}}
{{angor|106:1}} {{uc|Molwch}} yr ARGLWYDD. Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.
106:2 Pwy a draetha nerthoedd yr ARGLWYDD? ac a fynega ei holl fawl ef?
106:3 Gwyn eu byd a gadwant farn, a’r hwn wnêl gyfiawnder bob amser.
106:4 Cofia fi, ARGLWYDD, yn ôl dy raslonrwydd i’th bobl; ymwel â mi â’th iachawdwriaeth.
106:5 Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di, fel y gorfoleddwyf gyda’th etifeddiaeth.
106:6 Pechasom gyda’n tadau; gwnaethom gamwedd, anwireddus fuom.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
hnetz8nv2rxvkz4yz2vu0c7keb5uf0o
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/605
104
3967
171778
7458
2026-10-15T18:07:53Z
Tylopous
3717
penodau
171778
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>garedd gan y rhai oll a’u caethiwai.
106:47 Achub ni, O ARGLWYDD ein DUW, a chynnull ni o blith y cenhedloedd: glodfori dy enw sanctaidd, ac i orfoleddu yn dy foliant.
106:48 Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel erioed ac yn dragywydd: a dyweded yr holl bobl, Amen. Molwch yr ARGLWYDD.
{{angor|Psalm_107}}{{c|{{uc|Psalm CVII}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn annog y gwaredigion, wrth glodfori Duw, i ystyried ei amryw ragluniaeth ef,'' 4 ''tu ag at fforddolion,'' 10 ''a chaethion,'' 17 ''a rhai cleifion,'' 23 ''a morwyr,'' 33 ''ac yn amrafael ddamweiniau y bywyd hwn.''}}
{{angor|107:1}} {{uc|Clodforwch}} yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
107:2 Felly dyweded gwaredigion yr ARGLWYDD, y rhai a waredodd efe o law y gelyn;
107:3 Ac a gasglodd efe o’r tiroedd, o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deau.
107:4 Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi:
107:5 Yn newynog ac yn sychedig, eu henaid a lewygodd ynddynt.
107:6 Yna y llefasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau;
107:7 Ac a’u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol.
107:8 O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!
107:9 Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig, ac a leinw yr enaid newynog â daioni.
107:10 Y rhai a breswyliant yn y tywyllwch a chysgod angau, yn rhwym mewn cystudd a haearn:
107:11 Oherwydd anufuddhau ohonynt eiriau DUW, a dirmygu cyngor y Goruchaf.
107:12 Am hynny yntau a ostyngodd eu calon â blinder: syrthiasant, ac nid oedd cynorthwywr.
107:13 Yna y gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau.
107:14 Dug hwynt allan o dywyllwch a chysgod angau; a drylliodd eu rhwymau.
107:15 O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!
107:16 Canys efe a dorrodd y pyrth pres, ac a ddrylliodd y barrau heyrn.
107:17 Ynfydion, oblegid eu camweddau, ac oherwydd eu hanwireddau, a gystuddir.
107:18 Eu henaid a ffieiddiai bob bwyd; a daethant hyd byrth angau.
107:19 Yna y gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau.
107:20 Anfonodd ei air, ac iachaodd hwynt, ac a’u gwaredodd o’u dinistr.
107:21 O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!
107:22 Aberthant hefyd aberth moliant; a mynegant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd.
107:23 Y rhai a ddisgynnant mewn llongau môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion.
107:24 Hwy a welant weithredoedd yr ARGLWYDD, a’i ryfeddodau yn y dyfnder.
107:25 Canys efe a orchymyn, a chyfyd tymhestlwynt, yr hwn a ddyrchafa ei donnau ef.
107:26 Hwy a esgynnant i’r nefoedd, disgynnant i’r dyfnder: tawdd eu henaid gan flinder.
107:27 Ymdroant, ac ymsymudant fel meddwyn: a’u holl ddoethineb a ballodd.
107:28 Yna y gwaeddant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u dwg allan o’u gorthrymderau.
107:29 Efe a wna yr ystorm yn dawel; a’i thonnau a ostegant.
107:30 Yna y llawenhânt am eu gostegu; efe a’u dwg i’r porthladd a ddymunent.
107:31 O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, ai ryfedodau i feibion dynion!
107:32 A dyrchafant ef yng nghynulleidfa y bobl, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid.
107:33 Efe a wna afonydd yn ddiffeithwch, a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir.
107:34 A thir ffrwythlon yn ddiffrwyth, am ddrygioni y rhai a drigant ynddo.
107:35 Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr, a’r tir cras yn ffynhonnau dwfr.
107:36 Ac yno y gwna i’r newynog aros; fel y darparont ddinas i gyfanheddu:
107:37 Ac yr heuont feysydd, ac y<noinclude><references/></noinclude>
ettqnuecactv82rhhzvq6los5zdf1zo
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/606
104
3968
171779
7459
2026-10-15T19:03:08Z
Tylopous
3717
penodau
171779
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>plannont winllannoedd, y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog.
107:38 Ac efe a’u bendithia hwynt fel yr amlhânt yn ddirfawr, ac ni ad i’w hanifeiliaid leihau.
107:39 Lleiheir hwynt hefyd, a gostyngir hwynt, gan gyfyngder, drygfyd, a chyni.
107:40 Efe a dywallt ddirmyg ar foneddigion, ac a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd.
107:41 Ond efe a gyfyd y tlawd o gystudd, ac a wna iddo deuluoedd fel praidd.
107:42 Y rhai uniawn a welant hyn, ac a lawenychant: a phob anwiredd a gae ei safn.
107:43 Y neb sydd ddoeth, ac a gadwo hyn, a ddeallant drugareddau yr ARGLWYDD.
{{angor|Psalm_108}}{{c|{{uc|Psalm CVIII}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn ymwroli i foliannu Duw:'' 5 ''yn gweddïo am gymmorth Duw yn ol ei addewid.'' 11 ''Ei hyder ef ar gynnorthwy Duw.''}}
{{canoli|{{bach|Cân ''neu'' Psalm Dafydd.}}}}
{{angor|108:1}} {{uc|Parod}} yw fy nghalon, O DDUW: canaf a chanmolaf â’m gogoniant.
108:2 Deffro, y nabl ar delyn: minnau a deffroaf yn fore.
108:3 Clodforaf di, ARGLWYDD, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd.
108:4 Canys mawr yw dy drugaredd oddi ar y nefoedd: a’th wirionedd a gyrraedd hyd yr wybren.
108:5 Ymddyrcha, O DDUW, uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear;
108:6 Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi.
108:7 DUW a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf, rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.
108:8 Eiddof fi yw Gilead; eiddof fi Manasse; Effraim hefyd yw nerth fy mhen: Jwda yw fy neddfwr.
108:9 Moab yw fy nghrochan golchi; tros Edom y taflaf fy esgid: buddugoliaethaf ar Philistia.
108:10 Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn? pwy a’m dwg hyd yn Edom?
108:11 Onid tydi, O DDUW, yr hwn a’n bwriaist ymaith? ac onid ei di allan, O DDUW, gyda’n lluoedd?
108:12 Dyro i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys gau yw ymwared dyn.
108:13 Trwy DDUW y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.
{{angor|Psalm_109}}{{c|{{uc|Psalm CIX}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn cwyno rhag enllib ei elynion, ac yn rhith Judas yn eu melldigo hwy:'' 16 ''yn dangos eu pechod hwy:'' 21 ''yn cwyno rhag ei drueni ei hun; ac yn gweddïo am help:'' 30 ''yn addaw bod yn ddïolchgar.''}}
{{canoli|{{bach|I’r Pencerdd, Psalm Dafydd.}}}}
{{angor|109:1}} {{uc|Na}} Na thaw, O DDUW fy moliant.
109:2 Canys genau yr annuwiol a genau y twyllodrus a ymagorasant arnaf: A thafod celwyddog y llefarasant i’m herbyn.
109:3 Cylchynasant fi hefyd â geiriau cas; ac ymladdasant â mi heb achos.
109:4 Am fy ngharedigrwydd y’m gwrthwynebant: minnau a arferaf weddi.
109:5 Talasant hefyd i mi ddrwg am dda, a chas am fy nghariad.
109:6 Gosod dithau un annuwiol arno ef; a safed Satan wrth ei ddeheulaw ef.
109:7 Pan farner ef, eled yn euog; a bydded ei weddi yn bechod.
109:8 Ychydig fyddo ei ddyddiau; a chymered arall ei swydd ef.
109:9 Bydded ei blant yn amddifaid, a’i wraig yn weddw.
109:10 Gan grwydro hefyd crwydred ei blant ef, a chardotant: ceisiant hefyd eu bara o’u hanghyfannedd leoedd.
109:11 Rhwyded y ceisiad yr hyn oll sydd ganddo; ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef.
109:12 Na fydded neb a estynno drugaredd iddo; ac na fydded neb a drugarhao wrth ei amddifaid ef.
109:13 Torrer ymaith ei hiliogaeth ef: dileer eu henw yn yr oes nesaf.
109:14 Cofier anwiredd ei dadau o flaen yr ARGLWYDD; ac na ddileer pechod ei fam ef.
109:15 Byddant bob amser gerbron yr ARGLWYDD, fel y torro efe ymaith eu coffadwriaeth o’r tir:
109:16 Am na chollodd wneuthur trugaredd, eithr erlid ohono y truan a’r tlawd, a’r cystuddiedig o galon, i’w ladd.
109:17 Hoffodd felltith, a hi a ddaeth iddo: ni fynnai fendith, a hi a bellhaodd oddi wrtho.
109:18 Ie, gwisgodd felltith fel dilledyn; hi a ddaeth fel dwfr i’w fewn, ac fel olew i’w esgyrn.
109:19 Bydded iddo fel dilledyn yr hwn wisgo efe, ac fel gwregys a’i gwregyso efe yn wastadol.
109:20 Hyn fyddo tâl fy ngwrthwyn-<noinclude><references/></noinclude>
7sat81mg9uvrfm4doixys2gqc9htufd
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/607
104
3969
171780
7464
2026-10-15T19:08:04Z
Tylopous
3717
penodau
171780
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ebwyr gan yr ARGLWYDD, a’r rhai a ddywedant ddrwg yn erbyn fy enaid.
109:21 Tithau, ARGLWYDD DDUW, gwn erof fi er mwyn dy enw: am fod yn dda dy drugaredd, gwared fi.
109:22 Canys truan a thlawd ydwyf fi, a’m calon a archollwyd o’m mewn.
109:23 Euthum fel cysgod pan gilio: fel locust y’m hysgydwir.
109:24 Fy ngliniau a aethant yn egwan gan ympryd; a’m cnawd a guriodd o eisiau braster.
109:25 Gwaradwydd hefyd oeddwn iddynt: pan welent fi, siglent eu pennau.
109:26 Cynorthwya fi, O ARGLWYDD fy NUW; achub fi yn ôl dy drugaredd:
109:27 Fel y gwypont mai dy law di yw hyn; mai ti, ARGLWYDD, a’i gwnaethost.
109:28 Melltithiant hwy, ond bendithia di: cywilyddier hwynt, pan gyfodant; a llawenyched dy was.
109:29 Gwisger fy ngwrthwynebwyr â gwarth, ac ymwisgant â’u cywilydd, megis â chochl.
109:30 Clodforaf yr ARGLWYDD yn ddirfawr â’m genau; ie, moliannaf ef ymysg llawer.
109:31 Oherwydd efe a saif ar ddeheulaw y tlawd, i’w achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid.
{{angor|Psalm_110}}{{c|{{uc|Psalm CX}}.}}
{{bach|1 ''Brenhiniaeth,'' 4 ''offeiriadaeth,'' 5 ''goruchafiaeth,'' 7 ''a dïoddefaint Crist.''}}
{{canoli|{{bach|Psalm Dafydd.}}}}
{{angor|110:1}} {{uc|Dywedodd}} yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i’th draed.
110:2 Gwialen dy nerth a enfyn yr ARGLWYDD o Seion: llywodraetha di yng nghanol dy elynion.
110:3 Dy bobl a fyddant ewyllysgar yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr: y mae gwlith dy enedigaeth i ti.
110:4 Tyngodd yr ARGLWYDD, ac nid edifarha, Ti wyt offeiriad yn dragwyddol, yn ôl urdd Melchisedec.
110:5 Yr ARGLWYDD ar dy ddeheulaw a drywana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint.
110:6 Efe a farn ymysg y cenhedloedd; lleinw leoedd â chelaneddau: archolla ben llawer gwlad.
110:7 Efe a yf o’r afon ar y ffordd: am hynny y dyrcha efe ei ben.
{{angor|Psalm_111}}{{c|{{uc|Psalm CXI}}.}}
{{bach|1 ''Y Psalmydd, trwy ei esampl ei hun, yn annog eraill i foliannu Duw, am ei ogoneddus'' 5 ''a’i rasusol weithredoedd.'' 10 ''Mai ofn Duw sydd yn magu gwir ddoethineb.''}}
{{angor|111:1}} {{uc|Molwch}} yr ARGLWYDD. Clodforaf yr ARGLWYDD â’m holl galon, yng nghymanfa y rhai uniawn, ac yn y gynulleidfa.
111:2 Mawr yw gweithredoedd yr ARGLWYDD, wedi eu ceisio gan bawb a’u hoffant.
111:3 Gogoniant a harddwch yw ei waith ef; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth.
111:4 Gwnaeth gofio ei ryfeddodau: graslon a thrugarog yw yr ARGLWYDD.
111:5 Rhoddodd ymborth i’r rhai a’i hofnant ef: efe a gofia ei gyfamod yn dragywydd.
111:6 Mynegodd i’w bobl gadernid ei weithredoedd, i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.
111:7 Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylo ef: ei holl orchmynion ydynt sicr:
111:8 Wedi eu sicrhau byth ac yn dragywdd, a’u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder.
111:9 Anfonodd ymwared i’w bobl: gorchmynnodd ei gyfamod yn dragwyddol: sancteiddiol ac ofnadwy yw ei enw ef.
111:10 Dechreuad doethineb yw ofn yr ARGLWYDD: deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef: y mae ei foliant ef yn parhau byth.
{{angor|Psalm_112}}{{c|{{uc|Psalm CXII}}.}}
{{bach|1 ''Duwioldeb sydd iddi addewid o’r bywyd yma,'' 4 ''ac o’r bywyd a ddaw.'' 10 ''Y bydd drwg gan yr enwir weled llwyddiant y duwiol.''}}
{{angor|112:1}} {{uc|Molwch}} yr ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y gŵr a ofna yr ARGLWYDD, ac sydd yn hoffi ei orchmynion ef yn ddirfawr.
112:2 Ei had fydd gadarn ar y ddaear: cenhedlaeth y rhai uniawn a fendithir.
112:3 Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ ef: a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth.
112:4 Cyfyd goleuni i’r rhai uniawn yn y tywyllwch: trugarog, a thosturiol, a chyfiawn, yw efe.
112:5 Gŵr da sydd gymwynasgar, ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei achosion.
112:6 Yn ddiau nid ysgogir ef byth:<noinclude><references/></noinclude>
ih40ak8fim9twcdl47rj5takeypsual
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/608
104
3970
171781
7465
2026-10-15T19:12:13Z
Tylopous
3717
penodau
171781
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth.
112:7 Nid ofna efe rhag chwedl drwg: ei galon sydd ddi-sigl, yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.
112:8 Ategwyd ei galon: nid ofna efe, hyd oni welo ei ewyllys ar ei elynion.
112:9 Gwasgarodd, rhoddodd i’r tlodion; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth; ei gorn a ddyrchefir mewn gogoniant.
112:10 Yr annuwiol a wêl hyn, ac a ddigia; efe a ysgyrnyga ei ddannedd, ac a dawdd ymaith: derfydd am ddymuniad y rhai annuwiol.
{{angor|Psalm_113}}{{c|{{uc|Psalm CXIII}}.}}
{{bach|1 ''Cynghor i foliannu Duw, o herwydd ei ardderchowgrwydd,'' 6 ''a’i drugaredd.''}}
{{angor|113:1}} {{uc|Molwch}} yr ARGLWYDD. Gweision yr ARGLWYDD, molwch, ie, molwch enw yr ARGLWYDD.
113:2 Bendigedig fyddo enw yr ARGLWYDD o hyn allan ac yn dragywydd.
113:3 O godiad haul hyd ei fachludiad, moliannus yw enw yr ARGLWYDD.
113:4 Uchel yw yr ARGLWYDD goruwch yr holl genhedloedd; a’i ogoniant sydd goruwch y nefoedd.
113:5 Pwy sydd fel yr ARGLWYDD ein DUW ni, yr hwn sydd yn preswylio yn uchel,
113:6 Yr hwn a ymddarostwng i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaear?
113:7 Efe sydd yn codi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r domen,
113:8 I’w osod gyda phendefigion, ie, gyda phendefigion ei bobl.
113:9 Yr hwn a wna i’r amhlantadwy gadw tŷ, a bod yn llawen fam plant. Canmolwch yr ARGLWYDD.
{{angor|Psalm_114}}{{c|{{uc|Psalm CXIV}}.}}
{{bach|''Dafydd, trwy esampl y creaduriaid mudion, yn annog i ofni Duw yn ei eglwys.''}}
{{angor|114:1}} {{uc|Pan}} aeth Israel o’r Aifft, tŷ Jacob oddi wrth bobl anghyfiaith;
114:2 Jwda oedd ei sancteiddrwydd, ac Israel ei arglwyddiaeth.
114:3 Y môr a welodd hyn, ac a giliodd; yr Iorddonen a drodd yn ôl.
114:4 Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod, a’r bryniau fel ŵyn defaid.
114:5 Beth ddarfu i ti, O fôr, pan giliaist? tithau Iorddonen, paham y troaist yn ôl?
114:6 Paham, fynyddoedd, y neidiech fel hyrddod? a’r bryniau fel y defaid?
114:7 Ofna, di ddaear, rhag yr ARGLWYDD, rhag DUW Jacob:
114:8 Yr hwn sydd yn troi y graig yn llyn dwfr, ar gallestr yn ffynnon dyfroedd.
{{angor|Psalm_115}}{{c|{{uc|Psalm CXV}}.}}
{{bach|1 ''O herwydd bod Duw yn wir-ogoneddus,'' 4 ''ac eilunod yn wagedd,'' 9 ''y mae y Psalmydd yn cynghori rhoi hyder ar Dduw.'' 12 ''Y dylid bendithio Duw am ei fendithion.''}}
{{angor|115:1}} {{uc|Nid}} i ni, O ARGLWYDD, nid i ni, ond i’th enw dy hun dod ogoniant, er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy wirionedd.
115:2 Paham y dywedai y cenhedloedd, Pa le yn awr y mae eu DUW hwynt?
115:3 Ond ein DUW, ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll.
115:4 Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian, gwaith dwylo dynion.
115:5 Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant:
115:6 Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant:
115:7 Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant; traed sydd iddynt, ond ni cherddant; ni leisiant chwaith â’u gwddf.
115:8 Y rhai a’u gwnânt ydynt fel hwythau, a phob un a ymddiriedo ynddynt.
115:9 O Israel, ymddiried di yn yr ARGLWYDD: efe yw eu porth a'u tarian.
115:10 Tŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD: efe yw eu porth a'u tarian.
115:11 Y rhai a ofnwch yr ARGLWYDD, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD: efe eu porth a'u tarian.
115:12 Yr ARGLWYDD a’n cofiodd ni: efe a'n bendithia: bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe dŷ Aaron.
115:13 Bendithia efe y rhai a ofnant yr ARGLWYDD, fychain a mawrion.
115:14 Yr ARGLWYDD a'ch chwanega chwi fwyfwy, chwychwi a'ch plant hefyd.
115:15 Bendigedig ydych chwi gan yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nef a daear.
115:16 Y nefoedd, ie, y nefoedd ydynt<noinclude><references/></noinclude>
mxykg8cqsmn1r8b2gvz8mqn9ifnq9nt
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/609
104
3971
171782
7466
2026-10-15T19:16:23Z
Tylopous
3717
penodau
171782
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>eiddo yr ARGLWYDD: a'r ddaear a roddes efe i feibion dynion.
115:17 Y meirw ni foliannant yr ARGLWYDD, na'r neb sydd yn disgyn i ddistawrwydd.
115:18 Ond nyni a fendithiwn yr ARGLWYDD o hyn allan ac yn dragywydd. Molwch yr ARGLWYDD.
{{angor|Psalm_116}}{{c|{{uc|Psalm CXVI}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn dangos ei gariad a’i ddyled tu ag at Dduw am ei wared ef:'' 12 ''ac yn ymegnïo i fod yn ddïolchgar.''}}
{{angor|116:1}} {{uc|Da}} gennyf wrando ar ARGLWYDD ar fy llef, a'm gweddïau.
116:2 Am ostwng ohono ei glust ataf, am hynny llefaf dros fy nyddiau arno ef.
116:3 Gofidion angau a'm cylchynasant, a gofidiau uffern a'm daliasant: ing a blinder a gefais.
116:4 Yna y gelwais ar enw yr ARGLWYDD; Atolwg, ARGLWYDD gwared fy enaid.
116:5 Graslon yw yr ARGLWYDD, a chyfiawn; a thosturiol yw ein Duw ni.
116:6 Yr ARGLWYDD sydd yn cadw y rhai annichellgar: tlodais, ac efe a'm hachubodd.
116:7 Dychwel, O fy enaid, i'th orffwysfa; canys yr ARGLWYDD fu dda wrthyt.
116:8 Oherwydd i ti waredu fy enaid oddi wrth angau, fy llygaid oddi wrth ddagrau, a'm traed rhag llithro.
116:9 Rhodiaf o flaen yr ARGLWYDD yn nhir y rhai byw.
116:10 Credais, am hynny y lleferais: cystuddiwyd fi yn ddirfawr.
116:11 Mi a ddywedais yn fy ffrwst, Pob dyn sydd gelwyddog.
116:12 Beth a dalaf i’r ARGLWYDD, am ei holl ddoniau i mi?
116:13 Ffiol iachawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr ARGLWYDD y galwaf.
116:14 Fy addunedau a dalaf i’r ARGLWYDD, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl ef.
116:15 Gwerthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD yw marwolaeth ei saint ef.
116:16 ARGLWYDD, yn ddiau dy was di ydwyf fi; dy was di ydwyf fi, mab dy wasanaethwraig: datodaist fy rhwymau.
116:17 Aberthaf i ti aberth moliant; a galwaf ar enw yr ARGLWYDD.
116:18 Talaf fy addunedau i’r ARGLWYDD, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl,
116:19 Yng nghynteddoedd tŷ yr ARGLWYDD, yn dy ganol di, O Jerwsalem. Molwch yr ARGLWYDD.
{{angor|Psalm_117}}{{c|{{uc|Psalm CXVII}}.}}
{{bach|''Cynghor i foliannu Duw am ei drugaredd a’i wirionedd.''}}
{{angor|117:1}} {{uc|Molwch}} yr ARGLWYDD, yr holl genhedloedd: clodforwch ef, yr yr holl bobloedd.
117:2 Oherwydd ei drugaredd ef tuag atom ni sydd fawr: a gwirionedd yr ARGLWYDD a bery yn dragywydd. Molwch yr ARGLWYDD.
{{angor|Psalm_118}}{{c|{{uc|Psalm CXVIII}}.}}
{{bach|1 ''Cynghor i foliannu Duw am ei drugaredd.'' 5 ''Y Psalmydd, wrth a brofasai efe ei hun, yn dangos mor dda ydyw hyderu ar Dduw.'' 19 ''Mynegi dyfodiad Crist yn ei deyrnas, dan rith a chysgod y Psalmydd.''}}
{{angor|118:1}} {{uc|Clodforwch}} yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.
118:2 Dyweded Israel yr awr hon, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
118:3 Dyweded tŷ Aaron yn awr, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
118:4 Yn awr dyweded y rhai a ofnant yr ARGLWYDD, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
118:5 Mewn ing y gelwais ar yr ARGLWYDD; yr ARGLWYDD a’m clybu, ac a’m gosododd mewn ehangder.
118:6 Yr ARGLWYDD sydd gyda mi, nid ofnaf: beth a wna dyn i mi?
118:7 Yr ARGLWYDD sydd gyda mi ymhlith fy nghynorthwywyr: am hynny y caf weled fy ewyllys ar fy nghaseion.
118:8 Gwell yw gobeithio yn yr ARGLWYDD, nag ymddiried mewn dyn.
118:9 Gwell yw gobeithio yn yr ARGLWYDD, nag ymddiried mewn tywysogion.
118:10 Yr holl genhedloedd a’m hamgylchynasant fi: ond yn enw yr ARGLWYDD mi a’u torraf hwynt ymaith.
118:11 Amgylchynasant fi; ie, amgylchynasant fi: ond yn enw yr ARGLWYDD mi a’u torraf hwynt ymaith.
118:12 Amgylchynasant fi fel gwenyn; diffoddasant fel tân drain: oherwydd yn enw yr ARGLWYDD mi a’u torraf hwynt ymaith.
118:13 Gan wthio y gwthiaist fi, fel y<noinclude><references/></noinclude>
5vo3eqigfidpz17i2ug2a2ovlr6tb2r
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/610
104
3972
171783
7467
2026-10-15T19:21:42Z
Tylopous
3717
penodau
171783
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>syrthiwn: ond yr ARGLWYDD a’m cynorthwyodd.
118:14 Yr ARGLWYDD yw fy nerth a’m cân; ac sydd iachawdwriaeth i mi.
118:15 Llef gorfoledd a iachawdwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn: deheulaw yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur grymuster.
118:16 Deheulaw. yr ARGLWYDD a ddyrchafwyd: deheulaw yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur grymuster.
118:17 Ni byddaf farw, ond byw; a mynegaf weithredoedd yr ARGLWYDD.
118:18 Gan gosbi y’m cosbodd yr ARGLWYDD: ond ni’m rhoddodd i farwolaeth.
118:19 Agorwch i mi byrth cyfiawnder: af i mewn iddynt, a chlodforaf yr ARGLWYDD.
118:20 Dyma borth yr ARGLWYDD; y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo.
118:21 Clodforaf di; oherwydd i ti fy ngwrando, a’th fod yn iachawdwriaeth i mi.
118:22 Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, a aeth yn ben i’r gongl.
118:23 O’r ARGLWYDD y daeth hyn; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni.
118:24 Dyma y dydd a wnaeth yr ARGLWYDD; gorfoleddwn a llawenychwn ynddo.
118:25 Atolwg, ARGLWYDD, achub yn awr: atolwg, ARGLWYDD, pâr yn awr lwyddiant.
118:26 Bendigedig yw a ddêl yn enw yr ARGLWYDD: bendithiasom chwi o dŷ yr ARGLWYDD.
118:27 DUW yw yr ARGLWYDD, yr hwn a lewyrchodd i ni: rhwymwch yr aberth â rhaffau, hyd wrth gyrn yr allor.
118:28 Fy NUW ydwyt ti, a mi a’th glodforaf: dyrchafaf di, fy NUW.
118:29 Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd yn dragywydd y pery ei drugaredd ef.
{{angor|Psalm_119}}{{c|{{uc|Psalm CXIX}}.}}
{{bach|''Y Psalm hon sydd yn cynnwys amryw weddïau, a moliannau, ac addewidion ufudd-dod.''}}
{{canoli|{{bach|{{uc|Aleph}}.}}}}
{{angor|119:1}} {{uc|Gwyn}} fyd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai a rodiant yng nghyfraith yr ARGLWYDD.
119:2 Gwyn fyd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef; ac a’i ceisiant ef â’u holl galon.
119:3 Y rhai hefyd ni wnânt anwiredd, hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef.
119:4 Ti a orchmynnaist gadw dy orchmynion yn ddyfal.
119:5 O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau!
119:6 Yna ni’m gwaradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchmynion.
119:7 Clodforaf di ag uniondeb calon, pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder.
119:8 Cadwaf dy ddeddfau; O na ad fi yn hollol.
{{canoli|{{bach|{{uc|Beth}}.}}}}
119:9 Pa fodd y glanha lanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di.
119:10 A’m holl galon y’th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion.
119:11 Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i’th erbyn.
119:12 Ti, ARGLWYDD, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau.
119:13 A’m gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau.
119:14 Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau, â’r holl olud.
119:15 Yn dy orchmynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf.
119:16 Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air.
{{canoli|{{bach|{{uc|Gimel}}.}}}}
119:17 Bydd dda wrth dy was, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air.
119:18 Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o’th gyfraith di.
119:19 Dieithr ydwyf fi ar y ddaear: na chudd di rhagof dy orchmynion.
119:20 Drylliwyd fy enaid gan awydd i’th farnedigaethau bob amser.
119:21 Ceryddaist y beilchion melltigedig, y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion.
119:22 Tro oddi wrthyf gywilydd a dirmyg oblegid dy dystiolaethau di a gedwais.
119:23 Tywysogion hefyd a eisteddasant ac a ddywedasant i’m herbyn: dy was dithau a fyfyriai yn dy ddeddfau.
119:24 A’th dystiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a’m cynghorwyr.
{{canoli|{{bach|{{uc|Daleth}}.}}}}
119:25 Glynodd fy enaid wrth y llwch: bywha fi yn ôl dy air.
119:26 Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi: dysg i mi dy ddeddfau.
119:27 Gwna i mi ddeall ffordd dy orchmynion; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
ldoa9zcrhs94yavxoq45v2cksr7u237
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/611
104
3973
171784
7468
2026-10-15T19:22:53Z
Tylopous
3717
penodau
171784
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>119:28 Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi yn ôl dy air.
119:29 Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith.
119:30 Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o’m blaen.
119:31 Glynais wrth dy dystiolaethau: O ARGLWYDD, na’m gwaradwydda.
119:32 Ffordd dy orchmynion a redaf, pan ehangech fy nghalon
{{canoli|{{bach|{{uc|He}}.}}}}
119:33 Dysg i mi, O ARGLWYDD, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd.
119:34 Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith; ie, cadwaf hi â’m holl galon.
119:35 Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchmynion: canys ynddo y mae fy ewyllys.
119:36 Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau, ac nid at gybydd-dra.
119:37 Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd.
119:38 Sicrha dy air i’th was, yr hwn sydd yn ymroddi i’th ofn di.
119:39 Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda.
119:40 Wele, awyddus ydwyf i’th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.
{{canoli|{{bach|{{uc|Fau}}.}}}}
119:41 Deued i mi dy drugaredd, ARGLWYDD, a’th iachawdwriaeth yn ôl dy air.
119:42 Yna yr atebaf i’m cablydd: oherwydd yn dy air y gobeithiais.
119:43 Na ddwg dithau air y gwirionedd o’m genau yn llwyr: oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais.
119:44 A’th gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd.
119:45 Rhodiaf hefyd mewn ehangder: oherwydd dy orchmynion di a geisiaf.
119:46 Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gennyf.
119:47 Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion, y rhai a hoffais.
119:48 A’m dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.
{{canoli|{{bach|{{uc|Sain}}.}}}}
119:49 Cofia y gair wrth dy was, yn yr hwn y peraist i mi obeithio.
119:50 Dyma fy nghysur yn fy nghystudd: canys dy air di a’m bywhaodd i.
119:51 Y beilchion a’m gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di.
119:52 Cofiais, O ARGLWYDD, dy farnedigaethau erioed; ac ymgysurais.
119:53 Dychryn a ddaeth arnaf, oblegid yr annuwiolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di.
119:54 Dy ddeddfau oedd fy nghân yn nhŷ fy mhererindod.
119:55 Cofiais dy enw, ARGLWYDD, y nos; a chedwais dy gyfraith.
119:56 Hyn oedd gennyf, am gadw ohonof dy orchmynion di.
{{canoli|{{bach|{{uc|Cheth}}.}}}}
119:57 O ARGLWYDD, fy rhan ydwyt; dywedais y cadwn dy eiriau.
119:58 Ymbiliais â’th wyneb â’m holl galon: trugarha wrthyf yn ôl dy air.
119:59 Meddyliais am fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di.
119:60 Brysiais, ac nid oedais gadw dy orchmynion.
119:61 Minteioedd yr annuwiolion a’m hysbeiliasant: ond nid anghofiais dy gyfraith di.
119:62 Hanner nos y cyfodaf i’th foliannu, am farnedigaethau dy gyfiawnder.
119:63 Cyfaill ydwyf fi i’r rhai oll a’th ofnant, ac i’r rhai a gadwant dy orchmynion.
119:64 Llawn yw y ddaear o’th drugaredd, O ARGLWYDD: dysg i mi dy ddeddfau.
{{canoli|{{bach|{{uc|Teth}}.}}}}
119:65 Gwnaethost yn dda i’th was, O ARGLWYDD, yn ôl dy air.
119:66 Dysg i mi iawn ddeall a gwybodaeth: oherwydd dy orchmynion di a gredais.
119:67 Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di.
119:68 Da ydwyt, a daionus: dysg i mi dy ddeddfau.
119:69 Y beilchion a glytiasant gelwydd i’m herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â’m holl galon.
119:70 Cyn frased â’r bloneg yw eu calon: minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di.
119:71 Da yw i mi fy nghystuddio; fel y dysgwn dy ddeddfau.
119:72 Gwell i mi gyfraith dy enau, na miloedd o aur ac arian.
{{canoli|{{bach|{{uc|Iod}}.}}}}
119:73 Dy ddwylo a’m gwnaethant,<noinclude><references/></noinclude>
py4dsfosj6t706xt08pcqzsksirw0qn
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/612
104
3974
171785
7469
2026-10-15T19:23:54Z
Tylopous
3717
penodau
171785
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ac a’m lluniasant: pâr i mi ddeall, fel y dysgwyf dy orchmynion.
119:74 Y rhai a’th ofnant a’m gwelant, ac a lawenychant; oblegid gobeithio ohonof yn dy air di.
119:75 Gwn, ARGLWYDD, mai cyfiawn yw dy farnedigaethau; ac mai mewn ffyddlondeb y’m cystuddiaist.
119:76 Bydded, atolwg, dy drugaredd i’m cysuro, yn ôl dy air i’th wasanaethwr.
119:77 Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyf byw; oherwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch.
119:78 Cywilyddier y beilchion, canys gwnânt gam â mi yn ddiachos, ond myfi a fyfyriaf yn dy orchmynion di.;
119:79 Troer ataf fi y rhai a’th ofnant di, a’r rhai a adwaenant dy dystiolaethau.
119:80 Bydded fy nghalon yn berffaith yn dy ddeddfau; fel na’m cywilyddier.
{{canoli|{{bach|{{uc|Caph}}.}}}}
119:81 Diffygiodd fy enaid am dy iachawdwriaeth: wrth dy air yr ydwyf yn disgwyl.
119:82 Y mae fy llygaid yn pallu am dy air, gan ddywedyd, Pa bryd y’m diddeni?
119:83 Canys ydwyf fel costrel mewn mwg; ond nid anghofiais dy ddeddfau.
119:84 Pa nifer yw dyddiau dy was? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a’m herlidiant?
119:85 Y beilchion a gloddiasant byllau i mi, yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di.
119:86 Dy holl orchmynion ydynt wirionedd: ar gam y’m herlidiasant; cymorth fi.
119:87 Braidd na’m difasant ar y daear; minnau ni adewais dy orchmynion.
119:88 Bywha fi yn ôl dy drugaredd; felly y cadwaf dystiolaeth dy enau.
{{canoli|{{bach|{{uc|Lamed}}.}}}}
119:89 Yn dragywydd, O ARGLWYDD, y mae dy air wedi ei sicrhau yn y nefoedd.
119:90 Dy wirionedd sydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: seiliaist y ddaear, a hi a saif.
119:91 Wrth dy farnedigaethau y safant heddiw: canys dy weision yw pob peth.
119:92 Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuasai yna amdanaf yn fy nghystudd.
119:93 Byth nid anghofiaf dy orchmynion: canys â hwynt y’m bywheaist.
119:94 Eiddot ti ydwyf, cadw fi: oherwydd dy orchmynion a geisiais.
119:95 Y rhai annunwiol a ddisgwyliasant amdanaf i’m difetha: ond dy dystiolaethau di a ystyriaf fi.
119:96 Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bob perffeithrwydd: ond dy orchymyn di sydd dra eang.
{{canoli|{{bach|{{uc|Mem}}.}}}}
119:97 Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd.
119:98 A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi.
119:99 Deellais fwy na’m holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod.
119:100 Deellais yn well na’r henuriaid, fy mod yn cadw dy orchmynion di.
119:101 Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di.
119:102 Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a’m dysgaist.
119:103 Mor felys yw dy eiriau i’m genau, melysach na mêl i’m safn.
119:104 Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.
{{canoli|{{bach|{{uc|Nun}}.}}}}
119:105 Llusern yw dy air i’m traed, a llewyrch i’m llwybr.
119:106 Tyngais, a chyfiawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder.
119:107 Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywha fi, O ARGLWYDD, yn ôl dy air.
119:108 Atolwg, ARGLWYDD, bydd fodlon i ewyllysgar offrymau fy ngenau, a dysg i mi dy farnedigaethau.
119:109 Y mae fy enaid yn fy law yn wastadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith.
119:110 Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchmynion.
119:111 Cymerais dy orchmynion yn etifeddiaeth dros byth - oherwydd llawenydd fy nghalon ydynt.
119:112 Gostyngais fy nghalon i wneuthur dy ddeddfau byth, hyd y diwedd.
{{canoli|{{bach|{{uc|Samech}}.}}}}
119:113 Meddyliau ofer a gaseais: a’th gyfraith di a hoffais.
119:114 Fy lloches a’m tarian ydwyt: yn dy air y gobeithiaf.
119:115 Ciliwch oddi wrthyf, rai dryg-<noinclude><references/></noinclude>
j3ulgxz4zxloewipv1axv2iz0d310n0
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/613
104
3975
171786
7470
2026-10-15T19:24:58Z
Tylopous
3717
penodau
171786
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ionus: canys cadwaf orchmynion fy NUW.
119:116 Cynnal fi yn ôl dy air, fel y byddwyf byw: ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith.
119:117 Cynnal fi, a dihangol fyddaf: ac ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol.
119:118 Sethraist y rhai oll a gyfeiliornant oddi wrth dy ddeddfau: canys twyllodrus yw eu dichell hwynt.
119:119 Bwriaist heibio holl annuwiolion y tir fel sothach: am hynny yr hoffais dy dystiolaethau.
119:120 Dychrynodd fy nghnawd rhag dy ofn, ac ofnais rhag dy farnedigaethau.
{{canoli|{{bach|{{uc|Ain}}.}}}}
119:121 Gwneuthum farn a chyfiawnder: na ad fi i’m gorthrymwyr.
119:122 Mechnïa dros dy was er daioni: na ad i’r beilchion fy ngorthrymu.
119:123 Fy llygaid a ballasant am dy iawchadwriaeth, ac am ymadrodd dy gyfiawnder.
119:124 Gwna i’th was yn ôl dy drugaredd, a dysg i mi dy ddeddfau.
119:125 Dy was ydwyf fi; pâr i mi ddeall fel y gwypwyf dy dystiolaethau.
119:126 Amser yw i’r ARGLWYDD weithio: diddymasant dy gyfraith di.
119:127 Am hynny yr hoffais dy orchmynion yn fwy nag aur; ie, yn fwy nag aur coeth.
119:128 Am hynny uniawn y cyfrifais dy orchmynion am bob peth; a chaseais bob gau lwybr.
{{canoli|{{bach|{{uc|Pe}}.}}}}
119:129 Rhyfedd yw dy dystiolaethau: am hynny y ceidw fy enaid hwynt.
119:130 Agoriad dy eiriau a rydd oleuni: pair ddeall i rai annichellgar.
119:131 Agorais fy ngenau, a dyheais: oblegid awyddus oeddwn i’th orchmynion di.
119:132 Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf, yn ôl dy arfer i’r rhai a garant dy enw.
119:133 Cyfarwydda fy nghamre yn dy air: na lywodraethed dim anwiredd arnaf.
119:134 Gwared fi oddi wrth orthrymder dynion: felly y cadwaf dy orchmynion.
119:135 Llewyrcha dy wyneb ar dy was: a dysg i mi dy ddeddfau.
119:136 Afonydd o ddyfroedd a redant o’m llygaid, am na chadwasant dy gyfraith di.
{{canoli|{{bach|{{uc|Tsadi}}.}}}}
119:137 Cyfiawn ydwyt ti, O ARGLWYDD, ac uniawn yw dy farnedigaethau.
119:138 Dy dystiolaethau y rhai a orchmynnaist, ydynt gyfiawn, a ffyddlon iawn.
119:139 Fy sêl a’m difaodd; oherwydd i’m gelynion anghofio dy eiriau di.
119:140 Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr: am hynny y mae dy was yn ei hoffi.
119:141 Bychan ydwyf fi, a dirmygus: ond nid anghofiais dy orchmynion.
119:142 Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth, a’th gyfraith sydd wirionedd.
119:143 Adfyd a chystudd a’m goddiweddasant; a’th orchmynion oedd fy nigrifwch.
119:144 Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.
{{canoli|{{bach|{{uc|Coph}}.}}}}
119:145 Llefais â’m holl galon; clyw fi, O ARGLWYDD: dy ddeddfau a gadwaf.
119:146 Llefais arnat; achub fi, a chadwaf dy dystiolaethau.
119:147 Achubais flaen y cyfddydd, a gwaeddais; wrth dy air y disgwyliais
119:148 Fy llygaid a achubasant flaen gwyliadwriaethau y nos, i fyfyrio yn dy air di.
119:149 Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd: ARGLWYDD, bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.
119:150 Y rhai a ddilynant ysgelerder a nesasant arnaf: ymbellhasant oddi wrth dy gyfraith di.
119:151 Tithau, ARGLWYDD, wyt agos; a’th holl orchmynion sydd wirionedd.
119:152 Er ys talm y gwyddwn am dy dystiolaethau, seilio ohonot hwynt yn dragywydd.
{{canoli|{{bach|{{uc|Resh}}.}}}}
119:153 Gwêl fy nghystudd, a gwared fi: canys nid anghofiais dy gyfraith.
119:154 Dadlau fy nadl, a gwared fi: bywha fi yn ôl dy air.
119:155 Pell yw iachawdwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol: oherwydd ni cheisiant dy ddeddfau di.
119:156 Dy drugareddau, ARGLWYDD, sydd aml: bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.
119:157 Llawer sydd yn fy erlid, ac<noinclude><references/></noinclude>
iclv7d8d0o14zfoeazrgjrmeelsq4mt
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/614
104
3976
171787
7471
2026-10-15T19:29:50Z
Tylopous
3717
penodau
171787
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>yn fy ngwrthwynebu; er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau.
119:158 Gwelais y troseddwyr, a gresynais; am na chadwent dy air di.
119:159 Gwêl fy mod yn hoffi dy orchmynion: ARGLWYDD, bywha fi ôl yn ôl dy drugarowgrwydd.
119:160 Gwirionedd o’r dechreuad yw dy air; a phob un o’th gyfiawn farnedigaethau a bery yn dragywydd.
{{canoli|{{bach|{{uc|Schin}}.}}}}
119:161 Tywysogion a’m herlidiasant heb achos: er hynny fy nghalon a grynai rhag dy air di.
119:162 Llawen ydwyf fi oblegid dy air, fel un yn cael ysglyfaeth lawer.
119:163 Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais: a’th gyfraith di a hoffais.
119:164 Seithwaith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori; oherwydd dy gyfiawn farnedigaethau.
119:165 Heddwch mawr fydd i’r rhai a garant dy gyfraith: ac nid oes dramgwydd iddynt.
119:166 Disgwyliais wrth dy iachawdwriaeth di, O ARGLWYDD; a gwneuthum dy orchmynion.
119:167 Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau; a hoff iawn gennyf hwynt.
119:168 Cedwais dy orchmynion a’th dystiolaethau: canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di.
{{canoli|{{bach|{{uc|Tau}}.}}}}
119:169 Nesaed fy ngwaedd o’th flaen, ARGLWYDD: gwna i mi ddeall yn ôl dy air.
119:170 Deued fy ngweddi ger dy fron: gwared fi yn ôl dy air.
119:171 Fy ngwefusau a draetha foliant, pan ddysgech i mi dy ddeddfau.
119:172 Fy nhafod a ddatgan dy air: oherwydd dy holl orchmynion sydd gyfiawnder.
119:173 Bydded dy law i’m cynorthwyo: oherwydd dy orchmynion di a ddewisais.
119:174 Hiraethais, O ARGLWYDD, am dy iachawdwriaeth; a’th gyfraith yw fy hyfrydwch.
119:175 Bydded byw fy enaid, fel y’th folianno di; a chynorthwyed dy farnedigaethau fi.
119:176 Cyfeiliornais fel dafad wedi colli: cais dy was; oblegid nid anghofiais dy orchmynion.
{{angor|Psalm_120}}{{c|{{uc|Psalm CXX}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn gweddïo yn erbyn Döeg;'' 3 ''yn ceryddu ei dafod ef:'' 5 ''yn cwyno fod yn rhaid iddo gyttal a bucheddu gyd â’r anwir.''}}
{{canoli|{{bach|Caniad y graddau.}}}}
{{angor|120:1}} {{uc|Ar}} yr ARGLWYDD y gwaeddais yn fy nghyfyngder, ac efe a’m gwrandawodd i.
120:2 ARGLWYDD, gwared fy enaid oddi wrth wefusau celwyddog, ac oddi wrth dafod twyllodrus.
120:3 Beth a roddir i ti? neu pa beth a wneir i ti, dydi dafod twyllodrus?
120:4 Llymion saethau cawr, ynghyd â marwor meryw.
120:5 Gwae fi, fy mod yn preswylio ym Mesech, yn cyfanheddu ym mhebyll Cedar.
120:6 Hir y trigodd fy enaid gyda’r hwn oedd yn casáu tangnefedd.
120:7 Heddychol ydwyf fi: ond pan lefarwyf, y maent yn barod i ryfel.
{{angor|Psalm_121}}{{c|{{uc|Psalm CXXI}}.}}
{{bach|''Mawr ddïogelwch y duwiol, sydd yn hyderu ar nawdd ac amddiffyn Duw.''}}
{{canoli|{{bach|Caniad y graddau.}}}}
{{angor|121:1}} {{uc|Dyrchafaf}} fy llygaid i’r mynyddoedd, o’r lle y daw fy nghymorth.
121:2 Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nefoedd daear.
121:3 Ni ad efe i’th droed lithro: ac ni huna dy geidwad.
121:4 Wele, ni huna ac ni chwsg ceidwad Israel.
121:5 Yr ARGLWYDD yw dy geidwad: yr ARGLWYDD yw dy gysgod ar dy ddeheulaw.
121:6 Ni’th dery yr haul y dydd, na’r lleuad y nos.
121:7 Yr ARGLWYDD a’th geidw rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid.
121:8 Yr ARGLWYDD a geidw dy fynediad a’th ddyfodiad, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
{{angor|Psalm_122}}{{c|{{uc|Psalm CXXII}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn dangos ei lawenydd dros yr eglwys;'' 6 ''ac yn gweddïo am heddwch iddi.''}}
{{canoli|{{bach|Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.}}}}
{{angor|122:1}} {{uc|Llawenychais}} pan ddywedent wrthyf, Awn i dŷ yr ARGLWYDD.
122:2 Ein traed a safant o fewn dy byrth di, O Jerwsalem.
122:3 Jerwsalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chydgysylltu ynddi ei hun.
122:4 Yno yr esgyn y llwythau, llwythau yr ARGLWYDD, yn dystiolaeth i Israel, i foliannu enw yr ARGLWYDD.
122:5 Canys yno y gosodwyd gorseddbarn, gorseddfeinciau tŷ Dafydd.
122:6 Dymunwch heddwch Jerwsalem: llwydded y rhai a’th hoffant.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
98899u6bnpe8nigh149rw4xg6x08r8c
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/615
104
3977
171789
7472
2026-10-16T03:49:51Z
Tylopous
3717
penodau
171789
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>122:7 Heddwch fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau.
122:8 Er mwyn fy mrodyr a’m cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti.
122:9 Er mwyn tŷ yr ARGLWYDD ein DUW, y ceisiaf i ti ddaioni.
{{angor|Psalm_123}}{{c|{{uc|Psalm CXXIII}}.}}
{{bach|1 ''Y duwiol yn dangos eu hyder ar Dduw;'' 3 ''ac yn gweddïo ar gael eu gwared oddi wrth ddirmyg.''}}
{{canoli|{{bach|Caniad y graddau.}}}}
{{angor|123:1}} {{uc|Attat}} ti y dyrchafaf fy llygaid, ti yr hwn a breswyli yn y nefoedd.
123:2 Wele, fel y mae llygaid gweision ar law eu meistriaid, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law ei meistres; felly y mae ein llygaid ni ar yr ARGLWYDD ein DUW, hyd oni thrugarhao efe wrthym ni.
123:3 Trugarha wrthym, ARGLWYDD, trugurha wrthym; canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr.
123:4 Yn ddirfawr y llanwyd ein henaid â gwatwargerdd y rhai goludog, ac â diystyrwch y beilchion.
{{angor|Psalm_124}}{{c|{{uc|Psalm CXXIV}}.}}
{{bach|''Yr eglwys yn bendithio Duw am ei ryfeddol ymwared.''}}
{{canoli|{{bach|Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.}}}}
{{angor|124:1}} {{uc|Oni}} buasai yr ARGLWYDD yr hwn a fu gyda ni, y gall Israel ddywedyd yn awr;
124:2 Oni buasai yr ARGLWYDD yr hwn a fu gyda ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn:
124:3 Yna y’n llyncasent ni yn fyw, pan enynnodd eu llid hwynt i’n herbyn:
124:4 Yna y dyfroedd a lifasai drosom, y ffrwd a aethai dros ein henaid:
124:5 Yna yr aethai dros ein henaid ddyfroedd chwyddedig.
124:6 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn ni roddodd ni yn ysglyfaeth i’w dannedd hwynt.
124:7 Ein henaid a ddihangodd fel aderyn o fagl yr adarwyr: y fagl a dorrwyd, a ninnau a ddianghasom.
124:8 Ein porth ni sydd yn enw yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.
{{angor|Psalm_125}}{{c|{{uc|Psalm CXXV}}.}}
{{bach|1 ''Dïogelwch y rhai sydd yn ymddiried yn Nuw.'' 4 ''Gweddi dros y duwiol, ac yn erbyn yr annuwiol.''}}
{{canoli|{{bach|Caniad y graddau.}}}}
{{angor|125:1}} {{uc|Y rhai}} a ymddiriedant yn yr ARGLWYDD fyddant fel mynydd Seion, yr hwn ni syflir, ond a bery yn dragywydd.
125:2 Fel y mae Jerwsalem a’r mynyddoedd o’i hamgylch, felly y mae yr ARGLWYDD o amgylch ei bobl, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
125:3 Canys ni orffwys gwialen annuwioldeb ar randir y rhai cyfiawn; rhag i’r rhai cyfiawn estyn eu dwylo at anwiredd.
125:4 O ARGLWYDD, gwna ddaioni i’r rhai daionus, ac i’r rhai uniawn yn eu calonnau.
125:5 Ond y rhai a ymdroant i’w trofeydd, yr ARGLWYDD a’u gyr gyda gweithredwyr anwiredd: a bydd tangnefedd ar Israel.
{{angor|Psalm_126}}{{c|{{uc|Psalm CXXVI}}.}}
{{bach|1 ''Yr eglwys, wrth ddangos coffa o’i rhyfeddol ymwared allan o gaethiwed,'' 4 ''yn gweddïo am lwyddiant, ac yn ei brophwydo.''}}
{{canoli|{{bach|Caniad y graddau.}}}}
{{angor|126:1}} {{uc|Pan}} ddychwelodd yr ARGLWYDD gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio.
126:2 Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a’n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr ARGLWYDD a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn.
126:3 Yr ARGLWYDD a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen.
126:4 Dychwel, ARGLWYDD, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau.
126:5 Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd.
126:6 Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.
{{angor|Psalm_127}}{{c|{{uc|Psalm CXXVII}}.}}
{{bach|1 ''Rhimwedd bendithio Duw.'' 3 ''Dawn Duw yw plant rhinweddol.''}}
{{canoli|{{bach|Caniad y graddau, i Solomon.}}}}
{{angor|127:1}} {{uc|Os}} yr ARGLWYDD nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho: os yr ARGLWYDD ni cheidw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwad.
127:2 Ofer i chwi foregodi, myned yn hwyr i gysgu, bwyta bara gofidiau: felly y rhydd efe hun i’w anwylyd.
127:3 Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr ARGLWYDD: ei wobr ef yw ffrwyth y groth.
127:4 Fel y mae saethau yn llaw y cadarn; felly y mae plant ieuenctid.
127:5 Gwyn ei fyd y gŵr a lanwodd ei<noinclude><references/></noinclude>
23rzn0bwpn7zvyufei3rqwioh4lh2nv
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/616
104
3978
171790
7474
2026-10-16T03:56:36Z
Tylopous
3717
penodau
171790
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>gawell saethau â hwynt: nis gwaradwyddir hwy, pan ymddiddanant â’r gelynion yn y porth.
{{angor|Psalm_128}}{{c|{{uc|Psalm CXXVIII}}.}}
{{bach|''Yr amryw fendithion sydd yn canlyn y rhai a ofnant Dduw.''}}
{{canoli|{{bach|Caniad y graddau.}}}}
{{angor|128:1}} {{uc|Gwyn}} ei fyd pob un sydd yn ofni yr ARGLWYDD; yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef.
128:2 Canys mwynhei lafur dy ddwylo: gwyn dy fyd, a da fydd i ti.
128:3 Dy wraig fydd fel gwinwydden ffrwythlon ar hyd ystlysau dy dŷ: dy blant fel planhigion olewydd o amgylch dy ford.
128:4 Wele, fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno yr ARGLWYDD.
128:5 Yr ARGLWYDD a’th fendithia allan o Seion; a thi a gei weled daioni Jerwsalem holl ddyddiau dy einioes.
128:6 A thi a gei weled plant dy blant, a thangnefedd ar Israel.
{{angor|Psalm_129}}{{c|{{uc|Psalm CXXIX}}.}}
{{bach|1 ''Y mae yn annog i foliannu Duw, am gadw Israel yn ei fawr gystuddiau.'' 5 ''Melldithio y rhai a gasânt eglwys Dduw.''}}
{{canoli|{{bach|Caniad y graddau.}}}}
{{angor|129:1}} {{uc|Llawer}} gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid, y dichon Israel ddywedyd yn awr:
129:2 Llawer gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid: eto ni’m gorfuant.
129:3 Yr arddwyr a arddasant ar fy nghefn: estynasant eu cwysau yn hirion.
129:4 Yr ARGLWYDD sydd gyfiawn: efe a dorrodd raffau y rhai annuwiol.
129:5 Gwaradwydder hwy oll, a gyrrer yn eu hôl, y rhai a gasânt Seion.
129:6 Byddant fel glaswellt pen tai, yr hwn a wywa cyn y tynner ef ymaith.
129:7 A’r hwn ni leinw y pladurwr ei law; na’r hwn fyddo yn rhwymo yr ysgubau, ei fynwes.
129:8 Ac ni ddywed y rhai a ânt heibio, Bendith yr ARGLWYDD arnoch; bendithiwn chwi yn enw yr ARGLWYDD.
{{angor|Psalm_130}}{{c|{{uc|Psalm CXXX}}.}}
{{bach|1 ''Y Psalmydd yn dangos ei obaith mewn gweddi:'' 5 ''a’i ddïoddefgarwch mewn gobaith.'' 7 ''Y mae yn annog Israel i obeithio yn Nuw.''}}
{{canoli|{{bach|Caniad y graddau.}}}}
{{angor|130:1}} {{uc|O’r}} dyfnder y llefais arnat, O ARGLWYDD.
130:2 ARGLWYDD, clyw fy llefain; ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddïau.
130:3 Os creffi ar anwireddau, ARGLWYDD, O ARGLWYDD, pwy a saif?
130:4 Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y’th ofner.
130:5 Disgwyliaf am yr ARGLWYDD, disgwyl fy enaid, ac yn ei air ef y gobeithiaf.
130:6 Fy enaid sydd yn disgwyl am yr ARGLWYDD yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore; yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore;
130:7 Disgwylied Israel am yr ARGLWYDD; oherwydd y mae trugaredd gyda’r ARGLWYDD, ac aml ymwared gydag ef.
130:8 Ac efe a wared Israel oddi wrth ei holl anwireddau.
{{angor|Psalm_131}}{{c|{{uc|Psalm CXXXI}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn dangos ei ostyngeiddrwydd;'' 3 ''ac yn annog Israel i obeithio yn Nuw.''}}
{{canoli|{{bach|Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.}}}}
{{angor|131:1}} {{uc|O Arglwydd}}, nid ymfalchïodd fy nghalon, ac nid ymddyrchafodd fy llygaid: ni rodiais chwaith mewn pethau rhy fawr, a rhy uchel i mi.
131:2 Eithr gosodais a gostegais fy enaid, fel un wedi ei ddiddyfnu oddi wrth ei fam: fy enaid sydd ynof fel un wedi ei ddiddyfnu.
131:3 Disgwylied Israel wrth yr ARGLWYDD, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
{{angor|Psalm_132}}{{c|{{uc|Psalm CXXXII}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn ei weddi yn dangos i Dduw ei dduwiol ofal dros yr arch;'' 8 ''yn gweddïo wrth symmudo yr arch;'' 11 ''ac yn ail-adrodd addewidion Duw iddo.''}}
{{canoli|{{bach|Caniad y graddau.}}}}
{{angor|132:1}} {{uc|O Arglwydd}}, cofia Dafydd, a'i holl flinder;
132:2 Y modd y tyngodd efe wrth yr ARGLWYDD, ac yr addunodd i rymus DDUW Jacob:
132:3 Ni ddeuaf i fewn pabell fy nhŷ, Ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely;
132:4 Ni roddaf gwsg i'm llygaid, na hun i'm hamrantau,
132:5 Hyd oni chaffwyf le i’r ARGLWYDD preswylfod i rymus DDUW Jacob.
132:6 Wele, clywsom amdani yn Effrata; cawsom hi ym meysydd y coed.
132:7 Awn i'w bebyll ef; ymgrymwn o flaen ei fainc draed ef.
132:8 Cyfod, ARGLWYDD, i'th orffwysfa; ti ac arch dy gadernid.
132:9 Gwisged dy offeiriaid gyfiawnder; a gorfoledded dy saint.
132:10 Er mwyn Dafydd dy was, na thro ymaith wyneb dy Eneiniog.
132:11 Tyngodd yr ARGLWYDD mewn<noinclude><references/></noinclude>
6rke00mkv36q7np6njq4h8s43dhbwl7
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/617
104
3979
171791
7478
2026-10-16T04:00:14Z
Tylopous
3717
penodau
171791
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>gwirionedd i Dafydd; ni thry efe oddi wrth hynny; o ffrwyth dy gorff y gosodaf ar dy orseddfainc.
132:12 Os ceidw dy feibion fy nghyfamod a’m tystiolaeth, y rhai a ddysgwyf iddynt; eu meibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar dy orseddfainc.
132:13 Canys dewisodd yr ARGLWYDD Seion: ac a'i chwenychodd yn drigfa iddo ei hun.
132:14 Dyma fy ngorffwysfa yn dragywydd; yma y trigaf; canys chwenychais hi.
132:15 Gan fendithio y bendithiaf ei lluniaeth: diwallaf ei thlodion â bara.
132:16 Ei hoffeiriaid hefyd a wisgaf ag iachawdwriaeth: a’i saint dan ganu a ganant.
132:17 Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro: darperais lamp i'm Heneiniog.
132:18 Ei elynion ef a wisgaf â chywilydd: arno yntau y blodeua ei goron.
{{angor|Psalm_133}}{{c|{{uc|Psalm CXXXIII}}.}}
{{bach|''Budd cymmundeb y saint.''}}
{{canoli|{{bach|Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.}}}}
{{angor|133:1}} {{uc|Wele}}, mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd!
133:2 Y mae fel yr ennaint gwerthfawr ar y pen yn disgyn ar hyd y farf, sef barf Aaron; yr hwn oedd yn disgyn ar hyd ei wisgoedd ef:
133:3 Fel gwlith Hermon, ac fel y gwlith yn disgyn ar fynyddoedd Seion: canys yno y gorchmynnodd yr ARGLWYDD y fendith, sef bywyd yn dragywydd.
{{angor|Psalm_134}}{{c|{{uc|Psalm CXXXIV}}.}}
{{bach|''Y mae yn annog i fendithio Duw.''}}
{{canoli|{{bach|Caniad y graddau.}}}}
{{angor|134:1}} {{uc|Wele}}, holl weision yr ARGLWYDD, bendithiwch yr ARGLWYDD, y rhai ydych yn sefyll yn nhy’r ARGLWYDD y nos.
134:2 Dyrchefwch eich dwylo yn y cysegr; a bendithiwch yr ARGLWYDD.
134:3 Yr ARGLWYDD yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, a’th fendithio di allan o Seion.
{{angor|Psalm_135}}{{c|{{uc|Psalm CXXXV}}.}}
{{bach|1 ''Y mae yn annog i glodfori Duw, am ei drugaredd,'' 5 ''am ei allu,'' 8 ''ac am ei farnedigaethau.'' 15 ''Ofered yn eilunod.'' 19 ''Y mae yn annog i fendithio Duw.''}}
{{angor|135:1}} {{uc|Molwch}} yr ARGLWYDD. Molwch enw yr ARGLWYDD; gweision yr ARGLWYDD, molwch ef.
135:2 Y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ yr ARGLWYDD yng nghynteddoedd tŷ ein DUW ni,
135:3 Molwch yr ARGLWYDD; canys da yw yr ARGLWYDD: cenwch i’w enw; canys hyfryd yw.
135:4 Oblegid yr ARGLWYDD a ddetholodd Jacob iddo ei hun, ac Israel, yn briodoriaeth iddo.
135:5 Canys mi a wn mai mawr yw yr ARGLWYDD; a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau.
135:6 Yr ARGLWYDD a wnaeth yr hyn oll a fynnai yn y nefoedd, ac yn y ddaear, yn y môr, ac yn yr holl ddyfnderau.
135:7 Y mae yn codi tarth o eithafoedd y ddaear; mellt a wnaeth efe ynghyd â’r glaw; gan ddwyn y gwynt allan o’i drysorau.
135:8 Yr hwn a drawodd gyntaf-anedig yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail.
135:9 Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i’th ganol di, yr Aifft; ar Pharo, ac ar ei holl weision.
135:10 Yr hwn a drawodd genhedloedd lawer, ac a laddodd frenhinoedd cryfion;
135:11 Seion brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan, a holl freniniaethau Canaan:
135:12 Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i Israel ei bobl.
135:13 Dy enw, O ARGLWYDD, a bery yn dragywydd; dy goffadwriaeth, O ARGLWYDD, o genhedlaeth i genhedlaeth.
135:14 Canys yr ARGLWYDD a farna ei bobl, a bydd edifar ganddo o ran ei weision.
135:15 Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur, gwaith dwylo dyn.
135:16 Genau sydd iddynt, ond ni lefant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant.
135:17 Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; nid oes chwaith anadl yn eu genau.
135:18 Fel hwynt y mae y rhai a’u gwnânt, a phob un a ymddiriedo ynddynt.
135:19 Tŷ Israel, bendithiwch yr ARGLWYDD: bendithiwch yr ARGLWYDD, tŷ Aaron.
135:20 Tŷ Lefi, bendithiwch yr AR-<noinclude><references/></noinclude>
hjg4539f9e36ko0wumzykx2ida7visz
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/618
104
3980
171792
7479
2026-10-16T04:04:36Z
Tylopous
3717
penodau
171792
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>GLWYDD: y rhai a ofnwch yr ARGLWYDD, bendithiwch yr ARGLWYDD.
135:21 Bendithier yr ARGLWYDD o Seion, yr hwn sydd yn trigo yn Jerwsalem. Molwch yr ARGLWYDD.
{{angor|Psalm_136}}{{c|{{uc|Psalm CXXXVI}}.}}
{{bach|''Y mae yn annog i foliannu Duw am ei drugareddau neillduol.''}}
{{angor|136:1}} {{uc|Clodforwch}} yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:2 Clodforwch DDUW y duwiau: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:3 Clodforwch ARGLWYDD yr arglwyddi: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:4 Yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:5 Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:6 Yr hwn a estynnodd y ddaear oddi ar y dyfroedd: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:7 Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd:
136:8 Yr haul, i lywodraethu y dydd: canys, ei drugaredd sydd yn dragywydd:
136:9 Y lleuad a’r sêr, i lywodraethu y nos: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:10 Yr hwn a drawodd yr Aifft yn eu cyntaf-anedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd;
136:11 Ac a ddug Israel o’u mysg hwynt: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
136:12 A law gref, ac â braich estynedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:13 Yr hwn a rannodd y môr coch yn ddwy ran: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:14 Ac a wnaeth i Israel fyned trwy ei ganol: oherwydd ei drugaredd sydd dragywydd.
136:15 Ac a ysgytiodd Pharo a’i lu yn y môr coch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:16 Ac a dywysodd ei bobl trwy yr anialwch: oherwydd ei drugaredd syd yn dragywydd.
136:17 Yr hwn a drawodd frenhinoedd mawrion: oherwydd ei drugaredd syd yn dragywydd:
136:18 Ac a laddodd frenhinoedd ardderchog: oherwydd ei drugaredd sydd dragywydd:
136:19 Sehon brenin yr Amoraid: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
136:20 Ac Og brenin Basan: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
136:21 Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
136:22 Yn etifeddiaeth i Israel ei was: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:23 Yr hwn yn ein hiselradd a’n cofiodd ni: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
136:24 Ac a’n hachubodd ni oddi wrth ei gelynion: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:25 Yr hwn sydd yn rhoddi ymborth i bob cnawd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:26 Clodforwch DDUW y nefoedd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
{{angor|Psalm_137}}{{c|{{uc|Psalm CXXXVII}}.}}
{{bach|1 ''Dïanwadalwch yr Iuddewon mewn caethiwed.'' 7 ''Y prophwyd yn melldithio Edom a Babel.''}}
{{angor|137:1}} {{uc|Wrth}} afonydd Babilon, yno yr eisteddasom, ac wylasom, pan feddyliasom am Seion.
137:2 Ar yr helyg o’u mewn y crogasom ein telynau.
137:3 Canys yno y gofynnodd y rhai a’n caethiwasent i ni gân; a’r rhai a’n hanrheithiasai, lawenydd, gan ddywedyd; Cenwch i ni rai o ganiadau Seion.
137:4 Pa fodd y canwn gerdd yr ARGLWYDD mewn gwlad ddieithr?
137:5 Os anghofiaf di, Jerwsalem, anghofied fy neheulaw ganu.
137:6 Glyned fy nhafod wrth daflod ngenau, oni chollaf di; oni chodaf Jerusalem goruwch fy llawenydd pennaf.
137:7 Cofia, ARGLWYDD, blant Edom yn nydd Jerwsalem; y rhai a ddywedent. Dinoethwch, dinoethwch hi, hyd ei sylfaen.
137:8 O ferch Babilon, a anrheithir: gwyn ei fyd os dalo i ti fel y gwnaethost i ninnau.
137:9 Gwyn ei fyd a gymero ac a drawo dy rai bach wrth y meini.
{{angor|Psalm_138}}{{c|{{uc|Psalm CXXXVIII}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn moliannu Duw am wirionedd ei air:'' 4 ''yn prophwydo y bydd i frenhinoedd y ddaear foliannu Duw:'' 7 ''yn dangos ei ymddiried yn Nuw.''}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
kdieruwle52xpcf9bnc8d6m86t2sbbz
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/619
104
3981
171793
7480
2026-10-16T04:08:23Z
Tylopous
3717
penodau
171793
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{bach|''Psalm'' Dafydd.}}}}
{{angor|138:1}} {{uc|Clodforaf}} di â'm holl galon: yng ngŵydd y duwiau y canaf i ti.
138:2 Ymgrymaf tua'th deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a’th wirionedd: oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll.
138:3 Y dydd y llefais, y'm gwrandewaist; ac a'm cadarnheaist â nerth yn fy enaid.
138:4 Holl frenhinoedd y ddaear a'th glodforant, O ARGLWYDD, pan glywant eiriau dy enau.
138:5 Canant hefyd am ffyrdd yr ARGLWYDD: canys mawr yw gogoniant yr ARGLWYDD.
138:6 Er bod yr ARGLWYDD yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel: ond y balch a edwyn efe o hirbell.
138:7 Pe rhodiwn yng nghanol cyfyngder, ti a'm bywheit: estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a'th ddeheulaw a’m hachubai.
138:8 Yr ARGLWYDD a gyflawna â mi: dy drugaredd, ARGLWYDD, sydd yn dragywydd: nac esgeulusa waith dy ddwylo.
{{angor|Psalm_139}}{{c|{{uc|Psalm CXXXIX}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn moliannu Duw am ei ragluniaeth sydd yn canfod pob peth:'' 19 ''yn ffieiddio yr annuwiol:'' 23 ''yn gweddïo am burdeb.''}}
{{canoli|{{bach|I'r Pencerdd, Psalm Dafydd.}}}}
{{angor|139:1}} {{uc|Arglwydd}}, chwiliaist, ac adnabuost fi.
139:2 Ti a adwaenost fy eisteddiad a'm cyfodiad: deelli fy meddwl o bell.
139:3 Amgylchyni fy llwybr a'm gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd.
139:4 Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele, ARGLWYDD, ti a'i gwyddost oll.
139:5 Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen, a gosodaist dy law arnaf.
139:6 Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddi wrthi.
139:7 I ba le yr af oddi wrth dy ysbryd? ac i ba le y ffoaf o'th ŵydd?
139:8 Os dringaf i'r nefoedd, yno yr wyt ti: Os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno.
139:9 Pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr:
139:10 Yno hefyd y'm tywysai dy law, ac y'm daliai dy ddeheulaw.
139:11 Pe dywedwn, Diau y tywyllwch a’m cuddiai; yna y byddai y nos yn oleuni o'm hamgylch.
139:12 Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti; ond y nos a oleua fel dydd: un ffunud yw tywyllwch a goleuni i ti.
139:13 Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam.
139:14 Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y'm gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a'm henaid a ŵyr hynny yn dda.
139:15 Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y'm gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y'm cywreiniwyd yn iselder y ddaear.
139:16 Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt.
139:17 Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O DDUW! mor fawr yw eu swm hwynt!
139:18 Pe cyfrifywn hwynt, amlach ydynt na'r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad.
139:19 Yn ddiau, O DDUW, ti a leddi yr annuwiol: am hynny y gwŷr gwaedlyd, ciliwch oddi wrthyf:
139:20 Y rhai a ddywedant ysgelerder yn dy erbyn; dy elynion a gymerant dy enw yn ofer
139:21 Onid cas gennyf, O ARGLWYDD, dy gaseion di? onid ffiaidd gennyf y rhai a gyfodant i'th erbyn?
139:22 A chas cyflawn y caseais hwynt: cyfrifais hwynt i mi yn elynion.
139:23 Chwilia fi, O DDUW, a gwybydd fy nghalon: prawf fi, a gwybydd fy meddyliau;
139:24 A gwêl a oes ffordd annuwiol gennyf, a thywys fi yn y ffordd dragwyddol.
{{angor|Psalm_140}}{{c|{{uc|Psalm CXL}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn gweddïo am gael ei waredu oddi wrth Saul a Döeg:'' 8 ''yn gweddïo yn eu herbyn hwy:'' 12 ''yn ymgysuro, trwy ymddiried yn Nuw.''}}
{{canoli|{{bach|I'r Pencerdd, Psalm Dafydd.}}}}
{{angor|140:1}} {{uc|Gwared}} fi, O ARGLWYDD, oddi wrth y dyn drwg: cadw fi rhag y gŵr traws:
140:2 Y rhai sydd yn bwriadu drygioni yn eu calon: ymgasglant beunydd i ryfel.
140:3 Golymasant eu tafodau fel sarff: gwenwyn asb sydd dan eu gwefusau. Sela.
140:4 Cadw fi, O ARGLWYDD, rhag dwylo’r annuwiol; cadw fi rhag y gŵr traws: y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
qxts3vqg6u8rc8u4e2mwh9xn9vagwpn
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/620
104
3982
171794
7481
2026-10-16T04:14:07Z
Tylopous
3717
penodau
171794
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>140:5 Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac a estynasant rwyd wrth dannau ar ymyl y llwybrau: gosodasant hoenynnau ar fy medr. Sela.
140:6 Dywedais wrth yr ARGLWYDD, Fy NUW ydwyt ti: clyw, O ARGLWYDD, lef fy ngweddïau.
140:7 ARGLWYDD DDUW, nerth fy iachawdwriaeth, gorchuddiaist fy mhen yn nydd brwydr.
140:8 Na chaniatâ, ARGLWYDD, ddymuniad yr annuwiol: na lwydda ei ddrwg feddwl; rhag eu balchïo hwynt. Sela.
140:9 Y pennaf o'r rhai a'm hamgylchyno, blinder eu gwefusau a’u gorchuddio.
140:10 Syrthied marwor arnynt: a bwrier hwynt yn tân; ac mewn ceuffosydd, fel na chyfodant.
140:11 Na sicrhaer dyn siaradus ar y ddaear: drwg a hela y gŵr traws i’w ddistryw.
140:12 Gwn y dadlau yr ARGLWYDD ddadl y truan, ac y barna efe y tlodion.
140:13 Y cyfiawn yn ddiau a glodforant dy enw di: y rhai uniawn a drigant ger dy fron di.
{{angor|Psalm_141}}{{c|{{uc|Psalm CXLI}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn gweddïo ar fod ei arch ef yn gymmeradwy,'' 3 ''a’i gydwybod yn bur,'' 7 ''a’i einioes yn ddïogel oddi wrth faglau.''}}
{{canoli|{{bach|Psalm Dafydd.}}}}
{{angor|141:1}} {{uc|Arglwydd}}, yr wyf yn gweiddi arnat: brysia ataf; clyw fy llais, pan lefwyf arnat.
141:2 2 Cyfeirier fy ngweddi ger dy fron fel arogl-darth, a dyrchafiad fy nwylo fel offrwm prynhawnol.
141:3 Gosod, ARGLWYDD, gadwraeth o flaen fy ngenau: cadw ddrws fy ngwefusau.
141:4 Na ostwng fy nghalon at ddim drwg, i fwriadu gweithredoedd drygioni gyda gwŷr a weithredant anwiredd: ac na ad i mi fwyta o'u danteithion hwynt.
141:5 Cured y cyfiawn fi yn garedig, a cherydded fi: na thorred eu holew pennaf hwynt fy mhen: canys fy ngweddi fydd eto yn eu drygau hwynt.
141:6 Pan dafler eu barnwyr i lawr mewn lleoedd caregog, clywant fy ngeiriau canys melys ydynt.
141:7 Y mae ein hesgyrn ar wasgar ar fin y bedd, megis un yn torri neu yn hollti coed ar y ddaear.
141:8 Eithr arnat ti, O ARGLWYDD DDUW, y mae fy llygaid: ynot ti y gobeithiais; na ad fy enaid yn ddiymgeledd.
141:9 Cadw fi rhag y fagl a osodasant i mi, a hoenynnau gweithredwyr anwiredd.
141:10 Cydgwymped y rhai annuwiol yn eu rhwydau eu hun, tra yr elwyf fi heibio.
{{angor|Psalm_142}}{{c|{{uc|Psalm CXLII}}.}}
{{bach|''Dafydd yn dangos mai gweddïo Duw oedd ei holl gysur ef mewn trallod.''}}
{{canoli|{{bach|Maschil Dafydd; Gweddi pan oedd efe yn yr ogof.}}}}
{{angor|142:1}} {{uc|Gwaeddais}} â'm llef ar yr ARGLWYDD; â'm llef yr ymbiliais â’r ARGLWYDD.
142:2 Tywelltais fy myfyrdod o’i flaen ef; a mynegais fy nghystudd ger ei fron ef.
142:3 Pan ballodd fy ysbryd o'm mewn, tithau a adwaenit fy llwybr. Yn y ffordd y rhodiwn, y cuddiasant i mi fagl.
142:4 Edrychais ar y tu deau, a deliais sylw, ac nid oedd neb a’m hadwaenai: pallodd nodded i mi; nid oedd neb yn ymofyn am fy enaid.
142:5 Llefais arnat, O ARGLWYDD; dywedais, ti yw fy ngobaith, a'm rhan yn nhir y rhai byw.
142:6 Ystyr wrth fy ngwaedd: canys truan iawn ydwyf: gwared fi oddi wrth fy erlidwyr; canys trech ydynt na mi.
142:7 Dwg fy enaid allan o garchar, fel y moliannwyf dy enw: y rhai cyfiawn a’m cylchynant: canys ti a fyddi da wrthyf.
{{angor|Psalm_143}}{{c|{{uc|Psalm CXLIII}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn gweddïo am ffafr mewn barn;'' 3 ''yn cwyno rhag ei ofidiau:'' 5 ''yn cadarnhâu ei ffydd trwy fyfyrio a gweddïo:'' 7 ''yn gweddïo am ras,'' 9 ''am ymwared,'' 10 ''am sancteiddrwydd,'' 12 ''am ddinystr ar ei elynion.''}}
{{canoli|{{bach|Psalm Dafydd.}}}}
{{angor|143:1}} {{uc|Arglwydd}}, clyw fy ngweddi, a gwrando ar fy neisyfiadau: erglyw fi yn dy wirionedd, ac yn dy gyfiawnder.
143:2 Ac na ddos i farn â'th was: oherwydd ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di.
143:3 Canys y gelyn a erlidiodd fy enaid: curodd fy enaid i lawr: gwnaeth i mi drigo mewn tywyllwch, fel y rhai a fu feirw er ys talm.
143:4 Yna y pallodd fy ysbryd o'm mewn: ac y synnodd fy nghalon ynof.
143:5 Cofiais y dyddiau gynt; myfyriais ar dy holl waith: ac yng ngweithredoedd dy ddwylo y myfyriaf.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
egfnatwfk9tylcibbezg4v5jtrornap
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/621
104
3983
171795
7482
2026-10-16T04:18:23Z
Tylopous
3717
penodau
171795
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>143:6 Lledais fy nwylo atat: fy enaid fel tir sychedig sydd yn hiraethu amdanat. Sela.
143:7 O ARGLWYDD, gwrando fi yn ebrwydd: pallodd fy ysbryd: na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; rhag fy mod yn gyffelyb i'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.
143:8 Pâr i mi glywed dy drugarowgrwydd y bore; oherwydd ynot ti y gobeithiaf: pâr i mi wybod y ffordd y rhodiwyf; oblegid atat ti y dyrchafaf fy enaid.
143:9 Gwared fi oddi wrth fy ngelynion, O ARGLWYDD: gyda thi yr ymguddiais.
143:10 Dysg i mi wneuthur dy ewyllys di; canys ti yw fy NUW: tywysed dy ysbryd daionus fi i dir uniondeb
143:11 Bywha fi, O ARGLWYDD, er mwyn dy enw: dwg fy enaid allan o ing, er mwyn dy gyfiawnder.
143:12 Ac er dy drugaredd dinistria fy ngelynion, a difetha holl gystuddwyr fy enaid: oblegid dy was di ydwyf fi.
{{angor|Psalm_144}}{{c|{{uc|Psalm CXLIV}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn bendithio Duw am ei drugaredd tu ag atto ef, a thu ag at bob dyn:'' 5 ''yn gweddïo ar i Dduw yn alluog ei waredu ef oddi wrth ei elynion:'' 9 ''yn addaw bendithio Duw:'' 11 ''yn gweddïo dros ddedwydd gyflwr y deyrnas.''}}
{{canoli|{{bach|''Psalm'' Dafydd.}}}}
{{angor|144:1}} {{uc|Bendigedig}} fyddo yr ARGLWYDD fy nerth, yr hwn sydd yn dysgu fy nwylo i ymladd, a’m bysedd i ryfela.
144:2 Fy nhrugaredd, a’m hamddiffynfa; fy nhŵr, a’m gwaredydd: fy nharian yw efe, ac ynddo y gobeithiais; yr hwn sydd yn darostwng fy mhobl danaf.
144:3 ARGLWYDD, beth yw dyn, pan gydnabyddit ef? neu fab dyn, pan wneit gyfrif ohono?
144:4 Dyn sydd debyg i wagedd; ei ddyddiau sydd fel cysgod yn myned heibio.
144:5 ARGLWYDD, gostwng dy nefoedd, a disgyn: cyffwrdd â’r mynyddoedd, a mygant.
144:6 Saetha fellt, a gwasgar hwynt; ergydia dy saethau, a difa hwynt.
144:7 Anfon dy law oddi uchod; achub a gwared fi o ddyfroedd mawrion, o law plant estron;
144:8 Y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster.
144:9 Canaf i ti, O DDUW, ganiad newydd: ar y nabl a’r dectant y canaf i ti.
144:10 Efe sydd yn rhoddi iachawdwriaeth i frenhinoedd; yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei was oddi wrth y cleddyf niweidiol.
144:11 Achub fi, a gwared fi o law meibion estron, y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster:
144:12 Fel y byddo ein meibion fel planwydd yn tyfu yn eu hieuenctid; a’n merched fel conglfaen nadd, wrth gyffelybrwydd palas:
144:13 Fel y byddo ein celloedd yn llawn, yn trefnu pob rhyw luniaeth; a’n defaid yn dwyn miloedd a myrddiwn yn ein heolydd:
144:14 A’n hychen yn gryfion i lafurio; heb na rhuthro i mewn, na myned allan; na gwaedd yn ein heolydd.
144:15 Gwyn eu byd y bobl y mae felly iddynt: gwyn eu byd y bobl y mae yr ARGLWYDD yn DDUW iddynt.
{{angor|Psalm_145}}{{c|{{uc|Psalm CXLV}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn moliannu Duw, o herwydd ei enw,'' 8 ''ei ddaioni,'' 11 ''ei frenhiniaeth,'' 14 ''ei ragddarbodaeth,'' 17 ''a’i drugaredd yn achub.''}}
{{canoli|{{bach|''Psalm'' Dafydd o foliant.}}}}
{{angor|145:1}} {{uc|Dyrchafaf}} di, fy NUW, O Frenin; a bendithiaf dy enw byth ac yn dragywydd.
145:2 Beunydd y’th fendithiaf; a’th enw a folaf byth ac yn dragywydd.
145:3 Mawr yw yr ARGLWYDD, a chanmoladwy iawn; a’i fawredd sydd anchwiliadwy.
145:4 Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid.
145:5 Ardderchowgrwydd gogoniant dy fawredd, a’th bethau rhyfedd, a draethaf.
145:6 Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy: mynegaf finnau dy fawredd.
145:7 Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant; a’th gyfiawnder a ddatganant.
145:8 Graslon a thrugarog yw yr ARGLWYDD; hwyrfrydig i ddig, a mawr ei drugaredd.
145:9 Daionus yw yr ARGLWYDD i bawb: a’i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd.
145:10 Dy holl weithredoedd a’th glodforant, O ARGLWYDD; a’th saint a’th fendithiant.
145:11 Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth; a thraethant dy gadernid:
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
l24rbr16kllltqexfo6vw5j4qhu3or4
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/622
104
3984
171796
7483
2026-10-16T04:22:27Z
Tylopous
3717
penodau
171796
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>145:12 I beri i feibion dynion adnabod ei gadernid ef, a gogoniant ardderchowgrwydd ei frenhiniaeth.
145:13 Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragwyddol: a’th lywodraeth a bery yn oes oesoedd.
145:14 Yr ARGLWYDD sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant, ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd.
145:15 Llygaid pob peth a ddisgwyliant wrthyt; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd;
145:16 Gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw â’th ewyllys da.
145:17 Cyfiawn yw yr ARGLWYDD yn ei holl ffyrdd, a sanctaidd yn ei holl weithredoedd.
145:18 Agos yw yr ARGLWYDD at y rhai oll a alwant arno, at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd.
145:19 Efe a wna ewyllys y rhai a’i hofnant: gwrendy hefyd eu llefain, ac a’u hachub hwynt.
145:20 Yr ARGLWYDD sydd yn cadw pawb a’i carant ef; ond yr holl rai annuwiol a ddifetha efe.
145:21 Traetha fy ngenau foliant yr ARGLWYDD: a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd.
{{angor|Psalm_146}}{{c|{{uc|Psalm CXLVI}}.}}
{{bach|1 ''Y Psalmydd yn addunedu moliant gwastadol i Dduw:'' 3 ''yn annog na hyderer ar ddyn.'' 5 ''Duw yn unig, o herwydd ei allu, a’i gyfiawnder, a’i drugaredd, a’i frenhiniaeth, sydd wiw hyderu arno.''}}
{{angor|146:1}} {{uc|Molwch}} yr ARGLWYDD. Fy enaid, mola di yr ARGLWYDD.
146:2 Molaf yr ARGLWYDD yn fy myw: canaf i’m DUW tra fyddwyf.
146:3 Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo.
146:4 Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i’w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef.
146:5 Gwyn ei fyd yr hwn y mae DUW Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr ARGLWYDD ei DDUW:
146:6 Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd:
146:7 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Yr ARGLWYDD sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd.
146:8 Yr ARGLWYDD sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr ARGLWYDD sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr ARGLWYDD sydd yn hoffi y rhai cyfiawn.
146:9 Yr ARGLWYDD sydd yn cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol.
146:10 Yr ARGLWYDD a deyrnasa byth, sef dy DDUW di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr ARGLWYDD.
{{angor|Psalm_147}}{{c|{{uc|Psalm CXLVII}}.}}
{{bach|1 ''Y prophwyd yn annog i foliannu Duw, am ei ofal dros ei eglwys;'' 5 ''am ei allu,'' 6 ''a’i drugaredd,'' 7 ''a’i ragluniaeth,'' 12 ''a’i fendithion ar y deyrnas;'' 15 ''a’i allu ar y rhew a’r eira, a phob tywydd arall;'' 19 ''a’i ddeddfau yn yr eglwys.''}}
{{angor|147:1}} {{uc|Molwch}} yr ARGLWYDD: canys da yw canu i’n DUW ni; oherwydd hyfryd yw, ie, gweddus yw mawl.
147:2 Yr ARGLWYDD sydd yn adeiladu Jerwsalem: efe a gasgl wasgaredigion Israel.
147:3 Efe sydd yn iachau y rhai briwedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau.
147:4 Y mae efe yn rhifo rhifedi y sêr: geilw hwynt oll wrth eu henwau.
147:5 Mawr yw ein HARGLWYDD, a mawr ei nerth: aneirif yw ei ddeall.
147:6 Yr ARGLWYDD sydd yn dyrchafu rhai llariaidd, gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr.
147:7 Cydgenwch i’r ARGLWYDD mewn diolchgarwch: cenwch i’n DUW â’r delyn;
147:8 Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â chymylau, yn paratoi glaw i’r ddaear, gan beri i’r gwellt dyfu ar y mynyddoedd.
147:9 Efe, sydd yn rhoddi i’r anifail ei borthant, ac i gywion y gigfran, pan lefant.
147:10 Nid oes hyfrydwch ganddo yn nerth march: ac nid ymhoffa efe yn esgeiriau gŵr.
147:11 Yr ARGLWYDD sydd hoff ganddo y rhai a’i hofnant ef; sef y rhai a ddisgwyliant wrth ei drugaredd ef.
147:12 Jerwsalem, mola di yr ARGLWYDD: Seion, molianna dy DDUW.
147:13 Oherwydd efe a gadarnhaodd farrau byrth: efe a fendithiodd dy blant o’th fewn.
147:14 Yr hwn sydd yn gwneuthur dy fro yn heddychol, ac a’th ddiwalla di â braster gwenith.
147:15 Yr hwn sydd yn anfon ei or-<noinclude><references/></noinclude>
o81n6426680jcdkstx2ebat0b9fk4my
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/623
104
3985
171797
7484
2026-10-16T04:26:03Z
Tylopous
3717
penodau
171797
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>chymyn ar y ddaear: a’i air a red yn dra buan.
147:16 Yr hwn sydd yn rhoddi eira fel gwlân; ac a daena rew fel lludw.
147:17 Yr hwn sydd yn bwrw ei iâ fel tameidiau: pwy a erys gan ei oerni ef?
147:18 Efe a enfyn ei air, ac a’u tawdd hwynt: â’i wynt y chwyth efe, ar dyfroedd a lifant.
147:19 Y mae efe yn mynegi ei eiriau i Jacob, ei ddeddfau a’i farnedigaethau i Israel.
147:20 Ni wnaeth efe felly ag un genedl; ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef. Molwch yr ARGLWYDD.
{{angor|Psalm_148}}{{c|{{uc|Psalm CXLVIII}}.}}
{{bach|1 ''Y Psalmydd yn annog y creaduriaid nefol,'' 7 ''a daearol,'' 11 ''a rhesymmol, i foliannu Duw.''}}
{{angor|148:1}} {{uc|Molwch}} yr ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD o’r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau.
148:2 Molwch ef, ei holl angylion: molwch ef, ei holl luoedd.
148:3 Molwch ef, haul a lleuad: molwch ef, yr holl sêr goleuni.
148:4 Molwch ef, nef y nefoedd; a’r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd.
148:5 Molant enw yr ARGLWYDD oherwydd efe a orchmynnodd, a hwy a grewyd.
148:6 A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis troseddir hi.
148:7 Molwch yr ARGLWYDD. o’r ddaear, y dreigiau, a’r holl ddyfnderau:
148:8 Tân a chenllysg, eira a tharth; gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef:
148:9 Y mynyddoedd a’r bryniau oll; y coed ffrwythlon a’r holl gedrwydd:
148:10 Y bwystfilod a phob anifail; yr ymlusgiaid ac adar asgellog:
148:11 Brenhinoedd y ddaear a’r holl bobloedd; tywysogion a holl farnwyr y byd:
148:12 Gwŷr ieuainc a gwyryfon hefyd; hynafgwyr a llanciau:
148:13 Molant enw yr ARGLWYDD: oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafadwy; ei ardderchowgrwydd ef sydd uwchlaw daear a nefoedd.
148:14 Ac efe sydd yn dyrchafu corn ei bobl, moliant ei holl saint; sef meibion Israel, pobl agos ato. Molwch yr ARGLWYDD.
{{angor|Psalm_149}}{{c|{{uc|Psalm CXLIX}}.}}
{{bach|1 ''Y prophwyd yn annog i foliannu Duw, am ei gariad tu ag at yr eglwys,'' 5 ''ac am y gallu a roddes efe i’w eglwys.''}}
{{angor|149:1}} {{uc|Molwch}} yr ARGLWYDD. Cenwch i’r ARGLWYDD ganiad newydd, a’i foliant ef yng nghynulleidfa y saint.
149:2 Llawenhaed Israel yn yr hwn a’i gwnaeth: gorfoledded meibion Seion yn eu Brenin.
149:3 Molant ei enw ef ar y dawns: canant iddo ar dympan a thelyn.
149:4 Oherwydd hoffodd yr ARGLWYDD ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais â iachawdwriaeth.
149:5 Gorfoledded y saint mewn gogoniant: a chanant ar eu gwelyau.
149:6 Bydded ardderchog foliant DUW yn eu genau, a chleddyf daufiniog yn eu dwylo;
149:7 I wneuthur dial ar y cenhedloedd, a chosb ar y bobloedd;
149:8 I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau, a’u pendefigion â gefynnau heyrn;
149:9 I wneuthur arnynt y farn ysgrifenedig: yr ardderchowgrwydd hwn sydd i’w holl saint ef. Molwch yr ARGLWYDD.
{{angor|Psalm_150}}{{c|{{uc|Psalm CL}}.}}
{{bach|1 ''Y mae yn annog i foliannu Duw,'' 3 ''â phob math ar offer cerdd.''}}
{{angor|150:1}} {{uc|Molwch}} yr ARGLWYDD. Molwch DDUW yn ei sancteiddrwydd: molwch ef yn ffurfafen ei nerth.
150:2 Molwch ef am ei gadernid: molwch ef yn ôl amlder ei fawredd.
150:3 Molwch ef â llais utgorn: molwch ef â nabl ac â thelyn.
150:4 Molwch ef â thympan ac â dawns: molwch ef â thannau ac ag organ.
150:5 Molwch ef â symbylau soniarus: molwch ef â symbylau llafar.
150:6 Pob perchen anadl, molianned yr ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD.<noinclude><references/></noinclude>
mujtop7sed0jcenh5lo4csyf4ov8y27
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/624
104
3986
171798
171296
2026-10-16T04:29:57Z
Tylopous
3717
penodau
171798
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr y Diarhebion.}}}}}}
{{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}}
{{bach|1 ''Arfer y dïarhebion.'' 7 ''Cynghor i ofni Duw, ac i garedu ei air;'' 10 ''i ochel hûd pechaduriaid.'' 20 ''Doethineb yn cwyno fod yn ei dïystyru hi,'' 24 ''ac yn bygwth y rhai a’i dïystyrent.''}}
{{angor|1:1}} {{uc|Diarhebion}} Solomon mab Dafydd, brenin Israel;
1:2 I wybod doethineb ac addysg, i ddeall geiriau synnwyr;
1:3 I gymryd athrawiaeth deall, cyfiawnder, a barn, ac uniondeb;
1:4 I roi callineb i’r angall, ac i’r bachgen wybodaeth a synnwyr.
1:5 Y doeth a wrendy, ac a chwanega addysg; a’r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog:
1:6 I ddeall dihareb, a’i deongl; geiriau y doethion, a’u damhegion.
1:7 Ofn yr ARGLWYDD yw dechreuad gwybodaeth: ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg.
1:8 Fy mab, gwrando addysg dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam:
1:9 Canys cynnydd gras a fyddant hwy i’th ben, a chadwyni am dy wddf di.
1:10 Fy mab, os pechaduriaid a’th ddenant, na chytuna.
1:11 Os dywedant, Tyred gyda ni, cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos:
1:12 Llyncwn hwy yn fyw, fel y bedd; ac yn gyfan, fel rhai yn disgyn i’r pydew:
1:13 Nyni a gawn bob cyfoeth gwerthfawr, nyni a lanwn ein tai ag ysbail:
1:14 Bwrw dy goelbren yn ein mysg; bydded un pwrs i ni i gyd:
1:15 Fy mab, na rodia yn y ffordd gyda hwynt; atal dy droed rhag eu llwybr hwy.
1:16 Canys eu traed a redant i ddrygioni, ac a brysurant i dywallt gwaed.
1:17 Diau gwaith ofer yw taenu rhwyd yng ngolwg pob perchen adain.
1:18 Ac y maent hwy yn cynllwyn am eu gwaed eu hun: am eu heinioes eu hun y maent yn llechu.
1:19 Felly y mae llwybrau y rhai oll sydd chwannog i elw; yr hwn a ddwg einioes ei berchenogion.
1:20 Doethineb sydd yn gweiddi oddi allan; y mae hi yn adrodd ei lleferydd yn yr heolydd:
1:21 Y mae hi yn llefain ym mhrifleoedd y dyrfa, yn nrysau y pyrth; yn y ddinas y mae hi yn traethu ei hymadroddion, gan ddywedyd,
1:22 Pa hyd, chwi ynfydion, y cerwch ynfydrwydd? a chwi watwarwyr, y bydd hoff gennych watwar? ac y casâ ffyliaid wybodaeth?
1:23 Dychwelwch wrth fy ngherydd: wele, mi a dywalltaf fy ysbryd i chwi, fy ngeiriau a hysbysaf i chwi.
1:24 Yn gymaint ag i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod; i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried;
1:25 Ond diystyrasoch fy holl gyngor i, ac ni fynnech ddim o’m cerydd:
1:26 Minnau hefyd a chwarddaf yn eich dialedd chwi; mi a wawdiaf pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni;
1:27 Pan ddêl amoch yr hyn yr ydych yn ei ofni megis distryw, ac y dêl eich dialedd arnoch megis corwynt; a dyfod arnoch wasgfa a chaledi:
1:28 Yna y galwant arnaf, ond ni wrandawaf; yn fore y’m ceisiant, ond ni’m cânt:
1:29 Canys cas fu ganddynt wybodaeth, ac ofn yr ARGLWYDD ni ddewisasant:
1:30 Ni chymerent ddim o’m cyngor i; dirmygasant fy holl gerydd.
1:31 Am hynny hwy a gant fwyta ffrwyth eu ffordd eu hunain, a’u llenwi â’u cynghorion eu hunain.
1:32 Canys esmwythdra y rhai angall a’u lladd; a llwyddiant y rhai ffôl a’u difetha.
1:33 Er hynny y sawl a wrandawo arnaf fi, a gaiff aros yn ddiogel, ac a gaiff lonyddwch oddi wrth ofn drwg.
{{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}}
{{bach|1 ''Doethineb yn addaw duwioldeb i’w phla,'' 10 ''a dïogelwch rhag cyfeillach ddrwg,'' 20 ''a chyfarwyddyd mewn ffyrdd da.''}}
{{angor|2:1}} {{uc|Fy}} mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi;
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
hq43mcdo0goz2x3gjhrfox5qo4c2mw0
Tudalen:Madam Wen.djvu/114
104
33432
171767
171557
2026-10-15T12:18:24Z
~2026-55394-36
4262
171767
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>codi eu pennau. Gwelodd y lleidr hefyd anawsterau yn ei fygwth yntau, a rhagflaenodd un ohonynt trwy ddywedyd ar unwaith, "Fyddai wiw i mi feddwl am adael i'r slŵp ddianc. Mi fyddai hynny'n ddigon am fy hoedl ymysg yr anwariaid sydd o'm cwmpas."
"Byddai yn ddiau," atebodd hithau, gan weled mai ffolineb ar hyn o bryd fyddai gwrthddywedyd.
Yr oedd yn ddihareb nad oedd y gronyn lleiaf o ymddiried y naill yn y llall ymysg y môr-ladron. Gwyddai Abel Owen mai y mymryn lleiaf fuasai yn troi'r fantol yn ei erbyn ef. Un camgymeriad o'i eiddo a fuasai yn ddigon o reswm dros i rywun arall godi fel arweinydd, a chael cefnogaeth y criw. Yna ni buasai ei fywyd ef—Abel—yn werth botwm. Fel y rhelyw o'i dylwyth, yr oedd yn barod i ddywedyd faint a fynnid o gelwyddau, i dwyllo hyd yn oed ei frawd ei hun, ac i dywallt gwaed fel y môr os gelwid am hynny gan hwylustod y foment.
"Rhaid i mi gael gair efo'r dynion yma," meddai, "onid e mi fydd yma helynt. Mae yma ddau neu dri o rai peryglus."
Arweiniwyd Madam Wen i lawr i'r caban tra byddai'r capten yn cael trafodaeth gyda dwsin o'r gwŷr a ofnai fwyaf. Dywedodd lawer o gelwyddau wrthynt, fel y digwyddai daro i'w feddwl beth oedd debycaf o roddi bodlonrwydd. Ond yr oedd cyn baroted â neb ohonynt i goll-farnu criw'r Wennol, er cymaint oedd ei awydd am feddiannu ei pherchennog.
Bychan a wyddai fod Madam Wen yn llawer hwy ei phen nag yr oedd wedi dewis ymddangos. Trwy ryw reddf oedd yn perthyn iddi, gwelodd wrth eu hwynebau, wedi darfod y drafodaeth, mai rhyw anfadwaith oedd eu bwriad. Cam byr iddi hi oedd o hynny hyd at ddyfalu beth oedd y bwriad hwnnw. Wedi iddi gael cefn y capten am funud, meddai wrth un o'r lleill, gydag amnaid i gyfeiriad y Wennol a'i chriw,' "Sut y cawn ni ymwared â hwy? Beth ydych chi am wneud â hwy?"
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
lf4c41w7sht8k8sfbspudztgzcwwt4w