Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.24
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/310
104
3562
171799
171606
2026-10-16T16:06:52Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171799
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>ddigio y digia efe, gwybydd fod ei fryd ef ar ddrwg.
{{angor|20:8|8}} Gwna gan hynny drugaredd a’th was; canys i gyfammod yr {{sc|Arglwydd}} y dygaist dy was gyd â thi: ac od oes anwiredd ynof fi, lladd di fi; canys i ba beth y dygi fi at dy dad?
{{angor|20:9|9}} A dywedodd Jonathan, Na atto {{sc|Duw}} ''hynny'' i ti: canys, os gan wybod y cawn wybod fod malais wedi ei barottôi gan fy nhad i ddyfod i’th erbyn, onis mynegwn i ti?
{{angor|20:10|10}} A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Pwy a fynega i mi? neu beth os dy dad a’th ettyb yn arw?
{{angor|20:11|11}} ¶ A dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Tyred, ac awn i’r maes. A hwy a aethant ill dau i’r maes. ‘
{{angor|20:12|12}} A Jonathan a ddywedodd wrth Dafydd, O {{sc|Arglwydd}} {{sc|Dduw}} Israel, wedi i mi chwilio ''meddwl'' fy nhad, ynghylch y pryd ''hwn'' y fory, ''neu'' drennydd; ac wele, ''os'' daioni ''fydd'' tu ag at Dafydd, ac oni anfonaf yna attat ti, a’i fynegi i ti;
{{angor|20:13|13}} Fel hyn y gwnel yr {{sc|Arglwydd}} i Jonathan, ac ychwaneg: os da fydd gan fy nhad ''wneuthur'' drwg i ti; yna y mynegaf i ti, ac a’th ollyngaf ymaith, fel yr elech mewn heddwch: a bydded yr {{sc|Arglwydd}} gyd â thi, megis y bu gyd â’m tad i.
{{angor|20:14|14}} Ac nid yn unig tra fyddwyf fi byw, y gwnei drugaredd yr {{sc|Arglwydd}} â mi, fel na byddwyf fi marw:
{{angor|20:15|15}} Ond ''hefyd'' na thorr ymaith dy drugaredd oddi wrth fy nhŷ i byth: na chwaith pan ddistrywio yr {{sc|Arglwydd}} elynion Dafydd, bob un oddi ar wyneb y ddaear.
{{angor|20:16|16}} Felly ''y cyfammododd'' Jonathan â thŷ Dafydd; ''ac efe a ddywedodd'', Gofyned yr {{sc|Arglwydd}} ''hyn'' ar law gelynion Dafydd.
{{angor|20:17|17}} A Jonathan a wnaeth i Dafydd yntau dyngu, o herwydd efe a’i carai ef: canys fel y carai ei enaid ei hun, y carai efe ef.
{{angor|20:18|18}} A Jonathan a ddywedodd wrtho ef, Y fory ''yw y dydd cyntaf o’r'' mis: ac ymofynir am danat; o herwydd fe fydd dy eisteddle yn wag.
{{angor|20:19|19}} Ac wedi i ti aros dridiau, ''yna'' tyred i waered yn fuan; a thyred i’r lle yr ymguddiaist ynddo pan oedd y peth ''ar waith'', ac aros wrth faen Ezel.
{{angor|20:20|20}} A mi a saethaf dair o saethau tu a’i ystlys ''ef'', fel pes gollyngwn ''hwynt'' at nôd.
{{angor|20:21|21}} Wele ''hefyd'', mi a anfonaf langc, ''gan ddywedyd'', Dos, cais y saethau. Os gan ddywedyd y dywedaf wrth y llangc, Wele y saethau o’r tu yma i ti, dwg hwynt; yna tyred di: canys heddwch ''sydd'' i ti, ac nid ''oes'' dim ''niwed, fel mai'' byw yw yr {{sc|Arglwydd}}.
{{angor|20:22|22}} Ond os fel hyn y dywedaf wrth y llangc, Wele y saethau o’r tu hwnt i ti; dos ymaith; canys yr {{sc|Arglwydd}} a’th anfonodd ymaith.
{{angor|20:23|23}} Ac ''am'' y peth a leferais i, mi a thi, wele yr {{sc|Arglwydd}} ''fyddo'' rhyngof fi a thi yn dragywydd.
{{angor|20:24|24}} ¶ Felly Dafydd a ymguddiodd yn y maes. A phan ddaeth y dydd cyntaf o’r mis, y brenhin a eisteddodd i fwytta bwyd.
{{angor|20:25|25}} A’r brenhin a eisteddodd ar ei eisteddfa, megis ar amseroedd eraill; ''sef'' ar yr eisteddfa wrth y pared; a Jonathan a gyfododd, ac Abner a eisteddodd wrth ystlys Saul; a lle Dafydd oedd wag.
{{angor|20:26|26}} Ac nid ynganodd Saul ddim y diwrnod hwnnw: canys meddyliodd ''mai'' damwain ''oedd'' hyn; nad ''oedd'' efe lân, a’i ''fod'' yn aflan.
{{angor|20:27|27}} A bu drannoeth, yr ail ''dydd'' o’r mis, fod lle Dafydd yn wag. A dywedodd Saul wrth Jonathan ei fab, Paham na ddaeth mab Jesse at y bwyd, na doe na heddyw?
{{angor|20:28|28}} A Jonathan a attebodd Saul, Dafydd gan ofyn a ofynodd i mi ''am gael myned'' hyd Bethlehem:
{{angor|20:29|29}} Ac efe a ddywedodd, Gollwng fi, attolwg; o herwydd i’n tylwyth ni ''y mae'' aberth yn y ddinas, a’m brawd yntau a archodd i mi ''fod yno'': ac yn awr, o chefais ffafr yn dy olwg, gâd i mi fyned, attolwg, fel y gwelwyf fy mrodyr. O herwydd hyn, ni ddaeth efe i fwrdd y brenhin.
{{angor|20:30|30}} Yna y llidiodd digter Saul yn erbyn Jonathan; ac efe a ddywedodd wrtho, ''Ti'' fab y gyndyn wrthnysig, oni wn i ti ddewis mab Jesse yn waradwydd i ti, ac yn gywilydd i noethder dy fam?
{{angor|20:31|31}} Canys tra fyddo mab Jesse yn fyw ar y ddaear, ni’th sicrhêir di na’th deyrnas: yn awr gan hynny anfon, a chyrch ef attaf; canys marw a gaiff efe.
{{angor|20:32|32}} A Jonathan a attebodd Saul ei dad, ac a ddywedodd wrtho,<noinclude><references/></noinclude>
1rlv4177a284ubat9sp5rj7kgjcdjal
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/311
104
3563
171818
171607
2026-10-17T04:23:39Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171818
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>Paham y bydd efe marw? beth a wnaeth efe?
{{angor|20:33|33}} A Saul a ergydiodd waywffon atto ef, i’w daro ef. Wrth hyn y gwybu Jonathan ''fod'' ei dad ef wedi rhoi ei fryd ar ladd Dafydd.
{{angor|20:34|34}} Felly Jonathan a gyfododd oddi wrth y bwrdd mewn llid digllawn, ac ni fwyttaodd fwyd yr ail ddydd o’r mis: canys drwg oedd ganddo dros Dafydd, o herwydd i’w dad ei waradwyddo ef.
{{angor|20:35|35}} ¶ A’r bore yr aeth Jonathan i’r maes erbyn yr amser a osodasai efe i Dafydd, a bachgen bychan gyd âg ef.
{{angor|20:36|36}} Ac efe a ddywedodd wrth ei fachgen, Rhed, cais yn awr y saethau yr ydwyf fi yn eu saethu. ''A''’r bachgen a redodd: yntau a saethodd saeth y tu hwnt iddo ef.
{{angor|20:37|37}} A phan ddaeth y bachgen hyd y fan ''yr oedd'' y saeth a saethasai Jonathan, y llefodd Jonathan ar ol y bachgen, ac a ddywedodd, Onid ''yw'' y saeth o’r tu hwnt i ti?
{{angor|20:38|38}} A llefodd Jonathan ar ol y bachgen, Cyflymma, brysia, na saf. A bachgen Jonathan a gasglodd y saethau, ac a ddaeth at ei feistr.
{{angor|20:39|39}} A’r bachgen ni wyddai ddim: yn unig Jonathan a Dafydd a wyddent y peth.
{{angor|20:40|40}} A Jonathan a roddodd ei offer at ei fachgen, ac a ddywedodd wrtho, Dos, dwg ''y rhai hyn'' i’r ddinas.
{{angor|20:41|41}} ¶ ''A''’r bachgen a aeth ymaith; a Dafydd a gyfododd oddi wrth y dehau, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymmodd dair gwaith. A hwy a gusanasant bob un eu gilydd, ac a wylasant y naill wrth y llall; a Dafydd a ragorodd.
{{angor|20:42|42}} A dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Dos mewn heddwch: yr hyn a dyngasom ni ein dau yn enw yr {{sc|Arglwydd}}, gan ddywedyd, Yr {{sc|Arglwydd}} fyddo rhyngof fi a thi, a rhwng fy had i a’th had dithau, ''safed hynny'' yn dragywydd. Ac efe a gyfododd ac a aeth ymaith: a Jonathan a aeth i’r ddinas.
{{angor|Pennod_21}}{{c|{{uc|Pennod XXI}}.}}
{{bach|1 ''Dafydd yn Nob yn cael gan Ahimelech fara cyssegredig,'' 7 ''a Döeg yno yn bresennol.'' 8 ''Dafydd yn cymmeryd cleddyf Golïath:'' 10 ''yn cymmeryd arno ynfydu yn Gath.''}}
{{angor|21:1}} {{uc|Yna}} y daeth Dafydd i Nob at Ahimelech yr offeiriad. Ac Ahimelech a ddychrynodd wrth gyfarfod â Dafydd; ac a ddywedodd wrtho, Paham ''yr ydwyt'' ti yn unig, ac heb neb gyd â thi?
{{angor|21:2|2}} A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech yr offeiriad, Y brenhin a orchymynodd i mi beth, ac a ddywedodd wrthyf, Na chaed neb wybod dim o’r peth ''am'' yr hwn y’th anfonais, ac y gorchymynais i ti: a’''r'' gweision a gyfarwyddais i i’r lle a’r lle.
{{angor|21:3|3}} Ac yn awr beth sydd dan dy law? dod ''i mi'' bùm ''torth'' yn fy llaw, neu ''y peth'' sydd i’w gael.
{{angor|21:4|4}} A’r offeiriad a attebodd Dafydd, ac a ddywedodd, Nid ''oes'' fara cyffredin dan fy llaw i; eithr y mae bara cyssegredig: os y llangciau a ymgadwasant o’r lleiaf oddi wrth wragedd.
{{angor|21:5|5}} A Dafydd a attebodd yr offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, Dïau attal gwragedd oddi wrthym ni er ys dau ddydd neu dri, er pan gychwynais i; llestri y llangciau ''hefyd'' ydynt sanctaidd, a’r ''bara'' sydd megis cyffredin, ïe, pettai wedi ei gyssegru heddyw yn y llestr.
{{angor|21:6|6}} Felly yr offeiriad a roddodd iddo ef ''y bara'' sanctaidd: canys nid oedd yno fara, ond y bara gosod, yr hwn a dynnasid ymaith oddi ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, i osod bara brwd yn y dydd y tynnid ef ymaith.
{{angor|21:7|7}} Ac ''yr oedd'' yno y diwrnod hwnnw un o weision Saul yn aros ger bron yr {{sc|Arglwydd}}, a’i enw Döeg, Edomiad, y pennaf o’r bugeiliaid ''oedd'' gan Saul.
{{angor|21:8|8}} ¶ A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech, Onid oes yma dan dy law di waywffon, neu gleddyf? canys ni ddygais fy nghleddyf na’m harfau chwaith i’m llaw, o herwydd bod gorchymyn y brenhin ar ffrwst.
{{angor|21:9|9}} A dywedodd yr offeiriad, Cleddyf Golïath y Philistiad, yr hwn a leddaist ti yn nyffryn Elah; wele ef wedi ei oblygu mewn brethyn o’r tu ol i’r ephod: o chymmeri hwnnw i ti, cymmer; canys nid ''oes'' yma yr un arall ond hwnnw. A Dafydd a ddywedodd, Nid ''oes'' o fath hwnnw; dyro ef i mi.
{{angor|21:10|10}} ¶ Dafydd hefyd a gyfododd, ac a ffodd y dydd hwnnw rhag ofn Saul, ac a aeth at Achis brenhin Gath.
{{angor|21:11|11}} A gweision Achis a ddywedasant wrtho ef, Onid hwn ''yw'' Dafydd brenhin y wlad? onid i hwn y canasant yn y dawnsiau, gan ddywedyd, Saul a laddodd ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn?
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
15uicobplfq6gx7usoc2nrzfsnx4vvv
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/625
104
3987
171800
7487
2026-10-16T16:11:22Z
Tylopous
3717
penodau
171800
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>2:2 Fel y parech i’th glust wrando ar ddoethineb, ac y gogwyddech dy galon at ddeall;
2:3 Ie, os gwaeddi ar ôl gwybodaeth, os cyfodi dy lef am ddeall;
2:4 Os ceisi hi fel arian, os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig;
2:5 Yna y cei ddeall ofn yr ARGLWYDD, ac y cei wybodaeth o DDUW.
2:6 Canys yr ARGLWYDD sydd yn rhoi doethineb: allan o’i enau ef y mae gwybodaeth a deall yn dyfod.
2:7 Y mae ganddo ynghadw i’r rhai uniawn wir ddoethineb: tarian yw efe i’r sawl a rodia yn uniawn.
2:8 Y mae efe yn cadw llwybrau barn, ac yn cadw ffordd ei saint.
2:9 Yna y cei di ddeall cyfiawnder, a barn, ac uniondeb, a phob llwybr daionus
2:10 Pan ddelo doethineb i mewn i’th galon, a phan fyddo hyfryd gan dy enaid wybodaeth;
2:11 Yna cyngor a’th gynnal, a synnwyr a’th geidw:
2:12 I’th achub oddi wrth y ffordd ddrwg, ac oddi wrth y dyn a lefaro drawsedd;
2:13 Y rhai a ymadawant â llwybrau uniondeb, i rodio mewn ffyrdd tywyllwch;
2:14 Y rhai a ymlawenychant i wneuthur drwg, ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus;
2:15 Y rhai sydd â’u ffyrdd yn geimion, ac yn gildyn yn eu llwybrau:
2:16 I’th wared oddi wrth y fenyw estronaidd, oddi wrth y ddieithr wenieithus ei geiriau;
2:17 Yr hon a ymedy â llywodraethwr ei hieuenctid, ac a ollwng dros gof gyfamod ei DUW.
2:18 Canys y mae ei thŷ yn gŵyro at angau, a’i llwybrau at y meirw.
2:19 Pwy bynnag a elo i mewn ati hi, ni ddychwelant, ac nid ymafaelant yn llwybrau y bywyd.
2:20 Fel y rhodiech di at hyd ffordd gwŷr da, a chadw llwybrau y cyfiawn.
2:21 Canys y gwŷr cyfiawn a breswyliant y ddaear, a’r rhai perffaith a gant aros ynddi.
2:22 Ond yr annuwiolion a dorrir oddi ar y ddaear, a’r troseddwyr a ddiwreiddir allan ohoni.
{{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}}
{{bach|1 ''Y mae yn annog i ufudd-dod,'' 5 ''a ffydd,'' 7 ''a marwhâd,'' 9 ''a dwyfolder,'' 11 ''ac amynedd.'' 13 ''Dedwydd elw doethineb.'' 19 ''Gallu'' 21 ''a chymmwynasau doethineb.'' 27 ''Cynghor i fod yn gariadus,'' 30 ''yn heddychol,'' 31 ''ac yn foddlongar.'' 33 ''Cyflwr melldigedig yr enwir.''}}
{{angor|3:1}} {{uc|Fy}} mab, na ollwng fy nghyfraith dros gof; ond cadwed dy galon fy ngorchmynion:
3:2 Canys hir ddyddiau, a blynyddoedd bywyd, a heddwch, a chwanegant hwy i ti.
3:3 Na ad i drugaredd a gwirionedd ymadael â thi : clyma hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon.
3:4 Felly y cei di ras a deall da gerbron DUW a dynion.
3:5 Gobeithia yn yr ARGLWYDD â’th holl galon; ac nac ymddiried i’th ddeall dy hun.
3:6 Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau.
3:7 Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun: ofna yr ARGLWYDD, a thyn ymaith oddi wrth ddrygioni.
3:8 Hynny a fydd iechyd i’th fogail, a mêr i’th esgyrn.
3:9 Anrhydedda yr ARGLWYDD â’th gyfoeth, ac â’r peth pennaf o’th holl ffrwyth:
3:10 Felly y llenwir dy ysguboriau â digonoldeb, a’th winwryfoedd a dorrant gan win newydd.
3:11 Fy mab, na ddirmyga gerydd yr ARGLWYDD; ac na flina ar ei gosbedigaeth ef;
3:12 Canys y neb a fyddo DUW yn ei garu, efe a’i cerydda, megis tad ei fab annwyl ganddo.
3:13 Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb, a’r dyn a ddygo ddeall allan.
3:14 Canys gwell yw ei fiarsiandïaeth hi na marsiandïaeth o arian, a’i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth.
3:15 Gwerthfawrocach yw hi na gemau: a’r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi.
3:16 Hir hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant.
3:17 Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a’i holl lwybrau hi ydynt heddwch.
3:18 Pren bywyd yw hi i’r neb a ymaflo ynddi: a gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi.
3:19 Yr ARGLWYDD trwy ddoethineb a seiliodd y ddaear; trwy ddeall y sicrhaodd efe y nefoedd.
3:20 Trwy ei wybodaeth ef yr hollt-<noinclude><references/></noinclude>
o1b3iuokpudzkuje092iq9lsaik6ch0
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/626
104
3988
171801
7488
2026-10-16T16:13:41Z
Tylopous
3717
penodau
171801
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>odd y dyfnderau, ac y defnynna yr wybrennau wlith.
3:21 Fy mab, na ollwng hwynt allan o’th olwg: cadw ddoethineb a phwyll.
3:22 Yna y byddant yn fywyd i’th enaid, ac yn ras i’th wddf.
3:23 Yna y cei rodio dy ffordd yn ddiofal, a’th droed ni thramgwydda.
3:24 Pan orweddych, nid ofni, ti a orweddi, a’th gwsg fydd felys.
3:25 Nac ofna rhag braw disymwth, na rhag dinistr yr annuwiol pan ddelo.
3:26 Canys yr ARGLWYDD a fydd dy hyder di, ac a geidw dy droed rhag ei ddal.
3:27 Na atal ddaioni oddi wrth y rhai y perthyn iddynt, pan fyddo ar dy law ei wneuthur.
3:28 Na ddywed wrth dy gymydog, Cerdda ymaith, a thyred amser arall, ac yfory mi a roddaf; a chennyt beth yn awr.
3:29 Na feddwl ddrwg yn erbyn dy gymydog, ac yntau yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl.
3:30 Nac ymryson â neb heb achos, os efe ni wnaeth ddrwg i ti.
3:31 Na chenfigenna wrth ŵr traws, ac na ddewis yr un o’i ffyrdd ef.
3:32 Canys ffiaidd gan yr ARGLWYDD y cyndyn: ond gyda’r rhai uniawn y mae ei gyfrinach ef.
3:33 Melltith yr ARGLWYDD sydd yn nhŷ yr annuwiol: ond efe a fendithia drigfa y cyfiawn.
3:34 Diau efe a watwar y gwatwarus: ond ei ras a rydd efe i’r gostyngedig.
3:35 Y doethion a etifeddant anrhydedd, a gwarth fydd dyrchafiad ffyliaid.
{{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}}
{{bach|1 ''Solomon, er mwyn dysgu ufudd-dod i eraill,'' 3 ''yn dangos pa athrawiaeth a gafodd efe gan ei rïeni,'' 5 ''i geisio doethineb,'' 14 ''ac i ochel llwybrau yr annuwiol.'' 20 ''Y mae yn annog i ffydd,'' 23 ''ac i sancteiddrwydd.''}}
{{angor|4:1}} {{uc|Gwrandewch}}, blant, addysg tad, ac erglywch i ddysgu deall.
4:2 Canys yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi addysg dda: na wrthodwch fy nghyfraith.
4:3 Canys yr oeddwn yn fab i’m tad, yn dyner ac yn annwyl yng ngolwg fy mam.
4:4 Efe a’m dysgai, ac a ddywedai wrthyf, Dalied dy galon fy ngeiriau: cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw.
4:5 Cais ddoethineb, cais ddeall: na ad dros gof, ac na ŵyra oddi wrth eiriau fy ngenau.
4:6 Nac ymâd â hi, a hi a’th geidw: câr hi, a hi a’th wared di.
4:7 Pennaf peth yw doethineb: cais ddoethineb; ac â’th holl gyfoeth cais ddeall.
4:8 Dyrchafa di hi, a hithau a’th ddyrchafa di: hi a’th ddwg di i anrhydedd, os cofleidi hi.
4:9 Hi a rydd ychwaneg o ras i’th ben di: ie, hi a rydd i ti goron gogoniant.
4:10 Gwrando, fy mab, a derbyn ngeiriau; a blynyddoedd dy fywyd a amlheir.
4:11 Yr ydwyf yn dy ddysgu yn ffordd doethineb; ac yn dy dywys yn llwybrau uniondeb.
4:12 Pan rodiech, dy gerddediad ni bydd gyfyng: a phan redech, ni thramgwyddi.
4:13 Ymafael mewn addysg, ac na ollwng hi. cadw hi; canys dy fywyd di yw hi.
4:14 Na ddos i lwybr yr annuwiolion, ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus.
4:15 Gochel hi, na ddos ar hyd-ddi; cilia oddi wrthi hi, a dos heibio.
4:16 Canys ni chysgant nes gwneuthur drwg; a’u cwsg a gollant, nes iddyntn gwympo rhyw ddyn.
4:17 Canys y maent yn bwyta bara annuwioldeb, ac yn yfed gwin trais.
4:18 Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd.
4:19 Eithr ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch: ni wyddant wrth ba beth y tramgwyddant.
4:20 Fy mab, gwrando ar fy ngeiriau: gogwydda dy glust at fy ymadroddion.
4:21 Na ad iddynt fyned ymaith o’th olwg: cadw hwynt yng nghanol dy galon.
4:22 Canys bywyd ydynt i’r neb an caffont, ac iechyd i’w holl gnawd.
4:23 Cadw dy galon yn dra diesgeulus; canys allan ohoni y mae bywyd yn dyfod.
4:24 Bwrw oddi wrthyt enau taeogaidd, a gwefusau trofaus ymhell oddi wrthyt.
4:25 Edryched dy lygaid yn uniawn; ac edryched dy amrantau yn uniawn o’th flaen.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
h5eriz3fzikltrrdzbf4ibwgfdqtf34
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/627
104
3989
171802
7489
2026-10-16T16:16:59Z
Tylopous
3717
penodau
171802
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>4:26 Ystyria lwybr dy draed: a threfner dy holl ffyrdd yn uniawn.
4:27 Na thro at y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; symud dy droed oddi wrth ddrygioni.
{{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}}
{{bach|1 ''Solomon yn annog i geisio doethineb:'' 3 ''yn dangos ysgelerder putteindra ac anllywodraeth:'' 15 ''yn annog i foddlonrwydd, haelioni, a diweirdeb.'' 22 ''Bod eu pechodau eu hun yn goddiwes yr annuwiol.''}}
{{angor|5:1}} {{uc|Fy}} mab, gwrando ar fy noethineb, a gostwng dy glust at fy neall:
5:2 Fel y gellych ystyried pwyll, a’th wefusau gadw gwybodaeth.
5:3 Canys gwefusau y ddieithr a ddiferant fel y dil mêl, a’i genau sydd lyfnach nag olew:
5:4 Ond ei diwedd hi a fydd chwerw fel y wermod, yn llym fel cleddyf daufiniog.
5:5 Ei thraed hi a ddisgynnant i angau; a’i cherddediad a sang uffern.
5:6 Rhag i ti ystyrio ffordd bywyd, y symud ei chamre hi, heb wybod i ti.
5:7 Yr awr hon gan hynny, O blant, gwrandewch arnaf fi, ac na ymadewch â geiriau fy ngenau.
5:8 Cadw dy ffordd ymhell oddi wrthi hi, ac na nesâ at ddrws ei thŷ hi:
5:9 Rhag i ti toddi dy harddwch i eraill, a’th flynyddoedd i’r creulon:
5:10 Rhag llenwi yr estron â’th gyfoeth di, ac i’th lafur fod yn nhŷ y dieithr;
5:11 Ac o’r diwedd i ti ochain, wedi i’th gnawd a’th gorff gurio,
5:12 A dywedyd, Pa fodd y caseais i addysg! pa fodd y dirmygodd fy nghalon gerydd!
5:13 Ac na wrandewais at lais fy athrawon, ac na ostyngais fy nghlust i’m dysgawdwyr!
5:14 Bûm o fewn ychydig at bob drwg, yng nghanol y gynulleidfa a’r dyrfa.
5:15 Yf ddwfr o’th bydew dy hun, a ffrydiau allan o’th ffynnon dy hun.
5:16 Tardded dy ffynhonnau allan, a’th ffrydiau dwfr yn yr heolydd.
5:17 Byddant yn eiddot ti dy hun yn unig, ac nid yet eiddo dieithriaid gyda thi.
5:18 Bydded dy ffynnon yn fendigedig: ac ymlawenha gyda gwraig dy ieuenctid.
5:19 Bydded fel ewig gariadus, ac fel iyrches hawddgar: gad i’w bronnau hi dy lenwi bob amser, ac ymfodlona yn ei chariad hi yn wastadol.
5:20 A phaham, fy mab, yr ymddigrifi yn y wraig ddieithr, ac y cofleidi fynwes yr hon nid yw eiddot ti?
5:21 Canys ffyrdd dyn sydd yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac y mae efe yn dal ar ei holl lwybrau ef.
5:22 Ei anwiredd ei hun a ddeil yr annuwiol, ac efe a ddelir â rhaffau ei bechod ei hun.
5:23 Efe a fydd farw o eisiau addysg; a rhag maint ei ffolineb yr â ar gyfeiliorn.
{{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}}
{{bach|1 ''Yn erbyn mechnïaeth,'' 6 ''a seguryd,'' 12 ''ysgelerder.'' 16 ''Saith beth cas gan Dduw.'' 20 ''Bendithion ufudd-dod.'' 25 ''Drygioni putteindra.''}}
{{angor|6:1}} {{uc|Fy}} mab, os mechnïaist dros dy gymydog, ac os trewaist dy law yn llaw y dieithr,
6:2 Ti a faglwyd â geiriau dy enau, ti a ddaliwyd â geiriau dy enau.
6:3 Gwna hyn yr awr hon, fy mab, a gwared dy hun, gan i ti syrthio i law dy gymydog; cerdda, ac ymostwng iddo, ac ymbil â’th gymydog.
6:4 Na ddyro gwsg i’th lygaid, na hun i’th amrantau.
6:5 Gwared dy hun fel yr iwrch o law yr heliwr, ac fel aderyn o law yr adarwr.
6:6 Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth:
6:7 Nid oes ganddo neb i’w arwain, i’w lywodraethu, nac i’w feistroli;
6:8 Ac er hynny y mae efe yn paratoi ei fwyd yr haf, ac yn casglu ei luniaeth y cynhaeaf.
6:9 Pa hyd, ddiogyn, y gorweddi? pa bryd y cyfodi o’th gwsg?
6:10 Eto ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig blethu dwylo i gysgu.
6:11 Felly y daw tlodi arnat fel ymdeithydd, a’th angen fel gŵr arfog.
6:12 Dyn i’r fall, a gŵr anwir, a rodia a genau cyndyn.
6:13 Efe a amneidia â’i lygaid, efe a lefara â’i draed, efe a ddysg â’i fysedd.
6:14 Y mae pob rhyw gyndynrwydd yn ei galon; y mae yn dychymyg drygioni bob amser, yn peri cynhennau.
6:15 Am hynny ei ddinistr a ddaw arno yn ddisymwth: yn ddisymwth y dryllir ef, fel na byddo meddyginiaeth.
6:16 Y chwe pheth hyn sydd gas<noinclude><references/></noinclude>
4lv5xvc8cedsihq5f405fyk1op815rv
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/628
104
3990
171803
7490
2026-10-16T16:19:44Z
Tylopous
3717
penodau
171803
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>gan yr ARGLWYDD: ie, saith beth sydd ffiaidd ganddo ef:
6:17 Llygaid beilchion, tafod celwyddog, a’r dwylo a dywalltant waed gwirion,
6:18 Y galon a ddychmygo feddyliau drwg, traed yn rhedeg yn fuan i ddrygioni,
6:19 Tyst celwyddog yn dywedyd celwydd, a’r neb a gyfodo gynnen rhwng brodyr.
6:20 Fy mab, cadw orchymyn dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam.
6:21 Rhwym hwynt ar dy galon yn wastadol; clwm hwynt am dy wddf.
6:22 Pan rodiech, hi a’th gyfarwydda; pan orweddych, hi a’th wylia; pan ddeffroych, hi a gydymddiddan â thi.
6:23 Canys cannwyll yw y gorchymyn; a goleuni yw y gyfraith; a ffordd i fywyd yw ceryddon addysg:
6:24 I’th gadw rhag y fenyw ddrwg, a rhag gweniaith tafod y ddieithr.
6:25 Na chwennych ei phryd hi yn dy galon; ac na ad iddi dy ddal â’i hamrantau.
6:26 Oblegid y fenyw buteinig y daw dyn i damaid o fara; a gwraig gŵr arall a hela yr enaid gwerthfawr.
6:27 A ddichon gŵr ddwyn tân yn ei fynwes, heb losgi ei ddillad?
6:28 A ddichon gŵr rodio ar hyd marwor, ac heb losgi ei draed?
6:29 Felly, pwy bynnag a êl at wraig ei gymydog; y neb a gyffyrddo â hi, ni bydd lân.
6:30 Ni ddirmyga neb leidr a ladratao i ddiwallu ei enaid, pan fyddo arno newyn:
6:31 Ond os delir ef, efe a dâl yn saith ddyblyg; efe a rydd gymaint oll ag a feddo yn ei dŷ.
6:32 Ond y neb a wnêl odineb â benyw, sydd heb synnwyr; y neb a’i gwnêl, a ddifetha ei enaid ei hun.
6:33 Archoll a gwarth a gaiff efe; a’i gywilydd ni ddileir.
6:34 Canys cynddaredd yw eiddigedd gŵr; am hynny nid erbyd efe yn nydd dial.
6:35 Ni bydd ganddo bris ar ddim iawn; ac ni fodlonir ef, er rhoi rhoddion lawer.
{{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}}
{{bach|1 ''Solomon yn cynghori bod mewn pur a chariadus gyfeillach â doethineb.'' 6 ''Wrth a welsai efe ei hun, yn dangos'' 10 ''cyfrwysdra puttain,'' 22 ''ac enbyd wiriondeb yr ieuaingc nwyfus:'' 24 ''yn cynghori gochelyd y cyfryw annuwioldeb.''}}
{{angor|7:1}} {{uc|Fy}} mab, cadw fy ngeiriau, a chuddia fy ngorchmynion gyda thi.
7:2 Cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw; a’m cyfraith fel cannwyll dy lygad.
7:3 Rhwym hwynt am dy fysedd, ysgrifenna hwynt ar lech dy galon.
7:4 Dywed wrth ddoethineb, Fy chwaer wyt ti; galw ddeall yn gares:
7:5 Fel y’th gadwont oddi wrth y wraig ddieithr, a rhag y fenyw a’r ymadrodd gwenieithus.
7:6 Canys a mi yn ffenestr fy nhŷ mi a edrychais trwy fy nellt,
7:7 A mi a welais ymysg y ffyliaid, ie, mi a ganfûm ymhlith yr ieuenctid, ddyn ieuanc heb ddeall ganddo,
7:8 Yn myned ar hyd yr heol gerllaw ei chongl hi; ac efe a âi ar hyd y ffordd i’w thŷ hi.
7:9 Yn y cyfnos gyda’r hwyr, pan oedd hi yn nos ddu ac yn dywyll:
7:10 Ac wele fenyw yn cyfarfod ag ef, a chanddi ymddygiad putain, ac â chalon ddichellgar.
7:11 (Siaradus ac anufudd yw hi; ei thraed nid arhoant yn ei thŷ:
7:12 Weithiau yn y drws, weithiau yn yr heolydd, ac yn cynllwyn ym mhob congl.)
7:13 Hi a ymafaelodd ynddo, ac a’i cusanodd, ac ag wyneb digywilydd hi a
ddywedodd wrtho,
7:14 Yr oedd arnaf fi aberthau hedd; heddiw y cywirais fy adduned:
7:15 Ac am hynny y deuthum allan i gyfarfod â thi, i chwiho am dy wyneb; a chefais afael arnat.
7:16 Mi a drwsiais fy ngwely â llenni, ac â cherfiadau a llieiniau yr Aifft.
7:17 Mi a fwgderthais fy ngwely â myrr, aloes a sinamon.
7:18 Tyred, moes i ni ymlenwi o garu hyd y bore; ymhyfrydwn â chariad.
7:19 Canys nid yw y gŵr gartref; efe a aeth i ffordd bell:
7:20 Efe a gymerth godaid o arian yn ei law; efe a ddaw adref ar y dydd amodol.
7:21 Hi a’i troes ef â’i haml eiriau teg, ac â gweniaith ei gwefusau hi a’i cymhellodd ef.
7:22 Efe a’i canlynodd hi ar frys, fel yr ych yn myned i’r lladdfa, neu<noinclude><references/></noinclude>
o23sonc16cy7wpdgbmsg13um5fxda69
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/629
104
3991
171804
7491
2026-10-16T16:22:01Z
Tylopous
3717
penodau
171804
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>fel ynfyd yn myned i’r cyffion i’w gosbi:
7:23 Hyd oni ddryllio y saeth ei afu ef; fel yr aderyn yn prysuro i’r fagl, heb wybod ei bod yn erbyn ei einioes ef.
7:24 Yn awr gan hynny, fy meibion, gwrandewch arnaf fi, ac ystyriwch eiriau fy ngenau.
7:25 Na thuedded dy galon at ei ffyrdd hi, na chyfeiliorna ar hyd ei llwybrau hi.
7:26 Canys llawer a gwympodd hi yn archolledig; ie, gwŷr grymus lawer â laddodd hi.
7:27 Ffordd i uffern yw ei thŷ hi, yn disgyn i ystafelloedd angau.
{{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}}
{{bach|1 ''Enwocced'' 6 ''ac eglured yw doethineb.'' 10 ''Godidowgrwydd,'' 12 ''naturiaeth,'' 15 ''gallu,'' 18 ''cyfoeth,'' 22 ''a thragywyddoldeb doethineb.'' 32 ''Bod doethineb yn ddymunol, o achos y dedwyddwch y mae yn ei ddwyn.''}}
{{angor|8:1}} {{uc|Onid}} yw doethineb yn gweiddi? a deall yn llefain?
8:2 Ym mhen lleoedd uchel, gerllaw y ffordd, lle mae llwybrau lawer, y mae hi yn sefyll.
8:3 Gerllaw y pyrth, ym mhen y dref, yn ymyl y drysau, y mae hi yn llefain:
8:4 Arnoch chwi, wŷr, yr wyf fi yn galw; ac at feibion dynion y mae fy llais.
8:5 Ha ynfydion, deellwch gyfrwyster; a chwi wŷr angall, byddwch o galon ddeallus.
8:6 Gwrandewch: canys myfi a draethaf i chwi bethau ardderchog; ac a agoraf fy ngwefusau ar bethau uniawn.
8:7 Canys fy ngenau a draetha wirionedd; a ffiaidd gan fy ngwefusau ddrygioni.
8:8 Holl eiriau fy ngenau ydynt gyfiawn; nid oes ynddynt na gŵyrni na thrawsedd.
8:9 Y maent hwy oll yn amlwg i’r neb a ddeallo, ac yn uniawn i’r rhai a gafodd wybodaeth.
8:10 Derbyniwch fy addysg, ac nid arian; a gwybodaeth o flaen aur etholedig
8:11 Canys gwell yw doethineb na gemau: nid oes dim dymunol cyffelyb iddi.
8:12 Myfi doethineb wyf yn trigo gyda challineb: yr ydwyf yn cael allan wybodaeth cyngor.
8:13 Ofn yr ARGLWYDD yw casáu drygioni: balchder, ac uchder, a ffordd ddrygionus, a’r genau traws, sydd gas gennyf fi.
8:14 Mi biau cyngor, a gwir ddoethineb: deall ydwyf fi; mi biau nerth.
8:15 Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y barna’r penaethiaid gyfiawnder.
8:16 Trwof fi y rheola tywysogion a phendefigion, sef holl farnwyr y ddaear.
8:17 Y sawl a’m carant i, a garaf finnau; a’r sawl a’m ceisiant yn fore, a’m cânt.
8:18 Gyda myfi y mae cyfoeth, ac anrhydedd, golud parhaus, a chyfiawnder.
8:19 Gwell yw fy ffrwyth i nag aur, ie, nag aur coeth; a’m cynnyrch sydd well na’r arian detholedig.
8:20 Ar hyd ffordd cyfiawnder yr arweiniaf, ar hyd canol llwybrau barn:
8:21 I beri i’r rhai a’m carant etifeddu sylwedd: a mi a lanwaf eu trysorau.
8:22 Yr ARGLWYDD a’m meddiannodd i yn nechreuad ei ffordd, cyn ei weithredoedd erioed.
8:23 Er tragwyddoldeb y’m heneiniwyd, er y dechreuad, cyn bod y ddaear.
8:24 Pryd nad oedd dyfnder y’m cenhedlwyd, cyn bod ffynhonnau yn llawn o ddyfroedd.
8:25 Cyn sylfaenu y mynyddoedd, o flaen y bryniau y’m cenhedlwyd:
8:26 Cyn gwneuthur ohono ef y ddaear, na’r meysydd, nac uchder llwch y byd.
8:27 Pan baratôdd efe y nefoedd, yr oeddwn i yno: pan osododd efe gylch ar wyneb y dyfnder:
8:28 Pan gadarnhaodd efe y cymylau uwchbetn a phan nerthodd efe ffynhon-nau y dyfnder:
8:29 Pan roddes efe ei ddeddf i’r môr, ac i’r dyfroedd, na thorrent ei orchymyn ef: pan osododd efe sylfeini y ddaear:
8:30 Yna yr oeddwn i gydag ef megis un wedi ei feithrin gydag ef: ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd, yn yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser;
8:31 Ac yn llawenychu yng nghyfanheddle ei ddaear ef; a’m hyfrydwch oedd gyda meibion dynion.
8:32 Yr awron gan hynny, O feibion, gwrandewch arnaf; canys gwyn eu byd a gadwant fy ffyrdd i.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
h0t6z28ayerlu4amofj3otrpzofisdc
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/630
104
3992
171805
7492
2026-10-16T16:24:47Z
Tylopous
3717
penodau
171805
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>8:33 Gwrandewch addysg, a byddwch ddoethion; nac ymwrthodwch â hi.
8:34 Gwyn ei fyd y dyn a wrandawo arnaf, ac a wylio yn ddyfal beunydd wrth fy nrysau, gan warchod wrth byst fy mhyrth i.
8:35 Canys y neb a’m caffo i, a gaiff fywyd, ac a feddianna ewyllys da gan yr ARGLWYDD.
8:36 Ond y neb a becho yn fy erbyn, a wna gam â’i enaid ei hun: fy holl gaseion a garant angau.
{{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}}
{{bach|1 ''Addysg'' 4 ''ac athrawiaeth doethineb.'' 13 ''Arfer'' 16 ''ac amryfusedd ynfydrwydd.''}}
{{angor|9:1}} {{uc|Doethineb}} a adeiladodd ei thŷ, hi a naddodd ei saith golofn.
9:2 Hi a laddodd ei hanifeiliaid; hi a gymysgodd ei gwin, ac a huliodd ei bwrdd.
9:3 Hi a yrrodd ei llawforynion: y mae yn llefain oddi ar fannau uchel y ddinas:
9:4 Pwy bynnag sydd annichellgar, tröed i mewn yma: ac wrth yr annoeth y mae hi yn dywedyd,
9:5 Deuwch, a bwytewch o’m bara, ac yfwch o’r gwin a gymysgais.
9:6 Ymadewch â’r rhai ffôl, a byddwch fyw; a cherddwch yn ffordd deall.
9:7 Yr hwn a geryddo watwarwr, a gaiff waradwydd iddo ei hun: a’r hwn a feio ar y drygionus, a gaiff anaf.
9:8 Na cherydda watwarwr, rhag iddo dy gasáu: cerydda y doeth, ac efe a’th gâr di.
9:9 Dyro addysg i’r doeth, ac efe fydd doethach: dysg y cyfiwn, ac efe a chwanega ei ddysgeidiaeth.
9:10 Dechreuad doethineb yw ofn yr ARGLWYDD: a gwybodaeth y sanctaidd yw deall.
9:11 Canys trwof fi yr amlheir dy ddyddiau, ac y chwanegir blynyddoedd dy einioes.
9:12 Os doeth fyddi, doeth fyddi i ti dy hun: ond os gwatwarwr fyddi, tydi dy hun a’i dygi.
9:13 Gwraig ffôl a fydd siaradus; angall yw, ac ni ŵyr ddim:
9:14 Canys hi a eistedd ar ddrws ei thŷ, ar fainc, yn y lleoedd uchel yn y ddinas,
9:15 I alw ar y neb a fyddo yn myned heibio, y rhai sydd yn cerdded eu ffyrdd yn uniawn:
9:16 Pwy bynnag sydd ehud, tröed yma: a phwy byrmag sydd ddisynnwyr, a hi a ddywed wrtho,
9:17 Dyfroedd lladrad sydd felys, a bara cudd sydd beraidd.
9:18 Ond ni ŵyr efe mai meirw yw y rhai sydd yno; a bod ei gwahoddwyr hi yn nyfnder uffern.
{{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}}
{{bach|''O’r bennod yma hyd y bummed ar hugain, y mae amryw addysg ynghylch rhinweddau da, a’u gwrthwyneb feiau.''}}
{{angor|10:1}} {{uc|Diarhebion}} Solomon. Mab doeth a wna dad llawen, a mab ffôl a dristâ ei fam.
10:2 Ni thycia trysorau drygioni: ond cyfiawnder a wared rhag angau.
10:3 Ni edy yr ARGLWYDD i enaid y cyfiawn newynu: ond efe a chwâl ymaith gyfoeth y drygionus.
10:4 Y neb a weithio â llaw dwyllodrus, fydd dlawd: ond llaw y diwyd a gyfoethoga.
10:5 Mab synhwyrol yw yr hwn a gasgl amser haf: ond mab gwaradwyddus yw yr hwn a gwsg amser cynhaeaf.
10:6 Bendithion fydd ar ben y cyfiawn: ond trawsedd a gae ar enau y drygionus.
10:7 Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig: ond enw y drygionus a bydra.
10:8 Y galon ddoeth a dderbyn orchmynion: ond y ffôl ei wefusau a gwymp
10:9 Y neb a rodio yn uniawn, a rodia yn ddiogel: ond y neb a gam-dry ei ffyrdd, a fydd hynod.
10:10 Y neb a amneidio â’i lygaid, a bair flinder: a’r ffôl ei wefusau a gwymp.
10:11 Ffynnon bywyd yw genau y cyfiawn, ond trawsedd a gae ar enau y drygionus.
10:12 Casineb a gyfyd gynhennau: ond cariad a guddia bob camwedd.
10:13 Yng ngwefusau y synhwyrol y ceir doethineb: ond gwialen a weddai i gefn yr angall.
10:14 Y doethion a ystofiant wybodaeth: ond dinistr sydd gyfagos i enau y ffôl.
10:15 Cyfoeth y cyfoethog yw dinas ei gadernid ef: ond dinistr y tlodion yw eu tlodi.
10:16 Gwaith y cyfiawn a dynn at fywyd: ond ffrwyth y drygionus tuag at bechod.
10:17 Ar y ffordd i fywyd y mae y neb a gadwo addysg: ond y<noinclude><references/></noinclude>
dwmag5no5qyr30qfpsq35so8kjlr9rz
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/631
104
3993
171806
7493
2026-10-16T16:25:47Z
Tylopous
3717
penodau
171806
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>neb a wrthodo gerydd, sydd yn cyfeiliorni.
10:18 A guddio gas â gwefusau celwyddog, a’r neb a ddywed enllib, sydd ffôl.
10:19 Yn amlder geiriau ni bydd pall ar bechod; ond y neb a atalio ei wefusau sydd synhwyrol.
10:20 Tafod y cyfiawn sydd fel arian detholedig: calon y drygionus ni thâl ond ychydig.
10:21 Gwefusau y cyfiawn a borthant lawer: ond y ffyliaid, o ddiffyg synnwyr, a fyddant feirw.
10:22 Bendith yr ARGLWYDD a gyfoethoga; ac ni ddwg flinder gyda hi.
10:23 Hyfryd gan ffôl wneuthur drwg: a chan ŵr synhwyrol y mae doethineb.
10:24 Y peth a ofno y drygionus, a ddaw iddo: ond y peth a ddeisyfo y rhai cyfiawn, DUW a’i rhydd.
10:25 Fel y mae y corwynt yn myned heibio, felly ni bydd y drygionus mwy: ond y cyfiawn sydd sylfaen a bery byth
10:26 Megis finegr i’r ddannedd , a mwg i’r llygaid, felly y bydd y diog i’r neb ai gyrrant.
10:27 Ofn yr ARGLWYDD a estyn ddyddiau: ond blynyddoedd y drygionus a fyrheir.
10:28 Gobaith y cyfiawn fydd llawenydd: ond gobaith y drygionus a ddefydd amdano.
10:29 Ffordd yr ARGLWYDD sydd gadernid i’r perffaith: ond dinistr fydd i’r rhai a wnant anwiredd.
10:30 Y cyfiawn nid ysgog byth: ond y drygionus ni phreswyliant y ddaear.
10:31 Genau y cyfiawn a ddwg allan ddoethineb: a’r tafod cyndyn a dorrir ymaith.
10:32 Gwefusau y cyfiawn a wyddant beth sydd gymeradwy; ond genau y drygionus a lefara drawsedd.
{{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod XI}}.}}
{{angor|11:1}} {{uc|Cloriannau}} anghywir sydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD: ond carreg uniawn sydd fodlon ganddo ef.
11:2 Pan ddêl balchder, fe ddaw gwarth: ond gyda’r gostyngedig y mae doethineb.
11:3 Perffeithrwydd yr uniawn a’u tywys hwynt: ond trawsedd yr anffyddloniaid a’u difetha hwynt.
11:4 Ni thycia cyfoeth yn nydd digofaint: ond cyfiawnder a wared rhag angau.
11:5 Cyfiawnder y perffaith a’i hyfforddia ef: ond o achos ei ddrygioni y syrth y drygionus.
11:6 Cyfiawnder y cyfiawn a’u gwared hwynt: ond troseddwyr a ddelir yn eu drygioni.
11:7 Pan fyddo marw dyn drygionus, fe a ddarfu am ei obaith ef : a gobaith y trawrs a gyfrgollir.
11:8 Y cyfiawn a waredir o gyfyngder, a’r drygionus a ddaw yn ei le ef.
11:9 Rhagrithiwr â’i enau a lygra ei gymydog: ond y cyfiawn a waredir trwy wybodaeth.
11:10 Yr holl ddinas a ymlawenha oherwydd llwyddiant y cyfiawn: a phan gyfrgoller y drygionus, y bydd gorfoledd.
11:11 Trwy fendith y cyfiawn y dyrchefir y ddinas: ond trwy enau y drygionus y dinistrir hi.
11:12 Y neb sydd ddisynnwyr a ddiystyra ei gymydog; ond y synhwyrol a dau â sôn.
11:13 Yr hwn a rodia yn athrodwr, a ddatguddia gyfrinach: ond y ffyddlon ei galon a gela y peth.
11:14 Lle ni byddo cyngor, y bobl a syrthiant: ond lle y byddo llawer o gynghorwyr, y bydd diogelwch.
11:15 Blinder mawr a gaiff y neb a fachnïo dros ddieithrddyn: ond y neb a gasao fachnïaeth, fydd ddiogel.
11:16 Gwraig rasol a gaiff anrhydedd, a’r galluog a gânt gyfoeth.
11:17 Gŵr trugarog sydd dda wrth ei enaid ei hun: ond y creulon a flina ei gnawd ei hun.
11:18 Y drygionus a wna waith twyllodrus: ond i’r neb a heuo gyfiawnder, y bydd gwobr sicr.
11:19 Fel yr arwain cyfiawnder i fywyd: felly dilyn drygioni a dywys i angau.
11:20 Ffiaidd gan yr ARGLWYDD y neb sydd gvndyn eu calonnau: eithr hoff ganddo ef y rhai sydd berffaith yn eu ffyrdd.
11:21 Er maint fyddo cymorth, y drygionus ni bydd ddieuog: ond had y cyfiawn a waredir.
11:22 Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch, yw benyw lân heb synnwyr.
11:23 Deisyfiad y cyfiawn sydd ar ddaioni yn unig: ond gobaith y drygionus sydd ddicter.
11:24 Rhyw un a wasgar ei dda, ac<noinclude><references/></noinclude>
6021afbbb5gwg2ouo5h0j5flk1frk5b
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/632
104
3994
171807
7494
2026-10-16T16:26:51Z
Tylopous
3717
penodau
171807
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>efe a chwanegir iddo: a rhyw un arall a arbed mwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi.
11:25 Yr enaid hael a fraseir: a’r neb a ddyfrhao, a ddyfrheir yntau hefyd.
11:26 Y neb a atalio ei ŷd, y bobl a’i melltithia: ond bendith a fydd ar ben y neb a’i gwertho.
11:27 Y neb a ddyfal geisio ddaioni, a ennill ewyllys da: ond y neb a geisio ddrwg, iddo ei hun y daw.
11:28 Y neb a roddo ei oglyd ar ei gyfoeth, a syrth: ond y cyfiawn a flodeuant megis cangen.
11:29 Y neb a flino ei dŷ ei hun, a berchenoga y gwynt; a’r ffôl a fydd gwas i’r synhwyrol ei galon.
11:30 Ffrwyth y cyfiawn sydd megis y bywyd: a’r neb a enillo eneidiau, sydd ddoeth.
11:31 Wele, telir i’r cyfiawn ar y ddaear: pa faint mwy i’r drygionus a’r pechadur?
{{angor|Pennod_12}}{{c|{{uc|Pennod XII}}.}}
{{angor|12:1}} {{uc|Y neb}} a garo addysg, a gâr wybodaeth: ond y neb a gasao gerydd, anifeilaidd yw.
12:2 Gŵr da a gaiff ffafr gan yr ARGLWYDD: ond gŵr o ddichellion drwg a ddamnia efe.
12:3 Ni sicrheir dyn trwy ddrygioni: ond gwraidd y cyfiawn nid ysgoga.
12:4 Gwraig rymus sydd goron i’w gŵr: ond y waradwyddus sydd megis pydrni yn ei esgyrn ef.
12:5 Meddyliau y cyfiawn sydd uniawn: a. chynghorion y drygionus sydd dwyllodrus.
12:6 Geiriau y drygionus yw cynllwyn am waed: ond genau yr uniawn a’u gwared hwynt.
12:7 Difethir y drygionus, fel na byddont hwy: ond tŷ y cyfiawn a saif.
12:8 Yn ôl ei ddeall y canmolir gŵr: ond gŵr cyndyn ei galon a ddiystyrir.
12:9 Gwell yw yr hwn a’i cydnabyddo ei.hun yn wael, ac sydd was iddo ei hun, na’r hwn a’i hanrhydeddo ei hun, ac sydd arno eisiau bara.
12:10 Y cyfiawn a fydd ofalus am fywyd ei anifail: ond tosturi y drygionus sydd greulon.
12:11 Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, disynnwyr yw.
12:12 Y drygionus sydd yn deisyf rhwyd y drygionus: ond gwreiddyn y cyfiawn a rydd ffrwyth.
12:13 Trwy drosedd ei wefusau y meglir y drygionus: ond y cyfiawn a ddaw allan o gyfyngder.
12:14 Trwy ffrwyth ei enau y digonir gŵr â daioni; a thaledigaeth dwylo dyn a delir iddo.
12:15 Ffordd yr ynfyd sydd uniawn yn ei olwg ei hun; ond y neb a wrandawo ar gyngor sydd gall.
12:16 Mewn un dydd y gwybyddir dicter yr ynfyd: ond y call a guddia gywilydd.
12:17 Y neb a ddywedo y gwir, a ddengys gyfiawnder; ond gau dyst a draetha dwyll.
12:18 Rhyw ddyn a ddywed eiriau fel brath cleddyf: ond tafod y doethion sydd feddyginiaeth.
12:19 Gwefus gwirionedd a saif byth: ond tafod celwyddog ni saif funud awr.
12:20 Dichell sydd yng nghalon y rhai a ddychmygant ddrwg: ond i gynghorwyr heddwch y bydd llawenydd.
12:21 Ni ddigwydd i’r cyfiawn ddim blinder; ond y drygionus a lenwir â drwg.
12:22 Ffiaidd gan yr ARGLWYDD wefusau celwyddog: ond y rhai a wnânt yn ffyddlon, a rygnant fodd iddo ef.
12:23 Gŵr pwyllog a gela wybodaeth: ond calon ffyliaid a gyhoedda ffolineb.
12:24 Llaw y diesgeulus a deyrnasa: a llaw y twyllodrus a fydd dan deyrnged.
12:25 Gofid yng nghalon gŵr a bair iddi grymu: ond gair da a’i llawenha hi.
12:26 Y cyfiawn a ragora ar ei gymydog: ond ffordd y rhai drygionus a’u twylla hwynt.
12:27 Ni rostia y twyllodrus ei helwriaeth: ond golud y dyn diesgeulus sydd werthfawr.
12:28 Yn ffordd cyfiawnder y mae bywyd; ac yn ei llwybrau hi nid oes marwolaeth.
{{angor|Pennod_13}}{{c|{{uc|Pennod XIII}}.}}
{{angor|13:1}} {{uc|Mab}} doeth a wrendy ar athrawiaeth ei dad: ond gwatwarwr ni wrendy ar gerydd.
13:2 Gŵr a fwynha ddaioni o ffrwyth ei enau: ac enaid yr anghyfiawn a fwynha drawsedd.
13:3 Y neb a geidw ei enau, a geidw ei einioes: ond y neb a ledo ei wefusau, a ddinistrir.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
j0p812rxoqowsuyoolh2ppbzs1tyv1l
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/633
104
3995
171808
7495
2026-10-16T16:27:24Z
Tylopous
3717
penodau
171808
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>13:4 Enaid y diog a ddeisyf, ac ni chaiff ddim: ond enaid y diwyd a wneir yn fras.
13:5 Cas gan y cyfiawn gelwydd: ond y drygionus sydd ffiaidd, ac a ddaw i gywilydd.
13:6 Cyfiawnder a geidw y perffaith yn ei ffordd: ond annuwioldeb a ddymchwel y pechadur.
13:7 Rhyw un a ymffrostia ei fod yn gyfoethog, ac heb ddim ganddo: ac arall ei fod yn dlawd, a chyfoeth lawer iddo.
13:8 Iawn am einioes gŵr yw ei dda: ond y tlawd ni chlyw gerydd.
13:9 Goleuni y cyfiawn a lawenha: ond cannwyll y drygionus a ddiffoddir.
13:10 Trwy falchedd yn unig y cyffry cynnen: ond gyda’r pwyllog y mae doethineb.
13:11 Golud a gasgler trwÿ oferedd, a leiheir; ond y neb a gasglo â’i law a chwanega.
13:12 Gobaith a oeder a wanha y galon: ond pren y bywyd yw deisyfiad, pan ddêl i ben.
13:13 Yr hwn a ddirmygo y gair, a ddifethir: ond yr hwn sydd yn ofni y gorchymyn, a obrwyir.
13:14 Cyfraith y doeth sydd ffynnon bywyd, i gilio oddi wrth faglau angau.
13:15 Deall da a ddyry ras: ond ffordd troseddwyr sydd galed.
13:16 Pob call a wna bethau trwy wybodaeth: ond yr ynfyd a ddengys ynfydrwydd.
13:17 Cennad annuwiol a syrth i ddrygioni; ond cennad ffyddlon sydd iechyd.
13:18 Tlodi a gwaradwydd fydd i’r hwn a wrthodo addysg: ond yr hwn a gadwo gerydd, a anrhydeddir.
13:19 Dymuniad wedi ei gyflawni, sydd felys gan yr enaid: ond ffiaidd gan ynfydion gilio oddi wrth ddrygioni.
13:20 Yr hwn a rodia gyda doethion, fydd doeth: ond yr hwn sydd gyfaill i ynfydion, a gystuddir.
13:21 Drygfyd a erlyn bechaduriaid: ond daioni a delir i’r rhai cyfiawn.
13:22 Y gŵr daionus a ad etifeddiaeth i feibion ei feibion: a golud y pechadur a a roddwyd i gadw i’r cyfiawn.
13:23 Llawer o ymborth sydd ym maes y tlodion: ond y mae a ddinistrir o eisiau barn.
13:24 Yr hwn a arbedo y wialen, sydd yn casáu ei fab: ond yr hwn a’i câr ef, a’i cerydda mewn amser.
13:25 Y cyfiawn a fwyty hyd oni ddigoner ei enaid: ond bol yr annuwiolion fydd mewn eisiau.
{{angor|Pennod_14}}{{c|{{uc|Pennod XIV}}.}}
{{angor|14:1}} {{uc|Gwraig}} ddoeth a adeilada ei thŷ: ond y ffolog a’i tyn ef i lawr â’i dwylo.
14:2 Yr hwn sydd yn rhodio yn ei uniondcr, sydd yn ofni yr ARGLWYDD; a’r hwn sydd gyndyn yn ei ffyrdd, sydd yn ei ddirmygu ef.
14:3 Yng ngenau y ffôl y mae gwialen balchder: ond gwefusau y doethion a’u ceidw hwynt.
14:4 Lle nid oes ychen, glân yw y preseb: ond llawer o gnwd sydd yn dyfod trwy nerth yr ych.
14:5 Tyst ffyddlon ni ddywed gelwydd; ond gau dyst a draetha gelwyddau.
14:6 Y gwatwarwr a gais ddoethineb, ac nis caiff: ond gwybodaeth sydd hawdd i’r deallus.
14:7 Dos ymaith oddi wrth ŵr ffôl pan wypech nad oes ganddo wefusau gwybodaeth.
14:8 Doethineb y call yw deall ei ffordd ei hun: ond ffolineb y ffyliaid yw twyll.
14:9 Y ffyliaid a ymhyfrydant mewn camwedd; ond ymhlith y rhai uniawn y mae ewyllys da.
14:10 Y galon sydd yn gwybod chwerwder ei henaid ei hun: a’r dieithr ni bydd gyfrannog o’i llawenydd hi.
14:11 Tŷ yr annuwiolion a ddinistrir: ond pabell y rhai uniawn a flodeua.
14:12 Y mae ffordd sydd uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd hi yw ffyrdd angau.
14:13 Ie, wrth chwerthin y bydd blin ar y galon; a diwedd y llawenydd hwnnw yw tristwch.
14:14 Y gwrthnysig o galon a gaiff ddigon o’i ffyrdd ei hun: ond y gŵr daionus a gilia oddi wrtho ef.
14:15 Yr ehud a goelia bob gair: a’r call a ddeil ar ei gamre.
14:16 Y doeth sydd yn ofni, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni: ond y ffôl sydd ffrom a hyderus.
14:17 Gŵr dicllon a wna ffolineb: a chas yw y gŵr dichellgar.
14:18 Y rhai ehud a etifeddant ffolineb: ond y rhai call a goronir â gwybodaeth.
14:19 Y rhai drygionus a ymyostyngant gerbron y daionus: a’r annuwiol ym mhyrth y cyfiawn.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
nxegcweoi5k45a6trv9oybnnv88b2py
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/634
104
3998
171809
7504
2026-10-16T16:27:59Z
Tylopous
3717
penodau
171809
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>14:20 Y tlawd a gaseir, ie, gan ei gymydog ei hun: ond llawer fydd yn caru y cyfoethog.
14:21 A ddirmygo ei gymydog, sydd yn pechu: ond y trugarog wrth y tlawd, gwyn ei fyd ef.
14:22 Onid ydyw y rhai a ddychmygant ddrwg yn cyfeiliorni? eithr trugaredd a gwirionedd a fydd i’r sawl a ddychmygant ddaioni.
14:23 Ym mhob llafur y mae elw: ond o eiriau gwefusau nid oes dim ond tlodi.
14:24 Coron y doethion yw eu cyfoeth; ond ffolineb y ffyliaid sydd ffolineb.
14:25 Tyst ffyddlon a weryd eneidiau: ond y twyllodrus a ddywed gelwyddau.
14:26 Yn ofn yr ARGLWYDD y mae gobaith cadarn: ac i’w blant ef y bydd noddfa.
14:27 Ofn yr ARGLWYDD yw ffynnon y bywyd, i ddianc rhag maglau angau.
14:28 Mewn amlder y bobl y rnae anrhydedd y brenin: ac o ddiffyg pobl y dinistrir y tywysog.
14:29 Y diog i ddigofaint sydd yn llawn o synnwyr: ond y dicllon ei ysbryd a ddyrchafa ynfydrwydd.
14:30 Calon iach yw bywyd y cnawd: ond cenfigen a bydra yr esgyrn.
14:31 Y neb a orthryma y tlawd, a gywilyddia ei Greawdydd: ond y neb a drugarhao wrth yr anghenus, a’i hanrhydedda ef.
14:32 Y drygionus a yrrir ymaith yn ei ddrygioni: ond y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw.
14:33 Doethineb sydd yn gorffwys yng nghalon y call: ond yr hyn sydd yng nghalon ffyliaid a wybyddir.
14:34 Cyfiawnder a ddyrchafa genedl: ond cywilydd pobloedd yw pechod.
14:35 Ewyllys da y brenin sydd ar ei was synhwyrol; ond ei ddigofaint a fydd ar was gwaradwyddus.
{{angor|Pennod_15}}{{c|{{uc|Pennod XV}}.}}
{{angor|15:1}} {{uc|Atteb}} arafaidd a ddetry lid: ond gair garw a gyffry ddigofaint.
15:2 Tafod y synhwyrol a draetha wybodaeth yn dda; ond genau y ffyliaid a dywallt ffolineb.
15:3 Ym mhob lle y y mae llygaid yr ARGLWYDD, yn canfod y drygionus a’r daionus.
15:4 Pren y bywyd yw tafod iach: ond trawsedd ynddo sydd rwyg yn yr ysbryd.
15:5 Dyn ffôl a ddiystyra addysg ei dad: ond y neb a ddioddefo gerydd, sydd gall.
15:6 Yn nhŷ y cyfiawn y bydd mawr gyfoeth: ond am olud yr annuwiol y mae trallod.
15:7 Gwefusau y doethion a wasgarant wybodaeth: ond calon y ffyliaid ni wna felly.
15:8 Aberth yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD: ond efe a gâr y neb a ddilyn gyfiawnder.
15:9 Ffordd yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD: , ond gweddi yr uniawn sydd hoff ganddo.
15:10 Cerydd sydd flin gan y neb a dry oddi ar y ffordd: a’r neb a gasao gerydd, a fydd marw.
15:11 Uffern a dinistr sydd gerbron yr ARGLWYDD: pa faint mwy, calonnau plant dynion?
15:12 Ni châr y gwatwarwr mo’r neb a’i ceryddo; ac nid â at y doethion.
15:13 Calon lawen a wna wyneb siriol: ond trwy ddolur y galon y torrir yr ysbryd.
15:14 Calon y synhwyrol a ymgais â gwybodaeth: ond genau y ffyliaid a borthir â ffolineb.
15:15 Holl ddyddiau y cystuddiedig sydd flin: ond gwledd wastadol yw calon lawen.
15:16 Gwell yw ychydig gydag ofn yr ARGLWYDD, na thrysor mawr a thrallod gydag ef.
15:17 Gwell yw pryd o ddail lle byddo cariad, nag ych pasgedig a chas gydag ef.
15:18 Gŵr dicllon a gyffry gynnen: ond gŵr hwyrfrydig i lid a dyr ymryson.
15:19 Ffordd y diog sydd fel cae drain; ond ffordd yr uniawn sydd wastad.
15:20 Mab doeth a lawenha ei dad: ond uchel dyn ffôl a ddiystyra ei fam.
15:21 Ffolineb sydd hyfryd gan yr ynfyd: ond gŵr deallus a rodia yn uniawn
15:22 Ofer fydd bwriadau lle ni byddo cyngor - ac mewn amlder cynghorwyr y sicrheir hwynt.
15:23 Llawenydd fydd i ŵr oherwydd ymadrodd ei enau; ac O mor dda yw gair yn ei amser!
15:24 Ffordd y bywyd sydd fry i’r synhwyrol, i ochel uffern obry.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
i1z4xcry9rn5wohurg3pa9ob0a4mc5l
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/635
104
3999
171810
7505
2026-10-16T16:28:35Z
Tylopous
3717
penodau
171810
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>15:25 Yr ARGLWYDD a ddiwreiddia dŷ y beilchion: ond efe a sicrha derfyn y weddw.
15:26 Meddyliau yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD: ond geiriau y glân ŷnt beraidd.
15:27 Y neb a fyddo dra chwannog i elw, a derfysga ei dŷ: ond y neb a gasao roddion, fydd byw.
15:28 Calon y cyfiawn a f yfyria i ateb: ond genau y drygionus a dywallt allan ddrwg.
15:29 Pell yw yr ARGLWYDD oddi wrth y rhai annuwiol: ond efe a wrendy weddi y cyfiawn.
15:30 Llewyrch y llygaid a lawenha y galon; a gair da a frasâ yr esgyrn.
15:31 Y glust a wrandawo ar gerydd y bywyd, a breswylia ymhlith y doethion.
15:32 Y neb a wrthodo addysg, a ddiystyra ei enaid ei hun: ond y neb a wrandawo ar gerydd, a feddianna ddeall.
15:33 Addysg doethineb yw ofn yr ARGLWYDD; ac o flaen anrhydedd yr â gostyngeiddrwydd.
{{angor|Pennod_16}}{{c|{{uc|Pennod XVI}}.}}
{{angor|16:1}} {{uc|Parottoad}} y galon mewn dyn, ac ymadrodd y tafod, oddi wrth yr ARGLWYDD y mae.
16:2 Holl ffyrdd dyn ydynt lân yn ei olwg ei hun: ond yr ARGLWYDD a bwysa yr ysbrydion.
16:3 Treigla dy weithredoedd ar yr ARGLWYDD, a’th feddyliau a safant.
16:4 Yr ARGLWYDD a wnaeth bob peth er ei fwyn ei hun: a’r anauwiol hefyd erbyn y dydd drwg.
16:5 Ffiaidd gan yr ARGLWYDD bob dyn uchel galon: er maint fyddo ei gymorth, ni bydd dieuog.
16:6 Trwy drugaredd a gwirionedd y dileir pechod: a thrwy ofn Yr ARGLWYDD y mae ymado oddi wrth ddrwg.
16:7 Pan fyddo ffyrdd gŵrr yn rhyngu bodd i’r ARGLWYDD, efe a bair i’w elynion fod yn heddychol ag ef.
16:8 Gwell yw ychydig trwy gyfiawnder, na chnwd mawr trwy gam.
16:9 Calon dyn a ddychymyg ei ffordd: ond yr ARGLWYDD a gyfarwydda ei gerddediad ef.
16:10 Ymadrodd Duw sydd yng ngwefusau y brenin: ni ŵyra ei enau ef mewn barn.
16:11 Pwys a chloriannau cywir, yr ARGLWYDD a’u piau: ei waith ef yw holl gerrig y god.
16:12 Ffiaidd yw i frehinoedd wneuthur annuwioldeb: canys trwy gyfiawnder y cadarnheir yr orsedd.
16:13 Gwefusau cyfiawn sydd gymeradwy gan frenhinoedd; a’r brenin a gâr a draetho yr uniawn.
16:14 Digofaint y brenin sydd megis cennad angau; ond gŵr doeth a’i gostega.
16:15 Yn siriol wynepryd y brenin y mae bywyd: a’i ewyllys da ef sydd megis cwmwl glaw diweddar.
16:16 Cael doethineb, O mor well yw nag aur coeth! a chael deall, mwy dymunolt a yw nag arian.
16:17 Sarn y cyfiawn yw dychwelyd oddi wrth ddrwg: y neb a gadwo ei ffordd, a geidw ei enaid.
16:18 Balchder sydd yn myned o flaen dinistr: ac uchder ysbryd o flaen cwymp.
16:19 Gwell yw bod yn ostyngedig gyda’r gostyngedig, na rhannu yr ysbail gyda’r beilchion.
16:20 A drino fater yn ddoeth, a gaiff ddaioni: a’r neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, O gwyn ei fyd hwnnw!
16:21 Y doeth ei galon a elwir yn ddeallus; a melyster y gwefusau a chwanega ddysgeidiaeth.
16:22 Ffynnon y bywyd yw deall i’w pherchennog: ond addysg ffyliaid yw ffolineb.
16:23 Calon y doeth a reola ei enau ef yn synhwyrol, ac a chwanega addysg i’w wefusau.
16:24 Geiriau teg ydynt megis dil mêl, yn felys i’r enaid, ac yn iachus i’r esgyrn.
16:25 Mae ffordd a dybir ei bod yn uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd yw ffyrdd marwolaeth.
16:26 Y neb a lafurio, a lafuria iddo ei hun: canys ei enau a’i gofyn ganddo.
16:27 Dyn i’r fall sydd yn cloddio drwg: ac ar ei wefusau yr erys fel tân poeth.
16:28 Dyn cyndyn a bair ymryson: a’r hustyngwr a neilltua dywysogion.
16:29 Gŵr traws a huda ei gymydog, ac a’i tywys i’r ffordd nid yw dda.
16:30 Efe a gae ei lygaid i ddychymyg trawsedd; gan symud ei wefusau y dwg efe ddrwg i ben.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
5ejzjl9trp89h948b07o3k5rzty25o5
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/636
104
4000
171811
7506
2026-10-16T16:29:33Z
Tylopous
3717
penodau
171811
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>16:31 Coron anrhydeddus yw penllwydni, os bydd mewn ffordd cyfiawnder.
16:32 Gwell yw y diog i ddigofaint na’r cadarn; a’r neb a reola ei ysbryd ei hun, na’r hwn a enillo ddinas.
16:33 Y coelbren a fwrir i’r arffed: ond oddi wrth yr ARGLWYDD y mae ei holl lywodraethiad ef.
{{angor|Pennod_17}}{{c|{{uc|Pennod XVII}}.}}
{{angor|17:1}} {{uc|Gwell}} yw tamaid sych a llonyddwch gydag ef, na thŷ yn llawn o aberthau gydag ymryson.
17:2 Gwas synhwyrol a feistrola ar fab gwaradwyddus; ac a gaiff ran o’r etifeddiaeth ymhlith y brodyr.
17:3 Y tawddlestr sydd i’r arian, a’r ffwrn i’r aur: ond yr hwn a brawf y calonnau yw yr ARGLWYDD.
17:4 Y drygionus a wrendy ar wefus anwir: a’r celwyddog a rydd glust i dafod drwg.
17:5 Y neb a watwaro y tlawd, sydd yn gwaradwyddo ei Wneuthurwr ef: a’r neb a ymddigrifo mewn cystudd, ni bydd dieuog.
17:6 Coron yr hynafgwyr yw en hwyrion: ac anrhydedd y plant yw eu tadau.
17:7 Anweddaidd yw i ffôl ymadrodd rhagorol; mwy o lawer i bendefig wefusau celwyddog.
17:8 Maen gwerthfawr yw anrheg yng ngolwg ei pherchennog: pa le bynnag y tro, hi a ffynna.
17:9 Y neb a guddia bechod, sydd yn ceisio cariad: ond y neb a adnewydda fai, sydd yn neilltuo tywysogion.
17:10 Un sen a ofna y call yn fwy na phe baeddid y ffôl ganwaith.
17:11 Y dyn drwg sydd â’i fryd ar derfysg yn unig: a chennad greulon a anfonir yn ei erbyn ef.
17:12 Gwell i ŵr gyfarfod ag arthes wedi colli ei chenawon, nag â’r ffôl yn ei ffolineb.
17:13 Y neb a dalo ddrwg dros dda, nid ymedy drwg â’i dŷ ef.
17:14 Pen y gynnen sydd megis ped agorid argae: am hynny gad ymaith ymryson cyn ymyrryd arni.
17:15 Y neb a gyfiawnhao y drygionus, ac a gondemnio y gwirion; ffiaidd gan yr ARGLWYDD ydynt ill dau.
17:16 Paham y bydd gwerth yn llaw y ffôl i berchenogi doethineb, ac yntau heb galon ganddo?
17:17 Cydymaith a gâr bob amser: a brawd a anwyd erbyn caledi.
17:18 Dyn heb bwll a dery ei law, ac a fachnïa o flaen ei gyfaill.
17:19 Y neb sydd hoff ganddo ymsennu, sydd hoff ganddo bechod; a’r hwn sydd yn gwneuthur ei ddrws yn uchel, sydd yn ceisio niwed.
17:20 Y cyndyn ei galon ni chaiff ddaioni: a’r hwn sydd drofaus yn ei dafod, a syrth i ddrwg.
17:21 Y neb a genhedlo un ffôl, a ennill iddo ei hun dristwch: ac ni bydd lawen tad yr ynfyd.
17:22 Calon lawen a wna les fel meddyginiaeth: ond meddwl trwm a sych yr esgyrn.
17:23 Yr annuwiol a dderbyn rodd o’r fynwes, i gamdroi llwybrau barn.
17:24 Doethineb sydd yn wyneb y deallgar: ond llygaid y ffyliaid sydd yng nghyrrau y byd.
17:25 Mab ffôl a bair ddicllonedd i’w dad, a chwerwder i’w fam.
17:26 Hefyd nid da cosbi y cyfiawn, na tharo penaethiaid, pan fyddant ar yr iawn.
17:27 Gŵr synhwyrol a atal ei yriadroddion: a gŵr pwyllog sydd ymarhous ei ysbryd.
17:28 Y ffôl, tawo,a gyfrifir yn ddoeth; a’r neb a gaeo ei wefusau, yn ddeallus.
{{angor|Pennod_18}}{{c|{{uc|Pennod XVIII}}.}}
{{angor|18:1}} {{uc|Y neillduol}} a gais wrth ei ddeisyfiad ei hun, ac a ymyrra â phob peth.
18:2 Y ffôl nid hoff ganddo ddeall; ond bod i’w galon ei datguddio ei hun.
18:3 Wrth ddyfodiad y drygionus y daw diystyrwch, a chyda gogan, gwaradwydd.
18:4 Geiriau yng ngenau gŵr sydd fel dyfroedd dyfnion; a ffynnon doethineb sydd megis afon yn llifo.
18:5 Nid da derbyn wyneb yr annuwiol, i ddymchwelyd y cyfiawn mewn barn.
18:6 Gwefusau y ffôl a ânt i mewn i gynnen, a’i enau a eilw am ddyrnodiau.
18:7 Genau y ffôl yw ei ddinistr, a’i wefusau sydd fagi i’w enaid.
18:8 Geiriau yr hustyngwÿr sÿdd megis archollion, ac a ddisgynnant i gilfachau y bol.
18:9 Y neb a fyddo diog yn ei waith, sydd frawd i’r treulgar.
18:10 Tŵr cadarn yw enw yr AR-<noinclude><references/></noinclude>
jzyfjrjfm2v62o0zv12eea3tfdjn8ss
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/637
104
4001
171812
7507
2026-10-16T16:30:11Z
Tylopous
3717
penodau
171812
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>GLWYDD: ato y rhed y cyfiawn, ac y mae yn ddiogel.
18:11 Cyfoeth y cyfoethog sydd iddo yn ddinas gadarn, ac yn fur uchel, yn ei dyb ei hun.
18:12 Cyn dinistr y balchïa calon gŵr; a chyn anrhydeddy bydd gostyngeiddrwydd.
18:13 Y neb a atebo beth cyn ei glywed, ffolineb a chywilydd fydd iddo.
18:14 Ysbryd gŵr a gynnal ei glefyd ef: ond ysbryd cystuddiedig pwy a’i cyfyd?
18:15 Calon y pwyllog a berchenoga wybodaeth; a chlust y doethion a gais wybodaeth.
18:16 Rhodd dyn a ehanga arno, ac a’i dwg ef gerbron penaethiaid.
18:17 Y cyntaf yn ei hawl a dybir ei fod yn gyfiawn: ond ei gymydog a ddaw ac a’i chwilia ef.
18:18 Y coelbren a wna i gynhennau beidio, ac a athrywyn rhwng cedyrn.
18:19 Anos yw ennill ewyllys da brawd pan ddigier, na dinas gadarn: a’u hymryson sydd megis trosol castell.
18:20 A ffrwyth genau gŵr y diwellir ei fol; ac o ffrwyth y gwefusau y digonir ef.
18:21 Angau a bywyd sydd ym meddiant y tafod: a’r rhai a’i hoffant ef a fwytânt ei ffrwyth ef.
18:22 Y neb sydd yn cael gwraig, sydd yn cael peth daionus, ac yn cael ffafr gan yr ARGLWYDD.
18:23 Y tlawd a ymbil; a’r cyfoethog a etyb yn erwin.
18:24 Y neb y mae iddo gyfeillion, cadwed gariad: ac y mae cyfaill a lŷn wrthyt yn well na brawd.
{{angor|Pennod_19}}{{c|{{uc|Pennod XIX}}.}}
{{angor|19:1}} {{uc|Gwell}} yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, iialr triws ei wefusau, ac yntau yn ffôl.
19:2 Hefyd, bod yr enaid heb wybodaeth, nid yw dda; ar hwn sydd brysur ei draed a becha.
19:3 Ffolineb dyn a ŵyra ei ffordd ef: a’i galon a ymddigia yn erbyn yr ARGLWYDD.
19:4 Cyfoeth a chwanega lawer o gyfeilhon: hond y tlawd a ddidolir oddi wrth ei gymydog.
19:5 Tyst celwyddog ni bydd dieuog: a lluniwr celwyddau ni ddianc.
19:6 Llawer ymbiliant o flaen pendefig: a phawb sydd gyfaill i’r hael.
19:7 Holl frodyr y tlawd â’i casânt ef - pa faint mwy yr ymbellha ei gyfeillion oddi wrtho? er maint a ymnheddo, ni throant ato
19:8 A gaffo ddoethitleb a gâr ei enaid: a gadwo ddeeall a ennill ddaioni.
19:9 Tyst celwyddog ni bydd dieuog, a thraethwr celwyddau a ddifethir.
19:10 Nid gweddaidd i ffôl hyfrydwch: anweddeiddiach o lawer i was arglwyddiaethu ar benaethiaid.
19:11 Synnwyr dyn a oeda ei ddigofaint ef: a harddwch yw iddo fyned drog gamwedd.
19:12 Llid y brenin sydd megis rhuad llew ieuanc: ond ei ffafr ef sydd megis gwlith ar laswellt
19:13 Mab ffôl sydd orthrymder i’w dad: ac ymserth gwraig sydd megis defni parhaus.
19:14 Tŷ a chyfoeth ŷnt etifeddiaeth y tadau: ond rhodd yr ARGLWYDD yw gwraig bwyllog.
19:15 Syrthni a bair drymgwsg: ac enaod twyllodrus a newyna.
19:16 Y neb a gadwo y gorchymyn a geidw ei enaid: a’r neb a esgeuluso ei ffyrdd fydd farw.
19:17 Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rhoddi echwyn i’r ARGLWYDD; a’i rodd a dâl efe iddo drachefn.
19:18 Cerydda dy fab tra fyddo gobaith; ac nac arbeded dy enaid ef, i’w ddifetha.
19:19 Y mawr ei ddig a ddwg gosbedigaeth: canys os ti a’i gwaredi, rhaid i ti wneuthur hynny drachefn.
19:20 Gwrando gyngor, a chymer addysg; fel y byddych ddoeth yn dy ddiwedd.
19:21 Bwriadau lawer sydd yng nghalon dyn: ond cyngor yr ARGLWYDD, hwnnw a saif.
19:22 Deisyfiad dyn yw ei dragaredd ef: a gwell yw y dyn tlawd na’r gŵr celwyddog.
19:23 Ofn yr ARGLWYDD a dywys i fywyd: a’r neb y byddo ganddo a erys yn ddiwall, heb i ddrwg ymweled ag ef.
19:24 Y dyn swrth a gudd ei law yn ei fynwes, ac ni estyn hi at ei enau.
19:25 Taro watwarwr, a’r ehud fydd gyfrwysach: a phan geryddych y deallus, efe a ddeall wybodaeth.
19:26 Mab gwaradwyddus gwarthus<noinclude><references/></noinclude>
iqon0l71wej9a9ep78ss7x711ov12c5
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/638
104
4002
171813
7508
2026-10-16T16:31:23Z
Tylopous
3717
penodau
171813
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>a anrheithia ei dad ac a yrr ei fam ar grwydr
19:27 Fy mab, paid â gwrando yr addysg a bair i ti gyfeiliorni oddi wrth eiriau gwybodaeth.
19:28 Tyst y fall a watwar farn: a geniau y drygionus a lwnc anwiredd
19:29 Barn sydd barod i’r gwatwarwyr, a chleisiau i gefn y ffyliaid.
{{angor|Pennod_20}}{{c|{{uc|Pennod XX}}.}}
{{angor|20:1}} {{uc|Gwatwarus}} yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn: pwy bynnag a siomir ynddi, nid yw ddoeth.
20:2 Megis rhuad flew ieuanc yw ofn y brenin: y mae y neb a’i cyffrô ef i ddigofaint yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun.
20:3 Anrhydeddus yw i ŵr beidio ag ymryson: ond pob ffôl a fyn ymyrraeth.
20:4 Y diog nid ardd, oherwydd oerder y gaeaf; am hynny y cardota efe y cynhaeaf, ac ni chaiff ddim.
20:5 Megis dyfroedd dyfnion yw pwyll yng nghalon gŵr: eto y gŵr call a’i tyn allan.
20:6 Llawer dyn a gyhoedda ei drugarowgrwydd ei hun.- ond pwy a gaiff ŵr ffyddlon?
20:7 Y cyfiawn a rodia yn ei uniondeb: gwyn eu byd ei blant ar ei ôl ef.
20:8 Brenin yn eistedd ar orsedd barn, a wasgar â’i lygaid bob drwg.
20:9 Pwy a ddichon ddywedyd, Mi a lanheais fy nghalon, glân wyf oddi wrth fy mhechod?
20:10 Amryw bwysau, ac amryw fesurau, ffiaidd gan yr ARGLWYDD bob un o’r ddau.
20:11 Bachgen a adwaenir wrth ei waith, ai pur ai uniawn yw ei waith.
20:12 Y glust yn clywed, a’r llygad yn gweled, yr ARGLWYDD a wnaeth bob un o’r ddau.
20:13 Na châr gysgu, rhag dy fyned yn dlawd: agor dy lygaid, fel y’th ddigoner â bara.
20:14 Drwg, drwg, medd y prynwr: ond pan êl o’r neilltu, efe a ymffrostia.
20:15 Y mae aur, a gemau lawer: ond gwefusau gwybodaeth sydd ddodrefnyn gwerthfawr.
20:16 Cymer wisg y gŵr a fachnïo dros estron; a chymer wystl ganddo dros estrones.
20:17 Melys gan ŵr fara trwy ffalsedd: ond o’r diwedd ei enau a lenwir â graean.
20:18 Bwriadau a sicrheir trwy gyngor: a thrwy gyngor diesgeulus dos i ryfela.
20:19 Y neb a fyddo athrodwr a ddatguddia gyfrinach: am hynny nac ymyrr â’r hwn a wenieithio â’i wefusau.
20:20 Y neb a felltithio ei dad neu ei fam, ei gannwyll a ddiffoddir yn y tywyllwch du.
20:21 Etifeddiaeth a geir ar frys yn y dechreuad; ond ei diwedd ni fendithir.
20:22 Na ddywed, Mi a dalaf ddrwg: disgwyl wrth yr ARGLWYDD, ac efe a’th achub.
20:23 Ffiaidd gan yr ARGLWYDD amryw bwysau; a chlorian twyflodrus nid yw dda.
20:24 Oddi wrth yr ARGLWYDD y mae cerddediad gŵr: ond beth a ddeall dyn o’i ffordd ei hun?
20:25 Magl yw i ŵr lyncu peth cysegredig; ac wedi addunedu, ymofyn.
20:26 Brenin doeth a wasgar yr annuwiol, ac a dry yr olwyn arnynt.
20:27 Cannwyll yr ARGLWYDD yw ysbryd dyn, yn chwilio holl gelloedd y bol.
20:28 Trugaredd a ffyddlondeb a gadwant y brenin; a’i orseddfa a gadarnheir trwy drugaredd.
20:29 Gogoniant gwŷr ieuanc yw eu nerth; a harddwch hynafgwyr yw gwallt gwyn.
20:30 Cleisiau briw a lanha ddrwg: felly y gwna dyrnodiau gelloedd y bol.
{{angor|Pennod_21}}{{c|{{uc|Pennod XXI}}.}}
{{angor|21:1}} ''{{uc|Fel}}'' afonydd o ddwfr y mae calon y brenin yn llaw yr ARGLWYDD: efe a’i try hi lle y mynno.
21:2 Pob ffordd gŵr sydd uniawn yn ei olwg ei hun: ond yr ARGLWYDD a bwysa y calonnau.
21:3 Gwneuthur cyfiawnder a barn sydd well gan yr ARGLWYDD nag aberth.
21:4 Uchder golwg, a balchder calon, ac âr yr annuwiol, sydd bechod.
21:5 Bwriadau y diesgeulus sydd at helaethrwydd yn unig: ond yr eiddo pob prysur at eisiau yn unig.
21:6 Trysorau a gasgler â thafod celwyddog, a chwelir megis gwagedd gan y neb sydd yn ceisio angau.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
lx9whjp5fu5x8dfq2j39gadshkdvpm4
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/639
104
4003
171814
7509
2026-10-16T16:31:55Z
Tylopous
3717
penodau
171814
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>21:7 Anrhaith yr annuwiol a’u difetha hwynt, am iddynt wrthod gwneuthur barn.
21:8 Trofaus a dieithr yw ffordd dyn: ond y pur sydd uniawn ei waith.
21:9 Gwell yw bod mewn congl yn nen tŷ, na bod gyda gwraig anynad mewn tŷ eang.
21:10 Enaid yr annuwiol a ddeisyf ddrwg, nid grasol yw ei gynlydog yn ei olwg ef.
21:11 Pan gosber gwatgwarwr, y bydd yr ehud gallach: a phan ddysger y doeth, efe a dderbyh wybodaeth.
21:12 Call y mae y cyfiawn yn ystyried am dŷ yr annuwiol: ond y mae DUW yn difetha y rhai annuwiol am eu drygioni.
21:13 Y neb a gaeo ei glust rhag llef y tlawd, a lefain ei hunan, ac nis gwrandewir ef.
21:14 Rhodd yn y dirgel a dyr ddigofaint; a gwobr yn y fynwes, lid cryf.
21:15 Llawen gan y cyfiawn wneuthur barn: ond dinistr fydd i weithwyr anwiredd.
21:16 Dyn yn myned ar gyfeiliorn oddi ar ffordd deall, a orffwys yng nghynulleidfa y meirw.
21:17 Y neb a garo ddifyrrwch, a ddaw i dlodi: a’r neb a garo win ac olew, ni bydd gyfoethog.
21:18 Yr annuwiol a roddir yn iawn dros y cyfiawn, a’r troseddwr dros yr uniawn.
21:19 Gwell yw aros yn yr anialwch, na chyda graig anynad ddicllon.
21:20 Y mae trysor dymunol, ac olew, yn nhrigfa y doeth; ond dyn ffôl a’u llwnc hwynt.
21:21 Y neb a ddilyno gyfiawnder a thrugaredd, a gaiff fywyd, cyfiawnder, ac anrhydedd.
21:22 Y doeth a ddring i ddinas y cedyrn, ac a fwrw i lawr y cadernid y mae hi yn hyderu arno.
21:23 Y neb a gadwo ei enau a’i dafod, a geidw ei enaid rhag cyfyngder.
21:24 Y balch a’r gwatwarwr uchel, yw enw y gŵr a wnelo beth mewn dicllonedd balch.
21:25 Deisyfiad y diog a’i lladd: canys ei ddwylo a wrthodant weithio:
21:26 Yn hyd y dydd y mae yn fawr ei awydd: ond y cyfiawn a rydd, ac ni arbed.
21:27 Aberth y rhai annuwiol sydd ffiaidd: pa faint mwy, pan offrymant mewn meddwl drwg?
21:28 Tyst celwyddog a ddifethir: ond y gŵr a wrandawo, a lefara yn wastad.
21:29 Gŵr annuwiol a galeda ei wyneb: ond yr uniawn a gyfarwydda ei ffordd.
21:30 Nid oes doethineb, na deall, na chyngor, yn erbyn yr ARGLWYDD.
21:31 Y march a ddarperir erbyn dydd y frwydr: ond ymwared sydd oddi wrth yr ARGLWYDD.
{{angor|Pennod_22}}{{c|{{uc|Pennod XXII}}.}}
{{angor|22:1}} {{uc|Mwy}} dymunol yw enw da na chyfoeth lawer; a gwell yw ffafr dda nag arian, ac nag aur.
22:2 Y tlawd a’r cyfoethog a gydgyfarfyddant: yr ARGLWYDD yw gwneuthurwr y rhai hyn oll.
22:3 Y call a genfydd y drwg, ac a ymgûdd: ond y ffyliaid a ânt rhagddynt, ac a gosbir.
22:4 Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr ARGLWYDD, yw cyfoeth, ac anrhydedd, a bywyd
22:5 Drain a maglau sydd yn ffordd y cyndyn: y neb a gadwo ei enaid, a fydd bell oddi wrthynt hwy.
22:6 Hyfforddia blentyn ym mhen ei ffordd; a phan heneiddio nid ymedy â hi.
22:7 Y cyfoethog a arglwyddiaetha ar y tlawd; a gwas fydd yr hwn a gaffo fenthyg i’r gŵr a roddo fenthyg.
22:8 Y neb a heuo anwiredd a fed flinder; a gwialen ei ddigofaint ef a balla.
22:9 Yr hael ei lygad a fendithir: canys efe a rydd o’i fara i’r tlawd.
22:10 Bwrw allan y gwatwarwr, a’r gynnen ac â allan; ie, yr ymryson a’r gwarth a dderfydd.
22:11 Y neb a garo lendid calon, am ras ei wefusau a gaiff y brenin yn garedig iddo.
22:12 Llygaid yr ARGLWYDD a gadwant wybodaeth; ac efe a ddinistria eiriau y troseddwr.
22:13 Medd y diog, Y mae llew allan; fo’m lleddir yng nghanol yr heolydd.
22:14 Ffos ddofn yw genau gwragedd dieithr: y neb y byddo yr ARGLWYDD yn ddig wrtho, a syrth yno.
22:15 Ffolineb sydd yn rhwym yng nghalon plentyn; ond gwialen cerydd a’i gyr ymhell oddi wrtho.
22:16 Y neb a orthrymo y tlawd er ychwanega ei gyfoeth, a’r neb a roddo i’r cyfoethog, a ddaw i dlodi yn ddiamau.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
pypcmczdkr6qri4dgru50lnzh4rrfje
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/640
104
4004
171815
7510
2026-10-16T16:32:23Z
Tylopous
3717
penodau
171815
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>22:17 Gogwydda dy glust, a gwrando eiriau y doethion, a gosod dy galon ar fy ngwybodaeth.
22:18 Canys peth peraidd yw os cedwi hwynt yn dy galon; cymhwysir hwynt hefyd yn dy wefusau.
22:19 Fel y byddo dy obaith yn yr AR-GLWYDD, yr hysbysais i ti heddiw, ie, i ti.
22:20 Oni ysgrifennais i ti eiriau ardderchog o gyngor a gwybodaeth,
22:21 I beri i ti adnabod sicrwydd geiriau gwirionedd, fel y gallit ateb geiriau y. gwirionedd i’r neb a anfonant atat?
22:22 Nac ysbeilia mo’r tlawd, oherwydd ei fod yn dlawd: ac na orthryma y cystuddiol yn y porth.
22:23 Canys yr ARGLWYDD a ddadlau eu dadl hwynt, ac a orthryma enaid y neb a’u gorthrymo hwynt.
22:24 Na fydd gydymaith i’r dicllon; ac na chydgerdda â gŵr llidiog:
22:25 Rhag i ti ddysgu ei lwybrau ef, a chael magl i’th enaid.
22:26 Na fydd un o’r rhai a roddant eu dwylo,o’r rhai a fachnïant am ddyled.
22:27 Oni bydd gennyt i dalu, paham y cymerai efe dy wely oddi tanat?
22:28 Na symud mo’r hen derfyn, yr hwn a osododd dy dadau.
22:29 A welaist ti ŵr diesgeulus yn ei orchwyl? efe a saif gerbron brenhinoedd, ac ni saif gerbron rhai iselradd.
{{angor|Pennod_23}}{{c|{{uc|Pennod XXIII}}.}}
{{angor|23:1}} {{uc|Pan}} eisteddych i fwyta gyda thywysog, ystyria yn ddyfal beth sydd ger dy fron.
23:2 A gosod gyllell ar dv geg, os byddi ddyn blysig.
23:3 Na ddeisyf ei ddanteithion ef: canys bwyd twyllodrus ydyw.
23:4 Nac ymflina i ymgyfoethogi: dod heibio dy synnwyr dy hun.
23:5 A beri di i’th lygaid ehedeg ar y peth nid yw? canys golud yn ddiau a gymer adenydd, ac a eheda ymaith megis eryr tua’r wybr.
23:6 Na fwyta fwyd y drwg ei lygad; ac na chwennych mo’i ddanteithion ef.
23:7 Canys fel y meddylia yn ei galon, felly efe a ddywed wrthyt, Bwyta ac yf; a’i galon heb fod gyda thi.
23:8 Y tamaid a fwyteaist a fwri i fyny, a’th eiriau melys a golli.
23:9 Na lefara lle y clywo y ffôl: canys efe a ddiystyra ddoethineb dy eiriau.
23:10 Na symud mo’r hen derfyn; ac na ddos i feysydd yr amddifaid:
23:11 Canys eu gwaredwr hwynt sydd nerthol: ac a amddiffyn eu cweryl hwynt yn dy erbyn di.
23:12 Gosod dy galon ar addysg, a’th glustiau ar eiriau gwybodaeth.
23:13 Na thyn gerydd oddi wrth dy blentyn: os curi ef â gwialen, ni bydd efe farw.
23:14 Cur ef â gwialen, a thi a achubi ei enaid rhag uffern.
23:15 Fy mab, os dy galon di fydd doeth, fy nghalon innau a lawenycha;
23:16 Ie, fy arennau a grychneidiant, pan draetho dy wefusau di gyfiawnder.
23:17 Na wynfyded dy galon wrth bechaduriaid: ond aros yn ofn yr ARGLWYDD yn hyd y dydd.
23:18 Canys yn ddiau y mae gwobr; ac ni phalla dy ddisgwyliad.
23:19 Erglyw, fy mab, a bydd ddoeth; a chyfawydda dy galon yn y ffordd.
23:20 Na fydd ymysg y rhai sydd yn meddwi ar win; ymysg y rhai glythion ar gig.
23:21 Canys y meddw a’r glwth a ddaw i dlodi: a chysgu a bair fyned mewn gwisg garpiog.
23:22 Gwrando ar dy dad a’th genhedlodd: ac na ddiystyra dy fam pan heneiddio.
23:23 Prŷn y gwir, ac na werth; felly doethineb, ac addysg, a deall.
23:24 Tad y cyfiawn a orfoledda yn fawr; a’r neb a genhedlo fab doeth, a lawenha o’i blegid.
23:25 Dy dad a’th fam a lawenycha; a’r hon a’th ymddûg a orfoledda.
23:26 Fy mab, moes i mi dy galon; dalied dy lygaid ar fy ffyrdd i.
23:27 Canys ffos ddofn yw putain: a phydew cyfyng yw y ddieithr.
23:28 Ie, hi a gynllwyn fel gwilliad; ac a chwanega bechaduriaid ymysg dynion.
23:29 I bwy y mae gwae? i bwy y mae ochain? i bwy y mae cynnen? i bwy y mae dadwrdd? ac i bwy y mae gwelïau heb achos? i bwy y mae llygaid cochion?
23:30 I’r neb sydd yn aros wrth y gwin: i’r neb sydd yn myned i ymofyn am win cymysgedig.
23:31 Nac edrych ar y gwin pan<noinclude><references/></noinclude>
bt7au6t28vttasej1fme6mmp7r3eqys
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/641
104
4005
171816
7511
2026-10-16T16:33:57Z
Tylopous
3717
penodau
171816
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>fyddo goch, pan ddangoso ei liw yn y cwpan, pan ymgynhyrfo yn iawn.
23:32 Yn y diwedd efe a frath fel sarff, ac a biga fel neidr.
23:33 Dy lygaid a edrychant ar wragedd dieithr, a’th galon a draetha drawsedd.
23:34 Ti a fyddi megis un yn cysgu yng nghanol y môr, ac fel un yn cysgu ym mhen yr hwylbren.
23:35 Curent fi, meddi, ac ni chlafychais; dulient fi, ac nis gwybûm: pan ddeffrowyf, mi a af rhagof; mi a’i ceisiaf drachefn.
{{angor|Pennod_24}}{{c|{{uc|Pennod XXIV}}.}}
{{angor|24:1}} {{uc|Na}} chenfigenna wrth wŷr annuwiol; ac na chwennych fod gyda hwynt:
24:2 Canys eu calon a fyfyria anrhaith, a’u gwefusau a draetha flinder.
24:3 Trwy ddoethineb yr adeiledir tŷ, a thrwy ddeall y sicrheir ef:
24:4 A thrwy wybodaeth y llenwir y celloedd o bob golud gwerthfawr a hyfryd.
24:5 Gŵr doeth sydd nerthol; a gŵr pwyllog a chwanega ei nerth.
24:6 Canys trwy gyngor doeth y gwnei dy ryfel: a thrwy lawer o gynghorwyr y bydd diogelwch.
24:7 Rhy uchel yw doethineb i ffôl; ni egyr efe ei enau yn y porth.
24:8 Y neb a fwriada ddrygau, a elwir yn ysgeler.
24:9 Bwriad y ffôl sydd bechod; a ffiaidd gan ddynion y gwatwarus.
24:10 Os llwfrhei mewn amser cyfyngder, bychan yw dy nerth.
24:11 Gwared y rhai a lusgir i angau: a ymadawit â’r neb sydd barod i’w lladd?
24:12 Os dywedi, Wele, ni wyddom ni hyn: onid yw pwyswr y calonnau yn deall? a’r hwn sydd yn cadw dy enaid, oni wŷr efe? ac oni thâl efe i bob un yn ôl ei weithred?
24:13 Fy mab, bwyta fêl, canys da yw; a’r dil mêl, canys melys yw i’th enau.
24:14 Felly y bydd gwybodaeth doithineb i’th enaid: os cei di hi, yn ddiau fe fydd gwobr, a’th obaith ni phalla.
24:15 Na chynllwyn di, O annuwiol, wrth drigfa y cyfiawn; na anrheithia ei orffwysfa ef.
24:16 Canys seithwaith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd drachefn: ond yr annuwiolion a syrhtinat mewn drygioni.
24:17 Pan syrthio dy elyn, na lawenycha: a phan dramgwyddo, na orfoledded dy galon:
24:18 Rhag i’r ARGLWYDD weled, a bod hynny yn ddrwg yn ei olwg ef, ac iddo droi ei ddig oddi wrtho ef atat ti.
24:19 Nac ymddigia oherwydd y drwgweithredwyr; na chenfigenna wrth yr annuwiolion:
24:20 Canys ni bydd gwobr i’r drygionus: cannwyll yr annuwiolion a ddiffoddir.
24:21 Fy mab, ofna yr ARGLWYDD a’r brenin, ac nac ymyrr â’r rhai anwastad:
24:22 Canys yn ddisymwth y cyfyd cu distryw hwy: a phwy a ŵyr eu dinistr hwy ill dau?
24:23 Dyma hefyd bethau doethion Nid da derbyn wyneb mewn barn.
24:24 Y neb a ddywedo wrth yr annuwiol, Cyfiawn wyt; y bobl a’i melltithiant ef, cenhedloedd a’i ffieiddiant ef:
24:25 Ond i’r neb a’i ceryddo, y bydd hyfrydwch; a bendith dda a ddigwydd iddynt.
24:26 Pawb a gusana wefusau y neb a atebo eiriau uniawn.
24:27 Darpara dy orchwyl oddi allan, a dosbartha ef i ti yn y maes: ac wedi hynny adeilada dy dŷ.
24:28 Na fydd dyst heb achos yn erbyn dy gymydog: ac na huda â’th wefusau
24:29 Na ddywed, Mi a wnaf iddo ef fel y gwnaeth yntau i minnau; mi a dalaf i’r gŵr yn ôl ei weithred.
24:30 Mi a euthum heibio i faes y dyn diog, a heibio i winllan yr angall;
24:31 Ac wele, codasai drain ar hyd-ddo oll; danadl a guddiasai ei wyneb ef; a’i fagwyr gerrig a syrthiasai i lawr.
24:32 Gwelais hyn, a mi a ystyriais yn ddwys; edrychais arno, a chymerais addysg.
24:33 Ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig wasgu dwylo i gysgu:
24:34 Felly y daw dy dlodi megis ymdeithydd, a’th angen fel gŵr arfog.
{{angor|Pennod_25}}{{c|{{uc|Pennod XXV}}.}}
{{bach|1 ''Addysg ynghylch brenhinoedd,'' 8 ''a gochel achosion i ymrafaelio.''}}
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
67v0dwsgf9ir9rn585a9hj7h1dxiols
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/642
104
4006
171817
7512
2026-10-16T16:35:51Z
Tylopous
3717
penodau
171817
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|25:1}} {{uc|Dyma}} hefyd ddiarhebion Solomon, y rhai a gasglodd gwŷr Heseceia brenin Jwda.
25:2 Anrhydedd DUW yw dirgelu peth: ond anrhydedd brenin yw chwilio peth allan.
25:3 Y nefoedd am uchder, y ddaear am ddyfnder, a chalon brenhinoedd, ni ellir eu chwilio.
25:4 Tyn yr amhuredd oddi wrth yr arian, a daw i’r gof arian lestr.
25:5 Tyn yr annuwiol o olwg y brenin, a’i orseddfa ef a gadarnheir trwy gyfiawnder.
25:6 Nac ymogonedda gerbron y brenin; ac na saf yn lle gwŷr mawr.
25:7 Canys gwell i ti ddywedyd wrthyt, Tyred yma i fyny, na’th fwrw yn is gerbron pendefig yr hwn a welodd dy lygaid.
25:8 Na ddos allan i gynhennu ar frys: rhag na wypych beth a wnelych yn ei diwedd, wedi dy gywilyddio gan dy gymydog.
25:9 Ymresyma â’th gymydog ei hun; ond na ddatguddia gyfrinach i arall:
25:10 Rhag i’r neb a fyddo yn gwrando ddwyn gwarth arnat ti; ac i’th gywilydd na thro ymaith.
25:11 Gair a ddyweder mewn amser sydd megis afalau aur mewn gwaith arian yn cerfiedig.
25:12 Ceryddwr doeth i’r glust a wrandawo, sydd fel anwyldlws euraid, a gwisg o aur rhagorol.
25:13 Megis oerder eira yn amser cynhaeaf, yw cennad ffyddlon i’r rhai a’i gyrrant: canys efe a lawenycha enaid ei feistriaid.
25:14 Y neb a ymffrostio o achos gau rodd, sydd gyffelyb i gymylau a gwynt heb law.
25:15 Trwy hirymaros y bodlonir pendefig: a thafod esmwyth a dyr asgwrn.
25:16 Pan gaffech fêl, bwyta a’th wasanaetho: rhag wedi dy lenwi ohono, i ti ei chwydu ef.
25:17 Cadw dy droed allan o dŷ dy gymydog: rhag iddo flino arnat, a’th gasáu.
25:18 Y neb a ddygo gamdystiolaeth yn erbyn ei gymydog, sydd megis gordd, a chleddyf, a saeth lem.
25:19 Hyder ar ffalswr yn riydd cyfyngder, sydd megis dant wedi ei dorri, a throed wedi tyrfu.
25:20 Fel yr hwn a ddygo ymaith wisg yn amser oerfel, ac fel finegr ar nitr, felly y mae yr hwn sydd ya canu caniadau i galon drist.
25:21 Os dy elyn a newyna, portha ef â bara; ac os sycheda, dod iddo ddiod i’w hyfed:
25:22 Canys marwor a bentyrri ar ei ben ef; a’r ARGLWYDD a dâl i ti.
25:23 Gwynt y gogledd a yrr y glaw ymaith: felly y gyr wynepryd dicllon dafod athrotgar.
25:24 Gwell yw trigo mewn congl yn nen tŷ, na chyda gwraig anynad mewn tŷ eang.
25:25 Fel dyfroedd oerion i enaid sychedig, yw newyddion da o wlad bell.
25:26 Gŵr cyfiawn wedi syrthio i lawr gerbron y drygionus, sydd megis ffynnon wedi ei chymysgu â gofer budr.
25:27 Nid da bwyta llawer o fâl: ac felly chwilio eu hanrhydedd, nid anrhydrdd yw.
25:28 Y neb ni byddo ganddo atal ar ei ysbryd ei hun, sydd megis dinas ddrylliog heb gaer.
{{angor|Pennod_26}}{{c|{{uc|Pennod XXVI}}.}}
{{bach|1 ''Addysg ynghylch ynfydion,'' 13 ''a rhai segurllyd;'' 17 ''ac ynghylch dynion cynhennus, trafferthus.''}}
{{angor|26:1}} {{uc|Megis}} ôd yr haf, neu law y cynhaeaf, felly nid cymwys i’r ffôl anrhydedd.
26:2 Fel yr aderyn wrth grwydro, a’r wennol wrth ehedeg, felly y felltith ddiachos ni ddaw.
26:3 Ffrewyll i farch, ffrwyn i asyn, a gwialen i gefn yr ynfyd.
26:4 Na ateb ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd; rhag dy fod yrt gyffelyb iddo.
26:5 Ateb yr ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd; rhag iddo fod yn ddoeth yn ei olwg ei hun.
26:6 Y neb a yrro negesau gydag un angall, a dyr ymaith y traed, ac a yf golled.
26:7 Nid gogyhyd esgeiriau y cloff: felly dameg yng ngenau ffyliaid.
26:8 Fel un yn rhwymo carreg mewn tafl; felly y gwna y neb a anrhydeddo ffôl.
26:9 Fel draen yn myned i law dyn meddw; felly y mae dihareb yng ngenau yr angall.
26:10 Y DUW mawr yr hwn a luniodd bob peth, sydd yn gobrwyo y ffôl ac yn talu i’r troseddwyr.
26:11 Megis y mae y ci yn dychwelyd at ei chwydfa; felly y mae y ffôl yn dychwelyd at ei ffolineb.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
q1a32u7id0oolz8n0gipjrwfl4jt9op
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/643
104
4007
171819
7513
2026-10-17T04:25:53Z
Tylopous
3717
penodau
171819
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>26:12 A weli di ŵr doeth yn ei olwg ei hun? gwell yw y gobaith am ffôl nag am hwnnw.
26:13 Y mae llew mawr ar y ffordd, medd y diog, y mae llew yn yr heolydd.
26:14 Fel y drws yn troi ar ei golyn, felly y try y diog yn ei wely.
26:15 Y diog a guddia ei law yn ei fynwes; blin ganddo ei hestyn at ei enau drachefn.
26:16 Doethach yw y diog yn ei olwg ei hun, na seithwyr yn adrodd rheswm.
26:17 Y neb wrth fyned heibio a ymyrro â chynnen ni pherthyn iddo, sydd megis un yn cymryd ci erbyn ei glustiau.
26:18 Fel dyn gwallgofus a daflo bentewion tân, saethau, ac arfau marwolaeth;
26:19 Felly y mae y gŵr a dwyllo ei gymydog, ac a ddywed, Onid cellwair yr ydwyf?
26:20 Megis pan ddarfyddo y coed, y diffydd y tân: felly pryd na byddo athrodwr, derfydd y gynnen.
26:21 Fel glo i’r marwor, a choed i’r tân; felly y mae gŵr cynhennus i ennyn cynnen.
26:22 Geiriau yr athrodwr sydd megis archollion, a hwy a ddisgynnant i gelloedd y bol.
26:23 Fel sorod arian wedi eu bwrw dros ddrll o lestr pridd; felly y mae gwefusau poeth, a chalon ddrwg.
26:24 Y digasog a ragrithia â’i wefusau, ac yn ei galon yn bwriadu twyll:
26:25 Pan ddywedo efe yn deg, nac ymddiried iddo: canys y mae saith ffieidd-dra yn ei galon ef.
26:26 Trwy gyfrwyster y cuddir digasedd: ond ei ddrygioni a ddatguddir yn y gynulleidfa.
26:27 Y neb a gloddio bydew, a syrth ynddo; a’r neb a dreiglo garreg, ato y dychwel.
26:28 Y tafod celwyddog a gasa y neb a gystuddio efe; a’r genau gwenieithus a wna ddinistr.
{{angor|Pennod_27}}{{c|{{uc|Pennod XXVII}}.}}
{{bach|1 ''Ynghylch serch arnom ein hunain.'' 5 ''Am wir gariad.'' 11 ''Gofalu am ochel rhwystrau:'' 23 ''a gofalu dros dŷ a thylwyth.''}}
{{angor|27:1}} {{uc|Nac}} ymffrostia o’r dydd yfory: canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod.
27:2 Canmoled arall dydi, ac nid dy enau dy hun; estron, ac nid dy wefusau dy hunan.
27:3 Trom yw y garreg, a phwysfawr yw y tywod: ond digofaint y ffôl sydd drymach na hwy ill dau.
27:4 Creulon yw llid, fel llifddwfr yw digofaint; a phwy a ddichon sefyll o flaen cenfigen?
27:5 Gwell yw cerydd cyhoedd na chariad cuddiedig.
27:6 Ffyddlon yw archollion y caredig: ond cusanau y digasog ydynt dwyllodrus.
27:7 Y dyn llawn a fathra y dil mêl: ond i’r newynog pob peth chwerw sydd felys.
27:8 Gŵr yn ymdaith o’i le ei hun, sydd debyg i aderyn yn cilio o’i nyth.
27:9 Olew ac arogl-darth a lawenycha y galon; felly y gwna mwynder cyfaill trwy gyngor ffyddlon.
27:10 Nac ymado â’th gydymaith dy hun, a chydymaith dy dad; ac na ddos i dŷ dy frawd yn amser dy orthrymder: canys gwell yw cymydog yn agos na brawd ymhell.
27:11 Bydd ddoeth, fy mab, a llawenycha fy nghalon; fel y gallwyf ateb i’r neb a’m gwaradwyddo.
27:12 Y call a wêl y drwg yn dyfod, ac a ymgûdd: ond yr angall a ânt rhagddynt, ac a gosbir.
27:13 Cymer wisg yr hwn a fachnïo dros y dieithr; a chmner wystl ganddo dros y ddieithr.
27:14 Y neb a fendithio ei gydymaith â llef uchel y bore pan gyfodo, cyfrifir hyn yn felltith iddo.
27:15 Defni parhaus ar ddiwrnod glawog, a gwraig anynad, cyffelyb ydynt.
27:16 Y mae yr hwn a’i cuddio hi, megis yn cuddio y gwynt, ac olew ei ddeheulaw, yr hwn a ymddengys.
27:17 Haearn a hoga haearn: felly gŵr a hoga wyneb ei gyfaill.
27:18 Y neb a gadwo ei ffigysbren, a fwÿtÿ o’i ffrwyth ef: a’r neb a wasanaetho ei feistr, a ddaw i anrhydedd.
27:19 Megis mewn dwfr y mae wyneb yn ateb i wyneb: felly y mae calon dyn i ddyn.
27:20 Ni lenwir uffern na distryw: felly ni lenwir llygaid dyn.
27:21 Fel y tawddlestr i’r arian, a’r ffwrnais i’r aur: felly y mae gŵr i’w glod.
27:22 Er i ti bwyo ffôl mewn morter â phestl ymhlith gwenith, eto nid ymedy ei ffolineb ag ef.
27:23 Edrych yn ddyfal ar dy anifeiliaid, a gofala am dy braidd.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
d5t4jtbw919vje0ffybjsgdbr6uzr5a
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/644
104
4008
171820
7514
2026-10-17T04:28:33Z
Tylopous
3717
penodau
171820
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>27:24 Canys cyfoeth ni phery byth: ac a bery y goron o genhedlaeth i genhedlaeth?
27:25 Y gwair a flaendardda, a’r glaswellt a ymddengys, a llysiau y mynyddoedd a gesglir.
27:26 Yr ŵyn a’th ddillada, ac o’r geifr y cei werth tir.
27:27 Hefyd ti a gei ddigon o laeth geifr yn fwyd i ti, yn fwyd i’th dylwyth, ac yn gynhaliaeth i’th lancesau.
{{angor|Pennod_28}}{{c|{{uc|Pennod XXVIII}}.}}
{{bach|''Athrawiaethau cyffredinol ynghylch annuwioldeb, a duwiol burdeb.''}}
{{angor|28:1}} {{uc|Yr}} annuwiol a ffy heb neb yn ei erlid: ond y rhai cyfiawn sydd hy megis llew.
28:2 Oherwydd camwedd gwlad, aml fydd ei phenaethiaid: ond lle y byddo gŵr pwyllog synhwyrol, y pery hi yn hir.
28:3 Gŵr tlawd yn gorthrymu tlodion, sydd debyg i liffddwfr yr hwn ni ad luniaeth.
28:4 Y rhai a ymadawant â’r gyfraith, a ganmolant yr annuwiol: ond y neb a gadwant y gyfraith, a ymladd â hwynt.
28:5 Dynion annuwiol ni ddeallant farn: ond y neb a geisiant yr ARGLWYDD, a ddeallant bob peth.
28:6 Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, na’r traws ei ffyrdd, er ei fod yn gyfoethog.
28:7 Y neb a gadwo y gyfraith, sydd fab deallus: ond y neb a fyddo gydymaith i ond y loddestwyr, a gywilyddia ei dad.
28:8 Y neb a chwanego ei gyfoeth trwy usuriaeth ac ocraeth, sydd yn casglu i’r neb a fydd trugarog wrth y tlawd.
28:9 Y neb a dry ei glust ymaith rhag gwrando’r gyfraith, fydd ffiaidd ei weddi hefyd.
28:10 Y neb a ddeno y cyfiawn i ffordd ddrwg a syrth yn ei bydew ei hun: ond y cyfiawn a feddianna ddaioni.
28:11 Gŵr cyfoethog sydd ddoeth yn ei olwg ei hun: ond y tlawd deallus a’i chwilia ef allan.
28:12 Pan fyddo llawen y cyfiawn, y mae anrhydedd mawr: ond pan ddyrchafer yr annuwiolion, y chwilir am ddyn.
28:13 Y neb a guddio ei bechodau, ni lwydda: ond y neb a’u haddefo, ac a’u gadawo, a gaiff drugaredd.
28:14 Gwyn ei fyd y dyn a ofno yn wastadol: ond y neb a galedo ei galon, a ddigwydda i ddrwg.
28:15 Fel y llew rhuadus, a’r arth wancus, yw llywydd annuwiol i bobl dlodion.
28:16 Penadur heb ddeall sydd yn fawr ei drawsedd: ond y neb a gasao gybydd-dra, a estyn ei ddyddiau.
28:17 Dyn a wnelo drawsedd i waed neb, a ffy i’r pwll; nac atalied neb ef.
28:18 Y neb a rodio yn uniawn, a waredir: ond y neb a fyddo traws ei ffyrdd, a syrth ar unwaith.
28:19 Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, a gaiff ddigon o dlodi.
28:20 Gŵr ffyddlon a fydd aml ei fendithion: ond y neb a brysuro i fod yn gyfoethog, ni bydd digerydd.
28:21 Nid da derbyn wyneb: canys y cyfryw ŵr am damaid o fara a wna gam.
28:22 Gŵr drwg ei lygad a brysura i ymgyfoethogi: ond bychan y gŵyr efe y daw tlodi arno.
28:23 Y neb a geryddo ddyn, a gaiff yn y diwedd fwy o ffafr na’r neb a draetho weniaith â’i dafod.
28:24 Y neb a ysbeilio ei dad neu ei fam, ac a ddywed, Nid yw hyn gamwedd, sydd gymar i ddinistriwr.
28:25 Gŵr uchel ei feddwl a ennyn gynnen: i ond y neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, a wneir yn fras.
28:26 Y neb a ymddiriedo yn ei galon ei hun, sydd ffôl: ond y neb a rodio yn bwyllog, a achubir.
28:27 Y neb a roddo i’r tlawd, ni bydd angen arno: ond y neb a guddio ei lygaid, a gaiff lawer o felltithion.
28:28 Pan ddyrchafer yr annuwiol, dynion a ymguddia: ond wedi darfod amdanynt, yr amlheir y cyfiawn.
{{angor|Pennod_29}}{{c|{{uc|Pennod XXIX}}.}}
{{bach|1 ''Addysg ynghylch llywodraeth gyffredinol,'' 15 ''a neillduol.'' 22 ''Ynghylch llid, balchder, lladrad, llyfrder, ac anŵreidd-dra, a llygredigaeth swyddogion.''}}
{{angor|29:1}} {{uc|Gwr}} a geryddir yn fynych ac a galeda ei war, a ddryllir yn ddisymwth, fel na byddo meddyginiaeth.
29:2 Pan amlhaer y cyfiawn, y bobl a lawenychant: ond pan fyddo yr annuwiol yn llywodraethu, y bobl a ocheneidia.
29:3 Gŵr a garo ddoethineb a lawen-<noinclude><references/></noinclude>
2bt4bqmca2n4wxsr117ty9thg8buqib
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/645
104
4009
171821
7515
2026-10-17T04:32:06Z
Tylopous
3717
penodau
171821
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ycha ei dad: ond y neb a fyddo gyfaill i buteiniaid, a ddifa ei dda.
29:4 Brenin trwy fam a gadarnha y wlad: ond y neb a garo anrhegion, a’i dinistria hi.
29:5 Y gŵr a ddywedo weniaith wrth ei gymydog, sydd yn taenu rhwyd i’w dreaed ef.
29:6 Yng nghamwedd dyn drwg y mae magl: ond y cyfiawn a gân ac a fydd lawen.
29:7 Y cyfiawn a ystyria fater y tlodion: ond yr annuwiol ni ofala am ei wybod.
29:8 Dynion gwatwarus a faglant ddinas: ond y doethion a droant ymaith ddigofaint.
29:9 Os gŵr doeth a ymryson â dyn ffôl, pa un bynnag a wnêl ai digio ai chwerthin, eto ni bydd llonyddwch.
29:10 Gwŷr gwaedlyd a gasânt yr uniawn: ond yr uniawn a gais ei enaid ef
29:11 Y ffôl a dywallt ei holl feddwl: ond gŵr doeth a’i hatal hyd yn ôl.
29:12 Os llywydd a wrendy ar gelwydd, ei holl weision fyddant annuwiol.
29:13 Y tlawd a’r twyllodrus a gydgyfarfyddant; a’r ARGLWYDD a lewyrcha eu llygaid hwy ill dau.
29:14 Y brenin a farno y tlodion yn ffyddlon, ei orsedd a sicrheir byth.
29:15 Y wialen a cherydd a rydd ddoethineb: ond mab a gaffo ei rwysg ei hun, a gywilyddia ei fam.
29:16 Pan amlhao y rhai annuwiol, yr amlha camwedd: ond y rhai cyfiawn a welant eu cwymp hwy.
29:17 Cerydda dy fab, ac efe a bair i ti lonyddwch; ac a bair hyfrydwch i’th enaid.
29:18 Lle ni byddo gweledigaeth, methu a wna y bobl: ond y neb a gadwo y gyfraith, gwyn ei fyd ef.
29:19 Ni chymer gwas addysg ar eiriau: canys er ei fod yn deall, eto nid etyb.
29:20 A weli di ddyn prysur yn ei eiriau? gwell yw y gobaith am y ffôl nag amdano ef.
29:21 Y neb a ddygo ei was i fyny yn foethus o’i febyd, o’r diwedd efe a fgdd fel mab iddo.
29:22 Gŵr dicllon a ennyn gynnen; a’r llidiog sydd aml ei gamwedd.
29:23 Balchder dyn a’i gostwng ef: ond y gostyngedig o ysbryd a gynnal anrhydedd.
29:24 Y neb a fo cyfrannog â lleidr, a gasâ ei enaid ei hun: efe a wrendy ar felltith, ac nis mynega.
29:25 Ofn dyn sydd yn dwyn magl: ond y neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD a ddyrchefir.
29:26 Llawer a ymgeisiant ag wyneb y llywydd: ond oddi wrth yr ARGLWYDD y mae barn pob dyn.
29:27 Ffiaidd gab y cyfiawn ŵr anghyfiawn: a ffiaidd gan yr annuwiol ŵr uniawn ei ffordd.
{{angor|Pennod_30}}{{c|{{uc|Pennod XXX}}.}}
{{bach|1 ''Cyffes Agur o’i ffydd.'' 7 ''Dau bwngc ei weddi ef.'' 10 ''Na ddylid gwneuthur cam â’r rhai gwaelaf.'' 11 ''Pedair cenhedlaeth ddrygionus.'' 15 ''Pedwar peth ni ellir eu digoni.'' 17 ''Na ddylid dïystyru tad a mam.'' 18 ''Pedwar peth anhawdd eu gwybod.'' 21 ''Pedwar peth ni ellir eu dïoddef.'' 24 ''Pedwar peth doeth dros ben.'' 29 ''Pedwar peth mawrfrydig.'' 32 ''Rhaid yw achub blaen digofaint.''}}
{{angor|30:1}} {{uc|Geiriau}} Agur mab Jace, sef y broffwydoliaeth: y gŵr a lefarodd wrth Ithiel, meddaf, ac Ucal.
30:2 Yn wir yr ydwyf yn ffolach na neb, ac nid oes deall dyn gennyf.
30:3 Ni ddysgais ddoethineb, ac nid oes gennyf wybodaeth y sanctaidd.
30:4 ‘Pwy a esgynnodd i’r nefoedd, neu a ddisgynnodd? pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddyrnau? pwy a rwymodd y dyfroedd mewn dilledyn? pwy a gadarnhaodd holl derfynau y ddaear? beth yw ei enw ef, a pheth yw enw ei fab, os gwyddost?
30:5 Holl air DUW sydd bur: tarian yw efe i’r neb a ymddiriedant ynddo.
30:6 Na ddyro ddim at ei eiriau ef, rhag iddo dy geryddu, a’th gael yn gelwyddog.
30:7 Dau beth yr ydwyf yn eu gofyn gennyt, na ormedd hwynt i mi cyn fy marw.
30:8 Tyn ymhell oddi wrthyf wagedd a chelwydd; na ddyro i mi na thlodi na chyfoeth; portha fi â’m digoedd o fara.
30:9 Rhag i mi ymlenwi, a’th wadu di, a dywedyd, Pwy yw yr ARGLWYDD? a rhag i mi fyned yn dlawd, a lladrata, a chymryd enw fy Nuw yn ofer
30:10 Nac achwyn ar was wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio, a’th gael yn euog.
30:11 Y mae cenhedlaeth a felltithia ei thad, a’i mam ni fendithia.
30:12 Y mae cenhedlaeth lân yn ei golwg ei hun, er nas glanhawyd oddi wrth ei aflendid.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
s9mtbvoq22fhjzz1n5sphe4i3lnqpe7
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/646
104
4010
171822
7516
2026-10-17T04:33:56Z
Tylopous
3717
penodau
171822
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>30:13 Y mae cenhedlaeth, O mor uchel yw eu llygaid! a’i hamrantau a ddyrchafwyd.
30:14 Y mae cenhedlaeth a’i dannedd yn gleddyfau, a’i childdannedd yn gyllyll, i ddifa y tlodion oddi ar y ddaear, a’r anghenus o blith dynion.
30:15 I’r gele y mae dwy ferch, yn llefain, Moes, moes. Tri pheth ni ddiwellir: ie, pedwar peth ni ddywedant byth, Digon:
30:16 Y bedd; y groth anihlantadwy; y ddaear ni ddiwellir â dyfroedd; a’r tân ni ddywed, Digon.
30:17 Llygad yr hwn a watwaro ei dad, ac a ddiystyro ufuddhau ei fam, a dynn cigfrain y dyffryn, a’r cywion eryrod a’i bwyty.
30:18 Tri pheth sydd guddiedig i mi; ie, pedwar peth nid adwaen:
30:19 Ffordd eryr yn yr awyr, ffordd neidr yfed ar graig, ffordd llong yng nghanol y môr, a ffordd gŵr gyda morwyn.
30:20 Felly y mae ffordd merch odinebus; hi a fwyty, ac a sych ei safn, ac a ddywed, Ni wneuthum i anwiredd,
30:21 Oherwydd tri pheth y cynhyrfir y ddaear, ac oherwydd pedwar, y rhai ni ddichon hi eu dioddef:
30:22 Oherwydd gwas pan deyrnaso; ac un ffôl pan lanwer ef o fwyd;
30:23 Oherwydd gwraig atgas pan brioder hi; a llawforwyn a elo yn aeres i’w meistres.
30:24 Y mae pedwar peth bychain ar y ddaear, ac eto y maent yn ddoeth iawn:
30:25 Nid yw y morgrug bobl nerthol, eto y maent yn darparu eu lluniaeth yr haf;
30:26 Y cwningod nid ydynt bobl rymus, eto hwy a wnânt eu tai yn y graig;
30:27 Y locustiaid nid oes brenin iddynt, eto hwy a ânt allan yn dorfeydd;
30:28 Y pryf copyn a ymafaela â’i ddwylo, ac y mae yn llys y brenin.
30:29 Y mae tri pheth a gerddant yn hardd, ie, pedwar peth a rodiant yn weddus:
30:30 Llew cryf ymhlith anifeiliaid, ni thry yn ei ôl er neb;
30:31 Milgi cryf yn ei feingefn, a bwch, a brenin, yr hwn ni chyfyd neb yn ei erbyn.
30:32 Os buost ffôl yn ymddyrchafu, ac os meddyliaist ddrwg, dyro dy law ar dy enau.
30:33 Yn ddiau corddi llaeth a ddwg allan a’r ymenyn, a gwasgu ffroenau a dynn allan waed: felly cymell llid a ddwg allan gynnen.
{{angor|Pennod_31}}{{c|{{uc|Pennod XXXI}}.}}
{{bach|1 ''Addysg Lemuel ynghylch diweirdeb a chymmedrolder.'' 6 ''Bod yn rhaid cysuro ac amddiffyn y cystuddiedig.'' 10 ''Clod a chynheddfau gwraig dda.''}}
{{angor|31:1}} {{uc|Geiriau}} Lemwel frenin; y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo.
31:2 Pa beth, fy mab? pa beth, mab fy nghroth? ie, pa beth, mab fy addunedau?
31:3 Na ddyro i wragedd dy nerth; na’th ffyrdd i’r hyn a ddifetha frenhinoedd.
31:4 Nid gweddaidd i frenhinoedd, O Lemwel, gweddaidd i frenhinoedd yfed gwin; nac i benaduriaid ddiod gadarn:
31:5 Rhag iddynt yfed, ac ebargofi y ddeddf; a newidio barn yr un o’r rhai gorthrymedig.
31:6 Rhoddwch ddiod gadarn i’r neb sydd ar ddarfod amdano; a gwin i’r rhai trwm eu calon.
31:7 Yfed efe, fel yr anghofio ei dlodi; ac ac un na feddylio am ei flinfyd mwy.
31:8 Agor dy enau dros y mud, yn achos holl blant dinistr.
31:9 Agor dy enau, barn yn gyfiawn; a dadlau dros y tlawd a’r anghenus.
31:10 Pwy a fedr gael gwraig rinweddol? gwerthfawrocach yw hi na’r carbuncl.
31:11 Calon ei gŵr a ymddiried ynddi, fel na bydd arno eisiau anrhaith.
31:12 Hi a wna iddo les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd.
31:13 Hi a gais wla^n a llin, ac a’i gweithia a’i dwylo yn ewyllysgar.
31:14 Tebyg yw hi i long marsiandwr; hi a ddwg ei hymborth o bell.
31:15 Hi a gyfyd hefyd liw nos, ac a rydd fwyd i’w thylwyth, a’u dogn i’w llancesau.
31:16 Hi a feddwl am faes, ac a’i prŷn ef; â gwaith ei dwylo hi a blanna winllan.
31:17 Hi a wregysa ei llwynau â nerth, ac a gryfha ei breichiau.
31:18 Hi a wêl fod ei marsiandiaeth yn fuddiol; ni ddiffydd ei channwyll ar hyd y nos.
31:19 Hi a rydd ei llaw ar y werthyd, a’i llaw a ddeil y cogail.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
jn42r1qtxhhjbgi9ge15wq19sbrs73c
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/647
104
4011
171823
171297
2026-10-17T04:36:16Z
Tylopous
3717
penodau
171823
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Diarhebion"/>31:20 Hi a egyr ei llaw i’r tlawd, ac a estyn ei dwylo i’r anghenus.
31:21 Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eira; canys ei holl dŷ hi a ddilledir ag ysgarlad.
31:22 Hi a weithia iddi ei hun garpedau; ei gwisg yw sidan a phorffor.
31:23 Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyda henuriaid y wlad.
31:24 Hi a wna liain main, ac a’i gwerth, ac a rydd wregysau at y marsiandwr.
31:25 Nerth ac anrhydedd yw ei gwisg; ac yn yr amser a ddaw hi a chwardd.
31:26 Hi a egyr ei genau yn ddoeth: a chyfraith trugaredd sydd ar ei thafod hi.
31:27 Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thŷ: ac ni fwyty hi fara seguryd.
31:28 Ei phlant a godant, ac a’i galwant yn ddedwydd; ei gŵr hefyd, ac a’i canmol hi:
31:29 Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll.
31:30 Siomedig yw ffafr, ac ofer yw tegwch; ond benyw yn ofni yr ARGLWYDD, hi a gwy gaiff glod.
31:31 Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylo; a chanmoled ei gweithredoedd hi yn y pyrth.
<section end="Diarhebion"/>
<section begin="Pregethwr"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Llyfr Ecclesiastes,}}}}<br>
{{uc|Neu y Pregethwr.}}}}
{{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}}
{{bach|1 ''Y Pregethwr yn dangos ofered gorchwylion dyn:'' 4 ''o herwydd bod y creaduriaid yn ddïorphwys yn eu cylchoedd;'' 9 ''nad ydynt yn dwyn dim newydd, a bod yr hen bethau wedi eu hebargofi:'' 12 ''ac o herwydd mai felly y cafodd efe wrth chwilio doethineb.''}}
{{angor|1:1}} {{uc|Geiriau}} y Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem.
1:2 Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr, gwagedd o wagedd; gwagedd yw y cwbl.
1:3 Pa fudd sydd i ddyn o’i holl lafur a gymer efe dan yr haul?
1:4 Un genhedlaeth a â ymaith, a chenhedlaeth arall a ddaw: ond y ddaear a saif byth.
1:5 Yr haul hefyd a gyfyd, a’r haul a fachlud, ac a brysura i’w le lle y mae yn codi.
1:6 Y gwynt a â i’r deau, ac a amgylcha i’r gogledd: y mae yn myned oddi amgylch yn wastadol, y mae y gwynt yn dychwelyd yn ei gwmpasoedd.
1:7 Yr holl afonydd a redant i’r môr, eto nid yw y môr yn llawn: o’r lle y daeth yr afonydd, yno y dychwelant eilwaith.
1:8 Pob peth sydd yn llawn blinder; ni ddichon dyn ei draethu: ni chaiff y llygad ddigon o edrych, ac ni ddigonir y glust a chlywed.
1:9 Y peth a fu, a fydd; a’r peth a wnaed, a wneir: ac nid oes dim newydd dan yr haul.
1:10 A oes dim y gellir dywedyd amdano, Edrych ar hwn, dyma beth newydd? efe fu eisoes yn yr hen amser o’n blaen ni.
1:11 Nid oes goffa am y pethau gynt; ac ni bydd coffa am y pethau a ddaw, gan y rhai a ddaw ar ôl.
1:12 Myfi y Pregethwr oeddwn frenin ar Israel yn Jerwsalem;
1:13 Ac a roddais fy mryd ar geisio a chwilio trwy ddoethineb, am bob peth a wnaed dan y nefoedd: y llafur blin yma a roddes Duw ar feibion dynion i ymguro ynddo.
1:14 Mi a welais yr holl weithredoedd a wnaed dan haul; ac wele, gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl.
1:15 Ni ellir unioni yr hyn sydd gam, na chyfrif yr hyn sydd ddiffygiol.
1:16 Mi a ymddiddenais â’m calon fy hun, gan ddywedyd, Wele, mi a euthum yn fawr, ac a gesglais ddoethineb tu hwnt i bawb a fu o’m blaen i yn Jerwsalem; a’m calon a ddeallodd lawer o ddoethineb a gwybodaeth.
1:17 Mi a roddais fy nghalon hefyd i wybod doethineb, ac i wybod ynfydrwydd a ffolineb: mi a wybûm fod hyn hefyd yn orthrymder ysbryd.
1:18 Canys mewn llawer o ddoethineb y mae llawer o ddig: a’r neb a chwanego wybodaeth, a chwanega ofid.
{{nop}}<section end="Pregethwr"/><noinclude><references/></noinclude>
5k1uxpnnr0f6aix69h7browsh99d18o
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/648
104
4012
171824
7521
2026-10-17T04:54:46Z
Tylopous
3717
penodau
171824
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}}
{{bach|1 ''Ofered gwaith dyn yn ei ddifyrrwch.'' 12 ''Er bod y doeth yn well na’r ynfyd, etto yr un diwedd sydd i bob un o’r ddau.'' 18 ''Ofered llafur dyn, gan fod yn rhaid iddo adael y cwbl, ni ŵyr i bwy.'' 24 ''Nad oes dim well na chymmeryd llawenydd o’n llafur; etto rhodd Duw yw hynny.''}}
{{angor|2:1}} {{uc|Mi}} a ddywedais yn fy nghalon, Iddo yn awr, mi a’th brofaf a llawenydd; am hynny cymer dy fyd yn ddifyr: ac wele, hyn hefyd sydd wagedd.
3:2 Mi a ddywedais am chwerthin, Ynfyd yw: ac am lawenydd. Pa beth a wna?
3:3 Mi a geisiais yn fy nghalon ymroddi i win, (eto yn arwain fy nghalon mewn doethineb,) ac i gofleidio ffolineb, hyd oni welwn beth oedd y da hwnnw i feibion dynion, yr hyn a wnânt hwy dan y nefoedd holl ddyddiau eu bywyd.
2:4 Mi a wneuthum i mi waith mawr; mi a adeiledais i mi dai; mi a blennais i mi winllannoedd:
2:5 Mi a wneuthum erddi a pherllannau, ac a blennais ynddynt brennau o bob ffrwyth:
2:6 Mi a wneuthum lynnau dwfr, i ddyfrhau â hwynt y llwyni sydd yn dwyn coed;
2:7 Mi a ddarperais weision a morynion; hefyd yr oedd i mi gaethweision tŷ, ie, yr oeddwn i yn berchen llawer o wartheg a defaid, tu hwnt i bawb a fuasai o’m blaen i yn Jerwsalem:
2:8 Mi a bentyrrais i mi hefyd arian ac aur, a thrysor pennaf brenhinoedd a thaleithiau: mi a ddarperais i mi gantorion a chantoresau, a phob rhyw offer cerdd, difyrrwch meibion dynion.
2:9 A mi a euthum yn fawr, ac a gynyddais yn fwy na neb a fuasai o’m blaen i yn Jerwsalem: a’m doethineb oedd yn sefyll gyda mi.
2:10 A pha beth bynnag a ddeisyfai fy llygaid, ni omeddwn hwynt: ni ataliwn fy nghalon oddi wrth ddim hyfryd; canys fy nghalon a lawenychai yn fy holl lafur; a hyn oedd fy rhan i o’m holl lafur.
2:11 Yna mi a edrychais ar fy holl weithred¬oedd a wnaethai fy nwylo, ac ar y llafur a lafuriais yn ei wneuthur: ac wele, hyn oll oedd wagedd a gorthrymder ysbryd, ac nid oedd dim budd dan yr haul.
2:12 A mi a droais i edrych ar ddoethineb, ac ar ynfydrwydd a ffolineb: canys beth a wnâi y dyn a ddeuai ar ôl y brenin? y peth a wnaed eisoes.
2:13 Yna mi a welais fod doethineb yn rhagori ar ffolineb, fel y mae goleuni yn rhagori ar dywyllwch.
2:14 Y doeth sydd â’i lygaid yn ei ben; ond y ffôl a rodia yn y tywyllwch: ac eto mi a welais yr un ddamwain yn digwydd iddynt oll.
2:15 Yna y dywedais yn fy nghalon, Fel y digwydd i’r ffôl, y digwydd i minnau; pa beth gan hynny a dâl i mi fod yn ddoeth mwyach? Yna y dywedais yn fy nghalon, fod hyn hefyd yn wagedd.
2:16 Canys ni bydd coffa am y doeth mwy nag am yr annoeth yn dragywydd; y pethau sydd yr awr hon, yn y dyddiau a ddaw a ollyngir oll dros gof: a pha fodd y mae y doeth yn marw? fel yr annoeth.
2:17 Am hynny cas gennyf einioes, canys blin gennyf y gorchwyl a wneir dan haul; canys gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl.
2:18 Ie, cas gennyf fy holl lafur yr ydwyf fi yn ei gymryd dan haul; am fod yn rhaid i mi ei adael i’r neb a fydd ar fy ôl i.
2:19 A phwy a ŵyr ai doeth ai annoeth fydd efe? eto efe a fydd feistr ar fy holl lafur yr hwn a gymerais, ac yn yr hwn y bûm ddoeth dan haul. Dyma wagedd
hefyd.
2:20 Am hynny mi, a droais i beri i’m calon anobeithio o’r holl lafur a gymerais dan yr haul.
2:21 Canys y mae dyn yr hwn y mae ei lafur yn bwyllog, yn synhwyrol, ac yn uniawn: ac y mae yn ei adael yn rhan i’r neb ni lafuriodd wrtho. Hyn hefyd sydd wagedd, a gorthrymder mawr.
2:22 Canys beth sydd i ddyn o’i holl lafur a gorthrymder ei galon, yr hwn a gymerodd efe dan haul?
2:23 Canys ei holl ddyddiau sydd orthrymder, a’i lafur yn ofid: ie, ni chymer ei galon esmwythdra y nos. Hyn hefyd sydd wagedd.
2:24 Nid oes daioni mwy i ddyn, nag iddo fwyta ac yfed, a pheri i’w enaid gael daioni o’i lafur. Hyn hefyd a welais, mai o law Duw yr oedd hyn.
2:25 Canys pwy a ddichon fwyta, a phwy a’i mwynhai, o’m blaen i?
2:26 Canys i’r dyn a fyddo da yn ei olwg ef, y rhydd Duw ddoethineb, a gwybodaeth, a llawenydd;<noinclude><references/></noinclude>
2s9e9l7vjitk7u94pojtx9d6mh6v5z2
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/649
104
4013
171825
7522
2026-10-17T04:58:20Z
Tylopous
3717
penodau
171825
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ond i’r pechadur y rhydd efe boen i gasglu ac i dyrru, i’w roddi i’r neb a fyddo da gerbron Duw. Hynny hefyd sydd wagedd, a gorthrymder ysbryd.
{{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}}
{{bach|1 ''Bod anghenraid gyfnewid yr amseroedd yn ychwanegu gwagedd at lafur dyn.'' 11 ''Godidowgrwydd gweithredoedd Duw:'' 16 ''ond dyn, Duw a farn ei weithredoedd ef yn y byd a ddaw; ac yma ni bydd ond cyffelyb i anifail.''}}
{{angor|3:1}} ''{{uc|Y mae}}'' amser i bob peth, ac amser i bob amcan dan y nefoedd:
3:2 Amser i eni, ac amser i farw, amser i blannu, ac amser i dynnu y peth a blannwyd;
3:3 Amser i ladd, ac amser i iacháu; amser i fwrw i lawr, ac amser i adeiladu;
3:4 Amser i wylo, ac amser i chwerthin; amser i alaru, ac amser i ddawnsio;
3:5 Amser i daflu cerrig ymaith, ac amser i gasglu cerrig ynghyd; amser i ymgofleidio, ac amser i ochel ymgofleidio,
3:6 Amser i geisio, ac amser i golli; amser i gadw, ac amser i fwrw ymaith;
3:7 Amser i rwygo, ac amser i wnïo; amser i dewi, ac amser i ddywedyd;
3:8 Amser i garu, ac amser i gasáu ; amser i ryfel, ac amser i heddwch.
3:9 Pa fudd sydd i’r gweithydd yn yrjiyn y mae yn llafurio?
3:10 Mi a welais y blinder a roddes Duw ar feibion dynion, i ymflino ynddo.
3:11 Efe a wnaeth bob peth yn deg yn ei amser: efe a osododd y byd hefyd yn eu calonnau hwy, fel na allo dyn gael allan y gwaith a wnaeth Duw o’r dechreuad hyd y diwedd.
3:12 Mi a wn nad oes dim da ynddynt, ond bod i ddyn fod yn llawen, a gwneuthur daioni yn ei fywyd.
3:13 A bod i bob dyn fwyfa ac yfed, a mwynhau daioni o’i holl lafur; rhodd Duw yw hynny.
3:14 Mi a wn beth bynnag a wnêl Duw, y bydd hynny byth; ni ellir na bwrw ato, na thynnu dim oddi wrtho: ac y mae Duw yn gwneuthur hyn, fel yr ofnai dynion ger ei fron ef.
3:15 Y peth a fu o’r blaen sydd yr awr hon; a’r peth sydd ar ddyfod a fu o’r blaen: Duw ei hun a ofyn y peth a aeth heibio.
3:16 Hefyd mi a welais dan yr haul le barn, yno yr oedd annuwioldeb; a lle cyfiawnder, yno yr oedd anwiredd.
3:17 Mi a ddywedais yn fy nghalon, Duw a farn y cyfiawn a’r anghyfiawn: canys y mae amser i bob amcan, ac i bob gwaith yno.
3:18 Mi a ddywedais yn fy nghalon am gyflwr meibion dynion; fel y byddai i DDUW eu hamlygu hwynt, ac y gwelent hwythau mai anifeiliaid ydynt.
3:19 Canys digwydd meibion dynion a ddigwydd i’r anifeiliaid; yr un digwydd sydd iddynt: fel y mae y naill yn marw, felly y bydd marw y llall; ie, yr un chwythad sydd iddynt oll; fel nad oes mwy rhagoriaeth i ddyn nag i anifail: canys gwagedd yw y cwbl.
3:20 Y mae y cwbl yn myned i’r un lle: pob un sydd o’r pridd, a phob un a dry i’r pridd eilwaith.
3:21 Pwy a edwyn ysbryd dyn, yr hwn sydd yn esgyn i fyny, a chwythad anifail,. yr hwn sydd yn disgyn i waered i’r ddaear?
3:22 Am hynny mi a welaf nad oes dim well nag i ddyn ymlawenychu, yn ei weithredoedd ei hun; canys hyn yw ei ran ef: canys pwy a’i dwg ef i weled y peth fydd ar ei ôl?
{{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}}
{{bach|1 ''Bod trais,'' 4 ''a chenfigen,'' 5 ''a seguryd,'' 7 ''a chybydd-dod,'' 9 ''a neillduolrwydd,'' 13 ''a gwrthnysigrwydd, yn ychwanegu ar wagedd dyn.''}}
{{angor|4:1}} {{uc|Felly}} mi a ddychwelais, ac a edrychais ar yr holl orthrymderau sydd dan yr haul: ac wele ddagrau y rhai gorthrymedig heb neb i’w cysuro; ac ar law eu treiswyr yr oedd gallu, a hwythau heb neb i’w cysuro.
4:2 A mi a ganmolais y meirw y rhai sydd yn barod wedi marw, yn fwy na’r byw y rhai sydd yn fyw eto.:
4:3 Gwell na’r ddau yw y neb ni bu erioed, yr hwn ni welodd y gwaith blin sydd dan haul.
4:4 A mi a welais fod pob llafur, a phob uniondeb gwaith dyn, yn peri iddo genfigen gan ei gymydog. Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd. .
4:5 Y ffôl a wasg ei ddwylo ynghyd, ac a fwyty ei gnawd ei hun.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
gpy7nixz6793l3lh57yefl9t4uzosl9
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/650
104
4014
171826
7523
2026-10-17T04:59:51Z
Tylopous
3717
penodau
171826
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>4:6 Gwell yw llonaid llaw trwy lonyddwch, na llonaid dwy law trwy flinder a gorthrymder ysbryd.
4:7 Yna mi a droais, ac a welais wagedd dan yr haul.
4:8 Y mae un yn unig, ac heb ail; ie, nid oes iddo na mab na brawd; ac eto nid oes diwedd ar ei lafur oll: ie, ni chaiff ei lygaid ddigon o gyfoeth; ni ddywed efe, I bwy yr ydwyf yn llafurio, ac yn difuddio fy enaid oddi wrth hyfrydwch? Hyn hefyd sydd wagedd, a dyma drafferth flin.
4:9 Gwell yw dau nag un, o achos bod iddynt wobr da am eu llafur.
4:10 Canys os syrthiant, y naill a gyfyd y llall: ond gwae yr unig; canys pan syrthio efe, nid oes ail i’w gyfodi.
4:11 Hefyd os dau a gydorweddant, hwy a ymgynhesant; ond yr unig, pa fodd y cynhesa efe?
4:12 Ac os cryfach fydd un nag ef, dau a’i gwrthwynebant yntau; a rhaff deircainc ni thorrir ar frys.
4:13 Gwell yw bachgen tlawd a doeth, na brenin hen ac ynfyd, yr hwn ni fedr gymryd rhybudd mwyach:
4:14 Canys y naill sydd yn dyfod allan o’r carchardy i deyrnasu, a’r llall wedi ei eni yn ei frenhiniaeth, yn myned yn dlawd.
4:15 Mi a welais y rhai byw oll y rhai sydd yn rhodio dan yr haul, gyda’r ail fab yr hwn a saif yn ei le ef.
4:16 Nid oes diben ar yr holl bobl, sef ar y rhai oll a fu o’u blaen hwynt; a’r rhai a ddêl ar ôl, ni lawenychant ynddo: gwag¬edd yn ddiau a blinder ysbryd yw hyn hefyd.
{{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}}
{{bach|1 ''Gwagedd y’ngwasanaeth Duw,'' 8 ''mewn grwgnach yn erbyn trais,'' 9 ''ac mewn cyfoeth.'' 18 ''Rhodd Duw yw cael llawenydd o’n cyfoeth.''}}
{{angor|5:1}} {{uc|Gwylia}} ar dy droed pan fyddych yn myned i dŷ DDUW, a bydd barotach i wrando nag i roi aberth ffyliaid, canys ni wyddant hwy eu bod yn gwneuthur drwg.
5:2 Na fydd ry brysur â’th enau, ac na frysied dy galon i draethu dim gerbron Duw: canys Duw sydd yn y nefoedd, a thithau sydd ar y ddaear; ac am hynny bydded dy eiriau yn anaml.
5:3 Canys breuddwyd a ddaw o drallod lawer: ac ymadrodd y ffôl o laweroedd o eiriau.
5:4 Pan addunedech adduned i Dduw nac oeda ei thalu: canys nid oes ganddo flas ar rai ynfyd; y peth a addunedaist, tâl.
5:5 Gwell i ti fod heb addunedu, nag i ti addunedu a bod heb dalu.
5:6 Na ad i’th enau beri i’th gnawd bechu; ac na ddywed gerbron yr angel, Amryfusedd fu: paham y digiai Duw wrth dy leferydd, a difetha gwaith dy ddwylo?
5:7 Canys mewn llaweroedd o freuddwydion y mae gwagedd, ac mewn llawer o eiriau: ond ofna di DDUW.
5:8 Os gweli dreisio y tlawd, a thrawswyro barn a chyfiawnder mewn gwlad, na ryfedda o achos hyn: canys y mae yr hwn sydd uwch na’r uchaf yn gwylied, ac y mae un sydd uwch na hwynt.
5:9 Cynnyrch y ddaear hefyd sydd i bob peth: wrth dir llafur y mae y brenin yn byw.
5:10 Y neb a garo arian, ni ddigonir ag arian; na’r neb a hoffo amldra, â chynnyrch. Hyn hefyd sydd wagedd.
5:11 Lle y byddo llawer o dda, y bydd llawer i’w ddifa: pa fudd gan hynny sydd i’w perchennog, ond eu gweled â’u llygaid?
5:13 Melys yw hun y gweithiwr, pa un bynnag ai ychydig ai llawer a fwytao: ond llawnder y cyfoethog ni ad iddo gysgu.
5:13 Y mae trueni blin a welais dan yr haul, cyfoeth wedi eu cadw yn niwed i’w perchennog.
5:14 Ond derfydd am y cyfoeth hynny trwy drallod blin; ac efe a ennill fab, ac nid oes dim yn ei law ef.
5:15 Megis y daeth allan o groth ei fam yn noeth, y dychwel i fyned modd y daeth, ac ni ddwg ddim o’i lafur, yr hyn a ddygo ymaith yn ei law.
5:16 A hyn hefyd sydd ofid blin; yn hollol y modd y daeth, felly yr a efe ymaith: a pha fudd sydd iddo ef a lafuriodd am y gwynt?
5:17 Ei holl ddyddiau y bwyty efe mewn tywyllwch, mewn dicter mawr, gofid, a llid.
5:18 Wele y peth a welais i: da yw a theg i ddyn fwyta ac yfed, a chymryd byd da o’i holl lafur a lafuria dan yr haul, holl ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo: canys hynny yw ei ran ef.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
8zovhlpxh596g26mh9uxajp8cuxb4l7
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/651
104
4015
171827
7525
2026-10-17T05:03:04Z
Tylopous
3717
penodau
171827
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>5:19 Ie, i bwy bynnag y rhoddes Duw gyfoeth a golud; ac y rhoddes iddo ryddid i fwyta ohonynt, ac i gymryd ei ran, ac i lawenychu yn ei lafur; rhodd Duw yw hyn.
5:20 Canys ni fawr gofia efe ddyddiau ei fywyd; am fod Duw yn ateb i lawenydd ei galon ef.
{{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}}
{{bach|1 ''Ofered yw cyfoeth heb eu harfer.'' 3 ''Am blant,'' 6 ''a henaint heb gyfoeth.'' 9 ''Ofered golwg a deisyfiadau anwastad.'' 11 ''Diweddglwm ar bob gwagedd.''}}
{{angor|6:1}} {{uc|Y mae}} drwg a welais dan haul, a hwnnw yn fawr ymysg dynion:
6:2 Gŵr y rhoddodd Duw iddo gyfoeth, a golud, ac anrhydedd, heb arno eisiau dim i’w enaid a’r a ddymunai; a Duw heb roi gallu iddo i fwyta ohoni, ond estron a’i bwyty. Dyma wagedd, ac y mae yn ofid blin.
6:3 Os ennill gŵr gant o blant, ac a fydd byw lawer o flynyddoedd, fel y bo dyddiau ei flynyddoedd yn llawer, os ei enaid ni ddiwellir a daioni, ac oni bydd iddo gladdedigaeth; mi a ddywedaf, mai gwell yw erthyl nag ef.
6:4 Canys mewn oferedd y daeth, ac yn y tywyllwch yr ymedy, a’i enw a guddir â thywyllwch.
6:5 Yntau ni welodd mo’r haul, ac ni wybu ddim: mwy o lonyddwch sydd i hwn nag i’r llall.
6:6 Pe byddai efe fyw ddwy fil o flynydd¬oedd, eto ni welodd efe ddaioni: onid i’r un lle yr â pawb?
6:7 Holl lafur dyn sydd dros ei enau, ac eto ni ddiwellir ei enaid ef.
6:8 Canys pa ragoriaeth sydd i’r doeth mwy nag i’r annoeth? beth sydd i’r tlawd a fedr rodio gerbron y rhai byw?
6:9 Gwell yw golwg y llygaid nag ymdaith yr enaid. Hyn hefyd sydd wag¬edd a gorthrymder ysbryd.
6:10 Beth bynnag fu, y mae enw arno; ac y mae yn hysbys mai dyn yw efe: ac ni ddichon efe ymryson â’r neb sydd drech nag ef.
6:11 Gan fod llawer o bethau yn amlhau gwagedd, beth yw dyn well?
6:12 Canys pwy a ŵyr beth sydd dda i ddyn yn y bywyd hwn holl ddyddiau ei fywyd ofer, y rhai a dreulia efe fel cysgod? canys pwy a ddengys i ddyn beth a ddigwydd ar ei ôl ef dan yr haul?
{{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}}
{{bach|1 ''Help yn erbyn gwagedd, yw enw da,'' 2 ''marwolaethu y cnawd,'' 7 ''amynedd,'' 11 ''doethineb.'' 23 ''Anhawsed ydyw cael doethineb.''}}
{{angor|7:1}} {{uc|Gwell}} yw enw da nag ennaint gwerthfawr; a dydd marwolaeth na dydd genedigaeth.
7:2 Gwell yw myned i dŷ galar, na myned i dŷ gwledd: canys hynny yw diwedd pob dyn; a’r byw a’i gesyd at ei galon.
7:3 Gwell yw dicter na chwerthin: canys trwy dristwch yr wynepryd y gwellheir y galon.
7:4 Calon doethion fydd yn nhŷ y galar; ond calon ffyliaid yn nhŷ llawenydd.
7:5 Gwell yw gwrando sen y doeth, na gwrando can ffyliaid.
7:6 Canys chwerthiniad dyn ynfyd sydd fel clindarddach drain, dan grochan. Dyma wagedd hefyd.
7:7 Yn ddiau trawsedd a ynfyda y doeth, a rhodd a ddifetha y galon.
7:8 Gwell yw diweddiad peth na’i ddechreuad: gwell yw y dioddefgar o ysbryd na’r balch o ysbryd.
7:9 Na fydd gyflym yn dy ysbryd i ddigio: oblegid dig sydd yn gorffwys ym mynwes ffyliaid.
7:10 Na ddywed, Paham y bu y dyddiau o’r blaen yn well na’r dyddiau hyn? canys nid o ddoethineb yr wyt yn ymofyn am y peth hyn.
7:11 Da yw doethineb gydag etifeddiaeth: ac o hynny y mae elw i’r rhai sydd yn gweled yr haul.
7:12 Canys cysgod yw doethineb, a chysgod yw arian: ond rhagoriaeth gwybodaeth yw bod doethineb yn rhoddi bywyd i’w pherchennog.
7:13 Edrych ar orchwyl Duw: canys pwy a all unioni y peth a gamodd efe?
7:14 Yn amser gwynfyd bydd lawen, ond yn amser adfyd ystyria: Duw hefyd a wnaeth y naill ar gyfer y llall, er mwyn na châi dyn ddim ar ei ôl ef.
7:15 Hyn oll a welais yn nyddiau fy ngwagedd: y mae un cyfiawn yn diflannu yn ei gyfiawnder, ac y mae un annuwiol yn estyn ei ddyddiau yn ei ddrygioni.
7:16 Na fydd ry gyfiawn; ac na chymer arnat fod yn rhy ddoeth: paham y’th ddifethit dy hun?
7:17 Na fydd ry annuwiol; ac na fydd ffôl: paham y byddit farw cyn dy amser?
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
2xjrhpp6wtxmtiffg1svr4l7xdt5wsg
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/652
104
4016
171828
7527
2026-10-17T05:04:50Z
Tylopous
3717
penodau
171828
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>7:18 Da i ti ymafael yn hyn; ac oddi wrth hyn na ollwng dy law: canys y neb a ofno DDUW, a ddaw allan ohonynt oll.
7:19 Doethineb a nertha y doeth, yn fwy na deg o gedyrn a fyddant yn y ddinas.
7:20 Canys nid oes dyn cyfiawn ar y ddaear a wna ddaioni, ac ni phecha.
7:21 Na osod dy galon ar bob gair a ddyweder; rhag i ti glywed dy was yn dy felltithio.
7:22 Canys llawer gwaith hefyd y gŵyr dy galon, ddarfod i ti dy hun felltithio eraill.
7:23 Hyn oll a brofais trwy ddoethineb; mi a ddywedais, Mi a fyddaf ddoeth; a hithau ymhell oddi wrthyf.
7:24 Y peth sydd bell a dwfn iawn, pwy a’i caiff?
7:25 Mi a droais â’m calon i wybod, ac i chwilio, ac i geisio doethineb, a rheswm; ac i adnabod annuwioldeb ffolineb, sef ffolineb ac ynfydrwydd:
7:26 Ac mi a gefais beth chwerwach nag angau, y wraig y mae ei chalon yn faglau ac yn rhwydau, a’i dwylo yn rhwymau: y neb sydd dda gan DDUW, a waredir oddi wrthi hi; ond pechadur a ddelir ganddi.
7:27 Wele, hyn a gefais, medd y Pregethwr, wrth chwilio o’r naill beth i’r llall, i gael y rheswm;
7:28 Yr hwn beth eto y chwilia fy enaid amdano, ac ni chefais: un gŵr a gefais ymhlith mil; ond un wraig yn eu plith hwy oll nis cefais.
7:29 Wele, hyn yn unig a gefais; wneuthur o DDUW ddyn yn uniawn: ond hwy a chwiliasant allan lawer o ddychmygion.
{{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}}
{{bach|1 ''Am ufuddhâu i frenhinoedd.'' 6 ''Rhaid yw dal ar ragluniaeth Duw.'' 12 ''Gwell yw y byd ar y duwiol mewn adfyd, nag ar yr annuwiol mewn hywddfyd.'' 16 ''Mor anchwiliadwy yw gweithredoedd Duw.''}}
{{angor|8:1}} {{uc|Pwy}} sydd debyg i’r doeth? a phwy a fedr ddeongl peth? doethineb gŵr a lewyrcha ei wyneb, a nerth ei wyneb ef a newidir.
8:2 Yr ydwyf yn dy rybuddio i gadw gorchymyn y brenin, a hynny oherwydd llw Duw.
8:3 Na ddos ar frys allan o’i olwg ef; na saf mewn peth drwg: canys efe a wna a fynno ei hun.
8:4 Lle y byddo gair y brenin, y mae gallu: a phwy a ddywed wrtho, Beth yr wyt ti yn ei wneuthur?
8:5 Y neb a gadwo y gorchymyn, ni wybydd oddi wrth ddrwg; a chalon y doeth a edwyn amser a barn.
8:6 Canys y mae amser a barn i bob amcan; ac y mae trueni dyn yn fawr arno.
8:7 Canys ni ŵyr efe beth a fydd: canys pwy a ddengys iddo pa bryd y bydd?
8:8 Nid oes un dyn yn arglwyddiaethu ar yr ysbryd, i atal yr ysbryd; ac nid oes ganddo allu yn nydd marwolaeth: ac nid oes bwrw arfau yn y rhyfel hwnnw; ac nid achub annuwioldeb ei pherchennog.
8:9 Hyn oll a welais i, a gosodais fy nghalon ar bob gorchwyl a wneir dan haul: y mae amser pan arglwyddiaetha dyn ar ddyn er drwg iddo.
8:10 Ac felly mi a welais gladdu y rhai annuwiol, y rhai a ddaethent ac a aethent o le y Sanctaidd; a hwy a ebargofiwyd yn y ddinas lle y gwnaethent felly. Gwagedd yw hyn hefyd.
8:11 Oherwydd na wneir barn yn erbyn gweithred ddrwg yn fuan, am hynny calon plant dynion sydd yn llawn ynddynt i wneuthur drwg.
8:12 Er gwneuthur o bechadur ddrwg ganwaith, ac estyn ei ddyddiau ef; eto mi a wn yn ddiau y bydd daioni i’r rhai a ofnant DDUW, y rhai a arswydant ger ei fron ef.
8:13 Ond ni bydd daioni i’r annuwiol, ac ni estyn efe ei ddyddiau, y rhai sydd gyffelyb i gysgod; am nad yw yn ofni gerbron Duw.
8:14 Y mae gwagedd a wneir ar y ddaear; bod y cyfiawn yn damwain iddynt yn ôl gwaith y drygionus; a bod y drygionus yn digwyddo iddynt yn ôl gwaith y cyfiawn. Mi a ddywedais fod hyn hefyd yn wagedd.
8:15 Yna mi a ganmolais lawenydd, am nad oes dim well i ddyn dan haul, na bwyta ac yfed, a bod yn llawen: canys hynny a lŷn wrth ddyn o’i lafur, ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo dan yr haul.
8:16 Pan osodais i fy nghalon i wybod doethineb, ac i edrych ar y drafferth a wneir ar y ddaear, (canys y mae ni wêl hun â’i lygaid na dydd na nos;)
8:17 Yna mi a edrychais ar holl<noinclude><references/></noinclude>
rmr6leci7n20c32tbty1igkkjz2pu2k
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/653
104
4017
171829
7528
2026-10-17T05:08:18Z
Tylopous
3717
penodau
171829
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>waith Duw, na ddichon dyn ddeall y gwaith a wneir dan haul: oblegid er i ddyn lafurio i geisio, eto nis caiff; ie, pe meddyliai y doeth fynnu gwybod, eto ni allai efe gael hynny.
{{angor|Pennod_9}}{{c|{{uc|Pennod IX}}.}}
{{bach|1 ''Yr un fath bethau a ddigwydd i’r drwg ac i’r da.'' 4 ''Bod yn anghenraid i ddynion farw.'' 7 ''Cysur yw eu holl ran hwy yn y fuchedd yma.'' 11 ''Bod rhagluniaeth Duw yn llywodraethu pob peth.'' 13 ''Gwell yw doethineb na chryfder.''}}
{{angor|9:1}} {{uc|Er}} hyn oll mi a ystyriais yn fy nghalon, i ddangos hyn oll, bod y cyfiawn, a’r doethion, a’u gweithredoedd, yn llaw Duw: ni ŵyr dyn gariad, neu gas, wrth yr hyn oll sydd o’u blaen.
9:2 Yr un peth a ddamwain i bawb fel ei gilydd: yr un peth a ddamwain i’r cyfiawn, ac i’r annuwiol; i’r da ac i’r glân, ac i’r aflan; i’r neb a abertha, ac i’r neb nid abertha: fel y mae y da, felly y mae y pechadur; a’r neb a dyngo, fel y neb a ofno dyngu.
9:3 Dyma ddrwg ymysg yr holl bethau a wneir dan haul, sef bod yr un diben i bawb: hefyd calon meibion dynion sydd yn llawn drygioni, ac ynfydrwydd sydd yn eu calon tra fyddant fyw, ac ar ôl hynny y maent yn myned at y meirw.
9:4 Canys i’r neb a fo yng nghymdeithas y rhai byw oll, y mae gobaith: canys gwell yw ci byw na llew marw.
9:5 Oherwydd y rhai byw a wyddant y byddant feirw: ond nid oes dim gwybodaeth gan y meirw, ac nid oes iddynt wobr mwyach; canys eu coffa hwynt a anghofiwyd.
9:6 Eu cariad hefyd, a’u cas, a’u cenfigen, a ddarfu yn awr; ac nid oes iddynt gyfran byth mwy o ddim oll a wneir dan yr haul.
9:7 Dos, bwyta dy fwyd yn llawen, ac yf dy win â chalon hyfryd: canys yn awr cymeradwy gan DDUW dy weithredoedd.
9:8 Bydded dy ddillad yn wynion bob amser; ac na fydded diffyg olew ar dy ben.
9:9 Dwg dy fyd yn llawen gyda’th wraig annwyl holl ddyddiau bywyd dy oferedd, y rhai a roddes efe i ti dan yr haul, holl ddyddiau dy oferedd: canys dyna dy ran di yn y bywyd yma, ac yn dy lafur a gymeri dan yr haul.
9:10 Beth bynnag a ymafael dy law ynddo i’w wneuthur, gwna â’th holl egni: canys nid oes na gwaith, na dychymyg, na gwybodaeth, na doethineb, yn y bedd, lle yr wyt ti yn myned.
9:11 Mi a droais, ac a welais dan haul, nad yw y rhedfa yn eiddo y cyflym, na’r rhyfel yn eiddo y cedyrn, na’r bwyd yn eiddo y doethion, na chyfoeth yn eiddo y pwyllog, na ffafr yn eiddo y cyfarwydd: ond amser a damwain a ddigwydd iddynt oll.
9:12 Canys ni ŵyr dyn chwaith ei amser: fel y pysgod a ddelir â’r rhwyd niweidiol, ac fel yr adar a ddelir yn y delm; felly y delir plant dynion yn amser drwg, pan syrthio arnynt yn ddisymwth.
9:13 Hefyd y doethineb hyn a welais i dan haul, ac sydd fawr gennyf fi:
9:14 Yr oedd dinas fechan, ac ynddi ychydig wŷr; a brenin mawr a ddaeth yn ei herbyn hi, ac a’i hamgylchynodd, ac a gododd glawdd uchel yn ei herbyn:
9:15 A chafwyd ynddi ŵr tlawd doeth, ac efe a waredodd y ddinas honno â’i ddoethineb: eto ni chofiodd neb y gŵr tlawd hwnnw.
9:16 Yna y dywedais, Gwell yw doethineb na nerth: er hynny dirmygir doethineb y tlawd, ac ni wrandewir ar ei eiriau ef.
9:17 Geiriau y doethion a wrandewir mewn distawrwydd, rhagor bloedd yr hwn sydd yn llywodraethu ymysg ffyliaid.
9:18 Gwell yw doethineb nag arfau rhyfel; ond un pechadur a ddinistria lawer o ddaioni.
{{angor|Pennod_10}}{{c|{{uc|Pennod X}}.}}
{{bach|1 ''Pethau i ddal arnynt ynghylch doethineb ac ynfydrwydd.'' 16 ''Am anllywodraeth,'' 18 ''dïogi,'' 19 ''ac arian.'' 20 ''Rhaid i bawb feddwl yn barchedig o’r brenhin.''}}
{{angor|10:1}} {{uc|Gwybed}} meirw a wnânt i ennaint yr apothecari ddrewi; felly y gwna ychydig ffolineb i ŵr ardderchog oherwydd doethineb ac anrhydedd.
10:2 Calon y doeth sydd ar ei ddeheulaw; a chalon y ffôl ar ei law aswy.
10:3 Ie, y ffôl pan rodio ar y ffordd, sydd â’i galon yn pallu, ac y mae yn dywedyd wrth bawb ei fod yn ffôl.
10:4 Pan gyfodo ysbryd penadur yn dy erbyn, nac ymado â’th le: canys ymostwng a ostega bechodau mawrion.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
dlcj21ea8mmf6tcwk6yhqdr7wyvnns0
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/654
104
4018
171830
7529
2026-10-17T05:11:22Z
Tylopous
3717
penodau
171830
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>10:5 Y mae drwg a welais dan yr haul, cyffelyb i gyfeiliorni sydd yn dyfod oddi gerbron y llywydd:
10:6 Gosodir ffolineb mewn graddau uchel, a’r cyfoethog a eistedd mewn lle isel.
10:7 Mi a welais weision ar feirch, a thywysogion yn cerdded fel gweision ar y ddaear.
10:8 Y sawl a gloddio bwll, a syrth ynddo; a’r neb a wasgaro gae, sarff a’i brath.
10:9 Y sawl a symudo gerrig, a gaiff ddolur oddi wrthynt; a’r neb a holllo goed, a gaiff niwed oddi wrthynt.
10:10 Os yr haearn a byla, oni hoga efe y min, rhaid iddo roddi mwy o nerth: eto doethineb sydd ragorol i gyfarwyddo.
10:11 Os brath sarff heb swyno, nid gwell yw dyn siaradus.
10:12 Geiriau genau y doeth sydd rasol: ond gwefusau y ffôl a’i difetha ef ei hun.
10:13 Ffolineb yw dechreuad geiriau ei enau ef: a diweddiad geiriau ei enau sydd anfad ynfydrwydd.
10:14 Y ffôl hefyd sydd aml ei eiriau: ni ŵyr neb beth a fydd; a phwy a fynega iddo pa beth fydd ar ei ôl ef?
10:15 Llafur y ffyliaid a flina bawb ohonynt: canys ni fedr efe fyned i’r ddinas.
10:16 Gwae di y wlad sydd â bachgen yn frenin i ti, a’th dywysogion yn bwyta yn fore.
10:17 Gwyn dy fyd di y wlad sydd â’th frenin yn fab i bendefigion, a’th dywys¬ogion yn bwyta eu bwyd yn eu hamser, er cryfder, ac nid er meddwdod.
10:18 Trwy ddiogi lawer yr adfeilia yr adeilad; ac wrth laesu y dwylo y gollwng y tŷ ddefni.
10:19 Arlwyant wledd i chwerthin, a gwin a lawenycha y rhai byw; ond arian sydd yn ateb i bob peth.
10:20 Na felltithia y brenin yn dy feddwl; ac yn ystafell dy wely na felltithia y cyfoethog: canys ehediad yr awyr a gyhoedda y llais, a pherchen adain a fynega y peth.
{{angor|Pennod_11}}{{c|{{uc|Pennod XI}}.}}
{{bach|1 ''Addysg at gariad perffaith.'' 7 ''Rhaid yw meddwl am angau mewn bywyd,'' 9 ''ac am ddydd y farn mewn ieuengctid.''}}
{{angor|11:1}} {{uc|Bwrw}} dy fara ar wyneb y dyfroedd; canys ti a’i cei ar ôl llawer o ddyddiau.
11:2 Dyro ran i saith, a hefyd i wyth: canys ni wyddost pa ddrwg a ddigwydd ar y ddaear.
11:3 Os bydd y cymylau yn llawn glaw, hwy a ddefnynnant ar y ddaear: ac os tua’r deau neu tua’r gogledd y syrth y pren; lle y syrthio y pren, yno y bydd efe.
11:4 Y neb a ddalio ar y gwynt, ni heua; a’r neb a edrycho ar y cymylau, ni feda.
11:5 Megis na wyddost ffordd yr ysbryd, na pha fodd y ffurfheir yr esgyrn yng nghroth y feichiog; felly ni wyddost waith Duw, yr hwn sydd yn gwneuthur y cwbl.
11:6 Y bore heua dy had, a phrynhawn nac atal dy law: canys ni wyddost pa un a ffynna, ai hyn yma ai hyn acw, ai ynteu da fyddant ill dau yn yr un ffunud.
11:7 Melys yn ddiau yw y goleuni, a hyfryd yw i’r llygaid weled yr haul.
11:8 Ond pe byddai dyn fyw lawer o flynyddoedd, a bod yn llawen ynddynt oll; eto cofied ddyddiau tywyllwch; canys llawer fyddant. Beth bynnag a ddigwydda, oferedd yw.
11:9 Gwna yn llawen, ŵr ieuanc, yn dy ieuenctid, a llawenyched dy galon yn nyddiau dy ieuenctid, a rhodia yn ffyrdd dy galon, ac yng ngolwg dy lygaid: ond gwybydd y geilw Duw di i’r farn am hyn oll.
11:10 Am hynny bwrw ddig oddi wrth dy galon, a thro ymaith ddrwg oddi wrth dy gnawd: canys gwagedd yw mebyd ac ieuenctid.
{{angor|Pennod_12}}{{c|{{uc|Pennod XII}}.}}
{{bach|1 ''Rhaid yw meddwl am ein Gwneuthurwr mewn pryd.'' 8 ''Gofal y Pregethwr am adeiladu eraill.'' 13 ''Ofn Duw yw yr help pennaf yn erbyn pob gwagedd ac oferedd.''}}
{{angor|12:1}} {{uc|Cofia}} yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid, cyn dyfod y dyddiau blin, a nesáu o’r blynyddoedd yn y rhai y dywedi, Nid oes i mi ddim diddanwch ynddynt:
12:2 Cyn tywyllu yr haul, a’r goleuni, a’r lleuad, a’r sêr, a dychwelyd y cymylau ar ôl y glaw:
12:3 Yr amser y cryna ceidwaid y tŷ, ac y cryma y gwŷr cryfion, ac y metha y rhai sydd yn malu, am eu bod yn ychydig, ac y tywylla y rhai sydd yn edrych trwy ffenestri;
12:4 A chau y pyrth yn yr heolydd,<noinclude><references/></noinclude>
owh4m6od31uyrftrnw8kltoglnw1jkp
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/655
104
4019
171831
171298
2026-10-17T05:16:00Z
Tylopous
3717
penodau
171831
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Pregethwr"/>pan fo isel sŵn y malu, a’i gyfodi wrth lais yr aderyn, a gostwng i lawr holl ferched cerdd:
12:5 Ie, yr amser yr ofnant yr hyn sydd uchel, ac yr arswydant yn y ffordd, ac y blodeua y pren almon, ac y bydd y ceiliog rhedyn yn faich, ac y palla chwant: pan elo dyn i dŷ ei hir gartref, a’r galarwyr yn myned o bob tu yn yr heol:
12:6 Cyn torri y llinyn arian, a chyn torri y cawg aur, a chyn torri y piser gerllaw y ffynnon, neu dorri yr olwyn wrth y pydew.
12:7 Yna y dychwel y pridd i’r ddaear fel y bu, ac y dychwel yr ysbryd at DDUW, yr hwn a’i rhoes ef.
12:8 Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr; gwagedd yw y cwbl.
12:9 A hefyd, am fod y Pregethwr yn ddoeth, efe a ddysgodd eto wybodaeth i’r bobl; ie, efe a ystyriodd, ac a chwiliodd allan, ac a drefnodd ddiarhebion lawer.
12:10 Chwiliodd y Pregethwr am eiriau cymeradwy; a’r hyn oedd ysgrifenedig oedd uniawn, sef geiriau gwirionedd.
12:11 Geiriau y doethion sydd megis symbylau, ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistriaid y gynulleidfa, y rhai a roddir oddi wrth un bugail.
12:12 Ymhellach hefyd, fy mab, cymer rybudd wrth y rhai hyn, nid oes diben ar wneuthur llyfrau lawer, a darllen llawer sydd flinder i’r cnawd.
12:13 Swm y cwbl a glybuwyd yw, Ofna DDUW, a chadw ei orchmynion: canys hyn yw holl ddyled dyn.
12:14 Canys Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynnag fyddo ai da ai drwg.
<section end="Pregethwr"/>
<section begin="Caniad"/>{{canoli|{{mawr|{{uc|Caniad Solomon.}}}}}}
{{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}}
{{bach|1 ''Cariad yr eglwys ar Grist.'' 5 ''Y mae hi yn cyfaddef ei gwrthuni,'' 7 ''ac yn gweddïo am gael ei chyfarwyddo at ei ddïadell ddefaid ef.'' 8 ''Crist yn ei chyfarwyddo hi at bebyll y bugeiliaid:'' 9 ''a chan ddangos ei gariad tu ag atti,'' 11 ''yn gwneuthur iddi addewidion grasusol.'' 12 ''Crist a’i eglwys yn ymgaredigo.''}}
{{angor|1:1}} {{uc|Can}} y caniadau, eiddo Solomon.
1:2 Cusaned fi â chusanau ei fin: canys gwell yw dy gariad na gwin.
1:3 Oherwydd arogl dy ennaint daionus, ennaint tywalltedig yw dy enw: am hynny y llancesau a’th garant.
1:4 Tyn fi, ni a redwn ar dy ôl. Y brenin a’m dug i i’w ystafellau: ni a ymhyfrydwn ac a ymlawenhawn ynot; ni a gofiwn dy gariad yn fwy na gwin: y rhai uniawn sydd yn dy garu.
1:5 Du ydwyf fi, ond hawddgar, merched Jerwsalem, fel pebyll Cedar, fel llenni Solomon.
1:6 Nac edrychwch arnaf, am fy mod yn ddu, ac am i’r haul edrych arnaf: meibion fy mam a ddigiasant wrthyf, gosodasant fi i gadw gwinllannoedd eraill; fy ngwinllan fy hun ms cedwais.
1:7 Mynega i mi, yr hwn a hoffodd fy enaid, pa le yr wyt yn bugeilio, pa le y gwnei iddynt orwedd ganol dydd: canys paham y byddaf megis un yn troi heibio wrth ddiadellau dy gyfeillion?
1:8 Oni wyddost ti, y decaf o’r gwragedd, dos allan rhagot ar hyd ôl y praidd, a phortha dy fynnod gerllaw pebyll y bugeiliaid.
1:9 I’r meirch yng ngherbydau Pharo y’th gyffelybais, fy anwylyd.
1:10 Hardd yw dy ruddiau gan dlysau, a’th wddf gan gadwyni.
1:11 Tlysau o aur, a boglynnau o arian, a wnawn i ti.
1:12 Tra yw y brenin ar ei fwrdd, fy nardus i a rydd ei arogl.
1:13 Fy anwylyd sydd i mi yn bwysi myrr, rhwng fy mronnau yr erys dros nos.
1:14 Cangen o rawn camffir yw fy anwylyd i mi, yng ngwinllannoedd Engedi.
1:15 Wele di yn deg, tŷ anwylyd, wele di yn deg; y mae i ti lygaid colomennod.
1:16 Wele di, fy anwylyd, yn deg, ac yn hawddgar; ein gwely hefyd sydd iraidd.
1:17 Swmerau ein tai sydd gedrwydd, ein distiau sydd ffynidwydd.
{{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}}
{{bach|1 ''Y cariad sydd rhwng Crist a’i eglwys.'' 8 ''Gobaith,'' 10 ''a galwedigaeth yr eglwys;'' 14 ''a gofal Crist drosti.'' 16 ''Proffes yr eglwys, a’i ffydd, a’i gobaith.''}}
{{nop}}<section end="Caniad"/><noinclude><references/></noinclude>
9ldeeevl4gn53z51o282fnftbat6ww1
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/656
104
4020
171832
7533
2026-10-17T05:19:45Z
Tylopous
3717
penodau
171832
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>{{angor|2:1}} {{uc|Rhosyn}} Saron, a lili y dyffrynnoedd, ydwyf fi.
2:2 Megis lili ymysg y drain, felly y mae fy anwylyd ymysg y merched.
2:3 Megis pren afalau ymysg prennau y coed, felly y mae fy anwylyd ymhlith y meibion: bu dda gennyf eistedd dan ei gysgod ef, a’i ffrwyth oedd felys i’m genau.
2:4 Efe a’m dug i’r gwindy, a’i faner drosof ydoedd gariad.
2:5 Cynheliwch fi â photelau, cysurwch fi ag afalau; canys claf ydwyf fi o gariad.
2:6 Ei law aswy sydd dan fy mhen, a’i ddeheulaw sydd yn fy nghofleidio.
2:7 Merched Jerwsalem, tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.
2:8 Dyma lais fy anwylyd! wele ef yn dyfod, yn neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau.
2:9 Tebyg yw fy anwylyd i iwrch neu lwdn hydd; wele efe yn sefyll y tu ôl i’n pared, yn edrych trwy y ffenestri, yn ymddangos trwy y dellt.
2:10 Fy anwylyd a lefarodd, ac a ddywedr odd wrthyf, Cyfod, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth:
2:11 Canys wele, y gaeaf a aeth heibio, y glaw a basiodd, ac a aeth ymaith;
2:12 Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i’r adar i ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad,
2:13 Y ffigysbren a fwriodd allan ei ffigys irion, a’r gwinwydd a’u hegin grawn a roddasant arogl teg. Cyfod di, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth.
2:14 Fy ngholomen, yr hon wyt yn holltau y graig, yn lloches y grisiau, gad i mi weled dy wyneb, gad i mi glywed dy lais: canys dy lais sydd beraidd, a’th olwg yn hardd.
2:15 Deliwch i ni y llwynogod, y llwynogod bychain, y rhai a ddifwynant y gwinllannoedd: canys y mae i’n gwinllannoedd egin grawnwin.
2:16 Fy anwylyd sydd eiddof fi, a minnau yn eiddo yntau; y mae efe yn bugeilio ymysg y lili.
2:17 Hyd oni wawrio’r dydd, a chilio o’r cysgodau; tro, bydd debyg, fy anwylyd, i iwrch, neu lwdn hydd ym mynyddoedd Bether.
{{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}}
{{bach|1 ''Ymdrech yr eglwys, a’i gorfodaeth mewn profedigaeth.'' 6 ''Yr eglwys yn ymogoneddu yng Nghrist.''}}
{{angor|3:1}} {{uc|Lliw}} nos yn fy ngwely y ceisiais yr hwn a hoffa fy enaid: ceisiais ef, ac nis cefais.
3:2 Codaf yn awr, ac af o amgylch y ddinas, trwy yr heolydd a’r ystrydoedd, ceisiaf yr hwn a hoffa fy enaid: ceisiais ef, ac nis cefais.
3:3 Y gwylwyr, y rhai a aent o amgylch y ddinas, a’m cawsant: gofynnais, A welsoch chwi yr hwn sydd hoff gan fy enaid?
3:4 Nid aethwn i nepell oddi wrthynt, hyd oni chefais yr hwn sydd hoff gan fy enaid: deliais ef, ac ms gollyngais, hyd oni ddygais ef i dŷ fy mam, ac i ystafell yr hon a’m hymddug.
3:5 Merched Jerwsalem, tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes, na chyffrôch ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.
3:6 Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o’r anialwch megis colofnau mwg, wedi ei pherarogli â myrr, ac â thus, ac â phob powdr yr apothecari?
3:7 Wele ei wely ef, sef yr eiddo Solomon; y mae trigain o gedyrn o’i amgylch, sef o gedyrn Israel.
3:8 Hwynt oll a ddaliant gleddyf, wedi eu dysgu i ryfel, pob un â’i gleddyf ar ei glun, rhag ofn liw nos.
3:9 Gwnaeth y brenin Solomon iddo gerbyd o goed Libanus.
3:10 Ei byst ef a wnaeth efe o arian, ei lawr o aur, ei lenni o borffor; ei ganol a balmantwyd â chariad, i ferched Jerwsalem.
3:11 Ewch allan, merched Seion, ac edrychwch ar y brenin Solomon yn y goron a’r hon y coronodd ei fam ef yn ei ddydd dyweddi ef, ac yn nydd llawenydd ei galon ef.
{{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}}
{{bach|1 ''Crist yn gosod allan hawddgar ddoniau yr eglwys:'' 8 ''yn dangos ei gariad tu ag atti.'' 16 ''Yr eglwys yn gweddïo ar gael ei gwneuthur yn gymmwys i’w bresennoldeb ef.''}}
{{angor|4:1}} {{uc|Wele}} di yn deg, fy anwylyd, wele di yn deg; dy lygaid ydynt golomennaidd rhwng dy lywethau; dy wallt sydd fel diadell o eifr, y rhai a ymddangosant o fynydd Gilead.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
qsj4drheod52k9vhfuynw7qzomq2v48
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/657
104
4021
171833
7534
2026-10-17T05:21:39Z
Tylopous
3717
penodau
171833
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>4:2 Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid gwastatgnaif, y rhai a ddaethant i fyny o’r olchfa; y rhai oeddynt bob un yn dwyn dau oen, ac nid oedd un ynddynt yn ddiepil.
4:3 Dy wefusau sydd fel edau ysgarlad, a’th barabl yn weddus: dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad.
4:4 Dy wddf sydd fel tŵr Dafydd, yr hwn a adeiladwyd yn dy arfau; tarianau fil sydd yn crogi ynddo, i gyd yn estylch y cedyrn.
4:5 Dy ddwy fron sydd fel dau lwdn iwrch o efeilliaid yn pori ymysg lili.
4:6 Hyd oni wawrio’r dydd, a chilio o’r cysgodau, af i fynydd y myrr, ac i fryn y thus.
4:7 Ti oll ydwyt deg, fy anwylyd; ac nid oes ynot frycheuyn.
4:8 Tyred gyda mi o Libanus, fy nyweddi, gyda mi o Libanus: edrych.o ben Amana, o gopa Senir a Hennon, o lochesau y llewod, o fynyddoedd y llewpardiaid.
4:9 Dygaist fy nghalon, fy chwaer a’m dyweddi; dygaist fy nghalon ag un o’th lygaid, ag un gadwyn wrth dy wddf.
4:10 Mor deg yw dy gariad, fy chwaer, a’m dyweddi! pa faint gwell yw dy gariad na gwin, ac arogl dy olew na’r holl beraroglau!
4:11 Dy wefusau, fy nyweddi, sydd yn diferu fel dil mêl: y mae mêl a llaeth dan dy dafod, ac arogl dy wisgoedd fel arogl Libanus.
4:12 Gardd gaeëdig yw fy chwaer, a’m dyweddi: ffynnon gloëdig, ffynnon seliedig yw.
4:13 Dy blanhigion sydd berllan o bomgranadau, a ffrwyth peraidd, camffir, a nardus;
4:14 Ie, nardus a saffrwn, calamus a sinamon, a phob pren thus, myrr, ac aloes, ynghyd â phob rhagorol berlysiau:
4:15 Ffynnon y gerddi, ffynnon y dyfroedd byw, a ffrydiau o Libanus.
4:16 Deffro di, ogleddwynt, a thyred, ddeheuwynt, chwyth ar fy ngardd, feliy gwasgarer ei pheraroglau: deaed fy anwylyd i’w ardd, a bwytaed ei ffrwyth peraidd ei hun.
{{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}}
{{bach|1 ''Crist yn deffrôi yr eglwys â’i alwad.'' 2 ''Yr eglwys, wedi profi cariad Crist, yn glaf o gariad.'' 9 ''Portreiadu Crist wrth ei radau.''}}
{{angor|5:1}} {{uc|Deuthum}} i’m gardd, fy chwaer, a’m dyweddi: cesglais fy myrr gyda’m perarogi, bwyteais fy nil gyda’m mêl, yfais fy ngwin gyda’m llaeth: bwytewch, gyfeillion, yfwch, ie, yfwch yn helaeth, fy rhai annwyl.
5:2 Myfi sydd yn cysgu, a’m calon yn neffro: llais fy anwylyd yw yn curo, gan ddywedyd, Fy chwaer, fy anwylyd, fy ngholomen, fy nihalog, agor i mi: canys llanwyd fy mhen â gwlith, a’m gwallt â defnynnau y nos.
5:3 Diosgais fy mhais; pa fodd y gwisgaf hi? golchais fy nhraed; pa fodd y diwynaf hwynt?
5:4 Fy anwylyd a estynnodd ei law trwy y twll; a’m hymysgaroedd a gyffrôdd er ei fwyn.
5:5 Mi a gyfodais i agori i’m hanwylyd; a’m dwylo a ddiferasant gan fyrr, a’m bysedd gan fyrr yn diferu ar hyd hesbennau y do.
5:6 Agorais i’m hanwylyd; ond fy an¬wylyd a giliasai, ac a aethai ymaith: fy enaid a lewygodd pan lefarodd: ceisiais, ac nis cefais; gelwais ef, ond ni’m hatebodd.
5:7 Y gwylwyr y rhai a ânt o amgylch y ddinas, a’m cawsant, a’m trawsant, a’m harchollasant: gwylwyr y caerau a ddygasant fy ngorchudd oddi arnaf.
5:8 Merched Jerwsalem, gorchmynnaf i chwi, os cewch fy anwylyd, fynegi iddo fy mod yn glaf o gariad.
5:9 Beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, y decaf o’r gwragedd? beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, pan orchmynni i ni felly?
5:10 Fy anwylyd sydd wyn a gwridog, yn rhagori ar ddengmil.
5:11 Ei ben fel aur coeth, ei wallt yn grych, yn ddu fel y frân.
5:12 Ei lygaid fel llygaid colomennod wrth afonydd dyfroedd, wedi eu golchi â llaeth, wedi eu gosod yn gymwys.
5:13 Ei ruddiau fel gwely perlysiau, fel blodau peraidd: ei wefusau fel lili ŷd diferu myrr diferol.
5:14 Ei ddwylo sydd fel modrwyau aur, wedi eu llenwi o beryl: ei fol fel disglair ifori wedi ei wisgo â saffir.
5:15 Ei goesau fel colofnau marnor wedi en gosod ar wadnau o aur<noinclude><references/></noinclude>
d7qhnkxw9e8tkq3e679zn635aanr2uz
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/658
104
4022
171834
7535
2026-10-17T05:25:43Z
Tylopous
3717
penodau
171834
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>coeth: ei wynepryd fel Libanus, mor ddewisol a chedrwydd.
5:16 Melys odiaeth yw ei enau; ie, y mae efe oll yn hawddgar. Dyma fy anwylyd, dyma fy nghyfaill, O ferched Jerwsalem.
{{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}}
{{bach|1 ''Yr eglwys yn gwneuthur proffes o’i ffydd yng Nghrist.'' 4 ''Crist yn dangos hawddgar ddoniau yr eglwys,'' 10 ''a’i gariad ef tu ag atti.''}}
{{angor|6:1}} {{uc|I ba}} le yr aeth dy anwylyd, y decaf o’r gwragedd? i ba le y trodd dy anwyl¬yd? fel y ceisiom ef gyda thi.,
6:2 Fy anwylyd a aeth i waered i’w ardd, i welyau y perlysiau, i ymborth yn y gerddi, ac i gasglu lili.
6:3 Myfi wyf eiddo fy anwylyd, a’m hanwylyd yn eiddof finnau, yr hwn sydd yn bugeilio ymysg y lili.
6:4 Teg ydwyt ti, fy anwylyd, megis Tirsa, gweddus megis Jerwsalem, ofnadwy megis llu banerog.
6:5 Tro dy lygaid oddi wrthyf, canys hwy a’m gorchfygasant: dy wallt sydd fel diadell o eifr y rhai a ymddangosant o Gilead.
6:6 Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid a ddâi i fyny o’r olchfa, y rhai sydd bob un yn dwyn dau oen, ac heb un yn ddiepil yn eu mysg.
6:7 Dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad.
6:8 Y mae trigain o freninesau, ac o ordderchwragedd bedwar ugain, a llancesau heb rifedi.
6:9 Un ydyw hi, fy ngholomen, fy nihalog; unig ei mam yw hi, dewisol yw hi gan yr hon a’i hesgorodd: y merched a’i gwelsant, ac a’i galwasant yn ddedwydd; y breninesau a’r gordderchwragedd, a hwy a’i canmolasant hi.
6:10 Pwy yw hon a welir fel y wawr, yn deg fel y lleuad, yn bur fel yr haul, yn ofnadwy fel llu banerog?
6:11 Euthum i waered i’r ardd gnau, i edrych am frwythydd y dyffryn, i weled, a flodeuasai y winwydden, a flodeuasai y pomgranadau.
6:12 Heb wybod i mi y’m gwnaeth fy enaid megis cerbydau Amminadib.
6:13 Dychwel, dychwel, y Sulamees; dychwel, dychwel, fel yr edrychom arnat. Beth a welwch chwi yn y Sulamees? Megis tyrfa dau lu.
{{angor|Pennod_7}}{{c|{{uc|Pennod VII}}.}}
{{bach|1 ''Hysbysrwydd pellach o radau yr eglwys.'' 10 ''Yr eglwys yn gwneuthur proffes o’i ffydd, ac o’i dymuniad.''}}
{{angor|7:1}} {{uc|Mor}} deg yw dy draed mewn esgidiau, ferch pendefig! cymalau dy forddwydydd sydd fel tlysau, gwaith dwylo y cywraint.
7:2 Dy fogail sydd fel gorflwch crwn, heb eisiau lleithder: dy fru fel twr gwenith wedi ei amgylchu â lili.
7:3 Dy ddwy fron megis dau lwdn iwrch o efeilliaid.
7:4 Dy wddf fel tŵr o ifori; dy lygaid fel pysgodlynnoedd yn Hesbon wrth borth Bethrabbim, dy drwyn fel tŵr Libanus yn edrych tua Damascus.
7:5 Dy ben sydd arnat fel Carmel, a gwallt dy ben fel porffor; y brenin sydd wedi ei rwymo yn y rhodfeydd.
7:6 Mor deg ydwyt, ac mor hawddgar, fy nghariad, a’m hyfrydwch!
7:7 Dy uchder yma sydd debyg i balmwydden, a’th fronnau i’r grawnsypiau.
7:8 Dywedais, Dringaf i’r balmwydden, ymaflaf yn ei cheinciau: ac yn awr dy fronnau fyddant megis grawnganghennau y winwydden, ac arogl dy ffroenau megis afalau;
7:9 A thaflod dy enau megis y gwin gorau i’m hanwylyd, yn myned i waered yn felys, ac yn peri i wefusau y rhai a fyddo yn cysgu lefaru.
7:10 Eiddo fy anwylyd ydwy fi, ac ataf fi y mae ei ddymuniad ef.
7:11 Tyred, fy anwylyd, awn i’r maes, a lletywn yn y pentrefi.
7:12 Boregodwn i’r gwinllannoedid, edrychwn a flodeuodd y winwydden, a agorodd egin y grawnwin, a flodeuodd y pomgranadau; yno y rhoddaf fy nghariad i ti.
7:13 Y mandragorau a roddasant arogledd, ac wrth ein drysau y mae pob rhyw odidog ffrwythau, newydd a hen, y rhai a rois i gadw i ti, fy anwylyd.
{{angor|Pennod_8}}{{c|{{uc|Pennod VIII}}.}}
{{bach|1 ''Cariad yr eglwys tu ag at Grist.'' 6 ''Mor angerddol yw cariad.'' 8 ''Galwad y cenhedloedd.'' 14 ''Yr eglwys yn gweddïo am ddyfodiad Crist.''}}
{{angor|8:1}} {{uc|O na}} bait megis brawd i mi, yn sugno bronnau fy mam! pan y’th gawn allan, cusanwn di; eto ni’m dirmygid.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
aiiydg31skhqa3xgndptfb3idplkcyx
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/659
104
4023
171835
171299
2026-10-17T05:28:45Z
Tylopous
3717
penodau
171835
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude><section begin="Caniad"/>8:2 Arweiniwn, a dygwn di i dŷ fy mam, yr hon a’m dysgai: parwn i ti yfed gwin llysieuog o sugn fy mhomgranadau.
8:3 Ei law aswy fyddai dan fy mhen, a’i law ddeau a’m cofleidiai.
8:4 Tynghedaf chwi, ferched Jerwsalem, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.
8:5 Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o’r anialwch, ac yn pwyso ar ei hanwylyd? Dan yr afallen y’th gyfodais: yno y’th esgorodd dy fam; yno y’th esgorodd yr hon a’th ymddûg.
8:6 Gosod fi megis sêl ar dy galon, fel sêl ar dy fraich: canys cariad sydd gryf fel angau; eiddigedd sydd greulon fel y bedd: ei farwor sydd farwor tanllyd, a fflam angerddol iddynt.
8:7 Dyfroedd lawer ni allant ddiffoddi cariad, ac afonydd nis boddant: pe rhoddai ŵr holl gyfoeth ei dy am gariad, gan ddirmygu y dirmygid hynny.
8:8 Y mae i ni chwaer fechan, ac nid oes fronnau iddi: beth a wnawn i’n chwaer y dydd y dyweder amdani?
8:9 Os caer yw hi, ni a adeiladwn arni balas arian, ac os drws yw hi, ni a’i caewn hi ag ystyllod cedrwydd.
8:10 Caer ydwyf fi, a’m bronnau fel tyrau: yna yr oeddwn yn ei olwg ef megis wedi cael tangnefedd.
8:11 Yr oedd gwinllan i Solomon yn Baalhamon: efe a osododd y winllan i warcheidwaid; pob un a ddygai am ei ffrwyth fil o ddarnau arian.
8:12 Fy ngwinllan sydd ger fy mron: mil a roddir i ti, Solomon, a dau cant i’r rhai a gadwant ei ffrwyth hi.
8:13 O yr hon a drigi yn, y gerddi, y cyfeillion a wrandawant ar dy lais: pâr i mi ei glywed.
8:14 Brysia, fy anwylyd, a bydd debyg i iwrch neu lwdn hydd ar fynyddoedd y perlysiau.
<section end="Caniad"/>
<section begin="Eseia"/>{{canoli|{{uc|Llyfr y}}<br>
{{mawr|{{uc|Prophwyd Esaiah.}}}}}}
{{angor|Pennod_1}}{{c|{{uc|Pennod I}}.}}
{{bach|1 ''Esaiah yn achwyn ar Judah am ei hanufudd-dod:'' 5 ''yn gofidio am ei barnedigaeth hi:'' 10 ''yn edliw iddynt eu holl wasanaeth:'' 16 ''yn annog i edifeirwch, trwy addewidion a bygythion:'' 21 ''yn cwyno eu hannuwioldeb hwy, ac yn datgan barnedigaethau Duw:'' 25 ''yn addaw gras;'' 28 ''ac yn bygwth dinystr ar yr annuwiol.''}}
{{angor|1:1}} {{uc|Gweledigaeth}} Eseia mab Amos, yr hon a welodd efe am Jwda a Jerwsalem, yn nyddiau Usseia, Jotham, Alias, a Heseceia, brenhinoedd Jwda.
1:2 Gwrandewch, nefoedd; clyw dithau ddaear: canys yr ARGLWYDD a lefarodd, Megais a meithrinais feibion, a hwy a wrthryfelasant i’m herbyn.
1:3 Yr ych a edwyn ei feddiannydd, a’r asyn breseb ei berchennog: ond Israel nid edwyn, fy mhobl ni ddeall.
1:4 O genhedlaeth bechadurus, pobl lwythog o anwiredd, had y rhai drygionus, meibion yn llygru: gwrthodasant yr ARGLWYDD, digiasant Sanct Israel, ciliasant yn ôl!
1:5 I ba beth y’ch trewir mwy? cildynrwydd a chwanegwch: y pen oll sydd glwyfus, a’r holl galon yn llesg.
1:6 O wadn y troed hyd y pen nid oes dim cyfan ynddo; ond archollion, a chleisiau, a gweliau crawnllyd: ni wasgwyd hwynt, ac ni rwymwyd, ac ni thynerwyd ag olew.
1:7 Y mae eich gwlad yn anrheithiedig, eich dinasoedd wedi eu llosgi â thân: eich tir a dieithriaid yn ei ysu yn eich gŵydd, ac wedi ei anrheithio fel ped ymchwelai estroniaid ef.
1:8 Merch Seion a adewir megis lluesty mewn gwinllan, megis llety mewn gardd cucumerau, megis dinas warchaeëdig.
1:9 Oni buasai i ARGLWYDD y lluoedd adael i ni ychydig iawn o weddill, fel Sodom y buiasem, a chyffelyb fuasem i Gomorra.
1:10 Gwrandewch air yr ARGLWYDD tywysogion Sodom, clywch gyfraith ein Duw ni, pobl Gomorra.
1:11 Beth yw lluosowgrwydd eich <section end="Eseia"/><noinclude><references/></noinclude>
oaq31uxtugd392txmji7fjkwe74b02j