Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.24
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/312
104
3564
171836
171608
2026-10-17T16:57:35Z
Tylopous
3717
/* Wedi'i brawfddarllen */
171836
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="Tylopous" /></noinclude>{{angor|21:12|12}} A Dafydd a osododd y geiriau hynny yn ei galon, ac a ofnodd yn ddirfawr rhag Achis brenhin Gath.
{{angor|21:13|13}} Ac efe a newidiodd ei wedd yn eu golwg hwynt; ac a gymmerth arno ynfydu rhwng eu dwylaw hwynt, ac a gripiodd ddrysau y porth, ac a ollyngodd ei boeryn i lawr ar ei farf.
{{angor|21:14|14}} Yna y dywedodd Achis wrth ei weision, Wele, gwelwch y gwr yn gwallgofi, paham y dygasoch ef attaf fi?
{{angor|21:15|15}} Ai eisieu ynfydion sydd arnaf fi, pan ddygasoch hwn i ynfydu o’m blaen i? a gaiff hwn ddyfod i’m tŷ i?
{{angor|Pennod_22}}{{c|{{uc|Pennod XXII}}.}}
{{bach|1 ''Minteioedd yn cyrchu at Dafydd, i Adùlam.'' 3 ''Yntau ym Mispah yn gorchymyn ei dad a’i fam i frenhin Moab:'' 5 ''ac wedi cael rhybudd gan Gad, yn dyfod i Hareth.'' 6 ''Saul, wrth ei erlid ef, yn achwyn rhag anffyddlondeb ei weision.'' 9 ''Döeg yn cyhuddo Ahimelech.'' 11 ''Saul yn gorchymyn lladd yr offeiriaid.'' 17 ''Y rhedegwyr yn naccâu: a Döeg yn gwneuthur ei orchymyn ef.'' 20 ''Abïathar yn dïangc, ac yn dwyn y newyddion i Dafydd.''}}
{{angor|22:1}} {{uc|A Dafydd}} a aeth ymaith oddi yno, ac a ddïangodd i ogof Adùlam: a phan glybu ei frodyr a holl dŷ ei dad ef ''hynny'', hwy a aethant i waered atto ef yno.
{{angor|22:2|2}} Ymgynhullodd hefyd atto ef bob gwr helbulus, a phob gwr ''a oedd'' mewn dyled, a phob gwr cystuddiedig o feddwl; ac efe a fu yn dywysog arnynt hwy: ac yr oedd gyd âg ef ynghylch pedwar cant o wŷr.
{{angor|22:3|3}} ¶ A Dafydd a aeth oddi yno i Mispah Moab; ac a ddywedodd wrth frenhin Moab, Deled, attolwg, fy nhad a’m mam ''i aros'' gyd â chwi, hyd oni wypwyf beth a wnel {{sc|Duw}} i mi.
{{angor|22:4|4}} Ac efe a’u dug hwynt ger bron brenhin Moab: ac arhosasant gyd âg ef yr holl ddyddiau y bu Dafydd yn yr amddiffynfa.
{{angor|22:5|5}} ¶ A Gad y prophwyd a ddywedodd wrth Dafydd, Nac aros yn yr amddiffynfa; dos ymaith, a cherdda rhagot i wlad Judah. Felly Dafydd a ymadawodd, ac a ddaeth i goed Hareth.
{{angor|22:6|6}} ¶ A phan glybu Saul gael gwybodaeth am Dafydd, a’r gwŷr ''oedd'' gyd âg ef, (a Saul oedd yn aros yn Gibeah dan bren yn Ramah, a’i waywffon yn ei law, a’i holl weision yn sefyll o’i amgylch;)
{{angor|22:7|7}} Yna Saul a ddywedodd wrth ei weision oedd yn sefyll o’i amgylch, Clywch, attolwg, feibion Jemini: A ddyry mab Jesse i chwi oll feusydd, a gwinllannoedd? ''a'' esyd efe chwi oll yn dywysogion ar filoedd, ac yn dywysogion ar gannoedd;
{{angor|22:8|8}} Gan i chwi oll gyd-fwriadu i’m herbyn i, ac nad ''oes'' a fynego i mi wneuthur o’m mab i gynghrair â mab Jesse, ac nid ''oes neb'' o honoch yn ddrwg ganddo o’m plegid i, nac yn datguddio i mi ddarfod i’m mab annog fy ngwas i gynllwyn i’m herbyn, megis y dydd hwn?
{{angor|22:9|9}} ¶ Yna yr attebodd Döeg yr Edomiad, yr hwn oedd wedi ei osod ar weision Saul, ac a ddywedodd, Gwelais fab Jesse yn dyfod i Nob at Ahimelech mab Ahitub.
{{angor|22:10|10}} Ac efe a ymgynghorodd drosto ef â’r {{sc|Arglwydd}}; ac a roddes fwyd iddo ef; cleddyf Golïath y Philistiad a roddes efe ''hefyd'' iddo.
{{angor|22:11|11}} Yna yr anfonodd y brenhin i alw Ahimelech yr offeiriad, mab Ahitub, a holl dŷ ei dad ef, ''sef'' yr offeiriaid ''oedd'' yn Nob. A hwy a ddaethant oll at y brenhin.
{{angor|22:12|12}} A Saul a ddywedodd, Gwrando yn awr, mab Ahitub. Dywedodd yntau, Wele fi, fy arglwydd.
{{angor|22:13|13}} A dywedodd Saul wrtho ef, Paham y cyd-fwriadasoch i’m herbyn i, ti a mab Jesse, gan i ti roddi iddo fara, a chleddyf, ac ymgynghori â {{sc|Duw}} drosto ef, fel y cyfodai yn fy erbyn i gynllwyn, megis heddyw?
{{angor|22:14|14}} Ac Ahimelech a attebodd y brenhin, ac a ddywedodd, Pwy ym mysg dy holl weision di ''sydd mor'' ffyddlawn a Dafydd, ac yn ddaw i’r brenhin, ac yn myned wrth dy orchymyn, ac yn anrhydeddus yn dy dŷ di?
{{angor|22:15|15}} Ai y dydd ''hwnnw'' y dechreuais i ymgynghori â {{sc|Duw}} drosto ef? na atto {{sc|Duw}} i mi. Na osoded y brenhin ddim yn erbyn ei was, ''nac'' yn erbyn neb o dŷ fy nhad: canys ni wybu dy was di ddim o hyn oll, ''nac'' ychydig na llawer.
{{angor|22:16|16}} A dywedodd y brenhin, Gan farw y byddi farw, Ahimelech, tydi a holl dŷ dy dad.
{{angor|22:17|17}} ¶ A’r brenhin a ddywedodd wrth y rhedegwyr oedd yn sefyll o’i amgylch ef, Trowch, a lleddwch offeiriaid yr {{sc|Arglwydd}}; o herwydd bod eu llaw hwynt hefyd gyd â Dafydd, ac o herwydd iddynt wybod ffoi o hono ef, ac na fynegasant i mi. Ond gweis-<noinclude><references/></noinclude>
m4f153q50cr25cc0r7bw32ddeqtq0sb
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/660
104
4024
171837
7539
2026-10-17T17:00:23Z
Tylopous
3717
penodau
171837
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>aberthau i mi? medd yr ARGLWYDD: llawn ydwyf o boethaberthau hyrddod, ac o fraster anifeiliaid breision; gwaed bustych hefyd, ac ŵyn, a bychod, nid ymhyfrydais ynddynt.
1:12 Pan ddeloch i ymddangos ger fy mron, pwy a geisiodd hyn ar eich llaw, sef sengi fy nghynteddau?
1:13 Na chwanegwch. ddwyn offrwmt ofer: arogl-darth sydd ffiaidd gennyf; ni allaf oddef y newyddloerau na’r Sabothau, cyhoeddi cymanfa; anwiredd ydyw, sef yr uchel ŵyl gyfarfod.
1:14 Eich lleuadau newydd a’ch gwyliau gosodedig a gasaodd fy enaid: y maent yn faich arnaf; blinais yn eu dwyn.
1:15 A phan estynnoch eich dwylo, mi a guddiaf fy llygaid rhagoch: hefyd pan weddïoi-h lawer, ni wrandawaf: eich dwylo sydd lawn o waed.
1:16 Ymolchwch, ymlanhewch, bwriwch ymaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid; peidiwch â gwneuthur drwg;
1:17 Dysgwch wneuthur daioni: ceisiwch farn, gwnewch uniondeb i’r gorthrymedig, gwnewch farn i’r amddifad, dadleuwch dros y weddw.
1:18 Deuwch yr awr hon, ac ymresymwn, medd yr ARGLWYDD: pe byddai eich pechodau fel ysgarlad, ânt cyn wynned â’r eira; pe cochent fel porffor, byddant fel gwlân.
1:19 Os byddwch ewyllysgar ac ufudd, daioni y tir a fwytewch.
1:20 Ond os gwrthodwch, ac os anufuddhewch, a chleddyf y’ch ysir: canys genau yr ARGLWYDD a’i llefarodd.
1:21 Pa wedd yr aeth y ddinas ffyddlon yn butain! cyflawn fu o farn: lletyodd cyfiawnder ynddi; ond yr awr hon lleiddiaid.
1:22 Dy arian a aeth yn sothach, dy win sydd wedi ei gymysgu â dwfr:
1:23 Dy dywysogion sydd gyndyn, ac yn gyfranogion a lladron; pob un yn cam rhoddion, ac yn dilyn gwobrau: ni farnant yr amddifad, a chŵyn y weddw ni chaiff ddyfod atynt.
1:24 Am hynny medd yr Arglwydd, AR¬GLWYDD y lluoedd, cadarn DDUW Israel, Aha, ymgysuraf ar fy ngwrthwynebwyr, ac ymddialaf ar fy ngelynion.
1:25 A mi a ddychwelaf fy llaw arnat, ac a lân buraf dy sothach, ac a dynnaf ymaith dy holl alcam.
1:26 Adferaf hefyd dy farnwyr, fel cynt, a’th gynghoriaid megis yn y dechrau: wedi hynny y’th elwir yn Ddinas cyfiawn¬der, yn Dref ffyddlon.
1:27 Seion a waredir â barn, a’r rhai a ddychwelant ynddi â chyfiawnder.
1:28 A dinistr y troseddwyr a’r pechaduriaid fydd ynghyd; a’r rhai a ymadawant â’r ARGLWYDD, a ddifethir.
1:29 Canys cywilyddiant o achos y derw a chwenychasoch; a gwarthruddir chwi am y gerddi a ddetholasoch.
1:30 Canys byddwch fel derwen â’i dail yn syrthio, ac fel gardd heb ddwfr iddi.
1:31 A’r cadarn fydd fel carth, a’i weithydd fel gwreichionen: a hwy a losgant ill dau ynghyd, ac ni bydd a’u diffoddo.
{{angor|Pennod_2}}{{c|{{uc|Pennod II}}.}}
{{bach|1 ''Esaiah yn prophwydo dyfodiad brenhiniaeth Crist.'' 6 ''Annuwioldeb yw yr achos fod Duw yn gwrthod dyn.'' 10 ''Y mae yn annog i ofni, o herwydd maint yw gallu mawrhydi Duw.''}}
{{angor|2:1}} {{uc|Y gair}} yr hwn a welodd Eseia mab Amos, am Jwda a Jerwsalem.
2:2 A bydd yn y dyddiau diwethaf, fod mynydd tŷ yr ARGLWYDD wedi ei baratoi ym mhen y mynyddoedd, ac yn.ddyrchafedig goruwch y bryniau, a’r holl genhedloedd a ddylifant ato.
2:3 A phobloedd lawer a ânt ac a ddywedant, Deuwch, ac esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD, i dŷ Duw Jacob, ac efe a’n dysg ni yn ei ffyrdd, a ni a rodiwn yn ei lwybrau ef; canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
2:4 Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd, ac a gerydda bobloedd lawer: a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau, a’u gwaywffyn yn bladuriau: ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.
2:5 Tŷ Jacob, deuwch, a rhodiwn yng ngoleuni yr ARGLWYDD.
2:6 Am hynny y gwrthodaist dy bobl, tŷ Jacob, am eu bod wedi eu llenwi allan o’r dwyrain, a’u bod yn swynwyr megis y Philistiaid, ac<noinclude><references/></noinclude>
l2ix68aur4vnut42vbu6ick6x6iuuwy
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/661
104
4025
171838
7540
2026-10-17T17:02:06Z
Tylopous
3717
penodau
171838
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>mewn plant dieithriaid yr ymfodlonant.
2:7 A’u tir sydd gyflawn o arian ac aur, ac nid oes diben ar eu trysorau; a’u tir sydd lawn o feirch, ac nid oes diben ar eu cerbydau.
2:8 Eu tir hefyd sydd lawn o eilunod; i waith eu dwylo eu hun yr ymgrymant, i’r hyn a wnaeth eu bysedd eu hun:
2:9 A’r gwrêng sydd yn ymgrymu, a’r bonheddig yn ymostwng: am hynny na faddau iddynt.
2:10 Dos i’r graig, ac ymgûdd yn y llwch, rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag gogoniant ei fawredd ef.
2:11 Uchel drem dyn a iselir, ac uchder dynion a ostyngir; a’r ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.
2:12 Canys dydd ARGLWYDD y lluoedd fydd ar bob balch ac uchel, ac ar bob dyrchafedig; ac efe a ostyngir:
2:13 Ac ar holl uchel a dyrchafedig gedrwydd Libanus, ac ar holl dderw Basan,
2:14 Ac ar yr holl fynyddoedd uchel, ac ar yr holl fryniau dyrchafedig,
2:15 Ac ar bob tŵr uchel, ac ar bob magwyr gadarn,
2:16 Ac ar holl longau Tarsis, ac ar yr holl luniau dymunol.
2:17 Yna yr iselir uchelder dyn, ac y gostyngir uchder dynion: a’r ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.
2:18 A’r eilunod a fwrw efe ymaith yn hollol.
2:19 A hwy a ânt i dyllau y creigiau, ac i ogofau llychlyd, rhag ofn yr ARGLWYDD? a rhag gogoniant ei fawredd ef, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear.
2:20 Yn y dydd hwnnw y teifl dyn ei eilunod arian, a’i eilunod aur, y rhai a wnaethant iddynt i’w haddoli, i’r wadd ac i’r ystlumod:
2:21 I fyned i agennau y creigiau, ac i gopau y clogwyni, rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag gogoniant ei fawredd ef, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear.
2:22 Peidiwch chwithau â’r dyn yr hwn sydd â’i anadl yn ei ffroenau: canys ym mha beth y gwneir cyfrif ohono?
{{angor|Pennod_3}}{{c|{{uc|Pennod III}}.}}
{{bach|1 ''Y mawr waradwydd sydd yn dyfod o bechu.'' 9 ''Digywilydd-dra y bobl.'' 12 ''Traha a chybydd-dod y llywodraethwyr.'' 16 ''Pa ddïaledd a ddaw am falchder y gwragedd.''}}
{{angor|3:1}} {{uc|Canys}} wele, yr Arglwydd, ARGLWYDD y lluoedd, a dynn ymaith o Jerwsalem, ac o Jwda, y gynhaliaeth a’r ffon, holl gynhaliaeth bara, a holl gynhaliaeth dwfr,
3:2 Y cadarn, a’r rhyfelwr, y brawdwr, a’r proffwyd, y synhwyrol, a’r henwr,
3:3 Y tywysog deg a deugain, a’r anrhydeddus, a’r cynghorwr, a’r crefftwr celfydd, a’r areithiwr huawdl.
3:4 A rhoddaf blant yn dywysogion iddynt, a bechgyn a arglwyddiaetha arnynt.
3:5 A’r bobl a orthrymir y naill gan y llall, a phob un gan ei gymydog: y bachgen yn erbyn yr henwr, a’r gwael yn erbyn yr anrhydeddus, a ymfalchïa.
3:6 Pan ymaflo gŵr yn ei frawd o dŷ ei dad, gan ddywedyd, Y mae dillad gennyt, bydd dywysog i ni; a bydded y cwymp hwn dan dy law di:
3:7 Yntau a dwng yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Ni byddaf iachawr; canys yn fy nhŷ nid oes fwyd na dillad: na osodwch fi yn dywysog i’r bobl.
3:8 Canys cwympodd Jerwsalem, a syrthiodd Jwda: oherwydd eu tafod hwynt a’u gweithredoedd sydd yn erbyn yr ARGLWYDD, i gyffroi llygaid ei ogoniant ef.
3:9 Dull eu hwynebau hwynt a dystiolaetha yn eu herbyn; a’u pechod fel Sodom a fynegant, ac ni chelant: gwae eu henaid, canys talasant ddrwg iddynt eu hunain.
3:10 Dywedwch mai da fydd i’r cyfiawn: canys ffrwyth eu gweithredoedd a fwynhânt.
3:11 Gwae yr anwir, drwg fydd iddo; canys gwobr ei ddwylo ei hun a fydd iddo.
3:12 Fy mhobl sydd â’u treiswyr yn fechgyn, a gwragedd a arglwyddiaetha arnynt. O fy mhobl, y rhai a’th dywysant sydd yn peri i ti gyfeiliorni, a ffordd dy lwybrau a ddistrywiant.
3:13 Yr ARGLWYDD sydd yn sefyll i ymddadlau, ac yn sefyll i farnu y bob¬loedd.
3:14 Yr ARGLWYDD a ddaw i farn â henuriaid ei bobl, a’u tywysogion: canys chwi a borasoch y winllan; anrhaith y tlawd sydd yn eich tai.
3:15 Beth sydd i chwi a guroch ar fy mhobl, ac a faloch ar wynebau y<noinclude><references/></noinclude>
21lkbwa0s2lfcjllngkscdbnlok5z0t
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/662
104
4118
171839
7673
2026-10-17T17:04:54Z
Tylopous
3717
penodau
171839
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>tlodion? medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd.
3:16 A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Oherwydd balchïo o ferched Seion, a rhodio â gwddf estynedig, ac â llygaid gwamal, gan rodio a rhygyngu wrth gerdded, a thrystio a’u traed:
3:17 Am hynny y clafra yr ARGLWYDD gorunau merched Seion; a’r ARGLWYDD a ddinoetha eu gwarthle hwynt.
3:18 Yn y dydd hwnnw y tyn yr AR¬GLWYDD ymaith addurn yr esgidiau, y rhwydwaith hefyd, a’r lloerawg wisgoedd,
3:19 Y cadwynau, a’r breichledau, a’r moledau,
3:20 Y penguwch, ac .addurn y coesau, a’r ysnodennau, a’r dwyfronegau, a’r clustlysau,
3:21 Y modrwyau, ac addurn y trwyn,
3:22 Y gwisgoedd symudliw, a’r mentyll, a’r misyrnau, a’r crychnodwyddau,
3:23 Y drychau hefyd, a’r lliain meinwych, a’r cocyllau, a’r gynau.
3:24 A bydd yn lle perarogl, ddrewi; bydd hefyd yn lle gwregys, rwygiad; ac yn lle iawn drefn gwallt, foelni; ac yn lle dwyfronneg, gwregys o sachliain; a llosgfa yn lle prydferthwch.
3:25 Dy wŷr a syrthiant gan y cleddyf, a’th gadernid trwy ryfel.
3:26 A’i phyrth hi a ofidiant, ac a alarant: a hithau yn anrheithiedig a eistedd ar y ddaear.
{{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}}
{{bach|''Mewn dygn adfyd, teyrnas Crist a fydd nodded.''}}
{{angor|4:1}} {{uc|Ac}}
4:1 Ac yn y dydd hwnnw saith o wragedd a ymaflant mewn un gŵr, gan ddywedyd, Ein bara ein hun a fwytawn, a’n dillad ein hun a wisgwn: yn unig galwer dy enw di arnom ni; cymer ymaith ein gwarth ni.
4:2 Y pryd hwnnw y bydd Blaguryn yr ARGLWYDD yn brydferthwch ac yn ogoniant; a ffrwyth y ddaear yn rhagorol ac yn hardd i’r rhai a ddianghasant o Israel.
4:3 A bydd, am yr hwn a adewir yn Seion, ac a weddillir yn Jerwsalem, y dywedir wrtho, O sanct; sef pob un a’r a ysgrifennwyd ymhlith y rhai byw yn Jerwsalem:
4:4 Pan ddarffo i’r ARGLWYDD olchi budreddi merched Seion, a charthu gwaed Jerwsalem o’i chanol, mewn ysbryd barn, ac mewn ysbryd llosgfa.
4:5 A’r ARGLWYDD a grea ar bob trigfa o fynydd Seion, ac ar ei gymanfaoedd, gwmwl a mwg y dydd, a llewyrch tân fflamllyd y nos: canys ar yr holl ogoniant y bydd amddiffyn.
4:6 A phabell fydd yn gysgod y dydd rhag gwres, ac yn noddfa ac yn ddiddos rhag tymestl a rhag glaw.
{{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}}
{{bach|1 ''Trwy ddammeg y winllan, y mae Duw yn esgusodi bod ei farnedigaethau cyn dosted.'' 8 ''Ei farnedigaethau ef yn erbyn cybydd-dod,'' 11 ''a thrythyllwch,'' 13 ''ac annuwioldeb,'' 20 ''ac anghyfiawnder.'' 26 ''Y rhai a ddïaledda dros Dduw.''}}
{{angor|5:1}} {{uc|Canaf}} yr awr hon i’m hanwylyd, ganiad fy anwylyd am ei winllan. Gwinllan sydd i’m hanwylyd mewn bryn tra ffrwythlon:
5:2 Ac efe a’i cloddiodd hi, ac a’i digaregodd, ac a’i plannodd o’r winwydden orau, ac a adeiladodd dŵr yn ei’chanol, ac a drychodd winwryf ynddi: ac efe a ddisgwyliodd iddi ddwyn grawnwin, hithau a ddug rawn gwylltion.
5:3 Ac yr awr hon, preswylwyr Jerw¬salem, a gwŷr Jwda, bernwch, atolwg, rhyngof fi a’m gwinllan.
5:4 Beth oedd i’w wneuthur ychwaneg i’m gwinllan, nag a wneuthum ynddi? paham, a mi yn disgwyl iddi ddwyn grawnwin, y dug hi rawn gwylltion?
5:5 Ac yr awr hon mi a hysbysaf i chwi yr hyn a wnaf i’m gwinllan: tynnaf ymaith ei chae, fel y porer hi, torraf ei magwyr, fel y byddo hi yn sathrfa;
5:6 A mi a’i gosodaf hi yn ddifrod: nid ysgythrir hi, ac ni chloddir hi; ond mieri a drain a gyfyd: ac i’r cymylau y gorchmynnaf na lawiont law arni.
5:7 Diau, gwinllan ARGLWYDD y lluoedd yw tŷ Israel, a gwŷr Jwda yw ei blanhigyn hyfryd ef: ac efe a ddisgwyliodd am farn, ac wele drais, am gyfiawnder, ac wele lef.
5:8 Gwae y rhai sydd yn cysylltu tŷat dŷ, ac yn cydio maes wrth faes, hyd oni byddo eisiau lle, ac y trigoch chwi yn unig yng nghanol y tir.
5:9 Lle y clywais y dywedodd ARGLWYDD y lluoedd, Yn ddiau bydd tai lawer, mawrion a theg, yn anghyfannedd heb drigiannydd.
5:10 Canys deg cyfair o winllan a<noinclude><references/></noinclude>
1csfmusoep6plvqfbsceps0rfliq7jv
171840
171839
2026-10-17T17:05:10Z
Tylopous
3717
171840
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>tlodion? medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd.
3:16 A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Oherwydd balchïo o ferched Seion, a rhodio â gwddf estynedig, ac â llygaid gwamal, gan rodio a rhygyngu wrth gerdded, a thrystio a’u traed:
3:17 Am hynny y clafra yr ARGLWYDD gorunau merched Seion; a’r ARGLWYDD a ddinoetha eu gwarthle hwynt.
3:18 Yn y dydd hwnnw y tyn yr AR¬GLWYDD ymaith addurn yr esgidiau, y rhwydwaith hefyd, a’r lloerawg wisgoedd,
3:19 Y cadwynau, a’r breichledau, a’r moledau,
3:20 Y penguwch, ac .addurn y coesau, a’r ysnodennau, a’r dwyfronegau, a’r clustlysau,
3:21 Y modrwyau, ac addurn y trwyn,
3:22 Y gwisgoedd symudliw, a’r mentyll, a’r misyrnau, a’r crychnodwyddau,
3:23 Y drychau hefyd, a’r lliain meinwych, a’r cocyllau, a’r gynau.
3:24 A bydd yn lle perarogl, ddrewi; bydd hefyd yn lle gwregys, rwygiad; ac yn lle iawn drefn gwallt, foelni; ac yn lle dwyfronneg, gwregys o sachliain; a llosgfa yn lle prydferthwch.
3:25 Dy wŷr a syrthiant gan y cleddyf, a’th gadernid trwy ryfel.
3:26 A’i phyrth hi a ofidiant, ac a alarant: a hithau yn anrheithiedig a eistedd ar y ddaear.
{{angor|Pennod_4}}{{c|{{uc|Pennod IV}}.}}
{{bach|''Mewn dygn adfyd, teyrnas Crist a fydd nodded.''}}
{{angor|4:1}} {{uc|Ac}} yn y dydd hwnnw saith o wragedd a ymaflant mewn un gŵr, gan ddywedyd, Ein bara ein hun a fwytawn, a’n dillad ein hun a wisgwn: yn unig galwer dy enw di arnom ni; cymer ymaith ein gwarth ni.
4:2 Y pryd hwnnw y bydd Blaguryn yr ARGLWYDD yn brydferthwch ac yn ogoniant; a ffrwyth y ddaear yn rhagorol ac yn hardd i’r rhai a ddianghasant o Israel.
4:3 A bydd, am yr hwn a adewir yn Seion, ac a weddillir yn Jerwsalem, y dywedir wrtho, O sanct; sef pob un a’r a ysgrifennwyd ymhlith y rhai byw yn Jerwsalem:
4:4 Pan ddarffo i’r ARGLWYDD olchi budreddi merched Seion, a charthu gwaed Jerwsalem o’i chanol, mewn ysbryd barn, ac mewn ysbryd llosgfa.
4:5 A’r ARGLWYDD a grea ar bob trigfa o fynydd Seion, ac ar ei gymanfaoedd, gwmwl a mwg y dydd, a llewyrch tân fflamllyd y nos: canys ar yr holl ogoniant y bydd amddiffyn.
4:6 A phabell fydd yn gysgod y dydd rhag gwres, ac yn noddfa ac yn ddiddos rhag tymestl a rhag glaw.
{{angor|Pennod_5}}{{c|{{uc|Pennod V}}.}}
{{bach|1 ''Trwy ddammeg y winllan, y mae Duw yn esgusodi bod ei farnedigaethau cyn dosted.'' 8 ''Ei farnedigaethau ef yn erbyn cybydd-dod,'' 11 ''a thrythyllwch,'' 13 ''ac annuwioldeb,'' 20 ''ac anghyfiawnder.'' 26 ''Y rhai a ddïaledda dros Dduw.''}}
{{angor|5:1}} {{uc|Canaf}} yr awr hon i’m hanwylyd, ganiad fy anwylyd am ei winllan. Gwinllan sydd i’m hanwylyd mewn bryn tra ffrwythlon:
5:2 Ac efe a’i cloddiodd hi, ac a’i digaregodd, ac a’i plannodd o’r winwydden orau, ac a adeiladodd dŵr yn ei’chanol, ac a drychodd winwryf ynddi: ac efe a ddisgwyliodd iddi ddwyn grawnwin, hithau a ddug rawn gwylltion.
5:3 Ac yr awr hon, preswylwyr Jerw¬salem, a gwŷr Jwda, bernwch, atolwg, rhyngof fi a’m gwinllan.
5:4 Beth oedd i’w wneuthur ychwaneg i’m gwinllan, nag a wneuthum ynddi? paham, a mi yn disgwyl iddi ddwyn grawnwin, y dug hi rawn gwylltion?
5:5 Ac yr awr hon mi a hysbysaf i chwi yr hyn a wnaf i’m gwinllan: tynnaf ymaith ei chae, fel y porer hi, torraf ei magwyr, fel y byddo hi yn sathrfa;
5:6 A mi a’i gosodaf hi yn ddifrod: nid ysgythrir hi, ac ni chloddir hi; ond mieri a drain a gyfyd: ac i’r cymylau y gorchmynnaf na lawiont law arni.
5:7 Diau, gwinllan ARGLWYDD y lluoedd yw tŷ Israel, a gwŷr Jwda yw ei blanhigyn hyfryd ef: ac efe a ddisgwyliodd am farn, ac wele drais, am gyfiawnder, ac wele lef.
5:8 Gwae y rhai sydd yn cysylltu tŷat dŷ, ac yn cydio maes wrth faes, hyd oni byddo eisiau lle, ac y trigoch chwi yn unig yng nghanol y tir.
5:9 Lle y clywais y dywedodd ARGLWYDD y lluoedd, Yn ddiau bydd tai lawer, mawrion a theg, yn anghyfannedd heb drigiannydd.
5:10 Canys deg cyfair o winllan a<noinclude><references/></noinclude>
rzk7ot2yt9lkjn1gjvzdq26kgcy7kbe
Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/663
104
4119
171841
7674
2026-10-17T17:07:36Z
Tylopous
3717
penodau
171841
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="1" user="Mahagaja" /></noinclude>ddygant un bath, a lle homer a ddwg effa.
5:11 Gwae y rhai a gyfodant yn fore i ddilyn diod gadarn, a arhosant hyd yr hwyr, hyd oni enynno y gwin hwynt.
5:12 Ac yn eu gwleddoedd hwynt y mae y delyn, a’r nabl, y dympan, a’r bibell, a’r gwin: ond am waith yr ARGLWYDD nid edrychant, a gweithred ei ddwylo ef nid
ystyriant.
5:13 Am hynny y caethgludwyd fy mhobl, am nad oes ganddynt wybodaeth: a’u gwŷr anrhydeddus sydd newynog, a’u lliaws a wywodd gan syched.
5:14 Herwydd hynny yr ymehangodd uffern, ac yr agorodd ei safn yn anferth; ac yno y disgyn eu gogoniant, a’u lliaws, a’u rhwysg, a’r hwn a lawenycha ynddi.
5:15 A’r gwrêng a grymir, a’r galluog a ddarostyngir, a llygaid y rhai uchel a iselir.
5:16 Ond ARGLWYDD y lluoedd a ddyrchefir mewn barn, a’r Duw sanctaidd a sancteiddir mewn cyfiawnder.
5:17 Yr ŵyn hefyd a borant yn ôl eu harfer; a dieithriaid a fwytânt ddiffeithfaoedd y breision.
5:18 Gwae y rhai a dynnant anwiredd â rheffynnau oferedd, a phechod megis â rhaffau men:
5:19 Y rhai a ddywedant, Brysied, a phrysured ei orchwyl, fel y gwelom; nesaed hefyd, a deued cyngor Sanct yr Israel, fel y gwypom.
5:20 Gwae y rhai a ddywedant am y drwg, Da yw; ac am y da, Drwg yw; gan osod tywyllwch am oleuni, a goleuni am dywyllwch: y rhai a osodant chwerw am felys, a melys am chwerw.
5:21 Gwae y rhai sydd ddoethion yn eu golwg eu hun, a’r rhai deallgar yn eu golwg eu hun.
5:22 Gwae y rhai cryfion i yfed gwin, a’i dynion nerthol i gymysgu diod gadarn:
5:23 Y rhai a gyfiawnhânt yr anwir er gwobr, ac a gymerant ymaith gyfiawnder y rhai cyfiawn oddi ganddynt.
5:24 Am hynny, megis ag yr ysa y ffagl dân y sofl, ac y difa y fflam y mân us: felly y bydd eu gwreiddyn hwynt yn bydredd, a’u blodeuyn a gyfyd i fyny fel llwch; am iddynt ddiystyru cyfraith ARGLWYDD y lluoedd, a dirmygu gair Sanct yr Israel.
5:25 Am hynny yr enynnodd llid yr AR¬GLWYDD yn erbyn ei bobl, ac yr estynnodd efe ei law arnynt, ac a’u trawodd hwynt; a chrynodd y mynyddoedd, a bu eu celanedd hwynt yn rhwygedig yng nghanol yr heolydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef wedi ei hestyn allan.
5:26 Ac efe a gyfyd faner i’r cenhedloedd o bell, ac a chwibana arnynt hwy o eithaf y ddaear: ac wele, ar frys yn fuan y deuant.
5:27 Ni bydd un blin na thramgwyddedig yn eu plith; ni huna yr un, ac ni chwsg: ac ni ddatodir gwregys ei lwynai, ac ni ddryllir carrai ei esgidiau.
5:28 Yr hwn sydd â’i saethau yn llymion, a’i holl fwâu yn anelog: carnau ei feirch ef a gyfrifir fel callestr, a’i olwynion fel corwynt.
5:29 Ei ruad fydd fel llew; efe a rua fel cenawon llew: efe a chwyrna hefyd, ac a ymeifl yn yr ysglyfaeth, efe a ddianc hefyd, ac a’i dwg ymaith yn ddiogel, ac ni bydd achubydd.
5:30 Ac efe a rua arnynt y dydd hwnnw, fel rhuad y môr: os edrychir ar y tir, wele dywyllwch, a chyfyngder, a’r goleuni a dywyllir yn ei nefoedd.
{{angor|Pennod_6}}{{c|{{uc|Pennod VI}}.}}
{{bach|1 ''Esaiah, mewn gweledigaeth, yn gweled Duw yn ei ogoniant;'' 5 ''a chwedi ofni, yn cael ei gadarnhâu i’w gennadwri.'' 9 ''Y mae yn dangos gwrthnysigrwydd y bobl, nes eu dinystrio.'' 13 ''Y gweddill a fydd cadwedig.''}}
{{angor|6:1}} {{uc|Yn}} y flwyddyn y bu farw y brenin Usseia, y gwelais hefyd yr AR¬GLWYDD yn eistedd ar eisteddfa uchel a dyrchafedig, a’i odre yn llenwi y deml.
6:2 Y seraffiaid oedd yn sefyll oddi ar hynny: chwech adain ydoedd i bob un: â dwy y cuddiai ei wyneb, ac â dwy y cuddiai ei draed, ac â dwy yr ehedai.
6:3 A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd, Sanct, Sanct, Sanct, yw AR¬GLWYDD y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o’i ogoniant ef.
6:4 A physt y rhiniogau. a symudasant gan lef yr hwn oedd yn llefain, a’r tŷ a lanwyd gan fwg.
6:5 Yna y dywedais, Gwae fi! canys darfu amdanaf; oherwydd gŵr halogedig ei wefusau ydwyf fi,<noinclude><references/></noinclude>
8oaq1r3lro45htusuaic44bq1h32rf1