Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.47.0-wmf.24
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Event
Event talk
Tudalen:Madam Wen.djvu/116
104
33434
171842
76112
2026-10-20T11:46:38Z
~2026-56080-86
4264
171842
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="4" user="Brin Rees" /></noinclude>hun, ond meddyliai hefyd bod ei ymwelyddes deg a'i bryd ar dalu gwrogaeth neilltuol iddo. Yn sirioldeb ei wedd gwelodd hithau fod y cam cyntaf ar ei llwybr peryglus wedi llwyddo.
Ar Abel y disgynnodd y gwaith o wneud esgus priodol i'w forwyr am ei waith yn ymweled â bwrdd y Wennol. A phwy a ŵyr pa gelwyddau a ddywedwyd? Y diwedd fu mynd. Synnodd Huw Bifan weled capten y ''Certain Death'' yn dyfod ar fwrdd ei long. Pa beth a olygai hynny, tybed? Pa beth bynnag yn rhagor a olygai, yr oedd Huw yn ddigon cyfarwydd â'i feistres i ddarllen yr arwydd oedd yn ei hedrychiad, ac i gasglu mai bywydau oedd yn y fantol. Yr oedd wedi gweled edrychiad cyffelyb yn ei llygaid deallgar droeon cyn hynny, rhyw awgrym o ymdrech ddistaw rhwng gobaith di-ildio ac anobaith du.
Gorweddai'r Wennol ryw ddeugain gwrhyd oddi wrth y gelyn, a gwelodd y môr-ladron eu capten yn dilyn ei arweinydd i'r bwrdd. Safai ei morwyr hi yn fintai fechan yn edrych arnynt yn mynd i'r caban. Caban Madam Wen ei hun oedd hwn, ac nid gwag-ymffrost oedd dywedyd bod yno rywbeth o werth. Gloywodd llygad Abel pan estynnodd hi gist fechan gan ei dodi ar fwrdd o'i flaen.
"Perthynai'r rhai hyn," meddai wrtho, "i ddwy o wragedd cyfoethog o'r Armorica, a'r bwriad oedd eu gwerthu yn Llundain a rhoi'r arian at wasanaeth byddin y brenin Iago." Codwyd y caead, a daeth i'r golwg gadwynau ac addurniadau o aur a gemau, wedi eu hamdoi yn ddestlus â sidan coch.
"Y mae yma eiddo mawr mewn ffurf gyfleus," ychwanegodd â goslef a awgrymai mai ei dymuniad oedd ar i'r golud hwnnw ddyfod yn eiddo iddo ef ei hun.
"Oes y mae."
"Dyna fo," meddai hithau, gan wthio'r blwch yn nes ato.
"Buasai'n bechod gyrru'r fath brydferthwch i waelod y môr," meddai Abel, gan edrych ac awgrymu<noinclude><references/></noinclude>
m0fb4vsif3exvahwczb141hplabi9z2