Tir Iarll
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Tir Iarll yn gwmwd ym Morgannwg sy'n cynnwys plwyfi Llangynwyd, Betws, Cynffig a Margam.
Cafodd yr enw am iddo syrthio i feddiant Iarll Caerloyw yn sgîl Goresgyniad y Norman.
Mae wedi bod yn fagwrfa i feirdd o gyfnod cynnar ac wedi ennill le arbennig iddo'i hun yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Mae'r beirdd a gysylltir â Thir Iarll trwy eu genedigaeth neu eu gwaith yn cynnwys Rhys Brydydd, ei fab Rhisiart ap Rhys, Gwilym Tew a fu'n berchen ar Lyfr Aneirin am gyfnod, Siôn Bradford, Dafydd Benwyn ac, yn ddiweddarach, Iolo Morgannwg.
Roedd diwylliant Cymraeg yr ardal yn unigryw. Dyma fro oedd yn enwog am ei chwndidau a'i thribannau. Roedd gan y fro draddodiad llên gwerin cryf. Ym mhlwyf Llangynwyd ("yr henblwyf") y blodeuodd y Fari Lwyd, er enghraifft. Yn Nhir Iarll hefyd y mae Cefn Ydfa, cartref Ann Maddocks, "Y Ferch o Gefn Ydfa".
Mae un o gerddi grymusaf a mwyaf adnabyddus y prifardd Gerallt Lloyd Owen yn deyrnged i'r Tir Iarll a fu. Dyma ran ohono:
-
- Bu'r hen iaith ar y bryniau hyn
- yn aflonyddu flynyddoedd
- yn ôl, hen iaith
- ein hatgofion ni.
- (Cerddi'r Cywilydd)
[golygu] Llyfryddiaeth
- G.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)