Hywel ab Owain Gwynedd

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Hywel ab Owain Gwynedd (bu farw 1170), tywysog a bardd. Roedd yn fab gordderch i Owain Gwynedd tywysog Gwynedd a Gwyddeles o'r enw Pyfog, ac fe gyfeirir ato weithiau fel Hywel ap Gwyddeles.

Yn 1143 yr oedd gan Cadwaladr, brawd Owain Gwynedd, ran yn llofruddiaeth Anarawd ap Gruffydd o Ddeheubarth. Ymateb Owain oedd gyrru Hywel i gymeryd ei diroedd yng ngogledd Ceredigion oddi ar ei ewythr. Gwnaeth Hywel hynny, gan oresgyn a llosgi castell Aberystwyth. Yn 1147 gyrrwyd Cadwaladr o Feirionnydd gan Hywel a'i frawd Cynan, gan oresgyn a llosgi ei gastell yng Nghynfael.

Ar farwolaeth Owain Gwynedd yn 1170, bu brwydro rhwng ei feibion am arglwyddiaeth Gwynedd. Gorfodwyd Hywel i ffoi i Iwerddon gan ei hanner-brodyr Dafydd ab Owain Gwynedd a Rhodri. Dychwelodd yr un flwyddyn gyda byddin o Iwerddon, ond trechwyd ef a'i ladd mewn brwydr ger Pentraeth.

Yr oedd Hywel yn fardd galluog, ac mae wyth o'i gerddi wedi eu cadw. Yr enwocaf mae'n debyg yw Gorhoffedd Hywel ab Owain Gwynedd lle mae'n canu clodydd Gwynedd, ei brydferthwch naturiol a phrydferthwch ei wragedd.

Ieithoedd eraill